1279ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysegr-Lân yn yr
iaith Gymraeg. La Bíblia en gal·lès. Dhə Báibəl in Welsh. The Bible
in Welsh.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_salmau_19_1279ke.htm
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw 6540) Adolygiadau diweddaraf: |
1278k Y tudalen hwn yn
Gymraeg yn unig
SALM 1
1:1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac
ni saif yn ffordd pechaduriaid ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr.
1:1 Blessed is
the man that walketh not in the counsel of the ungodly, nor standeth in the way
of sinners, nor sitteth in the seat of the scornful.
1:2 Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn
ei gyfraith ef ddydd a nos.
1:2 But his delight
is in the law of the LORD; and in his law doth he meditate day and night.
1:3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr
hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl,
efe a lwydda.
1:3 And he
shall be like a tree planted by the rivers of water, that bringeth forth his
fruit in his season; his leaf also shall not wither; and whatsoever he doeth
shall prosper.
1:4 Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwâl y
gwynt ymaith.
1:4 The ungodly
are not so: but are like the chaff which the wind driveth away.
1:5 Therefore
the ungodly shall not stand in the judgment, nor sinners in the congregation of
the righteous.
1:6 Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr
annuwiolion a ddifethir.
1:6 For the
LORD knoweth the way of the righteous: but the way of the ungodly shall perish.
SALM 2
2:1 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth
ofer?
2:1 Why do the
heathen rage, and the people imagine a vain thing?
2:2 Y
Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd yn
erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,
2:2 The kings
of the earth set themselves, and the rulers take counsel together, against the
LORD, and against his anointed, saying,
2:3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
2:3 Let us
break their bands asunder, and cast away their cords from us.
2:4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u
gwatwar hwynt.
2:4 He that
sitteth in the heavens shall laugh: the Lord shall have them in derision.
2:5 Yna llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna
efe hwynt.
2:5 Then shall
he speak unto them in his wrath, and vex them in his sore displeasure.
2:6 Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd.
2:6 Yet have I
set my king upon my holy hill of Zion.
2:7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti;
myfi heddiw a’th genhedlais.
2:7 I will
declare the decree: the LORD hath said unto me, Thou art my Son; this day have
I begotten thee.
2:8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a
therfynau y ddaear i’th feddiant
2:8 Ask of me,
and I shall give thee the heathen for thine inheritance, and the uttermost
parts of the earth for thy possession.
2:9 Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd.
2:9 Thou shalt
break them with a rod of iron; thou shalt dash them in pieces like a potter’s
vessel.
SALM 3
3:1 Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab. ARGLWYDD, mor aml
yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn.
3:1 A Psalm of
David, when he fled from Absalom his son.
LORD, how are they increased that trouble me! many are they that rise up
against me.
3:2 Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes
iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Sela.
3:2 Many there
be which say of my soul, There is no help for him in God. Selah.
3:3 Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a
dyrchafydd fy mhen
3:3 But thou, O
LORD, art a shield for me; my glory, and the lifter up of mine head.
3:4 A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd
sanctaidd. Sela.
3:4 I cried
unto the LORD with my voice, and he heard me out of his holy hill. Selah.
3:5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD
a’m cynhaliodd.
3:5 I laid me
down and slept; I awaked; for the LORD sustained me.
3:6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m
herbyn.
3:6 I will not
be afraid of ten thousands of people, that have set themselves against me round
about.
3:7 Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion
ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
3:7 Arise, O
LORD; save me, O my God: for thou hast smitten all mine enemies upon the cheek
bone; thou hast broken the teeth of the ungodly.
3:8 Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy
bobl. Sela.
3:8 Salvation
belongeth unto the LORD: thy blessing is upon thy people. Selah.
SALM 4
4:1 Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd. Gwrando fi pan alwyf, O DDUW
fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw
fy ngweddi.
4:1 To the
chief Musician on Neginoth, A Psalm of David. Hear me when I call, O God of my righteousness: thou hast
enlarged me when I was in distress; have mercy upon me, and hear my prayer.
4:2 O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr
hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela.
4:2 O ye sons
of men, how long will ye turn my glory into shame? how long will ye love
vanity, and seek after leasing? Selah.
4:3 Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr
ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno
4:3 But know
that the LORD hath set apart him that is godly for himself: the LORD will hear
when I call unto him.
4:4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a
thewch. Sela.
4:4 Stand in
awe, and sin not: commune with your own heart upon your bed, and be still. Selah.
4:5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.
4:5 Offer the
sacrifices of righteousness, and put your trust in the LORD.
4:6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD,
dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
4:6 There be
many that say, Who will show us any good? LORD, lift thou up the light of thy
countenance upon us.
4:7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu
hŷd a’u gwin hwynt.
4:7 Thou hast
put gladness in my heart, more than in the time that their corn and their wine
increased.
4:8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD,
yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
4:8 I will both
lay me down in peace, and sleep: for thou, LORD, only makest me dwell in safety.
SALM 5
5:1 I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd. Gwrando fy ngeiriau,
ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
5:1 To the
chief Musician upon Nehiloth, A Psalm of David. Give ear to my words, O LORD, consider my meditation.
5:2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y
gweddïaf.
5:2 Hearken
unto the voice of my cry, my King, and my God: for unto thee will I pray.
5:3 Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy
ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
5:3 My voice
shalt thou hear in the morning, O LORD; in the morning will I direct my prayer
unto thee, and will look up.
5:4 Oherwydd nid wyt ti DDUW yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig
gyda thi.
5:4 For thou
art not a God that hath pleasure in wickedness: neither shall evil dwell with
thee.
5:5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr
anwiredd.
5:5 The foolish
shall not stand in thy sight: thou hatest all workers of iniquity.
5:6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y
gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus.
5:6 Thou shalt
destroy them that speak leasing: the LORD will abhor the bloody and deceitful
man.
5:7 A minnau a ddeuaf ith dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a
addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di.
5:7 But as for
me, I will come into thy house in the multitude of thy mercy: and in thy fear
will I worship toward thy holy temple.
5:8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac
uniona dy ffordd o’m blaen.
5:8 Lead me, O
LORD, in thy righteousness because of mine enemies; make thy way straight
before my face.
5:9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau:
bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod.
5:9 For there
is no faithfulness in their mouth; their inward part is very wickedness; their
throat is an open sepulchre; they flatter with their tongue.
SALM 6
6:1 I’r Pencerdd ar Neginoth ar Seminith, Salm Dafydd. ARGLWYDD, na
cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.
6:1 To the chief
Musician on Neginoth upon Sheminith, A Psalm of David. O LORD, rebuke me not in thine anger, neither chasten me in thy
hot displeasure.
6:2 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O
ARGLWYDD, canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
6:2 Have mercy
upon me, O LORD; for I am weak: O LORD, heal me; for my bones are vexed.
6:3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?
6:3 My soul is
also sore vexed: but thou, O LORD, how long?
6:4 Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy
drugaredd.
6:4 Return, O
LORD, deliver my soul: oh save me for thy mercies’ sake.
6:5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat; yn y bedd pwy a’th
folianna?
6:5 For in
death there is no remembrance of thee: in the grave who shall give thee thanks?
6:6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely
yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.
6:6 I am weary
with my groaning; all the night make I my bed to swim; I water my couch with my
tears.
6:7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl
elynion.
6:7 Mine eye is
consumed because of grief; it waxeth old because of all mine enemies.
6:8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd; canys yr ARGLWYDD
a glywodd lef fy wylofain.
6:8 Depart from
me, all ye workers of iniquity; for the LORD hath heard the voice of my weeping.
6:9 Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad: yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.
6:9 The LORD
hath heard my supplication; the LORD will receive my prayer.
6:10 Gwaradwydder a
thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn
ddisymwth.
6:10 Let all mine enemies be ashamed and sore vexed: let them
return and be ashamed suddenly.
SALM 7
7:1 Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r ARGLWYDD, oblegid geiriau
Cus mab Jemini. ARGLWYDD fy NUW, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl
erlidwyr a gwared fi:
7:1 Shiggaion
of David, which he sang unto the LORD, concerning the words of Cush the
Benjamite. O LORD my God, in thee do
I put my trust: save me from all them that persecute me, and deliver me:
7:2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo
gwaredydd.
7:2 Lest he
tear my soul like a lion, rending it in pieces, while there is none to deliver.
7:3 ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
7:3 O LORD my
God, if I have done this; if there be iniquity in my hands;
7:4 O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais
yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
7:4 If I have
rewarded evil unto him that was at peace with me; (yea, I have delivered him
that without cause is mine enemy:)
7:5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd
i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
7:5 Let the
enemy persecute my soul, and take it; yea, let him tread down my life upon the
earth, and lay mine honour in the dust.
Selah.
7:6 Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddicllonedd, ymddtrcha, oherwydd llid fy
ngely: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist.
7:6 Arise, O LORD,
in thine anger, lift up thyself because of the rage of mine enemies: and awake
for me to the judgment that thou hast commanded.
7:7 Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn
dychwel dithau i’r uchelder.
7:7 So shall
the congregation of the people compass thee about: for their sakes therefore
return thou on high.
7:8 Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd: barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy
nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
7:8 The LORD
shall judge the people: judge me, O LORD, according to my righteousness, and
according to mine integrity that is in me.
7:9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y
cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau.
7:9 Oh let the
wickedness of the wicked come to an end; but establish the just: for the
righteous God trieth the hearts and reins.
7:10 Fy amddiffyn sydd o
DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
7:10 My defence is of God, which saveth the upright in heart.
7:11 Duw sydd Farnydd
cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
7:11 God judgeth the righteous, and God is angry with the
wicked every day.
7:12 Oni ddychwel yr
annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
7:12 If he turn not, he will whet his sword; he hath bent his
bow, and made it ready.
7:13 Paratôdd hefyd iddo
arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
7:13 He hath also prepared for him the instruments of death;
he ordaineth his arrows against the persecutors.
7:14 Wele, efe a ymddŵg
anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd gelwydd.
7:14 Behold, he travaileth with iniquity, and hath conceived
mischief, and brought forth falsehood.
7:15 Torrodd bwll, cloddiodd
ef, syrthiodd i hefyd yn y clawdd a wnaeth.
7:15 He made a pit, and digged it, and is fallen into the
ditch which he made.
7:16 Ei anwiredd a ymchwel ar
ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
7:16 His mischief shall return upon his own head, and his
violent dealing shall come down upon his own pate.
7:17 Clodforaf yr ARGLWYDD yn
ôl ei gyfiawnder; a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.
7:17 I will praise the LORD according to his righteousness:
and will sing praise to the name of the LORD most high.
SALM 8
8:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd. ARGLWYDD ein IOR ni, mor
arddercog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y
nefoedd.
8:1 To the
chief Musician upon Gittith, A Psalm of David. O LORD our Lord, how excellent is thy name in all the earth! who
hast set thy glory above the heavens.
8:2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy
elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.
8:2 Out of the
mouth of babes and sucklings hast thou ordained strength because of thine
enemies, that thou mightest still the enemy and the avenger.
8:3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y
rhai a ordenaist;
8:3 When I
consider thy heavens, the work of thy fingers, the moon and the stars, which
thou hast ordained;
8:4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn i ti i ymweled ag ef?
8:4 What is
man, that thou art mindful of him? and the son of man, that thou visitest him?
8:5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist i
gogoniant ac â harddwch.
8:5 For thou
hast made him a little lower than the angels, and hast crowned him with glory
and honour.
8:6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo;
gosodaist bob peth dan ei draed ef:
8:6 Thou madest
him to have dominion over the works of thy hands; thou hast put all things
under his feet:
8:7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;
8:7 All sheep
and oxen, yea, and the beasts of the field;
8:8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo
llwybrau y moroedd.
8:8 The fowl of
the air, and the fish of the sea, and whatsoever passeth through the paths of
the seas.
8:9 ARGLWYDD ein IOR, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
8:9 O LORD our
Lord, how excellent is thy name in all the earth!
SALM 9
9:1 I’r Pencerdd ar Muth-labben, Salm Dafydd. Clodforaf di, O
ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.
9:1 To the
chief Musician upon Muthlabben, A Psalm of David. I will praise thee, O LORD, with my whole heart; I will show
forth all thy marvellous works.
9:2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf.
9:2 I will be
glad and rejoice in thee: I will sing praise to thy name, O thou most High.
9:3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a
ddifethir o’th flaen di.
9:3 When mine
enemies are turned back, they shall fall and perish at thy presence.
9:4 Canys gwnaethost fy mam a’m mater yn dda: eisteddaist ar
orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.
9:4 For thou
hast maintained my right and my cause; thou satest in the throne judging right.
9:5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt
a ddileaist byth bythol.
9:5 Thou hast
rebuked the heathen, thou hast destroyed the wicked, thou hast put out their
name for ever and ever.
9:6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y
dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.
9:6 O thou
enemy, destructions are come to a perpetual end: and thou hast destroyed
cities; their memorial is perished with them.
9:7 Ond yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei
orseddfainc i farn.
9:7 But the
LORD shall endure for ever: he hath prepared his throne for judgment.
9:8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn
uniondeb.
9:8 And he shall
judge the world in righteousness, he shall minister judgment to the people in
uprightness.
9:9 Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser
trallod.
9:9 The LORD
also will be a refuge for the oppressed, a refuge in times of trouble.
9:10 A’r rhai a adwaenant dy
enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient.
9:10 And they that know thy name will put their trust in
thee: for thou, LORD, hast not forsaken them that seek thee.
9:11 Canmolwch yr ARGLWYDD,
yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd
ef.
9:11 Sing praises to the LORD, which dwelleth in Zion:
declare among the people his doings.
9:12 Pan ymofynno efe am
waed, efe, a’u cofia hwynt: nid anghofia waed y cystuddiol.
9:12 When he maketh inquisition for blood, he remembereth
them: he forgetteth not the cry of the humble.
9:13 Trugarha wrthyf,
ARGLWYDD; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:
9:13 Have mercy upon me, O LORD; consider my trouble which I
suffer of them that hate me, thou that liftest me up from the gates of death:
9:14 Fel y mynegwyf dy holl
foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
9:14 That I may show forth all thy praise in the gates of the
daughter of Zion: I will rejoice in thy salvation.
9:15 Y cenhedloedd a
soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu
hun.
9:15 The heathen are sunk down in the pit that they made: in
the net which they hid is their own foot taken.
9:16 Adwaenir yr ARGLWYDD
wrth y farn a.wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun.
Higgaion. Sela.
9:16 The LORD is known by the judgment which he executeth:
the wicked is snared in the work of his own hands. Higgaion. Selah.
9:17 Y rhai drygionus a
ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.
9:17 The wicked shall be turned into hell, and all the
nations that forget God.
9:18 Canys nid anghofir y
tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.
9:18 For the needy shall not alway be forgotten: the
expectation of the poor shall not perish for ever.
9:19 Cyfod, ARGLWYDD; na
orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
9:19 Arise, O LORD; let not man prevail: let the heathen be
judged in thy sight.
9:20 Gosod, ARGLWYDD, ofn
arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.
9:20 Put them in fear, O LORD: that the nations may know
themselves to be but men. Selah.
SALM 10
10:1 Paham, ARGLWYDD, y sefi o bell?
Pam yr ymguddi yn amser cyfyngder?
10:1 Why standest thou afar off, O LORD? why hidest thou
thyself in times of trouble?
10:2 Yr annuwiol mewn
balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.
10:2 The wicked in his pride doth persecute the poor: let
them be taken in the devices that they have imagined.
10:3 Canys yr annuwiol a
ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr
ARGLWYDD yn ei ffieiddio.
10:3 For the wicked boasteth of his heart’s desire, and blesseth
the covetous, whom the LORD abhorreth.
10:4 Yr annuwiol, gan uchder
ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.
10:4 The wicked, through the pride of his countenance, will
not seek after God: God is not in all his thoughts.
10:5 Ei ffyrdd sydd flin bob
amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei
holl elynion.
10:5 His ways are always grievous; thy judgments are far
above out of his sight: as for all his enemies, he puffeth at them.
10:6 Dywedodd yn ei galon,
Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
10:6 He hath said in his heart, I shall not be moved: for I
shall never be in adversity.
10:7 Ei enau sydd yn llawn
melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
10:7 His mouth is full of cursing and deceit and fraud: under
his tongue is mischief and vanity.
10:8 Y mae efe yn eistedd yng
nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a
dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
10:8 He sitteth in the lurking places of the villages: in the
secret places doth he murder the innocent: his eyes are privily set against the
poor.
10:9 Efe a gynllwyna mewn
dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y
tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.
10:9 He lieth in wait secretly as a lion in his den: he lieth
in wait to catch the poor: he doth catch the poor, when he draweth him into his
net.
10:10 Efe a ymgryma, ac a
ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
10:10 He croucheth, and humbleth himself, that the poor may
fall by his strong ones.
10:11 Dywedodd yn ei galon,
Anghofiodd DUW: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.
10:11 He hath said in his heart, God hath forgotten: he hideth
his face; he will never see it .
10:12 Cyfod, ARGLWYDD; 0O DDUW, dyrcha dy law: nac anghofia y
cystuddiol.
10:12 Arise, O LORD; O God, lift up thine hand: forget not the
humble.
10:13 Paham y dirmyga yr
annuwiol DDUW? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.
10:13 Wherefore doth the wicked contemn God? he hath said in
his heart, Thou wilt not require it .
10:14 Gwelaist hyn; canys ti
a ganfydd anwiredd a cham, i roddi tâl a’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y
tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.
10:14 Thou hast seen it: for thou beholdest mischief and
spite, to requite it with thy hand: the poor committeth himself unto thee; thou
art the helper of the fatherless.
10:15 Tor fraich yr annuwiol
a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.
10:15 Break thou the arm of the wicked and the evil man: seek
out his wickedness till thou find none.
10:16 Yr ARGLWYDD sydd frenin
byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.
10:16 The LORD is King for ever and ever: the heathen are perished
out of his land.
10:17 ARGLWYDD, clywaist
ddymuniad y tlodion: paratoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;
10:17 LORD, thou hast heard the desire of the humble: thou
wilt prepare their heart, thou wilt cause thine ear to hear:
10:18 I farnu yr amddifad a’r
gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.
10:18 To judge the fatherless and the oppressed, that the man
of the earth may no more oppress.
SALM 11
11:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yn
yr ARGLWYDD yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch
mynydd fel aderyn?
11:1 To the chief Musician, A Psalm of David. In the LORD put I my trust: how say
ye to my soul, Flee as a bird to your mountain?
11:2 Canys wele, y drygionus
a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn i saethu yn ddirgel y rhai
uniawn o galon.
11:2 For, lo, the wicked bend their bow, they make ready
their arrow upon the string, that they may privily shoot at the upright in
heart.
11:3 Canys y seiliau
a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?
11:3 If the foundations be destroyed, what can the righteous
do?
11:4 Yr ARGLWYDD sydd yn
nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei
lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
11:4 The LORD is in his holy temple, the LORD’S throne is in
heaven: his eyes behold, his eyelids try, the children of men.
11:5 Yr ARGLWYDD a brawf y
cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo
drawster.
11:5 The LORD trieth the righteous: but the wicked and him
that loveth violence his soul hateth.
11:6 Ar yr annuwiolion y
glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol
hwynt.
11:6 Upon the wicked he shall rain snares, fire and
brimstone, and an horrible tempest: this shall be the portion of their cup.
11:7 Canys yr ARGLWYDD
cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
11:7 For the righteous LORD loveth righteousness; his
countenance doth behold the upright.
SALM 12
12:1 I’r Pencerdd ar Seminith, Salm
Dafydd. Achub, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y
ffyddloniaid o blith meibion dynion.
12:1 To the chief Musician upon Sheminith, A Psalm of David. Help, LORD; for the godly man
ceaseth; for the faithful fail from among the children of men.
12:2 Oferedd a ddywedant bob
un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.
12:2 They speak vanity every one with his neighbour: with
flattering lips and with a double heart do they speak.
12:3 Torred yr ARGLWYDD yr
holl wefusau gwenieithus, a’r tafod a ddywedo fawrhydi:
12:3 The LORD shall cut off all flattering lips, and the
tongue that speaketh proud things:
12:4 Y rhai a ddywedant, A’n
tafod y gorfyddwn; ein gwefusau sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?
12:4 Who have said, With our tongue will we prevail; our lips
are our own: who is lord over us?
12:5 Oherwydd anrhaith y rhai
cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD;
rhoddaf rnewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.
12:5 For the oppression of the poor, for the sighing of the
needy, now will I arise, saith the LORD; I will set him in safety from him that
puffeth at him.
12:6 Geiriau yr ARGLWYDD
ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro
seithwaith.
12:6 The words of the LORD are pure words: as silver tried in
a furnace of earth, purified seven times.
12:7 Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi
hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
12:7 Thou shalt keep them, O LORD, thou shalt preserve them
from this generation for ever.
12:8 Yr annuwiolion a rodiant
o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
12:8 The wicked walk on every side, when the vilest men are
exalted.
SALM 13
13:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Pa
hyd, ARGLWYDD, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?
13:1 To the chief Musician, A Psalm of David. How long wilt thou forget me, O LORD?
for ever? how long wilt thou hide thy face from me?
13:2 Pa hyd y cymeraf
gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y
dyrchefir fy ngelyn arnaf?
13:2 How long shall I take counsel in my soul, having sorrow
in my heart daily? how long shall mine enemy be exalted over me?
13:3 Edrych, a chlyw fi, O
ARGLWYDD fy NUW; ac goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:
13:3 Consider and hear me, O LORD my God: lighten mine eyes,
lest I sleep the sleep of death;
13:4 Rhag dywedyd o’m gelyn,
Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.
13:4 Lest mine enemy say, I have prevailed against him; and
those that trouble me rejoice when I am moved.
13:5 Minnau hefyd a
ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth:
canaf i’r ARGLWYDD, am iddo synio arnaf.
13:5 But I have trusted in thy mercy; my heart shall rejoice
in thy salvation. I will sing unto
the LORD, because he hath dealt bountifully with me
SALM 14
14:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yr
ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant; ffieiddwaith a
wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.
14:1 To the chief Musician, A Psalm of David. The fool hath said in his heart,
There is no God. They are corrupt,
they have done abominable works, there is none that doeth good.
14:2 Yr ARGLWYDD a edrychodd
i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio
â DUW.
14:2 The LORD looked down from heaven upon the children of
men, to see if there were any that did understand, and seek God.
14:3 Ciliodd pawb;
cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
14:3 They are all gone aside, they are all together become
filthy: there is none that doeth good, no, not one.
14:4 Oni ŵyr holl
weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni
alwasant ar yr ARGLWYDD.
14:4 Have all the workers of iniquity no knowledge? who eat
up my people as they eat bread, and call not upon the LORD.
14:5 Yno y dychrynasant gan
ofn; canys y mae DUW yng nghenhedlaeth y cyfiawn.
14:5 There were they in great fear: for God is in the
generation of the righteous.
14:6 Cyngor y tlawd a
waradwyddasoch chwi; am fod yr ARGLWYDD yn obaith iddo.
14:6 Ye have shamed the counsel of the poor, because the LORD
is his refuge.
14:7 Pwy a ddyry
iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr ARGLWYDD gaethiwed ei bobl,
yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
14:7 Oh that the salvation of Israel were come out of Zion!
when the LORD bringeth back the captivity of his people, Jacob shall rejoice,
and Israel shall be glad.
SALM 15
15:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, pwy a
drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
15:1 A Psalm of David.
LORD, who shall abide in thy tabernacle? who shall dwell in thy holy hill?
15:2 Yr hwn a rodia yn berffaith,
ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon:
15:2 He that walketh uprightly, and worketh righteousness,
and speaketh the truth in his heart.
15:3 Heb absennu â’i dafod,
heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog
15:3 He that backbiteth not with his tongue, nor doeth evil
to his neighbour, nor taketh up a reproach against his neighbour.
15:4 Yr hwn y mae y drygionus
yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr ARGLWYDD: yr hwn a
dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia.
15:4 In whose eyes a vile person is contemned; but he
honoureth them that fear the LORD.
He that sweareth to his own hurt, and changeth not.
15:5 Yr hwn ni roddes ei
arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid
ysgogir yn dragywydd.
15:5 He that putteth not out his money to usury, nor taketh
reward against the innocent. He that
doeth these things shall never be moved.
SALM 16
16:1 Michtam Dafydd. Cadw fi, O
DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf.
16:1 Michtam of David.
Preserve me, O God: for in thee do I put my trust.
16:2 Fy enaid, dywedaist wrth
yr ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:
16:2 O my soul, thou hast said unto the LORD, Thou art my
Lord: my goodness extendeth not to thee;
16:3 Ond i’r saint sydd ar y
ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
16:3 But to the saints that are in the earth, and to the
excellent, in whom is all my delight.
16:4 Gofidiau a amlhânt i’r
rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni
chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.
16:4 Their sorrows shall be multiplied that hasten after
another god: their drink offerings of blood will I not offer, nor take up their
names into my lips.
16:5 Yr ARGLWYDD yw rhan fy
etifeddiaeth, i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.
16:5 The LORD is the portion of mine inheritance and of my
cup: thou maintainest my lot.
16:6 Y llinynnau a syrthiodd
i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.
16:6 The lines are fallen unto me in pleasant places; yea, I
have a goodly heritage.
16:7 Bendithiaf yr ARGLWYDD,
yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos.
16:7 I will bless the LORD, who hath given me counsel: my
reins also instruct me in the night seasons.
16:8 Gosodais yr ARGLWYDD bob
amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.
16:8 I have set the LORD always before me: because he is at
my right hand, I shall not be moved.
16:9 Oherwydd hynny
llawenychodd fy nghalon ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a
orffwys mewn gobaith:
16:9 Therefore my heart is glad, and my glory rejoiceth: my
flesh also shall rest in hope.
16:10 Canys ni adewi fy enaid
yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.
16:10 For thou wilt not leave my soul in hell; neither wilt
thou suffer thine Holy One to see corruption.
16:11 Dangosi i mi lwybr
bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch
yn dragywydd.
16:11 Thou wilt show me the path of life: in thy presence is
fulness of joy; at thy right hand there are pleasures for evermore.
SALM 17
17:1 Gweddi Dafydd. Clyw, ARGLWYDD,
gyfiawnder; ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.
17:1 A prayer of David.
Hear the right, O LORD, attend unto my cry, give ear unto my prayer, that goeth
not out of feigned lips.
17:2 Deued fy marn oddi ger
dy fron: edryched dy lygaid at uniondeb.
17:2 Let my sentence come forth from thy presence; let thine
eyes behold the things that are equal.
17:3 Profaist fy nghalon;
gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy
ngenau.
17:3 Thou hast proved mine heart; thou hast visited me in the
night; thou hast tried me, and shalt find nothing; I am purposed that my mouth
shall not transgress.
17:4 Tuag at am weithredoedd
dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.
17:4 Concerning the works of men, by the word of thy lips I
have kept me from the paths of the destroyer.
17:5 Cynnal fy ngherddediad
yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.
17:5 Hold up my goings in thy paths, that my footsteps slip
not.
17:6 Mi a elwais arnat; canys
gwrandewi arnaf fi, O DDUW: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.
17:6 I have called upon thee, for thou wilt hear me, O God:
incline thine ear unto me, and hear my speech.
17:7 Dangos dy ryfedd
drugareddau. O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn
erbyn dy ddeheulaw.
17:7 Show thy marvellous lovingkindness, O thou that savest
by thy right hand them which put their trust in thee from those that rise up
against them .
17:8 Cadw fi fel cannwyll
llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,
17:8 Keep me as the apple of the eye, hide me under the
shadow of thy wings,
17:9 Rhag yr annuwiolion, y
rhai a’m gorthrymant; rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.
17:9 From the wicked that oppress me, from my deadly enemies,
who compass me about.
17:10 Caeasant gan eu
braster: â’u genau y llefarant mewn balchder.
17:10 They are enclosed in their own fat: with their mouth
they speak proudly.
17:11 Ein cyniweirfa ni a
gylchynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.
17:11 They have now compassed us in our steps: they have set
their eyes bowing down to the earth;
17:12 Eu dull sydd fel llew a
chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn lleoedd dirgel.
17:12 Like as a lion that is greedy of his prey, and as it
were a young lion lurking in secret places.
17:13 Cyfod, ARGLWYDD, achub
ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf
di;
17:13 Arise, O LORD, disappoint him, cast him down: deliver my
soul from the wicked, which is thy sword:
17:14 Rhag dynion, y rhai yw
dy law, ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r
rhai llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a
gadawant eu gweddill i’w rhai bychain.
17:14 From men which are thy hand, O LORD, from men of the world,
which have their portion in this life, and whose belly thou fillest with thy
hid treasure: they are full of children, and leave the rest of their substance
to their babes.
17:15 Myfi a edrychaf ar dy
wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
17:15 As for me, I will behold thy face in righteousness: I
shall be satisfied, when I awake, with thy likeness.
SALM 18
18:1
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr ARGLWYDD yr hwn a lefarodd wrth yr ARGLWYDD
eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion,
ac o law Saul: ac efe a ddywedodd, Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid.
18:1 To the chief Musician, A Psalm of David, the servant of
the LORD, who spake unto the LORD the words of this song in the day that the LORD
delivered him from the hand of all his enemies, and from the hand of Saul: And
he said, I will love thee, O LORD, my strength.
18:2 Yr ARGLWYDD yw fy
nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr
ymddiriedaf fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth a’m huchel dŵr.
18:2 The LORD is my rock, and my fortress, and my deliverer;
my God, my strength, in whom I will trust; my buckler, and the horn of my
salvation, and my high tower.
18:3 Galwaf ar yr ARGLWYDD
canmoladwy felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
18:3 I will call upon the LORD, who is worthy to be praised:
so shall I be saved from mine enemies.
18:4 Gofidion angau a’m
cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i.
18:4 The sorrows of death compassed me, and the floods of
ungodly men made me afraid.
18:5 Gofidiau uffern a’m
cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.
18:5 The sorrows of hell compassed me about: the snares of
death prevented me.
18:6 Yn fy nghyfyngder y
gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o’i deml,
a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.
18:6 In my distress I called upon the LORD, and cried unto my
God: he heard my voice out of his temple, and my cry came before him, even into
his ears.
18:7 Yna y siglodd ac y
crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo
ef ddigio.
18:7 Then the earth shook and trembled; the foundations also
of the hills moved and were shaken, because he was wroth.
18:8 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau,
a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo.
18:8 There went up a smoke out of his nostrils, and fire out
of his mouth devoured: coals were kindled by it.
18:9 Efe hefyd a ostyngodd y
nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
18:9 He bowed the heavens also, and came down: and darkness
was under his feet.
18:10 Marchogodd hefyd ar y
ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
18:10 And he rode upon a cherub, and did fly: yea, he did fly
upon the wings of the wind.
18:11 Efe a wnaeth dywyllwch
yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew
gymylau yr awyr.
18:11 He made darkness his secret place; his pavilion round
about him were dark waters and thick clouds of the skies.
18:12 Gan y disgleirdeb oedd
ger ei fron, a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.
18:12 At the brightness that was before him his thick clouds
passed, hail stones and coals of fire.
18:13 Yr ARGLWYDD hefyd a
daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
18:13 The LORD also thundered in the heavens, and the Highest
gave his voice; hail stones and coals of fire.
18:14 Ie, efe a anfonodd ei
saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd
hwynt.
18:14 Yea, he sent out his arrows, and scattered them; and he
shot out lightnings, and discomfited them.
18:15 Gwaelodion y dyfroedd a
welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chan
chwythad anadl dy ffroenau.
18:15 Then the channels of waters were seen, and the
foundations of the world were discovered at thy rebuke, O LORD, at the blast of
the breath of thy nostrils.
18:16 Anfonodd oddi uchod,
cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
18:16 He sent from above, he took me, he drew me out of many
waters.
18:17 Efe a’m gwaredodd oddi
wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18:17 He delivered me from my strong enemy, and from them
which hated me: for they were too strong for me.
18:18 Achubasant fy mlaen yn
nydd fy ngofid; ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.
18:18 They prevented me in the day of my calamity: but the
LORD was my stay.
18:19 Dug fi hefyd i
ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
18:19 He brought me forth also into a large place; he
delivered me, because he delighted in me.
18:20 Yr ARGLWYDD a’m
gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
18:20 The LORD rewarded me according to my righteousness;
according to the cleanness of my hands hath he recompensed me.
18:21 Canys cedwais ffyrdd yr
ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.
18:21 For I have kept the ways of the LORD, and have not
wickedly departed from my God.
18:22 Oherwydd ei holl
farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.
18:22 For all his judgments were before me, and I did not put
away his statutes from me.
18:23 Bûm hefyd yn berffaith
gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
18:23 I was also upright before him, and I kept myself from
mine iniquity.
18:24 A’r ARGLWYDD a’m
gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.
18:24 Therefore hath the LORD recompensed me according to my
righteousness, according to the cleanness of my hands in his eyesight.
18:25 A’r trugarog y gwnei
drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
18:25 With the merciful thou wilt show thyself merciful; with
an upright man thou wilt show thyself upright;
18:26 A’r glân y gwnei
lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni.
18:26 With the pure thou wilt show thyself pure; and with the
froward thou wilt show thyself froward.
18:27 Canys ti a waredi y
bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.
18:27 For thou wilt save the afflicted people; but wilt bring
down high looks.
18:28 Oherwydd ti a oleui fy
nghannwyll: yr ARGLWYDD fy NUW a lewyrcha fy nhywyllwch.
18:28 For thou wilt light my candle: the LORD my God will
enlighten my darkness.
18:29 Oblegid ynot ti yr
hedais trwy fyddin; ac yn fy NUW y llemais dros fur.
18:29 For by thee I have run through a troop; and by my God
have I leaped over a wall.
18:30 DUW sydd berffaith ei
ffordd: gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant
ynddo.
18:30 As for God, his way is perfect: the word of the LORD is
tried: he is a buckler to all those that trust in him.
18:31 Canys pwy sydd DDUW
heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein DUW ni?
18:31 For who is God save the LORD? or who is a rock save our
God?
18:32 DUW sydd yn fy
ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
18:32 It is God that girdeth me with strength, and maketh my
way perfect.
18:33 Gosod y mae efe fy
nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla.
18:33 He maketh my feet like hinds’ feet, and setteth me upon
my high places.
18:34 Efe sydd yn dysgu fy
nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.
18:34 He teacheth my hands to war, so that a bow of steel is
broken by mine arms.
18:35 Rhoddaist hefyd i mi darian
dy iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd.
18:35 Thou hast also given me the shield of thy salvation: and
thy right hand hath holden me up, and thy gentleness hath made me great.
18:36 Ehengaist fy
ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.
18:36 Thou hast enlarged my steps under me, that my feet did
not slip.
18:37 Erlidiais fy ngelynion,
ac a’u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
18:37 I have pursued mine enemies, and overtaken them: neither
did I turn again till they were consumed.
18:38 Archollais hwynt, fel
na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
18:38 I have wounded them that they were not able to rise:
they are fallen under my feet.
18:39 Canys gwregysaist fi â
nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn.
18:39 For thou hast girded me with strength unto the battle:
thou hast subdued under me those that rose up against me.
18:40 Rhoddaist hefyd i mi
warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
18:40 Thou hast also given me the necks of mine enemies; that
I might destroy them that hate me.
18:41 Gwaeddasant, ond nid
oedd achubydd - sef ar yr ARGLWYDD, ond nid atebodd efe hwynt.
18:41 They cried, but there was none to save them: even unto
the LORD, but he answered them not.
18:42 Maluriais hwynt hefyd
fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
18:42 Then did I beat them small as the dust before the wind:
I did cast them out as the dirt in the streets.
18:43 Gwaredaist fi rhag
cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m
gwasanaethant.
18:43 Thou hast delivered me from the strivings of the people;
and thou hast made me the head of the heathen: a people whom I have not known
shall serve me.
18:44 Pan glywant amdanaf,
ufuddhant i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.
18:44 As soon as they hear of me, they shall obey me: the
strangers shall submit themselves unto me.
18:45 Meibion dieithr a
ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau.
18:45 The strangers shall fade away, and be afraid out of
their close places.
18:46 Byw yw yr ARGLWYDD, a
bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth.
18:46 The LORD liveth; and blessed be my rock; and let the God
of my salvation be exalted.
18:47 DUW sydd yn rhoddi i mi
ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.
18:47 It is God that avengeth me, and subdueth the people
under me.
18:48 Efe sydd yn fy ngwared oddi
wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn:
achubaist fi rhag y gŵr traws.
18:48 He delivereth me from mine enemies: yea, thou liftest me
up above those that rise up against me: thou hast delivered me from the violent
man.
18:49 Am hynny y moliannaf
di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.
18:49 Therefore will I give thanks unto thee, O LORD, among
the heathen, and sing praises unto thy name.
18:50 Efe sydd yn gwneuthur
mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac
i’w had ef byth.
18:50 Great deliverance giveth he to his king; and showeth
mercy to his anointed, to David, and to his seed for evermore.
SALM 19
19:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Dduw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei
ddwylo ef.
19:1 To the chief Musician, A Psalm of David. The heavens declare the glory of God;
and the firmament showeth his handiwork.
19:2 Dydd i ddydd a draetha
ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.
19:2 Day unto day uttereth speech, and night unto night
showeth knowledge.
19:3 Nid oes iaith nac
ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt,
19:3 There is no speech nor language, where their voice is
not heard.
19:4 Eu llinyn a aeth trwy yr
holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell
ynddynt;
19:4 Their line is gone out through all the earth, and their
words to the end of the world. In
them hath he set a tabernacle for the sun,
19:5 Yr hwn sydd fel gŵr
priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.
19:5 Which is as a bridegroom coming out of his chamber, and
rejoiceth as a strong man to run a race.
19:6 O eithaf y nefoedd y mae
ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd
dim oddi wrth ei wres ef.
19:6 His going forth is from the end of the heaven, and his
circuit unto the ends of it: and there is nothing hid from the heat thereof.
19:7 Cyfraith yr ARGLWYDD
sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn
gwneuthur y gwirion yn ddoeth.
19:7 The law of the LORD is perfect, converting the soul: the
testimony of the LORD is sure, making wise the simple.
19:8 Deddfau yr ARGLWYDD sydd
uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y
llygaid.
19:8 The statutes of the LORD are right, rejoicing the heart:
the commandment of the LORD is pure, enlightening the eyes.
19:9 Ofn yr ARGLWYDD sydd
lân, yn parhau yn dragwydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i
gyd.
19:9 The fear of the LORD is clean, enduring for ever: the
judgments of the LORD are true and righteous altogether.
19:10 Mwy dymunol ŷnt
nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad
diliau mêl.
19:10 More to be desired are they than gold, yea, than much
fine gold: sweeter also than honey and the honeycomb.
19:11 Ynddynt hwy hefyd y
rhybuddir was: o’u cadw y mae gwobr lawer.
19:11 Moreover by them is thy servant warned: and in keeping
of them there is great reward.
19:12 Pwy a ddeall ei
gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.
19:12 Who can understand his errors? cleanse thou me from
secret faults .
19:13 Atal hefyd dy was oddi wrth
bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m
glanheir oddi wrth anwiredd lawer.
19:13 Keep back thy servant also from presumptuous sins; let
them not have dominion over me: then shall I be upright, and I shall be
innocent from the great transgression.
19:14 Bydded ymadroddion fy
ngenau, myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig
a’m prynwr.
19:14 Let the words of my mouth, and the meditation of my
heart, be acceptable in thy sight, O LORD, my strength, and my redeemer.
SALM 20
20:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
Wrandawed yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno.
20:1 To the chief Musician, A Psalm of David. The LORD hear thee in the day of
trouble; the name of the God of Jacob defend thee;
20:2 Anfoned i ti gymorth o’r
cysegr, a nerthed di o Seion.
20:2 Send thee help from the sanctuary, and strengthen thee
out of Zion;
20:3 Cofied dy holl offrymau,
a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.
20:3 Remember all thy offerings, and accept thy burnt
sacrifice; Selah.
20:4 Rhodded i ti wrth fodd
dy galon, chyfiawned dy holl gyngor.
20:4 Grant thee according to thine own heart, and fulfil all
thy counsel.
20:5 Gorfoleddwn yn dy
iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW; cyfiawned yr ARGLWYDD dy
holl dymuniadau.
20:5 We will rejoice in thy salvation, and in the name of our
God we will set up our banners: the LORD fulfil all thy petitions.
20:6 Yr awr hon y gwn y
gwared yr ARGLWYDD ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd,
yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.
20:6 Now know I that the LORD saveth his anointed; he will
hear him from his holy heaven with the saving strength of his right hand.
20:7 Ymddiried rhai mewn
cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr ARGLWYDD ein DUW.
20:7 Some trust in chariots, and some in horses: but we will
remember the name of the LORD our God.
20:8 Hwy a gwympasant, ac a
syrthiasant ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
20:8 They are brought down and fallen: but we are risen, and
stand upright.
20:9 Achub, ARGLWYDD:
gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
20:9 Save, LORD: let the king hear us when we call.
SALM 21
21:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
ARGLWYDD, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor
ddirfawr yr ymhyfryda!
21:1 To the chief Musician, A Psalm of David. The king shall joy in thy strength, O
LORD; and in thy salvation how greatly shall he rejoice!
21:2 Deisyfiad ei galon a
roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.
21:2 Thou hast given him his heart’s desire, and hast not
withholden the request of his lips.
Selah.
21:3 Canys achubaist ei flaen
ef a bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
21:3 For thou preventest him with the blessings of goodness:
thou settest a crown of pure gold on his head.
21:4 Gofynnodd oes gennyt, a
rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.
21:4 He asked life of thee, and thou gavest it him, even
length of days for ever and ever.
21:5 Mawr yw ei ogoniant yn
dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
21:5 His glory is great in thy salvation: honour and majesty
hast thou laid upon him.
21:6 Canys gwnaethost ef yn
fendithion yn dragywyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd.
21:6 For thou hast made him most blessed for ever: thou hast
made him exceeding glad with thy countenance.
21:7 Oherwydd bod y Brenin yn
ymddiried yn yr ARGLWYDD, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.
21:7 For the king trusteth in the LORD, and through the mercy
of the most High he shall not be moved.
21:8 Dy law a gaiff afael ar
dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gareion.
21:8 Thine hand shall find out all thine enemies: thy right
hand shall find out those that hate thee.
21:9 Ti a’u gwnei hwynt fel
ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt,
a’r tân a’u hysa hwynt.
21:9 Thou shalt make them as a fiery oven in the time of
thine anger: the LORD shall swallow them up in his wrath, and the fire shall
devour them.
21:10 Eu ffrwyth hwynt a
ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion.
21:10 Their fruit shalt thou destroy from the earth, and their
seed from among the children of men.
21:11 Canys bwriadasant ddrwg
i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.
21:11 For they intended evil against thee: they imagined a
mischievous device, which they are not able to perform .
21:12 Am hynny y gwnei iddynt
droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
21:12 Therefore shalt thou make them turn their back, when
thou shalt make ready thine arrows upon thy strings against the face of them.
21:13 Ymddyrcha, ARGLWYDD, yn
dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.
21:13 Be thou exalted, LORD, in thine own strength: so will we
sing and praise thy power.
SALM 22
22:1 I’r Pencerdd ar
Aieleth-hasahar, Salm Dafydd. Fy NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr
ydwyt mor bell oddi wrth fy iawchawdwriaeth, a geiriau fy llefain?
22:1 To the chief Musician upon Aijeleth Shahar, A Psalm of
David. My God, my God, why hast thou
forsaken me? why art thou so far from helping me, and from the words of my
roaring?
22:2 Fy NUW, llefain yr ydwyf
y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.
22:2 O my God, I cry in the daytime, but thou hearest not;
and in the night season, and am not silent.
22:3 Ond tydi wyt sanctaidd,
O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.
22:3 But thou art holy, O thou that inhabitest the praises of
Israel.
22:4 Ein tadau a obeithiasant
ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
22:4 Our fathers trusted in thee: they trusted, and thou
didst deliver them.
22:5 Arnat ti y llefasant , ac
achubwyd hwynt; ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.
22:5 They cried unto thee, and were delivered: they trusted
in thee, and were not confounded.
22:6 A minnau, pryf ydwyf, ac
nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.
22:6 But I am a worm, and no man; a reproach of men, and
despised of the people.
22:7 Pawb a’r a’m gwelant a’m
gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,
22:7 All they that see me laugh me to scorn: they shoot out
the lip, they shake the head, saying,
22:8 Ymddiriedodd yn yr
ARGLWYDD; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo
22:8 He trusted on the LORD that he would deliver him: let
him deliver him, seeing he delighted in him.
22:9 Canys ti a’m tynnaist
o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
22:9 But thou art he that took me out of the womb: thou didst
make me hope when I was upon my mother’s breasts.
22:10 Arnat ti y’m bwriwyd
o’r bru: o groth fy mam fy NUW ydwyt.
22:10 I was cast upon thee from the womb: thou art my God from
my mother’s belly.
22:11 Nac ymbellha oddi
wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.
22:11 Be not far from me; for trouble is near; for there is
none to help.
22:12 Teirw lawer a’m
cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant.
22:12 Many bulls have compassed me: strong bulls of Bashan
have beset me round.
22:13 Agorasant arnaf
eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.
22:13 They gaped upon me with their mouths, as a ravening and
a roaring lion.
22:14 Fel dwfr y’m
tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a
doddodd yng nghanol fy mherfedd.
22:14 I am poured out like water, and all my bones are out of
joint: my heart is like wax; it is melted in the midst of my bowels.
22:15 Fy nerth a wywodd fel
priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau; ac i lwch angau y’m
dygaist.
22:15 My strength is dried up like a potsherd; and my tongue
cleaveth to my jaws; and thou hast brought me into the dust of death.
22:16 Canys cŵn a’m
cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo
a’m traed.
22:16 For dogs have compassed me: the assembly of the wicked
have enclosed me: they pierced my hands and my feet.
22:17 Gallaf gyfrif fy holl
esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.
22:17 I may tell all my bones: they look and stare upon me.
22:18 Y maent yn rhannu fy
nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.
22:18 They part my garments among them, and cast lots upon my
vesture.
22:19 Ond tydi, ARGLWYDD, nac
ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo.
22:19 But be not thou far from me, O LORD: O my strength,
haste thee to help me.
22:20 Gwared fy enaid rhag y
cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.
22:20 Deliver my soul from the sword; my darling from the
power of the dog.
22:21 Achub fi rhag safn y
llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.
22:21 Save me from the lion’s mouth: for thou hast heard me
from the horns of the unicorns.
22:22 Mynegaf dy enw i’m
brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf.
22:22 I will declare thy name unto my brethren: in the midst
of the congregation will I praise thee.
22:23 Y rhai sydd yn ofni yr
ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch
ef.
22:23 Ye that fear the LORD, praise him; all ye the seed of
Jacob, glorify him; and fear him, all ye the seed of Israel.
22:24 Canys ni ddirmygodd, ac
ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd
efe arno, efe a wrandawodd.
22:24 For he hath not despised nor abhorred the affliction of
the afflicted; neither hath he hid his face from him; but when he cried unto
him, he heard.
22:25 Fy mawl sydd ohonot ti
yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef.
22:25 My praise shall be of thee in the great congregation: I
will pay my vows before them that fear him.
22:26 Y tlodion a fwytânt, ac
a ddiwellir: y rhai a geisiant yr ARGLWYDD, a’i moliannant ef: eich calon fydd
byw yn dragywydd.
22:26 The meek shall eat and be satisfied: they shall praise
the LORD that seek him: your heart shall live for ever.
22:27 Holl derfynau y ddaear
a gofiant, ac a droant at yr ARGLWYDD: a holl dylwythau y cenhedloedd a
addolant ger dy fron di.
22:27 All the ends of the world shall remember and turn unto
the LORD: and all the kindreds of the nations shall worship before thee.
22:28 Canys eiddo yr ARGLWYDD
yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.
22:28 For the kingdom is the LORD’S: and he is the governor
among the nations.
22:29 Yr holl rai breision ar
y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant
ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.
22:29 All they that be fat upon earth shall eat and worship:
all they that go down to the dust shall bow before him: and none can keep alive
his own soul.
22:30 Eu had a’i gwasanaetha
ef: cyfrifir ef i’r ARGLWYDD yn genhedlaeth.
22:30 A seed shall serve him; it shall be accounted to the
Lord for a generation.
22:31 Deuant, ac adroddant ei
gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.
22:31 They shall come, and shall declare his righteousness
unto a people that shall be born, that he hath done this .
SALM 23
23:1 Salm Dafydd. YR ARGLWYDD yw fy
Mugail; ni bydd eisiau arnaf.
23:1 A Psalm of David.
The LORD is my shepherd; I shall not want.
23:2 Efe a wna i mi orwedd
mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel.
23:2 He maketh me to lie down in green pastures: he leadeth
me beside the still waters.
23:3 Efe a ddychwel fy enaid:
efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
23:3 He restoreth my soul: he leadeth me in the paths of
righteousness for his name’s sake.
23:4 Ie, pe rhodiwn ar hyd
glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th
ffon a’m cysurant.
23:4 Yea, though I walk through the valley of the shadow of
death, I will fear no evil: for thou art with me; thy rod and thy staff they comfort
me.
23:5 Ti a arlwyi ford ger fy
mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd
lawn.
23:5 Thou preparest a table before me in the presence of mine
enemies: thou anointest my head with oil; my cup runneth over.
23:6 Daioni a thrugaredd yn
ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr
ARGLWYDD yn dragywydd.
23:6 Surely goodness and mercy shall follow me all the days
of my life: and I will dwell in the house of the LORD for ever.
SALM 24
24:1 Salm Dafydd. Eiddo yr ARGLWYDD
y ddaear, a’i chyfiawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.
24:1 A Psalm of David.
The earth is the LORD’S, and the fulness thereof; the world, and they that
dwell therein.
24:2 Canys efe a’i seiliodd
ar y moroedd, ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd.
24:2 For he hath founded it upon the seas, and established it
upon the floods.
24:3 Pwy a esgyn i fynydd yr
ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?
24:3 Who shall ascend into the hill of the LORD? or who shall
stand in his holy place?
24:4 Y glân ei ddwylo, a’r
pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i
dwyllo.
24:4 He that hath clean hands, and a pure heart; who hath not
lifted up his soul unto vanity, nor sworn deceitfully.
24:5 Efe a dderbyn fendith
gan yr ARGLWYDD, a chyfiawnder gan DDUW ei iachawdwriaeth.
24:5 He shall receive the blessing from the LORD, and
righteousness from the God of his salvation.
24:6 Dyma genhedlaeth y rhai
a’i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela.
24:6 This is the generation of them that seek him, that seek
thy face, O Jacob. Selah.
24:7 O byrth, dyrchefwch eich
pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i
mewn.
24:7 Lift up your heads, O ye gates; and be ye lift up, ye
everlasting doors; and the King of glory shall come in.
24:8 Pwy yw y Brenin
gogoniant hwn? yr ARGLWYDD nerthol a chadarn, yr ARGLWYDD cadarn mewn rhyfel.
24:8 Who is this King of glory? The LORD strong and mighty,
the LORD mighty in battle.
24:9 O byrth, dyrchefwch eich
pennau; a ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i
mewn.
24:9 Lift up your heads, O ye gates; even lift them up, ye
everlasting doors; and the King of glory shall come in.
24:10 Pwy yw y Brenin gogoniant
hwn? ARGLWYDD y lluoedd, efe yw
Brenin y gogoniant. Sela.
24:10 Who is this King of glory? The LORD of hosts, he is the
King of glory. Selah.
SALM 25
25:1 Salm Dafydd. Atat ti, O
ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.
25:1 A Psalm of David.
Unto thee, O LORD, do I lift up my soul.
25:2 O fy NUW, ynot ti yr
ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf
25:2 O my God, I trust in thee: let me not be ashamed, let
not mine enemies triumph over me.
25:3 Ie, na waradwydder neb
sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.
25:3 Yea, let none that wait on thee be ashamed: let them be
ashamed which transgress without cause.
25:4 Pâr i mi wybod dy
ffyrdd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy lwybrau.
25:4 Show me thy ways, O LORD; teach me thy paths.
25:5 Tywys fi yn dy
wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf
ar hyd y dydd
25:5 Lead me in thy truth, and teach me: for thou art the God
of my salvation; on thee do I wait all the day.
25:6 Cofia, ARGLWYDD, dy
dosturiaethau a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy.
25:6 Remember, O LORD, thy tender mercies and thy
lovingkindnesses; for they have been ever of old.
25:7 Na chofia bechodau fy
ieuenctid na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy
ddaioni, ARGLWYDD.
25:7 Remember not the sins of my youth, nor my
transgressions: according to thy mercy remember thou me for thy goodness’ sake,
O LORD.
25:8 Da ac uniawn yw yr
ARGLWYDD: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.
25:8 Good and upright is the LORD: therefore will he teach
sinners in the way.
25:9 Y rhai llariaidd a
hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.
25:9 The meek will he guide in judgment: and the meek will he
teach his way.
25:10 Holl lwybrau yr
ARGLWYDD ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i
dystiolaethau ef.
25:10 All the paths of the LORD are mercy and truth unto such
as keep his covenant and his testimonies.
25:11 Er mwyn dy enw,
ARGLWYDD, maddau fy anwiredd: canys mawr yw.
25:11 For thy name’s sake, O LORD, pardon mine iniquity; for
it is great.
25:12 Pa ŵr yw efe sydd
yn ofni’r ARGLWYDD? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.
25:12 What man is he that feareth the LORD? him shall he teach
in the way that he shall choose.
25:13 Ei enaid ef a erys mewn
daioni: a’i had a etifedda y ddaear.
25:13 His soul shall dwell at ease; and his seed shall inherit
the earth.
25:14 Dirgelwch yr ARGLWYDD
sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt.
25:14 The secret of the LORD is with them that fear him; and
he will show them his covenant.
25:15 Fy llygaid sydd yn
wastad ar yr ARGLWYDD: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd.
25:15 Mine eyes are ever toward the LORD; for he shall pluck
my feet out of the net.
25:16 Tro ataf, a thrugarha
wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.
25:16 Turn thee unto me, and have mercy upon me; for I am
desolate and afflicted.
25:17 Gofidiau fy nghalon a
helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau.
25:17 The troubles of my heart are enlarged: O bring thou me
out of my distresses.
25:18 Gwêl fy nghystudd a’m
helbul, a maddau fy holl bechodau.
25:18 Look upon mine affliction and my pain; and forgive all
my sins.
25:19 Edrych ar fy ngelynion;
canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant.
25:19 Consider mine enemies; for they are many; and they hate
me with cruel hatred.
25:20 Cadw fy enaid, ac achub
fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.
25:20 O keep my soul, and deliver me: let me not be ashamed;
for I put my trust in thee.
25:21 Cadwed perffeithrwydd
ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthy.
25:21 Let integrity and uprightness preserve me; for I wait on
thee.
25:22 O DDUW, gwared Israel
o’i holl gyfyngderau.
25:22 Redeem Israel, O God, out of all his troubles.
SALM 26
26:1 Salm Dafydd. Barn fi, ARGLWYDD;
canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am
hynny ni lithraf.
26:1 A Psalm of David.
Judge me, O LORD; for I have walked in mine integrity: I have trusted also in
the LORD; therefore I shall not slide.
26:2 Hola fi, ARGLWYDD, a
phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon.
26:2 Examine me, O LORD, and prove me; try my reins and my
heart.
26:3 Canys dy drugaredd sydd
o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.
26:3 For thy lovingkindness is before mine eyes: and I have
walked in thy truth.
26:4 Nid eisteddais gyda
dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af.
26:4 I have not sat with vain persons, neither will I go in
with dissemblers.
26:5 Caeais gynulleidfa y
drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddai.
26:5 I have hated the congregation of evildoers; and will not
sit with the wicked.
26:6 Golchaf fy nwylo mewn
diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf:
26:6 I will wash mine hands in innocency: so will I compass
thine altar, O LORD:
26:7 I gyhoeddi â llef
clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.
26:7 That I may publish with the voice of thanksgiving, and
tell of all thy wondrous works.
26:8 ARGLWYDD, hoffais
drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.
26:8 LORD, I have loved the habitation of thy house, and the
place where thine honour dwelleth.
26:9 Na chasgl fy enaid gyda
phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd:
26:9 Gather not my soul with sinners, nor my life with bloody
men:
26:10 Y rhai y mae ysgelerder
yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau.
26:10 In whose hands is mischief, and their right hand is full
of bribes.
26:11 Eithr mi a rodiaf yn fy
mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.
26:11 But as for me, I will walk in mine integrity: redeem me,
and be merciful unto me.
26:12 Fy nhroed sydd yn
sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD.
26:12 My foot standeth in an even place: in the congregations
will I bless the LORD.
SALM 27
27:1 Salm Dafydd. Yr ARGLWYDD yw fy
ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr ARGLWYDD yw nerth fy mywyd;
rhag pwy y dychrynaf?
27:1 A Psalm of David.
The LORD is my light and my salvation; whom shall I fear? the LORD is the
strength of my life; of whom shall I be afraid?
27:2 Pan nesaodd y rhai
drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd,
hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant.
27:2 When the wicked, even mine enemies and my foes, came
upon me to eat up my flesh, they stumbled and fell.
27:3 Pe gwersyllai llu i’m
herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf
hyderus.
27:3 Though an host should encamp against me, my heart shall
not fear: though war should rise against me, in this will I be confident.
27:44 Un peth a ddeisyfais i
gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD
holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei
deml.
27:4 One thing have I desired of the LORD, that will I seek
after; that I may dwell in the house of the LORD all the days of my life, to
behold the beauty of the LORD, and to inquire in his temple.
27:5 Canys yn y dydd blin y’m
cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd
i.
27:5 For in the time of trouble he shall hide me in his
pavilion: in the secret of his tabernacle shall he hide me; he shall set me up
upon a rock.
27:6 Ac yn awr y dyrcha efe
fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef
ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD.
27:6 And now shall mine head be lifted up above mine enemies
round about me: therefore will I offer in his tabernacle sacrifices of joy; I
will sing, yea, I will sing praises unto the LORD.
27:7 Clyw, O ARGLWYDD, fy
lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.
27:7 Hear, O LORD, when I cry with my voice: have mercy also
upon me, and answer me.
27:8 Pan ddywedaist, Ceisiwch
fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD.
27:8 When thou saidst, Seek ye my face; my heart said unto
thee, Thy face, LORD, will I seek.
27:9 Na chuddia dy wyneb oddi
wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na
wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth.
27:9 Hide not thy face far from me; put not thy servant away
in anger: thou hast been my help; leave me not, neither forsake me, O God of my
salvation.
27:10 Pan yw fy nhad a’m mam
yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn.
27:10 When my father and my mother forsake me, then the LORD
will take me up.
27:11 Dysg i mi dy ffordd,
ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion.
27:11 Teach me thy way, O LORD, and lead me in a plain path,
because of mine enemies.
27:12 Na ddyro fi i fyny i
ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a
gyfodasant i’m herbyn.
27:12 Deliver me not over unto the will of mine enemies: for
false witnesses are risen up against me, and such as breathe out cruelty.
27:13 Diffygiaswn, pe na
chredaswn weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
27:13 I had fainted, unless I had believed to see the goodness
of the LORD in the land of the living.
27:14 Disgwyl wrth yr
ARGLWYDD: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD.
27:14 Wait on the LORD: be of good courage, and he shall
strengthen thine heart: wait, I say, on the LORD.
SALM 28
28:1 Salm Dafydd. Arnat ti,
ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i
mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll.
28:1 A Psalm of David.
Unto thee will I cry, O LORD my rock; be not silent to me: lest, if thou be silent
to me, I become like them that go down into the pit.
28:2 Erglyw lef fy ymbil pan
waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd.
28:2 Hear the voice of my supplications, when I cry unto
thee, when I lift up my hands toward thy holy oracle.
28:3 Na thyn fi gyda’r
annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu
cymdogion, a drwg yn eu calon.
28:3 Draw me not away with the wicked, and with the workers
of iniquity, which speak peace to their neighbours, but mischief is in their
hearts.
28:4 Dyro iddynt yn ôl eu
gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu
dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau.
28:4 Give them according to their deeds, and according to the
wickedness of their endeavours: give them after the work of their hands; render
to them their desert.
28:5 Am nad ystyriant
weithredoedd yr ARGLWYDD, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis
adeilada hwynt.
28:5 Because they regard not the works of the LORD, nor the
operation of his hands, he shall destroy them, and not build them up.
28:6 Bendigedig fyddo yr
ARGLWYDD: canys, clybu lef fy ngweddïau.
28:6 Blessed be the LORD, because he hath heard the voice of
my supplications.
28:7 Yr ARGLWYDD yw fy nerth,
a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd:
oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
28:7 The LORD is my strength and my shield; my heart trusted
in him, and I am helped: therefore my heart greatly rejoiceth; and with my song
will I praise him.
28:8 Yr ARGLWYDD sydd nerth
i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.
28:8 The LORD is their strength, and he is the saving
strength of his anointed.
28:9 Cadw dy bobl, a
bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
28:9 Save thy people, and bless thine inheritance: feed them
also, and lift them up for ever.
SALM 29
29:1 Salm Dafydd. Moeswch i’r
ARGLWYDD, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
29:1 A Psalm of David.
Give unto the LORD, O ye mighty, give unto the LORD glory and strength.
29:2 Moeswch i’r ARGLWYDD
ogoniant ei enw: addolwch yr ARGLWYDD ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
29:2 Give unto the LORD the glory due unto his name; worship
the LORD in the beauty of holiness.
29:3 Llef yr ARGLWYDD sydd ar
y dyfroedd: DUW y gogoniant a darana; yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd mawrion.
29:3 The voice of the LORD is upon the waters: the God of
glory thundereth: the LORD is upon many waters.
29:4 Llef yr ARGLWYDD sydd
mewn grym: llef yr ARGTWYDD sydd mewn prydferthwch.
29:4 The voice of the LORD is powerful; the voice of the LORD
is full of majesty.
29:55 Llef yr ARGLWYDD sydd yn
dryllio y cedrwydd; ie, dryllia yr ARGLWYDD gedrwydd Libanus.
29:5 The voice of the LORD breaketh the cedars; yea, the LORD
breaketh the cedars of Lebanon.
29:6 Efe a wna iddynt lamu
fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
29:6 He maketh them also to skip like a calf; Lebanon and
Sirion like a young unicorn.
29:7 Llef yr ARGLWYDD
a wasgara y fflamau tân.
29:7 The voice of the LORD divideth the flames of fire.
29:8 Llef yr ARGLWYDD a wna
i’r anialwch grynu: yr ARGLWYDD a wna i anialwch Cades grynu.
29:8 The voice of the LORD shaketh the wilderness; the LORD
shaketh the wilderness of Kadesh.
29:9 Llef yr ARGLWYDD a wna
i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei
ogoniant ef.
29:9 The voice of the LORD maketh the hinds to calve, and
discovereth the forests: and in his temple doth every one speak of his glory.
29:10 Yr ARGLWYDD sydd yn
eistedd ar y llifeiriant; ie, yr ARGLWYDD eistedd yn Frenin yn dragywydd.
29:10 The LORD sitteth upon the flood; yea, the LORD sitteth
King for ever.
29:11 Yr ARGLWYDD a ddyry
nerth i’w bobl: yr ARGLWYDD a fendithia ei bobl â thangnefedd.
29:11 The LORD will give strength unto his people; the LORD
will bless his people with peace.
SALM 30
30:1 Salm neu Gân o gysegriad
tŷ Dafydd. Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni
lawenheaist fy ngelynion o’m plegid.
30:1 A Psalm and Song at the dedication of the house of David. I will extol thee, O LORD; for thou
hast lifted me up, and hast not made my foes to rejoice over me.
30:2 ARGLWYDD fy NUW, llefais
arnat, a thithau a’m hiacheaist.
30:2 O LORD my God, I cried unto thee, and thou hast healed
me.
30:3 ARGLWYDD, dyrchefaist fy
enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll.
30:3 O LORD, thou hast brought up my soul from the grave:
thou hast kept me alive, that I should not go down to the pit.
30:4 Cenwch i’r ARGLWYDD, ei
saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
30:4 Sing unto the LORD, O ye saints of his, and give thanks
at the remembrance of his holiness.
30:5 Canys ennyd fechan y
bydd yn ei lid; ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac
erbyn y bore y bydd gorfoledd.
30:5 For his anger endureth but a moment; in his favour is
life: weeping may endure for a night, but joy cometh in the morning.
30:6 Ac mi a ddywedais yn fy
llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd.
30:6 And in my prosperity I said, I shall never be moved.
30:7 O’th daioni, ARGLWYDD; y
gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.
30:7 LORD, by thy favour thou hast made my mountain to stand
strong: thou didst hide thy face, and I was troubled.
30:8 Arnat ti, ARGLWYDD, y
llefais, ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais.
30:8 I cried to thee, O LORD; and unto the LORD I made
supplication.
30:9 Pa fudd sydd yn fy
ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy
wirionedd?
30:9 What profit is there in my blood, when I go down to the
pit? Shall the dust praise thee? shall it declare thy truth?
30:10 Clyw, ARGLWYDD, a
thrugarha wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi.
30:10 Hear, O LORD, and have mercy upon me: LORD, be thou my
helper.
30:11 Troaist fy ngalar yn
llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;
30:11 Thou hast turned for me my mourning into dancing: thou
hast put off my sackcloth, and girded me with gladness;
30:12 Fel y cano fy
ngogoniant i ti, ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf.
30:12 To the end that my glory may sing praise to thee, and
not be silent. O LORD my God, I will
give thanks unto thee for ever.
SALM 31
31:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Ynot
ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy
gyfiawnder.
31:1 To the chief Musician, A Psalm of David. In thee, O LORD, do I put my trust;
let me never be ashamed: deliver me in thy righteousness.
31:2 Gogwydda dy glust ataf;
gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.
31:2 Bow down thine ear to me; deliver me speedily: be thou
my strong rock, for an house of defence to save me.
31:3 Canys fy nghraig a’m
castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.
31:3 For thou art my rock and my fortress; therefore for thy
name’s sake lead me, and guide me.
31:4 Tyn fi allan o’r rhwyd a
guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
31:4 Pull me out of the net that they have laid privily for
me: for thou art my strength.
31:5 I’th law y gorchmynnaf
fy ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.
31:5 Into thine hand I commit my spirit: thou hast redeemed
me, O LORD God of truth.
31:6 Caseais y rhai sydd yn
dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD.
31:6 I have hated them that regard lying vanities: but I
trust in the LORD.
31:7 Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf
yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;
31:7 I will be glad and rejoice in thy mercy: for thou hast
considered my trouble; thou hast known my soul in adversities;
31:8 Ac ni warchaeaist fi yn
llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
31:8 And hast not shut me up into the hand of the enemy: thou
hast set my feet in a large room.
31:9 Trugarha wrthyf,
ARGLWYDD; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m
bol
31:9 Have mercy upon me, O LORD, for I am in trouble: mine
eye is consumed with grief, yea, my soul and my belly.
31:10 Canys fy mywyd a
ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd,
a’m hesgyrn a bydrasant.
31:10 For my life is spent with grief, and my years with
sighing: my strength faileth because of mine iniquity, and my bones are
consumed.
31:11 Yn warthrudd yr ydwyf
ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn
i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.
31:11 I was a reproach among all mine enemies, but especially
among my neighbours, and a fear to mine acquaintance: they that did see me
without fled from me.
31:12 Anghofiwyd fi fel un
marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.
31:12 I am forgotten as a dead man out of mind: I am like a
broken vessel.
31:13 Canys clywais ogan
llaweroedd; dychryn oedd o bob parth - pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y
bwriadasant fy nieneidio.
31:13 For I have heard the slander of many: fear was on every
side: while they took counsel together against me, they devised to take away my
life.
31:14 Ond mi a obeithiais
ynot ti, ARGLWYDD: dywedais, Fy NUW ydwyt.
31:14 But I trusted in thee, O LORD: I said, Thou art my God.
31:15 Yn dy law di y mae fy
amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.
31:15 My times are in thy hand: deliver me from the hand of
mine enemies, and from them that persecute me.
31:16 Llewyrcha dy wyneb ar
dy was, achub fi er mwyn dy drugaredd.
31:16 Make thy face to shine upon thy servant: save me for thy
mercies’ sake.
31:17 ARGLWYDD, na
waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt
i’r bedd.
31:17 Let me not be ashamed, O LORD; for I have called upon
thee: let the wicked be ashamed, and let them be silent in the grave.
31:18 Gosteger y gwefusau
celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y
cyfiawn.
31:18 Let the lying lips be put to silence; which speak
grievous things proudly and contemptuously against the righteous.
31:19 Mor fawr yw dy ddaioni
a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant
ynot, gerbron meibion dynion!
31:19 Oh how great is thy goodness, which thou hast laid up
for them that fear thee; which thou hast wrought for them that trust in thee
before the sons of men!
31:20 Cuddi hwynt yn nirgelfa
dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.
31:20 Thou shalt hide them in the secret of thy presence from
the pride of man: thou shalt keep them secretly in a pavilion from the strife
of tongues.
31:21 Bendigedig fyddo yr
ARGLWYDD: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
31:21 Blessed be the LORD: for he hath showed me his
marvellous kindness in a strong city.
31:22 Canys mi a ddywedais yn
fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy
ngweddïau pan lefais arnat.
31:22 For I said in my haste, I am cut off from before thine
eyes: nevertheless thou heardest the voice of my supplications when I cried
unto thee.
31:23 Cerwch yr ARGLWYDD, ei
holl saint ef: yr ARGLWYDD a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb
a wna falchder.
31:23 O love the LORD, all ye his saints: for the LORD
preserveth the faithful, and plentifully rewardeth the proud doer.
31:24 Ymwrolwch, ac efe a
gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr ARGLWYDD
31:24 Be of good courage, and he shall strengthen your heart,
all ye that hope in the LORD.
SALM 32
32:1 Salm Dafydd, er athrawiaeth.
Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.
32:1 A Psalm of David, Maschil. Blessed is he whose transgression is forgiven, whose sin is
covered.
32:2 Gwyn ei fyd y dyn ni
chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.
32:2 Blessed is the man unto whom the LORD imputeth not
iniquity, and in whose spirit there is no guile.
32:3 Tra y tewais,
heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.
32:3 When I kept silence, my bones waxed old through my
roaring all the day long.
32:4 Canys trymhaodd dy law
arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.
32:4 For day and night thy hand was heavy upon me: my
moisture is turned into the drought of summer. Selah.
32:5 Addefais fy mhechod
wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy
anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.
32:5 I acknowledged my sin unto thee, and mine iniquity have
I not hid. I said, I will confess my
transgressions unto the LORD; and thou forgavest the iniquity of my sin. Selah.
32:6 Am hyn y gweddïa pob
duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd
mawrion, ni chânt nesáu ato ef.
32:6 For this shall every one that is godly pray unto thee in
a time when thou mayest be found: surely in the floods of great waters they
shall not come nigh unto him.
32:7 Ti ydwyt loches i mi;
cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.
32:7 Thou art my hiding place; thou shalt preserve me from
trouble; thou shalt compass me about with songs of deliverance. Selah.
32:8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf
di yn y ffordd yr elych: i’m llygad arnat y’th gynghoraf.
32:8 I will instruct thee and teach thee in the way which
thou shalt go: I will guide thee with mine eye.
32:9 Na fyddwch fel march,
neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag
ei ddynesáu atat.
32:9 Be ye not as the horse, or as the mule, which have no
understanding: whose mouth must be held in with bit and bridle, lest they come
near unto thee.
32:10 Gofidiau lawer fydd i’r
annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef.
32:10 Many sorrows shall be to the wicked: but he that
trusteth in the LORD, mercy shall compass him about.
32:11 Y rhai cyfiawn, byddwch
lawen a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn galon oll, cenwch yn llafar.
32:11 Be glad in the LORD, and rejoice, ye righteous: and
shout for joy, all ye that are upright in heart.
SALM 33
33:1 Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn,
yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.
33:1 Rejoice in the LORD, O ye righteous: for praise is
comely for the upright.
33:2 Molwch yr ARGLWYDD â’r
delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.
33:2 Praise the LORD with harp: sing unto him with the
psaltery and an instrument of ten strings.
33:3 Cenwch iddo ganiad
newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus
33:3 Sing unto him a new song; play skilfully with a loud
noise.
33:4 Canys uniawn yw gair yr
ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn a ffyddlondeb.
33:4 For the word of the LORD is right; and all his works are
done in truth.
33:5 Efe a gâr
gyfiawnder a barn, o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn.
33:5 He loveth righteousness and judgment: the earth is full
of the goodness of the LORD.
33:6 Trwy air yr ARGLWYDD y
gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.
33:6 By the word of the LORD were the heavens made; and all
the host of them by the breath of his mouth.
33:7 Casglu y mae efe
ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn
trysorau.
33:7 He gathereth the waters of the sea together as an heap:
he layeth up the depth in storehouses.
33:8 Ofned yr holl ddaear yr
ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef.
33:8 Let all the earth fear the LORD: let all the inhabitants
of the world stand in awe of him.
33:9 Canys efe a ddywedodd,
ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.
33:9 For he spake, and it was done; he commanded, and it
stood fast.
33:10 Yr ARGLWYDD sydd yn
diddymu cyngor y cenhedloedd, y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.
33:10 The LORD bringeth the counsel of the heathen to nought:
he maketh the devices of the people of none effect.
33:11 Cyngor yr ARGLWYDD a
saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
33:11 The counsel of the LORD standeth for ever, the thoughts
of his heart to all generations.
33:12 Gwyn ei byd y genedl y
mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei
hun.
33:12 Blessed is the nation whose God is the LORD; and the
people whom he hath chosen for his own inheritance.
33:13 Yr ARGLWYDD sydd yn
edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
33:13 The LORD looketh from heaven; he beholdeth all the sons
of men.
33:14 O breswyl ei drigfa yr
edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
33:14 From the place of his habitation he looketh upon all the
inhabitants of the earth.
33:15 Efe a gydluniodd eu
calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
33:15 He fashioneth their hearts alike; he considereth all
their works.
33:16 Ni waredir
brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
33:16 There is no king saved by the multitude of an host: a
mighty man is not delivered by much strength.
33:17 Peth ofer yw march i
ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
33:17 An horse is a vain thing for safety: neither shall he
deliver any by his great strength.
33:18 Wele, y mae llygad yr
ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd
ef;
33:18 Behold, the eye of the LORD is upon them that fear him,
upon them that hope in his mercy;
33:19 I waredu eu henaid rhag
angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.
33:19 To deliver their soul from death, and to keep them alive
in famine.
33:20 Ein henaid sydd yn
disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian.
33:20 Our soul waiteth for the LORD: he is our help and our
shield.
33:21 Canys ynddo ef y
llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
33:21 For our heart shall rejoice in him, because we have
trusted in his holy name.
33:22 Bydded dy drugaredd,
ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
33:22 Let thy mercy, O LORD, be upon us, according as we hope
in Thee.
SALM 34
34:2 Salm Dafydd, pan newidiodd efe
ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
34:2 A Psalm of David, when he changed his behaviour before
Abimelech; who drove him away, and he departed. I will bless the LORD at all times: his praise shall continually
be in my mouth.
34:2 Yn yr ARGLWYDD y
gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.
34:2 My soul shall make her boast in the LORD: the humble
shall hear thereof, and be glad.
34:3 Mawrygwch yr ARGLWYDD
gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.
34:3 O magnify the LORD with me, and let us exalt his name
together.
34:4 Ceisiais yr ARGLWYDD, ac
efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.
34:4 I sought the LORD, and he heard me, and delivered me
from all my fears.
34:5 Edrychasant arno, a hwy
a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.
34:5 They looked unto him, and were lightened: and their
faces were not ashamed.
34:6 Y tlawd hwn a lefodd,
a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.
34:6 This poor man cried, and the LORD heard him, and saved
him out of all his troubles.
34:7 Angel yr ARGLWYDD a
gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt.
34:7 The angel of the LORD encampeth round about them that
fear him, and delivereth them.
34:8 Profwch, a gwelwch mor
dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
34:8 O taste and see that the LORD is good: blessed is the
man that trusteth in him.
34:9 Ofnwch Yr ARGLWYDD, ei
saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.
34:9 O fear the LORD, ye his saints: for there is no want to
them that fear him.
34:10 Y mae eisiau a newyn ar
y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim
daioni.
34:10 The young lions do lack, and suffer hunger: but they
that seek the LORD shall not want any good thing .
34:11 Deuwch, blant,
gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD.
34:11 Come, ye children, hearken unto me: I will teach you the
fear of the LORD.
34:12 Pwy yw y gŵr a
chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
34:12 What man is he that desireth life, and loveth many days,
that he may see good?
34:13 Cadw dy dafod rhag
drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll.
34:13 Keep thy tongue from evil, and thy lips from speaking guile.
34:14 Cilia oddi wrth ddrwg,
a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
34:14 Depart from evil, and do good; seek peace, and pursue it.
34:15 Llygaid yr ARGLWYDD
sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.
34:15 The eyes of the LORD are upon the righteous, and his
ears are open unto their cry.
34:16 Wyneb yr ARGLWYDD sydd
yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.
34:16 The face of the LORD is against them that do evil, to
cut off the remembrance of them from the earth.
34:17 Y rhai cyfiawn a
lefant; a’r ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau.
34:17 The righteous cry, and the LORD heareth, and delivereth
them out of all their troubles.
34:18 Agos yw yr ARGLWYDD at
y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.
34:18 The LORD is nigh unto them that are of a broken heart;
and saveth such as be of a contrite spirit.
34:19 Aml ddrygau a gaiff y
cyfiawn: ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll.
34:19 Many are the afflictions of the righteous: but the LORD
delivereth him out of them all.
34:20 Efe a geidw ei holl
esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.
34:20 He keepeth all his bones: not one of them is broken.
34:21 Drygioni a ladd yr
annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.
34:21 Evil shall slay the wicked: and they that hate the
righteous shall be desolate.
34:22 Yr ARGLWYDD a wared
eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir
hwynt.
34:22 The LORD redeemeth the soul of his servants: and none of
them that trust in him shall be desolate.
SALM 35
35:1 Salm Dafydd. Dadlau fy nadl,
ARGLWYDD, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant
â mi.
35:1 A Psalm of David.
Plead my cause, O LORD, with them that strive with me: fight against them that
fight against me.
35:2 Ymafael yn y darian a’r
astalch, a chyfod i’m cymorth.
35:2 Take hold of shield and buckler, and stand up for mine
help.
35:3 Dwg allan y waywffon, ac
argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.
35:3 Draw out also the spear, and stop the way against them
that persecute me: say unto my soul, I am thy salvation.
35:4 Cywilyddier a
gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl
a fwriadant fy nrygu.
35:4 Let them be confounded and put to shame that seek after
my soul: let them be turned back and brought to confusion that devise my hurt.
35:5 Byddant fel us o flaen y
gwynt: ac angel yr ARGLWYDD yn eu herlid.
35:5 Let them be as chaff before the wind: and let the angel
of the LORD chase them .
35:6 Bydded eu ffordd yn
dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
35:6 Let their way be dark and slippery: and let the angel of
the LORD persecute them.
35:7 Canys heb achos y
cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid.
35:7 For without cause have they hid for me their net in a
pit, which without cause they have digged for my soul.
35:8 Deued arno ddistryw ni
wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.
35:8 Let destruction come upon him at unawares; and let his
net that he hath hid catch himself: into that very destruction let him fall.
35:9 A llawenycha fy enaid i
yn yr ARGLWYDD: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
35:9 And my soul shall be joyful in the LORD: it shall
rejoice in his salvation.
35:10 Fy holl esgyrn a
ddywedant, O ARGLWYDD, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a
fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb â’i hysbeilio?
35:10 All my bones shall say, LORD, who is like unto thee,
which deliverest the poor from him that is too strong for him, yea, the poor
and the needy from him that spoileth him?
35:11 Tystion gau a
gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
35:11 False witnesses did rise up; they laid to my charge
things that I knew not.
35:12 Talasant i mi ddrwg
dros dda, i ysbeilio fy enaid.
35:12 They rewarded me evil for good to the spoiling of my
soul.
35:13 A ninnau, pan
glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m
gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun.
35:13 But as for me, when they were sick, my clothing was
sackcloth: I humbled my soul with fasting; and my prayer returned into mine own
bosom.
35:14 Ymddygais fel pe buasai
yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am
ei fam.
35:14 I behaved myself as though he had been my friend or
brother: I bowed down heavily, as one that mourneth for his mother.
35:15 Ond ymlawenhasant hwy
yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis
gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
35:15 But in mine adversity they rejoiced, and gathered
themselves together: yea, the abjects gathered themselves together against me,
and I knew it not; they did tear me, and ceased not:
35:16 Ymysg y gwatwarwyr
rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.
35:16 With hypocritical mockers in feasts, they gnashed upon
me with their teeth.
35:17 Arglwydd, pa hyd yr
edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y
llewod.
35:17 Lord, how long wilt thou look on? rescue my soul from
their destructions, my darling from the lions.
35:18 Mi a’th glodforaf yn y
gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhhth pobl lawer.
35:18 I will give thee thanks in the great congregation: I
will praise thee among much people.
35:19 Na lawenychant o’m
herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac
amneidiant â llygad.
35:19 Let not them that are mine enemies wrongfully rejoice
over me: neither let them wink with the eye that hate me without a cause.
35:20 Gan nad ymddiddanant yn
dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y
tir.
35:20 For they speak not peace: but they devise deceitful
matters against them that are quiet in the land.
35:21 Lledasant eu
safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, Ha, gwelodd ein llygad.
35:21 Yea, they opened their mouth wide against me, and said,
Aha, aha, our eye hath seen it .
35:22 Gwelaist hyn, ARGLWYDD:
na thaw dithau; nac ymbella oddi wrthyf, O ARGLWYDD:
35:22 This thou hast seen, O LORD: keep not silence: O LORD,
be not far from me.
35:23 Cyfod, a deffro i’m
barn, sef i’m dadl, fy NUW a’m Harglwydd.
35:23 Stir up thyself, and awake to my judgment, even unto my
cause, my God and my Lord.
35:24 Barn fi, ARGLWYDD fy
NUW, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid.
35:24 Judge me, O LORD my God, according to thy righteousness;
and let them not rejoice over me.
35:25 Na ddywedant yn eu
calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.
35:25 Let them not say in their hearts, Ah, so would we have
it: let them not say, We have swallowed him up.
35:26 Cywilyddier a
gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â
chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn.
35:26 Let them be ashamed and brought to confusion together
that rejoice at mine hurt: let them be clothed with shame and dishonour that
magnify themselves against me.
35:27 Caned a llawenyched y
rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr ARGLWYDD,
yr hwn a gâr lwyddiant ei was.
35:27 Let them shout for joy, and be glad, that favour my
righteous cause: yea, let them say continually, Let the LORD be magnified,
which hath pleasure in the prosperity of his servant.
35:28 Fy nhafod innau a
lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd.
35:28 And my tongue shall speak of thy righteousness and of
thy praise all the day long.
SALM 36
36:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas
yr ARGLWYDD. Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes
ofn DUW o flaen ei lygaid ef.
36:1 To the chief Musician, A Psalm of David the servant of
the LORD. The transgression of the
wicked saith within my heart, that there is no fear of God before his eyes.
36:2 Oherwydd ymwenieithio y
mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.
36:2 For he flattereth himself in his own eyes, until his
iniquity be found to be hateful.
36:3 Geiriau ei enau ydynt
anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
36:3 The words of his mouth are iniquity and deceit: he hath
left off to be wise, and to do good.
36:4 Anwiredd a ddychymyg efe
ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo
ddrygioni.
36:4 He deviseth mischief upon his bed; he setteth himself in
a way that is not good; he abhorreth not evil.
36:5 Dy drugaredd, ARGLWYDD,
sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau.
36:5 Thy mercy, O LORD, is in the heavens; and thy
faithfulness reacheth unto the clouds.
36:6 Fel mynyddoedd cedyrn y
mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi
di, ARGLWYDD.
36:6 Thy righteousness is like the great mountains; thy
judgments are a great deep: O LORD, thou preservest man and beast.
36:7 Mor werthfawr yw dy
drugaredd, O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.
36:7 How excellent is thy lovingkindness, O God! therefore
the children of men put their trust under the shadow of thy wings.
36:8 Llawn ddigonir hwynt â
braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
36:8 They shall be abundantly satisfied with the fatness of thy
house; and thou shalt make them drink of the river of thy pleasures.
36:9 Canys gyda thi y mae
ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.
36:9 For with thee is the fountain of life: in thy light
shall we see light.
36:10 Estyn dy drugaredd i’r
rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon.
36:10 O continue thy lovingkindness unto them that know thee;
and thy righteousness to the upright in heart.
36:11 Na ddeued troed
balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.
36:11 Let not the foot of pride come against me, and let not
the hand of the wicked remove me.
36:12 Yno y syrthiodd
gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
36:12 There are the workers of iniquity fallen: they are cast
down, and shall not be able to rise.
SALM 37
37:1 Salm Dafydd. Nac ymddigia
oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.
37:1 A Psalm of David.
Fret not thyself because of evildoers, neither be thou envious against the
workers of iniquity.
37:2 Canys yn ebrwydd y
torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant gwyrddlysiau.
37:2 For they shall soon be cut down like the grass, and
wither as the green herb.
37:3 Gobeithia yn yr
ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
37:3 Trust in the LORD, and do good; so shalt thou dwell in
the land, and verily thou shalt be fed.
37:4 Ymddigrifa hefyd yn yr
ARGLWYDD ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
37:4 Delight thyself also in the LORD; and he shall give thee
the desires of thine heart.
37:5 Treigla dy ffordd ar yr
ARGLWYDD, ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben.
37:5 Commit thy way unto the LORD; trust also in him; and he
shall bring it to pass.
37:6 Efe a ddwg allan dy
gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd.
37:6 And he shall bring forth thy righteousness as the light,
and thy judgment as the noonday.
37:7 Distawa yn yr ARGLWYDD,
a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y
gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
37:7 Rest in the LORD, and wait patiently for him: fret not
thyself because of him who prospereth in his way, because of the man who
bringeth wicked devices to pass.
37:8 Paid â digofaint, a gad
ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
37:8 Cease from anger, and forsake wrath: fret not thyself in
any wise to do evil.
37:9 Canys torrir ymaith y
drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a
etifeddant y tir.
37:9 For evildoers shall be cut off: but those that wait upon
the LORD, they shall inherit the earth.
37:10 Canys eto ychydigyn, ac
ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.
37:10 For yet a little while, and the wicked shall not be:
yea, thou shalt diligently consider his place, and it shall not be .
37:11 Eithr y rhai
gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.
37:11 But the meek shall inherit the earth; and shall delight
themselves in the abundance of peace.
37:12 Yr annuwiol a amcana yn
erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
37:12 The wicked plotteth against the just, and gnasheth upon
him with his teeth.
37:13 Yr ARGLWYDD a chwardd
am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
37:13 The Lord shall laugh at him: for he seeth that his day
is coming.
37:14 Yr annuwiolion a
dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog,
ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.
37:14 The wicked have drawn out the sword, and have bent their
bow, to cast down the poor and needy, and to slay such as be of upright
conversation.
37:15 Eu cleddyf a â
yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.
37:15 Their sword shall enter into their own heart, and their
bows shall be broken.
37:16 Gwell yw yr ychydig
sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
37:16 A little that a righteous man hath is better than the
riches of many wicked.
37:17 Canys breichiau yr
annuwiolion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn.
37:17 For the arms of the wicked shall be broken: but the LORD
upholdeth the righteous.
37:18 Yr ARGLWYDD a edwyn
ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
37:18 The LORD knoweth the days of the upright: and their
inheritance shall be for ever.
37:19 Nis gwaradwyddir hwy yn
amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
37:19 They shall not be ashamed in the evil time: and in the
days of famine they shall be satisfied.
37:20 Eithr collir yr
annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg
y diflannant hwy.
37:20 But the wicked shall perish, and the enemies of the LORD
shall be as the fat of lambs: they shall consume; into smoke shall they consume
away.
37:21 Yr annuwiol a echwynna,
ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
37:21 The wicked borroweth, and payeth not again: but the
righteous showeth mercy, and giveth.
37:22 Canys y rhai a
fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
37:22 For such as be blessed of him shall inherit the earth;
and they that be cursed of him shall be cut off.
37:23 Yr ARGLWYDD a fforddia
gerddediad gŵr da; a da fydd ganddo ei ffordd ef.
37:23 The steps of a good man are ordered by the LORD: and he
delighteth in his way.
37:24 Er iddo gwympo, ni lwyr
fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law.
37:24 Though he fall, he shall not be utterly cast down: for
the LORD upholdeth him with his hand.
37:25 Mi a fûm ieuanc, ac yr
ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu na’i had yn cardota bara.
37:25 I have been young, and now am old; yet have I not seen
the righteous forsaken, nor his seed begging bread.
37:26 Bob amser y mae efe yn
drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.
37:26 He is ever merciful, and lendeth; and his seed is
blessed.
37:27 Cilia di oddi wrth
ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.
37:27 Depart from evil, and do good; and dwell for evermore.
37:28 Canys yr ARGLWYDD a gâr
farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a
dorrir ymaith.
37:28 For the LORD loveth judgment, and forsaketh not his
saints; they are preserved for ever: but the seed of the wicked shall be cut
off.
37:29 Y rhai cyfiawn a
etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.
37:29 The righteous shall inherit the land, and dwell therein
for ever.
37:30 Genau y cyfiawn a
fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.
37:30 The mouth of the righteous speaketh wisdom, and his
tongue talketh of judgment.
37:31 Deddf ei DDUW sydd yn
ei galon ef; a’i gamre ni lithrant.
37:31 The law of his God is in his heart; none of his steps
shall slide.
37:32 Yr annuwiol a wylia ar
y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
37:32 The wicked watcheth the righteous, and seeketh to slay
him.
37:33 Ni ad yr ARGLWYDD ef yn
ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
37:33 The LORD will not leave him in his hand, nor condemn him
when he is judged.
37:34 Gobeithia yn yr
ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir:
pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.
37:34 Wait on the LORD, and keep his way, and he shall exalt
thee to inherit the land: when the wicked are cut off, thou shalt see it .
37:35 Gwelais yr annuwiol yn
gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.
37:35 I have seen the wicked in great power, and spreading
himself like a green bay tree.
37:36 Er hynny efe a aeth
ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.
37:36 Yet he passed away, and, lo, he was not: yea, I sought
him, but he could not be found.
37:37 Ystyr y perffaith, ac
edrych at yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
37:37 Mark the perfect man, and behold the upright: for the
end of that man is peace.
37:38 Ond y troseddwyr a
gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
37:38 But the transgressors shall be destroyed together: the
end of the wicked shall be cut off.
37:39 A iachawdwriaeth y
cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod.
37:39 But the salvation of the righteous is of the LORD: he is
their strength in the time of trouble.
37:40 A’r ARGLWYDD a’u
cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u
ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
37:40 And the LORD shall help them, and deliver them: he shall
deliver them from the wicked, and save them, because they trust in him.
SALM 38
38:1 Salm Dafydd, er coffa.
ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.
38:1 A Psalm of David, to bring to remembrance. O LORD, rebuke me not in thy wrath:
neither chasten me in thy hot displeasure.
38:2 Canys y mae dy saethau
ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf.
38:2 For thine arrows stick fast in me, and thy hand presseth
me sore.
38:3 Nid oes iechyd yn fy
nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy
mhechod.
38:3 There is no soundness in my flesh because of thine
anger; neither is there any rest in my bones because of my sin.
38:4 Canys fy nghamweddau a
aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.
38:4 For mine iniquities are gone over mine head: as an heavy
burden they are too heavy for me.
38:5 Fy nghleisiau a
bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.
38:5 My wounds stink and are corrupt because of my
foolishness.
38:6 Crymwyd a darostyngwyd
fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.
38:6 I am troubled; I am bowed down greatly; I go mourning
all the day long.
38:7 Canys fy lwynau a lanwyd
o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.
38:7 For my loins are filled with a loathsome disease: and
there is no soundness in my flesh.
38:8 Gwanhawyd, a drylliwyd
fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.
38:8 I am feeble and sore broken: I have roared by reason of
the disquietness of my heart.
38:9 O’th flaen di, ARGLWYDD,
y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.
38:9 Lord, all my desire is before thee; and my groaning is
not hid from thee.
38:10 Fy nghalon sydd yn llamu;
fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.
38:10 My heart panteth, my strength faileth me: as for the
light of mine eyes, it also is gone from me.
38:11 Fy ngharedigion a’m
cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o
hirbell.
38:11 My lovers and my friends stand aloof from my sore; and
my kinsmen stand afar off.
38:12 Y rhai hefyd a geisient
fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent
anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.
38:12 They also that seek after my life lay snares for me: and
they that seek my hurt speak mischievous things, and imagine deceits all the
day long.
38:13 A minnau fel byddar ni
chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.
38:13 But I, as a deaf man, heard not; and I was as a dumb man
that openeth not his mouth.
38:14 Felly yr oeddwn fel
gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.
38:14 Thus I was as a man that heareth not, and in whose mouth
are no reproofs.
38:15 Oherwydd i mi obeithio
ynot, ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi.
38:15 For in thee, O LORD, do I hope: thou wilt hear, O Lord
my God.
38:16 Canys dywedais, Gwrando
fi rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m
herbyn.
38:16 For I said, Hear me, lest otherwise they should rejoice
over me: when my foot slippeth, they magnify themselves against me.
38:17 Canys parod wyf i
gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad.
38:17 For I am ready to halt, and my sorrow is continually
before me.
38:18 Diau y mynegaf fy
anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod.
38:18 For I will declare mine iniquity; I will be sorry for my
sin.
38:19 Ac y mae fy ngelynion
yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam.
38:19 But mine enemies are lively, and they are strong: and
they that hate me wrongfully are multiplied.
38:20 A’r rhai a dalant ddrwg
dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.
38:20 They also that render evil for good are mine
adversaries; because I follow the thing that good is .
38:21 Na ad fi, O ARGLWYDD:
fy NUW, nac ymhell oddi wrthyf.
38:21 Forsake me not, O LORD: O my God, be not far from me.
38:22 Brysia i’m cymorth, O
ARGLWYDD fy iachawdwriaeth.
38:22 Make haste to help me, O Lord my salvation.
SALM 39
39:1 Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i
Jedwthwn. Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy
ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.
39:1 To the chief Musician, even to Jeduthun, A Psalm of
David. I said, I will take heed to
my ways, that I sin not with my tongue: I will keep my mouth with a bridle,
while the wicked is before me.
39:2 Tewais yn ddistaw, ie,
tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd.
39:2 I was dumb with silence, I held my peace, even from
good; and my sorrow was stirred.
39:3 Gwresogodd fy nghalon
o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.
39:3 My heart was hot within me, while I was musing the fire
burned: then spake I with my tongue,
39:4 ARGLWYDD, pâr i mi wybod
fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
39:4 LORD, make me to know mine end, and the measure of my
days, what it is; that I may know how frail I am .
39:5 Wele, gwnaethost fy
nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai
cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
39:5 Behold, thou hast made my days as an handbreadth; and
mine age is as nothing before thee: verily every man at his best state is
altogether vanity. Selah.
39:6 Dyn yn ddiau sydd yn
rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis
gŵyr pwy a’i casgl.
39:6 Surely every man walketh in a vain show: surely they are
disquieted in vain: he heapeth up riches, and knoweth not who shall gather them.
39:7 Ac yn awr beth a
ddisgwyliaf, O ARGLWYDD? fy ngobaith sydd ynot ti.
39:7 And now, Lord, what wait I for? my hope is in thee.
39:8 Gwared fi o’m holl
gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.
39:8 Deliver me from all my transgressions: make me not the
reproach of the foolish.
39:9 Euthum yn fud, ac nid
agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.
39:9 I was dumb, I opened not my mouth; because thou didst it
.
39:10 Tyn dy bla oddi wrthyf:
gan ddyrnod dy law y darfûm i.
39:10 Remove thy stroke away from me: I am consumed by the
blow of thine hand.
39:11 Pan gosbit ddyn â
cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn
ddiau yw pob dyn. Sela.
39:11 When thou with rebukes dost correct man for iniquity,
thou makest his beauty to consume away like a moth: surely every man is vanity. Selah.
39:12 Gwrando fy ngweddi,
ARGLWYDD, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf
gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.
39:12 Hear my prayer, O LORD, and give ear unto my cry; hold
not thy peace at my tears: for I am a stranger with thee, and a sojourner, as
all my fathers were .
39:13 Paid â mi, fel y
cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
39:13 O spare me, that I may recover strength, before I go
hence, and be no more.
SALM 40
40:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf; ac a glybu fy
llefain.
40:1 To the chief Musician, A Psalm of David. I waited patiently for the LORD; and
he inclined unto me, and heard my cry.
40:2 Cyfododd fi hefyd o’r
pydew erchyll, o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy
ngherddediad.
40:2 He brought me up also out of an horrible pit, out of the
miry clay, and set my feet upon a rock, and established my goings.
40:3 A rhoddodd yn fy ngenau
ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a
ymddiriedant yn yr ARGLWYDD.
40:3 And he hath put a new song in my mouth, even praise unto
our God: many shall see it, and fear, and shall trust in the LORD.
40:4 Gwyn ei fyd y gŵr a
osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a
ŵyrant at gelwydd.
40:4 Blessed is that man that maketh the LORD his trust, and
respecteth not the proud, nor such as turn aside to lies.
40:5 Lluosog y gwnaethost ti,
O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus
eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y
gellir eu rhifo.
40:5 Many, O LORD my God, are thy wonderful works which thou
hast done, and thy thoughts which are to us-ward: they cannot be reckoned up in
order unto thee: if I would declare and speak of them, they are more than can
be numbered.
40:6 Aberth ac offrwm nid
ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis
gofynnaist.
40:6 Sacrifice and offering thou didst not desire; mine ears
hast thou opened: burnt offering and sin offering hast thou not required.
40:7 Yna y dywedais, Wele yr
ydwyf yn yfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.
40:7 Then said I, Lo, I come: in the volume of the book it is
written of me,
40:8 Da gennyf wneuthur dy
ewyllys, O NUW: a’th gyfraith, sydd o fewn fy ghalon.
40:8 I delight to do thy will, O my God: yea, thy law is
within my heart.
40:9 Pregethais gyfiawnder yn
y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD a’i gwyddost.
40:9 I have preached righteousness in the great congregation:
lo, I have not refrained my lips, O LORD, thou knowest.
40:10 Ni chuddiais dy
gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni
chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.
40:10 I have not hid thy righteousness within my heart; I have
declared thy faithfulness and thy salvation: I have not concealed thy
lovingkindness and thy truth from the great congregation.
40:11 Tithau, ARGLWYDD, nac
atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.
40:11 Withhold not thou thy tender mercies from me, O LORD:
let thy lovingkindness and thy truth continually preserve me.
40:12 Canys drygau
annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na
allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy
nghalon gennyf.
40:12 For innumerable evils have compassed me about: mine
iniquities have taken hold upon me, so that I am not able to look up; they are
more than the hairs of mine head: therefore my heart faileth me.
40:13 Rhynged bodd i ti,
ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
40:13 Be pleased, O LORD, to deliver me: O LORD, make haste to
help me.
40:14 Cydgywilyddier a
gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier
y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
40:14 Let them be ashamed and confounded together that seek
after my soul to destroy it; let them be driven backward and put to shame that
wish me evil.
40:15 Anrheithier hwynt yn
wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.
40:15 Let them be desolate for a reward of their shame that
say unto me, Aha, aha.
40:16 Llawenyched ac
ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy
iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD.
40:16 Let all those that seek thee rejoice and be glad in
thee: let such as love thy salvation say continually, The LORD be magnified.
40:17 Ond yr wyf fi yn dlawd
ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd
ydwyt ti; fy NUW, na hir drig.
40:17 But I am poor and needy; yet the Lord thinketh upon me:
thou art my help and my deliverer; make no tarrying, O my God.
SALM 41
41:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwyn
ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd.
41:1 To the chief Musician, A Psalm of David. Blessed is he that considereth the
poor: the LORD will deliver him in time of trouble.
41:2 Yr ARGLWYDD a’i ceidw,
ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei
elynion.
41:2 The LORD will preserve him, and keep him alive; and he
shall be blessed upon the earth: and thou wilt not deliver him unto the will of
his enemies.
41:3 Yr ARGLWYDD a’i nertha
ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
41:3 The LORD will strengthen him upon the bed of
languishing: thou wilt make all his bed in his sickness.
41:4 Mi a ddywedais,
ARGLWYDD, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.
41:4 I said, LORD, be merciful unto me: heal my soul; for I
have sinned against thee.
41:5 Fy ngelynion a lefarant
ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw
ef?
41:5 Mine enemies speak evil of me, When shall he die, and
his name perish?
41:6 Ac os daw i’m hedrych,
efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i
traetha.
41:6 And if he come to see me, he speaketh vanity: his heart
gathereth iniquity to itself; when he goeth abroad, he telleth it .
41:7 Fy holl gaseion a
gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
41:7 All that hate me whisper together against me: against me
do they devise my hurt.
41:8 Aflwydd, meddant, a
lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
41:8 An evil disease, say they, cleaveth fast unto him: and now
that he lieth he shall rise up no more.
41:9 Hefyd y gŵr oedd
annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a
ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.
41:9 Yea, mine own familiar friend, in whom I trusted, which did
eat of my bread, hath lifted up his heel against me.
41:10 Eithr ti, ARGLWYDD,
trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
41:10 But thou, O LORD, be merciful unto me, and raise me up,
that I may requite them.
41:11 Wrth hyn y gwn hoffi
ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
41:11 By this I know that thou favourest me, because mine
enemy doth not triumph over me.
41:12 Ond amdanaf fi, yn fy
mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.
41:12 And as for me, thou upholdest me in mine integrity, and
settest me before thy face for ever.
41:13 Bendigedig fyddo
ARGLWYDD DDUW; Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.
41:13 Blessed be the LORD God of Israel from everlasting, and
to everlasting. Amen, and Amen.
SALM 42
42:1 I’r Pencerdd, Maschil, i
feibion Cora. Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy
enaid amdanat ti, O DDUW.
42:1 To the chief Musician, Maschil, for the sons of Korah. As the hart panteth after the water
brooks, so panteth my soul after thee, O God.
42:2 Sychedig yw fy enaid am
DDUW, am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW?
42:2 My soul thirsteth for God, for the living God: when
shall I come and appear before God?
42:3 Fy nagrau oedd fwyd i mi
ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?
42:3 My tears have been my meat day and night, while they
continually say unto me, Where is thy God?
42:4 Tywalltwn fy enaid ynof,
pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ
DDUW, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
42:4 When I remember these things, I pour out my soul in me:
for I had gone with the multitude, I went with them to the house of God, with
the voice of joy and praise, with a multitude that kept holyday.
42:5 Paham, fy enaid, y’th
ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef
eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
42:5 Why art thou cast down, O my soul? and why art thou
disquieted in me? hope thou in God: for I shall yet praise him for the help of
his countenance.
42:6 Fy NUW, fy enaid a
ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o
fryn Misar.
42:6 O my God, my soul is cast down within me: therefore will
I remember thee from the land of Jordan, and of the Hermonites, from the hill
Mizar.
42:7 Dyfnder a eilw ar
ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a
aethant drosof fi.
42:7 Deep calleth unto deep at the noise of thy waterspouts:
all thy waves and thy billows are gone over me.
42:8 Eto yr ARGLWYDD a
orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar
DDUW fy einioes.
42:8 Yet the LORD will command his lovingkindness in the
daytime, and in the night his song shall be with me, and my prayer unto the God
of my life.
42:9 Dywedaf wrth DDUW fy
nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y
gelyn?
42:9 I will say unto God my rock, Why hast thou forgotten me?
why go I mourning because of the oppression of the enemy?
42:10 Megis â chleddyf yn fy
esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob
dydd, Pa le y mae dy DDUW?
42:10 As with a sword in my bones, mine enemies reproach me;
while they say daily unto me, Where is thy God?
42:11 Paham y’th
ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y
moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
42:11 Why art thou cast down, O my soul? and why art thou disquieted
within me? hope thou in God: for I shall yet praise him, who is the health of
my countenance, and my God.
SALM 43
43:1 Barn fi, O DDUW, a dadlau fy
nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac
anghyfiawn.
43:1 Judge me, O God, and plead my cause against an ungodly
nation: O deliver me from the deceitful and unjust man.
43:2 Canys ti yw DUW fy
nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
43:2 For thou art the God of my strength: why dost thou cast
me off? why go I mourning because of the oppression of the enemy?
43:3 Anfon dy oleuni a’th
wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac
i’th bebyll.
43:3 O send out thy light and thy truth: let them lead me;
let them bring me unto thy holy hill, and to thy tabernacles.
43:4 Yna yr af at allor DUW,
at DDUW hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy
NUW.
43:4 Then will I go unto the altar of God, unto God my
exceeding joy: yea, upon the harp will I praise thee, O God my God.
43:5 Paham y’th ddarostyngir,
fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef,
iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
43:5 Why art thou cast down, O my soul? and why art thou disquieted
within me? hope in God: for I shall yet praise him, who is the health of my
countenance, and my God
SALM 44
44:1 I’r Pencerdd, i feibion Cora,
Maschil. DUW, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a
wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
44:1 To the chief Musician for the sons of Korah, Maschil. We have heard with our ears, O God,
our fathers have told us, what work thou didst in their days, in the times of
old.
44:2 Ti â’th law a yrraist
allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac
a’u cynyddaist hwythau.
44:2 How thou didst drive out the heathen with thy hand, and
plantedst them; how thou didst afflict the people, and cast them out.
44:3 Canys nid â’u cleddyf eu
hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr
dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi
hwynt.
44:3 For they got not the land in possession by their own
sword, neither did their own arm save them: but thy right hand, and thine arm,
and the light of thy countenance, because thou hadst a favour unto them.
44:4 Ti, DDUW, yw fy mrenin:
gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
44:4 Thou art my King, O God: command deliverances for Jacob.
44:5 Ynot ti y cilgwthiwn ni
ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.
44:5 Through thee will we push down our enemies: through thy
name will we tread them under that rise up against us.
44:6 Oherwydd nid yn fy mwa
yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub.
44:6 For I will not trust in my bow, neither shall my sword
save me.
44:7 Eithr ti a’n hachubaist
ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.
44:7 But thou hast saved us from our enemies, and hast put
them to shame that hated us.
44:8 Yn NUW yr ymffrostiwn
trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.
44:8 In God we boast all the day long, and praise thy name
for ever. Selah.
44:9 Ond ti a’n bwriaist ni
ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd.
44:9 But thou hast cast off, and put us to shame; and goest
not forth with our armies.
44:10 Gwnaethost i ni droi yn
ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant eu hun.
44:10 Thou makest us to turn back from the enemy: and they
which hate us spoil for themselves.
44:11 Rhoddaist ni fel defaid
i’w bwyta; gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.
44:11 Thou hast given us like sheep appointed for meat; and
hast scattered us among the heathen.
44:12 Gwerthaist dy bobl heb elw,
ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt.
44:12 Thou sellest thy people for nought, and dost not
increase thy wealth by their price.
44:13 Gosodaist ni yn
warthrudd i’n watwargerdd ac yn wawd i’r rhai o’n hamgylch.
44:13 Thou makest us a reproach to our neighbours, a scorn and
a derision to them that are round about us.
44:14 Gosodaist ni yn
ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd.
44:14 Thou makest us a byword among the heathen, a shaking of
the head among the people.
44:15 Fy ngwarthrudd sydd
beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd:
44:15 My confusion is continually before me, and the shame of
my face hath covered me,
44:16 Gan lais y gwarthruddwr
a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr.
44:16 For the voice of him that reproacheth and blasphemeth;
by reason of the enemy and avenger.
44:17 Hyn oll a ddaeth arnom;
eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod.
44:17 All this is come upon us; yet have we not forgotten
thee, neither have we dealt falsely in thy covenant.
44:18 Ni throdd ein calon yn
ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di;
44:18 Our heart is not turned back, neither have our steps
declined from thy way;
44:19 Er i ti ein curo yn
nhrigfa dreigiau, a rhoi drosom â chysgod angau.
44:19 Though thou hast sore broken us in the place of dragons,
and covered us with the shadow of death.
44:20 Os anghofiasom enw ein
DUW, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr:
44:20 If we have forgotten the name of our God, or stretched
out our hands to a strange god;
44:21 Oni chwilia DUW hyn
allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.
44:21 Shall not God search this out? for he knoweth the
secrets of the heart.
44:22 Ie, er dy fwyn di y’n
lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd.
44:22 Yea, for thy sake are we killed all the day long; we are
counted as sheep for the slaughter.
44:23 Deffro, paham y cysgi,
O ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.
44:23 Awake, why sleepest thou, O Lord? arise, cast us not off
for ever.
44:24 Paham y cuddi dy wyneb?
ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder?
44:24 Wherefore hidest thou thy face, and forgettest our
affliction and our oppression?
44:25 Canys gostyngwyd ein
henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.
44:25 For our soul is bowed down to the dust: our belly
cleaveth unto the earth.
44:26 Cyfod yn gynhorthwy i
ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.
44:26 Arise for our help, and redeem us for thy mercies’ sake.
SALM 45
45:1 I’r Pencerdd ar Sosannim, i
feibion Cora, Maschil, Cân cariadau. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr
ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.
45:1 To the chief Musician upon Shoshannim, for the sons of
Korah, Maschil, A Song of loves. My
heart is inditing a good matter: I speak of the things which I have made
touching the king: my tongue is the pen of a ready writer.
45:2 Tecach ydwyt na meibion
dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd DUW yn
dragywydd.
45:2 Thou art fairer than the children of men: grace is
poured into thy lips: therefore God hath blessed thee for ever.
45:3 Gwregysa dy gleddyf ar
dy glun, O Gadarn, a’th ogoniant a’th harddwch.
45:3 Gird thy sword upon thy thigh, O most mighty, with thy
glory and thy majesty.
45:4 Ac yn dy harddwch
marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a’th ddeheulaw
a ddysg i ti bethau ofnadwy.
45:4 And in thy majesty ride prosperously because of truth
and meekness and righteousness; and thy right hand shall teach thee terrible
things.
45:5 Pobl a syrthiant danat;
oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.
45:5 Thine arrows are sharp in the heart of the king’s
enemies; whereby the people fall under thee.
45:6 Dy orsedd di, O DDUW,
sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth
di.
45:6 Thy throne, O God, is for ever and ever: the sceptre of
thy kingdom is a right sceptre.
45:7 Ceraist gyfiawnder, a
chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew
llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.
45:7 Thou lovest righteousness, and hatest wickedness:
therefore God, thy God, hath anointed thee with the oil of gladness above thy
fellows.
45:8 Arogl myrr, aloes, a
chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th
lawenhasant.
45:8 All thy garments smell of myrrh, and aloes, and cassia,
out of the ivory palaces, whereby they have made thee glad.
45:9 Merched brenhinoedd oedd
ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o
Offir.
45:9 Kings’ daughters were among thy honourable women: upon
thy right hand did stand the queen in gold of Ophir.
45:10 Gwrando, ferch, a gwêl,
a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.
45:10 Hearken, O daughter, and consider, and incline thine
ear; forget also thine own people, and thy father’s house;
45:11 A’r Brenin a chwennych
dy degwch; canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.
45:11 So shall the king greatly desire thy beauty: for he is
thy Lord; and worship thou him.
45:12 Merch Tyrus hefyd fydd
yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.
45:12 And the daughter of Tyre shall be there with a gift;
even the rich among the people shall entreat thy favour.
45:13 Merch y Brenin sydd oll
yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.
45:13 The king’s daughter is all glorious within: her clothing
is of wrought gold.
45:14 Mewn gwaith edau a
nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant, ar ei hôl, yn
gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.
45:14 She shall be brought unto the king in raiment of
needlework: the virgins her companions that follow her shall be brought unto
thee.
45:15 Mewn llawenydd a
gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.
45:15 With gladness and rejoicing shall they be brought: they
shall enter into the king’s palace.
45:16 Dy feibion fydd yn lle
dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.
45:16 Instead of thy fathers shall be thy children, whom thou
mayest make princes in all the earth.
45:17 Paraf gofio dy enw ym
mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th folianniant byth ac yn dragywydd.
45:17 I will make thy name to be remembered in all generations:
therefore shall the people praise thee for ever and ever.
SALM 46
46:1 I’r Pencerdd o feibion Cora,
Cân ar Alamoth. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn
cyfyngder.
46:1 To the chief Musician for the sons of Korah, A Song upon
Alamoth. God is our refuge and
strength, a very present help in trouble.
46:2 Am hynny nid ofnwn pe
symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr.
46:2 Therefore will not we fear, though the earth be removed,
and though the mountains be carried into the midst of the sea;
46:3 Er rhuo a therfysgu o’i
ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.
46:3 Though the waters thereof roar and be troubled, though
the mountains shake with the swelling thereof. Selah.
46:4 Y mae afon, a’i ffrydiau
a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.
46:4 There is a river, the streams whereof shall make glad
the city of God, the holy place of the tabernacles of the most High.
46:5 DUW sydd yn ei chanol;
nid ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn.
46:5 God is in the midst of her; she shall not be moved: God
shall help her, and that right early.
46:6 Y cenhedloedd a
derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y
ddaear.
46:6 The heathen raged, the kingdoms were moved: he uttered
his voice, the earth melted.
46:7 Y mae ARGLWYDD y
lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.
46:7 The LORD of hosts is with us; the God of Jacob is our
refuge. Selah.
46:8 Deuwch, gwelwch
weithredoedd yr ARGLWYDD; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.
46:8 Come, behold the works of the LORD, what desolations he
hath made in the earth.
46:9 Gwna i ryfeloedd beidio
hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y
cerbydau â thân.
46:9 He maketh wars to cease unto the end of the earth; he
breaketh the bow, and cutteth the spear in sunder; he burneth the chariot in
the fire.
46:10 Peidiwch, a gwybyddwch
mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.
46:10 Be still, and know that I am God: I will be exalted
among the heathen, I will be exalted in the earth.
46:11 Y mae ARGLWYDD
y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela.
46:11 The LORD of hosts is with us; the God of Jacob is our
refuge. Selah.
SALM 47
47:1 I’r Pencerdd, Salm i feibion
Cora. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd.
47:1 To the chief Musician, A Psalm for the sons of Korah. O clap your hands, all ye people; shout
unto God with the voice of triumph.
47:2 Canys yr ARGLWYDD
goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.
47:2 For the LORD most high is terrible; he is a great King
over all the earth.
47:3 Efe a ddwg y
bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed.
47:3 He shall subdue the people under us, and the nations
under our feet.
47:4 Efe a ddethol ein
hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.
47:4 He shall choose our inheritance for us, the excellency
of Jacob whom he loved. Selah.
47:5 Dyrchafodd DUW â llawen
floedd, yr ARGLWYDD â sain utgorn.
47:5 God is gone up with a shout, the LORD with the sound of
a trumpet.
47:6 Cenwch fawl i DDUW,
Cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch.
47:6 Sing praises to God, sing praises: sing praises unto our
King, sing praises.
47:7 Canys Brenin yr holl
ddaear yw DUW: cenwch fawl yn ddeallus.
47:7 For God is the King of all the earth: sing ye praises
with understanding.
47:8 DUW sydd yn teyrnasu ar
y cenhedloedd: eistedd y mae DUW ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.
47:8 God reigneth over the heathen: God sitteth upon the
throne of his holiness.
47:9 Pendefigion y bobl a
ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham - canys tarianau y ddaear ydynt eiddo
DUW, dirfawr y dyrchafwyd ef.
47:9 The princes of the people are gathered together, even
the people of the God of Abraham: for the shields of the earth belong unto God:
he is greatly exalted.
SALM 48
48:1 Cân a Salm i feibion Cora. Mawr
yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW yn ei fynydd sanctaidd.
48:1 A Song and Psalm for the sons of Korah. Great is the LORD, and greatly to be
praised in the city of our God, in the mountain of his holiness.
48:2 Tegwch bro, llawenydd yr
holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.
48:2 Beautiful for situation, the joy of the whole earth, is
mount Zion, on the sides of the north, the city of the great King.
48:3 DUW yn ei phalasau a
adwaenir yn amddiffynfa.
48:3 God is known in her palaces for a refuge.
48:4 Canys, wele, y
brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.
48:4 For, lo, the kings were assembled, they passed by
together.
48:5 Hwy a welsant, felly y
rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.
48:5 They saw it, and so they marvelled; they were troubled,
and hasted away.
48:6 Dychryn a ddaeth arnynt
yno, a dolur, megis gwraig yn esgor.
48:6 Fear took hold upon them there, and pain, as of a woman
in travail.
48:7 Â gwynt y
dwyrain y drylli longau y môr.
48:7 Thou breakest the ships of Tarshish with an east wind.
48:8 Megis y clywsom, felly y
gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn
dragywydd. Sela.
48:8 As we have heard, so have we seen in the city of the LORD
of hosts, in the city of our God: God will establish it for ever. Selah.
48:9 Meddyliasom, O DDUW, am
dy drugaredd yng nghanol dy deml.
48:9 We have thought of thy lovingkindness, O God, in the
midst of thy temple.
48:10 Megis y mae dy enw, O
DDUW, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyfiawn o gyfiawnder yw dy
ddeheulaw.
48:10 According to thy name, O God, so is thy praise unto the
ends of the earth: thy right hand is full of righteousness.
48:11 Llawenyched mynydd
Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.
48:11 Let mount Zion rejoice, let the daughters of Judah be
glad, because of thy judgments.
48:12 Amgylchwch Seion, ac
ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.
48:12 Walk about Zion, and go round about her: tell the towers
thereof.
48:13 Ystyriwch ei
rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl.
48:13 Mark ye well her bulwarks, consider her palaces; that ye
may tell it to the generation following.
48:14 Canys y DUW hwn yw ein
DUW ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
48:14 For this God is our God for ever and ever: he will be
our guide even unto death.
SALM 49
49:1 I’r Pencerdd, Salm i feibion
Cora. Clywch hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch hyn, holl drigolion y byd;
49:1 To the chief Musician, A Psalm for the sons of Korah. Hear this, all ye people; give ear,
all ye inhabitants of the world:
49:2 Yn gystal gwreng a
bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.
49:2 Both low and high, rich and poor, together.
49:3 Fy ngenau a draetha
ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.
49:3 My mouth shall speak of wisdom; and the meditation of my
heart shall be of understanding.
49:4 Gostyngaf fy nghlust at
ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn.
49:4 I will incline mine ear to a parable: I will open my
dark saying upon the harp.
49:5 Paham yr ofnaf yn amser
adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau?
49:5 Wherefore should I fear in the days of evil, when the
iniquity of my heels shall compass me about?
49:6 Rhai a ymddiriedant yn
eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.
49:6 They that trust in their wealth, and boast themselves in
the multitude of their riches;
49:7 Gan waredu ni wared neb
ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i DDUW:
49:7 None of them can by any means redeem his brother, nor
give to God a ransom for him:
49:8 (Canys gwerthfawr yw
pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)
49:8 (For the redemption of their soul is precious, and it
ceaseth for ever:)
49:9 Fel y byddo efe byw
byth, ac na welo lygredigaeth.
49:9 That he should still live for ever, and not see
corruption.
49:10 Canys efe a wêl fod y
doethion yn yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i
eraill.
49:10 For he seeth that wise men die, likewise the fool and
the brutish person perish, and leave their wealth to others.
49:11 Eu meddwl yw, y pery eu
tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu
tiroedd ar eu henwau eu hunain.
49:11 Their inward thought is, that their houses shall
continue for ever, and their dwelling places to all generations; they call
their lands after their own names.
49:12 Er hynny dyn mewn
anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
49:12 Nevertheless man being in honour abideth not: he is like
the beasts that perish.
49:13 Eu ffordd yma yw eu
hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela.
49:13 This their way is their folly: yet their posterity
approve their sayings. Selah.
49:14 Fel defaid y gosodir
hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai a lywodraetha arnynt y bore;
a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.
49:14 Like sheep they are laid in the grave; death shall feed
on them; and the upright shall have dominion over them in the morning; and
their beauty shall consume in the grave from their dwelling.
49:15 Eto DUW a wared fy
enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela.
49:15 But God will redeem my soul from the power of the grave:
for he shall receive me. Selah.
49:16 Nac ofna pan gyfoethogo
un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:
49:16 Be not thou afraid when one is made rich, when the glory
of his house is increased;
49:17 Canys wrth farw ni ddwg
efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
49:17 For when he dieth he shall carry nothing away: his glory
shall not descend after him.
49:18 Er iddo yn ei fywyd
fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.
49:18 Though while he lived he blessed his soul: and men will
praise thee, when thou doest well to thyself.
49:19 Efe a â at genhedlaeth
ei dadau, ac ni welant oleuni byth.
49:19 He shall go to the generation of his fathers; they shall
never see light.
49:20 Dyn mewn anrhydedd, ac
heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
49:20 Man that is in honour, and understandeth not, is like
the beasts that perish.
SALM 50
50:1 Salm Asaff. DUW y duwiau, sef
yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.
50:1 A Psalm of Asaph.
The mighty God, even the LORD, hath spoken, and called the earth from the
rising of the sun unto the going down thereof.
50:2 Allan o Seion,
perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW.
50:2 Out of Zion, the perfection of beauty, God hath shined.
50:3 Ein DUW ni a ddaw, ac ni
bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.
50:3 Our God shall come, and shall not keep silence: a fire
shall devour before him, and it shall be very tempestuous round about him.
50:4 Geilw at y nefoedd oddi
uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
50:4 He shall call to the heavens from above, and to the
earth, that he may judge his people.
50:5 Cesglwch fy saint ynghyd
ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.
50:5 Gather my saints together unto me; those that have made
a covenant with me by sacrifice.
50:6 A’r nefoedd a fynegant
ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela.
50:6 And the heavens shall declare his righteousness: for God
is judge himself. Selah.
50:7 Clywch, fy mhobl, a mi a
lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf
fi.
50:7 Hear, O my people, and I will speak; O Israel, and I
will testify against thee: I am God, even thy God.
50:8 Nid am dy aberthau y’th
geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
50:8 I will not reprove thee for thy sacrifices or thy burnt
offerings, to have been continually before me.
50:9 Ni chymeraf fustach o’th
dŷ, na bychod o’th gorlannau.
50:9 I will take no bullock out of thy house, nor he goats
out of thy folds.
50:10 Canys holl fwystfilod y
coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.
50:10 For every beast of the forest is mine, and the cattle
upon a thousand hills.
50:11 Adwaen holl adar y
mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.
50:11 I know all the fowls of the mountains: and the wild
beasts of the field are mine.
50:12 Os bydd newyn arnaf, ni
ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyfiawnder sydd eiddof fi.
50:12 If I were hungry, I would not tell thee: for the world
is mine, and the fulness thereof.
50:13 A fwytfâf fi gig teirw?
neu a yfaf fi waed bychod?
50:13 Will I eat the flesh of bulls, or drink the blood of
goats?
50:14 Abertha foliant i DDUW;
a thâl i’r Goruchaf dy addunedau:
50:14 Offer unto God thanksgiving; and pay thy vows unto the
most High:
50:15 A galw arnaf fi yn nydd
trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.
50:15 And call upon me in the day of trouble: I will deliver
thee, and thou shalt glorify me.
50:16 Ond wrth yr annuwiol y
dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy
nghyfamod yn dy enau?
50:16 But unto the wicked God saith, What hast thou to do to
declare my statutes, or that thou shouldest take my covenant in thy mouth?
50:17 Gan dy fod yn casáu
addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.
50:17 Seeing thou hatest instruction, and castest my words
behind thee.
50:18 Pan welaist leidr,
cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr.
50:18 When thou sawest a thief, then thou consentedst with
him, and hast been partaker with adulterers.
50:19 Gollyngaist dy safn i
ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.
50:19 Thou givest thy mouth to evil, and thy tongue frameth
deceit.
50:20 Eisteddaist a dywedaist
yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.
50:20 Thou sittest and speakest against thy brother; thou
slanderest thine own mother’s son.
50:21 Hyn a wnaethost, a mi a
dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf,
ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.
50:21 These things hast thou done, and I kept silence; thou
thoughtest that I was altogether such an one as thyself: but I will reprove
thee, and set them in order before thine eyes.
50:22 Deellwch hyn yn awr, y
rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.
50:22 Now consider this, ye that forget God, lest I tear you
in pieces, and there be none to deliver.
50:23 Yr hwn a abertho
foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo
iachawdwriaeth DUW.
50:23 Whoso offereth praise glorifieth me: and to him that
ordereth his conversation aright will I show the salvation of God.
SALM 51
51:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan
ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba. Trugarha
wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd:, yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea
fy anwireddau.
51:1 To the chief Musician, A Psalm of David, when Nathan the
prophet came unto him, after he had gone in to Bathsheba. Have mercy upon me, O God, according to thy lovingkindness:
according unto the multitude of thy tender mercies blot out my transgressions.
51:2 Golch fi yn llwyr ddwys
oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.
51:2 Wash me thoroughly from mine iniquity, and cleanse me
from my sin.
51:3 Canys yr wyf yn cydnabod
fy nghamweddau: a’m pechod rydd yn wastad ger fy mron.
51:3 For I acknowledge my transgressions: and my sin is ever
before me.
51:4 Yn dy erbyn di, dydi dy
hunan, y pechais ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan
leferych, ac y byddit bur pan farnech.
51:4 Against thee, thee only, have I sinned, and done this
evil in thy sight: that thou mightest be justified when thou speakest, and be
clear when thou judgest.
51:5 Wele, mewn anwiredd y’m
lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
51:5 Behold, I was shapen in iniquity, and in sin did my
mother conceive me.
51:6 Wele, ceraist wirionedd
oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
51:6 Behold, thou desirest truth in the inward parts: and in
the hidden part thou shalt make me to know wisdom.
51:7 Glanha fi ag isop, a mi
a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.
51:7 Purge me with hyssop, and I shall be clean: wash me, and
I shall be whiter than snow.
51:8 Pâr i mi glywed
gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
51:8 Make me to hear joy and gladness; that the bones which
thou hast broken may rejoice.
51:9 Cuddia dy wyneb oddi wrth
fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
51:9 Hide thy face from my sins, and blot out all mine
iniquities.
51:10 Crea galon lân ynof, O
DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.
51:10 Create in me a clean heart, O God; and renew a right
spirit within me.
51:11 Na fwrw fi ymaith oddi
ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
51:11 Cast me not away from thy presence; and take not thy
holy spirit from me.
51:12 Dyro drachefn i mi
orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi.
51:12 Restore unto me the joy of thy salvation; and uphold me
with thy free spirit.
51:13 Yna y dysgaf dy ffyrdd
i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
51:13 Then will I teach transgressors thy ways; and sinners
shall be converted unto thee.
51:14 Gwared fi oddi wrth
waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy
gyfiawnder.
51:14 Deliver me from bloodguiltiness, O God, thou God of my
salvation: and my tongue shall sing aloud of thy righteousness.
51:15 ARGLWYDD, agor fy
ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant.
51:15 O Lord, open thou my lips; and my mouth shall show forth
thy praise.
51:16 Canys ni chwenychi
aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
51:16 For thou desirest not sacrifice; else would I give it:
thou delightest not in burnt offering.
51:17 Aberthau DUW ydynt
ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi.
51:17 The sacrifices of God are a broken spirit: a broken and
a contrite heart, O God, thou wilt not despise.
51:18 Gwna ddaioni yn dy
ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerusalem.
51:18 Do good in thy good pleasure unto Zion: build thou the
walls of Jerusalem.
51:19 Yna y byddi fodlon i
ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar
dy allor.
51:19 Then shalt thou be pleased with the sacrifices of
righteousness, with burnt offering and whole burnt offering: then shall they
offer bullocks upon thine altar.
SALM 52
52:1 I’r Pencerdd, Maschil, Salm
Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth
Dafydd i dŷ Ahimelech. Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae
trugaredd DUW yn parhau yn wastadol.
52:1 To the chief Musician, Maschil, A Psalm of David, when
Doeg the Edomite came and told Saul, and said unto him, David is come to the
house of Ahimelech. Why boastest
thou thyself in mischief, O mighty man? the goodness of God endureth
continually.
52:2 Dy dafod a ddychymyg
ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.
52:2 Thy tongue deviseth mischiefs; like a sharp razor,
working deceitfully.
52:3 Hoffaist ddrygioni yn
fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyflawnder. Sela.
52:3 Thou lovest evil more than good; and lying rather than
to speak righteousness. Selah.
52:4 Hoffaist bob geiriau
distryw, O dafod twyllodrus.
52:4 Thou lovest all devouring words, O thou deceitful tongue.
52:5 DUW a’th ddistrywia
dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac
a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.
52:5 God shall likewise destroy thee for ever, he shall take
thee away, and pluck thee out of thy dwelling place, and root thee out of the
land of the living. Selah.
52:6 Y cyfiawn hefyd a
welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.
52:6 The righteous also shall see, and fear, and shall laugh
at him:
52:7 Wele y gŵr ni
osododd DDUW yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac
a ymnerthodd yn ei ddrygioni.
52:7 Lo, this is the man that made not God his strength; but
trusted in the abundance of his riches, and strengthened himself in his
wickedness.
52:8 Ond myfi sydd fel
olewydden werdd yn nhŷ DDUW: ymddiriedaf yn nhrugaredd DUW byth ac yn
dragywydd.
52:8 But I am like a green olive tree in the house of God: I
trust in the mercy of God for ever and ever.
52:9 Clodforaf di yn
dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw
gerbron dy saint.
52:9 I will praise thee for ever, because thou hast done it:
and I will wait on thy name; for it is good before thy saints.
SALM 53
53:1 I’r Pencerdd ar y Mahalath,
Maschil, Salm Dafydd. Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant,
a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni.
53:1 To the chief Musician upon Mahalath, Maschil, A Psalm of
David. The fool hath said in his
heart, There is no God. Corrupt are
they, and have done abominable iniquity: there is none that doeth good.
53:2 Edrychodd Duw i lawr o’r
nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.
53:2 God looked down from heaven upon the children of men, to
see if there were any that did understand, that did seek God.
53:3 Ciliasai pob un ohonynt
yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
53:3 Every one of them is gone back: they are altogether
become filthy; there is none that doeth good, no, not one.
53:4 Oni ŵyr
gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni
alwasant ar DDUW.
53:4 Have the workers of iniquity no knowledge? who eat up my
people as they eat bread: they have not called upon God.
53:5 Yno yr ofnasant gan ofn,
lle nid oedd ofn: canys DUW a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd:
gwdradwyddaist hwynt am i DDUW eu dirmygu hwy.
53:5 There were they in great fear, where no fear was: for
God hath scattered the bones of him that encampeth against thee: thou hast put
them to shame, because God hath despised them.
53:6 O na roddid
iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y
llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.
53:6 Oh that the salvation of Israel were come out of Zion!
When God bringeth back the captivity of his people, Jacob shall rejoice, and
Israel shall be glad.
SALM 54
54:1 I’r Pencerdd ar Neginoth,
Maschib Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul. Onid ydyw
Dafydd yn ymguddio gyda ni? Achub fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy
gadernid.
54:1 To the chief Musician on Neginoth, Maschil, A Psalm of David,
when the Ziphims came and said to Saul, Doth not David hide himself with us?
Save me, O God, by thy name, and judge me by thy strength.
54:2 DUW, clyw fy ngweddi;
gwrando ymadrodd fy ngenau.
54:2 Hear my prayer, O God; give ear to the words of my mouth.
54:3 Canys dieithriaid a
gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant DDUW o’u
blaen. Sela.
54:3 For strangers are risen up against me, and oppressors
seek after my soul: they have not set God before them. Selah.
54:4 Wele, DUW sydd yn fy
nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.
54:4 Behold, God is mine helper: the Lord is with them that
uphold my soul.
54:5 Efe a ddâl ddrwg i’m
gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.
54:5 He shall reward evil unto mine enemies: cut them off in
thy truth.
54:6 Aberthaf i ti yn
ewyllysgar: clodforaf dy enw, O ARGLWYDD; canys da yw.
54:6 I will freely sacrifice unto thee: I will praise thy
name, O LORD; for [it is] good.
54:7 Canys efe a’m gwaredodd
o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
54:7 For he hath delivered me out of all trouble: and mine
eye hath seen [his desire] upon mine enemies.
SALM 55
55:1 I’r Pencerdd ar Neginoth,
Maschil, Salm Dafydd Gwrando fy ngweddi, O DDUW; ac ymguddia rhag fy neisyfiad.
55:1 To the chief Musician on Neginoth, Maschil, A Psalm of
David. Give ear to my prayer, O God;
and hide not thyself from my supplication.
55:2 Gwrando arnaf, ac erglyw
fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,
55:2 Attend unto me, and hear me: I mourn in my complaint,
and make a noise;
55:3 Gan lais y gelyn, gan
orthrymder yr annuwiol: oherydd y maent yn bwrw arnaf, ac yn fy nghasáu yn
llidiog.
55:3 Because of the voice of the enemy, because of the
oppression of the wicked: for they cast iniquity upon me, and in wrath they
hate me.
55:4 Fy nghalon a ofidia o’m
mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.
55:4 My heart is sore pained within me: and the terrors of
death are fallen upon me.
55:5 Ofn ac arswyd a ddaeth
arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd.
55:5 Fearfulness and trembling are come upon me, and horror
hath overwhelmed me.
55:6 A dywedais, O na bai i
mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.
55:6 And I said, Oh that I had wings like a dove! for then
would I fly away, and be at rest.
55:7 Wele, crwydrwn ymhell,
ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.
55:7 Lo, then would I wander far off, and remain in the
wilderness. Selah.
55:8 Brysiwn i ddianc, rhag y
gwynt ystormus a’r dymestl.
55:8 I would hasten my escape from the windy storm and
tempest.
55:9 Dinistria, O
ARGLWYDD, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.
55:9 Destroy, O Lord, and divide their tongues: for I have
seen violence and strife in the city.
55:10 Dydd a nos yr
amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.
55:10 Day and night they go about it upon the walls thereof:
mischief also and sorrow are in the midst of it.
55:11 Anwireddau sydd yn ei
chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.
55:11 Wickedness is in the midst thereof: deceit and guile
depart not from her streets.
55:12 Canys nid gelyn a’m
difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi
a ymguddiasiwn rhagddo ef:
55:12 For it was not an enemy that reproached me; then I could
have borne it: neither was it he that hated me that did magnify himself against
me; then I would have hid myself from him:
55:13 Eithr tydi, ddyn, fy
nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod,
55:13 But it was thou, a man mine equal, my guide, and mine
acquaintance.
55:14 Y rhai oedd felys
gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd.
55:14 We took sweet counsel together, and walked unto the
house of God in company.
55:15 Rhuthred marwolaeth
arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn
eu mysg.
55:15 Let death seize upon them, and let them go down quick
into hell: for wickedness is in their dwellings, and among them.
55:16 Myfi a waeddaf ar DDUW;
a’r ARGLWYDD a’m hachub i.
55:16 As for me, I will call upon God; and the LORD shall save
me.
55:17 Hwyr a bore, a hanner
dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
55:17 Evening, and morning, and at noon, will I pray, and cry
aloud: and he shall hear my voice.
55:18 Efe a waredodd fy enaid
mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.
55:18 He hath delivered my soul in peace from the battle that
was against me: for there were many with me.
55:19 DUW a glyw, ac a’u
darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau
iddynt, am hynny nid ofnant DDUW.
55:19 God shall hear, and afflict them, even he that abideth
of old. Selah. Because they have no changes, therefore they fear not God.
55:20 Efe a estynnodd ei law
yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.
55:20 He hath put forth his hands against such as be at peace
with him: he hath broken his covenant.
55:21 Llyfnach oedd ei enau
nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn
gleddyfau noethion.
55:21 The words of his mouth were smoother than butter, but
war was in his heart: his words were softer than oil, yet were they drawn
swords.
55:22 Bwrw dy faich ar yr
ARGLWYDD, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth.
55:22 Cast thy burden upon the LORD, and he shall sustain
thee: he shall never suffer the righteous to be moved.
55:23 Tithau, DDUW, a’u
disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw
hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.
55:23 But thou, O God, shalt bring them down into the pit of
destruction: bloody and deceitful men shall not live out half their days; but I
will trust in thee.
SALM 56
56:1 I’r Pencerdd ar Jonath-Elem-Rechocim,
Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath. Trugarha wrthyf, O DDUW:
canys a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma.
56:1 To the chief Musician upon Jonathelemrechokim, Michtam
of David, when the Philistines took him in Gath. Be merciful unto me, O God: for man would swallow me up; he
fighting daily oppresseth me.
56:2 Beunydd y’m llyncai fy
ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf.
56:2 Mine enemies would daily swallow me up: for they be many
that fight against me, O thou most High.
56:3 Y dydd yr ofnwyf, mi a
ymddiriedaf ynot ti.
56:3 What time I am afraid, I will trust in thee.
56:4 Yn NUW y clodforaf ei
air, yn NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.
56:4 In God I will praise his word, in God I have put my
trust; I will not fear what flesh can do unto me.
56:5 Beunydd y camgymerant fy
ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.
56:5 Every day they wrest my words: all their thoughts are
against me for evil.
56:6 Hwy a ymgasglant, a
lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.
56:6 They gather themselves together, they hide themselves,
they mark my steps, when they wait for my soul.
56:7 A ddihangant hwy trwy
anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd.
56:7 Shall they escape by iniquity? in thine anger cast down
the people, O God.
56:8 Ti a gyfrifaist fy
symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
56:8 Thou tellest my wanderings: put thou my tears into thy
bottle: are they not in thy book?
56:9 Y dydd y llefwyf arnat,
yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi.
56:9 When I cry unto thee, then shall mine enemies turn back:
this I know; for God is for me.
56:10 Yn NUW y moliannaf ei
air: yn yr ARGLWYDD y moliannaf ei air.
56:10 In God will I praise his word: in the LORD will I praise
his word.
56:11 Yn NUW yr ymddiriedais:
nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
56:11 In God have I put my trust: I will not be afraid what
man can do unto me.
56:12 Arnaf fi, O DDUW, y mae
dy addunedau: talaf i ti foliant.
56:12 Thy vows are upon me, O God: I will render praises unto
thee.
56:13 Canys gwaredaist fy
enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW
yng ngoleuni y rhai byw?
56:13 For thou hast delivered my soul from death: wilt not
thou deliver my feet from falling, that I may walk before God in the light of
the living?
SALM 57
57:1 I’r Pencerdd, Al-taschith,
Michtam. Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof. Trugarha wrthyf, O DDUW,
trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd
y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.
57:1 To the chief Musician, Altaschith, Michtam of David,
when he fled from Saul in the cave.
Be merciful unto me, O God, be merciful unto me: for my soul trusteth in thee:
yea, in the shadow of thy wings will I make my refuge, until these calamities
be overpast.
57:2 Galwaf ar DDUW Goruchaf;
ar DDUW a gwblha â mi.
57:2 I will cry unto God most high; unto God that performeth
all things for me.
57:3 Efe a enfyn o’r nefoedd,
ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei
drugaredd a’i wirionedd.
57:3 He shall send from heaven, and save me from the reproach
of him that would swallow me up.
Selah. God shall send forth his
mercy and his truth.
57:4 Fy enaid sydd ymysg
llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae
eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym.
57:4 My soul is among lions: and I lie even among them that
are set on fire, even the sons of men, whose teeth are spears and arrows, and
their tongue a sharp sword.
57:5 Ymddyrcha, DDUW, uwch y
nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
57:5 Be thou exalted, O God, above the heavens; let thy glory
be above all the earth.
57:6 Darparasant rwyd i’m
traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol.
Sela.
57:6 They have prepared a net for my steps; my soul is bowed
down: they have digged a pit before me, into the midst whereof they are fallen
themselves. Selah.
57:7 Parod yw fy nghalon, O
DDUW, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
57:7 My heart is fixed, O God, my heart is fixed: I will sing
and give praise.
57:8 Deffro, fy ngogoniant;
deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
57:8 Awake up, my glory; awake, psaltery and harp: I myself
will awake early.
57:9 Clodforaf di, ARGLWYDD,
ymysg bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
57:9 I will praise thee, O Lord, among the people: I will
sing unto thee among the nations.
57:10 Canys mawr yw dy
drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau.
57:10 For thy mercy is great unto the heavens, and thy truth
unto the clouds.
57:11 Ymddyrcha, DDUW, uwch y
nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr ddaear.
57:11 Be thou exalted, O God, above the heavens: let thy glory
be above all the earth.
SALM 58
58:1 I’r Pencerdd, Al-taschith,
Michtam Dafydd. Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch
uniondeb, O feibion dynion?
58:1 To the chief Musician, Altaschith, Michtam of David. Do ye indeed speak righteousness, O
congregation? do ye judge uprightly, O ye sons of men?
58:2 Anwiredd yn hytrach a
weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear.
58:2 Yea, in heart ye work wickedness; ye weigh the violence
of your hands in the earth.
58:3 O’r groth yr
ymddieithriodd yr annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
58:3 The wicked are estranged from the womb: they go astray
as soon as they be born, speaking lies.
58:4 Eu gwenwyn sydd fel
gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau;
58:4 Their poison is like the poison of a serpent: they are like
the deaf adder that stoppeth her ear;
58:5 Yr hon ni wrendy ar lais
y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr.
58:5 Which will not hearken to the voice of charmers,
charming never so wisely.
58:6 Drylla, O DDUW,
eu dannedd yn eu geneuau: tor, O ARGLWYDD, gilddannedd y llewod ieuainc.
58:6 Break their teeth, O God, in their mouth: break out the
great teeth of the young lions, O LORD.
58:7 Todder hwynt fel
dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu
torri.
58:7 Let them melt away as waters which run continually: when
he bendeth his bow to shoot his arrows, let them be as cut in pieces.
58:8 Aed ymaith fel malwoden
dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.
58:8 As a snail which melteth, let every one of them pass
away: like the untimely birth of a woman, that they may not see the sun.
58:9 Cyn i’ch crochanau
glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei
ddigofaint.
58:9 Before your pots can feel the thorns, he shall take them
away as with a whirlwind, both living, and in his wrath.
58:10 Y cyfiawn a lawenycha
pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.
58:10 The righteous shall rejoice when he seeth the vengeance:
he shall wash his feet in the blood of the wicked.
58:11 Fel y dywedo dyn, Diau
fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod DUW a farna ar y ddaear.
58:11 So that a man shall say, Verily there is a reward for
the righteous: verily he is a God that judgeth in the earth.
SALM 59
59:1 I’r pencerdd, Al-taschith,
Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef. Fy NUW,
gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant
i’m herbyn.
59:1 To the chief Musician, Altaschith, Michtam of David;
when Saul sent, and they watched the house to kill him. Deliver me from mine enemies, O my God: defend me from them that
rise up against me.
59:2 Gwared fi oddi wrth
weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.
59:2 Deliver me from the workers of iniquity, and save me from
bloody men.
59:3 Canys wele,
cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i’m herbyn; nid ar fy mai
na’m pechod i, O ARGLWYDD.
59:3 For, lo, they lie in wait for my soul: the mighty are
gathered against me; not for my transgression, nor for my sin, O LORD.
59:4 Rhedant, ymbaratoant,
heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych.
59:4 They run and prepare themselves without my fault: awake
to help me, and behold.
59:5 A thi, ARGLWYDD DDUW y
lluoedd, DUW Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth
neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.
59:5 Thou therefore, O LORD God of hosts, the God of Israel,
awake to visit all the heathen: be not merciful to any wicked transgressors. Selah.
59:6 Dychwelant gyda’r hwyr,
cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
59:6 They return at evening: they make a noise like a dog,
and go round about the city.
59:7 Wele, bytheiriant â’u
genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?
59:7 Behold, they belch out with their mouth: swords are in
their lips: for who, say they, doth hear?
59:8 Ond tydi, O ARGLWYDD,
a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
59:8 But thou, O LORD, shalt laugh at them; thou shalt have
all the heathen in derision.
59:9 Oherwydd ei nerth ef, y
disgwyliaf wrthyt ti: canys DUW yw fy amddiffynfa.
59:9 Because of his strength will I wait upon thee: for God
is my defence.
59:10 Fy NUW trugarog a’m
rhagflaena: DUW a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.
59:10 The God of my mercy shall prevent me: God shall let me
see my desire upon mine enemies.
59:11 Na ladd hwynt, rhag i’m
pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O ARGLWYDD ein
tarian.
59:11 Slay them not, lest my people forget: scatter them by
thy power; and bring them down, O Lord our shield.
59:12 Am bechod eu genau, ac
ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd
a draethant.
59:12 For the sin of their mouth and the words of their lips
let them even be taken in their pride: and for cursing and lying which they
speak.
59:13 Difa hwynt yn dy lid,
difa, fel na byddont: a gwybyddant mai DUW sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd
eithafoedd y ddaear. Sela.
59:13 Consume them in wrath, consume them, that they may not
be: and let them know that God ruleth in Jacob unto the ends of the earth. Selah.
59:14 A dychwelant gyda’r
hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
59:14 And at evening let them return; and let them make a noise
like a dog, and go round about the city.
59:15 Crwydrant am fwyd; ac
onis digonir, grwgnachant.
59:15 Let them wander up and down for meat, and grudge if they
be not satisfied.
59:16 Minnau a ganaf am dy
nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i
mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.
59:16 But I will sing of thy power; yea, I will sing aloud of
thy mercy in the morning: for thou hast been my defence and refuge in the day
of my trouble.
59:17 I ti, fy nerth, y
canaf; canys DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd.
59:17 Unto thee, O my strength, will I sing: for God is my
defence, and the God of my mercy.
SALM 60
60:1 I’r Pencerdd ar Susan-eduth,
Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid
Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr
halen. DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom
drachefn.
60:1 To the chief Musician upon Shushaneduth, Michtam of
David, to teach; when he strove with Aramnaharaim and with Aramzobah, when Joab
returned, and smote of Edom in the valley of salt twelve thousand. O God, thou hast cast us off, thou
hast scattered us, thou hast been displeased; O turn thyself to us again.
60:2 Gwnaethost i’r ddaear
grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.
60:2 Thou hast made the earth to tremble; thou hast broken
it: heal the breaches thereof; for it shaketh.
60:3 Dangosaist i’th bobl
galedi: diodaist ni â gwin madrondod.
60:3 Thou hast showed thy people hard things: thou hast made
us to drink the wine of astonishment.
60:4 Rhoddaist faner i’r rhai
a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.
60:4 Thou hast given a banner to them that fear thee, that it
may be displayed because of the truth.
Selah.
60:5 Fel y gwareder dy rai
annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
60:5 That thy beloved may be delivered; save with thy right
hand, and hear me.
60:6 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd,
Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
60:6 God hath spoken in his holiness; I will rejoice, I will
divide Shechem, and mete out the valley of Succoth.
60:7 Eiddof fi yw Gilead, ac
eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.
60:7 Gilead is mine, and Manasseh is mine; Ephraim also is
the strength of mine head; Judah is my lawgiver;
60:8 Moab yw fy nghrochan
golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.
60:8 Moab is my washpot; over Edom will I cast out my shoe:
Philistia, triumph thou because of me.
60:9 Pwy a’m dwg i’r ddinas
gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom?
60:9 Who will bring me into the strong city? who will lead me
into Edom?
60:10 Onid tydi, DDUW, yr hwn
a’n bwriaist ymaith? a thydi, O DDUW, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd?
60:10 Wilt not thou, O God, which hadst cast us off? and thou,
O God, which didst not go out with our armies?
60:11 Moes i ni gynhorthwy
rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.
60:11 Give us help from trouble: for vain is the help of man.
60:12 Yn NUW y gwnawn
wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
60:12 Through God we shall do valiantly: for he it is that
shall tread down our enemies.
SALM 61
61:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm
Dafydd. Clyw, O DDUW, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.
61:1 To the chief Musician upon Neginah, A Psalm of David. Hear my cry, O God; attend unto my
prayer.
61:2 O eithaf y ddaear y
llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
61:2 From the end of the earth will I cry unto thee, when my
heart is overwhelmed: lead me to the rock that is higher than I.
61:3 Canys buost yn noddfa i
mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
61:3 For thou hast been a shelter for me, and a strong tower
from the enemy.
61:4 Preswyliaf yn dy babell
byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.
61:4 I will abide in thy tabernacle for ever: I will trust in
the covert of thy wings. Selah.
61:5 Canys ti, DDUW, a
llywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw.
61:5 For thou, O God, hast heard my vows: thou hast given me
the heritage of those that fear thy name.
61:6 Ti a estynni oes y
Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.
61:6 Thou wilt prolong the king’s life: and his years as many
generations.
61:7 Efe a erys byth gerbron
DUW; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
61:7 He shall abide before God for ever: O prepare mercy and
truth, which may preserve him.
61:8 Felly y canmolaf dy enw
yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
61:8 So will I sing praise unto thy name for ever, that I may
daily perform my vows.
SALM 62
62:1 I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd.
Wrth DDUW yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.
62:1 To the chief Musician, to Jeduthun, A Psalm of David. Truly my soul waiteth upon God: from
him cometh my salvation.
62:2 Efe yn unig yw fy
nghraig, a’m hiachawdwriaeth, a’m hamddiffyn; ni’m mawr ysgogir.
62:2 He only is my rock and my salvation; he is my defence; I
shall not be greatly moved.
62:3 Pa hyd y bwriedwch
aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig,
neu bared ar ei ogwydd.
62:3 How long will ye imagine mischief against a man? ye
shall be slain all of you: as a bowing wall shall ye be, and as a tottering
fence.
62:4 Ymgyngorasant yn unig
i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: â’u geneuau y bendithiant,
ond o’u mewn y melltithiant. Sela.
62:4 They only consult to cast him down from his excellency:
they delight in lies: they bless with their mouth, but they curse inwardly. Selah.
62:5 O fy enaid, disgwyl wrth
DDUW yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
62:5 My soul, wait thou only upon God; for my expectation is
from him.
62:6 Efe yn unig yw fy
nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir.
62:6 He only is my rock and my salvation: he is my defence; I
shall not be moved.
62:7 Yn NUW y mae fy
iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW.
62:7 In God is my salvation and my glory: the rock of my
strength, and my refuge, is in God.
62:8 Gobeithiwch ynddo ef bob
amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni.
Sela.
62:8 Trust in him at all times; ye people, pour out your
heart before him: God is a refuge for us.
Selah.
62:9 Gwagedd yn ddiau yw
meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach
ydynt hwy i gyd na gwegi.
62:9 Surely men of low degree are vanity, and men of high
degree are a lie: to be laid in the balance, they are altogether lighter than
vanity.
62:10 Nac ymddiriedwch mewn
trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich
calon arno.
62:10 Trust not in oppression, and become not vain in robbery:
if riches increase, set not your heart upon them.
62:11 Unwaith y dywedodd DUW,
clywais hynny ddwywaith; mai eiddo DUW yw cadernid.
62:11 God hath spoken once; twice have I heard this; that
power belongeth unto God.
62:12 Trugaredd hefyd sydd
eiddot ti, O ARGLWYDD: canys ti a deli i bob yn ôl ei weithred.
62:12 Also unto thee, O Lord, belongeth mercy: for thou
renderest to every man according to his work.
SALM 63
63:1 Salm Dafydd, pan oedd efe yn
niffeithwch Jwda. Ti, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy
enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb
ddwfr;
63:1 A Psalm of David, when he was in the wilderness of Judah. O God, thou art my God; early will I
seek thee: my soul thirsteth for thee, my flesh longeth for thee in a dry and
thirsty land, where no water is;
63:2 I weled dy nerth a’th
ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr.
63:2 To see thy power and thy glory, so as I have seen thee
in the sanctuary.
63:3 Canys gwell yw dy
drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant.
63:3 Because thy lovingkindness is better than life, my lips
shall praise thee.
63:4 Fel hyn y’th glodforaf
yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
63:4 Thus will I bless thee while I live: I will lift up my
hands in thy name.
63:5 Megis â mer ac â braster
y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar
63:5 My soul shall be satisfied as with marrow and fatness;
and my mouth shall praise thee with joyful lips:
63:6 Pan y’th gofiwyf ar fy
ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
63:6 When I remember thee upon my bed, and meditate on thee
in the night watches.
63:7 Canys buost gynhorthwy i
mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
63:7 Because thou hast been my help, therefore in the shadow
of thy wings will I rejoice.
63:8 Fy enaid a lŷn
wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.
63:8 My soul followeth hard after thee: thy right hand
upholdeth me.
63:9 Ond y rhai a geisiant fy
enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
63:9 But those that seek my soul, to destroy it, shall go
into the lower parts of the earth.
63:10 Syrthiant ar fin y
cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
63:10 They shall fall by the sword: they shall be a portion
for foxes.
63:11 Ond y Brenin a
lawenycha yn NUW: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a
ddywedant gelwydd.
63:11 But the king shall rejoice in God; every one that
sweareth by him shall glory: but the mouth of them that speak lies shall be
stopped.
SALM 64
64:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Clyw
fy llef, O DDUW, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
64:1 To the chief Musician, A Psalm of David. Hear my voice, O God, in my prayer:
preserve my life from fear of the enemy.
64:2 Cudd fi rhag cyfrinach y
rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
64:2 Hide me from the secret counsel of the wicked; from the
insurrection of the workers of iniquity:
64:3 Y rhai a hogant eu tafod
fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
64:3 Who whet their tongue like a sword, and bend their bows
to shoot their arrows, even bitter words:
64:4 I saethu y perffaith yn
ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
64:4 That they may shoot in secret at the perfect: suddenly
do they shoot at him, and fear not.
64:5 Ymwrolant mewn peth
drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl
hwynt?
64:5 They encourage themselves in an evil matter: they
commune of laying snares privily; they say, Who shall see them?
64:6 Chwiliant allan
anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd
ddofn.
64:6 They search out iniquities; they accomplish a diligent
search: both the inward thought of every one of them, and the heart, is deep.
64:7 Eithr DUW a’u saetha
hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
64:7 But God shall shoot at them with an arrow; suddenly
shall they be wounded.
64:8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau
eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia.
64:8 So they shall make their own tongue to fall upon
themselves: all that see them shall flee away.
64:9 A phob dyn a ofna, ac a
fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.
64:9 And all men shall fear, and shall declare the work of
God; for they shall wisely consider of his doing.
64:10 Y cyfiawn a lawenycha
yn yr ARGLWYDD, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
64:10 The righteous shall be glad in the LORD, and shall trust
in him; and all the upright in heart shall glory.
SALM 65
65:1 I’r Pencerdd, Salm a Chân
Dafydd. Mawl a’th erys di yn Seion, O DDUW: ac i ti y telir yr adduned.
65:1 To the chief Musician, A Psalm and Song of David. Praise waiteth for thee, O God, in
Sion: and unto thee shall the vow be performed.
65:2 Ti yw yr hwn a wrandewi
weddi, atat ti y daw pob cnawd.
65:2 O thou that hearest prayer, unto thee shall all flesh
come.
65:3 Pethau anwir a’m
gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.
65:3 Iniquities prevail against me: as for our
transgressions, thou shalt purge them away.
65:4 Gwyn ei fyd yr hwn a
ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â
daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.
65:4 Blessed is the man whom thou choosest, and causest to
approach unto thee, that he may dwell in thy courts: we shall be satisfied with
the goodness of thy house, even of thy holy temple.
65:5 Atebi i ni trwy bethau
ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O DDUW ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y
ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr.
65:5 By terrible things in righteousness wilt thou answer us,
O God of our salvation; who art the confidence of all the ends of the earth,
and of them that are afar off upon the sea:
65:6 Yr hwn a sicrha y
mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.
65:6 Which by his strength setteth fast the mountains; being
girded with power:
65:7 Yr hwn a ostega dwrf y
moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.
65:7 Which stilleth the noise of the seas, the noise of their
waves, and the tumult of the people.
65:8 A phreswylwyr eithafoedd
y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.
65:8 They also that dwell in the uttermost parts are afraid
at thy tokens: thou makest the outgoings of the morning and evening to rejoice.
65:9 Yr wyt yn ymweled â’r
ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon
DUW, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan
ddarperaist felly iddi.
65:9 Thou visitest the earth, and waterest it: thou greatly
enrichest it with the river of God, which is full of water: thou preparest them
corn, when thou hast so provided for it.
65:10 Gan ddyfrhau ei
chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn
bendithio ei chnwd hi.
65:10 Thou waterest the ridges thereof abundantly: thou
settlest the furrows thereof: thou makest it soft with showers: thou blessest
the springing thereof.
65:11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn
â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster.
65:11 Thou crownest the year with thy goodness; and thy paths
drop fatness.
65:12 Diferant ar borfeydd yr
anialwch: a’r bryniau a ymwgregysant â hyfrydwch.
65:12 They drop upon the pastures of the wilderness: and the
little hills rejoice on every side.
65:13 Y dolydd a wisgir â
defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y
canant.
65:13 The pastures are clothed with flocks; the valleys also
are covered over with corn; they shout for joy, they also sing.
SALM 66
66:1 I’r Pencerdd, Cân neu Salm.
Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear:
66:1 To the chief Musician, A Song or Psalm. Make a joyful noise unto God, all ye
lands:
66:2 Datgenwch ogoniant ei
enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
66:2 Sing forth the honour of his name: make his praise
glorious.
66:3 Dywedwch wrth DDUW, Mor
ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion
arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.
66:3 Say unto God, How terrible art thou in thy works!
through the greatness of thy power shall thine enemies submit themselves unto
thee.
66:4 Yr holl ddaear a’th
addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.
66:4 All the earth shall worship thee, and shall sing unto
thee; they shall sing to thy name.
Selah.
66:5 Deuwch, a gwelwch
weithredoedd DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.
66:5 Come and see the works of God: he is terrible in his
doing toward the children of men.
66:6 Trodd efe y môr yn
sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.
66:6 He turned the sea into dry land: they went through the
flood on foot: there did we rejoice in him.
66:7 Efe a lywodraetha trwy
ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant at y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y
rhai anufudd. Sela.
66:7 He ruleth by his power for ever; his eyes behold the
nations: let not the rebellious exalt themselves. Selah.
66:8 O bobloedd, bendithiwch
ein DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef.
66:8 O bless our God, ye people, and make the voice of his
praise to be heard:
66:9 Yr hwn sydd yn gosod ein
henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro.
66:9 Which holdeth our soul in life, and suffereth not our
feet to be moved.
66:10 Canys profaist ni, O
DDUW: coethaist, fel coethi arian.
66:10 For thou, O God, hast proved us: thou hast tried us, as
silver is tried.
66:11 Dygaist ni i’r rhwyd:
gosodaist wasgfa at ein llwynau.
66:11 Thou broughtest us into the net; thou laidst affliction
upon our loins.
66:12 Peraist i ddynion
farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan
i le diwall.
66:12 Thou hast caused men to ride over our heads; we went
through fire and through water: but thou broughtest us out into a wealthy place.
66:13 Deuaf i’th dŷ ag
offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,
66:13 I will go into thy house with burnt offerings: I will
pay thee my vows,
66:14 Y rhai a adroddodd fy
ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
66:14 Which my lips have uttered, and my mouth hath spoken,
when I was in trouble.
66:15 Offrymaf i ti
boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod.
Sela.
66:15 I will offer unto thee burnt sacrifices of fatlings,
with the incense of rams; I will offer bullocks with goats. Selah.
66:16 Deuwch, gwrandewch, y
rhai oll a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid.
66:16 Come and hear, all ye that fear God, and I will declare
what he hath done for my soul.
66:17 Llefais arno â’m genau,
ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.
66:17 I cried unto him with my mouth, and he was extolled with
my tongue.
66:18 Pe edrychaswn ar
anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.
66:18 If I regard iniquity in my heart, the Lord will not hear
me:
66:19 DUW yn ddiau a glybu,
ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi
66:19 But verily God hath heard me; he hath attended to the
voice of my prayer.
66:20 Bendigedig fyddo DUW,
yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.
66:20 Blessed be God, which hath not turned away my prayer,
nor his mercy from me.
SALM 67
ç67:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm
neu Gân. DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom:
Sela:
67:1 To the chief Musician on Neginoth, A Psalm or Song. God be merciful unto us, and bless
us; and cause his face to shine upon us; Selah.
67:2 Fel yr adwaener dy
ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.
67:2 That thy way may be known upon earth, thy saving health
among all nations.
67:3 Molianned y bobl di, O
DDUW; molianned yr holl bobl dydi.
67:3 Let the people praise thee, O God; let all the people
praise thee.
67:4 Llawenhaed y
cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a
lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
67:4 O let the nations be glad and sing for joy: for thou
shalt judge the people righteously, and govern the nations upon earth. Selah.
67:5 Molianned y bobl di, O
DDUW; molianned yr holl bobl dydi.
67:5 Let the people praise thee, O God; let all the people
praise thee.
67:6 Yna y ddaear a rydd ei
ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.
67:6 Then shall the earth yield her increase; and God, even
our own God, shall bless us.
67:7 DUW a’n bendithia; a holl
derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
67:7 God shall bless us; and all the ends of the earth shall
fear him.
SALM 68
68:1 I’r Pencerdd, Salm neu Gân
Dafydd. Cyfoded DUW, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef.
68:1 To the chief Musician, A Psalm or Song of David. Let God arise, let his enemies be
scattered: let them also that hate him flee before him.
68:2 Chweli hwynt fel chwalu
mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen DUW.
68:2 As smoke is driven away, so drive them away: as wax
melteth before the fire, so let the wicked perish at the presence of God.
68:3 Ond llawenycher y rhai
cyfiawn, a gorfoleddant gerbron DUW; a byddant hyfryd o lawenydd.
68:3 But let the righteous be glad; let them rejoice before
God: yea, let them exceedingly rejoice.
68:4 Cenwch i DDUW, canmolwch
ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a
gorfoleddwch ger ei fron ef.
68:4 Sing unto God, sing praises to his name: extol him that
rideth upon the heavens by his name JAH, and rejoice before him.
68:5 Tad yr amddifaid, a
Barnwr y gweddwon, yw DUW, yn ei breswylfa sanctaidd.
68:5 A father of the fatherless, and a judge of the widows,
is God in his holy habitation.
68:6 DUW sydd yn gosod yr
unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai
cyndyn a breswyliant grastir.
68:6 God setteth the solitary in families: he bringeth out
those which are bound with chains: but the rebellious dwell in a dry land .
68:7 Pan aethost, O DDUW, O
flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:
68:7 O God, when thou wentest forth before thy people, when
thou didst march through the wilderness; Selah:
68:8 Y ddaear a grynodd, a’r
nefoedd a ddiferasant o flaen DUW: Sinai yntau a grynodd o flaen DUW, sef DUW
Israel.
68:8 The earth shook, the heavens also dropped at the
presence of God: even Sinai itself was moved at the presence of God, the God of
Israel.
68:9 Dihidlaist law graslon,
O DDUW, at dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino.
68:9 Thou, O God, didst send a plentiful rain, whereby thou
didst confirm thine inheritance, when it was weary.
68:10 Dy gynulleidfa di sydd
yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O DDUW, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
68:10 Thy congregation hath dwelt therein: thou, O God, hast
prepared of thy goodness for the poor.
68:11 Yr ARGLWYDD a roddes y
gair; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent.
68:11 The Lord gave the word: great was the company of those
that published it .
68:12 Brenhinoedd byddinog a
ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, rannodd yr ysbail.
68:12 Kings of armies did flee apace: and she that tarried at
home divided the spoil.
68:13 Er gorwedd ohonoch
ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i
hadenydd ag aur melyn.
68:13 Though ye have lien among the pots, yet shall ye be as
the wings of a dove covered with silver, and her feathers with yellow gold.
68:14 Pan wasgarodd yr
Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.
68:14 When the Almighty scattered kings in it, it was white as
snow in Salmon.
68:15 Mynydd DUW sydd fel
mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
68:15 The hill of God is as the hill of Bashan; an high hill
as the hill of Bashan.
68:16 Paham y llemwch, chwi
fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd DUW ei breswylio; ie, preswylia
yr ARGLWYDD ynddo byth.
68:16 Why leap ye, ye high hills? this is the hill which God
desireth to dwell in; yea, the LORD will dwell in it for ever.
68:17 Cerbydau DUW ydynt
ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai
yn y cysegr.
68:17 The chariots of God are twenty thousand, even thousands
of angels: the Lord is among them, as in Sinai, in the holy place .
68:18 Dyrchefaist i’r
uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai
cyndyn hefyd, fel yr ARGLWYDD DDUW yn eu plith.
68:18 Thou hast ascended on high, thou hast led captivity
captive: thou hast received gifts for men; yea, for the rebellious also, that
the LORD God might dwell among them .
68:19 Bendigedig fyddo yr
Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef DUW ein hiachawdwriaeth.
Sela.
68:19 Blessed be the Lord, who daily loadeth us with benefits,
even the God of our salvation. Selah.
68:20 Ein DUW ni sydd DDUW
iachawdwriaeth; ac i’r ARGLWYDD DDUW y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
68:20 He that is our God is the God of salvation; and unto GOD
the Lord belong the issues from death.
68:21 DUW yn ddiau a archolla
ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
68:21 But God shall wound the head of his enemies, and the
hairy scalp of such an one as goeth on still in his trespasses.
68:22 Dywedodd yr Arglwydd,
Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;
68:22 The Lord said, I will bring again from Bashan, I will
bring my people again from the depths of the sea:
68:23 Fel y trocher dy droed
yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.
68:23 That thy foot may be dipped in the blood of thine
enemies, and the tongue of thy dogs in the same.
68:24 Gwelsant dy fynediad, O
DDUW; mynediad fy NUW, fy Mrenin, yn y cysegr.
68:24 They have seen thy goings, O God; even the goings of my
God, my King, in the sanctuary.
68:25 Y cantorion a
aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu
tympanau.
68:25 The singers went before, the players on instruments
followed after; among them were the damsels playing with timbrels.
68:26 Bendithiwch DDUW yn y
cynlleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.
68:26 Bless ye God in the congregations, even the Lord, from
the fountain of Israel.
68:27 Yno y mae Benjamin fychan
â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion
Nafftali.
68:27 There is little Benjamin with their ruler, the princes
of Judah and their council, the princes of Zebulun, and the princes of Naphtali.
68:28 Dy DDUW a orchmynnodd
dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni.
68:28 Thy God hath commanded thy strength: strengthen, O God,
that which thou hast wrought for us.
68:29 Brenhinoedd a ddygant i
ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.
68:29 Because of thy temple at Jerusalem shall kings bring
presents unto thee.
68:30 Cerydda dyrfa y
gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn
ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.
68:30 Rebuke the company of spearmen, the multitude of the
bulls, with the calves of the people, till every one submit himself with pieces
of silver: scatter thou the people that delight in war.
68:31 Pendefigion a ddeuant
o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at DDUW.
68:31 Princes shall come out of Egypt; Ethiopia shall soon
stretch out her hands unto God.
68:32 Teyrnasoedd y ddaear,
cenwch i DDUW; canmolwch yr Arglwydd: Sela:
68:32 Sing unto God, ye kingdoms of the earth; O sing praises
unto the Lord; Selah:
68:33 Yr hwn a ferchyg ar nef
y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef
nerthol.
68:33 To him that rideth upon the heavens of heavens, which
were of old; lo, he doth send out his voice, and that a mighty voice.
68:34 Rhoddwch i DDUW
gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau.
68:34 Ascribe ye strength unto God: his excellency is over
Israel, and his strength is in the clouds.
68:35 Ofnadwy wyt, O DDUW,
o’th gysegr: DUW Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl.
Bendigedig fyddo DUW.
68:35 O God, thou art terrible out of thy holy places: the God
of Israel is he that giveth strength and power unto his people. Blessed be God.
SALM 69
69:1 I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm
Dafydd. Achub fi, O DDUW, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
69:1 To the chief Musician upon Shoshannim, A Psalm of David. Save me, O God; for the waters are
come in unto my soul.
69:2 Soddais mewn tom dwfn,
lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.
69:2 I sink in deep mire, where there is no standing: I am
come into deep waters, where the floods overflow me.
69:3 Blinais yn llefain,
sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy NUW.
69:3 I am weary of my crying: my throat is dried: mine eyes
fail while I wait for my God.
69:4 Amlach na gwallt fy mhen
yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m
difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.
69:4 They that hate me without a cause are more than the
hairs of mine head: they that would destroy me, being mine enemies wrongfully,
are mighty: then I restored that which I took not away.
69:5 O DDUW, ti a adwaenost
fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
69:5 O God, thou knowest my foolishness; and my sins are not
hid from thee.
69:6 Na chywilyddier o’m
plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder
o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O DDUW Israel.
69:6 Let not them that wait on thee, O Lord GOD of hosts, be
ashamed for my sake: let not those that seek thee be confounded for my sake, O
God of Israel.
69:7 Canys er dy fwyn di y
dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.
69:7 Because for thy sake I have borne reproach; shame hath
covered my face.
69:8 Euthum yn ddieithr i’m
brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.
69:8 I am become a stranger unto my brethren, and an alien
unto my mother’s children.
69:9 Canys sêl dy dŷ a’m
hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.
69:9 For the zeal of thine house hath eaten me up; and the
reproaches of them that reproached thee are fallen upon me.
69:10 Pan wylais, gan
gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.
69:10 When I wept, and chastened my soul with fasting, that
was to my reproach.
69:11 Gwisgais hefyd
sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.
69:11 I made sackcloth also my garment; and I became a proverb
to them.
69:12 Yn fy erbyn y
chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.
69:12 They that sit in the gate speak against me; and I was
the song of the drunkards.
69:13 Ond myfi, fy ngweddi
sydd atat ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy
drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
69:13 But as for me, my prayer is unto thee, O LORD, in an
acceptable time: O God, in the multitude of thy mercy hear me, in the truth of
thy salvation.
69:14 Gwared fi o’r dom, ac
na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.
69:14 Deliver me out of the mire, and let me not sink: let me
be delivered from them that hate me, and out of the deep waters.
69:15 Na lifed y ffrwd ddwfr
drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
69:15 Let not the waterflood overflow me, neither let the deep
swallow me up, and let not the pit shut her mouth upon me.
69:16 Clyw fi, ARGLWYDD;
canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
69:16 Hear me, O LORD; for thy lovingkindness is good: turn
unto me according to the multitude of thy tender mercies.
69:17 Ac na chuddia dy wyneb
oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.
69:17 And hide not thy face from thy servant; for I am in
trouble: hear me speedily.
69:18 Nesâ at fy enaid, a
gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.
69:18 Draw nigh unto my soul, and redeem it: deliver me
because of mine enemies.
69:19 Ti a adwaenost fy
ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron
di.
69:19 Thou hast known my reproach, and my shame, and my
dishonour: mine adversaries are all before thee.
69:20 Gwarthrudd a dorrodd fy
nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid
oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.
69:20 Reproach hath broken my heart; and I am full of
heaviness: and I looked for some to take pity, but there was none; and for
comforters, but I found none.
69:21 Rhoddasant hefyd fustl
yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr.
69:21 They gave me also gall for my meat; and in my thirst
they gave me vinegar to drink.
69:22 Bydded eu bwrdd yn fagl
ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd.
69:22 Let their table become a snare before them: and that
which should have been for their welfare, let it become a trap.
69:23 Tywyller eu llygaid,
fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser.
69:23 Let their eyes be darkened, that they see not; and make their
loins continually to shake.
69:24 Tywallt dy ddig arnynt;
a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
69:24 Pour out thine indignation upon them, and let thy
wrathful anger take hold of them.
69:25 Bydded eu preswylfod yn
anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
69:25 Let their habitation be desolate; and let none dwell in
their tents.
69:26 Canys erlidiasant yr
hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.
69:26 For they persecute him whom thou hast smitten; and they
talk to the grief of those whom thou hast wounded.
69:27 Dod ti anwiredd at eu
hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di.
69:27 Add iniquity unto their iniquity: and let them not come
into thy righteousness.
69:28 Dileer hwynt o lyfr y
rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn.
69:28 Let them be blotted out of the book of the living, and
not be written with the righteous.
69:29 Minnau, truan a gofidus
ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O DDUW, a’m dyrchafo.
69:29 But I am poor and sorrowful: let thy salvation, O God,
set me up on high.
69:30 Moliannaf enw DUW ar
gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
69:30 I will praise the name of God with a song, and will
magnify him with thanksgiving.
69:31 A hyn fydd well gan yr
ARGLWYDD nag ych neu fustach corniog, carnol.
69:31 This also shall please the LORD better than an ox or
bullock that hath horns and hoofs.
69:32 Y trueiniaid a
lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch DDUW, a fydd
byw.
69:32 The humble shall see this, and be glad: and your heart
shall live that seek God.
69:33 Canys gwrendy yr
ARGLWYDD ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
69:33 For the LORD heareth the poor, and despiseth not his
prisoners.
69:34 Nefoedd a daear, y môr
a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.
69:34 Let the heaven and earth praise him, the seas, and every
thing that moveth therein.
69:35 Canys DUW a achub
Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
69:35 For God will save Zion, and will build the cities of
Judah: that they may dwell there, and have it in possession.
69:36 A hiliogaeth ei weision
a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
69:36 The seed also of his servants shall inherit it: and they
that love his name shall dwell therein.
SALM 70
70:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd i
goffa. O DDUW, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
70:1 To the chief Musician, A Psalm of David, to bring to
remembrance. Make haste, O God, to deliver
me; make haste to help me, O LORD.
70:2 Cywilyddier a
gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai
a ewyllysiant ddrwg i mi.
70:2 Let them be ashamed and confounded that seek after my
soul: let them be turned backward, and put to confusion, that desire my hurt.
70:3 Datroer yn lle
gwobr am eu cywilydd y rhai a ddywedant, Ha, ha.
70:3 Let them be turned back for a reward of their shame that
say, Aha, aha.
70:4 Llawenyched, a
gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy
iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. i
70:4 Let all those that seek thee rejoice and be glad in
thee: and let such as love thy salvation say continually, Let God be magnified.
70:5 Minnau ydwyf dlawd ac
anghenus; O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD;
na hir drig.
70:5 But I am poor and needy: make haste unto me, O God: thou
art my help and my deliverer; O LORD, make no tarrying.
SALM 71
71:1 Ynot ti, O ARGLWYDD, y
gobeithiais; na’m cywilyddier byth.
71:1 In thee, O LORD, do I put my trust: let me never be put
to confusion.
71:2 Achub fi, a gwared fi yn
dy iawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.
71:2 Deliver me in thy righteousness, and cause me to escape:
incline thine ear unto me, and save me.
71:3 Bydd i mi yn drigfa
gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig
a’m hamddiffynfa.
71:3 Be thou my strong habitation, whereunto I may
continually resort: thou hast given commandment to save me; for thou art my
rock and my fortress.
71:4 Gwared fi, O fy NUW, o
law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws.
71:4 Deliver me, O my God, out of the hand of the wicked, out
of the hand of the unrighteous and cruel man.
71:5 Canys ti yw fy ngobaith,
O Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid.
71:5 For thou art my hope, O Lord GOD: thou art my trust from
my youth.
71:6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd
o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
71:6 By thee have I been holden up from the womb: thou art he
that took me out of my mother’s bowels: my praise shall be continually of thee.
71:7 Oeddwn i lawer megis yn
rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
71:7 I am as a wonder unto many; but thou art my strong refuge.
71:8 Llanwer fy ngenau â’th
foliant, ac â’th ogoniant beunydd.
71:8 Let my mouth be filled with thy praise and with thy
honour all the day.
71:9 Na fwrw fi ymaith yn
amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
71:9 Cast me not off in the time of old age; forsake me not
when my strength faileth.
71:10 Canys fy ngelynion sydd
yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,
71:10 For mine enemies speak against me; and they that lay
wait for my soul take counsel together,
71:11 Gan ddywedyd, DUW a’i
gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
71:11 Saying, God hath forsaken him: persecute and take him;
for there is none to deliver him .
71:12 O DDUW, na fydd bell oddi
wrthyf: fy NUW, brysia i’m cymorth.
71:12 O God, be not far from me: O my God, make haste for my
help.
71:13 Cywilyddier a difether
y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a
geisiant ddrwg i mi.
71:13 Let them be confounded and consumed that are adversaries
to my soul; let them be covered with reproach and dishonour that seek my hurt.
71:14 Minnau a obeithiaf yn
wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy.
71:14 But I will hope continually, and will yet praise thee more
and more.
71:15 Fy ngenau a fynega dy
gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.
71:15 My mouth shall show forth thy righteousness and thy
salvation all the day; for I know not the numbers thereof .
71:16 Yng nghadernid yr
Arglwydd DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
71:16 I will go in the strength of the Lord GOD: I will make
mention of thy righteousness, even of thine only.
71:17 O’m hieuenctid y’m
dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
71:17 O God, thou hast taught me from my youth: and hitherto
have I declared thy wondrous works.
71:18 Na wrthod fi chwaith, O
DDUW, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth
hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.
71:18 Now also when I am old and greyheaded, O God, forsake me
not; until I have showed thy strength unto this generation, and thy power to
every one that is to come.
71:19 Dy gyfiawnder hefyd, O
DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i
ti?
71:19 Thy righteousness also, O God, is very high, who hast
done great things: O God, who is like unto thee!
71:20 Ti, yr hwn a wnaethost
i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei ac a’m cyfodi drachefn o
orddyfnder y ddaear.
71:20 Thou, which hast showed me great and sore troubles,
shalt quicken me again, and shalt bring me up again from the depths of the
earth.
71:21 Amlhei fy mawredd, ac
a’m cysuri oddi amgylch.
71:21 Thou shalt increase my greatness, and comfort me on
every side.
71:22 Minnau a’th foliannaf
ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy NUW: canaf i ti â’r delyn, O Sanct
Israel.
71:22 I will also praise thee with the psaltery, even thy
truth, O my God: unto thee will I sing with the harp, O thou Holy One of Israel.
71:23 Fy ngwefusau a fyddant
hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist.
71:23 My lips shall greatly rejoice when I sing unto thee; and
my soul, which thou hast redeemed.
71:24 Fy nhafod hefyd a
draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a
geisiant niwed i mi.
71:24 My tongue also shall talk of thy righteousness all the
day long: for they are confounded, for they are brought unto shame, that seek
my hurt.
SALM 72
72:1 Salm i Solomon. O DDUW, dod i’r
Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.
72:1 A Psalm for Solomon.
Give the king thy judgments, O God, and thy righteousness unto the king’s son.
72:2 Efe a farn dy bobl mewn
cyfiawnder,a’th drueiniaid â barn.
72:2 He shall judge thy people with righteousness, and thy
poor with judgment.
72:3 Y mynyddoedd a ddygant
heddwchi’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder
72:3 The mountains shall bring peace to the people, and the
little hills, by righteousness.
72:4 Efe a farn, drueiniaid y
bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.
72:4 He shall judge the poor of the people, he shall save the
children of the needy, and shall break in pieces the oppressor.
72:5 Tra fyddo haul a
lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd.
72:5 They shall fear thee as long as the sun and moon endure,
throughout all generations.
72:6 Efe a ddisgyn fel glaw
ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
72:6 He shall come down like rain upon the mown grass: as
showers that water the earth.
72:7 Yn ei ddyddiau ef y
blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
72:7 In his days shall the righteous flourish; and abundance
of peace so long as the moon endureth.
72:8 Ac efe a lywodraetha o
fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.
72:8 He shall have dominion also from sea to sea, and from
the river unto the ends of the earth.
72:9 O’i flaen ef yr ymgryma
trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.
72:9 They that dwell in the wilderness shall bow before him;
and his enemies shall lick the dust.
72:10 Brenhinoedd Tarsis a’r
ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.
72:10 The kings of Tarshish and of the isles shall bring
presents: the kings of Sheba and Seba shall offer gifts.
72:11 Ie, yr holl frenhinoedd
a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.
72:11 Yea, all kings shall fall down before him: all nations
shall serve him.
72:12 Canys efe a wared yr
anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.
72:12 For he shall deliver the needy when he crieth; the poor
also, and him that hath no helper.
72:13 Efe a arbed y tlawd a’r
rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
72:13 He shall spare the poor and needy, and shall save the
souls of the needy.
72:14 Efe a wared eu henaid
oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
72:14 He shall redeem their soul from deceit and violence: and
precious shall their blood be in his sight.
72:15 Byw hefyd fydd efe, a
rhoddir iddo aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir
ef.
72:15 And he shall live, and to him shall be given of the gold
of Sheba: prayer also shall be made for him continually; and daily shall he be
praised.
72:16 Bydd dyrnaid o ŷd
ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y
ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.
72:16 There shall be an handful of corn in the earth upon the
top of the mountains; the fruit thereof shall shake like Lebanon: and they of
the city shall flourish like grass of the earth.
72:17 Ei enw fydd yn
dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl
genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig.
72:17 His name shall endure for ever: his name shall be continued
as long as the sun: and men shall be blessed in him: all nations shall call him
blessed.
72:18 Bendigedig fyddo yr
ARGLWYDD DDUW, DUW Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
72:18 Blessed be the LORD God, the God of Israel, who only
doeth wondrous things.
72:19 Bendigedig hefyd fyddo
ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen,
ac Amen.
72:19 And blessed be his glorious name for ever: and let the
whole earth be filled with his glory; Amen, and Amen.
72:20 Gorffen gweddïau Dafydd
mab Jesse.
72:20 The prayers of David the son of Jesse are ended.
SALM 73
73:1 Salm Asaff. Yn ddiau da yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o
galon.
73:1 A Psalm of Asaph.
Truly God is good to Israel, even to such as are of a clean heart.
73:2 Minnau, braidd na
lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.
73:2 But as for me, my feet were almost gone; my steps had
well nigh slipped.
73:3 Canys cenfigennais wrth
y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
73:3 For I was envious at the foolish, when I saw the
prosperity of the wicked.
73:4 Canys nid oes rhwymau yn
eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini.
73:4 For there are no bands in their death: but their
strength is firm.
73:5 Nid ydynt mewn blinder
fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.
73:5 They are not in trouble as other men; neither are they
plagued like other men.
73:6 Am hynny y cadwynodd
balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.
73:6 Therefore pride compasseth them about as a chain;
violence covereth them as a garment.
73:7 Eu llygaid a saif allan
gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.
73:7 Their eyes stand out with fatness: they have more than
heart could wish.
73:8 Y maent wedi llygru, yn
chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.
73:8 They are corrupt, and speak wickedly concerning
oppression: they speak loftily.
73:9 Gosodasant eu
genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear.
73:9 They set their mouth against the heavens, and their
tongue walketh through the earth.
73:10 Am hynny y dychwel ei
bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.
73:10 Therefore his people return hither: and waters of a full
cup are wrung out to them.
73:11 Dywedant hefyd, Pa fodd
y gŵyr DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
73:11 And they say, How doth God know? and is there knowledge
in the most High?
73:12 Wele, dyma y rhai
annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.
73:12 Behold, these are the ungodly, who prosper in the world;
they increase in riches.
73:13 Diau mai yn ofer y
glanheais fy nghalon, ac y golchiais fy nwylo mewn diniweidrwydd.
73:13 Verily I have cleansed my heart in vain, and washed my
hands in innocency.
73:14 Canys ar hyd y dydd y’m
maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.
73:14 For all the day long have I been plagued, and chastened
every morning.
73:15 Os dywedwn, Mynegaf fel
hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
73:15 If I say, I will speak thus; behold, I should offend
against the generation of thy children.
73:16 Pan amcenais wybod hyn,
blin oedd hynny yn fy ngolwg i;
73:16 When I thought to know this, it was too painful for me;
73:17 Hyd onid euthum i
gysegr DUW: yna y deellais eu diwedd hwynt.
73:17 Until I went into the sanctuary of God; then understood
I their end.
73:18 Diau osod ohonot hwynt
mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.
73:18 Surely thou didst set them in slippery places: thou
castedst them down into destruction.
73:19 Mor ddisymwth yr
aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.
73:19 How are they brought into desolation, as in a moment!
they are utterly consumed with terrors.
73:20 Fel breuddwyd wrth
ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, dirmygi eu gwedd hwynt.
73:20 As a dream when one awaketh; so, O Lord, when thou
awakest, thou shalt despise their image.
73:21 Fel hyn y gofidiodd fy
nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau.
73:21 Thus my heart was grieved, and I was pricked in my reins.
73:22 Mor ynfyd oeddwn, ac
heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di.
73:22 So foolish was I, and ignorant: I was as a beast before
thee.
73:23 Eto yr ydwyf yn wastad
gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.
73:23 Nevertheless I am continually with thee: thou hast
holden me by my right hand.
73:24 A’th gyngor y’m
harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant.
73:24 Thou shalt guide me with thy counsel, and afterward
receive me to glory.
73:25 Pwy sydd gennyf fi yn y
nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais at y ddaear neb gyda thydi.
73:25 Whom have I in heaven but thee? and there is none upon
earth that I desire beside thee.
73:26 Pallodd fy nghnawd a’m
calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.
73:26 My flesh and my heart faileth: but God is the strength
of my heart, and my portion for ever.
73:27 Canys wele, difethir y
rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.
73:27 For, lo, they that are far from thee shall perish: thou hast
destroyed all them that go a whoring from thee.
73:28 Minnau, nesáu at DDUW
sydd i mi: yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl
weithredoedd.
73:28 But it is good for me to draw near to God: I have put my
trust in the Lord GOD, that I may declare all thy works.
SALM 74
74:1 Maschil Asaff. Paham, DDUW, y’n
bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
74:1 Maschil of Asaph.
O God, why hast thou cast us off for ever? why doth thine anger smoke against
the sheep of thy pasture?
74:2 Cofia dy gynulleidfa, yr
hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion
hwn, y preswyli ynddo.
74:2 Remember thy congregation, which thou hast purchased of
old; the rod of thine inheritance, which thou hast redeemed; this mount Zion,
wherein thou hast dwelt.
74:3 Dyrcha dy draed at
anrhaith dragywyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.
74:3 Lift up thy feet unto the perpetual desolations; even
all that the enemy hath done wickedly in the sanctuary.
74:4 Dy elynion a ruasant yng
nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.
74:4 Thine enemies roar in the midst of thy congregations;
they set up their ensigns for signs.
74:5 Hynod oedd gŵr, fel
y codasai fwyell mewn drysgoed.
74:5 A man was famous according as he had lifted up axes upon
the thick trees.
74:6 Ond yn awr y maent yn
dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac morthwylion.
74:6 But now they break down the carved work thereof at once
with axes and hammers.
74:7 Bwriasant dy gysegroedd
yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.
74:7 They have cast fire into thy sanctuary, they have
defiled by casting down the dwelling place of thy name to the ground.
74:8 Dywedasant yn eu
calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir.
74:8 They said in their hearts, Let us destroy them together:
they have burned up all the synagogues of God in the land.
74:9 Ni welwn ein harwyddion:
nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
74:9 We see not our signs: there is no more any prophet:
neither is there among us any that knoweth how long.
74:10 Pa hyd, DDUW, y
gwarthrudda y gwrthwynebwyr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
74:10 O God, how long shall the adversary reproach? shall the
enemy blaspheme thy name for ever?
74:11 Paham y tynni yn ei hôl
dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
74:11 Why withdrawest thou thy hand, even thy right hand?
pluck it out of thy bosom.
74:12 Canys DUW yw fy Mrenin
o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
74:12 For God is my King of old, working salvation in the
midst of the earth.
74:13 Ti yn dy nerth a
berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
74:13 Thou didst divide the sea by thy strength: thou brakest
the heads of the dragons in the waters.
74:14 Ti a ddrylliaist ben
lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.
74:14 Thou brakest the heads of leviathan in pieces, and gavest
him to be meat to the people inhabiting the wilderness.
74:15 Ti a holltaist y
ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
74:15 Thou didst cleave the fountain and the flood: thou
driedst up mighty rivers.
74:16 Y dydd sydd eiddot ti,
y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
74:16 The day is thine, the night also is thine: thou hast
prepared the light and the sun.
74:17 Ti a osodaist holl
derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
74:17 Thou hast set all the borders of the earth: thou hast
made summer and winter.
74:18 Cofia hyn, i’r gelyn
gablu, O ARGLWYDD, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
74:18 Remember this, that the enemy hath reproached, O LORD,
and that the foolish people have blasphemed thy name.
74:19 Na ddyro enaid dy
durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.
74:19 O deliver not the soul of thy turtledove unto the
multitude of the wicked: forget not the congregation of thy poor for ever.
74:20 Edrych ar y cyfamod:
canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.
74:20 Have respect unto the covenant: for the dark places of
the earth are full of the habitations of cruelty.
74:21 Na ddychweled y tlawd
yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.
74:21 O let not the oppressed return ashamed: let the poor and
needy praise thy name.
74:22 Cyfod, O DDUW, dadlau
dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.
74:22 Arise, O God, plead thine own cause: remember how the
foolish man reproacheth thee daily.
74:23 Nac anghofia lais dy
elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
74:23 Forget not the voice of thine enemies: the tumult of
those that rise up against thee increaseth continually.
SALM 75
75:1 I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm
neu Gân Asaff. Clodforwn dydi, O DDUW, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy
ryfeddodau a fynegant hynny.
75:1 To the chief Musician, Altaschith, A Psalm or Song of
Asaph. Unto thee, O God, do we give
thanks, unto thee do we give thanks: for that thy name is near thy wondrous
works declare.
75:2 Pan dderbyniaf y
gynulleidfa, mi a farnaf yn gyfiawn.
75:2 When I shall receive the congregation I will judge
uprightly.
75:3 Ymddatadodd y ddaear,
a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.
75:3 The earth and all the inhabitants thereof are dissolved:
I bear up the pillars of it. Selah.
75:4 Dywedais wrth y rhai
ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
75:4 I said unto the fools, Deal not foolishly: and to the
wicked, Lift not up the horn:
75:5 Na ddyrchefwch eich corn
yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.
75:5 Lift not up your horn on high: speak not with a stiff
neck.
75:6 Canys nid o’r dwyrain, nac
o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.
75:6 For promotion cometh neither from the east, nor from the
west, nor from the south.
75:7 Ond DUW sydd yn barnu;
efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
75:7 But God is the judge: he putteth down one, and setteth
up another.
75:8 Oblegid y mae ffiol yn
llaw yr ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd
ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
75:8 For in the hand of the LORD there is a cup, and the wine
is red; it is full of mixture; and he poureth out of the same: but the dregs
thereof, all the wicked of the earth shall wring them out, and drink them .
75:9 Minnau a fynegaf yn
dragywydd, ac a ganaf i DDUW Jacob.
75:9 But I will declare for ever; I will sing praises to the
God of Jacob.
75:10 Torraf hefyd holl gyrn
y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
75:10 All the horns of the wicked also will I cut off; but the
horns of the righteous shall be exalted.
SALM 76
76:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm
neu Gân Asaff. Hynod yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.
76:1 To the chief Musician on Neginoth, A Psalm or Song of
Asaph. In Judah is God known: his
name is great in Israel.
76:2 Ei babell hefyd sydd yn
Salem, a’i drigfa yn Seion.
76:2 In Salem also is his tabernacle, and his dwelling place
in Zion.
76:3 Yna y torrodd
efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.
76:3 There brake he the arrows of the bow, the shield, and
the sword, and the battle. Selah.
76:4 Gogoneddusach wyt a
chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.
76:4 Thou art more glorious and excellent than the mountains
of prey.
76:5 Ysbeiliwyd y cedyrn
galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.
76:5 The stouthearted are spoiled, they have slept their
sleep: and none of the men of might have found their hands.
76:6 Gan dy gerydd di, O DDUW
Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.
76:6 At thy rebuke, O God of Jacob, both the chariot and
horse are cast into a dead sleep.
76:7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy;
a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?
76:7 Thou, even thou, art to be feared: and who may stand in
thy sight when once thou art angry?
76:8 O’r nefoedd y peraist
glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,
76:8 Thou didst cause judgment to be heard from heaven; the
earth feared, and was still,
76:9 Pan gyfododd DUW i farn,
i achub holl rai llednais y tir. Sela.
76:9 When God arose to judgment, to save all the meek of the
earth. Selah.
76:10 Diau cynddaredd dyn
a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.
76:10 Surely the wrath of man shall praise thee: the remainder
of wrath shalt thou restrain.
76:11 Addunedwch, a thelwch
i’r ARGLWYDD eich DUW: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r
ofnadwy.
76:11 Vow, and pay unto the LORD your God: let all that be
round about him bring presents unto him that ought to be feared.
76:12 Efe a dyr ymaith ysbryd
tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
76:12 He shall cut off the spirit of princes: he is terrible
to the kings of the earth.
SALM 77
77:1 I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm
Asaff. A’m llef y gwaeddais ar DDUW, â’m nef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd.
77:1 To the chief Musician, to Jeduthun, A Psalm of Asaph. I cried unto God with my voice, even
unto God with my voice; and he gave ear unto me.
77:2 Yn nydd fy nhrallod y
ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a
wrthododd ei ddiddanu.
77:2 In the day of my trouble I sought the Lord: my sore ran
in the night, and ceased not: my soul refused to be comforted.
77:3 Cofiais DDUW, ac a’m
cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.
77:3 I remembered God, and was troubled: I complained, and my
spirit was overwhelmed. Selah.
77:4 Deliaist fy llygaid yn
neffro: synodd arnaf, fel na allaf lefaru.
77:4 Thou holdest mine eyes waking: I am so troubled that I
cannot speak.
77:5 Ystyriais y dyddiau
gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.
77:5 I have considered the days of old, the years of ancient
times.
77:6 Cofio yr ydwyf fy nghân
y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.
77:6 I call to remembrance my song in the night: I commune
with mine own heart: and my spirit made diligent search.
77:7 Ai yn dragywydd y bwrw
yr ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?
77:7 Will the Lord cast off for ever? and will he be
favourable no more?
77:8 A ddarfu ei drugaredd ef
dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
77:8 Is his mercy clean gone for ever? doth his promise fail
for evermore?
77:9 A anghofiodd DUW
drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.
77:9 Hath God forgotten to be gracious? hath he in anger shut
up his tender mercies? Selah.
77:10 A dywedais, Dyma fy
ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.
77:10 And I said, This is my infirmity: but I will remember
the years of the right hand of the most High.
77:11 Cofiaf weithredoedd yr
ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.
77:11 I will remember the works of the LORD: surely I will
remember thy wonders of old.
77:12 Myfyriaf hefyd ar dy
holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
77:12 I will meditate also of all thy work, and talk of thy
doings.
77:13 Dy ffordd, O DDUW, sydd
yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?
77:13 Thy way, O God, is in the sanctuary: who is so great a
God as our God?
77:14 Ti yw y DUW sydd yn
gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.
77:14 Thou art the God that doest wonders: thou hast declared
thy strength among the people.
77:15 Gwaredaist â’th fraich
dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.
77:15 Thou hast with thine arm redeemed thy people, the sons
of Jacob and Joseph. Selah.
77:16 Y dyfroedd a’th
welsant, O DDUW, Y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a
gynhyrfwyd.
77:16 The waters saw thee, O God, the waters saw thee; they
were afraid: the depths also were troubled.
77:17 Y cymylau a
dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a
gerddasant.
77:17 The clouds poured out water: the skies sent out a sound:
thine arrows also went abroad.
77:18 Twrf dy daran a glywyd
o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.
77:18 The voice of thy thunder was in the heaven: the
lightnings lightened the world: the earth trembled and shook.
77:19 Dy ffordd sydd yn y
môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.
77:19 Thy way is in the sea, and thy path in the great waters,
and thy footsteps are not known.
77:20 Tywysaist dy bobl fel
defaid, trwy law Moses ac Aaron.
77:20 Thou leddest thy people like a flock by the hand of
Moses and Aaron.
SALM 78
78:1 Maschil i Asaff. Gwrando fy
nghyfraith, fy mhobl: Gostyngwch eich
clust at eiriau fy ngenau.
78:1 Maschil of Asaph.
Give ear, O my people, to my law: incline your ears to the words of my mouth.
78:2 Agoraf fy ngenau mewn
dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd:
78:2 I will open my mouth in a parable: I will utter dark
sayings of old:
78:3 Y rhai a glywsom, ac a
wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni,
78:3 Which we have heard and known, and our fathers have told
us.
78:4 Ni chelwn rhag eu
meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i
ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
78:4 We will not hide them from their children, showing to
the generation to come the praises of the LORD, and his strength, and his
wonderful works that he hath done.
78:5 Canys efe a sicrhaodd
dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel y rhai a orchmynnodd efe
i’n tadau eu dysgu i’w plant:
78:5 For he established a testimony in Jacob, and appointed a
law in Israel, which he commanded our fathers, that they should make them known
to their children:
78:6 Fel y gwybyddai yr oes a
ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:
78:6 That the generation to come might know them, even the
children which should be born; who should arise and declare them to their
children:
78:7 Fel y gosodent eu
gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef:
78:7 That they might set their hope in God, and not forget
the works of God, but keep his commandments:
78:8 Ac na byddent fel eu
tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei
chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.
78:8 And might not be as their fathers, a stubborn and
rebellious generation; a generation that set not their heart aright, and whose
spirit was not stedfast with God.
78:9 Meibion Effraim, yn arfog
ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
78:9 The children of Ephraim, being armed, and carrying bows,
turned back in the day of battle.
78:10 Ni chadwasant gyfamod
DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
78:10 They kept not the covenant of God, and refused to walk
in his law;
78:11 Ac anghofiasant ei
weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
78:11 And forgat his works, and his wonders that he had showed
them.
78:12 Efe a wnaethai wyrthiau
o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
78:12 Marvellous things did he in the sight of their fathers,
in the land of Egypt, in the field of Zoan.
78:13 Efe a barthodd y môr,
ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.
78:13 He divided the sea, and caused them to pass through; and
he made the waters to stand as an heap.
78:14 Y dydd hefyd y tywysodd
efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
78:14 In the daytime also he led them with a cloud, and all
the night with a light of fire.
78:15 Efe a holltodd y
creigiau yn anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
78:15 He clave the rocks in the wilderness, and gave them
drink as out of the great depths.
78:16 Canys efe a ddug
ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
78:16 He brought streams also out of the rock, and caused
waters to run down like rivers.
78:17 Er hynny chwanegasant
eto bechu yn eu erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
78:17 And they sinned yet more against him by provoking the
most High in the wilderness.
78:18 A themtiasant DDUW yn
eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
78:18 And they tempted God in their heart by asking meat for
their lust.
78:19 Llefarasant hefyd yn
erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
78:19 Yea, they spake against God; they said, Can God furnish
a table in the wilderness?
78:20 Wele, efe a
drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe
roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?
78:20 Behold, he smote the rock, that the waters gushed out,
and the streams overflowed; can he give bread also? can he provide flesh for
his people?
78:21 Am hynny y clybu yr
ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a
gyneuodd yn erbyn Israel;
78:21 Therefore the LORD heard this, and was wroth: so a fire
was kindled against Jacob, and anger also came up against Israel;
78:22 Am na chredent yn NUW,
ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
78:22 Because they believed not in God, and trusted not in his
salvation:
78:23 Er iddo ef orchymyn i’r
wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
78:23 Though he had commanded the clouds from above, and
opened the doors of heaven,
78:24 A glawio manna arnynt
i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
78:24 And had rained down manna upon them to eat, and had
given them of the corn of heaven.
78:25 Dyn a fwytaodd fara
angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
78:25 Man did eat angels’ food: he sent them meat to the full.
78:26 Gyrrodd y dwyreinwynt
yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
78:26 He caused an east wind to blow in the heaven: and by his
power he brought in the south wind.
78:27 Glawiodd hefyd gig arnynt
fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
78:27 He rained flesh also upon them as dust, and feathered
fowls like as the sand of the sea:
78:28 Ac a wnaeth iddynt
gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
78:28 And he let it fall in the midst of their camp, round
about their habitations.
78:29 Felly y bwytasant, ac y
llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
78:29 So they did eat, and were well filled: for he gave them
their own desire;
78:30 Ni omeddwyd hwynt o’r
hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
78:30 They were not estranged from their lust. But while their meat was yet in their
mouths,
78:31 Dicllonedd DUW a
gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd
etholedigion Israel.
78:31 The wrath of God came upon them, and slew the fattest of
them, and smote down the chosen men of Israel.
78:32 Er hyn oll pechasant
eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef.
78:32 For all this they sinned still, and believed not for his
wondrous works.
78:33 Am hynny y treuliodd
efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn.
78:33 Therefore their days did he consume in vanity, and their
years in trouble.
78:34 Pan laddai efe hwynt,
hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore.
78:34 When he slew them, then they sought him: and they
returned and inquired early after God.
78:35 Cofient hefyd mai DUW
oedd eu Craig, ac mai y Gorachaf DDUW oedd eu Gwaredydd.
78:35 And they remembered that God was their rock, and the
high God their redeemer.
78:36 Er hynny, rhagrithio yr
oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:
78:36 Nevertheless they did flatter him with their mouth, and
they lied unto him with their tongues.
78:37 A’u calon heb fod yn
uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
78:37 For their heart was not right with him, neither were
they stedfast in his covenant.
78:38 Er hynny efe yn
drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt - ie, trodd ymaith ei
ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
78:38 But he, being full of compassion, forgave their
iniquity, and destroyed them not: yea, many a time turned he his anger away,
and did not stir up all his wrath.
78:39 Canys efe a gofiai mai
cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
78:39 For he remembered that they were but flesh; a wind that
passeth away, and cometh not again.
78:40 Pa sawl gwaith y
digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
78:40 How oft did they provoke him in the wilderness, and
grieve him in the desert!
78:41 Ie, troesant a
phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
78:41 Yea, they turned back and tempted God, and limited the
Holy One of Israel.
78:42 Ni chofiasant ei law
ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
78:42 They remembered not his hand, nor the day when he
delivered them from the enemy.
78:43 Fel y gosodasai efe ei
arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan:
78:43 How he had wrought his signs in Egypt, and his wonders
in the field of Zoan:
78:44 Ac y troesai eu
hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed.
78:44 And had turned their rivers into blood; and their
floods, that they could not drink.
78:45 Anfonodd gymysgbla yn
eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha.
78:45 He sent divers sorts of flies among them, which devoured
them; and frogs, which destroyed them.
78:46 Ac efe a roddodd eu
cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust.
78:46 He gave also their increase unto the caterpillar, and
their labour unto the locust.
78:47 Distrywiodd eu gwinwydd
â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew.
78:47 He destroyed their vines with hail, and their sycamore
trees with frost.
78:48 Rhoddodd hefyd eu
hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt.
78:48 He gave up their cattle also to the hail, and their
flocks to hot thunderbolts.
78:49 Anfonodd arnynt
gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
78:49 He cast upon them the fierceness of his anger, wrath,
and indignation, and trouble, by sending evil angels among them .
78:50 Cymhwysodd ffordd i’w
ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe
i’r haint.
78:50 He made a way to his anger; he spared not their soul
from death, but gave their life over to the pestilence;
78:51 Trawodd hefyd bob
cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
78:51 And smote all the firstborn in Egypt; the chief of their
strength in the tabernacles of Ham:
78:52 Ond efe a yrrodd ei
bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
78:52 But made his own people to go forth like sheep, and
guided them in the wilderness like a flock.
78:53 Tywysodd hwynt hefyd yn
ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
78:53 And he led them on safely, so that they feared not: but
the sea overwhelmed their enemies.
78:54 Hwythau a ddug efe i
oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
78:54 And he brought them to the border of his sanctuary, even
to this mountain, which his right hand had purchased.
78:55 Ac efe a yrrodd allan y
cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a
wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
78:55 He cast out the heathen also before them, and divided
them an inheritance by line, and made the tribes of Israel to dwell in their
tents.
78:56 Er hynny temtiasant a
digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
78:56 Yet they tempted and provoked the most high God, and
kept not his testimonies:
78:57 Eithr ciliasant a buant
anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
78:57 But turned back, and dealt unfaithfully like their
fathers: they were turned aside like a deceitful bow.
78:58 Digiasant ef hefyd â’u
huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.
78:58 For they provoked him to anger with their high places,
and moved him to jealousy with their graven images.
78:59 Clybu DUW hyn, ac a
ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
78:59 When God heard this, he was wroth, and greatly abhorred
Israel:
78:60 Fel y gadawodd efe
dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
78:60 So that he forsook the tabernacle of Shiloh, the tent
which he placed among men;
78:61 Ac y rhoddodd ei nerth
mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn.
78:61 And delivered his strength into captivity, and his glory
into the enemy’s hand.
78:62 Rhoddes hefyd ei bobl
i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
78:62 He gave his people over also unto the sword; and was
wroth with his inheritance.
78:63 Tân a ysodd eu
gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd.
78:63 The fire consumed their young men; and their maidens
were not given to marriage.
78:64 Eu hoffeiriaid a
laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.
78:64 Their priests fell by the sword; and their widows made
no lamentation.
78:65 Yna y deffrodd
yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
78:65 Then the Lord awaked as one out of sleep, and like a
mighty man that shouteth by reason of wine.
78:66 Ac efe a drawodd ei
elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
78:66 And he smote his enemies in the hinder parts: he put
them to a perpetual reproach.
78:67 Gwrthododd hefyd babell
Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
78:67 Moreover he refused the tabernacle of Joseph, and chose
not the tribe of Ephraim:
78:68 Ond efe a etholodd lwyth
Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
78:68 But chose the tribe of Judah, the mount Zion which he
loved.
78:69 Ac a adeiladodd ei
gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
78:69 And he built his sanctuary like high palaces, like the
earth which he hath established for ever.
78:70 Etholodd hefyd Dafydd
ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid:
78:70 He chose David also his servant, and took him from the
sheepfolds:
78:71 Oddi ar ôl y defaid
cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
78:71 From following the ewes great with young he brought him
to feed Jacob his people, and Israel his inheritance.
78:72 Yntau a’u porthodd
hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
78:72 So he fed them according to the integrity of his heart;
and guided them by the skilfulness of his hands.
SALM 79
79:1 Salm Asaff. Y cenhedloedd, O
DDUW, y ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant
Jerwsalem yn garneddau.
79:1 A Psalm of Asaph.
O God, the heathen are come into thine inheritance; thy holy temple have they
defiled; they have laid Jerusalem on heaps.
79:2 Rhoddasant gelanedd dy
weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.
79:2 The dead bodies of thy servants have they given to be
meat unto the fowls of the heaven, the flesh of thy saints unto the beasts of
the earth.
79:3 Tywalltasant eu gwaed
fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai.
79:3 Their blood have they shed like water round about
Jerusalem; and there was none to bury them .
79:4 Yr ydym ni yn warthrudd
i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch.
79:4 We are become a reproach to our neighbours, a scorn and
derision to them that are round about us.
79:5 Pa hyd, ARGLWYDD? a
ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân?
79:5 How long, LORD? wilt thou be angry for ever? shall thy
jealousy burn like fire?
79:6 Tywallt dy lid ar y
cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.
79:6 Pour out thy wrath upon the heathen that have not known
thee, and upon the kingdoms that have not called upon thy name.
79:7 Canys ysasant Jacob, ac
a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.
79:7 For they have devoured Jacob, and laid waste his
dwelling place.
79:8 Na chofia yr anwireddau
gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn
y’n gwnaethpwyd.
79:8 O remember not against us former iniquities: let thy
tender mercies speedily prevent us: for we are brought very low.
79:9 Cynorthwya ni, O DDUW
ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha
wrth ei pechodau, er mwyn dy enw.
79:9 Help us, O God of our salvation, for the glory of thy
name: and deliver us, and purge away our sins, for thy name’s sake.
79:10 Paham y dywed y
cenhedloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn
ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn dywalltwyd.
79:10 Wherefore should the heathen say, Where is their God?
let him be known among the heathen in our sight by the revenging of the blood
of thy servants which is shed.
79:11 Deued uchenaid y
carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.
79:11 Let the sighing of the prisoner come before thee;
according to the greatness of thy power preserve thou those that are appointed
to die;
79:12 A thâl i’n cymdogion ar
y seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd.
79:12 And render unto our neighbours sevenfold into their
bosom their reproach, wherewith they have reproached thee, O Lord.
79:13 A ninnau dy bobl a
defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o
genhedlaeth i genhedlaeth.
79:13 So we thy people and sheep of thy pasture will give thee
thanks for ever: we will show forth thy praise to all generations.
SALM 80
80:1 I’r Pencerdd ar Sosannim Edith,
Salm Asaff. Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd;
ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid.
80:1 To the chief Musician upon Shoshannimeduth, A Psalm of
Asaph. Give ear, O Shepherd of
Israel, thou that leadest Joseph like a flock; thou that dwellest between the
cherubims, shine forth.
80:2 Cyfod dy nerth o flaen
Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
80:2 Before Ephraim and Benjamin and Manasseh stir up thy
strength, and come and save us.
80:3 Dychwel ni, O
DDUW, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:3 Turn us again, O God, and cause thy face to shine; and
we shall be saved.
80:4 O ARGLWYDD DDUW y
lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl?
80:4 O LORD God of hosts, how long wilt thou be angry against
the prayer of thy people?
80:5 Porthaist hwynt â bara dagrau;
a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
80:5 Thou feedest them with the bread of tears; and givest
them tears to drink in great measure.
80:6 Gosodaist ni yn gynnen
i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
80:6 Thou makest us a strife unto our neighbours: and our
enemies laugh among themselves.
80:7 O DDUW y
lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:7 Turn us again, O God of hosts, and cause thy face to
shine; and we shall be saved.
80:8 Mudaist winwydden o’r
Affft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
80:8 Thou hast brought a vine out of Egypt: thou hast cast
out the heathen, and planted it.
80:9 Arloesaist o’i blaen, a
pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.
80:9 Thou preparedst room before it, and didst cause it to
take deep root, and it filled the land.
80:10 Cuddiwyd y mynyddoedd
gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.
80:10 The hills were covered with the shadow of it, and the
boughs thereof were like the goodly cedars.
80:11 Hi a estynnodd ei
changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon.
80:11 She sent out her boughs unto the sea, and her branches
unto the river.
80:12 Paham y rhwygaist ei
chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi?
80:12 Why hast thou then broken down her hedges, so that all
they which pass by the way do pluck her?
80:13 Y baedd o’r
coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr.
80:13 The boar out of the wood doth waste it, and the wild
beast of the field doth devour it.
80:14 O DDUW y lluoedd,
dychwel, atolwg, edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon;
80:14 Return, we beseech thee, O God of hosts: look down from
heaven, and behold, and visit this vine;
80:15 A’r winllan a blannodd
dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
80:15 And the vineyard which thy right hand hath planted, and
the branch that thou madest strong for thyself.
80:16 Llosgwyd hi â thân;
torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
80:16 It is burned with fire, it is cut down: they perish at
the rebuke of thy countenance.
80:17 Bydded dy law dros
ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i i ti dy hun.
80:17 Let thy hand be upon the man of thy right hand, upon the
son of man whom thou madest strong for thyself.
80:18 Felly ni chiliwn yn ôl
oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw.
80:18 So will not we go back from thee: quicken us, and we
will call upon thy name.
80:19 O ARGLWYDD DDUW
y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:19 Turn us again, O LORD God of hosts, cause thy face to
shine; and we shall be saved.
SALM 81
81:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm
Asaff. Cenwch yn llafar i DDUW ein cadernid: cenwch yn llawen i DDUW Jacob.
81:1 To the chief Musician upon Gittith, A Psalm of Asaph. Sing aloud unto God our strength:
make a joyful noise unto the God of Jacob.
81:2 Cymerwch Salm, a moeswch
dympan, y delyn fwyn a’r nabl.
81:2 Take a psalm, and bring hither the timbrel, the pleasant
harp with the psaltery.
81:3 Utgenwch utgorn yn y
lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.
81:3 Blow up the trumpet in the new moon, in the time
appointed, on our solemn feast day.
81:4 Canys deddf yw hyn i
Israel, a defod i DDUW Jacob.
81:4 For this was a statute for Israel, and a law of the God
of Jacob.
81:5 Efe a’i gosododd yn
dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais
iaith ni ddeallwn.
81:5 This he ordained in Joseph for a testimony, when he went
out through the land of Egypt: where I heard a language that I understood not.
81:6 Tynnais ei ysgwydd oddi
wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau.
81:6 I removed his shoulder from the burden: his hands were
delivered from the pots.
81:7 Mewn cyfyngder y
gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di
wrth ddyfroedd Meriba. Sela.
81:7 Thou calledst in trouble, and I delivered thee; I
answered thee in the secret place of thunder: I proved thee at the waters of
Meribah. Selah.
81:8 Clyw, fy mhobl,
a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf.
81:8 Hear, O my people, and I will testify unto thee: O
Israel, if thou wilt hearken unto me;
81:9 Na fydded ynot dduw
arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
81:9 There shall no strange god be in thee; neither shalt
thou worship any strange god.
81:10 Myfi yr ARGLWYDD dy
DDUW yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i
llanwaf.
81:10 I am the LORD thy God, which brought thee out of the
land of Egypt: open thy mouth wide, and I will fill it.
81:11 Ond ni wrandawai fy
mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai.
81:11 But my people would not hearken to my voice; and Israel
would none of me.
81:12 Yna y gollyngais hwynt
yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
81:12 So I gave them up unto their own hearts’ lust: and they
walked in their own counsels.
81:13 O na wrandawsai
fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
81:13 Oh that my people had hearkened unto me, and Israel had
walked in my ways!
81:14 Buan y gostyngaswn eu
gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
81:14 I should soon have subdued their enemies, and turned my
hand against their adversaries.
81:15 Caseion yr ARGLWYDD a
gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.
81:15 The haters of the LORD should have submitted themselves
unto him: but their time should have endured for ever.
81:16 Bwydasai hwynt hefyd â
braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
81:16 He should have fed them also with the finest of the
wheat: and with honey out of the rock should I have satisfied thee.
SALM 82
82:1 Salm Asaff. DUW sydd yn sefyll
yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.
82:1 A Psalm of Asaph.
God standeth in the congregation of the mighty; he judgeth among the gods.
82:2 Pa hyd y bernwch ar gam?
ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.
82:2 How long will ye judge unjustly, and accept the persons
of the wicked? Selah.
82:3 Bernwch y tlawd a’r
amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus.
82:3 Defend the poor and fatherless: do justice to the
afflicted and needy.
82:4 Gwaredwch y tlawd a’r
anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
82:4 Deliver the poor and needy: rid them out of the hand of
the wicked.
82:5 Ni wyddant, ac ni
ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u
lle.
82:5 They know not, neither will they understand; they walk
on in darkness: all the foundations of the earth are out of course.
82:6 Myfi a ddywedais, Duwiau
ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
82:6 I have said, Ye are gods; and all of you are children of
the most High.
82:7 Eithr byddwch feirw fel
dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.
82:7 But ye shall die like men, and fall like one of the
princes.
82:8 Cyfod, O Dduw, barna y
ddaear canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
82:8 Arise, O God, judge the earth: for thou shalt inherit
all nations.
SALM 83
83:1 Cân neu Salm Asaff. O DDUW na ostega: na thaw, ac na fydd
lonydd, O DDUW.
83:1 A Song or Psalm of Asaph. Keep not thou silence, O God: hold not thy peace, and be not
still, O God.
83:2 Canys wele, dy elynion,
sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
83:2 For, lo, thine enemies make a tumult: and they that hate
thee have lifted up the head.
83:3 Ymgyfrinachasant yn
ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
83:3 They have taken crafty counsel against thy people, and
consulted against thy hidden ones.
83:4 Dywedasant, Deuwch, a
difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
83:4 They have said, Come, and let us cut them off from being
a nation; that the name of Israel may be no more in remembrance.
83:5 Canys ymgyngorasant yn
unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn;
83:5 For they have consulted together with one consent: they
are confederate against thee:
83:6 Pebyll Edam, a’r
Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid;
83:6 The tabernacles of Edom, and the Ishmaelites; of Moab,
and the Hagarenes;
83:7 Gebal, ac Ammon, ac
Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
83:7 Gebal, and Ammon, and Amalek; the Philistines with the
inhabitants of Tyre;
83:8 Assur hefyd a
ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
83:8 Assur also is joined with them: they have holpen the
children of Lot. Selah.
83:9 Gwna di iddynt fel i
Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
83:9 Do unto them as unto the Midianites; as to Sisera, as to
Jabin, at the brook of Kison:
83:10 Yn Endor y difethwyd
hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.
83:10 Which perished at Endor: they became as dung for the
earth.
83:11 Gwna eu pendefigion fel
Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
83:11 Make their nobles like Oreb, and like Zeeb: yea, all
their princes as Zebah, and as Zalmunna:
83:12 Y rhai a ddywedasant,
Cymerwn i ni gyfanheddau DUW i’w meddiannu.
83:12 Who said, Let us take to ourselves the houses of God in
possession.
83:13 Gosod hwynt, O
fy NUW, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
83:13 O my God, make them like a wheel; as the stubble before
the wind.
83:14 Fel y llysg tân goed,
ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
83:14 As the fire burneth a wood, and as the flame setteth the
mountains on fire;
83:15 Felly erlid di hwynt
â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt.
83:15 So persecute them with thy tempest, and make them afraid
with thy storm.
83:16 Llanw eu
hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O ARGLWYDD.
83:16 Fill their faces with shame; that they may seek thy
name, O LORD.
83:17 Cywilyddier a
thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:
83:17 Let them be confounded and troubled for ever; yea, let
them be put to shame, and perish:
83:18 Fel y gwypont mai tydi,
yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
83:18 That men may know that thou, whose name alone is
JEHOVAH, art the most high over all the earth.
SALM 84
84:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm
meibion Cora. Mor hawddgar yw dy
bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd!
84:1 To the chief Musician upon Gittith, A Psalm for the sons
of Korah. How amiable are thy
tabernacles, O LORD of hosts!
84:2 Fy enaid a hiraetha, ie,
ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y DUW
byw.
84:2 My soul longeth, yea, even fainteth for the courts of
the LORD: my heart and my flesh crieth out for the living God.
84:3 Aderyn y to hefyd a
gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau
di, O ARGLWYDD y lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW.
84:3 Yea, the sparrow hath found an house, and the swallow a
nest for herself, where she may lay her young, even thine altars, O LORD of
hosts, my King, and my God.
84:4 Gwyn fyd preswylwyr dy
dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela.
84:4 Blessed are they that dwell in thy house: they will be
still praising thee. Selah.
84:5 Gwyn ei fyd y dyn y mae
ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon:
84:5 Blessed is the man whose strength is in thee; in whose
heart are the ways of them .
84:6 Y rhai yn myned trwy
ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau.
84:6 Who passing through the valley of Baca make it a well;
the rain also filleth the pools.
84:7 Ant o nerth i nerth;
ymddengys pob un gerbron DUW yn Seion.
84:7 They go from strength to strength, every one of them in
Zion appeareth before God.
84:8 O ARGLWYDD DDUW y
lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O DDUW Jacob. Sela.
84:8 O LORD God of hosts, hear my prayer: give ear, O God of
Jacob. Selah.
84:9 O Dduw ein tarian, gwêl,
ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.
84:9 Behold, O God our shield, and look upon the face of
thine anointed.
84:10 Canys gwell yw diwrnod
yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo
ym mhebyll annuwioldeb.
84:10 For a day in thy courts is better than a thousand. I had rather be a doorkeeper in the
house of my God, than to dwell in the tents of wickedness.
84:11 Canys haul a tharian yw
yr ARGLWYDD DUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant - ni atal efe ddim daioni
oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
84:11 For the LORD God is a sun and shield: the LORD will give
grace and glory: no good thing will he withhold from them that walk uprightly.
84:12 O ARGLWYDD y
lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
84:12 O LORD of hosts, blessed is the man that trusteth in
thee.
SALM 85
85:1 I’r Pencerdd, Salm meibion
Cora. Graslon fuost, O ARGLWYDD, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.
85:1 To the chief Musician, A Psalm for the sons of Korah. LORD, thou hast been favourable unto
thy land: thou hast brought back the captivity of Jacob.
85:2 Maddeuaist anwiredd dy
bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.
85:2 Thou hast forgiven the iniquity of thy people, thou hast
covered all their sin. Selah.
85:3 Tynnaist ymaith dy holl
lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.
85:3 Thou hast taken away all thy wrath: thou hast turned
thyself from the fierceness of thine anger.
85:4 Tro ni, O DDUW, ein
hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.
85:4 Turn us, O God of our salvation, and cause thine anger
toward us to cease.
85:5 Ai byth y digi wrthym? a
estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
85:5 Wilt thou be angry with us for ever? wilt thou draw out
thine anger to all generations?
85:6 Oni throi di a’n bywhau
ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
85:6 Wilt thou not revive us again: that thy people may
rejoice in thee?
85:7 Dangos i ni, ARGLWYDD dy
drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.
85:7 Show us thy mercy, O LORD, and grant us thy salvation.
85:8 Gwrandawaf beth a ddywed
yr ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na
throant at ynfydrwydd.
85:8 I will hear what God the LORD will speak: for he will
speak peace unto his people, and to his saints: but let them not turn again to
folly.
85:9 Diau fod ei iechyd ef yn
agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
85:9 Surely his salvation is nigh them that fear him; that
glory may dwell in our land.
85:10 Trugaredd a gwirionedd
a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.
85:10 Mercy and truth are met together; righteousness and
peace have kissed each other .
85:11 Gwirionedd a dardda o’r
ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.
85:11 Truth shall spring out of the earth; and righteousness
shall look down from heaven.
85:12 Yr ARGLWYDD hefyd a
rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd.
85:12 Yea, the LORD shall give that which is good; and our
land shall yield her increase.
85:13 Cyfiawnder a â o’i
flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
85:13 Righteousness shall go before him; and shall set us in
the way of his steps.
SALM 86
86:1 Gweddi Dafydd. Gostwng, O ARGLWYDD,
dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.
86:1 A Prayer of David.
Bow down thine ear, O LORD, hear me: for I am poor and needy.
86:2 Cadw fy enaid; canys
sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy NUW, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
86:2 Preserve my soul; for I am holy: O thou my God, save thy
servant that trusteth in thee.
86:3 Trugarha wrthyf,
ARGLWYDD: canys arnat y llefaf beunydd.
86:3 Be merciful unto me, O Lord: for I cry unto thee daily.
86:4 Llawenha enaid dy was:
canys atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.
86:4 Rejoice the soul of thy servant: for unto thee, O Lord,
do I lift up my soul.
86:5 Canys ti, O ARGLWYDD,
ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.
86:5 For thou, Lord, art good, and ready to forgive; and
plenteous in mercy unto all them that call upon thee.
86:6 Clyw, ARGLWYDD, fy
ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil.
86:6 Give ear, O LORD, unto my prayer; and attend to the
voice of my supplications.
86:7 Yn nydd fy nghyfyngder y
llefaf arnat: canys gwrandewi fi.
86:7 In the day of my trouble I will call upon thee: for thou
wilt answer me.
86:8 Nid oes fel tydi ymysg y
duwiau, O ARGLWYDD; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.
86:8 Among the gods there is none like unto thee, O Lord;
neither are there any works like unto thy works.
86:9 Yr holl genhedloedd y
rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a
ogoneddant dy enw.
86:9 All nations whom thou hast made shall come and worship
before thee, O Lord; and shall glorify thy name.
86:10 Canys ydwyt fawr, ac yn
gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt DDUW.
86:10 For thou art great, and doest wondrous things: thou art
God alone.
86:11 Dysg i mi dy ffordd, O
ARGLWYDD; mi a rodiaf yn dy, wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.
86:11 Teach me thy way, O LORD; I will walk in thy truth:
unite my heart to fear thy name.
86:12 Moliannaf di, O
Arglwydd fy NUW â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
86:12 I will praise thee, O Lord my God, with all my heart:
and I will glorify thy name for evermore.
86:13 Canys mawr yw dy
drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.
86:13 For great is thy mercy toward me: and thou hast
delivered my soul from the lowest hell.
86:14 Rhai beilchion a
gyfodasant i’m herbyn, O DDUW, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid;
ac ni’th osodasant di ger eu bron.
86:14 O God, the proud are risen against me, and the
assemblies of violent men have sought after my soul; and have not set thee
before them.
86:15 Eithr ti, O Arglwydd,
wyt DDUW trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a
gwirionedd.
86:15 But thou, O Lord, art a God full of compassion, and
gracious, longsuffering, and plenteous in mercy and truth.
86:16 Edrych arnaf, a
thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.
86:16 O turn unto me, and have mercy upon me; give thy
strength unto thy servant, and save the son of thine handmaid.
86:17 Gwna i mi arwydd er
daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O ARGLWYDD,
fy nghynorthwyo a’m diddanu.
86:17 Show me a token for good; that they which hate me may
see it, and be ashamed: because thou, LORD, hast holpen me, and comforted me.
SALM 87
87:1 Salm neu Gân meibion, Cora. Ei
sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.
87:1 A Psalm or Song for the sons of Korah. His foundation is in the holy
mountains.
87:2 Yr ARGLWYDD a gâr byrth
Seion yn yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.
87:2 The LORD loveth the gates of Zion more than all the
dwellings of Jacob.
87:3 Gogoneddus bethau a
ddywedir amdanat ti, O ddinas DUW. Sela.
87:3 Glorious things are spoken of thee, O city of God. Selah.
87:4 Cofiaf Rahab a Babilon
wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.
87:4 I will make mention of Rahab and Babylon to them that
know me: behold Philistia, and Tyre, with Ethiopia; this man was born there.
87:5 Ac am Seion y dywedir, Y
gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi.
87:5 And of Zion it shall be said, This and that man was born
in her: and the highest himself shall establish her.
87:6 Yr ARGLWYDD a gyfrif pan
ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.
87:6 The LORD shall count, when he writeth up the people,
that this man was born there. Selah.
87:7 Y cantorion a’r
cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
87:7 As well the singers as the players on instruments shall
be there: all my springs are in thee.
SALM 88
88:1 Salm neu Gân meibion Cora, i’r
Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad. ARGLWYDD DDUW fy
iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos.
88:1 A Song or Psalm for the sons of Korah, to the chief
Musician upon Mahalath Leannoth, Maschil of Heman the Ezrahite. O LORD God of my salvation, I have
cried day and night before thee:
88:2 Deued fy ngweddi ger dy
fron: gostwng dy glust at fy llefain.
88:2 Let my prayer come before thee: incline thine ear unto
my cry;
88:33 Canys fy enaid a lanwyd
o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod.
88:3 For my soul is full of troubles: and my life draweth
nigh unto the grave.
88:4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai
a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.
88:4 I am counted with them that go down into the pit: I am
as a man that hath no strength:
88:5 Yn rhydd ymysg y meirw,
fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a
dorrwyd oddi wrth dy law.
88:5 Free among the dead, like the slain that lie in the
grave, whom thou rememberest no more: and they are cut off from thy hand.
88:6 Gosodaist fi yn y pwll
isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.
88:6 Thou hast laid me in the lowest pit, in darkness, in the
deeps.
88:7 Y mae dy ddigofaint yn
pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela.
88:7 Thy wrath lieth hard upon me, and thou hast afflicted me
with all thy waves. Selah.
88:8 Pellheaist fy nghydnabod
oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi fel nad awn
allan.
88:8 Thou hast put away mine acquaintance far from me; thou
hast made me an abomination unto them: I am shut up, and I cannot come forth.
88:9 Fy llygad a ofidiodd gan
fy nghystudd: llefais arnat ARGLWYDD, beunydd; estynnais fy nwylo atat.
88:9 Mine eye mourneth by reason of affliction: LORD, I have
called daily upon thee, I have stretched out my hands unto thee.
88:10 Ai i’r meirw y gwnei
ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela.
88:10 Wilt thou show wonders to the dead? shall the dead arise
and praise thee? Selah.
88:11 A draethir dy drugaredd
mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw?
88:11 Shall thy lovingkindness be declared in the grave? or
thy faithfulness in destruction?
88:12 A adwaenir dy ryfeddod
yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof?
88:12 Shall thy wonders be known in the dark? and thy
righteousness in the land of forgetfulness?
88:13 Ond myfi a lefais
arnat, ARGLWYDD; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.
88:13 But unto thee have I cried, O LORD; and in the morning
shall my prayer prevent thee.
88:14 Paham, ARGLWYDD, y
gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
88:14 LORD, why castest thou off my soul? why hidest thou thy
face from me?
88:15 Truan ydwyf fi, ac ar
drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
88:15 I am afflicted and ready to die from my youth up: while
I suffer thy terrors I am distracted.
88:16 Dy soriant a aeth
drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.
88:16 Thy fierce wrath goeth over me; thy terrors have cut me
off.
88:17 Fel dwfr y’m
cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant.
88:17 They came round about me daily like water; they
compassed me about together.
88:18 Câr a chyfaill a
yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
88:18 Lover and friend hast thou put far from me, and mine
acquaintance into darkness.
SALM 89
89:1 Maschil Ethan yr Esrahiad.
Trugareddau yr ARGLWYDD a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o
genhedlaeth hyd genhedlaeth.
89:1 Maschil of Ethan the Ezrahite. I will sing of the mercies of the LORD for ever: with my mouth
will I make known thy faithfulness to all generations.
89:2 Canys dywedais,
Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.
89:2 For I have said, Mercy shall be built up for ever: thy
faithfulness shalt thou establish in the very heavens.
89:3 Gwneuthum amod i’m
hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd.
89:3 I have made a covenant with my chosen, I have sworn unto
David my servant,
89:4 Yn dragywydd y sicrhaf
dy had di: ac o genhedlaeth i genhediaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
89:4 Thy seed will I establish for ever, and build up thy
throne to all generations. Selah.
89:5 A’r nefoedd, O ARGLWYDD,
a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.
89:5 And the heavens shall praise thy wonders, O LORD: thy
faithfulness also in the congregation of the saints.
89:6 Canys pwy yn y nef a
gystedlir â’r ARGLWYDD? pwy a gyffelybir i’r ARGLWYDD ymysg meibion y cedyrn?
89:6 For who in the heaven can be compared unto the LORD? who
among the sons of the mighty can be likened unto the LORD?
89:7 DUW sydd ofnadwy iawn
yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd.
89:7 God is greatly to be feared in the assembly of the
saints, and to be had in reverence of all them that are about him.
89:8 O ARGLWYDD DDUW y
lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn IÔR? a’th wirionedd o’th amgylch?
89:8 O LORD God of hosts, who is a strong LORD like unto
thee? or to thy faithfulness round about thee?
89:9 Ti wyt yn llywodraethu
ymchwydd môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi.
89:9 Thou rulest the raging of the sea: when the waves
thereof arise, thou stillest them.
89:10 Ti a ddrylliaist yr
Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.
89:10 Thou hast broken Rahab in pieces, as one that is slain;
thou hast scattered thine enemies with thy strong arm.
89:11 Y nefoedd ydynt eiddot
ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyfiawnder.
89:11 The heavens are thine, the earth also is thine: as for
the world and the fulness thereof, thou hast founded them.
89:12 Ti a greaist ogledd a
deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
89:12 The north and the south thou hast created them: Tabor
and Hermon shall rejoice in thy name.
89:13 Y mae i ti fraich a
chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.
89:13 Thou hast a mighty arm: strong is thy hand, and high is
thy right hand.
89:14 Cyfiawnder a barn yw
trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
89:14 Justice and judgment are the habitation of thy throne:
mercy and truth shall go before thy face.
89:15 Gwyn eu byd y bobl a
adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, ARGLWYDD, y rhodiant hwy.
89:15 Blessed is the people that know the joyful sound: they
shall walk, O LORD, in the light of thy countenance.
89:16 Yn dy enw di y
gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.
89:16 In thy name shall they rejoice all the day: and in thy
righteousness shall they be exalted.
89:17 Canys godidowgrwydd eu
cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
89:17 For thou art the glory of their strength: and in thy
favour our horn shall be exalted.
89:18 Canys yr ARGLWYDD yw
ein tarian a Sanct Israel yw ein Brenin.
89:18 For the LORD is our defence; and the Holy One of Israel
is our king.
89:19 Yna yr ymddiddenaist
mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn:
dyrchefais un etholedig o’r bobl.
89:19 Then thou spakest in vision to thy holy one, and saidst,
I have laid help upon one that is mighty; I have exalted one chosen out of the
people.
89:20 Cefais Dafydd fy
ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd:
89:20 I have found David my servant; with my holy oil have I
anointed him:
89:21 Yr hwn y sicrheir fy
llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef.
89:21 With whom my hand shall be established: mine arm also
shall strengthen him.
89:22 Ni orthryma y gelyn ef;
a’r mab anwir nis cystuddia ef.
89:22 The enemy shall not exact upon him; nor the son of
wickedness afflict him.
89:23 Ac mi a goethaf ei
elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf.
89:23 And I will beat down his foes before his face, and
plague them that hate him.
89:24 Fy ngwirionedd hefyd
a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.
89:24 But my faithfulness and my mercy shall be with him: and
in my name shall his horn be exalted.
89:25 A gosodaf ei law yn y
môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd.
89:25 I will set his hand also in the sea, and his right hand
in the rivers.
89:26 Efe a lefa arnaf, Ti yw
fy Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.
89:26 He shall cry unto me, Thou art my father, my God, and
the rock of my salvation.
89:27 Minnau a’i gwnaf yntau
yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.
89:27 Also I will make him my firstborn, higher than the kings
of the earth.
89:28 Cadwaf iddo fy
nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo.
89:28 My mercy will I keep for him for evermore, and my
covenant shall stand fast with him.
89:29 Gosodaf hefyd ei had yn
dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.
89:29 His seed also will I make to endure for ever, and his
throne as the days of heaven.
89:30 Os ei feibion a adawant
fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigethau;
89:30 If his children forsake my law, and walk not in my
judgments;
89:31 Os fy neddfau a
halogant, a’m gorchmynion ni chadwant:
89:31 If they break my statutes, and keep not my commandments;
89:32 Yna mi a ymwelaf â’u
camwedd â gwialen ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.
89:32 Then will I visit their transgression with the rod, and
their iniquity with stripes.
89:33 Ond ni thorraf fy
nhrugaredd oddi wrtho, ac ni pharaf o’m gwirionedd.
89:33 Nevertheless my loving kindness will I not utterly take
from him, nor suffer my faithfulness to fail.
89:34 Ni thorraf fy
nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.
89:34 My covenant will I not break, nor alter the thing that
is gone out of my lips.
89:35 Tyngais unwaith i’m
sancteiddrwydd na ddywedwn gelwydd i Dafydd
89:35 Once have I sworn by my holiness that I will not lie
unto David.
89:36 Bydd ei had ef yn
dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.
89:36 His seed shall endure for ever, and his throne as the
sun before me.
89:37 Sicrheir ef yn
dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
89:37 It shall be established for ever as the moon, and as a
faithful witness in heaven. Selah.
89:38 Ond ti a wrthodaist ac
a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.
89:38 But thou hast cast off and abhorred, thou hast been
wroth with thine anointed.
89:39 Diddymaist gyfamod dy
was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.
89:39 Thou hast made void the covenant of thy servant: thou
hast profaned his crown by casting it to the ground.
89:40 Drylliaist ei holl
gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
89:40 Thou hast broken down all his hedges; thou hast brought
his strong holds to ruin.
89:41 Yr holl fforddolion a’i
hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion.
89:41 All that pass by the way spoil him: he is a reproach to
his neighbours.
89:42 Dyrchefaist ddeheulaw
ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.
89:42 Thou hast set up the right hand of his adversaries; thou
hast made all his enemies to rejoice.
89:43 Troaist hefyd fin ei
gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
89:43 Thou hast also turned the edge of his sword, and hast
not made him to stand in the battle.
89:44 Peraist i’w harddwch
ddarfod, a bwrwiaist ei orseddfainc i lawr.
89:44 Thou hast made his glory to cease, and cast his throne
down to the ground.
89:45 Byrheaist ddyddiau ei
ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.
89:45 The days of his youth hast thou shortened: thou hast
covered him with shame. Selah.
89:46 Pa hyd, ARGLWYDD, yr
ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?
89:46 How long, LORD? wilt thou hide thyself for ever? shall
thy wrath burn like fire?
89:47 Cofia pa amser sydd i
mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?
89:47 Remember how short my time is: wherefore hast thou made
all men in vain?
89:48 Pa ŵr a fydd byw,
ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.
89:48 What man is he that liveth, and shall not see death?
shall he deliver his soul from the hand of the grave? Selah.
89:49 Pa le y mae dy hen
drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?
89:49 Lord, where are thy former loving kindnesses, which thou
swarest unto David in thy truth?
89:50 Cofia, O ARGLWYDD,
waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd
fawrion;
89:50 Remember, Lord, the reproach of thy servants; how I do
bear in my bosom the reproach of all the mighty people;
89:51 A’r hwn y gwaradwyddodd
dy elynion, O ARGLWYDD; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.
89:51 Wherewith thine enemies have reproached, O LORD;
wherewith they have reproached the footsteps of thine anointed.
89:52 Bendigedig fyddo yr
ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.
89:52 Blessed be the LORD for evermore. Amen, and Amen.
SALM 90
90:1 Gweddi Moses gŵr DUW. Ti,
ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.
90:2 A Prayer of Moses the man of God. LORD, thou hast been our dwelling place in all generations.
90:2 Cyn gwneuthur y
mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o
dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
90:2 Before the mountains were brought forth, or ever thou
hadst formed the earth and the world, even from everlasting to everlasting,
thou art God.
90:3 Troi ddyn i ddinistr; a
dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.
90:3 Thou turnest man to destruction; and sayest, Return, ye
children of men.
90:4 Canys mil o flynyddoedd ydynt
yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.
90:4 For a thousand years in thy sight are but as yesterday
when it is past, and as a watch in the night.
90:5 Dygi hwynt ymaith megis
â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.
90:5 Thou carriest them away as with a flood; they are as a
sleep: in the morning they are like grass which groweth up.
90:6 Y bore y
blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.
90:6 In the morning it flourisheth, and groweth up; in the
evening it is cut down, and withereth.
90:7 Canys yn dy ddig y
difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.
90:7 For we are consumed by thine anger, and by thy wrath are
we troubled.
90:8 Gosodaist ein hanwiredd
ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.
90:8 Thou hast set our iniquities before thee, our secret
sins in the light of thy countenance.
90:9 Canys ein holl ddyddiau
ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.
90:9 For all our days are passed away in thy wrath: we spend
our years as a tale that is told .
90:10 Yn nyddiau ein
blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar
ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebwydd y derfydd, a ni a
ehedwn ymaith.
90:10 The days of our years are threescore years and ten; and
if by reason of strength they be fourscore years, yet is their strength labour
and sorrow; for it is soon cut off, and we fly away.
90:11 Pwy a edwyn nerth dy
soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.
90:11 Who knoweth the power of thine anger? even according to
thy fear, so is thy wrath.
90:12 Dysg i ni felly gyfrif
ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
90:12 So teach us to number our days, that we may apply our
hearts unto wisdom.
90:13 Dychwel, ARGLWYDD, pa
hyd? ac edifarha o ran dy weision.
90:13 Return, O LORD, how long? and let it repent thee
concerning thy servants.
90:14 Diwalla ni yn fore â’th
drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
90:14 O satisfy us early with thy mercy; that we may rejoice
and be glad all our days.
90:15 Llawenha ni yn ôl y
dyddiau: y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
90:15 Make us glad according to the days wherein thou hast
afflicted us, and the years wherein we have seen evil.
90:16 Gweler dy waith tuag at
dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.
90:16 Let thy work appear unto thy servants, and thy glory
unto their children.
90:17 A bydded prydferthwch
yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna
waith ein dwylo.
90:17 And let the beauty of the LORD our God be upon us: and
establish thou the work of our hands upon us; yea, the work of our hands establish
thou it.
SALM 91
91:1 Yr hwn sydd yn trigo yn
nirgelwch y y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.
91:1 He that dwelleth in the secret place of the most High
shall abide under the shadow of the Almighty.
91:2 Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy
noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.
91:2 I will say of the LORD, He is my refuge and my fortress:
my God; in him will I trust.
91:3 Canys efe a’th wareda di
o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
91:3 Surely he shall deliver thee from the snare of the
fowler, and from the noisome pestilence.
91:4 A’i asgell y cysgoda efe
trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch
i ti.
91:4 He shall cover thee with his feathers, and under his wings
shalt thou trust: his truth shall be thy shield and buckler.
91:5 Nid ofni rhag dychryn
nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:
91:5 Thou shalt not be afraid for the terror by night; nor
for the arrow that flieth by day;
91:6 Na rhag yr haint a rodio
yn y tywyllwch; na rhag y dinistria a ddinistrio ganol dydd.
91:6 Nor for the pestilence that walketh in darkness; nor for
the destruction that wasteth at noonday.
91:7 Wrth dy ystlys y cwymp
mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw, ond ni ddaw yn agos atat ti.
91:7 A thousand shall fall at thy side, and ten thousand at
thy right hand; but it shall not come nigh thee.
91:8 Yn unig ti a ganfyddi
â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.
91:8 Only with thine eyes shalt thou behold and see the
reward of the wicked.
91:9 Am i ti wneuthur yr
ARGLWYDD fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
91:9 Because thou hast made the LORD, which is my refuge,
even the most High, thy habitation;
91:10 Ni ddigwydd i ti niwed,
ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.
91:10 There shall no evil befall thee, neither shall any
plague come nigh thy dwelling.
91:11 Canys efe a orchymyn
i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
91:11 For he shall give his angels charge over thee, to keep
thee in all thy ways.
91:12 Ar eu dwylo, y’th
ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.
91:12 They shall bear thee up in their hands, lest thou dash
thy foot against a stone.
91:13 Ar y llew a’r
asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri.
91:13 Thou shalt tread upon the lion and adder: the young lion
and the dragon shalt thou trample under feet.
91:14 Am iddo toddi ei serch
arnaf, a hynny gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.
91:14 Because he hath set his love upon me, therefore will I
deliver him: I will set him on high, because he hath known my name.
91:15 Efe a eilw arnaf, a mi
a’i gwrandawaf mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
91:15 He shall call upon me, and I will answer him: I will be
with him in trouble; I will deliver him, and honour him.
91:16 Digonaf ef â hir
ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
91:16 With long life will I satisfy him, and show him my
salvation.
SALM 92
92:1 Salm neu Gân ar y dydd Saboth. A
yw moliannu yr ARGLWYDD, a chanu mawl i’th enw di, Y Goruchaf:
92:1 A Psalm or Song for the sabbath day. It is a good thing to give thanks unto the LORD, and to sing
praises unto thy name, O most High:
92:2 A mynegi y bore am dy
drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau;
92:2 To show forth thy lovingkindness in the morning, and thy
faithfulness every night,
92:3 Ar ddectant, ac ar y
nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.
92:3 Upon an instrument of ten strings, and upon the
psaltery; upon the harp with a solemn sound.
92:4 Canys llawenychaist fi,
O ARGLWYDD â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo gorfoleddaf.
92:4 For thou, LORD, hast made me glad through thy work: I
will triumph in the works of thy hands.
92:5 Mor fawredig, O
ARGLWYDD, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
92:5 O LORD, how great are thy works! and thy thoughts are
very deep.
92:6 Gŵr annoeth ni
ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn.
92:6 A brutish man knoweth not; neither doth a fool
understand this.
92:7 Pan flodeuo y rhai
annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w
dinistrio byth bythoedd.
92:7 When the wicked spring as the grass, and when all the
workers of iniquity do flourish; it is that they shall be destroyed for ever:
92:8 Tithau, ARGLWYDD, wyt
ddyrchafedig yn dragywydd.
92:8 But thou, LORD, art most high for evermore.
92:9 Canys wele, dy elynion,
O ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
92:9 For, lo, thine enemies, O LORD, for, lo, thine enemies shall
perish; all the workers of iniquity shall be scattered.
92:10 Ond fy nghorn i a
ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir.
92:10 But my horn shalt thou exalt like the horn of an
unicorn: I shall be anointed with fresh oll.
92:11 Fy llygad hefyd a wêl
fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai
drygionus a gyfodant i’m herbyn.
92:11 Mine eye also shall see my desire on mine enemies, and
mine ears shall hear my desire of the wicked that rise up against me.
92:12 Y cyfiawn a flodeua fel
palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.
92:12 The righteous shall flourish like the palm tree: he
shall grow like a cedar in Lebanon.
92:13 Y rhai a blannwyd yn
nhŷ yr ARGLWYDD a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW.
92:13 Those that be planted in the house of the LORD shall
flourish in the courts of our God.
92:14 Ffrwythant eto yn eu
henaint; tirfion ac iraidd fyddant:
92:14 They shall still bring forth fruit in old age; they
shall be fat and flourishing;
92:15 I fynegi mai uniawn yw
yr ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
92:15 To show that the LORD is upright: he is my rock, and
there is no unrighteousness in him.
SALM 93
93:1 Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu, efe
a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr ARGLWYDD nerth, ac ymwregysodd: y byd
hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
93:1 The LORD reigneth, he is clothed with majesty; the LORD
is clothed with strength, wherewith he hath girded himself: the world also is stablished,
that it cannot be moved.
93:2 Darparwyd dy orseddfainc
erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.
93:2 Thy throne is established of old: thou art from
everlasting.
93:3 Y llifeiriaint, O
ARGLWYDD, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf, y
llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
93:3 The floods have lifted up, O LORD, the floods have
lifted up their voice; the floods lift up their waves.
93:4 Yr ARGLWYDD yn yr
uchelder sydd gadernach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.
93:4 The LORD on high is mightier than the noise of many
waters, yea, than the mighty waves of the sea.
93:5 Sicr iawn yw dy
dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O ARGLWYDD, byth.
93:5 Thy testimonies are very sure: holiness becometh thine house,
O LORD, for ever.
SALM 94
94:1 O ARGLWYDD DDUW y dial, O DDUW
y dial, ymddisgleiria.
94:1 O LORD God, to whom vengeance belongeth; O God, to whom
vengeance belongeth, show thyself.
94:2 Ymddyrcha, Farnwr y byd:
tâl eu gwobr i’r beilchion.
94:2 Lift up thyself, thou judge of the earth: render a
reward to the proud.
94:3 Pa hyd, ARGLWYDD, y
caiff yr annuwiolion, pa hyd, y caiff yr annuwiol orfoleddu?
94:3 LORD, how long shall the wicked, how long shall the
wicked triumph?
94:4 Pa hyd y siaradant ac y
dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
94:4 How long shall they utter and speak hard things? and all
the workers of iniquity boast themselves?
94:5 Dy bobl, ARGLWYDD, a
ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
94:5 They break in pieces thy people, O LORD, and afflict
thine heritage.
94:6 Y weddw a’r dieithr a
laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.
94:6 They slay the widow and the stranger, and murder the
fatherless.
94:7 Dywedant hefyd, Ni wêl
yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.
94:7 Yet they say, The LORD shall not see, neither shall the
God of Jacob regard it .
94:8 Ystyriwch, chwi rai
annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
94:8 Understand, ye brutish among the people: and ye fools,
when will ye be wise?
94:9 Oni chlyw yr hwn a
blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
94:9 He that planted the ear, shall he not hear? he that
formed the eye, shall he not see?
94:10 Oni cherydda yr hwn a
gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
94:10 He that chastiseth the heathen, shall not he correct? he
that teacheth man knowledge, shall not he know?
94:11 Gŵyr yr ARGLWYDD
feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
94:11 The LORD knoweth the thoughts of man, that they are
vanity.
94:12 Gwyn ei fyd y gŵr
a geryddi di, O ARGLWYDD, ac a ddysgi yn dy gyfraith:
94:12 Blessed is the man whom thou chastenest, O LORD, and
teachest him out of thy law;
94:13 I beri iddo lonydd oddi
wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.
94:13 That thou mayest give him rest from the days of
adversity, until the pit be digged for the wicked.
94:14 Canys ni ad yr ARGLWYDD
ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
94:14 For the LORD will not cast off his people, neither will
he forsake his inheritance.
94:15 Eithr barn a ddychwel
at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.
94:15 But judgment shall return unto righteousness: and all
the upright in heart shall follow it.
94:16 Pwy a gyfyd gyda mi yn
erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
94:16 Who will rise up for me against the evildoers? or who
will stand up for me against the workers of iniquity?
94:17 Oni buasai yr ARGLWYDD
yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
94:17 Unless the LORD had been my help, my soul had almost
dwelt in silence.
94:18 Pan ddywedais,
Llithrodd fy nhroed dy drugaredd di, O ARGLWYDD, a’m cynhaliodd.
94:18 When I said, My foot slippeth; thy mercy, O LORD, held
me up.
94:19 Yn amlder fy meddyliau
o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
94:19 In the multitude of my thoughts within me thy comforts
delight my soul.
94:20 A fydd cydymdeithas i
ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
94:20 Shall the throne of iniquity have fellowship with thee,
which frameth mischief by a law?
94:21 Yn finteioedd y deuant
yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
94:21 They gather themselves together against the soul of the
righteous, and condemn the innocent blood.
94:22 Eithr yr ARGLWYDD sydd
yn amddiffynfa i mi; a’m DUW yw craig fy nodded.
94:22 But the LORD is my defence; and my God is the rock of my
refuge.
94:23 Ac efe a dâl iddynt eu
hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a’u tyr hwynt
ymaith.
94:23 And he shall bring upon them their own iniquity, and
shall cut them off in their own wickedness; yea, the LORD our God shall cut
them off.
SALM 95
95:1 Deuwch, canwn i’r ARGLWYDD:
ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
95:1 O come, let us sing unto the LORD: let us make a joyful
noise to the rock of our salvation.
95:2 Deuwn ger ei fron ef â
diolch: canwn yn llafar iddo â Salmau.
95:2 Let us come before his presence with thanksgiving, and
make a joyful noise unto him with Psalm.
95:3 Canys yr ARGLWYDD sydd
DDUW mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
95:3 For the LORD is a great God, and a great King above all
gods.
95:4 Yr hwn y mae gorddyfnderau
y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
95:4 In his hand are the deep places of the earth: the
strength of the hills is his also.
95:5 Y môr sydd eiddo, ac efe
a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.
95:5 The sea is his, and he made it: and his hands formed the
dry land .
95:6 Deuwch, addolwn, ac
yngrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.
95:6 O come, let us worship and bow down: let us kneel before
the LORD our maker.
95:7 Canys efe yw ein DUW ni;
a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei
leferydd,
95:7 For he is our God; and we are the people of his pasture,
and the sheep of his hand. To day if
ye will hear his voice,
95:8 Na chaledwch eich
calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
95:8 Harden not your heart, as in the provocation, and as in
the day of temptation in the wilderness:
95:9 Pan demtiodd eich tadau
fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
95:9 When your fathers tempted me, proved me, and saw my work.
95:10 Deugain mlynedd yr
ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt
hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:
95:10 Forty years long was I grieved with this generation, and
said, It is a people that do err in their heart, and they have not known my
ways:
95:11 Wrth y rhai y tyngais
yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
95:11 Unto whom I sware in my wrath that they should not enter
into my rest.
SALM 96
96:1 Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad
newydd; cenwch, i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
96:1 O sing unto the LORD a new song: sing unto the LORD, all
the earth.
96:2 Cenwch i’r ARGLWYDD,
bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
96:2 Sing unto the LORD, bless his name; show forth his
salvation from day to day.
96:3 Datgenwch ymysg y
cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
96:3 Declare his glory among the heathen, his wonders among
all people.
96:4 Canys mawr yw yr
ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
96:4 For the LORD is great, and greatly to be praised: he is
to be feared above all gods.
96:5 Canys holl dduwiau y
bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
96:5 For all the gods of the nations are idols: but the LORD
made the heavens.
96:6 Gogoniant a harddwch
sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
96:6 Honour and majesty are before him: strength and beauty
are in his sanctuary.
96:7 Tylwythau y bobl,
rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
96:7 Give unto the LORD, O ye kindreds of the people, give
unto the LORD glory and strength.
96:8 Rhoddwch i’r ARGLWYDD
ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.
96:8 Give unto the LORD the glory due unto his name: bring an
offering, and come into his courts.
96:9 Addolwch yr ARGLWYDD
mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
96:9 O worship the LORD in the beauty of holiness: fear
before him, all the earth.
96:10 Dywedwch ymysg y
cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad
ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.
96:10 Say among the heathen that the LORD reigneth: the world
also shall be established that it shall not be moved: he shall judge the people
righteously.
96:11 Llawenhaed y nefoedd, a
gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyfiawnder.
96:11 Let the heavens rejoice, and let the earth be glad; let
the sea roar, and the fulness thereof.
96:12 Gorfoledded y maes, a’r
hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant
96:12 Let the field be joyful, and all that is therein: then
shall all the trees of the wood rejoice
96:13 O flaen yr ARGLWYDD;
canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd
trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
96:13 Before the LORD: for he cometh, for he cometh to judge
the earth: he shall judge the world with righteousness, and the people with his
truth.
SALM 97
97:1 Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu;
gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer.
97:1 The LORD reigneth; let the earth rejoice; let the
multitude of isles be glad thereof .
97:2 Cymylau a thywyllwch
sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.
97:2 Clouds and darkness are round about him: righteousness
and judgment are the habitation of his throne.
97:3 Tân a â allan o’i flaen
ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
97:3 A fire goeth before him, and burneth up his enemies
round about.
97:4 Ei fellt a lewyrchasant
y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd.
97:4 His lightnings enlightened the world: the earth saw, and
trembled.
97:5 Y mynyddoedd a doddasant
fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
97:5 The hills melted like wax at the presence of the LORD,
at the presence of the Lord of the whole earth.
97:6 Y nefoedd a fynegant ei
gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
97:6 The heavens declare his righteousness, and all the
people see his glory.
97:7 Gwaradwydder y rhai oll
a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch
ef, yr holl dduwiau.
97:7 Confounded be all they that serve graven images, that
boast themselves of idols: worship him, all ye gods.
97:8 Seion a glywodd, ac a
lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O
ARGLWYDD.
97:8 Zion heard, and was glad; and the daughters of Judah
rejoiced because of thy judgments, O LORD.
97:9 Canys ti, ARGLWYDD, wyt oruchel
goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
97:9 For thou, LORD, art high above all the earth: thou art
exalted far above all gods.
97:10 Y rhai a gerwch yr
ARGLWYDD, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared
o law y rhai annuwiol.
97:10 Ye that love the LORD, hate evil: he preserveth the
souls of his saints; he delivereth them out of the hand of the wicked.
97:11 Heuwyd goleuni i’r
cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
97:11 Light is sown for the righteous, and gladness for the
upright in heart.
97:12 Y rhai cyfiawn,
llawenychwch yn yr ARGLWYDD; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd
ef.
97:12 Rejoice in the LORD, ye righteous; and give thanks at
the remembrance of his holiness.
SALM 98
98:1 Salm. Cenwch i’r ARGLWYDD
ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich
sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth
98:1 A Psalm. O sing unto the LORD a new song; for he hath done
marvellous things: his right hand, and his holy arm, hath gotten him the
victory.
98:2 Hysbysodd yr ARGLWYDD ei
iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
98:2 The LORD hath made known his salvation: his
righteousness hath he openly showed in the sight of the heathen.
98:3 Cofiodd ei drugaredd a’i
wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein
DUW ni.
98:3 He hath remembered his mercy and his truth toward the
house of Israel: all the ends of the earth have seen the salvation of our God.
98:4 Cenwch yn llafar i’r
ARGLWYDD, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
98:4 Make a joyful noise unto the LORD, all the earth: make a
loud noise, and rejoice, and sing praise.
98:5 Cenwch i’r ARGLWYDD
gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
98:5 Sing unto the LORD with the harp; with the harp, and the
voice of a psalm.
98:6 Ar utgyrn a sain cornet,
cenwch yn llafar o flaen yr ARGLWYDD y Brenin.
98:6 With trumpets and sound of cornet make a joyful noise
before the LORD, the King.
98:7 Rhued y môr a’i
gyfiawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
98:7 Let the sea roar, and the fulness thereof; the world,
and they that dwell therein.
98:8 Cured y llifeiriaint eu
dwylo; a chydganed y mynyddoedd.
98:8 Let the floods clap their hands: let the hills be joyful
together
98:9 O flaen yr ARGLWYDD;
canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r
bobloedd ag uniondeb.
98:9 Before the LORD; for he cometh to judge the earth: with righteousness
shall he judge the world, and the people with equity.
SALM 99
99:1 YR ARGLWYDD sydd yn teyrnasu;
cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
99:1 The LORD reigneth; let the people tremble: he sitteth
between the cherubims; let the earth be moved.
99:2 Mawr yw yr ARGLWYDD yn
Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
99:2 The LORD is great in Zion; and he is high above all the
people.
99:3 Moliannant dy enw mawr
ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.
99:3 Let them praise thy great and terrible name; for it is
holy.
99:4 A nerth y Brenin a hoffa
farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyflawnder a wnei di yn Jacob.
99:4 The king’s strength also loveth judgment; thou dost
establish equity, thou executest judgment and righteousness in Jacob.
99:5 Dyrchefwch yr ARGLWYDD
ein DUW; ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.
99:5 Exalt ye the LORD our God, and worship at his footstool;
for he is holy.
99:6 Moses ac Aaron ymhlith
ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw; galwasant ar yr
ARGLWYDD, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.
99:6 Moses and Aaron among his priests, and Samuel among them
that call upon his name; they called upon the LORD, and he answered them.
99:7 Llefarodd wrthynt yn y
golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.
99:7 He spake unto them in the cloudy pillar: they kept his
testimonies, and the ordinance that he gave them.
99:8 Gwrandewaist arnynt, O
ARGLWYDD ein Duw: DUW oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.
99:8 Thou answeredst them, O LORD our God: thou wast a God
that forgavest them, though thou tookest vengeance of their inventions.
99:9 Dyrchefwch yr ARGLWYDD
ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr ARGLWYDD
ein Duw.
99:9 Exalt the LORD our God, and worship at his holy hill;
for the LORD our God is holy.
SALM 100
100:1 Salm o foliant. Cenwch yn
llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
100:1 A Psalm of praise.
Make a joyful noise unto the LORD, all ye lands.
100:2 Gwasanaethwch yr
ARGLWYDD mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân.
100:2 Serve the LORD with gladness: come before his presence
with singing.
100:3 Gwybyddwch mai yr
ARGLWYDD sydd DDUW: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a
defaid ei borfa.
100:3 Know ye that the LORD he is God: it is he that hath made
us, and not we ourselves; we are his people, and the sheep of his pasture.
100:4 Ewch i mewn i’w byrth
ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.
100:4 Enter into his gates with thanksgiving, and into his
courts with praise: be thankful unto him, and bless his name.
100:5 Canys da yw yr
ARGLWYDD: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a
chenhedlaeth.
100:5 For the LORD is good; his mercy is everlasting; and his
truth endureth to all generations.
SALM 101
101:1 Salm Dafydd. Canaf am
drugaredd a barn: i ti, O ARGLWYDD, y canaf.
101:1 A Psalm of David.
I will sing of mercy and judgment: unto thee, O LORD, will I sing.
101:2 Byddaf ddeallus mewn
ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o
fewn fy nhŷ.
101:2 I will behave myself wisely in a perfect way. O when wilt thou come unto me? I will
walk within my house with a perfect heart.
101:3 Ni osodaf ddim anwir o
flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.
101:3 I will set no wicked thing before mine eyes: I hate the
work of them that turn aside; it shall not cleave to me.
101:4 Calon gyndyn a gilia
oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.
101:4 A froward heart shall depart from me: I will not know a
wicked person .
101:5 Torraf ymaith yr hwn a
enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf
ei ddioddef.
101:5 Whoso privily slandereth his neighbour, him will I cut
off: him that hath an high look and a proud heart will not I suffer.
101:6 Fy llygaid fydd ar
ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd
berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i.
101:6 Mine eyes shall be upon the faithful of the land, that
they may dwell with me: he that walketh in a perfect way, he shall serve me.
101:7 Ni thrig o fewn
fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.
101:7 He that worketh deceit shall not dwell within my house:
he that telleth lies shall not tarry in my sight.
101:8 Yn fore y torraf ymaith
holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr
ARGLWYDD.
101:8 I will early destroy all the wicked of the land; that I
may cut off all wicked doers from the city of the LORD.
SALM 102
102:1 Gweddi’r cystuddiedig, pan
fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr ARGLWYDD. ARGLWYDD,
clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.
102:1 A Prayer of the afflicted, when he is overwhelmed, and
poureth out his complaint before the LORD.
Hear my prayer, O LORD, and let my cry come unto thee.
102:2 Na chudd dy wyneb oddi
wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf,
brysia, gwrando fi.
102:2 Hide not thy face from me in the day when I am in
trouble; incline thine ear unto me: in the day when I call answer me speedily.
102:3 Canys fy nyddiau a
ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
102:3 For my days are consumed like smoke, and my bones are
burned as an hearth.
102:4 Fy nghalon a drawyd, ac
a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fy mara.
102:4 My heart is smitten, and withered like grass; so that I forget
to eat my bread.
102:5 Gan lais fy nhuchan y
glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.
102:5 By reason of the voice of my groaning my bones cleave to
my skin.
102:6 Tebyg wyf i belican yr
anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.
102:6 I am like a pelican of the wilderness: I am like an owl
of the desert.
102:7 Gwyliais, ac ydwyf fel
aderyn y to, unig ar ben y tŷ.
102:7 I watch, and am as a sparrow alone upon the house top.
102:8 Fy ngelynion a’m
gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
102:8 Mine enemies reproach me all the day; and they that are
mad against me are sworn against me.
102:9 Canys bwyteais ludw fel
bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;
102:9 For I have eaten ashes like bread, and mingled my drink
with weeping,
102:10 Oherwydd dy lid di
a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.
102:10 Because of thine indignation and thy wrath: for thou
hast lifted me up, and cast me down.
102:11 Fy nyddiau sydd fel
cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
102:11 My days are like a shadow that declineth; and I am
withered like grass.
102:12 Tithau, ARGLWYDD, a
barhei ya dragwyddol, a’th
gofradwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
102:12 But thou, O LORD, shalt endure for ever; and thy
remembrance unto all generations.
102:13 Ti a gyfodi, ac a
drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a
ddaeth.
102:13 Thou shalt arise, and have mercy upon Zion: for the time
to favour her, yea, the set time, is come.
102:14 Oblegid y mae dy
weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
102:14 For thy servants take pleasure in her stones, and favour
the dust thereof.
102:15 Felly y cenhedloedd a
ofnant enw yr ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogonoiant.
102:15 So the heathen shall fear the name of the LORD, and all
the kings of the earth thy glory.
102:16 Pan adeilado yr
ARGLWYDD Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
102:16 When the LORD shall build up Zion, he shall appear in
his glory.
102:17 Efe a edrych at weddi
y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
102:17 He will regard the prayer of the destitute, and not
despise their prayer.
102:18 Hyn a ysgrifennir i’r
genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.
102:18 This shall be written for the generation to come: and
the people which shall be created shall praise the LORD.
102:19 Canys efe a edrychodd
o uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
102:19 For he hath looked down from the height of his
sanctuary; from heaven did the LORD behold the earth;
102:20 I wrando uchenaid y
carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
102:20 To hear the groaning of the prisoner; to loose those
that are appointed to death;
102:21 I fynegi enw yr
ARGLWYDD yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:
102:21 To declare the name of the LORD in Zion, and his praise
in Jerusalem;
102:22 Pan gasgler y bobl
ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.
102:22 When the people are gathered together, and the kingdoms,
to serve the LORD.
102:23 Gostyngodd efe fy
nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
102:23 He weakened my strength in the way; he shortened my days.
102:24 Dywedais, Fy NUW, na chymer
fi ymaith yng nghanol, fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
102:24 I said, O my God, take me not away in the midst of my
days: thy years are throughout all generations.
102:25 Yn y dechreuad y
seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
102:25 Of old hast thou laid the foundation of the earth: and
the heavens are the work of thy hands.
102:26 Hwy a ddarfyddant, a
thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt,
a hwy a newidir.
102:26 They shall perish, but thou shalt endure: yea, all of
them shall wax old like a garment; as a vesture shalt thou change them, and
they shall be changed:
102:27 Tithau yr un ydwyt,
a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
102:27 But thou art the same, and thy years shall have no end.
102:28 Plant dy weision a
barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
102:28 The children of thy servants shall continue, and their
seed shall be established before thee.
SALM 103
103:1 Salm Dafydd. Fy enaid,
bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
103:1 A Psalm of David.
Bless the LORD, O my soul: and all that is within me, bless his holy name.
103:2 Fy enaid, bendithia yr
ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
103:2 Bless the LORD, O my soul, and forget not all his
benefits:
103:3 Yr hwn sydd yn maddau
dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
103:3 Who forgiveth all thine iniquities; who healeth all thy
diseases;
103:4 Yr hwn sydd yn gwaredu
dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
103:4 Who redeemeth thy life from destruction; who crowneth
thee with lovingkindness and tender mercies;
103:5 Yr hwn sydd yn diwallu
dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
103:5 Who satisfieth thy mouth with good things; so that thy
youth is renewed like the eagle’s.
103:6 Yr ARGLWYDD sydd: yn
gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.
103:6 The LORD executeth righteousness and judgment for all
that are oppressed.
103:77 Hysbysodd ei ffyrdd i
Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
103:7 He made known his ways unto Moses, his acts unto the
children of Israel.
103:8 Trugarog a graslon yw
yr ARGLWYDD; hwyrfrydig ei lid, a mawr o drugarowgrwydd.
103:8 The LORD is merciful and gracious, slow to anger, and
plenteous in mercy.
103:9 Nid byth yr ymryson
efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
103:9 He will not always chide: neither will he keep his anger
for ever.
103:10 Nid yn ôl ein pechodau
y gwnaeth efe a ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe ini.
103:10 He hath not dealt with us after our sins; nor rewarded
us according to our iniquities.
103:11 Canys cyfuwch ag yw y
nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd e drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
103:11 For as the heaven is high above the earth, so great is
his mercy toward them that fear him.
103:12 Cyn belled ag yw y
dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ei camweddau oddi wrthym.
103:12 As far as the east is from the west, so far hath he
removed our transgressions from us.
103:13 Fel y tosturia tad
wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.
103:13 Like as a father pitieth his children, so the LORD
pitieth them that fear him.
103:14 Canys efe a
edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.
103:14 For he knoweth our frame; he remembereth that we are
dust.
103:15 Dyddiau dyn sydd fel
glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
103:15 As for man, his days are as grass: as a flower of the
field, so he flourisheth.
103:16 Canys y gwynt a â
drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
103:16 For the wind passeth over it, and it is gone; and the
place thereof shall know it no more.
103:17 Ond trugaredd yr
ARGLWYDD sydd o drawyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i
gyfiawnder i blant eu plant;
103:17 But the mercy of the LORD is from everlasting to
everlasting upon them that fear him, and his righteousness unto children’s
children;
103:18 I’r sawl a gadwant ei
gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.
103:18 To such as keep his covenant, and to those that remember
his commandments to do them.
103:19 Yr ARGLWYDD a baratôdd
ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn draethu ar bob peth.
103:19 The LORD hath prepared his throne in the heavens; and
his kingdom ruleth over all.
103:20 Bendithiwch yr
ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar
leferydd ei air ef.
103:20 Bless the LORD, ye his angels, that excel in strength,
that do his commandments, hearkening unto the voice of his word.
103:21 Bendithiwch yr
ARGLWYDD, ei holl luoedd e; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
103:21 Bless ye the LORD, all ye his hosts; ye ministers of
his, that do his pleasure.
103:22 Bendithiwch yr
ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid,
bendithia yr ARGLWYDD.
103:22 Bless the LORD, all his works in all places of his
dominion: bless the LORD, O my soul.
SALM 104
104:1 Fy enaid, bendithia yr
ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
104:1 Bless the LORD, O my soul. O LORD my God, thou art very great; thou art clothed with honour
and majesty.
104:2 Yr hwn wyt yn gwisgo
goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
104:2 Who coverest thyself with light as with a garment: who
stretchest out the heavens like a curtain:
104:3 Yr hwn sydd yn gosod
tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo;
ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
104:3 Who layeth the beams of his chambers in the waters: who
maketh the clouds his chariot: who walketh upon the wings of the wind:
104:4 Yr hwn sydd yn
gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd.
104:4 Who maketh his angels spirits; his ministers a flaming
fire:
104:5 Yr hwn a seiliodd y
ddaear ar ei symudo byth yn dragywydd.
104:5 Who laid the foundations of the earth, that it should
not be removed for ever.
104:6 Toaist hi â’r
gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
104:6 Thou coveredst it with the deep as with a garment: the
waters stood above the mountains.
104:7 Gan dy gerydd di y
ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.
104:7 At thy rebuke they fled; at the voice of thy thunder
they hasted away.
104:8 Gan y mynyddoedd yr
ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnaist, i’r lle a seiliaist iddynt.
104:8 They go up by the mountains; they go down by the valleys
unto the place which thou hast founded for them.
104:9 Gosodaist derfyn, fel
nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.
104:9 Thou hast set a bound that they may not pass over; that
they turn not again to cover the earth.
104:10 Yr hwn a yrr y
ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
104:10 He sendeth the springs into the valleys, which run among
the hills.
104:11 Diodant holl
fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.
104:11 They give drink to every beast of the field: the wild
asses quench their thirst.
104:12 Adar y nefoedd a
drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
104:12 By them shall the fowls of the heaven have their
habitation, which sing among the branches.
104:13 Y mae efe yn dyfrhau y
bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
104:13 He watereth the hills from his chambers: the earth is
satisfied with the fruit of thy works.
104:14 Y mae yn peri i’r
gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan
o’r ddaear;
104:14 He causeth the grass to grow for the cattle, and herb
for the service of man: that he may bring forth food out of the earth;
104:15 A gwin, yr hwn a
lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a
gynnal galon dyn.
104:15 And wine that maketh glad the heart of man, and oil to
make his face to shine, and bread which strengtheneth man’s heart.
104:16 Prennau yr ARGLWYDD
sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;
104:16 The trees of the LORD are full of sap; the cedars of
Lebanon, which he hath planted;
104:17 Lle y nytha yr adar: y
ffynidwydd yw tŷ y ciconia.
104:17 Where the birds make their nests: as for the stork, the
fir trees are her house.
104:18 Y mynyddoedd uchel
sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod.
104:18 The high hills are a refuge for the wild goats; and the
rocks for the conies.
104:19 Efe a wnaeth y lleuad
i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.
104:19 He appointed the moon for seasons: the sun knoweth his
going down.
104:20 Gwnei dywyllwch, a nos
fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
104:20 Thou makest darkness, and it is night: wherein all the
beasts of the forest do creep forth .
104:21 Y cenawon llewod a
ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW.
104:21 The young lions roar after their prey, and seek their
meat from God.
104:22 Pan godo haul,
ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.
104:22 The sun ariseth, they gather themselves together, and
lay them down in their dens.
104:23 Dyn a â allan i’w
waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.
104:23 Man goeth forth unto his work and to his labour until
the evening.
104:24 Mor lluosog yw dy
weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y
ddaear o’th gyfoeth.
104:24 O LORD, how manifold are thy works! in wisdom hast thou
made them all: the earth is full of thy riches.
104:25 Felly y mae y môr
mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
104:25 So is this great and wide sea, wherein are things
creeping innumerable, both small and great beasts.
104:26 Yno yr â y
llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
104:26 There go the ships: there is that leviathan, whom thou
hast made to play therein.
104:27 Y rhai hyn oll a
ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
104:27 These wait all upon thee; that thou mayest give them
their meat in due season.
104:28 A roddech iddynt, a
gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
104:28 That thou givest them they gather: thou openest thine
hand, they are filled with good.
104:29 Ti a guddi dy wyneb,
hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w
llwch.
104:29 Thou hidest thy face, they are troubled: thou takest
away their breath, they die, and return to their dust.
104:30 Pan ollyngych dy
ysbryd, y creir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
104:30 Thou sendest forth thy spirit, they are created: and
thou renewest the face of the earth.
104:31 Gogoniant yr ARGLWYDD
fydd yn dragywydd: yr ARGLWYDD a lawenycha yn ei weithredoedd.
104:31 The glory of the LORD shall endure for ever: the LORD
shall rejoice in his works.
104:32 Efe a edrych ar y
ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
104:32 He looketh on the earth, and it trembleth: he toucheth
the hills, and they smoke.
104:33 Canaf i’r ARGLWYDD tra
fyddwyf fyw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.
104:33 I will sing unto the LORD as long as I live: I will sing
praise to my God while I have my being.
104:34 Bydd melys fy myfyrdod
amdano: mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD.
104:34 My meditation of him shall be sweet: I will be glad in
the LORD.
104:35 Darfydded y
pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr
ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.
104:35 Let the sinners be consumed out of the earth, and let
the wicked be no more. Bless thou
the LORD, O my soul. Praise ye the
LORD.
SALM 105
105:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch
ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
105:1 O give thanks unto the LORD; call upon his name: make
known his deeds among the people.
105:2 Cenwch iddo, canmolwch
ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.
105:2 Sing unto him, sing Psalm unto him: talk ye of all his
wondrous works.
105:3 Gorfoleddwch yn ei enw
sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD.
105:3 Glory ye in his holy name: let the heart of them rejoice
that seek the LORD.
105:4 Ceisiwch yr ARGLWYDD
a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.
105:4 Seek the LORD, and his strength: seek his face evermore.
105:5 Cofiwch ei ryfeddodau y
rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;
105:5 Remember his marvellous works that he hath done; his
wonders, and the judgments of his mouth;
105:6 Chwi had Abraham ei was
ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
105:6 O ye seed of Abraham his servant, ye children of Jacob
his chosen.
105:7 Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW
ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
105:7 He is the LORD our God: his judgments are in all the
earth.
105:8 Cofiodd ei gyfamod
byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:
105:8 He hath remembered his covenant for ever, the word which
he commanded to a thousand generations.
105:9 Yr hyn a amododd efe ag
Abraham, a’i lw i Isaac;
105:9 Which covenant he made with Abraham, and his oath unto
Isaac;
105:10 A’r hyn a osododd efe
yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;
105:10 And confirmed the same unto Jacob for a law, and to
Israel for an everlasting covenant:
105:11 Gan ddywedyd, i ti y
rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
105:11 Saying, Unto thee will I give the land of Canaan, the
lot of your inheritance:
105:12 Pan oeddynt ychydig o
rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:
105:12 When they were but a few men in number; yea, very few,
and strangers in it.
105:13 Pan rodient o
genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall:
105:13 When they went from one nation to another, from one
kingdom to another people;
105:14 Ni adawodd i neb eu
gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;
105:14 He suffered no man to do them wrong: yea, he reproved
kings for their sakes;
105:15 Gan ddywedyd, Na
chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
105:15 Saying, Touch not mine anointed, and do my prophets no
harm.
105:16 Galwodd hefyd am newyn
ar y tir a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
105:16 Moreover he called for a famine upon the land: he brake
the whole staff of bread.
105:17 Anfonodd ŵr o’u
blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.
105:17 He sent a man before them, even Joseph, who was sold for
a servant:
105:18 Cystuddiasant ei draed
ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:
105:18 Whose feet they hurt with fetters: he was laid in iron:
105:19 Hyd yr amser y daeth
ei air ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.
105:19 Until the time that his word came: the word of the LORD
tried him.
105:20 Y brenin a anfonodd,
ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a rhyddhaodd ef.
105:20 The king sent and loosed him; even the ruler of the
people, and let him go free.
105:21 Gosododd ef yn
arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:
105:21 He made him lord of his house, and ruler of all his
substance:
105:22 I rwymo ei dywysogion
ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethhineb i’w henuriaid ef.
105:22 To bind his princes at his pleasure; and teach his
senators wisdom.
105:23 Aeth Israel hefyd i’r
Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.
105:23 Israel also came into Egypt; and Jacob sojourned in the
land of Ham.
105:24 Ac efe a gynyddodd ei
bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr.
105:24 And he increased his people greatly; and made them
stronger than their enemies.
105:25 Trodd eu calon hwynt i
gasâu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.
105:25 He turned their heart to hate his people, to deal subtly
with his servants.
105:26 Efe a anfonodd Moses
ei was; a Aaron, yr hwn a ddewisasai.
105:26 He sent Moses his servant; and Aaron whom he had chosen.
105:27 Hwy a ddangosasant ei
arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.
105:27 They showed his signs among them, and wonders in the
land of Ham.
105:28 Efe a anfonodd
dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.
105:28 He sent darkness, and made it dark; and they rebelled
not against his word.
105:29 Efe a drodd eu
dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.
105:29 He turned their waters into blood, and slew their fish.
105:30 Eu tir a heigiodd
lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.
105:30 Their land brought forth frogs in abundance, in the
chambers of their kings.
105:31 Efe a ddywedodd, a
daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.
105:31 He spake, and there came divers sorts of flies, and lice
in all their coasts.
105:32 Efe a wnaeth eu glaw
hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.
105:32 He gave them hail for rain, and flaming fire in their
land.
105:33 Trawodd hefyd eu
gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
105:33 He smote their vines also and their fig trees; and brake
the trees of their coasts.
105:34 Efe a ddywedodd, a
daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif;
105:34 He spake, and the locusts came, and caterpillars, and
that without number,
105:35 Y rhai a fwytasant yr
holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.
105:35 And did eat up all the herbs in their land, and devoured
the fruit of their ground.
105:36 Trawodd hefyd bob
cyntaf-anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.
105:36 He smote also all the firstborn in their land, the chief
of all their strength.
105:37 Ac a’u dug hwynt allan
ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.
105:37 He brought them forth also with silver and gold: and
there was not one feeble person among their tribes.
105:38 Llawenychodd yr Aifft
pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.
105:38 Egypt was glad when they departed: for the fear of them
fell upon them.
105:39 Efe a daenodd gwmwl yn
do, a thân i oleuo liw nos.
105:39 He spread a cloud for a covering; and fire to give light
in the night.
105:40 Gofynasant, ac efe a
ddug soffleir; ac a’u diwallodd â bara nefol.
105:40 The people asked, and he brought quails, and satisfied
them with the bread of heaven.
105:41 Efe a holltodd y
graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.
105:41 He opened the rock, and the waters gushed out; they ran
in the dry places like a river.
105:42 Canys efe a gofiodd ei
air sanctaidd, ac Abraham ei was.
105:42 For he remembered his holy promise, and Abraham his
servant.
105:43 Ac a ddug ei bobl
allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.
105:43 And he brought forth his people with joy, and his chosen
with gladness:
105:44 Ac a roddes iddynt
diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.
105:44 And gave them the lands of the heathen: and they
inherited the labour of the people;
105:45 Fel y cadwent ei
ddeddfau ef, ac y cyhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.
105:45 That they might observe his statutes, and keep his laws. Praise ye the LORD.
SALM 106
106:1 Molwch yr ARGLWYDD. Clodforwch
yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
106:1 Praise ye the LORD.
O give thanks unto the LORD; for he is good: for his mercy endureth for ever.
106:2 Pwy a draetha nerthoedd
yr ARGLWYDD? ac a fynega ei holl fawl ef?
106:2 Who can utter the mighty acts of the LORD? who can show
forth all his praise?
106:3 Gwyn eu byd a gadwant
farn, a’r hwn wnêl gyfiawnder bob amser.
106:3 Blessed are they that keep judgment, and he that doeth
righteousness at all times.
106:4 Cofia fi, ARGLWYDD, yn
ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwel â mi â’th iachawdwriaeth.
106:4 Remember me, O LORD, with the favour that thou bearest
unto thy people: O visit me with thy salvation;
106:5 Fel y gwelwyf ddaioni
dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y
gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth.
106:5 That I may see the good of thy chosen, that I may
rejoice in the gladness of thy nation, that I may glory with thine inheritance.
106:6 Pechasom gyda’n tadau;
gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
106:6 We have sinned with our fathers, we have committed
iniquity, we have done wickedly.
106:7 Ein tadau ni
ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy
drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.
106:7 Our fathers understood not thy wonders in Egypt; they
remembered not the multitude of thy mercies; but provoked him at the sea, even
at the Red sea.
106:8 Eto efe a’u hachubodd
hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.
106:8 Nevertheless he saved them for his name’s sake, that he
might make his mighty power to be known.
106:9 Ac a geryddodd y môr
coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r
anialwch.
106:9 He rebuked the Red sea also, and it was dried up: so he
led them through the depths, as through the wilderness.
106:10 Achubodd hwynt hefyd o
law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.
106:10 And he saved them from the hand of him that hated them,
and redeemed them from the hand of the enemy.
106:11 A’r dyfroedd a doesant
eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.
106:11 And the waters covered their enemies: there was not one
of them left.
106:12 Yna y
credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.
106:12 Then believed they his words; they sang his praise.
106:13 Yn y fan yr
anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.
106:13 They soon forgat his works; they waited not for his
counsel:
106:14 Eithr blysiasant yn
ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant DDUW yn y diffeithwch.
106:14 But lusted exceedingly in the wilderness, and tempted
God in the desert.
106:15 Ac efe a roddes eu
dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.
106:15 And he gave them their request; but sent leanness into
their soul.
106:16 Cenfigenasant hefyd
wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr ARGLWYDD.
106:16 They envied Moses also in the camp, and Aaron the saint
of the LORD.
106:17 Y ddaear a agorodd, ac
a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.
106:17 The earth opened and swallowed up Dathan, and covered
the company of Abiram.
106:18 Cyneuodd tân hefyd yn
eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.
106:18 And a fire was kindled in their company; the flame
burned up the wicked.
106:19 Llo a wnaethant yn
Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd.
106:19 They made a calf in Horeb, and worshipped the molten
image.
106:20 Felly y troesant eu
gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.
106:20 Thus they changed their glory into the similitude of an
ox that eateth grass.
106:21 Anghofiasant DDUW eu
Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;
106:21 They forgat God their saviour, which had done great
things in Egypt;
106:22 Pethau rhyfedd yn nhir
Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.
106:22 Wondrous works in the land of Ham, and terrible things
by the Red sea.
106:23 Am hynny y dywedodd y
dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i
flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
106:23 Therefore he said that he would destroy them, had not
Moses his chosen stood before him in the breach, to turn away his wrath, lest
he should destroy them .
106:24 Diystyrasant hefyd y
tir dymunol, ni chredasant ei air ef:
106:24 Yea, they despised the pleasant land, they believed not
his word:
106:25 Ond grwgnachasant yn
eu pebyll;, ac ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD,
106:25 But murmured in their tents, and hearkened not unto the
voice of the LORD.
106:26 Yna y dyrchafodd efe
ei law yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch;
106:26 Therefore he lifted up his hand against them, to
overthrow them in the wilderness:
106:27 Ac i gwympo eu had
ymysg y cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.
106:27 To overthrow their seed also among the nations, and to
scatter them in the lands.
106:28 Ymgysylltasant hefyd â
Baal-Peor, a bwytasant ebyrth y meirw.
106:28 They joined themselves also unto Baalpeor, and ate the
sacrifices of the dead.
106:29 Felly y
digiasant ef â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.
106:29 Thus they provoked him to anger with their inventions:
and the plague brake in upon them.
106:30 Yna y safodd Phinees,
ac a iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd.
106:30 Then stood up Phinehas, and executed judgment: and so
the plague was stayed.
106:31 A chyfrifwyd hyn iddo,
yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
106:31 And that was counted unto him for righteousness unto all
generations for evermore.
106:32 Llidiasant ef hefyd
wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt:
106:32 They angered him also at the waters of strife, so that
it went ill with Moses for their sakes:
106:33 Oherwydd cythruddo
ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau.
106:33 Because they provoked his spirit, so that he spake
unadvisedly with his lips.
106:34 Ni ddinistriasant y
bobloedd, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:
106:34 They did not destroy the nations, concerning whom the
LORD commanded them:
106:35 Eithr ymgymysgasant â’r
cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:
106:35 But were mingled among the heathen, and learned their
works.
106:36 A gwasanaethasant eu
delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.
106:36 And they served their idols: which were a snare unto them.
106:37 Aberthasant hefyd eu
meibion a’u merched i gythreuliaid,
106:37 Yea, they sacrificed their sons and their daughters unto
devils,
106:38 Ac a dywallasant waed
gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau
Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed.
106:38 And shed innocent blood, even the blood of their sons
and of their daughters, whom they sacrificed unto the idols of Canaan: and the
land was polluted with blood.
106:39 Felly yr ymhalogasant
yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion.
106:39 Thus were they defiled with their own works, and went a
whoring with their own inventions.
106:40 Am hynny y cyneuodd
dig yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
106:40 Therefore was the wrath of the LORD kindled against his
people, insomuch that he abhorred his own inheritance.
106:41 Ac efe a’u rhoddes
hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt.
106:41 And he gave them into the hand of the heathen; and they
that hated them ruled over them.
106:42 Eu gelynion hefyd a’u
gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.
106:42 Their enemies also oppressed them, and they were brought
into subjection under their hand.
106:43 Llawer gwaith y
gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a
wanychwyd am eu hanwiredd.
106:43 Many times did he deliver them; but they provoked him
with their counsel, and were brought low for their iniquity.
106:44 Eto efe a edrychodd
pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.
106:44 Nevertheless he regarded their affliction, when he heard
their cry:
106:45 Ac efe a gofiodd ei
gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau.
106:45 And he remembered for them his covenant, and repented
according to the multitude of his mercies.
106:46 Ac a wnaeth iddynt
gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai.
106:46 He made them also to be pitied of all those that carried
them captives.
106:47 Achub ni, O ARGLWYDD
ein DUW, a chynnull ni o blith y cenhedloedd: glodfori dy enw sanctaidd, ac i
orfoleddu yn dy foliant.
106:47 Save us, O LORD our God, and gather us from among the
heathen, to give thanks unto thy holy name, and to triumph in thy praise.
106:48 Bendigedig fyddo
ARGLWYDD DDUW Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen.
Molwch yr ARGLWYDD.
106:48 Blessed be the LORD God of Israel from everlasting to
everlasting: and let all the people say, Amen. Praise ye the LORD.
SALM 107
107:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
107:1 O give thanks unto the LORD, for he is good: for his
mercy endureth for ever.
107:2 Felly dyweded
gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
107:2 Let the redeemed of the LORD say so, whom he hath
redeemed from the hand of the enemy;
107:3 Ac a gasglodd efe o’r
tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.
107:3 And gathered them out of the lands, from the east, and
from the west, from the north, and from the south.
107:4 Crwydrasant yn yr
anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:
107:4 They wandered in the wilderness in a solitary way; they
found no city to dwell in.
107:5 Yn newynog ac yn
sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.
107:5 Hungry and thirsty, their soul fainted in them.
107:6 Yna y llefasant ar yr
ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;
107:6 Then they cried unto the LORD in their trouble, and he
delivered them out of their distresses.
107:7 Ac a’u tywysodd hwynt
ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
107:7 And he led them forth by the right way, that they might
go to a city of habitation.
107:8 O na foliannent yr
ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:8 Oh that men would praise the LORD for his goodness, and
for his wonderful works to the children of men!
107:9 Canys efe a ddiwalla yr
enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
107:9 For he satisfieth the longing soul, and filleth the
hungry soul with goodness.
107:10 Y rhai a breswyliant
yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
107:10 Such as sit in darkness and in the shadow of death,
being bound in affliction and iron;
107:11 Oherwydd anufuddhau
ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
107:11 Because they rebelled against the words of God, and
contemned the counsel of the most High:
107:12 Am hynny yntau a
ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
107:12 Therefore he brought down their heart with labour; they
fell down, and there was none to help.
107:13 Yna y gwaeddasant ar
yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
107:13 Then they cried unto the LORD in their trouble, and he
saved them out of their distresses.
107:14 Dug hwynt allan o
dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau.
107:14 He brought them out of darkness and the shadow of death,
and brake their bands in sunder.
107:15 O na foliannent yr
ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:15 Oh that men would praise the LORD for his goodness, and
for his wonderful works to the children of men!
107:16 Canys efe a dorrodd y
pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
107:16 For he hath broken the gates of brass, and cut the bars
of iron in sunder.
107:17 Ynfydion, oblegid eu
camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
107:17 Fools because of their transgression, and because of
their iniquities, are afflicted.
107:18 Eu henaid a ffieiddiai
bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
107:18 Their soul abhorreth all manner of meat; and they draw
near unto the gates of death.
107:19 Yna y gwaeddasant ar
yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
107:19 Then they cry unto the LORD in their trouble, and he
saveth them out of their distresses.
107:20 Anfonodd ei air, ac
iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.
107:20 He sent his word, and healed them, and delivered them
from their destructions.
107:21 O na foliannent yr
ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:21 Oh that men would praise the LORD for his goodness, and
for his wonderful works to the children of men!
107:22 Aberthant hefyd aberth
moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
107:22 And let them sacrifice the sacrifices of thanksgiving,
and declare his works with rejoicing.
107:23 Y rhai a ddisgynnant
mewn llongau môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
107:23 They that go down to the sea in ships, that do business
in great waters;
107:24 Hwy a welant
weithredoedd yr ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.
107:24 These see the works of the LORD, and his wonders in the
deep.
107:25 Canys efe a orchymyn,
a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
107:25 For he commandeth, and raiseth the stormy wind, which
lifteth up the waves thereof.
107:26 Hwy a esgynnant i’r
nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.
107:26 They mount up to the heaven, they go down again to the
depths: their soul is melted because of trouble.
107:27 Ymdroant, ac
ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd.
107:27 They reel to and fro, and stagger like a drunken man,
and are at their wit’s end.
107:28 Yna y gwaeddant ar yr
ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.
107:28 Then they cry unto the LORD in their trouble, and he
bringeth them out of their distresses.
107:29 Efe a wna yr ystorm yn
dawel; a’i thonnau a ostegant.
107:29 He maketh the storm a calm, so that the waves thereof
are still.
107:30 Yna y llawenhânt am eu
gostegu; efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.
107:30 Then are they glad because they be quiet; so he bringeth
them unto their desired haven.
107:31 O na foliannent yr ARGLWYDD
am ei ddaioni, ai ryfedodau i feibion dynion!
107:31 Oh that men would praise the LORD for his goodness, and
for his wonderful works to the children of men!
107:32 A dyrchafant ef yng
nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
107:32 Let them exalt him also in the congregation of the
people, and praise him in the assembly of the elders.
107:33 Efe a wna afonydd yn
ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir.
107:33 He turneth rivers into a wilderness, and the watersprings
into dry ground;
107:34 A thir ffrwythlon yn
ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
107:34 A fruitful land into barrenness, for the wickedness of
them that dwell therein.
107:35 Efe a dry yr anialwch
yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
107:35 He turneth the wilderness into a standing water, and dry
ground into watersprings.
107:36 Ac yno y gwna i’r
newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:
107:36 And there he maketh the hungry to dwell, that they may
prepare a city for habitation;
107:37 Ac yr heuont feysydd,
ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
107:37 And sow the fields, and plant vineyards, which may yield
fruits of increase.
107:38 Ac efe a’u bendithia hwynt
fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.
107:38 He blesseth them also, so that they are multiplied
greatly; and suffereth not their cattle to decrease.
107:39 Lleiheir hwynt hefyd,
a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.
107:39 Again, they are minished and brought low through
oppression, affliction, and sorrow.
107:40 Efe a dywallt ddirmyg
ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
107:40 He poureth contempt upon princes, and causeth them to
wander in the wilderness, where there is no way.
107:41 Ond efe a gyfyd y
tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
107:41 Yet setteth he the poor on high from affliction, and
maketh him families like a flock.
107:42 Y rhai uniawn a welant
hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
107:42 The righteous shall see it, and rejoice: and all
iniquity shall stop her mouth.
107:43 Y neb sydd ddoeth, ac
a gadwo hyn, a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.
107:43 Whoso is wise, and will observe these things, even they
shall understand the lovingkindness of the LORD.
SALM 108
108:1 Cân neu Salm Dafydd. Parod yw
fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.
108:1 A Song or Psalm of David. O God, my heart is fixed; I will sing and give praise, even with
my glory.
108:2 Deffro, y nabl ar
delyn: minnau a deffroaf yn fore.
108:2 Awake, psaltery and harp: I myself will awake early.
108:3 Clodforaf di, ARGLWYDD,
ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
108:3 I will praise thee, O LORD, among the people: and I will
sing praises unto thee among the nations.
108:4 Canys mawr yw dy
drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
108:4 For thy mercy is great above the heavens: and thy truth
reacheth unto the clouds.
108:5 Ymddyrcha, O DDUW, uwch
y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
108:5 Be thou exalted, O God, above the heavens: and thy glory
above all the earth;
108:6 Fel y gwareder dy rai
annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
108:6 That thy beloved may be delivered: save with thy right
hand, and answer me.
108:7 DUW a lefarodd yn ei
sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
108:7 God hath spoken in his holiness; I will rejoice, I will
divide Shechem, and mete out the valley of Succoth.
108:8 Eiddof fi yw Gilead;
eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
108:8 Gilead is mine; Manasseh is mine; Ephraim also is the
strength of mine head; Judah is my lawgiver;
108:9 Moab yw fy nghrochan
golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
108:9 Moab is my washpot; over Edom will I cast out my shoe;
over Philistia will I triumph.
108:10 Pwy a’m dwg i’r ddinas
gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?
108:10 Who will bring me into the strong city? who will lead me
into Edom?
108:11 Onid tydi, O DDUW, yr
hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda’n lluoedd?
108:11 Wilt not thou, O God, who hast cast us off? and wilt not
thou, O God, go forth with our hosts?
108:12 Dyro i ni gynhorthwy
rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
108:12 Give us help from trouble: for vain is the help of man.
108:13 Trwy DDUW y gwnawn
wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
108:13 Through God we shall do valiantly: for he it is that
shall tread down our enemies.
SALM 109
109:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Na
thaw, O DDUW fy moliant.
109:1 To the chief Musician, A Psalm of David. Hold not thy peace, O God of my
praise;
109:2 Canys genau yr annuwiol
a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: A thafod celwyddog y llefarasant i’m
herbyn.
109:2 For the mouth of the wicked and the mouth of the
deceitful are opened against me: they have spoken against me with a lying
tongue.
109:3 Cylchynasant fi hefyd â
geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.
109:3 They compassed me about also with words of hatred; and
fought against me without a cause.
109:4 Am fy ngharedigrwydd
y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.
109:4 For my love they are my adversaries: but I give myself
unto prayer.
109:5 Talasant hefyd i mi
ddrwg am dda, a chas am fy nghariad.
109:5 And they have rewarded me evil for good, and hatred for
my love.
109:6 Gosod dithau un
annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.
109:6 Set thou a wicked man over him: and let Satan stand at
his right hand.
109:7 Pan farner ef, eled yn
euog; a bydded ei weddi yn bechod.
109:7 When he shall be judged, let him be condemned: and let
his prayer become sin.
109:8 Ychydig fyddo ei
ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef.
109:8 Let his days be few; and let another take his office.
109:9 Bydded ei blant yn
amddifaid, a’i wraig yn weddw.
109:9 Let his children be fatherless, and his wife a widow.
109:10 Gan grwydro hefyd
crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd
leoedd.
109:10 Let his children be continually vagabonds, and beg: let
them seek their bread also out of their desolate places.
109:11 Rhwyded y ceisiad yr
hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
109:11 Let the extortioner catch all that he hath; and let the
strangers spoil his labour.
109:12 Na fydded neb a
estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.
109:12 Let there be none to extend mercy unto him: neither let
there be any to favour his fatherless children.
109:13 Torrer ymaith ei
hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.
109:13 Let his posterity be cut off; and in the generation
following let their name be blotted out.
109:14 Cofier anwiredd ei
dadau o flaen yr ARGLWYDD; ac na ddileer pechod ei fam ef.
109:14 Let the iniquity of his fathers be remembered with the
LORD; and let not the sin of his mother be blotted out.
109:15 Byddant bob amser gerbron
yr ARGLWYDD, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:
109:15 Let them be before the LORD continually, that he may cut
off the memory of them from the earth.
109:16 Am na chollodd
wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o
galon, i’w ladd.
109:16 Because that he remembered not to show mercy, but
persecuted the poor and needy man, that he might even slay the broken in heart.
109:17 Hoffodd felltith, a hi
a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
109:17 As he loved cursing, so let it come unto him: as he
delighted not in blessing, so let it be far from him.
109:18 Ie, gwisgodd felltith
fel dilledyn; hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.
109:18 As he clothed himself with cursing like as with his
garment, so let it come into his bowels like water, and like oil into his bones.
109:19 Bydded iddo fel
dilledyn yr hwn wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol.
109:19 Let it be unto him as the garment which covereth him,
and for a girdle wherewith he is girded continually.
109:20 Hyn fyddo tâl fy
ngwrthwynebwyr gan yr ARGLWYDD, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
109:20 Let this be the reward of mine adversaries from the
LORD, and of them that speak evil against my soul.
109:21 Tithau, ARGLWYDD DDUW,
gwn erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
109:21 But do thou for me, O GOD the Lord, for thy name’s sake:
because thy mercy is good, deliver thou me.
109:22 Canys truan a thlawd
ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn.
109:22 For I am poor and needy, and my heart is wounded within
me.
109:23 Euthum fel cysgod pan
gilio: fel locust y’m hysgydwir.
109:23 I am gone like the shadow when it declineth: I am tossed
up and down as the locust.
109:24 Fy ngliniau a aethant
yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster.
109:24 My knees are weak through fasting; and my flesh faileth
of fatness.
109:25 Gwaradwydd hefyd
oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.
109:25 I became also a reproach unto them: when they looked
upon me they shaked their heads.
109:26 Cynorthwya fi, O
ARGLWYDD fy NUW; achub fi yn ôl dy drugaredd:
109:26 Help me, O LORD my God: O save me according to thy
mercy:
109:27 Fel y gwypont mai dy
law di yw hyn; mai ti, ARGLWYDD, a’i gwnaethost.
109:27 That they may know that this is thy hand; that thou,
LORD, hast done it.
109:28 Melltithiant hwy, ond
bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.
109:28 Let them curse, but bless thou: when they arise, let
them be ashamed; but let thy servant rejoice.
109:29 Gwisger fy
ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl.
109:29 Let mine adversaries be clothed with shame, and let them
cover themselves with their own confusion, as with a mantle.
109:30 Clodforaf yr ARGLWYDD
yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.
109:30 I will greatly praise the LORD with my mouth; yea, I
will praise him among the multitude.
109:31 Oherwydd efe a saif ar
ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
109:31 For he shall stand at the right hand of the poor, to
save him from those that condemn his soul.
SALM 110
110:1 Salm Dafydd. Dywedodd yr
ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion
yn fainc i’th draed.
110:1 A Psalm of David.
The LORD said unto my Lord, Sit thou at my right hand, until I make thine
enemies thy footstool.
110:2 Gwialen dy nerth a
enfyn yr ARGLWYDD o Seion: llywodraetha di yng nghanol dy elynion.
110:2 The LORD shall send the rod of thy strength out of Zion:
rule thou in the midst of thine enemies.
110:3 Dy bobl a fyddant
ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae
gwlith dy enedigaeth i ti.
110:3 Thy people shall be willing in the day of thy power, in
the beauties of holiness from the womb of the morning: thou hast the dew of thy
youth.
110:4 Tyngodd yr ARGLWYDD, ac
nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.
110:4 The LORD hath sworn, and will not repent, Thou art a
priest for ever after the order of Melchizedek.
110:5 Yr ARGLWYDD ar dy
ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
110:5 The Lord at thy right hand shall strike through kings in
the day of his wrath.
110:6 Efe a farn ymysg y
cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.
110:6 He shall judge among the heathen, he shall fill the
places with the dead bodies; he shall wound the heads over many countries.
110:7 Efe a yf o’r
afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
110:7 He shall drink of the brook in the way: therefore shall
he lift up the head.
SALM 111
111:1 Molwch yr ARGLWYDD. Clodforaf
yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.
111:1 Praise ye the LORD.
I will praise the LORD with my whole heart, in the assembly of the upright, and
in the congregation.
111:2 Mawr yw gweithredoedd
yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.
111:2 The works of the LORD are great, sought out of all them
that have pleasure therein.
111:3 Gogoniant a harddwch yw
ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
111:3 His work is honourable and glorious: and his
righteousness endureth for ever.
111:4 Gwnaeth gofio ei
ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD.
111:4 He hath made his wonderful works to be remembered: the
LORD is gracious and full of compassion.
111:5 Rhoddodd ymborth i’r
rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
111:5 He hath given meat unto them that fear him: he will ever
be mindful of his covenant.
111:6 Mynegodd i’w bobl
gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
111:6 He hath showed his people the power of his works, that
he may give them the heritage of the heathen.
111:7 Gwirionedd a barn yw
gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
111:7 The works of his hands are verity and judgment; all his
commandments are sure.
111:8 Wedi eu sicrhau byth ac
yn dragywdd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
111:8 They stand fast for ever and ever, and are done in truth
and uprightness.
111:9 Anfonodd ymwared i’w
bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw
ef.
111:9 He sent redemption unto his people: he hath commanded
his covenant for ever: holy and reverend is his name.
111:10 Dechreuad doethineb yw
ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei
foliant ef yn parhau byth.
111:10 The fear of the LORD is the beginning of wisdom: a good
understanding have all they that do his commandments: his praise endureth for
ever.
SALM 112
112:1 Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei
fyd y gŵr a ofna yr ARGLWYDD, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn
ddirfawr.
112:1 Praise ye the LORD.
Blessed is the man that feareth the LORD, that delighteth greatly in his
commandments.
112:2 Ei had fydd gadarn ar y
ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
112:2 His seed shall be mighty upon earth: the generation of
the upright shall be blessed.
112:3 Golud a chyfoeth fydd
yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
112:3 Wealth and riches shall be in his house: and his
righteousness endureth for ever.
112:4 Cyfyd goleuni i’r rhai
uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
112:4 Unto the upright there ariseth light in the darkness: he
is gracious, and full of compassion, and righteous.
112:5 Gŵr da sydd
gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
112:5 A good man showeth favour, and lendeth: he will guide
his affairs with discretion.
112:6 Yn ddiau nid ysgogir ef
byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
112:6 Surely he shall not be moved for ever: the righteous
shall be in everlasting remembrance.
112:7 Nid ofna efe rhag
chwedl drwg: ei galon sydd ddi-sigl, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
112:7 He shall not be afraid of evil tidings: his heart is
fixed, trusting in the LORD.
112:8 Ategwyd ei galon: nid
ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
112:8 His heart is established, he shall not be afraid, until
he see his desire upon his enemies.
112:9 Gwasgarodd, rhoddodd
i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn
gogoniant.
112:9 He hath dispersed, he hath given to the poor; his
righteousness endureth for ever; his horn shall be exalted with honour.
112:10 Yr annuwiol a wêl hyn,
ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am
ddymuniad y rhai annuwiol.
112:10 The wicked shall see it, and be grieved; he shall gnash
with his teeth, and melt away: the desire of the wicked shall perish.
SALM 113
113:1 Molwch yr ARGLWYDD. Gweision
yr ARGLWYDD, molwch, ie, molwch enw yr ARGLWYDD.
113:1 Praise ye the LORD.
Praise, O ye servants of the LORD, praise the name of the LORD.
113:2 Bendigedig fyddo enw yr
ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd.
113:2 Blessed be the name of the LORD from this time forth and
for evermore.
113:3 O godiad haul hyd ei
fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.
113:3 From the rising of the sun unto the going down of the
same the LORD’s name is to be praised.
113:4 Uchel yw yr ARGLWYDD
goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.
113:4 The LORD is high above all nations, and his glory above
the heavens.
113:5 Pwy sydd fel yr
ARGLWYDD ein DUW ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
113:5 Who is like unto the LORD our God, who dwelleth on high,
113:6 Yr hwn a ymddarostwng i
edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
113:6 Who humbleth himself to behold the things that are in
heaven, and in the earth!
113:7 Efe sydd yn codi’r
tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,
113:7 He raiseth up the poor out of the dust, and lifteth the
needy out of the dunghill;
113:8 I’w osod gyda phendefigion,
ie, gyda phendefigion ei bobl.
113:8 That he may set him with princes, even with the princes
of his people.
113:9 Yr hwn a wna i’r
amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr ARGLWYDD.
113:9 He maketh the barren woman to keep house, and to be a
joyful mother of children. Praise ye
the LORD.
SALM 114
114:1 Pan aeth Israel o’r Aifft,
tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;
114:1 When Israel went out of Egypt, the house of Jacob from a
people of strange language;
114:2 Jwda oedd ei
sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth.
114:2 Judah was his sanctuary, and Israel his dominion.
114:3 Y môr a welodd hyn, ac
a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.
114:3 The sea saw it, and fled: Jordan was driven back.
114:4 Y mynyddoedd a
neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid.
114:4 The mountains skipped like rams, and the little hills
like lambs.
114:5 Beth ddarfu i ti, O
fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?
114:5 What ailed thee, O thou sea, that thou fleddest? thou
Jordan, that thou wast driven back?
114:6 Paham, fynyddoedd, y
neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel y defaid?
114:6 Ye mountains, that ye skipped like rams; and ye little
hills, like lambs?
114:7 Ofna, di ddaear, rhag
yr ARGLWYDD, rhag DUW Jacob:
114:7 Tremble, thou earth, at the presence of the Lord, at the
presence of the God of Jacob;
114:8 Yr hwn sydd yn troi y
graig yn llyn dwfr, ar gallestr yn ffynnon dyfroedd.
114:8 Which turned the rock into a standing water, the flint
into a fountain of waters.
SALM 115
115:1 Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i
ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy
wirionedd.
115:1 Not unto us, O LORD, not unto us, but unto thy name give
glory, for thy mercy, and for thy truth’s sake.
115:2 Paham y dywedai
y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt?
115:2 Wherefore should the heathen say, Where is now their
God?
115:3 Ond ein DUW, ni sydd yn
y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
115:3 But our God is in the heavens: he hath done whatsoever
he hath pleased.
115:4 Eu delwau hwy ydynt o
aur ac arian, gwaith dwylo dynion.
115:4 Their idols are silver and gold, the work of men’s hands.
115:5 Genau sydd iddynt, ond
ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
115:5 They have mouths, but they speak not: eyes have they,
but they see not:
115:6 Y mae clustiau iddynt,
ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
115:6 They have ears, but they hear not: noses have they, but
they smell not:
115:7 Dwylo sydd iddynt, ond
ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u
gwddf.
115:7 They have hands, but they handle not: feet have they,
but they walk not: neither speak they through their throat.
115:8 Y rhai a’u gwnânt ydynt
fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
115:8 They that make them are like unto them; so is every one
that trusteth in them.
115:9 O Israel,
ymddiried di yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian.
115:9 O Israel, trust thou in the LORD: he is their help and
their shield.
115:10 Tŷ Aaron,
ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian.
115:10 O house of Aaron, trust in the LORD: he is their help
and their shield.
115:11 Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD,
ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe eu porth a’u tarian.
115:11 Ye that fear the LORD, trust in the LORD: he is their
help and their shield.
115:12 Yr ARGLWYDD
a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe
dŷ Aaron.
115:12 The LORD hath been mindful of us: he will bless us; he
will bless the house of Israel; he will bless the house of Aaron.
115:13 Bendithia efe y rhai a
ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion.
115:13 He will bless them that fear the LORD, both small and great.
115:14 Yr ARGLWYDD a’ch
chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd.
115:14 The LORD shall increase you more and more, you and your
children.
115:15 Bendigedig ydych chwi
gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear.
115:15 Ye are blessed of the LORD which made heaven and earth.
115:16 Y nefoedd, ie, y
nefoedd ydynt eiddo yr ARGLWYDD: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
115:16 The heaven, even the heavens, are the LORD’s: but the
earth hath he given to the children of men.
115:17 Y meirw ni foliannant
yr ARGLWYDD, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
115:17 The dead praise not the LORD, neither any that go down
into silence.
115:18 Ond nyni a fendithiwn
yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.
115:18 But we will bless the LORD from this time forth and for
evermore. Praise the LORD.
SALM 116
116:1 Da gennyf wrando ar ARGLWYDD
ar fy llef, a’m gweddïau.
116:1 I love the LORD, because he hath heard my voice and my
supplications.
116:2 Am ostwng ohono ei glust
ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
116:2 Because he hath inclined his ear unto me, therefore will
I call upon him as long as I live.
116:3 Gofidion angau a’m
cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais.
116:3 The sorrows of death compassed me, and the pains of hell
gat hold upon me: I found trouble and sorrow.
116:4 Yna y gelwais ar enw yr
ARGLWYDD; Atolwg, ARGLWYDD gwared fy enaid.
116:4 Then called I upon the name of the LORD; O LORD, I beseech
thee, deliver my soul.
116:5 Graslon yw yr ARGLWYDD,
a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
116:5 Gracious is the LORD, and righteous; yea, our God is
merciful.
116:6 Yr ARGLWYDD sydd yn
cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd.
116:6 The LORD preserveth the simple: I was brought low, and
he helped me.
116:7 Dychwel, O fy enaid,
i’th orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.
116:7 Return unto thy rest, O my soul; for the LORD hath dealt
bountifully with thee.
116:8 Oherwydd i ti waredu fy
enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro.
116:8 For thou hast delivered my soul from death, mine eyes
from tears, and my feet from falling.
116:9 Rhodiaf o flaen yr
ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
116:9 I will walk before the LORD in the land of the living.
116:10 Credais, am hynny y
lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
116:10 I believed, therefore have I spoken: I was greatly
afflicted:
116:11 Mi a ddywedais yn fy
ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.
116:11 I said in my haste, All men are liars.
116:12 Beth a dalaf i’r
ARGLWYDD, am ei holl ddoniau i mi?
116:12 What shall I render unto the LORD for all his benefits
toward me?
116:13 Ffiol iachawdwriaeth a
gymeraf, ac ar enw yr ARGLWYDD y galwaf.
116:13 I will take the cup of salvation, and call upon the name
of the LORD.
116:14 Fy addunedau a dalaf
i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
116:14 I will pay my vows unto the LORD now in the presence of
all his people.
116:15 Gwerthfawr yng ngolwg
yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei saint ef.
116:15 Precious in the sight of the LORD is the death of his
saints.
116:16 ARGLWYDD, yn ddiau dy
was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy
rhwymau.
116:16 O LORD, truly I am thy servant; I am thy servant, and
the son of thine handmaid: thou hast loosed my bonds.
116:17 Aberthaf i ti aberth
moliant; a galwaf ar enw yr ARGLWYDD.
116:17 I will offer to thee the sacrifice of thanksgiving, and
will call upon the name of the LORD.
116:18 Talaf fy addunedau i’r
ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
116:18 I will pay my vows unto the LORD now in the presence of
all his people,
116:19 Yng nghynteddoedd
tŷ yr ARGLWYDD, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
116:19 In the courts of the LORD’s house, in the midst of thee,
O Jerusalem. Praise ye the LORD.
SALM 117
117:1 Molwch yr ARGLWYDD, yr holl
genhedloedd: clodforwch ef, yr yr holl bobloedd.
117:1 O Praise the LORD, all ye nations: praise him, all ye people.
117:2 Oherwydd ei drugaredd
ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd. Molwch
yr ARGLWYDD.
117:2 For his merciful kindness is great toward us: and the
truth of the LORD endureth for ever.
Praise ye the LORD.
SALM 118
118:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
118:1 O give thanks unto the LORD; for he is good: because his
mercy endureth for ever.
118:2 Dyweded Israel yr awr
hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:2 Let Israel now say, that his mercy endureth for ever.
118:3 Dyweded tŷ Aaron
yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:3 Let the house of Aaron now say, that his mercy endureth
for ever.
118:4 Yn awr dyweded y rhai a
ofnant yr ARGLWYDD, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:4 Let them now that fear the LORD say, that his mercy
endureth for ever.
118:5 Mewn ing y gelwais ar
yr ARGLWYDD; yr ARGLWYDD a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder.
118:5 I called upon the LORD in distress: the LORD answered
me, and set me in a large place.
118:6 Yr ARGLWYDD sydd gyda
mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?
118:6 The LORD is on my side; I will not fear: what can man do
unto me?
118:7 Yr ARGLWYDD sydd gyda
mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
118:7 The LORD taketh my part with them that help me:
therefore shall I see my desire upon them that hate me.
118:8 Gwell yw gobeithio yn
yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn dyn.
118:8 It is better to trust in the LORD than to put confidence
in man.
118:9 Gwell yw gobeithio yn
yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn tywysogion.
118:9 It is better to trust in the LORD than to put confidence
in princes.
118:10 Yr holl genhedloedd
a’m hamgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:10 All nations compassed me about: but in the name of the
LORD will I destroy them.
118:11 Amgylchynasant fi; ie,
amgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:11 They compassed me about; yea, they compassed me about:
but in the name of the LORD I will destroy them.
118:12 Amgylchynasant fi fel
gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf
hwynt ymaith.
118:12 They compassed me about like bees; they are quenched as
the fire of thorns: for in the name of the LORD I will destroy them.
118:13 Gan wthio y gwthiaist
fi, fel y syrthiwn: ond yr ARGLWYDD a’m cynorthwyodd.
118:13 Thou hast thrust sore at me that I might fall: but the
LORD helped me.
118:14 Yr ARGLWYDD yw fy
nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.
118:14 The LORD is my strength and song, and is become my
salvation.
118:15 Llef gorfoledd a
iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur
grymuster.
118:15 The voice of rejoicing and salvation is in the
tabernacles of the righteous: the right hand of the LORD doeth valiantly.
118:16 Deheulaw. yr ARGLWYDD
a ddyrchafwyd: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.
118:16 The right hand of the LORD is exalted: the right hand of
the LORD doeth valiantly.
118:17 Ni byddaf farw, ond
byw; a mynegaf weithredoedd yr ARGLWYDD.
118:17 I shall not die, but live, and declare the works of the
LORD.
118:18 Gan gosbi y’m cosbodd
yr ARGLWYDD: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
118:18 The LORD hath chastened me sore: but he hath not given
me over unto death.
118:19 Agorwch i mi byrth
cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr ARGLWYDD.
118:19 Open to me the gates of righteousness: I will go into
them, and I will praise the LORD:
118:20 Dyma borth yr
ARGLWYDD; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
118:20 This gate of the LORD, into which the righteous shall
enter.
118:21 Clodforaf di; oherwydd
i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.
118:21 I will praise thee: for thou hast heard me, and art
become my salvation.
118:22 Y maen a wrthododd yr
adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.
118:22 The stone which the builders refused is become the head
stone of the corner.
118:23 O’r ARGLWYDD y daeth
hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.
118:23 This is the LORD’S doing; it is marvellous in our eyes.
118:24 Dyma y dydd a wnaeth
yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
118:24 This is the day which the LORD hath made; we will rejoice
and be glad in it.
118:25 Atolwg, ARGLWYDD,
achub yn awr: atolwg, ARGLWYDD, pâr yn awr lwyddiant.
118:25 Save now, I beseech thee, O LORD: O LORD, I beseech
thee, send now prosperity.
118:26 Bendigedig yw a ddêl
yn enw yr ARGLWYDD: bendithiasom chwi o dŷ yr ARGLWYDD.
118:26 Blessed be he that cometh in the name of the LORD: we
have blessed you out of the house of the LORD.
118:27 DUW yw yr ARGLWYDD, yr
hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
118:27 God is the LORD, which hath showed us light: bind the
sacrifice with cords, even unto the horns of the altar.
118:28 Fy NUW ydwyt ti, a mi
a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy NUW.
118:28 Thou art my God, and I will praise thee: thou art my
God, I will exalt thee.
118:29 Clodforwch yr
ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
118:29 O give thanks unto the LORD; for he is good: for his
mercy endureth for ever.
SALM 119
119:1 ALEFF. Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a
rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
119:1 ALEPH.
Blessed are the undefiled in the way, who walk in the law of the LORD.
119:2 Gwyn fyd y rhai a
gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.
119:2 Blessed are they that keep his testimonies, and that
seek him with the whole heart.
119:3 Y rhai hefyd ni wnânt
anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
119:3 They also do no iniquity: they walk in his ways.
119:4 Ti a orchmynnaist gadw
dy orchmynion yn ddyfal.
119:4 Thou hast commanded us to keep thy precepts diligently.
119:5 O am gyfeirio fy ffyrdd
i gadw dy ddeddfau!
119:5 O that my ways were directed to keep thy statutes!
119:6 Yna ni’m gwaradwyddid,
pan edrychwn ar dy holl orchmynion.
119:6 Then shall I not be ashamed, when I have respect unto
all thy commandments.
119:7 Clodforaf di ag
uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:7 I will praise thee with uprightness of heart, when I
shall have learned thy righteous judgments.
119:8 Cadwaf dy ddeddfau; O
na ad fi yn hollol.
119:8 I will keep thy statutes: O forsake me not utterly.
119:9 BETH. Pa fodd y glanha
lanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
119:9 BETH.
Wherewithal shall a young man cleanse his way? by taking heed thereto according
to thy word.
119:10 A’m holl galon y’th
geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
119:10 With my whole heart have I sought thee: O let me not
wander from thy commandments.
119:11 Cuddiais dy
ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.
119:11 Thy word have I hid in mine heart, that I might not sin
against thee.
119:12 Ti, ARGLWYDD, wyt
fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
119:12 Blessed art thou, O LORD: teach me thy statutes.
119:13 A’m gwefusau y
traethais holl farnedigaethau dy enau.
119:13 With my lips have I declared all the judgments of thy
mouth.
119:14 Bu mor llawen gennyf
ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.
119:14 I have rejoiced in the way of thy testimonies, as much
as in all riches.
119:15 Yn dy orchmynion y myfyriaf,
ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
119:15 I will meditate in thy precepts, and have respect unto
thy ways.
119:16 Yn dy ddeddfau yr
ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
119:16 I will delight myself in thy statutes: I will not forget
thy word.
119:17 GIMEL. Bydd dda wrth
dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
119:17 GIMEL. Deal
bountifully with thy servant, that I may live, and keep thy word.
119:18 Datguddia fy llygaid,
fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.
119:18 Open thou mine eyes, that I may behold wondrous things
out of thy law.
119:19 Dieithr ydwyf fi ar y
ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
119:19 I am a stranger in the earth: hide not thy commandments
from me.
119:20 Drylliwyd fy enaid gan
awydd i’th farnedigaethau bob amser.
119:20 My soul breaketh for the longing that it hath unto thy
judgments at all times.
119:21 Ceryddaist y beilchion
melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
119:21 Thou hast rebuked the proud that are cursed, which do
err from thy commandments.
119:22 Tro oddi wrthyf
gywilydd a dirmyg oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
119:22 Remove from me reproach and contempt; for I have kept
thy testimonies.
119:23 Tywysogion hefyd a
eisteddasant ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy
ddeddfau.
119:23 Princes also did sit and speak against me: but thy
servant did meditate in thy statutes.
119:24 A’th dystiolaethau
oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.
119:24 Thy testimonies also are my delight and my counsellors.
119:25 DALETH. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn
ôl dy air.
119:25 DALETH. My
soul cleaveth unto the dust: quicken thou me according to thy word.
119:26 Fy ffyrdd a fynegais,
a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
119:26 I have declared my ways, and thou heardest me: teach me
thy statutes.
119:27 Gwna i mi ddeall
ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
119:27 Make me to understand the way of thy precepts: so shall
I talk of thy wondrous works.
119:28 Diferodd fy enaid gan
ofid: nertha fi yn ôl dy air.
119:28 My soul melteth for heaviness: strengthen thou me
according unto thy word.
119:29 Cymer oddi wrthyf
ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
119:29 Remove from me the way of lying: and grant me thy law
graciously.
119:30 Dewisais ffordd
gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
119:30 I have chosen the way of truth: thy judgments have I
laid before me .
119:31 Glynais wrth dy dystiolaethau:
O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.
119:31 I have stuck unto thy testimonies: O LORD, put me not to
shame.
119:32 Ffordd dy orchmynion a
redaf, pan ehangech fy nghalon
119:32 I will run the way of thy commandments, when thou shalt
enlarge my heart.
119:33 HE. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a
chadwaf hi hyd y diwedd.
119:33 HE. Teach me,
O LORD, the way of thy statutes; and I shall keep it unto the end.
119:34 Gwna i mi ddeall, a
chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.
119:34 Give me understanding, and I shall keep thy law; yea, I
shall observe it with my whole heart.
119:35 Gwna i mi gerdded yn
llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
119:35 Make me to go in the path of thy commandments; for
therein do I delight.
119:36 Gostwng fy nghalon at
dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.
119:36 Incline my heart unto thy testimonies, and not to
covetousness.
119:37 Tro heibio fy llygaid,
rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
119:37 Turn away mine eyes from beholding vanity; and quicken
thou me in thy way.
119:38 Sicrha dy air i’th
was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.
119:38 Stablish thy word unto thy servant, who is devoted to
thy fear.
119:39 Tro heibio fy
ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
119:39 Turn away my reproach which I fear: for thy judgments
are good.
119:40 Wele, awyddus ydwyf
i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
119:40 Behold, I have longed after thy precepts: quicken me in
thy righteousness.
119:41 FAU. Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th
iachawdwriaeth yn ôl dy air.
119:41 VAU. Let thy
mercies come also unto me, O LORD, even thy salvation, according to thy word.
119:42 Yna yr atebaf i’m
cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.
119:42 So shall I have wherewith to answer him that reproacheth
me: for I trust in thy word.
119:43 Na ddwg dithau air y
gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
119:43 And take not the word of truth utterly out of my mouth;
for I have hoped in thy judgments.
119:44 A’th gyfraith a gadwaf
yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
119:44 So shall I keep thy law continually for ever and ever.
119:45 Rhodiaf hefyd mewn
ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
119:45 And I will walk at liberty: for I seek thy precepts.
119:46 Ac am dy dystiolaethau
di y llefaraf flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
119:46 I will speak of thy testimonies also before kings, and
will not be ashamed.
119:47 Ac ymddigrifaf yn dy
orchmynion, y rhai a hoffais.
119:47 And I will delight myself in thy commandments, which I
have loved.
119:48 A’m dwylo a ddyrchafaf
at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
119:48 My hands also will I lift up unto thy commandments,
which I have loved; and I will meditate in thy statutes.
119:49 SAIN. Cofia y gair
wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
119:49 ZAIN.
Remember the word unto thy servant, upon which thou hast caused me to hope.
119:50 Dyma fy nghysur yn fy
nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.
119:50 This is my comfort in my affliction: for thy word hath
quickened me.
119:51 Y beilchion a’m
gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
119:51 The proud have had me greatly in derision: yet have I
not declined from thy law.
119:52 Cofiais, O ARGLWYDD,
dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
119:52 I remembered thy judgments of old, O LORD; and have
comforted myself.
119:53 Dychryn a ddaeth arnaf,
oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
119:53 Horror hath taken hold upon me because of the wicked
that forsake thy law.
119:54 Dy ddeddfau oedd fy
nghân yn nhŷ fy mhererindod.
119:54 Thy statutes have been my songs in the house of my
pilgrimage.
119:55 Cofiais dy enw,
ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith.
119:55 I have remembered thy name, O LORD, in the night, and
have kept thy law.
119:56 Hyn oedd gennyf, am
gadw ohonof dy orchmynion di.
119:56 This I had, because I kept thy precepts.
119:57 CHETH. O ARGLWYDD, fy
rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
119:57 CHETH. Thou
art my portion, O LORD: I have said that I would keep thy words.
119:58 Ymbiliais â’th wyneb
â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
119:58 I entreated thy favour with my whole heart: be merciful
unto me according to thy word.
119:59 Meddyliais am fy
ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
119:59 I thought on my ways, and turned my feet unto thy
testimonies.
119:60 Brysiais, ac nid
oedais gadw dy orchmynion.
119:60 I made haste, and delayed not to keep thy commandments.
119:61 Minteioedd yr
annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
119:61 The bands of the wicked have robbed me: but I have not
forgotten thy law.
119:62 Hanner nos y cyfodaf
i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:62 At midnight I will rise to give thanks unto thee because
of thy righteous judgments.
119:63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai
oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.
119:63 I am a companion of all them that fear thee, and of them
that keep thy precepts.
119:64 Llawn yw y ddaear o’th
drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.
119:64 The earth, O LORD, is full of thy mercy: teach me thy
statutes.
119:65 TETH. Gwnaethost yn
dda i’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:65 TETH. Thou
hast dealt well with thy servant, O LORD, according unto thy word.
119:66 Dysg i mi iawn ddeall
a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
119:66 Teach me good judgment and knowledge: for I have
believed thy commandments.
119:67 Cyn fy nghystuddio yr
oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
119:67 Before I was afflicted I went astray: but now have I
kept thy word.
119:68 Da ydwyt, a daionus:
dysg i mi dy ddeddfau.
119:68 Thou art good, and doest good; teach me thy statutes.
119:69 Y beilchion a
glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.
119:69 The proud have forged a lie against me: but I will keep
thy precepts with my whole heart.
119:70 Cyn frased â’r bloneg
yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
119:70 Their heart is as fat as grease; but I delight in thy
law.
119:71 Da yw i mi fy
nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
119:71 It is good for me that I have been afflicted; that I
might learn thy statutes.
119:72 Gwell i mi gyfraith dy
enau, na miloedd o aur ac arian.
119:72 The law of thy mouth is better unto me than thousands of
gold and silver.
119:73 IOD. Dy ddwylo a’m
gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.
119:73 JOD. Thy
hands have made me and fashioned me: give me understanding, that I may learn
thy commandments.
119:74 Y rhai a’th ofnant a’m
gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
119:74 They that fear thee will be glad when they see me;
because I have hoped in thy word.
119:75 Gwn, ARGLWYDD, mai
cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
119:75 I know, O LORD, that thy judgments are right, and that
thou in faithfulness hast afflicted me.
119:76 Bydded, atolwg, dy
drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.
119:76 Let, I pray thee, thy merciful kindness be for my comfort,
according to thy word unto thy servant.
119:77 Deued i mi dy
drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
119:77 Let thy tender mercies come unto me, that I may live:
for thy law is my delight.
119:78 Cywilyddier y beilchion,
canys gwnânt gam â mi yn ddiachos, ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.;
119:78 Let the proud be ashamed; for they dealt perversely with
me without a cause: but I will meditate in thy precepts.
119:79 Troer ataf fi y rhai
a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
119:79 Let those that fear thee turn unto me, and those that
have known thy testimonies.
119:80 Bydded fy nghalon yn
berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.
119:80 Let my heart be sound in thy statutes; that I be not
ashamed.
119:81 CAFF. Diffygiodd fy
enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
119:81 CAPH. My soul
fainteth for thy salvation: but I hope in thy word.
119:82 Y mae fy llygaid yn
pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?
119:82 Mine eyes fail for thy word, saying, When wilt thou
comfort me?
119:83 Canys ydwyf fel
costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.
119:83 For I am become like a bottle in the smoke; yet do I not
forget thy statutes.
119:84 Pa nifer yw dyddiau dy
was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?
119:84 How many are the days of thy servant? when wilt thou
execute judgment on them that persecute me?
119:85 Y beilchion a
gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
119:85 The proud have digged pits for me, which are not after
thy law.
119:86 Dy holl orchmynion
ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.
119:86 All thy commandments are faithful: they persecute me
wrongfully; help thou me.
119:87 Braidd na’m difasant
ar y daear; minnau ni adewais dy orchmynion.
119:87 They had almost consumed me upon earth; but I forsook
not thy precepts.
119:88 Bywha fi yn ôl dy
drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
119:88 Quicken me after thy lovingkindness; so shall I keep the
testimony of thy mouth.
119:89 LAMED. Yn dragywydd, O
ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
119:89 LAMED. For
ever, O LORD, thy word is settled in heaven.
119:90 Dy wirionedd sydd hyd
genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
119:90 Thy faithfulness is unto all generations: thou hast
established the earth, and it abideth.
119:91 Wrth dy farnedigaethau
y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
119:91 They continue this day according to thine ordinances:
for all are thy servants.
119:92 Oni bai fod dy ddeddf
yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.
119:92 Unless thy law had been my delights, I should then have
perished in mine affliction.
119:93 Byth nid anghofiaf dy orchmynion:
canys â hwynt y’m bywheaist.
119:93 I will never forget thy precepts: for with them thou
hast quickened me.
119:94 Eiddot ti ydwyf, cadw
fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.
119:94 I am thine, save me; for I have sought thy precepts.
119:95 Y rhai annunwiol a
ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
119:95 The wicked have waited for me to destroy me: but I will
consider thy testimonies.
119:96 Yr ydwyf yn gweled
diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
119:96 I have seen an end of all perfection: but thy
commandment is exceeding broad.
119:97 MEM. Mor gu gennyf dy
gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
119:97 MEM. O how
love I thy law! it is my meditation all the day.
119:98 A’th orchmynion yr
ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.
119:98 Thou through thy commandments hast made me wiser than
mine enemies: for they are ever with me.
119:99 Deellais fwy na’m holl
athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
119:99 I have more understanding than all my teachers: for thy
testimonies are my meditation.
119:100 Deellais yn well na’r
henuriaid, fy mod yn cadw dy orchmynion di.
119:100 I understand more than the ancients, because I keep thy precepts.
119:101 Ateliais fy nhraed
oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
119:101 I have refrained my feet from every evil way, that I
might keep thy word.
119:102 Ni chiliais oddi wrth
dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.
119:102 I have not departed from thy judgments: for thou hast
taught me.
119:103 Mor felys yw dy
eiriau i’m genau, melysach na mêl i’m safn.
119:103 How sweet are thy words unto my taste! yea, sweeter than
honey to my mouth!
119:104 Trwy dy orchmynion di
y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
119:104 Through thy precepts I get understanding: therefore I
hate every false way.
119:105 NUN. Llusern yw dy
air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.
119:105 NUN. Thy word
is a lamp unto my feet, and a light unto my path.
119:106 Tyngais, a
chyfiawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:106 I have sworn, and I will perform it, that I will keep
thy righteous judgments.
119:107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr:
bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:107 I am afflicted very much: quicken me, O LORD, according
unto thy word.
119:108 Atolwg, ARGLWYDD,
bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
119:108 Accept, I beseech thee, the freewill offerings of my
mouth, O LORD, and teach me thy judgments.
119:109 Y mae fy enaid yn fy
law yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
119:109 My soul is continually in my hand: yet do I not forget
thy law.
119:110 Y rhai annuwiol a
osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
119:110 The wicked have laid a snare for me: yet I erred not
from thy precepts.
119:111 Cymerais dy
orchmynion yn etifeddiaeth dros byth - oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
119:111 Thy testimonies have I taken as an heritage for ever:
for they are the rejoicing of my heart.
119:112 Gostyngais fy nghalon
i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
119:112 I have inclined mine heart to perform thy statutes
alway, even unto the end.
119:113 SAMECH. Meddyliau
ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:113 SAMECH. I
hate vain thoughts: but thy law do I love.
119:114 Fy lloches a’m tarian
ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
119:114 Thou art my hiding place and my shield: I hope in thy
word.
119:115 Ciliwch oddi wrthyf,
rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.
119:115 Depart from me, ye evildoers: for I will keep the
commandments of my God.
119:116 Cynnal fi yn ôl dy
air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
119:116 Uphold me according unto thy word, that I may live: and
let me not be ashamed of my hope.
119:117 Cynnal fi, a dihangol
fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
119:117 Hold thou me up, and I shall be safe: and I will have
respect unto thy statutes continually.
119:118 Sethraist y rhai oll
a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
119:118 Thou hast trodden down all them that err from thy
statutes: for their deceit is falsehood.
119:119 Bwriaist heibio holl
annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.
119:119 Thou puttest away all the wicked of the earth like
dross: therefore I love thy testimonies.
119:120 Dychrynodd fy nghnawd
rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
119:120 My flesh trembleth for fear of thee; and I am afraid of
thy judgments.
119:121 AIN. Gwneuthum farn a
chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.
119:121 AIN. I have
done judgment and justice: leave me not to mine oppressors.
119:122 Mechnïa dros dy was
er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.
119:122 Be surety for thy servant for good: let not the proud
oppress me.
119:123 Fy llygaid a
ballasant am dy iawchadwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
119:123 Mine eyes fail for thy salvation, and for the word of
thy righteousness.
119:124 Gwna i’th was yn ôl
dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.
119:124 Deal with thy servant according unto thy mercy, and
teach me thy statutes.
119:125 Dy was ydwyf fi; pâr
i mi ddeall fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
119:125 I am thy servant; give me understanding, that I may know
thy testimonies.
119:126 Amser yw i’r ARGLWYDD
weithio: diddymasant dy gyfraith di.
119:126 It is time for thee, LORD, to work: for they have made
void thy law.
119:127 Am hynny yr hoffais
dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.
119:127 Therefore I love thy commandments above gold; yea, above
fine gold.
119:128 Am hynny uniawn y
cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.
119:128 Therefore I esteem all thy precepts concerning all
things to be right; and I hate every false way.
119:129 PE. Rhyfedd yw dy
dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
119:129 PE. Thy
testimonies are wonderful: therefore doth my soul keep them.
119:130 Agoriad dy eiriau a
rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.
119:130 The entrance of thy words giveth light; it giveth
understanding unto the simple.
119:131 Agorais fy ngenau, a
dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.
119:131 I opened my mouth, and panted: for I longed for thy
commandments.
119:132 Edrych arnaf, a
thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.
119:132 Look thou upon me, and be merciful unto me, as thou
usest to do unto those that love thy name.
119:133 Cyfarwydda fy nghamre
yn dy air: na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
119:133 Order my steps in thy word: and let not any iniquity
have dominion over me.
119:134 Gwared fi oddi wrth
orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.
119:134 Deliver me from the oppression of man: so will I keep
thy precepts.
119:135 Llewyrcha dy wyneb ar
dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.
119:135 Make thy face to shine upon thy servant; and teach me
thy statutes.
119:136 Afonydd o ddyfroedd a
redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
119:136 Rivers of waters run down mine eyes, because they keep
not thy law.
119:137 TSADI. Cyfiawn ydwyt
ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
119:137 TZADDI.
Righteous art thou, O LORD, and upright are thy judgments.
119:138 Dy dystiolaethau y
rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.
119:138 Thy testimonies that thou hast commanded are righteous
and very faithful.
119:139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd
i’m gelynion anghofio dy eiriau di.
119:139 My zeal hath consumed me, because mine enemies have
forgotten thy words.
119:140 Purwyd dy ymadrodd yn
ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.
119:140 Thy word is very pure: therefore thy servant loveth it.
119:141 Bychan ydwyf fi, a
dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.
119:141 I am small and despised: yet do not I forget thy
precepts.
119:142 Dy gyfiawnder sydd
gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.
119:142 Thy righteousness is an everlasting righteousness, and
thy law is the truth.
119:143 Adfyd a chystudd a’m
goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.
119:143 Trouble and anguish have taken hold on me: yet thy
commandments are my delights.
119:144 Cyfiawnder dy dystiolaethau
a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
119:144 The righteousness of thy testimonies is everlasting:
give me understanding, and I shall live.
119:145 COFF. Llefais â’m
holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.
119:145 KOPH. I cried
with my whole heart; hear me, O LORD: I will keep thy statutes.
119:146 Llefais arnat; achub
fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
119:146 I cried unto thee; save me, and I shall keep thy
testimonies.
119:147 Achubais flaen y
cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais
119:147 I prevented the dawning of the morning, and cried: I
hoped in thy word.
119:148 Fy llygaid a
achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
119:148 Mine eyes prevent the night watches, that I might
meditate in thy word.
119:149 Clyw fy llef yn ôl dy
drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
119:149 Hear my voice according unto thy lovingkindness: O LORD,
quicken me according to thy judgment.
119:150 Y rhai a ddilynant
ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
119:150 They draw nigh that follow after mischief: they are far
from thy law.
119:151 Tithau, ARGLWYDD, wyt
agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd.
119:151 Thou art near, O LORD; and all thy commandments are
truth.
119:152 Er ys talm y gwyddwn
am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
119:152 Concerning thy testimonies, I have known of old that
thou hast founded them for ever.
119:153 RESH. Gwêl fy nghystudd,
a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
119:153 RESH.
Consider mine affliction, and deliver me: for I do not forget thy law.
119:154 Dadlau fy nadl, a
gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.
119:154 Plead my cause, and deliver me: quicken me according to
thy word.
119:155 Pell yw
iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
119:155 Salvation is far from the wicked: for they seek not thy
statutes.
119:156 Dy drugareddau,
ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
119:156 Great are thy tender mercies, O LORD: quicken me
according to thy judgments.
119:157 Llawer sydd yn fy
erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
119:157 Many are my persecutors and mine enemies; yet do I not
decline from thy testimonies.
119:158 Gwelais y troseddwyr,
a gresynais; am na chadwent dy air di.
119:158 I beheld the transgressors, and was grieved; because
they kept not thy word.
119:159 Gwêl fy mod yn hoffi
dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi ôl yn ôl dy drugarowgrwydd.
119:159 Consider how I love thy precepts: quicken me, O LORD,
according to thy lovingkindness.
119:160 Gwirionedd o’r
dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
119:160 Thy word is true from the beginning: and every one of
thy righteous judgments endureth for ever.
119:161 SCHIN. Tywysogion a’m
herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
119:161 SCHIN.
Princes have persecuted me without a cause: but my heart standeth in awe of thy
word.
119:162 Llawen ydwyf fi
oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
119:162 I rejoice at thy word, as one that findeth great spoil.
119:163 Celwydd a gaseais, ac
a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:163 I hate and abhor lying: but thy law do I love.
119:164 Seithwaith yn y dydd
yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
119:164 Seven times a day do I praise thee because of thy
righteous judgments.
119:165 Heddwch mawr fydd i’r
rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
119:165 Great peace have they which love thy law: and nothing
shall offend them.
119:166 Disgwyliais wrth dy
iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.
119:166 LORD, I have hoped for thy salvation, and done thy
commandments.
119:167 Fy enaid a gadwodd dy
dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.
119:167 My soul hath kept thy testimonies; and I love them
exceedingly.
119:168 Cedwais dy orchmynion
a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
119:168 I have kept thy precepts and thy testimonies: for all my
ways are before thee.
119:169 TAU. Nesaed fy
ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
119:169 TAU. Let my cry
come near before thee, O LORD: give me understanding according to thy word.
119:170 Deued fy ngweddi ger
dy fron: gwared fi yn ôl dy air.
119:170 Let my supplication come before thee: deliver me
according to thy word.
119:171 Fy ngwefusau a draetha
foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
119:171 My lips shall utter praise, when thou hast taught me thy
statutes.
119:172 Fy nhafod a ddatgan
dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.
119:172 My tongue shall speak of thy word: for all thy
commandments are righteousness.
119:173 Bydded dy law i’m
cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.
119:173 Let thine hand help me; for I have chosen thy precepts.
119:174 Hiraethais, O
ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.
119:174 I have longed for thy salvation, O LORD; and thy law is
my delight.
119:175 Bydded byw fy enaid,
fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
119:175 Let my soul live, and it shall praise thee; and let thy
judgments help me.
119:176 Cyfeiliornais fel
dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.
119:176 I have gone astray like a lost sheep; seek thy servant;
for I do not forget thy commandments.
SALM 120
120:1 Caniad y graddau. Ar yr
ARGLWYDD y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.
120:1 A Song of degrees.
In my distress I cried unto the LORD, and he heard me.
120:2 ARGLWYDD, gwared fy
enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
120:2 Deliver my soul, O LORD, from lying lips, and from a
deceitful tongue.
120:3 Beth a roddir i ti? neu
pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
120:3 What shall be given unto thee? or what shall be done
unto thee, thou false tongue?
120:4 Llymion saethau cawr,
ynghyd â marwor meryw.
120:4 Sharp arrows of the mighty, with coals of juniper.
120:5 Gwae fi, fy mod yn
preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
120:5 Woe is me, that I sojourn in Mesech, that I dwell in the
tents of Kedar!
120:6 Hir y trigodd fy enaid
gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd.
120:6 My soul hath long dwelt with him that hateth peace.
120:7 Heddychol ydwyf fi: ond
pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.
120:7 I am for peace: but when I speak, they are for war.
SALM 121
121:1 Caniad y graddau. Dyrchafaf fy
llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.
121:1 A Song of degrees.
I will lift up mine eyes unto the hills, from whence cometh my help.
121:2 Fy nghymorth a ddaw
oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd daear.
121:2 My help cometh from the LORD, which made heaven and
earth.
121:3 Ni ad efe i’th droed
lithro: ac ni huna dy geidwad.
121:3 He will not suffer thy foot to be moved: he that keepeth
thee will not slumber.
121:4 Wele, ni huna
ac ni chwsg ceidwad Israel.
121:4 Behold, he that keepeth Israel shall neither slumber nor
sleep.
121:5 Yr ARGLWYDD yw dy
geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
121:5 The LORD is thy keeper: the LORD is thy shade upon thy
right hand.
121:6 Ni’th dery yr
haul y dydd, na’r lleuad y nos.
121:6 The sun shall not smite thee by day, nor the moon by
night.
121:7 Yr ARGLWYDD a’th geidw
rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
121:7 The LORD shall preserve thee from all evil: he shall
preserve thy soul.
121:8 Yr ARGLWYDD a geidw dy
fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
121:8 The LORD shall preserve thy going out and thy coming in
from this time forth, and even for evermore.
SALM 122
122:1 Caniad y graddau, o’r eiddo
Dafydd. Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD.
122:1 A Song of degrees of David. I was glad when they said unto me, Let us go into the house of
the LORD.
122:2 Ein traed a safant o
fewn dy byrth di, O Jerwsalem.
122:2 Our feet shall stand within thy gates, O Jerusalem.
122:3 Jerwsalem a adeiladwyd
fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
122:3 Jerusalem is builded as a city that is compact together:
122:4 Yno yr esgyn y
llwythau, llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD.
122:4 Whither the tribes go up, the tribes of the LORD, unto
the testimony of Israel, to give thanks unto the name of the LORD.
122:5 Canys yno y gosodwyd
gorseddbarn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
122:5 For there are set thrones of judgment, the thrones of
the house of David.
122:6 Dymunwch heddwch
Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant.
122:6 Pray for the peace of Jerusalem: they shall prosper that
love thee.
122:7 Heddwch fyddo o fewn dy
ragfur, a ffyniant yn dy balasau.
122:7 Peace be within thy walls, and prosperity within thy
palaces.
122:8 Er mwyn fy mrodyr a’m
cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
122:8 For my brethren and companions’ sakes, I will now say,
Peace be within thee.
122:9 Er mwyn tŷ yr
ARGLWYDD ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni.
122:9 Because of the house of the LORD our God I will seek thy
good.
SALM 123
123:1 Caniad y graddau. Atat
ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.
123:1 A Song of degrees.
Unto thee lift I up mine eyes, O thou that dwellest in the heavens.
123:2 Wele, fel y mae llygaid
gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei
meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, hyd oni thrugarhao
efe wrthym ni.
123:2 Behold, as the eyes of servants look unto the hand of
their masters, and as the eyes of a maiden unto the hand of her mistress; so
our eyes wait upon the LORD our God, until that he have mercy upon us.
123:3 Trugarha wrthym,
ARGLWYDD, trugurha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
123:3 Have mercy upon us, O LORD, have mercy upon us: for we
are exceedingly filled with contempt.
123:4 Yn ddirfawr y llanwyd
ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
123:4 Our soul is exceedingly filled with the scorning of
those that are at ease, and with the contempt of the proud.
SALM 124
124:1 Caniad y graddau, o’r eiddo
Dafydd. Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel
ddywedyd yn awr;
124:1 A Song of degrees of David. If it had not been the LORD who was on our side, now may Israel
say;
124:2 Oni buasai yr ARGLWYDD
yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
124:2 If it had not been the LORD who was on our side, when men
rose up against us:
124:3 Yna y’n llyncasent ni
yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
124:3 Then they had swallowed us up quick, when their wrath
was kindled against us:
124:4 Yna y dyfroedd a
lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
124:4 Then the waters had overwhelmed us, the stream had gone
over our soul:
124:5 Yna yr aethai dros ein
henaid ddyfroedd chwyddedig.
124:5 Then the proud waters had gone over our soul.
124:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD,
yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
124:6 Blessed be the LORD, who hath not given us as a prey to
their teeth.
124:7 Ein henaid a ddihangodd
fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
124:7 Our soul is escaped as a bird out of the snare of the
fowlers: the snare is broken, and we are escaped.
124:8 Ein porth ni sydd yn
enw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
124:8 Our help is in the name of the LORD, who made heaven and
earth.
SALM 125
125:1 Caniad y graddau. Y rhai a
ymddiriedant yn yr ARGLWYDD fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a
bery yn dragywydd.
125:1 A Song of degrees.
They that trust in the LORD shall be as mount Zion, which cannot be removed,
but abideth for ever.
125:2 Fel y mae Jerwsalem a’r
mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd
hwn hyd yn dragywydd.
125:2 As the mountains are round about Jerusalem, so the LORD
is round about his people from henceforth even for ever.
125:3 Canys ni orffwys
gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu
dwylo at anwiredd.
125:3 For the rod of the wicked shall not rest upon the lot of
the righteous; lest the righteous put forth their hands unto iniquity.
125:4 O ARGLWYDD, gwna
ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.
125:4 Do good, O LORD, unto those that be good, and to them
that are upright in their hearts.
125:5 Ond y rhai a ymdroant
i’w trofeydd, yr ARGLWYDD a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd
ar Israel.
125:5 As for such as turn aside unto their crooked ways, the
LORD shall lead them forth with the workers of iniquity: but peace shall be
upon Israel.
SALM 126
126:1 Caniad y graddau. Pan
ddychwelodd yr ARGLWYDD gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
126:1 A Song of degrees.
When the LORD turned again the captivity of Zion, we were like them that dream.
126:2 Yna y llanwyd ein genau
â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr
ARGLWYDD a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.
126:2 Then was our mouth filled with laughter, and our tongue
with singing: then said they among the heathen, The LORD hath done great things
for them.
126:3 Yr ARGLWYDD a wnaeth i
ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
126:3 The LORD hath done great things for us; whereof we are
glad.
126:4 Dychwel, ARGLWYDD, ein
caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.
126:4 Turn again our captivity, O LORD, as the streams in the
south.
126:5 Y rhai sydd yn hau mewn
dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
126:5 They that sow in tears shall reap in joy.
126:6 Yr hwn sydd yn myned
rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn
gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
126:6 He that goeth forth and weepeth, bearing precious seed,
shall doubtless come again with rejoicing, bringing his sheaves with him .
SALM 127
127:1 Caniad y graddau, i Solomon.
Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os
yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.
127:1 A Song of degrees for Solomon. Except the LORD build the house, they labour in vain that build
it: except the LORD keep the city, the watchman waketh but in vain.
127:2 Ofer i chwi foregodi, myned
yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.
127:2 It is vain for you to rise up early, to sit up late, to
eat the bread of sorrows: for so he giveth his beloved sleep.
127:3 Wele, plant ydynt
etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.
127:3 Lo, children are an heritage of the LORD: and the fruit
of the womb is his reward.
127:4 Fel y mae
saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.
127:4 As arrows are in the hand of a mighty man; so are children
of the youth.
127:5 Gwyn ei fyd y gŵr
a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r
gelynion yn y porth.
127:5 Happy is the man that hath his quiver full of them: they
shall not be ashamed, but they shall speak with the enemies in the gate.
SALM 128
128:1 Gwyn ei fyd pob
un sydd yn ofni yr ARGLWYDD; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
128:1 A Song of degrees.
Blessed is every one that feareth the LORD; that walketh in his ways.
128:2 Canys mwynhei lafur dy
ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
128:2 For thou shalt eat the labour of thine hands: happy
shalt thou be, and it shall be well with thee.
128:3 Dy wraig fydd fel
gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion
olewydd o amgylch dy ford.
128:3 Thy wife shall be as a fruitful vine by the sides of
thine house: thy children like olive plants round about thy table.
128:4 Wele, fel hyn yn ddiau
y bendithir y gŵr a ofno yr ARGLWYDD.
128:4 Behold, that thus shall the man be blessed that feareth
the LORD.
128:5 Yr ARGLWYDD a’th
fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy
einioes.
128:5 The LORD shall bless thee out of Zion: and thou shalt
see the good of Jerusalem all the days of thy life.
128:6 A thi a gei weled plant
dy blant, a thangnefedd ar Israel.
128:6 Yea, thou shalt see thy children’s children, and peace
upon Israel.
SALM 129
129:1 Caniad y graddau. Llawer
gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
129:1 A Song of degrees.
Many a time have they afflicted me from my youth, may Israel now say:
129:2 Llawer gwaith y’m
cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.
129:2 Many a time have they afflicted me from my youth: yet
they have not prevailed against me.
129:3 Yr arddwyr a arddasant
ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
129:3 The plowers plowed upon my back: they made long their
furrows.
129:4 Yr ARGLWYDD sydd
gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
129:4 The LORD is righteous: he hath cut asunder the cords of
the wicked.
129:5 Gwaradwydder hwy oll, a
gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.
129:5 Let them all be confounded and turned back that hate
Zion.
129:6 Byddant fel glaswellt
pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith.
129:6 Let them be as the grass upon the housetops, which
withereth afore it groweth up:
129:7 A’r hwn ni leinw y
pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
129:7 Wherewith the mower filleth not his hand; nor he that
bindeth sheaves his bosom.
129:8 Ac ni ddywed y rhai a
ânt heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch; bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD.
129:8 Neither do they which go by say, The blessing of the
LORD be upon you: we bless you in the name of the LORD.
SALM 130
130:1 Caniad y graddau. O’r dyfnder
y llefais arnat, O ARGLWYDD.
130:1 A Song of degrees.
Out of the depths have I cried unto thee, O LORD.
130:2 ARGLWYDD, clyw fy
llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
130:2 Lord, hear my voice: let thine ears be attentive to the
voice of my supplications.
130:3 Os creffi ar
anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?
130:3 If thou, LORD, shouldest mark iniquities, O Lord, who
shall stand?
130:4 Ond y mae gyda thi
faddeuant, fel y’th ofner.
130:4 But there is forgiveness with thee, that thou mayest be
feared.
130:5 Disgwyliaf am yr
ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
130:5 I wait for the LORD, my soul doth wait, and in his word
do I hope.
130:6 Fy enaid sydd yn disgwyl
am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr
am y bore;
130:6 My soul waiteth for the Lord more than they that watch
for the morning: I say, more than they that watch for the morning.
130:7 Disgwylied Israel am yr
ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.
130:7 Let Israel hope in the LORD: for with the LORD there is
mercy, and with him is plenteous redemption.
130:8 Ac efe a wared Israel
oddi wrth ei holl anwireddau.
130:8 And he shall redeem Israel
from all his iniquities.
SALM 131
131:1 Caniad y
graddau, o’r eiddo Dafydd. O ARGLWYDD, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid
ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel
i mi.
131:1 A Song of degrees of David. LORD, my heart is not haughty, nor mine eyes lofty: neither do I
exercise myself in great matters, or in things too high for me.
131:2 Eithr gosodais a
gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd
ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.
131:2 Surely I have behaved and quieted myself, as a child
that is weaned of his mother: my soul is even as a weaned child.
131:3 Disgwylied Israel wrth
yr ARGLWYDD, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
131:3 Let Israel hope in the LORD from henceforth and for ever.
SALM 132
132:1 Caniad y graddau. O
ARGLWYDD, cofia Dafydd, a’i holl flinder;
132:1 A Song of degrees.
LORD, remember David, and all his afflictions:
132:2 Y modd y tyngodd efe
wrth yr ARGLWYDD, ac yr addunodd i rymus DDUW Jacob:
132:2 How he sware unto the LORD, and vowed unto the mighty
God of Jacob;
132:3 Ni ddeuaf i fewn pabell
fy nhŷ, Ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
132:3 Surely I will not come into the tabernacle of my house,
nor go up into my bed;
132:4 Ni roddaf gwsg i’m
llygaid, na hun i’m hamrantau,
132:4 I will not give sleep to mine eyes, or slumber to mine
eyelids,
132:5 Hyd oni chaffwyf le i’r
ARGLWYDD preswylfod i rymus DDUW Jacob.
132:5 Until I find out a place for the LORD, an habitation for
the mighty God of Jacob.
132:6 Wele, clywsom amdani yn
Effrata; cawsom hi ym meysydd y coed.
132:6 Lo, we heard of it at Ephratah: we found it in the
fields of the wood.
132:7 Awn i’w bebyll ef;
ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.
132:7 We will go into his tabernacles: we will worship at his
footstool.
132:8 Cyfod, ARGLWYDD, i’th
orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.
132:8 Arise, O LORD, into thy rest; thou, and the ark of thy
strength.
132:9 Gwisged dy offeiriaid
gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.
132:9 Let thy priests be clothed with righteousness; and let
thy saints shout for joy.
132:10 Er mwyn Dafydd dy was,
na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.
132:10 For thy servant David’s sake turn not away the face of
thine anointed.
132:11 Tyngodd yr ARGLWYDD
mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y
gosodaf ar dy orseddfainc.
132:11 The LORD hath sworn in truth unto David; he will not
turn from it; Of the fruit of thy body will I set upon thy throne.
132:12 Os ceidw dy feibion fy
nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn
dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
132:12 If thy children will keep my covenant and my testimony
that I shall teach them, their children shall also sit upon thy throne for
evermore.
132:13 Canys dewisodd yr
ARGLWYDD Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
132:13 For the LORD hath chosen Zion; he hath desired it for
his habitation.
132:14 Dyma fy ngorffwysfa yn
dragywydd; yma y trigaf; canys chwenychais hi.
132:14 This is my rest for ever: here will I dwell; for I have
desired it.
132:15 Gan fendithio y
bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
132:15 I will abundantly bless her provision: I will satisfy
her poor with bread.
132:16 Ei hoffeiriaid hefyd a
wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.
132:16 I will also clothe her priests with salvation: and her
saints shall shout aloud for joy.
132:17 Yna y paraf i gorn
Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog.
132:17 There will I make the horn of David to bud: I have
ordained a lamp for mine anointed.
132:18 Ei elynion ef a wisgaf
â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.
132:18 His enemies will I clothe with shame: but upon himself
shall his crown flourish.
SALM 133
133:1 Caniad y graddau, o’r eiddo
Dafydd. Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd!
133:1 A Song of degrees of David. Behold, how good and how pleasant it is for brethren to dwell
together in unity!
133:2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen yn disgyn ar hyd y
farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ei wisgoedd ef:
133:2 It is like the precious ointment upon the head, that ran
down upon the beard, even Aaron’s beard: that went down to the skirts of his
garments;
133:3 Fel gwlith Hermon, ac
fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr
ARGLWYDD y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
133:3 As the dew of Hermon, and as the dew that descended upon
the mountains of Zion: for there the LORD commanded the blessing, even life for
evermore.
SALM 134
134:1 Caniad y graddau. Wele, holl
weision yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD, y rhai ydych yn sefyll yn nhy’r
ARGLWYDD y nos.
134:1 A Song of degrees.
Behold, bless ye the LORD, all ye servants of the LORD, which by night stand in
the house of the LORD.
134:2 Dyrchefwch eich dwylo
yn y cysegr; a bendithiwch yr ARGLWYDD.
134:2 Lift up your hands in the sanctuary, and bless the LORD.
134:3 Yr ARGLWYDD yr hwn a
wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
134:3 The LORD that made heaven and earth bless thee out of
Zion.
SALM 135
135:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw
yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.
135:1 Praise ye the LORD.
Praise ye the name of the LORD; praise him, O ye servants of the LORD.
135:2 Y rhai ydych yn sefyll
yn nhŷ yr ARGLWYDD yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,
135:2 Ye that stand in the house of the LORD, in the courts of
the house of our God,
135:3 Molwch yr ARGLWYDD;
canys da yw yr ARGLWYDD: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw.
135:3 Praise the LORD; for the LORD is good: sing praises unto
his name; for it is pleasant.
135:4 Oblegid yr ARGLWYDD a
ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel, yn briodoriaeth iddo.
135:4 For the LORD hath chosen Jacob unto himself, and Israel
for his peculiar treasure.
135:5 Canys mi a wn mai mawr
yw yr ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
135:5 For I know that the LORD is great, and that our Lord is
above all gods.
135:6 Yr ARGLWYDD a wnaeth yr
hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl
ddyfnderau.
135:6 Whatsoever the LORD pleased, that did he in heaven, and
in earth, in the seas, and all deep places.
135:7 Y mae yn codi tarth o
eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt
allan o’i drysorau.
135:7 He causeth the vapours to ascend from the ends of the
earth; he maketh lightnings for the rain; he bringeth the wind out of his
treasuries.
135:8 Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig
yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.
135:8 Who smote the firstborn of Egypt, both of man and beast.
135:9 Danfonodd arwyddion a
rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.
135:9 Who sent tokens and wonders into the midst of thee, O
Egypt, upon Pharaoh, and upon all his servants.
135:10 Yr hwn a drawodd
genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
135:10 Who smote great nations, and slew mighty kings;
135:11 Seion brenin yr
Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:
135:11 Sihon king of the Amorites, and Og king of Bashan, and
all the kingdoms of Canaan:
135:12 Ac a roddodd eu tir
hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
135:12 And gave their land for an heritage, an heritage unto
Israel his people.
135:13 Dy enw, O ARGLWYDD, a
bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.
135:13 Thy name, O LORD, endureth for ever; and thy memorial, O
LORD, throughout all generations.
135:14 Canys yr ARGLWYDD a
farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.
135:14 For the LORD will judge his people, and he will repent
himself concerning his servants.
135:15 Delwau y cenhedloedd
ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.
135:15 The idols of the heathen are silver and gold, the work
of men’s hands.
135:16 Genau sydd iddynt, ond
ni lefant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
135:16 They have mouths, but they speak not; eyes have they,
but they see not;
135:17 Y mae clustiau iddynt,
ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.
135:17 They have ears, but they hear not; neither is there any
breath in their mouths.
135:18 Fel hwynt y
mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
135:18 They that make them are like unto them: so is every one
that trusteth in them.
135:19 Tŷ Israel,
bendithiwch yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.
135:19 Bless the LORD, O house of Israel: bless the LORD, O
house of Aaron:
135:20 Tŷ Lefi,
bendithiwch yr ARGLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
135:20 Bless the LORD, O house of Levi: ye that fear the LORD,
bless the LORD.
135:21 Bendithier yr ARGLWYDD
o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
135:21 Blessed be the LORD out of Zion, which dwelleth at
Jerusalem. Praise ye the LORD.
SALM 136
136:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:1 O give thanks unto the LORD; for he is good: for his
mercy endureth for ever.
136:2 Clodforwch DDUW y duwiau:
oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:2 O give thanks unto the God of gods: for his mercy
endureth for ever.
136:3 Clodforwch ARGLWYDD yr
arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:3 O give thanks to the Lord of lords: for his mercy
endureth for ever.
136:4 Yr hwn yn unig sydd yn
gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:4 To him who alone doeth great wonders: for his mercy
endureth for ever.
136:5 Yr hwn a wnaeth y
nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:5 To him that by wisdom made the heavens: for his mercy
endureth for ever.
136:6 Yr hwn a estynnodd y
ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:6 To him that stretched out the earth above the waters:
for his mercy endureth for ever.
136:7 Yr hwn a wnaeth
oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:7 To him that made great lights: for his mercy endureth
for ever:
136:8 Yr haul, i lywodraethu
y dydd: canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:8 The sun to rule by day: for his mercy endureth for ever:
136:9 Y lleuad a’r sêr, i
lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:9 The moon and stars to rule by night: for his mercy
endureth for ever.
136:10 Yr hwn a drawodd yr
Aifft yn eu cyntaf-anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
136:10 To him that smote Egypt in their firstborn: for his
mercy endureth for ever:
136:11 Ac a ddug Israel o’u
mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:11 And brought out Israel from among them: for his mercy
endureth for ever:
136:12 A law gref, ac â
braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:12 With a strong hand, and with a stretched out arm: for
his mercy endureth for ever.
136:13 Yr hwn a rannodd y môr
coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:13 To him which divided the Red sea into parts: for his
mercy endureth for ever:
136:14 Ac a wnaeth i Israel
fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd.
136:14 And made Israel to pass through the midst of it: for his
mercy endureth for ever:
136:15 Ac a ysgytiodd Pharo
a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:15 But overthrew Pharaoh and his host in the Red sea: for his
mercy endureth for ever.
136:16 Ac a dywysodd ei bobl
trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd.
136:16 To him which led his people through the wilderness: for
his mercy endureth for ever.
136:17 Yr hwn a drawodd
frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd:
136:17 To him which smote great kings: for his mercy endureth
for ever:
136:18 Ac a laddodd
frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd:
136:18 And slew famous kings: for his mercy endureth for ever:
136:19 Sehon brenin yr
Amoraid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:19 Sihon king of the Amorites: for his mercy endureth for
ever:
136:20 Ac Og brenin Basan:
oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:20 And Og the king of Bashan: for his mercy endureth for
ever:
136:21 Ac a roddodd eu tir
hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:21 And gave their land for an heritage: for his mercy
endureth for ever:
136:22 Yn etifeddiaeth i Israel
ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:22 Even an heritage unto Israel his servant: for his mercy
endureth for ever.
136:23 Yr hwn yn ein
hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:23 Who remembered us in our low estate: for his mercy
endureth for ever:
136:24 Ac a’n hachubodd ni
oddi wrth ei gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:24 And hath redeemed us from our enemies: for his mercy
endureth for ever.
136:25 Yr hwn sydd yn rhoddi
ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:25 Who giveth food to all flesh: for his mercy endureth for
ever.
136:26 Clodforwch DDUW y
nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:26 O give thanks unto the God of heaven: for his mercy
endureth for ever.
SALM 137
137:1 Wrth afonydd Babilon, yno yr
eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.
137:1 By the rivers of Babylon, there we sat down, yea, we
wept, when we remembered Zion.
137:2 Ar yr helyg o’u mewn y
crogasom ein telynau.
137:2 We hanged our harps upon the willows in the midst
thereof.
137:3 Canys yno y gofynnodd y
rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan
ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
137:3 For there they that carried us away captive required of
us a song; and they that wasted us required of us mirth, saying, Sing us one of
the songs of Zion.
137:4 Pa fodd y canwn gerdd
yr ARGLWYDD mewn gwlad ddieithr?
137:4 How shall we sing the LORD’s song in a strange land?
137:5 Os anghofiaf di,
Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.
137:5 If I forget thee, O Jerusalem, let my right hand forget
her cunning .
137:6 Glyned fy nhafod wrth
daflod ngenau, oni chollaf di; oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd
pennaf.
137:6 If I do not remember thee, let my tongue cleave to the
roof of my mouth; if I prefer not Jerusalem above my chief joy.
137:7 Cofia, ARGLWYDD, blant
Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei
sylfaen.
137:7 Remember, O LORD, the children of Edom in the day of
Jerusalem; who said, Raze it, raze it, even to the foundation thereof.
137:8 O ferch Babilon, a
anrheithir: gwyn ei fyd os dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau.
137:8 O daughter of Babylon, who art to be destroyed; happy
shall he be, that rewardeth thee as thou hast served us.
137:9 Gwyn ei fyd a gymero ac
a drawo dy rai bach wrth y meini.
137:9 Happy shall he be, that taketh and dasheth thy little
ones against the stones.
SALM 138
138:1 Clodforaf di â’m holl galon:
yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
138:1 A Psalm of David.
I will praise thee with my whole heart: before the gods will I sing praise unto
thee.
138:2 Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd,
a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy
air uwchlaw dy enw oll.
138:2 I will worship toward thy holy temple, and praise thy
name for thy lovingkindness and for thy truth: for thou hast magnified thy word
above all thy name.
138:3 Y dydd y llefais, y’m
gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
138:3 In the day when I cried thou answeredst me, and
strengthenedst me with strength in my soul.
138:4 Holl frenhinoedd y
ddaear a’th glodforant, O ARGLWYDD, pan glywant eiriau dy enau.
138:4 All the kings of the earth shall praise thee, O LORD,
when they hear the words of thy mouth.
138:5 Canant hefyd am ffyrdd
yr ARGLWYDD: canys mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
138:5 Yea, they shall sing in the ways of the LORD: for great
is the glory of the LORD.
138:6 Er bod yr ARGLWYDD yn
uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.
138:6 Though the LORD be high, yet hath he respect unto the
lowly: but the proud he knoweth afar off.
138:7 Pe rhodiwn yng nghanol
cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion,
a’th ddeheulaw a’m hachubai.
138:7 Though I walk in the midst of trouble, thou wilt revive
me: thou shalt stretch forth thine hand against the wrath of mine enemies, and
thy right hand shall save me.
138:8 Yr ARGLWYDD a gyflawna
â mi: dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
138:8 The LORD will perfect that which concerneth me: thy
mercy, O LORD, endureth for ever: forsake not the works of thine own hands.
SALM 139
139:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
ARGLWYDD, chwiliaist, ac adnabuost fi.
139:1 To the chief Musician, A Psalm of David. O LORD, thou hast searched me, and
known me.
139:2 Ti a adwaenost fy
eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.
139:2 Thou knowest my downsitting and mine uprising, thou
understandest my thought afar off.
139:3 Amgylchyni fy llwybr
a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
139:3 Thou compassest my path and my lying down, and art
acquainted with all my ways.
139:4 Canys nid oes air ar fy
nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a’i gwyddost oll.
139:4 For there is not a word in my tongue, but, lo, O LORD,
thou knowest it altogether.
139:5 Amgylchynaist fi yn ôl
ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
139:5 Thou hast beset me behind and before, and laid thine
hand upon me.
139:6 Dyma wybodaeth ry
ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
139:6 Such knowledge is too wonderful for me; it is high, I
cannot attain unto it.
139:7 I ba le yr af oddi wrth
dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd?
139:7 Whither shall I go from thy spirit? or whither shall I
flee from thy presence?
139:8 Os dringaf i’r nefoedd,
yno yr wyt ti: Os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
139:8 If I ascend up into heaven, thou art there: if I make my
bed in hell, behold, thou art there.
139:9 Pe cymerwn adenydd y
wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
139:9 If I take the wings of the morning, and dwell in the
uttermost parts of the sea;
139:10 Yno hefyd y’m tywysai
dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw.
139:10 Even there shall thy hand lead me, and thy right hand
shall hold me.
139:11 Pe dywedwn, Diau y
tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch.
139:11 If I say, Surely the darkness shall cover me; even the
night shall be light about me.
139:12 Ni thywylla y
tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a
goleuni i ti.
139:12 Yea, the darkness hideth not from thee; but the night
shineth as the day: the darkness and the light are both alike to thee.
139:13 Canys ti a
feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
139:13 For thou hast possessed my reins: thou hast covered me
in my mother’s womb.
139:14 Clodforaf di; canys
ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr
hynny yn dda.
139:14 I will praise thee; for I am fearfully and wonderfully
made: marvellous are thy works; and that my soul knoweth right well.
139:15 Ni chuddiwyd fy
sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn
iselder y ddaear.
139:15 My substance was not hid from thee, when I was made in
secret, and curiously wrought in the lowest parts of the earth.
139:16 Dy lygaid a welsant fy
annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y
lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.
139:16 Thine eyes did see my substance, yet being unperfect;
and in thy book all my members were written, which in continuance were
fashioned, when as yet there was none of them.
139:17 Am hynny mor werthfawr
yw dy feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt!
139:17 How precious also are thy thoughts unto me, O God! how
great is the sum of them!
139:18 Pe cyfrifywn hwynt,
amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
139:18 If I should count them, they are more in number than the
sand: when I awake, I am still with thee.
139:19 Yn ddiau, O DDUW, ti a
leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:
139:19 Surely thou wilt slay the wicked, O God: depart from me
therefore, ye bloody men.
139:20 Y rhai a ddywedant
ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer
139:20 For they speak against thee wickedly, and thine enemies
take thy name in vain.
139:21 Onid cas gennyf, O
ARGLWYDD, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn?
139:21 Do not I hate them, O LORD, that hate thee? and am not I
grieved with those that rise up against thee?
139:22 A chas cyflawn y
caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
139:22 I hate them with perfect hatred: I count them mine
enemies.
139:23 Chwilia fi, O DDUW, a
gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;
139:23 Search me, O God, and know my heart: try me, and know my
thoughts:
139:24 A gwêl a oes ffordd
annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
139:24 And see if there be any wicked way in me, and lead me in
the way everlasting.
SALM 140
140:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwared
fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:
140:1 To the chief Musician, A Psalm of David. Deliver me, O LORD, from the evil
man: preserve me from the violent man;
140:2 Y rhai sydd yn bwriadu
drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
140:2 Which imagine mischiefs in their heart; continually are
they gathered together for war.
140:3 Golymasant eu
tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
140:3 They have sharpened their tongues like a serpent;
adders’ poison is under their lips.
Selah.
140:4 Cadw fi, O ARGLWYDD,
rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant
fachellu fy nhraed.
140:4 Keep me, O LORD, from the hands of the wicked; preserve
me from the violent man; who have purposed to overthrow my goings.
140:5 Y beilchion a
guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau:
gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.
140:5 The proud have hid a snare for me, and cords; they have
spread a net by the wayside; they have set gins for me. Selah.
140:6 Dywedais wrth yr
ARGLWYDD, Fy NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau.
140:6 I said unto the LORD, Thou art my God: hear the voice of
my supplications, O LORD.
140:7 ARGLWYDD DDUW, nerth fy
iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
140:7 O GOD the Lord, the strength of my salvation, thou hast
covered my head in the day of battle.
140:8 Na chaniatâ, ARGLWYDD,
ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.
140:8 Grant not, O LORD, the desires of the wicked: further
not his wicked device; lest they exalt themselves. Selah.
140:9 Y pennaf o’r rhai a’m
hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.
140:9 As for the head of those that compass me about, let the
mischief of their own lips cover them.
140:10 Syrthied marwor
arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.
140:10 Let burning coals fall upon them: let them be cast into
the fire; into deep pits, that they rise not up again.
140:11 Na sicrhaer
dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.
140:11 Let not an evil speaker be established in the earth:
evil shall hunt the violent man to overthrow him.
140:12 Gwn y dadlau
yr ARGLWYDD ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
140:12 I know that the LORD will maintain the cause of the
afflicted, and the right of the poor.
140:13 Y cyfiawn yn ddiau a
glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
140:13 Surely the righteous shall give thanks unto thy name:
the upright shall dwell in thy presence.
SALM 141
141:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, yr wyf
yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.
141:1 A Psalm of David.
LORD, I cry unto thee: make haste unto me; give ear unto my voice, when I cry
unto thee.
141:2 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl-darth, a dyrchafiad fy
nwylo fel offrwm prynhawnol.
141:2 Let my prayer be set forth before thee as incense; and the
lifting up of my hands as the evening sacrifice.
141:3 Gosod, ARGLWYDD,
gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.
141:3 Set a watch, O LORD, before my mouth; keep the door of
my lips.
141:4 Na ostwng fy nghalon at
ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant
anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt.
141:4 Incline not my heart to any evil thing, to practice
wicked works with men that work iniquity: and let me not eat of their dainties.
141:5 Cured y cyfiawn fi yn
garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy
ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt.
141:5 Let the righteous smite me; it shall be a kindness: and
let him reprove me; it shall be an excellent oil, which shall not break my
head: for yet my prayer also shall be in their calamities.
141:6 Pan dafler eu barnwyr i
lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau canys melys ydynt.
141:6 When their judges are overthrown in stony places, they
shall hear my words; for they are sweet.
141:7 Y mae ein
hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y
ddaear.
141:7 Our bones are scattered at the grave’s mouth, as when
one cutteth and cleaveth wood upon the earth.
141:8 Eithr arnat ti, O
ARGLWYDD DDUW, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn
ddiymgeledd.
141:8 But mine eyes are unto thee, O GOD the Lord: in thee is
my trust; leave not my soul destitute.
141:9 Cadw fi rhag y fagl a
osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.
141:9 Keep me from the snares which they have laid for me, and
the gins of the workers of iniquity.
141:10 Cydgwymped y rhai
annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
141:10 Let the wicked fall into their own nets, whilst that I
withal escape.
SALM 142
142:1 Maschil Dafydd; Gweddi pan
oedd efe yn yr ogof. Gwaeddais â’m llef ar yr ARGLWYDD; â’m llef yr ymbiliais
â’r ARGLWYDD.
142:1 Maschil of David; A Prayer when he was in the cave. I cried unto the LORD with my voice;
with my voice unto the LORD did I make my supplication.
142:2 Tywelltais fy myfyrdod
o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
142:2 I poured out my complaint before him; I showed before
him my trouble.
142:3 Pan ballodd fy ysbryd o’m
mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn
y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.
142:3 When my spirit was overwhelmed within me, then thou
knewest my path. In the way wherein
I walked have they privily laid a snare for me.
142:4 Edrychais ar y tu deau,
a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd
neb yn ymofyn am fy enaid.
142:4 I looked on my right hand, and beheld, but there was no
man that would know me: refuge failed me; no man cared for my soul.
142:5 Llefais arnat, O
ARGLWYDD; dywedais, ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw.
142:5 I cried unto thee, O LORD: I said, Thou art my refuge
and my portion in the land of the living.
142:6 Ystyr wrth fy ngwaedd:
canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na
mi.
142:6 Attend unto my cry; for I am brought very low: deliver
me from my persecutors; for they are stronger than I.
142:7 Dwg fy enaid allan o
garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a
fyddi da wrthyf.
142:7 Bring my soul out of prison, that I may praise thy name:
the righteous shall compass me about; for thou shalt deal bountifully with me.
SALM 143
143:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, clyw fy
ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy
gyfiawnder.
143:1 A Psalm of David. Hear my prayer, O LORD, give ear to
my supplications: in thy faithfulness answer me, and in thy righteousness.
143:2 Ac na ddos i farn â’th
was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
143:2 And enter not into judgment with thy servant: for in thy
sight shall no man living be justified.
143:3 Canys y gelyn a
erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch,
fel y rhai a fu feirw er ys talm.
143:3 For the enemy hath persecuted my soul; he hath smitten
my life down to the ground; he hath made me to dwell in darkness, as those that
have been long dead.
143:4 Yna y pallodd fy ysbryd
o’m mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
143:4 Therefore is my spirit overwhelmed within me; my heart
within me is desolate.
143:5 Cofiais y dyddiau gynt;
myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
143:5 I remember the days of old; I meditate on all thy works;
I muse on the work of thy hands.
143:6 Lledais fy nwylo atat:
fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.
143:6 I stretch forth my hands unto thee: my soul thirsteth
after thee, as a thirsty land. Selah.
143:7 O ARGLWYDD, gwrando fi
yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn
gyffelyb i’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.
143:7 Hear me speedily, O LORD: my spirit faileth: hide not
thy face from me, lest I be like unto them that go down into the pit.
143:8 Pâr i mi glywed dy
drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y
rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.
143:8 Cause me to hear thy lovingkindness in the morning; for
in thee do I trust: cause me to know the way wherein I should walk; for I lift up
my soul unto thee.
143:9 Gwared fi oddi wrth fy
ngelynion, O ARGLWYDD: gyda thi yr ymguddiais.
143:9 Deliver me, O LORD, from mine enemies: I flee unto thee
to hide me.
143:10 Dysg i mi wneuthur dy
ewyllys di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb
143:10 Teach me to do thy will; for thou art my God: thy spirit
is good; lead me into the land of uprightness.
143:11 Bywha fi, O ARGLWYDD,
er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.
143:11 Quicken me, O LORD, for thy name’s sake: for thy
righteousness’ sake bring my soul out of trouble.
143:12 Ac er dy drugaredd
dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di
ydwyf fi.
143:12 And of thy mercy cut off mine enemies, and destroy all
them that afflict my soul: for I am thy servant.
SALM 144
144:1 Salm Dafydd. Bendigedig fyddo
yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i
ryfela.
144:1 A Psalm of David.
Blessed be the LORD my strength, which teacheth my hands to war, and my fingers
to fight:
144:2 Fy nhrugaredd, a’m
hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y
gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
144:2 My goodness, and my fortress; my high tower, and my deliverer;
my shield, and he in whom I trust; who subdueth my people under me.
144:3 ARGLWYDD, beth yw dyn,
pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
144:3 LORD, what is man, that thou takest knowledge of him! or
the son of man, that thou makest account of him!
144:4 Dyn sydd debyg i
wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
144:4 Man is like to vanity: his days are as a shadow that
passeth away.
144:5 ARGLWYDD, gostwng dy
nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.
144:5 Bow thy heavens, O LORD, and come down: touch the
mountains, and they shall smoke.
144:6 Saetha fellt, a gwasgar
hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.
144:6 Cast forth lightning, and scatter them: shoot out thine
arrows, and destroy them.
144:7 Anfon dy law oddi
uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
144:7 Send thine hand from above; rid me, and deliver me out
of great waters, from the hand of strange children;
144:8 Y rhai y llefara eu
genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
144:8 Whose mouth speaketh vanity, and their right hand is a
right hand of falsehood.
144:9 Canaf i ti, O DDUW,
ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.
144:9 I will sing a new song unto thee, O God: upon a psaltery
and an instrument of ten strings will I sing praises unto thee.
144:10 Efe sydd yn rhoddi
iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y
cleddyf niweidiol.
144:10 It is he that giveth salvation unto kings: who delivereth
David his servant from the hurtful sword.
144:11 Achub fi, a gwared fi
o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn
ddeheulaw ffalster:
144:11 Rid me, and deliver me from the hand of strange children,
whose mouth speaketh vanity, and their right hand is a right hand of falsehood:
144:12 Fel y byddo ein
meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd,
wrth gyffelybrwydd palas:
144:12 That our sons may be as plants grown up in their youth;
that our daughters may be as corner stones, polished after the similitude of a
palace:
144:13 Fel y byddo ein
celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a
myrddiwn yn ein heolydd:
144:13 That our garners may be full, affording all manner of
store: that our sheep may bring forth thousands and ten thousands in our
streets:
144:14 A’n hychen yn gryfion
i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.
144:14 That our oxen may be strong to labour; that there be no
breaking in, nor going out; that there be no complaining in our streets.
144:15 Gwyn eu byd y bobl y
mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.
144:15 Happy is that people, that is in such a case: yea, happy
is that people, whose God is the LORD.
SALM 145
145:1 Salm Dafydd o foliant. Dyrchafaf di, fy NUW, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.
145:1
David’s Psalm of praise. I will extol thee, my God, O king; and I will bless
thy name for ever and ever.
145:2 Beunydd y’th
fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd.
145:2 Every day will I bless thee; and I will praise thy name
for ever and ever.
145:3 Mawr yw yr ARGLWYDD, a
chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy.
145:3 Great is the LORD, and greatly to be praised; and his
greatness is unsearchable.
145:4 Cenhedlaeth wrth
genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
145:4 One generation shall praise thy works to another, and
shall declare thy mighty acts.
145:5 Ardderchowgrwydd
gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
145:5 I will speak of the glorious honour of thy majesty, and
of thy wondrous works.
145:6 Traethant hwy gadernid
dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.
145:6 And men shall speak of the might of thy terrible acts:
and I will declare thy greatness.
145:7 Coffadwriaeth amlder dy
ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant.
145:7 They shall abundantly utter the memory of thy great goodness,
and shall sing of thy righteousness.
145:8 Graslon a thrugarog yw
yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
145:8 The LORD is gracious, and full of compassion; slow to
anger, and of great mercy.
145:9 Daionus yw yr ARGLWYDD
i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
145:9 The LORD is good to all: and his tender mercies are over
all his works.
145:10 Dy holl weithredoedd
a’th glodforant, O ARGLWYDD; a’th saint a’th fendithiant.
145:10 All thy works shall praise thee, O LORD; and thy saints
shall bless thee.
145:11 Dywedant am ogoniant
dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:
145:11 They shall speak of the glory of thy kingdom, and talk
of thy power;
145:12 I beri i feibion
dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
145:12 To make known to the sons of men his mighty acts, and
the glorious majesty of his kingdom.
145:13 Dy frenhiniaeth di
sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
145:13 Thy kingdom is an everlasting kingdom, and thy dominion
endureth throughout all generations.
145:14 Yr ARGLWYDD sydd yn
cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
145:14 The LORD upholdeth all that fall, and raiseth up all
those that be bowed down.
145:15 Llygaid pob peth a
ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
145:15 The eyes of all wait upon thee; and thou givest them
their meat in due season.
145:16 Gan agoryd dy law, a
diwallu pob peth byw â’th ewyllys da.
145:16 Thou openest thine hand, and satisfiest the desire of
every living thing.
145:17 Cyfiawn yw yr ARGLWYDD
yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
145:17 The LORD is righteous in all his ways, and holy in all
his works.
145:18 Agos yw yr ARGLWYDD at
y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
145:18 The LORD is nigh unto all them that call upon him, to
all that call upon him in truth.
145:19 Efe a wna ewyllys y
rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
145:19 He will fulfil the desire of them that fear him: he also
will hear their cry, and will save them.
145:20 Yr ARGLWYDD sydd yn
cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
145:20 The LORD preserveth all them that love him: but all the
wicked will he destroy.
145:21 Traetha fy ngenau
foliant yr ARGLWYDD: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn
dragywydd.
145:21 My mouth shall speak the praise of the LORD: and let all
flesh bless his holy name for ever and ever.
SALM 146
146:1 Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid,
mola di yr ARGLWYDD.
146:1 Praise ye the LORD.
Praise the LORD, O my soul.
146:2 Molaf yr ARGLWYDD yn fy
myw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.
146:2 While I live will I praise the LORD: I will sing praises
unto my God while I have any being.
146:3 Na hyderwch ar
dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
146:3 Put not your trust in princes, nor in the son of man, in
whom there is no help.
146:4 Ei anadl a â allan, efe
a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
146:4 His breath goeth forth, he returneth to his earth; in
that very day his thoughts perish.
146:5 Gwyn ei fyd yr hwn y
mae DUW Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW:
146:5 Happy is he that hath the God of Jacob for his help,
whose hope is in the LORD his God:
146:6 Yr hwn a wnaeth nefoedd
a daear, môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn
dragywydd:
146:6 Which made heaven, and earth, the sea, and all that
therein is: which keepeth truth for ever:
146:7 Yr hwn sydd yn
gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD
sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.
146:7 Which executeth judgment for the oppressed: which giveth
food to the hungry. The LORD looseth
the prisoners:
146:8 Yr ARGLWYDD sydd yn
agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr
ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
146:8 The LORD openeth the eyes of the blind: the LORD raiseth
them that are bowed down: the LORD loveth the righteous:
146:9 Yr ARGLWYDD sydd yn
cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd
y rhai annuwiol.
146:9 The LORD preserveth the strangers; he relieveth the
fatherless and widow: but the way of the wicked he turneth upside down.
146:10 Yr ARGLWYDD a deyrnasa
byth, sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr
ARGLWYDD.
146:10 The LORD shall reign for ever, even thy God, O Zion,
unto all generations. Praise ye the
LORD.
SALM 147
147:1 Molwch yr ARGLWYDD: canys da
yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.
147:1 Praise ye the LORD: for it is good to sing praises unto
our God; for it is pleasant; and praise is comely.
147:2 Yr ARGLWYDD sydd yn
adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.
147:2 The LORD doth build up Jerusalem: he gathereth together
the outcasts of Israel.
147:3 Efe sydd yn
iachau y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
147:3 He healeth the broken in heart, and bindeth up their
wounds.
147:4 Y mae efe yn rhifo
rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.
147:4 He telleth the number of the stars; he calleth them all
by their names.
147:5 Mawr yw ein HARGLWYDD,
a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.
147:5 Great is our Lord, and of great power: his understanding
is infinite.
147:6 Yr ARGLWYDD sydd yn
dyrchafu rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
147:6 The LORD lifteth up the meek: he casteth the wicked down
to the ground.
147:7 Cydgenwch i’r ARGLWYDD
mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn;
147:7 Sing unto the LORD with thanksgiving; sing praise upon
the harp unto our God:
147:8 Yr hwn sydd yn toi y
nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y
mynyddoedd.
147:8 Who covereth the heaven with clouds, who prepareth rain
for the earth, who maketh grass to grow upon the mountains.
147:9 Efe, sydd yn rhoddi i’r
anifail ei borthant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.
147:9 He giveth to the beast his food, and to the young ravens
which cry.
147:10 Nid oes hyfrydwch
ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.
147:10 He delighteth not in the strength of the horse: he
taketh not pleasure in the legs of a man.
147:11 Yr ARGLWYDD sydd hoff
ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
147:11 The LORD taketh pleasure in them that fear him, in those
that hope in his mercy.
147:12 Jerwsalem, mola di yr
ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.
147:12 Praise the LORD, O Jerusalem; praise thy God, O Zion.
147:13 Oherwydd efe a
gadarnhaodd farrau byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.
147:13 For he hath strengthened the bars of thy gates; he hath
blessed thy children within thee.
147:14 Yr hwn sydd yn
gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith.
147:14 He maketh peace in thy borders, and filleth thee with
the finest of the wheat.
147:15 Yr hwn sydd yn anfon
ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan.
147:15 He sendeth forth his commandment upon earth: his word
runneth very swiftly.
147:16 Yr hwn sydd yn rhoddi
eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.
147:16 He giveth snow like wool: he scattereth the hoarfrost
like ashes.
147:17 Yr hwn sydd yn bwrw ei
iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?
147:17 He casteth forth his ice like morsels: who can stand
before his cold?
147:18 Efe a enfyn ei air, ac
a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, ar dyfroedd a lifant.
147:18 He sendeth out his word, and melteth them: he causeth
his wind to blow, and the waters flow.
147:19 Y mae efe yn mynegi ei
eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.
147:19 He showeth his word unto Jacob, his statutes and his
judgments unto Israel.
147:20 Ni wnaeth efe felly ag
un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.
147:20 He hath not dealt so with any nation: and as for his
judgments, they have not known them.
Praise ye the LORD.
SALM 148
148:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr
ARGLWYDD o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
148:1 Praise ye the LORD.
Praise ye the LORD from the heavens: praise him in the heights.
148:2 Molwch ef, ei holl
angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
148:2 Praise ye him, all his angels: praise ye him, all his
hosts.
148:3 Molwch ef, haul a
lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
148:3 Praise ye him, sun and moon: praise him, all ye stars of
light.
148:4 Molwch ef, nef y
nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
148:4 Praise him, ye heavens of heavens, and ye waters that be
above the heavens.
148:5 Molant enw yr ARGLWYDD
oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
148:5 Let them praise the name of the LORD: for he commanded,
and they were created.
148:6 A gwnaeth iddynt barhau
byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
148:6 He hath also stablished them for ever and ever: he hath
made a decree which shall not pass.
148:7 Molwch yr ARGLWYDD. o’r
ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:
148:7 Praise the LORD from the earth, ye dragons, and all
deeps:
148:8 Tân a chenllysg, eira a
tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
148:8 Fire, and hail; snow, and vapours; stormy wind
fulfilling his word:
148:9 Y mynyddoedd a’r
bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:
148:9 Mountains, and all hills; fruitful trees, and all
cedars:
148:10 Y bwystfilod a phob
anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
148:10 Beasts, and all cattle; creeping things, and flying
fowl:
148:11 Brenhinoedd y ddaear
a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
148:11 Kings of the earth, and all people; princes, and all
judges of the earth:
148:12 Gwŷr ieuainc a
gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
148:12 Both young men, and maidens; old men, and children:
148:13 Molant enw yr
ARGLWYDD: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef
sydd uwchlaw daear a nefoedd.
148:13 Let them praise the name of the LORD: for his name alone
is excellent; his glory is above the earth and heaven.
148:14 Ac efe sydd yn
dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos
ato. Molwch yr ARGLWYDD.
148:14 He also exalteth the horn of his people, the praise of
all his saints; even of the children of Israel, a people near unto him. Praise ye the LORD.
SALM 149
149:1 Molwch yr ARGLWYDD. Cenwch i’r
ARGLWYDD ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.
149:1 Praise ye the LORD.
Sing unto the LORD a new song, and his praise in the congregation of saints.
149:2 Llawenhaed Israel yn yr
hwn a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.
149:2 Let Israel rejoice in him that made him: let the
children of Zion be joyful in their King.
149:3 Molant ei enw ef ar y
dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.
149:3 Let them praise his name in the dance: let them sing
praises unto him with the timbrel and harp.
149:4 Oherwydd hoffodd yr
ARGLWYDD ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
149:4 For the LORD taketh pleasure in his people: he will
beautify the meek with salvation.
149:5 Gorfoledded y saint
mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.
149:5 Let the saints be joyful in glory: let them sing aloud
upon their beds.
149:6 Bydded ardderchog foliant
DUW yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;
149:6 Let the high praises of God be in their mouth, and a
twoedged sword in their hand;
149:7 I wneuthur dial ar y
cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;
149:7 To execute vengeance upon the heathen, and punishments
upon the people;
149:8 I rwymo eu brenhinoedd
â chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn;
149:8 To bind their kings with chains, and their nobles with
fetters of iron;
149:9 I wneuthur arnynt y
farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr
ARGLWYDD.
149:9 To execute upon them the judgment written: this honour
have all his saints. Praise ye the
LORD.
SALM 150
150:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch DDUW
yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
150:1 Praise ye the LORD.
Praise God in his sanctuary: praise him in the firmament of his power.
150:2 Molwch ef am ei
gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
150:2 Praise him for his mighty acts: praise him according to
his excellent greatness.
150:3 Molwch ef â llais
utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.
150:3 Praise him with the sound of the trumpet: praise him
with the psaltery and harp.
150:4 Molwch ef â thympan ac
â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.
150:4 Praise him with the timbrel and dance: praise him with
stringed instruments and organs.
150:5 Molwch ef â symbylau
soniarus: molwch ef â symbylau llafar.
150:5 Praise him upon the loud cymbals: praise him upon the
high sounding cymbals.
150:6 Pob perchen anadl,
molianned yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.
150:6 Let every thing that hath breath praise the LORD. Praise ye the LORD.
DIWEDD – END
Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Ble’r wyf i? Yr ych
chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weər àm ai? Yùu àar vízïting ə peij fròm
dhə "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
"CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website