1317 Gwefan Cymru-Catalonia. Ychydig amser yn ol bu farw hen Gymro gwledig oedd yn dra hoff o iaith ei fam. A short while back an old country Welshman, who was extremely fond of his mother tongue (“of the language of his mother”), died.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_033_safon_gymreig_1906_1317ke.htm

Yr Hafan / Home Page


..........
1864e Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Gateway in English to this website

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English

 

..................................Y Tudalen Hwn / This Page


baneri
.. 




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

YN EISIEU – SAFON GYMREIG

“Wanted – a Welsh standard”. Our translation of an article by W. Llywelyn Williams which appeared in the magazine Y Geninen (“The Leek”) in 1906
 

map o gymru a'r gwledydd catalaneg (map_cymru_pc_drenewydd_050112)

Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització  05 05 2002

 

 1316k - Cymraeg yn unig

   xxxx Aquesta pàgina en català

 

AR Y GWEILL GENNYM –

TRANSLATION INTO ENGLISH NOT YET COMPLETE

 

 

YN EISIEU - SAFON GYMREIG. W. Llewelyn Williams. Y Geninen 1906

Wanted- a Welsh standard. W. Llewelyn Williams. Y Geninen (“The Leek”) 1906


Ychydig amser yn ol bu farw hen Gymro gwledig oedd yn dra hoff o iaith ei fam. Pan yn wr ieuanc priododd â Saesnes na wyddai hyd ddydd ei ymddatodiad air o’r iaith Gymraeg.
A short while back an old country Welshman, who was extremely fond of his mother tongue (“of the language of his mother”), died. When a young man he married an Englishwoman who didn’t know until the day of his death a word of the Welsh language.

Pan ar ei wely angau gofynodd y meddyg iddo – “Ydych chi mewn poen, Mr. Jones?” “Na,” meddai’r hen Gymro, “ond ’rwyf wedi blino.” “Blino ar beth?” ebai'r meddyg.
When on his deathbed the doctor asked him – “Are you in pain, Mr. Jones?” “No,” said the old Welshman, “but I’m tired.” “Why are you tired?” (“Tired of what?”) said the doctor.

“Wedi blino ar lawer peth,” atebai’r claf, “wedi blino bron ar bob peth, ond yn fwy na dim ar the English language.

“(I’ve) tired of many things,” answered the sick man , “tired of nearly everything, but more than anything of the English language.”


Mae dylanwadau Seisnigaidd yn rhuthro drwy a thros yr holl wlad fel cenllif chwyrn. Mae’r post a'r relwê, y papyr newydd a’r addysg werinol, llên a masnach, swyddogaeth a chrefydd, yn gwasgar y dylanwadau hyn fwyfwy bob dydd.
English influences are rushing through and across the whole country like a violent flood. The post office and the railway, the newspaper and education for the masses, literature and trade, oficialdom and religion, spread these influences more and more every day.

Nis gellir gyru llythyr at gâr na thramwy o bentref i dref, nis ceir newyddion y dydd na’r addysg fwyaf elfenol, nis prynir ac nis gwerthir mewn ffair neu farchnad, nis gellir dal pen rheswm â, na mwynhau ffrwyth myfyr ac ymchwil, llenorion ac ysgolorion yr oes,
One cannot send a letter to a friend or go from village to town, one cannot receive the news of the day nor the most elementary education, one cannot buy and one cannot sell in a fair of market, one cannot have a conversation with, nor enjoy the fruit of study and research of, today’s writers and scholars (“the writers and scholars of the age”)

ni throsglwyddir ty^ na thir, ni roddir tystiolaeth mewn llys, nis profir ewyllys, nis gwneir adroddiad ar lw, ac yn fynych nis gellir ymuno mewn gwasanaeth grefyddol, heb ddod i gyffyrddiad beunyddiol ac agos â’r meddwl, yr ysbryd, a’r anianawd Seisnigaidd.
one cannot convey a house or land, one cannot give evidence in court, one cannot prove a will, one cannot make a statement on oath, and frequently one cannot join in a religious service, without coming into daily and close contact with the English mind, spirit and nature.

Nid rhyfedd fod y Cymro yn tueddu i ddod yn fwy tebyg i'r Sais bob dydd; ei fod yn cyflym golli gafael ar briod-ddull ei heniaith; a’i fod, o dipyn i beth, yn ystyried ac yn barnu pawb a phob peth o safbwynt y Sais.
It is no wonder that Welsh people (“the Welshman”) are tending to become more like the English (“the Englishman”) every day; that they are (“he is”) quickly losing his grasp of Welsh idiom (“quickly losing grasp on the idiom of his old language”); and they are (“he is”), bit by bit, considering and judging everybody and everything from the standpoint of the English (“the Englishman”).

Os na cheir diwedd ar y duedd cyn bo hir, fe ddiddymir cenedl y Cymry oddiar wyneb y ddaear mor llwyr ag y diddymwyd deg llwyth Israel.
If a stop isn’t put to this tendency soon, (“if there isn’t got an end on this tendency before long”), the Welsh nation (“the nation of the Welsh people”) will be obliterated from the face of the earth just as surely as (“as completely as”) the ten tribes of Israel.

Eu lle nid edwin hwy mwy; ac ni fydd colled ar eu hol; oblegid cenedl wedi colli ei harbenigrwydd sydd fel halen wedi diflasu: nid ydyw ond ffug a thwyll: ffigysbren ddiffrwyth yw, heb ddim arni ond y dail; ac nid yw o les y byd ond i'w thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.
Their place won’t know them any more, and they won’t be missed; (“there will not be loss after them”); because a nation that has lost its special characteristics (“its speciality”) is like salt which has lost its taste: it is nothing more than false and a deceit (“it is but false and a deceit”) ; and it is of no value whatsoever (“it is not of benefit in the world”) but to break it down and throw it inot the fire.

[Cf. Job 7:9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 7:10 Ni ddychwel mwybi’w dy^: a’i le nid edwyn ef mwy. Job 7:9 As the cloud is consumed and vanisheth away: so he that goeth down to the grave shall come up no more. 7:10 He shall return no more to his house, neither shall his place know him any more.]

Ai hyn fydd tynged Cymru? Ai er hyn yr ymdrechodd Glyndwr ac y bu farw Llywelyn? Ai dyma ddiwedd rhamant yr oesau? Ai yn ofer y llafuriodd y cewri fu’n creu cenedl newydd Biwritanaidd o’r paganiaid digred oedd yn trigo yn y tir “pan oedd Ann yn teyrnasu?”
Is it this that will be the fate of Wales? Is it for this that Glyndwr strove and Llywelyn died? Is it this which is the end of the rmance of ages? Is it in vain that the giants laboured, who created a new Puritan nation out of the unbelieving pagans who lived in the land “when Ann reigned?” (? = the English queen Anne, last of the Stuarts, reigned 1702-1714)

Ai am ddim y taniodd Daniel Rowlands enaid y genedl ac y gosododd Pantycelyn ar gân brofiadau dyfnaf a thyneraf y diwygiadau? Perffeithiodd Alun a Cheiriog felusder barddonol yr iaith; darganfyddodd Islwyn fyd newydd i’r athrylith Gymreig; dododd Hiraethog a Daniel Owen ar gael a chadw hynodion a phriodeleddau cenedl y Cymry.
Is it for nothing that Daniel Rowlands fired the soul of the nation and Pantycelyn set to music the deepest and most tender experiences of the revivals? Alun and Cheiriog perfected the poetic sweetness of the language; Islwyn discovered a new world for Welsh genius; Hiraethog and Daniel Owen set down the characteristics and traits of the Welsh nation.

Ai yn ofer yr â eu hymdrechion, eu gwladgarwch tanbaid, eu hathrylith ysol? Ai er un canrif yn unig y llafuriasant, ac a fyddant ddieithriaid i Gymru fydd?
Is it in vain that their efforts will go, their fervent patriotism, their passionate genius? Is it for only one century they have laboured, and they will be strangers to the Wales of the future?

Dyna’r cwestiwn sydd yn rhaid i’r oes hon ateb. Nyni yw etifeddion yr oesau - ac y mae i ni etifeddiaeth deg: eto nid nyni a’i pïa; nid ydym ond ymddiriedolwyr dros yr oesau a ddêl.
That is the question that current generations (“this age”) must answer. We are the heirs of the past (“of the ages”) – and we have a fair inheritance. Yet it is not us who own it. We are but custodians for future generations (“for the ages to come”).

A wnawn ni fod yn ffyddlon i'n hymddiriedaeth, neu a wnawn ni, fel yr afradlon gynt, wastraffu ein da a byw ar gibau y wlad bell? Nid yw hyn ond ffordd arall o ofyn, A ydyw Cymreigaeth i ffynu yng Nghymru, neu ynte Seisnigaeth?
Will we be faithful to our heritage, or will we, like the prodigal son in the past, squander our wealth and live off husks in a far country? This is only (“this is not but”) another way of asking, Is Welshness to flourish in Wales, or Englishness?

Yr hyn sydd dorcalonus yw fod llawer o'r Cymry mwyaf deallgar a dylanwadol yn methu canfod ym mha le y gorwedd perygl mawr y genedl Gymreig.
What is heartbreaking is that many of the most intelligent and influential Welsh people fail to perceive where the great danger to the Welsh nation (“great danger of the Welsh nation”) lies.

Os siaradwch â hwy, awgrymant ar unwaith, yn rhwydd ac yn rhugl eu gwala, mai oddiwrth y Senedd y dylai Cymru ddisgwyl ymwared. Pa feddyg, yn ei gylawn bwyll, a ddychmygai y gellid gwella’r Darfodedigaeth drwy lyncu pilsen?
If you speak ot them, they suggest at once, quite glibly and readily (“quickly and fluently their plenty”) that it is from the Parliament that Wales should await its salvation. What doctor, in his right mind (“in his complete sense”), would imagine that tuberculosis might be cured through swalowing a pill?

Mae Cymru yn dioddef oddiwrth afiechyd cyfansoddiadol; rhaid rhoi adgyfnerthiad i'r cyfansoddiad i gyd os am wella'r hen wlad o’i chlwy'.
Wales is suffereing from a constitutional indisposition; reinforcement must be given to all the constitution if we are to cure (“if for curing”) the old country of its illness.

Y Senedd, yn wir! Pa cyhyd yr erys Cymru mewn anwybodaeth o natur y Senedd?
“Ty^’r Gleber” ydyw dan ei enw; ac ni cheir ond cleber, fel rheol, ohono. Eithaf peth ydyw i bobl iach fel y Saeson: nid yw eu hoedl hwy mewn perygl: fe allant hwy fforddio aros yn dawel neu “ymfflamychu” am ddiwygiadau bychain.
The Parliament indeed! For how long will Wales remain in ignorance of the nature of the Parliament? “House of Prattle” is a better description (“it is the “House of Prattle” which it is under its name), and there is not to be had but prattle from it, as a rule. It’s fine for a healthy people like the English: their existence is not in danger: they can afford to wait quietly or get het up about little improvements.



Mae eu hiaith, eu defodau, eu neillduolion, eu bywyd cenedlaethol, yn hollol ddiogel; ond am Gymru, mor wahanol yw ei sefyllfa hi! Flwyddyn ar ol blwyddyn mae ei bywyd cenedlaethol yn gwanhau.
Their language, their customs, their special characteristics, their national life, are completely safe; but as for Wales, her situation is so diferent! Year after year its national life gets weaker.

Ni cheir ymwared o Sant Stephan, ac eto i Sant Stephan yr edrycha’r Cymry am dano. Mae’r werin yn credu fod rhyw rinwedd gwyrthiol, rhyw magic virtue, yn y llyhtrennau A.S., er y gellid yn rhy fynych ychwanegu y dwy lythyren Y.N. atynt heb wneud cam â’r gwirionedd.
Salvation is not to be had from Westminster (“Saint Stephen’s”) , and yet it is to Westminster that the Welsh people look for it. The commonfolk believe that there is some miraculous virtue, some magic virtue, in the letters A.S. [NOTE: Aelod Seneddol, = Member of Parliament], although too many times one could add the two letters Y.N. to them and not be distorting the truth (“not do injustice to the truth”). [NOTE: ASYN is the Welsh word for ‘ass’, ‘dunce’]

Nid wyf, cofier, am ddibrisio gwaith a dylanwad y Senedd. Credaf y gall ac y gwna Cymru dderbyn llawer rhodd werthfawr oddiar law’r Senedd.
Mind you, I don’t want to detract from the work and influence of the Parliament. I believe Cymru can and will receive many a valuable gift from the hand of the Parliament.

 Nid gwaith bach na dibris fydd rhyddhau’r wlad o iau drom yr Eglwys estronol a roddodd y Sais i ni, ac i alluogi’r genedl unwaith eto i feddianu eu tir a’u cartref heb fod yn gaeth i whims bonedd estron: ond yr hyn ddymunaf bwysleisio ydyw mai nid drwy’r Senedd y gellir cadw Cymru yn Gymreig.

It will be no small task or one to be disparaged freeing the country from the heavy yoke of a foreign church that the English gave to us, and to enable the nation once again to occupy their land and their home without being bound to the whims of a foreign gentry; but what I’d like to emphasise is that it is not through the Parliament that one can keep Wales Welsh.

Gadewch i ni daflu golwg ar gwrs bywyd y Cymro ifanc. Gyda fod John Jones yn gallu parablu danfonir ef i ysgol elfennol y pentref.: yno dysgir ef i anwybyddu iaith yr aelwyd.
Let us examine (“cast some light on”) the course of the life of the young Welshman. As soon as John Jones can talk he is sent off to the village elementary school: there he is taught to ignore the language of the home. (“the language of the hearth”)

Os drwy ffawd y caiff olwg, ‘nawr ac yn y man, ar lyfryn Cymraeg, ni fydd hyny ond eithriad. Feallai y caiff wers Gymraeg ambell waith gan ei athraw; ond nid osodir cymaint o bwys arni ag ar Rifyddiaeth neu Ddaearyddiaeth.
If by good fortune he gets a look, now and then, at a Welsh book, that will be but an exception. Maybe he will get a Welsh lesson occasionally from his teacher, but not as much importance is attached to it as to Arithmetic or Geography.

Saesneg yw iaith yr ysgol; Saesneg arferir ym mhob gwers; Saesneg yw y meistr; ac nid yw'r Gymraeg, ar y goreu, ond gwas bach y gegin.
English is the language of the school; English is used in every lesson; the master is English speaking, and the Welsh language is only, at best, the kitchen skivvy.

Ar ol gwario chwech neu saith mlynedd yn ysgol y pentref aiff John i’r ysgol ganolraddol mewn tref gerllaw. Hap os yw’n gallu ysgrifenu’r Gymraeg yn gywir; sicr yw nas gwyr ddim am hanes na llenyddiaeth ei wlad.
After spending six or seven years in the village school John goes to to the middle school in a nearby town. It’s sheer luck if he can write Welsh correctly; it is certain that he knows nothing of the history or the literature of his country.

Mor belled ag y mae ei ddysg yn myned, mae yn fwy o Sais nag o Gymro. Teithia John yn ol ac ym mlaen bob dydd i’r ysgol gyda’r trên. Wrth bob tebyg Sais, neu Sais-Gymro, yw’r gorsaf-feistr: gwelais, y dydd o’r blaen, fod Sais wedi ei benodi hyd yn oed i Gricieth.
As far as his education goes, he is more of an Englishman than a Welshman. John travels back and forth every day to school by train. More than likely the station-master is an Englishman (“it is an Englishman that is the station-master”), or an English Welshman; the other day I saw that an Englishman has been appointed even in Cricieth.

Gorfodir John i gario allan bob ymdrafodaeth yn Saesneg; ac fe argreffir ar ei feddwl plastic, yn gynar ac yn anilëadwy, nad yw meddiant o’r Gymraeg o ddim gwerth mewn bywyd ymarferol.

John is obliged to carry out all dealings in English, and it is impressed on his plastic mind, early on and indelibly, that knowing Welsh (“that possession of the Welsh”) is of no value in practical life.

Pan gyrhaedda’r ysgol cyferchir ef yn foesgar gan y prifathraw – yn Saesneg; a dysgir yntau i ateb yn yr un iaith. Saesneg yw iaith yr ysgol, - ni chlywir nemawr i air Cymraeg; dynwared delweddau’r Saeson wneir drwy gydol y dydd. Mae hyd yn oed hen chwareu-gampau’r Cymry wedi cilio o flaen cricket a football y Sais

When he arrives at school he is greated courteously by the headmaster – in English, and he is taught to respond in the same language. English is the language of the school – hardly a word of Welsh is heard; (it is) imitating English concepts that is done throughout the day. Even the old games of the Welsh have retreated before the Englishman’s cricket and football.

Erbyn ei fod yn ddeunaw oed mae John Jones yn gymaint o Sais ag yw o Gymro. Yna aiff i un o’r colegau, ac yno yr erys am dair neu bedair blynedd; ac erbyn iddo raddio mae ei holl ddull o feddwl ac o fyw wedi ei Seisnigeiddio.
By the name he is nineteen years old John Jones ia as much an Englishman as he is a Welshman. Then he goes to one of the colleges, and he stays there for three or four years; and by the time he graduates his whole way of thinking and of living has been Anglicised.

 

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

Mae ein cyfundrefn addysgol, yr aberthodd ein tadau gymaint er ei mhwyn, braidd yn gymaint gelyn i Gymreigaeth ag Eglwys Loegr neu Ddic Siôn Dafyddiaeth ein “gwyr mawr”.


Gresynus meddwl fod colegau, fu gynt yn fagwrfa gwladgarwyr fel Tom Ellis, erbyn heddyw yn ymfoddloni ar droi allan raddedigion “bara a chaws”.


Pan mae holl nerth llywodraeth a swyddogaeth, addysg a llên, masnach ac elw bydol, ar waith yn Seisnigeiddio’r Cymro, a ydyw’n rhyfedd fod Cymreigaeth yn graddol ddiflanu o’r tir?


Ymhle, neu ymysg pa ddosbarth o bobl, yr erys Cymreigaeth bur a difrycheulyd? Os aiff y Cymro yn feddyg neu yn gyfreithiwr, nis Gall neb ganfod yr un gwahaniaeth rhyngddo a Sais.


Fe’i naddir i’r un ffurf a’r lleill; fe aiff i edrych ar bopeth o’r un saf bwynt a’r Sais; megir ynddo yr un rhagfarnau; ni wna farnu dim fel Cymro.


Bu amser pan oedd Pulpud Cymru yn Gymreig ei arddull: ni cheid odid i bregethwr yn dynwared dullweddau’r Saeson. Ond yn y genhedlaeth hon mae llaawer o fawrion ein Pulpud Cymreig wedi troi’n Saeson yn llwyr.


Mae’r English causes yn fwy parchus yn ein trefydd na'r hen eglwysi syml, gwerinol, Cymreig. Mae llawer o oreugwyr y Pulpud Anghydffurfiol wedi croesi Clawdd Offa, neu wedi mynd at y Saeson neu'r Sais-Gymry yng Nghymru.
The English causes [NOTE: setting up of Welsh chapels by Welsh-speakers which use English rather than Welsh, ostensibly to attract English immigrants to Welsh religious bodies] are more respectable in our towns than the old simple Welsh folksy churches. Many of the foremost people of the Nonconformist Pulpit have crossed over Offa’s Dyke [NOTE: have gone over the border into England], or have gone to the English and the English-Welsh in Wales.

Nid oes fawr o ddim o wahaniaeth rhwng y rhai'n a’r Saeson gwaedol: ac y maent hwythau yn cael dylanwad mawr, yn eu tro, are in pregethwyr Cymreig. Mwy, yng ngolwg llawer o’r tô ieuanc, yw gweinidog eglwys Saesneg yn un o suburbs Llundain na’r hen “hoelion wyth” fu’n trawsnewid gwyneb ein gwlad a chalon ein cenedl genhedlaethau yn ol.


Mae’r un peth yn wir ym mhob rhan o’n bywyd cenedlaethol. Yr ydym fel pobl yn drwgdybio’n barn ein hun. Mor wahanol yw’r Sais! Mae efe’n barod i daflu ei linyn mesur ar bawb a phobpeth; ac os wna cenedloedd ereill gydsynio â’i farn, druain ohonynt, genhedaleth gibddall ac anniwyll!


Pan oedd Mr. Gladstone yn anterth ei nerth a’i ddylanwad, pan oedd Cymru a’r Alban, a’r lwerddon yn ei haner-addoli, a phan oedd cyfandiroedd Ewrop ac America yn uno i dalu gwrogaeth i’w athrylith, nid oedd John Bull yn ei edmygu na’i garu.


Estron ydoedd ran tarddiad a thueddfryd ei feddwl; ac ni fynai John Bull mohono fel arweinydd. Ei boblogrwydd yn y Celtic Fringes yn unig a’i harweiniodd i swÿdd ac awdurdod. Ar ei ol ef cododd Mr. Chamberlain, gwr sydd yn hollol nodweddiadol o’r anianawd Seisnig.


Ni fu erioed yn boblogaidd yn Sgotland, ni roddwyd ymddiried ynddo yng Nghymru, câsheir ef yn yr Iwerddon ac ar y Cyfandir: ond ni wnaeth hyn ond ychwanegu at ei boblogrwydd yn Lloegr. “Gwladweinydd o Sais ydyw,” ebai'r trigolion; “a chan ei fod yn edrych ar ol buddianau’r Saeson, naturiol ei fod yn cael ei gashau ar y Cyfandir.”


Ni wnaeth y Sais golli ei ffydd ynddo hyd nes iddo reibio'i logell – a chael nair gan y newidwyr arian yn y City. Gellir dweyd fod miloedd o Gymry wedi dechreu credu yn Mr. Lloyd George am y tro cyntaf pan gafodd imprimatur y Sais arno.


Ychwanegodd un frawddeg o eiddo Mr. Balfour fyrddiynau at nifer canlynwyr Mr. Lloyd George yng Nghymru. Pan alwodd y Prif Weinidog ef yn “eminent Parliamentarian” cafodd fwy o effaith ar rai pobl na holl hyawdledd ac athrylith ein Harweinydd Cymreig.


ºYr Eisteddfod ddylai fod yn gartref a magwrfa ein Cymreigaeth; ond gwyr pawb fel y mae wedi dirywio a’i Seisnigeiddio. Ac o bob peth Cymreig yn yr Esiteddfod, y peth mwyaf Cymreig oedd ein canu corawl.


Yr oedd fel pe bai ysbrydiaeth ein cenedl yn cael ei fynegu ar gân, - yr oedd swn ein diwygiadau, swn ein hymdrech oesol yn erbyn dylanwadau materol, i’w glywed yn harmoni’n corau dan arweiniad Eos Morlais neu Dan Davies.


Dyma ganu hollol wahanol i’r hyn glywid yn un lle arall; canu Cymreig yn esgyn o enaid y Cymry. Dywedai Morgan Llwyd o Wynedd y dylai pob aderyn ganu â’i lais ei hun; a dyna oedd hynodrwydd ein canu corawl.


Canmolai cerddorion byd-enwog fel Randegger ein canu fel rhywbeth nid yn unig yn uwch ond hefyd yn hollol wahanol i ganu gwledydd eraill. Ond yr oedd y Cymro am enill cymeradwyaeth y Sais.


Nid oedd yn foddlon ar warogaweth cerddorion goreu’r gwledydd mwyaf cerddorol ar y Cyfandir. Ni ddaeth i’w feddwl chwaith fod y Saeson yn ddiffygiol yn mhethau uechaf cerddoriaeth.


Rhaid oedd cael imprimatur y Sais ar ein canu; ac felly wele haid frith o Saeson i farnu canu’r Eisteddfod. Canodd y Cymry eu goreu glas; canodd côr Merthyr yn Eisteddfod Casnewydd-ar-Wysg nes “synu, pensyfrdanu dyn.”


Digwyddais fod yn eistedd gerllaw rhai o brif cantorion Lloegr a Chymru ar y pryd, ac nid oedd llygad sych yn eu mysg. Ond – ond – pa fath ganu yw byn? ebai'r beirniaid.


’Roedd y tone yn dipyn yn sharp fan hyn, yr amseriad dipyn yn rhy gyflym fan arall, gormod o light a shade drwy’r dernyn i gyd; mewn gair, nid oeddynt yn gallu digymod âr fath melodramatic rendering o gwbl.


Fyth wedyn mae’n canu corawl wedi ei andwyo er mwyn digymod â’r safon Seisnigaidd. Haws dysgu’r eos yn chwibanu fel parrot na dysgu cor o Gymry i ganu fel y myn cerddorion Slocum-in-the-Marsh.


Nid wyf yn cwyno am fod corau o Loegr yn enill y prif wobrwyon yn ein heisteddfodau. Nid wyf yn cyhuddo’r beirniaid Seisnig chwaith o fod yn anghyfiawn. Nid rhagfarn cenedlaethol wnarth i Dr. Mackenzie roddi’r wobr flaenaf yng Nghasnewydd i Bontypool ac nid i Ferthyr Tydfil.
Barnu’r canu yr oedd efe yn ol safon y Saeson.


Yr hyn sydd eisieu ym mhob adran o’r bywyd Cymreig yw rhagor o barodrwydd i farnu pobpeth yn ol safon Gymreig. Dylai ein beirniadaeth fod yn deg, yn gyflawn, yn llym os myner. Ni ddylid esgusodi gwaith israddol am mai gwaith Cymro yw; ond ni ddylid chwaith ei ddiraddio oherwydd ei fod (..... geiriau ar goll) i’r hyn a edmygir gan y Sais.
º

Credaf y gellir canfod argoelion am (..... geiriau ar goll) Cymru yn eithriadol yn hyn o (..... geiriau ar goll) yn Rwsia, nac hyd yn oed yn yr Almaen: hedyw nid oes neb yn fwy anibynol ei feddwl, er mor barod yw i gymeryd ei ddysgu gan bawb, na’r Almaenwr.


Nid eisiau Cymru ddall i brydferthion gwareiddiad gwledydd ereill,na byddar i ddysgeidiaeth y byd, sydd arnaf; ond Cymru fydd yn dàl yn d`yn wrth ei nodweddion, yn aros yn ffyddlon i’w hanianawd, ac, er yn barod i dderbyn cynorthwy a gweledigaeth o bob gwlad, eto’n benderfynol i weithio allan ei haiachawdwriaeth ei hun.

·····  

1051e
mynegai i destunau Cymraeg â chyfieithiadau Saesneg
index to Welsh texts with English translations
·····
0223e
yr iaith Gymraeg
the Welsh language

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats