0305 Testunau yn Gymráeg - “Twÿll Dÿn” / textos en gal·lès - “Twÿll Dÿn”/ Welsh texts - “Twÿll Dÿn”/ Welsh teksts - “Twÿll Dÿn”

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_035_twyll_dyn_1_0305kc.htm

 

0001z Yr Hafan

..........
1861c Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Entrada en català

....................
0008c Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................0969c Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys / llistat dels textos en llengua gal·lesa en aquesta web

.................................................aquesta pàgina /
y tudalen hwn




.. 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Adran 11: Cywaith Siôn Prys Aberhonddu
Apartat 11: El Projecte “En Siôn Prys de la ciutat d’Aberhonddu”
(Col·lecció de textos en gal·lès)


“Llond y We o Lên y Brython”
“(que estigui) plena la xarxa dels escrits dels britons (= gal·lesos)”
 
TWYLL DYN
Eirwyn Pontshân 1982

Adolygiad diweddaraf - darrera actualització 18 06 1999

 

 0305kc Y tudalen hwn yn Gymraeg

 xxxxx

 

 


Twÿll Dÿn [tuilh DIIN]


Un trosset de **’Twÿll Dÿn’ (1982), una transcripció feta pel periodista i autor Lÿn Ebenezer dels monòlegs de l’humorista Eirwÿn Pontshân (m. febrer 1994). Copyright de l’editorial **’Y Lolfa’, Tal-y-bont, Ceredigion, Gal·lès Central.


El títol complert és **’Twÿll Dÿn (tuilh DIIN), o Gwÿmp Adda tan yr Ugeinfed Ganrif’ - l’enganyifa de l’home, des de la caiguda d’en Adam fins al segle vint’. Aquí hi ha un joc de paraules, ja que sembla l’expressió **’twll tin’ (tulh TIIN) = forat del cul


Aquí exposem tres versions - (1) forma col·loquial (la forma original del llibre,  però amb uns petits retocs a l’ortografia)  (2) forma col·loquial amb formes estàndards  (3) forma estandarditzada. Així es pot apreciar les característiques del gal·lès parlat de Ceredigion, una parla meridional. (Hi ha dues grans divisions dialectals - el gal·lès del nord, i el del sud. El dialecte del sud tenia dues divisions - el dialecte del sud-oest, és a dir, la zona de l’oest de la ciutat d’Abertawe; i el dialecte del sud-est, ara gairebé perdut del tot com a consequència de l’anglicització de la zona en els últims cinquanta anys. El gal·lès de Ceredigion és molt típic de la llengua del sud-oest).


  

(1) Seicoleg

Rw i’n hoffi mÿnd nôl weithe ar hÿd hen lwÿbre hanes. Olrhain hanes Cymru, ontefe. Hyfrÿd iawn. Ond dewch nôl **’da fi nawr ymhellach bÿth, i Wlad Groeg, brasgamu nôl drw’r canrifodd, fel petái, at ddyddie’r meddylwÿr mowr ymron beder canrif cÿn Crist. Un dÿdd dyma ryw sbrigÿn o fyfyriwr yn mentro gweud wrth Socrates, yn ddigon haerllug i weud wrth athronÿdd mwÿa’r bÿd,

“Socrates”, mynte fe, “dwÿt ti’n deall dim.”

Diawl, **’na i chi foi dig’wilÿdd, **’na i chi foi powld. Ond aath Socrates ddim yn grac o gwbwl. Gollodd e mo’i dymer

“Wÿt ti’n iawn”, mynte Socrates, “wÿt ti’n berffeth iawn. Dydw i na ti yn deall dim. Ond y gwahanieth mowr rhyngddon-ni ÿw hÿn - rw i’n gwbod hynnÿ a tithe ddim.”

Dyna i chi ddÿn odd yn deall pethe. Dyna i chi ddÿn yn defnyddio seicoleg. A ma seicoleg yn beth mowr. Roodd Socrates yn deall, yn **’i adnabod **’i hunan ac yn gwbod am ei wendide, chweld. Mae’n ôlreit i chi dwÿllo rhÿwun arall. Ond pan dwÿllwch chi’ch hunan, mae’n ddobinô arnoch chi. Rw i’n cofio câl gwahoddiad i gymrÿd rhan mewn cyngerdd, a’r cyngerdd hwnnw’n caal **’i gynnal mewn capel. Roodd lot fowr wedi dod at **’i gilÿdd **’na a’r rhan fwÿa **’nÿn-nhw wedi dod gan obeithio **’ngweld i’n mÿnd dros ben llestri, yn gneud ffwl o’n hunan.

Ond cÿn mÿnd mlaan i’r sêt fowr i annerch dyma rÿw hen foi yn **’y ngalw i i’r naill ochor ac yn rhoi cyngor i fi.

“Eirwÿn,” mynte fe, “cofia hÿn. Nid yr hÿn wÿt ti’n **’i weud sÿ’n bwÿsig, ond yr hÿn wÿt ti’n peidio’i weud.”

‘Na i chi gyngor mowr, ontefe, a dw i’n ceisio cofio hynna bob amser. Ac yn amal pan fydda i’n cnoi cil ar fywÿd, yn meddwl am y peth hÿn a’r peth arall, ma eiliad yn dod pan bo chi’n dod yn ymwÿbodol o’ch hunan. A **’na i chi ddiflastod wedÿn. Yr hen ymwÿbyddiaeth **’ma. Pan ddaw honno, ma hi wedi bennu arnoch chi.


(2) Seicoleg

Rw i’n hoffi mÿnd nôl (·yn ôl·) weithe (·weithiau·) ar hÿd hen lwÿbre (·lwÿbrau·) hanes. Olrhain hanes Cymru, ontefe (·onid e·). Hyfrÿd iawn. Ond dewch nôl (·yn ôl·) **’da (·gyda·) fi nawr ymhellach bÿth, i Wlad Groeg, brasgamu nôl drw’r (·drwÿ’r·) canrifodd (·canrifoedd·) , fel petái, at ddyddie’r (·dyddiau·) meddylwÿr mowr (·mawr·) ymron (·bedair·) beder canrif cÿn Crist. Un dÿdd dyma ryw sbrigÿn o fyfyriwr yn mentro gweud (·dweud·) wrth Socrates, yn ddigon haerllug i weud wrth athronÿdd mwÿa’r bÿd,

“Socrates”, mynte fe, “dwÿt ti’n (·nid wÿt yn·) deall dim.” Diawl, **’na (·dyna·) i chi foi dig’wilÿdd (·digywilÿdd·) **’na (·dyna·) i chi foi powld. Ond aath Socrates ddim (·ond ni aeth Socrates·) yn grac o gwbwl (·o gwbl·) Gollodd e mo’i dymer (·Ni chollodd ddim o’i dymer·)

“Wÿt ti’n iawn (·Yr wÿt ti yn iawn·) “, mynte Socrates, “wÿt ti’n berffeth iawn (·yr wÿt ti yn berffaith iawn·). Dydw i na ti . (·Nid wÿf fi, na ti·) yn deall dim. Ond y gwahanieth mowr (·gwahaniaeth mawr·) rhyngddon ni ÿw hÿn - rw i’n gwbod (·gwÿbod·) hynnÿ a tithe (·tithau·) ddim.”

Dyna i chi ddÿn oodd (·oedd·) yn deall pethe (·pethau·). Dyna i chi ddÿn yn defnyddio seicoleg. A ma (·ac mae·) seicoleg yn beth mowr (·mawr·). Roodd (·yr oedd·) Socrates yn deall, yn **’i (·ei·) adnabod **’i (·ei·) hunan ac yn gwbod (·gwÿbod·) am ei wendide (·wendidau·) chweld (·yr ÿch chi’n gweld·). Mae’n ôlreit i chi dwÿllo rhÿwun arall. Ond pan dwÿllwch chi’ch hunan, mae’n ddobinô arnoch chi.

Rw i’n cofio caal (·cael·) gwahoddiad i gymrÿd rhan mewn cyngerdd, a’r cyngerdd hwnnw’n caal (·cael·) **’i (·ei·) gynnal mewn capel. Roodd (·yr oedd·) lot fowr (·fawr·) wedi dod at **’i (·ei·) gilÿdd **’na (·yna·) a’r rhan fwÿa **’nÿn-nhw (·ohonÿn nhw·) wedi dod gan obeithio **’ngweld i’n (·fy ngweld i·) mÿnd dros ben llestri, yn gneud (·gwneud·) ffwl o’n hunan (·o fy hunan·)

Ond cÿn mÿnd mlaan (·ymláen·) i’r sêt fowr (·fawr·) i annerch dyma rÿw hen foi yn **’y (·fy·) ngalw i i’r naill ochor  (·ochr·) ac yn rhoi cyngor i fi.

“Eirwÿn,” mynte fe, “cofia hÿn. Nid yr hÿn wÿt ti’n **’i (·ei·) weud (·ddweud·) sÿ’n bwÿsig, ond yr hÿn wÿt ti’n peidio’i weud (·ddweud·).”

‘Na (·dyna·) i chi gyngor mowr (·mawr·), ontefe (·onid e·), a dw i’n (·rwÿf yn·) ceisio cofio hynna (·hÿn yna·) bob amser. Ac yn amal (·aml·) pan fydda i’n (·fyddaf fi yn·) cnoi cil ar fywÿd, yn meddwl am y peth hÿn a’r peth arall, ma (·mae·) eiliad yn dod pan bo chi’n (·pan fyddwch chi yn·) dod yn ymwÿbodol o’ch hunan. A **’na (·dyna·) i chi ddiflastod wedÿn. Yr hen ymwÿbyddiaeth **’ma (·yma·). Pan ddaw honno, ma (·mae·) hi wedi bennu arnoch chi.


(3) Seicoleg

Rw i’n hoffi mÿnd yn ôl weithiau ar hÿd hen lwÿbrau hanes. Olrhain hanes Cymru, onid e. Hyfrÿd iawn. Ond dewch yn ôl gyda fi nawr ymhellach bÿth, i Wlad Groeg, brasgamu nôl drwÿ’r canrifoedd, fel petái, at dyddiau’r meddylwÿr mawr ymron bedair canrif cÿn Crist.

M’agrada seguir de vegades els vells camins que ens porten al passat. Seguir el rastre de l’història de Gal·les, m’entens el que vull dir? Molt agradable. Pero vine ara amb mi més lluny encara, a Grècia, fent grans passos al llarg dels segles , per dir-ho d’alguna manera, fins els dies dels grans pensadors gairebé quatre segles abans de Jesucrist. 

Un dÿdd dyma ryw sbrigÿn o fyfyriwr yn mentro dweud wrth Socrates, yn ddigon haerllug i weud wrth athronÿdd mwÿa’r bÿd,

“Socrates”, mynte fe, “nid wÿt yn deall dim.” Diawl, dyna i chi foi digywilÿdd ,dyna i chi foi powld. Ond ni aeth Socrates yn grac (ddig) o gwbl. Ni chollodd ddim o’i dymer.

Un dia un estudiant caganiu es va atrevir a dir-li a en Sòcrates, força descarat per dir-ho al més gran filòsof del món,

‘Sòcrates,’ va dir, **’no entens de res.’ Déu meu, quin noi més caradura, quin noi més atrevit. Però  no es va enfadar Sòcrates gens ni mica. No es va posar fet una fera.

“Yr wÿt ti yn iawn “, mynte Socrates, “yr wÿt ti yn berffaith iawn. Nid wÿf fi, na ti, yn deall dim. Ond y gwahaniaeth mawr rhyngddon ni ÿw hÿn - rw i’n gwÿbod hynnÿ a tithau ddim.”

‘Tens raó,’ va dir Sòcrates. **’Tens tota la raó del món. Ni jo ni tu, no entenim res. Però la gran diferència entre nosaltres és aquesta - això sé, però tu no.

Dyna i chi ddÿn oedd yn deall pethau. Dyna i chi ddÿn yn defnyddio seicoleg. Ac mae seicoleg yn beth mawr. Yr oedd Socrates yn deall, yn ei adnabod ei hunan ac yn gwÿbod am ei wendidau, yr ÿch chi’n gweld. Mae’n ôlreit i chi dwÿllo rhÿwun arall. Ond pan dwÿllwch chi’ch hunan, mae’n ddobinô arnoch chi.

Vet aquí un home que entenia les coses. Vet aquí un home que feia servir la psicologia. I la psicologia és una cosa molt gran. Sòcrates s’entenia a si mateix, es coneixia a si mateix, i sabia quines eren les seves debilitats, saps?  Està bé enganyar una altra persona. Però quan t’enganyes a tu mateix, ja ets acabat

Rw i’n cofio cael gwahoddiad i gymrÿd rhan mewn cyngerdd, a’r cyngerdd hwnnw’n cael ei gynnal mewn capel. Yr oedd lot fawr wedi dod at ei gilÿdd yna a’r rhan fwÿa ohonÿn nhw wedi dod gan obeithio fy ngweld i yn mÿnd dros ben llestri, yn gwneud ffwl o fy hunan.

Recordo rebre una invitació per participar en un concert - un concert que se celebrava en una església. Molta gent s’havia reunit en aquell lloc, i la majoria havien vingut amb l’esperança de veure’m passar de la ratlla, de quedar en ridícul.

Ond cÿn mÿnd ymláen i’r sêt fawr i annerch dyma rÿw hen foi yn fy ngalw i i’r naill ochr ac yn rhoi cyngor imi.

“Eirwÿn,” meddai fe, “cofia hÿn. Nid yr hÿn wÿt ti’n ei ddweud sÿ’n bwÿsig, ond yr hÿn wÿt ti’n peidio a’i ddweud.”

‘Dyna i chi gyngor mawr, onid e, a rwÿf yn ceisio cofio hynna bob amser. Ac yn aml pan fyddaf fi’n cnoi cil ar fywÿd, yn meddwl am y peth hÿn a’r peth arall, mae eiliad yn dod pan fyddwch chi’n dod yn ymwÿbodol o’ch hunan. A dyna i chi ddiflastod wedÿn. Yr hen ymwÿbyddiaeth **’ma. Pan ddaw honno, mae hi wedi dibennu arnoch chi.

(I’w orffen / Per acabar)


1.     mynte és una forma de **’meddai yntau’ (ell va dir) - mynte < my’ ynte < mydd ynte < mydde ynte < medde ynte (·meddai yntau·). Tot i tenir el pronom **’yntau’ = ell, ell mateix, aquesta forma reduïda es veia com una mena de verb sense pronom, i li segueix **’e / hi’ (ell / ella)  o **’ynte / hithe’ (ell mateix / ella mateixa)

 

DOLENNAU / ENLLAÇOS

http://westwales.co.uk/fflach/spoken.htm

Eirwyn

Caset o’r diweddar Eirwyn Pontshan a recordiwyd yn Nhafarn Ffostrasol 1997. Athrylith o storiwr a digrifwr. A recording of humorous stories of the late Eirwyn Pontsian.

 

   
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats