1269e Gwefan Cymru-Catalonia. Taith Americanaidd - llythÿr o'r flwÿddÿn 1843 a ysgrifennwÿd gan John E. Griffiths o Horeb, Ceredigion.  Letter written in 1843 by E. Griffiths of Horeb, Ceredigion. “Rhoddaf ychydig o hanes fy nhaith i Missouri, Iowa ac Illinois” = I shall give a brief account of my trip to Missouri, Iowa and Illinois

 

http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_033_safon_gymreig_1906_1317ke.htm

Yr Hafan / Home Page


..........
1864e Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Gateway in English to this website

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English

 

..................................Y Tudalen Hwn / This Page


baneri
.. 




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Taith Americanaidd
Y DIWYGIWR 1843



map o gymru a'r gwledydd catalaneg (map_cymru_pc_drenewydd_050112)

Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització  28 06 2000

 

 0961k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig

  xxxx Aquesta pàgina en català  

 

(1) TESTUN CYMRAEG (Welsh text)

(2) TESTUN CYMRAEG (ag ÿ) + TROSIAD SAESNEG (Welsh text + English Translation)

(3) TROSIAD SAESNEG (English Translation)

  

_____________________________________________________

Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8, tudalennau 370-371
Taith Americanaidd


·····

Llythyr o America

Rhan o lythyr John, mab y Parch. S Griffiths, Horeb

Cincinnati, Gorff. 26, 1843

ANWYL RIENI, - Yr wyf yn cael pleser mawr wrth ysgrifenu at fy anwyl dad a’m mam y rhai a’m magodd yn gariadus ac a’m hyfforddodd ym mhen y ffordd dda.

Yr wyf yn diolch i Dduw am gael rhieni da, nid yn unig i ofalu am fwyd a dillad i mi, pan oeddwn yn ieuanc, ond hefyd, gofalasoch yn foreu am blanu egwyddorion y Grefydd Gristionogol yn fy meddwl - - nid ânt byth yn anghof genyf; y lluaws aneirif o gynghorion a gefais genych y maent ar fy meddwl, ac o flaen fy llygad; y maent gwedi bod yn llesiol iawn i mi lawer gwaith; o ran fy mhrofiad crefyddol, nid wyf yn oer iawn, nac yn frwd iawn chwaith. Yr wyf yn cael pleser yn llwybrau crefydd yn barháus; fel hyn, rhwng gobaith ac ofnau, hyderu yr wyf y caf lanio i mewn i’r Ganaan nefol yn y man. Gweddiwch drosof, am i mi gael dilyn siampl y Brenin mawr, a harddu ffyrdd crefydd yn anialwch y gorllewin llaith.

Yr ydym oll yn iach ac wrth ein bodd yn cael digon o fwyd a dillad, a digon o waith, a thâl am dano. Cyfleusderau crefyddol yn aml, dwy waith yn yr wythnos, a phedair gwaith ar y Saboth. Ar y 4ydd dydd o Orphenaf, buom yn cadw cyfarfod dirwestol yn y coed, oddeutu tair milldir allan o’r dref, ymunodd 25 o’r newydd Er rhated yw y gwirodydd yma, y mae yn dda genyf dweyd, fod y Cymry bron i gyd yn Ddirwestwyr. Chwi welwch nad oes arnom eisieu dim daioni, pob peth bron fel y dymunem ef. Tywallted yr Arglwydd ei Ysbryd arnom, fel y teimlom ein tlodi fel pechaduriaid, ac y gweddïom yn daer am faddeuan.

Rhoddaf ychydig o hanes fy nhaith i Missouri, Iowa ac Illinois. Ymadewais â’r dref hon ar y 7fed o Fawrth, gan fod y mate yn Gymro, cefais fynd yn llaw ar y llong, i lwytho a dad-lwytho; - nid oeddwn yn meddwl myned ymhellach nâ St Lewis, ond gan fod yr hîn mor oer i fyned i Iowa, cychwynais ar y cyntaf o Ebrill tua Missouri, 600 milldir o daith; Gwelais lawer o Indiaid yn y coed - daeth amryw o honynt i’r steam-boat. Pan oeddwn yn Llandyssil, clywais ddywedyd fod Indiaid Cymreig oddeutu afon Missouri. Pan oeddent yn ymddyddan â’u gilydd yr oeddwn yn gwneud clust i wrando pa iaith oeddent yn siarad, ond er fy siomedigaeth nid Cymraeg na Seisneg oedd ganddynt - eu dillad oedd o grwyn da gwylltion, yn lws fel mantell. Gwedi myned tua 600 o filldiroedd, aethum i bentref bychan, rhyfeddais yn fawr i weled rhai o ogledd Cymru yno; ond yn awr, yr wyf wedi cael ar ddeall fod rhai Cymry gwedi myned i bob parth yn y wlad hon, lle mae dynion gwynion gwedi myned. Yn mhen tair wythnos, dychwelais yn ôl i St Lewis, erbyn hyn yr oedd y Cymry a adewais yno, wedi mynd i spio Iowa; cynnygodd Cadben Jones, brawd Jones, gweinidog Rhydybont, i mi fyned ar ei lestr ef, i fynu 150 o filldiroedd a hyd yr afon Desmoin, ond nid aethum. Aeth Cymro o’r enw Roberts, a minnau, oddeutu pump neu chwech cant o filldiroedd ar hŷd afon Mississipi, i Geluna a Debuke; yno y cyfarfum â thri o’r Cymry, rhai fuant yn edrych ansawdd Iowa - ni chefais fawr o air ganddynt i’r wlad; yr oeddynt yn gweled gormod o dir noeth (prairie) yno, a rhy fach o goed - a’i bod yn anghyfleus iawn i farchnata, felly dychwelodd yr yspiwyr yn ôl, bob un idd ei hen drigfan; - bûm yn gweithio yno am bedair wythnos; yr oeddwn yn myned i’r cwrdd ar y Sabboth i Geluna - yr oedd yno bregethau da iawn, er nad oeddent yn iaith fy mam, yr oeddwn yn eu deall yn bur dda; dychwelodd tri o honom i St Lewis. Ar ein taith laniasom i mewn i dre o’r enw Navoor, lle mae Joe Smith, y Mormont, a’i ganlynwyr; nid oes ond tair blynedd er pan sefydlwyd y lle, ac y mae tua 25,000 o’r Mormoniaid yno yn barod. Yn ddiweddar yr oedd Joe yn myned i wneyd gwyrthiau i dwyllo y bobl, trwy gerdded wyneb y dwfr yn y nos gosododd fath o ffwrwmau â thraed iddynt, ac oddeutu troedfedd rhyngddynt a wyneb yr afon - ond daeth rhyw walch i wybod y peth, a thỳnodd un o’r ffwrwmau i ffwrdd; - boreu dranoeth daeth lluoedd i weled y wyrth, dechreuodd Joe gerdded yn hwylus, gan feddwl croesi yn ddiangol, ond yn ddisymmwth aeth dros ei ben i’r gwaelod. Rhyfedd mor barod yw dynion i ddiystyru Mab Duw, a chanlyn cyfeiliornwyr. Clywais fod Joe yn y carchar; bûm fis o amser yn St Lewis. Yr oedd y Pabyddion yn aml ym mhob man lle buais i; ond yr oedd y Presbyteriaid, a’r Bedyddwyr, a’r Wesleyaid yn amlach, ac yn enill tir yn gyflymach. Dywedaf o’m calon, llwydd iddynt i gael yr holl gyfeiliornadau i’r llawr, ac enw y Gŵr a hoeliwyd elo yn ben moliant trwy yr holl fyd. Eich serchiadol fab,
John Griffiths

 

_____________________________________________________
Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8 (tudalennau 369-371)
The Reformer (pages 369-371)

Taith Americanaidd
An American Journey


Llythÿr o America
A letter from America

Rhan o lythÿr John, mab y Parch. S Griffiths, Horeb
Part of a letter from John, the son of the Reverend S Griffiths, Horeb

Cincinnati, Gorff. 26, 1843
Cincinnati, July 26 1843

Anwÿl (= annwÿl) Rieni
Dear Parents

Yr wÿf yn cael pleser mawr
It gives me great pleasure
[I am getting great pleasure]

wrth ysgrifenu (= ysgrifennu) at fy anwÿl
(= annwÿl) dad a'm mam
to write to my dear father and mother
[in writing to my dear father and my mother]

y rhai a'm magodd yn gariadus
who gave me a loving upbringing
[the ones that brought me up lovingly]

ac a'm hyfforddodd ym mhen y ffordd dda
and who taught me the right path to follow
[and instructed me in the direction of the good road]

Yr wÿf yn diolch i Dduw am gael rhieni da
I thank God for having good parents
[for getting good parents]

pan oeddwn yn ieuanc
when I was young

ond hefÿd
but also

gofalasoch yn foreu (= fore) am blanu (= blannu)
you took care early on to plant

y Grefÿdd Gristionogol (= Gristnogol) yn fy meddwl -
the Christian religion in my mind

- nid ânt bÿth yn anghof genÿf (= gennÿf)
I'll never forget them
[they shall never go into oblivion with me]

y lluaws (= lliaws) aneirif o gynghorion a gefais genÿch (= gennÿch)
the great wealth of advice you gave me
[the countless host of advices I got with you]

y maent ar fy meddwl, ac o flaen fy llygad
I keep it in mind, and I am aware of it
[they are on my mind, and before my eyes]

y maent gwedi (= wedi) bod yn llesiol iawn i mi lawer gwaith
it has been beneficial to me many a time

o ran fy mhrofiad crefyddol
as for my religious experience

nid wÿf yn oer iawn, nac yn frwd iawn chwaith
I am neither neglectful or zealous
[I am not very cold, or very passionate either]

Yr wÿf yn cael pleser yn llwÿbrau crefÿdd yn barháus
I get constant pleasure in religion
[I am getting pleasure in the paths of religion constantly]

fel hÿn, rhwng gobaith ac ofnau
so in this way, hoping and fearing
[like this, between hope and fears]

hyderu yr wÿf y caf lanio
I am confident I shall get to come to land

i mewn i'r Ganaan nefol yn y man
in the heavenly Canaan by and by

Gweddiwch (=gweddïwch) drosof
pray for me

am i mi gael dilÿn siampl y Brenin mawr
so that I can follow the example of the good Lord
[for to me getting following the example of the big King]

a harddu ffÿrdd crefÿdd
and follow a religious life
[and beautify the paths of religion]

yn anialwch y gorllewin llaith
in the desert of the damp west

Yr ydÿm oll yn iach
we are all well

ac wrth ein bodd
and very content
[and at our contentment]

yn cael digon o fwÿd a dillad
receiving enough food and clothes

a digon o waith
and enough work

a thâl am dano (= amdano)
and payment for it

Cyfleusderau (= cyfleusterau) crefyddol yn aml
we frequently attend religious services
[{getting} religious conveniences often]

dwÿ waith (= dwÿwaith) yn yr wÿthnos
twice a week

a phedair gwaith ar y Saboth
and four times on the Sabbath

Ar y 4ÿdd (= pedwerÿdd) dÿdd o Orphenaf (= Orffennaf)
On the 4th of July

buom yn cadw cyfarfod dirwestol yn y coed
we held a temperance meeting in the wood

oddeutu tair milldir (= milltir) allan o'r dref
about three miles out of town

ymunodd 25 (= pump ar hugain) o'r newÿdd
twenty-five new members joined
[twenty five joined newly]

Er rhated ÿw y gwirodÿdd yma
Although liquor here is very cheap
[Although so cheap are the spirits here]

y mae yn dda genÿf (= gennÿf) dweÿd (= ddweud)
I am pleased to say

fod y Cymrÿ bron i gÿd yn Ddirwestwÿr
that the Welsh people are almost all teetotallers

Chwi welwch nad oes arnom eisieu (= eisiau) dim daioni
You can see we lack for nothing
[You see there is not on us need of any goodness]

pob peth bron fel y dymunem ef
everything just as we should wish it

Tywallted yr Arglwÿdd ei Ysbrÿd arnom
May the Lord bless us with his Spirit
[May the Lord pour his Spirit on us]

fel y teimlom ein tlodi fel pechaduriaid
so that we can feel that we are but poor sinners
[so that we may feel {subjunctive} our poverty as sinners]

ac y gweddïom yn daer am faddeuant
and that we may earnestly pray for forgiveness

Rhoddaf  ychydig o hanes fy nhaith i Missouri, Iowa ac Illinois
I shall give a brief account of my trip to Missouri, Iowa and Illinois
[I shall give a a little of the history
my trip to Missouri, Iowa and Illinois]

Ymadewais â'r dref hon
I left this town
[I departed with this town]

ar y 7fed (= seithfed) o Fawrth
on the seventh of March

gan fod y 'mate' yn Gymro
{and} because the mate was Welsh

cefais fÿnd yn llaw ar y llong
I was able to go as a deckhand
[I got to go as a hand on the ship]

i lwÿtho a dad-lwÿtho
to load and unload

nid oeddwn yn meddwl myned (= mÿnd) ymhellach na St Lewis
we didn't intend to go further than St Louis
[we were not thinking to go further than St Louis]

ond gan fod yr hin mor oer
but because the weather was so cold
[but with being the weather so cold]

cychwynais (= cychwynnais) ar y cyntaf o Ebrill tua Missouri
I set out on the first of April to Missouri

600 (= chwechant) milldir (= milltir) o daith
a journey of six-hundred miles

Gwelais lawer o Indiaid yn y coed
I saw many Indians in the forest

daeth amrÿw o honÿnt (= ohonÿnt) i'r 'steam-boat'
many of them came to the steamboat

Pan oeddwn yn Llandyssil (= Llandysul)
When I was in Llandysul

clywais ddywedÿd (= ddweud) fod Indiaid Cymreig (= Cymréig)
I heard it said that there were Welsh Indians
[I heard say {the} being {of} Welsh Indians]

oddeutu afon Missouri
around the Missouri river

Pan oeddent (= oeddÿnt) yn ymddyddan (= ymddiddan) â'u gilÿdd
When they spoke to each other

yr oeddwn yn gwneud clust
I listened out
[I was making ear]

i wrando pa iaith oeddent (= a oeddÿnt) yn siarad (= yn ei siarad)
to hear what language they were speaking

ond er fy siomedigaeth
but to my great disappointment
[but to my disappointment]

nid Cymraeg (= Cymráeg) na Seisneg (= Saesneg) oedd (= a oedd) ganddÿnt
they were speaking neither Welsh nor English
[{it is} not Welsh nor English that was with them]

eu dillad oedd o grwÿn da gwylltion
their clothes were of the skins of wild cattle

yn 'lws' fel mantell
loose like a cape

Gwedi (= wedi) myned (= mÿnd) tua 600 (= chwechant) o filldiroedd (= milltiroedd)
After travelling six hundred miles

aethum (= euthum) i bentref bychan
I went to a small village

rhyfeddais yn fawr
I was greatly astonished

i weled (= weld) rhai o ogledd (= Ogledd) Cymru yno
to see people from North Wales there
[to see some {people} from North Wales
there-in-the-place-mentioned]

ond yn awr
but now

yr wÿf wedi cael ar ddeall
I've been given to understand/I have learnt
[I am after getting on understanding]

fod rhai Cymrÿ gwedi (= wedi) mÿned (= mÿnd)
i bob parth yn y wlad hon
that there are Welsh people in every part/point/direction in this country
[that some Welsh people have gone to every part/point/direction in this country]

lle mae dynion gwynion gwedi myned (= mÿnd)
where white people have gone

Yn mhen (= ymhén) tair wÿthnos
three weeks later
[in {the} head/end {of} three weeks]

dychwelais yn ôl i St Lewis
I returned to St Louis
[I returned back to St Louis]

erbÿn hÿn yr oedd y Cymrÿ a adewais yno
by then the Welsh people I had left there

wedi mÿnd i 'spio' (= sbio) Iowa
had gone to take a look at Iowa

cynnygodd (= cynigodd) Cadben (= Capten) Jones, brawd Jones,
gweinidog Rhÿdybont (= Rhÿd-y-bont)
Captain Jones, the brother o Minister Jones of Rhÿd-y-bont, offered

i mi fyned (= fÿnd) ar ei lestr ef
to take me on his ship
[to me going on his vessel of him]

i fynu (= fynÿ) 150 (= cant a hanner)
o filldiroedd (= filltioroedd)
up 150 miles

a hÿd (= ar hÿd) yr afon Desmoin
along the Desmoin river

ond nid aethum (= euthum)
but I didn't go

Aeth Cymro o'r enw Roberts
A Welshman called Roberts
[A Welshman of the name Roberts]

a minnau
and me

oddeutu pump neu chwech cant (= chwechant) o filldiroedd (= filltiroedd)
around five or six hundred miles

ar hÿd afon Mississipi, i Geluna a Debuke
along the river Mississipi, to Geluna and Debuke

yno y cyfarfum a thri o Gymrÿ
there we met three Welshmen

rhai fuant (a fu) yn edrÿch ansawdd Iowa
who had been examining the condition of Iowa
[some who had been seeing the quality of Iowa]
[fuant - mistake for fuont; and fuont should not be plural, but singular - hypercorrection, common in nineteenth-century writing]

ni chefais fawr o air ganddÿnt i'r wlad
they told me they weren't very impressed with the country
[I didn't get much o word with them to the country]

yr oeddÿnt yn gweled (= gweld) gormod o dir noeth ('prairie')
they thought there was too much open land there
[the were seeing too much of bare land there]

a rhy fach o goed
and not enough woodland
[and too little of wood]

a'i bod yn anghyfleus (= anghyfléus) iawn i farchnata
and that for trading it was too inconvenient

fellÿ dychwelodd yr yspiwÿr (= ysbiwÿr) yn ôl
so the investigators came back

bob un idd ei (= iddi) hen drigan
each one to his former home
[each one to his {iddi = southern Welsh for i'w, to his} old dwelling place]

bûm yn gweithio yno am bedair wÿthnos
I worked there for four weeks

yr oeddwn yn myned (= mÿnd)
i'r cwrdd ar y Saboth i Geluna
I went to chapel on the Sabbath in Geluna
[I was going to the meeting on the Sabbath to Geluna]

yr oedd yno bregethau da iawn
there were very good sermons there

er nad oeddent (= oeddÿnt) yn iaith fy mam
though they weren't in my mother tongue

yr oeddwn yn eu deall yn bur dda
I understood them very well

dychwelodd tri o honom (= ohonom) i St Lewis
three of us returned to St Louis

Ar ein taith laniasom i mewn i dre o'r enw Navoor
On our trip, we docked in a town called Navoor

lle mae Joe Smith, y Mormont, a'i ganlynwÿr
where Joe Smith the Mormon and his followers are

nid oes ond tair blynedd er pan sefydlwÿd y lle
it's only three years since the place was founded
[there are but three years from/since when has-been-established the place]

ac y mae tua 25,000 (= pum mil ar hugain) o'r Mormoniaid yno yn barod
and already there are 25,000 Mormons there

Yn ddiweddar yr oedd Joe yn myned (= mÿnd) i wneÿd (= wneud) gwyrthiau
Recently Joe was going to perform miracles
[Recently Joe was going to make miracles]

i dwÿllo y (= dwÿllo'r) bobl
to deceive the people

trwÿ gerdded wÿneb y dwfr (= Dwr)
by walking on the water
[by walking on the surface of the water]

yn y nos gosododd fath o ffwrwmau â thraed iddÿnt
in the night he set down kinds of benches with feet
[in the night he put a-sort of benches with feet to-them]

ac oddeutu troedfedd rhyngddÿnt a wÿneb yr afon
about a foot under the river's surface
[and about a foot between them and the surface of the river]

ond daeth rhÿw walch i wÿbod y peth
but some practical joker got to hear of this
[some falcon/hawk; rogue/rascal came to know the thing]

a thynodd (= thynnodd) un o'r ffwrwmau i ffwrdd
and removed one of the benches
[and pulled one of the benches away]

boreu dranoeth (= bore drannoeth)
the next morning
[morning on the following day {trannoeth = after night}]

daeth lluoedd i weled (= weld) y peth
crowds came to see the event
[crowds came to see the thing]

dechreuodd Joe gerdded yn hwÿlus
Joe began to walk with ease
[Joe began to walk conveniently]

gan feddwl croesi yn ddiangol (= ddihangol)
thinking he'd get across safely
[with thinking crossing escaping-mishap/safely {dianc = escape}]

ond yn ddisymmwth (ddisymwth)
but suddenly

aeth dros ei ben i'r gwaelod
he went headlong to the bottom
[he went over his head to the bottom]

Rhyfedd mor barod ÿw dynion
It's strange how people are quick
[Strange so ready are men]

i ddiystyru Mab Duw
to take no notice of the Son of God

a chanlÿn cyfeiliornwÿr
and follow heretics
[and follow strayers/men who err]

Clywais fod Joe yn y carchar
I heard that Joe was in prison

bûm fis o amser yn St Lewis
I was in St Louis for a month
[I have been a month of time in St Louis]

Yr oedd y Pabyddion yn aml ym mhob man lle buais (= bûm) i
There were may Catholics wherever I went
[the Catholics were frequent/plentiful in every place I have been]

ond yr oedd y Presbyteriaid, a'r Bedyddwÿr, a'r Wesleyaid (= Wesleaid)
but the Presbyterians,  and the Baptists, and the Wesleyans

yn amlach, ac yn enill (= ennill) tir yn gyflymach
were more plentiful, and gaining ground faster

Dywedaf o'n calon
I say from my heart

llwÿdd iddÿnt i gael yr holl gyfeiliornadau i'r llawr
success to them in bringing down all these heresies
[success to them to get all the heresies to the ground]

ac enw y Gwr a hoeliwÿd elo (= a elo)
and may the name of the man who was crucified
[and the name of the man that has-been-nailed that it may go]

yn ben moliant trwÿ yr holl fÿd
be the most praised in all the world
[as main praise through all the world]

Eich serchiadol fab
Your loving son
John Griffiths


_____________________________________________________
TROSIAD SAESNEG - ENGLISH TRANSLATION
Y Diwygiwr ('the reformer') 1843
An American Journey. Pages 369-371

A letter from America
Part of a letter from John, the son of the Reverend S Griffiths, Horeb
Cincinnati, July 26 1843
Dear Parents
It gives me great pleasure
to write to my dear father and mother
who gave me a loving upbringing
and who taught me the right path to follow
I thank God for having good parents
when I was young
but also
you took care early on to plant
the Christian religion in my mind
I'll never forget them
the great wealth of advice you gave me
I keep it in mind, and I am aware of it
it has been beneficial to me many a time
as for my religious experience
I am neither neglectful or zealous
I get constant pleasure in religion
so in this way, hoping and fearing
I am confident I shall get to come to land
in the heavenly Canaan by and by
pray for me
so that I can follow the example of the good Lord
and follow a religious life
in the desert of the damp west
we are all well
and very content
receiving enough food and clothes
and enough work
and payment for it
we frequently attend religious services
twice a week
and four times on the Sabbath
On the 4th of July
we held a temperance meeting in the wood
about three miles out of town
twenty-five new members joined
Although liquor here is very cheap
I am pleased to say
that the Welsh people are almost all teetotallers
You can see we lack for nothing
everything just as we should wish it
May the Lord bless us with his Spirit
so that we can feel that we are but poor sinners
and that we may earnestly pray for forgiveness
I shall give a brief account of my trip
to Missouri, Iowa and Illinois
I left this town
on the seventh of March
{and} because the mate was Welsh
I was able to go as a deckhand
to load and unload
we didn't intend to go further than St Louis
but because the weather was so cold
I set out on the first of April to Missouri
a journey of six-hundred miles
I saw many Indians in the forest
many of them came to the steamboat
When I was in Llandysul
I heard it said that there were Welsh Indians
around the Missouri river
When they spoke to each other
I listened out
to hear what language they were speaking
but to my great disappointment
they were speaking neither Welsh nor English
their clothes were of the skins of wild cattle
loose like a cape
After travelling six hundred miles
I went to a small village
I was greatly astonished
to see people from North Wales there
but now
I've been given to understand/I have learnt
that there are Welsh people in every part/point/direction
in this country
where white people have gone
three weeks later
I returned to St Louis
by then the Welsh people I had left there
had gone to take a look at Iowa
Captain Jones, the brother o Minister Jones of Rhÿd-y-bont, offered
to take me on his ship
up 150 miles
along the Desmoin river
but I didn't go
A Welshman called Roberts
and me
around five or six hundred miles
along the river Mississipi, to Geluna and Debuke
there we met three Welshmen
who had been examining the condtion of Iowa
they told me they weren't very impressed with the country
they thought there was too much open land there
and not enough woodland
and that for trading it was too inconvenient
so the investigators came back
each one to his former home
I worked there for four weeks
I went to chapel on the Sabbath in Geluna
there were very good sermons there
though they weren't in my mother tongue
I understood them very well
three of us returned to St Louis
On our trip, we docked in a town called Navoor
where Joe Smith the Mormon and his followers are
it's only three years since the place was founded
and already there are 25,000 Mormons there
Recently Joe was going to perform miracles
to deceive the people
by walking on the water
in the night he set down kinds of benches with feet
about a foot under the river's surface
but some practical joker got to hear of this
and removed one of the benches
crowds came to see the event
Joe began to walk with ease
thinking he'd get across safely
but suddenly
he went headlong to the bottom
It's strange how people are quick
to take no notice of the Son of God
and follow heretics
I heard that Joe was in prison
I was in St Louis for a month
There were may Catholics wherever I went
but the Presbyterians, and the Baptists, and the Wesleyans
were more plentiful, and gaining ground faster
I say from my heart
success to them in bringing down all these heresies
and may the name of the man who was crucified
be the most praised in all the world
Your loving son
John Griffiths

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN / LINKS TO THE REST OF THIS WEBSITE
___________________________________________________________________________

1050e
y CYmry yn América
The Welsh in America

 

NODIADAU: gw-grif1.a / 25 06 93 / nodlÿfr N177


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats