0940k Gwefan Cymru-Catalonia. BUCHEDD GITTO GELLI
DEG, YN YR WYTHNOS GADW. Hanes bach o wythnos ym mywyd Guto o'r Gelli-deg,
Merthyrtudful. Seren Gomer 1820. Mynd i'r gwaith am 7 - y gloden wedi cwympo yn
y talcen - gwaith ofnadwy i chliro hi - coesau'r tools i gyd wedi tori, ond y
pickish
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_004_guto_gelli_deg_0940k.htm
0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001
..........2657k Y Porth Cymraeg
Google: kimkat2657k
....................0009k Y Barthlen
Google: kimkat0009k
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google:
kimkat096k
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Y llyfr ymwelwyr: 0860k,
Google kimkat0860k |
1003ke Click
here for a page with an English translation - a week in the life of Guto, from
Gelli-deg by Merthyrtudful
TEITL: Gitto Gelli Deg
AWDUR: Siencyn ap Tydfil
FFYNHONNELL: Seren Gomer 1820, tudalennau 163-164
ARDDULL: Tafodiaith y de-ddwyrain wedi ei safoni.
SYLWADAU: Yr ym wedi rhoi didolnod dros y llythyren 'y eglur' (y) - nid yw hwn
yn y testun gwreiddiol, wrth gwrs
FFYNHONELL: Seren Gomer 1820, tudalennau 163-164
MR GOMER, - A mi yn lled segur un diwrnod, mi dreuliais y prydnawn yn
edrych dros amrywiol ysgrifau yn meddiant henwr yn y gymdogaeth. O'r diwedd
tarawais fy llaw ar ysgrif lled ddu ei lliw, ac o'r tu allan iddi yr
ysgrifeniad hyn, Buchedd Gitto Gelli Deg, yn yr wythnos gadw.
Gan obeithio na fydd iddi, er düed ei lliw, i gymylu pelydr y SEREN, yr
wyf yn danfon atoch, fel byddo i chwi wybod pa fodd mae llawer glöwr, &c.,
yn treulio rhan o'i amser; ac hefyd i ddangos gymaint y mae y Gymraeg wedi ei
llygru gan y werinos. Chwi wyddoch ei fod yn bechod erbyn archwaeth mewn
hynafiaeth i gyfnewid un lythyren mewn hên ysgrif; am hyny chwi a'i cewch air
am air, llythyren am lythyren.
BUCHEDD GITTO GELLI DEG, YN YR WYTHNOS GADW
“DYDD LLUN. Cwni am wyth - galw ar Dai Sion - geneu'r pwll erbyn
deg - wrth y pwll cwrdd â Dic y Gwrychyn, Twm Pen yr Hewl, Lewsin Lawen, Wil
mab Sianco, Sioni Gardi, hen Rys y Labrwr, Twm Garw, &c. - danfon am
fetching o'r Globe, gwerth 7s. 6d. - yfed hòno mewn awr - danfon
am un arall o'r
“DYDD MAWRTH. Geneu'r pwll am naw - mynd i mewn gyda'r drams -
cwrdd a'r gweithwyr wrth y Parting mawr - cyduno i fynd i maes am
fod yr air yn ddrwg - mynd i gyd i'r Royal Oak - porter
ffamws o London - Wil mab Sianco a Twm Pen yr Hewl yn ymladd - Wil
yn enill y dydd - Rhys o'r Wenallt yn dweud wrthoi fy mod wedi cael fy
nhori maes o'r clwb neithiwr o eisieu bod yno yn talu y pumed clwb -
dyna hi yn neat! - yn aelod chwech mlynedd ond un mis - dwy bunt yn dod
i fi y mis nesa - ffarwel lili!
“DYDD MERCHER. Pwll rhwng saith ag wyth - y gob wedi
cwympo i'r hewl - ei chodi i fynu - trwbl ofnadwy - glanhau y
talcen oddiar dydd {sic} Sadwrn - y gloden yn swno yn lled drwm -
gorfod mynd maes i mofyn pren - dechreu cwto - presen ofnadwy
yn y cwt - tori blaen y mandrel - dim calon i weithio - mynd tua
thre erbyn tri - y wraig a'r plant eu gyd yn llefain - Dic y Baili wedi dod
a thiced Cwrt y Conshans am gwrw er ys pum mlynedd - meddwl fod y
tafarnwr wedi ei anghofio - yr arian yn 7 punt - y wraig dan lefain yn syrthio
ar fy ngwddwg, ac yn dweud, 'O! Gitto! Gitto! pam wyt ti yn fy
nhwyllo fel hyn?” - ei gwedd a'i thynerwch bron yn tori nghalon - yn yr
hwyr mor ofidus fel yr oeddwn yn meddwl y busai cwart o gwrw yn gwneud
daioni i mi - clywed bod Wiltshire Beer iawn yn y Swan - gwr y ty
yn pallu hen gownt - cwrdd a Lewsin Lawen ar yr hewl - mynd
mewn gydag ef - yfed gwerth 4s. 6d. - haner meddw yn mynd tua thre.
“DYDD IAU. Mynd i'r gwaith am 7 - y gloden wedi cwympo yn
y talcen - gwaith ofnadwy i chliro hi - coesau'r tools i gyd wedi
tori, ond y pickish - mynd i'r yard i fofyn coesau - naddu
trwyr dydd - hen Rhees y Labrwr yn dod heibio'r ty
a galw arnai - mynd lawr gydag e i'r Crown - hen gownt gan
hen Rhees yno - yfed gwerth saith swllt - gwraig hen Rees yn dod
iw fofyn am ddeg o'r gloch - un o wyr y Mera yw hi - hi yn towlu
cwart llawn i wyneb hen Rhees - trueni fod cymaint o gwrw yn cael ei
golli - mynd tua thre yn feddw - cwrdd ac ysbryd ar y bont - doi gorn
fawr ganto, a chynffon hir iawn - cael ofan creulon - neidio dros
y ganllaw i'r pwll dan y bont - bron boddi yno - mynd i dre yn sobor.
“DYDD GWENER. Yn y pwll rhwng
“DYDD SADWRN. Yn y gwaith am ddau o'r gloch boreu heddy - gweithio
mewn slip fawr - cael gwaith cael dwy ddramed - maes am naw - mynd i'r
office cyn unarddeg - Dai Sion yn derbyn yr arian - cael ein talu yn y Greyhound
- dim ond pedair punt yn dod i fi - y wraig yn dod i lawr - rhoi
glassed o rwm iddi, a thicyn o lewmn ynddo, dyma fel y mae hi
yn ei liko - gofyn am arian i dalu'r siop - rhoi tair punt
iddi - cywilydd i fynd gydai, am nad oedd digon o arian i gliro'r llyfr
- hithau ac ofan fynd i'r siop, rhag cael ei chymenu am ddod
a rhy fach o arian - yfi yn cadw punt i dalu deg swllt o hen
gownt am gwrw y mis dwetha, ac i gael deg swllt i gael cwrw y mis
hyn - trueni mod i yn twyllo Gwenny fel hyn - ond pwy golier all
fyw heb gwrw? - Gitto bach yn aros gyda fi nes delsai ei fam yn nol
- Gitto bach yn liko cwrw - yn meddwi ar chwech cwpaned - y wraig
yn dod yn nol - gofyn ifi ddod tua thre - yfi yn
pallu, achos fod y shwg y llawn - dw i byth yn madel pan bo'r cwart
yn llawn - y cyfri yn dod mewn - gwr y ty wedi dodi lawr shwg
yn ormodd - ar ol llawer o eiriau croes, yfi yn taro gwr y ty, a dechreu
stripo - doi gwnstab yn dod - mynd a fi i'r
ty-tywyll - wedai ddim rhagor rhag cwyddil. “
Yma, Mr. Gomer, y gorphen yr ysgrif. Gobeithio y bydd i lawer gweithiwr
i ystyried pa faint o ei fywyd sydd wedi bod yn debyg i ryw ddiwrnod yn muchedd
Gitto.
Trehomer.
SIENCYN AP TYDFIL
{*Diolch i Andrew Hawke ac hefyd Paul Birt am anfon
eglurhad ar yr ymadrodd 'wythnos gadw'}
Adolygiad diweddaraf 2009-12-02, 08 11 2002
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ ə
Fformat 100 chwith, 200 de
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats