|
|
|
|
(delwedd 0475) (tudalen 1)
|
(x1) PRIF DDINAS I GYMRU.
(Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas
Lenyddol Parkfield, Birkenhead)
Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII. Ebrill 1895. Tudalennau 81-85
Am fod y pwngc hwnn ◉(gweler y troednodyn) yn un amserol a phwysig, ac nid am fod gennyf fi
ddim manteision neilltuol i ymdrin âg ef, yr wyf yn ewyllysio dwyn eich sylw
atto. Yn y dyddia hynn, y may Ymreolayth ne Ymlywodrayth i Gymru yn bwngc
cynhyrfus; ac os yw yn debygol y cawn ymlywodrayth cyn hir, y may yn hen bryd
ini gydsiarad am eisteddfa’r llywodrayth, rhag ini, trwy benderfynnu yn rhy
fyrbwyll, ddwyn aflwydd ar ein gwlad ne fyned i ymddadlu pan y delo’r adeg
ini gydweithredu. Er fod y gwŷr sy’n cynnrychioli Cymru yn y Senedd
Ymmerodrol bronn i gyd erbyn hynn yn credu, ne o leiaf yn proffesu, fod yn
iawn i’r Cymry, ac i bob cenedl wahanedig arall, gayl llywodreythu eu hunain
fel y gwelon nhw yn dda; ac yn credu ymhellach fod caythiwed cenhedlig mor
adgas ac afresymol a chaythiwed personol; etto, y mayn, gan mwyaf, yn rhy
ofnus, yn rhy gáll, ne yn rhy rywbeth, i dreythu eu barn yn ddifloysgni am
bwngc a alle gyffrói rhagfarna lleol eu hetholwyr. Pan y bydd raid ymaflyd yn
y pwngc pigog hwnn, y may yn hawdd gennyf gredu y disgwylir i gynnrychiolwyr
Morgannwg deyru mai Cayr Dyf a ddyle fod yn brif ddinas Cymru; am ei bod hi
yn dref fawr a chyfoythog; ac i gynnrychiolwyr sir a bwrdeisdrefi Cayrnarfon
deyru mai ym Man-gor ne Gayrnarfon y dyle Senedd Cymru fod, am fod y trefi
hynny yn fwy Cymreigaidd eu hiaith, eu hyspryd a’u hanes. O achos hynn, y mae
y rhai sy’n wleidyddion wrth eu swydd yn tewi â son am y peth y buasid yn
disgwyl iddyn son am dano yn fynnych iawn. Ond hwyrach, wedi’r cwbl, fod yn
ddoythach i wleidyddion, hyd yn noyd mewn ambell bwngc gwleidyddol, ddilyn y
genedl na’i harwain. Gan y disgwylir i bob un ohonyn hwy ofalu mwy am barth o
Gymru nag am Gymru i gyd oll, fe ddichon i lenor fod yn fwy diragfarn na’r
gwleidyddion enwocaf yn un o ddau benn eithaf Cymru, wrth ystyried y lle gora
i fod yn eisteddfa’r Senedd Gymreig.
Senedd ne heb senedd, y may yn resyn ac yn rhyfedd na bay Ynghymru ryw ddinas
a gyfrifid yn brif ddinas. Nid yn unig nid oys ganddi brif ddinas,
eithr ni bu ganddi chwaith erioyd brif ddinas yn ystyr priodol y gair;
ac fe ellir priodoli ei hymraniada, ei hymrafeylion; ïe, ei darostyngiad
hefyd, a llawer o’i hanffodion dilynol, i’r ffaith honn yn unig. Ac y may y
ffaith na bu iddi benn tref yn dangos na bu iddi bendragon chwaith; ac am
hynny pa fodd y gallesid disgwyl iddi wrthsefyll yn hir ac llwyddiannus
ymosodiadau’r {sic = ymosodiada’r}Seyson? Yn wir, ni wnn i
oys hanes am genedl mor fach ac mor ymrannedig wedi ymgynnal cyhyd yn erbyn
gallu mor fawr ac mor unedig. Tywysogion taleythol, ac nid tywysogion gwladol,
ydoydd tywysogion Cymru; ac mewn llysodd gwledig, ac nid mewn dinasoedd {sic = dinasodd} cedyrn a phoblog, yr oyddyn yn
gyffredin yn byw. Y may yn wir y gelwir y ddau Lywelyn yn dywysogion Cymru
oll; ond yn hytrach mewn enw nag mewn gwirionedd yr oeddyn hwytha yn
dywysogion Cymru: canys yn gymmaint ag mai trwy orthrech yr ennillasan hwy
awdurdod ar rai o’r tywysogion eryll, ni chawsan gan y rheini mo’r gefnogayth
a ddylsen ei chayl. Pe buase yn amser y ddau Lywelyn brif ddinas i Gymru oll
pan oyddyn hwy yn ceisio bod yn dywysogion i Gymru oll, y mae yn bur debygol
y buase’u hymdrechion yn fwy llwyddiannus; canys lle bynnag y bo prif ddinas,
|
|
|
|
|
(delwedd 0476) (tudalen 2)
|
(x2) ◉Troednodyn{ORGRAFF}
Fe welir fy mod, yn gyttunol â’r hen arfer glasurol, yn dyblu n ac r
i ddangos sain ferr, nid yn unig mewn geiriau amrysill, ond hefyd mewn
geiriau unsill, pan y bydd y geiriau hynny yn enwau, yn gyfenwau, yn
rhagenwau, ac yn ferfau. Pan y bydd y geiriau yn rhagferfau, yn arddodiaid ac
yn gyssylltiaid, nid wyf yn eu dyblu, am yr unrhyw resymau, ag y peidiwyd âg
ysgrifennu gan yn gann, cyn yn cynn, pan yn pann,
a dan yn dann, yn yr engraffau yma o’r Greal. - “Gan yr Arglwydd pennaf o hynn
allan”: tud. 19. “Yn gyn
newyddet ac y mae yr awr honn”: tud. 22. “Pan doeth iessu grist dan y prenn”: tud 46.
Fe welir fy mod hefyd, am resymau amlwg i lenorion craff a darllengar, yn
arfer
o yn lle aw;
a yn lle au (eu) ddiaccen;
e yn lle ai ferfol;
ay, ey yn lle ae;
oy yn lle oe
odd yn lle oedd
is, ist yn lle ais, aist, mewn berf
eus yn lle euas, mewn berf
n yn lle nt, mewn berf
ied
yn lle iaid;
fo, o yn lle efe non-antithetic;
yng-, fyng- yn
lle yng ng-, fy ng-
yngh-, fyngh- yn
lle yng ngh-, fy ngh-
ymh-, fymh- yn
lle yn mh-, fy mh-
ynh-, fynh- yn
lle yn nh-, fy nh-
ne, pe yn lle neu, pei;
sc, sp yn lle sg, sb
|
|
|
|
|
(delwedd 0477) (tudalen 3)
|
(x3) y mae yno fwy o undeb, mwy o adnodda, a gwell arfa.
Fel y mae {sic = may} yn haws i’r
cyffredin garu eu cenedl pan y bydd-hi wedi ymgorffoli mewn un person, sef
mewn ymmerawdwr, mewn brenin, mewn tywysog, ne mewn pennayth, felly y may yn
haws iddyn hefyd garu eu gwlad pan y bydd-hi wedi ymgrynhoi o rann ei bywyd
a’i donia mewn un ddinas. Y brif ddinas yw cálon gwlad; ac o honi hi ac iddi
hi y may holl wayd y genedl yn rhedeg.Y may y rhann fwyaf dyddorol a phwysig
o hanes gwledydd y ddeyar yn gynnwysedig yn hanes eu prif ddinasodd. Ni a
gawn sylwedd hanes Lloygr yn hanes Llundain; ac y may hanes Paris yn grynhoad
o hanes Ffraingc. Fe ‘scrifennodd Mignet, Michelet, Carlyle, ac eryll,
Hanes y Chwyldroad yn Ffrainc. O rann dim a ddwedan am Ffrainge ar wahan
i’w phrif-ddinas fe fuase yn llawn mor briodol iddyn alw eu llyfra yn Hanes y
Chwyldroad Ymharis; canys Ymharis y cynneuwyd y tân yno y ffaglodd-o
ffyrnicaf, ac yno y diffoddwyd ef. Trwy ymwascu ynghyd yn yr un ddinas fe
allodd rhyw dri chant o ddynion beiddgar gipio awena’r llywodrayth a gosod eu
harswyd ar yr holl wlad. Ped arosasen yma a thraw yn en cartrefi, fe
ymgollase y rhann fwyaf o honyn ynghanol y lliaws; ac ni allase’r rhann leiaf
a galluoccaf wneyd llawer o ddrwg nac o dda. Yn lle bod yn frenhinodd y
dychryniada, terfysgwyr lleol a fuasen ar y gora.
|
|
|
|
|
(delwedd 0478) (tudalen 4)
|
(x4) O brif ddinas y gellir dylanwada rymmusaf ar y
wlad: ac os yw prif ddinas yn rhoi cyfleustra i rai dynion i wneyd mwy o
ddrwg, y may-hi hefyd yn rhoi cyfleustra i ddynion eryll i wneyd mwy o dda.
Gan fod yn rhaid i ddaioni a drygioni wrthwynebu eu gilydd y may yn well
iddyn wneyd hynny mewn mann amlwg, ac o fewn hyd braich ar lannerch gyfyng.
Yn y cyfryw le y gellir yn ora orchfygu drygioni trwy ddaioni.
Cymru ydyw yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes iddi brif ddinas; ie,
hyhi, hyd y gwnn i, ydyw yr unig wlad wareiddiedig ar y ddeyar heb iddi ryw
fath o brif ddinas. Y may llawer gwlad heb senedd; ond nid oys odid un
heb brif ddinas. Y may prif ddinas, hyd yn noyd heb senedd ynddi, yn
fanteisiol i wlad ac yn gosod mesur o urddas arni; canys heb Gayredin ni
fuase’r Alban ond enw deyaryddol, sef enw ar Ogledd Prydain ne Ogledd Lloygr;
ac heb ddinas Dulyn fe fuase’r Werddon yn is ei chyflwr nag ydyw-hi yn awr. Os
dywed rhywun fod Cymru yn rhy fechan ac yn rhy dlawd i gayl prif ddinas, yna
y may-hi yn rhy fechan i fod yn wlad ac yn rhy dlawd i gynnwys cenedl. Ond
nid hynn a hynn o erwau sy’n gwneuthur {sic} rhann o’r ddeyar yn wlad, ac nid
hynn a hynn o ddynion sy’n gwneuthur {sic} pobl yn genedl; eithr gwayd,
cydymdeimlad, priod iaith, priod hanes, cyffelyb naws a chyffelyb anian.
Cenedl fach oydd y Groygied; er hynny, yr oydd ganddyn gymmaint o hawl i fyw
ag oedd gan y Persied. Cenedl lai fyth oydd yr Iddewon; ond er colli eu
gwlad, y mayn wedi mynnu byw yn hwy na’r Assyried a’r Caldeied. Nid yw y
Cymry bobl nerthol, mwy na’r cwningod; er hynny y may naw byw cath ynddyn hwy
ac yn eu hiaith: ac y may yn ddiogel imi broffwydo na bydd marw y genedl na’r
iaith hyd oni pheidian a heyddu byw. Y may y Cymry yn unyn - yn unit,
mor wirioneddol â’r genedl fwyaf ar y ddeyar: ac undod, ac nid maint, sy’n
rhoddi i bobl yr hawl i gayl eu cyfrif gyd â’r cenhedlodd. Y may y
wladwriayth ymhob gwlad wareiddiedig yn cydnabod fod dyn bychan o gorffolayth
yn gystad â dyn mawr. Pa bryd, tybed, y bydd-hi yn ddigon gwareiddiedig i
gydnabod fod cenedl fach yn gystad â chenedl fawr? Y may yn arw dweyd mai
anffyddwyr gan mwyaf, sef discyblion Auguste Comte, sydd etto wedi myned yn
ddigon Cristionogol i gondemnio gwaith cenedl gref yn arglwyddeythu ar genedl
wann heb ofyn ei chaniattád. Cristionogion oydd y rhai olaf i gondemnio
gormes bersonal yn yr Americ; a hwynhwy, y may lle i ofni, a fydd y rhai olaf
i gondemnio gormes genhedlig yngwahanol bartha’r byd. Pa grefydd bynnag a
fydd yn ddigon grymmus i gymmell cenhedlodd yspeilgar i adferu y gwledydd a
yspeiliasan, ac i edifarhau a gwneuthur iawn am eu camwedd, y may yn sicr mai
honno a argyhoydda’r byd ei bod o Dduw.
Er pan rannwyd Cymru yn sirodd, y may y sir mewn un peth yn rhagori ar y
Dywysogayth; canys y may i honno ei phrif dref, ond nid oys i’r Dywysogayth
mo’i brif ddinas. Tri lle sydd yn anwyl gan y Cymro, sef yr hen wlad, yr hen
sir, a’r hen ardal, ne’r hen gartref. Ni wyr o ddim am ddinas sy’n fawr ac yn
anwyl gan bob Cymro. “Cas gwr [medd efo] ni charo y wlad a’i Ië, y wlad, y
WLAD yw pob peth ganddo fo; ond yngolwg yr Iddew yr oydd y wlad yn ymgolli
yngogoniant ei phrif ddinas. Nid oydd Judea
a’i man drefi ond dail o amgylch y blodeuyn, sef o amgylch Cayrsalem,
perffeithrwydd tegwch. Hirayth am ei brif ddinas, ac nid am ei ddinas
enedigol, ne am wlad . Judea, oydd ar yr
Iddew ym Mabilon, - “ Os anghofiaf di, Jerusalem,
anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fynhafod wrth daflod fyngena, oni chofaf Jerusalem, goruwch fy
llawenydd pennaf.” Ac nid am fod Cayrsalem yn ddinas Duw - nid am hynny yn
unig, yr oydd hi mor gu gan yr Iddew, eithr am mai hi oydd mann cyfarfod y
genedl, ac am mai yno yr oydd eisteddfa’r llywodrayth, - “Yno yr escyn y llwytha.”
A pha ham yr escynnen-hwy yno?” Canys yno y gosodwyd gorsedd-feingcia barn,
gorsedd-feingcia ty Dafydd. “Y may prif
|
|
|
|
|
(delwedd 0479) (tudalen 5)
|
(x5) ddinas - pob prif ddinas lywodreythol yn enwedig -
yn gyrchfa’r genedl; ac am ei bod felly, y may-hi yn crynhoi nerth y genedl,
yn cydgyfeirio ei dymuniada, ac yn rhoi unoliayth i’w chymmeriad, i’w hanes,
ac i’w hamcanion. O eisia prif ddinas, nid oys i hanes Cymru ddim unoliayth:
a hynny sy’n peri fod ei hanes i lawerodd mor annyddorol. Yr ydys yn blino ar
ddarllen am gynnifer o ymladdfeydd diamcan; am amryw o dywysogion yn ymosod
ar eu gilydd pan oydd y gelyn cyffredin yn gwylio ger llaw; am y tywysog hwnn
ac arall yn ymosod yn ofer ar y gelyn ar wahan i’r tywysogion eryll; am lawer
tywysog yn ymladd yn bybyr dros ei dreftadayth ei hun heb ofalu nemmor am
annibyniayth ei wlad; ac am ambell dywysog yn ymuno âg estronied yn erbyn ei
gyd-wladwyr, er mwyn heleythu ei feddianna’i hun, ne er mwyn ymddïal ar ryw
dywysog Cymreig ag yr oydd o yn ei gashau ne yn cenfigennu wrtho. Chwara teg
i’r ddau Lywelyn ac Ywain Glyndwr, yr oyddyn hwy yn wyr a chanddyn gálon
lydan, a llygad i weled ymhell; yr oyddyn yn gwybod eu meddwl eu hunain, ac
yn gwybod beth oydd ar Gymru ei eisia; a phe buasen wedi eu geni dri chann
mlynedd yn gynt, y mae yn ddiáu y buasen wedi newid hanes Prydain: ond erbyn
eu hamser hwy yr oydd Lloygr wedi myned yn rhy gref, a Chymru, trwy ei
rhyfelodd cartrefol, wedi myned yn rhy wann i’r tywysog medrusaf allu gorfod
ar yr amgylchiada.
Er pan welodd y Cymro Newydd na raid iddo ddim ofni ymgystadlu yn weddol
lwyddiannus â meibion el feistres Seisnig yn athrofeydd Prydain, y may-o yn
dechra dyrchafu ei benn, ac yn codi ei law at ei wyneb, er mwyn chwilio a oys
ganddo flew ar ei en, ar ei gerna, ac ar ei wefus uchaf: ac ar ol cayl hyd i
rai blewiach yma ac accw, y may-o yn eu trin a’u troi, yn ol dull Randolph
Churchill; ac wrth fyned trwy yr ymarfer corfforol hwnn y may-o yn teimlo nad
yw weddus iddo fod mwyach fel bachgen dan amgeleddwyr a llywodreythwyr
Seisnig, a’i bod yn bryd iddo bellach fynnu breintia etifedd cyflawn oyd, a
bod yn feistr arno’i hun ac yn ei dy ei hun. Heb arfer ffugur, y mae Cymru
heddiw yn adgoflo ei bod yn wlad, a bod corff ei phobl yn genedl, ac yn teyru
y dyle Lloygr ei chydnabod yn genedl, trwy adferu iddi freintia cenedl. Ond y
may y rhann fwyaf o’r Seyson yn gwawdio’r syniad yma, gan ddwedyd wrthym yn
synnedig. “Cymru yn wlad! y Cymry yn genedl! Pa le, attolwg, y may’ch prif
ddinas? A glywyd son erioyd am genedl heb iddi brif ddinas? “Nid yw yr
edliwiad hwnn, y mae yn wir, yn profi nad ydym yn genedl; eithr y may-o yn
profi mai anffawd fawr i genedl ydyw bod heb brif ddinas; ac fe orfydd ini
deimlo hynny pa bryd bynnag y gofyn am cynnrychiolwyr Cymru am yr un fraint
ag y may y Gwyddelod yn gofyn am dani; canys ni bydd ar y cryf gywilydd arfer
yr escus gweylaf dros beidio âg ildio i’r gwann.
|
|
|
|
|
|
|
|
(delwedd 0480) (tudalen 6)
|
(x6) Os yw bossibl, fe fydde yn ddoythach i’r Cymry
benderfynnu ymha le y bydd eu prif ddinas cyn gofyn yn ffurfiol am Ymreolayth.
Yr wyf wedi addef eisys mai gorchwyl pur anodd a fydd hynny; ond anodd ne
amgen, yr wyf yn credu y bydde yn well i’r Cymry eu hunain ddewis eu prif
ddinas na gadel i Senedd Prydain ddewis drostyn. Wrth ddewis, ni fydde yn wiw
i’r sirodd poblog gayl mwy o bleideba na’r sirodd amhoblog; onid e fe all
eisteddfa’r llywodrayth fyned i gongl amghyfleus, megis Cayr Dyf ne
Gayrnarfon. Pe dadleuwn dros dref ne fangre neilltuol, mi a fyddwn yn euog o
gyfyngu ar ryddid pobl eryll: ond nid yw yn afresymol imi ddisgwyl y
cyttune’r rhann fwyaf o drigolion Cymru â’r ammoda rhyddion hyn:-
Yn mleynaf, Fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a
Gogledd, sef o fewn y dalayth a elwid gynt yn Bowys,- dyweder, y wlad rhwng
yr afon Mawddach a’r afon Ystwyth, ac oddi rhyngddyn hwy tua’r dwyrain, gan
gynnwys Croysoswallt, Pengwern (Shrewsbury), a Llwydlo (Ludlow), trefi oydd
yn perthyn unwaith i dalayth Powys, ac a ddylen fod yn perthyn iddi etto. Yn
wir, fel y mae Cymry Llanddwyn wedi ail-feddiannu Llansanffraid-ym-Mechain a
throi yr hen gappel Seisnig yn gappel Cymreig, felly y dyle Cymry pob mann,
trwy gynnorthwyo’u gilydd i brynnu tai a thirodd, ne trwy ryw foddion eryll,
geisio ail-feddiannu yr holl oror hyd at yr Hafren a Weaver, fel ag i
wneyd Cymru Fydd yn gyfartal eu maint â Chymru Fu, sef â Britannia Secunda
y Rhufeinied. Fe ŵyr rhai ohonoch fod y Gymru honno yn cynnwys Sir Fynwy
a Sir Henffordd (Herefordshire), ynghyd â rhanna o Sir Gayrloyw (Gloucestershire),
Sir Gayrwrangon (Worcestershire), Sir Amwythig, a Sir Gayr, gan
gynnwys Cayrlleon a Birkenhead. Y may y Cymry ar hynn o bryd yn rhy ychydig o
rifedi i ymchwalu, fel y Seyson, dros y byd; am hynny os mynnan ymgadw yn
genedl, rhaid iddyn dros dymmor ymwascu at eu gilydd rhwng yr Hafren a’r mor.
Pe bay hynn yn amhossibl, fe fyddo peth arall yn bossibl; canys ni fydde yn
anodd i broffwyd gwladgarol a dawnus berswadio’r trigolion rhwng Cymru a’r
Hafren i ymgynghreirio â ni, a hyd yn noyd i ddyscu ein hiaith yn ein
hyscolion; o achos Cymry ydyn hwy gan mwyaf o rann gweydoliayth. Yn wir, y
mayn hwy yn fwy o Gymry na thrigolion gorion Maysyfed, am ddarfod i Cromwell
ar ddiwedd y rhyfel cartrefol droi y rhann fwyaf o’r sir honno yn
drefedigayth Seisnig - yn fath o Ulster, trwy sefydlu ynddi rai milodd o’i hen
filwyr.
Pe buase terfynna Cymru Sydd yn ymestyn cyn belled i’r dwyrain a therfynna
Cymru Fu, y may yn ddiddadl genn’ i mai PENGWERN (Shrewsbury), penn
tref yr Amwythig, a fuase’r brif ddinas fwyaf cyfleus i Gymru; a hwyrach may
Pengwrn a fydd-hi etto yn y dyfodol pell: ond, ar hynn o bryd, y may yn rhaid
iddi fod yn nes i For y Gorllewin.
Yn ail, Fe ddyle’r brif ddinas fod nid yn unig ynghanolbarth Cymru,
ond ond hefyd mewn ardal Gymreigaidd ei hiaith a’i defoda, ac heb fod yn
neppell o’r mann lle y may pedair tafodiaith Cymru, sef tafodiaith Gwynedd,
tafodiaith Powys, tafodiaith Gwent, a thafodiaith Dyfed, yn ymgyfarfod. Y mae
i’r pedair tafodiaith hynn en rhagorieytha yn gystal a’u diffygion; ac y may
yn wiw i’r brif ddinas fod mewn mann lle y gall-hi gyfrannogi o ragorieytha’r
pedair, ac nid mewn mann lle y bydd-hi yn rhoi mantais i un dafodiaith i
orfod ar y tair tafodiaith arall. Y may iaith lafar Cymru ymhell o fod yn
unffurf; a thrwy osod y brif ddinas yn agos i gyffinia’r pedair talayth a enwyd
y geilld yn esmwythaf ei gwneyd yn unffurf. Heb law hynny, y may Cymry y
pedair Talayth hynn yn gwahanieythu yn fawr o rann eu cymmeriad; ac wrth osod
y brif ddinas ynghyrraydd dylanwada’r pedair talayth, fe ellid disgwyl i’w
thriogolion gyfuno ynddyn eu hunain, a hynny yn weddol gymmesur, holl deithi
a rhinwedda’r genedl.
|
|
|
|
|
(delwedd 0481)
(tudalen 7)
|
(x7) Yn drydydd, Fe ddyle’r brif ddinas fod mewn
mangre y bydd yn hawdd myned iddi o wahanol gyfeiriada. Os bydd mynyddodd ne
frynia o’i hamgylch, fe ddyle fod ynddyn amryw fylcha llydain, a chydwastad
âg iseldiroedd Cymru, fel y galler gwneyd y brif ddinas yn bryffwnt ffyrdd
heyarn a ffyrdd cyffredin y wlad.
Yn bedwerydd, Hi a ddyle fod mewn ardal y bo digon o le iddi,
ymehangu; canys hyd yn noyd pe dewisid tref fechan yn brif ddinas, y mae yn
debygol yr ay-hi yn y mann yn dref fawr, os nad y fwyaf Ynghymru, - yn
enwedig os bydde-hi yn eisteddfa’r lywodrayth. Os bernir fod grym yn y
gosodiad hwnn, yna y may yn rhaid cau allan Abertawe, Llanidloys, Dolgella, a
Ban-gor, hyd yn noyd pe na bae un rheswm arall yn eu herbyn.
Yn bummed, Fe ddyle’r brif ddinas fod mewn sefyllfa fanteisiol i
iechid ei thrigolion - os yw bosibl, ar dir â’i ogwydd tuag afon fawr. Ni
raid colli amser i brofi fod iechid pobl yn dylanwadu nid yn unig ar eu moysa
ond hefyd ar eu dealltwriayth.
Yn olaf, Y may yn wiw i’r dref a wneir yn brif ddinas ryw hen hanes ne
draddodiad fod Ywain Glyndŵr, pan oydd-o yn ceisio gwneyd y Dywysogayth
yn Gymru rydd ac yn Gymru gyfan, wedi cynnal senedd ym MACHYNLLETH, yn gwneyd
y dref honno mor ddyddorol i’r Cymry ag unryw un ynghanolbarth y wlad; a
chann fy mod yn son am Machynlleth, mi allaf ddweyd ei bod hi, yn fy marn i,
o ran ei safle ac amryw betha eryll, mor gyfaddas i fod yn brif ddinas ag
unryw dref Ynghymru. Y may yn wir mai tref go fechan a marwaidd ydyw hi ar
hynn o bryd; ond nid pa beth ydyw-hi sy’n bwysig, eithr pa beth a
ellir ei wneud ohoni. Y may ar lanna’r Ddyfi yn ardal Machynlleth le i ddinas
fawr a gwych; a dinas fawr a gwych a fydde yno cyn hir, pe codid yno senedd-
dy i wneuthur deddfa, a barnedigeytha i Gymru.
Pa dref bynnag a ddewiser yn brif ddinas, y may yn sicr yr eiff honno yn
ddinas fawr, - er nad oes dim rhaid iddi fod y ddinas fwyaf yn y wlad, mwy
nag y may Washington y ddinas fwyaf Ynhaleytha Unedig yr Americ. Dinasodd
wedi eu gwneyd yn brifddinasodd o blegid ei safle fanteisiol ar y
pryd, ac nid dinasodd wedi myned yn brifddinasoedd o blegid eu
maintioli, ydyw y rhann fwyaf o brifddinasodd Ewrop. Ar y cyntaf, yr oydd y
brif ddinas mewn llawer teyrnas yn llai eu maint na llawerodd o ddinasodd
eryll yn yr un wlad. Fe adeiliwyd Berlin ar forfa tywodlyd, a St. Petersburg
mewn cors anghyfannedd; ac fe’u gwnayd yn eisteddfa’r llywodrayth, pan oydd
dinasodd mwy a hynach na hwynhwy yn bod yn Rhwsia a Phrwsia. Nid myned yn
brifddinasoedd am eu bod yn ddinasodd mawrion a wnayth Berlin a St.
Petersburg: yn hytrach myned yn fawr a wneythan am eu bod yn brifddinasodd,
sef yn eisteddfeydd y llywodrayth. Y may Cayr Dyf yn ewyllysio cayl ei
chydnabod yn brif ddinas
|
|
|
|
|
(delwedd 0482) (tudalen 8)
|
(x8) Cymru, am mai hyhi ar hynn o bryd yw y ddinas
fwyaf, - yr hwnn yw y rheswm gweylaf y gellir meddwl am dano. Fe fydde yn llawn
mor resymol iddi deyru y dylid cyfrif Ardalydd Bute y dyn mwyaf Ynghymru am
mai efo yw y dyn mwyaf ei gyfoyth. Diolch i drysora Morgannwg a Mynwy, fe
bery Cayr Dyf yn dref fawr hyd yn noyd pe na’s gwnelid hi yn brif ddinas;
canys hyhi ydyw Marseil ne Antwerp Cymru. Ymfoddloned, gan hynny, ar ei
braint, heb chwennychu bod hefyd yn Baris ne Früssel Cymru. Y may arnom eisia
mwy nag un dref fawr Ynghymru, ac un yn agosach i’r Gogledd na Mor Hafren.
Rhodder, gan hynny, fantais i ryw dref Gymreig arall i fyned yn fawr, trwy ei
gwneyd yn brif ddinas y Dywysogaeth ac yn eisteddfa’r llywodrayth.
Ni fynnwn i ddadla yn rhy gyndyn dros Fachynlleth, nac un dref neilltuol
arall; ond yr wyf yn teimlo yn gryf y dyle’n prif ddinas fod yn rhywle
ynghanolbarth Cymru. Fe fydde’i gosod yno yn ffordd effeithiol i dorri nid yn
unig ar y pellter ffordd, ond hefyd ar y pellter teimlad, sydd rhwng De a
Gogledd. Yr wyf yn credu y galle crefyddwyr wneyd rhywbeth i ddwyn dau benn
Cymru yn nes at eu gilydd. Pa beth sy’n rhwystro yr Henurieythwyr Cymreig i
rannu Cymru yn dair talayth eglwysig, fel yr oyddid gynt yn eu rhannu, yn
wladol; sef yn dalayth Gwynedd, talayth Powys, a thalayth y Deheubarth? Wedi
trefnu tair Cymdeithasfa, yn lle dwy, fe fydda raid cymmeryd darn o’r Gogledd
a darn o’r De i ffurfio talayth Powys; ac felly fe ellid disgwyl i Dde a
Gogledd garu Powys, ac i Bowys garu De a Gogledd. Yr un ffunud, os rhaid i
Eglwys Loygr wrth bedair escobayth Ynghymru, pa beth a’i rhwystra yn y mann i
wneyd yr escobeytha hynny yn ogyfartal â hen daleytha Gwent a Dyfed, Powys a
Gwynedd. Os myn yr Eglwys Sefydledig ar ol ei gwneyd yn Eglwys Rydd, ac os
mynn yr Eglwys Gatholig, wneuthur Cymru yn archesgobayth yr wyf yn gobeitbio
y bydd llys y ddau archescob ynghanol y wlad, yn agos i hen dref ag iddi hen
hanes. Yr wyf fi yn ddigon hayl fy mryd a’m calon i ddymuno llwyddiant unryw
gyfundeb crefyddol a ddyfeisio ffordd i gyfanu Cymru ac i’w chadw yn Gymru
Gymreig.
EMRYS
AP IWAN
·
|
|
|
|