1316k Gwefan
Cymru-Catalonia. Ychydig amser yn ol bu farw hen Gymro gwledig
oedd yn dra hoff o iaith ei fam. Pan yn wr ieuanc priododd â Saesnes na wyddai
hyd ddydd ei ymddatodiad air o’r iaith Gymraeg.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_033_safon_gymreig_1906_1316k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
1317ke – Trosiad Saesneg / English translation
|
|
0926 |
YN EISIEU - SAFON GYMREIG. W. Llewelyn Williams. Y Geninen 1906
Ychydig amser yn ol bu farw hen Gymro gwledig
oedd yn dra hoff o iaith ei fam. Pan yn wr ieuanc priododd â Saesnes na wyddai hyd
ddydd ei ymddatodiad air o’r iaith Gymraeg.
Pan ar ei wely angau gofynodd y meddyg iddo – “Ydych chi mewn poen, Mr. Jones?”
“Na,” meddai’r hen Gymro, “ond ’rwyf wedi blino.” “Blino ar beth?” ebai'r
meddyg.
“Wedi blino ar lawer peth,” atebai’r claf, “wedi blino bron ar bob peth, ond yn
fwy na dim ar the English language.” “Tired of many things,” answered
the sick man , “tired of nearly everything, but more than anything of the
English language.”
Mae dylanwadau Seisnigaidd yn rhuthro drwy a thros yr holl wlad fel cenllif
chwyrn. Mae’r post a'r relwê, y papyr newydd a’r addysg werinol, llên a
masnach, swyddogaeth a chrefydd, yn gwasgar y dylanwadau hyn fwyfwy bob dydd.
Nis gellir gyru llythyr at gâr na thramwy o bentref i dref, nis ceir newyddion
y dydd na’r addysg fwyaf elfenol, nis prynir ac nis gwerthir mewn ffair neu
farchnad, nis gellir dal pen rheswm â, na mwynhau ffrwyth myfyr ac ymchwil,
llenorion ac ysgolorion yr oes,
ni throsglwyddir ty^ na thir, ni roddir
tystiolaeth mewn llys, nis profir ewyllys, nis gwneir adroddiad ar lw, ac yn
fynych nis gellir ymuno mewn gwasanaeth grefyddol, heb ddod i gyffyrddiad
beunyddiol ac agos â’r meddwl, yr ysbryd, a’r anianawd Seisnigaidd.
Nid rhyfedd fod y Cymro yn tueddu i ddod yn fwy tebyg i'r Sais bob dydd; ei fod
yn cyflym golli gafael ar briod-ddull ei heniaith; a’i fod, o dipyn i beth, yn
ystyried ac yn barnu pawb a phob peth o safbwynt y Sais.
Os na cheir diwedd ar y duedd cyn bo hir, fe ddiddymir cenedl y Cymry oddiar
wyneb y ddaear mor llwyr ag y diddymwyd deg llwyth Israel.
Eu lle nid edwin hwy mwy; ac ni fydd colled ar eu hol; oblegid cenedl wedi
colli ei harbenigrwydd sydd fel halen wedi diflasu: nid ydyw ond ffug a thwyll:
ffigysbren ddiffrwyth yw, heb ddim arni ond y dail; ac nid yw o les y byd ond
i'w thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.
[Cf. Job 7:9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn
i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 7:10 Ni ddychwel mwybi’w dy^: a’i le nid edwyn
ef mwy. .]
Ai hyn fydd tynged Cymru? Ai er hyn yr ymdrechodd Glyndwr ac y bu farw
Llywelyn? Ai dyma ddiwedd rhamant yr oesau? Ai yn ofer y llafuriodd y cewri
fu’n creu cenedl newydd Biwritanaidd o’r paganiaid digred oedd yn trigo yn y
tir “pan oedd Ann yn teyrnasu?”
Ai am ddim y taniodd Daniel Rowlands enaid y genedl ac y gosododd Pantycelyn ar
gân brofiadau dyfnaf a thyneraf y diwygiadau? Perffeithiodd Alun a Cheiriog
felusder barddonol yr iaith; darganfyddodd Islwyn fyd newydd i’r athrylith
Gymreig; dododd Hiraethog a Daniel Owen ar gael a chadw hynodion a
phriodeleddau cenedl y Cymry.
Ai yn ofer yr â eu hymdrechion, eu gwladgarwch tanbaid, eu hathrylith ysol? Ai
er un canrif yn unig y llafuriasant, ac a fyddant ddieithriaid i Gymru fydd?
Dyna’r cwestiwn sydd yn rhaid i’r oes hon ateb. Nyni yw etifeddion yr oesau -
ac y mae i ni etifeddiaeth deg: eto nid nyni a’i pïa; nid ydym ond
ymddiriedolwyr dros yr oesau a ddêl.
A wnawn ni fod yn ffyddlon i'n hymddiriedaeth, neu a wnawn ni, fel yr afradlon
gynt, wastraffu ein da a byw ar gibau y wlad bell? Nid yw hyn ond ffordd arall
o ofyn, A ydyw Cymreigaeth i ffynu yng Nghymru, neu ynte Seisnigaeth?
Yr hyn sydd dorcalonus yw fod llawer o'r Cymry mwyaf deallgar a dylanwadol yn
methu canfod ym mha le y gorwedd perygl mawr y genedl Gymreig.
Os siaradwch â hwy, awgrymant ar unwaith, yn rhwydd ac yn rhugl eu gwala, mai
oddiwrth y Senedd y dylai Cymru ddisgwyl ymwared. Pa feddyg, yn ei gylawn
bwyll, a ddychmygai y gellid gwella’r Darfodedigaeth drwy lyncu pilsen?
Mae Cymru yn dioddef oddiwrth afiechyd cyfansoddiadol; rhaid rhoi adgyfnerthiad
i'r cyfansoddiad i gyd os am wella'r hen wlad o’i chlwy'.
Y Senedd, yn wir! Pa cyhyd yr erys Cymru mewn anwybodaeth o natur y Senedd? “Ty^’r Gleber” ydyw dan ei enw; ac ni
cheir ond cleber, fel rheol, ohono. Eithaf peth ydyw i bobl iach fel y Saeson:
nid yw eu hoedl hwy mewn perygl: fe allant hwy fforddio aros yn dawel neu
“ymfflamychu” am ddiwygiadau bychain.
Mae eu hiaith, eu defodau, eu neillduolion, eu bywyd cenedlaethol, yn hollol
ddiogel; ond am Gymru, mor wahanol yw ei sefyllfa hi! Flwyddyn ar ol blwyddyn
mae ei bywyd cenedlaethol yn gwanhau.
Ni cheir ymwared o Sant Stephan, ac eto i Sant Stephan yr edrycha’r Cymry am
dano. Mae’r werin yn credu fod rhyw rinwedd gwyrthiol, rhyw magic virtue, yn
y llyhtrennau A.S., er y gellid yn rhy fynych ychwanegu y dwy lythyren Y.N.
atynt heb wneud cam â’r gwirionedd.
Nid wyf, cofier, am ddibrisio gwaith a dylanwad y Senedd. Credaf y gall ac y
gwna Cymru dderbyn llawer rhodd werthfawr oddiar law’r Senedd.
Nid gwaith bach na dibris fydd
rhyddhau’r wlad o iau drom yr Eglwys estronol a roddodd y Sais i ni, ac i
alluogi’r genedl unwaith eto i feddianu eu tir a’u cartref heb fod yn gaeth i whims
bonedd estron: ond yr hyn ddymunaf bwysleisio ydyw mai nid drwy’r Senedd y
gellir cadw Cymru yn Gymreig.
Gadewch i ni daflu golwg ar gwrs bywyd y Cymro ifanc. Gyda fod John Jones yn
gallu parablu danfonir ef i ysgol elfennol y pentref.: yno dysgir ef i
anwybyddu iaith yr aelwyd.
Os drwy ffawd y caiff olwg, ‘nawr ac yn y man, ar lyfryn Cymraeg, ni fydd hyny
ond eithriad. Feallai y caiff wers Gymraeg ambell waith gan ei athraw; ond nid
osodir cymaint o bwys arni ag ar Rifyddiaeth neu Ddaearyddiaeth.
Saesneg yw iaith yr ysgol; Saesneg arferir ym mhob gwers; Saesneg yw y
meistr; ac nid yw'r Gymraeg, ar y goreu, ond gwas bach y gegin.
Ar ol gwario chwech neu saith mlynedd yn ysgol y pentref aiff John i’r ysgol
ganolraddol mewn tref gerllaw. Hap os yw’n gallu ysgrifenu’r Gymraeg yn gywir;
sicr yw nas gwyr ddim am hanes na llenyddiaeth ei wlad.
Mor belled ag y mae ei ddysg yn myned, mae yn fwy o Sais nag o Gymro. Teithia
John yn ol ac ym mlaen bob dydd i’r ysgol gyda’r trên. Wrth bob tebyg Sais, neu
Sais-Gymro, yw’r gorsaf-feistr: gwelais, y dydd o’r blaen, fod Sais wedi ei
benodi hyd yn oed i Gricieth.
Gorfodir John i gario allan bob ymdrafodaeth yn Saesneg; ac fe argreffir ar ei
feddwl plastic, yn gynar ac yn anilëadwy, nad yw meddiant o’r Gymraeg o
ddim gwerth mewn bywyd ymarferol.
Pan gyrhaedda’r ysgol cyferchir ef yn foesgar
gan y prifathraw – yn Saesneg; a dysgir yntau i ateb yn yr un iaith. Saesneg yw
iaith yr ysgol, - ni chlywir nemawr i air Cymraeg; dynwared delweddau’r Saeson
wneir drwy gydol y dydd. Mae hyd yn oed hen chwareu-gampau’r Cymry wedi cilio o
flaen cricket a football y Sais
Erbyn ei fod yn ddeunaw oed mae John Jones yn gymaint o Sais ag yw o Gymro. Yna
aiff i un o’r colegau, ac yno yr erys am dair neu bedair blynedd; ac erbyn iddo
raddio mae ei holl ddull o feddwl ac o fyw wedi ei Seisnigeiddio.
Mae ein cyfundrefn addysgol, yr aberthodd ein tadau gymaint er ei mhwyn, braidd
yn gymaint gelyn i Gymreigaeth ag Eglwys Loegr neu Ddic Siôn Dafyddiaeth ein
“gwyr mawr”.
Gresynus meddwl fod colegau, fu gynt yn fagwrfa gwladgarwyr fel Tom Ellis,
erbyn heddyw yn ymfoddloni ar droi allan raddedigion “bara a chaws”.
Pan mae holl nerth llywodraeth a swyddogaeth, addysg a llên, masnach ac elw
bydol, ar waith yn Seisnigeiddio’r Cymro, a ydyw’n rhyfedd fod Cymreigaeth yn
graddol ddiflanu o’r tir?
Ymhle, neu ymysg pa ddosbarth o bobl, yr erys Cymreigaeth bur a difrycheulyd?
Os aiff y Cymro yn feddyg neu yn gyfreithiwr, nis Gall neb ganfod yr un
gwahaniaeth rhyngddo a Sais.
Fe’i naddir i’r un ffurf a’r lleill; fe aiff i edrych ar bopeth o’r un saf
bwynt a’r Sais; megir ynddo yr un rhagfarnau; ni wna farnu dim fel Cymro.
Bu amser pan oedd Pulpud Cymru yn Gymreig ei arddull: ni cheid odid i bregethwr
yn dynwared dullweddau’r Saeson. Ond yn y genhedlaeth hon mae llaawer o fawrion
ein Pulpud Cymreig wedi troi’n Saeson yn llwyr.
Mae’r English causes yn fwy parchus yn ein trefydd na'r hen eglwysi
syml, gwerinol, Cymreig. Mae llawer o oreugwyr y Pulpud Anghydffurfiol wedi
croesi Clawdd Offa, neu wedi mynd at y Saeson neu'r Sais-Gymry yng Nghymru.
Nid oes fawr o ddim o wahaniaeth rhwng y rhai'n a’r Saeson gwaedol: ac y
maent hwythau yn cael dylanwad mawr, yn eu tro, are in pregethwyr Cymreig. Mwy,
yng ngolwg llawer o’r tô ieuanc, yw gweinidog eglwys Saesneg yn un o suburbs
Llundain na’r hen “hoelion wyth” fu’n trawsnewid gwyneb ein gwlad a chalon
ein cenedl genhedlaethau yn ol.
Mae’r un peth yn wir ym mhob rhan o’n bywyd cenedlaethol. Yr ydym fel
pobl yn drwgdybio’n barn ein hun. Mor wahanol yw’r Sais! Mae efe’n barod i
daflu ei linyn mesur ar bawb a phobpeth; ac os wna cenedloedd ereill gydsynio
â’i farn, druain ohonynt, genhedaleth gibddall ac anniwyll!
Pan oedd Mr. Gladstone yn anterth ei nerth a’i ddylanwad, pan oedd Cymru
a’r Alban, a’r lwerddon yn ei haner-addoli, a phan oedd cyfandiroedd Ewrop ac
America yn uno i dalu gwrogaeth i’w athrylith, nid oedd John Bull yn ei edmygu
na’i garu.
Estron ydoedd ran tarddiad a thueddfryd ei feddwl; ac ni fynai John Bull
mohono fel arweinydd. Ei boblogrwydd yn y Celtic Fringes yn unig a’i
harweiniodd i swÿdd ac awdurdod. Ar ei ol ef cododd Mr. Chamberlain, gwr sydd
yn hollol nodweddiadol o’r anianawd Seisnig.
Ni fu erioed yn boblogaidd yn Sgotland, ni roddwyd ymddiried ynddo yng
Nghymru, câsheir ef yn yr Iwerddon ac ar y Cyfandir: ond ni wnaeth hyn ond
ychwanegu at ei boblogrwydd yn Lloegr. “Gwladweinydd o
Ni wnaeth y
Ychwanegodd un frawddeg o eiddo Mr. Balfour fyrddiynau at nifer
canlynwyr Mr. Lloyd George yng Nghymru. Pan alwodd y Prif Weinidog ef yn “eminent
Parliamentarian” cafodd fwy o effaith ar rai pobl na holl hyawdledd ac
athrylith ein Harweinydd Cymreig.
Yr Eisteddfod ddylai
fod yn gartref a magwrfa ein Cymreigaeth; ond gwyr pawb fel y mae wedi dirywio
a’i Seisnigeiddio. Ac o bob peth Cymreig yn yr Esiteddfod, y peth mwyaf Cymreig
oedd ein canu corawl.
Yr oedd fel pe bai ysbrydiaeth ein cenedl yn cael ei fynegu ar gân, - yr oedd
swn ein diwygiadau, swn ein hymdrech oesol yn erbyn dylanwadau materol, i’w
glywed yn harmoni’n corau dan arweiniad Eos Morlais neu Dan Davies.
Dyma ganu hollol wahanol i’r hyn glywid yn un lle arall; canu Cymreig yn
esgyn o enaid y Cymry. Dywedai Morgan Llwyd o Wynedd y dylai pob aderyn ganu
â’i lais ei hun; a dyna oedd hynodrwydd ein canu corawl.
Canmolai cerddorion byd-enwog fel Randegger ein canu fel rhywbeth nid yn
unig yn uwch ond hefyd yn hollol wahanol i ganu gwledydd eraill. Ond yr oedd y
Cymro am enill cymeradwyaeth y
Nid oedd yn foddlon ar warogaweth cerddorion goreu’r gwledydd mwyaf
cerddorol ar y Cyfandir. Ni ddaeth i’w feddwl chwaith fod y Saeson yn
ddiffygiol yn mhethau uechaf cerddoriaeth.
Rhaid oedd cael imprimatur y
Digwyddais fod yn eistedd gerllaw rhai o brif cantorion Lloegr a Chymru
ar y pryd, ac nid oedd llygad sych yn eu mysg. Ond – ond – pa fath ganu yw byn?
ebai'r beirniaid.
’Roedd y tone yn dipyn yn sharp fan hyn, yr amseriad dipyn
yn rhy gyflym fan arall, gormod o light a shade drwy’r dernyn i
gyd; mewn gair, nid oeddynt yn gallu digymod âr fath melodramatic rendering o
gwbl.
Fyth wedyn mae’n canu corawl wedi ei andwyo er mwyn digymod â’r safon
Seisnigaidd. Haws dysgu’r eos yn chwibanu fel parrot na dysgu cor o
Gymry i ganu fel y myn cerddorion Slocum-in-the-Marsh.
Nid wyf yn cwyno am fod corau o Loegr yn enill y prif wobrwyon yn ein
heisteddfodau. Nid wyf yn cyhuddo’r beirniaid Seisnig chwaith o fod yn
anghyfiawn. Nid rhagfarn cenedlaethol wnarth i Dr. Mackenzie roddi’r wobr
flaenaf yng Nghasnewydd i Bontypool ac nid i Ferthyr Tydfil. Barnu’r
canu yr oedd efe yn ol safon y Saeson.
Yr hyn sydd eisieu ym mhob adran o’r bywyd Cymreig yw rhagor o barodrwydd
i farnu pobpeth yn ol safon Gymreig. Dylai ein beirniadaeth fod yn deg, yn
gyflawn, yn llym os myner. Ni ddylid esgusodi gwaith israddol am mai gwaith
Cymro yw; ond ni ddylid chwaith ei ddiraddio oherwydd ei fod (..... geiriau ar
goll) i’r hyn a edmygir gan y Sais.
Credaf y gellir canfod argoelion am (..... geiriau ar goll) Cymru yn
eithriadol yn hyn o (..... geiriau ar goll) yn Rwsia, nac hyd yn oed yn yr
Almaen: hedyw nid oes neb yn fwy anibynol ei feddwl, er mor barod yw i gymeryd
ei ddysgu gan bawb, na’r Almaenwr.
Nid eisiau Cymru ddall i brydferthion gwareiddiad gwledydd ereill,na
byddar i ddysgeidiaeth y byd, sydd arnaf; ond Cymru fydd yn dàl yn d`yn wrth ei
nodweddion, yn aros yn ffyddlon i’w hanianawd, ac, er yn barod i dderbyn
cynorthwy a gweledigaeth o bob gwlad, eto’n benderfynol i weithio allan ei
haiachawdwriaeth ei hun.
DIWEDD
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA