0849k Gwefan Cymru-Catalonia / Wales-Catalonia
Website. Yr iaith Gymraeg yn nhref Aber-dâr yn y flw˙dd˙n 1902 - rhan o gyfres
o erthyglau gan Jenkin Howell, Y Geninen, 1902. " Y mae rhai pethau
rhyfedd yn perth˙n i dafodiaith trigolion gwreiddiol Aberdâr ag ynd˙nt, fel y
tybiaf, yn werth s˙lw. Rhoddant sain lled anhawdd ei darlunio i'r a...."
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_018_cymraeg_aberdar_0849k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........2657k Y Porth Cymraeg
....................0009k Y
Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pŕgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
0849k English translation ("the Welsh Language in
Aber-dâr")
YR IAITH
GYMRAEG YN ABER-DÂR
Y mae yma
ddwy fersiwn:
(1) y ffurf wreiddiol (rŷm wedi
cadw orgraff ac atalnodiad yr erth˙gl wreiddiol)
(2) Mewn llythrennau cochion,
fersiwn ag ˙ - yr ŷm wedi
defnyddio'r sumbol ˙ ar gyfer yr "y glir".
Y FERSIWN WREIDDIOL
Dyffryn Cynon
(6) Neillduon Ieithyddol Aberdar
O gyfres o erthyglau gan Jenkin Howell
Y Geninen 1902 t270
Y mae rhai pethau rhyfedd yn perthyn i dafodiaith trigolion gwreiddiol Aberdâr
ag ydynt, fel y tybiaf, yn werth sylw. Rhoddant sain lled anhawdd ei darlunio
i'r a. Rhywbeth rhwng y sain arferol ag ea ydyw; ond rhaid eu
clywed hwy eu hunain yn ei seinio cyn y gellir ffurfio meddylddrych cywir
amdani. Ni seinir y llythyren hono bob amser felly, chwaith. Clywir hi mewn
geiriau unsill, megys tân, mam, tad, cân, 6c.; ac yn sill ddiweddaf rhai
geiriau lluossill yn unig, megys Aberdâr, santeiddhâd, mwynhâd,
&c. Rhoddir ei sain arferol i'r a gyntaf yn Aberdâr; ond seinir yr
ail fel y nodais. Terfynir agos yr holl eiriau a derfynir âg e yn Sir
Gaerfyrddin, âg a yn Aberdâr; gan yr hen drigolion, fel y nodais yn
barod, wrth gwrs. Ceir y terfyniad ws yn ei holl ogoniant yma; a dywedir
mai i wraig o Aberdâr a gurasai ei gŵr y cyfansoddwyd yr englyn
adnabyddus-
······························"Yn awr y cwnws i'r nen - ei phastwn
········································A ffustws ei gefen;
······························Cnocws, tolcws ei dalcen, -
······························Pan waeddws, baeddws ei ben."
Nid yw yr englyn wedi cael ei fwriadau i ddynwared dim ond yr olddodyn ws,
gan y seinir cefen yn "gefan", a thalcen yn
"dalcan," yma. Seinir y cydseiniaid yn galed iawn: "tepig,"
"atarn bach," "catw," "pwtu," "cyscu,"
"doti," "tryplu," &c. Seinir y terfyniad ion yn on,
fynychaf: - "dynon," "llwyton," "polon,"
"gwynon." Ni seinir yr dd yn cerdda, cerdded: "cera"
(imperative, go, - dos), "cerad" (to walk). Ni seinir
yr w ar ôl yr ch yn y geiriau chwi, chwithau;
"chi," "chithau," ydynt bob amser. Yn anaml iawn y seinir
ch ar ddechrau geiriau, megys chwant, chwerthin, chwareu, chwerw, chwaer,
&c. Troir y chw yn wh; a "wherthin,"
"whara," "wherw," "whant," "whâr,"
fyddant felly. "Mari'n whâr" fydd Mari fy chwaer. "Wheigen"
yw chweigen. Maent yn hoff o arfer w ar derfyn eu brawddegau: "Own
i'n cretu dy fod ti yn well bachan, w!". Tua chymdogaeth Brynaman a
Chwmtwrch, "w`r" fydd; ond "w" yn Aberdâr. Yma hefyd y ceir y gair "shaw" gyntaf yn
rhanau uchaf y sir. Ei ystyr yma yw llawer. Yr wyf wedi sylwi fod
llawer o wyr ieuainc y lle yn troi i yn y mewn rhai geiriau,
megis minau yn "myna," tithau yn "tytha!" Yn ddiweddar y daeth y clefyd hwn i'r lle;
a genedigol yw o rannau gorllewinol y sir, ac o Sir Gaerfyrddin. Un o
berthynasau "Ië'n y wir yne" Dyffryn Tawy ydyw. Try
"bachgen" Dyffryn Tawy, "bachgan" Glynnedd, yn
"bachan" yn Aberdâr. Mae yr Aberdâriaid yn hoff o arfer yr h
mewn lleoedd na ddylent yn aml. Dyma frawddeg glywais yn yn dylifo dros wefusau
un o'r gwreiddiolion, dro yn ol: - "Mae'n hanawdd iawn pido hufad
y petha meddwol yma, os byddwch wedi harfar llawar a fa!" Seiniant
"ar ucha" yn "acha": - "Fi welas i ddyn yn myn'd i lan
sha Byrdâr acha ceffyl y bora 'ma!" "Ma'n nhr'od i'n
dost; w' i wedi damshal acha h'arn po'th!" Mae gan ieuenctyd y lle ffordd
ryfedd iawn i ofyn cwestiynau yn naill i'r llall. Pan ddysgwyliant ateb
cadarnhaol, gofynant - "Nace fa chi nath hwna, Dafydd?"
"Ia, ďa;" ond pan ddysgwyliant ateb nacaol, gofynant, "Nace
fa chi gnath a, ond nace fa, Dafydd?" "Nâce." Dywedir fod
ffordd gyffelyb i ofyn cwestiynau o'r fath gan yr hen Roegiaid. Ant "i
műwn i'r ty;" "i'r lan i'r mynydd;" "catw shop a chatw
mwstwr;" "rhâs gyffyla a rhâs mwlsod." "Shwd y'ch chi
heddu?" yw y cyfarchiad yma. "Stwro a mwstro" (to stir and to
muster) sydd ddau air a arferir yn aml yma. Arferant yr sh Seisnig,
megys ag y gwneir bob amser yn y Deheubarth, mewn geiriau megys shilling.
"Shon a Shani Shincyn," a chwarddant wrth glywed rhai Gogleddwyr yn
methu ei seinio. "Dishgyn," "plyshgyn,"
"dishgloff," "dewishwn," &c. Ond un o'r
llygriadau geiriol rhyfeddaf wn i am dano yw jofadd (dyoddef), a glywir
yn Aberdâr a rhanau ereill o Forganwg. Nid yw trigolion y lle hwn yn alluog ond
yn anfynych i wahanaiethu rhwng oll ac holl. Ceir ganddynt
"y dynion holl," a'r "oll wlad!" Gair
sathredig a glywir yn aml iawn yn Aberdâr, a rhanau ereill o Forganwg, yw "shimpil"
(simple), ond a olyga yma gwael (mean). "Dyn shimpil iawn yw
a" - (he is a very mean man). "'Does gen i gynnyg i ddyn shimpil,
bachan: mae yn well gen' i drafod clawd o'r hannar." Dyna air rhyfedd
arall - "clawd," am tlawd!
Dyffr˙n Cynon
(6) Neillduon Ieithyddol Aberdar
O gyfres o erthyglau gan Jenkin Howell
Y Geninen 1902 t270
Y mae rhai pethau rhyfedd yn perth˙n i dafodiaith trigolion gwreiddiol Aberdâr
ag yd˙nt, fel y tybiaf, yn werth s˙lw. Rhoddant sain lled anhawdd ei darlunio
i'r a. Rh˙wbeth rhwng y sain arferol ag ea yd˙w; ond rhaid eu
clywed hw˙ eu hunain yn ei seinio c˙n y gellir ffurfio meddylddr˙ch cywir
amdani. Ni seinir y llythyren hono bob amser fell˙, chwaith. Clywir hi mewn
geiriau unsill, meg˙s tân, mam, tad, cân, 6c.; ac yn sill ddiweddaf rhai
geiriau lluossill yn unig, meg˙s Aberdâr, santeiddhâd, mw˙nhâd,
&c. Rhoddir ei sain arferol i'r a gyntaf yn Aberdâr; ond seinir yr
ail fel y nodais. Terfynir agos yr holl eiriau a derfynir âg e yn Sir
Gaerfyrddin, âg a yn Aberdâr; gan yr hen drigolion, fel y nodais yn
barod, wrth gwrs. Ceir y terfyniad ws yn ei holl ogoniant yma; a dywedir
mai i wraig o Aberdâr a gurasai ei gŵr y cyfansoddw˙d yr engl˙n
adnabyddus-
······························"Yn awr y cwnws i'r nen - ei phastwn
········································A ffustws ei gefen;
······························Cnocws, tolcws ei dalcen, -
······························Pan waeddws, baeddws ei ben."
Nid ˙w yr engl˙n wedi cael ei fwriadau i ddynwared dim ond yr olddod˙n ws,
gan y seinir cefen yn "gefan", a thalcen yn
"dalcan," yma. Seinir y cydseiniaid yn galed iawn:
"tepig," "atarn bach," "catw," "pwtu,"
"cyscu," "doti," "tryplu," &c. Seinir y
terfyniad ion yn on, fynychaf: - "dynon,"
"llw˙ton," "polon," "gwynon." Ni seinir yr dd
yn cerdda, cerdded: "cera" (imperative, go, - dos),
"cerad" (to walk). Ni seinir yr w ar ôl yr ch yn
y geiriau chwi, chwithau; "chi," "chithau," yd˙nt
bob amser. Yn anaml iawn y seinir ch ar ddechrau geiriau, meg˙s chwant,
chwerthin, chwareu, chwerw, chwaer, &c. Troir y chw yn wh; a
"wherthin," "whara," "wherw," "whant,"
"whâr," fyddant fell˙. "Mari'n whâr" f˙dd Mari fy chwaer.
"Wheigen" ˙w chweigen. Maent yn hoff o arfer w ar derf˙n eu
brawddegau: "Own i'n cretu dy fod ti yn well bachan, w!". Tua
chymdogaeth Br˙naman a Chwmtwrch, "w`r" f˙dd; ond "w" yn
Aberdâr. Yma hef˙d
y ceir y gair "shaw" gyntaf yn rhanau uchaf y sir. Ei yst˙r yma ˙w llawer.
Yr w˙f wedi sylwi fod llawer o w˙r ieuainc y lle yn troi i yn y mewn
rhai geiriau, megis minau yn "myna," tithau yn
"tytha!" Yn ddiweddar y daeth y clef˙d hwn i'r lle; a genedigol ˙w o
rannau gorllewinol y sir, ac o Sir Gaerfyrddin. Un o berthynasau "Ië'n y
wir yne" Dyffr˙n Taw˙ yd˙w. Tr˙ "bachgen" Dyffr˙n Taw˙,
"bachgan" Gl˙nnedd, yn "bachan" yn Aberdâr. Mae yr
Aberdâriaid yn hoff o arfer yr h mewn lleoedd na ddylent yn aml. Dyma
frawddeg glywais yn yn dylifo dros wefusau un o'r gwreiddiolion, dro yn ol: -
"Mae'n hanawdd iawn pido hufad y petha meddwol yma, os
byddwch wedi harfar llawar a fa!" Seiniant "ar ucha" yn
"acha": - "Fi welas i dd˙n yn m˙n'd i lan sha Byrdâr acha
ceff˙l y bora 'ma!" "Ma'n nhr'od i'n
dost; w' i wedi damshal acha h'arn po'th!" Mae gan ieuenct˙d y lle ffordd
ryfedd iawn i of˙n cwestiynau yn naill i'r llall. Pan ddysgw˙liant ateb
cadarnhaol, gofynant - "Nace fa chi nath hwna, Daf˙dd?"
"Ia, ďa;" ond pan ddysgw˙liant ateb nacaol, gofynant, "Nace
fa chi gnath a, ond nace fa, Daf˙dd?" "Nâce." Dywedir fod
ffordd gyffel˙b i of˙n cwestiynau o'r fath gan yr hen Roegiaid. Ant "i
műwn i'r t˙;" "i'r lan i'r myn˙dd;" "catw shop a chatw
mwstwr;" "rhâs gyffyla a rhâs mwlsod." "Shwd ˙'ch chi
heddu?" ˙w y cyfarchiad yma. "Stwro a mwstro" (to stir and to
muster) s˙dd ddau air a arferir yn aml yma. Arferant yr sh Seisnig,
meg˙s ag y gwneir bob amser yn y Deheubarth, mewn geiriau meg˙s shilling.
"Shon a Shani Shinc˙n," a chwarddant wrth glywed rhai Gogleddw˙r yn
methu ei seinio. "Dishg˙n," "plyshg˙n,"
"dishgloff," "dewishwn," &c. Ond un o'r
llygriadau geiriol rhyfeddaf wn i am dano ˙w jofadd (dyoddef), a glywir
yn Aberdâr a rhanau ereill o Forganwg. Nid ˙w trigolion y lle hwn yn alluog ond
yn anfyn˙ch i wahanaiethu rhwng oll ac holl. Ceir gandd˙nt
"y dynion holl," a'r "oll wlad!" Gair
sathredig a glywir yn aml iawn yn Aberdâr, a rhanau ereill o Forganwg, ˙w "shimpil"
(simple), ond a olyga yma gwael (mean). "D˙n shimpil iawn ˙w
a" - (he is a very mean man). "'Does gen i gynn˙g i dd˙n shimpil,
bachan: mae yn well gen' i drafod clawd o'r hannar." Dyna air rhyfedd
arall - "clawd," am tlawd!
·····
0934k neu trwy
Google: Δkimkat0934k (heb y Δ
ar y dechrau)
tudalen mynegeiol y Wenhw˙seg
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pŕgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weř(r) ŕm ai? Yůu ŕa(r) vízďting ř peij frňm dhř “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katřlóuniř) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy
Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats