Taith Americanaidd - llythyr
o’r flwyddyn 1843 a ysgrifennwyd gan John E. Griffiths o Horeb, Ceredigion.
" Pan oeddwn yn Llandyssil clywais ddywedyd fod Indiaid Cymreig oddeutu
afon Missouri. Pan oeddent yn
ymddyddan â’u gilydd yr oeddwn yn gwneud clust i wrando pa iaith oeddent yn
siarad ond er fy siomedigaeth nid Cymraeg na Seisneg oedd ganddynt." 0961k Gwefan Cymru-Catalonia.
........................................y tudalen hwn
..
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·lesi Catalunya Cywaith Siôn
Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg) El
projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)
Taith Americanaidd Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8, tudalennau 370-371
Rhan o
lythyr John, mab y Parch. S
Griffiths, Horeb
Cincinnati,
Gorff. 26, 1843
ANWYL RIENI, -Yr wyf yn cael pleser mawrwrth ysgrifenu at fy anwyl dad a’m mamy
rhai a’m magodd yn gariadusac a’m
hyfforddodd ym mhen y ffordd dda.
Yr
wyf yn diolch i Dduw am gael rhieni da, nid yn unig i ofalu am fwyd a dillad i
mi,pan oeddwn yn ieuanc,ond hefyd,gofalasoch yn foreu am blanu egwyddoriony Grefydd Gristionogol yn fy meddwl -- nid ânt byth yn anghof genyf;y lluaws aneirif o gynghorion a gefais genychy maent ar fy meddwl, ac o flaen fy llygad;y maent gwedi bod yn llesiol iawn i mi lawer gwaith;o ran fy mhrofiad crefyddol,nid wyf yn oer iawn, nac yn frwd iawn
chwaith.Yr wyf yn cael pleser yn
llwybrau crefydd yn barháus;fel
hyn, rhwng gobaith ac ofnau,hyderu
yr wyf y caf lanioi mewn i’r Ganaan
nefol yn y man.Gweddiwch drosof,am i mi gael dilyn siampl y Brenin
mawr,a harddu ffyrdd crefyddyn anialwch y gorllewin llaith.
Yr
ydym oll yn iachac wrth ein boddyn cael digon o fwyd a dillad,a digon o waith,a thâl am dano.Cyfleusderau
crefyddol yn aml,dwy waith yn yr
wythnos,a phedair gwaith ar y
Saboth.Ar y 4ydd dydd o Orphenaf,buom yn cadw cyfarfod dirwestol yn y
coed,oddeutu tair milldir allan o’r
dref,ymunodd 25 o’r newyddEr rhated yw y gwirodydd yma,y mae yn dda genyf dweyd,fod y Cymry bron i gyd yn Ddirwestwyr.Chwi welwch nad oes arnom eisieu dim
daioni,pob peth bron fel y dymunem
ef.Tywallted yr Arglwydd ei Ysbryd
arnom,fel y teimlom ein tlodi fel
pechaduriaid,ac y gweddïom yn daer
am faddeuan.
Rhoddaf
ychydig o hanes fy nhaith i Missouri,
Iowa ac Illinois.Ymadewais â’r dref honar y 7fed o Fawrth,gan fod y mate yn Gymro,cefais
fynd yn llaw ar y llong,i lwytho a
dad-lwytho; -nid oeddwn yn meddwl
myned ymhellach nâ St Lewis,ond gan
fod yr hîn mor oeri fyned i Iowa,
cychwynais ar y cyntaf o Ebrill tua Missouri,600 milldir o daith;Gwelais
lawer o Indiaid yn y coed - daeth
amryw o honynt i’r steam-boat.Pan oeddwn yn Llandyssil,clywais ddywedyd fod Indiaid Cymreigoddeutu afon Missouri.Pan oeddent yn ymddyddan â’u gilyddyr oeddwn yn gwneud clusti wrando pa iaith oeddent yn siarad,ond er fy siomedigaethnid Cymraeg na Seisneg oedd ganddynt - eu dillad oedd o grwyn da gwylltion,yn lws
fel mantell.Gwedi myned tua 600 o
filldiroedd,aethum i bentref
bychan,rhyfeddais yn fawri weled rhai o ogledd Cymru yno;ond yn awr,yr wyf wedi cael ar ddeallfod
rhai Cymry gwedi mynedi bob parth
yn y wlad hon,lle mae dynion
gwynion gwedi myned.Yn mhen tair
wythnos,dychwelais yn ôl i St
Lewis,erbyn hyn yr oedd y Cymry a
adewais yno,wedi mynd i spio Iowa;
cynnygodd Cadben Jones, brawd Jones,gweinidog
Rhydybont, i mi fyned ar ei lestr ef, i fynu 150o filldiroedda hyd yr
afon Desmoin,ond nid aethum.Aeth Cymro o’r enw Roberts,a minnau, oddeutu pump neu chwech cant o filldiroeddar hŷd afon Mississipi, i Geluna a Debuke; yno y cyfarfum â
thri o’r Cymry, rhai fuant yn edrych ansawdd Iowa - ni chefais fawr o air ganddynt i’r wlad; yr oeddynt yn gweled
gormod o dir noeth(prairie) yno, a rhy fach o goed - a’i
bod yn anghyfleus iawn i farchnata,felly
dychwelodd yr yspiwyr yn ôl, bob un idd ei hen drigfan; - bûm yn gweithio yno
am bedair wythnos; yr oeddwn yn myned i’r cwrdd ar y Sabboth i Geluna - yr oedd yno bregethau da iawn, er
nad oeddent yn iaith fy mam, yr oeddwn yn eu deall yn bur dda; dychwelodd tri o
honom i St Lewis. Ar ein taith laniasom i mewn i dre o’r enw Navoor, lle mae
Joe Smith, y Mormont, a’i ganlynwyr; nid oes ond tair blynedd er pan sefydlwyd
y lle, ac y mae tua 25,000 o’r Mormoniaid yno yn barod.Yn ddiweddar yr oedd Joe yn myned i wneyd gwyrthiaui dwyllo y bobl, trwy gerdded wyneb y
dwfryn y nos gosododd fath o
ffwrwmau â thraed iddynt, ac oddeutu troedfedd rhyngddynt a wyneb yr afon - ond daeth rhyw walch i wybod y peth,a thỳnodd un o’r ffwrwmau i
ffwrdd; - boreu dranoethdaeth
lluoedd i weled y wyrth, dechreuodd Joe gerdded yn hwylus,gan feddwl croesi yn ddiangol,ond yn ddisymmwthaeth dros ei
ben i’r gwaelod. Rhyfedd mor barod yw dynioni ddiystyru Mab Duw,a
chanlyn cyfeiliornwyr.Clywais fod Joe yn y carchar;bûm fis o amser yn St Lewis. Yr oedd y Pabyddion yn aml ym mhob
man lle buais i;ond yr oedd y
Presbyteriaid, a’r Bedyddwyr, a’r Wesleyaidyn amlach, ac yn enill tir yn gyflymach.Dywedaf o’m calon,llwydd
iddynt i gael yr holl gyfeiliornadau i’r llawr,ac enw y Gŵr a hoeliwyd eloyn ben moliant trwy yr holl fyd.Eich serchiadol fab,
John Griffiths
_____________________________________________________ Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8 (tudalennau 369-371)
DOLENNAU
AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN ________________________________________________________
NODIADAU:
gw-grif1.a / 25 06 93 / nodlyfr N177
Sumbolau arbennig: ŷ
ŵ Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya) Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website