1054k Gwefan Cymru-Catalonia. Erthygl o’r
cylchgrawn “Cymru”, mis Mai, May 1910. Gelwir am newid agwedd am fod tuedd i
rieni Cymraeg eu hiaith ym Mrycheiniog a pharthau eraill o’r wlad godi eu plant
yn Saeson uniaith. Dywedir eu bod yn gwneud cam i’w plant ac i’w cenedl wrth
gefnu ar yr iaith frodorol. Yn Nghwm yr Honddu uwchben Aberhonddu mae’r Gymraeg
yn dal fel iaith bob dydd (Capelisaf, Pwllgloyw, ayyb)
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_036_i_godir_hen_iaith_1910_1054k.htm
0001z Y Tudalen
Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd 7270) Adolygiadau
diweddaraf: 20 12 2000 |
1055ke y tudalen hwn yn Saesneg / This page in English (Welsh language in Breconshire)
Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol.
“I Godi’r Hen Iaith yn ei Hol”,
Cymru, Cyfrol 38, Mai 1910, tudalennau 245-246.
Y mae llawer ardal ar y gororau gododd i groesawu Owen Glyndwr na fedr ddeall
yr un Iolo Goch heddyw. Y mae sir Henffordd wedi mynd yn hollol Seisnig er ys
cenedlaethau, ac y mae sir Faesyfed wedi dilyn ar ei hol. Y mae ambell enw
Cymraeg wedi mynd bron yn anghof; yn amser Owen Glyndwr Brynbiga oedd enw
arferol Usk, ond pwy ym Mynwy a’i hadwaen wrth yr enw hwnnw heddyw? Ac os gwyr
plant ysgol Cymru mai Llanandras yw enw Cymraeg Presteign, gwyddant fwy na
llawer o breswylwyr y dref fechan gysglyd honno. Ac mewn llawer ardal yn awr y
mae Cymraeg yn iaith y rhieni, a Saesneg yn iaith y plant. Y mae cyfaill i mi
yn cofio capel Cymraeg y Bedyddwyr yn y Fenni yn llawn o Gymry yn oedfa’r bore;
ond, er fod Cymry lawer yn y dref brydferth honno, nid oes addoliad yn Gymraeg
ond gwasanaeth gwyl Dewi yn Eglwys Fair. Yn Llanfairmuallt y mae rhai hen
weddiwyr hyawdl yn dal i gyfarch gorsedd gras yn Gymraeg, ond
Ond yn awr y mae newid
mawr wedi dod drosom fel cenedl. Gwelir yn awr fod diwylliant ac addysg, yn
cael eu dilyn gan grefydd a moesoldeb, yn gwanhau yn ddirfawr pan ddawo’r
Gymraeg. Gwelir yn awr fod bri ar y Gymraeg, a fod Saeson yn ei dysgu er mwyn y
ddau fyd. Gwelir fod ei dysgu yn ddysgyblaeth ac addysg werthfawr i Gymry ac
ereill nas medr hi. A’r canlyniad ydyw fod miloedd o blant a phobl yn ei physur
ddysgu heddyw, er nad oedd yn iaith eu haelwyd.
Ar ororau Maldwyn a Brycheiniog a Mynwy, yn enwedig, gwneir ymdrech i roddi
bywyd newydd ynddi. Ar ochr Seisnig Llanidloes cefais nifer o blant yn chware
yn Saesneg. Cyfarchais hwy yn Gymraeg, ac wedi peth petrusder siaradasant
Gymraeg gloew. “Ai gartref y dysgasoch Gymraeg?” gofynnais. “Nage,” oedd yr ateb.
“Ai yn yr ysgol?” “Nage.” “Ymhle, ynte?” “Yn y capel.” Cyfodant i fendithio enw
y gweinidog hwnnw a’r athrawon hynny.
Y mae Brycheiniog yn dechreu deffro. Yn Aberhonddu sieryd y rhieni Gymraeg, a’r
plant Saesneg. Yr wyf wedi crwydro llawer hyd y cymoedd prydferth o amgylch y
dref hon, sydd ar lawer cyfrif y dlysaf yng Nghymru. Nis gwn am un ardal yn
meddu Cymraeg mor bur a llenyddol, byddaf yn wastad yn hoffi ei glywed; ond,
heb ddeffro, collir ef o lannau’r Wysg cyn diwedd y ganrif ieuanc hon. Y mae pobl
cymoedd Aberhonddu yn bobl ddeallgar, hoff o wybodaeth; ond tyf eu plant o’u
hamgylch yn gymharol amddifad o’u meddylgarwch a’u chwilfrydedd hwy. Ychydig o
gyfarwyddyd, a deffry’r bobl i weled y cam y mae’r plant yn gael. Apelier
atynt, esbonier iddynt gymaint allent wneyd, a blodeua’r Gymraeg eto yn hen
ardaloedd John Penry a Theophilus Evans. Gwnaed hynny’n ddiweddar yn un o’r
cymoedd, cwm y Capel Isaf. Cynhaliwyd cyfarfod gan Ddosparth Cymraeg yr ardal
ddygwyl Dewi. Daeth y delyn yno. Canodd merch ieuanc gân o waith Myfyr Hefin,
yr hon (yn ôl y “Brecon and Radnor Express”) a gododd frwdfrydedd y dorf yn
uchel iawn. Ynddi enwir y
cartrefydd yn y cwm lle delir i siarad Cymraeg. Canwyd hi ar alaw “Bugeilio’r
Gwenith Gwyn.” A dyma hi:
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
Er gwaethaf Dic-Shon-Dafydd;
Mae yma, yn ein dyffryn clyd
Yn mynnu esgyn beunydd;
Pan sbiaf hwnt, ac yma, mae
Ei hacen fel pe’n crynu
Yng ngwydd y rhai sy’n llawn o wae
At iaith hoff Cwm yr Honddu.
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Mae’n para i’n gogleisio;
Mae o Gwm Tydu Uchaf lawr
I’r Battle-end fwyn eto;
Ymdonna’n beraidd ym mhob oes,
Mae eto’n Nant y Gwreiddyn,
A sionced yw yn Nant y Groes,
Ond gryfed yn y Felin.
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Os nad y’ch yn fy nghredu,
Trowch hynt i’r Sarnau, lle mae cryd
I hen iaith anwyl Cymru;
Mae yn y Castell a’r Ty Fry,
A lawr yn Nhai y Pannau,
Ac yn Nhy Sam, brenhines bri
Yw’r iaith ym Mhentre’r Sarnau.
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Mor effro yw’n Llwyncelyn
A’i seiniau a o Gefn Coed
I’r Wern fel diliau’r delyn;
Mae Pant y Llwyfen megis bryn
Yn dal yr iaith i fyny
Lle gwelir llawer yn y glyn
Fel pe yn ceisio’i boddi.
Nid yw pob pwll yn loew bwll,
Ond eto’n Nghwm yr Honddu
Y ceir Pwll Gloew sydd yn glir
Ei wedd dros ddefion Cymru;
Mae yno eto Gymraeg croew
A thybed daw Seisnigaidd lif
I dryblu dŵr Pwll Gloew!
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
Yn tyfu wrth fynd fyny
Ar hyd y ffyrdd, sy’n llawn o hud
Ac olion hanes Cymru;
O Allt y Brain ei sain a’i su
A dreiddia lawr i Bethel.
Ac yn Nhy Bach a Bethel Dy
Mor esmwyth yw a’r dwsmel.
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
O Fethel i Fethesda,
Mae’n hoew’n Ebenezer fry,
Ac eto ym Methania;
Mor fwyn a sionc yw hen Gymraeg
Yng Nghapel Uchaf acw,
Ond os yr ewch i Siop y Gof,
Cewch yno Gymro gloew.
Wrth ddringo’r bryn i Ben y Lan
Daw golygfaoedd hyfryd
O flaen eich llygaid; ond mwy can
Yw gwedd yr hen iaith hefyd;
Ac os y croeswch dros y fron
Hyd odreu hardd Cwm Llechach,
A ‘sbio hyd Gwm Achau draw,
Cewch weld yr iaith yn decach.
Ewch heibio’r Felin draw i’r Lodge
Ar fin Pen Oer yng Nghradog,
Ac ewch i fyny dros y ffordd
Cewch weld y Cartwrights serchog,
Fel y preswylwyr sy’n y Lodge,
A’r pedwar wrthi’n glynu
Wrth iaith y Cymry heb un “dodge”
A’r Battle-end yn helpu.
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
A byw wna fyth yng Nghymru;
Fe bery eto drwy ei hud
I oglais Cwm yr Honddu;
Y Cwm fu gynt yn noddi’r iaith,
Y Cwm fu’n gartre’r delyn,
Ddaw eto’n Gwm ddyrchafa sain
Iaith anwyl cân ac englyn.
Y peth wneir yn y Capel Isaf, gellir ei wneyd yn ardaloedd ereill Brycheiniog,
ac yn holl ardaloedd Cymru lle y mae perygl i’r Gymraeg golli tir. Na ddigier
wrth y Saesneg, croesawer hi. Ond gofaler am gadw’r Gymraeg hefyd, rhodder bri
arni, a chofier mai hi yw iaith diwylliant, meddylgarwch, a chrefydd.
·····
Sumbolau
arbennig ŷ
ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats