.Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr
iaith Gymraeg. Testun ar lein. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. La
Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in
Welsh. 2613ke
Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia
Website
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_sant_marc_41_2613ke.htm
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k
y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau
diweddaraf - latest updates. 2009-01-25 |
2612k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig (Efengyl Sant Marc)
·····
PENNOD
1
1:1 Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw;
1:1 The
beginning of the gospel of Jesus Christ, the Son of God;
1:2 Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy
nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.
1:2 As it is written in the
prophets, Behold, I send my messenger before thy face, which shall prepare thy
way before thee.
1:3 Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd,
gwnewch yn union ei lwybrau ef.
1:3 The
voice of one crying in the wilderness, Prepare ye the way of the Lord, make his
paths straight.
1:4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd
edifeirwch er maddeuant pechodau.
1:4 John
did baptize in the wilderness, and preach the baptism of repentance for the
remission of sins.
1:5 Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u
bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
1:5 And
there went out unto him all the land of Judaea, and they of Jerusalem, and were
all baptized of him in the river of Jordan, confessing their sins.
1:6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei
lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
1:6 And
John was clothed with camel's hair, and with a girdle of a skin about his
loins; and he did eat locusts and wild honey;
1:7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un
cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w
datod.
1:7 And
preached, saying, There cometh one mightier than I after me, the latchet of
whose shoes I am not worthy to stoop down and unloose.
1:8 Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia
chwi â’r Ysbryd Glân.
1:8 I
indeed have baptized you with water: but he shall baptize you with the Holy
Ghost.
1:9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac
efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
1:9 And
it came to pass in those days, that Jesus came from Nazareth of Galilee, and
was baptized of John in Jordan.
1:10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd
yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen.
1:10 And
straightway coming up out of the water, he saw the heavens opened, and the
Spirit like a dove descending upon him:
1:11 A llefa ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m
bodlonwyd.
1:11 And
there came a voice from heaven, saying, Thou art my beloved Son, in whom I am
well pleased.
1:12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch.
1:12 And
immediately the Spirit driveth him into the wilderness.
1:13 Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan
Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo.
1:13 And
he was there in the wilderness forty days, tempted of Satan; and was with the
wild beasts; and the angels ministered unto him.
1:14 Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu
efengyl teyrnas Dduw;
1:14 Now
after that John was put in prison, Jesus came into Galilee, preaching the
gospel of the kingdom of God,
1:15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd:
edifarhewch, a chredwch yr efengyl.
1:15 And
saying, The time is fulfilled, and the kingdom of God is at hand: repent ye,
and believe the gospel.
1:16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon,
ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)
1:16 Now
as he walked by the sea of Galilee, he saw Simon and Andrew his brother casting
a net into the sea: for they were fishers.
1:17 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod
yn bysgodwyr dynion.
1:17 And
Jesus said unto them, Come ye after me, and I will make you to become fishers
of men.
1:18 Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef.
1:18 And straightway they forsook
their nets, and followed him.
1:19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a
ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r
rhwydau.
1:19 And when he had gone a little
farther thence, he saw James the son of Zebedee, and John his brother, who also
were in the ship mending their nets.
1:20 Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant
eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion, ac a aethant: ar ei ôl ef.
1:20 And straightway he called
them: and they left their father Zebedee in the ship with the hired servants,
and went after him.
1:21 A hwy a aethant i mewn i Capernaum, ac yn ebrwydd ar
y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd.
1:21 And they went into Capernaum;
and straightway on the sabbath day he entered into the synagogue, and taught.
1:22 A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe
yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
1:22 And they were astonished at
his doctrine: for he taught them as one that had authority, and not as the
scribes.
1:23 Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd
aflan: ac efe a lefodd,
1:23 And there was in their
synagogue a man with an unclean spirit; and he cried out,
1:24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi,
Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct
Duw.
1:24 Saying, Let us alone; what
have we to do with thee, thou Jesus of Nazareth? art thou come to destroy us? I
know thee who thou art, the Holy One of God.
1:25 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos
allan ohono.
1:25 And Jesus rebuked him, saying,
Hold thy peace, and come out of him.
1:26 Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â
llef uchel, efe a ddaeth allan ohono.
1:26 And when the unclean spirit
had torn him, and cried with a loud voice, he came out of him.
1:27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu
mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys
trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau
iddo.
1:27 And they were all amazed,
insomuch that they questioned among themselves, saying, What thing is this?
what new doctrine is this? for with authority commandeth he even the unclean
spirits, and they do obey him.
1:28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o
amgylch Galilea.
1:28 And immediately his fame
spread abroad throughout all the region round about Galilee.
1:29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i
dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan.
1:29 And
forthwith, when they were come out of the synagogue, they entered into the
house of Simon and Andrew, with James and John.
1:30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd
y dywedasant wrtho amdani hi.
1:30 But
Simon's wife's mother lay sick of a fever, and anon they tell him of her.
1:31 Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw
hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
1:31 And
he came and took her by the hand, and lifted her up; and immediately the fever
left her, and she ministered unto them.
1:32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato
yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig.
1:32 And
at even, when the sun did set, they brought unto him all that were diseased,
and them that were possessed with devils.
1:33 A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.
1:33 And
all the city was gathered together at the door.
1:34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a
fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr
adwaenent ef.
1:34 And
he healed many that were sick of divers diseases, and cast out many devils; and
suffered not the devils to speak, because they knew him.
1:35 A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a
aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.
1:35 And
in the morning, rising up a great while before day, he went out, and departed
into a solitary place, and there prayed.
1:36 A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef.
1:36 And
Simon and they that were with him followed after him.
1:37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn
dy geisio di.
1:37 And
when they had found him, they said unto him, All men seek for thee.
1:38 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf
bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan.
1:38 And
he said unto them, Let us go into the next towns, that I may preach there also:
for therefore came I forth.
1:39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea,
ac yn bwrw allan gythreuliaid.
1:39 And
he preached in their synagogues throughout all Galilee, and cast out devils.
1:40 A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei
liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau.
1:40 And
there came a leper to him, beseeching him, and kneeling down to him, and saying
unto him, If thou wilt, thou canst make me clean.
1:41 A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef,
ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.
1:41 And
Jesus, moved with compassion, put forth his hand, and touched him, and saith
unto him, I will; be thou clean.
1:42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn
ebrwydd, a glanhawyd ef.
1:42 And
as soon as he had spoken, immediately the leprosy departed from him, and he was
cleansed.
1:43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y
man;
1:43 And
he straitly charged him, and forthwith sent him away;
1:44 Ac a ddywedodd wrtho, gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos
ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a
orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
1:44 And
saith unto him, See thou say nothing to any man: but go thy way, show thyself
to the priest, and offer for thy cleansing those things which Moses commanded,
for a testimony unto them.
1:45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r
gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd
efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.
1:45 But
he went out, and began to publish it much, and to blaze abroad the matter,
insomuch that Jesus could no more openly enter into the city, but was without
in desert places: and they came to him from every quarter.
PENNOD 2
2:1 A efe a aeth drachefn i Gapemaum,
wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ.
2:1 And
again he entered into Capernaum after some days; and it was noised that he was
in the house.
2:2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed
yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a brcgethodd y gair iddynt hwy.
2:2 And
straightway many were gathered together, insomuch that there was no room to
receive them, no, not so much as about the door: and he preached the word unto
them.
2:3 A daethant ato, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan
bedwar.
2:3 And they
come unto him, bringing one sick of the palsy, which was borne of four.
2:4 A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle
yr oedd efe; ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn
yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys.
2:4 And
when they could not come nigh unto him for the press, they uncovered the roof
where he was: and when they had broken it up, they let down the bed wherein the
sick of the palsy lay.
2:5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf
o’r parlys. Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau.
2:5 When
Jesus saw their faith, he said unto the sick of the palsy, Son, thy sins be
forgiven thee.
2:6 Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn
eu calonnau,
2:6 But
there were certain of the scribes sitting there, and reasoning in their hearts,
2:7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau
pechodau, ond Duw yn unig?
2:7 Why
doth this man thus speak blasphemies? who can forgive sins but God only?
2:8 Ac yn ebrwydd, pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu
felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am
y pethau hyn yn eich calonnau?
2:8 And
immediately when Jesus perceived in his spirit that they so reasoned within
themselves, he said unto them, Why reason ye these things in your hearts?
2:9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti
dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia?
2:9
Whether is it easier to say to the sick of the palsy, Thy sins be forgiven
thee; or to say, Arise, and take up thy bed, and walk?
2:10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar
y ddaear, (eb efe wrth y claf o’r parlys,)
2:10 But
that ye may know that the Son of man hath power on earth to forgive sins, (he
saith to the sick of the palsy,)
2:11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos
i’th dŷ.
2:11 I
say unto thee, Arise, and take up thy bed, and go thy way into thine house.
2:12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth
allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan
ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
2:12 And
immediately he arose, took up the bed, and went forth before them all; insomuch
that they were all amazed, and glorified God, saying, We never saw it on this
fashion.
2:13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a
ddaeth ato; ac efe a’u dysgodd hwynt.
2:13 And
he went forth again by the sea side; and all the multitude resorted unto him,
and he taught them.
2:14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd
wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i
canlynodd ef.
2:14 And
as he passed by, he saw Levi the son of Alphaeus sitting at the receipt of
custom, and said unto him, Follow me. And he arose and followed him.
2:15 A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o
bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer
oeddynt, a hwy a’i canlynasent ef.
2:15 And
it came to pass, that, as Jesus sat at meat in his house, many publicans and
sinners sat also together with Jesus and his disciples: for there were many,
and they followed him.
2:16 A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r
publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y
mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid?
2:16 And
when the scribes and Pharisees saw him eat with publicans and sinners, they
said unto his disciples, How is it that he eateth and drinketh with publicans
and sinners?
2:17 A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid
rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai
cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
2:17 When
Jesus heard it, he saith unto them, They that are whole have no need of the
physician, but they that are sick: I came not to call the righteous, but
sinners to repentance.
2:18 A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a
ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn
ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
2:18 And
the disciples of John and of the Pharisees used to fast: and they come and say
unto him, Why do the disciples of John and of the Pharisees fast, but thy
disciples fast not?
2:19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas
ymprydio tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab
gyda hwynt, ni allant ymprydio.
2:19 And
Jesus said unto them, Can the children of the bridechamber fast, while the
bridegroom is with them? as long as they have the bridegroom with them, they
cannot fast.
2:20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna
yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
2:20 But
the days will come, when the bridegroom shall be taken away from them, and then
shall they fast in those days.
2:21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os
amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.
2:21 No
man also seweth a piece of new cloth on an old garment: else the new piece that
filled it up taketh away from the old, and the rent is made worse.
2:22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin
newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir:
eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
2:22 And
no man putteth new wine into old bottles: else the new wine doth burst the
bottles, and the wine is spilled, and the bottles will be marred: but new wine
must be put into new bottles.
2:23 A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a
ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys.
2:23 And
it came to pass, that he went through the corn fields on the sabbath day; and
his disciples began, as they went, to pluck the ears of corn.
2:24 A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y
Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon?
2:24 And
the Pharisees said unto him, Behold, why do they on the sabbath day that which
is not lawful?
2:25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth
Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef?
2:25 And
he said unto them, Have ye never read what David did, when he had need, and was
an hungred, he, and they that were with him?
2:26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archonffeiriad,
ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid
yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef
2:26 How
he went into the house of God in the days of Abiathar the high priest, and did
eat the showbread, which is not lawful to eat but for the priests, and gave
also to them which were with him?
2:27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac
nid dyn ei mwyn y Saboth:
2:27 And
he said unto them, The sabbath was made for man, and not man for the sabbath:
2:28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.
2:28
Therefore the Son of man is Lord also of the sabbath.
PENNOD 3
3:1 Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r
synagog; ac yr oedd yno ddyn â chanddo law wedi gwywo.
3:1 And
he entered again into the synagogue; and there was a man there which had a
withered hand.
3:2 A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y
cyhuddent ef.
3:2 And
they watched him, whether he would heal him on the sabbath day; that they might
accuse him.
3:3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo,
Cyfod i’r canol.
3:3 And
he saith unto the man which had the withered hand, Stand forth.
3:4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd
Saboth ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.
3:4 And
he saith unto them, Is it lawful to do good on the sabbath days, or to do evil?
to save life, or to kill? But they held their peace.
3:5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gall dristáu am
galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac
efe a’i hestynnodd; a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
3:5 And
when he had looked round about on them with anger, being grieved for the
hardness of their hearts, he saith unto the man, Stretch forth thine hand. And
he stretched it out: and his hand was restored whole as the other.
3:6 A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gydg’r
Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
3:6 And
the Pharisees went forth, and straightway took counsel with the Herodians
against him, how they might destroy him.
3:7 A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i
canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea,
3:7 But
Jesus withdrew himself with his disciples to the sea: and a great multitude
from Galilee followed him, and from Judaea,
3:8 Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai
o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a
ddaethant ato.
3:8 And
from Jerusalem, and from Idumaea, and from beyond Jordan; and they about Tyre
and Sidon, a great multitude, when they had heard what great things he did,
came unto him.
3:9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo,
oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasga ef.
3:9 And
he spake to his disciples, that a small ship should wait on him because of the
multitude, lest they should throng him.
3:10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd
ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt.
3:10 For
he had healed many; insomuch that they pressed upon him for to touch him, as
many as had plagues.
3:11 A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ef
fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.
3:11 And
unclean spirits, when they saw him, fell down before him, and cried, saying,
Thou art the Son of God.
3:12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
3:12 And
he straitly charged them that they should not make him known.
3:13 Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd
efe: a hwy a ddaethant ato.
3:13 And
he goeth up into a mountain, and calleth unto him whom he would: and they came
unto him.
3:14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y
danfonai efe hwynt i bregethu;
3:14 And
he ordained twelve, that they should be with him, and that he might send them
forth to preach,
3:15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan
gythreuliaid.
3:15 And
to have power to heal sicknesses, and to cast out devils:
3:16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr;
3:16 And
Simon he surnamed Peter;
3:17 Ac Iago fab Sebedefis, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt
enwau, Boanerges, yr hyn yw, Meibion y daran;)
3:17 And
James the son of Zebedee, and John the brother of James; and he surnamed them
Boanerges, which is, The sons of thunder:
3:18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago
fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,
3:18 And
Andrew, and Philip, and Bartholomew, and Matthew, and Thomas, and James the son
of Alphaeus, and Thaddaeus, and Simon the Canaanite,
3:19 A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant
i dŷ.
3:19 And
Judas Iscariot, which also betrayed him: and they went into an house.
3:20 A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta
bara.
3:20 And
the multitude cometh together again, so that they could not so much as eat
bread.
3:21 A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys
dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll.
3:21 And
when his friends heard of it, they went out to lay hold on him: for they said,
He is beside himself.
3:22 A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a
ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd
efe yn bwrw allan gythreuliaid.
3:22 And
the scribes which came down from Jerusalem said, He hath Beelzebub, and by the
prince of the devils casteth he out devils.
3:33 Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn
damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
3:23 And
he called them unto him, and said unto them in parables, How can Satan cast out
Satan?
3:24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y
deyrnas honno sefyll.
3:24 And
if a kingdom be divided against itself, that kingdom cannot stand.
3:25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y
tŷ hwnnw sefyll.
3:25 And
if a house be divided against itself, that house cannot stand.
3:26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni
all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
3:26 And
if Satan rise up against himself, and be divided, he cannot stand, but hath an
end.
3:27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei
ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei
dŷ ef.
3:27 No
man can enter into a strong man's house, and spoil his goods, except he will
first bind the strong man; and then he will spoil his house.
3:28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a
pha gabledd bynnag a gablant:
3:28
Verily I say unto you, All sins shall be forgiven unto the sons of men, and
blasphemies wherewith soever they shall blaspheme:
3:29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant
yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:
3:29 But
he that shall blaspheme against the Holy Ghost hath never forgiveness, but is
in danger of eternal damnation:
3:30 Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.
3:30
Because they said, He hath an unclean spirit.
3:31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam, a chan sefyll allan, hwy a
anfonasant ato, gan ei alw ef.
3:31
There came then his brethren and his mother, and, standing without, sent unto
him, calling him.
3:32 A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele,
y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio.
3:32 And
the multitude sat about him, and they said unto him, Behold, thy mother and thy
brethren without seek for thee.
3:33 Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy
mrodyr i?
3:33 And
he answered them, saying, Who is my mother, or my brethren?
3:34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei
gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i.
3:34 And
he looked round about on them which sat about him, and said, Behold my mother
and my brethren!
3:35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m
chwaer, a’m mam i.
3:35 For
whosoever shall do the will of God, the same is my brother, and my sister, and
mother.
PENNOD 4
4:1 Ac efe a ddechreuodd drachefn
athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo
fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir.
4:1 And
he began again to teach by the sea side: and there was gathered unto him a
great multitude, so that he entered into a ship, and sat in the sea; and the
whole multitude was by the sea on the land.
4:2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt
yn ei ddysgeidiaeth ef,
4:2 And
he taught them many things by parables, and said unto them in his doctrine,
4:3 Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau:
4:3 Hearken;
Behold, there went out a sower to sow:
4:4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr
awyr a ddaethant ac a’i difasant.
4:4 And
it came to pass, as he sowed, some fell by the way side, and the fowls of the air
came and devoured it up.
4:5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear, ac yn y
fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.
4:5 And
some fell on stony ground, where it had not much earth; and immediately it
sprang up, because it had no depth of earth:
4:6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo,
efe a wywodd.
4:6 But
when the sun was up, it was scorched; and because it had no root, it withered
away.
4:7 A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i
tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.
4:7 And
some fell among thorns, and the thorns grew up, and choked it, and it yielded
no fruit.
4:8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a
chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
4:8 And
other fell on good ground, and did yield fruit that sprang up and increased;
and brought forth, some thirty, and some sixty, and some an hundred.
4:9 Ac efe a ddywedodd .wrthynt, ¥ neb sydd ganddo glustiau i wrando,
jgwran dawed.
4:9 And
he said unto them, He that hath ears to hear, let him hear.
4:10 A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r
deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg.
4:10 And
when he was alone, they that were about him with the twelve asked of him the
parable.
4:11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch
teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:
4:11 And
he said unto them, Unto you it is given to know the mystery of the kingdom of
God: but unto them that are without, all these things are done in parables:
4:12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant,
ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau.
4:12 That
seeing they may see, and not perceive; and hearing they may hear, and not
understand; lest at any time they should be converted, and their sins should be
forgiven them.
4:13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha
fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
4:13 And
he said unto them, Know ye not this parable? and how then will ye know all
parables?
4:14 Yr heuwr sydd yn hau’r gair.
4:14 The
sower soweth the word.
4:15 A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac
wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y
gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt,
4:15 And
these are they by the way side, where the word is sown; but when they have
heard, Satan cometh immediately, and taketh away the word that was sown in
their hearts.
4:16 A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai,
wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;
4:16 And
these are they likewise which are sown on stony ground; who, when they have
heard the word, immediately receive it with gladness;
4:17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y
maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir
hwynt.
4:17 And
have no root in themselves, and so endure but for a time: afterward, when
affliction or persecution ariseth for the word's sake, immediately they are
offended.
4:18 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant
y gair,
4:18 And
these are they which are sown among thorns; such as hear the word,
4:19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am
bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
4:19 And
the cares of this world, and the deceitfulness of riches, and the lusts of
other things entering in, choke the word, and it becometh unfruitful.
4:20 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando
y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri
ugain, ac un gant.
4:20 And
these are they which are sown on good ground; such as hear the word, and
receive it, and bring forth fruit, some thirtyfold, some sixty, and some an
hundred.
4:21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu
dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren?
4:21 And he
said unto them, Is a candle brought to be put under a bushel, or under a bed?
and not to be set on a candlestick?
4:22 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel,
ond fel y delai i eglurdeb.
4:22 For
there is nothing hid, which shall not be manifested; neither was any thing kept
secret, but that it should come abroad.
4:23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
4:23 If
any man have ears to hear, let him hear.
4:24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha
fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.
4:24 And
he said unto them, Take heed what ye hear: with what measure ye mete, it shall
be measured to you: and unto you that hear shall more be given.
4:25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo,
ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
4:25 For
he that hath, to him shall be given: and he that hath not, from him shall be
taken even that which he hath.
4:26 Ac efe a ddywedodd. Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn
had i’r ddaear;
4:26 And
he said, So is the kingdom of God, as if a man should cast seed into the
ground;
4:27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd
nis gŵyr efe.
4:27 And
should sleep, and rise night and day, and the seed should spring and grow up,
he knoweth not how.
4:28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar
ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.
4:28 For
the earth bringeth forth fruit of herself; first the blade, then the ear, after
that the full corn in the ear.
4:29 A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo,
am ddyfod y cynhaeaf.
4:29 But
when the fruit is brought forth, immediately he putteth in the sickle, because
the harvest is come.
4:30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba
ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni?
4:30 And
he said, Whereunto shall we liken the kingdom of God? or with what comparison
shall we compare it?
4:31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd
leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear;
4:31 It is like a grain of mustard seed, which,
when it is sown in the earth, is less than all the seeds that be in the earth:
4:32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl
lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu
dan ei gysgod ef.
4:32 But
when it is sown, it groweth up, and becometh greater than all herbs, and
shooteth out great branches; so that the fowls of the air may lodge under the
shadow of it.
4:33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y
gallent ei wrando:
4:33 And
with many such parables spake he the word unto them, as they were able to hear
it.
4:34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion
efe a eglurodd bob peth.
4:34 But
without a parable spake he not unto them: and when they were alone, he
expounded all things to his disciples.
4:35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn
trosodd i’r tu draw.
4:35 And
the same day, when the even was come, he saith unto them, Let us pass over unto
the other side.
4:36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr
oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef.
4:36 And
when they had sent away the multitude, they took him even as he was in the
ship. And there were also with him other little ships.
4:37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r
llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.
4:37 And
there arose a great storm of wind, and the waves beat into the ship, so that it
was now full.
4:38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i
deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?
4:38 And
he was in the hinder part of the ship, asleep on a pillow: and they awake him,
and say unto him, Master, carest thou not that we perish?
4:39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth
y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.
4:39 And
he arose, and rebuked the wind, and said unto the sea, Peace, be still. And the
wind ceased, and there was a great calm.
4:40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad
oes gennych ffydd?
4:40 And
he said unto them, Why are ye so fearful? how is it that ye have no faith?
4:41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd,
Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?
4:41 And
they feared exceedingly, and said one to another, What manner of man is this,
that even the wind and the sea obey him?
PENNOD 5
5:1 A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r
môr, i wlad y Gadareniaid.
5:1 And
they came over unto the other side of the sea, into the country of the
Gadarenes.
5:2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o
blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,
5:2 And
when he was come out of the ship, immediately there met him out of the tombs a
man with an unclean spirit,
5:3 Yr hwn oedd a’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â
chadwynau, ei rwymo ef:
5:3 Who
had his dwelling among the tombs; and no man could bind him, no, not with
chains:
5:4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a
darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi
ef.
5:4
Because that he had been often bound with fetters and chains, and the chains
had been plucked asunder by him, and the fetters broken in pieces: neither
could any man tame him.
5:5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac
ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
5:5 And
always, night and day, he was in the mountains, and in the tombs, crying, and
cutting himself with stones.
5:6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd
ef;
5:6 But
when he saw Jesus afar off, he ran and worshipped him,
5:7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a
wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na
phoenech fi.
5:7 And
cried with a loud voice, and said, What have I to do with thee, Jesus, thou Son
of the most high God? I adjure thee by God, that thou torment me not.
5:8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.)
5:8 For
he said unto him, Come out of the man, thou unclean spirit.
5:9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan
ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.
5:9 And
he asked him, What is thy name? And he answered, saying, My name is Legion: for
we are many.
5:10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad.
5:10 And
he besought him much that he would not send them away out of the country.
5:11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd, genfaint fawr o foch yn pori.
5:11 Now
there was there nigh unto the mountains a great herd of swine feeding.
5:12 A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni
i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
5:12 And all
the devils besought him, saying, Send us into the swine, that we may enter into
them.
5:13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi
myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r
môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr.
5:13 And
forthwith Jesus gave them leave. And the unclean spirits went out, and entered
into the swine: and the herd ran violently down a steep place into the sea,
(they were about two thousand;) and were choked in the sea.
5:14 A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y
ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
5:14 And
they that fed the swine fled, and told it in the city, and in the country. And
they went out to see what it was that was done.
5:15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y
buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a
ofnasant.
5:15 And
they come to Jesus, and see him that was possessed with the devil, and had the
legion, sitting, and clothed, and in his right mind: and they were afraid.
5:16 A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r
cythreulig, ac am y moch.
5:16 And
they that saw it told them how it befell to him that was possessed with the
devil, and also concerning the swine.
5:17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt.
5:17 And
they began to pray him to depart out of their coasts.
5:18 Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a
ddymunodd arno gael bod gydag ef.
5:18 And
when he was come into the ship, he that had been possessed with the devil
prayed him that he might be with him.
5:19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ
at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo
drugarhau wrthyt.
5:19
Howbeit Jesus suffered him not, but saith unto him, Go home to thy friends, and
tell them how great things the Lord hath done for thee, and hath had compassion
on thee.
5:20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa
bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
5:20 And
he departed, and began to publish in Decapolis how great things Jesus had done
for him: and all men did marvel.
5:21 Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall,
ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr.
5:21 And
when Jesus was passed over again by ship unto the other side, much people
gathered unto him: and he was nigh unto the sea.
5:22 Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Jairus: a
phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;
5:22 And,
behold, there cometh one of the rulers of the synagogue, Jairus by name; and
when he saw him, he fell at his feet,
5:23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan
ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw
fydd.
5:23 And
besought him greatly, saying, My little daughter lieth at the point of death: I
pray thee, come and lay thy hands on her, that she may be healed; and she shall
live.
5:24 A’r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i
gwasgasant ef.
5:24 And
Jesus went with him; and much people followed him, and thronged him.
5:25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng
mlynedd,
5:25 And
a certain woman, which had an issue of blood twelve years,
5:26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai
gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned
waeth-waeth,
5:26 And
had suffered many things of many physicians, and had spent all that she had,
and was nothing bettered, but rather grew worse,
5:27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a
gyffyrddodd â’i wisg ef;
5:27 When
she had heard of Jesus, came in the press behind, and touched his garment.
5:28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i ddillad ef, iach fyddaf.
5:28 For
she said, If I may touch but his clothes, I shall be whole.
5:29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei
chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla.
5:29 And
straightway the fountain of her blood was dried up; and she felt in her body
that she was healed of that plague.
5:30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan
ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m dillad?
5:30 And
Jesus, immediately knowing in himself that virtue had gone out of him, turned
him about in the press, and said, Who touched my clothes?
5:31 A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu,
ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd?
5:31 And
his disciples said unto him, Thou seest the multitude thronging thee, and
sayest thou, Who touched me?
5:32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.
5:32 And
he looked round about to see her that had done this thing.
5:33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a
ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
5:33 But
the woman fearing and trembling, knowing what was done in her, came and fell
down before him, and told him all the truth.
5:34 Ac efe a ddywedodd wrthi. Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos
mewn heddwch, a bydd iach o’th bla.
5:34 And
he said unto her, Daughter, thy faith hath made thee whole; go in peace, and be
whole of thy plague.
5:35 Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan
ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro?
5:35
While he yet spake, there came from the ruler of the synagogue's house certain
which said, Thy daughter is dead: why troublest thou the Master any further?
5:36 A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd
wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
5:36 As
soon as Jesus heard the word that was spoken, he saith unto the ruler of the
synagogue, Be not afraid, only believe.
5:37 Ac ni adawoodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd
Iago.
5:37 And
he suffered no man to follow him, save Peter, and James, and John the brother
of James.
5:38 Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu’r cynnwrf,
a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.
5:38 And
he cometh to the house of the ruler of the synagogue, and seeth the tumult, and
them that wept and wailed greatly.
5:39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch
gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae.
5:39 And
when he was come in, he saith unto them, Why make ye this ado, and weep? the
damsel is not dead, but sleepeth.
5:40 A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a
gymerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr
oedd yr eneth yn gorwedd.
5:40 And
they laughed him to scorn. But when he had put them all out, he taketh the
father and the mother of the damsel, and them that were with him, and entereth
in where the damsel was lying.
5:41 Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth, efe, a ddywedodd wrthi, Talitha,
cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.
5:41 And
he took the damsel by the hand, and said unto her, Talitha cumi; which is,
being interpreted, Damsel, I say unto thee, arise.
5:42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng
mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.
5:42 And
straightway the damsel arose, and walked; for she was of the age of twelve
years. And they were astonished with a great astonishment.
5:43 Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a
ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta.
5:43 And
he charged them straitly that no man should know it; and commanded that
something should be given her to eat.
PENNOD 6
6:1 A efe a aeth ymaith oddi yno, ac
a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef.
6:1 And
he went out from thence, and came into his own country; and his disciples
follow him.
6:2 Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog:
a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau
hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd
trwy ei ddwylo ef?
6:2 And
when the sabbath day was come, he began to teach in the synagogue: and many
hearing him were astonished, saying, From whence hath this man these things?
and what wisdom is this which is given unto him, that even such mighty works
are wrought by his hands?
6:3 Onid hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon?
ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegid
ef.
6:3 Is
not this the carpenter, the son of Mary, the brother of James, and Joses, and
of Juda, and Simon? and are not his sisters here with us? And they were
offended at him.
6:4 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn
ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
6:4 But
Jesus said unto them, A prophet is not without honour, but in his own country,
and among his own kin, and in his own house.
6:5 Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar
ychydig cleifion, a’u hiacháu hwynt.
6:5 And
he could there do no mighty work, save that he laid his hands upon a few sick
folk, and healed them.
6:6 Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i’r
pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.
6:6 And
he marvelled because of their unbelief. And he went round about the villages,
teaching.
6:7 Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn
ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan;
6:7 And
he called unto him the twelve, and began to send them forth by two and two; and
gave them power over unclean spirits;
6:8 Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon
yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau:
6:8 And
commanded them that they should take nothing for their journey, save a staff
only; no scrip, no bread, no money in their purse:
6:9 Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais.
6:9 But
be shod with sandals; and not put on two coats.
6:10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i
dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno.
6:10 And
he said unto them, In what place soever ye enter into an house, there abide
till ye depart from that place.
6:11 A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch
oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn
wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r
ddinas honno.
6:11 And
whosoever shall not receive you, nor hear you, when ye depart thence, shake off
the dust under your feet for a testimony against them. Verily I say unto you,
It shall be more tolerable for Sodom and Gomorrha in the day of judgment, than
for that city.
6:12 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau:
6:12 And
they went out, and preached that men should repent.
6:13 Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew
lawer o gleifion, ac a’u hiachasant.
6:13 And
they cast out many devils, and anointed with oil many that were sick, and
healed them.
6:14 A’r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a
ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn
gweithio ynddo ef.
6:14 And
king Herod heard of him; (for his name was spread abroad:) and he said, That
John the Baptist was risen from the dead, and therefore mighty works do show
forth themselves in him.
6:15 Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai
proffwyd yw, neu megis un o’r proffwydi.
6:15
Others said, That it is Elias. And others said, That it is a prophet, or as one
of the prophets.
6:16 Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw
hwn; efe a gyfododd o feirw.
6:16 But when
Herod heard thereof, he said, It is John, whom I beheaded: he is risen from the
dead.
6:17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i
rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei
phriodi hi.
6:17 For
Herod himself had sent forth and laid hold upon John, and bound him in prison
for Herodias' sake, his brother Philip's wife: for he had married her.
6:18 Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael
gwraig dy frawd.
6:18 For
John had said unto Herod, It is not lawful for thee to have thy brother's wife.
6:19 Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac
nis gallodd:
6:19
Therefore Herodias had a quarrel against him, and would have killed him; but
she could not:
6:20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr
cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a
wnâi lawer o bethaa, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar.
6:20 For
Herod feared John, knowing that he was a just man and an holy, and observed
him; and when he heard him, he did many things, and heard him gladly.
6:21 Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd
genedigaeth swper i’w benaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea:
6:21 And
when a convenient day was come, that Herod on his birthday made a supper to his
lords, high captains, and chief estates of Galilee;
6:22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau
Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances,
Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti.
6:22 And
when the daughter of the said Herodias came in, and danced, and pleased Herod
and them that sat with him, the king said unto the damsel, Ask of me whatsoever
thou wilt, and I will give it thee.
6:23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf
iti, hyd hanner fy nheyrnas.
6:23 And
he sware unto her, Whatsoever thou shalt ask of me, I will give it thee, unto
the half of my kingdom.
6:24 A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam. Pa beth a
ofynnaf? A hithau a ddywedodd. Pen Ioan Fedyddiwr.
6:24 And
she went forth, and said unto her mother, What shall I ask? And she said, The
head of John the Baptist.
6:25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd,
gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan
Fedyddiwr.
6:25 And
she came in straightway with haste unto the king, and asked, saying, I will
that thou give me by and by in a charger the head of John the Baptist.
6:26 A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd
y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef.
6:26 And
the king was exceeding sorry; yet for his oath's sake, and for their sakes
which sat with him, he would not reject her.
6:27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd
ddwyn ei ben ef.
6:27 And
immediately the king sent an executioner, and commanded his head to be brought:
and he went and beheaded him in the prison,
6:28 Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei
ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes ef i’w
mam.
6:28 And
brought his head in a charger, and gave it to the damsel: and the damsel gave
it to her mother.
6:29 A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei
gorff ef, ac a’i dodasant mewn bedd.
6:29 And
when his disciples heard of it, they came and took up his corpse, and laid it
in a tomb.
6:30 A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr
holl bethau, y rhai a wnaethent, a’r rhai hefyd a athrawiaethasent.
6:30 And
the apostles gathered themselves together unto Jesus, and told him all things,
both what they had done, and what they had taught.
6:31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd
o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel
nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta.
6:31 And
he said unto them, Come ye yourselves apart into a desert place, and rest a
while: for there were many coming and going, and they had no leisure so much as
to eat.
6:32 A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu.
6:32 And
they departed into a desert place by ship privately.
6:33 A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a’i hadnabuant
ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’u rhagflaenasant
hwynt, ac a ymgasglasant ato ef.
6:33 And
the people saw them departing, and many knew him, and ran afoot thither out of
all cities, and outwent them, and came together unto him.
6:34 A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd
wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu
iddynt lawer o bethau.
6:34 And
Jesus, when he came out, saw much people, and was moved with compassion toward
them, because they were as sheep not having a shepherd: and he began to teach
them many things.
6:35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddisgyblion
ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd:
6:35 And
when the day was now far spent, his disciples came unto him, and said, This is
a desert place, and now the time is far passed:
6:36 Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r
pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i’w
fwyta.
6:36 Send
them away, that they may go into the country round about, and into the
villages, and buy themselves bread: for they have nothing to eat.
6:37 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth
i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o
fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta?
6:37 He
answered and said unto them, Give ye them to eat. And they say unto him, Shall
we go and buy two hundred pennyworth of bread, and give them to eat?
6:38 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac
edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant. Pump, a dau bysgodyn.
6:38 He
saith unto them, How many loaves have ye? go and see. And when they knew, they
say, Five, and two fishes.
6:39 Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y
glaswellt.
6:39 And
he commanded them to make all sit down by companies upon the green grass.
6:40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd,
ac o fesur deg a deugeiniau.
6:40 And
they sat down in ranks, by hundreds, and by fifties.
6:41 Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny
tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei
ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe
rhyngddynt oll.
6:41 And
when he had taken the five loaves and the two fishes, he looked up to heaven,
and blessed, and brake the loaves, and gave them to his disciples to set before
them; and the two fishes divided he among them all.
6:42 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon.
6:42 And
they did all eat, and were filled.
6:43 A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r
pysgod.
6:43 And
they took up twelve baskets full of the fragments, and of the fishes.
6:44 A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.
6:44 And
they that did eat of the loaves were about five thousand men.
6:45 Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong, a
myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y
bobl.
6:45 And
straightway he constrained his disciples to get into the ship, and to go to the
other side before unto Bethsaida, while he sent away the people.
6:46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i
weddïo;
6:46 And
when he had sent them away, he departed into a mountain to pray.
6:47 A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei
hun ar y tir.
6:47 And
when even was come, the ship was in the midst of the sea, and he alone on the
land.
6:48 Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt
oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt,
gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.
6:48 And
he saw them toiling in rowing; for the wind was contrary unto them: and about
the fourth watch of the night he cometh unto them, walking upon the sea, and
would have passed by them.
6:49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai
drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.
6:49 But
when they saw him walking upon the sea, they supposed it had been a spirit, and
cried out:
6:50 (Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr
ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac
ofnwch.
6:50 For
they all saw him, and were troubled. And immediately he talked with them, and
saith unto them, Be of good cheer: it is I; be not afraid.
6:51 Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a
synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.
6:51 And
he went up unto them into the ship; and the wind ceased: and they were sore
amazed in themselves beyond measure, and wondered.
6:52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon
hwynt wedi caledu.
6:52 For
they considered not the miracle of the loaves: for their heart was hardened.
6:53 Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac
a laniasant.
6:53 And
when they had passed over, they came into the land of Gennesaret, and drew to
the shore.
6:54 Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong, hwy a’i hadnabuant ef yn
ebrwydd.
6:54 And
when they were come out of the ship, straightway they knew him,
6:55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant
ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef.
6:55 And
ran through that whole region round about, and began to carry about in beds
those that were sick, where they heard he was.
6:56 Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd,
neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael
ohonynt gyffwrdd cymaint ag ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant
ag ef, a iachawyd.
6:56 And
whithersoever he entered, into villages, or cities, or country, they laid the
sick in the streets, and besought him that they might touch if it were but the
border of his garment: and as many as touched him were made whole.
PENNOD 7
7:1 Yna yr ymgasglodd ato y
Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem.
7:1 Then
came together unto him the Pharisees, and certain of the scribes, which came
from Jerusalem.
7:2 A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw,
heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant.
7:2 And
when they saw some of his disciples eat bread with defiled, that is to say,
with unwashen, hands, they found fault.
7:3 Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo
yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid.
7:3 For
the Pharisees, and all the Jews, except they wash their hands oft, eat not,
holding the tradition of the elders.
7:4 A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A
llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi
cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau.
7:4 And
when they come from the market, except they wash, they eat not. And many other
things there be, which they have received to hold, as the washing of cups, and
pots, brazen vessels, and of tables.
7:5 Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw
dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â
dwylo heb olchi?
7:5 Then
the Pharisees and scribes asked him, Why walk not thy disciples according to
the tradition of the elders, but eat bread with unwashen hands?
7:6 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Da y proffwydodd Eseias
amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy
anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf.
7:6 He
answered and said unto them, Well hath Esaias prophesied of you hypocrites, as
it is written, This people honoureth me with their lips, but their heart is far
from me.
7:7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth,
orchmynion dynion.
7:7
Howbeit in vain do they worship me, teaching for doctrines the commandments of
men.
7:8 Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad
dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau
yr ydych yn eu gwneuthur.
7:8 For
laying aside the commandment of God, ye hold the tradition of men, as the
washing of pots and cups: and many other such like things ye do.
7:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn
Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.
7:9 And
he said unto them, Full well ye reject the commandment of God, that ye may keep
your own tradition.
7:10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a
felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth.
7:10 For
Moses said, Honour thy father and thy mother; and, Whoso curseth father or
mother, let him die the death:
7:11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban,
hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd.
7:11 But
ye say, If a man shall say to his father or mother, It is Corban, that is to
say, a gift, by whatsoever thou mightest be profited by me; he shall be free.
7:12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w
fam;
7:12 And
ye suffer him no more to do ought for his father or his mother;
7:13 Gan ddirymu gair Duw a’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a
draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur.
7:13
Making the word of God of none effect through your tradition, which ye have
delivered: and many such like things do ye.
7:14 A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch
chwi oll arnaf, a deellwch.
7:14 And
when he had called all the people unto him, he said unto them, Hearken unto me
every one of you, and understand:
7:15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi
ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn
halogi dyn.
7:15
There is nothing from without a man, that entering into him can defile him: but
the things which come out of him, those are they that defile the man.
7:16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
7:16 If
any man have ears to hear, let him hear.
7:17 A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei
ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg.
7:17 And
when he was entered into the house from the people, his disciples asked him concerning
the parable.
7:18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni
wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef?
7:18 And
he saith unto them, Are ye so without understanding also? Do ye not perceive,
that whatsoever thing from without entereth into the man, it cannot defile him;
7:19 Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned
allan i’r geudy, gan garthu’r holl fwydydd?
7:19
Because it entereth not into his heart, but into the belly, and goeth out into
the draught, purging all meats?
7:20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd
yn, halogi dyn.
7:20 And
he said, That which cometh out of the man, that defileth the man.
7:21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau,
torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth,
7:21 For
from within, out of the heart of men, proceed evil thoughts, adulteries,
fornications, murders,
7:22 Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad,
cabledd, balchder, ynfydrwydd:
7:22
Thefts, covetousness, wickedness, deceit, lasciviousness, an evil eye,
blasphemy, pride, foolishness:
7:23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.
7:23 All
these evil things come from within, and defile the man.
7:24 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac
a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn
guddiedig.
7:24 And
from thence he arose, and went into the borders of Tyre and Sidon, and entered
into an house, and would have no man know it: but he could not be hid.
7:25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd
aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:
7:25 For
a certain woman, whose young daughter had an unclean spirit, heard of him, and
came and fell at his feet:
7:26 (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd
iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch.
7:26 The woman
was a Greek, a Syrophenician by nation; and she besought him that he would cast
forth the devil out of her daughter.
7:27 A’r Iesu a ddywedodd wrthi. Gad yn gyntaf i’r plant gael eu digoni:
canys nid cymwys yw cymryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cŵn.
7:27 But
Jesus said unto her, Let the children first be filled: for it is not meet to
take the children's bread, and to cast it unto the dogs.
7:28 Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y
mae’r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.
7:28 And
she answered and said unto him, Yes, Lord: yet the dogs under the table eat of
the children's crumbs.
7:29 Ac efe a ddywedodd wrthi. Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y
cythraul allan o’th ferch.
7:29 And
he said unto her, For this saying go thy way; the devil is gone out of thy
daughter.
7:30 Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul
allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely.
7:30 And
when she was come to her house, she found the devil gone out, and her daughter
laid upon the bed.
7:31 Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth
hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis.
7:31 And
again, departing from the coasts of Tyre and Sidon, he came unto the sea of
Galilee, through the midst of the coasts of Decapolis.
7:32 A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a
atolygasant iddo ddodi ei law arno ef.
7:32 And
they bring unto him one that was deaf, and had an impediment in his speech; and
they beseech him to put his hand upon him.
7:33 Ac wedi iddo ei gymryd ef o’r neilltu allan o’r dyrfa, efe a
estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gynyrddodd â’i
dafod ef;
7:33 And
he took him aside from the multitude, and put his fingers into his ears, and he
spit, and touched his tongue;
7:34 A chan edrych tua’r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho,
Effatha, hynny yw, Ymagor.
7:34 And
looking up to heaven, he sighed, and saith unto him, Ephphatha, that is, Be
opened.
7:35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a
ddatodwyd; ac efe a lefarodd yn eglur.
7:35 And
straightway his ears were opened, and the string of his tongue was loosed, and
he spake plain.
7:36 Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y
gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.
7:36 And
he charged them that they should tell no man: but the more he charged them, so
much the more a great deal they published it;
7:37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe
bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddariaid glywed, ac i’r mudion ddywedyd.
7:37 And
were beyond measure astonished, saying, He hath done all things well: he maketh
both the deaf to hear, and the dumb to speak.
PENNOD 8
8:1 Yn y dyddiau hynny, pan oedd y
dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i’w fwyta, y galwodd yr Iesu ei
ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt,
8:1 In
those days the multitude being very great, and having nothing to eat, Jesus
called his disciples unto him, and saith unto them,
8:2 Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau
weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta:
8:2 I
have compassion on the multitude, because they have now been with me three
days, and have nothing to eat:
8:3 Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain, hwy
a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell.
8:3 And
if I send them away fasting to their own houses, they will faint by the way:
for divers of them came from far.
8:4 A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni’r rhai
hyn â bara yma yn yr anialwch?
8:4 And
his disciples answered him, From whence can a man satisfy these men with bread
here in the wilderness?
8:5 Ac efe a ofynnodd iddynt. Pa sawl dorth sydd gennych? A hwy a ddywedasant,
Saith.
8:5 And
he asked them, How many loaves have ye? And they said, Seven.
8:6 Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y
saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a’u torrodd hwynt, ac a’u rhoddes i’w
ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y
bobl.
8:6 And
he commanded the people to sit down on the ground: and he took the seven
loaves, and gave thanks, and brake, and gave to his disciples to set before
them; and they did set them before the people.
8:7 Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio,
efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger en bronnau hwynt.
8:7 And
they had a few small fishes: and he blessed, and commanded to set them also
before them.
8:8 A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o’r briwfwyd
gweddill, saith fasgedaid.
8:8 So
they did eat, and were filled: and they took up of the broken meat that was
left seven baskets.
8:9 A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a’u gollyngodd
hwynt ymaith.
8:9 And
they that had eaten were about four thousand: and he sent them away.
8:10 Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion, efe a
ddaeth i barthau Dalmanutha.
8:10 And
straightway he entered into a ship with his disciples, and came into the parts
of Dalmanutha.
8:11 A’r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef,
gan geisio ganddo arwydd o’r nef, gan ei demtio.
8:11 And
the Pharisees came forth, and began to question with him, seeking of him a sign
from heaven, tempting him.
8:12 Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wnar
genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i’r
genhedlaeth yma.
8:12 And
he sighed deeply in his spirit, and saith, Why doth this generation seek after
a sign? verily I say unto you, There shall no sign be given unto this
generation.
8:13 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong drachefn, ac a
dynnodd ymaith i’r lan arall.
8:13 And
he left them, and entering into the ship again departed to the other side.
8:14 A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd
ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong.
8:14 Now
the disciples had forgotten to take bread, neither had they in the ship with
them more than one loaf.
8:15 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch
rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod.
8:15 And
he charged them, saying, Take heed, beware of the leaven of the Pharisees, and
of the leaven of Herod.
8:16 Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn
sydd oblegid nad oes gennym fara.
8:16 And
they reasoned among themselves, saying, It is because we have no bread.
8:17 A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych,
am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw
eich calon eto gennych wedi caledu?
8:17 And
when Jesus knew it, he saith unto them, Why reason ye, because ye have no
bread? perceive ye not yet, neither understand? have ye your heart yet
hardened?
8:18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac
onid ydych yn cofio?
8:18
Having eyes, see ye not? and having ears, hear ye not? and do ye not remember?
8:19 Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn
llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg.
8:19 When
I brake the five loaves among five thousand, how many baskets full of fragments
took ye up? They say unto him, Twelve.
8:20 A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged
o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith.
8:20 And
when the seven among four thousand, how many baskets full of fragments took ye
up? And they said, Seven.
8:21 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa fodd nad ydych yn deall?
8:21 And he
said unto them, How is it that ye do not understand?
8:22 Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a
ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef,
8:22 And
he cometh to Bethsaida; and they bring a blind man unto him, and besought him to
touch him.
8:23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a’i tywysodd ef allan o’r dref:
ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo,
a oedd efe yn gweled dim.
8:23 And
he took the blind man by the hand, and led him out of the town; and when he had
spit on his eyes, and put his hands upon him, he asked him if he saw ought.
8:24 Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion
megis prennau yn rhodio.
8:24 And
he looked up, and said, I see men as trees, walking.
8:25 Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a
barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell,
ac yn eglur.
8:25
After that he put his hands again upon his eyes, and made him look up: and he was
restored, and saw every man clearly.
8:26 Ac efe a’i hanfonodd ef adref i’w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos
i’r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.
8:26 And
he sent him away to his house, saying, Neither go into the town, nor tell it to
any in the town.
8:27 A’r Iesu a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, i drefi Cesarea
Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt,
Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
8:27 And
Jesus went out, and his disciples, into the towns of Caesarea Philippi: and by
the way he asked his disciples, saying unto them, Whom do men say that I am?
8:38 A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un
o’r proffwydi.
8:28 And
they answered, John the Baptist: but some say, Elias; and others, One of the
prophets.
8:29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod
i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Cnst.
8:29 And
he saith unto them, But whom say ye that I am? And Peter answereth and saith
unto him, Thou art the Christ.
8:30 Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano.
8:30 And
he charged them that they should tell no man of him.
8:31 Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef
llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion,
a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi.
8:31 And
he began to teach them, that the Son of man must suffer many things, and be
rejected of the elders, and of the chief priests, and scribes, and be killed,
and after three days rise again.
8:32 A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd
ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.
8:32 And
he spake that saying openly. And Peter took him, and began to rebuke him.
8:33 Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd
Pedr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ôl i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau
sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
8:33 But
when he had turned about and looked on his disciples, he rebuked Peter, saying,
Get thee behind me, Satan: for thou savourest not the things that be of God,
but the things that be of men.
8:34 Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda’i ddisgyblion, efe a ddywedodd
wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei a
dilyned fi.
8:34 And
when he had called the people unto him with his disciples also, he said unto
them, Whosoever will come after me, let him deny himself, and take up his
cross, and follow me.
8:35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy
bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi.
8:35 For
whosoever will save his life shall lose it; but whosoever shall lose his life
for my sake and the gospel's, the same shall save it.
8:36 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei
hun?
8:36 For
what shall it profit a man, if he shall gain the whole world, and lose his own
soul?
8:37 Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
8:37 Or
what shall a man give in exchange for his soul?
8:38 Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr
odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau
hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd.
8:38
Whosoever therefore shall be ashamed of me and of my words in this adulterous
and sinful generation; of him also shall the Son of man be ashamed, when he
cometh in the glory of his Father with the holy angels.
PENNOD 9
9:1 A efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod
rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas
Dduw wedi dyfod mewn nerth.
9:1 And
he said unto them, Verily I say unto you, That there be some of them that stand
here, which shall not taste of death, till they have seen the kingdom of God
come with power.
9:2 Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac
a’u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o’r neilitu: ac efe a
weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt.
9:2 And
after six days Jesus taketh with him Peter, and James, and John, and leadeth
them up into an high mountain apart by themselves: and he was transfigured
before them.
9:3 A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid lawn fel eira; y
fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.
9:3 And
his raiment became shining, exceeding white as snow; so as no fuller on earth
can white them.
9:4 Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn
ymddiddan â’r Iesu.
9:4 And
there appeared unto them Elias with Moses: and they were talking with Jesus.
9:5 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu. Rabbi, da yw i
ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un.
9:5 And
Peter answered and said to Jesus, Master, it is good for us to be here: and let
us make three tabernacles; one for thee, and one for Moses, and one for Elias.
9:6 Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi
dychrynu.
9:6 For
he wist not what to say; for they were sore afraid.
9:7 A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o’r
cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef.
9:7 And
there was a cloud that overshadowed them: and a voice came out of the cloud,
saying, This is my beloved Son: hear him.
9:8 Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond
yr Iesu yn unig gyda hwynt.
9:8 And
suddenly, when they had looked round about, they saw no man any more, save
Jesus only with themselves.
9:9 A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd, efe a orchmynnodd
iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, groes, hyd pan atgyfodai Mab y
dyn o feirw.
9:9 And
as they came down from the mountain, he charged them that they should tell no
man what things they had seen, till the Son of man were risen from the dead.
9:10 A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth
yw’r atgyfodi o feirw.
9:10 And
they kept that saying with themselves, questioning one with another what the
rising from the dead should mean.
9:11 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr
ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf?
9:11 And
they asked him, saying, Why say the scribes that Elias must first come?
9:12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod
yn gyntaf a adfer bob peth, a’r modd yr ysgrifennwyd am Pab y dyn, y dioddefai
lawer o bethau, ac y dirmygid ef.
9:12 And
he answered and told them, Elias verily cometh first, and restoreth all things;
and how it is written of the Son of man, that he must suffer many things, and
be set at nought.
9:13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Eleias yn ddiau, a gwneuthur
ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano.
9:13 But
I say unto you, That Elias is indeed come, and they have done unto him
whatsoever they listed, as it is written of him.
9:14 A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu
cylch hwynt, a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt.
9:14 And
when he came to his disciples, he saw a great multitude about them, and the
scribes questioning with them.
9:15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a
chan redeg ato, a gyfarchasant iddo.
9:15 And
straightway all the people, when they beheld him, were greatly amazed, and
running to him saluted him.
9:16 Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych yn eich
plith?
9:16 And he
asked the scribes, What question ye with them?
9:17 Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddygwydd hwynt. wedodd, Athro, mi a
ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo:
9:17 And
one of the multitude answered and said, Master, I have brought unto thee my
son, which hath a dumb spirit;
9:18 A pha le bynnag y cymero ef, efe a’i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn,
ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae’n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy
ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
9:18 And
wheresoever he taketh him, he teareth him: and he foameth, and gnasheth with
his teeth, and pineth away: and I spake to thy disciples that they should cast
him out; and they could not.
9:19 Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddy wedodd, O genhedlaeth anffyddlon,
pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi.
9:19 He
answereth him, and saith, O faithless generation, how long shall I be with you?
how long shall I suffer you? bring him unto me.
9:20 A hwy a’i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i
drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn.
9:20 And
they brought him unto him: and when he saw him, straightway the spirit tare
him; and he fell on the ground, and wallowed foaming.
9:21 A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel
hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen.
9:21 And
he asked his father, How long is it ago since this came unto him? And he said,
Of a child.
9:22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, i’r dyfroedd, fel y difethai efe
ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym.
9:22 And
ofttimes it hath cast him into the fire, and into the waters, to destroy him:
but if thou canst do any thing, have compassion on us, and help us.
9:23 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod
i’r neb a gredo.
9:23
Jesus said unto him, If thou canst believe, all things are possible to him that
believeth.
9:24 Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr
wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i.
9:24 And
straightway the father of the child cried out, and said with tears, Lord, I
believe; help thou mine unbelief.
9:25 A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd
yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn
gorchymyn i ti. Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef.
9:25 When
Jesus saw that the people came running together, he rebuked the foul spirit,
saying unto him, Thou dumb and deaf spirit, I charge thee, come out of him, and
enter no more into him.
9:26 Ac wedi i’r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth
allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.
9:26 And
the spirit cried, and rent him sore, and came out of him: and he was as one
dead; insomuch that many said, He is dead.
9:27 A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a
safodd i fyny.
9:27 But
Jesus took him by the hand, and lifted him up; and he arose.
9:28 Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant
iddo o’r neilitu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?
9:28 And
when he was come into the house, his disciples asked him privately, Why could
not we cast him out?
9:29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan,
ond trwy weddi ac ympryd.
9:29 And
he said unto them, This kind can come forth by nothing, but by prayer and
fasting.
9:30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni
fynnai efe wybod o neb.
9:30 And
they departed thence, and passed through Galilee; and he would not that any man
should know it.
9:31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt,
Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr
atgyfodai y trydydd dydd.
9:31 For
he taught his disciples, and said unto them, The Son of man is delivered into
the hands of men, and they shall kill him; and after that he is killed, he
shall rise the third day.
9:32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn
iddo.
9:32 But they
understood not that saying, and were afraid to ask him.
9:33 Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a
ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y
ffordd?
9:33 And
he came to Capernaum: and being in the house he asked them, What was it that ye
disputed among yourselves by the way?
9:34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y
ffordd, pwy a fyddai fwyaf.
9:34 But
they held their peace: for by the way they had disputed among themselves, who
should be the greatest.
9:35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt,
Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb.
9:35 And
he sat down, and called the twelve, and saith unto them, If any man desire to
be first, the same shall be last of all, and servant of all.
9:36 Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt:
ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,
9:36 And
he took a child, and set him in the midst of them: and when he had taken him in
his arms, he said unto them,
9:37 Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn
fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr
hwn a’m danfonodd i.
9:37
Whosoever shall receive one of such children in my name, receiveth me: and
whosoever shall receive me, receiveth not me, but him that sent me.
9:38 Ac Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn
bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a
waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.
9:38 And
John answered him, saying, Master, we saw one casting out devils in thy name,
and he followeth not us: and we forbad him, because he followeth not us.
9:39 A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna
wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.
9:39 But
Jesus said, Forbid him not: for there is no man which shall do a miracle in my
name, that can lightly speak evil of me.
9:40 Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae.
9:40 For he that is not against us
is on our part.
9:41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o
ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni
chyll efe ei obrwy.
9:41 For whosoever shall give you a
cup of water to drink in my name, because ye belong to Christ, verily I say
unto you, he shall not lose his reward.
9:42 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd
yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu
i’r môr.
9:42 And whosoever shall offend one
of these little ones that believe in me, it is better for him that a millstone
were hanged about his neck, and he were cast into the sea.
9:43 Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i
ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r
tân anniffoddadwy:
9:43 And if thy hand offend thee,
cut it off: it is better for thee to enter into life maimed, than having two
hands to go into hell, into the fire that never shall be quenched:
9:44 lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn
diffodd.
9:44 Where their worm dieth not,
and the fire is not quenched.
9:45 Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw
i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennyt dy daflu i uffern,
i’r tân anniffoddadwy:
9:45 And if thy foot offend thee,
cut it off: it is better for thee to enter halt into life, than having two feet
to be cast into hell, into the fire that never shall be quenched:
9:46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn
diffodd.
9:46 Where their worm dieth not,
and the fire is not quenched.
9:47 Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw
i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy
daflu i dân uffern:
9:47 And if thine eye offend thee,
pluck it out: it is better for thee to enter into the kingdom of God with one
eye, than having two eyes to be cast into hell fire:
9:48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn
diffodd.
9:48 Where their worm dieth not,
and the fire is not quenched.
9:49 Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a
helltir â halen.
9:49 For every one shall be salted
with fire, and every sacrifice shall be salted with salt.
9:50 Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi-hallt, â
pha beth yr helltwch ef? Bid
gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.
9:50 Salt
is good: but if the salt have lost his saltness, wherewith will ye season it?
Have salt in yourselves, and have peace one with another.
PENNOD 10
10:1 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a
aeth i dueddau Jwdea, trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r bobloedd a
gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd hwynt
drachefn.
10:1 And
he arose from thence, and cometh into the coasts of Judaea by the farther side
of Jordan: and the people resort unto him again; and, as he was wont, he taught
them again.
10:2 A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i
ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef.
10:2 And the
Pharisees came to him, and asked him, Is it lawful for a man to put away his
wife? tempting him.
10:3 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i
chwi?
10:3 And
he answered and said unto them, What did Moses command you?
10:4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar,
a’i gollwng hi ymaith.
10:4 And
they said, Moses suffered to write a bill of divorcement, and to put her away.
10:5 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich
calongaledwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchmyn hwnnw:
10:5 And
Jesus answered and said unto them, For the hardness of your heart he wrote you
this precept.
10:6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw
hwynt.
10:6 But
from the beginning of the creation God made them male and female.
10:7 Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;
10:7 For
this cause shall a man leave his father and mother, and cleave to his wife;
10:8 A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un
cnawd.
10:8 And
they twain shall be one flesh: so then they are no more twain, but one flesh.
10:9 Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.
10:9 What
therefore God hath joined together, let not man put asunder.
10:10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un
peth.
10:10 And
in the house his disciples asked him again of the same matter.
10:11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac
a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.
10:11 And
he saith unto them, Whosoever shall put away his wife, and marry another,
committeth adultery against her.
10:12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae
hi’n godinebu.
10:12 And
if a woman shall put away her husband, and be married to another, she
committeth adultery.
10:13 A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt:
a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.
10:13 And
they brought young children to him, that he should touch them: and his disciples
rebuked those that brought them.
10:14 A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt,
Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo’r
cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
10:14 But
when Jesus saw it, he was much displeased, and said unto them, Suffer the
little children to come unto me, and forbid them not: for of such is the
kingdom of God.
10:15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn
bach, nid a efe i mewn iddi.
10:15
Verily I say unto you, Whosoever shall not receive the kingdom of God as a
little child, he shall not enter therein.
10:16 Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo
arnynt, ac a’u bendithiodd.
10:16 And
he took them up in his arms, put his hands upon them, and blessed them.
10:17 Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd
iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd
tragwyddol?
10:17 And
when he was gone forth into the way, there came one running, and kneeled to
him, and asked him, Good Master, what shall I do that I may inherit eternal
life?
10:18 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb
da ond un, sef Duw.
10:18 And
Jesus said unto him, Why callest thou me good? there is none good but one, that
is, God.
10:19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na
chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam.
10:19
Thou knowest the commandments, Do not commit adultery, Do not kill, Do not
steal, Do not bear false witness, Defraud not, Honour thy father and mother.
10:20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a
gedwais o’m hieuenctid.
10:20 And
he answered and said unto him, Master, all these have I observed from my youth.
10:21 A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un
peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r
tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a
dilyn fi.
10:21
Then Jesus beholding him loved him, and said unto him, One thing thou lackest:
go thy way, sell whatsoever thou hast, and give to the poor, and thou shalt
have treasure in heaven: and come, take up the cross, and follow me.
10:22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn
athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.
10:22 And
he was sad at that saying, and went away grieved: for he had great possessions.
10:23 A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei
ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw!
10:23 And
Jesus looked round about, and saith unto his disciples, How hardly shall they
that have riches enter into the kingdom of God!
10:24 A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a
atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd
â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!
10:24 And
the disciples were astonished at his words. But Jesus answereth again, and
saith unto them, Children, how hard is it for them that trust in riches to
enter into the kingdom of God!
10:25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog
fyned i mewn i deyrnas Dduw.
10:25 It
is easier for a camel to go through the eye of a needle, than for a rich man to
enter into the kingdom of God.
10:26 A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A
phwy a all fod yn gadwedig?
10:26 And
they were astonished out of measure, saying among themselves, Who then can be
saved?
10:27 A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl
yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.
10:27 And
Jesus looking upon them saith, With men it is impossible, but not with God: for
with God all things are possible.
10:28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob
peth, ac a’th ddilynasom di.
10:28
Then Peter began to say unto him, Lo, we have left all, and have followed thee.
10:29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes
neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu
wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl,
10:29 And
Jesus answered and said, Verily I say unto you, There is no man that hath left
house, or brethren, or sisters, or father, or mother, or wife, or children, or
lands, for my sake, and the gospel's,
10:30 A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a
chwiorydd, a mamau, a phlant, â thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd a
ddaw, fywyd tragwyddol.
10:30 But
he shall receive an hundredfold now in this time, houses, and brethren, and
sisters, and mothers, and children, and lands, with persecutions; and in the
world to come eternal life.
10:31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant
gyntaf.
10:31 But
many that are first shall be last; and the last first.
10:32 Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd
yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn
canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a
ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:
10:32 And
they were in the way going up to Jerusalem; and Jesus went before them: and
they were amazed; and as they followed, they were afraid. And he took again the
twelve, and began to tell them what things should happen unto him,
10:33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a
draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i
farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd:
10:33 Saying, Behold, we go up to Jerusalem; and
the Son of man shall be delivered unto the chief priests, and unto the scribes;
and they shall condemn him to death, and shall deliver him to the Gentiles:
10:34 A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno,
ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd.
10:34 And
they shall mock him, and shall scourge him, and shall spit upon him, and shall
kill him: and the third day he shall rise again.
10:35 A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro,
ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem.
10:35 And
James and John, the sons of Zebedee, come unto him, saying, Master, we would
that thou shouldest do for us whatsoever we shall desire.
10:36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?
10:36 And
he said unto them, What would ye that I should do for you?
10:37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy
ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.
10:37
They said unto him, Grant unto us that we may sit, one on thy right hand, and
the other on thy left hand, in thy glory.
10:38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei
ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r
bedydd y’m bedyddir i ag ef?
10:38 But
Jesus said unto them, Ye know not what ye ask: can ye drink of the cup that I
drink of? and be baptized with the baptism that I am baptized with?
10:39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn, A’r Iesu a ddywedodd wrthynt,
Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir
finnau:
10:39 And
they said unto him, We can. And Jesus said unto them, Ye shall indeed drink of
the cup that I drink of; and with the baptism that I am baptized withal shall
ye be baptized:
10:40 Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond
i’r rhai y darparwyd.
10:40 But
to sit on my right hand and on my left hand is not mine to give; but it shall
be given to them for whom it is prepared.
10:41 A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch
Iago ac Ioan.
10:41 And
when the ten heard it, they began to be much displeased with James and John.
10:42 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a
wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn
tra-arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt.
10:42 But
Jesus called them to him, and saith unto them, Ye know that they which are
accounted to rule over the Gentiles exercise lordship over them; and their
great ones exercise authority upon them.
10:143 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a
ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;
10:43 But
so shall it not be among you: but whosoever will be great among you, shall be
your minister:
10:44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.
10:44 And
whosoever of you will be the chiefest, shall be servant of all.
10:45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi
ei einioes yn bridwerth dros lawer.
10:45 For
even the Son of man came not to be ministered unto, but to minister, and to
give his life a ransom for many.
10:46 A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o
Jericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd
yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.
10:46 And
they came to Jericho: and as he went out of Jericho with his disciples and a
great number of people, blind Bartimaeus, the son of Timaeus, sat by the highway
side begging.
10:47 A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd
lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.
10:47 And
when he heard that it was Jesus of Nazareth, he began to cry out, and say,
Jesus, thou son of David, have mercy on me.
10:48 A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a
lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
10:48 And
many charged him that he should hold his peace: but he cried the more a great
deal, Thou son of David, have mercy on me.
10:49 A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y
dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
10:49 And
Jesus stood still, and commanded him to be called. And they call the blind man,
saying unto him, Be of good comfort, rise; he calleth thee.
10:50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith a gyfododd, ac a ddaeth at yr
Iesu.
10:50 And
he, casting away his garment, rose, and came to Jesus.
10:51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei
wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.
10:51 And
Jesus answered and said unto him, What wilt thou that I should do unto thee?
The blind man said unto him, Lord, that I might receive my sight.
10:52 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd. Ac
yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.
10:52 And
Jesus said unto him, Go thy way; thy faith hath made thee whole. And
immediately he received his sight, and followed Jesus in the way.
PENNOD 11
11:1 Ac wedi eu dyfod yn agos i
Jerwsafem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a
anfonodd ddau o’i ddisgyblion,
11:1 And
when they came nigh to Jerusalem, unto Bethphage and Bethany, at the mount of
Olives, he sendeth forth two of his disciples,
11:2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â
chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo,
ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.
11:2 And
saith unto them, Go your way into the village over against you: and as soon as
ye be entered into it, ye shall find a colt tied, whereon never man sat; loose
him, and bring him.
11:3 Ac os dywed neb wrthiych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn
rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma.
11:3 And
if any man say unto you, Why do ye this? say ye that the Lord hath need of him;
and straightway he will send him hither.
11:4 A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws
oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd,
11:4 And
they went their way, and found the colt tied by the door without in a place
where two ways met; and they loose him.
11:5 A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a
wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?
11:5 And
certain of them that stood there said unto them, What do ye, loosing the colt?
11:6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a
adawsant iddynt fyned ymaith.
11:6 And they
said unto them even as Jesus had commanded: and they let them go.
11:7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad
arno; ac efe a eisteddodd arno.
11:7 And
they brought the colt to Jesus, and cast their garments on him; and he sat upon
him.
11:8 A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a
dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd.
11:8 And
many spread their garments in the way: and others cut down branches off the
trees, and strowed them in the way.
11:9 A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ô1, a
lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r
Arglwydd;
11:9 And
they that went before, and they that followed, cried, saying, Hosanna; Blessed
is he that cometh in the name of the Lord:
11:10 Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad
Dafydd; Hosanna yn y goruchaf.
11:10
Blessed be the kingdom of our father David, that cometh in the name of the
Lord: Hosanna in the highest.
11:11 A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo
edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i
Fethania gyda’r deuddeg.
11:11 And
Jesus entered into Jerusalem, and into the temple: and when he had looked round
about upon all things, and now the eventide was come, he went out unto Bethany
with the twelve.
11:12 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arao
chwant bwyd.
11:12 And
on the morrow, when they were come from Bethany, he was hungry:
11:13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth
i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail:
canys nid oedd amser ffigys.
11:13 And
seeing a fig tree afar off having leaves, he came, if haply he might find any
thing thereon: and when he came to it, he found nothing but leaves; for the
time of figs was not yet.
11:14 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth
ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.
11:14 And
Jesus answered and said unto it, No man eat fruit of thee hereafter for ever.
And his disciples heard it.
11:15 A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a
ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a
ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod:
11:15 And
they come to Jerusalem: and Jesus went into the temple, and began to cast out
them that sold and bought in the temple, and overthrew the tables of the
moneychangers, and the seats of them that sold doves;
11:16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml,
11:16 And
would not suffer that any man should carry any vessel through the temple.
11:1:7 Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig,
Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i
gwnaethoch yn ogof lladron.
11:17 And
he taught, saying unto them, Is it not written, My house shall be called of all
nations the house of prayer? but ye have made it a den of thieves.
11:18 A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a
geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr
holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.
11:18 And
the scribes and chief priests heard it, and sought how they might destroy him:
for they feared him, because all the people was astonished at his doctrine.
11:19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas.
11:19 And
when even was come, he went out of the city.
11:20 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino
o’r gwraidd.
11:20 And
in the morning, as they passed by, they saw the fig tree dried up from the
roots.
11:21 A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren
a felltithiaist, wedi crino.
11:21 And
Peter calling to remembrance saith unto him, Master, behold, the fig tree which
thou cursedst is withered away.
11:22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn
Nuw:
11:22 And
Jesus answering saith unto them, Have faith in God.
11:23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y
mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon,
ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd
iddo.
11:23 For
verily I say unto you, That whosoever shall say unto this mountain, Be thou
removed, and be thou cast into the sea; and shall not doubt in his heart, but
shall believe that those things which he saith shall come to pass; he shall
have whatsoever he saith.
11:24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo
credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.
11:24
Therefore I say unto you, What things soever ye desire, when ye pray, believe
that ye receive them, and ye shall have them.
11:25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn
erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich
camweddau:
11:25 And
when ye stand praying, forgive, if ye have ought against any: that your Father
also which is in heaven may forgive you your trespasses.
11:26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni
faddau chwaith eich camweddau chwithau.
11:26 But
if ye do not forgive, neither will your Father which is in heaven forgive your
trespasses.
11:27 A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn
rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a
ddaethant ato,
11:27 And
they come again to Jerusalem: and as he was walking in the temple, there come
to him the chief priests, and the scribes, and the elders,
11:28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y
pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?
11:28 And
say unto him, By what authority doest thou these things? and who gave thee this
authority to do these things?
11:29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i
chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf
yn gwneuthur y pethau hyn.
11:29 And
Jesus answered and said unto them, I will also ask of you one question, and
answer me, and I will tell you by what authority I do these things.
11:30 Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi.
11:30 The
baptism of John, was it from heaven, or of men? answer me.
11:31 Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os
dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo?
11:31 And
they reasoned with themselves, saying, If we shall say, From heaven; he will
say, Why then did ye not believe him?
11:32 Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb
oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd.
11:32 But
if we shall say, Of men; they feared the people: for all men counted John, that
he was a prophet indeed.
11:33 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau
trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
11:33 And
they answered and said unto Jesus, We cannot tell. And Jesus answering saith
unto them, Neither do I tell you by what authority I do these things.
PENNOD 12
12:1 A efe a ddechreuodd ddywedyd
wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i
hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i
gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
12:1 And
he began to speak unto them by parables. A certain man planted a vineyard, and
set an hedge about it, and digged a place for the winefat, and built a tower,
and let it out to husbandmen, and went into a far country.
12:2 Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y
llafurwyr o ffrwyth y winllan.
12:2 And
at the season he sent to the husbandmen a servant, that he might receive from
the husbandmen of the fruit of the vineyard.
12:3 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith
yn waglaw.
12:3 And
they caught him, and beat him, and sent him away empty.
12:4 A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant
gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus.
12:4 And
again he sent unto them another servant; and at him they cast stones, and
wounded him in the head, and sent him away shamefully handled.
12:5 A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer
eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.
12:5 And
again he sent another; and him they killed, and many others; beating some, and
killing some.
12:6 Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd
atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
12:6
Having yet therefore one son, his wellbeloved, he sent him also last unto them,
saying, They will reverence my son.
12:7 Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r
etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni.
12:7 But
those husbandmen said among themselves, This is the heir; come, let us kill
him, and the inheritance shall be ours.
12:8 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan
o’r winllan.
12:8 And
they took him, and killed him, and cast him out of the vineyard.
12:9 Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a
ddifetha’r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill.
12:9 What
shall therefore the lord of the vineyard do? he will come and destroy the
husbandmen, and will give the vineyard unto others.
12:10 Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr
adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl:
12:10 And
have ye not read this scripture; The stone which the builders rejected is
become the head of the corner:
12:11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
12:11
This was the Lord's doing, and it is marvellous in our eyes?
12:12 A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa:
canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a’i
gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
12:12 And
they sought to lay hold on him, but feared the people: for they knew that he
had spoken the parable against them: and they left him, and went their way.
12:13 A hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid, ac o’r Herodianiaid,
i’w rwydo ef yn ei ymadrodd.
12:13 And
they send unto him certain of the Pharisees and of the Herodians, to catch him
in his words.
12:14 Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom
dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb; canys nid wyt ti yn edrych
ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon
rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?
12:14 And
when they were come, they say unto him, Master, we know that thou art true, and
carest for no man: for thou regardest not the person of men, but teachest the
way of God in truth: Is it lawful to give tribute to Caesar, or not?
12:15 Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y
temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi.
12:15
Shall we give, or shall we not give? But he, knowing their hypocrisy, said unto
them, Why tempt ye me? bring me a penny, that I may see it.
12:16 A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r
ddelw hon a’r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.
12:16 And they brought it. And he
saith unto them, Whose is this image and superscription? And they said unto him,
Caesar's.
12:17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch
yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid.
12:17 And
Jesus answering said unto them, Render to Caesar the things that are Caesar's,
and to God the things that are God's. And they marvelled at him.
12:18 Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes
atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,
12:18
Then come unto him the Sadducees, which say there is no resurrection; and they
asked him, saying,
12:19 Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei
wraig, ac heb adu plant, am gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w
frawd.
12:19
Master, Moses wrote unto us, If a man's brother die, and leave his wife behind him,
and leave no children, that his brother should take his wife, and raise up seed
unto his brother.
12:20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerth wraig; a
phan fu farw, ni adawodd had.
12:20 Now
there were seven brethren: and the first took a wife, and dying left no seed.
12:21 A’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r
trydydd yr un modd.
12:21 And
the second took her, and died, neither left he any seed: and the third
likewise.
12:22 A hwy a’i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn
ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd.
12:22 And
the seven had her, and left no seed: last of all the woman died also.
12:23 Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt
fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.
12:23 In
the resurrection therefore, when they shall rise, whose wife shall she be of
them? for the seven had her to wife.
12:24 A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych
yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw?
12:24 And
Jesus answering said unto them, Do ye not therefore err, because ye know not
the scriptures, neither the power of God?
12:25 Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr
y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd.
12:25 For
when they shall rise from the dead, they neither marry, nor are given in
marriage; but are as the angels which are in heaven.
12:26 Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch chwi yn
llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw
Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?
12:26 And
as touching the dead, that they rise: have ye not read in the book of Moses,
how in the bush God spake unto him, saying, I am the God of Abraham, and the
God of Isaac, and the God of Jacob?
12:27 Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw’r rhai byw: am hynny yr ydych
chwi yn cyfeiliorni’n fawr.
12:27 He
is not the God of the dead, but the God of the living: ye therefore do greatly
err.
12:28 Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn
ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo. Pa un yw’r
gorchymyn cyntaf o’r cwbl?
12:28 And
one of the scribes came, and having heard them reasoning together, and
perceiving that he had answered them well, asked him, Which is the first
commandment of all?
12:29 A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw,
Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:
12:29 And
Jesus answered him, The first of all the commandments is, Hear, O Israel; The
Lord our God is one Lord:
12:30 A châr yr Arglwydd dŷ Dduw â’th holl galon, ac â’th holl
enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf.
12:30 And
thou shalt love the Lord thy God with all thy heart, and with all thy soul, and
with all thy mind, and with all thy strength: this is the first commandment.
12:31 A’r ail sydd gyffelyb iddo; câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes
orchymyn arall mwy na’r rhai hyn.
12:31 And
the second is like, namely this, Thou shalt love thy neighbour as thyself.
There is none other commandment greater than these.
12:32 A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y
dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe:
12:32 And
the scribe said unto him, Well, Master, thou hast said the truth: for there is
one God; and there is none other but he:
12:33 A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid,
ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl
boethoffrymau a’r aberthau.
12:33 And
to love him with all the heart, and with all the understanding, and with all
the soul, and with all the strength, and to love his neighbour as himself, is
more than all whole burnt offerings and sacrifices.
12:34 A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho,
Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
12:34 And
when Jesus saw that he answered discreetly, he said unto him, Thou art not far
from the kingdom of God. And no man after that durst ask him any question.
12:35 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml. Pa fodd
y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?
12:35 And
Jesus answered and said, while he taught in the temple, How say the scribes
that Christ is the son of David?
12:36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Yr ARGLWYDD a
ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion
yn droedfainc i’th draed.
12:36 For
David himself said by the Holy Ghost, The LORD said to my Lord, Sit thou on my
right hand, till I make thine enemies thy footstool.
12:37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae
efe yn fab iddo? A llawer o bobl
a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
12:37
David therefore himself calleth him Lord; and whence is he then his son? And
the common people heard him gladly.
12:38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr
ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael
cyfarch yn y marchnadoedd,
12:38 And
he said unto them in his doctrine, Beware of the scribes, which love to go in
long clothing, and love salutations in the marketplaces,
12:39 A’r prifgadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn
swperau;
12:39 And
the chief seats in the synagogues, and the uppermost rooms at feasts:
12:40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn
hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
12:40
Which devour widows' houses, and for a pretence make long prayers: these shall
receive greater damnation.
12:41 A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa
fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a
fwriasant lawer.
12:41 And
Jesus sat over against the treasury, and beheld how the people cast money into
the treasury: and many that were rich cast in much.
12:42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy
hatling, yr hyn yw ffyrling.
12:42 And
there came a certain poor widow, and she threw in two mites, which make a
farthing.
12:43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir
yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai
oll a fwriasant i’r drysorfa.
12:43 And
he called unto him his disciples, and saith unto them, Verily I say unto you,
That this poor widow hath cast more in, than all they which have cast into the
treasury:
12:44 Canys hwynt-hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill
ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl
fywyd.
12:44 For
all they did cast in of their abundance; but she of her want did cast in all
that she had, even all her living.
PENNOD 13
13:1 A fel yr oedd efe yn myned allan
o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a
pha fath adeiladau sydd yma.
13:1 And
as he went out of the temple, one of his disciples saith unto him, Master, see
what manner of stones and what buildings are here!
13:2 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau
mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir.
13:2 And
Jesus answering said unto him, Seest thou these great buildings? there shall
not be left one stone upon another, that shall not be thrown down.
13:3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r
deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilitu,
13:3 And
as he sat upon the mount of Olives over against the temple, Peter and James and
John and Andrew asked him privately,
13:4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r
pethau hyn oll ar ddibennu?
13:4 Tell
us, when shall these things be? and what shall be the sign when all these
things shall be fulfilled?
13:5 A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch
rhag twyllo o neb chwi:
13:5 And Jesus
answering them began to say, Take heed lest any man deceive you:
13:6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac
a dwyllant lawer.
13:6 For
many shall come in my name, saying, I am Christ; and shall deceive many.
13:7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer
chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto.
13:7 And
when ye shall hear of wars and rumours of wars, be ye not troubled: for such
things must needs be; but the end shall not be yet.
13:8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
a daeargrynfau fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
13:8 For
nation shall rise against nation, and kingdom against kingdom: and there shall
be earthquakes in divers places, and there shall be famines and troubles: these
are the beginnings of sorrows.
13:9 Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch
eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a
faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er
tystiolaeth iddynt hwy.
13:9 But
take heed to yourselves: for they shall deliver you up to councils; and in the
synagogues ye shall be beaten: and ye shall be brought before rulers and kings
for my sake, for a testimony against them.
13:10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl
genhedloedd.
13:10 And
the gospel must first be published among all nations.
13:11 Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a
ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr
honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân.
13:11 But
when they shall lead you, and deliver you up, take no thought beforehand what
ye shall speak, neither do ye premeditate: but whatsoever shall be given you in
that hour, that speak ye: for it is not ye that speak, but the Holy Ghost.
13:12 A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant
a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth.
13:12 Now
the brother shall betray the brother to death, and the father the son; and
children shall rise up against their parents, and shall cause them to be put to
death.
13:13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a
barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
13:13 And
ye shall be hated of all men for my name's sake: but he that shall endure unto
the end, the same shall be saved.
13:14 Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanheddol, yr hwn a
ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a
ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd:
13:14 But
when ye shall see the abomination of desolation, spoken of by Daniel the
prophet, standing where it ought not, (let him that readeth understand,) then
let them that be in Judaea flee to the mountains:
13:15 A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac
nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ.
13:15 And
let him that is on the housetop not go down into the house, neither enter
therein, to take any thing out of his house:
13:16 A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg.
13:16 And
let him that is in the field not turn back again for to take up his garment.
13:17 Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau
hynny!
13:17 But
woe to them that are with child, and to them that give suck in those days!
13:18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf.
13:18 And
pray ye that your flight be not in the winter.
13:19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath
o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith.
13:19 For
in those days shall be affliction, such as was not from the beginning of the
creation which God created unto this time, neither shall be.
13:2.0 Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un
cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.
13:20 And
except that the Lord had shortened those days, no flesh should be saved: but
for the elect's sake, whom he hath chosen, he hath shortened the days.
13:21 Ac yna os dywed neb wrthych, "Wele, llyma y Crist, neu, Wele,
acw, na chredwch:
13:21 And
then if any man shall say to you, Lo, here is Christ; or, lo, he is there;
believe him not:
13:22 Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant
arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
13:22 For
false Christs and false prophets shall rise, and shall show signs and wonders,
to seduce, if it were possible, even the elect.
13:23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.
13:23 But
take ye heed: behold, I have foretold you all things.
13:24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r
haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni,
13:24 But
in those days, after that tribulation, the sun shall be darkened, and the moon
shall not give her light,
13:25 A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.
13:25 And
the stars of heaven shall fall, and the powers that are in heaven shall be
shaken.
13:26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a
gogoniant.
13:26 And then shall they see the
Son of man coming in the clouds with great power and glory.
13:27 Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi
wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.
13:27 And
then shall he send his angels, and shall gather together his elect from the
four winds, from the uttermost part of the earth to the uttermost part of
heaven.
13:28 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes
yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
13:28 Now
learn a parable of the fig tree; When her branch is yet tender, and putteth
forth leaves, ye know that summer is near:
13:29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch
ei fod yn agos, wrth y drysau.
13:29 So
ye in like manner, when ye shall see these things come to pass, know that it is
nigh, even at the doors.
13:30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni
wneler y pethau hyn oll.
13:30
Verily I say unto you, that this generation shall not pass, till all these
things be done.
13:31 Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio
ddim.
13:31
Heaven and earth shall pass away: but my words shall not pass away.
13:32 Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd
yn y nef, na’r Mab, ond y Tad.
13:32 But
of that day and that hour knoweth no man, no, not the angels which are in
heaven, neither the Son, but the Father.
13:33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch,i: canys ni wyddoch pa bryd y bydd
yr amser.
13:33
Take ye heed, watch and pray: for ye know not when the time is.
13:34 Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael
ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a
gorchymyn i’r drysor wylio.
13:34 For the Son of man is as a man taking a far
journey, who left his house, and gave authority to his servants, and to every
man his work, and commanded the porter to watch.
13:35 Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y
tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;)
13:35
Watch ye therefore: for ye know not when the master of the house cometh, at even,
or at midnight, or at the cockcrowing, or in the morning:
13:36 Rhag iddo ddyfodi yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu.
13:36
Lest coming suddenly he find you sleeping.
13:37 A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd
wrth bawb, Gwyliwch.
13:37 And
what I say unto you I say unto all, Watch.
PENNOD 14
14:1 Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg,
a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa
fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef:
14:1
After two days was the feast of the passover, and of unleavened bread: and the
chief priests and the scribes sought how they might take him by craft, and put
him to death.
14:2 Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y
bobl.
14:2 But
they said, Not on the feast day, lest there be an uproar of the people.
14:3 A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac
efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb
gwerthfawr; a hi a dorrodd y biwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef.
14:3 And
being in Bethany in the house of Simon the leper, as he sat at meat, there came
a woman having an alabaster box of ointment of spikenard very precious; and she
brake the box, and poured it on his head.
14:4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba
beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint?
14:4 And
there were some that had indignation within themselves, and said, Why was this
waste of the ointment made?
14:5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiinog, a’u
rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi.
14:5 For
it might have been sold for more than three hundred pence, and have been given
to the poor. And they murmured against her.
14:6 A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi?
hi a wnaeth weithred dda arnaf fi.
14:6 And
Jesus said, Let her alone; why trouble ye her? she hath wrought a good work on
me.
14:7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y
gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
14:7 For
ye have the poor with you always, and whensoever ye will ye may do them good:
but me ye have not always.
14:8 Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio
fy nghorff erbyn y claddedigaeth.
14:8 She
hath done what she could: she is come aforehand to anoint my body to the
burying.
14:9 Yn wir meddaf i chwi. Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr
holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
14:9
Verily I say unto you, Wheresoever this gospel shall be preached throughout the
whole world, this also that she hath done shall be spoken of for a memorial of
her.
14:10 A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr
archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt.
14:10 And
Judas Iscariot, one of the twelve, went unto the chief priests, to betray him
unto them.
14:11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian
iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
14:11 And
when they heard it, they were glad, and promised to give him money. And he
sought how he might conveniently betray him.
14:12 A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg,
dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i
baratoi i ti, i fwyta’r pasg?
14:12 And
the first day of unleavened bread, when they killed the passover, his disciples
said unto him, Where wilt thou that we go and prepare that thou mayest eat the
passover?
14:13 Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt,
Ewch i’r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch
ef.
14:13 And
he sendeth forth two of his disciples, and saith unto them, Go ye into the
city, and there shall meet you a man bearing a pitcher of water: follow him.
14:14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod
yr Athro yn dywedyd. Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion,
fwyta’r pasg?
14:14 And wheresoever he shall go
in, say ye to the goodman of the house, The Master saith, Where is the guestchamber,
where I shall eat the passover with my disciples?
14:15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn
barod: yno paratowch i ni.
14:15 And
he will show you a large upper room furnished and prepared: there make ready
for us.
14:16 A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant
megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg.
14:16 And
his disciples went forth, and came into the city, and found as he had said unto
them: and they made ready the passover.
14:17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda’r deuddeg.
14:17 And
in the evening he cometh with the twelve.
14:18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn
wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a’m bradycha i.
14:18 And
as they sat and did eat, Jesus said, Verily I say unto you, One of you which
eateth with me shall betray me.
14:19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un,
Ai myfi? ac arall, Ai myfi?
14:19 And
they began to be sorrowful, and to say unto him one by one, Is it I? and
another said, Is it I?
14:20 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn
sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe.
14:20 And
he answered and said unto them, It is one of the twelve, that dippeth with me
in the dish.
14:21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig
amdano: ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r
dyn hwnnw pe nas ganesid.
14:21 The
Son of man indeed goeth, as it is written of him: but woe to that man by whom
the Son of man is betrayed! good were it for that man if he had never been
born.
14:22 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i
bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch,
bwytewch: hwn yw fy nghorff.
14:22 And
as they did eat, Jesus took bread, and blessed, and brake it, and gave to them,
and said, Take, eat: this is my body.
14:23 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes
iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono.
14:23 And
he took the cup, and when he had given thanks, he gave it to them: and they all
drank of it.
14:24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r testament
newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer.
14:24 And
he said unto them, This is my blood of the new testament, which is shed for
many.
14:25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y
winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
14:25
Verily I say unto you, I will drink no more of the fruit of the vine, until
that day that I drink it new in the kingdom of God.
14:26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
14:26 And
when they had sung an hymn, they went out into the mount of Olives.
14:27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o’m plegid i y nos
hon: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir.
14:27 And
Jesus saith unto them, All ye shall be offended because of me this night: for
it is written, I will smite the shepherd, and the sheep shall be scattered.
14:28 Eithr wedi i mi atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea.
14:28 But
after that I am risen, I will go before you into Galilee.
14:29 Ond Pedr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto
ni byddaf fi.
14:29 But
Peter said unto him, Although all shall be offended, yet will not I.
14:30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddiw,
o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith.
14:30 And
Jesus saith unto him, Verily I say unto thee, That this day, even in this
night, before the cock crow twice, thou shalt deny me thrice.
14:31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai imi farw
gyda thi, ni’th wadaf ddim. A’r un modd y dywedasant oll.
14:31 But he spake the more
vehemently, If I should die with thee, I will not deny thee in any wise.
Likewise also said they all.
14:32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a
ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.
14:32 And
they came to a place which was named Gethsemane: and he saith to his disciples,
Sit ye here, while I shall pray.
14:33 Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd
ymofidio, a thristáu yn ddirfawr.
14:33 And
he taketh with him Peter and James and John, and began to be sore amazed, and
to be very heavy;
14:34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau:
arhoswch yma, a gwyliwch.
14:34 And
saith unto them, My soul is exceeding sorrowful unto death: tarry ye here, and
watch.
14:35 Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a
weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.
14:35 And
he went forward a little, and fell on the ground, and prayed that, if it were
possible, the hour might pass from him.
14:36 Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro
heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio,
ond y peth yr ydwyt ti.
14:36 And
he said, Abba, Father, all things are possible unto thee; take away this cup
from me: nevertheless not what I will, but what thou wilt.
14:37 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth
Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?
14:37 And
he cometh, and findeth them sleeping, and saith unto Peter, Simon, sleepest
thou? couldest not thou watch one hour?
14:38 Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn
ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.
14:38
Watch ye and pray, lest ye enter into temptation. The spirit truly is ready,
but the flesh is weak.
14:39 Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd
yr un ymadrodd.
14:39 And
again he went away, and prayed, and spake the same words.
14:40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu;
canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo.
14:40 And
when he returned, he found them asleep again, (for their eyes were heavy,)
neither wist they what to answer him.
14:41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch
weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab
y dyn i ddwylo pechaduriaid.
14:41 And
he cometh the third time, and saith unto them, Sleep on now, and take your
rest: it is enough, the hour is come; behold, the Son of man is betrayed into
the hands of sinners.
14:42 Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
14:42
Rise up, let us go; lo, he that betrayeth me is at hand.
14:43 Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a
chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r
ysgrifenyddion, a’r henuriaid.
14:43 And
immediately, while he yet spake, cometh Judas, one of the twelve, and with him
a great multitude with swords and staves, from the chief priests and the
scribes and the elders.
14:44 A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd,
Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.
14:44 And
he that betrayed him had given them a token, saying, Whomsoever I shall kiss,
that same is he; take him, and lead him away safely.
14:45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd. Rabbi,
Rabbi; ac a’i cusanodd ef.
14:45 And
as soon as he was come, he goeth straightway to him, and saith, Master, master;
and kissed him.
14:46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef.
14:46 And
they laid their hands on him, and took him.
14:47 A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf,
ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.
14:47 And
one of them that stood by drew a sword, and smote a servant of the high priest,
and cut off his ear.
14:48 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y
daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i?
14:48 And
Jesus answered and said unto them, Are ye come out, as against a thief, with
swords and with staves to take me?
14:49 Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m
daliasoch: ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau.
14:49 I
was daily with you in the temple teaching, and ye took me not: but the
scriptures must be fulfilled.
14:50 A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.
14:50 And
they all forsook him, and fled.
14:51 A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain
main ar ei gorff noeth; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef.
14:51 And
there followed him a certain young man, having a linen cloth cast about his
naked body; and the young men laid hold on him:
14:52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
14:52 And
he left the linen cloth, and fled from them naked.
14:53 A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl
archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef.
14:53 And
they led Jesus away to the high priest: and with him were assembled all the
chief priests and the elders and the scribes.
14:54 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad;
ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân.
14:54 And
Peter followed him afar off, even into the palace of the high priest: and he
sat with the servants, and warmed himself at the fire.
14:55 A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn
erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant.
14:55 And
the chief priests and all the council sought for witness against Jesus to put
him to death; and found none.
14:56 Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid
oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson.
14:56 For
many bare false witness against him, but their witness agreed not together.
14:57 A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan
ddywedyd;
14:57 And
there arose certain, and bare false witness against him, saying,
14:58 Ni a’i clywsom ef yn dywedyd. Mi a ddinistriaf y deml hon o waith
dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.
14:58 We
heard him say, I will destroy this temple that is made with hands, and within
three days I will build another made without hands.
14:59 Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson.
14:59 But
neither so did their witness agree together.
14:60 A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu,
gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn
dy erbyn?
14:60 And
the high priest stood up in the midst, and asked Jesus, saying, Answerest thou
nothing? what is it which these witness against thee?
14:61 Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a
ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?
14:61 But
he held his peace, and answered nothing. Again the high priest asked him, and
said unto him, Art thou the Christ, the Son of the Blessed?
14:62 A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn
eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef.
14:62 And
Jesus said, I am: and ye shall see the Son of man sitting on the right hand of
power, and coming in the clouds of heaven.
14:63 Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd. Pa raid i
ni mwy wrth dystion?
14:63
Then the high priest rent his clothes, and saith, What need we any further
witnesses?
14:64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i
condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.
14:64 Ye
have heard the blasphemy: what think ye? And they all condemned him to be
guilty of death.
14:65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a
dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail.
14:65 And
some began to spit on him, and to cover his face, and to buffet him, and to say
unto him, Prophesy: and the servants did strike him with the palms of their
hands.
14:66 Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr
archoffeiriad:
14:66 And
as Peter was beneath in the palace, there cometh one of the maids of the high
priest:
14:67 A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd,
Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth.
14:67 And
when she saw Peter warming himself, she looked upon him, and said, And thou
also wast with Jesus of Nazareth.
14:68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr
wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd.
14:68 But
he denied, saying, I know not, neither understand I what thou sayest. And he
went out into the porch; and the cock crew.
14:69 A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd
wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt.
14:69 And
a maid saw him again, and began to say to them that stood by, This is one of
them.
14:70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll
gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys
Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg.
14:70 And
he denied it again. And a little after, they that stood by said again to Peter,
Surely thou art one of them: for thou art a Galilaean, and thy speech agreeth
thereto.
14:71 Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr
ydych chwi yn dywedyd amdano.
14:71 But
he began to curse and to swear, saying, I know not this man of whom ye speak.
14:72 A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a
ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi
deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.
14:72 And
the second time the cock crew. And Peter called to mind the word that Jesus
said unto him, Before the cock crow twice, thou shalt deny me thrice. And when
he thought thereon, he wept.
PENNOD 15
15:1 Ac yn y fan, y bore, yr
ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl
gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i
traddodasant at Peilat.
15:1 And
straightway in the morning the chief priests held a consultation with the
elders and scribes and the whole council, and bound Jesus, and carried him
away, and delivered him to Pilate.
15:2 A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a
atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
15:2 And
Pilate asked him, Art thou the King of the Jews? And he answering said unto
him, Thou sayest it.
15:3 A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid
atebodd efe ddim.
15:3 And
the chief priests accused him of many things: but he answered nothing.
15:4 A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di
ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.
15:4 And
Pilate asked him again, saying, Answerest thou nothing? behold how many things
they witness against thee.
15:5 Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat.
15:5 But
Jesus yet answered nothing; so that Pilate marvelled.
15:6 Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor,
yr hwn a ofynnent iddo.
15:6 Now
at that feast he released unto them one prisoner, whomsoever they desired.
15:7 Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i
gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.
15:7 And there
was one named Barabbas, which lay bound with them that had made insurrection
with him, who had committed murder in the insurrection.
15:8 A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel
y gwnaethai bob amser iddynt.
15:8 And
the multitude crying aloud began to desire him to do as he had ever done unto
them.
15:9 A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi
ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
15:9 But
Pilate answered them, saying, Will ye that I release unto you the King of the
Jews?
15:10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid
ef.)
15:10 For
he knew that the chief priests had delivered him for envy.
15:11 A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn
hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.
15:11 But
the chief priests moved the people, that he should rather release Barabbas unto
them.
15:12 A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan
hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?
15:12 And
Pilate answered and said again unto them, What will ye then that I shall do
unto him whom ye call the King of the Jews?
15:13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.
15:13 And
they cried out again, Crucify him.
15:14 Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A
hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.
15:14
Then Pilate said unto them, Why, what evil hath he done? And they cried out the
more exceedingly, Crucify him.
15:15 A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt
Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio.
15:15 And
so Pilate, willing to content the people, released Barabbas unto them, and
delivered Jesus, when he had scourged him, to be crucified.
15:16 A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy
a alwasant ynghyd yr holl fyddin,
15:16 And
the soldiers led him away into the hall, called Praetorium; and they call
together the whole band.
15:17 Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain,
ac a’i dodasant am ei ben;
15:17 And
they clothed him with purple, and platted a crown of thorns, and put it about
his head,
15:18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon.
15:18 And
began to salute him, Hail, King of the Jews!
15:19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan
ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef.
15:19 And
they smote him on the head with a reed, and did spit upon him, and bowing their
knees worshipped him.
15:20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi
amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w
groeshoelio.
15:20 And
when they had mocked him, they took off the purple from him, and put his own
clothes on him, and led him out to crucify him.
15:21 A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio
wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef.
15:21 And
they compel one Simon a Cyrenian, who passed by, coming out of the country, the
father of Alexander and Rufus, to bear his cross.
15:22 A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha, yr hyn o’i
gyfieithu yw, Lle’r benglog:
15:22 And
they bring him unto the place Golgotha, which is, being interpreted, The place of
a skull.
15:23 Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth.
15:23 And
they gave him to drink wine mingled with myrrh: but he received it not.
15:24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan
fwrw coelbren arnynt, beth a gai pob un.
15:24 And
when they had crucified him, they parted his garments, casting lots upon them,
what every man should take.
15:25 A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef.
15:25 And
it was the third hour, and they crucified him.
15:26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN Yr
IDDEWON.
15:26 And
the superscription of his accusation was written over, THE KING OF THE JEWS.
15:27 A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr, un ar y llaw ddeau,
ac un ar yr aswy iddo.
15:27 And
with him they crucify two thieves; the one on his right hand, and the other on
his left.
15:28 A’r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd
gyda’r rhai anwir.
15:28 And
the scripture was fulfilled, which saith, And he was numbered with the
transgressors.
15:29 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu
pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu
mewn tridiau,
15:29 And
they that passed by railed on him, wagging their heads, and saying, Ah, thou
that destroyest the temple, and buildest it in three days,
15:30 Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes.
15:30
Save thyself, and come down from the cross.
15:31 Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth
ei gilydd, gyda’r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared.
15:31
Likewise also the chief priests mocking said among themselves with the scribes,
He saved others; himself he cannot save.
15:32 Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel
y gwelom, ac y credom. A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a’i difenwasant ef.
15:32 Let
Christ the King of Israel descend now from the cross, that we may see and
believe. And they that were crucified with him reviled him.
15:33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd
y nawfed awr.
15:33 And
when the sixth hour was come, there was darkness over the whole land until the
ninth hour.
15:34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eka,
Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m
gadewaist?
15:34 And
at the ninth hour Jesus cried with a loud voice, saying, Eloi, Eloi, lama
sabachthani? which is, being interpreted, My God, my God, why hast thou
forsaken me?
15:35 A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant,
Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.
15:35 And
some of them that stood by, when they heard it, said, Behold, he calleth Elias.
15:36 Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng; yn llawn o finegr, ac a’i
dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw
Eleias i’w dynnu ef i lawr.
15:36 And
one ran and filled a sponge full of vinegar, and put it on a reed, and gave him
to drink, saying, Let alone; let us see whether Elias will come to take him
down.
15:37 A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd a’r ysbryd.
15:37 And
Jesus cried with a loud voice, and gave up the ghost.
15:38 A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.
15:38 And
the veil of the temple was rent in twain from the top to the bottom.
15:39 A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn
ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir
Mab Duw oedd y dyn hwn.
15:39 And
when the centurion, which stood over against him, saw that he so cried out, and
gave up the ghost, he said, Truly this man was the Son of God.
15:40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr
oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;
15:40
There were also women looking on afar off: among whom was Mary Magdalene, and
Mary the mother of James the less and of Joses, and Salome;
15:41 Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a
weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i
Jerwsalem.
15:41 (Who also, when he was in Galilee, followed
him, and ministered unto him;) and many other women which came up with him unto
Jerusalem.
15:42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-wâyl, sef
y dydd cyn y Saboth,)
15:42 And
now when the even was come, because it was the preparation, that is, the day
before the sabbath,
15:43 Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd
yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a
ddeisyfodd gorff yr Iesu.
15:43
Joseph of Arimathaea, an honourable counsellor, which also waited for the
kingdom of God, came, and went in boldly unto Pilate, and craved the body of
Jesus.
15:44 A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo
alw y canwriad ato, efe a olynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin.
15:44 And
Pilate marvelled if he were already dead: and calling unto him the centurion,
he asked him whether he had been any while dead.
15:45 A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff.
15:45 And
when he knew it of the centurion, he gave the body to Joseph.
15:46 Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i
hamdodd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a
dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
15:46 And
he bought fine linen, and took him down, and wrapped him in the linen, and laid
him in a sepulchre which was hewn out of a rock, and rolled a stone unto the
door of the sepulchre.
15:47 A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.
15:47 And
Mary Magdalene and Mary the mother of Joses beheld where he was laid.
PENNOD 16
16:1 A wedi darfod y dydd Saboth,
Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i’w
eneinio ef.
16:1 And
when the sabbath was past, Mary Magdalene, and Mary the mother of James, and
Salome, had bought sweet spices, that they might come and anoint him.
16:2 Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y bedd,
a’r haul wedi codi.
16:2 And
very early in the morning the first day of the week, they came unto the
sepulchre at the rising of the sun.
16:3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen
ymaith oddi wrth ddrws y bedd?
16:3 And
they said among themselves, Who shall roll us away the stone from the door of
the sepulchre?
16:4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo
ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn.
16:4 And
when they looked, they saw that the stone was rolled away: for it was very
great.
16:5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn
eistedd o’r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant.
16:5 And
entering into the sepulchre, they saw a young man sitting on the right side,
clothed in a long white garment; and they were affrighted.
16:6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu
o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd; efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man
y dodasant ef.
16:6 And
he saith unto them, Be not affrighted: Ye seek Jesus of Nazareth, which was
crucified: he is risen; he is not here: behold the place where they laid him.
16:7 Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w disgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef
yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i
chwi.
16:7 But
go your way, tell his disciples and Peter that he goeth before you into
Galilee: there shall ye see him, as he said unto you.
16:8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys
dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt
wedi ofni.
16:8 And
they went out quickly, and fled from the sepulchre; for they trembled and were
amazed: neither said they any thing to any man; for they were afraid.
16:9 A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a
ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y twriasai efe allan saith o
gythreuliaid.
16:9 Now
when Jesus was risen early the first day of the week, he appeared first to Mary
Magdalene, out of whom he had cast seven devils.
16:10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac
oeddynt mewn galar ac wylofain.
16:10 And she went and told them that had been
with him, as they mourned and wept.
16:11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef,
ni chredent.
16:11 And
they, when they had heard that he was alive, and had been seen of her, believed
not.
16:12 Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt,
a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad.
16:12
After that he appeared in another form unto two of them, as they walked, and
went into the country.
16:13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt
hwythau.
16:13 And
they went and told it unto the residue: neither believed they them.
16:14 Ac ar ôl hynny efe a ymddangosadd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd
i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calongaledwch, am na
chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi.
16:14
Afterward he appeared unto the eleven as they sat at meat, and upbraided them
with their unbelief and hardness of heart, because they believed not them which
had seen him after he was risen.
16:15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr
efengyl i bob creadur.
16:15 And
he said unto them, Go ye into all the world, and preach the gospel to every
creature.
16:16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a
gondemnir.
16:16 He that believeth and is
baptized shall be saved; but he that believeth not shall be damned.
16:17 A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y
bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;
16:17 And
these signs shall follow them that believe; In my name shall they cast out
devils; they shall speak with new tongues;
16:18 Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt
ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
16:18
They shall take up serpents; and if they drink any deadly thing, it shall not
hurt them; they shall lay hands on the sick, and they shall recover.
16:19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r
nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
16:19 So
then after the Lord had spoken unto them, he was received up into heaven, and
sat on the right hand of God.
16:20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ymmhob man, a’r
Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn
canlyn. Amen.
16:20 And
they went forth, and preached every where, the Lord working with them, and
confirming the word with signs following. Amen.
__________________________________________________________________________
Adolygiadau
diweddaraf - latest updates. 2009-01-25
Sumbolau arbennig: ŷ
ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA