0924k Gwefan Cymru-Catalonia. Llythyra’ Newydd gan Fachan Ifanc. (Tarian y Gweithiwr 1895, 1896, 1897). Llith V. Gwareiddiad y Rhondda. " Dalwch y nghot i i fi gal rhoi cwpwl o smacs i’r bachan yna sy’n galw’i hunan yn Gymro, fu’n sgriblo pwt o lythyr yn y Darian ddwetha ar - WAREIDDIAD Y RHONDDA"

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_032_bachan_ifanc_1_0924k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

LLYTHYRA’ NEWYDD
Awdur: BACHAN IFANC
(O “Darian y Gweithiwr” 1895, 1896, 1897)

6514_map_cymru_a_chatalonia_aber_dar_070323
(delw 6514)


   
 




..a/ ARDDULL: Cymysgfa ryfedd o Gymraeg llenyddol a thafodiaith y de-ddwyrain.
..b/ Yr ym ni wedi cadw’r orgraff wreiddiol
..c/ NODYN: Nid oes teitl i’r rhan fwyaf o’r “llithiau” yn y fersiwn wreiddiol – i’r rhai dideitl, yr ym ni wedi bathio teitl a’i ddodi wrth rif y llith
..d/ I fynd at bob llith, defnyddiwch yr archwiliwr gan deipio ynddo x03, x12, x25, ayyb


CYNNWYS

(x01) LLITH I Bachan Ifanc yn Broffwyd - Steddfod Genedlaethol 1900 yn Mhwll-yr-Afu

(x02) LLITH II Pishis Canu Steddfod Genedlaethol Cardydd 1897

(x03) LLITH III Marw Tom Elis

(x04) LLITH IV Llythyra orwth “One of the Winners, Pontypool” a “Jenny Jones, Y Stics, Llanstephan”

(x05) LLITH V
Gwareiddiad y Rhondda

(x06) LLITH VI. Hen Sowdjwrs Shir Benfro.

(x07) LLITH VII. Marwnad ar ol Billy Got y 41st Rigmant, Penshwn i Hen ddynon, Penshwn i Hen Fenwod

(x08) LLITH VIII. Diall pethach.

(x09) LLITH IX. Hen Wlad Fy Nhadau / Hen Sgwibs Lletwith / Relwe newydd i ’Berdar

(x10) LLITH X. Gweid y Mhrofiad.
Caru ar y Beic. Os y Beto.

(x11) LLITH XI. Llythyr orwth Dim Ots Pwy; Hen Betheuach – Tribannau

(x12) LLITH XII Y Wasg Sysnag; Rwpath i’r Merched

(x13) LLITH XIII Cân i Lord Tredecar

(x14) LLITH XIV
Arath y Frenines.Y Bardd Newydd a Hen.

(x15) LLITH XV. Llythyr orwth y Labrwr Nos; Gwroniaid y Pwll Glo

(x16) LLITH XVI
Ashantee. Rhyfal y Coliar Clawd.

(x17) LLITH XVII Nadolig wrth y drws; Mari Lwyd

(x18) LLITH XVIII Ffwtbol merched.
Hen Bethach.

(x19) LLITH XIX
Y Beirdds. Y Mynwod Anwl.

(x20) LLITH XX. O Bothti Rhai sy wedi bod Bothti; General Rowlands a Parti Treorci.

(x21) LLITH XXI
Y Mynwod yn Ymwroli.

(x22) LLITH XXII
Beirniadaetha ’steddfotol
 

LLYTHYRA’ NEWYDD.
Gan FACHAN IFANC.


___________________________________________________
(x01) LLITH 1.
(Bachan Ifanc yn Broffwyd - Steddfod Genedlaethol 1900 yn Mhwll-yr-Afu)


MISHDIR Y “DARIAN,” –
Ma pob haf yn dod a pher a fala, eirin duon a mwsharwms, blota cawl a Steddfod Genedlaethol, nes nag yw a ddim yn rhyfadd fod y gan “O! na byddai’n haf o hyd,” wedi dod mor boblogadd, wath ma bron pawb yn lico un o’r petha yna, ac yn ol pob cownt i ni wedi gal yr wythnos hon, ma lot dychrynllyd (?) yn lico’r Steddfod. ’Nawr, pidwch chi a chretti achos na cheso i ddini shar o honi, y mod i yn jelws wtho chi a’ch short sy wedi bod yno. Dim shwd beth. O’n i yn watshan y papyr bob bora, ac yn llio’n ngwefla ar ol darllan y reports fel taswn i wedi enill shar o nhw munan, a o’n i yn chwerthin ha! ha! wth weld y preisis yn cal u stopo ar y beirdds, achos na fydd gyta nhw ddim shawns i wafo yn ots na fi odd yn ffaelu bod yno. Dyma beth w i yn galw yn

GYDYMDEIMLAD,

-- teimlo i gyd yr un peth, a ma isha cal y byd i’r mana cyn bydd a yn reit, a ma barnwrs Steddfod Cardydd wedi profi bod nhw yn diall athroniaeth y pwnc. Peth arall, o nhw yn diall athroniaeth mwy pwysig na hyny, sef bysa yr arian trwm odd yn cal u cynyg am breisis i’r beirdds am u pishis yn ala’r garantors yn bancrypts, a er mwyn iddi nhw fod yn siwr bysa tocyns yn spar iddi talu nhw am jidjo y pishis, w i yn cownto u bod nhw wedi dangos point of busnes wrth stydio economy yn ochir y committee. Wath fe all y beirdds shiffto heb docins yn well na dim un class arall, wath ma nhw yn byw y rhan fwya o’u hamsar yn myd yr ysbrydoedd, lle nag yw bara chaws ddim yn y ffashwn, a ma nhw yn gallu byw yn hen, hen, ar scili Ceridwen; ac yn ol y lein ma’r Steddfod yn cal i chario mlan nawr, dyw a ddim llawar o waniath pun a bydda nhw byw o gwbwl, wath ma pethach erill mwy modarn yn dod i lanw’u lle nhw o hyd.

W i wedi gweid o’r blan y mod i yn stiwpid wth drio dilyn y beirdds, a ma consyltashwn wedi bod rhyngto i a’r bachan sy’n labro’r nos pwy bwynt i gymryd nawr, trw u bod nhw wedi mynd i’r down gred, a finau am gatw munan lan os galla i, ac ar ol stydio yn galed, i ni yn dou wedi gweld fod yn rhaid i fi gymryd pwynt newydd. I chi yn gwpod mod i yn fachan sy wedi troi yn mhob short o ffordd, nes ma hi wedi mynd yn anhawdd gwpod ble ma cal ffordd newydd, ond diolch i’n menydd mawr i, w i wedi ffindo platform yto, a w i yn folon i chi ddoti a mwn print mawr

“BACHAN IFANC YN BROFFWYD.”

Ar ol i fi ddoti hwna lawr, fe allswn i feddwl y mod i yn clwad eco yn gweid, dyna hen ffrwmpyn yto. Beth ma fe yn gwpod am “be sy i fod? “ Wel, os gen i ddim i weid i ecspleinio munan yn well na rhoi program o’ch blan chi fel gwelas i a munan, a gofalwch neid wara teg a fi.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL I900 YN MHWLL-YR-AFU.

Er mwyn bod yn mlaenllaw gyda’r mudiad cenedlaethol, a thori stroc tuhwnt i Gardydd, y ma’n dda gyta ni hysbysu fod y pwyllgor yn gwitho yn galad i bwsho rhwpath newydd miwn i’r hen sefydliad anwl, ac er mwyn enill serch y genedl, dyna ni yn cal y fraint o fod yn perthyn iddi. Fe gewch enghraifft o’r hyn fydd gyda ni i ddoti o’ch blan chi pryd daw’r amsar i ben.

RHESTR GWEITHREDIADAU’R ORSEDD.

1.-Deuddeg Italian a phob o Hurdy Gurdy yn barod wth bob Maen. 2.-Yr Archdderwydd yn esgyn y Maen Llog, ac yn bloeddio yr englyn anfarwol canlynol O! arswyd dyma orsedd - yr y beirdd Ar ben eu can’mlynedd, I wadu eu dinodedd A d’wed eu swn nad oes hedd! (Clywch, clywch.)

3. - Yn y dyfroedd mawr a â’r tonau.”

4.-Yr Archdderwydd yn codi fel o freuddwyd, ac fel pe ddim yn gwpod pun ne’r englyn ne’r emyn odd y gora.

5.-Doti ffugenwa ar y Beirdds, y Derwyddons, y Cantorions, a phob short o bethach odd yn dod miwn i’r cysegr sancteiddiolaf. (Ma rhaid i fi weid gair y munan fan hyn. Ma isha cal rhyw fashinery newydd i neid ffugenwa, a fe fydd yn spec net i fachan iddi mowldo nhw, yn lle yr hen rhai stiwpid odd yn Cardydd. Enghraifft. - Dyn wedi dod yma am Dro. Hanesydd Tai Bach ’Brafan. ’Sgrifenydd o wlad Cathod heb Gynffona. Shorsyn Mab Dyn Diarth, &c. Pwy, yn mhen tri mish, fydd yn cofio enwau rheina? Ond rhaid mynd mlan a’r program.)

6.- Penillion Telyn, hono heb ddod. Yr Hurdy Gurdys yn taro ton. Mwynhad annghyffredin.

7.-Y beirdd yn cael eu gwefreiddio gan y miwsic, ac yn gneid miwsic u hunen fel hyn

Beth yw telyn - beth yw tant ?
At anwyl blant Italia
Ma’r Britons wedi bod mwn niwl
Wrth ganu Rhiwl Britania,
Fel Hurdy Gurdys mas o ddet,
Ond bechgyn net sy yma.”

(Clywch, clywch.)

8.-Yr Archdderwydd yn dechreu dod nol i’r hen hwyl, ond yr awdurdoda yn ala i weid fod yn bryd starto’r Steddfod. Can yr Orsadd.

Y STEDDFOD.

1. - Can gan Dewi Hyfrydlais.

2.- Anerchiad gan y Llywydd yn gweid fod a wedi trafaelu nithiwr heb ddim ond winwnsin yn i bocad a o Morlax i’r Steddfod, gan gymant y serch odd gento at y Cymry.

3.- “O fryniau Caersalem ceir gweled,” &c.

4.- Beirniadaeth y Traethawd goreu ar “Bob llwyth, iaith, a chenedl, o’r amser y daeth bywyd i ddadblygiad yn nghyntaf mewn llysieuaeth, anifeiliaeth, a phob meidroliaeth ac aethau erill.” Disgwylir i’r awdwr ddosranu ei gyfansoddiad mewn symledd cydweddol a natur addysgol yr oes, fel na bydd ei ysgrif yn faich i’r darllenydd.
Y Feirniadaeth, - Yr ydym fel beirniaid wedi darllen yr haner dwsin traethodau ar y testyn amserol hwn, ac yn gydwybodol nad oes un o honynt wedi mynd at wreiddyn y testyn, nac wedi amlygu ond ychydig o wybodaeth amdano. Atelir y wobr.

5.- Irish jig.

6. - Solo Tenor, “Cymro Dewr” - (ac yn gweld y fforinars yn mynd a’r Wyl Genedlaethol oddarno, yr un shwt a’r gaffers yn mynd a Gwyl Mabon ddar y coliars - dyna ddewr!)

7. - Yr Highland Fling yn ddyddorol dros ben.

8. - Englyn, “Modryb Gwen.” Dim teilyngdod.

9. - Y Prif Ddarn, Anthem newydd gan Morantho. Disgybleitho Davies-Jones. Wyth o gorau yn cystadlu - dau o Llydaw, dau o Werddon, dau o’r Alban, un o Ynys Manaw, a’r nall o Gymru! Ynys Manaw yn fuddugol. Yn tori yn fwy distinct na’r lleill - dim cymant o gynffon yn y swn. Cynta gwpla gora’i gyd. Clapo mawr.

10. - Dyma ni yn awr yn dod at brif waith yr Eisteddfod. Fe fu - Awdl y Gadair - yn cael sylw yn y gon bei days, a’r Bryddest hefyd fu yn hawlio sylw. Fe ddath y prif ddarn corawl i symud milodd idd u gryndo, ond good bye i’r bloomin lot. Ma’r hen ganrif yn ei bedd, ma’n rhaid cal newydd-deb, a fe fynwn a hefyd. Mae pwyllgor anturiaethus wedi penderfynu gneid y Steddfod Genedlaethol 1900 tu hwnt hyd yn nod i speciwlators Cardydd, a ma nhw yn hurio trwp o anturiaethwyr i ffindo hen wehelyth yn tada ni yn mhob rhan o’r byd; ond y darganfyddiad gora ma nhw wedi neid mwn cornal bach, yn mhart isha y lle pella sy yn Merica, fe ddethon o hyd i’r PEDWAR dwetha o olafiaid Madog ab Owen Gwynedd yn cwato mewn perth, a ma nhw yma heddy i roi perfformans ar y platfform yn lle Awdl y Gatar. Ma nhw mor gyfarwdd yn y jobin, fel bydd a yn bleser i bawb gweld nhw yn mynd trwyddo, a fe fydd yn beth newydd yn yr Wyl Fawr Genedlaethol. Gyda cymant a yna o ragymadrodd, fe ddwa nhw mlan nawr i ddangos i ni, fel cenedl o’r un gwad a nhwnta, fel odd u tada yn gallu scalpo pena er boddlonrwydd cyffredinol i’r gwyddfodolion ni a gredwn.

Y peth nesaf ar y program yw i’r brodyr Madogaidd scalpo pena pedwar o’r beirdd gora sy yn gwishgo peisha yr Ysteddfod. “ Y Gwir yn erbyn y Byd.” Diwedd – “ Bydd myrdd o ryfeddodau.”

___________________________________________________
(x02) LLITH II.
(Pishis Canu Steddfod Genedlaethol Cardydd 1897)

Wn i ddim pun a i chi mewn shap i stydio ne bido, ond ma’n rhaid i chi a Mishdres y Darian rhyngoch chi ach gilydd yn helpu i mas o’r trwpwl w ynddo nawr gyta’r pishis canu sy’n dod mas ddar y Steddfod Genedlaethol. O’n i yn synu wrth weld mor ddiened a diawan odd yr englynions yno o’r Archdderwdd lawr i’r Archidiot mwya barddonol, ond w di i fi weld specimen o beth odd gen yn brodyr anwyl sy yn byw yr ochor arall i’r moroedd o’n i ddim yn synu dim. Ma nhw yn gweid wtho i’ ta’r farddoniaeth ora yw yr un mwya anhodd iddi diall, a ta’r bardd gora’i gyd yw yr un fyddwch chi yn ffaelu i ddiall a o gwbl, a dyna yr achos y mod i mwn shwd gonffiwshon nawr. Fe ddath y pishin canlynol mas mwn papyr Sysnag sy yn cal i brinto yn Cardydd, a w i jest wedi mynd yn hurt wrth dreio’i ddiall a, a w i yn moin i chi a’r darllenwrs gal shar o’r jobin,

“RHYFELGAN Y LLYDAWIAID,”
“Ton. - Ann hini gors.”

“Ni sy bob pryd, Lydawiaid, Lydawiaid, wyr Caled.”

“O ia! i’r rhyfel rymus wyr,
Y chwi sy gartre’n onest-wyr.

Y Saeson ffoant ben yn mhen,
Pan gydlefarom, “Tor ei ben,”
Yn mhob priodas clywir ter,
Ac hyfryd sain y “binion” {= biniou} ber.

O Riez Izel! Bro decaf Ior,
O’i fewn mae coed, o’th gylch y môr.

Och! Lydaw, os rhaid d’adael di,
Mi wylaf chwerw ddagrau’n lli’.

Frodyr, glynwch, wrth ’rhen bethau ´
Ffon hir, gwallt hir, hirion lodrau.

Ymgalonogwch, ddewrion mad,
Y chwi gaiff ferched goreu’r wiad,
Fy nhafod dynwn mas o mhen,
Cyn gwadu’r hen Lydawaeg wen.

Hawddamor it, Breiz Izel, fyg,
Hoff gartref derw preiff tal frig.

Er hyny, uwch holl bethau brau,
Carwn Iesu, Duw, ein tadau.
Brizenth a’i Cant,

Os byddwch chi yn dewish, syr, fe allwch ala’r pishin yna i –

Mr. T. WILLIAMS (Brynfab),
Nr. Pontypridd,

i gal gweld pun a caiff a ddod mas yn y cornal sy gyta fe i’r beirdds yn y Darian, a falla gnaiff a remarcs arno, ne falla dotiff a fa yn y fasgad - dw i ddim yn gwpod, ond w i yn gwpod nag yw a ddim yn i ddiall a ta beth.

Nawr, fe ewn mlan at rhwpath i ni yn diall i gyd - sef gwaith hen Gymro. Dotwch chi ych twls printo mewn tiwn.

Carmen Britanicum, ad explanar,
Taliesini, Seculi sexti Poctarum.

PRINCIPIS.
Henffych well, Frederig, Ein goruchel wledig,
A’th gydwedd Augusta,
O hen edryd Gotha;
Cystlwm teg cyswynawl.
Rhwng cywreinieu breiniawl.
Debri di yr enwog,
Fechdeyrn gwych dyledog;
Dafydd i’th d’wysogaeth,
I Aberffraw helaeth,
Y freiniol breswylfa
Lle bu gynt dy gynna
Differ yno’r giwdawd
Rhag pob math ar anffawd,
Bid dy gledd a’th bennawr’
A’th saphwy gyfurddawr,
I gadw braint cynhwynawl
Rhag tra gwerin gythrawl.
Ac o claddwyd awen
Wyryf ddoeth ddysywen,
Eto hi adgyfyd
Yn ysblenydd hyfryd;
O feddau Beirdd celfydd
Tardda ddawn awenydd,
Blodeua Brythoneg
Megys gwydd ehoeg,
Bu bau mawl y beirddion
Yt ben-ffelaig Brython.
Gorddyar yr eigion,
Erddiganau eon
A’r creigiau ddadseiniant
Dy ryglyddus foliant
Pet bid y tan fragad
Cenhedled Augusta
Megys hen Elena
A gwrdd fraisg facwyon
I anturio ynghanon.
Boed eich dau’n ffynadwy,
Ac ar gynydd fwy fwy,
Mal Arthur gledd llachar
A’i fanon Gwenhwyfar.
W. Wyn a’i Cant.

Ma anerchiad priodasol felna yn interestin ac yn dytshin iawn, ond am yr un cynta, gyta mod i yn meddwl ta pishin serch odd a, dyna fa yn troi at rhywpeth arall. Beth odd yn fwy neis i fachan ifanc na

“Ymgalonogwch, ddewrion mad,
Y chwi gaiff ferched goreu’r wlad,”

ond odd a yn dod mor sytan ar ol y leins o’u blan nhw

“Frodyr, glynwch wrth ’rhen bethau,
Ffon HIR, gwallt HIR, HIRION lodrau,”

nes na wn i ddim pun o’r ddwy gwpled sy ora, na pun o nhw sy yn yn siwto i ora. Fe weta i benill wtho chi nawr, ma’r hen stoc yn i wpod a i gyd

“Morgan bach, fy machgen anwyl,
Ie’r bachgen bach dinam ;
Aros, rho dy glust i wrando
Ar gynghorion dwys dy fam.
Paid a bod mor galongaled,
Paid a’m gadael wrth fy hun,
Heb na brawd, na chwaer, na chymhar,
Dan y tonau’n wael fy llun.”

Ma pawb yn diall hwna, dicon tebyg fod a wedi cal i atrodd mwn llefydd mor gysegredig a’r Pafilion, lle ma nhw yn cynal y Steddfod Genedlaethol. Ond dyna lle ma’r drwg, os dim shawns i enill ar bishis felna o gwbwl, wath dyw’r big gyns ddim yn cwnto u bod nhw yp tw det, a dyma’r achos y mod i a’r bachan sy’n labro’r nos yn ffeili dod a preisis o’r Nashonal. Dyw a ddim ifflyn o ots gen i, cofiwch, pwy sy yn ffaelu enill y Gatar, ond w i yn cretu yn bod ni yn colli tir mwn peth sy yn fwy pwysig, a ta pwy mor glyfar ma nhw yn treio bod nawr, w i yn ffaelu gweld un Talhaiarn, Iorwerth Glan Aled, Mynyddog, na Cheiriog yn cwnu nawr, ac os na chwniff neb o’r short yna, fe all y beirdds newydd a’r hen dories cynghaneddol dowlu y spwng lan pryd mynan nhw i gadw gwres a theimlad cenedlaethol rhwng erchwynion “gwlad y bryniau,” a chysgu ar obenydd cynhes - Cymru Fu.

___________________________________________________
(x03) LLITH III.
(Marw Tom Elis)
.

Rhy anhawdd yw troi golwg i un cyfeiriad heddyw ond at un amgylchiad - yr amgylchiad cenedlaethol pruddaf a brofwyd gan ein gwlad er dyddiau ei phenaf arwyr. Mae ein Tywysog wedi syrthio - ein gobaith wedi ei ddwyn oddiarnom - seren loewaf ffurfafen, rhyddid gwlad; wedi diflanu. Mae Cymru’n wylo - mae Prydain yn galaru, ac edmygwyr rhinwedd, talent, a phenderfyniad, yn cyd-ocheneidio. Oh! Tom, Tom, paham y cefnaist arnom mor gynar ac mor sydyn ? Yn nghanol dy waith, yn nghanol dy waith, yn nghanol dy ogoniant.

Y mae llywiawdwyr mewn hiraeth, pendefigion yn cwyno, ac arglwyddi yn brudd. Mae hyd yn nod ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi datganu ei gydymdeimlad â’r teulu galarus. Y mae y deyrnas yn teimlo’r golled o farw Tom Ellis, a phwy a draetha golled Cymru? Bu ein gwlad yn gruddfan dan draed gormes yr oesau heb un o’i phlant yn alluog i ddwyn ei hachos i sylw, a dadlu ei hawliau.

Agorodd y gwladgarwr anwyl, Henry Richard, y drws, daeth cenedlgarwyr ereill i’w gefnogi, i roddi trwydded i feibion Cymru i gynteddau addysg, ac un o’r rhai cyntaf i gymeryd mantais o hyny oedd T. E. Ellis, mab amaethwr cyffredin o Gynlas, Meirionydd, a phwy fuasai yn well fel prawf i estroniaid, fod Cymru, er yn fud y pryd hwnw, yn meithrin athrylith mor loew a’r haul, ond fod angen addysg i’w caboli ? Ni wnaeth neb erioed well defnydd o’r manteision a ddaeth i’w ran. Parodd iddynt fod yn elw iddo ei hun, ac i’w wlad a’i gydgenedl, a chaiff “Cymru Fydd” dderbyn bendithion lawer o lafur ei fywyd. Dim ond un diffyg sydd yn holl hanes ei fywyd - iddo gyrhaedd pen ei rawd mor gynar ar ganol dydd. Gwelwch ef yn fab saith-ar-hugain oed yn eistedd yn mhlith y doethion Prydeinig.

Y gwladwr ieuanc Cymreig yn rhesi meibion y bendefiaeth; ac er mor dawel a gwylaidd ei natur, ni fu yno yn hir cyn i lygaid eryraidd yr hen Gadweinydd Gladstone syrthio arno, a chan fod ynddo yr adnoddau angenrheidiol i ddyrchafiad a defnyddioldeb, y mae oes fer, fywiog, lwyddianus Tom wedi mwy na phrofi fod yr hen gawr o Benarlag wedi adnabod ei ddyn. Tybiai llawer pan benodwyd ef i’w swydd bwysig a chyfrifol nad oedd ei brofiad yn cyfiawnhau y dewisiad, ond nid oes genym hanes fod neb o’i flaen wedi ei chyflawni yn well, na chyda mwy o foddhad i’w blaid ei hun a’r wrthblaid yn o gystal; ac y mae dau allu mawr Senedd Prydain ar lan ei fedd yn cyd-ddatgan eu cymeradwyaeth i’w wasanaeth a’i allu, ac yn cyd-alaru am na fydd ganddynt mwy. Yr ydym yn cael yn ystod y dyddiau presenol, er pan wnaed yn hysbys ddydd Mercher diweddaf, fod ei ysbryd gloew wedi cymeryd ei ehedfa i fyd y gloewder, a’n gadael ninau mewn prudd-der, yn y byd pruddglwyfus, gawodydd o syniadau cymeradwyol a hyglodus am dano, gan bersonau unigol, a chan gymdeithasau, o’r pwlpud a thrwy y wasg, a’ fyddant yn anrhydedd i’n cenedl ar ddalenau hanesyddiaeth.

Yr ydym yn falch o honynt, ac yn diolch am danynt; ond credaf fod i’n gwlad a’n cenedl, yn y presenol a’r dyfodol, rywbeth mwy sylweddol, pur, a pharhaol, yn mywyd a marwolaeth Tom Ellis, nac hyd yn nod yn nathliadau edmygawl parchus y cyhoedd, yn mhlith pob gradd o gymdeithas, yn y cyfwng ingol hwn i hen Walia drallodedig.

Oes, y mae yn mywyd Tom drysorau gwerth eu cadw yn amgueddfa fywydol cenedlaetholdeb Cymreig dros oesau i ddod. Bydd teithi ei oes fel darlunlen yn daenedig o flaen llygaid ieuenctyd “Cymru Fydd.”

Gwir, y mae ef ei hun wedi argraphu delweddau hanfodol llwyddiant yn symudiadau ei fywyd, ond bydd rhyw law hyfedr eto yn ofynol i’w portreadu mewn coflyfr o hono, a’u gosod yn nwylaw ein Cymry ieuainc, fel y byddont yn elfenau i’w symbylu at y pur, yr uchel, a’r clodforadwy.

Pryd hyn, ac nid cyn hyny, y ceir yr olwg gyflawn gyntaf ar werth gyrfa Tom Ellis, a pha bryd y derfydd ei werth, rhaid gadael i’r dyfodol pell fynegu o bwlpud anghof wedi goroesiad hanesiaeth.

Fel y crybwyllwyd o’r blaen, cafodd Tom drwydded i gynteddau addysg, ac ni fu’n segur yno. Buasai Cymru mor ddiamddiffyn heddyw a chan mlynedd yn ol oni bai fod pyrth addysg wedi eu hagor; a gallai na fyddai anrhydedd Tom Ellis yn uwch na bod yn fuddugol ar gerdd neu draethawd, mewn eisteddfod leol, oni bai ei nodded hi iddo, a’i ymlyniad ef ati hithau.

Gwelodd ef ei gwerth, a theimlodd hyny, ac amlygodd ei ddiolchgarwch am ei bendithion trwy gofio fod ereill i ddyfod ar ei ol. Aberthodd gyfran helaeth o’i oes fer i ledaenu addysg ac hyrwyddo ei llwybrau hi trwy gymoedd a threfydd tlodion ei wlad. Yn hyn y daeth ei wladgarwch yn amlwg gyntaf, a bu hyn yn agosaf peth i’w galon hyd geulan ei gynarol fedd. Gwyddai ef trwy brofiad os oedd dyfodol uwch i Gymru, mai trwy y cyfrwng hwn yn unig yr oedd i gyrhaedd hyny, ac ni adawai gareg ar y ffordd i’w rwystro tra bu nerth ynddo ef i’w symud. Yr oedd llenyddiaeth ei wlad, crefydd ei wlad, dysgeidiaeth ei wlad, a rhyddid ei wlad, fel yn un yn glymedig wrth ei galon. Yr oeddent gydag ef bob amser, yn mhob man, ac o dan bob amgylchiadau. Ganwyd ef yn Nghymru, bu fyw i Gymru, a bu farw dros Gymru. Mae Cymru heddyw yn wylo dagrau’n hidl ar ei fedd yn mynwent Cefnddwysarn, ar fynyddoedd oerion Meirion. Wedi i ti, Gymru dlawd, dywallt dy ddagrau yn helaeth i lonyddu arteithiau dy deimladau, cymer seibiant dros ychydig, ac yna cwyd dy ben, a diolch dy fod wedi cael y fraint o godi gwr o fath Tom Ellis. Er bered fu ei oes, gwnaeth fwy na mil o Feibion Can mlwydd drosot ti, a thros dy blant! Faint o feibion ein gwlad a’i efelycha? Mae ei gamrau yn werth eu dilyn. Bu yn wir arwr, a syrthiodd ar faes y frwydr ac ar ei fynwes dlysau gogoneddusach na “Chroes Buddug” fyddant yn dysgleirio yn ei goffadwriaeth “Tra môr, tra Brython.”

___________________________________________________
(x04) LLITH IV.
(Llythyra
orwth “One of the Winners, Pontypool” a “Jenny Jones, Y Stics, Llanstephan”)

Dyma fi wedi cwmpo miwn i ddwr twym yto dros y mhen a’n nghlysta, a dim ond o’ch achos chwi wyr Byrdar. Fe wddoch mod i wedi gweid dicyn yn biwr am danoch chi a’ch shampions cerddorol a barddonol yn y Darian ddwetha, a nawr rw i yn cael y bai ta rhw Shoni naill ochr w i, a mod i yn ych laddro chi a’r sebon gora sy idd i gal yn y farchnad. Ma’r Postman wedi bod yn trampo yn fishi iawn at y drws yma yn cario epistola o bob short i fi, orwth bob short o garitors o wahanol fana, nes w i a’r fenyw lle w i yn lodjo bron mynd i gretu ta yn yn ty ni ma Home Offis Prydain Fawr. Fe ddath y llythyr cynta ato i o Shir Fynwa, a wth gwrs un Sysnag yw hwnw, a o ni yn gorffod catw Dic Shon Harri wth yn ochor yn handy i esbonio meddwl rhai o’r geira mawr diarth. Falla fod a’n well i fi ddoti a lawr yma fel ceso i a, a rhyngo chi a’r darllenwrs a’ch Dics chytha bothti diall y contents: -

“Pontypool,
12 / 8 / 1897

MR. BACAN IFANC,
What a combustion of idle twaddle, and intolabl vanity you displayed in your unpalatabl and indijestive puffing creations last week in the Tarian. Heaven protect us. Is there no qualities, no exellence, no jenius, no nothing in nobody unless his postal address is Aberdare ? I am quite willing for you to blow up your own bubles. But why call the attention of the whole country to them only ? You dwell upon puffing that non-whiskered young bardic fellow, for simply that he brought with him from Newport a bundle of sticks, in the shape of a rude piece of furniture, that no parson of an English refined taste, would give it place in his back kitchen, what you boast to call “The National Prize Chair, 1897.” But not one word is said by you of the glorious capture of the grand prize of ₤200 by the sweet and sublime singers of Gwent, and under the adjudication of the most talented and acknowledged musical authorities. O no, they are not Aberdarians, nor Glamorganites, and so are not supposed to be winners on Eisteddfodic platforms, according to the estimation of such narrow and fickle-minded nonensities as you, and other dwellers of our Western hills. What a flood of spleen and slander is casted upon us, because your Merthyr favourites are not always favoured. We quit - enjoy the intense jelousy, and the honourable prize. We boast not, but mean to win again. Take that for a salter.

Yours, &c.,
ONE OF THE WINNERS.”

Clywsoch chi shwd lap a lol ariod? Beth ma fa yn boddrach sha fi am u canu? Wetas i ddim am deni nhw, ma’n wir, a wetas i ddim am Gor Dan Bach hefyd, wath fe allwn i feddwl fod gormod wedi cal i weid am y fysnas, ta pun o nhw odd y gora, er ma’n dreni fod neb yn cal cam, ond ma’r atnod yn gweid, “Ofer dadl wedi barn.” W i wedi gweid lawar gwaith, fel gwddoch chi, yn y llythyra cyn y mwstwr hyn, nag w i ddim dros cal barnwrs Sysnag yn yn steddfota ni o gwbwl, na dim byd arall Sysnag o ran hyny. W i yn moin catw yr hen wyl yn yr hen ffashwn, mwn brethyn cartre, paish a bedgwn, a het a chantel. Fe fydd yn siwr o fod yn fwy cysurus na wedi’i decoreto mwn mwslin tena, a shitan slip, a rhw sheinins fforin felna. Pryd i ni yn ala i moin fforinars i fesur a phwyso’n canu ni, ma nhw yn dishgwl i ni gwmpo miwn idd u steil a’u tast a’u rhegiwleshons claiar ac annghynyrfus nhw’u hunan, a ma’n anhodd i Gymry mynyddig, poethwad, hewydus, carlamog, gwresogol, ddofi eu hysbrydoedd a mwslo eu heneidiau canyddol, i’r safona a’r strains amddenol, a’r si saws, a’r come day go day steil a fawrygir gan farnwyr sy’n dod ar dramps blynyddol i’n steddfota cenedlaethol ni. Diwch anwyl! Fe af i hobl yto os na finda i, a fe dyna’r blwmin lot Seisnigyddol a fforinol yn y mhen yto, a falla ta’n niwadd i fydd cal yn asasinato, fel y bachan yna yn Spain yr wythnos ddwetha - Senor Canovai, wath ma’r cantwrs mor ddanjeris a’r Anarcists bob tamad, a arno i ofan fod hwna sy wedi sgrifenu ato i o Bontypwl, wth i iaith a, yn gallu iwso refolfar gystal a Mical Angino Goili; a beth ddaw o honoch chi a’r litl biwties os collwch chi fi mwn catostroff fel yna? Fe fydd yn rhaid i fi employo Wmffra Huws a’r bachan sy’n labro’r nos, yn ddetectifs i gymryd car o hono i, a trw bod nhw’ch dou wedi bod yn Casnewydd am wthnos gyta’r Boys o ‘Erin Go Bra,’ ma nhw wedi cal lesins i ddysgu’r ffordd i iwso’r Shilelah, a fe alla i deimlo munan yn weddol saff o dan u gwyliadwriaeth awdurdodol a barddonol nhw. Cymered y bachan yna sgrifenws Sysnag ato i yr hynt,

- “Will ye der to tred on the tail of my coat?”


Ma’n bleser gen i droi orwrth y cwestshwn yna, a’r hen lythyr Sysnag pigog, at lythyra w i wedi dderbyn orwth fechgyn a merched o’r ffynona a glana’r môr o wahanol barta o Gymru, fel Llanfair, Llandrindod, Llanwrtyd, Porthcawl, Llanstephan, ac Aberystwyth, a mana erill tw niwmoras tw menshon, a ma nhw i gyd yn gweid yn respectabl am dano i, a ma amball un o’r ffeminein jendar sy wedi ala ato i, yn sgrifenu yn lyflee ac yn dytshin dros ben, nes ma nhw wedi ala rhw feibareshons swyngyfareddol, ysbrydgynyrfiol, calon orchfygol, edmygedigaethol, ynfflamychol, a fuo bron a gweid nefol trwyddo’i gyd. Fe licwn, er mwyn parch iddi nhw, a chredit i munan, iddi printo i gyd y tro hyn, ond fe elan a gormod o’r peth yna ma sgrifenwrs clasical yn galw “gofod” arno, a ma’n well i chi ddod a speshal edishon o Darian Dwr y Môr a’r Ffynona, i gal gneid lle iddi nhw’u gyd. Falla bod yn well i chi gal un yn spesiman, yn lle bo chi yn ffeinto mwn syspens wrth aros, a fe tynaf a mas o’r bwndel ar randam fel tynu lotry, yn lle bod chi’n cretu mod i’n pico’r un gora. Gadewch weled, ie, dyna fe fel dath a i law, -

Y Stics, Llanstephan,
Awst 13eg.

ANRHYDEDDUS FACHAN,
Gobeitho na fydda i ddim yn ych insylto chi wth gymryd y cyfleusdra hyn i ala gair o’n nheimlad mwn llythyr atoch. W i yma ys dros wythnos, ac er fod y tywydd yn dda, a bod yma fechgyn glan a merched serchus, alla i ddim gweid fod popath fel y dymunwn i, isha na fysech chi yma gyta ni yn gwenu arno ni, fel ma’r houl mawr yn gwenu genol dydd yn y ffurfafen uwchben! Ma gyta ni ferched shwd respect, a shwd estimeshon annhraethadwy am danoch, fel na alla i ddim doti lawr ar bapyr hanar ych gogoniant yn mhob dull a modd, heb son am dynu llun ych physiog anwl. I chi quite yn lady’s man, a gobeithio parwch chi felni. W i wedi bod yn stydio yn galad ys cetyn beth yw y cwalities gora all fod yn perthyn i fachan ifanc, a dw i ddim wedi ffindio neb o nhw wedi dod lan i’r un marc a chi.
[Lol botes, lol botes! pwff, pwff. - GOL.] I chi yn llanw’n llycid ni, a’n clysta ni, a’n calona ni yr un pryd. I chi yn Elderedo o fwyniant i bob perchen pais, gan ych bod wedi yn hamddiffyn, mewn amsar ac allan o amsar, bob cyfla i chi’n gal. Bendith ar ych pen glân weta i, a sgreched bob litl biwty, “Amen.”

Dros chwaeroliaeth y Stics,
Gyda XXXXXXX,
JENNY JONES.

O.Y. - Fe fyswn wedi doti sent yn y llythyr, ond o ni ofan byse’r fenyw lle i chi yn lodjo yn geso wetin, ma orwth y merched odd a wedi dod, a w yn deall ta hen greaduras speitffwl yw hi, a bod arni ofan colli lodjar piwr fel chi. - J.J.

[Mr. Gol., - Os w i yn cal y ngorfodi i ffindio llythrena i brinto shwd stwff a hyn, w i yn rhoi notis ’nawr mod i’n myn’d i jaco y jobin. CYSODYDD.]

Wn i ddim beth yw y rheswm fod y merched anwl i gyd yn bownd o ddoti ol-ysgrif idd u llythyra biwtiffwl, yn enwedig pryd ma nhw yn ysgrifenu ato i. Ma nhw fel sa nhw yn cal rhw newydd flas o hyd wth wilia sha fi, ond dw i ddim yn gweid hyn i frago munan, wath i chi yn gwpod, nag os dim o’r deleit hyny yndo i o gwbwl. W i bownd o weid atnod ganu wrth Jenny Jones cyn cwpla.

Jenny brydferth, Jenny anwl,
Ma dy lythyr rhyfedd rin,
Wedi citsho yn fy meddwl,
Fel electric serch-fasheen;
Buan gwnaf i’r toffs i gilio
O fy mlan fel lot o grics,
Os y deuaf i’th gofleidio,
I Lanstephan yn y Stics.

Cofion serchus at fechgyn a merched dwr y môr a’r ffynona yw dymuniad u hen bartnar nhw,

Hedd a chan fyddo i chwi
Yn loniant eto ’leni.
 

___________________________________________________
(x05) LLITH V.
Gwareiddiad y Rhondda

I weld cyfieithiad Saesneg o’r testun hwn ewch at: For an English translation of this text ("Civilisation in the Rhondda") go to: 0925

Dalwch y nghot i i fi gal rhoi cwpwl o smacs i’r bachan yna sy’n galw’i hunan yn Gymro, fu’n sgriblo pwt o lythyr yn y Darian ddwetha ar -

WAREIDDIAD Y RHONDDA

Wn i ddim llawer am dano, na beth yw i seis a, na beth yw i bwysa fa, a dyw a ddim gwahaniath gyta fi beth all a fod. W i yn folon sefyll rownd ne ddwy o’i flan a, trw bo fa wedi insylto y martnars i, sef bechgyn Cwm Rhondda. Odd a’n gweid fod e a rhw Sais wedi bod yn consylto sha’u gilydd yn y Fenni bothti ignorans bechgyn y Cwm. Wn i ddim yn bwy bart o Fenni odd y ddau ar y pryd, os nace yn y ty mawr sy yn ben draw’r dre, man lle ma’r rhai sy’n arfadd wilia’n dwp yn lodjo.

Odd y disgwrs odd rhynto fe a’r Sais yn depig iawn i steil y rhai sy yno. Isha troi y Rhondda i gyd yn Sysnag odd ar y Sais, medda fe, ond i ni yn gwpod yn weddol beth fyddai’r rysult o hyny, wath i ni wedi gweld yr effath mwn mana erill o’n gwlad, lle ma’r dylanwad wedi dod i befformans, a tysa dicyn bach o gymshan Cymrag yn y Cymro, fysa dim isha iddo fynd ymhell o’r man lle o nhw yn wilia i gal ilystreshons o wareiddiad Seisnigol fysa yn ddicon i gauad ceg lydan-agored ei gyfaill Hengistaidd.

Ma cymodd glofaol a gweithfaol Mynwy er’s blynyddoedd bellach wedi syrthio llawar o ddegrees yn ish nag o nhw, yn achos fod cymaint o fforinars wedi emigreto yno o Wlad yr Haf, Henffordd, Dyfnaint, a phartha erill, ac mae eu hiaith ishel, a’u hanfoes, a’u dylanwadau anheilwng, yn codi gwrid i wyneb yr hen drigianwyr Cymruaidd sydd wedi eu geni yno, ac maent wedi effeithio yn niweidiol ar y brodorion ieuainc sy’n cal eu codi yno yn bresenol.

Mae y Sais-ddyfodiad yn iwso y terma mwyaf atgas yn eu leferydd y gall Belzebub ei hunan droi mas o’i ffactri frwmstanaidd. Y mae pobpath y sonant amdano yn "bloody this" a "bloody that", a damniant eu llygaid i anwn am y peth lleiaf ne ddim; ie, galwant Dduw yn dyst i bob trybini wnant mewn termau mor anystyriol a gwawdluniol na feiddia un gwir Gymro ddychmygu am danynt, ac na chlywyd mo honynt yn merwino clustiau bryniau a mynyddoedd Gwent cyn eu dyfod hwy yno ar eu pererindod begeryddol ac yspeiliol.

Hwynt-hwy sydd yn cyflawni mwyaf troseddau yno, ac hwynt-hwy sydd yn difwyno cymeriad moesol cyntefig y tir, a buasent yn waeth nac ydynt oni bai fod y Cymry yn aberthu eu capeli a’u hiaith i draethu efengyl iddynt er mwyn eu gwareiddio a’u crefyddoli, gan nad oes yno ond ychydig o engreifftiau o honynt hwy eu hunain yn myned i drafferth o godi capel iddynt eu hunen; ond wedi iddynt gael gan y Cymry ganiatau pregethu yn Seisnig, buan y byddant yn monopoleiso yr addoliad i gyd yn yr iaith fain, a gwell gan y Cymry hyny, na gadel iddynt fyned ar ddysperod bythol yn eu rhyfyg pendemonaidd.

Pam na fuasai Cymro, ac ynta yn gwpod y pethau hyn, gan ei fod yn trampo yn y cylchodd yna ys cetyn nawr, yn cauad ceg y Sais am ddylanwad gwareiddiol y Saeson yn Nghymru? Ond ma Cymro i hunan yn gweid fod isha gwareiddio, rhesymoli, a chrefyddoli y Rhondda. Fe wddoch chi a fi, syr, fod isha gneid hyny yn mhob man. Ond pam Cwm Rhondda?

W i wedi trampo munan dicyn bach yno, a w i yn gwpod amcan lled dda ffordd ma pethach yn sefyll yno. Ma Cymro wedi bod rhyw ddydd Llun Mabon, medda fe, a ma fa yn gweid yn i bwt llythyr fod bechgyn Rhondda fel gwartheg a lloi. Ma’r ilystreshon yn deilwng o fe’i hunan, ac yn brawf nag yw a’n gwpod llawar am y Cwm, ond beth welws a ar wincad llycad llo yn Steshwn y Porth, a ffordd gwydda fe pwy nashonality odd y rhai ma fe yn sôn am danynt.

Ma yn y Rhondda Fawr a Rhondda Fach agos i gan’ mil o bob llwyth, iaith a chenedl bron, a’r Cymry yn cal y bai am u pechodau nhw gyd, a nid y Cymro hwn yw’r cynta i bwynto bysadd yn y lein yma, ond trw fod e yn esgus teimlo yn wladgarol, fe ddyla ddishgwl miwn i bethach cyn joino a Sais penchwiban i dduo caritor ei gyd-genedl.

Os dim dowt nag os llawar o Gymry anywath yn y cymydd hyn, fel mwn cymydd erill, ond w i yn cretu fod y rhai sy felna wedi dysgu hyny gen y fforinars sy’n heidio i’r glofëydd o wahanol barthau o Loegar, a gwletydd erill. Dim ond cymryd golwg deg ar fechgyn a merched Cwm Rhondda, fe allwn gwnu u pena mor ychel a un part o Gymru ne Lloegar mwn moesoldeb, rhesymoldeb, a chrefyddoldeb

A yw Cymro wedi cal golwg ar ieuenctyd y Cwm yn y capeli mawrion ardderchog sydd yn brithio’r ardaloedd o Pontypridd i Flaenycwm? A wyr efe rhywbeth am y miloedd bechgyn a merched sydd yn mynychu y rhai hyn yn wythnosol a Sabbothol? A glywodd yr oracl symudol hwn rwybeth eriod am dalentau addysgol bechgyn Rhondda ym mhob galluoedd barddonol, cerddorol, a llenyddol?

Onid yw’r Cwm wedi dyrchafu ein cenedl yn gyfan yng ngwydd y byd mewn ystyr gerddorol? Ai cyfiawn i farnwyr gwibiog mursenaidd fel hyn i alw sylw y byd newyddiadurol Cymreig at anwareiddiad dyffryn poblog, yn herwydd iddo ddigwydd gweld rhyw dwr o chwilgrots yn chwareu rhompian ar ddydd Gwyl Mabon, pan oedd ei fawrhydi samwnaidd yn digwydd mynd heibio? Ma gormod o ddweyd ie, ie, gyda syniadau fforinaidd am danom fel cenedl.

Dyledswydd Cymro a’i fath ddylai fod, i roddi amlygrwydd o’n rhagorion pan y crybwyllir am ein diffygion. Fel y crybwylla awdwr yr ysgrif arweiniol yn y Darian ddiweddaf, y mae ymddigiadau Cymry ein cymoedd yn fil mwy teilwng na’r dull a gymerir gan yr estroniaid a dryfrithant ein gwlad ar ein gwyliau, ac nid yw Cwm Rhondda ar ôl i un Cwm arall yn Nghymru yn y cyfeiriad moesol a gwaraidd, ond cymeryd y Cymry fel safon, ac nid anwariaid estronol.

Fel gwetas i wthoch chi ar y dechra, syr, dyma fi wedi rhoi cwpwl o glowts i’r Sais a’r Cymro, ac os bydd isha rhacor arni nhw, ma dicon o stoc gen i wth law i scwaro dwsan o libellars digonshans felna, a gwell i’r ddou bido dangos u trwyna yn y Rhondda yto, rhag ofan bydda nhw yn bygynad fel "gwartheg," a brefu fel "lloi," ac yn fwy "true to nature" ym mhob shâp o’r creaduriaid yma, na fel o nhw yn gweid wth u gilydd fod bechgyn y Cwm.

Am drio towli lluwch
Ar garitor y Rhondda
Fe ddyla’r "llo" a’r "fuwch"
Gal bobo eitha gosfa.
Gwell yw i’r Cymro a’r Sais,
I aros yn y Fenni,
A pheidio codi llais
Byth mwy am ein moesoli.

Ma yn y Fenni fan
Sy’n taro’r ddou i’r mymryn,
Gan fod eu penau’n wan
Rhaid clymu’r ddou a chordyn;
A’u cadw yno’n rhwym
Nes byddant wedi gwella,
Neu fe gant roesaw twym
Os deuant i Gwm Rhondda.
Atnod. – “Câs gwr na charo’r wlad a’i maco.”

___________________________________________________
(x06) LLITH VI.
Hen Sowdjwrs Shir Benfro.

Can’ mlynadd i nawr y dangosws gwyr Shir Benfro dicyn o dwtsh i’r Ffrancod, trw i’r mynwod anwl droi mas yn u shawls cochion i ala ofan arni nhw gyd. Odd cwality ffamws yn yr hen fama slawar dydd, a odd i gwlad yn acos at u calona nhw, a pryd gwelson nhw’r fforinars yn dod miwn idd i preserfs nhw fuo nhw fawr o amsar cyn listo i ymladd yn u herbyn. W i yn cretu fod yr un stwff yn yn merched nina tysa hi yn mynd yn bwsh, wath i ni yn cal gweld yn hunen yn fynych yr ymladdan nhw i’r dwrn os gnewn ni rhwpath yn u herbyn nhw. Fe fydda yn well gen i unrhyw bryd i sefyll batl gyta Ffrenshman na sefyll batl gyta un o ferched Shir Benfro, ne un o ferched rhw shir arall yn Nghymru, wath os dim lwo yndi nhw o gwbwl. Triwch chi nhw, syr, ffordd mynwch chi, fe fynan gario’r dydd. Fel ma nhw’n gweid ma rhaid i ni neid, a fel ma nhw’n dewish ma rhaid i ni fynd, ac yn ol u ordors nhw ma ma’n rhaid i ni fiafio. Clipars yw’r biwties bach am gal u ffordd, ac os na cha nhw rhwpath, fe’i mynan a, bei wc ne bei crwc; a dyna shwd gwality sy isha mwn sowdjwrs. Penderfynu concro, deled a ddelo.

Odd yr hen Labwtshar yn gweid pwy ddwarnod yma yn yr House o Comons na allws merched a mynwod ddim amddiffyn u gwlad. Ma hyny yn dangos nag yw a ddim llawer o scolar hanesyddol, ne fe fysa yn gwpod am blyc hen ferched Shir Benfro ys can’ mlynedd yn ol. Ond w i yn mynd o mhwynt yn lân yto. Meddwl gweid ticyn o’n i fod y Dyfedwrs yn mynd i gatw Canmlwyddiant y Fuddugoliaeth yr wythnos hon, a ma hyny yn beth eitha priodol allwn i feddwl. Gobeitho ca nhw hwyl gyta’r gwaith, a fe licwn i joino gyta nhw (er ta nid mochyn w i). Falla alwch chi fi lawr, syr, yn Speshal Corespondent, i roi cownt yn y Darian ffordd aiff hi mlan yno, a fe na i bob peth galla i neid yr yfent yn sycses. Fe fydd yn idea dda yn ol y marn i i’r merched ifenc fydd yno i gyd i wishgo dillad cochon fel yr hen fama gynt, a trw ta bachan o Byrgwein yw Dyfed, ac yn fachan ifanc smart hefyd, w i yn cynyg ta fe fydd yn u comando nhw, a’i fod ynta mwn shiwt yn depig i’r hen Iarll Cawdwr, odd yn comando yr hen rijmant can’ mlynadd yn ol, wath dyw shiwt yr orsadd farddol ddim yn shiwto i acto offisar sowjwryddol. O’n i wedi meddwl gweid pishin o ganu ar yr amgylchiad, ond gan. fod Dyfed a beirdds da erill yn perthyn i’r shir, fe gwplaf gyta’r atnod Sysnag Jingoaidd -

“We don’t want to fight,
But by jingo if we do,
We got the ships - we got the men,
And we got the (women) too.”

___________________________________________________
(x07) LLITH VII.
Marwnad ar ol Billy Got y 41st Rigmant, Penshwn i Hen Ddynon, Penshwn i Hen Fenwod

Dotwch ych hunan yn barod i lefan, ma Billy Got y 41st Rigmant wedi marw. W i yn teimlo run shwt a’r fenyw hyny oedd wedi claddu’i gwr, a odd rhw ddyn wedi galw hibo, a odd hwnw ddim yn gwpod i bod hi wedi gladdu a. Fe ofynws y dyn iddi yn ddicon diniwad shwd odd John y gwr, a odd y fenyw yn dicwdd bod yn byta swpar ar y pryd, a fe wetws - “Ma John, druan, wedi mynd i’r byd arall,” meddai hi, “ ag os sefwch chi i fi gal cwpla’r basnad cawl yma, fe gewch glywad gen i lisha!” Rhwpath felna w i’n teimlo ar ol Billy, ag ar ol i fi gwpla’r cawl rhagymadroddol yma, fe lefa i ar i ol a. Fe fydda i yn dishgwl i chi a’r darllenwrs i golli dagra gyta fi. Ma Morian wedi ’sgrifenu hanas i fywyd a. Ma pishin o ganu gyta fina ar ol y pwr dab, a falla caiff hanas Morian a mishin i ddod mas yn llifyr i gatw’r cownt am dano i’r oesa sy’n dod.

MARWNAD
Ar ol y diweddar General Billy, Ledar y Welsh Rigmant.

Ma sowdjwrs y Rigmant yn llefan i gyd,
A’r officars hefyd yn llefan run pryd,
Fod Billy y Ledar o’r byd wedi mynd,
Ma’n rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd.
Ar ol yr hen ffrynd, ar ol yr hen ffrynd,
Ma’n rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffryiid.

Rodd wedi trafaelu dros hanar y byd,
A fe odd y boy odd yn ledo o hyd,
Pwy all dynu llunia teimlada Tim dlawd
Am golli’r hen bartnar odd iddo fel brawd?
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Rodd Tim wedi ddysgu a’n ddoniol o gute,
Odd a bron cystal scolar a’r Marcwis o Bute,
A tysa fa’n trio fe nelwn i fet
Y cesa fa’r jobin o Poet Loret.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Rodd Billy a Timothy’n ifad ar shar,
Pan o nhw yn martsho trw Gwm Aberdar,
Ond druan o Billy all a nawr ifad dim,
Ma’r peint bob dyferyn yn dod i shar Tim.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Ma nhw’n gweid ta rhiwmatic rows stop ar ei wynt,
Ond bai iddo fyw fysa’n marw yn nghynt,
Yn awr isha stwff idd i stwffa fa sydd,
A’i gadw a byth yn Miwseam Cardydd.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Odd i gyrna fa’n hir os ta byr odd i gwt,
Ma nhw’n gweid ta nid Cymro odd Billy run shwt,
Ta beth odd a druan mae mor farw a hôl,
A Morian a fina yn brudd ar ei ol.
Ar ol yr hen ffrynd, &c.

Ffarwel, Billy bach, daeth dy yrfa i ben,
Ti gefaist dy barchu yn hen Walia Wen,
Y ti odd y pet gan bawb yn y Martsh,
Ond nawr ma dy goesa mor stiff a Stiff Startsh.
Ar ol yr hen ffrynd, ar ol yr hen ffrynd,
Ma’n rhaid tywallt deigryn ar ol yr hen ffrynd.

Alwch bob o gopi o’r Farwnad i Tim, a Cyrnal Cwirc, a un i’r Frenhines, a dotwch fwrnin du rownd iddi, a falla cewch chi a fi bob o fedal nol, a “Gwell anga na chwilydd” arni nhw.

PENSHWN I HEN DDYNON.
Ma’n dda gyta fi fod y dynon mawr yn yr House o Commons yn dechre acor i llyced bothti rho’ ticyn o help i hen ddynon ar ol ffaelu gwitho. Ma’n gwilydld na fysa nhw wedi dechra’n nghynt, wath ma miloedd o hen withwrs caled wedi cal marw o isha bwyd, ar ol slafo’n galad trw’u bywyd. Ma llawar hen goliar clawd wedi ala hanar can mlynadd yn y pwll glo, a wedi ffaelu, mor ddigownt a hen geffyla. Yn yr amsar ma nhw wedi gwitho ma nhw wedi doti ffortshwns yn boceti’r mishdri, a doti miloedd o buna yn mocad Budjat y wlad, a wetin yn cal i ala i’r workws i farw, a odd yno i’r bedd mwn hen gart

“Rattle his bones over the stones,
He’s only a pauper, who nobody owns.”

Ma plismans, a postmans, a sowdjwrs, yn cael penshwns ar ol bod dan y Llywodraeth am ucian mlynadd, ond os bydd gwithwrs calad yn ala tri ucian mlynedd cha nhw ddim. Pwy wara teg yw hyny? Ond gwath yto, ma gwyr y Parlament yn cal miloedd am lanw rhw ofis am dair neu betar blynadd, a llawar o Lords, Marcwisis, Dukes, a Prinsis, a big guns erill yn cal penshwns, achos bod’u hen, hen, hen dadcu nhw wedi bod yn helpu un o’r hen frenhinoedd i wisgo’i drowsis, ne wedi rhoi bocs snuff i rw hen frenhinas. Tysa rhai o’r Em Pees yn cropo coin rheina fysa dim isha bod mor gynil i roi ticyn i hen withwrs. Ma’n drenu meddwl bod y wlad mor dwp, a bod shwd beisha o hen rascals yn robo’r dyrnas o filodd bob blwyddyn, a neb o’r membars a dicon o blyc yndi nhw i drio doti stop ar y game. W i yn dishgwl bydd rhai o nhw yn tampo at y gwaith pryd y daw y Mesur hwn mlan, onte fe fydda i yn lled depig o binsho’u clusta nhw.

Nawr, ma gen i boint arall, a fe all un o fembars Cymru neid stroc trwyddo fa os cymra nhw’r hynt, a dyma w i yn sujesto roi,

PENSHWN I HEN FENWOD.
I chi’n gwpod mod i wastad yn cymryd part y ladies, ag os yw hen ddyn yn werth penshwn, pam nag yw yr hen fenyw hefyd? Ma nhw yn helpu gora galla nhw, a gwithwrs net yw llawar o nhw. Ond din nhw yn slafo’n galad i gwni plant, i ddod a nhw’n ffit i helpu i droi wheels masnach y wlad? Beth fydd rhw 5s. yr wythnos idd i ranu rhwng yr hen ddyn a’r hen fenyw? Fe ddylan gal bob i goron cyn galla nhw fyw’n didy a chal ticyn o gysur yn y byd, a dicon bach fydd hyny os na fydd rhwpath arall yn dod miwn. Gobeithio gnaiff Mrs. D. A. Thomas, fel cadaryddes y Woman’s Libral Sosiashwn, gymryd pwnc yr hen wracadd lan ac ymladd am u reits nhw. Os starta nhw fe droia nhw waith mas, a fe naiff hi i D. A. i foto drosti nhw, ne fe gaiff y brwsh ne’r pocar ar draws i ben, a serfo fa’n reit hefyd. Nawr, Mrs. Thomas fach, a’r merched i gyd, dyma fi wedi rhoi hint i chi. Pitshwch miwn i’r pwnc, a fe fyddwch yn fwy na choncwerwrs. Os na ryndyff y membars arnoch chi, cerwch lan i’r House o Commons a bombardwch nhw mas o’r Ty fel gnath Cromwell slawar dydd, a chofiwch yr atnod –

“Dyfal donc a dor y gareg.”

___________________________________________________
(x08) LLITH VIII.
Diall pethach

W i yn mynd i weid stori wthoch chi heddy am hen fachan odd wedi cymryd at y jobin o ladd bugs. Fel odd yn parchus arweinydd yn gweid yr wthnos ddwetha, nag odd dim gair Cymrag i gal ai “blackmailing,” os dim gair Cymrag iddi gal hefyd, trw wpod i fi, ar “bugs.” Wath ma rhaid i fi fynd yn mlan yn ol y iaith w i yn diall pethach. Wth weid stori ma rhaid dechra’n deidy a chwpla yn deidy hefyd. Wn i ddim beth sy matar arno i pryd bydda i yn starto gweid rhwpath, ma rhwpath arall a isha’i weid yn yn nhowli i ddar y ffordd. Ond ta beth, w i yn bownd o weid y stori hyn. Odd hen fachan wedi cymryd at y jobin o ladd bugs, a odd a wedi dilyn yn mlan am spel, a odd a yn mynd yn mlan yn deidy gyta’i fysnas, ond fe ddath rhw greatur sy yn blino’r byd yma o’r enw Oposishon i fyw yn yr un stryd a fa, a odd hwnw wth gwrs yn mynd i neid marc, a fe ddotws sein fawr uwchben y drws i adferteiso’i hunan

Bartholomy Swindlburg,
BUGER.

Beth nath yr hen fachan yr ochr draw i’r stryd pryd gwelws a hyn, ond cymryd lesn orwtho, a doti sein lan hefyd,

John Jones, BUGER,
No conectshon with the Buger oposeit.

Falla nag i chi ddim yn diall pethach fel w i yn trio gweid, ond arno i ma’r bai am hyny. Achos nag yw dynon ddim yn diall pethach wth weid yn blaen wthi nhw, ma isha esponiada, ac yn fynych iawn ma isha fwy o esponiad ar bethach plaem nag ar bethach tywyll, a dyma yw sylfaen dadleuon bob amser, achos fod un yn cretu fod a yn gallu gweld mor gwic a’r llall.

Nawr am ’sponiad ar y ddwy sein w i wedi ddoti. Ma rhai yn mwmian ta ’run peth yw llwynog a bachan ifanc, a o’n i wedi meddwl bob amsar bod cetyn o waniath rhyngti nhw. Ma bachan ifanc yn mynd i wilia gyda’i wedjan yn y dydd amball waith, ond wth gwrs pryd bydd gyta fa betha pwysig i weid wthi, ma fa yn lico cal cornal bach iddi hi a fe wth’u hunen yn y nos, ond ma llwynog yn cwato yn y dydd, a gneid i fysnas ar hyd y nos. W i yn gobeitho fod cymant a hyna yn ddicon o ’sponiad i fi gal wara teg i wilia sha Marged Jones, yr hen wedjan, a’r litl biwties i gyd, heb iddi nhw ddowto dim y mod i yn meddwl u plyfio nhw (er bod nhw yn cario mwy o blyf ar u pena na w i yn lico yn fynych iawn), ond ma gen i fwy o olwg arni nhw na allwch chi feddwl, a licwn i ddim symud un plyfyn sy yn perthyn i un o honynt, os bydda hyny yn tynu un “cufydd oddiwrth” eu “atractifnes” - ma hwna yn well gair fan hyn na “maintioli,” fel ma’r gair yn wreiddiol, wath nid wth u seis w i’n mesur y litl biwties, wath ma rhai o’r rhai bach mor anwl gen i a’r 12 stone matrons. Pob un yn ol i dast yw i yn marchnad y merched, a ma gen i dast da iawn yn y lein yna. Ma’r hen wedjan o Windsor yn ecscliwded, wth gwrs, wath i ni gyd bownd o’i charu hi, ne fe gewn yn transporto, a wara teg, dim ond amball un sy ddim yn folon canu “God save the Queen,” ond w i yn canu o nghalon wtho i munan witha -

God save the litl biwties all,
The big and litl, short and tall;
I do adore them every seis,
And wish to lift them to the skies:
But after to the skies they’ll go,
How we will do I do not know.
We men will have to do our duties,
And God will send some other biwties.

Dyna jobin geso i i sefyll yn y fan yna - odd rhw ysbryd awenol, ys gwetws y beirdds, wedi citsho yndo i oltwgeddar, a dyna beth odd yn od yw ta ysbryd Sysnag odd a, a odd a yn mynd a fi na wn i ddim i ble, nes i’r fenyw lle w i yn lodio bipan dros yn ysgwydd i pryd o ni yn ysgrifenu y leins dwetha, a fe mwrws i ar ochor y mhen, nes i fi golli yr ysbryd Sysnag i gyd. Wedi i fi ddod i munan, wth gwrs, mi ofynas iddi am esplaneshon o’i hacshwns hi, a fuo i fawr o amsar cyn i gal a.

“Beth yw’r ‘other litl biwties’ wyt ti yn mofyn?” meddai hi, “ Oti ni ddim yn ddicon da i dy shiwto di a dy short ?”

“Beg pardon, mam,” wetas ina, “ meddwi am yr odl o’n i - ‘duties a biwties.’”

“Ti a dy godl a dy odl - acta’n strait ac yn driw. O ti yn meddwl wth dy fod yn gweid dy nonsans yn Sysnag nag odd neb yn dy ddiall di. Fe gaiff y bachan sy’n labro’r nos dy gymryd di mwn llaw yto, a phartô dy bac i fynd odd yma gynta gallu di.”

Welwch chi mwn shwd ffordd ddiniwed ma bachan yn cwympo i ofid. Dw i ddim yn meddwl fod nemor i un, pryd ma fa yn gweid neu ysgrifenu rhwpath, yn meddwl fod hanar cymant o gonsicwens yndo, nes fod rhywun arall yn ffindo hyny mas. Dyna’r achos fod cymant o Fashodas yn y byd - yw isha na bydda ni yn diall yn gilydd. Ma papyra Ffrainc a Lloegar wedi bod yn spowto am y fysnas hyn, dim ond isha cal testyn odd ar y boys i weid rhwpath arno, a wedi dechra gweid, odd isha sponiad ar hyny, a ma hi wedi mynd erbyn heddyw mor seriws, fel ma arno i ofan aiff hi’n wath. rhwng Ffrainc a Lloegar na ddigwyddws hi rhyngo i a’r fenyw lle w i yn lodjo, ond dw i ddim yn gwbod yto pun o nhw fydd rhaid cwnu y “pac” ys gwetws my dear at home. Tyswn i yn cal yn ffordd, fe fyswn i yn rhoi notis to cwit i’r Sirdar a Marchand, a ala scwlmishdir i Fashoda, a doti y Kaliffa yno fel plentyn bach i ddysgu o dano, a gweid wtho, os byddi di yn fachan da a dysgu dy lesns yn deidy, fe gei di dy le yn.ol. Di ni ddim yn moin dy broperty di. Ma gyta ni ddicon yn barod, ond i ni yn mofyn dy weld titha yn cal yr un fraint a nina, wath dyna yr esgus odd gyta ni yn dod i dy ladd di a dy dylwyth, odd i ddod a ti i’th le. Nawr i ni wedi dangos gallwn ni dy dowli di a dy gonsarn i ebargofiant o flan y canons. Cymer wers gan fachan piwr fel John Bwl, a bydd fyw fan hyn yn Fashoda yn lle fod Ffrainc a ni yn boddrach a’n gilydd i bun o ni mae hi yn perthyn. I ni yn gwpod ta ti pia hi trw deg, ond wyt ti wedi bod yn fachan drwg, a odd isha rhoi lesn i ti, a fe gest gystal dwy lesn a gas bachan ariod yn Omdurnam a Kartoum.
Falla gallwn ni neud dyn o honot ti - diall ti dy seis, a fe watshwn ni y cei di wara teg. Heddwch, boys, a gwiddwn -

“Y Gwir yn erbyn y byd.”

___________________________________________________
(x09) LLITH IX.
Hen Wlad Fy Nhadau / Hen Sgwibs Lletwith / Relwe newydd i ’Berdar

Shwd hwyl canu sy yndo chi yn yr amser glawd yma?
W i yn diall ych bod chi yn gallu printo miwsic, a w i bron cretti ych bod chi yn cownto fod cantwr gyta chi hefyd. Ond ta beth am hyny, ma shap cantwr arnoch chi, a ma’r diwn w i yn moin i chi ganu arni nawr yn ddicon cyfarwdd i bob Cymro, a i chi yn un o rheiny, ond fod ticyn bach o liw Scotchman yn lliw ych gwallt chi a’ch mwstash chi, ond dyw hyny ddim byd, wath ma’r Scotsh, a’r Irish, a’r Cymry nawr wedi joino gyta’u gilydd yn Iwnion mawr yr Eisteddfod Genedlaethol fel Celts, a ma nhw yn doti y mysl ar y Saeson yn fishi, bishi. Dyna un od w i i gilo o’r pwynt fyddai i yn dechra arno. Ma shwd lycad cwic gyta fi i weld pethach, a a shwd gymala ystwth gen i i fynd ar u hol nhw, fel ar ol i fi gal sent ar rwpath, wddoch chi ddim yn y byd mawr ble, na phw bryd cewch chi atal arno i ar ol i fi gal start. Ond ma’n rhaid i fi starto nol nawr at y man lle o ni yn dechra. W i yn moin i chi ganu gyta fi yr hen gan anwl

“HEN WLAD FY NHADAU” (up side down).
(copyright).

Ma “Hen Wlad fy Nhadau” yn ddiflas gen i
Gwlad mishdirs, a gwithwrs, gollasant eu bri;
Mae’i agents fel spowtwrs, a sowdjwrs tra mad
Yn ymladd bob dydd dros ein gwlad.

Cydgan.

Gwlad, gwlad, wy’n fecso am fy ngwlad,
Tra paro’r streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Ma’r mishdir yn damshal y gwithwr dan drod,
A Hen Wlad fy Nhadau yn wath nac ariod,
Yn starfo ma gwracedd a phlant trwy y brad,
A llefain ma pawb yn y wlad.

Gwlad, gwlad, wy’n fecso am fy ngwlad,
Tra paro’r streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Bu’r “Plenary Powars” yn rhwstro bob cnoc,
Y “Minimum” nawr ydyw’r hen stymlin bloc;
A rhwng rhw hen fforinars felna o hyd,
Ma Cymru’n ddisgres i’r holl fyd.

Gwlad, gwlad, wy’n fecso am fy ngwlad,
Tra paro’r streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Er gwaetha gelynion, bu Cymru ariod
Yn enwog trwy’r oesau - yn uchel ei chlod;
Ond nawr ma y streic fel yr hen “Suddas Ddu,”
Yn tori calona y llu.

Gwlad, gwlad, wy’n fecso am fy ngwlad,
Tra paro’r streic, dewch ar eich Beic
Yn bartnar i fi sha Klondeic.

Nawr i chi yn gwpod fod shew o ganu baleti bothti pob man. Ma’n cantwrs gora ni mas yn Lloegar, a Scotland, a’r Werddon, yn dangos u cwalities, a ma yn dda gen i bod nhw yn gneid shwd waith piwr, a bod y netifs yn y gwletydd yna yn gwiddi encor gyta nhw; ond w i yn moin iddi nhw ddiall nag os dim leisens iddi nhw ganu y gan yna heb gonsylto sha fi yn gynta; ond trw fod Mabon yn diall y diwn mor dda, rw i yn rhoi liberty iddo fe iddi chanu hi ble myno fa - yn Ffrainc a Beljam, yn Germany a Rwsia, a phob lle bydd a yn lico, ar y condishwn fod a yn gweid ta fi yw’r Hother, a ta cân speshal i’r Darian yw hi, wetin fe fydd y fforinars trw Iwrop i gyd yn ala i moin y Darian bob wythnos, a falla caf i infiteshon i roi tro i’r gwletydd yna iddi nhw gal golwg arno i. Ond bydd hyny yn profoco y fenyw lle w i yn lodjo, a fe allwn feddwl mod i yn gweld hen jib y bachan sy’n labro’r nos yn hongian fel cwt buwch achos y mod i yn gallu tori shwd stroc mwn gneid pishis o ganu fydd yn distyrbo y byd i gyd. Beth yw’r ots gen i am deni nhw. Mynd ymlan yw’n mysnas i, a’u gatal nhw i lingrach yn ol u dileit. Wel, w i yn gobeitho gnaiff y gân yna fwy o effect na ma dim arall sy weti dicwdd yn y confferensis i setlo popath, ac y gallwn ni ganu yto fel arfadd –

“Mae Hen Wlad fy Nhadau yn anwyl i mi.”

HEN SGWIBS LLETWITH.
Os neb yn enjoyo strait hits y bachan yna sy yn scriblo “Wales Day by Day,” yn y Mail, yn fwy na fi. Ma nhw yn reffreshin bob amser, ac yn orijinal hefyd; a pryd bydda i yn melancoli, ma darllan i golofn a yn acto fel majic i ddod a fi yn ol i’n lle, a ma hyny yn llawar gwell na mod i yn gorffod prynu Patent Metsyn; ond w i am weid, gair yn dawal yn i glust a, a dyma fe - Dw i ddim yn f olon i fod a yn pwynto i ganon bob dydd at y gwithwrs sy ar y streic, a trio towli slyrs arni nhw mwn ffordd sly. Os os amball gnoc yn mhlith y gwithwrs yn tynu disgrês ar y boys erill, dyw a ddim yn deg doti nhw gyd yn yr un bwndal. Fe wyr “Day by Day” yn eitha da fod gwithwrs Cymreig yn weddol sensibl, ac yn gallu acto, ar gyfartaledd, mor jentlmanly a fe ne fi mwn unrhyw gyfeillach, a ma fe i hunan wedi clapo’u cefna nhw am hyny lawer gwaith; ac os os amball fforina yn y rancs, all y mwyafrif ddim orwth hyny. Y mae newyddiaduron Lloegar bron yn gyffredinol yn cydymdeimlo â sefyllfa y coliars clawd, a os i nhw yn darllen i humors e, falla a nhw i etrach ar y streic fel rhyw “huge joke,” a bydd hyny yn sychu ffynon trugaredd. Ma dicon o allu yn “Day by Day” i bico sleishis o ddonioldeb o feusydd mwy cydweddol a’i natur ddoniol na’u cipio o gybyrddau gwag anneddau prudd y miloedd sydd heddyw yn gwingo dan bawenau yr hen arthes newyn, laddodd y dyn yna yn Nhreorci yr wythnos ddiweddaf, ac sydd yn lladd mwy na ma’r cyhoedd yn gwpod yn iawn. Da ti, boy bach, tro drwyn dy ganon i bwyntio at Santiago y tyraniaid sy yn gneid u gora i starfo dy gydwladwrs.

RELWE NEWYDD I ABERDAR.
Ma shew o son wedi bod am gal Relwe newydd i Byrdar o Gardydd, trw’r Canal; ond ar ol ymladd yn galad am amsar hir, ma’r cyfan wedi mynd yn fflat. Wth gwrs ofynso nhw ddim i fi beth odd i neid, ond tysa nhw wedi bod mor gall a hyny, odd gyta fi un argiwmant fydda yn smasho argiwmants y Taff a’r Rhymni yn yfflod. Fe fysa Lord Leven yn gweld y drifft yn gwmws. Yr iws mwya sy yn cal i neid o’r Canal yn awr yw boddi cwn a chatha, a fyswn i yn mynd a’r Lord am dro ar hyd “Banc y Canal” o Byrdar lawr i Mountain Ash ar ddwarnod twym, a fe fentra i bysa fe yn gweid – “Fill it up at once, make a railway - make something of it.” Buasai yn fendith cael Relwe, a llawn cymaint bendith cal gwared o’r fath afiechyd.

___________________________________________________
(x10) LLITH X.
Gweid y Mhrofiad. Caru ar y Beic. Os y Beto.

I chi’n gwpod am yr atnod sy’n gweid “Cân di benill mwyn i’th nain, fe gân dy nain i tithau.” W i wedi bod yn gweid yn dda am y gwrbyneddig Hercomar sy’n glyfar i dynu pictshwrs, wath ma fa yn acto yn drwmpyn ato ni Gymry bob amsar, a ma fa wedi rhoi shiwt o ddillad gorsadd i Hwfa Mon. Nawr ma fa wedi ala presant i fi o’n llun yn y steil ddwetha, a w i yn moin i chi ddoti a miwn yn y Darian yr wthnos hon, fel bo’n wedjis i yn i gal a mwn pryd iddi fframo fa erbyn yn Dolig, a falla bydd rhai o nhw yn gweid u meddwl am dano wthoch chi yto. Weta i ddim gormod y tro hyn am dano, yn lle bo chi yn meddwl mod i’n moin brago munan.

GWEID Y MHROFIAD.
Ma’n shew o beth i ddyn i allu gweid fod a wedi mynd trw bart o’i ofid yn y byd yma. Ma rhai yn cisho gweid ta’r amsar mwya dedwydd yn u hanas nhw odd y tymhor carwriaethol, ond w yn ffaelu gweld hyny. Meddylwch chi am fachan ifanc yn gorffod aros mas ar y tywydd or yma am awr ne ddwy idd i wedjan ddod i gwrdd a fa, a fe allwn i feddwl fod amball ferch yn cownto’i hunan yn glyfar os bydd Twm ne Dai yn aros iddi nes fod u coesa nhw fel coesa côd, a’u danadd nhw yn rhinco yn erbyn u gilydd nes bod nhw yn ala ofan ar gwn yr ardal ddod yn acos ati nhw. I chi, syr, wedi mynd trw’r parapharnelia i gyd, a fe licwn i gal cownt gyta chi ffordd ethoch chi trwyddi, i fi gal dilyn ych moshwn chi, wath w i yn cretu ych bod chi yn weddol glyfar wth garu sha Mishdres y Darian, fel i chi gyta phopath arall. Dw i ddim yn moin clwad beth o chi yn weid wthi, na ffordd o chi yn citsho am deni, dim ond jest cal hint gyta chi ffordd yw’r ffordd ora i garu, a fe wn i am lawar run shwt a fi munan, a want cal gwpod yr un peth.
Falla byddwch chi yn barod i weid run shwt a’r Sais – “The proof of the pudding is in the eating.” Dyw hyny ddim yn deg ar gwesthswn fel hyn, wath beth i chi’n well o gatw’r secret? I chi wedi mynd trw’r perfformans, a’r peth llia allwch chi neid yw doti bachan ar y ffordd reit i neid i ddiwty fel carwr.

Dyna sy yn hurto i’n lan bothti’r fysnas yw fod cymant o wahanol short o garu. Ma amball un yn mynd a’i wedjan dan i fraich i bob man, iddi dangos hi i bawb, fel sa fa’n falch fod a’n fyw, a ta dim ond fe all gal wedjan. Ma un arall yn cwtshan mwn rhw gornal tywyll, ac yn cwato’r ferch ifanc yn i facintosh ne’i ofarcôt, fel sa fa ofan i neb idd i gweld hi, a thwcid hi ddarno. Ma amball gwpwl wetin yn trin u gilydd wth bawb, ac yn prioti o dan ych trwyn chi, heb yn wpob i neb. Plan arall hefyd yw caru trw lythyron, a phob ochr yn iwso shwd ecspreshons blydcyrdlin nes yn ala i i ffeinto, run shwt a’r llythyr caru odd Shon Wmffra, Llansamlet, yn son am dano yn y Darian ddwetha. W i yn ofan y steil hyn o garu, achos fod y merched yn catw’r copies, a’u rhoi nhw i’r cyfreithwrs gal bildo Breetsh o Promish yn erbyn y bechgyn. Ma’r son nawr fod y telephon yn cal i ddoti ar waith i gario secrets caru o galon i galon, ne o glust i glust fydda ora i weid falla. Ma rhai wedi bod yn trio’n myrswatio i bothti bod ffashwn mwn parta yn Nghymru o garu yn y gwely, ond w i yn rhy shei i wilia am rwpath felni. Dyma beth w i yn moin pwynto ato (er y gallwn i weid am lawar short o garu, heb beth w i wedi enwi) yw y steil ddwetha, sef

CARU AR Y BEIC.
W i yn gwpod na alla i ddim gweid yn meddwl ar y pen hwn, wth sgrifenu’n deidy mwn rhyddiaith, felly fe gymras yn hypnoteiso gyta’r awan i fi gal gneid pishin o ganu, a fe fuo getyn cyn cal mesur odd yn taro i ddod ag ecspreshons y nheimiad i mas yn reit, ond fe ceso fa yn y diwadd, sef “Wyres Fach Ned Puw.” Gryndwch chi nawr, a dysgwch y diwn i boys yr Offis.

A welsoch chi shwd beth ariod
Sy’n dicwdd yn y byd?
Ma rhw ffashwn od yn dod
O hyd, o hyd, o hyd.
Ond dyma’r clipar ar bob un,
Mae hon yn don, “Myn Deic,”
Sef bachan llon a geneth gun
Yn caru ar y Beic.

’Rwyf wedi caru lawer gwaith
Mwn llawar dull a modd,
Ac r’oedd fy wedjan, dyna’r ffaith,
Bob amsar wrth i bodd.
Ac aem yn bwyllog ar ein hynt,
Ac amball gusan bach
Oedd i mi’n well nag ucian punt,
I wneud fy mron yn iach.

Rhw garu dwl, dihwyl, didan,
Di-ffeelin, od o ffol,
Yw gyru ar y Beics ymlan,
Neu ynte yru nol.
Nid oes dim shawns i roi eich braich,
Rownd idd ei gwest fach ddel,
Ond mynd fel ellyll - O myn diaich,
Shwd garu - Wel, wel, wel!

Rhen ffashwn garu rhowch i fi,
Ma hono’n well gan’ mil
O weithiau, beth ddywedwch chwi?
Na charu ar y wheel.
Os yw pob bachan o’r un farn,
Fe ewn i gyd ar streic,
A sefwn nes bo’r Wyddfa’n sarn,
Cyn caru ar y Beic.

OS Y BETO.
I chi yn gwpod fod a’n ffashwn gyta ni Gymry i alw Beto ar amball i wraig odd yn arfadd cal i galw yn Elizabeth pryd odd hi yn ferch ifanc; ond nid Beto felni w i yn feddwl nawr, ond y plan sy gyta dynon nawr pryd bydd cystadleuaeth mwn rhwpath, yw mentro coin ar bob ochor. Ma’r fysnas hon wedi dod mor gyffretin nawr fel ma nhw yn beto ar bopath bron. Slawar dydd odd dim son am feto ar ddim ond rasis a batls, a rhwpath o’r short hyny; ac odd dynon odd yn arfadd gneid hyny yn cal u cownto ishlaw sylw; ond ma’r system wedi dod miwn yn ddiweddar i’r Steddfod, i’r Lecshwns, ac i bob bransh allwch chi feddwl am dano, nes ma dyma yw hobi y dydd. Beth i chi’n feddwl yw holl frwdfrydedd a’r awydd sy am gal gweld y Sportin Papers a’r Ffwtbol Edishons, &c.? Os bydd rhwpath yn mynd mlan yn y lein hyn, ma’r dynon, a’r plant, a’r mynwod, yn casglu yn dyrfaoedd bothti shop a’r papyra, ac yn stretsho’u gwddyca am yr hira, ac yn acor u llyced am y mwya, i gal gweld pwy sy wedi enill y ras, ne’r fatl, a’r Ffwtbol Contest. Beth yw yr holl betruso sydd arni nhw? Nid am fod gyta nhw rhw olwg neillduol ar y gwahanol gystadleuwyr, wath falla na fydda nhw wedi gweld dim o nhw ariod, ond ma nhw wedi beto ar rhw ochor ne’u gilydd, a isha cal gwpod y result sy arni nhw, fel bo nhw yn gwpod sefyllfa’u poceti; ac ar ol dishgwl dros y cownt, fe fydd rhai yn gneid gwep cyhyd a ffidls, a rhai erill yn wen o glust i glust, ac yn werthin mor iachus a tysa nhw wedi enill i ffortshwn. Ma’r hen system fetyddol hon yn ddinystr cenedlaethol, ac wedi diweddu yn angeuol i ganoedd erioed yn mhob gwlad. Ma Cymru wedi bod yn weddol lan o’r fysnas, ond ma lle i ofni fod “Cymru lan” yn dirywio yn y cyfeiriad hyn, gan fod y betting fraternity yn cal u cownto yn bobol respectable. Pwy allu ddaw allan i gadw y llifeiriant dinystriol hwn o’r tir, fel bo’r hen atnod anwl ganlynol yn para’n wir:

“Pa wlad, wedi’r siarad sydd
Mor lan a Chymru lonydd?”

___________________________________________________
(x11) LLITH XI.
Llythyr orwth Dim Ots Pwy; Hen Betheuach – Tribannau


Tysa chi mor gul ych meddwl, a mor smwt ych barn, ac mor jelws ac amball hen iolyn w i yn napod, chesa ddim ddod mas yn ych papyr chi os na fysa fa’n dod mas o’ch nodl chi. Fe wyddoch i fi weid gair ne ddou yn biwr ac yn ddecha yr wythnos ddwetha yn y Darian am fynywod parchus Cwmparc, a phob mynywod erill sy’n dangos plyc, a ma rhw hen fenyw o fachan wedi ala llythyr dienw ato i, i mlagardo i am hyny. Ma dicon hawdd gwpod ta hen goward yw a, ne fysa’n doti ’i deitl ar i stwff ne o’i flan a, fel w i yn arfadd gneid wastod; wetin fe fyswn yn gwpod ble iddi fwrw fa. Ond w i yn gwinto pwy yw’r boy, a rhyngoch chi a fi, ma fa yn perthyn i’r comitee sy’n gwitho yn erbyn y mynywod bothti’r Doctor. Dyma fi yn ala copi i chi o’r llythyr alws a, a fe gatwa yr un sgrifenws e yn saff, ac os caf i afal pwy un o nhw sy wedi ’i ala fa, fe gaiff e ddawnso heb ffidl o flan y nghaffls i, ne o flan y Judje:

TREORCI, NEAR CWMPARC,
Medi 7fed, 1896.

Y BACHAN IFANC.
Fu gyta fi ddim llawar o gewc arnot ti ddar wyt ti yn sgriblo yn y Darian, ond ma dy waldod di yr wythnos ddwetha yn profi i fi fod rwm tw let yn dy glopa di, a ta gora gyd pwy mor gyntad a’i di i ala dy holidays i Benybont. Ma mynywod erill, am wn i, yn ddicon anodd idd u trafod, heb i ti stwffo rhacor o gonsait yndi nhw. Fe ddyla pob dyn yn i sensis fod yn gwpod rhwpath am beth ma fa yn sgrifenu, cyn ala miwn i bapyr cyhoeddus, ond dicon hawdd deall nag wyt ti ddim yn gwpod llawar am drics y rhyw deg neu “litl biwties,” fel wyt ti’r ionc dwl yn u galw nhw. Cymhar di at un o nhw, a fe gei di weld i biwty hi wetin, a fydd yn hawddach wilia sha ti. Os na, wyt ti’n gwpod trw brofiad, fe ddyla fod dicon yn dy hen glopa di i wpod am u acshwns nhw ariod. Chlywast ti ddim am Efa yn twyllo’r pwr dab gwirion Adda? Chlywast ti ddim am Dalilah yn gneid y dirty tric hyny o’r bachan cryfa fu yn y byd ariod, sef Samson? Yr un peth i nhw i gyd os ca nhw siawns, ond dyma ti yn dy “Llythyra” diened yn u seboni nhw a chwnu’u llewisha nhw o hyd, ac yn u hanog nhw i joino’u rijmants gyda’u gilydd yn erbyn dynon sensibl, pryd ma’n ddicon anodd u trafod nhw un ar y tro.

Dim racor o dy nonsens di yn y lein yna, ne os dwi di byth i Gwm Rhondda, weli di byth o Offis y Darian wetin.

Yn fyr, ac i bwrpas,
DIM OTS PWY.

“Byr ac i bwrpas,” wir! Fe allwn i feddwl dy fod ti wedi bregawthan gormod o getyn heb weid dim ond dwli, a chwnu hen grach am Efa a Dalilah, fel ma hen glymyngwn cadachaidd ar enw dynon wedi bod yn gneid ddar dechreu’r byd. Mawr cymant y pelto sy wedi bod ar fynwod ddar ma nhw wedi dechra son am “Woman’s Reit.” Ma isha’r platfform cymdeithasol i gyd ar rai short o ddynon. Welwch chi shwd waew sy ar y boy hyn achos fod y merched a’r gwracedd wedi cwrdd a’u gilydd unwaith. Dyw a ddim yn folon iddi nhw acor u cega, druain bach anwl. Beth nelsa fe tyse fe yn gallu? U muzzlo nhw fel cwn Efa? Os bydd pethach ar lun dynon yn cwrdd i drafod rhw gonsarn digownt, mawr fel ma nhw yn wthi u gilydd lan yn y papyra, ac yn cynyg fod speetsh hwn a’r llall yn cal u printo a’u gwasgaru ar hyd y byd, fel pe bydda’u cyfogiad wedi trawsnewid y cyfundraethau creadigol i gyd.

Rhowch wara teg i’r Cymro,
A wara teg i’r Sais,
A wara teg i’r merched,
Os di nhw’n gwisgo’r bais.

HEN BETHEUACH.
Ma llawar o son yn y dyddiau presenol am gadw ein nodweddion cenedlaethol, ond ma’n rhaid i ni ddiwygio llawar iawn, neu ar ol y byddwn. Ma hyd yn nod “Gorsadd y Beirdds “ yn Nghasnewydd, o flan llyced yr Archdderwydd, Morian, ac Eifionydd, wedi gorffod ildio i bethach newydd ddod miwn, megis canu hymnau crefyddol, canu Sysnag gyta’r delyn, ac areithio Sysnag tu fiwn i’r cylch cysegredig; ond dw i ddim yn mynd i roi lesn ar y pwnc hyn yn awr, wath w i yn meddwl sgrifenu cyfrol yr un seis a’r Light of Britannia ar y mater yna cyn pen un dydd a blwyddyn. Beth w i yn tynu ato yw fod isha i ni fel cenedl i neid rhwpath i gatw meddylia a theimlata ieuenctyd Cymru tu fiwn i gylch ein nodweddion cenedlaethol. Ma llawar o areithio, pregethu, a sgrifenu bothti fod hapchwareuon a llenyddiaeth ysgafn tramoraidd yn enill tir yn ein gwlad. Yn ddiddadl fod hyny yn wir hefyd. A phwy ryfadd? Di ni ddim yn paratoi dim i atab natur ysgawn a chwareus y do ifanc. Allwn ni ddim dishgwl iddi nhw fod mor felancolaidd a dynon mwn oed. “Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y meddyliwn,” medda un bachan call, a ma isha llenyddiaeth ysgawn a difyrus idd u atab nhw. Os dim isha i’r lenyddiaeth hyny fod yn ishal a llygredig. Ma hen chwedlonau Cymreig ar gof a chadw, pe ond eu casglu at eu gilydd, lawn mor ddoniol a difyrus a dim a geir yn Sysnag. Cafwyd llawar o honynt yn “Cymru Fu,” a gyhoeddwyd er’s chwarter canrif yn ol, ac y mae miloedd o wits gwreiddiol a miniog o eiddo ein hen dadau ar lafar gwlad yn deilwng o’u cydmaru a dim sydd yn dod mas yn y dyddia hyn yn y “Comic Cuts,” “Yankey Yarns,” &c. Ma hefyd ddigon yn Nghymru allant gynyrchu rhai erill, heb fod ynddynt ddim yn llygredig na dichwaeth. “Y mae amser i chwerthin, ac amser i wylo.” Ma digrifwch yn angenrheidiol, a llawenydd yn anhebgorol i’n hiechyd, onte fe awn yn gronics stoicaidd a phendrwm. Nodwedd arbenig hen dadau Gwent a Morganwg oedd canu “Tribanau” i’w gilydd er difyrwch a mwynhad, ac y mae yn ddrwg gen i fod yr hen fesur hyawdlym yn cael ei ymlid o arferiad. Bu hen gyfaill yn adrodd wrthyf am y digrifwch a gaent gynt wrth eu hadrodd, a chofiai hwynt yn rhigl. Dyma rai o nhw: -

Gwenllian Forgan wisgi,
A wnei di ddod i’m helpu;
I ddodi pontbren dros y nant,
Bydd dda gen gant fyn’d drosti?

Dywedir er’s peth oesa
Mai buwch o’r fro sydd ora’,
Ond cyn boddlonir cyflawn serch,
Rhaid yw cael merch o’r blaena’.

Hen widw, pan brioda,
Ceintachu fydd fynycha’,
Ac ni fydd terfyn ar ei stwr
Am Tomos, ei gwr cynta’.

Taw, taw, fe wyr hen wreigan,
Yn well na myn’d i glebran,
Mae mwriad i am hon o hyd,
A digon byd o arian.

Pe bawn i’n widwar heddy’,
Nid awn i fyth i garu
Un ferch ifanc - mi wna’ lw,
Mi fynwn widw deidi.

Fi wela Ynys Cynon,
Fi wela lan yr afon,
Fi wela Bentra Aberdar,
Lle gora gar fy nghalon.

Beth wnai di ag Ynys Cynon ?
Beth wnai di a glan yr afon?
Beth wnai di a Phentra Aberdar?
Lle gora gar dy galon.

Caf laeth yn Ynys Cynon,
Caf ddwr ar lan yr afon,
Caf gwrw gwych yn Aberdar,
O’r gora gar fy nghalon.

Dyn helpo’r bachgen gwirion,
Fe helodd haner coron,
Wrth dreto merch o Aberdar,
Mae hiraeth da’r ei galon.

Dyna fel odd yn hen dadau ni yn difyru’u gilydd, ac fe licwn weld yr hen steil yn dod ’nol yto, a gadewch i ni gofio’r atnod, - “Yr hen a wyr, a’r ieuanc a dybia.”

___________________________________________________
(x12) LLITH XII
Y Wasg Sysnag; Rwpath i’r Merched
 
Mâ’r ôs hyn yn mynd mlan mwn rât dychrynllyd gyta phobpath.
Ma un record yn maeddu record arall, a’r record arall yn maeddu record i hunan, a wn i yn y byd mawr ble stopiff y records. Fe ellir dweyd am deni nhw fel odd y bardd Morwyllt yn gweid am i “Filgi,” –

.......“Mellt try dan am wyllt redeg
.........Erys o d’ol ar ras deg.”

Ma rasis dynon, rasis ceffyla, rasis beisicls, rasis ffwtbols, rasis infentions, rasis canu, wrth drio maeddu records u gilydd, yn mynd “strim, stram, strellach,” fel nag yw a ddim yn bosib hyd yn nod i fachan ifanc nimbl fel fi allu dilyn nhw, heb son am hen wr gwraig fel chi. Dw i ddim yn meddwl fod injin daioni yn mynd yn nghynt yn awr nag odd hi slawar dydd, wath ma cymant o opstacls ar y leins yn deleio’i phrogress hi, a gormod o lygej gyta hi i gario wrth fynd o steshwn i steshwn. Ar y llaw arall, ma ecspress drygioni yn maeddu record yr hen amsar gynt yn yfflon jibets. Ma’r cownt i ni’n gal bob dydd yn y papyra am y twyllo, swinglo, lladd, a llabyddio, yn ddicon i ala’r horors ar Belzebub, ac ala Lusiffer i ffits. Ma’r wasg Sysnag yn ecsposo pob short o garitors, ac yn gweid mor glyfar ma scamps diegwyddor yn gallu twyllo’r byd, a ma’r stwff hyny yn dod i ddwylo iengtyd anystyriol, a llawar o nhw yn cretu galla nhwnta ddodjo cymdeithas fel odd yr hen griminals yn neid. Ma’r budreddi mwyaf drewllyd yn cal shwd resephon, a’r cyhoeddwrs yn cal shwd intrest piwr am deni nhw, nes ma argraffiada newyddion yn dod mas bob dydd mwn rhw ffurf ne’u gilydd o hanas Charley Peace, Dic Turpin, &c., nes ma refflecshon o honi nhw iddi weld yn blaen yn y gweithredodd cythreulig sy’n cal u cyflawni bron yn ddyddiol yn y byd. Pwy all ddychmygu dylanwadau niweidiol shwd lenyddiaeth ddrewllyd? Fe ddyla membars yr House o Comons a’r House o Lords joino gyta’u gilydd i sprago wheels masheenary shwd drash melldigetig. Os dim dowt gen i na fysa Cymru mor ddued a Lloegar yn y lein hyn tasa’r Wasg Gymrag mor llygretig a’r Wasg Sysnag, wath ma doti llyfra drwg o’r short yna yn nwylo plant o feddylia tynar yn gwenwyno’u natur nhw. Trw drugaredd, ma’r stwff sy’n cal i gwco i blant Cymru o gwality refers oltwgeddar. Teisenau bach pur o ffwrn rinwedd sy’n cal u hestyn iddi nhw, a dyna beth ma nhw yn enjoyo, a ma gran iach ar u caritors nhw achos hyny. Ma’r dynon da sy gyta ni yn yn gwlad yn partoi bancwets i’r plant yn y cyhoeddiada mishol yn gneid mwy o ddaioni na all neb weid, a dyna achos, nol y marn i, fod Cymru mor lân a ma hi orwth greims sy mor fynych yn duo gwletydd erill. Ma tuedd at ddarllan yn geino o hyd yn mhlith y plant fel ma addysg yn cynyddu, a w i yn cretu ddylsa ni bartoi racor ar gyfar y rhai bach. Plan da allwn i feddwl fydda i rw brintar Cymrag speciwleto i ddod a phapyra dima wthnosol o ddifyrwch diniwed iddi amiwso nhw, a gwrthweitho dylanwad y trash Sysnag sy’n enill tir yn mhlith plant ysgolion dyddiol Cymru. Dylid cymysgu ticyn o lawenydd a digrifwch yndi nhw fel amrywiaeth, yn lle bod nhw yn rhy ddefoshynol. Dyw a ddim yn neis i weld plentyn yn ormod o hen ddyn : “Pan oeddwn blentyn, fel plentyn meddyliwn,” medda rhw fachan ich chi’n gwpod am dano; a w i yn cofio Cynddelw enwog yn gweid rhw dro ma “Peth chwithig iawn fyddai gweld cyrn hwrdd ar ben oen bach.”

RHWPATH I’R MERCHED.
W i yn cretu hefyd yn bod ni ar ol mwn cwcan dicyn ragor o lenyddiath at dast yn merched anwl ni. Ma bwyd sy’n siwto stymoca eliphantaidd arglwyddi’r greadigaeth yn rhy drwm i apiteits delicet y rhyw deg. Ma’r Seison wedi diall hyny, a ma any amount o lyfra a phapyra yn cal u printo sy’n siwto’u palet nhw, a ma nhw yn gallu u dijesto nhw heb ala’r beil ar y litl biwtis. Ma merched yn moin dicyn o gownt am y ffashwna. Shwd flota, a phlyf, a ribana, sy’n shiwto yn u heta a’u boneti nhw. Pwy seis yw’r leg o myton sleefs i fod leni, a phwy gylers sy’n mynd yn y sesn. Ma nhw hefyd yn lico darllan amball stori garu ddoniol ac effectif, a chal dicyn o gwcin instrycshons. I ni yn fwy o hen stoics na nhw o getyn, ac yn cownto nag os dim isha dim yn speshal iddi nhw, ond bod rhaid iddi nhw enjoyo run stwff a nina. Arno i ofan fod llawer o’n merchad yn troi at y Sysnag, achos nag i nhw ddim yn cal wara teg yn y lein hyn. W i yn trio rhoi amball friwshonyn bach iddi nhw amball waith, a w i yn cal compliments gyta nhw am hyny. Tyswn i’n diall y patrwna yn dda, fe ddelwn a ffashan plets o’r niwest steil mas yn y llythyra, a fe newitwn yr hedin sy gen i yn LLYTHYRA’ AT Y MERCHED yn lle Llythyra’ Newydd. Os na naiff cyhoeddwrs Cymru rhw fwfmant yn y lein hyn, fydd gyta fi ddim i neid ond starto offis y munan, a chal masheen printo speshal, ac engejo cwpwl o ladies respectabl a thalentog i’n helpu i, a os dim dowt gen i na fydd y speciwleshon yn paying consarn, ac y caf i y matroneiso gen merched Cymru o Gargybi i Gardydd, a fi fydd yr hero of the day yn y ffeminein sircl, a fe fyddan i gyd yn gweid yr atnod hyn fel atrodd pwnc,-

.......................................Efe i ni yn mofyn,
................................I’r rhyw deg efe yw’r dyn.

___________________________________________________
(x13) LLITH XIII.
Cân i Lord Tredecar

Ma nhw yn gweid wrtho i fod dynon mawr y wlad yn lico catw y gwithwrs yn ddigon ishal, fel bo nhw’n gallu gaffro nhw’n well. Wel, wy’n cretu fod y tywydd wedi joino gyta’r gwyr mawr hefyd, a ma’r ddou bowar cryf hyn fel dou elephant yn damshal dynon clawd i farwolaeth bron ar hyn o bryd. Dw i ddim dros rytag y gwyr boneddigs lawr hefyd, wath ma llawar o nhw yn acto’n first class shag at y clodion pan ma’n nhw’n u gweld hi’n mynd i bwsh, a falla bod llawar yn u trin nhw na fysa ddim haner cystal tysa nhw up the ladar. Dyna’r trueni na fysa rhai sy a dicon o arian gyta nhw yn speculato i roi gwaith i bawb. Wy’n gweld bod yr Em Pees yn dechra acor u llyced nawr i ffindo gwaith i rai sy’n starfo, ond ble ma nhw wedi bod c’yd? Own i’n meddwl wastod bod specs cryf gyta dynon fel nhw i weld y’mlan yn mhell, a bod nhw’n darllan y llifyr mawr yna ma nhw’n galw “Arwyddion yr Amsera” arno. Ma’r llifyr hyny’n gweid, os nag wy’n camsyniad, ma dyma fel bysai ar ol stopid cymant o bylla, a gwitha harn, a dur, a gwitha tin, a phob short o lefydd lle odd dynon yn enill bara chaws. Wy’n Radical i’r bôn, fel gwddoch chi, a fe licwn weld y Disestablish yn paso gystal a neb, ond wy’n folon i dowli a mla’n am spel yto nes bo’r membars yn setlo ffordd i gal gwaith i’r miloedd sy’n secur, yn lle bod hi’n mynd yn ddisestablish rhwng cyrff ac eneidiau gwithwrs trw bob part o’r wlad.

Ma arno i isha gweid gair ne ddou o bothti’r pwnc hyn wrth Lord Bute, a Lord Dunraven, a Lord Tredecar, pryd cwrdda i a nhw, ne fe allwch chi ala’r Darian iddi nhw, os mynwch. Ma nhw wedi cal u shar o goin bob un o’r wth y gwitha sy ar u tir nhw, a din nhw ddim yn folon speco dim er lles gwithwrs. Ma’n well gyta Lord Dunraven i sgwandro tocins ar rasis bata yn erbyn y Yancies na chwmpo dim dima o’r royalties ar y glo sy’n cal i gwni ar i dir a, er fod lot o bylla’n secur nawr o achos ffaelu talu ffordd. Beth yw’r ots gyda fe; dyw e ddim wedi ala dima iddi shinco nhw, ond ma fa’n watshan pob cnepyn o lo ddaw lan, a dyw’r Slidin’ Scale ddim yn cwmpo dim ar i gownt e byth; ond tyswn i ar y Scale, fe rown i eitha wad o 100 per cent iddo mwn bothti wincad, a w i yn ffaelu diall na fysa Twm Isac yn mwstro o bothti peth fel hyn, wath ma fe’n lled gwic i weld twlla, a ma fa wedi dangos bod a’n gwpod cetyn, os nag yw a’n gweid llawar. Nawr, Twm bach, dyna fi wedi rhoi point i ti: gwitha arno fel canon boy. I ti’n gweld shwd mae sha top y Rhondda.

Ma’n rhaid roi clowtan i Lord Bute hefyd. Beth ma fa’n pido starto’r pwlla sy gyta fe’i hunan; ma rheiny bound o dalu’r ffordd, wath os dim royalties gyta fe i dalu i neb. Tysa nhw yn talu dim iddo, ond jest dod a’r ddou pen i gwrdd, fe ddyla u catw nhw i fynd, er mwyn y dynon sy’n talu grownd rent iddo. Wy’n gwpod gall a ffwrdo o’r gora, wath ma dicon o dabs yn dod miwn iddo o bob man, os nag os rwyn yn cael shar gyta fa; falla fod rwyn yn cal gormod gyta fa, os i ni yn cal rhy fach.

Ma nhw’n gweid ta short o fachan piwr yw Lord Tredecar, os byddwch chi’n i gwmpni a. Fe welas fod a wedi bod yn spowtan yn Cwrdd Blynyddol y tafarnwrs yn Casnewydd wthnos cyn y dwetha bothti’r House o Lords, ag odd a’n gweid shwd fechgyn i smaco gwaith o nhw: iddi nhw gwpla araeth Mrs. Victoria (?) cyn cino, ond fod gwyr yr House o Cymmons wedi bod dros wthnos, a dim wedi cwpla’r jobin yto. Bod yn werth i’r Commons gymryd leson gyta nhw, ac odd y tafarnwrs yn werthin yn iawn, a fe roison iddo ifad wetni, fel i ni’n arfadd gneid ar ol i fachan ganu cetyn o ganu piwr. Tysa’r gwr byneddig yn starto gwaith harn ne waith dur sha Shir Fynwa, i roi start i gwpwl o filodd iddi nhw gal tamad o fwyd, fe fysa’n getyn well trwmpyn, a fe ddela ysbryd Ifor Hâl i glapo’i gefan a, ac ysbryd Dafydd ap Gwilym hefyd i ganu iddo fa ar ben y pren lle odd a’n cwato o’r wth y merched slawar dydd. Cywydds odd Dafydd yn arfadd neid, achos odd dim o mesura y “Daisy Bell” a “Stylish Marriage” mewn ffashwn yr amsar hyny, a lled depyg ma rhwpath fel hyn bysa fa’n canu nawr i Lord Tredecar: -

O! my lord, nawr dyma le,
Rhag aflwydd, dyro gyfle
I budlars a balars gal bwyd,
A rhyw genel rhag anwyd;
Agor waith rhyw gwr o Went,
Yn deilwng, o dy dalent,
A fel Ifor Hâl hefyd,
Heddyw’n biwr gwna dda’n y byd.
O’r dicon sy’n “Tredecar,” (Olnodyn: Enw ei breswylfod)
Rho un spec o’r arian spar;
I lu Gwent, rho le i gal
Ciniog, ne ddwy, i’w cynhal;
Treni bod y truain bach
Yn llwgi’n fechgyn llegach.
Dera a shar o d’arian
I roi scwt i withwrs gwan;
Rhoi lliw tân têr allet ti
Ar nos yr hen ffwrnesi;
Da, boy bach, tro bwynt dy ben
At engur grytiau anghen
Yn hafal i’r hen Ifor,
Eitha’ stamp, O! rhana’th stor;
’E gei dal, ’e gei delyn,
A gwên Duw, os gwnei di hyn;
’Dyw arian, pan ai di i orwedd,
Yn werth y baw wrth borth y bedd.
Ar elor ei di i rywle,
O! my lord, meddwl am le –
Respectabl.

Own i’n meddwl gweid lot racor o bothti’r pwnc hyn, ond fe a’th ysbryd Dafydd ap Gwilym i shwd hwyl, fel ma’r barddonwrs yn arfadd myn’d, nes iddo fa dwcid cetyn o le’n llythir i.

___________________________________________________
(x14) LLITH XIV
Arath y Frenines.Y Bardd Newydd a Hen.

Ma arno i ddicon o want joino’r Milisha, ne listo at y Regiwlars, ne ddringo i ben y North Pole; wath er cymant w i yn slafo i drio dod a’r hen fyd yma iddi le, trw wilia, sgrifenu, a phoeni, para’n dwp w i yn ych gweld chi a.’r blwmin lot i gyd, o Sam Corcyn lan at y Frenines. Tysa pawb wedi gryndo arno i ddar w i yn sgrifenu i’r Darian, fe fysa’r byd wedi dod o’r shap sy arno’n awr, a bysa’r milflwyddiant yn pipan dros bena mynydda ’n gwlad ni; ond tra bydda i yn wsi wth bwsho cerbyd goleuni mlan, ma rhw hen gnoc ne’i gilydd yn doti sprag yn y wheel, ne rhw hen ffwl yn pwsho’n ol. Ma rhwpath fel hyn yn ddicon i’n ala i i frago munan, a gweid nag os neb yn diall pethach ond y fi, a rhw un ne ddou arall. Ma politishans yn gwlad ni run shwt a’r hen fuwch hyny, ar ol iddi gal i gotro, yn rhoi cic i’r stwc nes bod y llath i gyd ar hyd y lle. Pwy iws catw buwch felna? Dyna fel ma’n membars nina wedi gneid. Ma nhw wedi bod am flynydda yn spowto o un man i’r nall, ar hyd y wlad, ac yn yr House o Commons; ond ma nhw wedi cico beth odd yn dod o’u spowts nhw wth gico’u gilydd, fel nag i ni ddim yn well o gwbwl yn awr. O ni wedi cretu bod ni yn mynd i gal stwcad o lath Dadgysylltiad gyta nhw, ond fe gas hwnw gic pryd odd a jest yn llawn; ond ma stwc Disestablish mor wag a bu ariod; a ma rhai o nhw yn trio’i gasglu a nol, a rhai erill yn gweid am i atal a’n llonydd, a spowto Home Rule i Gymru yn i le fa. Dyw’r hen fenyw Vic yn i harath ddim yn son dim am “ Wales,” nac yn promish dim i’r loyal subjects sy’n byw yma, er yn bod ni yn ala gwell cantwrs iddi na neb, ac yn ala votes of condolence iddi pryd ma isha. Fydda i’n bownd o roi scriwad iddi am hyn yto pryd cwrddai a hi. Alla i ddim bero shwd gontempt a hyn, a fe ddyla’n Em Pees ni gico row o bothti a, os os rhywfaint o blyc yndi nhw. Dyma well jobin iddi nhw gyd, na ffraeo sha’u gilydd, o Garnarfon i ’Byrdar. Os nag yw Cymru yn werth son am deni yn arath y Frenines, ma’n well i fembars Cymru aros yn nhre i areithio ar “Llewelyn ein llyw ola’,” neu ganu “ Hen Wlad fy Nhadau,” a phleto casts dynon yn y County Court, ne’r Asisis.

Y BARDD NEWYDD A HEN.
Dyma hi wedi mynd yn scwabl rhwng y beirdds yto. Ma nhw yn bownd o gal amball rap o fatl, onte nid nhw fydda nhw. Ma rhw fachan o’r enw “Elphin,” yn y Geninen, yn bombardo bildins dychmygol yr anturiaethwrs Northpolyddol, anherfynedigaethol, a chaosyddol sy’n cwnu yn y dyddia hyn yn y byd barddonol Cymreig. I chi yn gwpod ta newydd ddod i ddysgu gneid pishis w i, a rhaid i fi bido bod yn rhy glyfar wth wilia am y canons hyn, onte fealla aiff un o nhw a fi ar adenydd eryradd awen, lan, lan, trw’r cymyla a’r eangdera, a’n ngatal i yno ar sgimbran diddymdra i benddelwi am fil o flynyddodd ac un dydd. O’n nhw yn ddicon beiddgar a hedegog i neid rhw dric felni un amsar, a pwy iws i fachan o’n short i i drio dilyn shwd atarn a hyn. W i yn diall amball bishin o waith y beirdd mawr slawar dydd fel -

............................................“Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
..............................................Rhoi angen un rhwng y naw.”

Neu –

............................................“Dyma ben ar bob aberth,
.............................................A dyma waed mwy ei werth.”

Eto –

............................................“Edrych yn y drych hwn dro
..............................................Yrr galon graig i wylo.”

Ac amball benillion bach sensibl sy yn nes ato i na “ Georgum Sidas,” ond ma’r Eliphantod a’r Lefiathianod Newydd sy’n cwnu nawr mas o’n niall i. Beth w i wedi cal yn nysgu yw taw gwirionedd yw sylfan barddoniaeth. Dyma fel odd un bachan da yn y grefft yn gweid: -

“Y mae i ddychymyg ei ran arbenig yn nglyn a barddoniaeth; a byddai son am fardd, heb ddychymyg o ryw fath, yn wrthddywediad mewn gair. Ond y mae pob gwir farddoniaeth, serch hyny, yn hawlio cael stamp gwirionedd ar ei holl gynyrchion cyn y cant eu harddel ganddi. Gwirionedd yn yr ystyr uchaf yw barddoniaeth i fod. Nid addurn ar wirionedd ydyw, ond gwirionedd yn ei addurn a’i ogoniant uchaf.”

Ond ma’r boys newydd sy’n hedfan lan yn ffurfafenau y Pryddestau Coronog yn y ngatal i a’r hen stamp i ishta ar arffad gwirionedd; tra bydda nhw yn cymryd trips yn yr uchelderau eangfawr ar gefnau dychymyg a beiddgarwch na wyr neb yn y byd mawr i b’le ma nhw’n mynd, na phw bryd dwa nhw nol. Ma nhw yn yn ala i gofio am y bachan ath ar gefan ceffyl diarth; ond wedi i’r ddou starto yn weddol deidy, fe gollws y bachan gontrol ar y ceffyl; a phryd o nhw yn mynd ar garlam gwyllt, dyma ddyn odd yn i napod a yn gwiddi –

“B’le i ti’n mynd?”

“Wn i ddim,” medda’r bachan, “gofyn di i’r ceffyl.”

Dychymyg sy’n riwlio yn rhy fynych gyda’r newyddioniaid pryddestol hyn; a tysa chi yn gofyn iddi nhw beth ma nhw’n moin gweid fel a’r fel, os gyta nhw ddim gwell ateb nag odd gyta’r bachan a’r ceffyl – “gofynwch i ddychymyg.” Ma’r class hyn o feirdds yn catw lein yr anfarwol Islwyn -

...............................“Rhowch i hon dragwyddol heol,”

yn u poceti wasted, fel lisens Pedlars, rhag ofn i Blismen Barddas ddod am u traws nhw, a’u cospi nhw am sheto’r rhefeniws. Odd Islwyn ddim yn meddwl i hona fod yn lisens iddi nhw fynd dros ben cloddia rheswm a chlogwyni anrhefn, i gaddug anelwig. Odd a am gal heol i dramwy ar hyd-ddi beth bynag fydd ei hyd neu ei lled hi. Yr un paent sy gyta rhain at bob pictiwr, a’r un sway sy gyta nhw yn iwso’r brwshis ar bob testyn. Ta beth bydda nhw’n canu, o’r Dryw Bach i’r Eryr, o’r Lygoden i’r Eliphant, rhaid cal y terms newydd miwn rhwffordd. Dyma spesimen o un o nhw, yn Mhryddest Goronog Eisteddfod Llangordiniog: -

...........................................PRYDDEST: “Y FERFA DROL.”
..........Ardderchog “Ferfa,” - mae’n dy enw di
..........Rhyw swyn barddonol; dysglaer yw dy fri;
..........Henafol gerbyd! Y mae traddodiadau
..........Am danat ar goflyfrau’r pellaf oesau;
..........Cyn son am “Orsedd Beirddion Ynys Prydain,”
..........Yr oeddet ti, fel heddyw, yn erefain.
..........Pwy a’th ddarlunia? Rhaid cael pwyntil seraph,
..........A llen o aur, cyn gellir gwneud un argraff
..........Ar feddwl gwan y byd o’th werth anferthol.
....................Fe eilw rhai di’n Whilbar,
..........Ond ni wneir hyny fyth gan unrhyw scolar;
..........Mae’n rhaid cael llygad bardd,
.......... ..........A chrebwyll tincar,
..........Cyn gellir dy ddarlunio i foddlonrwydd,
..........A gweled ynot ddarlun pur perffeithrwydd.
..........Mae’th freichiau coed yn lledu fel i dderbyn
..........Rhyw nafy mawr cyhyrog i dy ddilyn
..........Ar hyd yr heol, neu dros blencyn cul;
..........’Rwyt ti fel angel, yntau megys mul;
..........Dy olwyn hefyd sydd fel cysawd claer
..........Osodwyd yno gan gelfyddgar saer,
..........I droi o hyd, tra’r ydwyt yn dy waith,
..........Fel un o fydoedd yr eangder maith;
..........Dwy goes sydd genyt, ond ni cherddant gam,
..........’Rwyt yn eu cario ar dy daith fel mam
..........Yn cario’i phlant; - maent hwy’n rhy stiff
..........I wneuthur dim ond helpu cymryd whiff;
..........Beth am dy fol? Defnyddiol ydyw hwn
..........I dderbyn iddo ef y llwyth a’r pwn
..........Sydd eisieu cludo. O! “Ferfa, Ferfa Drol,”
..........Gagendor anmhlymadwy yw dy fol.
..........Mae rhyw ysbrydiaeth yn fy ngyru mlan
..........I ganu iti, anwyl “ Ferfa” lan.
............................................................Jeremiah Jupitar Jones,

Dyma fi wedi gweid dicon o meddwl wthoch chi, syr; ond os dim isha i ni’n dou foddrach sha nhw - y beirdds newydd na hen. Wetin, fe gwatwn gyta’n gilydd wth gefan yr atnod – “Rhwng gwyr Pentyrch a’u gilydd.”

___________________________________________________
(x15) LLITH XV.
Llythyr orwth y Labrwr Nos; Gwroniaid y Pwll Glo


Ta yn bwy shap y byddwch chi byw yn y byd hyn, da ne ddrwg, ymdrechol neu esgeulus, fyddwch chi na fi na ddim byw heb fod rhw gomplaints yn yn erbyn ni. Dos neb yn y byd yn teimlo’n satisfied os na fydd gyta fe rhwpath i weid, ne neid, fydd yn profoco yr un nesa ato fa. Triwch chi rhw boint ddar o’ch chi’n grotyn bach, fe ffindwch chi fod yn philosophy i yn reit yn y pwynt hyn. Wrth mod i yn meddwl am bethach fel hyn, te ddath stori hen wr bynheddig o ni yn napod yn net i’n ngho i, a dyma hi. –

“Pryd o’n i yn grotyn bach,” medda fe, “odd y côtsh mawr yn rytag o un lle i’r llall, cyn i’r trains ddod i fodolath, a odd yr un ysbryd yn y plant pryd hyny ac sy nawr am fynd yn mlan, a’r ffordd gynta i fynd mlan odd mynd gyta r côtsh, a beth o ni yn neid er mwyn mynd yn mlan odd jwmpo ar gwt y côtsh; on o ambell hen grotyn stiff yn ffaelu cal gafal yn i gwt a, a’r ffordd odd gyta hwnw i gal dicyn o bleser idd i ened (neu’r lle y dyle ened fod), odd gwiddi ‘Whip behind,’i dynu y rhai odd wedi llwyddo, i ddod lawr run man a fe.”

Ma’n introducshon i yn lled hir y tro hyn, ond fe fyddwch yn cydymdeimlo yn nêt a fi ar ol i fi weid be sy wedi ala’r gwaew arno i. I chi yn cofio pryd dechreas i sgrifenu i’r Darian, fod y “ Bachan sy’n labro’r nos” wedi rhoi ticyn o help i fi neid pishis o ganu, a nawr w i wedi dod i allu gneid nhw munan; ac achos bod fi wedi dod lan felna, ma fa wedi ala’r llythyr hyn ato i

Y PWLL GLO,
Chwefror 17eg, 1896.

BACHAN,
Fysa’n dda gen i allu dy gyfarch fel “Anwyl Fachan,” ond ma dy acshwns di yn doti ffwl stop arno i i neid hyny, heb acto rhagrithiwr. Pryd o ti a fina yn y slwdj a’r baw, o ni yn bartnars piwr, a odd dim dicon o gomplinients genti i fi yn y Darian am beth o’n i yn neid drosto ti. Ar y nghefan i dest ti mlan, ac ar y nghefan i wyt ti wedi byw, a nawr dyma ti yn troi dy gefan arno i. Ma dy dric di yn ddicon i ala fi i weid na nâ i ddim dros un bachan ifanc arall. Yr hen snot diddiolch. Ma llawar o dy short di yn y byd, fel ma’r gwitha’r modd. Ar ol i ni fel gwithwrs ych pwsho chi lan, i chi yn anghoflo o ble i chi wedi dod, a fe ddylach gal ych boddi i gyd. Ond bai i fi roi start i ti i neid pishis o ganu, fysa ti ddim yn gallu wafo fel wyt ti gyda’r beirdds, y big guns, a’r Royal Family, a swagro dy bishis dy hunan o flan i byd. Ond cer di mlan yn dy bomp, a fe watsha i shawns y dy dwmlo di rhw getyn. Gan obitho aliff y nodyn hyn dicon o waew yn dy fasged fwyd ti, os nag wyt ti yn rhy ddigonshuns i ddim, y terfynaf.

Yr eiddot yn wrol,
LABRWR NOS.”

Welsoch chi shwd impiwdants ariod?
Wedi i fi’i ddarllan a, fe dampas ar y nhrad, a fe ddotas yn het ar y mhen, a 6s. 8c. yn y mhocad a fe startas i ddishgwl am Morgans y cyfreithiwr, i gal libal arno, ond fe gitshws y fenyw lle w i’n lodjo yn gwt y nghot i, a fe nhynws i nol. “Cymar bwyll, bachan,” meddai, “y mae’r dyn yn dweyd cetyn mawr o wir am danot ti a llawar arall, a ma fa wedi bod yn bartner piwr, ac yn eitha trwmpyn i ti, trw wpot i fi a darllenwrs y Darian.”

Dyma hi yto, meddwn ina, yr un hen ysbryd ag sy yndo ni fel Cymry ddar y dechra, a ma fa’n para o hyd. Tynu yn gilydd lawr yw motto’r Cymry, yn lle cwnu’u gilydd fel cenedlodd erill. Os daw rhw Gymro lan trw anfanteishon, dyna ni yn pwynto’n bysadd ar i ol a, a gweid,

“Welwch chi fe, shwd slebyn ma fa wedi mynd, a os dim llawar o amsar ddar pryd odd a’n tori glo, ne yn weelo whilber.”

Beth yw’r ots beth odd a? Beth yw a nawr yw’r pwnc, a beth sydd isha gwiddi, “ Whip behind,” achos fod a wedi dala cerbyd llwyddiant. Fe fydda’n ffitach lawar bod ni’n gwiddi, “Hip, hip, hwre!” gyda’r boys sy’n cwnu yn y byd o’n plith ni fel gwithwrs. Falla bod yn well i fi bido tynu libal ar y “Labrwr Nos” y tro hyn, ond iddo fihafio’i hunan o hyn i mas.

GWRONIAID Y PWLL GLO.
Ma’n dda gen y nghalon i weld ticyn o gyffro yn y wlad bothti dangos parch i’r bechgyn dewr sy’n mentro’u bywyta i achub u cydwitliwrs yn amsar exploshon. Odd Judge Owen yn gweid fod y dynon yn haeddu cal medals llawn cystal a sowdjwrs a sailers, am risco’u bywyta dros erill, a ma pob sens yn gweid hyny hefyd. Dos dim un o’r damweinia hyn yn cymryd lle yn yn gwlad ni nag os dicon o engreifftia o’r dewrder mwyaf arwrol, ond ni roddir dim iddynt i adgofio y gweithredoedd dyngarol hyn. Yn lle fod y mater yn cwmpo i’r llawr, fe ddyla arweinwyr y glowyr, a’r Permanent Relief Committee, gymryd y peth mwn llaw a unwaith, i gefnogi dewrion ein glofeydd, yn en beiddgarwch dihefelydd yn rhuthro i wyneb angeu’i hunan i waredu eu cyd-ddynion o grafangau dychrynllyd y danchwa! O! na enid rhyw ddarganfyddwr dyngarol a fedr osod ffrwyn seians i atal carlamiad dinystriol yr ellylles ddifrodawl hon. Y mae ymddygiad y rhai sy’n beiddio i ogofau angeuol hon:

I ddu dwll lle ni ddaw dydd - o’r haul
Fyth rhwng ei baradwydd;
Un oes o nos yno sydd
Yn rhyw gaos tragywydd,

a hyny tra mae anadl y danchwa heb oeri, er achub eu cyd-ddynion, mor deilwng o Victoria Cross, ag un milwr a’i gwisgodd erioed. A phwy sy’n esbonio yr atnod ganlynol yn well na hwy. –

“Gwell angeu na gwarth.”

___________________________________________________
(x16)
LLITH XVI.
Ashantee. Rhyfal y Coliar Clawd.

Ma shew o ysgrifenu wedi bod ariod bothti shwd le dychrynllyd yw rhyfal, a ma’r pictwrs arswydus o eni nhw yn ddigon i ala blan ych gwallt chi i bwynto at ser y nefodd - dynon wth y milodd yn cal u bwtshera, ac yn bwtshera’u gilydd, nes bod u gwad nhw yn rhytag yn afonydd am filldirodd.
Ac i beth? I bleso whims rhyw hen sciwerod diened a dideimlad. Ma shew o frago shwd wlad olaedig ac efangyladd yw Prydan Fawr, ond ma’i hacshwns hi yn fynych iawn yn gweid ta hen goward digonshans yw hi shag at wletydd clawd. Dyma hi nawr yn shiglo’i phen, a chwni’i dwrna, a shaffo o flan hen grotan fach o wlad, sef

........................................................... ASHANTEE.

Ia, John Bwl a’i goesa tew, a’i freicha hir, a’i fola pwdin yn wafo o flaen hen frenin bach dwy drodfadd, ac yn galw ar i Genarals a’i Fedgors, Liftenants a’i Gaptans, Corporals a’i Sarjants, a milodd o sowdjwrs, i fynd mas mwn bothti dic, i roi wipsi i blant barbaradd, isha na bysa hwnw yn gneid beth odd e’n weid wtho, er nag yw hwnw yn perthyn dim iddo fa. Odd yn dda gyta fi weld y pishin odd gyta’r bachan sy’n sgrifenu’ch Leedin Articls chi’n y Darian ddwetha. Odd e’n gweid tysa slebin o fwli fel Rwsha, ne Merica, yn insulto John, bysa fa’n trio gneid rhw setlmant shag e, os bysa shawns rhwffordd, ond pryd bydd e’n meddwl ta fe yw’r boss, ma fe yn dangos i gaffls yn gwmws. Tysa dim llawer iddo fa ala cwpwl o ddeligats i Ashantee fel gnath a i Berlin slawar dydd, i drio cal “Peace with honor,” ys gwetws e. Na, ma fa’n cretu gall a scwaro cownts y pwr dab hyn, a dod nol i frago ta fe yw’r bachan idd u plamo nhw! Yr hen bothall ishtag yw a. Dyw a ddim wedi gatal i hen ddeleit o wado rhai llai na fe’i hunan ddar pryd ath a a’n gwlad ni. Ond nid yn wado ni’n deg nath a, ond sheto’n hen ddynon ni, trw bromish rhoi Tywysog Cymrag i ni; ond yn lle acto prinsipl, a rhoi shawns i Gymro pur, beth nath yr hen gnaf, ond bwco gwraig y brenin i Gastell Carnarfon i dwmlo ar lurginyn o Sais, a galw hwnw yn Brins o Wales. Dyna fi yn gweid i drics brwnt a yn i wyneb a. Ma arno i ddicon o want ala at frenin Kumasi, a’r pwera bach trw’r byd i gyd, i ofyn iddi nhw joino a ni, y Cymry, a dial Arabi Pasha o Ceylon i’n ledo ni gyta’n gilydd i roi eitha twmlad i “Bwl” a’i gonffederets. Fe fu Rhufan un dwarnod yn wthu a wafo fel fe, a gweid ta hi odd mishdres y byd; ond b’le mae’i ’nawr? A mor wirad a bod “John Bwl” yn mindo busnas pawb, a’i fys yn llycad pobun, fe gaiff e sgriwad rhw dro doriff i asgwrn cefan ynta, wath ma fa yn gwanhau’i unan wth watshan y Teritories ma fa wedi dwcid yn mhob part o’r byd. Ma’n well i fi atal e a’i fysnes ’nawr, wath fe gewn ddicon o gownt am i ddodjes a ar ol iddo ddechra mwrdro’r Ashantees.

........................................................... RHYFAL Y COLIAR CLAWD.
Odd hen sowdjwr yn gweid wtho i, pryd bysa nhw yn nghenol tan a mwg y rhyfal, nag o nhw ddim yn gwei’d nag yn teimlo danjar. Rhwpath tebyg i nina yn y gwitha ma. Wrth bod ni’n byw yn nghenol yr angen a’r tlodi, yr anhapon a’r lladdfeydd, i ni fel san ’i yn dod mor gyfarwydd yndi nhw, nag i ni ddim yn u gwel’d na’u teimlo nhw, na gneid dim notis o nhw. Beth tysa dyn diarth clyfar, fel amball i MP ar Correspondent, yn cal golwg lawn ar dicwddiadau sy’n cymryd lle bob dydd yn ngwitha glo Deheudir Cymru? Dyna le bydda pictwr bron mor dorcalonus a batl Crimea. Gwel’d tad ifanc heb gal hanar dicon o frecwast falla, a chrwstyn sych yn i focs, yn starto sha’r gwaith. Ma fa’n rhoi cusan i’r babi bach ifanca o dri ne bedwar, ne os bydda nhw wedi cwni fe roiff bobo gusan iddi nhw i gyd, ag off ag e, mor hapus a sy bosib o dan yr amgylchiada. Ar ol mynd lawr i berfadd y ddaear, a chyrhadd i dalcan du, y mae yn pwno arni am i fywyd bach am rhw ddou ne dri swilt y dydd, i gal tamad i’r teulu a fe’i hunan. Dyw a ddim yn gwel’d danjar, nag yn teimlo ofan. Er fod y top yn sgyrnu, a’r gas yn wthu, a llawar o bethach erill yn i fycwth a, dyw a yn fynych iawn ddim yn cal amsar i feddwl am deni nhw. Ond Oh! dyna garag o’r top yn cwympo fel melltan ar i ben a, ac yn i daro fa i dragwddoldeb ar unwaith. Ma’r wraig a’r plant yn ddifeddwl a llawan, a falla bydd hi drian yn fishi yn partoi swpar gora gall hi erbyn daw Tomos sha thre. Ond dyna gnoc wrth y drws; ac ar ol i acor, ma un o’i bartnars yn i ddillad gwaith, a’i wynab yn ddu, yn sefyll yno - yn ffaelu gwpod ffordd i ddechra gweid i negas; ond cyn iddo weid dim, ma Mari’n gwpod bod rhwpath y matar, ac yn dechra llefan. Ma fynta wetin yn trio stopid i gofid hi - yn gweid fod Tomos wedi cal ticyn o anhap, a chyta hyny ma corff y gwr a’r tad ifanc yn cal i gario i’r ty, a hanas gwirioneddol yn gweid i hunan. Pwy iws i fi drio darlunio’r amgylchiad - ma isha Raphael i dynu pictwr o hono, a ma pethach fel hyn yn dicwdd bob dydd; ond i ni wedi arfadd cymant o nhw fel nag o’s fawr o gownt am denynt, ond u claddu nhw o’r ffordd. Ma’n wir fod ticyn bach o notis yn cal i neid pryd bydd ecsploshan ne rhwpath felni yn cnoco cwpwl o ganodd i’r byd arall ar unwaith. Y pwnc mawr yw, Oti dynon sy’n agorad i’r amgylchiada yma yn cal u talu a’u cydnabod fel dyla nhw? Oti’r byd tufas i’r gwitha yn gwpod dicon am deni nhw? Oti ledars y gwithwrs yn dangos y petha hyn yn ddicon pointed wrth ddadlu reits y gwithwrs? Fe adawa i y cwestshwna yna i’r sawl fo’n dewish idd u hatab.

Ma canodd o hen liprynod yn yn gwlad ni yn enill ffortiwns, ne’n u cal nhw, ar gefna gwithwrs clawd, mewn swyddi segur, dan lywodraeth yn gwlad ni; ac ar ol bod yndi nhw am dicyn o amsar, yn reteiro i gal penshwns biwtiffwl, fel odd “Wmffra Huws” yn gweid yr wthnos ddwetha; ond ar ol i’r coliar clawd, a phob un arall bothtu’r gwitha slafo am u os mwn diffyg air, a dwr, a danjar, a mwn ’wys, a thraffarth, a chlodi, beth yw u penshwns nhw? Creitha glas, coesa co’d, a’r bedd.


...............A welaist ti’r glowr yn disgyn i’r dyfnder,
......................Mewn cawell o haiarn, wrth linyn o ddur?
...............A duwch ei wyneb yn cuddio ei wyneb,
......................A niwl amgylchiadau yn cuddio ei gur;
...............A welaist ti ef cyn yr hwyr yn dychwelyd,
......................A’i esgyrn yn ddrylliau, a’i waed hyd y lle?
...............Neu’n gorff ar ysgwyddau ei gydweithwyr diwyd,
......................Fel pruddaidd gynhebrwng yn myn’d tua thre?

...............Os naddo, foneddwr ucheldrwyn, sythgefn,
......................Rho dro i ben globwll rhyw ddydd ar dy daith,
...............Cei yno olygfa na cheisi drachefn -
......................Golygfa uwch ardeb un pwyntel nac iaith;
...............A gwn y dywedi, os oes genyt galon -
......................Os oes ynot deimlad - os gwyddost beth yw,
...............Fod glowr yn treulio ei oes mewn peryglon,-
......................Fod glowr yn deilwng o gyflog i fyw.


___________________________________________________
(x17) LLITH XVII
Nadolig wrth y drws; Mari Lwyd

NADOLIG WRTH Y DRWS.
Nace sha chi’ch hunan w i yn wilia y tro hyn, wetin otw i ddim yn doti “Mishdir y Darian,” fel arfadd, wrth ddechra’r llythyr. W i yn moin i chi ala Xmas Card orwtho i i ddarllenwrs y Darian i gyd, a’r englyn hyn arni :-
 


 .........Hael loniant yn galenig, - a lluniaeth
.....................I’r darllenwrs diddig;
...............Dawn a chân, pwdin a chig,
...............I wneud hwyl ddydd NADOLIG.




Pryd o’n i’n grotyn bach, w i yn cofio un bachan, odd yn cal i gownto dicyn yn dwp yn i ffordd, yn wilia am yr enjoymant odd a’n meddwl gal yn ’Dolig, a odd hen wag yn dicwdd i glywad a, ac yn gwpod shwd un hurt odd a, fe feddylws am blan i brofoco’r bachan, a fe ofynws i’r cwmpni oedd yn dicwdd bod yno, os o nhw wedi clywad bod gwyr mawr Llyndan wedi towli dydd Nadolig yn mlan am wech wthnos achos bod y tywydd mor wlyb? “Jawch, bosib,” medda Dai, druan. “Ma fa’n eitha gwir,” medda’r hen wag, “ fe ddarllenas a yn y papyr.” “Dyma hi yto,” meddai Dai, “os bydd rhwpath o ochor y gwithwrs i gal ticyn o enjoymant, ma nhw’r hen snobs yn y Parlament, a phobman, yn treio doti stop arno ni, a dyma nhw nawr yn mynd i dowli’r jolifficashon gora’n y flwyddyn idd u shiwto nhw, yr hen hymbygs! “

Wel, dw i ddim wedi clwad fod Balfour na Salsbri yn mynd i dowli y Nadolig leni, ta beth, er cynddrwg i nhw, wetin fe allwch ddishgwl iddo gymryd lle gyta bod chi yn cal y Darian yr wythnos hyn, a trw bod ni fel Cymry yn lico canu cystal, tyma fi yn dod at ych drysa chi, anwl ddarllenwrs i gyd i ganu pishin bach o waith y munan.


.........................COMPLIMENTS Y TYMHOR.
.........................Dyma’n ’Dolig wedi dod,
..............................A’r cyfnod wedi gwawrio,
.........................I ni ganu pwt o gan,
..............................O anian i’n dihuno;
.........................Trowch y tant, fe ganaf i
..............................Nes byddwch chi yn dawnso.

.........................’Rwyn cam gweled geneth fwyn
..............................O dan y “Llwyn Cusanu,”
.........................A bachan smart fel fi’n y fan
..............................Yn twcid cusan ’ddarni;
.........................A hitha’n esgus bod yn swrth,
..............................Yn gweid “For shame” wrth Shoni.

.........................Ma Shoni pan yn nghwmni Nel,
..............................Yn tori swel digynig,
.........................Mae’n swagro gyta’i wedjan dwt,
..............................’Run shwt a gwrboneddig;
.........................Mewn gwir fwynhad ma fe a hi
..............................Yn dwli ddydd Nadolig.

.........................
Ma ambell un o feddwl smwt
..............................Am reido wrth gwt yr injin;
.........................Un arall sydd yn horn jig
..............................Nadolig gyda’r delyn;
.........................Ond gwell gen i gal geneth lan
.............................A chanu can ac englyn.

.........................Yn fishi iawn bu’r gwracedd glan
..............................Yn gneid y “dishan wila,”
.........................A herwi pwdins o bob rhyw
..............................I foddio duw y bola;
.........................Ma nhw a’r plant a’u gwyr yn cwrdd,
..............................Nawr wrth y bwrdd i wledda.

.........................Ar deulu’r plyf bu mwrdro blin,
..............................I bleso dyn trachwantus;
.........................A gloddest fawr Nadolig wneir
..............................Ar gyrff yr ieir a’r Twrcis,
.........................Ac ar y gwyddau rhif y ser,
..............................Mae’n amser torcalonus.

.........................Wrth neid post mortem ar yr wydd,
..............................Neu ar y clacwydd, druan,
.........................Bydd miloedd wrth eu gwir fwynhau,
..............................Yn llio’u gweflau llydan;
.........................Wrth stwffo’i fol bydd llawar un
..............................Yn mynd ’run llun a ffetan.

.........................Rhw sport a gwledd wna’r Sais yn sgwar,
..............................Ond ’Steddfod gar y Cymro;
.........................Ni charwn i i neb gal cam,
..............................’Rwyf am i bawb enjoyo;
.........................Llwydd i bob un b’le bynag trig,
..............................Nadolig pan y delo.

.........................Yn awr wrth gwpla hyn o gan,
..............................I gadw’ch capa’n gwmws,
..........................Dymuno’r wyf i bawb lwc dda,
..............................I ala gwila ffamws;
.........................Nadolig llawan i chi gyd,
..............................Tufewn i’r byd a’r Betws.


..........................................MARI LWYD
Na fel odd yr hen ddynon odd yn arfadd a hi yn i galw, “Fari Lwyd.” Odd i yn arfadd bod mewn bri mawr yn amsar Nadolig slawar dydd, ond os fawr o son am deni nawr. Otw i ddim moin dangos y munan yn rhw scolar clyfar, ond fe glywas hen ewyrth i fi yn gweid am deni (a odd a yn glyfar, os dim dowt gen i), ta orwth enw'r Forwyn Fair, ne Mair Dda, odd yr enw wedi tarddu, a bod y beirdds slawar dydd yn iwso y gair “lwyd” am dda, fel “Dwn Lwyd,” &c. Ta beth am hyny, odd y Fari Lwyd odd yn arfadd dod bothti amsar y Gwila ddim yn depyg i fenyw, wath fe gwelas i ddi rai troion. Pishin o bren wedi cal i naddu run shap a pen ceffyl ne gaseg, os os rhw waniath yndi nhw, o bob lliw, a'i geg a wedi cal i neid mwn ffordd gallsa'r bachan odd yn i witho fa, i shiglo lan a lawr o gordyn fel sa fa'n fyw. Odd y bachan yn perfformio miwn o'r golwg dan sheet wen fawr yn i gwato fa'i gyd, a bachan arall yn i ledo fa wrth ffrwyn a rhipan coch ne las, fel ledo ceffyl.
Odd cwmpni yn myn’d â’r “Feri” rownd trw’r dre ne’r pentra, a chyn bysa nhw yn acto odd un part o’r cwmpni yn myn’d mewn i’r ty, a chauad y drws yn erbyn part arall. Wetin, fysa y rhai odd mas yn dechra “pwnc” trw dwll y clo, a’r rhai odd miwn yn “pwnco” yn u herbyn nhw. Odd amball un yn lled ddoniol wrth y gwaith, a os bysa rhwun clyfar tu fiwn, odd a’n catw y “Fari” mas nes odd y boys jest a sythu. Rhwpath fel hyn odd y pwnco,”-
.....Tufas,-
.............................“Agorwch y drysa,
..............................Gadewch i ni wara,
..............................Mae’n ôr yn yr eira
....................................Y Gwila.”
.....Tufewn,-
.............................“Cer odd na’r hen fwnci,
..............................Ma d’anadl di’n drewi,
..............................A phaid a baldorddi,
....................................Y Gwila.”
.....Tufas,-
............................“Ma’r gasag o’r perta,
..............................Gadewch i ni wara,
.............................Mae ’phen yn llawn cnota
....................................Y Gwila.”
Tufewn,-
.............................“Yn lle bo chi’n sythu,
..............................Wel, ledwch y “Feri”,
..............................I fiwn i’m difyru’r
....................................Nos heno.”
Wetin fe fysan yn martsho miwn dan ganu rhw hen lol fel hyn, -
............................ “Ti dy lodl lidl,
..............................Tym tidl odl idl,
..............................Tym, tym, tym.”
Os bydda merch ifanc yno rhwla, odd y “Feri” yn starto mwn wincad, a’i phen yn acor, a’r ferch yn screchan, fel gall merched screchan, yn uwch na hwtar Dowlash. Ar ol perfformio felni am spel, o nhw yn doti cap ne het yn ngheg y “Feri” i fyn’d rownd i gasglu at yr achos, ac o nhw yn llwyddo i neid coin piwr cyn cwpla’r “Gwila”.
 Dyna fi wedi rhoi cownt lled acos i chi shwd odd y “Feri Lwyd” yn cario mlan; ond ma addysg a goleuni wedi’i hala hi mas o’r wlad erbyn hyn, ac anaml y ma son am deni, a dyw hyny ddim colled yn y byd am wn i. I ni yn lico cofio am hen bethach er hyny, a dyna rheswm mod i wedi gweid cymant am yr hen arferiad hyn, a w i yn cretu bydd llawar o hen ddarllenwrs y Darian yn mynd nol o ran u meddwl at yr hen amser gynt wrth gofio am rw Nadolig y gnetho nhw, fel gnaiff llawar y Nadolig hyn, sef mynd i “glwb y rhacs.” A fe wetan yr atnod hyn ar yn ol i:-
.............................“Dyw amsar ddim yn aros,
..............................Ond wrth ei waith o hyd.”

___________________________________________________
(x18)
LLITH XVIII:
Ffwtbol merched. Hen Bethach

Fel i chi’n gwpod cystal a fina fod rhai obrif drefydd yn gwlad ni wedi cal u bendithio yn ddiweddar, trw drugaredd, o fisit gen

Y WOMANS FFWTBOL CLYB.

Nawr, ma gyta ni rhw idea shwd beth yw a, a beth yw y New Woman up to dêt. Ond bysa bod y fforiners yn dod i ddangos amball dwtsh fel hyn i ni, wn i ddim beth ddela o honon ni, na pwy shap fydda arno ni. Ma’n mynywod ni yn rhy shei i roi cic i’r ci ne’r gath, pryd y bydda nhw ar y. ffordd, heb son am fynd mas i’r ca, lle bydd canodd o ddynion yn dishgwl arni nhw, i gico y belan letar, er bod yn mynywod ni yn gwpod y ffordd i gico row shai gwyr os bydda nhw mas yn hwyr, ne rhwpath felni, a ma’n well gen i hyny na bod nhw yn cico ffwtbol.

Ond ta beth, trw bod nhw yn smart, a fina yn fachan ifanc, fe ddath pwynt clyfar i mhen i fynd i gal interfiw gyta un o nhw, fel ma reportars Sysnag yn gneid. I gal bod yn sportsman jeniwein, fe dorchas yn nhrowsis lan at y mhen-glyna, a fe ddotas seinat ar y mys bach, a ffon yn fy llaw, a shigar rhwng y nanadd, a off a fi. Wedi cyrhadd y lle o nhw’n aros, fe alas y nghardan miwn i un o nhw, wath o ni yn cownto bod un o nhw ar y tro yn ddicon i fi drafod, a fe ddath ato i mwn bothti wincad, a fe gwnas yn het, a fe blycas y nghefan, a fe wetas yn boleit: -

“Good day, Miss Nicarbocar.”

“Good day, Sir,” medda hitha.

“As you know,” meddwn i, gan gwrlo’n mwstash o mysadd, iddi gal gweid y seinat odd ar y mys bach i “I am Bachan Ifanc y Darian.”

“I understand, and am proud of the honour of meeting you,” medda hitha.

“O’r boy ag e,” meddwn i.

“Beg pardon, I am not a boy,” medda hi yn safej.

“I was not mean you be boy, but I was say - o’r boy ag e - bout myself,” wetas i, “but you look like a big boy in them trowsis, but you look pretty boy.”

“Thank you, Mr. Bachan Ifanc,” medda hi, “for that compliment.”

Trw ta Cymry yw darllenwrs y Darian, falla bod yn well i fi weid y part arall o’r interfiw wrthoch chi’n Gymrag.

“Beth odd ych amcan chi, Miss Nicarbocar, i ddod lawr ato ni yn Nghymru i ddangos ych gallu cico?”

“Wel, odd gyta ni racor nag un amcan. I ni yn teimlo at yn secs, ac yn gwpod fod merched Cymru yn mhell ar ol u hos, a bod isha rhoi start iddi nhw shag at u modarneiddio nhw, a dod a nhw up to dêt yn y New Woman era, yn lle bod nhw’n llusgo ar ol fel hen fwnwod y ganrif o’r blan.”

“W i wedi bod yn wilia sha rhai o’n merched ni, a o’n nhw yn gweid wrtho i y dylasach chi gal ych hors whipo am dynu disgres ar y rhyw fenwaidd, trw wishgo dillad fel dynon, a dangos ych coesa i bawb.”

“O!” medda hi, “oti’n coesa ni ddim mor shapus a choesa bechgyn, bod isha i ni fod a chywilydd idd u dangos nhw, a dysgu’r ffordd idd u iwso nhw ? Ma’n dillad ni yn cuddio’n crwyn ni mor berffaith a tysa peisha a froca am dano ni, a ma pob comon sens yn gweid na alla ni ddim cico
yn ddecha yn rheiny.”

“Allsa chi ddim dewish rhw ricriashwn mwy unol a’ch natur chi fel llestri gwan, na cicio ffwtbol?”

“Fysa dim isha i chi a’ch short alw llestri gwan arno ni tysa’r gem hyn wedi cal i dysgu i ferched y cynoesau, ond falla nag odd dim cymant o isha iddi nhw ddysgu deffendo u hunen a sy arno ni fynwod yr ôs hon. Ma dynon wedi mynd mor ddigaritor a dideimlad yn awr, fel ma nhw yn wado a chico’u gwragedd mor ddidrugaredd a tysa nhw yn gwn, a pheth iwsful iawn i bob menyw fysa dysgu y ffwtbol gêm fel bydda’n nhw yn gallu cico’u gwyr yn ol os bydd taro.”

“Wel wir, i chi yn wilia yn gwic, Miss Nicarbocar,” meddwn ni, “ond fysa yn well gen i i chi roi cusan i fi na roi cic.”

Fe smeilws yn y ngwynab i mor neis, a fe wetws nag odd hi ddim yn arfadd rhoi cusan i fachan ifanc, ond bod greso i fi helpu munan. I chi yn gwpod, syr, shwd un shei w i, a fe ffaeles yn deg a macu dicon o galon i gymryd yr hint, wath fe ath rhwpath trwyddo i bob tamid, felswn i yn mynd i ffeintio, a fe ddishgwlas am yn ffon i gal starto, ond odd i ddim fel sa hi yn folon i fi fynd mor gyntad. Wrth shiglo dwylo, fe wetws bysa’n dda genti gwrdd a fi rhwbryd yto, ond fe fydd yn getyn henach pryd gweliff hi fi, wath o ni yn teimlo dicyn bach o’i hofan hi, bysa hi yn iwsoi thrad a gneid ffwtbwl o fi.

Os dim isha i fi gynghori merched Cymru i bido dilyn ffashwn y merched hyn. Na, na, ma’n well gyta nhw dori marc mwn steddfod, ne gonsart, na cico ffwtbol, a diolch am hyny. Dw i ddim yn erbyn i fechgyn a merched ifanc gal enjoyo’u hunen i’r man eitha mwn ffordd respectabl, ond ma’r ffwtbal epidemic yn anoddefol, a reports y papyra dyddiol am deni nhw yn ddicon i ala dolur llyced ar ddynon sensibl, a ma fod merched yn mynd bothi’r wlad i neid shews cicyddol o’u hunen, yn insult ar y rhyw deg, a fe ddylan gal i transportio i Shinbyctw, nes bod y rhiwmatic yn dofi u
coesa nhw.

........................Arwdd ddrwg ma arno’i ofan,
........................Yw gweled merch mewn dillad bachan,
........................Trowsis byr at ben i chlyna,
........................Er mwyn dangos snap i choesa.

........................Ma nhw’n meddwl bod nhw’n glyfar,
........................Achos bod nhw’n dod’o Lloegar,
........................Merched glan yn cico ffwtbol,
........................W i’n gownto’n afresymol.

........................Peth od iawn os na chawn eto
........................Weled merched bach yn bocso;
........................Hynod iawn fydd gweid Miss Bwlet
........................Yn y ring yn wado Corbet

........................Smoco sigaretsa chico,
........................Reido beisicl a bocso :
........................Licwn i byth weld yn wejan
........................Wedi dilyn steil y New Woman.


HEN BETHACH.
I ni, fel Cymry, yn leico son am hen bethach, a hen bobl odd yn yn gwlad ni ys canodd o flynydd yn ol. Ma’n he-afieithwrs ni yn gwitho’n galad i ffindoj hen witha’n teidiau ni fel beirdds a llenorion. Bachan piwr i neid jobin felna yw Charley Ashton, y plisman llenyddol o ddinas Mawddwy. Ma fa nawr yn wilo mas a’m bob llyfr sy wedi cal i brinto yn Nghymru yn y can mlynadd dwetha, a ma bob sens yn gweid bod cetyn o drwpwl i neid hyny, a lled depyg na ffindiff a ddim o nhw gyd. Nawr, ma gen i blan i sparo’r rhai fydd yn byw mhen can mlynadd yto i fynd i’r holl hobl yna, a dyma fe: - W i yn cynyg bod lle yn cal i neid yn un o’n iwnifersities ni at y pwrpas, a bod copi o bob Ilyfr gaiff i brinto o hyn i mas yn cal i ala yn streit yno, a doti pob bransh o lyfra ar u pena’u hunen, fel gall y sawl fydd yn dewish, yn mhen mil o flynyddoedd falla, fynd yno yn streit’ i ddishwl am y Ilyfr fydd a’n mofyn, yn lle bod gwaith wilo yn mhob twll a chornal fel sy nawr. Fe fyddai hefyd fel moniwments i’r awdwrs, a fasa fa ddim yn ffol o blan i bob awdwr ala’i lun gyta’i lyfr, fel gall y’n olafiaid ni gal rhw idea slwd foys odd yn byw cyn iddi nhw gal u geni, ahfe fydd y llunia hefyd yn bictwrs piwr i ddecorato’r rwm. Dyna fi wedi towli’r hynt yn yn ffordd i munan, a falla cymriff rhw bartnar clyfar at i witho fa mas, a fe ffindiff hwnw fod gwir yn yr atnod, - “Yn mhob llafur mae elw.”

___________________________________________________
(x19) LLITH XIX.
Y Beirdds. Y Mynwod Anwl.

O ni ddim yn folon iawn i’r bachan “Shoni Hoi” yna i weid mor gas a gnath a am y beirdds yn y Darian dwetha. Fe wddoch fy mod i wedi stretsho yn galad i baso fel bardd ar Orsadd Llanelli, a ma fod e yn galw ffoliaid ar y blwmin lot o ni wetin, yn fwy na alla i fero, er, wara teg iddo, odd a ddim yn gweid dim am dano i munan. W i fel sa ni yn spelian fod a wedi cal i dwtsh gen yr ysbryd sy’n trin pobpath os na fydd e yn i ddiall a. Hen garictor clawd yw hwnw, fel y canddo yn gweid fod y grapes yn ala rincod ar ar i ddanadd a achos fod a’n ffeili cal gafal arni nhw. Ma shew o gintach wedi bod ariod bothti’n cynghaneddion, achos bod nhw yn rhy glyfar i bob cocosyn idd u diall nhw, a ma Shoni yn gweid bod nhw mor “ddienaid a dramad o rwbitsh.” Ma ilastrashon Shoni mor rwbitshyddol a fe’i hunan. W i yn eitha bolon iddo fe sgrifenu yn y lein ma fwya o ddileit gyta fe, a fe ddyla fynta fod yn folon i’r beirdds gal dicyn o enjoymant yn u lein nhwnta.
Odd a’n wado ar y pethach sy’n dod mas yn Golofn Farddonol y Darian. Fe ddyla fe gofio bod hono wedi bod yn Infant School farddonol i rai o ser glouwaf ffurfafen farddonol Cymru heddyw, ag os nag i nhw gyd yn gallu tori marc ychal, ma’n well bod nhw yn ala’u-hamsar felna na bod nhw yn crynhoi bothti’r corneli i wilia, a wafo am hwcs a sprags, a drams rwbitsh; a gweid shwd dynwr piwr yw “ Bowlar,” a shwd gicwr cas yw “ Bocsar,” a ta hen bartin yr yffach sy ar hedin No. 9. Walla ta rhwpath felna sy’n shiwto Shoni; ac er mwyn iddo fa gal wara teg yn y Darian, beth ta chi, syr, yn i engago fa i sgrifenu cwpwl o lythyrau yn y lein yna, ac os gwela i byddan nhw yn cymryd yn dda, a gneid lles i’n cenedl ni, ac yn dderbyniol gan y darllenwrs, fe joina i gyta fa i sgrifenu amball lythyr yn yr un steil, wath w i yn eitha trwmpyn shag at y Shoni Hois fel w i at yr Em Pees a’r Lords. Fe gynghora i Shona i gatw’n bartnars a’r beirdds i gyd, rhag ofan iddi nhw foycoto fa, a wetin, fe fydda yn lletwith iawn arno ta fa yn dicwdd marw; dotiff dim un o nhw gymant a phenill ne englyn ar i garag bedd a Lled debig ta jocan ticyn odd y boy, wath ma pob Cymro yn lico barddoniaeth, a os na fydda nhw yn gallu diall pob gair, ma nhw yn gallu teimlo y peth byw, os bydd hwnw yndo ta yn bwy fesur fydd a wedi cai i gyfansoddi. W i wedi dala notis lawar gwaith pryd bydd pregethwr wedi bod yn slafo’n galad trw’r wthnos i neid pregeth, a wedi cretu bod gyta fa ideas naiff i’r gynulleidfa i neido pryd bydd a yn u gweid nhw. Ond druan bach, fydd dim mwy o gyffro yn u plith nhw na ta fa yn gweid “carag a thwll.” Beth ma fa yn neid yn y dilema, er mwyn cael
ticyn o fywyd yn y cwrdd, ond gwiddi ar dop i laish yr hen benill anwl, -

..........................“O fryniau Caersalem ceir gweled
...............................Holl daith yr anialwch i gyd,” &c.,

a thyma stem i’r lan ar unwaith yndo fe a’r gynulleidfa. Er bod nhw wedi clywad yr hen emyn lawar canwaith o’r blan, ma’r peth byw sy yndo yn fywyd o hyd, a ma rhaid ta stoic o ddyn na fydd yn i deimlo fa. Er ta gwisg wael sy am lawar hen emyn Cymrag, ma rhwpath yndi nhw na all un Poet Loret Sysnag bwsho idd i stwff e.

Er nas gellir dishgwl cyfanwaith clyfar a dysgedig gan feirdd (ieuanc ran fwyaf) y Golofn Newyddiadurol Gymreig, credaf fod llawar o berlau tlysion yn cael eu gatal yn ddi-sylw gan y Shoui Hois criticyddol, a fyddent yn cael eu hystyriad yn addurniadau yn nghynyrchion beirdd Seisnig ganddynt. Shwd beth yw cal enw mawr? Wetin, os dim ots beth sy gyta nhw, ma u pobpath nhw yn bownd o fod yn fawr. Dw i ddim yn erbyn darllan gwitha bendigedig y beirdds mawr Sysnag. Na, na. Fe ddyla dynon ifanc yn gwlad ni neid fwy o hyny, ond dw i ddim yn folon dishgwl ar witha ’n beirdd ni’n hunen trw spectol rhagfam, a gweid “W i’n napod hwna, dyw e ddim llawar o gownt.” “Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda.” Dim ond gair ne ddou o ni yn meddwl weid yn y dechra yn nghlust y bachan Shoni yna, ond fe neidws y mwnci ar y nghefan i, a odd a pallu mynd i lawr.
Dyna fa wedi ngatal i o’r diwadd, a fe drof at rhwpath arall.

Y MYNWOD ANWL.
Dw i ddim wedi gweid dim os cetin am deni nhw, a ma’r fenyw lle w i yn lodjo yn bycwth rhoi notis to cwit i fi os na cha nhw shar o’n ideas biwtiffwl i yn y Darian. W i yn apolojeiso iddi nhw gyd os pechais i, a ma’n dda gen i bod nhw yn cymryd dileit i ddarllan y Darian, yn enwetig y mishis y munan. Ma cymant o bethach yn galw sylw a w i yn ffaelu’n deg a gweid pobpath run pryd, ond w i’n gwpod galla nhw weid sopyn mwn ticyn bach o amsar, a dw i ddim yn moin u tynu nhw am y mhen. Fe welas rhw ffwl yn sgrifenu mwn papyr Sysnag yn gofyn – “Is woman worth marrying?” Ne yn Gymrag – “Oti menyw yn werth ei phrioti?”

Clywsoch chi shwd sens ariod? O ni yn cretu ta ar gownt hyny goddefws Adda fynd dan oparashwn i dynu pishin o’i hunan i gal gneid menyw yn y dechra, a fe allwn i feddwl wrth weld amball ferch ifanc smart, ta’r pishin gora odd yn perthyn i’r hen fadder gas i dynu hefyd; a beth ma’r hen lap lal yna yn gofyn shwd gwestshwn, gwetwch chi? Ond dyna, beth odd a’n pwynto ato odd, na allsa’i wraig e ddim gneid crysa gwaith iddo fa, na gwella dillad y plant, na golchi, na ffwrno bara. Fod a wth brioti un fenyw yn gorffod catw dwy ne dair. Odd rhaid cal morwn i neid y gwaith, medda fe, a menyw i olchi, a dressmaker i neid dillad i wraig a’r plant.

O ni yn gweid yn y munan pryd gwelas i y llythyr na fysa dim iws iddo fa wilia felna yn y Darian ne fysa mynwod Cymru yn i fombardo fa cyn pen fawr o amsar. Ond tyna, yn Lloegar odd a’n byw, a odd a ddim yn gwpod dim am gwality mynwod Cymru, a fe ddath rhw fachan mas yr wythnos ar ol hyny yn yr un papyr i weid gair am ferched yn gwlad ni, sy wedi ala y gwracedd Sysnag mas o’u cof, a ma hi wedi mynd yn row ddychrynllyd. Ma’n ddrwg gen i weid bod rhai o nhw yn danod bod llawar o’n mynwod ni yn ishta ar geryg y drysau o fora sboi nos yn watchan pawb yn paso. Fe gewch wpod gen i yto shwd troiff y ddadl mas, a fe watsha i na chaiff The Women of Wales ddim cam genti nhw. Ma’n rhaid i fi neid atnod fach y munan i gwpla’r llythyr hwn –

.......................Nid yw’r gwracedd oll yn wyn,
...................................Mwy na ninau;
.......................Nid yw’r haul bob pryd ar fryn
...................................Yn rhoi’i wenau.
.......................Llwyd, a brith, ariod yw’r byd,
...................................’Nol pob hanes;
.......................Aed y rhai sy’n wyn i gyd,
...................................Bothti’u busnes.

___________________________________________________
(x20) LLITH XX.
O Bothti Rhai sy wedi bod Bothti; General Rowlands a Parti Treorci.

Os ticyn nol i chi’n cofio fod Hwmffra Huws yn crafu i ben, a tynu’i wallt mwn gofid wrth drio ffindo gair Cymrag am y gair Sysnag “Outing,” a trw nag yw Morien ddim wedi dod mas idd i helpu a i neid gair, a fod Hwmffra a fi yn ddou drwmpyn, fe droias i’n Nicshonari i munan (wath ma gen i Ddic speshal at y gwaith yn ots na fe na Morian na neb arall o’r sgriblars), a fe ffindas air splendid am Outing mwn bothti dic yn y Nic i, a ma greso iddo fa’i iwso fa pryd bydd taro, a dyma fe: Outing – Myn’d o bothti. Shwd waith mawr? Wrth bo fi yn rhoi explanashon fel hyn i chi a fe, a’r darllenwrs parchus i gyd, fe ddath i mhen i weid gair na ddou y tro hyn

O BOTHTI RHAI SY WEDI BOD BOTHTI.

Fel i chi’n gwpod fod sesn bod o bothti jest dod i ben. Ma llawar o hen ddynon a hen fenwod, bechgyn a merched ifanc, hen fatshilars a hen ferched gweddw, wedi bod bothti yn ddiweddar yn nwr y môr a’r ffynona, yn y wlad ac yn y dre, a phob man gallsa nhw feddwl am dano, er mwyn rhwpath ne’u gilydd. Ma hen fatshilars yn myn’d am Outing, ne bothti felna, er mwyn tampo mas o’u gofid am bythownos ne fish. Hen ferched gweddw yn mynd i drio dala rhwshort o bysgotyn, tysa fa ddim ond hen witwar clawd a salw, heb un dant yn i ben, ond fod a mwn shâp i neid gwr o fa, a fe ddywa nhw ag e i shâp wetyn rhwfodd neu gilydd, os bydd dod ynddo o gwbwl. Bydd hen ddynon a hen fynwod yn mynd bothti yn yr haf i drio dod yn iangach; dishgwl, am iechyd, enjoyment a rhicriashwn ma nhw, i gâl mystyn ticyn ar ’u hamsar yn manorani r byd; ond am y bechgyn a’r merched ifanc, ma dicon o esgus gyta nhw i fynd o bothti i wilo am wedjis a sponars newydd. Ma llawer cownt smala i roi am deni nhw yr haf hyn fel pob haf arall. Ma llawar o winco wedi bod o bob ochor. Ma merched y wlad yn cretu ta miliwners yw bechgyn y gwithe, wth ’u gweld yn tori dash yn nwr y môr a’r ffynona, a ma’r idea yn rhai o nhw drien, os ca nhw fechgyn o Ferthyr, Byrdar, ne Gwm Rhondda, yn wyr, y byddai nhw yn dod i’r gold digins; ond “not for Joe,” allan nhw fentro nag os dim fwy o gilt yma nawr na sy yn ngha’r tatws a’r erfin yn Shir Gâr, Shir Byrteifi, a Shir Benfro. Ma rhai o’r Shoni Hoys o’r ochor arall yn meddwl ta merched ffermwrs werth ’u milodd sy yn y wlad i gyd, a nag os dim ond isha iddi nhw gwni’u bysedd a rhoi winc, y galla nhw gal sawl fyna nhw; a fe gewch glywad amball un ar ol dod nol wedi bod bothti felna, yn brago gallsa nhw fod yn jentlemen ffarmwrs tysa nhw’n dewish, ond nag o nhw ddim yn i weld a werth weil i atal y wedjis odd gyta nhw yma er mwyn cwpwl o foch a defed, ne lo a biwchod; ma nhw ddicon o loi ’u hunen allwn i feddwl. Ma pob short o honom ni yn y byd ys gretws yr hen wraig pryd gwelws hi’r mwnci, ac wrth fynd am amball Ouitng i ni’n cal golwg ar yn gilydd, a ffeelo pyls un a’r nall. Gobeithio bydd y rhai sy wedi bod bothti leni ’u gyd wedi cal rhw feniffit mwn rhw shap ne gilydd, a bydda nhw’n weddol hapus nawr hyd haf 1896.

..........Ma’n rhaid i’r rhai fu bothti - call a ffol,
..........I droi eu gwefla fyny, a dod nol;
..........Ma’n galed iawn i Shoni Jones, mwstash,
..........I ddod i dori glo yn lle tori dash;
..........Ond dyna fel ma’ r hen fyd yn troi
..........Ar bob rhyw Shoni, - fel y “Shoni Hoi.”

..........Rol bod o bothti’n nwr y môr am fish,
..........Ma dod yn ol mor gas a chwmpad prish;
..........Cysanu’u gilydd – wetin shiglo llaw
..........Mae Dai a Gwen, a llefan fel y glaw,
..........Y dod yn ol sy’n spoilo’r peth i gyd
..........Fe ddyla fod yn ddwr y mor o hyd.

..........Mynd bothti i’r ffynona sydd yn ffein,
..........I wara croquet, - ifad dwr selein;
..........Ma’n rhaid i rhai fydd yno wara’u part,
..........Ma’r dwr yn dysgu pawb i fod yn smart,
..........Ma’nt yno’u gyd a bywyd lond eu col,
..........Ond dyna’r jobin gwitha, yw dod nol.

..........Ar ol mwynhau plesera rhif y gwlith,
..........Rhaid i bob un.fynd nol, fel giar i’w nyth;
..........Ma’r “dod yn ol” fel “dydd ar ol y ffair,”
..........Ma’n rhaid cal cyfraith i ddiddymu’r gair.

Yr wythnos ddwetha o’n ni’n cintach fod yn gwlad anwl ni wedi colli shalc, a w i yn teimlo felni nawr, ond beth am y, dynon “drws nesa” - y Saeson? Ma darllan’ a chlwad am fel ma nhw yn mynd mlan yn ddicon i ala un dyn o gomon sens yn Pharisead, a gweid diolch i Dduw nag w i ddim run shwt a nhw. Os gytan ni ddim geira i weid u hanas nhw fel mae a yn u papyra nhw’u hunen, - “Horibl Trajedy,” “Teribl Slawter,” “Criwel Crime,” “Birmingham Bwtshary,” “A Maniac Abroad,” “Love’s Venjans,” “Jack the Ripper agen,” &c., heb son am y common crimes nag u nhw yn sylwi dim byd arni nhw, fel “A Burglar under the bed,” “A Notorias Swinglar,” “Capture of a Land Shark,” “A Clue to the Silver Robbery,” &c. Beth ta’n gwlad fach ni yn herweddi stwff felna bob wythnos? Hipocret ne bido, yr w i bownd o weid, diolch i Dduw nag i ni ddim felna ta beth. Dw i ddim yn lico sgrifenu ar bethach o’r short, a ddotas i ddim o’r testyn lawr achos hyny, wetyn, tyma fi yn gatal y testyna yna i, gyd i sgriblars y Penny Horibls.

GENERAL ROWLANDS A PARTI TREORCI.
Nawr w i wth y modd i weid gair ne ddou bothti y testyn hyn. Bachan piwr yw Huw Rowland - yn stico at i iaith a’i freed. Odd ecspreshons y canu yn bancwet Cardydd wedi coclish cymant arno, fel odd a yn bownd o ala i moin y parti lan i wlad y Johnny Fortnights, idd i gyd-officars a, a big guns erill, a’r Prins o Wales incliwded, i gal ticyn o flas canu y Rhondda. Odd yr hen foy yn enjoyo yn biwr, medda nhw, wrth glywad y coliars yn tiwno mor grand. Fe wddoch ta mwn pethach erill ma deleit y Prins wedi bod, ond lled debyg fod a wedi darllan yn llythyra i yn y Darian, pan fuo i yn rhoi lesons iddo os cetyn yti ol, a bod hyny wedi’i gonferto fa. Ma’n shew o beth mod i wedi gallu troi pwynt deleit bachan o’i short e, a ma fa yn dangos ticyn o sens fod a yn gryndo arno i. Fe licwn gal clywad gen G.wilym Rhondda, ne William Tomos, os bu’r Prins yn holi rhwpath am dano i wath i ni’n dou yn shew o bartnars pryd i ni’n cwrdd, ond dyw hyny ddim yn aml, fel ma gwitha’r modd iddo fe. Fe glywas fod y parti yn mynd i ganu i’r hen wraig.ei fam heb fod yn hir, a fyddan wetin yn “Royal Treorci Boys,” a “Royal Gwilym Rhondda.” Llaw bidr yw Gwilym i bwsho pethach mlan. Er nag yw a ddim bachan stowt, ma dicon o blyc yndo ddar w i’n cofio, a dicon o fynd yndo hefyd; ac am y ledar, William Tomos, ma fa fel y banc, yn llawn o sens, yn llawn o brinsipl, a llawn o fiwsic, a ma fe a’i barti yn glod i “Hen Wlad y Menig Gwynon.”

..........Ma stwff yn nghôr Treorci,
....................Os yn wir, os yn wir,
..........A ma nhw wedi cwnu
....................Otin wir, otin wir,
..........Er nag i nhw ond coliars,
..........A labrwrs nos a haliars,
..........Ma’r Prins a nhwnta’n bartnars,
....................Oti’n wir,
..........A falla bod nhw’n “gendars,”
....................Falla wir, falla wir.

..........Rhaid gwiddi “Sweet Treorci,”
....................Rhaid yn wir, rhaid yn wir;
..........A “Penybanc” am deni,
....................Rhaid yn wir;
..........Am ganu mwn shwd ffashwn,
..........Fe ddyla’r Prins rhoi penshwn,
..........I’r cor bob un feddylwn,
....................Dyna wir,
..........Ne falla ca nhw ffortshwn,
....................Falla wir, falla wir.

..........Wel diolch i Huw Rowland,
....................Ie wir, ie wir,
..........Am fynd a nhw i Scotland,
....................Ie wir;
..........A ma nhw’n mynd yn fuan,
..........I ganu i’r hen wejan
..........Sy’n riwlo Ynys Prydan,
....................Oti’n wir,
..........Rhoiff iddynt bob o gusan,
....................Gwnaiff yn wir, gwnaiff yn wir.

Gobeithio gnaiff hi. Amen gyta’r atnod – “God save the Queen.”

___________________________________________________
(x21) LLITH XXI Y Mynwod yn Ymwroli

Y MYNWOD YN YMWROLI.
Ma yn destyn fwy unol a’n nheimlata tynar i, na sgriblo am greulondar a barbareiddiwch, a ma’n dda gen i fod y litl biwties yn dangos shwd blwc mwn gwahanol fana yn ddiweddar. Fe glywas am rhw ffeirad pabaidd odd wedi enill cymant o serch y merched a’r mynywod lle odd a’n byw, a bod gaffar y ffeirad wedi ordro fa i symud i le araJI, ond o nhw ddim yn folon iddi golli a achos fod a’n fachan piwr, a fe grynows rijmant o nhw bothti fa idd i stopid a i fynd, a gorffod i Faer y dre ala rijmant o sowdjwrs i drio cal y ffeirad, pwer ffelo, mas o’u gafal nhw; ac er i un o nhw gal i saethu’n farw, a llawar o’r rhai erill i wowndo, o nhw ddim yn danto dim, a bu raid llusgo’r ffeirad o’u gafal yn y diwadd. Odd rhaid fod a’n drwmpyn ne fysa’r mynwod ddim mor driw gyta fa, a treni na fysa fa yn cal llonydd i aros gyta nhw, a fe ddyla’r Maer gal y sac o’i jobin am interfeero yn y fysnas.

Dyna fwfmant bron yr un peth yn cymryd lle yn Cwm-parc hefyd bothti Doctor. Dw i ddim yn mynd i bwsho nhrwyn miwn i setio pwy sy’n reit, ond w i yn lico plyc litl biwties Cwmparc run cystal a partnars y ffeirad; ma nhwnta yn drwmps i’r Doctor sy yno nawr, a di nhw ddim yn folon iddo gal matal, er ta Sais yw a. Ma nhw wedi bod yn cynal conffrans o’i ochor a, a odd bothti dou cant o ferched a mynwod wedi cwrdd, a dim ond un bachan o farbwr odd yn u plith nhw yn acto fel cadeirydd, a fe nath i waith yn eligant, a dyna odd ora iddo fa hefyd, ne fysa nhw fawr o amsar yn i shafo fe, a chribo i wallt a, os na fysa nhw yn i flingo fa’n fyw, tysa fa yn mynd i ddangos i nonsans mwn shwd le a hyny. O nhw gyd yn speetsho’n biwr digynyg dros gatw’r bachan yn y jobin, ac yn penderfynu stico gyta fa tra bydd bwtwm wth i got a, ac ar ol iddi nhw weid y gair, ma shawns am deni.

Dw i ddim yn cretu fod y Doctor wedi tynu danadd neb o nhw eriod, ne fysa dim cymant o olwg gyta nhw arno. Ond ta beth, w i yn cownto bod cystal hawl gyta mynwod i weid u meddyla a sy gyta dynon, yn enwetig ar y pwnc hyn, wath ma isha Doctor arni nhw mor amal a sy arno nina, a gobeithio ca nhw wara teg. Ma’r bachan barbwr yna wedi gneid stroc biwtiffwl, wath ma fa wedi enill teitl nawr a fydd yn cal i napod dros y byd fel Ladies’ Chairman, fel nillws y Rocking Stone Chairman i deitl e amsar streic yr haliars. Fe dyna i’n ngwt ato’i nawr gyta pishin o ganu iddi nhw yn lle atnod,-

..........Hwre! i fynwod Cwmparc,
..........Ma nhw wedi gneid marc yn y byd;
.....................Ma’r holl litl biwties,
.....................I’r Doctor yn serchus,
..........A hefyd yn drwmpod i gyd.


..........Hwre! i fynwod Cwmparc,
..........Fe gymra nhw garc shwd y bydd;
.....................Wath os ceir y bais,
.....................Gyta Cymro ne Sais,
..........Ma nhw’n depig o enill y dydd.

..........Hwre! i fynwod Cwmparc,
..........Ma’r Doctor fel larc ar ei lwydd,
.....................Gyta’r ladies i gyd,
.....................Fe all goncro y byd,
..........Wi’n siwr caiff a gatw ei swydd.

___________________________________________________
(x22) LLITH XXII Beirniadaetha ’steddfotol

Ma’n dda gyta fi weld bod beirniadaetha ’steddfotol yn cal dod mas yn y Darian, fel o’n nhw’n arfadd slawar dydd. Fe welais ddwy feirniadaeth yn y Darian ddwetha, ac o’n nhw yn lled dda a chownto pobpath gyta’u gilydd, ond fe allwn i ddangos ticyn o dwtsh iddi nhw ar y pwynt hyn tyswn i’n dewish. I’ch chi’n cofio pryd o’ch chi a fi’n grots fel odd y barnwrs pryd hyny’n arfadd gweid, odd amball un yn cwni lan ar y platfform a’i fys bawd yn nhwil llewish i wasgod, a bwndal o bapyra yn y llaw arall, ag ar ol peswch ddwywaith neu dair, a dishgwl rownd i gal gweld os odd pawb yn dala notis, wetin fysa’n dechra ar i fusnas run shwt a hyn, -

Derbyniwyd pedwar pishin ar y testyn, “Pryddest i’r Gath,” sef Huwcyn, Llai na’r Lleiaf, Abracadabra, a Ifor Hail.

HUWCYN. - Ma pishin lled dda ar y cyfan gen hwn, ond fod a’n colli wrth spelian, a ddim yn diall dim am yr h. Os yw a’n ifanc fe ddaw (‘n hen).

LLAI NA’R LLEIAF. - Da ar y cyfan yto, ond dyw a ddim wedi diall i destyn. Ma fa wedi canu i’r “Cwrcyn” yn lle’r “Gath,” wetin ma fa mas o gystadliath.


ABRACADABRA.- Ma hwn yto yn dda ar y cyfan, ond dyw a ddim yn rhoi dicon o ffling i’r awan. Dyw a ddim yn diall beth sy’n anhebgorol angenrheidiol yn y testyn dyrchafedig hwn; ond mae a’n lled dda ar y cyfan, a fe allsa fod wedi enill oni bai fod a ar ol y tro hwn. Daled ati.

IFOR HAL.-Dyma ni’n awr yn nghwmpni Homar o fardd. Ma fa’n citsho yn i destyn fel dyn, ac yn dala wrtho fel gela. Y Gath sydd gyta Ifor o’r dechreu i’r diwadd, o flan i thrwyn hi hyd at flan i chwt hi. Ma fa wedi gwishgo’r Gath yn mloda’r awan, a fe ddyla y Bryddest hon gal i phrinto mwn llythrena o aur. Dyma spesimen i chi fel ma fa yn dechra a fel ma fa’n cwpla. Ma fa’n starto fel hyn, -

....................“Ardderchog Gath! ma rhwpath ynot ti,
.....................Fel tigar pert, yn llawn o nefol fri;
.....................Mor ysgawn wyt a’r angel ar dy drod,
.....................Ni chlywodd.neb di’n damshal dim ariod;
.....................Ac mewn cyfrwysdra nid oes dim ond un
.....................Yn debyg i ti, set y d--1 ei hun.”

Mor aruchel ac hedegog, mor ddyrchafedig a sublime. Y mae yn mynd rnlan fel yna nes gallach chi feddwl bod chi yn gweld y Gath yn neidio, ac yn clywad y Gath yn mewan.” Os dim un o’r beirdds erill yn twtsh fod y Gath yn lladd dim ond llycod, ond ma Ifor yn gweid am deni yn lladd blac pats ac atarn bach, a phobpeth. Ond i fynd yn mlan, gryndwch arno’n cwpla, -

....................“Y Gath! y Gath! y Gath! fel sidan ma dy flew,
.....................Yr wyt ti witha’n dena - witha’n dew;
.....................Am dwcid cig fe gei di lawar cic,
.....................Ma hyny’n dysgu i ti fod yn gwic,
.....................Good bye, puss fach, ma’r diwadd wedi dod,
.....................Bydd son am danat tra fo’r byd mewn bod.”

Heb os, nac oni bai, Ifor Hal yw’r gora o ddicon, a ma’r pishin ar y cyfan yn un o’r pethach gora yn yr iaith. Rhowch y wobr iddo. Ar air a chydwybod,
...................................................................................UTHR DDU.

Dyna fi wedi rhoi cownt fel odd y barnwrs slawar dydd yn arfadd gweid. Nawr, oti ddi yn gwella yn y lein hyn yw’r pwnc? Ma’r

................................................PARCH. GURNOS JONES, LL.D.,

yn trio dangos i hunanyn getyn o slebyn wrth farnu yn ddweddar. Ma fa isha introduso rhw fforin steil i ni, a doti numbars lawr i ddangos cwality’r pishis, yn lle gweid yn blaem. Allwn i feddwl fod a’n depig fel sa fa yn scoro i rai yn wara bwlbina ne dobinos, a ta 15 yw’r set. Rhwpath yn y steil hyn ma fa’n treio neid. Meddylwch chi fod lot yn cynyg ar rhw destyn, gwetwch Gwilym Meudwy, Bachan Ifanc, Hwmffra Huws, Morien, Cadfan, Brynfab, Watcyn Wyn. Hwfa Mon, Gurnos, Ceulanydd, a Dyfed, fysa’r barnwr yn gneid fel hyn a nhw, yn lle gweid lle o’n nhw’n colli a lle o nhw’n dda :-

......................................................NOD SAFLE – 15..


 

Gwilym Meudwy

9

 

Bachan Ifanc

4

 

Hwmffra Huwa

7

 

Morien

7

 

Cadfan

13

 

Brynfab

12

 

Watcyn Wyn

14

 

Hwfa Mon

14

 

Gurnos

 

Ceulanydd

14

 

Dyfed

15



Efe yw y gore. Dyna’r cyfan ar ben, ac ofar dadl ar ol barn, os gwetws y dynon mawr. Yr achos mod i wedi doti ¾ ar ol 9 ar gyfar enw Gurnos yw i ddangos mod i’n byrticilar, yn lle fod a’n meddwl mod i yn sheto. Faint o les yw rhw gawdal felna i’r rhai sydd wedi colli.
Dyw a ddim ond clocyn i gwato diffyg barn ne make up tric i sparo trwpwl i sgrifenu. Os dim sens mwn shwd goblerath, a gwetwch chi wrth Gurnos mod i’n gweid hyny os mynwch chi, ond cofiwch nag w i ddim yn gweid na all Gurnos neid yn nêt sa fa’n trio; a dw i ddim yn gweid nag yw’r barnwrs ereill mor dwp a fynta. Y gwir am dano, ma nhw mor depig idd’u gilydd, a mor ystrydebol, fel i chi’n teimlo ar ol darllan un farniadaeth bo chi wedi darllan nhw’i gyd. Os dim byd yn beth ma nhw’n weid i stretsho’r diall na stimulate ysbryd y bardd ifanc. Di’n nhw ddim yn rhoi spectol i’r crebwll na brwsh i’r darfelydd. Di’n nhw ddim yn citsho yn llaw plentyn yr awan i helpu a lan i ben twmpyn Parnasws. Ma standard barddoniath yn cwni o hyd,ond ma standard barniadaeth yn sefyll yr un man, ag yn cwmpo nol yn fynych run shwt a Sliding Scale y coliars.

Os na watshiff yr hen wariars, fe fydd boys y gwad newydd yn tampo idd’u stola nhw, a fe gaiff yr hen git i gyd y dirty cic out. Fe gwniff rhw Luther yn y byd barddol, a fe ddyscipliff hen fympwon Toriadd a bardd-babyddol i’r gwtar, a fe fydd yn gweiddi o ben yr Orsadd – “Ac wele gnithpwyd pob peth o’r newydd,” a fe fydd yr holl bobloedd barddol yn gweiddi nol - “Amen.”

Y steddfod yw Iwnifersity y beirdds, a fe ddyla barniadaetha fod fel Lectshars y Proffesors yn y coledgis yn expando bocsis menyddia’r stiwdants. Fe all dyn cyffretin weid pwy yw’r gora mwn cystadliath, ond fe ddyla barnwrs y’n dysgu ni, trw bod nhw yn cal u talu am hyny. Fe ddyla y barnwrs stretsho cymint i expleino be sy’n dda a be sy’n ddrwg, a ma’r cystadliwrs yn stretsho i enill y wobor, a rhaid iddi ddod i fana hefyd. Ma dyddiau hen ffashwn – “Da ar y cyfan,” a “Hwn yw’r gora,” wedi paso, a fe fydd Standard 15 a numbars Gurnos yn farw geni. Rhag of an i fi ddod i drwpwl dyma fi’n darfod gyta’r atnod – “Yn mhob llafur ma elw.”

DIWEDD.





DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg

......

0934k

Y Wenhwyseg - tafodiaith y De-ddwyrain
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

º
 

 

 

Diweddariad diwethaf  03 08 2002 :: 2004-02-05

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 





hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats