1229k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya. Twynog. Cyfrol Goffa y diweddar T. Twynog Jeffreys, Rhymni.
Dan Olygiaeth Dyfed. Gwrecsam. Hughes a’i Fab. 1912

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_027_twynog_03_1229k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

...................................0094k tudalen mynegeiol “Twynog”

.....................................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Twynog

Cyfrol Goffa y diweddar T. Twynog Jeffreys, Rhymni.

Dan Olygiaeth Dyfed.

Gwrecsam. Hughes a’i Fab. 1912

 

Rhan 3

 

Adolygiadau diweddaraf:
28 10 2001

 

Fersiwn destun sylfaenol / Basic Text Version: 1227k_print kimkat1227k_print

 

Mae gennym hefyd fersiwn PDF o’r tudalen hwn / There is also a PDF version of this page:

                       http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_027_twynog_1912.pdf

 

 

TANNAU EREILL TWYNOG.
CERDDI GWASGAREDIG, HEB EU CYHOEDDI O’R BLAEN,
A GYHOEDDIR YN BENNAF YN Y GYFROL HON.

RHIF Y GERDD

TEITL Y GERDD

TUDALEN

+52

Bunyan

x159

+53

Bugail Carmel

x163

+54

Adgyfodiad Crist

x168

+55

Y Daran

x169

+56

Wylofus gri yr Hydref

x170

+57

Bedd fy ngeneth fach

x171

+58

Fy Mhlentyn

x173

+59

Hwiangerdd Mair

x174

+60

Nos a Dydd

x177

+61

Gobaith y Cristion

x178

+62

Annie’n ugain oed

x179

+63

Tangnefedd

x180

+64

Nos Gwyl Dewi

x181

+65

Yr Amaethwr

x182

+66

Y Beibl yn y Carchar

x183

+67

Y Frwydr

x184

+68

Y Dyn Meddw

x186

+69

Caws Caerphili

x187

+70

Bugail Glan y Llyn

x188

+71

Y Llongddrylliad

x191

+72

Adda’n yr ardd

x193

+73

Y Mynydd Du

x194

+74

Pleser

x196

+75

Barnau Duw

x198

+76

Tanybryn

x199

+77

Gwlad Myrddin

x207

+78

Y Balch

x208

+79

Cystudd

x212

+80

Mae’r Gaeaf wedi cilio

x213

+81

Dafydd Jones

x214

+82

Dewi Sant

x216

+83

Ussah

x218

+84

Pleser pur

x222

+85

Y Cryd-cymalau

x223

+86

Marw’n yr Haf

x224

+87

Yr Enfys

x225

+88

Gwyliau’r Haf

x226

+89

Tir Beulah

x227

+90

Yr “Excursion”

x228

+91

Y Llaw

x231

+92

  Dduw

x231

+93

Yr Efengyl

x232

+94

Daeareg

x232

+95

Parc Dynefwr

x232

+96

Llyfrau y Beibl

x233

+97

Ddoe a heddyw

x237


(x159)
(+52) BUNYAN
Af yn ol am fanylion - byw hanes
Bunyan a’i freuddwydion;
A thrwy nerth a rhiniau Iôn,
Mi ganaf salm ei gwynion.

Elstow bach! rhwng plastai byd – ro’dd fore
Ddifyrrwch i’w febyd;
Ac i’w ran curai o hyd,
Lef rhyfel o’i foreufrd.

Yno’n egwan y ganwyd
Cu angel hedd mewn congl lwyd,
Deiliog ardal y gweirdir,
Ac erwau têg goreu tir
Welai’n hael yn nhaweledd
Yr Ouse lân o risial wedd;
Afon dlos! cofiwn dy làm
Tra bo hanes tre Bunyan.

Fro heulog; o’i hanfarwolion, - hanes
Bunyan yw ei choron;
Ei fyw dant fu’r harddaf dôn
O ganigau’i henwogion.

Un i gŵyn a thlodi’n gaeth,
O deulu di-waedoliaeth;
Ni ddilynodd o linach
Allai arddel uchel âch;
Ni chadd sedd gogonedd gwych
Mwynderau - dim ond eurych.

Bywyd duon bydewau
A fu ei nwyd yn fwynhau;
A thywysog iaith isel,
Yn nyddu gwarth yn ddi-gel.

(x160) Hanes tir anystyriaeth - a wybu -
Febyn dilywodraeth ;
Yn fore’n llawn o fariaeth,
I fyddin y werin aeth.

Dadweiniai, gloewai ei gledd
I wasanaeth y Senedd ;
Ei waith a’i lwydd fyth i’w wlad
Enwog geir ynn gân cariad;
Câr Rhyddid, ac i’w wreiddyn,

Yn mawrhau iawnderau dyn.

Iddo ef bu nawdd ddwyfol - i’w arbed
Erbyn y dyfodol;
‘Roedd gemwaith ei waith yn ol
Dros y brodyr ysbrydol.

Dirwynol frwydrau enaid - i Bunyan
Fu’n boenus a thanbaid;
Lluoedd Satan, aflan haid,
A ddoi heibio yn ddibaid.

Byw mewn ymdrech â phechod, - ac eilwaith
Cilio ar ddisperod;
At ffol anuwiol nôd - trachefn dwyshau
Mewn dyheuadau am wenau Duwdod.

Er gwaedd yr argyhoeddiad, - a rhu barn
Ar byrth ei ddrwg-fwriad;
Eilwaith i dir gwrthgiliad - bu’n pellhau,
A’i wawdiol wyniau’n lladd y dylanwad.

Diogel dêg weledigaeth - gai eilwaith,
A gwawl iachawdwriaeth;
Ac wedyn hyf codi wnaeth - i’w dàl dŵr,
Yn ddeifiol arwr y dda Filwriaeth.

(x161) Dewisodd fywyd Iesu - yn y man -
Mynnodd ffydd i gredu;
Ac yng nghariad Ceidwad cu,
Daliai’i enaid i lynu.

Arfogodd, gwingodd i’r gwaith, - a’i arfau
Nef-ddurfin yn berffaith;
Ac ar fore dechre’r daith, - iddo bu
Gras i wynebu ar “gors anobaith.”

Ei egnion gynheuodd - dân y saint,
Yn eu serch cynhyddodd;
Taran a chorwynt heriodd - ac o’i bau,
Anelwig ofnau fel niwl a gefnodd.

Ond i’r dyn diwyro daeth
Du ŵg, ac erledigaeth
Cododd storm arw gormes
Ar y tir, a chiliai’r tês;
Ffroen wynias Uffern annuw
Yrrai dân ar arwr Duw.

Carchar-ddor Bedford agorodd - iddo,
A’i ryddid a gollodd;
Ydgorn gwlad, a gwron glodd -
Y gelyn dig a’i gwyliodd.

Ymlaen am ddeuddeg mlynedd - yno bu
Dan bwys trwm dialedd;
Ac ar enau’r Gwirionedd,
Mynnai’r byd roi meini’r bedd.

Ond gŵr Duw a garia dân – ne’ o fewn
Ei fynwes i bobman;
Mewn carchar, esgyna’r gân – o dannau
Haeddol awenau y dduwiol anian.

(x162) Gwawl ydoedd i gloedig - ddu gelloedd
Gwylliaid condemniedig;
Yno yn alltud unig, - ei olau
A lanwai eisiau calonnau ysig.

Yn ei gell, calonog oedd
Yn nifyr gwmni’r nefoedd;
O’i mewn hi mvnnai o hyd
Fynych hedfan uwch adfyd;
A hyder bron ar dir braw
A ddwyfolai’r leddf alaw.

Byth glôd i’w gydwybod ef
Ydoedd dyddiau y dioddef.

Wedi loes y duwiol ŵr, a’r carchar
Cyrchwyd y breuddwydiwr;
A’r dewraf ddifrad arwr, - yn ei wyn
Ddoi allan wedyn yn ddillyn awdwr.

“Taith y Pererin” yn y drychinoedd
Sy’n ail i’r Beibl, sy’n elw i’r bobloedd
Ei chwa anadla ar y cenhedloedd,
Ar ran yr lesu yn rhin i’r oesoecld
Haul awyr yw i luoedd, - digwmwl
O barthau nifwl i borth y nefoedd.

(x163)
(+53) BUGAIL CARMEL
(Y diweddar Barch. James Jones, Fochriw).
Anwylaf gyfaill; cofio wnaf yn hir
Dy wyneb hawddgar, a dy lygad clir,
Pan yma dan fy nghronglwyd lawer noson,
A’th wenau pur yn fendith i fy nghalon;
‘Rwy’n teimlo’th bresenoldeb yn fy ymyl,
Er iti groesi’r glyn i gwmni engyl;
Ac er i’th ysbryd siriol ymbellhau,
Dy ddelw yn fy mron sydd yn parhau;
A serch a bery yn ei wresog hedd
I doddi barrug angeu ar dy fedd;
Ond cwmwl hiraeth am dy fywyd glin
A dyrr yn gawod ddagrau ar fy nghân.

Dy gyfeillgarwch oedd mor bur a’r gwlithyn,
Yn llawn o galon, ac mor fwyn a deigryn
Ffyddlondeb a didwyhedd goreu’r byd,
Mewn hindda ac ystorm yr un o hyd;
“Rhaid oedd edmygu dy gymeriad gloew,
Rhaid oedd dy garn, a mawrhau dy enw.

Yn ol yr awn, i weled proffwyd ieuanc
Yn drin o’r bryn, a’r niwl o’i flaen yn dianc
Fe garai addysg fel y carai fywyd,
Ac ar el feusydd euraidd bu yn ddiwyd;
I’r bwrdd cyfnewid dygodd ei ddeg talent,
Heb feddwl fawr am gystudd, bedd, a mynwent.
Ymdrechodd i oresgyn anhawsderau,
Heb ofni y cyfyngaf byrth a’u rhwystrau
Ei amgyffrediad, a’i weithgarwch cyson,
Ai ysbryd cynnes daniai ysgolheigion.

Pe roddai dro i ysbryd y gorffennol
Am allwedd aur i goffrau y presennol;
(x164) Darllennai Virgil yn ei iaith ei hun,
Ac ymbleserai ar ei felys win;
Fe welodd ofid Orpheus uwch ei briod
Pan oedd yn llithro llethrau’r pwll diwaelod;
Y brudd olygfa rwygai ei deiniladau
Nes llifai dagrau calon dros ei ruddiau
Ac fel y llonnai ‘nghwmni y clasuron,
A hwythau yn creu Haf o fewn ei galon;
Bu Hegel iddo yn beledryn claer,
Ac un o’i gwmni hyd y nefol gaer.
‘Roedd Rhif a Mesur iddo yn gyfeillion,
A mynnodd holl fwynderau eu cyfrinion.
Deffroai ‘ngwydd anhawsder, ni orffwysai

Ar lwybrau uchel ar ei aden lydan
Fel eryr cryf y codai wrtho’i hunan;
Eangfawr uchelderau chwiliai ef,
A deuai’n ol â thrysor nef y nef.

Gweledydd ydoedd dremiai i’r dyfodol
I weld cyfanrwydd darnau y presennol.
Rhy brin oedd iaith, rhy fyrr oedd amser weithiau,
I roddi rhyddid i’w holl ddrychfeddyliau,
Pan safai’n broffwyd uwch cyfrinion anian,
Neu’n dilyn llwybrau dyfnion Dwyfol amcan,
Ei gariad atynt roddodd iddo allwedd
I gyfrinachau sanctaidd eu gwirionedd.
Fe godai weithiau i ddieithriol fyd -
Delfrydol a’i holl gyfareddol hud;
A chlywid sŵn cadwynau hen gredöau
Yn dryllio tinc rhai newydd ar y brigau;
A gwelid ef yn fynych dan lawryfau
Y Coleg wedi concro anhawsderau.

Llaw Rhagluniaeth aeth i’r Coleg
I’w gymeryd at ei waith,
Pan oedd gwawr dryloew addysg
Yn eiriannu bore’i daith;
(x165) Llais ysbrydol Carmel Fochriw
Glywodd yn y bore gwyn,
Ac fel cwmwl glas y nofiodd
Tua’r bryniau uchel hyn.
Ar y bryniau uchel torrai
Ei gawodau dros y wlad, -
Cymwynasau a meddyliau,
Nes mynd adref at ei Dad.
Cafodd weld yr uniad hwnnw
O dan goron llwyddiant mawr,
Eglwys Carmel yn ffrwythloni
Fel yr Haf dan wlith y wawr;
A thros ugain o flynyddoedd
Bu ei enaid yn y gwaith,
A gwynfydedd yr addoliad
Dorrai ar bob cam o’r daith.

Ceid sŵn cadernid, sicrwydd, a gwybodaeth
Ym mhregeth fawr y bachgen ieuanc odiaeth,
Ei barabl dorrai’n swynol ar ein clyw
Wrth alw’r byd yn nes at Dduw i fyw
Ei bregeth ydoedd gafod fawr o berlau,
A chyfoethogai fyd â’i ddywediadau
Disglaeriai’i enaid disglaer yn ei bregeth,
A’i grebwyll ydoedd gyda’r Groes yn gymhleth;
Ond pell oedd ef o guddio’r Groes â blodau,
Neu swyno enaid â pherseiniol eiriau;
Defnyddiai ef erwinder eitha’r Groes,
A thafod tân i ddifrifoli’i oes;
Fe wylai’n hidl wrth ddwevd gair “colledig”
Ar wely marw’r adyn du, pellennig:
Ac fel cymhellai yr afradlon ffol
A gwên i ddod i dŷ ei Dad yn ol:
Desgrifiai’r Groes “yn siarad iaith dynoliaeth,”
“A gwaed yr Oen yn nofio ei chenhadaeth;”
Ei rodiad oedd mor glir a glin a’r wawrddydd,
A syml fel bywyd bugail ar y mynydd.
(x166) Ni wyddai’i ysbryd ddim am falais erch,
Ei enaid a awgrymai Haf a serch.
Ar ymdaith i oleuni gwelai’r byd,
A’r holl ddyfodol iddo’n wyn i gyd;
Nid oedd rhandiroedd cysegredig gobaith
Byth iddo ef yn troi yn rhosydd diffaith.

Bu yn arweinydd addysg Gelligaer,
A huan yn ei nen a’i belydr claer;
Yng nghadair y Bwrdd Ysgol gwelwyd ef
A’i ben yn oleu iawn a’i fraich yn gref.
Uwchraddlol Lywydd y Gymanfa olau
A noddai yr eglwysi dros y bryniau;
Egwyddor a gweithrediad Annibyniaeth
A gafodd chwareu teg dan ei lywyddiaeth;
Gwrteithiai’r galon er ei gwneud i deimlo
Y gwirioneddau sanctaidd a’u hanwylo;
Agorai’r deall fel y deuai iddo
Bob bore syniad newydd i’w oleuo:
Mor glir ei lygad ac mor ddwys ei galon
I weled bywyd yn ei holl brydferthion;
‘Roedd sŵn cyfathrach natur yn ei fywyd,
A thant y bore yn ei barabl hyfryd.
Hedd y mynyddoedd ac unigrwydd natur
Fu iddo yn ysbrydiaeth ac yn gysur;
Fe garai encilfeydd y mynydd mawr
Pan fyddai o dan lif y sanctaidd wawr
‘Roedd bywyd iddo yn hawddgarwch dwyfol -
Pob ffurf yn dangos iddo ffaith ysbrydol;
Mor lawn o Dduw y gwelai ef y cread,
Ac fel diferyn bach o’r Dwyfol Gariad;
Ysbrydol neges oedd gan natur iddo,
Ae yntau ar ei daith yn ei hesbonio.

Os glas oedd anian, yr oedd niwl y Glyn
Yn duo pelydr ei freuddwydion gwyn;
Yn lle hoenusrwydd Haf, y nychdod blin,
Yn lle gwlith bore têg, anialwch crin.
(x167)
Mor anodd marw ar foreuddydd llon,
A gwaith y bywyd wedi llenwi’r fron.
Ymdrechol fu i gadw’r gelyn draw,
A llwyddai i ddod allan o bob braw;
A sionc y daeth i’r wyneb lawer gwaith,
A gado’r gelyn yn y dyfnder llaith;
A chefnai weithiau’n wrol ar y bedd,
A gwên diangfa’n amlwg ar ei wedd.
Nid ofni marw oedd, ond awydd byw
Defnyddiol fywyd pur i’w wlad a’i Dduw;
Ac nid oedd dychryn arno i gwrdd âg angau
Pan ydoedd sŵn marwolaeth ar ei glustiau.
Pan ddaeth yr awr, yn ymyl oer y bedd,
‘Roedd ef heb ddim petrusder ar ei wedd,
Fel sêr dan ymyl cwmwl yn disgleirio,
A dewrder Cristion ar ei ael yn fflamio.
Pan ydoedd gobaith eglwys yn diflannu
Dros drothwy bywyd, gobaith oes yn pylu,
Y corff yn oeri wrth fynd ‘nol i’r ddaear,
‘Roedd glesni bywyd ar ei enaid llachar.

(x168)

(+54) ADGYFODIAD CRIST
Yr Iesu yn y bedd! O ryfedd ddydd!
A llwydrew angeu ar ei sanctaidd rudd;
Distawrwydd dwfn deyrnasai drwy y nen,
A Seion dan ei chlwy’ ogwyddai’i phen;
Griddfanai’r awel yn yr Olew goed    
Uwchben y bedd na roddwyd dyn erioed;
Llesmeiriai’r haul, ac wylai’r graig yn llyn,
Wrth weld eu Crewr o dan glo y glyn;
Trwm oedd y maen a seliwyd ar y bedd,
A gwawdio bywyd fynnai durfin gledd;
‘Roedd angeu’n fud, a’i lygad ar y cloion,
A’r grechwen gynt yn bryder yn ei galon;
Adgofiai am yr Iesu ar ei hynt,
Yn siarad bywyd wrth y meirw gynt;
Amheuai fod Creawdwr môr a thir
I aros yn ei rwymau caeth yn hir;
Ysgydwad deilen barai iddo ofni
Fod cynnwrf yn y bedd yn siglo’r meini;
Yr unig sŵn oedd cellwair milwr anfad
Wrth wylio’r bedd, lle’r hunai’r Adgyfodiad;
Gan fwrw’i ogan ar y gwragedd hwythau
Oedd wrth y bedd yn torri eu calonnau.

Ond daeth y bore! Bore’r trydydd dydd,
I ddeffro’r Cadam o gadwynau’n rhydd;
Anwylaf fore o foreuau’r byd,
Gwawr drodd y Glyn yn oleu ar ei hyd;
Ar diroedd bywyd y tu hwnt i angau,
Saint ac angylion hwylient eu telynau;
Disgynnai’r cledd o law y milwr ffol;
A’r maen mewn dychryn giliodd yn ei ol
Mae’r Iesu’n fyw, a chyda’i braidd mewn hedd,
A seraff gwyn yn eistedd yn y bedd.
(x169) Mynyddoedd yr Olewydd a Libanon
A lawenychent mewn wybrenni gloewon;
O’r cyrrau pell ysbïai y clogwyni,
I weled Prynwr byd yn adgyfodi;
Ar ysgwydd y ddaeargryn codai’r creigiau,
I weled bywyd yn diddymu angau;
Y beddau fu am oesau o dan gloion
O barch i’r Iesu a ryddhaent eu meirwon;
Nerth bywyd anherfynol oedd yn cerdded
Yn anfarwoldeb drwy y bedd agored;
A Satan wedi gado’r maes yn glwyfus,
A’r Iesu’n fyw, yn Frenin gogoneddus;
Allweddau’r bedd sydd wrth ei wregys Ef,
A’i adgyfodiad ydyw porth y nef.

(+55) Y DARAN
Rhuad heriol yw’r daran, - o rym mawr,
Lle mae’r mellt  yn wefrdan;
Torredig floedd y trydan
O’r wybren dyrr obry’n dân.

Du awr i’r eangderau, – ac anian
Yn cwyno dan glwyfau;
Ac eilwaith yn rhoi golau
Ar hanes Iôr yn neshau.

(x170)
(+56) WYLOFUS GRI YR HYDREF
Wylofus gri yr Hydref.
O frig y goedwig wyw, 
Sydd fel angeuol ddolef
Yn torri ar fy nghlyw
Gofidus ddail y llwyni, 
Crynedig ynt i gyd;
A dyna yw eu stori, - 
“Yn gwywo mae y byd.”

Mi welais wanwyn ieuanc, 
A’i swyn yn gwella’r claf;
Mae hwnnw wedi dianc, 
A’i ddilyn wnaeth yr haf;
Ac felly yr wyf finnau,
Yn gwywo ar fy hynt;
Nid yw fy oes ond deilen
A chwythir gan y gwynt.

(x171)
(+57) BEDD FY NGENETH FACH
Eistedd ar y beddrod unig
Yma’r wyf dan frigau’r coed;
Yn galaru yn siomedig
Am fy ngeneth bum mlwydd oed;
Uwch fy mhen mae’r ser yn gwenu
Heno’n ddedwydd ac yn llon;
Minnau yma yn hiraethu
Am yr eneth anwyl hon.


Clywaf sŵn telynau rhadlon
Draw yn canu yn y dref;
Tra’r wyf finnau’n torri ‘nghalon
Am fy ngeneth aeth i’r nef;
A chysgodion nos y ddaear
Yn ymledu o bob tu,
Fel i ddangos lliw fy ngalar,
Am fy ngeneth fechan, gu.

Mae adgofion yn dod heibio
Gyda’r bore, gyda’r nos,
Fel nas gallaf byth anghofio
Fy ngenethig fechan, dlos;
Er fod blwyddyn wedi cefnu
Er y dydd y collais hi,
Nid yw dagrau’n blino gwlychu
Distaw fedd f’anwylyd i.

Mynnych byddaf eto’n teimlo
Fel pe bae fy ngeneth lon
Yn fy ymyl, ac yn rhodio
Law yn llaw ar ael y fron;
Credaf weithiau nad oedd angau
Iddi hi ond rhyddid llawn,
I gael dod yn nes i minnau,
Pan yn unig fore a nawn.

(x172)
Crwydro mae fy meddwl unig
Dros y terfyn yn ei gur,
I’r dyfodol pell, cuddiedig,
Yn rhodfeydd meddyliau pur;
Lle cawn eto cyd-gyfarfod,
Lle cawn eto rodio’n rhydd,
Yn ysbrydion glân di-bechod,
Ar ororau gwlad y dydd.

Mae fy nghalon yn hiraethu
Weithiau, am ei chael yn ol;
Er fod y meddyliau hynny
Yn ddaearol ac yn ffôl;
A phryd arall ‘rwyf yn trydar
Am y pell gyfriniol fyd,
Wedi cefnu ar y ddaear,
Wedi colli’r dagrau i gyd.

Ysbryd gwrdd âg ysbryd golau,
Wedi gado’r cystudd mawr;
I gyfannu hen delynau
Dorrodd angau ar y llawr;
Melys iawn i minnau yno
Fydd cyd-gwrdd yn deulu crwn;
Lle na ddaw un corwynt heibio,
Fel y corwynt cyntaf hwn.

(x173)
(+58) FY MHLENTYN
Boed tynged yn garedig
I ti, fy mhlentyn Ilon
Heb ysbryd cystuddiedig
A’i bigyn dan dy fron
Pob carreg filltir fyddo
Yn gwella’r ffordd i ti;
Pob fory’n decach eto
Na ddoe, fy mhlentyn cu.

Dy fywyd fyddo’n esgyn
Yn esmwyth tua’r nen;
A neithdar gras yn disgyn
Yn gyson ar dy ben ;
Dy lwybrau fyddo’n union,
Draw i’r gorwelion clir ;
Lle’n crwydro bu gobeithion
Dy dad am dymor hir.

Os gwibia cwmwl heibio,
Drwy lesni’th wybren gu,
Doed huan i oreuro
Ymylau’r cwmwl du;
Nes daw y ddedwydd orig,
Y cei o dyrau ffydd
Yr olwg wynfydedig
Ar fryniau gwlad y dydd.
 
(x174)
(+59) HWIANGERDD MAIR

(Efelychiad).

O! Cwsg, fy mebyn anwyl,
Yn dawel ar fy mron;
Mae llenni’r nos yn dod i lawr
I guddio’r ddaear hon
Ddaearol nos - cysgodau
O brudd-der arni sydd;
Ond nid yw’n nos i ti, fy mab,
Ond rhyw dragwyddol ddydd.

Cusanaf di, f’anwylyd,
Mi’th wasgaf at fy mron;
Pe meddwn, rhoddwn fydoedd-fil
Er mwyn dy gadw’n llon;
Ml glywaf ddofn ochenaid
Yn torri dros dy fin;
Mae hyn yn torri calon mam,
Cyn gweled dyddiau blin.

Arhosaf i dy wylio
Fy sanctaidd febyn tlws,
A daw y lloer a’r ser cyn hir
I fewn drwy holltau’r drws
Mi wn yr adnabyddant
Dy lais fel Dwyfol Aer;
A llawenhant os gallant hwy
Dy lonni, febyn claer.

Cei weled eu llwyd olau
Yn chwareu gylch dy gryd;
Cânt hwythau hefyd weld yr Hwn
Fu’n crogi heuliau’r byd;
(x175) Ac yma daw angylion
Yn syth o wyddfod Duw;
Gan synnu’n fawr dy weled di
Fel un yn dechreu byw.

Ai lliw gofidiau bywyd
A welaf ar dy rudd?
Ni cha’r blynyddoedd sydd ymlaen
Dy gadw heno’n brudd;
Anfonaf weddi drosot
I’r nefoedd at dy Dad;
Ac enfyn yntau engyl fyrdd
I’th noddi, febyn mâd.

Os yw dy raddiau’n welwon -
Dy ddynol ruddiau di,
Mae rhyw ogoniant dwyfol, glir,
Tu cefn yr oll i mi;
O! Frenin y brenhinoedd,
Dwed rywbeth wrth dy fam,
Fu’n gyfrwng i roi dynol wisg
I’th ysbryd pur, di-nam.

Do, clywais dy ochenaid
Ryw noson yn fy nghôl;
Ai tòn o hiraeth ydoedd hi
Am fynd i’r nef yn ol?
Neu am gael gweled tyrfa
Yn esgyn yn ei bri,
Yn iach o wlad y cystudd mawr,
Oedd dy ochenaid di?

Seraffiaid sy’n y stafell
Yn plygu ger dy fron;
Mae’r nef a’i llygad arnat ti,
O! cwsg, fy mebyn llon;

(x176) Os yw yn gweled newyn,
A brad, neu goron ddrain,
Mae’n gweled hefyd orsedd aur
I ti, ar ol y rhain.

Beth allaf wneud i’th foddio
Am ennyd, gyda mi,
Cyn mynd yn ol i dŷ  dy Dad -
Dy hen gynefin di?
Mae’r nef ar dân yn disgwyl
Dy weld yn dod yn ol;
O! cwsg, fy mebyn, heno’n fwyn,
Heb bryder yn fy nghôl.

(x177)

(+60) NOS A DYDD

Pan fo’r nos yn crwydro
Dros y bryniau draw;
Pan fo’r blodau’n huno
Yn y glyn islaw;
Collir gwrid y cymyl
Yn y gorwel prudd,
Fel cariadau’n ymyl
Gwely marw’r dydd.
Melys yw yr heddwch,
Hyfryd yw’r tawelwch;
Ac fe gân eos lân
Yn y tew dywyllwch.

Pan fo ffydd a gobaith
Yr afradlon blin,
Wedi dianc ymaith
Dros y ddistaw ffin,
Fe ddaw goleu newydd
O nefolaidd wawr,
I brydferthu bröydd
Anheilyngdod mawr.
Cenir pêr garolau
Cariad, gan galonnau
Fu yn fud - gwyn eu byd,
Yn y newydd olau.

Pan fo’r nos yn cilio
Dros y bryniau pell,
Natur sydd yn deffro
Gydag ysbryd gwell;
Dringa’r haul yn araf
I’w orseddfa dêr;
A’i belydrau gloewaf
Yn diffoddi’r ser.
Ar y pell glogwyni
Dawnsia y goleuni;
Bywyd sydd, gyda’r dydd,
Fel y ne’n ymlonni.


(x178)
(+61) GOBAITH Y CRISTION

Y Cristion bia gobaith yn ei holl eangder,
A’i ddilyn wna i gysegr sancteiddiolaf pleser;
Mae “gobaith da trwy ras” ynghadw yn y galon
Heb siom i daflu cysgod dros ei addewidion;
Pa beth yw gwawd y byd a gorthrwm ei gadwynau?
Mae ganddo’r “gobaith da,” fe chwardd yn wyneb angau
Pan fo cyfeillion dyn yn boddi’n nagrau gofid,
A chysgod angeu yn ymgau am nawn ei fywyd;
A phob llawenydd yn rhy wan i loewi’i feddwl,
Fe draidd pelydrau gobaith drwy y duaf gwmwl;
Os bydd yn unig ar lan afon yr Iorddonen,
Fe ddeil ei ben i’r lan hyd borth y nef yn llawen
Ar drothwy oer y bedd mewn t’w’llwch a dalhneb,
Ac angeu creulon yn hyrdremu yn ei wyneb,
Cyfeiria gobaith ei olygon dros y beddrod;

At Un orchfygodd angeu gyda marwol ddymod;
Fe blanna’i flodau nefol ar ddiffaethwch bywyd,
A pheraroglant ar ei ffordd i wlad y gwynfyd;
Fe ddeil y golud gwell o flaen y pererinion,
A ffydd a chariad yw y pennaf o’i gyfeillion;
Ei lais i’r enaid blin yw, - “Dring i fyny yma,”
Ac ar ei addewidion byth ni chywilyddia;
Dos rhagot, Gristion, drwy y duaf orthrymderau,
Mae hinon well ymlaen, a haul ar ben y bryniau
Er cryfed yw y gwynt, er garwed yw y cefnfor,
Mewn craig tu hwnt i’r llen y bwri di dy angor;
Cei ganu buddugoliaeth ar dy holl flinderau,
A gweld dy obaith gwyn yn troi’n sylweddau.


(x179)
(+62) ANNIE’N UGAIN OED

Annie anwyl, ti gyrhaeddaist
Ben dy flwydd, - dy ugain oed;
Gwenodd dy wanwynol fywyd,
Fel y lili yn y coed;
Gwelais dy gerddediad allan,
Haf a gaeaf, hyd yn hyn;
Llenwaist tithau fy ngobeithion,
Gyda bore hawddgar gwyn.

Cerddaist lwybrau glân, dihalog,
Nes cyrhaeddaist ugain oed;
Ac fe wyliaist rhag rhoi deddfau
Glin y nef o dan dy droed -
Tyfaist yn winwydden iraidd,
Ar làn afon dyfroedd byw;
O! fy ngeneth, aros yma,
Yn y winllan gyda Duw.

Uchel iawn ar fryn gwybodaeth,
Penderfynaist roi dy droed
A chyrhaeddaist yr Athrofa
Ar ben blwydd dy ddeunaw oed;
Amlwg eto fo dy gynnydd,
Fel yr haul ar ael y nen;
A’th rinweddau byth yn addurn
I rianedd Gwalia Wen.


(x18)
(+63) TANGNEFEDD

O! anhafal dangnefedd,
Bywiol dir, a blodeu hedd
Yn ei lanw o lonniant, heb oer lid,
Na haint o ofid i flino’u tyfiant.

Cyn i angel uchelwyn, - gyd siarad
Gyda seraff claerwyn;
Na byw gerdd un cerub gwyn,
Yn Nuw’r oedd ei ddwfn wreiddyn.

Gwynfydedig nwyf Duwdod, - yw erioed,
Hyfrydwch ei hanfod;
Nwyf iach y Wynfa uchod,
Heb nudd na bai ynddi’n bod.

Aerod y nef ororau, - a gynnar
Ganent yn eu hwyliau;
Ond diamgen elfennau - tangnefedd
Oedd yn hudlonedd i’w hen delynau.

(x181)
(+64) NOS GWYL DEWI

Mi ganaf heno’n llawen,
A gwladgar fydd y tant;
A gwisgaf y genhinen,
I gofio Dewi Sant;
Gwarcheidiol Sant y cyfnos,
Yn nyddiau Cymru Fu;
A’i ysbryd sydd yn aros
Yng nghalon Cymru sy.

Rhinweddau oedd yn tyfu
Fel meillion dan ei droed;
A ninnau sy’n ei garu
Mor anwyl ag erioed;
Mae cân gan y clogwyni,
A chfin gan ffrwd y nant,
A chân gan delyn Cymru
O hyd i Ddewi Sant.


(x182)
(+65) YR AMAETHWR

Mae’r hwsmon yn prysur aredig ar y cae,
A dàl yn ddi-flin wrth ei aradr y mae;
Ac yna’n yr awel yn gwasgar yr hâd,
A gobaith yn hau yn ei fynwes fwynhad.

Daw allan o’r oged aniddan cyn hir,
I gau ar yr hâd, ac i lyfnu tir;
A chwmwl a chawod, ac awel a haul,
Ddaw heibio a bendith i’w lafur di-draul.

Daw’r egin i fyny yn wyrdd ac yn llaes,
A balchder y cloddiau yw gwylio y maes
Fe dŷ f y corsenau yn dalach o hyd,
Ac yno yn llawen daw Rhegen yr Yd.

Daeth dyddiau’r cynhaeaf, a phoethodd yr hin,
Addfedodd y grawn, ar y cryman rhoed mîn;
Ac yntau’r amaethwr mor llawen a’r dydd,
Yn medi a rhwymo’r ysgubau a fydd.

Fe gariwyd y cnwd, ac mae’r ‘sgubor yn llawn,
A phêr yn yr ydlan yw arogl y grawn;
Ond nid yw’r amaethwr yn segur ei fyd,
Ei ffust yn y man fydd yn dyrnu yr ŷ d.

Mae bywyd i gyd fel yr hâd ar y cae,
Os hauwn ddrygioni, cawn fedi ei wae;
Os hauwn i’r ysbryd, cawn fedi mewn hedd,
A byw ar y cynnyrch tu arall i’r bedd.

(x183)
(+66) Y BEIBL YN Y CARCHAR

Y carchar du! Lle mae trueni’n aros,
Lle na ddaw serch, na llonder byd yn agos
Y lle mae poen, anobaith, ing, a gwarth,
Yn ymgartrefu ar ei lwydaidd barth;
‘Roedd blin garcharor rhwng ei haearn ddorau
Yn dwyn trafferthus gyflog ei droseddau;
Yr hen freuddwydion melys lanwai’i galon,
Oedd wedi rhoddi lle i erch ysbrydion;
Ond yng ngoleuni gwan y stafell honno
Y gwelodd Lyfr Duw, neshaodd ato;
‘Roedd llwydni’r carchar ar ei holl ddalennau,
A thrwch o laid blynyddoedd ar ei gloriau;
Agorodd ef, a rhoes ei galon lam,
Adnabu ef fel llyfr hoff ei fam;
Y llyfr a roddai iddi ei chysuron,
A nef ddiddanwch yn ei holl drallodion;
Cusanodd ef o barch i’w fam a’i gartref,
A’i ryddid gynt, cyn colli hawl i’w dangnef;
Ac yno, hen adnodau hoff ei fam
Gynheuodd ei serchiadau oer yn fflam;
A’r truan yn y carchar caeth a blin,
A gafodd ddafnau o nefolaidd rin;
O Feibl cu! lle bynnag y bydd ef,
I’r truenusaf un bydd yno nef;
Calonnau duon deiliaid y carchardy,
O dan ei ddwyfol rin sydd yn ymwynnu.

 

(x184)
(+67) Y FRWYDR

Mae’r udgorn yn galw’r byddinoedd ynghyd,
Nes tanio calonnau y milwyr i gyd;
A chlywir gweryriad y meirch yn y gwynt,
A’u gwaed yn ymboethi am gychwyn i’r hynt;
Aroglant gyflafan, a’u llygaid yn fflam,
Gan brancio’n aflonydd, yn nwyfus eu llam;
Mae’r megnyl yn deffro, a thanllyd eu llef,
A thwrf eu hergydion yn esgyn i’r nef;
Tywalltant farwolaeth ar rengoedd y gâd,
A mellt o gleddyfau oleuant y wlad;
Dros wyneb y maes y mae angeu yn awr
Yn medi cynhaeaf y rhyfel i fawr.

Distawodd twrf y megnyl;
Y frwydr ddaeth i ben;
A chyfyd mŵg fel cwmwl barn,
Yn dorchau tua’r nen;

Ac O! golygfa arall
A egyr ger ein bron;
Ofnadwy fynwent yw y maes
Ar ol y frwydr hon.

Arswydol Aceldama,
Yn fraw i galon byd;
Dyngarwch welir ar y maes,
A’i liniau’n curo ‘nghyd;
Mae’r cedyrn yn garneddau
Ar hyd y glaswellt ir;
A chysgod du angylion barn
Yn aros ar y tir.

Ochenaid ar ochenaid
A ddisgyn ar ein clyw;
Fel saethau yn trywanu
Y galon hyd y byw;
.

(x185)

Mae’r meirw a’r clwyfedig,
Blith draphlith yma thraw,
A’r marchog wedi syrthio’n fud,
A’i gleddyf yn ei law.

Mae gweld wynebau’n glasu,
A gwrando’u llefau prudd,
Yn gwneud i’r galon wedi’r storm
Ireiddio llawer grudd;
Dynoliaeth wedi’r difrod
Ar fywyd cryf a wnaed,
Sydd yno fel colomen wèn
Ar geulan môr o waed.

O Dduw! cyflawna’n fuan
Dy hen addewid wir,
Pan droir y cledd yn fladur,
I fedi grawn y tir.
Darfydded sôn am ryfel,
A’i ddychrynfeydd i gyd,
A heddwch fel yr afon
Fo’n llifo dros y byd

 

(x186)
(+68) Y DYN MEDDW :

YN MEDDW.
Daeth bachgen i fyny o’r wlad,
I ganol estroniaid di-rinwedd;

Gadawodd hen aelwyd ei dad,

A gwerthodd ei hun i oferedd;

Fe flysiodd wirodydd a gwin,

Anghofiodd gynhorion rhieni;

A chredodd mai arwydd o ddyn
Oedd dilyn cyfeddach a meddwi.


Cyn hir, fe feddyliodd ei fod
Yn berchen ar ddigon o arian;
Mewn ymffrost ysgydwai ei gôd,
Ynghanol cyfeillion y cwpan;
Ygecrai, a churai y bwrdd,
Yn flaenor y berw a’r dwndwr,

A heriai y cryfaf i’w gwrdd,

A sefyll o’i flaen fel ymladdwr.


Gan fygwth, a rhuo fel cawr,
Dechreuodd ei ffordd tuag adre,
Ond buan fe’i taflwyd i lawr -,
Gan gi oedd o’i gwmpas yn chware;
Ac yno y bu ar ei gefn,
Yn treiglo’n y llwch fel abwydyn;
Yn ceisio drachefn a thrachefn
Ymsythu, ond methu wnai’r meddwyn.

Fe gysgodd ynghanol y llaid,
Ac heibio daeth rhywun i’w godi;
A safodd yn hurt ar ei draed,
Gan ddweyd fod y tai wedi meddwi;
A’r dynion a’u pennau i lawr
A’r heol fel deilen yn siglo;
A phopeth yn fychan a mawr
Fel cyflym gerbydau yn pasio.

 

(x187)
Wrth gychwyn i lawr drwy y dref,
Tarawodd wrth lamp-post yn sydyn;
A rhaid oedd cael ymladd âg ef,
A gwneud iddo ddianc mewn dychryn;
Ond pan oedd yn ymladd â’r post,
Daeth heibio heddgeidwad i’w sobri;
A thalu “five shilling and cost,”
Neu garchar, fu diwedd y meddwi.

(+69) CAWS CAERPHILI
Caws Caerphih, bri ein broydd, - a chaws
Iachusaf y gwledydd;
Caws yr oes, caws yw a rydd
Dwf i’n byd - hufen bwydydd.

(x188)
(+70) BUGAIL GLAN Y LLYN

Yng Nghwm Garant Sawdde yr oesau o’r blaen,
Y gwelir gweddillion hen furddyn ar daen;
Yn cadw cyfrinion yr hen Fynydd Du,
A chwedlau’r bugeiliaid, sy’n anwyl i ni.

Mae’r blodau o’i amgylch mor llon ag erioed,
A’r gornant wrth basio yn golchi ei droed;
A cherddlu y goedwig yn dod ar eu hynt
I ganu’u halawon yn union fel cynt.

Fe welodd ganrifoedd yn pasio mewn hedd,
A theulu ‘rol teulu yn disgyn i’r bedd;
A’r plant fu yn chwareu ar ochr y bryn
A welodd mewn henaint yn disgyn i’r glyn.

Yn trigo yn y tyddyn
Yn nyddiau Cymru Fu,
Bu Dafydd Wyn, y bugail dewr,
Ar braidd y Mynydd Du;
Bu yno lawer bugail
Yr oesau gynt mewn hedd,
Na welir dim o’u henwau mwy
Ond ar y garreg fedd.

Ond erys enw Dafydd
Yn chwedlau’r Mynydd Du;
Tra fyddo traddodiadau’n son
Am fywyd Cymru Fu;
Nid am fod dim yn Nafydd
Yn swyn i’r dyddiau hyn,
Ond am ei fod a’i enw ‘nglŷ n
Ag enw Ifan Wyn.

 (x189)

Yn siriol yn v tyddyn
‘Roedd gwraig a dau o blant,
Pan fyddai’r tad yn hwyr yn dod
Yn ol i làn y nant;
‘Roedd Gwen yn eneth wridgoch,
O gwmpas deuddeg oed;
Ac Ifan flwydd neu ddwy yu hŷ n,
Fel ewig ar ei droed.

Yr oedd y plant yn ddedwydd
Ar fron y Mynydd mawr;
Yn gorffwys gyda haul y dydd,
A chodi gyda’r wawr;
Ar uwd a llaeth a llymru,
A bara ceirch a haidd,
Fe dyfodd Gwen ac Ifan Wyn
Yn enwog gyda’r praidd.

Cydganent gerddi Cymru
Wrth fynd o dwyn i dwyn,
I wykio’r defaid ar y Foel,
A chwareu gyda’r ŵyn;
Ymhlith yr hen fugeiliaid
Ar hyd y bannau gawd,
Ni fagwyd yn unigedd bro
Anwylach chwaer a brawd.

Ond siriol yw nawn cymylog
Ar un o greigiau’r Fan,
A’r ddau yn gwrando sŵn y llyn
Yn torri ar y lan, -
Wrth gyrchu tlws flodeuyn,
Fe gollodd Gwen ei throed,
A syrthiodd dros y clogwyn certh,
Yn eneth ddeuddeg oed.
 
(x190)

Am fisoedd cyrchai Ifan,
A’i galon yn ei law,
I’r fan lle cafwyd corff ei chwaer
Wrth droed y clogwyn draw,
Eisteddai yno’n unig
Yn swp o ddagrau i gyd
A chredai fod y Bannau serth
Yn nes i arall fyd.

‘Roedd Ywen yn y fynwent,
Mae’r ceubren yno’n awr;
Ac wrth ei droed y gorwedd Gwen
Hyd ddydd y codi mawr;
Fe dorrodd mam ei chalon,
A chladdwyd Dafydd Wyn;
Ond cafodd Ifan fyw yn hir
I gofio brâd y Llyn.

Fe fagwyd yn y tyddyn
Fugeiliaid lawer iawn;
Ac ar eu bywyd gwledig hwy
Aroglau grug a mawn;
Os claddwyd cenedlaethau
Er pan ddigwyddodd hyn,
Mae ar y Mynydd hyd yn awr
Hiliogaeth Ifan Wyn.

 

(x191)
(+71) Y LLONGDDRYLLIAD

Mae’r llong yn cychwyn ar ei thaith,
A beiddgar yw ei golwg hi;
Wyneba ar y cefnfor maith,
Heb ofni gwynt na brigwyn li;
Mae’r cadben yn brofedig un,
Yn gwneud i bryder gilio’i ffwrdd,
A r teithwyr mewn dymunol hin
Yn ymbleseru ar y bwrdd.

Aeth dyddiau heibio’n llwythog o fwynhad,
Heb galon ddifyr yn breuddwydio brâd;
A’r llong a’i hwyliau yn yr awel lon,
Yn symud fel brenhines dros donn;
Ond buan gwelwyd yn y gorwel blin
Fod ysbryd mawr y storom ar ddihun
Cyfodai’r gwynt a’i fflangell yn ei law,
A duai glennydd yr ynysoedd draw;
Ysgubai’r corwynt drwy y gwagle erchyll,
A’r eigion gwyllt yn griddfan dan ei ffrewyll;
Sŵn gwae a glywid yn y daran uchel,
Ac angeu’n marchog ar y mellt i’r rhyfel
I nerth y storm, edafedd yw’r hwylbrennau,
I lid y dyfnder, gwellt yw yr angorau;
O gylch y llong mae’r cadau wedi cwrdd,
A llawer moryn creulon ar y bwrdd;
Mae’r badau’n chwilfriw ar y berw donnau,
A’r llong yn nesu’n gyflym at y creigiau
Mae’n suddo! O! mae’n suddo i’r dyfnderoedd,
A’r môr yn bwrw arni ei fynyddoedd;
Un waedd a glywid dros y bwrdd i gyd,
Y waedd na chlywir ond wrth ado’r byd;
A llawer calon gofiodd yn ei briw,
Am eang fôr di-storm trugaredd Duw.

(x192)
Parod oedd profedig forwyr
Ar y làn i estyn llaw,
I waredu’r dioddefwyr
Daflwyd ar y creigiau draw;
Galwyd y Bywydfad allan,
Er cynddaredd gwynt a môr;
Tra’r oedd llawer gweddi’n hedfan
At orseddfainc wèn yr Iôr.

Er i fin y storom arwa’
Fedi cnwd y llong i lawr,
Mynnai y Bywydfad loffa,
Gweddill y gyflafan fawr;
Wele’r cwch yn ol yn dychwel
Gyda’i faich, o donn i donn
Tra mae’n esgyn yn yr awel
Fawl i’r nef o lawer bron.

 

(x193)
(+72) ADDA’N YR ARDD

Yw wael heb wenau heulwen, - yngan wyf
Am dangnefedd Eden;
Yn yr ardd a’i dengar wèn,
Hwn hudolai bob dalen.

Yno Adda mewn heddwch, - a gariai
Goron o brydferthwch;
Gardd fore gwir ddifyrrwch, - a bywyd
Holl nwydd ei gweryd yn llawn hawddgarwch.

Gardd tad yn ei gariad gwyn,
Gardd haf i gwrdd a’i ofyn
Ar hyd fywiol rodfäoedd,
Yno dan awdurdod oedd
Yn rhodio’i faes hyfryd fel
Ym mraich ei Dduw mor uchel;
Aer awenfawr i wynfyd,
A’n tirion ben, teyrn y byd.

Llywiawdwr holl ehediaid - y nef oedd,
Yn ei faes bendigaid;
Nwyf hwylus anifeiliaid
I aer y fro’n gwyro gaid.

Cartref i bur dangnefedd - oedd yr ardd,
Yn ddrych o wynfydedd;
Ond drwy ammwyll dwyll di hedd,
Deuai’n weryd anwiredd.

Ond er i’r sal ddialydd
Ddwyn angau i gangau’r gwydd,
Mynnodd Iôr i mi’n ddi wall,
Dynerach Eden arall
.

 
(x194)
(+73) Y MYNYDD DU
Mor felys yw adgofion
Am hen rodfevdd Y Wlad;
A bywyd di-brideron
Yn llawn o bob mwynhad;
Er tloted oedd y tyddyn,
Angylion ynddo fu
Mi glywaf sŵn eu hedyn
Hyd heddyw yn y dyffryn,
Wrth droed y Mynydd Du.

Mi godwn gyda’r hedydd
Ar doriad glâs y wawr;
I ddringo dros y creigydd,
I ben y mynydd mawr;
Nis gallaf byth anghofio
Hen draddodiadau lu,
A gyfarfyddais yno
Pan oeddwn yn bugeilio
Ar fron y Mynydd Du.

Mae llynoedd yr encilion
Yn canu’n bêr o hyd,
A bendith yr awelon
Yn gwefla calon byd;
Y neb a garo chwedlau
Rhagoraf Gwlaia gu,
Esgyned gyda’r wawrddydd
I sŵn y llynau llonydd
Ar ben y Mynydd Du.

Pa le mae’r hen fugeiliaid
Oedd yno’r dyddiau gynt,
Yn dilyn llwybrau’r defaid
A’u chwiban yn y gwynt?
(x195) Mae hiraeth ar fy nghalon
Am lawer wyneb cu;
Preswylwyr yr encilion,
A’u graddiau fel y meillion
Ar fannau’r Mynydd Du.

Diaddum yw’r lluestai,
A rhedyn yw eu tô;
Lle bu Meddygon Myddfai
Yn aros lawer tro
Cyfrinion y pellteroedd
A ddysgant o bob tu,
A thaflant o’r cyn oesoedd
Eu cysgod ar y llynnoedd
Ar ben y Mynydd Du.

(x196)
(+74) PLESER

Felysaf air; beth a ddywedaf ydyw?
Ai balm y nef ar farwol glwy
dynolryw?
Neu ffynnon loew yn y crasdir crm
I dorri syched yr ymdeithydd blin
Neu rywbeth o’r tu allan, swynol, melys,
Wna ar y meddwl argraffiadau
boddus,

Yn disgyn, drwy y myfyrdodau’n hudol

Gynghanedd fyw - â dymuniadau mewnol?
Mae’n dwyn adgofion am foreuol wynfyd,
A’r tant a gollwyd rhydd yn nhelyn bywyd.

Mor hyfryd i bererin ar ei yrfa
Yw rhinwedd hwn yn ymyl dyfroedd Marah;
Lle nad yw’r ffordd yn gwybod am wyrddlesni,
A’r anial diffaeth yn y gwres yn llosgi;
Mae’n llonni bywyd mewn siomedig fyd,
A llawer Ismael geidw’n fyw o hyd.


Mae ystyr yn yr hwn y down i weled
Gofidiau blinion yn bleserau addfed;
Marwolaeth gaeaf a gynyrcha wanwyn,
Ac adgyfodiad haf sydd yn ei ddilyn;
Er hyn i gyd, mor anodd yw cysoni
Anghyfartaledd pleser a thrueni;
Prin ydyw cysur, ond mor fawr y trallod,
Am ddafn o bleser, fe geir gwae yn gawod;
Pa fodd y mae cyn lleied o bleserau
Ym myd y Duw sy’n ffynnon pob gwynfydau?
Bodolaeth poen a gwyd o ddiffyg dyn,
A gofid sydd wrth bechod byth ynglŷ n;
Ni fuasai poen i natur yn ddyrwygol,
Pe daliai’n bur, dan wres y cariad dwyfol;

Ac weithiau, eto, pan drywenir calon
Nid yw yn teimlo mîn yr ergyd creulon
Merthyron Iesu sydd yn mynd drwy fflamau
Y stanc ei hun, a’r poenau yn bleserau.

 

(x197)

Ar eang faes gwybodaeth y mae pleser
Yn ymhyfrydu ar ei edyn tyner;
A lle bo mintai hardd o egwyddorion,
Bydd yno fintai arall o angylion;
Ble bo gweithredoedd da y dyn yn heulo,
Bydd colomenod gwynion pleser yno.

Mae addewidion Duw fel Pren y Bywyd,
Bob mis yn dwyn ei ffrwyth yn gnydau hyfryd;
Pleserau ar y daith i’r pererinion,
Sy’n addfed fyth ar frigau’r addewidion.

Y gân a gollwyd gafwyd mewn calonnau,
A chenir hi nes boddi’r ocheneidiau;
Os mud fu’r delyn heb ei cherddi diddan,
Ac os ar helyg barn y bu yn hongian,
Fe ddaeth yn ol i wneud y prudd yn llawen, -
Pob sain a gollwyd dan y pren yn Eden
A ddaeth yn ol ar delyn “Adda’r Ail,”
Pereiddiach na’r gân gollwyd rhwng y dail;
Y felys gân a ddaw i afon angau,
I foddi’r ddolef olaf rhwng y tonnau
Nefolaidd bleser, nes im’ groesi’r lli
I’th wlad dy hun, O! aros gyda mi.

(x198)
(+75) BARNAU DUW

Y dylif ar fyd o waeledd - dorrodd
Am flinderus gamwedd;
Rhuai’r môr ar amhuredd,
Ac wele farn yn cloi’i fedd.

Gomoriaid am gamwri - dynnodd dân
O wydd Duw i’w llosgi;
Deifiol yw difrodol fri
Daroganwyr drygioni.

Anhwylus feibion Eli, - bu olion
Belial ar eu gwyrni;
Gwehilion di-ddaioni,
Eu difa raid i fy Rhi.

I nawn meirwon amharod, - daw gwylliaid
O gellwair â phechod;
Am farnau Duw, am fraw’n dod,
Rhybudd hir yw bedd Herod.

Iscariot yn was cerydd, - ddiraddiodd
Ruddiau ei Gynhalydd;
Bwrw i dân heb wawr dydd
Geir o wawdio Gwaredydd.

Tra’n sŵn tarannau Seina, - ei ddu frig
Rydd fraw ar y dyrfa;
Ond dwg Iôn fendithion da
I feirwon o Galfaria.

 

(x199)
(+76) TANYBRYN

(Miss M. Davies, Tonyrefail.)

Maggie Davies a ddiangodd
Pan yn ddwy ar bymtheg oed;
Pan oedd gwlith y bore’n dechreu
Teimlo pwys ei hysgafn droed;
Pan oedd pwyntyl gwanwyn bywyd
Yn rhoi tlysni ar ei grudd,
Fe ddaeth chwaon oer marwolaeth
I roi’r fun mewn bedd ynghudd.

Angeu creulon, pam y torraist
Lili oedd mor bêr ei awyn,
Wrth ymagor yn y bore
O fewn gardd dynoliaeth fwyn?
O Danybryn fe gipiaist ymaith
Rian anwyl i oer fedd;
Chwerwaist gwpan teulu hynaws,
Taenaist brudd-der dros eu gwedd.

Ei marwnad a eneiniaf
Gyda dagrau calon brudd;
Fy mhin wlychaf yn y ffrydiau
Dreiglant heddyw dros fy ngrudd;
Ond nis gellir rhoi desgrifiad
O’i holl riniau yn y gân;
Dim ond rhodio yn ei chwmni
A ddanghosai’i buchedd lân.

Mae’n hyfrydwch dilyn camrau
Hon o’i mebyd hyd ei bedd;
Canu ffarwel y fan honno,
Wna im’ wylo yn ddihedd;
Yr oedd pawb yn hoff o’i chwmni
Tra fu yma yn y byd;
Caredigrwydd a lledneisrwydd
Welwyd ynddi ar bob pryd.

 

(x200)

Yn y byd pan ymddanghosodd,
Fel rhyw estron fechan, gu,
‘Roedd delweddau purdeb nefol
Yn ei thremiad siriol hi;
Tad a mam oedd yn ei gwylio
Yn bryderus ddydd a nos,
A dymuno am ddyfodol
Maith a gwyn i’r eneth dlos.

Magent hi yn anwyl, anwyl,

Fel rhodd ferth o ddwylaw Duw;
Ac fe lanwyd eu serchiadau

A rhinweddau’r eneth wiw;

Gellid meddwl fod perffeithrwydd

Yn ei chalon, dyner, iach,

Ac na chafodd pechod afael
Ar ddynoliaeth Maggie fach.


Mewn sidanaidd wisg wyryfol
Treuliodd hi ei hoes i ben;
Aeth a buchedd heb lychwino
I ddihalog fro y nen ;
Plentyn anwyl Anian ydoedd
Yn ei chwmni byddai byw:
Hoffai rodio’r caeau gleision,
I fwynhau eu gwenau gwiw.

Hoffai gael gorffwysdra dawel
Rhwng y blodau yn yr ardd;
I gael gweld gogoniant natur
Yn y rhos a’r lili hardd;

Fel y lili sy’n eiriannu’r

Blodau siriol wrth y drws,
Byddai Maggie yn eiriannu
‘Mhlith yr holl wyryfon tlws.

Er ei bod yn hoff o natur,
Meddai amgyffredion mawr;

(x201) Elai heibio tlysni’r blodau
At Greawdwr nef a llawr
Bron yr Ysgol Sul a gafodd,
Ac fe’i hoffodd hyd ei bedd;
Gwelai yn ei haddysg nefol
Wlad o wynfyd pur a hedd.

Gyda’r hen athrofa nefol
Nid oedd dim ddiffoddai’i sêl;
Diwyd fyddai fel gwenynen,
Ar y blodau’n casglu mêl;
O! mor brydferth ydoedd gweled
Un o’i dysg a’i chyfoeth hi,
Yn yr Ysgol gyda’r tlodion
Yn cydrodio llwybrau bri.

Tarawiadol oedd ei gweled
 Ymysg plant yr Ysgol hon,
Gyda’i melyn wallt modrwyog,
Gyda llygaid gleision llon;
Nid oedd cyfoeth a sefyllfa
Yn fur rhyngddi hi a’r tlawd
Fe gyfrifai’r plentyn tlotaf
Yn yr Ysgol iddi’n frawd.

Ac edrychai ar enethig
Drigai yn y bwthyn bach,
Fel ar foneddiges uchel,
Hanai o urddasol âch
Swynol oedd ei llais eosaidd,
Fel angyles gwynfa lân;
Sŵn melodaidd ei halawon
Berlewygai blant y gân.

Hoffai rodio’r bore hafaidd
I gysgodion coedwig werdd,
I gael gwrando’r côr asgellog,
A mwynhau y felys gerdd;

(x202) Fe ddychwelai’n ol i chwareu
Tannau y berdoneg fwyn;
A dynwared côr y goedwig
Ar ganghenau’r gwyrddliw lwyn.

Ond hyfrydwch penna’i henaid
Oedd cerddoriaeth ysbryd pur,
Meddai chwaeth i ddethol darnau
Goruchela’r awen wir;
Ni halogai’i llais perorol
A chaneuon gwael yr oes;
Sylweddolai ei holl seiniau
Ym mheroriaeth rhin a moes.

Edrych ar ei hwyneb siriol,
A’i hygarol wenau llon,
Roddai wledd i’r meddwl puraf,
A wresogai’r dyner fron;
Nid oedd angen ei cheryddu
Am ei bod yn eneth ddrwg;
Ac ni welwyd neb o’r teulu’n
Edrych arni gyda gŵg.

Sobrwydd a sirioldeb welid

Yn cydwledda yn ei threm;

Natur a diwydrwydd hefyd

Yn ei harddu megis gem;

Gwelid yn ffenestri’i henaid

Arlun harr o Gwener dlos;

Neu lewyrchiad cân o’r lleuad

Ar ei gorsedd yn y nos.

Ond, er hynny, nid prydferthwch
Ydoedd gwir ragoriaeth hon;
Na, y galon lawn o rinau

Gurai yn ei thyner fron;
Hollbryferthwch creadigaeth

Guddir dan gysgodion rhîn;

(x203) Perl o rinwedd yn y galon
Yw prydferthwch pennaf mun.

Merch rinweddol ydoedd Maggie,
Dyna’i phrif ragoriaeth hi;
Mor ddigwmwl y serenodd
Ar binaclau uchaf bri;
Tyfu wnaeth yn olewydden
Lawn o ffrwythau iraidd, pêr;
Nes cymerwyd hi o’r ddaear
I baradwys uwch y sêr.

Berr fu’i hymdaith ar y ddaear,
Fel ehediad angel gwyn ;
Neu bleserdaith chwim y wennol,
Dros y ddôl neu loew lyn;
Gostyngeiddrwydd, ac addfwynder,
Ymrysonai am ei bron;
Ond y ddau a gafodd gartref
Dedwydd yn yr eneth hon.

Ei  gwanwynol fywyd disglaer
Fu o dan lawryfau moes ;
Pur gymeriad, hawdd ei garu,
Wisgodd Maggie drwy ei hoes;
Dacw hi yn canu ffarwel
I gysuron cartref clir,
Er mwyn cael manteision addyag
Yn ysgolion goreu’r tir.

Yn yr ysgol bu’n llwyddiannus
I drysori dysg yn stôr;
Ymestynai am ddysgeidiaeth,
Fel yr afon am y môr;
O gloddfeydd mynyddoedd addysg,
Tynnodd allan emau drud;
Mwnglawdd eang gwybodaethau
Sugnodd ei serchiadau i gyd.

 

(x204)

Chwilio’n hwyr, a chwilio’n fore,
Dyna’i hanes, anwyl fun;
Mynnai gael trysorau pennaf
Dysg yn eiddo iddi ei hun
Ond y llafur a’i hynododd
Fagodd elyn dan ei bron
Naddai hi yn araf, araf,
Gan hudwenu arni’n llon.

Ei gobeithion a ddiflannodd
Pan ar forlan pymtheg oed;
Gwywodd un o’r blodau harddaf
Welwyd yn y wlad erioed;
Aeth gwyrddlesni hoender iechyd
Ymaith gyda deifiol chwa;
A chorwyntoedd gaeaf gerwin
Ddaeth i ymlid ffwrdd yr ha’.

Wedi hynny noson dywell
Fu ei bywyd yn y byd;
Codai cwmwl ar ol cwmwl
Yn ei hwybren wèn o hyd;
Brochus donnau afon angau
Ruent beunydd yn ei chlyw;
Ac awelon deifiol adfyd
Wywent wrid yr eneth wiw.

Gwelodd yn ei chystudd garw
Wenau llon dau wanwyn mwyn;
Ond nis gallai Maggie anwyl
Deimlo eu hadfywiol swyn;
Ar y coed o gylch ei hannedd
Byddai’r adar mân fel cynt;
Ond nis gallai yn ei chystudd
Feddwl mwy am gerddgar hynt.

Heibio natur heda’i meddwl,
Heibio ei pherth’nasau cu -
(x205) Heibio i bob peth gweledig,
I’r ardaloedd sanctaidd fry;
Tyfu wnaeth ei henaid nerthol
Drwy ei phabell briddlyd wàn;
Gorfu arno hedeg ymaith
I fwynhau eangach glàn.

Dianc wnaeth ei hysbryd ymaith
O afaelion poen a chur!
Nid oes gennym mwy ond adgof
Am ei bywyd sanctaidd pur;
Anodd iawn yw portreadu
Adeg oedd mor flin a hon
Pan y gorfu i’w chyfeillion
Hoff ei gadael yn y donn,

Gweled c’lymau hoff cymdeithas
Yn ymddatod bob yn ddam;
Corff ac enaid yn ffarwelio,
Hyd foreuddydd mawr y fam;
Gweled gwyryf ieuanc, lednais,
O dan aethau angeu’n fud,
Barodd glwyf i lawer calon
Oedd yn aros wrth y rhyd.

Gwelais hi yn nhonnau’r afon
Yn rhy bell i frich o gnawd
Ond aeth drosodd yn ddiangol,
Gan ymddiried yn ei Brawd;
Ffarwel iti, O! gyfeilles,
Wyt yn ddiogel ar y làn;
Teimlo’r wyf y deuaf innau
I dy gwmni yn y man.

Heddwch fyddo mwy yn aros
Gylch dy feddrod, Maggie gu;
Taened natur dlysaf flodau
Ar dy wely distaw di;

(x206) Riaint anwyl, peidiwch wylo,
Huno wnaeth yr hawddgar fun;
Ni wnaeth hi ond canu ffarwel
I drafferthion bywyd blin.

Ni fu’ch Maggie anwyl farw,
Cysgu mae mewn tawel hedd;
Cewch ei gweled eto’n fuan,
Wedi canu’n iach i’r bedd;
Bywyd yn yr ardd a wywodd,
Syrthiodd i’w aeafol hun;
Y gwanwyn a’i hadfywia
I’w gynhenid liw ei hun;
Gyda gwawr  yr Adgyfodiad,
Deffry Maggie eto’n hardd;
Gwrida purdeb ar ei hwyneb
Fel y rhosyn yn yr ardd.

(x207)
(+77) GWLAD MYRDDIN
Cas yw y dyhiryn
Na charo ei wlad; -
A wado hen dyddyn
Diaddum ei dad;
Mae rhai yn gynefin
A chestyll o fri;
Ond buarth a chegin
Gwlad Myrddin i mi.

Dwed ambell ddychymyg
Yn uchel ei dôn,
Na chrewyd dim tebyg
I’w Fenai a’i Fôn;
Breuddwydied ynghanol
Eu swynion di ri;
Ond rhoddwch arddunol
Wlad Myrddin i mi.

Mae’r Wyddfa yn Arfon,
A mawr yw ei chlôd;
A’r Gader ym Meirion,
Heb fardd iddi’n dod;
Cartrefle rhaiadrau
Byddarol eu cri;
Ond tlysach yw bannau
Gwlad Myrddin i mi.

Mae’r Glwyd yn ddymunol.
A’i cheulan yn hardd;
A’r Dyffryn yn swynol
I gerddor a bardd;
Gall awen wirioni
Wrth ddilyn y lli;
Ond harddach yw Tywi
Gwlad Myrddin i mi.


(x208)

(+78) Y BALCH

Mae llawer dull o siarad,
A llawer dull o fyw,
A llawer dull o gerdded
Yn hanes dyolryw;
Ond o’r dullweddau hynny,
Ym mywyd llawer gwalch,
Nid oes yr un mor wrthun
A digrif ddull y Balch.

Mae trachwant a glythineb,
A charu aur a phres,
A blysiau annaturiol
Yn waelach na di-les;
Ond balchder yw y dylaf
O hon wendidau dyn,
Mae eiddew hunanoldeb
Wrth natur hwn ynglŷ n.

Daw heibio yn benuchel,
A’i gefn mor syth a ffon;
Modrwyau ar ei fysedd,
A chadwen ar ei fron;
Ei olwg gwyd i fyny,
I wlad y sêr di-ri,
Fel pe na byddai’n perthyn
I’n planed fechan ni.


I dynnu sylw’r werin,
Urddasol yw ei wisg;
Er nad yw’n ddim ond cneuen,
Yn wâg o dan y plisg;
Am gael y nwyddau goreu,
Fe chwilia’r byd yn grwn;
Ond nid yw talu’r billau
Yn blino dim ar hwn.

(x209)

Mae’r garreg fedd, ddiaddurn,
Ac arni haen o galch,
Yn dal o hyd yn ddarlun
O galon ddu y Balch;
Ei benguwch sydd yn ddisglaer,
Ac uchel yw ei bri;
Ond esgyrn wedi mallu
A geir o dani hi.

Mae rhodres a mursendod,
A hunanoldeb ffôl,
Fel arogl hyfryd llwynog,
Yn llinell ar ei ol;
Pan ddelo balchder allan
O’i ffau, heb gadw sŵn,
I’w draill am helfa ddifyr
Gollynga’r byd ei gŵn.

Hen frenin argyhoeddwyd
Yng ngwlad y dwyrain gynt,
Fod cwymp yn dilyn balchder
Penuchel yn y gwynt;
Daeth goruchwyliaeth hynod
I drin ei ysbryd balch;
Pan fynnodd ei Gynhaliwr
Wneud eidion mud o’r gwalch.

Tra’n aros yn Rhyd Ychen,
Fe ddysgodd cyn bo hir,
Mai’r ffordd i wella balchder
Yw pori gwellt y tir;
Di-orsedd ar y doldir,
Bu fyw yn wael ei ddrych,
Heb iddo wledd ragorach
Nag isel fwrdd yr ŷ ch.

(x210)

Mae llawer brenin eto
Yn aros ar ei ol,
A ddylai gael ei symud
I blith eidionau’r ddôl;
Rhaid ydyw plygu balchder,
Sy’n ddirmyg ar yr hil,
A’i roi yng nghwmni’r gwartheg
I ddysgu cnoi ei gil.

A welsoch chwi Wenllian,
Sy’n byw yn Nhan yr Allt,
A phaent ar hyd ei gruddiau,
Ac olew yn ei gwallt?
Daw heibio fel brenhines
Hyd lwybrau gwlyb y ddôl;
A hanner llath o sidan
Yn llusgo ar ei hôl.

Mae’n edrych fel colomen,
A’i chefn yn hardd i gyd;
A’r lludw yn ei chartref
Hyd at y drws o hyd;
I’r ddinas y try allan
Yn flodau ac yn blu;
Ond gweoedd y pryf.gopyn
Yw addurn penna’r tŷ .

Mae’r ffasiwn yn cyfnewid
Yn amlach na phob mis;
Ond rhaid yw dilyn honno
Beth bynnag fyddor pris;
Fe roir yr hen i gadw,
Yn daclus ac yn dlws,
Mewn maelfa a thair pelen
Yn crogi uwch y drws.

(x211)
Mae’n meddwl am briodi
Wrth gerdded yma thraw;
Ond dyn a helpo’r bachgen
Rydd fodrwy ar ei llaw;
Hi wisga’i bysedd meinion
A gemau’n ddigon siwr;
Ond nis gall bwytho botwm
Ar ddillad gwaith ei gŵr.

Hawdd fyddai dal i ganu
I falchder dan yr haul,
A dangos ei wrthuni,
Ond nid yw’n werth y draul;
Mae’n well i’r ysbryd hwnnw
Ymguddio yn ei gell;
Oherwydd Duw a edwyn
Y beilchion o hir bell.

(x212)

(+79) CYSTUDD
Gwae durfiniog drwy f’annedd - sy’n drallod,
Sy’n dryllio fy ngorsedd;
Gwyraf yn llesg i orwedd
O dan hug a barrug bedd.

Lliw cystudd ar fy ngraddiau - geir heddyw,
Ac arwyddion angau;
Fy nerth sy’n araf wanhau,
A salwch dan ei seiliau.

Dioddef yn lle dedwyddyd, - a du wae
Yn andwyo bywyd;
O dan bwys trallodion byd,
Ingol wyf yn fy nghlefyd.

A nwyfiant bum gynefin,
A fy myd yn hyfryd hin;
Ond heibio daeth difrodydd,
A difwynhad yw fy nydd;
Nôd ydwyf i wendidau - ac aflwydd,
Yn wawd anedwydd i ddirdyniau.

Emynol delyn mwyniant
Ddistawodd, torrodd y tant;
Nid yw iaith gwynfyd weithian,
Yn llanw cylch llwyni cân;
Llym awelon creulon croes
A ddifwynodd fy einioes.

Di-heulwen dan fy mhenyd, - nid yw byw
Onid baich heb iechyd;
Caledfawr ysgol adfyd,
A rhandir barn ydyw’r byd.

(x213)

(+80) MAE’R GAEAF WEDI CILIO
 Mae’r gaeaf wedi cilio,
A’i gaethion eto’n rhydd;
A’r gwanwyn ar y caeau llwm
Yn plannu llygaid dydd;
Wrth weld y fro yn glasu,
A’r stormydd yn pellhau,
Mae telyn bywyd yn ei hwyl,
A’r byd yn llawenhau.

Mae’r gaeaf wedi cilio,
A’r meillion ar y ddôl;
A blagur ar y fedwen draw,
Yn galw’r gôg yn ol;
Ymlidiwyd cysgod angau
O wyneb natur lân;
Mae ar ei gruddiau newydd wrid,
Ac yn ei chalon gân.

Mae’r gaeaf wedi cilio
I’w oer begynau pell;
A gwenau llon briallu’r clawdd
Yn addaw dyddiau gwell;
Os bu fy iechyd innau
Mewn gaeaf ennyd bach,
Caf wenu’n llawen cyn bo hir,
A chanu’n fythol iach.

(x214)

(+81) DAFYDD JONES  

Dafydd Jones o blwyf Llanafon
Oedd yn bedwar ugain oed,
Ac ni fu yn cysgu noson
O’r hen bentref bach erioed
Dwedai wrtho’i hun ryw ddiwrnod -
“O! mor hen ac unig wyf,
Wedi claddu’m plant a’m priod,
Ac yn byw ar dâl y plwyf.

“Ond, er hynny,” meddai Dafydd,
‘Gallaf eto wneuthur da
I’r pentrefwyr ac i grefydd, -
Rhywbeth bychan a’u llesha;
Carwn leddfu gofid rhywun,
A distewi poenus gri,
Am fod Meddyg wedi disgyn
I iachau fy ngofid i.

“Amgylchiadau sydd yn gyfyng,
Rhoddi’n hael nis gallaf mwy;
Ond cyfranaf fy nwy hatling
O elusen fach y plwy;
Rhoddi parc i lonni’r pentref
Sydd yn fwy nas gallaf wneud;
Ond ar glust y claf sy’n dioddef,
Gair caredig allaf ddweyd.

“Dwedaf wrth bechadur ysig
Sydd yn mynd i’r farn yn ddall,
Fod yr lesu yn garedig,
Ai faddeuant yn ddiball;
Sydd dan faich o helbul blin
Mwy na hynny, mi gymeraf

Ran o’r baich i mi fy hun.

(x215)
Dringo’r llwyfan neu y pulpud,
Mwy nis gallaf ar fy nhaith;
Eto dyledswyddau bywyd
Ddengys imi symlach gwaith;
Chwiliaf allan gŵyn a chynni
Ar hyd pentref bach y wlad;
Ac wrth ddal i wneud daioni,
Rhydd y nef i mi foddhad.

Edrych Duw ar y Samariad,
Sy’n rhoi olew ar y clwyf;
Gwerthfawroga rasol weithred
Gan y tlawd sydd ar y plwyf
Goleu yn fy ffenestr gadwaf,
Ar hyd noson ddu ddi-loer;
Ac i ddisgybl gwan y rhoddaf
Y cwpanaid o ddwfr oer.”


Trwsio’i lamp ei hun wnai Dafydd,
Nes oedd fel y wawrddydd dlos;
A disgleiriai’r llewyrch beunydd
I’r pentrefwyr yn y nos;
A chynheilent hwythau’u lampau
Wrth ei lusern oleu ef;
A dylanwad ei weddiau
Dynnai’r pentre’n nes i’r nef.

Dafydd Jones hebryngwyd adref
Gan angylion ryw brydnawn,
Cyn i rewynt oer yr hydref
Chwythu arno’n arw iawn;
Y mae heddyw’n etifeddu
Teyrnas nef a newydd stâd,
Wedi tâl y plwyf am flwyddi
O fewn pentref bach y wlad.

(x216)
(+82) DEWI SANT

Caraf draddodiadau Cymru,
Caraf gylchwyl Dewi Sant;
Ac mae heddyw ysbryd canu
Yn dynesu at y tant;
Er i lawer canrif welw
Ado’r Sant mewn distaw fedd,
Rhaid i Gymru gofio’i enw,
Rhaid i awen gynnal gwledd.

Caned y telynau’n felys
Hen garolau’r dyddiau gynt,
Pan oedd llais y proffwyd hwylus
Yn ymdonni yn y gwynt;
Yn yr hen garolau hynny
Y mae ysbryd Dewi Sant
Fyth yn aros, ac yn tyfu
Yn wladgarwch yn y plant.

Proffwyd oedd, a’i genadwri
Yn dihuno Cymru Fu;
Ac yn tywallt ei oleuni
Ar y tew dywyllwch du;
Hauodd ddwyfol wirioneddau,
Geidw’i enw mewn coffhad;
A’i gynhaeaf heb ddim efrau
Sy’n addfedu yn y wlad.

Er mor dywyll yw’r encilion, - 
Hen rodfeydd y cennad hedd,
Er fod caddug y gorwelion
Eto’n aros ar ei fedd,
Treiddia’i ysbrydoliaeth gyfrin
Drwy awelon bryn a phant;
Ac yng nghalon fawr y werin,
Ni fydd marw Dewi Sant.

(x217) Cadwn wyl yr hen wladgarwr,
Na foed fud offeryn cerdd;
Ac yn wyneb y gormeswr,
Gwisgwn y genhinen werdd;
Hen arwyddlun nerth diwyro
Dewr Frythoniaid yn y gâd;
Glyned gwerin wrthi eto
Wrth amddiffyn hawliau’r wlad.

Hir y paro ysbryd Dewi
I roi crefydd Cymru’n fflam
A gwladgarwch fyddo’n llosgi
Holl gadwyni trais a cham
Dalied byth ei egwyddorion
I sancteiddio teulu’r ffydd;
Sylweddoler ei freuddwydion
Ar aelwydydd Cymru Fydd.

(x218)

(+83) USSAH

Ar draethell bell y tragwyddoideb draw,
Eisteddai angel gwyn a’i delyn yn ei law;
Gan syllu tua Phalestina’n brudd,
A sobrwydd yn ymdaenu dros ei rudd;
Ei fysedd dynnai dros y tannau mân,
Gan arllwys dros y làn bryderns gân;
Lleddf oedd ei dôn, yn nghysgod tŷ  ei Dad,
Wrth weld yr Arch heb gartref yn y wlad.

‘Roedd Saul y brenin wedi digio’r nef,
A lluoedd y Philistiaid arno ef;
Gan ddwyn yr Arch yn gaeth i estron dir,
A Seion yn amddifad wylai’n hir;
Ac er fod Arch y nef mor llawn o Dduw,
Nas gallai estron edrych arni a byw,
I breswyl Abinadab dygwyd hi,
A’i babell erys mewn anfarwol fri;
A thyfodd Ussah mewn edmygol barch
I Dduw y nefoedd ac i’w sanctaidd Arch.

Fe glywid cwynfan cenedl y pryd hyn
Yn cynghaneddu â chân yr angel gwyn,
Am le cyfleus i’r Arch o fewn y wlad,
I’r llwythau nesu ati mewn boddhad;
A llechu’n dawel yn ei chysgod cun,
Heb ofni brâd yn ymyl Duw ei hun.

Ond torrodd gwawr; ac wele ras yr Iôr
Yn chwyddo yn ei fynwes fel y môr;
Ac angel arall uwch y sanctaidd dir
Ddatguddiodd haul addewid eto’n glir.

I orsedd Israel y dyrchafwyd Dafydd,
Yn frenin ar y wlad, a chryf arweinydd;
(x218) Sylfaenwyd ei frenhiniaeth, wladgar fyw,
Ar greigiau cedyrn addewidion Duw;
Ysbeiliodd allu yr elynol gâd
Fu’n ysgwyd cledd uwchben y sanctaidd wlad;
Ni welai Dafydd ond gweddillion rhengau
Yn dianc am eu bywyd dros y bryniau;
Erlidia ar ei hol yn wron heinyf,
A barn y nef yn fflamio ar ei gleddyf;
Glanhau y wlad a fynnai o’i gelynion,
A chynneu’r tân ar hen allorau Seion;
Ei fryd a roes ar godi tŷ i’r Arglwydd,
I ddwyn yr Arch i drigfa ei sancteiddrwydd;
Lle gallai’r llwythau ymgrynhoi yn dyrfa,
A Duw yn eistedd ar y Drugareddfa.

Cychwynai’r brenin allan,
A’i luoedd gydag ef,
I breswyl Abinadab
I gyrchu Arch y nef;
Ei galon oedd yn curo,
A’i ysbryd yn y gwaith
A’r bryniau yn adseinio
Ei salmau ar y daith;
Yr ychain oedd yn barod,
A newydd fèn gerllaw,
I gario Arch gyfamod Duw
Yn ol i Salem draw;
Er fod y ffordd yn arw
A’r fèn yn teithio’n drwm,
Amddiffyn dwdyfol oedd i’r Arch
Wrth groesi bryn a chwm;
Dylinai Ussah’n llawen,
A’i sêl yn boeth a llym;
A phrofodd fod rhybuddion Duw
Yn aros yn eu grym.

Dynesent tua Seion,
A gwenai’r nef i lawr;

(x220) Ond wrth lawr-dyrnu Nachon
Y bu trychineb mawr -
Ysgydwai’r fèn o ddeutu
Gan arwed ffordd y dre;
A chydiodd Ussah yn yr Arch,
I’w chynnal yn ei lle;
Anghofiodd y gorchymyn
A roddwyd gan ei Ri, -
Na chyffwrdd hi â marwol law,
Neu’n farw byddi di;
Ae er i’r weithred godi
O’i ddyfnaf gariad ef,
Yn dâl am ryfyg mawr y llanc
Disgynnodd barn y nef.

Y Presenoldeb Dwyfol oedd o hyd
Yn aros ar yr Arch mewn estron fyd;
‘Roedd cysgod y Shecina drosti hi,

Yn ddiogelwch rhag y tân a’r lli;

Mae natur fud yn plygu ger ei bron,
Gwyleiddia byth yng ngwydd awdurdod hon;
Llif yr Iorddonen o flaen Arch y nefoedd
A drodd yn ol mewn dychryn i’r mynyddoedd;
A chaerau Jericho ar ei cryf sylfaeni
Yng ngwyddfod hon a fynnent ymddifodi;
A’r marwol ddyn a ddyry arni law
A hyrddir dros y ffin i’r byd a ddaw.

Ddiniwed Ussah! anodd yw cymodi
A’r farn a welwyd ar dy ben yn torri;
Gwn fod trugaredd o’i daioni tirion
Yn edrych ar y weithred fel o gywir galon;
A chariad dall yn ceisio’i gyfiawnhau,
Gan fwrw’i glôg sidanol dros ei fai;
Ond braich cyfiawnder gyda chleddyf miniog
Sy’n ysgwydedig uwch troseddwr euog;
(x221)A’r hen orchymyn roddwyd gynt i Aaron,
Yn dal yn gadarn dros ei holl ofynion
Y ddaear naddir gan ergydion amser,
A’r ser a syrthiant i gaddugol ddyfnder
Ond gair yr Iôr a bery yn dragwydd,
Mae hwn a’i enw’n gwlwm wrth eu gilydd.

O! Ussah, fe gyflawnaist rywbeth mawr,
Mwy pwysig nag yw holl fynyddau’r llawr;
Yn ddyfnach nag yw’r môr, yn uwch na’r nen,
Un dafn o bechod ddua’r orsedd wèn;
Dy drosedd di, er iddo gael ei wneud
Mewn rhyw anghofrwydd, sydd yn hyawdl ddweyd

Nad yw anghofrwydd, dyn a’i anwybodaeth
Yn ddadl yn erbyn miniog gosbedigaeth;
Ni fu’r fath beth ar lyfrau deddfau Duw,
Ag amcan da i weithred ddrwg ei rhyw;
Mae drwg a da i aros ar wahan,
Y naill yn ddu, a’r llall yn fythol lân;
Pob un i symud yn ei gylch ei hun,
Yn ol gosodiad Duw cyn llunio dyn;
Ac er fod amean Ussah’n dda, mor bur
A chân y sant ar fryniau’r nefol dir,
Ei ryfyg oedd mor ddrwg nes tynnu’r nef
I lawr yn ddial marwol arno ef.

Os bu yr Arch dan gwmwl
Yn hir o fewn y wlad,
A’r balch yn edrych arni hi
Drwy ddrvchau o sarhad;
Mae Duw yn angeu Ussah
Yn siarad wrth y llu,
Mai cysegredig yw o hyd,
Fel yn y dyddiau fu;
Fod y tanbeidrwydd sanctaidd
Yn ei chylchynu’n awr;
(x222) Fel pan yn agoshau at lif
Yr hen Iorddonen fawr
Ac yntau yn ei chanol
Mor ffyddlon ag erioed,
I gadw’r genedl yn ei law,
A’r gelyn dan ei droed.

Mae deddfau’r nef yr un drwy oesau’r byd,
Drwy aberth y daw bendith Duw o hyd;
Marwolaeth.un i gadw’r llall yn fyw,
Yn amlwg welir yn llywodraeth Duw
Bu rhoddi’r Arch yn ymyl gorsedd Dafydd,
Yn gefn a thwr i’w gref lywodraeth beunydd.

Daw tynged Ussah drwy bob oes i lawr,
I ddangos llym eiddigedd y Duw mawr
Yn erbyn diystyrra’r Arch sancteiddiol,
A chadw côf o’i orchymynion dwyfol.

(+84) PLESER PUR
Nid yw Nâf yn gwarafun, - oes euraidd
O gysuron arddun;
Oriau cerdd, a phleser cun,
Ddaw o nerthoedd anwrthun.

(x223)
(+85) Y CRYD-CYMALAU
Milain yw’r cryd-cymalau, - direswm,
Yn drysu gewynau;
Môr o ing yn marwhau
Iechyd, a’i droi yn ochau.

Gwaeau sydd ymhob gewyn - o fy nghorff,
Yn fy nghau mewn dychryn;
Wyf druanaf, ddwysaf ddyn,
Dan gur o’i wadu i’w goryn.

Anhydyn ddirdyniadau, - yn griw dig,
Rhagredegwyr angau;
Ysig ŵr, ac yn llesghau
Wyf yng nghanol fy ngwyniau.

Erfyn dur i fwynderon, - yw’r ellyn
Sy’n dryllio fy nghalon;
Trywaniad, yn frid i fron,
A gynygia’r gwynegon.

Garw boenau geir beunydd, - yn dinerth
Gadwyno awenydd;
A phob gloes i’r einioes rydd
Lîd marwol heb ladmerydd.

Aniddan yw fy nyddiau, - a fy nwyf
Yn nôd i gystuddiau; -
Dedwyddyd fy mywyd mau
A loriwyd gan ddoluriau.

(x224)
(+86) MARW’N YR HAF
Y rhosyn yng nghanol rhosynnau Mehefin
Ogwyddodd ei ben, ac edwinodd yn glaf
Mor brudd ydoedd gweled prydferthwch mor iesin,
Dan lwydrew yr hydref yng nghanol yr haf.

Siomedig yw’r ddaear, pan decaf ei heulwen,
A gwelir ei blodau yn newid eu lliw;
Y rhosyn a grina, tra’r gwlith ar ei ddeilen,
A chefnu wna gobaith a’i galon yn friw.

Y baban a wywodd, a’i raddiau dymunol
Fel bore Mehefin, pan dyrr ar y bryn;
Addfedodd yn gynnar yn rhosyn anfarwol,
I fwynach Mehefin tu arall i’r glyn.

Ni thyfodd ei dlysach yng ngardd y ddynoliaeth,
A siriol hawddgarwch y nef yn ei bryd
O’i golli mor fuan, mae cwmwl o hiraeth
Ar galon rhieni yn aros o hyd.

Y rhosyn a welwyd gan angel caredig,
A’i wisgo a wnaeth ar ei fynwes ei hun
A Rhosyn rhosynnau y Duw anweledig,
Yn rhosyn Mehefin a welodd ei lun.

Mae cariad o hyd yn y fynwent gyfagos,
Yn plannu rhosynnau hawddgaraf eu gwedd;
A darlun o rosyn a welir yn aros
Uwch enw’r un anwyl ar garreg ei fedd.

(x225)
(+87) YR ENFYS
O enfys hardd! ai gardd rosynnau yw
I’r pur o galon rodio
Yng nghwmni engyl, gerllaw palas Duw,
Lle na ddaw pechod heibio?
Mae seithliw anian yma’n toddi ‘nghyd,
I liwiau glân y nefoedd;
A diluw o brydferthwch y ddau fyd
Yn atal diluw dyfroedd.

Trugaredd welir ym mhelydrau’r dydd,
Ar dew gymylau anian,
Ac allwedd barn o fewn y bwa sydd
Uwchben y byd yn hongian;
Tosturi grasol a gyfeiria drwy
Y lliwiau heirdd arddunol,
At ddwyfol enfys o brydferthwch mwy
Uwchben yr orsedd nefol.

Ardderchog enfys! Adgof am a fu
Ar fywyd halogedig;
Ac, yn ei wyneb yn y cwmwl du
Mae gobaith byd colledig;
Os gwobrwy camwedd ydyw gŵg a gwawd,
Mor hyfryd yw y meddwl
Fod Duw mewn cymmod a dynoliaeth dlawd,
Tra’r bwa yn y cwmwl.

Mae’r hen gyfamod yn parhau
Yn gadarn yn yr enfys;
Ac er i galon ymbellhau,
Addewid Duw a erys;
A thra fo’r bwa yu y nef,
Yn atal llid a soriant,
O fewn ei byrth dihalog Ef,
Aberthaf ebyrth mohant.

(x226)
(+88) GWYLIAU’R HAF

Hawddamor i Wyliau yr Haf,
A heulwen ar fyd yn tywynnu;
I ben y mynyddoedd yr af,
Ac yno caf galon i ganu;
O ddwndwr a chaddug y dref,
A phryder y byd ai ofidiau,
Caf yfed awelon y nef,
Sy’n llawn o berarogl y blodau.

Hawddamor i Wyliau yr Haf,
Mae bywyd yn galw am danynt;
Cysuron i ysbryd y claf
A dardd yn ddihysbydd o honynt;
Y “pigyn” a’i blinodd cyhyd,
A dynnir gan londer a heddwch;
I’w ruddiau y dychwel y gwrid,
I’w galon y dychwel diddanwch.

Hawddamor i Wyliau yr Haf,
Bu disgwyl am danynt am flwyddyn;
I lannau y moroedd yr af,
Ac yno y canaf fy nhelyn
Yn ddifyr a llawen fy mron,
Ymdrochaf ym merw y cenlli;
A chladdaf yn nyfnder y donn
Ofalon y byd a’i galedi.

Hawddamor i Wyliau yr Haf,
Ymlwybraf yn hir ar y glannau;
A newydd gyfeillion a gaf,
A’u cariad yn gryfach nag angau
Mae’r gaeaf yn farw’n ei fedd,
A’r dyddiau yn hir ar y dolydd
I minnau mae bywyd yn wledd,
A natur yn fyw o lawenydd.

(x227)
(+89) TIR BEULAH

Byw olwg ar dir Beulah
Dry adfyd yn hyfryd ha’;
Uchel dir heb fachlud haul,
A thir o gyfoeth araul; 4
Haf wlad, a’r tlysaf flodau
Yn aros byth dros y bau;
Bro iraidd oll, bro rhy dda
I lu Belial yw Beulah;
Un yw heb “Gawr anobaith”
Yn herio dyn ar ei daith;
Hud-ddwyfol wlad ddi-ofid,
Heb un llais o boen na llid;
Tir lluniaeth, cartre lloniant,
A chnwd serch i enaid sant
O fewn hon y ca fwynhad,
Ac oriau melys cariad.

Ei oreu stâd dros y donn
Yw Beulah ddi-helbulon;
Swyn haf y Ddinas Nefol
Wel yn awr, a’r niwl yn ol;
Ac aros uwch y caerau
Mae haul gwyn, heb gwmwl gau.

Ddihalog Ddinas ddilyth,
A Iôr yn ben arni byth;
Pur oror y pererin
A’i lwynau heb loesau blin;
At gaer y Porth Disglaer daw,
Ac o’i delyn cwyd alaw;
Drwy ing y nos dringo wna
I drybelid dir Beulah.

(x228)

(+90) YR “EXCURSION”
(Cân ddigrif).

Fe dorrodd y bore yn glir,
Heb gwmwl uwchben yn ymlwybro;
Y dydd a ddisgwyliwyd yn hir,
A dydd ddaw i lawer a’r bendro;
Dylifa torfeydd o bob oed
Yn gynnar i lwyfan y stesion
A’r troion digrifaf erioed
A welir ar ddydd yr Excursion.

Yn rhydd y gollyngir y chwant,
A chwedl ar wefus a thafod
Ac nid yw yn bechod i sant
Anghofio ei hun am ddiwmod;
Gall gellwair a chwerthin yn wir,
Heb son am y “pla” sy’n ei galon
‘Does Gristion a’i wyneb yn hir,
Sy’n meddwl mwynhau yr Excursion.

Y dyrfa heb reol na threfn,
Ymwasgant i godi tocynau
A phwysau y llu o’r tu cefn
Yn ddistryw i blyf a sidanau
Tra’r merched yn gwaeddi yn groch,
A’u crinolins newydd yn yfflon,
Fe glywyd galwadau y gloch,
Yn dweyd fod rhaid cychwyn yn union.

This way,” meddai lleban o Sais,
This way to the Tenby Excursion;”
Ac eilwaith dyrchafodd ei lais,
Gan wthio y teithwyr yn greulon
Cynhyrfodd Meredydd Tŷ  Clai,
A thrawodd y swyddog yn ddwbwl;
Ac er fod y swyddog ar fai,
Arweiniodd Meredydd i drwbwl.

(x229)
O ganol y dorf gyda brys,
Cymerwyd y bachgen i fyny,
I aros ei brawf yn y llys,
Am daro y swyddog on duty:
Gwenonwy a gododd ei llef,
A’i chalon yn curo gan bryder;
A thocyn y ddau gydag ef
Ym mhoced ei wasgod yn ofer.

‘Roedd rhai yn dibrisio y mass,
A’u siriol gariadau yn dilyn;
Gan aros wrth ddrws y first-class,
A’r trydydd yn glir ar y tocyn
Cychwynodd y trên yn y man,
A’r mwg yn dyrchafu’n fodrwyon;
A rhaid ydoedd neidio i’r Van
Yn ddiddig, neu golli’r Excursion.

Cyflymai y peiriant ar ffrwst,
A’r byd yn mynd heibio’n ribanau;
A mawr oedd yr helynt a’r trwst
A godai o wagedd calonnau;
Pob cerbyd a lanwyd yn dynn,
Ni welwyd erioed y fath Fabel;
A phrofwyd fod bywyd yn wyn
Gan lawer yn nh’w’llwch y tynnel.

Mewn congl caed ambell hen lanc
Yn darllen papyrau newyddion;
A’i galon yn rhedeg i’r banc, .
Wrth feddwl am wastraff cariadon;
Fan arall mae dau yn gytun
Yn gwledda’n ddinewyn ar deisen;
A photel ardderchog o win
O seler hudolus John Heidden.

‘Nol teithio yn ddifyr a llon,
O’r diwedd cyrhaeddwyd y terfyn,
(x230} Mewn gorsaf yn ymyl y donn,
A lle cyfeiriedig y tocyn;
Yn uchder y newydd fwynhad,
A phawb ar eu gilydd yn bloeddio,
Fe gredai trigolion y wlad
Fod byddin o Ffrainc wedi glanio.

Sychedig oedd Dafydd o’r Llwyn,
A hoff o gymdeithas ysbrydion;
A chariai ei sign ar ei drwyn
Lle bynnag yr elai’r Excursion;
Aeth Dafydd mor hoew a’r hydd,
I’r dafarn i dorri ei angen
Ac yno y bu drwy y dydd,
A chollodd y trên yn y fargen.

Dychwelodd ‘mhen diwrnod neu ddau,
A thalodd yn ddrud am ei gario;
A chur yn ei ben yn parhau,
A’i lygaid fel dyn yn breuddwydio;
Fe gollodd ei het yn y gwynt,
Fe’i cariwyd i’r môr drwy yr awyr;
A syndod cyn diwedd yr hynt,
Na chollodd y gweddill o’i synwyr.

Aeth mintai i’r môr yn y cwch,
A chanai y merched yn llawen;
Ond bwriodd y wendon ei llwch
I fewn yn gawodydd o halen;
Fe drodd y difyrrwch yn boen,
A’r fordaith bleseras yn ofid
A glaniwyd yn wlyb hyd y croen,
Heb lain o ddilledyn i newid.

Fe dreuliwyd y dydd ar y traeth,
Dan lewyrch yr haul yn ddigysgod;
A throsedd ar foesau a chwaeth,
Oedd cysgu fel lloi ar y tywod
(x231} ‘Roedd ereill am gychwyn yn ol,
Yn aros am oriau’n y stesion;
A’u golwg yn hurt ae yn ffôl,
Mewn hiraeth am gloch yr Excursion.

Ond rhaid i mi orffen y gân,
Rhag trethu amynedd y beirniad;
Er hynny, mae’r awen ar dân,
Ac ysbryd y trên yn fy nghaniad
Ni ches y fath drip yn fy myw,
Ni welais erioed y fath droion
Ac aros o hyd yn fy nghlyw
Mae berw di-baid yr Excursion.

(+91) Y LLAW
Y llaw ufudd, nerth llafur, - arf heriol
Dry fwriad yn eglur;
Nawdd y corff, - yn nannedd cur,
Daw a saig i’r di-segur.

(+92) TŶ  DDUW

  Iôr, i fewn anturiwn, - yn Salem
Y preswylia’n pardwn
Y ddu esgid ddiosgwn
Yn ofn Duw wrth fynd i hwn.

(x232}
(+93) YR EFENGYL

Galwad ar euog elyn, - i hedd Duw,
Yn ddi dwyll gredadyn;
I hâd Adda, bwrdd Duwddyn,
A’i hystor at eisiau dyn.

Afon o fôr tangnefedd, - a’i gwenyg
Ylch ddrygionus lygredd;
Ar ei glan mae arogl hedd,
A grawnwin y gwirionedd.

(+94) DAEAREG

Daeareg wêl gêl galon - ein daear,
Dywed ei chyfrinion;
Ei llwydd hi yw allwedd hon,
Myn weled ei mewnolion.

(+95) PARC DYNEFWR
Henafol Barc Dynefwr, - fan tawel
Ar fin Tywi lyfnddwr;
A’r tud lle troai Tewdwr
Yn nydd dig am lonydd dwr.

Pery coed y Parc hudol - yma’n wydn,
Mewn nwyf ymerodrol;
Derw o nerth all droi’n ol,
Yn ddirym stormydd heriol.

(x233)
(+96) LLYFRAU Y BEIBL
Cyhoeddir y gerdd hon, nid ar gyfrif ei barddoniaeth yn gymaint, eithr i roddi syniad ar gân i bobl ieuainc di-amynedd, am gynnwys gwahanol rannau Gair Duw.

Yn Genesis cawn hanes
Am Dduw yn creu y byd;
Yn Exodus mae Israel
Ar daith i’r Ganaan glŷ d;
Lefiticus a geidw
Gyfreithiau’r genedl hon
A Numeri gyfrifiad
O honynt oll o’r bron
Yn Deuteronomium eto,
Ail goffa’r gyfraith fâd
A Josua yn arwain
Y genedl tua’i gwlad;
Y Barnwyr ddyry hanes
Y gwrthryfela o hyd;
A Ruth yn siampl i wragedd
Dramwyo drwy y byd;
Yn Samuel cawn hanes
Am Ddafydd, mab y gân;
Yn y Brenhinoedd gwelir
Y llwythau ar wahan;
Ar femrwn y Croniclau,
Caethgludiad Juda gawn,
Ac Ezra’n eu dychwelyd
Yn ol i’w gwlad yn llawn;
A Nehemiah welodd
Ail godi’r Deml fâd
Ac Esther yn gwaredu
Ei chenedl rhag y brad;
Yn Job cawn bur gymeriad
Ym mhair y cystudd mawr;
A’r Salmau yn brofiadau
Yr eglwys ar y llawr;
(x234) Mae Diarhebion Selyf
Yn berlau crwn i gyd;
A dengys y Pregethwr
Mai gwagedd yw y byd;
Fe welir Rhosyn Saron
Yn y Caniadau’n hardd
A’r Brenin ar ei orsedd
Sydd gan Esaiah fardd;
Dynoethi drwg y genedl
Wna Jeremiah gu;
Ac yn ei brudd Alarnad
Yr wyla drosti hi;
Ezeciel a ddwg allan
Gyfrinion dwfn yr Iôr;
A Daniel wêl deyrnasoedd
Fel trai a llanw’r môr;
Hosea wêl drugaredd,
Ac hefyd farnau trist:
A Joel wêl ddedwyddwch
Y byd pan ddelo Crist;
A Duw a alwodd Amos
At y bugeiliaid draw;
Ac Obadiah welodd
Gwymp Edom fawr gerllaw;
Dwed Jonah’n mol y morfil
Am dridiau Prynwr byd;
A Michah ‘i fuddugoliaeth
Dros ddaear lawr i gyd;
Bydd Ninife, medd Nahum,
Yn nôd i famau blin,
A Habacuc yn llawen.,
Pe pallai’r ŷ d a’r gwin;
Fe welodd Sephaniah
Ddigofaint Duw yn dân,
A Haggai sy’n gorchymyn,
Ail godi’r Deml lân;
Brenhiniaeth y Messiah
Wê1 Zechariah’n glir,
(x235) A Malachi a’i dengys
Yn Haul Cyfiawnder pur.

Ac yna fe ddaw Matthew,
Marc, Luc, a Ioan fwyn;
A’u sanctaidd Efengylau
Yn llawn o ddwyfol awyn;
Yn dweyd am eni’r Iesu,
Yn nhy’r anifail mud;
Ac am ei fyw a’i farw
I gadw euog fyd;
Yr Actau ddengys lwyddiant
Y Gair, fel gwawr y dydd
A gobaith y Rhufeiniaid
Yw cyfiawnhad trwy ffydd;
Fe ddysg y ddau Gorinthiaid
Y ffordd i Gristion fyw;
A dengys y Galatiaid
Y ffydd yn nheyrnas Dduw;
Eglurir drwy’r Ephesiaid
Y dwfn wirionedd mawr,
Mai Crist yw Pen ei eglwys,
Drwy nef a daear lawr;
Philippiaid ddeil yn amlwg
Nodweddion Cristion pur;
A dengys y Colossiaid
Y ffordd i’r nefol dir;
Ceir yn y Thessaloniaid
Yr Arglwydd eto’n dod;
A Thimotheus a Thitus
Beth ddylai esgob fod
Dwed Philemon fod cariad
Yn oleu fel y wawr;
A chynnwys yr Hebreaid
Yw’r Archoffeiriad mawr;
Mae Iago fyth yn gofyn
Gweithredoedd gyda ffydd;
(x236) A Phetr ddwed mai cyfyng
Yw’r ffordd i wlad y dydd;
Mae tri Epistol Ioan
Yn gariad pur bob darn;
A Judas yn ein harwain
Ymlaen i fore’r fam;
Yr olaf yw’r Datguddiad,
A phethau rhyfedd gawn,
Nad yw y byd yn gwybod
Eu hystyr eto’n llawn.

(x237)
(+97) DDOE A HEDDYW
Melys yw adgofion
Fy moreuddydd iach;
Bywyd diofalon,
Gwanwyn plentyn bach.

Bore heb un cwmwl,
Nef yn glir i gyd;
Cyn i’m calon feddwl
Am ofidiau’r byd.

Llamwn hyd y meillion
Gyda phlant y Glyn;
Cysgwn heb bryderon
Ar obennydd gwyn.

Hawdd y gallwn ganu
Yn y dyddiau gynt,
Pan yn adeiladu
Cestyll yn y gwynt.

Heiblo’r aeth blynyddau,
Minnau’n mynd ymlaen;
Ereill sydd yn chwareu
Heddyw ar y waen.

Hawddfyd bywyd welais,
Ond diflannu wnaeth,
Fel yr enw dorrais
Ar y melyn draeth.

Tremiaf i’r encilion,
Gwelaf eto’r ddôl;
Ond pe torrai ‘nghalon,
Ni ddaw ddoe yn ol.

(x238)
Heddyw yn ddiall.
Pwysaf ar fy ffyn;
Mae fy ngwarr yn crymu,
A fy ngwallt yn wyn.

Blodau’r bedd a welaf
Yn lle’r blodau gynt;
Galarnadau glywaf
Heddyw yn y gwynt.

Cofiaf wyryf dirion,
Yn y pellter draw,
Oedd yn cario’i chalon
Yn ei thyner law.

Cwrddem wrth y gamfa,
Duw yn unig wyr
Ac fe gafwyd oedfa
Felys lawer hwyr.

Cofiaf y diwrnod, -
Duaf ddydd i mi;
Pan agorwyd beddrod
I’w gweddillion hi.

Hawdd y gallaf wylo
Heddyw am y ferch
Nid oes modd anghofio
Saeth o fwa serch.

Gwn drwy flwyddi meithion,
Beth yw caloon drom;
Gwn am groes awelon,
Byd yn llawn o siom.


 YMLAEN I RAN 4:
(RHESTR Y TANYSGRIFWYR) 1230k

 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats