1055 Gwefan Cymru-Catalonia. Article from May 1910 in Welsh with an English translation calling for a change of attitude on the part of Welsh-speaking parents in Brycheiniog (Breconshire) and other parts of Wales who are raising children as monoglot English-speakers. It is pointed out that they are doing both their children and Wales a disservice by abandoning the indigenous language of the country. In the Honddu valley above Aberhonddu in 1910 Welsh is still in general use (Capelisaf, Pwllgloyw, etc)

 

http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_036_i_godir_hen_iaith_1910_1055ke.htm

Yr Hafan / Home Page


..........
1864e Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Gateway in English to this website

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English


...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page

............................................................y tudalen hwn / this page




.. 




 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya

I Godi’r Hen Iaith yn ei Hôl
To Restore the Old Language - text in Welsh with an English translation. From "Cymru" (= ‘Wales’ magazine), Volume 38, May 1910, page 245.
 

(delwedd 7415)

Adolygiad diweddaraf / Latest update  20 12 2000

 

 1054k - Cymraeg yn unig

   xxxx Aquesta pàgina en català

  
I Godi’r Hen Iaith yn ei Hôl
To Restore the Old Language

(Cymru, Cyfrol 38, Mai 1910, tudalen 245 - "Cymru" (= ‘Wales’ magazine), Volume 38, May 1910, page 245).

Green script - origianl spelling
Red script - modern spelling
Black script - English translation (fairly literal).

Our comments are in orange letters, in brackets
_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Y mae llawer ardal ar y gororau gododd i groesawu Owen Glyndwr na fedr ddeall yr un Iolo Goch heddyw. Y mae sir Henffordd wedi mynd yn hollol Seisnig er ys cenedlaethau, ac y mae sir Faesyfed wedi dilyn ar ei hol. Y mae ambell enw Cymraeg wedi mynd bron yn anghof; yn amser Owen Glyndwr Brynbiga oedd enw arferol Usk, ond pwy ym Mynwy a’i hadwaen wrth yr enw hwnnw heddyw?

(MODERN SPELLING) Y mae llawer ardal ar y gororau (a) gododd i groesawu Owen Glyndwr na fedr ddeall yr un Iolo Goch heddiw. Y mae sir Henffordd wedi mynd yn hollol Seisnig er ys cenedlaethau, ac y mae sir Faesyfed wedi dilyn ar ei hôl. Y mae ambell enw Cymraeg wedi mynd bron yn angof; yn amser Owen Glyndwr Brynbuga oedd enw arferol Usk, ond pwy ym Mynwy a’i hadwaen wrth yr enw hwnnw heddiw?

(OUR TRANSLATION) There are many districts on the borders (= on the border with England) which rose to welcome Owain Glyndwr which can understand not one Iolo Goch today. (Owain Glyndwr carried out an ultimately unsuccessful campaign from 1400 until his death in 1416 to free Wales from English domination; Iolo Goch wasa  poet from Lleweni in north-east Wales, c1320-1398). Herefordshire became completely English generations ago; Sir Faesyfed (Radnorshire) has followed. Some Welsh names have almost been forgotten; in the time of Owain Glyndwr "Brynbuga" was the usual name of Usk (a town in south-east Wales), but who today in Mynwy (Monmouthshire) knows it by that name?


_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Ac os gwyr plant ysgol Cymru mai Llanandras yw enw Cymraeg Presteign, gwyddant fwy na llawer o breswylwyr y dref fechan gysglyd honno. Ac mewn llawer ardal yn awr y mae Cymraeg yn iaith y rhieni, a Saesneg yn iaith y plant. Y mae cyfaill i mi yn cofio capel Cymraeg y Bedyddwyr yn y Fenni yn llawn o Gymry yn oedfa’r bore; ond, er fod Cymry lawer yn y dref brydferth honno, nid oes addoliad yn Gymraeg ond gwasanaeth gwyl Dewi yn Eglwys Fair.

(MODERN SPELLING) Ac os gwyr plant ysgol Cymru mai Llanandras yw enw Cymraeg Presteigne, gwyddant fwy na llawer o breswylwyr y dref fechan gysglyd honno. Ac mewn llawer ardal yn awr y mae Cymraeg yn iaith y rhieni, a Saesneg yn iaith y plant. Y mae cyfaill i mi yn cofio capel Cymraeg y Bedyddwyr yn y Fenni yn llawn o Gymry yn oedfa’r bore; ond, er fod Cymry lawer yn y dref brydferth honno, nid oes addoliad yn Gymraeg ond gwasanaeth gwyl Dewi yn Eglwys Fair

(OUR TRANSLATION) And if the schoolchildren of Wales know that "Llanandras" (= church of Andrew) is the Welsh name of Presteigne, they know more than many of the inhabitants of that sleepy small town. And in many districts now Welsh is the language of the parents, and English the language of the children. A friend of mine remembers the Welsh-language Baptist chapel in Y Fenni ("Abergavenny") full of Welsh people in the morning service; but, although there are many Welsh people (i.e. Welsh-speakers) in that fair town, there is no service in Welsh except for the St. David Day’s service in Eglwys Fair / St. Mary’s Church



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Yn Llanfairmuallt y mae rhai hen weddiwyr hyawdl yn dal i gyfarch gorsedd gras yn Gymraeg, ond nis gwyr y plant beth y maent yn ddweyd. Cerdd llawer pererin o bell i gael Ysgol Sul Gymraeg yng nghapel yr Annibynwyr yn y Trallwm, ond troir yr addoliad yn Saesneg yng nghapelydd bychain y wlad o leiaf gan mlynedd yn rhy fuan.
Ac y mae dau beth nas gallaf fi esbonio yn hanes ein cenedl. Un peth ydyw hwn - gadewir i blant fynd yn Saeson uniaith heb ymdrech ar ran eu rhieni i’w dysgu i garu iaith eu gwlad a’u lenyddiaeth a’u pulpud; gadewir iddynt siarad Saesneg yn unig, a mynd megis yn estron ac yn ddieithr yn eu cartref ac yn eu gwlad eu hun

(MODERN SPELLING) Yn Llanfair ym Muallt y mae rhai hen weddiwyr huawdl yn dal i gyfarch gorsedd gras yn Gymraeg, ond nis gwyr y plant beth y maent yn ei ddweud. Cerdd llawer pererin o bell i gael Ysgol Sul Gymraeg yng nghapel yr Annibynwyr yn y Trallwm, ond troir yr addoliad yn Saesneg yng nghapelydd bychain y wlad o leiaf gan mlynedd yn rhy fuan. Ac y mae dau beth nas gallaf fi esbonio yn hanes ein cenedl.
Un peth ydyw hwn - gadewir i blant fynd yn Saeson uniaith heb ymdrech ar ran eu rhieni i’w dysgu i garu iaith eu gwlad a’u lenyddiaeth a’u pulpud; gadewir iddynt siarad Saesneg yn unig, a mynd megis yn estron ac yn ddieithr yn eu cartref ac yn eu gwlad eu hun

(OUR TRANSLATION) In Llanfair ym Muallt (= "Builth Wells") some eloquent old worshippers still use Welsh in the chapel services (literally: greet the throne of grace in Welsh), but the children don’t know what they are saying. Many a pilgrim walks from afar to attend Sunday School at the Independents’ Welsh in Y Trallwm (= "Welshpool"), but the (act of) worship is becoming English in the small country chapels at least a hundred years too soon. And there are two things I am unable to explain in the history of our nation. One thing is this - the children are allowed to become monoglot English-speakers without an effort on the part of their parents to teach them to love the language of their country and their literature and their pulpit; they are allowed to speak only English, and become as if foreigners and strangers in their own home and country.



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Y peth arall yw, - na wneir ymdrech i gael y Gymraeg yn ol i ardaloedd sydd wedi ei cholli, a lle y bu mewn cymaint o fri gynt; gynted y try ardal yn Seisnig gadewir hi, fel y gadewid gwlad wedi ei hanrheithio gan bla, fel un hollol anobeithiol

(MODERN SPELLING) Y peth arall yw, - na wneir ymdrech i gael y Gymraeg yn ôl i ardaloedd sydd wedi ei cholli, a lle y bu mewn cymaint o fri gynt; gynted y try ardal yn Seisnig gadewir hi, fel y gadewid gwlad wedi ei hanrheithio gan bla, fel un hollol anobeithiol

(OUR TRANSLATION) The other thing is - no effort is made to get the Welsh language back to districts which have lost it, and where it had so much prestige formerly; as soon as a district becomes English it is left, like a country would be left after being laid waste by a plague, as one (which is) completely devoid of hope



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Ond yn awr y mae newid mawr wedi dod drosom fel cenedl. Gwelir yn awr fod diwylliant ac addysg, yn cael eu dilyn gan grefydd a moesoldeb, yn gwanhau yn ddirfawr pan ddawo’r Gymraeg. Gwelir yn awr fod bri ar y Gymraeg, a fod Saeson yn ei dysgu er mwyn y ddau fyd. Gwelir fod ei dysgu yn ddysgyblaeth ac addysg werthfawr i Gymry ac ereill nas medr hi. A’r canlyniad ydyw fod miloedd o blant a phobl yn ei physur ddysgu heddyw, er nad oedd yn iaith eu haelwyd

(MODERN SPELLING) Ond yn awr y mae newid mawr wedi dod drosom fel cenedl. Gwelir yn awr fod diwylliant ac addysg, yn cael eu dilyn gan grefydd a moesoldeb, yn gwanhau yn ddirfawr pan ddawo’r Gymraeg. Gwelir yn awr fod bri ar y Gymraeg, a fod Saeson yn ei dysgu er mwyn y ddau fyd. Gwelir fod ei dysgu yn ddisgyblaeth ac addysg werthfawr i Gymry ac eraill nas medr hi. A’r canlyniad ydyw fod miloedd o blant a phobl yn ei physur ddysgu heddiw, er nad oedd yn iaith eu haelwyd

(OUR TRANSLATION) But now a great change has come over us as a nation. It is seen now that culture and education, followed by religion and morality, are seriously weakened when the Welsh language falls silent. It is now seen that prestige is attached to the Welsh language, and that English people learn it for the sake of the two worlds (= so that they understand both cultures). It is seen that teaching it is a valuable discipline and education for Welsh people and other people who can’t speak it. And the consequence is that thousands of children and people are busily learning it today, although it wasn’t the language of their home.



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Ar ororau Maldwyn a Brycheiniog a Mynwy, yn enwedig, gwneir ymdrech i roddi bywyd newydd ynddi. Ar ochr Seisnig Llanidloes cefais nifer o blant yn chware yn Saesneg. Cyfarchais hwy yn Gymraeg, ac wedi peth petrusder siaradasant Gymraeg gloew. "Ai gartref y dysgasoch Gymraeg?" gofynnais. "Nage," oedd yr ateb. "Ai yn yr ysgol?" "Nage." "Ymhle, ynte?" "Yn y capel." Cyfodant i fendithio enw y gweinidog hwnnw a’r athrawon hynny.

(MODERN SPELLING) Ar ororau Maldwyn a Brycheiniog a Mynwy, yn enwedig, gwneir ymdrech i roddi bywyd newydd ynddi. Ar ochr Seisnig Llanidloes cefais nifer o blant yn chwarae yn Saesneg. Cyfarchais hwy yn Gymraeg, ac wedi peth petruster siaradasant Gymraeg gloyw. "Ai gartref y dysgasoch Gymraeg?" gofynnais. "Nage," oedd yr ateb. "Ai yn yr ysgol?" "Nage." "Ymhle, ynte?" "Yn y capel." Cyfodant i fendithio enw y gweinidog hwnnw a’r athrawon hynny.

(OUR TRANSLATION) On the (western) edges of Maldwyn (= Montgomeryshire) and Brycheiniog (= Breconshire) and Mynwy (= Monmouthshire) especially, an effort is being made to give it new life. On the English side of Llanidloes I found a number of children playing in English. I greeted them in Welsh, and after some hesitation they spoke in excellent Welsh. "Was it at home that you learnt Welsh?" I asked. "No," was the answer. "At school?" "No." "Where, then?" "In the chapel." They will grow up to bless the name of that minister and those teachers.



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Y mae Brycheiniog yn dechreu deffro. Yn Aberhonddu sieryd y rhieni Gymraeg, a’r plant Saesneg. Yr wyf wedi crwydro llawer hyd y cymoedd prydferth o amgylch y dref hon, sydd ar lawer cyfrif y dlysaf yng Nghymru. Nis gwn am un ardal yn meddu Cymraeg mor bur a llenyddol, byddaf yn wastad yn hoffi ei glywed; ond, heb ddeffro, collir ef o lannau’r Wysg cyn diwedd y ganrif ieuanc hon. Y mae pobl cymoedd Aberhonddu yn bobl ddeallgar, hoff o wybodaeth; ond tyf eu plant o’u hamgylch yn gymharol amddifad o’u meddylgarwch a’u chwilfrydedd hwy. Ychydig o gyfarwyddyd, a deffry’r bobl i weled y cam y mae’r plant yn gael. Apelier atynt, esbonier iddynt gymaint allent wneyd, a blodeua’r Gymraeg eto yn hen ardaloedd John Penry a Theophilus Evans.

(MODERN SPELLING) Y mae Brycheiniog yn dechrau deffro. Yn Aberhonddu sieryd y rhieni Gymraeg, a’r plant Saesneg. Yr wyf wedi crwydro llawer hyd y cymoedd prydferth o amgylch y dref hon, sydd ar lawer cyfrif y dlysaf yng Nghymru. Nis gwn am un ardal yn meddu Cymraeg mor bur a llenyddol, byddaf yn wastad yn hoffi ei glywed; ond, heb ddeffro, collir ef o lannau’r Wysg cyn diwedd y ganrif ieuanc hon. Y mae pobl cymoedd Aberhonddu yn bobl ddeallgar, hoff o wybodaeth; ond tyf eu plant o’u hamgylch yn gymharol amddifad o’u meddylgarwch a’u chwilfrydedd hwy. Ychydig o gyfarwyddyd, a deffry’r bobl i weled y cam y mae’r plant yn gael. Apelier atynt, esbonier iddynt gymaint allent wneyd, a blodeua’r Gymraeg eto yn hen ardaloedd John Penry a Theophilus Evans

(OUR TRANSLATION) Brycheiniog (= Breconshire) is beginning to awake. In Aberhonddu (= Brecon) the parents speak Welsh, and the children English. I’ve walked a good deal the length of the beautiful valleys around the town, in many ways the prettiest in
Wales. I don’t know of any district in Wales which has such pure and literary Welsh, I always like to hear it; but without an awakening it will be lost from the banks of the Wysg (= Usk) before the end of this young century. The people of the valleys of Aberhonddu are an intelligent people, fond of learning; but their children grow up around them lacking in comparison their keen thinking and their intellectual curiosity. A bit of instruction, and the people will wake up to see the disservice they are doing to the children. Let us appeal to them, and explain to them how much they could do, and the Welsh language will flourish again in the old districts of John Penry a Theophilus Evans.



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Gwnaed hynny’n ddiweddar yn un o’r cymoedd, cwm y Capel Isaf. Cynhaliwyd cyfarfod gan Ddosparth Cymraeg yr ardal ddygwyl Dewi. Daeth y delyn yno. Canodd merch ieuanc gân o waith Myfyr Hefin, yr hon (yn ôl y "Brecon and Radnor Express") a gododd frwdfrydedd y dorf yn uchel iawn.
Ynddi enwir y cartrefydd yn y cwm lle delir i siarad Cymraeg. Canwyd hi ar alaw "Bugeilio’r Gwenith Gwyn." A dyma hi:

(MODERN SPELLING) Gwnaed hynny’n ddiweddar yn un o’r cymoedd, cwm y Capel Isaf. Cynhaliwyd cyfarfod gan Ddosbarth Cymraeg yr ardal ddygwyl Dewi. Daeth y delyn yno. Canodd merch ieuanc gân o waith Myfyr Hefin, yr hon (yn ôl y "Brecon and Radnor Express") a gododd frwdfrydedd y dorf yn uchel iawn. Ynddi enwir y cartrefydd yn y cwm lle delir i siarad Cymraeg.
Canwyd hi ar alaw "Bugeilio’r Gwenith Gwyn." A dyma hi:

(OUR TRANSLATION) This was done lately in one of the valleys, the
valley of Capelisaf (= "lower chapel") The meeting was held by the Welsh-language division (of the denomination) in the area on Saint David’s Day. The harp came there. A young girl sang a song by Myfyr Hefin, which, according to the "Brecon and Radnor Express", raised the enthusasism of the crowd very high. In it are named the homes in the valley where Welsh is still spoken. It was sung to the tune of "Bugeilio’r Gwenith Gwyn." (= watching over the white wheat). And here it is.



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING)
Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
Er gwaethaf Dic-Shon-Dafydd;
Mae yma, yn ein dyffryn clyd
Yn mynnu esgyn beunydd;
Pan sbiaf hwnt, ac yma, mae
Ei hacen fel pe’n crynu
Yng ngwydd y rhai sy’n llawn o wae
At iaith hoff Cwm yr Honddu.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
Er gwaethaf Dic Siôn Dafydd;
Mae yma, yn ein dyffryn clyd
Yn mynnu esgyn beunydd;
Pan sbiaf hwnt, ac yma, mae
Ei hacen fel pe’n crynu
Yng ngwydd y rhai sy’n llawn o wae
At iaith hoff Cwm yr Honddu.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
In spite of Dic Siôn Dafydd (a Welsh-speaker who abandons the Welsh language out of admiration for England, English people, and the English language, and maintains that he has never known how to speak Welsh)
It is, in our cosy valley,
Insisting on ascending every day;
When I look yonder, and here,
Its accent is as if twinkling (like a star)
In the presence of those who are full of doom
For the beloved language of the Honddu valley



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Mae’n para i’n gogleisio;
Mae o Gwm Tydu Uchaf lawr
I’r Battle-end fwyn eto;
Ymdonna’n beraidd ym mhob oes,
Mae eto’n Nant y Gwreiddyn,
A sionced yw yn Nant y Groes,
Ond gryfed yn y Felin.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Mae’n para i’n gogleisio;
Mae o Gwmtydu Uchaf lawr
I’r Battle-end fwyn eto;
Ymdonna’n beraidd ym mhob oes,
Mae eto’n Nantygwreiddyn,
A sionced yw yn Nant-y-groes,
Ond gryfed yn y Felin.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
It continues to stir us;
It is from Cwmtydu Uchaf (= upper Cwm Tydu farm)
Down again to gentle Battle-end;
It wells up sweetly in each generation
It is still in Nantygwreiddyn (= stream of the root)
And it is so nimble in Nant-y-groes (stream of the cross)
But so strong in the Felin (= the mill)



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Os nad y’ch yn fy nghredu,
Trowch hynt i’r Sarnau, lle mae cryd
I hen iaith anwyl Cymru;
Mae yn y Castell a’r Ty Fry,
A lawr yn Nhai y Pannau,
Ac yn Nhy Sam, brenhines bri
Yw’r iaith ym Mhentre’r Sarnau.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Os nad ych yn fy nghredu,
Trowch hynt i’r Sarnau, lle mae cryd
I hen iaith annwyl Cymru;
Mae yn y Castell a’r Ty-fry,
A lawr yn Nhai-y-pannau,
Ac yn Nhy Sam, brenhines bri
Yw’r iaith ym Mhentre’r Sarnau.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
And if you don’t believe me
Direct your steps to Sarnau (= paved causeways), where there is a cradle
to the dear old language of Wales;
In Castell (= castle) and Ty-fry (high house),
And down in Tai-y-pannau (houses of the hollows)
And in Ty Sam, the language is a queen with prestige
in the village of Sarnau



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Mor effro yw’n Llwyncelyn
A’i seiniau a o Gefn Coed
I’r Wern fel diliau’r delyn;
Mae Pant y Llwyfen megis bryn
Yn dal yr iaith i fyny
Lle gwelir llawer yn y glyn
Fel pe yn ceisio’i boddi.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
Mor effro yw’n Llwyncelyn
A’i seiniau â o Gefn-coed
I’r Wern fel diliau’r delyn;
Mae Pantyllwyfen megis bryn
Yn dal yr iaith i fyny
Lle gwelir llawer yn y glyn
Fel pe yn ceisio’i boddi.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
So awake in Llwyncelyn (= holly bush)
And its sounds go from Cefn-coed (ridge of the wood)
To the Wern (alder marsh) like the honeycombs (honeyed melody??) of the harp
Pantyllwyfen (hollow of the ash tree) is like a hill
Holding the language up
Where many are seen in the valley
As if trying to drown it



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Nid yw pob pwll yn loew bwll,
Ond eto’n Nghwm yr Honddu
Y ceir Pwll Gloew sydd yn glir
Ei wedd dros ddefion Cymru;
Mae yno eto Gymraeg croew
A thybed daw Seisnigaidd lif
I dryblu dŵr Pwll Gloew!


(MODERN SPELLING) Nid yw pob pwll yn loyw bwll,
Ond eto’n Nghwm yr Honddu
Y ceir Pwllgloyw sydd yn glir
Ei wedd dros ddefion Cymru;
Mae yno eto Gymraeg croyw
A thybed daw Seisnigaidd lif
I dryblu dŵr Pwllgloyw!

(OUR TRANSLATION) Not every pool is a sparkling pool
But yet in the valley of the river Honddu
Is to be found Pwllglöyw (= sparkling pool)
Bright faced for the customs of Wales
There is still pure Welsh there
And I wonder if a current of English
Will come to trouble the water of Pwllgloyw (= sparkling pool)



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
Yn tyfu wrth fynd fyny
Ar hyd y ffyrdd, sy’n llawn o hud
Ac olion hanes Cymru;
O Allt y Brain ei sain a’i su
A dreiddia lawr i Bethel.
Ac yn Nhy Bach a Bethel Dy
Mor esmwyth yw a’r dwsmel.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
Yn tyfu wrth fynd fyny
Ar hyd y ffyrdd, sy’n llawn o hud
Ac olion hanes Cymru;
O Allt y Brain ei sain a’i su
A dreiddia lawr i
Bethel.
Ac yn Nhy-bach a Bethel Dy
Mor esmwyth yw a’r dwsmel.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
Growing as one goes up
Along the road, which is full of the charm
And the traces of the history of Wales;
from Allt y Brain (= the wood of the crows) its sound and its lilt
Penetrates down to Bethel (chapel)
And in Ty-bach (the small house) and the Bethel chapel house
They are as smooth as the dulcimer



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
O Fethel i Fethesda,
Mae’n hoew’n Ebenezer fry,
Ac eto ym Methania;
Mor fwyn a sionc yw hen Gymraeg
Yng Nghapel Uchaf acw,
Ond os yr ewch i Siop y Gof,
Cewch yno Gymro gloew.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd,
O Fethel i Fethesda,
Mae’n hoyw’n Ebenezer fry,
Ac eto ym Methania;
Mor fwyn a sionc yw hen Gymraeg
Yng Nghapel Uchaf acw,
Ond os yr ewch i Siop y Gof,
Cewch yno Gymro gloyw.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
From Bethel (chapel) to Bethesda (chapel),
It’s sprightly up in Ebenezer (chapel),
And still in Bethania (chapel);
So gentle and lively is the old Welsh
Yonder in Capel Uchaf (= upper chapel),
And if you go to the blacksmith’s shop
You will find there a true Welshman (= true to his language)



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Wrth ddringo’r bryn i Ben y Lan
Daw golygfaoedd hyfryd
O flaen eich llygaid; ond mwy can
Yw gwedd yr hen iaith hefyd;
Ac os y croeswch dros y fron
Hyd odreu hardd Cwm Llechach,
A ‘sbio hyd Gwm Achau draw,
Cewch weld yr iaith yn decach.


(MODERN SPELLING) Wrth ddringo’r bryn i Ben-y-lan
Daw golygfaoedd hyfryd
O flaen eich llygaid; ond mwy can
Yw gwedd yr hen iaith hefyd;
Ac os y croeswch dros y fron
Hyd odre hardd Cwm Llechach,
A sbio hyd Gwm Achau draw,
Cewch weld yr iaith yn decach.

(OUR TRANSLATION) Going up the hill to Pen-y-lan (= hill top)
Wonderful views come
Before your eyes; but more resplendent
Is the aspect of the old language too;
And if you cross over the hill
As far as the beautiful bottomland of the valley (of) the Llechach (stream)
And look yonder towards Cwm Achau
You’ll see the language fairer



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Ewch heibio’r Felin draw i’r Lodge
Ar fin Pen Oer yng Nghradog,
Ac ewch i fyny dros y ffordd
Cewch weld y Cartwrights serchog,
Fel y preswylwyr sy’n y Lodge,
A’r pedwar wrthi’n glynu
Wrth iaith y Cymry heb un "dodge"
A’r Battle-end yn helpu.


(MODERN SPELLING) Ewch heibio’r Felin draw i’r Loj
Ar fin Pen Oer yng Nghradog,
Ac ewch i fyny dros y ffordd
Cewch weld y Cartwrights serchog,
Fel y preswylwyr sy’n y Loj,
A’r pedwar wrthi’n glynu
Wrth iaith y Cymry heb un "dodge"
A’r Battle-end yn helpu.

(OUR TRANSLATION) Go past the Felin (= the mill) over to the Lodge
At the edge of Pen Oer (= cold summit) in Cradog,
And go up over the road
You will see the warmhearted Cartwrights
As the dwellers who are in the Lodge.
And the four stick
To the language of the Welsh people without any "dodge"
And Battle-end (= English farm name) helps.



_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
A byw wna fyth yng Nghymru;
Fe bery eto drwy ei hud
I oglais Cwm yr Honddu;
Y Cwm fu gynt yn noddi’r iaith,
Y Cwm fu’n gartre’r delyn,
Ddaw eto’n Gwm ddyrchafa sain
Iaith anwyl cân ac englyn.


(MODERN SPELLING) Mae’r hen Gymraeg yn fyw o hyd
A byw wna fyth yng Nghymru;
Fe bery eto drwy ei hud
I oglais Cwm yr Honddu;
Y Cwm fu gynt yn noddi’r iaith,
Y Cwm fu’n gartre’r delyn,
Ddaw eto’n Gwm ddyrchafa sain
Iaith anwyl cân ac englyn.

(OUR TRANSLATION) The old Welsh language is still alive
And it will live forever in Wales;
It will still continue through its magic
To stir the valley of the river Honddu;
The valley which formerly gave support to the language
The valley which was the home of the harp
Will become a valley again which will raise the sound
Of a dear language of song and verse.

 

_____________________________

(ORIGINAL SPELLING) Y peth wneir yn y Capel Isaf, gellir ei wneyd yn ardaloedd ereill Brycheiniog, ac yn holl ardaloedd Cymru lle y mae perygl i’r Gymraeg golli tir. Na ddigier wrth y Saesneg, croesawer hi. Ond gofaler am gadw’r Gymraeg hefyd, rhodder bri arni, a chofier mai hi yw iaith diwylliant, meddylgarwch, a chrefydd

(MODERN SPELLING) Y peth wneir yn y Capelisaf, gellir ei wneud yn ardaloedd eraill Brycheiniog, ac yn holl ardaloedd Cymru lle y mae perygl i’r Gymraeg golli tir. Na ddigier wrth y Saesneg, croesawer hi. Ond gofaler am gadw’r Gymraeg hefyd, rhodder bri arni, a chofier mai hi yw iaith diwylliant, meddylgarwch, a chrefydd

(OUR TRANSLATION) What is being done in Capelisaf (= lower chapel) can be done in other areas of Brycheiniog (Breconshire), and in all the districts of
Wales where there is a danger of Welsh losing ground. Let us not show annoyance towards the English language, let us welcome it. But let us take care to keep the Welsh language too, let us give it prestige, and let us remember that it is the language of culture, intellectual thought and religion

 

 ·····

Sumbolau arbennig ŷ ŵ


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats