1205 An
English and Welsh Pronouncing Dictionary: In Which The Pronunciation Is Given In Welsh
Letters. Geiriadur Cynaniadol Saesneg a Chymraeg: yn
yr hwn y Silliadir y Geiriau Saesneg a Llythrenau Cymraeg: Hefyd, Cyfres o
Enwau Priod yr Ysgrythyr, wedi eu Silliadu yn Gymraeg.Gan Robert Ioan Prys. Dinbych: Cyhoeddwyd Gan Thomas Gee.
MDCCCLVII (1857) .
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_011_geiriadur_robert_ioan_prys_1857_1205k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
Adolygiadau
diweddaraf: |
·····
{Ceir
isod y Rhagymadroddiad a’r tudalen cyntaf. Diddorol yw sylwi yn y geiriadur
bach hwn ar y dewis rhyfedd o eiriau Saesneg; a’r geiriau Cymraeg a arferir i’w
hesbonio – maent ar adegau yr un mor astrus. Ond yn anad dim mae’n chwithig
gweld cymysgu addysg â gwneud Saeson o’r werin Gymraeg. Dylai’r dwyllresymeg
hon syfrdanu pob un call, ond gwaetha’r modd mae’r meddylfryd afiach mai
Seisnig a Saesneg yw popeth o werth wedi hen wreiddio ynom erbyn hyn. Mynna
awdur y Rhagymadrodd bod pawb o’r farn nid yn unig ei bod yn ddymunol i bob Cymro ddysgu Saesneg, ond hefyd “yn anhebgorol angenrheidiol”. Wel, gellir
gweld heddiw ffrwÿthau’r “amcan clodwiw” hynny,
chwedl yntau, i droi pob Cymro uniaith yn Sais!)
AN ENGLISH AND WELSH PRONOUNCING DICTIONARY: IN WHICH THE PRONUNCIATION IS GIVEN IN WELSH
LETTERS. GEIRIADUR CYNANIADOL SAESNEG A CHYMRAEG: YN YR HWN Y SILLIADIR Y GEIRIAU SAESNEG A
LLYTHRENAU CYMRAEG: HEFYD, CYFRES O ENWAU PRIOD YR YSGRYTHYR, WEDI EU SILLIADU YN GYMRAEG, GAN ROBERT IOAN PRYS. DINBYCH: CYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE. MDCCCLVII. |
(1)
RHAGYMADRODD
Y MAE'N anhawdd gosod allan amcan y cyhoeddwr yn dwyn [y] gwaith yma allan yn fwy cryno nag yn ei eiriau ef ei hun ar amleni y rhifynau cyataf; sef, – Rhoddi Geiriadur o'r iaith Saesneg (yn yr hwn y silliadir pob gair Saesneg â llythyrenau Cymraeg, ac yr eglurir ef yn helaeth â geiriau Cymraeg cyfystyr) yng ghyrhaedd pob teulu a phob person yn y Dywysogaeth – y fath Eiriadur ag a gynnorthwyo’r Cymro uniaith [i] ddysgu yr iaith Saesneg, heb un cyfarwydd arall, ac un cymhwys, hefyd, o ran maint, a phris, a chyflawnder, i fod yn LLYFR YSGOL. Y mae'n gwbl ddiangenrhaid dyweyd dim am deilyngdod y cyfryw amcan, pan y mae pawb, gwladgar ac anwladgar, yn cydnabod, nid yn unig fod {sic} yn ddymunol, ond yn anhebgorol angenrheidiol, i bob Cymro ddysgu Saesneg a fyno fod yn gyfarwydd â chyfreithiau a masnach ei wlad, ac â chelfyddydau a llenoriaeth y byd. Tuag at gyrhaedd yr amcan clodwiw yma yn effeithiol, yr oedd gan y cyhoeddwr a’r ysgrifennydd amryw ddyledswyddau i’w cyflawni. Am y blaenaf, y mae yn amlwg ar unwaith ddarfod iddo ragori ar bawb a fu o’i flaen, trwy roddi crefftwriaeth o'r fath oreu ar y llyfr, a rhoddi yn agos gymmaint ddwy waith am arian ag a roddir gan y Cymry yn gyffredin, o Eiriaduron.
Am yr ysgrifenydd, y mae yntau wedi gwneyd ei oreu
ym mhob modd a’r a allai. Tuag at i’r gwaith fod yn gyfarwyddyd addas i Gymro uniaith
i ddysgu Saesneg, yr oedd yn rhaid i'r holl eiriau arweiniol sydd yn y
llyfr gael eu cynanu, neu eu silliadu, â llythrenau Cymraeg; a dyma brif
nodwedd y gwaith. Daeth y cynllun o silliadu Saesneg â llythrenau Cymraeg i
feddwl yr ysgrifenydd yn ddamweiniol, o gylch deg neu ddeuddeng mlynedd ar
hugain yn ol, pan yn y drafferth o ddysgu Saesneg heb gynnorthwy athraw; ac mor
awyddus ydoedd ar i bawb o’i gyd-genedl a ddymunent ddysgu Saesneg, a’r nad
allent gael ysgol fwynhau buddioldeb y cynllun, fel yr anturiodd, yn y flwyddyn
1834, gychwyn gwaith a alwodd – “Geiriadur Cynanawl Seisnig-Cymreig ac
eglurydd yr iaith Seisoneg, yn Seisoneg a Chymraeg; yn yr hwn y dangosir
gwraidd y geiriau Seisoneg yn ol awdurdod y Dr. Johnson, gyda chynaniad Mr.
Walker, wedi ei gymhwyso i'r Gymraeg, ac egluro eu hamryw ystyron yn y ddwy
iaith efo ymadroddion a geiriau cyfystyr.” Ar amlen y rhifyn cyntaf (yr
unig un a gyhoeddwyd) o'r gwaith hwnw, dywedai yr ysgrifenydd, mewn anerch “At
y Cymry,” fel hyn: – “Yn awr dyma gyfleustra i Gymro uniaith gael Athraw cyfarwydd a chywir
i’w arwain ar ei aelwyd ei hun, heb gymhorth neb, i ddeall yr iaith Seisoneg,
a’i phronownsio yn groewdeg yn ol fel y gwna y Sais mwyaf dysgedig.
Diammheu y dylai pob Cymro sydd yn arferol, neu yn ewyllysio dysgu (addysgu) yr
iaith Seisoneg wrtho ei hun, feddianu y llyfr hwn; canys nis gellir cael ei
well er gwybod iawn gynaniad geiriau yn gyffredinol megys yr ysgrifena Sais
eiriau fel hyn – accompt, borough, colonel, island, rule, &c. ac nid hawdd
y gall Cymro wybod y modd i seinio y rhai yna, heb gymhorth yr athraw neu y
Geiriadur hwn, fel yma, – accompt, ac-còwnt, cyfrif; borough, byr-o, bwrdeisdref;
colonel, cyr-nel, milwriad; island, èi-land, ynys; rule, rw^l,
rheol, &c. Nid oes genyf yn bresennol ond ei gyflwyno i sylw y cyffredin,
gan hyderu y gwel pob un mewn pryd yr angenrheidrwydd o hono, a thrwy hyny roddi
cefnogaeth ddyladwy, fel na luddier cynnygiad mor fuddiol i'n cenedl, yw
dymuniad eu gwasanaethydd - R. I. P.”. Pa mor ddiwegi bynag oedd yr appeliad
yna “At y Cymry, a pha mor briodol bynag oedd y cynllun i hyfforddi yr
unieithog yn swn, ac ystyr geiriau Saesneg, rhwng hwyrfrydigrwydd i genedl i
gefnogi pob anturiaethau llenyddol, yn enwedig yr eiddo awdwyr ieuaingc
anghyhoedd, a diffyg profiad a medr yr ysgrifenydd mewn llyfrwerthyddiaeth,
sefyll a wnaeth y gwaith ar ol cyhoeddi y rhifyn cyntaf, ac achosi’r fath
golled i’r ysgrifennydd fel y penderfynodd na chyhoeddi ddim byd mwyach ar ei
draul ei hun – o leiaf, heb gael sicrwydd boddhaol o gefnogaeth ddigonol. O
gylch y flwyddyn 1847, daeth cyhoeddwr y gyfrol hon i’r maes i gynyg gwobr
deilwng "Am y Cyfarwydd goreu i Gymro i ddysgu yr iaith Seisonig;” a
gwaith yr ysgrifenydd a farnwyd yn teilyngu yr “arobryn.” Yn fuan ar ol
cyhoeddiad y “Treithawd Arobryn,” proffwydodd y gwladgar Ieuan Gwynedd, yn yr
Adolygydd, nad oedd yr amser yn mhell, pan y mynai’r Cymro eto gael “ Geiriadur
Cynanawl Seisnig-Cymraeg R. I. Prys;” a chyn pen dwy flynedd ar ol marwolaeth
ein talentog Ieuan, cytunodd y cyhoeddwr â’r ysgrifennydd i baratoi y Geiriadur
Cynaniadol hwn, sy weithian wedi ei orphen; o'r hwn y mae talfyriad cryno yn
barod i'r wasg, ac a gyhoeddir yn ddioed, dan yr enw Geiriadur Cynaniadol
Seisoneg a Chymraeg i’r Miloedd: - y ddau ar gynllun cynaniadol
cyntefig hen Eiriadur .Cynanawl yr ysgrifenydd, a gynnygiwyd i'r Cymry
yn y flwyddyn 1834.
Y mae rhai seiniau yn Saesneg nad ydynt yn Gymraeg;
megys a yn all, o yn no, ch yn church,
j yn John, sh yn shaal, zh = s yn vision,
a z yn zeal. Yn yr amgylchiadau hyn, defnyddiwyd y llythyrenau
sydd yn yr Arweiniad i'r Cynaniad Seisoneg, sydd yn dilyn y Rhagymadrodd
hwn, ac sydd hefyd ar odre'r tudalenau trwy gorff y gwaith, fel y rhai symlaf a
ellid meddwl am danynt ar y pryd. Defnyddiwyd llythyrenau Italaidd hefyd
i ddynodi sain hir y gwahanol lafariaid.
Y geiriadurwyr y dilynwyd eu cynaniad, yn
benaf, yw Gilbert a Smart; ond ymgynghorwyd yn fynych a Walker, Jones, Birkin,
Reid, Worcester, Ogilvie, a Spurrell. Yr un awduron hefyd, yng nghyda Johnson,
Todd, Richardson, Webster, a D. Silvan Evans, a gymmerwyd yn arweinwyr i lythyrenu
y geiriau Saesneg.
Am yr eglurhâd, ymgynghorwyd yn achlysurol
â'r holl Eiriaduron Saesneg a Chymraeg sy wedi eu cyhoeddi, o'r eiddo W. Evans,
yn 1771, hyd un D. Silvan Evans, yn 1852, &c.; a chafwyd cynnorthwy
arbenig, rai prydiau, yng Ngeiriadur Lladin a Chymraeg y Meddyg T. Wiliams, sy
mewn cyssylltiad â Geiriadur Cymraeg a Lladin y Dr. Dafis o Fallwyd. Cymmerwyd
gofal arbenig i beidio gadael un gair Saesneg arweiniol, heb ryw air neu eiriau
cyfystyr yn yr eglurhhd Cymraeg.
Fe ddywed Mr. Walker am yr hwn a fo ymwybodol o'i
deilyngdod i gael sylw'r cyffredin (ac os na bydd un yn ymwybodol o hyny, ni
ddylai ysgrifenu o gwbl), y rhaid y bydd efe, nid yn unig yn awyddus am gael ei
gymharu â'i ragflaenoriaid, ond hefyd y gwna hyrwyddo'r fath gymhariad, trwy hysbysu
ei ddarllenwyr o'r hyn a wnaeth ereill; ac ar ba beth y seilia efe ei hòniadau
i'r flaenoriaeth: "ac os gwneir hyn yn deg a dihoced," eb efe,
"nis gall fod yn fwy anghysson â gweddusder, nag ydyw â thegwch a
gonestrwydd."
Fel Geiriadur yn silliadu geiriau Saesneg â
llythurenau Cymraeg.- nid oes i'r llyfr hwn unrhyw ragflaenydd; ond
y mae iddo un cydymyeisydd, a ymddangosodd ym mhen encyd o amser ar ol
iddo gychwyn, o waith “Thomas Edwards (Caerfallwch)," a “D. Hughes, B. A.,
Tredegar." Ni pherthyn i ni ddywedyd dim am hwnw, ond barned ein
cydwladwyr rhyngddynt, a defnyddiont yr un a farnont oreu er eu lles i ddysgu'r
Saesneg a'r Gymraeg.
Am Eiriadur Cynaniaethol Saesneg a Chymraeg
Mr. Spurrell, nid ydyw efe ar yr un cjnllun a'r Geiriadur Cynaniadol.
O barth y “Gyfres o enwau priodol,” ni chaniatäai lle i roi dim ond yr enwau Ysgrythyrol i mewn yn unig, heb chwanegu pris y Geiriadur.
(2) ARWEINIAD I'R CYNANIAD SAESNEG.
Y LLAFARIAID=THE VOWELS.
1. - a, fel a yn tad, câr; neu Saesneg yn father
(#88-90), far, army(#91-93.)
SYLW.-Cyfeiria y rhifnodau rhwng ymsangau i’r
adranau yn y Cyfarwyddyd i Gymro i
ddysgu yr Iaith Seisnig, lle yr eglurir y seiniau Saesneg dan sylw yn
helaeth.
2. - a, fel. a yn cam, lloffa, aberthu; neu a
Saesoneg yn fat, banish (#100-104),
abound (# 105).
SYLW.-Y mae yr a Saesneg flaenddodol, megys yn abound,
among, papa, yn nes i sain a Gymraeg nag i y Gymraeg; am
hyny defnyddir a yn wastad yn y cynaniad i ddynodi y sain flaenddodol yma. Gwel
y sylw ar ol y yn y tudalen hwn.
3. - e, fel e yn hen, lle; neu a Saesneg yn fate, paper (#82-85).
SYLW.-Yr e Italaidd yma a ddefnyddir hefyd, yn
fynych, yn y cynaniad, i ddynodi y sain hir anacenol; megys a yn arietta,
ay yn gateway, a’r eyffelyb.
4. - e, fel e yn pen, heddwch; neu e
Saesneg yn net, ebbing (#119-121), aspen, hyphen (#132)
5. - i, fel i yn llid, cri; nen yr e a’r ee Saesneg
yn me, feet, era, succeed (#113-116).
SYLW.-Yr i Italaidd a ddefnyddir hefyd i
ddynodi y sain hir anacenol, yn fynych ; megys e yn aries, ea yn aspen-tree, a‘r cyffelyb.
6. - i, fel i yn dim, difrif, difenwi; neu e Saesneg
yn devout (#126), neu i a y
yn vanity (#154, 225).
7. - o, fel o yn tor - ond y sain yn hwy - neu o yn
hon, ton, ond yn fwy gyddfol (# 94) ; neu a Saesneg yn all, talk, palling,
always (#96), quart, warlike (#98), neu o yn nor, torment (#165, 166)
SYLW.-Defnyddir yr o Italaidd yn fynych,
hefyd, yn y cynaniad, mewm sillau anacenol; megys already, jackdaw,
ordination, a’r cyffelyb.
8. - o, fel o yn llon, calon; neu o Saesneg yn not,
pomposity, moral (#167-169).
9.-ö, fel o yn llo, curo ; neu o Saesnag yn no,
note, obey, steam-boat (#160-162, 181).
10. - u, fel u yn dull cymun; neu i Saesneg yn pin, coalpit, native (#144).
SYLW. Yr u Gymraeg a ddefnyddir yn wastad, yn y
cynaniad, yn lle yr i attaledig Saesneg (#20), pan yn rhagflaenu b,
d, dd, f, l, m, n, p, r, s, t, th, a z; ond pan ragflaenir yr i yn y
cynaniad gan c, ç, g, j, sh, neu zh, i a ddefnyddir yn y cynaniad
yn wastad, yn lle yr u Gymraeg o flaen c, ç, ff, g, ng, j, sh, a zh.
11. - w, fel w yn swn, llw; neu oo Saesneg yn pool
(# 259), neu o yn prove, movement (#172-174), neu u yn rule (#199).
12. - w, fel w yn pwn, carbwl; neu oo Saesneg yn
foot, good (#259, Eithr), neu u yn bull, puss, pulpit) (#197, 198).
13. - y, fel
yn yr, dyddyfnu; neu u Saesneg yn hut (#195), neu fur, urge (#193);
neu e yn her, verb (#122-125); neu yn bird, virtue
(#148); neu a yn real, William (#107); neu e yn pertain, tolerable, butter
(#138); neu yn extripation. nadir (#157); neu o yn come (#176-178); author
(#183-185); neu y yn myrtle (#2247), satyr (#225).
SYLW.-Y mae yr a Saesneg derfynol, megys yn
attendance, clerical, firman {sic,}, &c. (#107), yn
nes at sain yr y Gymraeg nag at sain yr a Gymraeg; am hyny, defnyddir y yn y
cynaniad i ddynodi y sain derfynol hon, cystal a’r gwahanol awndance seiniau terfynol ereill a nodir
uchod.
Y CYDSEINIAID=THE CONSONANTS
1. – ç. fel tsh==ch Saesneg yn church=tshyrtsh
(#326, 329).
2. – j, fel dzh=j Saesneg yn John=dzhon (#14, 349).
3. - sh, fel yr s Gymraeg yn eisiau, neu sh Saesneg
yn arall (#383).
4. - z, fel yn y gair Ysgrythyrol zêl, neu y z
Saesneg yn zone (#15, 398, 399).
5. - sh, fel z Saesneg yn glazier, azure (#400,
402).
SYLW. – Y mae yr holl seiniau ereill a ddefnyddir yn
y cynaniad yn seiniau Cymraeg diledryw, ac yn cael eu hamlygu â’r llyhyrenau
Cymraeg arferedig
TALFYRIADAU=ABBREV.IATIONS.
a. |
adjective |
ansoddair. |
ad. |
adverb |
adferf = gorair. |
ar. |
article |
bannod. |
c. |
conjunction |
cyssylltiad. |
col. |
colloquial |
ymddyddanol. |
dim. |
diminutive |
bychanig. |
in. |
interjection |
ebychiad = cyfryngiad. |
m. |
masculine |
gwrywol |
p.
|
participle |
cyfraniad |
p.a. |
participle adjective |
ansodair cyfraniadol |
pl. |
plural |
lluosog |
p.p.
|
past participle |
cyfraniad gorphenol |
pr.
|
pronoun |
rhagenw |
prf. |
prefix |
rhagddod |
prp.
|
preposition |
arddodiad |
p. t. |
past tense |
amser gorphenol |
s.
|
substantive |
sylweddair |
sc. |
scriptural |
ysgrythyrol |
sing.
|
singular |
unig. unigol |
v. |
verb (active and neuter) |
berf (wneuthurol a chanolig) |
v.a.
|
verb active |
berf weithredol |
v.n. |
verb neuter |
berf ganolig |
= |
synoymous with, equivalent to |
cyfystyr â; yr un â |
AN
ENGLISH-WELSH PRONOUNCING DICTIONARY:
D.S. {= Dalier Sylw} Yn y cynaniad, defnyddir
llythyrenau Italaidd i ddangos sain hir y llafariad Saesneg, a llyhtyrenau
Rhufenaidd i ddangos eu sain fer. Seinir yr a Italaidd fel yr a Gymraeg
yn tad, neu yr a Saesneg yn far; a Rufeinaidd, fel yr a Gymraeg yn cam,
neu yr a Saesneg yn fat; e Italaidd, fel yr e Gymraeg yn hen, neu
yr a Saesneg yn fate; e Rufeinaidd, fel yr e Gymraeg yn pen, neu yr e
Saesneg yn met; i Italaidd, fel yr i Gymraeg yn llid, neu yr ee
Saesneg yn
feet; i Rufenaidd, fel yr i Gymraeg yn dim, neu yr e
Saesneg yn defy; o Italaidd, fel yr o Gymraeg yn tor, ond y sain yn hwy;
neu yr a Saesneg yn all; o Rufeinaidd, fel yr o Gymraeg yn llon,
neu yr o Saesneg yn not; ö, fel yr o Gymraeg yn llo, neu yr o
Saesneg yn no; u, fel yr u Gymraeg yn dull, neu yr u Saesneg yn pin;
w Italaidd, fel yr w Gymraeg yn swn, neu yr oo Saesneg yn
pool; w Rufeinaidd, fel yr w Gymraeg yn pwn, neu yr oo Saesneg yn
foot, y fel yr y Gymraeg yn yr, neu yr u Saesneg yn hut neu fur;
ç, fel tsh, neu fel y ch Saesneg yn church=tshyrtsh; j, fel
J, yn John=dzhon; sh fel yr s Gymraeg yn eisiau, neu yr sh Saesneg yn
shall; z, fel yn y gair Ysgrythyrol zâl, neu y z Saesneg yn zone.
A, e, s. enw y llythyren gyntaf o’r egwyddor.
A, a=y, ind. art. un: dyma yr ystyr sydd i a
o flaen enwau Saesneg unigol; megys a man=dyn;
a horse= march;
a union= undeb. Hefyd, arferir yr a fel
hyn: - a few men=ychydig o ddynion; a great many apples=llawer iawn o
afalau; he is gone a hunting=aeth i
hela. Y mae a weithiau yn datgan
gradd, mesur, neu gyfartaledd, fel y mae y neu yr yn y Gymraeg;
megys, a shilling a pound=swllt y pwys; a hundred a week=cant yr wythnos. Seinir a, pan
yn bwysleisiol, fel e Gymraeg; megys “I never want a (e) word, but Pitt never wants the word”=Ni fydd arnaf fi
byth eisiau gair, ond ni fydd ar Pitt byth eisiau y gair. Nid oes gair
cyfystyr i’r a yma yn y rhif lluosog.
Aaronic, e-ron’-ic, a. Aaronawl, perthynol i
swydd Aaron.
Aaronical, e-ron’-i-cyl, , a. Aaronawl, perthynol i
swydd Aaron.
Abacist, ab’-a-sust, s. cyfrifiwr, cyfrifydd,
cyfrifiadur.
Aback, a-bac’, ad. yn ol, trach y cefn, yn wysg y cefn, yn y gwrthol.
Abacot, ab’-a-cot, s. hotan; teyrn-gap.
Abactor, a-bac’-tyr, s. gyrleidr, lleidr gwartheg.
Abacus, ab’-a-cys, s. bwrdd cyfrif,
cyfriflech; coplech.
Abaft, a-bafft’, ad. yn ol, tuag yn ol, wrth y llyw.
Abaisance, a-be´-syns, s. ymostyngiad,
ymgrymiad, moesblygiad.
Abaised, a-be’-sed, a. llipa, llibin.
Abalienate, a-bel’-ien-et, v. a. trosi,
trosglwyddo, arallu; estroni, estronoli.
Abalienation,
a-bel’-ien-e-shyn, s. trosglwyddiad, aralliad, newidiad,
meddinat; estronoliad.
Abandon, a-ban’-dyn v. a gadael, gado, gadu;
gwrthod, rhoi i fyny; ymadael â. ymwrthod â, bwrw ymaith.
Abandoned,
a-ban’-dynd a. gadawedig; anfad, dryglawn, ysgeler.
Abandonee,
a-ban-dyn-i’ s. gadawai=un a gadir peth iddo.
Abandoner,
a-ban’-dyn-yr s. gadydd; ymwrthodwr.
Abandoning,
a-ban’-dyn-ing s. gadawiad,
ymwadiad, rhoddiad i fyny.
Abandonment,
a-ban’-dyn-ment s. gadawiad,
ymwadiad, rhoddiad i fyny.
Abandum ,
a-ban’-dym, s. diodfrydbeth, camlwrw, peth wedi ei fforffedu.
Abannition, ab-an-ish’-yn, s. byralldudiad.
Abare, a-be’yr, v. a. noethi,
dynoethi.
Abarticulation, ab-ar-tic-iw-le’-shyn s. hygymmaliad, rhwyddgymmaliad.
Abase, a-bes’, v. a. darostwng,
gostwng; iselu, iselhau; diraddio; taflu i lawr
AC YN Y BLAEN HYD “ZYMOLOGY” AR DUDALEN 687!!
ar waelod pob dwy ddalen:
a, fel a yn tad; a, cam; e, hen; i,
Llid, i, nid; o, tor, ond ei sain yn hwy; o, llon; ö,
llo; u, dull; w, swn; w, pwn; y, yr; ç, fel
tsh; j, John; sh, fel s yn eisieu; z, zêl
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN
HWN |
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
“CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats