1001k Gwefan Cymru-Catalonia. Erthygl gan Emrys ap Iwan. Fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a
Gogledd, sef o fewn y dalaÿth a elwid gÿnt yn Bowÿs,-
dyweder, y wlad rhwng yr afon Mawddach a’r afon Ystwÿth, ac oddi rhyngddÿn hwÿ
tua’r dwyrain, gan gynnwÿs Croÿsoswallt, Pengwern (Shrewsbury), a Llwÿdlo
(Ludlow), trefi oÿdd yn perthÿn unwaith i dalaÿth Powÿs, ac a ddylen fod yn
perthÿn iddi etto.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_019_ap_iwan_prif_ddinas_1895_2185e.htm
0001z Yr
Hafan / Home Page
..........1864k
Y Fynedfa yn Gymraeg / The Gateway in English
....................0010e Y Gwegynllun / Siteplan
..............................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
(delwedd 6662) Adolygiadau diweddaraf / Latest updates: |
1001k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig
2188k Delwau
o’r tudalennau gwreiddiol yn y cylchgrawn / Images of the original pages in the magazine
Mae’r
sylwadau wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.
Our
comments are added in orange type
Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff
wreiddiol - yr oedd Emrys ap Iwan yn hyrwyddo orgraff a fyddai’n nes at
deithi’r iaith lafar - serch hynny, y mae anghysondebau yn ei ysgrif.
We have kept to the original spelling -
Emrys ap Iwan advocated a spelling system that would be nearer to the traits of
the spoken language - however, there are inconsistencies in his essay.
····
PRIF DDINAS I GYMRU.
(Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Birkenhead) 1895
Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII.
Ebrill 1895. Tudalennau 81-85
A CAPITAL CITY FOR WALES
(Paper read to the Parkfield Literary Society, Birkenhead).
1895
The Llek. Number 2, Colume XIII. April 1895. Pages 81-85.
{ORGRAFF}
(THE SPELLING SYSTEM)
Fe welir fy mod, yn gyttunol â’r hen arfer glasurol, yn dyblu n ac r
i ddangos sain ferr, nid yn unig mewn geiriau amrysill, ond hefyd mewn geiriau
unsill, pan y bydd y geiriau hynny yn enwau, yn gyfenwau, yn rhagenwau, ac yn
ferfau.
You will see (“it is seen”) that, in accordance with the old
Classical custom, I double n
and r to indicate a
short vowel (“short sound”), not just in polysyllabic words, but also in
monosyllabic words, when these words are nouns, adjectives, pronouns and verbs.
Pan y bydd y geiriau yn rhagferfau, yn arddodiaid ac yn gyssylltiaid,
nid wyf yn eu dyblu, am yr unrhyw resymau, ag y peidiwyd âg ysgrifennu gan yn
gann, cyn yn cynn, pan yn pann, a dan yn dann,
yn yr engraffau yma o’r Greal. - “Gan yr Arglwydd
pennaf o hynn allan”: tud. 19. “Yn gyn newyddet ac y mae
yr awr honn”:
tud. 22. “Pan doeth iessu grist dan y prenn”: tud 46.
When the words are adverbs,
prepositions and conjunctions, I don’t double them, for the same reasons that
people ceased to write (“it has been ceased with writing”) gann for gan, cynn for cyn, pann for pan, and dann for dan, in these examples from the Greal - (= with the chief Lord from now
on) page 19; (= as new as it is at his time), page 22; (= when Jesus Christ
came under the tree)
Fe welir fy mod hefyd, am resymau amlwg i lenorion
craff a darllengar, yn arfer
You can see
(“it will be seen, it is seen”) too that, for reasons obvious to writers who
are observant and fond of literature, that I use
o
yn lle aw;
o instead of aw
a yn lle au (eu) ddiaccen;
a instead of unaccented au (eu)
e
yn lle ai ferfol;
e
instead of ai in verbs (= in conjugated verbs)
ay, ey yn lle ae;
ay,
ey instead of ae
oy
yn lle oe
oy
instead of oe
odd
yn lle oedd
odd
instead of oedd
is, ist yn lle ais, aist, mewn berf
is,
ist instead of ais, aist in a verb
eus
yn lle euas, mewn
berf
eus
instead of euas, in a verb
n
yn lle nt, mewn
berf
n
instead of nt, in a verb
ied yn lle iaid;
ied
instead of iaid
fo,
o yn lle efe non-antithetic;
fo,
o instead of non-antithetic efe (= not used for contrast)
yng-, fyng- yn lle yng ng-, fy ng-
yng-,
fyng- instead of yng ng-, fy ng-
yngh-, fyngh- yn lle yng ngh-, fy ngh-
yngh-,
fyngh- instead of yng ngh-, fy ngh-
ymh-, fymh- yn lle yn mh-, fy mh-
ymh-,
fymh- instead of yn mh-, fy mh-
ynh-, fynh- yn lle yn
ymh-,
fymh- instead of yn mh-, fy mh-
ne, pe yn lle neu,
ne,
pe instead of neu,
sc, sp yn lle sg, sb
sc, sp
instead of sg, sb
Am fod y pwngc hwnn yn un amserol a phwysig, ac nid am fod gennyf fi ddim
manteision neilltuol i ymdrin âg ef, yr wyf yn ewyllysio dwyn eich sylw atto.
Because
this subject is one [which is] timely and important, and not because I have any
special qualifications (“advantages”) to deal with it, I wish to draw your
attention to it.
Yn y dyddia hynn, y
may Ymreolayth ne Ymlywodrayth i Gymru yn bwngc cynhyrfus; ac os yw yn debygol
y cawn ymlywodrayth cyn hir, y may yn hen bryd ini gydsiarad am eisteddfa’r
llywodrayth, rhag ini, trwy benderfynnu yn rhy fyrbwyll, ddwyn aflwydd ar ein
gwlad ne fyned i ymddadlu pan y delo’r adeg ini gydweithredu.
These days, Home Rule or
Self-government for Wales is a lively issue; and if we are likely to get (“if
it is likely that we will get”) self-government before long, it’s about time
that we talked together about the seat of government, in case, through deciding
too precipitously, we adversely affect our country (“bring failure / misfortune on our country”), or
start quarrelling (“or go to quarrelling”) when the time has come for us to
work together.
Er fod y gwŷr sy’n
cynnrychioli Cymru yn y Senedd Ymmerodrol bronn i gyd erbyn hynn yn credu, ne o
leiaf yn proffesu, fod yn iawn i’r Cymry, ac i bob cenedl wahanedig arall, gayl
llywodreythu eu hunain fel y gwelon nhw yn dda; ac yn credu ymhellach fod
caythiwed cenhedlig mor adgas ac afresymol a chaythiwed personol; etto, y mayn,
gan mwyaf, yn rhy ofnus, yn rhy gáll, ne yn rhy rywbeth, i dreythu eu barn yn
ddifloysgni am bwngc a alle gyffrói rhagfarna lleol eu hetholwyr.
Although
the men who represent Wales in the Imperial Parliament by now almost all
believe, or at least profess, that it is right for the Welsh people, and for
every other separate nation, to be allowed to govern themselves as they see
fit, and what’s more (“further”) believe that national enslavement is as
objectionable and as unreasonable as personal enslavement, they are however too
afraid, or too circumspect, or too something, to express their opinion in no uncertain
terms (“without speech impediment / without inarticulateness”) about an issue
which could excite the local prejudices of their voters.
Pan y bydd raid
ymaflyd yn y pwngc pigog hwnn, y may yn hawdd gennyf gredu y disgwylir i
gynnrychiolwyr Morgannwg deyru mai Cayr Dyf a ddyle fod yn brif ddinas Cymru;
am ei bod hi yn dref fawr a chyfoythog; ac i gynnrychiolwyr sir a bwrdeisdrefi
Cayrnarfon deyru mai ym Man-gor ne Gayrnarfon y dyle Senedd Cymru fod, am fod y
trefi hynny yn fwy Cymreigaidd eu hiaith, eu hyspryd a’u hanes.
When it will be necessary to get to grips
with (“get hold of”) this thorny issue, I find it easy to believe that the representatives of Morgannwg
(“Glamorgan”) will be expected to insist that Caer-dydd (“Cardiff”) should be
the capital of Wales; because it is a town [which is] large and rich; and that
the representatives of the boroughs and county of Caernarfon insist that the
parliament of Wales should be in Bangopr or in Caernarfon, since these towns
are more Welsh as regards their language (“are more Welsh their language”),
their ethos (“spirit”), and their history.
O achos hynn, y mae y
rhai sy’n wleidyddion wrth eu swydd yn tewi â son am y peth y buasid yn disgwyl
iddyn son am dano yn fynnych iawn.
Because of
this, those who are politicians by profession keep quiet about the thing that they
would be expected to talk about (“go‑silent with mentioning about the
thing that it would-have-been expected to them mention about it”) very often.
Ond hwyrach, wedi’r
cwbl, fod yn ddoythach i wleidyddion, hyd yn noyd mewn ambell bwngc
gwleidyddol, ddilyn y genedl na’i harwain.
But maybe,
after all, [it is] wiser for politicians, even in [the case of] some political
issues (“even in an occasional political issue”), to follow the people (“the
nation”) than to lead them (“to lead it”).
Gan y disgwylir i bob
un ohonyn hwy ofalu mwy am barth o Gymru nag am Gymru i gyd oll, fe ddichon i
lenor fod yn fwy diragfarn na’r gwleidyddion enwocaf yn un o ddau benn eithaf
Cymru, wrth ystyried y lle gora i fod yn eisteddfa’r Senedd Gymreig.
Since every
one of them is expected to look after (“since it is expected to every one of
them looking after”) a part of Wales than for the whole of Wales, a writer can
be less prejudiced (“more unprejudiced”) than the most well-known politicians
in one or two of the furthest ends of Wales, in considering the best place to
be the seat of the Welsh Parliament.
Senedd ne heb senedd,
y may yn resyn ac yn rhyfedd na bay Ynghymru ryw ddinas a gyfrifid yn brif
ddinas.
Parliament
or no Parliament (“or without a Parliament”) it is a pity and a wonder that
there is not any city in
Nid yn unig nid oys
ganddi brif ddinas, eithr ni bu ganddi chwaith erioyd brif ddinas yn
ystyr priodol y gair; ac fe ellir priodoli ei hymraniada, ei hymrafeylion; ïe,
ei darostyngiad hefyd, a llawer o’i hanffodion dilynol, i’r ffaith honn yn
unig.
Not only
has it not got a capital city (“not only IS there not with it a capital city”),
but it has never had a capital city either (“but it HAS not BEEN with it either
ever a capital city”) in the real sense of the word (“in the appropriate sense
of the word”), and its divisions, its feuds, indeed, its abasement too, and
many of its consequent woes, can be attributed to this fact alone.
Ac y may y ffaith na
bu iddi benn tref yn dangos na bu iddi bendragon chwaith; ac am hynny pa fodd y
gallesid disgwyl iddi wrthsefyll yn hir ac llwyddiannus ymosodiadau’r {sic = ymosodia’r} Seyson?
And the
fact that it has never had a main town shows that it has never had a leader
either; and for that reason (“and for that”) how can it be expected to
withstand (“how can it be expected to it to withstand”) over a long time and
successfully the attacks of the English?
Yn wir, ni wnn i oys
hanes am genedl mor fach ac mor ymrannedig wedi ymgynnal cyhyd yn erbyn gallu
mor fawr ac mor unedig.
Indeed, I
don’t know if there is a history of such a small and divided nation (“a nation
so small and so divided”) hasstood its ground (“maintained itself”) so long
against a power [which is] so big and so united.
Tywysogion taleythol,
ac nid tywysogion gwladol, ydoydd tywysogion Cymru; ac mewn llysodd gwledig, ac
nid mewn dinasoedd {sic = dinasodd} cedyrn a
phoblog, yr oyddyn yn gyffredin yn byw.
The princes
of
Y may yn wir y gelwir
y ddau Lywelyn yn dywysogion Cymru oll; ond yn hytrach mewn enw nag mewn
gwirionedd yr oeddyn hwytha yn dywysogion Cymru: canys yn gymmaint ag mai trwy
orthrech yr ennillasan hwy awdurdod ar rai o’r tywysogion eryll, ni chawsan gan
y rheini mo’r gefnogayth a ddylsen ei chayl.
It is true
that the two Llywelyns are called princes of all Wales; but it is in name more
than in fact (“but rather it is in name than in truth”) that they were princes
of Wales; because inasmuch as they won authority
over the some of the other princes through coercion, they didn’t get the
support from them that they should have got (“because e princes of Wales;
because inasmuch as [it is that] through
coercion they won authority over some of the other princes, they didn’t get
from those anything of the support that they should have got it”)
Pe buase yn amser y
ddau Lywelyn brif ddinas i Gymru oll pan oyddyn hwy yn ceisio bod yn dywysogion
i Gymru oll, y mae yn bur debygol y buase’u hymdrechion yn fwy llwyddiannus;
canys lle bynnag y bo prif ddinas, y mae yno fwy o undeb, mwy o adnodda, a
gwell arfa.
If there
had been a capital city for all Wales in the time of the two Llywelyns when
they were trying to be princes for the whole of Wales, it is highly likely that
their efforts would have been more successful; because wherever there is
(“there may be”) a capital city, there is more inity there, more resources, and
better instruments.
Fel y mae {sic = may} yn haws i’r cyffredin garu eu cenedl
pan y bydd-hi wedi ymgorffoli mewn un person, sef mewn ymmerawdwr, mewn brenin,
mewn tywysog, ne mewn pennayth, felly y may yn haws iddyn hefyd garu eu gwlad
pan y bydd-hi wedi ymgrynhoi o rann ei bywyd a’i donia mewn un ddinas. Y brif
ddinas yw cálon gwlad; ac o honi hi ac iddi hi y may holl wayd y genedl yn
rhedeg.Y may y rhann fwyaf dyddorol a phwysig o hanes gwledydd y ddeyar yn
gynnwysedig yn hanes eu prif ddinasodd. Ni a gawn sylwedd hanes Lloygr yn hanes
Llundain; ac y may hanes
O brif ddinas y gellir dylanwada rymmusaf ar y wlad: ac os yw prif ddinas yn
rhoi cyfleustra i rai dynion i wneyd mwy o ddrwg, y may-hi hefyd yn rhoi
cyfleustra i ddynion eryll i wneyd mwy o dda. Gan fod yn rhaid i ddaioni a
drygioni wrthwynebu eu gilydd y may yn well iddyn wneyd hynny mewn mann amlwg,
ac o fewn hyd braich ar lannerch gyfyng. Yn y cyfryw le y gellir yn ora
orchfygu drygioni trwy ddaioni.
Cymru ydyw yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes iddi brif ddinas; ie, hyhi,
hyd y gwnn i, ydyw yr unig wlad wareiddiedig ar y ddeyar heb iddi ryw fath o
brif ddinas. Y may llawer gwlad heb senedd; ond nid oys odid un heb brif ddinas. Y may prif ddinas, hyd yn noyd heb
senedd ynddi, yn fanteisiol i wlad ac yn gosod mesur o urddas arni; canys heb
Gayredin ni fuase’r Alban ond enw deyaryddol, sef enw ar Ogledd Prydain ne
Ogledd Lloygr; ac heb ddinas Dulyn fe fuase’r Werddon yn is ei chyflwr nag
ydyw-hi yn awr. Os dywed rhywun fod Cymru yn rhy fechan ac yn rhy dlawd i gayl
prif ddinas, yna y may-hi yn rhy fechan i fod yn wlad ac yn rhy dlawd i gynnwys
cenedl. Ond nid hynn a hynn o erwau sy’n gwneuthur {sic} rhann o’r ddeyar yn
wlad, ac nid hynn a hynn o ddynion sy’n gwneuthur {sic} pobl yn genedl; eithr
gwayd, cydymdeimlad, priod iaith, priod hanes, cyffelyb naws a chyffelyb anian.
Cenedl fach oydd y Groygied; er hynny, yr oydd ganddyn gymmaint o hawl i fyw ag oedd gan y Persied. Cenedl lai fyth
oydd yr Iddewon; ond er colli eu gwlad, y mayn wedi mynnu byw yn hwy na’r
Assyried a’r Caldeied. Nid yw y Cymry bobl nerthol, mwy na’r cwningod;
er hynny y may naw byw cath ynddyn hwy ac yn eu hiaith: ac y may yn ddiogel imi
broffwydo na bydd marw y genedl na’r iaith hyd oni
pheidian a heyddu byw. Y may y Cymry yn unyn - yn unit, mor wirioneddol â’r genedl fwyaf ar y ddeyar: ac undod, ac
nid maint, sy’n rhoddi i bobl yr hawl i gayl eu cyfrif gyd â’r cenhedlodd. Y
may y wladwriayth ymhob gwlad wareiddiedig yn cydnabod fod dyn bychan o
gorffolayth yn gystad â dyn mawr. Pa bryd, tybed, y bydd-hi
yn ddigon gwareiddiedig i gydnabod fod cenedl fach yn gystad â chenedl fawr?
Y may yn arw dweyd mai anffyddwyr gan mwyaf, sef discyblion Auguste Comte, sydd
etto wedi myned yn ddigon Cristionogol i gondemnio gwaith cenedl gref yn
arglwyddeythu ar genedl wann heb ofyn ei chaniattád. Cristionogion oydd y rhai olaf i gondemnio gormes bersonal yn yr Americ; a hwynhwy, y
may lle i ofni, a fydd y rhai olaf i gondemnio gormes genhedlig yngwahanol
bartha’r byd. Pa grefydd bynnag a fydd yn ddigon grymmus i gymmell cenhedlodd
yspeilgar i adferu y gwledydd a yspeiliasan, ac i
edifarhau a gwneuthur iawn am eu camwedd, y may yn sicr mai honno a
argyhoydda’r byd ei bod o Dduw.
Er pan rannwyd Cymru yn sirodd, y may y sir mewn un
peth yn rhagori ar y Dywysogayth; canys y may i honno ei phrif dref, ond nid
oys i’r Dywysogayth mo’i brif ddinas. Tri lle sydd yn anwyl
gan y Cymro, sef yr hen wlad, yr hen sir, a’r hen ardal, ne’r hen gartref.
Ni wyr o ddim am ddinas sy’n fawr ac yn anwyl gan bob Cymro. “Cas gwr [medd efo] ni charo y wlad a’i Ië, y wlad, y WLAD yw
pob peth ganddo fo; ond yngolwg yr Iddew yr oydd y wlad yn ymgolli yngogoniant
ei phrif ddinas. Nid oydd
Er pan welodd y Cymro Newydd na raid iddo ddim ofni ymgystadlu yn weddol
lwyddiannus â meibion el feistres Seisnig yn athrofeydd Prydain, y may-o yn dechra
dyrchafu ei benn, ac yn codi ei law at ei wyneb, er mwyn chwilio a oys ganddo
flew ar ei en, ar ei gerna, ac ar ei wefus uchaf: ac ar ol cayl hyd i rai
blewiach yma ac accw, y may-o yn eu trin a’u troi, yn ol dull Randolph
Churchill; ac wrth fyned trwy yr ymarfer corfforol hwnn y may-o yn teimlo nad
yw weddus iddo fod mwyach fel bachgen dan amgeleddwyr a llywodreythwyr Seisnig,
a’i bod yn bryd iddo bellach fynnu breintia etifedd cyflawn oyd, a bod yn
feistr arno’i hun ac yn ei dy ei hun. Heb arfer ffugur, y mae Cymru heddiw yn
adgoflo ei bod yn wlad, a bod corff ei phobl yn genedl, ac yn teyru y dyle
Lloygr ei chydnabod yn genedl, trwy adferu iddi freintia cenedl. Ond y may y
rhann fwyaf o’r Seyson yn gwawdio’r syniad yma, gan ddwedyd wrthym yn synnedig.
“Cymru yn wlad! y Cymry yn
genedl! Pa le, attolwg, y may’ch prif ddinas? A glywyd
son erioyd am genedl heb iddi brif ddinas? “ Nid yw yr
edliwiad hwnn, y mae yn wir, yn profi nad ydym yn genedl; eithr y may-o yn
profi mai anffawd fawr i genedl ydyw bod heb brif ddinas; ac fe orfydd ini
deimlo hynny pa bryd bynnag y gofyn am cynnrychiolwyr Cymru am yr un fraint ag
y may y Gwyddelod yn gofyn am dani; canys ni bydd ar y cryf gywilydd arfer yr
escus gweylaf dros beidio âg ildio i’r gwann.
Os yw bossibl, fe fydde yn ddoythach i’r Cymry
benderfynnu ymha le y bydd eu prif ddinas cyn gofyn yn ffurfiol am Ymreolayth.
Yr wyf wedi addef eisys mai gorchwyl pur anodd a fydd hynny; ond anodd ne
amgen, yr wyf yn credu y bydde yn well i’r Cymry eu hunain ddewis eu prif ddinas
na gadel i Senedd Prydain ddewis drostyn. Wrth ddewis,
ni fydde yn wiw i’r sirodd poblog gayl mwy o bleideba
na’r sirodd amhoblog; onid e fe all eisteddfa’r llywodrayth fyned i gongl
amghyfleus, megis Cayr Dyf ne Gayrnarfon. Pe dadleuwn dros dref ne fangre
neilltuol, mi a fyddwn yn euog o gyfyngu ar ryddid pobl eryll: ond nid yw yn
afresymol imi ddisgwyl y cyttune’r rhann fwyaf o drigolion Cymru â’r ammoda
rhyddion hyn:-
Yn mleynaf, Fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a Gogledd,
sef o fewn y dalayth a elwid gynt yn Bowys,- dyweder, y wlad rhwng yr afon
Mawddach a’r afon Ystwyth, ac oddi rhyngddyn hwy tua’r dwyrain, gan gynnwys
Croysoswallt, Pengwern (Shrewsbury), a Llwydlo (Ludlow), trefi oydd yn perthyn
unwaith i dalayth Powys, ac a ddylen fod yn perthyn iddi etto.
Principally:
The capital city should be close to the borderlands of the South and North,
that is, within the province formerly called Powys, - let us say (“let it be
said”), the land between the Mawddach river and the Ystwyth river, and from
[the area] between them towards the east, including Croesoswallt (“Oswestry”),
Pengwern (“Shrewsbury”), and Llwydlo (“Ludlow”), toens that once belonged to
the province of Powys, and ought to begin to it once more.
Yn wir, fel y mae Cymry
Llanddwyn wedi ail-feddiannu Llansanffraid-ym-Mechain a throi yr hen gappel
Seisnig yn gappel Cymreig, felly y dyle Cymry pob mann, trwy gynnorthwyo’u
gilydd i brynnu tai a thirodd, ne trwy ryw foddion eryll, geisio ail-feddiannu
yr holl oror hyd at yr Hafren a Weaver, fel ag i wneyd Cymru Fydd yn
gyfartal eu maint â Chymru Fu, sef â Britannia Secunda y
Rhufeinied.
Indeed,
just as the Welsh people of Llanddwyn have reoccupied Llansanffráid ym Mechain
and have turned the old English chapel into a Welsh chapel, so should Welsh
people everywhere, through helping each other to buy houses and land (“lands”),
or through other means, attempt to reoccupy all the borderland as far as the [river] Hafren (“Severn”) and
the Weaver, so as to make the Wales of the Future the same size as the Wales of
the Past, namely [the same size as] .the
Britannia Secunda of the Romans.
Fe ŵyr rhai
ohonoch fod y Gymru honno yn cynnwys Sir Fynwy a Sir Henffordd (Herefordshire),
ynghyd â rhanna o Sir Gayrloyw (Gloucestershire), Sir Gayrwrangon (Worcestershire),
Sir Amwythig, a Sir Gayr, gan gynnwys Cayrlleon a Birkenhead. Y may y Cymry ar
hynn o bryd yn rhy ychydig o rifedi i ymchwalu, fel y Seyson, dros y byd; am
hynny os mynnan ymgadw yn genedl, rhaid iddyn dros dymmor ymwascu at eu gilydd
rhwng yr Hafren a’r mor.
Some of you
know that that Wales contained the county of Mynwy (“Monmouthshire”) and the
county of Henffordd (“Herefordshire”), the county of Amwythig (“Shropshire”),
and the coutny of Caer (“Cheshire”), including Caerllion (“Chester”) and
Birkenhead. The Welsh at presnt are too few in number to disperse themselves
all over the world, like the English; so if they want to continue as a nation,
they must over a certain period (“over a season / time”) jpin together (“squeeze
together”) between the [river] Hafren (“Severn”) and the sea (= The Celtic Sea)
“y dyle
Cymry... geisio ail-feddiannu yr holl oror hyd at yr Hafren a Weaver” (map
wedi ei ychwanegu gennym i ddangos bwriad Emrys ap Iwan - a map we have added
to show Emrys ap Iwan’s intention)
(delwedd 0470)
Pe bay hynn yn amhossibl, fe fyddo peth arall yn
bossibl; canys ni fydde yn anodd i broffwyd gwladgarol a dawnus berswadio’r
trigolion rhwng Cymru a’r Hafren i ymgynghreirio â ni, a hyd yn noyd i ddyscu
ein hiaith yn ein hyscolion; o achos Cymry ydyn hwy gan mwyaf o rann
gweydoliayth. Yn wir, y mayn hwy yn fwy o Gymry na thrigolion gorion Maysyfed,
am ddarfod i Cromwell ar ddiwedd y rhyfel cartrefol droi y rhann fwyaf o’r sir
honno yn drefedigayth Seisnig - yn fath o Ulster, trwy sefydlu ynddi rai milodd
o’i hen filwyr.
Pe buase terfynna Cymru Sydd yn ymestyn cyn belled i’r dwyrain a therfynna
Cymru Fu, y may yn ddiddadl genn’ i mai PENGWERN (Shrewsbury), penn tref
yr Amwyhtig, a fuase’r brif ddinas fwyaf cyfleus i Gymru; a hwyrach may Pengwrn
a fydd-hi etto yn y dyfodol pell: ond, ar hynn o bryd, y may yn rhaid iddi fod
yn nes i For y Gorllewin.
Yn ail, Fe ddyle’r brif ddinas fod nid yn unig ynghanolbarth Cymru, ond
ond hefyd mewn ardal Gymreigaidd ei hiaith a’i defoda, ac heb fod yn neppell
o’r mann lle y may pedair tafodiaith Cymru, sef tafodiaith Gwynedd, tafodiaith
Powys, tafodiaith Gwent, a thafodiaith Dyfed, yn ymgyfarfod. Y mae i’r pedair
tafodiaith hynn en rhagorieytha yn gystal a’u diffygion; ac y may yn wiw i’r brif
ddinas fod mewn mann lle y gall-hi gyfrannogi o ragorieytha’r pedair, ac nid
mewn mann lle y bydd-hi yn rhoi mantais i un dafodiaith i orfod ar y tair
tafodiaith arall. Y may iaith lafar Cymru ymhell o fod yn unffurf; a thrwy osod
y brif ddinas yn agos i gyffinia’r pedair talayth a enwyd y geilld yn esmwythaf
ei gwneyd yn unffurf. Heb law hynny, y may Cymry y pedair Talayth hynn yn
gwahanieythu yn fawr o rann eu cymmeriad; ac wrth osod y brif ddinas
ynghyrraydd dylanwada’r pedair talayth, fe ellid disgwyl i’w thriogolion gyfuno
ynddyn eu hunain, a hynny yn weddol gymmesur, holl deithi a rhinwedda’r genedl.
Yn drydydd, Fe ddyle’r brif ddinas fod mewn mangre y bydd yn hawdd myned
iddi o wahanol gyfeiriada. Os bydd mynyddodd ne frynia o’i hamgylch, fe ddyle fod
ynddyn amryw fylcha llydain, a chydwastad âg iseldiroedd Cymru, fel y galler
gwneyd y brif ddinas yn bryffwnt ffyrdd heyarn a ffyrdd cyffredin y wlad.
Yn bedwerydd, Hi a ddyle fod mewn ardal y bo digon o le iddi, ymehangu;
canys hyd yn noyd pe dewisid tref fechan yn brif ddinas, y mae yn debygol yr
ay-hi yn y mann yn dref fawr, os nad y fwyaf Ynghymru, - yn enwedig os bydde-hi
yn eisteddfa’r lywodrayth. Os bernir fod grym yn y gosodiad hwnn, yna y may yn
rhaid cau allan Abertawe, Llanidloys, Dolgella, a Ban-gor, hyd yn noyd pe na
bae un rheswm arall yn eu herbyn.
Yn bummed, Fe ddyle’r brif ddinas fod mewn sefyllfa fanteisiol i iechid
ei thrigolion - os yw bosibl, ar dir â’i ogwydd tuag afon fawr. Ni raid colli
amser i brofi fod iechid pobl yn dylanwadu nid yn unig ar eu moysa ond hefyd ar
eu dealltwriaÿth.
Yn olaf, Y may yn wiw i’r dref a wneir yn brif ddinas ryw hen hanes ne
draddodiad fod Ywain Glyndŵr, pan oydd-o yn ceisio gwneyd y Dywysogayth yn
Gymru rydd ac yn Gymru gyfan, wedi cynnal senedd ym MACHYNLLETH, yn gwneyd y
dref honno mor ddyddorol i’r Cymry ag unryw un ynghanolbarth y wlad; a chann fy
mod yn son am Machynlleth, mi allaf ddweyd ei bod hi, yn fy marn i, o ran ei
safle ac amryw betha eryll, mor gyfaddas i fod yn brif ddinas ag unryw dref
Ynghymru. Y may yn wir mai tref go fechan a marwaidd ydyw hi ar hynn o bryd;
ond nid pa beth ydyw-hi sy’n bwysig, eithr pa beth a ellir ei wneud
ohoni. Y may ar lanna’r Ddyfi yn ardal Machynlleth le i ddinas fawr a gwych; a
dinas fawr a gwych a fydde yno cyn hir, pe codid yno senedd- dy i wneuthur
deddfa, a barnedigeytha i Gymru.
Pa dref bynnag a ddewiser yn brif ddinas, y may yn sicr yr eiff honno yn ddinas
fawr, - er nad oes dim rhaid iddi fod y ddinas fwyaf yn y wlad, mwy nag y may
Washington y ddinas fwyaf Ynhaleytha Unedig yr Americ. Dinasodd wedi eu gwneyd
yn brifddinasodd o blegid ei safle fanteisiol ar y pryd, ac nid dinasodd wedi myned
yn brifddinasoedd o blegid eu maintioli, ydyw y rhann fwyaf o brifddinasodd
Ewrop. Ar y cyntaf, yr oydd y brif ddinas mewn llawer teyrnas yn llai eu maint
na llawerodd o ddinasodd eryll yn yr un wlad. Fe adeiliwyd Berlin ar forfa
tywodlyd, a St. Petersburg mewn cors anghyfannedd; ac fe’u gwnayd yn
eisteddfa’r llywodrayth, pan oydd dinasodd mwy a hynach na hwynhwy yn bod yn
Rhwsia a Phrwsia. Nid myned yn brifddinasoedd am eu bod yn ddinasodd mawrion a
wnayth Berlin a St. Petersburg: yn hytrach myned yn fawr a wneythan am eu bod
yn brifddinasodd, sef yn eisteddfeydd y llywodrayth. Y may Cayr Dyf yn
ewyllysio cayl ei chydnabod yn brif ddinas Cymru, am mai hyhi ar hynn o bryd yw
y ddinas fwyaf, - yr hwnn yw y rheswm gweylaf y gellir meddwl am dano. Fe fydde
yn llawn mor resymol iddi deyru y dylid cyfrif Ardalydd Bute y dyn mwyaf
Ynghymru am mai efo yw y dyn mwyaf ei gyfoyth. Diolch i drysora Morgannwg a
Mynwy, fe bery Cayr Dyf yn dref fawr hyd yn noyd pe na’s gwnelid hi yn brif
ddinas; canys hyhi ydyw Marseil ne Antwerp Cymru. Ymfoddloned, gan hynny, ar ei
braint, heb chwennychu bod hefyd yn Baris ne Früssel Cymru. Y may arnom eisia
mwy nag un dref fawr Ynghymru, ac un yn agosach i’r Gogledd na Mor Hafren.
Rhodder, gan hynny, fantais i ryw dref Gymreig arall i fyned yn fawr, trwy ei
gwneyd yn brif ddinas y Dywysogaeth ac yn eisteddfa’r llywodrayth.
Ni fynnwn i ddadla yn rhy gyndyn dros Fachynlleth, nac un dref neilltuol arall;
ond yr wyf yn teimlo yn gryf y dyle’n prif ddinas fod yn rhywle ynghanolbarth
Cymru. Fe fydde’i gosod yno yn ffordd effeithiol i dorri nid yn unig ar y
pellter ffordd, ond hefyd ar y pellter teimlad, sydd rhwng De a Gogledd. Yr wyf
yn credu y galle crefyddwyr wneyd rhywbeth i ddwyn dau benn Cymru yn nes at eu
gilydd. Pa beth sy’n rhwystro yr Henurieythwyr Cymreig i rannu Cymru yn dair
talayth eglwysig, fel yr oyddid gynt yn eu rhannu, yn wladol; sef yn dalayth
Gwynedd, talayth Powys, a thalayth y Deheubarth? Wedi trefnu tair Cymdeithasfa,
yn lle dwy, fe fydda raid cymmeryd darn o’r Gogledd a darn o’r De i ffurfio
talayth Powys; ac felly fe ellid disgwyl i Dde a Gogledd garu Powys, ac i Bowys
garu De a Gogledd. Yr un ffunud, os rhaid i Eglwys Loygr wrth bedair escobayth
Ynghymru, pa beth a’i rhwystra yn y mann i wneyd yr escobeytha hynny yn
ogyfartal â hen daleytha Gwent a Dyfed, Powys a Gwynedd. Os myn yr Eglwys
Sefydledig ar ol ei gwneyd yn Eglwys Rydd, ac os mynn yr Eglwys Gatholig,
wneuthur Cymru yn archesgobayth yr wyf yn gobeitbio y bydd llys y ddau
archescob ynghanol y wlad, yn agos i hen dref ag iddi hen hanes. Yr wyf fi yn
ddigon hayl fy mryd a’m calon i ddymuno llwyddiant unryw gyfundeb crefyddol a
ddyfeisio ffordd i gyfanu Cymru ac i’w chadw yn Gymru Gymreig.
EMRYS AP IWAN
·····
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ Nodlyfr 396
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy
Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats