1060kc 'Ni'n Doi', (nosaltres dos), un conjunt d'històries humoroses de l'any 1918 de l'autor Glynfab. El subtítol és "Hanes Ysmala Dai a Shoni yn y Rhyfel" - la història humorosa de'en Davidet i el Joanet a la (primera) guerra (mundial). Són miners de carbó del Sud de Gal·les; les narracions són escrites en el dialecte d'aquesta contrada.. "Pishÿn o waith Mynyddog, w-i'n gretu oodd y pishÿn ganas-i nawr. Ma-fa'n iitha pert, a yn atab y mwwfmants yn well na allwn-i ddishgrifio. Os ÿw y pishÿn yn goparplêt, a jail 'i fod am 'i brinto-fa yn y papra..."

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_016_llanwynno_01_0212kc.htm

Y Tudalen Blaen / Pàgina principal

.........1861c Y Porth Catalaneg / La porta en català

....................0008c Y Barthlen / Mapa de la web

..............................0969c Y Cyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


.. 













 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Ni'n Dou (Nosaltres Dos)

Aquest era un de molts llibres populars de finals del segle dinou i principis del segle vint escrit en el dialecte de Galhles del sud-oest. Avui en dia és gairebé perdut, per què els habitants de les valls industrialitzades van abandonar la seva llengua i van pujar els fills com a monolingües anglesos. Però en aquella època - i fins fa cinquanta anys era el dialecte amb més parlants dels tres dialectes galhlesos (sud-est, sud-oest, nord).

Llÿfr Mwÿaf Difyrus yr Iaith. 'Ni'n Doi', sef Hanes Ysmala Dai a Shoni yn y Rhyfel. Gan Glynfab.

Diccyn o Anas Dai a Finna a'r Ryfal. "I gatw'r ên Dafottiath yn fÿw".

El llibre més divertit en llengua gal·lesa. La història humorosa de'en Davidet i el Joanet a la (primera) guerra (mundial). D'en Glynfab. Una mica de la histporia d'en Davidet i jo a la guerra. Per mantenir viu el vell dialecte

Glynfab ="fill de la vall (de Rhondda)"; glÿn = vall; + mutació suau [m] > [v]; mab = fill.

Editorial: W M Evans a'i Fab (W.M. Evans i el seu fill)

Lloc: Swÿddfa "Seren Cymru", Caerfyrddin (oficina de la revista 'Seren Cymru' - l'estel de Gal·les - ciutat de Caerfyrddin)

Any: 1918

 

  



Adolygiad diweddaraf  /  Darrera actualització
27 12 2000
 

 0928k Yn Gymraeg yn unig
 

 ,,,,

0926
Característiques del dialecte del sud-est - explica com 'Gwenhwÿseg' es diferencia del gal·lès estàndard: "cadair" (= cadira), dialecte del sud-est: "catar", etc

1) Secció en el dialecte original (amb algunes modificacions per regularitazar l'ortografia) sobretot l'ús de 'oo' i 'aa' per indicar la simplificació dels diftongs 'ae' i oe

2) (encara per fer) Repetició d'aquesta part i la seva comparació amb gal·lès estàndard

3) (encara per fer) traducció catalana

 

(1) Y Wechfad Shwrna - Mÿnd i Setlo Sgwârs â Wil

HI-ddaath y bora, bora'r "Kick-off" oodd Dai yn 'i alw-fa.

Oodd yr óffisars yn brasgamu nool a blaan, a'r showdwrs yn busnesan fel sa-chi'n acos i gwch gwenÿn.
W-i'n siwr fod bona clusta Wil o Berlin yn ddicon pooth i chi bopi bloaters o'u blaan-nw.

Oo-ni'n caal amall i bip ar Lifftenant Tèd, on' wrth gwrs oodd-a yn yn napod-ni, a dim yn yn napod-ni ar y prÿd.

Rÿw weud bach òd ÿw hwnna, on tefa? On' i chi'n diall beth w-i yn wilia o bothdi-fa.

Fel óffisar oodd-a ddim yn yn napod-ni - yn gorffod catw dishtans, on' fel partnar oodd-a'n tywlu amall i winc pan yn cwrlo'i fystįsh.

Oon-i'n falch 'i weld-a fel y gwetws bachan o fardd
"Yn gneud cest fel
brest brān."

'Ma ni off yn nrecshwn y stashon.

"Cwnn ddou dicat i Berlin," mynta Dai, yn cellwar dicon, "a taligraffta at Wil, a gwčd -
"Meet me by moonlight alone."

"Gwell piido bachan," myntwn-i yn sbortan dicÿn. "Na, Dai, 'i goleri-fa hèb yn wpod daliff y ffordd".

"Daliff y ffordd, Shoni? Gnaiff walla. Os cwrddiff Wil â fi,
hi-dwlla ffordd aar trw'r boi, a fÿdd dim iisha spyin'-glass
i bipo ar y sêrs a'r planeta weti 'nÿ.

Miwn i'r train â ni.

"Ergÿd a phwff, a miwn hannar wìff
Hwlti, heltar, sgilt a sgeltar.
Ffordd â ni fel rhai ar badella
Yn rhes o dicella
Linc-lonc wrth gynffon ci"

Pishÿn o waith Mynyddog, w-i'n gretu oodd y pishÿn ganas-i nawr. Ma-fa'n iitha pert, a yn atab y muufmants yn well na allwn-i ddishgrifio.

Os ÿw y pishÿn yn goparplêt, a jail i fod am 'i brinto-fa yn y papra, oos dim i neud on jofadd dicÿn o bynishmant. Hi-na-i wech mish yn rhwÿdd ar ôl cropo mystásh y Kaisar.

'Ma Southampton o'r diwadd! Yr arcol 'na sait (=sight)! Llonga, llonga, a mastus wrth y milo'dd, fel sa-chi'n gweld gallt fawr o good cina-bźns.

Baata bach wrth y canno'dd, stęmars wrth y milo'dd, a showdwrs fel crowd o forgrug, ne'r jaci-jwmpars ˙-chi'n weld yn y caa amsar lladd gwair. Chlapas-i ddim o'n lliced ar gymant o bopath ar yr un pr˙d arióod.

"Shoni," mynta Dai, "Bachan, ma rwpath yn dep˙g i sgyrshon Pwll y Winsor i Ilffrancwn. Bachan 'ma sop˙n o bopath."

"Oos," wetas-i, a mhen yn acor allsach stwffo magna bona (??) i miwn iddo. "Oos wir Dai. 'Ma beth ÿw golycfa ar mencos-i."
Maas aa ni i'r platfform a golwg ffirs arno-ni, yn barod i waith.

"Fall in!" mynta'r óffisars. Hi-ddishgwÿlws Dai arno-i.
"Fall in!" mynta-fa. "I ble bachan diarth? I'r docs a'r dŵr oor? Dim o di 'Fall in', my boy."
"Fall in!"

Ma Tèd yn dod a yn wispran.
"All right boys"
"Ffamws," myntwn-i.
"Wel, 'Fall in', ready to go on board the troopship" mynta Tèd.

"Aros dicÿn bach, Tèd," mynta Dai. "Oos rhwÿ sens fod iisha mofiad i'r llong, a dicon o faata yn secur yn y docs?"
"Cer 'mlaan, Dai," mynta Tèd, "gad di joocs, Dai. Cofia di fod ti a Shoni yn rhÿw short o óffisars, a bod iisha i chi garco dicÿn ar y showdwrs cyffretin."

"Bachan," myntwn-i, "oon-i weti anghofio 'y mod-i'n górporal."
"Same here," mynta Dai.
Left - Right.
'Ma ni off yn groos i'r promenedi, y drylla a'r bíginets, a bwndal ar yn cefna-ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid i lojins.

"Mark time!"
"Sdim shalc 'da fi," mynta Dai.
"I beth?" wetas-i.
"I mark time," mynta Dai. Ma rwpath fel hÿn yn hela hira'th arno-i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y Winsor. W-i'n cretu sa well gyta fi i ripo top a thorri pwcins na rhÿw hwara plant fel hÿn."

Hi-greiddson y dec o'r diwadd, mor hapus a dou ganeri bach miwn craaj. 'Na randibŵ! Oodd-hi'n waath na Ffair Llwnpia.
"All 'ands on deck!"

W-i'n diolch fod Tèd ar yn pwÿs-ni pan glÿw-ws Dai y cománd
'All 'ands on deck!' 'ma fa'n dychra rhecu!

"Well Shoni," mynta-fa, "This is the last straw that breaks the camomile's back. All 'ands on deck! No fears my boy, ma'n well gen-i "down tools" na doti nulo ar y dec. Beth sÿ i stopo'r bois â'r traad nooth 'na i ddamshal ar 'y nulo-i? On strike, myn hyfrÿd-i."

"Best joke of the war," mynta Tèd. "Dewch-chi bois 'ma'r llong yn starto sha Ffrainc."
Hi-sobrws Dai, a hi-wyrthinws pan ddiallws-a ma galw'r sailors
at 'u jòbs oodd yshtÿr 'All 'ands on deck!'

"Gen-u-ine," mynta Dai. "'Ma beth ÿw trip!" hi-fuon yn
walco dicÿn ar hÿd y dec i gaal pip ar y môr, on' cÿm-po-hir = {cÿn bo hir} hi-aath gwÿnab Dai fel y shalc.

"Shwd ti'n tiimlo Dai?" myntwn-i
"Tiimlo?" mynta-fa. "Tiimlo rwpath tepÿg i'r weil = {whale}
ar ôl iddo lyncu Jona - something like a 'revolvar' inside."

Hi-ffiilws weud racor. Oos gen-inna ddim gwell na doti dots,
rwpath fel hÿn..........................................................
Hi-fÿdd y dots yn ddicon o iaith i ddangos shwd oo-ni'n dou yn tiimlo ar ddychra y shwrna sha Ffrainc, wàth oo-ni'n gwpod fawr o ddim am beth oodd yn mÿnd 'mlaan.

Sa Wil o
Berlin yn caal dos "extra superfine" o glefÿd y môr fysa ddim hwant
'ma starto rhyfal am 'i oos. Oon, erbÿn y bora oo-ni'n dou fel crics.

"Shoni," mynta Dai, "dim racor o glefÿd y môr i'r bachan 'ma - ma'n well da fi gerad sha Ffrainc, sa-ni'n gorffod i thrafeulu-ddi yn drotnoth. Bachan, oodd yn inside-i fel sa rasus motor cars yn cymrÿd lle 'no.

"Same 'ere," myntwn-i. "Oodd 'y mhen-i fel sa saar pen pwll yn drilo twlla yndo i neud gwacar i ridlo glo maan."

"Shwd ti'n tiimlo nawr?" mynta Dai.
"Fel y boi," myntwn-i. "Yn iitha parod i frecwas'. hi-alla weud fel conductor y tramcar - plenty o' room inside."

"W-inna yn shapo rwpath yn depÿg," mynta Dai. "A os na ddaw ffid cÿm-po-hir ma gen-i set o ddannadd alla-i 'i roi yn y pônshop {= pawnshop}."
'Ma gloch yn tinclan.

"Beth ÿw'r gloch 'na, Dai?" myntwn-i.
"W-i ddim yn gwpod os nace bachan yn gwyrthu oil sÿ 'na, ma-fa'r un sŵn â cloch y bachan sÿ'n gwyrthu páraffin yn Dinas."

Hi-geson wpod miwn crac - hi-ddaath Tèd 'mlaan.
"Wake up, boys, file on to brecwas'."
Off â Tèd, a hi-symutso-ninna gyta'r crowd.

"Arno-i ofan, Shoni," mynta Dai, "ma dicÿn o fwÿd iitha tyff sÿ yn yn wiitan-ni, cÿn bo iisha ffail idd i dacla-fa. hi-dreia-i gillath boc i starto."

Hi-wyrthinas-i, a hi-wetas 'ma yshtÿr 'ffail' oodd mÿnd 'mlaan, rwpath tepÿg i gwt, gwt wrth 'y nghwt-i.

Hi-grampws Dai yr aidïy {= idea}, a miwn â ni i'r rwm. Ÿ-chi wedi clywad haid o wÿdda yn caclan wrth fÿta soog; wel, 'na amcan i chi o'r row yn y rwm pan oo-ni i gÿd yn bÿta. On' wara teg, óntefa, llanw drams gwag oo-ni.

Oodd Ted weti bod yn drwmpÿn unwath yto, a weti catw bord fach rown' i Dai a fi. Coffi, a bara a ham oodd i frecwas'. Dicon? O, oodd, wara teg. Ar genol y ford oodd dishgil fach yn llawn o fwstart, a llwÿ yn 'i chenol-i.

Arfadd Mrs Jones, gwraig y lojins, oodd doti mwstart ar yn plâts-ni, 'na pam oodd Dai yn synnu wrth weld y llwÿ.

"Alli-di fentro, Shoni," mynta Dai, "ma' stail newÿdd o fwÿta mwstart sÿ 'ma. Bobo lond llwÿ ar y tro. I should like to 'ave an exclamation from our friend, Ted."
"Wel," myntwn i, "ma let-go ar lwÿad Dai."

Hi-fÿtas lond llwÿ, hi-dasgws y dŵr o'n lliced-i.
"Beth di'n llefan Shoni?" mynta Dai.

Cofio yn sytan netho-i am hen wr y naci gas i groci am dwcid defed," myntwn-i. "Treia lwÿad, Dai. Ma-fa'n first-class."

Hi-dreiws Dai lwÿad, a 'ma'r dŵr yn tasgu maas o'i liced-a.
"Beth di'n llefan, Dai," myntwn-i, jest hollti iisha wyrthin {= chwerthin}.

"Llefan fuo-ni'n dou am amsar, a 'mlaan aa'r brecwas'. "Myn hyffrid-i, Shoni, sa-ni heb gaal brecwas' fysa rhaid i fi lyncu pâr o brops i ddal ochra'n stwmog i'r lan," mynta Dai.

Hi-ddibenson, a 'ma'r cornat yn cico row. Off â ni, a'n hanal yn yn dyrna., a miwn wincad oodd pob un yn sefÿll ar y dec i gal 'i ecspecto.

"Pasa di niishad bwc 'na," mynta Dai, "ma'r mwstart yn briweddu o hÿd, i di dâla-di nôl yn droring-rwm My Nabs yn
Berlin.

Oodd Dai yn fachan o natur dda, oodd ddim dicio yn 'i anas-a, a oo-ni'n gwbod hÿd a lled 'i fwcwth-a. hi-ddaath yr 'ecspecsiwn' i ben, a hi-geson rwpath fel 'free an' easy'.

Rhai yn pipo ar y môr, rhai yn lortshan ar y dec, rhai yn cerad nôl a 'mlaan. Y môr yn wÿrdd, a mor smwdd a billiard table y Queen's. Amall i stemar yn dod i'n cwrdd-ni; a llong hwÿlia wetynÿ yn tacan nôl a blaan, yn depÿg i Wil Mab Ann yn 'i thracan-i sha thre o'r clwb ar nos Satwrn pai. Man o' War ar ôl 'nÿ.

"Dishgwl Dai," myntwn i. "'Co long gnociff dwll yn gwiilotion llonga'r Kaisar."
"Ia, myn hyffrÿd-i," mynta Dai.

Chollson-ni ddim golwg ar dir Lloegar yn hir cÿn i fachan miwn cot a rhubana weiddi maas trw dromboon -
"Land ahoy!"

"Bachan o ble ÿw hwnnw, Shoni?" mynte Dai.
"Pwÿ?" myntwn-i, "y bachan a'r trombôn?"

"Nace, y bachan ma-fa'n 'i alw yn "Landa". W-i weti clywad Dai hoi a Shoni hoi, on' chlywas i ddim fod bachan o'r enw "Landa" wedi joino'r "Welsh Ríjymant"."

"Bachan, Dai," myntwn-i, "gweud fod y tir yn acos ma-fa."
"O, ÿ-ni jest cyrradd Bo-loig-ne 'ta?"

"Otÿn, otÿn, bachan, 'co'r docs yn y golwg," myntwn-i.
"Ia wir ddÿn, wÿ-ti'n iitha rait, Shoni. 'Co nw."

Ma'r biwglz yn canu, yr óffisars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chÿn po Dai a finna yn caal amsar i acor yn lliced ma'r troopship yn stopo.
'Mlaan 'to dicÿn bach, a wiw â ni i ochor y landin' stage.

Sôn am waith harn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an' so on, oodd gwaith harn Dwlash on' rwpath fel côr plant wrth ochor Côr Caradog os slawar dÿdd.

Myn amsar oo-ni'n sefÿll ar y landin' stage, "showdar tw showdar", fel sa Wil meiswn sÿch weti bod yn gneud wal o hono-ni.

Ma "Ffrensh Óffisars" yn paso i gaal pip gyta'n óffisars-ni, a dicon hawdd darllan wrth 'u gwynepa-nw 'i bod-nw weti caal 'u pleso.
Form fours. Left wheel. March!

Off â ni sha'r barics yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y dôn 'Tipperary', yn Gwmráag a Sysnag, yn betwar part, a ar bwla yn hannar dwsan o barts fel bysa'r wÿl -
"O mae'n bell iawn i Gwm y Rhondda..."

Mishtir Ni'n Dou naath y geira, a ma'n wyrth i chi gaal 'u clywad-nw. Watshwch y shwrna nesa.





(2) Fersiwn mewn Cymraeg safonol llenyddol (ar wahân i rai nodweddion sÿdd yn llai llenyddol, megis (i) y rhagenwau ôl, (ii) y negyddÿn ddim, (iii) y terfyniad -iff)

Y Wechfad Shwrna - Mÿnd i Setlo Sgwârs â Wil
Y chweched siwrnai - mÿnd i setlo sgwârs â Wil

(H)i-ddaath y bora, bora'r "Kick-off" oodd Dai yn 'i alw-fa.
Fe ddaeth y bore, bore'r "Kick-off" yr oedd Dai yn ei alw ef.

Oodd yr óffisars yn brasgamu nool a blaan, a'r showdwrs yn busnesan fel sa-chi'n acos i gwch gwenÿn. W-i'n siwr fod bona clusta Wil o Berlin yn ddicon pooth i chi bopi bloaters o'u blaan-nw.
Yr oedd yr 'óffisers' yn brasgamu yn ôl a blaen, a'r 'sowdiwrs' (milwÿr) yn busnesan fel pe buasech chi yn agos i gwch gwenÿn. Yr wÿf fi yn sicr fod bonau clustiau Wil o
Berlin yn ddigon poerth i chi bobi 'bloaters' o'u blaen hwÿ.

Oo-ni'n caal amall i bip ar Lifftenant Tèd, on' wrth gwrs oodd-a yn yn napod-ni, a dim yn yn napod-ni ar y prÿd.
Yr oeddem ni yn cael ambell bip (ambell gipolwg) ar Lifftenant Tèd, ond wrth gwrs yr oedd ef yn ein hadnabod ni, a dim ynein hadnabod ni ar y prÿd

Rÿw weud bach òd ÿw (h)wnna, on tefa? On' i chi'n diall //"deall"// beth w-i yn wilia o bothdi-fa.
Rhÿw ddweud bach òd ÿw hwnna, onid e? Ond yr ÿch chi yn deall beth (yr hÿn) yr wÿf yn chwedleua (siarad) o'i beutu ef (amdano ef).

Fel óffisar oodd-a ddim yn yn napod-ni - yn gorffod catw dishtans, on' fel partnar oodd-a'n tywlu amall i winc pan yn cwrlo'i fystįsh.
Fel 'óffiser' nid oedd e ddim yn ein hadnabod ni - yn gorfod cadw 'distans', ond fel partner (cyfaill) yr oedd ef yn taflu ambell winc pan yn cyrlio ei fwstásh

Oon-i'n falch 'i weld-a fel y gwetws bachan o fardd
"Yn gneud cest fel brest brân."
Yr oeddwn i yn falch i'w weld ef fel y dywedodd bachan o fardd (rhÿw fardd)
"Yn gwneud cest fel
brest brân."

'Ma ni off yn nrecshwn y stashon.
Dyma ni ymáith yng nghyfeiriad yr orsaf.

"Cwnn ddou dicat i
Berlin," mynta Dai, yn cellwar dicÿn, "a taligraffta at Wil, a gwèd -
"Meet me by moonlight alone."
Cwnn (cwÿd) ddau docÿn i
Berlin, " meddai Dai, yn cellwair dipÿn, a téligraffa at Wil, a dweud
"Meet me by moonlight alone."

"Gwell piido bachan," myntwn-i yn sbortan dicÿn. "Na, Dai, 'i goleri-fa (h)èb yn wpod daliff y ffordd".
Gwell peidio bachan," meddwn i yn sbortan (gwamalu) dipÿn. "Na, Dai, ei goleri ef heb yn wÿbod a daliff y ffordd

"Daliff y ffordd, Shoni? Gnaiff walla. Os cwrddiff Wil â fi,
(h)i-dwlla ffordd aar trw'r boi, a fÿdd dim iisha spyin'-glass
i bipo ar y sêrs a'r planeta weti 'nÿ.
A daliff y ffordd, Shoni? Gwnaiff efallai. Os cwrddiff Wil â mi, fe dyllaf ffordd aer trwÿ'r boi, ac ni fÿdd dim eisiau 'spying glass' i bipo (edrÿch) ar y sêr a'r planedau wedi hynnÿ

Miwn i'r train â ni.
I mewn i'r trên â ni

"Ergÿd a phwff, a miwn (h)annar wìff
Hwlti, heltar, sgilt a sgeltar.
Ffordd â ni fel r(h)ai ar badella
Yn r(h)es o dicella
Linc-lonc wrth gynffon ci"
"Ergÿd a phwff, a mewn hanner chwìff
Hwlti, helter, sgilt a sgelter.
I ffwrdd â ni fel rhai ar badellau
Yn rhes o degellau
Linc-lonc wrth gynffon ci"

Pishÿn o waith Mynyddog, w-i'n gretu oodd y pishÿn ganas-i nawr. Ma-fa'n iitha pert, a yn atab y muufmants yn well na allwn-i ddishgrifio.
Pishÿn o waith Mynyddog, yr wÿf yn credu yr oedd y pishÿn (darn) a ganais i nawr. Mae ef yn eithaf pert, ac yn ateb y muufmants yn well na gallwn i disgrifio.

Os ÿw y pishÿn yn goparplêt, a jail i fod am 'i brinto-fa yn y papra, oos dim i neud on jofadd dicÿn o bynishmant. (H)i-na-i wech mish yn r(h)wÿdd ar ôl cropo mystásh y Kaisar.
Os ÿw y pishÿn (darn) yn goperplêt, a jail (carchar) i fod am ei brintio ef yn y papurua, nid oes dim i'w wneud ond dioddef dipÿn o gocb. Fe wnaf fi chwe mis yn rhwÿdd (hawdd) ar ôl cropio (torri) mwstásh y Kaiser.

'Ma Southampton o'r diwadd! Yr arcol 'na sait (=sight)! Llonga, llonga, a mastus wrth y milo'dd, fel sa-chi'n gweld gallt fawr o good cina-bêns.

Dyma Southampton o'r diwedd! Yr argoel dyna olygfa! Llongau, llongau, a mastiau wrth y miloedd, fel pe busaech chi yn gweld gallt fawr (coed mawr) o goed cidna-bêns.

Baata bach wrth y canno'dd, stêmars wrth y milo'dd, a showdwrs fel crowd o forgrug, ne'r jaci-jwmpars ÿ-chi'n weld yn y caa amsar lladd gwair. Chlapas-i ddim o'n lliced ar gymant o bopath ar yr un prÿd arióod.
Badau bach wrth y cannoedd, stêmars wrth y miloedd, a sowdiwrs (milwÿr) fel crowd (haid) o forgrug, neu'r jaci-jwmpars (ceiliogod y rhedÿn) yr ÿch chi yn eu gweld yn y cae amser lladd gwair. Chlapais (Ni osodais) i ddim o'm llygiad ar gymaint o bopeth ar yr un prÿd erióed.

"Shoni," mynta Dai, "Bachan, ma rwpath yn depÿg i sgyrshon Pwll y Winsor i Ilffrancwn. Bachan 'ma sopÿn o bopath."
"Shoni," meddai Dai, "Bachan, mae rhÿwbeth yn debÿg i 'sgyrshon' (gwibdaith) Pwll y Windsor i Ilfracombe. Bachan, dyma sopÿn (llawer) o bopeth."

"Oos," wetas-i, a m(h)en yn acor allsach stwffo magna bona (??) i miwn iddo. "Oos wir Dai. 'Ma beth ÿw golycfa ar mencos-i."
Maas aa ni i'r platfform a golwg ffirs arno-ni, yn barod i waith.
"Oes," fe wedais i, ac fy mhen yn agor fe allsech stwffo 'magna bona' (??) i mewn iddo. "Oes yn wir Dai. Dyma beth ÿw golygfa, ar fy einoes i." I maes â ni i'r platfform a golwg ffirs (gwÿllt)
arno ni, yn barod i waith.

"Fall in!" mynta'r óffisars. (H)i-ddishgwÿlws Dai arno-i.
"Fall in!" mynta-fa. "I ble bachan diarth? I'r docs a'r dŵr oor? Dim o di 'Fall in', my boy."
"Fall in!"
"Fall in!"
meddai'r óffisars. Fe ddisgwÿlodd (edrychodd) Dai
arno i.
"Fall in!" meddai ef. "I ble bachan dieithr? I'r dociau a'r dŵr oer? Dim o dy 'Fall in', my boy."
"Fall in!"


Ma Tèd yn dod a yn wispran.
"All right boys"
"Ffamws," myntwn-i.
"Wel, 'Fall in', ready to go on board the troopship" mynta Tèd.
Mae Tèd yn dod ac yn whispran (sibrwd).
"All right boys"
"Ardderchog," meddwn i.
"Wel, 'Fall in', ready to go on board the troopship," meddai Tèd.

"Aros dicÿn bach, Tèd," mynta Dai. "Oos r(h)wÿ sens fod iisha mofiad i'r llong, a dicon o faata yn secur yn y docs?"
"Cer 'mlaan, Dai," mynta Tèd, "gad di joocs, Dai. Cofia di fod ti a Shoni yn r(h)ÿw short o óffisars, a bod iisha i chi garco dicÿn ar y showdwrs cyffretin."
"Aros dipÿn bach, Tèd," meddai Dai. "Oes rhwÿ sens (synnwÿr) fod eisiau nofio i'r llong, a digon o badau yn secur yn y dociau?"
"Cer ymlaen, Dai," meddai Tèd, "gad di jocs, Dai. Cofia di dy fod di a Shoni yn rhÿw sort (math) o óffisars, a bod eisiau i chi garco (ofalu) dipÿn ar y sowdiwrs cyffredin."

"Bachan," myntwn-i, "oon-i weti ang(h)ofio 'y mod-i'n górporal."
"Same (h)ere," mynta Dai.
Left - Right.
'Ma ni off yn groos i'r promenedi, y drylla a'r bíginets, a bwndal ar yn cefna-ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid i lojins.
"Bachan," meddwn i, "yr oeddwn i wedi anghofio fy mod i yn górporal."
"Same here," meddai Dai.
Left - Right.
Dyma ni off (ymaith) yn groes i'r promenadau, y dryllau a'r bidogau, a bwndel (baich) ar ein cefnau ni, fel Dai Pen-rhiw yn newid ei lojins

"Mark time!"
"Sdim shalc 'da fi," mynta Dai.
"I beth?" wetas-i.
"I mark time," mynta Dai. Ma rwpath fel (h)ÿn yn (h)ela (h)ira'th arno-i wrth feddwl am farco drams ym Mwll y Winsor. W-i'n cretu sa well gyta fi i ripo top a thorri pwcins na r(h)ÿw (h)wara plant fel (h)ÿn."
"Mark time!"
"Sdim sialc gennÿf fi," meddai Dai.
"I beth?" fe dywedais i.
"I mark time," meddai Dai. Mae rhÿwbeth fel hÿn yn hela hiraeth arnaf fi wrth feddwl am farcio drams ym Mwll y Windsor. Yr wÿf fi yn cretu y buasai yn well gennÿf fi i ripio top a thorri pwcins na rhÿw chwarae plant fel hÿn."

(H)i-greiddson y dec o'r diwadd, mor (h)apus a dou ganeri bach miwn craaj. 'Na randibŵ! Oodd-(h)i'n waath na Ffair Llwnpia.
"All 'ands on deck!"
Fe gyraeddasom y dec o'r diwedd, mor hapus a dau ganeri bach mewn caetsh. Dyna randibŵ! Yr oedd hi yn waeth na Ffair Llwÿnypia.
"All 'ands on deck!"

W-i'n diolch fod Tèd ar yn pwÿs-ni pan glÿw-ws Dai y cománd
'All 'ands on deck!' 'ma fa'n dychra r(h)ecu!
Yr wÿf fi yn diolch fod Tèd ar ein pwÿs ni pan glÿwodd Dai y cománd
'All 'ands on deck!' dyma fe yn dechrau rhegu!

"Well Shoni," mynta-fa, "This is the last straw that breaks the camomile's back. All 'ands on deck! No fears my boy, ma'n well gen-i "down tools" na doti nulo ar y dec. Beth sÿ i stopo'r bois â'r traad nooth 'na i ddamshal ar 'y nulo-i? On strike, myn (h)yfrÿd-i."
"Well Shoni," meddai ef, "This is the last straw that breaks the camomile's back. All 'ands on deck! No fears my boy, mae yn well gennÿf fi "down tools" na dodi fy nwÿlo ar y dec. Beth sÿdd i stopio'r bois â'r traed noeth yna i ddamsang ar fy nwÿlo i? On strike, myn hyfrÿd i."

"Best joke of the war," mynta Tèd. "Dewch-chi bois 'ma'r llong yn starto sha Ffrainc."
(H)i-sobrws Dai, a (h)i-wyrthinws pan ddiallws-a ma galw'r sailors
at 'u jòbs oodd yshtÿr 'All 'ands on deck!'
"Best joke of the war," meddai Tèd. "Dewch chi bois dyma'r llong yn starto (hwÿlio) tua Ffrainc."
Fe sobrodd Dai, ac fe chwerthinodd pan ddeallodd ef mai galw'r sailors
at eu jòbs yr oedd ystÿr 'All 'ands on deck!'

"Gen-u-ine," mynta Dai. "'Ma beth ÿw trip!" (H)i-fuon yn
walco dicÿn ar (h)ÿd y dec i gaal pip ar y môr, on' cÿm-po-(h)ir = {cÿn bo hir} (h)i-aath gwÿnab Dai fel y shalc.
"Gen-u ine," meddai Dai. "Dyma beth ÿw trip!" fe fuom yn
cerdded dipÿn ar hÿd y dec i gael pip (golwg) ar y môr, ond cÿn bo hir fe aeth wÿneb Dai fel y sialc.

"Shwd ti'n tiimlo Dai?" myntwn-i
"Tiimlo?" mynta-fa. "Tiimlo rwpath tepÿg i'r weil = {whale}
ar ôl iddo lyncu Jona - something like a 'revolvar' inside."
"Sut wÿt ti yn teimlo Dai?" meddwn i
"Teimlo?" meddai ef. "Teimlo rhÿwbeth tebÿg i'r morfil
ar ôl iddo lyncu Jona - something like a 'revolvar' inside."

(H)i-ffiilws weud racor. Oos gen-inna ddim gwell na doti dots,
rwpath fel (h)ÿn..........................................................
(H)i-fÿdd y dots yn ddicon o iaith i ddangos shwd oo-ni'n dou yn tiimlo ar ddychra y shwrna sha Ffrainc, wàth oo-ni'n gwpod fawr o ddim am beth oodd yn mÿnd 'mlaan.
Fe ffaelodd â ddweud rhagor. Nid oes gennÿf innau ddim gwell na dodi dots, rhÿwbeth fel hÿn..........................................................
fe fÿdd y dots yn ddigon o iaith i ddangos sut yr oeddwn ni ein dau yn teimlo ar ddechrau y siwrnai tua Ffrainc, o waith (oherwÿdd) yr oeddwn ni yn gwÿbod fawr o ddim am beth oedd yn mÿnd ymlaen.

Sa Wil o
Berlin yn caal dos "extra superfine" o glefÿd y môr fysa ddim (h)want
'ma starto r(h)yfal am 'i oos. Oon, erbÿn y bora oo-ni'n dou fel crics.
Pe buasai Wil o
Berlin yn cael dos "extra superfine o glefÿd y môr ni fuasai ddim chwant yma starto (cychwÿn) rhyfel am 'i oes. Oeddem, erbÿn y bora yr oedden ni ein dau fel crics.

"Shoni," mynta Dai, "dim racor o glefÿd y môr i'r bachan 'ma - ma'n well da fi gerad sha Ffrainc, sa-ni'n gorffod i thrafeulu-ddi yn drotnoth. Bachan, oodd yn inside-i fel sa rasus motor cars yn cymrÿd lle 'no.
"Shoni," meddai Dai, "dim rhagor o glefÿd y môr i'r bachan yma - mae yn well gennÿf fi gerdded tua Ffrainc, pe buasem ni yn gorfod ei thrafeulu hi yn droednoeth. Bachan, yr oedd fy nghyllau i fel pe buasai rasus 'motor cars' (ceir modur) yn cymrÿd lle yno.

"Same 'ere," myntwn-i. "Oodd 'y m(h)en-i fel sa saar pen pwll yn drilo twlla yndo i neud gwacar i ridlo glo maan."
"Same 'ere," meddwn i. "Yr oedd fy mhen i fel pe buasai saer pen pwll yn drilio tyllau ynddo i wneud gogr i ridlo glo maen."

"Shwd ti'n tiimlo nawr?" mynta Dai.
"Fel y boi," myntwn-i. "Yn iitha parod i frecwas'. (H)i-alla weud fel conductor y tramcar - plenty o' room inside."
"Sut wÿt ti yn teimlo yn awr?" meddai Dai.
"Fel y boi," meddwn i. "Yn eithaf parod i frecwast. Fe allaf ddweud fel conductor y tramcar - plenty o' room inside."

"W-inna yn shapo rwpath yn depÿg," mynta Dai. "A os na ddaw ffid cÿm-po-(h)ir ma gen-i set o ddannadd alla-i 'i roi yn y pônshop {= pawnshop}."
'Ma gloch yn tinclan.
"Yr wÿf innau yn siapo rhÿwbeth yn debÿg," meddai Dai. "A os na ddaw ffid cÿm-po-hir mae gen i set o ddannadd alla i 'i roi yn y pônshop {= pawnshop}."
Dyma gloch yn tinclan.

"Beth ÿw'r gloch 'na, Dai?" myntwn-i.
"W-i ddim yn gwpod os nace bachan yn gwyrthu oil sÿ 'na, ma-fa'r un sŵn â cloch y bachan sÿ'n gwyrthu páraffin yn Dinas."
"Beth ÿw'r gloch yna, Dai?" meddwn i.
"W i ddim yn gwÿbod os nace bachan yn gwyrthu oil sÿ yna, ma ef'r un sŵn â cloch y bachan sÿ yn gwyrthu páraffin yn Dinas."

(H)i-geson wpod miwn crac - (h)i-ddaath Tèd 'mlaan.
"Wake up, boys, file on to brecwas'."
Off â Tèd, a (h)i-symutso-ninna gyta'r crowd.
fe geson wÿbod miwn crac - fe ddaeth Tèd ymlaen.
"Wake up, boys, file on to brecwas'."
Off â Tèd, a fe symutso ninna gyta'r crowd.

"Arno-i ofan, Shoni," mynta Dai, "ma dicÿn o fwÿd iitha tyff sÿ yn yn wiitan-ni, cÿn bo iisha ffail idd i dacla-fa. (H)i-dreia-i gillath boc i starto."
"
Arno i ofan, Shoni," meddai Dai, "mae dicÿn o fwÿd eithaf tyff sÿ yn yn weitan ni, cÿn bo eisiau ffail idd i dacla ef. fe dreia i gillath boc i starto."

(H)i-wyrthinas-i, a (h)i-wetas 'ma yshtÿr 'ffail' oodd mÿnd 'mlaan, rwpath tepÿg i gwt, gwt wrth 'y ng(h)wt-i.
Fe chwerthinais i, ac fe ddywedais mai ystÿr 'ffail' a oedd mÿnd ymlaen, rhÿwbeth tebÿg i gwt, gwt wrth fy nghwt i.

(H)i-grampws Dai yr aidïy {= idea}, a miwn â ni i'r rwm. Ÿ-chi wedi clywad (h)aid o wÿdda yn caclan wrth fÿta soog; wel, 'na amcan i chi o'r row yn y rwm pan oo-ni i gÿd yn bÿta. On' wara teg, óntefa, llanw drams gwag oo-ni.
Fe grampodd (ddeallodd) Dai y syniad ac i mewn â ni i'r rwm. Yr ÿch chi wedi clywed haid o wÿddau yn caclan wrth fwÿta soeg; wel, dyna amcan i chi o'r row yn y rwm pan yr oeddwn ni i gÿd yn bwÿta. Ond chwarae teg, onid e, llenwi drams gwag yr oeddem¡ ni.

Oodd Ted weti bod yn drwmpÿn unwath yto, a weti catw bord fach rown' i Dai a fi. Coffi, a bara a (h)am oodd i frecwas'. Dicon? O, oodd, wara teg. Ar genol y ford oodd dishgil fach yn llawn o fwstart, a llwÿ yn 'i chenol-i.
Yr oedd Ted wedi bod yn drwmpÿn (yn gyfaill da) unwaith eto, a wedi cadw bwrdd bach crwn i Dai a fi. Coffi, a bara a ham yr oedd i frecwast. Digon? O, yr oedd, chwarae teg. Ar ganol y bwrdd yr oedd dÿsgl fach yn llawn o fwstard, a llwÿ yn ei chanol hi.

Arfadd Mrs Jones, gwraig y lojins, oodd doti mwstart ar yn plâts-ni, 'na pam oodd Dai yn synnu wrth weld y llwÿ.
Arfer Mrs Jones, gwraig y lojins, oedd dodi mwstard ar ein platiau ni, dyna pam yr oedd Dai yn synnu wrth weld y llwÿ.

"Alli-di fentro, Shoni," mynta Dai, "ma' stail newÿdd o fwÿta mwstart sÿ 'ma. Bobo lond llwÿ ar y tro. I should like to 'ave an exclamation from our friend, Ted."
"Wel," myntwn i, "ma let-go ar lwÿad Dai."
"Fe elli di fentro, Shoni," meddai Dai, "mai steil newÿdd o fwÿta mwstardt sÿdd yma. Bobo lond llwÿ ar y tro. I should like to 'ave an exclamation from our friend, Ted."
"Wel," meddwn i, "ma let-go ar lwÿaid Dai."

(H)i-fÿtas lond llwÿ, (h)i-dasgws y dŵr o'n lliced-i.
"Beth di'n llefan Shoni?" mynta Dai.
Fe fwÿtais lond llwÿ, fe dasgodd y dŵrr o'n llygaid i.
"I beth yr wÿt ti yn llefain, Shoni?" meddai Dai.

Cofio yn sytan netho-i am (h)en wr y naci gas i groci am dwcid defed," myntwn-i. "Treia lwÿad, Dai. Ma-fa'n first-class."
Cofio yn sydÿn a wneuthum am hen wr fy nhad-cu a gaeth ei grogi am ddwÿn defaid," meddwn i. "Treia (rho gynnig ar) lwÿaid, Dai. Mae ef yn first-class."

(H)i-dreiws Dai lwÿad, a 'ma'r dŵr yn tasgu maas o'i liced-a.
"Beth di'n llefan, Dai," myntwn-i, jest (h)ollti iisha wyrthin {= chwerthin}.
Fe dreiodd Dai lwÿaid, a dyma'r dŵr yn i maes o'i lygaid ef.
" I beth yr wÿt ti yn llefain, Dai," meddwn i, jest hollti o eisiau chwerthin

"Llefan fuo-ni'n dou am amsar, a 'mlaan aa'r brecwas'. "Myn (h)yffrid-i, Shoni, sa-ni (h)eb gaal brecwas' fysa r(h)aid i fi lyncu pâr o brops i ddal ochra'n stwmog i'r lan," mynta Dai.
"Llefain y buom ni ein dau am amser, ac ymlaen â'r brecwast. "Myn hyfrÿd i, Shoni, pe buasem ni heb gael brecwast fe fuasai rhaid i mi lyncu pâr o brops i ddal ochrau fy stumog i lan," meddai Dai.

(H)i-ddibenson, a 'ma'r cornat yn cico row. Off â ni, a'n (h)anal yn yn dyrna., a miwn wincad oodd pob un yn sefÿll ar y dec i gal 'i ecspecto.
fe ddibenson, a 'ma'r cornat yn cico row. Off â ni, a yn hanal yn yn dyrna., a miwn wincad Yr oedd pob un yn sefÿll ar y dec i gal 'i ecspecto.

"Pasa di niishad bwc 'na," mynta Dai, "ma'r mwstart yn briweddu o (h)ÿd, i di dâla-di nôl yn droring-rwm My Nabs yn Berlin.
"Pasa di'r neisiad boc yna," meddai Dai, "mae'r mwstard yn briweddu o hÿd, i'th dâla di yn ôl yn 'drawing room'My Nabs yn Berlin.

Oodd Dai yn fachan o natur dda, oodd ddim dicio yn 'i anas-a, a oo-ni'n gwbod (h)ÿd a lled 'i fwcwth-a. (H)i-ddaath yr 'ecspecsiwn' i ben, a (h)i-geson rwpath fel 'free an' easy'.
Yr oedd Dai yn fachan o natur dda. Yr oedd ddim digio yn ei hanes e, ac yr oeddem ni yn gwÿbod hÿd a lled ei fygwth e. Fe ddaeth yr 'ecspecsiwn' i ben, ac fe gawsom rÿwbeth fel 'free an' easy'.

R(h)ai yn pipo ar y môr, r(h)ai yn lortshan ar y dec, r(h)ai yn cerad nôl a 'mlaan. Y môr yn wÿrdd, a mor smwdd a billiard table y Queen's. Amall i stemar yn dod i'n cwrdd-ni; a llong hwÿlia wetynÿ yn tacan nôl a blaan, yn depÿg i Wil Mab Ann yn 'i thracan-i sha thre o'r clwb ar nos Satwrn pai. Man o' War ar ôl 'nÿ.
Rhai yn pipo (edrÿch) ar y môr, rhai yn lortshan ar y dec, rhai yn cerdded yn ôl ac ymlaen. Y môr yn wÿrdd, a mor smwdd (llÿfn) â billiard table y Queen's. Ambell stemar yn dod i'n cwrdd ni; a llong hwÿliau wedi hynnÿ yn tacan (tacio) yn ôl a blaen, yn debÿg i Wil Mab Ann yn ei thracan hi tua thref o'r clwb ar nos Sadwrn pae. Man o' War ar ôl hynnÿ.

"Dishgwl Dai," myntwn i. "'Co long gnociff dwll yn gwiilotion llonga'r Kaisar."
"Ia, myn (h)yffrÿd-i," mynta Dai.
"Disgwÿl (Edrÿch) Dai," meddwn i. "'Dacw long gnociff dwll yn gwaelodion llongau'r Kaiser."
"Ie, myn hyfrÿd i," meddai Dai.

Chollson-ni ddim golwg ar dir Lloegar yn (h)ir cÿn i fachan miwn cot a r(h)ubana weiddi maas trw dromboon -
"Land ahoy!"
Chollsom ni ddim golwg ar dir Lloegr yn hir cÿn i fachan mewn cot a rhubanau weiddi i maes trwÿ drombôn -
"Land ahoy!"

"Bachan o ble ÿw (h)wnnw, Shoni?" mynte Dai.
"Pwÿ?" myntwn-i, "y bachan a'r trombôn?"
"Bachan o ble ÿw hwnnw, Shoni?" mynte Dai.
"Pwÿ?" meddwn i, "y bachan a'r trombôn?"

"Nace, y bachan ma-fa'n 'i alw yn "Landa". W-i weti clywad Dai (H)oi a Shoni (H)oi, on' chlywas i ddim fod bachan o'r enw "Landa" wedi joino'r "Welsh Ríjymant"."
"Nage, y bachan y mae ef yn ei alw yn "Landa". Yr wÿf fi wedi clywed Dai hoi a Shoni hoi, ond chlywais i ddim fod bachan o'r enw "Landa" wedi joino'r (ymuno â'r) "Welsh Ríjymant"."

"Bachan, Dai," myntwn-i, "gweud fod y tir yn acos ma-fa."
"O, ÿ-ni jest cyrradd Bo-loig-ne 'ta?"
"Bachan, Dai," meddwn i, "dweud fod y tir yn agos y mae ef."
"O, yr ÿm ni jest â chyrraedd Boulogne ynteu?"

"Otÿn, otÿn, bachan, 'co'r docs yn y golwg," myntwn-i.
"Ia wir ddÿn, wÿ-ti'n iitha rait, Shoni. 'Co nw."
"Ydÿn, ydÿn, bachan, dacw'r docs yn y golwg," meddwn i.
"Ie yn wir ddÿn, yr wÿt ti yn eithaf rait, Shoni. Dacw nw."

Ma'r biwglz yn canu, yr óffisars yn rytag, y showdwrs yn mwstro, a chÿn po Dai a finna yn caal amsar i acor yn lliced ma'r troopship yn stopo. 'Mlaan 'to dicÿn bach, a wiw â ni i ochor y landin' stage.
Ma'r biwglz yn canu, yr óffisers yn rhedeg, y sowdiwrs yn mwstro, a chÿn bo Dai a minnau yn cael amser i agor ein llygaid dyma'r troopship yn stopio. Ymlaen eto dipÿn bach, a chwiw â ni i ochr y 'landing stage'

Sôn am waith (h)arn Dwlash! Y wistlan, y stêm, an' so on, oodd gwaith (h)arn Dwlash on' rwpath fel côr plant wrth ochor Côr Caradog os slawar dÿdd.
Sôn am waith haearn Dowlais! Y whistlan, y stêm, an' so on, Yr oedd gwaith haearn Dowlais ond rhÿwbeth fel côr plant wrth ochr Côr Caradog ers llawer dÿdd.

Myn amsar oo-ni'n sefÿll ar y landin' stage, "showdar tw showdar", fel sa Wil meiswn sÿch weti bod yn gneud wal o (h)ono-ni.
Ymhén amser yr oeddem ni yn sefÿll ar y 'landing stage', "showdar tw showdar", fel y buasai Wil meiswn sÿch (saer maen) wedi bod yn gwneud wal ohonom ni.

Ma "Ffrensh Óffisars" yn paso i gaal pip gyta'n óffisars-ni, a dicon (h)awdd darllan wrth 'u gwynepa-nw 'i bod-nw weti caal 'u pleso.
Form fours. Left wheel. March!
Mae "Ffrensh Óffisars" yn pasio i gael pip gyda (i gael golwg ar) ein óffisers ni, a digon hawdd darllen wrth eu wynebau hwÿ ei bod hwÿ wedi cael eu plesio.
Form fours. Left wheel. March!

Off â ni sha'r barics yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y dôn 'Tipperary', yn Gwmraag a Sysnag, yn betwar part, a ar bwla yn (h)annar dwsan o barts fel bysa'r wÿl -
"O mae'n bell iawn i Gwm y Rhondda..."
Ymáith â ni tua'r barics yn Bolougne, yn canu, fel y Royal Male Voice, y dôn 'Tipperary', yn Gymraeg a Saesneg, yn bedwar part, ac ar bylau yn hanner dwsen o barts fel buasai'r wÿl -
"O mae yn bell iawn i Gwm y Rhondda..."

Mishtir Ni'n Dou naath y geira, a ma'n wyrth i chi gaal 'u clywad-nw. Watshwch y shwrna nesa.
Meistr Ni Ein Dau a wnaeth y geiriau, a mae yn wyrth (mae yn werth) i chi gael eu clywed hwÿ. Watshwch (Gwÿliwch) y siwrnai nesaf.
 

2184c
tudalen mynegeiol y Wenhwÿseg
pàgina índex
del dialecte gal·ès del sud-est
·····
0926e
Nodweddion tafodiaith y De-ddwÿrain - dengÿs y gwahaniaethau rhwng Cymraeg llenyddol a'r Wenhwÿseg
Característiques del dialecte
del sud-est - explica com 'Gwenhwÿseg' es diferencia del gal·lès estàndard: "cadair" (= cadira), dialecte del sud-est: "catar", etc

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

fel ma-nw'n weud ar y cwta (??rails??) cân)
DIWEDD / FI / END 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats