1347k Deg O Ddadleuon Buddugol. - Y Goreu Allan o Naw o Gystadleuwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin, 1912. i naw ysgrifenu, bob un ei ddeg ddadl, siomedigaethus ei ffrwyth yw’r gystadleuaeth hon. Rhyw chwareu dadlu a’u cysgodion eu hunain y mae y rhan fwyaf o lawer o’r cystadleuwyr...

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_043_dadleuon_buddugol_1911_1347k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya

Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

Deg o Ddadleuon Buddugol at Wasanaeth Cyfarfodydd Llenyddol, &c.
BUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERFYRDDIN 1911.


(delwedd 4666)


 

·····

 (CLAWR)

BUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERFYRDDIN.
Dadleuon Buddugol
Yn Cynnwys
DEG O DDADLEUON BUDDUGOL AT WASANAETH CYFARFODYDD LLENYDDOL, &c.

Gan “Llygad y Dydd”

Y GOREU ALLAN O NAW O GYSTADLEUWYR
YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU,
CAERFYRDDIN, 1911.

CAERFYRDDIN:
W. M. EVANS A’I FAB, SWYDDFA “SEREN CYMRU.”
PRIS NAW CEINIOG


(x1)  gwag

(x2)  gwag

(x3) Y GOREU ALLAN O NAW O GYSTADLEUWYR
YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU,
CAERFYRDDIN, 1911.

Dadleuon Buddugol
Yn Cynnwys
DEG O DDADLEUON BUDDUGOL.

Gan “Llygad y Dydd”

CAERFYRDDIN:
W. M. EVANS A’I FAB, SWYDDFA “SEREN CYMRU.”
1912.

(x4) gwag

(x5) gwag

Cynwysiad

(1) Y Ffasiwn (Dadl i Ddwy Ferch) x9
(2) Y Rhosyn a’r Friallen (Dadl i Ddau) x13
(3) Bai o Bobtu (Dadl i Dri) x16
(4) Blodau. (Dadl i Bedair) x20
(5) Yr Achos Dirwestol (Dadl i Ddau) x23
(6) Dauwynebog (Dadl i Dair) x27
(7) Yr Ysgol Sabbothol (Dadl i Ddau) x32
(8) Breuddwydion (Dadl i Ddau) x36
(9) Ofergoelion (Dadl i Ddwy) x40
(10) Serch (Dadl i Ddau) x44

(x6) gwag

(x7) Beirniadaeth ar y Dadleuon Byrion, heb fod dros bum’ can’ gair yr un.
(BEIRNIAD - IFANO JONES, YSW., CAERDYDD.)

Er i naw ysgrifenu, bob un ei ddeg ddadl, siomedigaethus ei ffrwyth yw’r gystadleuaeth hon. Rhyw chwareu dadlu a’u cysgodion eu hunain y mae y rhan fwyaf o lawer o’r cystadleuwyr. Nid “cymeriadau” cig a gwaed a ddadguddia i ddarllenydd y dadleuon hyn eu gwir a’u nod, ond meddyliau a barnau’r cystadleuwyr hyny eu hunain wrth benderfynu rhwng dwy ochr pwnc neu agwedd egwyddor. Nid egluro egwyddorion, na dadrus pynciau, na dysgu athrawiaethau, na phregethu dyledswyddau, na chynorthwyo plant a phobl ieuainc i gofio a charu ffeithiau gwyddor, oedd eisieu yn y dadleuon byrion y cynygid cymaint gwobr am y deg goreu. Nid traethawd neu araeth, neu bregeth ar ffurfiau holwyddoreg a phwnc ysgol ac ymddiddan, a ddylai dadl adrodd fod, ond ymgom gelfydd, fyw, gynnil-ei-gair a hael-ei-meddwl, rhwng dau neu fwy o “gymeriadau” a gwahan ryngynt yn berson, meddwl, a mynegiant; ac (x8) ymgom a “chymeriadau” a fo gyda’r gilydd yn ddarlun bychan o ryw wedd ar fywyd byd neu eglwys. Rhwng y darlun wed’yn a dysgu neu bregethu! Mewn gair, rhaid i ddadl adrodd fod yn ddramodog; ac yn adran y ddrama y ceir y testyn yn rhaglen yr eisteddfod.

O’r naw cystadleuydd “Llygad y Dydd” yw’r cliriaf ei ddirnadaeth o nôd angen dadl adrodd; ac er nad yw gystal llenor a “Dafydd ap Tomos,” y mae gryn lawer yn well fel dramodydd nag ef. Rhaid canmol “Llygad y Dydd,” ragor y lleill o’r cystadleuwyr, am gynnyg yn well at dori tir newydd mewn testynau. ac am lwyddo’n well mewn dialog. Nid anghofiodd wrhewcri a ffraethineb ymgom cyfeillion. Fe saif amryw o’i “gymeriadau” hefyd ar eu pedion en hunain, a gwna iddynt “lefaru o helaethrwydd eu calonau” eu hunain, ac nid o’r eiddo ef. Mae’n wir nad yw’r cymeriadau“ yn gryfed ag y dymunid iddynt fod; ond y maent, o leiaf, yn rhai gwahan. Bid a fo, y mae ganddo yntau amryw ddadleuon hen ffashwn, yn gynllun ac ymddiddan.
Ar air a chydwybod,
IFANO JONES.

(x9) Dadleuon Buddugol.

(1) Y FFASIWN.
DADL I DDWY FERCH.
(Emily a Dora yn cyfarfod ar yr Heol).
Emily. - Good evening, Dora, How are you? ’Roeddwn yn mynd draw ’nawr i gael eich barn ar fy het newydd.
Dora. - Gan eich bod yn gofyn fy marn, a dweyd y lleia am dani, mae’n llawer rhy fawr i chi.
Emily. - Beth bynag am hynny, dyma y “latest.”
Dora. - Feallai, ond nid ydi y “latest” yn gweddu bob amser i chi Emily, mwy nag i minnau.
Emily. - Gweddu neu beidio, mae’n rhaid i mi ei gwisgo neu fod allan o’r ffasiwn. A mi fydd mam yn dweyd waeth i chwi fod allan o’r byd mwy nag allan o’r ffasiwn.
Dora. - ’Rwyf yn cydnabod fod dilyn y (x10) ffasiwn o hirbell yn tueddu i wneyd un i edrych yn od, ac nid wyf yn cymeradwyo hynny, ond buaswn yn dewis hynny yn hytrach na mynd yn gaeth i ffasiynau.
Emily. - ’Rydych yn wahanol i mi, ’rwyf yn credu mewn dilyn y ffasiwn mor fanwl ag y gallaf, a mi fusech chithe Dora yn edrych llawer gwell ta chi’n newid y dull o wneyd eich gwallt a thalu mwy, o sylw i’r “fashion books.”
Dora. - Mae’n well genyf edrych fel hyn na gwneyd fy ngwallt yn bricsiwn wrth geisio dynwared dulliau y papurau Seisnig.
Emily. - Waeth be’ ddwedwch chi Dora, does dim tebyg i fod yn “up to date.” Mi wyr pobl hyd yn oed wrth i chi ysgwyd llaw pa un a fyddwch chi’n studio “etiquette” ai peidio.
Dora. - Ni raid studio etiquette i wybod sut i ysgwyd llaw. Mae’r llaw sy’n cael ei hestyn megis o’r galon, yn siwr o wybod sut i wneyd ei gwaith. Pa reswm sydd mewn codi eich llaw yn uchel fel pe baech yn mynd i chware “Pont y Seiri” am fod rhyw dywysog o Ffrainc wedi dechreu gwneyd hynny oherwydd rhyw friw oedd ar ei fys?
Emily. - Dwn i ddim sut y dechreuodd yr arferiad, ond mi wn ei fod yn ffordd “graceful” iawn.
Dora. - Mae arnaf ofn eich bod yn mynd yn fwy ffasiynol o hyd.
Emily. - O, gobeithio fy mod.
Dora. - Nage’n wir. Byddai’n resyn i chi ufuddhau i ffasiwn o flaen synwyr cyffredin.
Emily. - Nid wyf yn meddwl gwneyd hynny, ond gwyddoch mai peth gwrthun yw bod yn ddifanners.
Dora. - Iê, ac eto mae bod yn rhy fanesol yn rhywbeth digon anymunol. ’Roeddwn gyda nifer o ferched ieuainc y dydd o’r blaen, ac ’roeddwn wedi hen ddiflasa ar “Excuse me,” “Pardon,” “I’m sorry,” &c.
Emily. - Ond mae’n rhaid i chi eu defnyddio, neu ymddangos yn “vulgar.”
Dora. - Ni raid i chwi eu defnyddio bob yn ail frawddeg.
Emily. - Mae’n amlwg na wnawn ni ddim cydweld ar y pwnc yma. ’Rydych chi’n ngweld i yn rhy ffasiynol, ’rydw inne yn eich gweld chithe yn rhy hen ffasiwn. Fydde ddim yn well i ni drio cyfarfod ein gilydd ar y mater?
Dora. - O’r goreu, beth hoffech i mi wneyd?
Emily. - I ddechre, gwneyd y’ch gwallt yn llawer mwy llac, gwisgo het dipyn mwy ffasiynol, a thalu mwy o sylw i’r ffasiwn pan yn cael costume newydd.
(x12) Dora. - Os gwnaf, wnewch chwithe wneyd i ffwrdd a’r rhai o’r rolls sydd ar eich pen, gwisgo skirt y medrwch chi gamu ynddi, ac nid garchar dafad fel hona, a thrio cael het ychwanegu at eich prydferthwch, yn lle tynnu oddiwrtho.
Emily. - Gwnaf, a’r tro nesaf y cyfarfyddwn byddaf yn disgwyl eich gweled chwithe hefyd wedi cadw’ch gair.
Dora. – ’Rwyf yn siwr o wneyd, ac os byddaf byw ac iach dof i’ch gwel’d wythnos i heddyw. Mae’n rhaid i mi fynd ’nawr, mae arnaf eisiau cyfarfod y trên. Prydnawn da.
Emily. - Ta, ta.

(x13) (2) Y RHOSYN A’R FRIALLEN.
DADL I DDAU.
Rhosyn.
- Ai tydi sydd yna Friallen fach? bu agos i mi ag edrych dros dy ben, a cholli golwg arnat.
Briallen.
- Iê, Rosyn hardd, ac nid oes lawer o berygl i mi edrych dros dy ben di, oblegid yr wyf er’s meityn yn dotio at degwch dy wyneb.
Rhosyn.
- Diolch i ti am dy eiriau caredig. Buasai ambell i flodeuyn, feallai, yn ymchwyddo wrth dy sylw pert, ond yr wyf fi wedi cynefino a dywediadau cyffelyb.
Briallen.
- Mi gredaf dy fod, a gwn nad ydynt yn effeithio er niwed i ti, neu ni fuasai dy liw a dy arogl mor hyfryd.
Rhosyn.
- Dwêd i mi Friallen fach, oni fyddi dithau weithiau yn dymuno cael bod yn Rhosyn?
Briallen.
- I ba beth y dymunwn hyny fy ffrynd?
Rhosyn.
- Er mwyn ennill sylw ac edmygedd a harddu yr ardd y byddi yn tyfu ynddi, pa un bynag ai gardd y bwthyn ai gardd y palas fyddo.
Briallen.
- Na, pe buasai’n bosibl i mi beidio a bod yn friallen, ac ymagor yn rhosyn, ni fuaswn yn dewis hynny.
Rhosyn.
- Paham? Ni allaf dy ameu, oblegid (x14) ag edrych ym myw dy lygad, ni welaf ond purdeb yn perlio arnaf.
Briallen.
- Briallen wyf wedi fy nghreu, ac yr wyf yn llawenychu yn fy ngwaith yn y byd.
Rhosyn.
- Mae genyf finnau hefyd fy ngwaith. Beth sydd yn fwy dymunol na chael sirioli y teithwyr fydd yn myned heibio, neu gael fy arogli gan y foneddiges a’m pia, a fy edmygu gan ei chyfeillion. Na yn wir, Friallen fach, byddet yn llawer gwell allan pe byddet yn rhosyn fel y fi. Mae dy gartref hefyd yn ychwanegu at dy ddinodedd. Ni fuaswn byth yn hoffi byw fel yr wyt ti, yn nghanol y gwellt ar ochr y bryn yna, yn gyfleus i bob troed anystyriol fy sathru.
Briallen.
- Yr wyt yn camgymeryd yn awr, fy ffrind. Nid yw fy nghartref yn fy ngwneyd yn fwy dinod, yr wyf fi a’m cartref wedi ein cyfaddasu i’n gilydd, a gofynaf fel tithau, “Beth sydd yn fwy dymunol na byw yn nghanol y gwelltglas islaw gwrych, a gwrando ar y ffrwd sydd yn myned heibio yn sisial ei anobeithion wrth frysio tua’r môr. Uwch fy mhen mae dau aderyn bychan wedi gwneyd eu nyth, a llanwant yr awyr o’m cwmpas â miwsig fydd yn swyno fy nghalon. Weithiau daw plant bychain heibio i mi, plant rhy fychain i gyraedd atat ti, gan (x15) ond wenu arnaf a’u gwên bur, ddifalais, ac a’u dwylaw tyner casglant luaws o’m teulu, a pheth mwy allaf ddymuno na chael bod yn addurn ac yn bleser i blant bychain.
Rhosyn.
– Mae yn rhaid i mi addef fy mod wedi camgymeryd Friallen fach, yr wyt yn hollol yn dy le. Y mae’n amlwg dy fod wedi dysgu y wers sydd yn rhy anhawdd i ambell un, sef bod yn foddlon ar yr hyn sydd genyt, a gwneyd dy oreu yn y byd a’r hyn sydd yn dy allu.

(3) BAI O BOBTU.
DADL I DRI.
Tomos.
- Wel wir, dyma hi eto, neb yn y ty^, dim tân, a dim bwyd yn barod i greadur wedi gweithio’n galed drwy y dydd. Mi fasa yn o smala gan mam y’n gweld i yn dwad o’n gwaith a dim yn barod i nisgwyl i. Mae Meri yn myn’d yn fwy diofal bob dydd, ond mi geiff y tro yma fod yn wers iddi. Mi stedda fan hyn, wna i ddim tân, ferwa i mo’r teccell, a chymra i ddim tamed o fwyd pe buasai hi heb ddwad yma tan bymtheg.
(Ymestyna at bapur newydd a dechreu ei ddarllen.)
Meri.
- (Yn dod i’r ty^ ac yn gofyn,) - Beth y’ch chi’n gneyd hen dro mor sal?
Tomos. - Pwy sydd wedi gwneyd tro sal?
Meri.
- Y chi.
Tomos.
- Beth ydw i wedi wneyd ys gwn i?
Meri.
- Peidio dwad i dy^ modryb i nol i, fel yr addawsoch yn y bore.
Tom. - Y fi addo, addewais i ddim fath beth.
Meri.
- Dier anwyl Tomos, beth yw’r mater arnoch chi. Rych chi’n debyg iawn fel be bae chi wedi bod adre am dro.
(x16) Tom. - Mae’n edifar iawn gen i ddwad odd’no. Es i rioed adre oddiwrth y ’ngwaith na fyddai’r bwyd yn barod i nisgwyl i.
Meri.
- Ddaethoch chi rioed i’r ty^ yma o’r blaen chwaith na fyddwn i yma yn y’ch disgwyl chi. Pe bae chi wedi priodi gwraig Benjamin Jones, does na chyfarfod na scyrsion, nac ocsiwn na circus, nad ydi honno yno.
Tom.
– ’Dwy i ddim wedi phriodi hi, ac am hynny does arna i ddim eisieu clywed son am dani.
Meri.
- A dyma finne druan a mhen wrth y post o ddechre yr wythnos hyd i diwedd hi, ac am i mi ddigwydd myn’d heddyw, rhaid i chi gael myn’d i’ch sulcs a chodi’ch cloch.
Tomos.
– ’Dwy i ddim wedi mynd i’n sulcs, y cwbl ydw i’n ddweyd, ac mi ddwedaf ef eto, na ddyle chi ddim bod yn nhy^ y’ch modryb a gwybod mod i wedi dwad o’n ngwaith.
Meri.
- Oni dd’wedais wrthoch chi mod i am fynd, ac am i chithe ddwad i nol i.
Tomos.
- Ddwedsoch chi ddim o’r fath beth.
Meri.
- Wel wir, chlywais i rioed shwt beth. Well i chi ddweyd Tomos na chododd yr haid ddim.
Tomos.
– ’Does arna i ddim eisieu dweyd anwiredd. (Mrs. Huws, cymydoges, yn dod i fewn ac yn gofyn), -
Mrs. Huws.
- Beth ydi’r siarad uchel yma, ydw i’n glywed, ’dych chi ddim yn ffraeo, does bosib.
Meri.
– Ydym Mrs. Huws, mae Tomos yn mynd yn fwy anodd i’w drin bob dydd, a waeth i chi drio darbwyllo y pentan yna mvy nag ynte wedi iddo gymryd rhywbeth yn i ben.
Tomos.
- Ditto, dwedwch Meri.
Mrs. Huws.
- Twt, twt, wneiff hyn mo’r tro.
Tomos.
- Sut y bysech chi yn leicio Mrs. Huws, ddwad i’r ty^ o’ch gwaith, wedi bod yn gweithio’n galed drwy y dydd, a chael y ty^ yn wâg, a dim tewyn o dân yn y grât, na thamed o fwyd yn y’ch disgwyl chi.
Meri.
- O’r gore os ychi’n dweyd y’ch ochor mi ddywedaf finne f’ochor hefyd. Pan oedd e’n cychwyn y bore, dyma fi’n dweyd, “Tomos,” medde fi, “os na fydda i yma heno pan ddowch chi o’ch gwaith, wedi mynd i dy^ modryb y bydda i, a mi fydd y’ch bwyd chi yn y pobty^. Dowch chithe i nol i wedi bwyta a molchi.” “O’r goreu,” medde fe, ond lle roedd i feddwl e, dwn i ddim.
Tomos.
- Chlywais i mono chi’n dweyd dim, ond, bod chi’n mynd i dy^’ch modryb. Ond (x19) cofiwch tydw i ddim yn y’ch ameu chi, achos r’on i ar frys i ddal y trên.
Meri.
- Rydw i’n ddigon siwr mod i wedi dweyd Tomos. Fynswn i er dim i chi ddwad o’ch gwaith heb ddarpar ar y’ch cyfer chi.
Erbyn cysidro, dwn i ddim ar b’un o hono ni’n dau y mae y bai.
Mrs. Huws.
- Bai o bob tu sy yma.
Meri.
Dowch acw i gael tamaid o fwyd, mae gen i dân a’r teccell yn berwi.
Meri. - Diolch i chi Mrs. Hughes. Dowch Tomos.

(x20) (4) BLODAU.
DADL I BEDAIR.
Olwen.
- Gan ein bod yn son am flodau, gadwch i mi gael gwybod pa un o’r blodau yr ydych yn garu fwyaf. Ceridwen, wnewch chwi ddechreu ddweyd wrthym fel pa flodyn hoffech fod.
Ceridwen.
- Pe cawn i fy newis dewiswn i fod yn Lili.
Olwen.
- Paham?
Ceridwen.
- Am ei bod mor lân ac mor bur.
Olwen.
- Pa un yw eich blodyn chwi Dilys?
Dilys.
- Fy newis i ydyw Blodyn yr Eira.
Olwen.
- Paham?
Dilys.
- Am ei fod yn blodeuo yn nhymor garwaf y flwyddyn.
Olwen.
- Pegi, pa un yw eich blodyn chwi?
Pegi.
- Fy mlodyn i ydyw Llygad y Dydd.
Ceridwen.
- O flodyn disylw!
Dilys.
- Iê, yn wir, a chyffredin hefyd.
Pegi.
- Dyna paham yr wyf yn ei ddewis, am ei fod yr un mor barod i sirioli ochr y ffordd ag ydyw i ychwanegu at brydferthwch yr ardd fwyaf ysblenydd.
(x21) Dilys. - Gellwch ddweyd yr un peth am fy mlodyn innau. Gwna Blodyn yr Eira ei gartref mewn doldiroedd a pherllanau ac ym môn y gwrychoedd yn gystal ag mewn gerddi.
Pegi.
– Iê, ond cofiwch mor fyr yw ei dymor. Ond am fy mlodyn i y mae yn barod i ddangos ei wyneb ac i wenu drwy bedwar tymor y flwyddyn, nes ennill gan un o’r beirdd yr enw “Plentyn y Flwyddyn.”
Dilys.
- Mae y beirdd yn cymeryd sylw o fy mlodyn innau hefyd, ac y mae un o honynt wedi dweyd,
“Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
Yn yr awel oer Mae’n byw.”
Ceridwen.
- Mae’n rhaid i chwi gydnabod Pegi, nad ydyw LIygad y Dydd hanner mor brydferth a Blodyn yr Eira.
Pegi.
- Nid am ei brydferthwch y darfu i mi ei ddewis, ond am ei fod yn flodyn mor hawdd ei drin. Ni ellwch chwi ddweyd hyn am y Lili, mae’n rhaid iddi wrth ofal neillduol cyn y ffyno.
Dilys.
- Er hyny, ffolineb ydyw cymharu y Lili hardd a’r blodeuyn bychan, dinôd, Llygad y Dydd.
Olwen.
- O na, Dilys, fe ddeil y ddau i’w cymharu, oblegid mae y naill fel y llall yn rhagori mewn rhyw bethau ar eu gilydd
Ceridwen.
- Nid wyf yn deall sut y gall Llygad y Dydd ragori ar y Lili.
Olwen.
– Mae Pegi wedi dangos un ffordd i chwi drwy ddweyd fod Llygad y Dydd yn blodeuo drwy y flwyddyn.
Pegi.
– Iê, a rhagora mewn ffordd arall drwy fod mor gyffredin. Buasai aml i blentyn bach yn bur amddifad o flodau oni bai am Lygad y Dydd.
Ceridwen.
- Mae yn amlwg fod gan Pegi ddigon i ddweyd dros ei blodyn, ond yn hytrach na dadleu, oni fyddai’n well i ni geisio efelychu y peth goreu yn mhob un o’r blodau?
Olwen.
- Byddai Ceridwen, yn llawer gwell. Beth fyddai’n fwy dymunol i ni’n pedair na chael purdeb y Lili yn ein cymeriadau; parodrwydd i fod ar ein goreu hyd yn oed mewn tywydd garw, fel Blodyn yr Eira, a gostyngeiddrwydd Llygad y Dydd.
Pegi. – Mi hoffwn gael bod fel y Lili.
Dilys.
- A Llygad y Dydd yr un pryd.
Ceridwen.
- Rhowch atynt Flodeuyn yr Eira.
Olwen.
- A byddwn yn werthfawr i’r byd.

(5) YR ACHOS DIRWESTOL
DADL I DDAU.
(Ellis Price yn sefyll ar yr heol, a’i gyfaill John Huws yn dod ato ac yn dweyd, - )
John Huws.
– ’Rwyf newydd fod draw yn chwilio am danoch. Roedd y wraig yn dweyd y deuwn o hyd i chwi rywle ffordd hyn.
Ellis Price.
- Mi wn beth yw eich neges, Huws.
John Huws.
- Gwyddoch mae’n debyg. ’Rydych yn cofio i chi y noson o’r blaen hanner addo dod gyda mi i’r gymdeithas ddirwestol.
Ellis Price. – ’Rwyf wedi ail-feddwl er hynny ac yn tynnu’r hanner addewid yn ol.
John Huws.
- Os caf addewid gyfan yn ei lle goreu oll.
Ellis Price.
- Na, nid wyf am ddod o gwbl.
John Huws.
- Paham ’rydych wedi dod i’r penderfyniad yna?
Ellis Price.
– ’Rwyf yn ei weld yn beth plentynaidd iawn, i ddyn dorri ei enw ar bapur fel sicrwydd y bydd o hynny allan yn ddirwestwr, a myned at nifer o bobl a alwch yn ddirwestwyr bob wythnos, fel pe i’w reportio ei
hunan ei fod yn cadw ei air. Mi wna hynny y tro i ryw benboethiaid fel y chi.
(x24) John Huws. - Does arna i ddim cwilydd cydnabod fy mod yn benboeth, os ydyw hynny yn cynwys fy mod, yn gweithio a’m holl egni yn erbyn drwg claiarineb sydd yn andwyol gyda’r achos dirwestol fel gyda pob rhan ar grefydd.
Ellis Price.
- Ry’ch chi y dirwestwyr yma yn hoff iawn o son am grefydd wrth son am ddirwest.
John Huws.
- Does dim yn fwy naturiol achos mae perthynas mor agos rhyngddynt ag sydd rhwng goleuni a haul.
Ellis Price.
- A chymeryd yn ganiattaol eich bod yn gywir, ydw i ddim cystal a phobol y seiat a gwell na’i naill hanner nhw?
John Huws.
- Nag ydych, ddim cystal a’r salaf sydd yno.
Ellis Price.
- Sut felly?
John Huws.
- Am eich bod yn diystyru y moddion sydd i ddwyn y byd i foliant Duw, ac felly ’rydych yn rhwystr i’r eglwys wneyd ei gwaith.
Ellis Price.
– ’Dwy i’n dweyd dim yn erbyn gwaith yr eglwys yn y byd.
John Huws.
- Os nad ydych yn dweyd mewn geiriau, ’rydych yn dweyd mewn esiampl. Pe buasai pob dyn fel y chi, ni fuasai yr un eglwys ar y ddaear na gwaith yn cael ei gyflawni er ennill y byd i Grist.

(x25) Ellis Price. - Felly mae’n amhosibl gwneyd daioni heb fod yn aelod eglwysig?
John Huws.
- Gwyddoch beth mae’r Apostol Paul yn ddweyd, “Pe rhoddwn fy nghorph i’m llosgi, ac heb fod genyf gariad nid yw ddim llesad i mi,” a sut y gellwch ddweyd fod y cariad genych ac yn gwrthod ymuno ag eglwys Crist?
Ellis Price.
- Ydych chi’n sicr fod pobol y capel yn eglwys Crist? Mi wn i am lawer o honoch yr aech chi a’r tamed dwetha o enau y naill a’r llall, ac wedyn mi ddwedech yn ddigon digwilydd wedi i ddyn fyn’d i lawr, “Y creadur piti drosto fe.”
John Huws.
– ’Rwyf yn cydnabod fod yna lawer o ddwylaw annheilwng yn trin pethau y cysegr, ac i wir grefyddwyr mae hyn yn groes drom, ond ei chodi y maent er hynny, ac nid cefnu ar yr achos fel llwfriaid.
Ellis Price.
- Mae rhywbeth yn hynna yn siwr.
John Huws.
- Mae llawer ynddo, Price.
Oes anffyddloniaid a bradwyr
Yn llechu ym myddin fy Nuw,
Ai cilio a ddylwn o’r rhengau
A gadael i’r gelyn gael byw?
(x26) Na, na, mi ymladdaf yn wrol,
Er gwaethaf pob rhwystr a brad,
Mae’r Cadben sy’n arwain y lluoedd,
Yn deilwng, o’m help yn y gad.
Ellis Price.
- Dyna olwg newydd i mi, deuaf i’ch canlyn.

(x27)
(6) DAUWYNEBOG.
DADL I DAIR.
(Mrs. Jones yn agor drws y ty, a chyn cyrraedd y gegin yn gofyn,)
Mrs. Jones.
- Oes yma bobol?
Mrs. Pari (Gwraig y ty^). - Oes, dowch i mewn. Y chi sydd yna Mrs. Jones? Dowch yn ych blaen, steddwch.
Mrs. Jones.
- Wna i ddim ymdroi ond mod i’n dod fewn am funyd i edrych oeddech chi wedi clywed am golled Mrs. Howells.
Mrs. Pari.
- Colled Mrs. Howells, beth mae hi wedi golli? Chlywais i r’un gair. Neswch at y tân, Mrs. Jones.
Mrs. Jones.
- Wedi colli pum’ sofren.
Mrs. Pari.
- Wel, sut y collodd i nhw?
Mrs. Jones.
- Wrth ddwad o’r farchnad, medde hi.
Mrs. Pari.
- Roedd hi’n lwcus iawn fod ganddi bum sofren. Mi fuasai’n dda gen i allu mynd i’r farchnad ag un.
Mrs. Jones.
- Mi fuasai’n dda gen inne hefyd. (x28) A rhyngoch chi a finne, mae’n anodd gen i gredu fod yna bum sofren yn i phwrs hithau chwaith.
Mrs. Pari.
– ’Rydw i’n cydweld a chi’n hollol. O b’le cafodd hi nhw tybed?
Mrs. Jones.
- Y rhent oedden nhw, meddai hi.
Mrs. Pari.
- O mi wela, ac felly wiw i neb ddisgwyl y rhent y chwarter yma?
Mrs. Jones.
- Dyna chi. “Os na bydd gryf bydd gyfrwys.”
Mrs. Pari.
- Mewn difri, chlywsoch chi rioed shwt beth, ond ran hynny fel yna y mae rhai pobol yn cael dillad newydd a mynd i fan fyno nhw.
Mrs. Jones.
- Ry’ch chi’n dweyd y gwir. Fedrai i yn y myw gael dim heb son am gostiwm newydd pump a chwech y llath.
Mrs. Pari.
- Roddodd hi hynny am y siwt oedd ganddi y Sul dwetha?
Mrs. Jones.
- Do, bob dime.
Mrs. Pari.
- Wel, yn wir, mi welais i well am bymtheg.
Mrs. Jones.
- Wisgodd hi rioed beth isel bris.
Mrs. Pari.
- Felly wir.
Mrs. Jones.
- Roedd hi’n dweyd bod hi wedi cerdded siopau y dre i gyd er mwyn cael y “shade” oedd hi wedi feddwl am dano.
(x29) Mrs. Pari. - Wrth gwrs, ’dyw e ddim o musnes i, ond mi fuasai’n llawer gwell iddi feddwl am fyw na phorthi’i balchder.
Mrs. Jones.
- Tewch a son. Wedi cael y costiwm, roedd yn rhaid cael tôc o Lunden i’w matshio.
Mrs. Pari.
- Ond ’dyw hi’n benuchel.
Mrs. Jones.
- Yn ddiarhebol felly. Mi fydda i’n edrych arni yn y bore, wedi molchi a gwneyd i gwallt yn smart, dwn i ddim sut mae hi’n glanhau y ty^.
Mrs. Pari.
- Os ydi hi’n gneud.
Mrs. Jones.
- Iê, ran hynny, achos fum i rioed yno.
Mrs. Pari. - Sut y medrwch chi fynd i dy^ dynes sydd yn gneyd i gore i’ch cadw chi hyd braich. (Curo yn y drws.)
Mrs. Pari.
- Dowch i mewn.
Mrs. Howells.
- Y fi sydd yma
Mrs. Pari.
Sut y’ch chi Mrs. Jones? Peidiwch a symud.
Mrs. Pari.
- Dowch at y tân Mrs. Howells fach.
Mrs. Jones.
– Dyna i chi gadair, Mrs. Howells, rydw i ar gychwyn.
Mrs. Pari.
Steddwch yn eno diar Mrs. Jones, fuo lwc i chi ddwad.
(x30) Mrs. Howells. - Mae’n debyg bod chi wedi clywed am y’ngholled i?
(Mrs. Parry a Mrs. Jones). - Pa golled?
Mrs. Howells.
- Colli mhwrs a phum sofren ynddo.
Mrs. Pari.
- Peidiwch a dweyd!
Mrs. Jones.
- Dyn a’ch helpo.
Mrs. Howells.
- Iê’n wir, r’on i’n mynd i dalu y rhent a mi droiais i’r farchnad, ac mae’n rhaid mai yno y collais i nhw. Wnaiff eich mab holi yn eu cylch wrth fynd heibio y farchnad foru Mrs. Pari?
Mrs. Pari.
- Gwnaiff a chroeso.
Mrs. Howells.
- Ond dyna beth sydd wedi nghlwyfo i, clywed mai dyfeisio y stori wnes i wrth nad oedd y rhent ddim gen i.
Mrs. Pari.
- Ond ’dyw pobol yn ddrwg mewn difri.
Mrs. Jones.
– “Y drwg i hun a dybia arall.”
Mrs. Howells.
- Reit wir. Feddyliais i rioed am y fath beth. (Yn codi i fyned.) Os gwnewch chi ofyn i’ch mab, mi fyddai’n ddiolchgar i chi, Mrs. Pari.
Mrs. Pari.
- Peidiwch a mynd, nawr Mrs. Howells, steddwch dipyn. Mrs. Hmmlis. - Rhaid i mi fynd, rydw i wedi gadael y drws yn gored.

(x31) Mrs. Jones. - Rydw inne’n mynd hefyd. Roedd y teccell ar tân pan o’n i’n cychwyn.
Mrs. Pari.
- Brysiwch yma eto’ch dwy a peidiwch gadael i straeon pobol i’ch poeni chi, Mrs. Howells.
Mrs. Jones.
- Iê wir, gadwch nhw i fewn drwy un glust ac allan drwy’r llall.
Mrs. Howells.
- Dyna y ffordd oreu yn te. Nos da Mrs. Pari.
Mrs. Pari.
- Noswaith dda i chi’ch dwy. 

(7) YR YSGOL SABBOTHOL
DADL I DDAU.
John Jones.
- ’Roeddwn ar fy ffordd acw William Lloyd i ofyn i chi ddod yn aelod o’r Ysgol Sul.
William Lloyd.
- Dwy i’n hidio fawr am eich neges chi, John Jones.
John Jones.
- Peidiwch a dweyd peth fel ’na, rydw i’n mynd i ymweled â dau neu dri eraill ar yr un neges.
William Lloyd.
- Cymrwch gyngor gen i a pheidiwch mynd. Does dim yn cythruddo dyn yn fwy na gweld rhai yn ymyryd a’i fusnes.
John Jones.
- Peidiwch camgymeryd nawr. Un peth ydi meindio busnes dyn, peth arall ydi gwneyd yn ol yr ysgrythyr, annog ein gilydd i weithredoedd da.
William Lloyd.
- Ydych chi’n meddwl fod cymell dyn i ddod i’r Ysgol Sul yn weithred dda?
John Jones.
– Dyna’n union ydw i’n gredu.
William Lloyd. – Mae’n rhaid i mi ddweyd felly mod i’n anghyttuno â chi. I mi mae’r Ysgol (x33) Sul yn lle ardderchog i blant. Dyna marn i ond falle mod i ychydig o flaen fy oes yn hyn o beth.
John Jones.
- Ry’ch chi’n credu mewn dilyn siampl y Saeson.
William Lloyd.
- Iê, rhowch e fel yna os mynwch chi. Mi fum i mewn Ysgol Sul Seisnig, ac r’on i’n teimlo y gallem ni y Cymry fod ar ein mantais yn ddirfawr pe bae ni yn eu hefelychu.
John Jones.
- Mi fum innau hefyd yn aelod o Ysgol Sul Seisnig, ac fel arall yn hollol r’on i’n teimlo. Er ei holl ddiffygion mae Ysgol Sul y Cymry yn llawer nes i’w lle, ac mae cam nesaf y Saeson “ Pleasant Sunday Afternoon” yn cadarnhau hynna.
William Lloyd.
- Mae y “Pleasant Sunday Afternoon” yn gwneyd gwaith da, does dim amheuaeth.
John Jones.
- Mae’r Ysgol Sul yn gwneyd gwaith anhraethol well.
William Lloyd.
- Wrth gwrs, fel y dwedais o’r blaen, mae’n ardderchog i ieuenctid.
John Jones.
- Mae’r un mor ardderchogi i bobol mewn oed. Dowch yn ol iddi, a pheidiwch rhoi siampl ddrwg i’ch plant.
William Lloyd.
- Mi fydda i’n rhoi siars bob amser ar y plant i fynd iddi.

(x34) John Jones. - Tydi hynny ddim yn ddigon. Mewn esiampl mae grym ac nid mewn geiriau. Mae i’r plant weled eu rhieni yn aelodau o honni ac yn astudio’r un pethau a hwythau yn codi safon yr ysgol yn eu golwg ac yn profi iddynt fod yr addysg gyfrenir ynddi yn wahanol i bob addysg arall.
William Lloyd.
- Gwaith yr athraw ydi dangos hynna i’r plant.
John Jones.
- Iê, ond byddai yn amhosibl i’r athraw wneyd hynny, pe bae yr holl rieni yn cadw draw fel y chi. A pheth arall mae aelod cyson a diwyd o’r Ysgol Sabbothol yn well dyn ym mhob cyfeiriad. Mae nid yn unig yn well duwinydd ond yn well gwleidyddwr hefyd.
William Lloyd.
- Sut felly?
John Jones.
- Am ei fod wrth ei arfer ei
hunan i ddeall athrawiaethau y Beibl yn rhoi min ar ei feddwl a grym yn ei farn. Dyna i chi John Williams y Ddol, chafodd o fawr o addysg ond addysg yr Ysgol Sul, ac mae o fel y gwyddoch chi y dyn mwya gwerthfawr ar y cyngorau yma i gyd.
William Lloyd.
- Odi chi’n bychanu addysg fydol nawr?
John Jones.
- Dim o gwbl. Rhwydd hynt iddi. Ond pam ry’ch chi’n diystyrru yr addysg oreu?
(x35) William Lloyd. - Pell oddiwrthyf fyddo gwneyd hynny. A dweyd y gwir i chi, y rheswm i mi ddechreu cadw draw oedd athraw diog yn dwad i’r dosbarth heb barottoi.
John Jones.
- Trueni am hynny. Dowch yn ol, mae’n hawdd gwastadhau peth fel yna. ’Rydw i’n mynd nawr, wnewch chi addo dod?
William Lloyd.
- Mi addawaf roi ystyriaeth i’r i’r mater. Galwch acw prydnawn Sul.
John Jones.
- Mi wnaf yn siwr.
Nos da.
William Lloyd.
- Nos da.

(x36) (8) BREUDDWYDION.
DADL I DDAU.
(John yn darllen llyfr wrth y bwrdd. Curo yn y drws.)
John. - Dowch i’r ty^. (Harri yn agor ac yn dod i mewn.)
John.
– Ti sydd yna
Harri.
Dere mlaen. Stedda. Wyddost ti be fachgen, ’ron i’n breuddwydio am danat neithiwr.
Harri.
- Beth oeddet ti’n freuddwydio?
John.
- Dy wel’d ti’n cychwyn i’r Merica, ac yn wylo dagrau’n hidl fod yn rhaid i ti fyn’d.
Harri.
- Croes ydi breuddwyd.
John.
- Oes gen ti lyfr breuddwydion Harri, i ni gael gweled beth ydi ystyr breuddwyd fel ’na?
Harri.
- Nac oes, a pheth arall ’dwy i ddim yn credu mewn breuddwydion.
John.
– ’Rwyt ti’n wahanol iawn i mi. Mi fydda i’n rhoi cryn goel ar y mreuddwyd bob amser.
Harri.
– ’Does ryfedd dy fod ti’n greadur mor felancolaidd. Mi fuaswn inne mewn melancoli (x37) parhaus pe bawn i’n disgwyl i bob breuddwyd ddwad i ben.
John.
- Elli di siarad fel yna. Ond rydw i wedi gwel’d peth yn dwad o mreuddwyd i fwy nag unwaith. Ac os leici di mi rôf enghraipht neu ddwy i ti.
Harri.
- Na wir, paid. Wyddost ti be’, mae’n gas gan y nghalon i freuddwydion er pan fuo modryb Doli acw. Mi fydde honno yn eistedd bob boreu wrth i brecwast gyda ochenaid, a phawb yn crynu rhag ofn clywed i breuddwyd hi. Un noson ’roedd hi wedi gwel’d ei chwaer hyna yn priodi, a’r noson wed’yn wedi gwel’d ei chwaer arall yn waed o’i choryn i’w sawdl, a chyn pen wthnos, ’roedd hi wedi gwel’d y llall â nadroedd yn clymmu am dani. Wyddost ti be’, cyn iddi fod acw dair wthnos, ’roedd hi wedi’n gwneyd ni reit ddigalon. Ond pan ddôth hi i lawr ryw fore wedi ngwel’d inne’n grach i gyd, dechreuais gwyno wrth mam. “Rhaid i’r hen fenyw yna beidio breuddwydio am dana i,” medda fi.
John.
– ’Doedd gan y greadures ddim help bod hi’n breuddwydio.
Harri.
- Dyna ddwedodd hi’n ddigon pigog, pan gafodd hi hint gan mam, ond mi ddwedodd mam (x38) wrthi yn bur handi, “Mae gynoch chi help bod chi’n dweyd nhw,” a mi roddodd hynny dipyn o daw arni.
John.
- Fedra i ddweyd dim am hynna, ond mae’n rhaid i ti gofio fod son am freuddwydion yn y Beibl.
Harri.
- Oes, ond mi fydda i’n meddwl mai gweledigaethau yw breuddwydion y Bibl. Sylwa di mor daclus mae nhw, ond am dy freuddwydion, di a minne fydd pen na chynffon arnyn’ nhw. A pheth arall mae’r Beibl yn dweyd, “Byddwch lawen yn wastadol,” a sut medri di fod a rhyw skeleton o freuddwyd wrth d’ochr di ar hyd y dydd. Coelia fi mae nhw yn rhwystr i ti wneyd dy ore yn y byd yma.
John. - Mi fuse’n dda gen i allu gwel’d ’run fath a thi, ond mae’n rhaid i mi ddweyd pryd bynag y breuddwydia i am blentyn bach rydw i’n siwr o drwbl. A sut ’rwyt ti’n sponio’n bod ni’n medru cysgu ambell noson heb freuddwydio o gwbl?
Harri.
- Mi ddwedaf i ti. ’Rwyt ti’n myn’d i dy wely ambell noson wedi bwyta gormod o swper. Canlyniad: breuddwyd. ’Rwyt ti’n myn’d i dy wely noson arall wedi bwyta rhywbeth ’mheuthyn, canlyniad: ditto. ’Rwyt ti’n myn’d (x39) i dy wely noson arall, heb fod yn iach iawn. Canlyniad: breuddwydion heb fod yn iach ar hyd y nos. Ac wrth son am “Ar hyd y nos,” ddoi di i dy^ Wmphra i fyn’d dros rai o’r hen alawon?
John.
- O’r gore, oes gen ti gopi?
Harri.
- Oes, ddau.

(x40) OFERGOELION.
DADL i DDWY.
(Meri a Neli yn cyfarfod ar yr heol, Meri yn edrych i fyny pan ar gyrraedd Neli ac yn dweyd,)
Meri.
- Dwy fran ddu, lwc dda i mi.
Neli. – ’Does bosib bod chi’n coelio rhyw lol fel ’na?
Meri.
- Ydw.
Neli.
- Pa lwc all dwy frân ddwad i chi?
Meri.
- Dwn i ddim. Ond mi fydd gwel’d un yn fraw’ i mi.
Neli.
- Drychwch, dacw ddwy wennol. All y rhai acw ddwad a lwc i chi?
(Meri yn edrych i fyny ac yna yn taro ei dwylaw yn sydyn ar ei hwyneb.)
Neli.
- Beth ydi’r mater?
Meri.
- Dim ond y deru i mi wel’d y lleuad newydd am y tro cynta’ trwy gwmwl.
Neli.
- Beth fuasai’n digwydd pe buasech wedi ei gweled?
Meri.
- Mi fuaswn yn anlwcus am y mis.
Neli.
- Ydych chi’n credu hynna mewn difri?
(x41) Meri. - Ydw siwr, achos mi gwelais hi drwy gwmwl mis dwetha, a mi gollais y mhwrs.
Neli.
– Ond mi cawsoch e wed’yn?
Meri.
- Do.
Neli.
– ’Rwy’n synnu atoch chi Meri fod mor ofergoelus.
Meri.
– ’Dwy i ddim hanner mor ofergoelus a rhai pobol. Dyna i chi Katie, mi fydd yn rhaid iddi hi gael troi round unwaith neu ddwy, cyn edrych ar y lleuad newydd. A chymera Mrs. Huws ty^ nesa’ mo’r byd a’i gwel’d hi drwy’r ffenest.
Neli.
- Dier mi, mae’n syndod meddwl fod neb yn yr oes hon oleu yma mor ffol.
Meri.
- Y chi sy’n ffol, wnewch chi ddim credu ffortiwn cwpan tê na dim.
Neli.
– Na wnaf yn siwr. Pa reswm sydd mewn credu y gall deilen dê ddweyd wrthych beth sydd i ddigwydd yn y dyfodol?
Meri.
- Mi wn i am bobol grefyddol iawn sy’n credu mewn ffortiwn cwpan tê.
Neli.
- ’Rwyf yn methu gwel’d sut y gallent fod yn grefyddol, a myn’d yn groes i un o orchmynion yr Ysgrythyr: “Na ofelwch dros drannoeth.”
Meri.
- Mae ffortiwn cwpan tê weithiau, reit ddiniwed, pe i ddim ond cael tipyn o sport.

(x42) Neli. - Dyna lle’r ydych yn camgymeryd. Mae’n llawn perygl. Fel y gwelais sylw yn rhywle am y pechod o feddwdod, “Rhaid lladd y neidr yn yr wy,” felly gellir dweyd hefyd am y pechod yma.
Meri.
- ’Rydych yn cymeryd golwg rhy lym
arno.
Neli.
- Nac ydwyf, oblegid pechod arswydus ydyw fel y dadblyga. Fe ddwedir am y Ffrancod eu bod wedi ymroi i ymofyn âg oraclau ac i arfer dewiniaeth. ’Does ryfedd eu bod yn dirywio ac yn darfod. Mae eilunaddoliaeth wedi lladd cenedloedd cryfach cyn hyn.
Meri.
- Iê, ond mae digon o wahaniaeth rhwng ffortiwn cwpan tê a hynna, beth bynag, Neli.
Neli.
- Cymaint o wahaniaeth ag sydd rhwng y neidr yn yr wy, a’r neidr yn ddwy lath o hyd. Wrth feithrin y naill yr ydych yn cynyrchu y llall. A pheth arall Meri, welais i ’rioed lewyrch ar y merched hynny sydd a’u bryd ar gael eu ffortiwn.
Meri.
- Na finne chwaith ran hynny, er na ddaru mi ’rioed edrych
arno fel pechod o’r blaen.
Neli.
- Y rheswm am hynny mae’n debyg ydyw, am na ddaru chi ’rioed feddwl uwch ben y mater, ac wrth feddwl oes genych chi rhywbeth i ddweyd i gyfreithloni ofergoeliaeth?
(x43) Meri. - Nac oes, ddim.
Neli.
- O’r gore. Wnewch chi benderfynu dweyd yn erbyn oforgoelion bob cyfle gewch chi. Mi fydd mam yn dweyd fod i ni bobol y capel fod yn ddifater gyda phethau fel hyn yn rhoi “lle i’r gelyn gablu.”
Meri.
- Mae’ch mam yn bur agos i’w lle bob amser. Ydi hi’n ty^? ’roedd arnaf eisieu ei gwel’d.
Neli. - Odi, dowch draw ’nawr gyda mi.

 

(x44) (10) SERCH

DADL I DDAU.
Bob.
- Lle ’rwyt ti’n troi Die?
Dic.
- Ddim ond am dro bach.
Bob.
- Mae gen ti dei smart iawn.
Dic.
- Tei priodas Rhys y’nghefnder ydi hon.
Bob.
- Ydi Rhys wedi priodi?
Dic.
- Ydi, wyddet ti ddim?
Bob. - Na wyddwn i, pwy gafodd e?
Dic.
- Un o Sir Fffint ydi hi. ’Roedd hi’n hollol ddierth iddo flwyddyn yn ol.
Bob.
- Taw fachgen, gobeithio na fu o ddim yn rhy frysiog.
Dic.
– ’Dwy i ddim yn meddwl, mae nhw yn edrych yn hapus iawn.
Bob.
- Dywed ti fynost ti, peth rhyfedd ydi y priodi yma. Meddwl di ’nawr am Rhys yn mentro ei rwymo’i hunan am ’i oes a dynes gymharol ddierth. Fase ddim yn well ac yn fwy (x45) rhesymol, iddo briodi un o’r merched o gwmpas i gartre?
Dic.
- Tria gofio mai dewis gwraig ’roedd e ac nid howsgipar.
Bob.
- Oes eisieu bod yn afresymol wrth ddewis gwraig.
Dic.
- Ddim o gwbl.
Ond mi wyddost na wna rheswm ’i hunan mo’r tro wrth ddewis gwraig. Rhaid i serch gael rhan yn y gwaith, a rhan helaeth hefyd.
Bob.
- Serch ddywedaist ti? Odi bachgen call fel ti, ’rioed yn cario rhyw syniad hen ffasiwn fel ’na?
Dic.
- Hen ffasiwn. Mi fydd serch yn y byd hyd ddiwedd amser. Ond gyda llaw, beth ydi dy syniad di am serch?
Bob.
- Wel, rhywbeth gei di mewn nofelau. Rhywbeth yn bodoli mewn dychymyg yn unig.
Dic.
- Felly wir. Sut ’rwyt ti’n rhoi cyfri am wraig Rhys er enghraipht, yn gadael ’i theulu ac yn dewis mynd gyda Rhys i’r Merica i dreulio’i hoes.
Bob.
- Wedi codi arni am wr mae’n rhaid.
Dic.
- Dim o’r fath beth. ’Roedd hi’n cael faint fynir o gynygion.

(x46) Bob. - Wel, a chaniattau fod y fath beth a serch yn bod, un o fil o ferched sy’n cymryd ’i harwain ganddo. Mae nhw’n rhoi llawer mwy o bris ar dy gyflog a dy safle di.
Dic.
- Falle fod ambell un fel yna, ond serch garia’r dydd gyda’r mwyafrif.
Bob.
- Sut ’rwyt ti’n sbonio bechgyn a merched yn canlyn eu gilydd ac yn meddwl bod nhw’n caru’n angerddol, yn ffraeo, wed’yn, canlyn rhai eraill ac yn caru rheiny yr un mor angerddol?
Dic.
- Dwn i ddim os nad ydynt yn camgymeryd rhyw nwyd arall am serch.
Bob.
- Wel dyna’r nwyd sy’n myn’d heddyw.
Dic.
- Os felly, pam na wnai di dy gynyg dy hun i Miss Lloyd y Wig?

Bob. - Be’ ydi dy feddwl di dwed? Fedrwn i ddim byw am awr gyda hi.
Dic.
- Pam?

Bob. - ’Does dim fyno i a hi.
Dic.
- Wyt ti’n meddwi fod merched yn wahanol, ac yn gallu caru rhyw un os bydd yr amgylchiadau’n llewyrchus?
Bob.
- Mae’n nhw yn ddigon ffroenuchel wrthyf fi, beth bynag.

(x47) Dic. - Mi wn i am un sy’n dy leicio di.
Bob.
- Pwy yw hi?
Dic.
- Neli Watkins.
Bob.
- Sut gwyddost ti?
Dic.
- Mae hi wedi dweyd rhywbeth wrtho i sy’n dangos ffordd mae’r gwynt yn chwythu. ’Does dim ynddi hi chwaith, ond nac oes Bob?
Bob.
- Oes wir, mae hi’n anwyl iawn weldi.
Dic.
- Mae nhw’n dweyd na chaiff hi ’run ddime ar ol ’i thadcu.
Bob.
- Twt, be’ ydi arian, cael y sawl ’rwyt ti’n leicio ydi y peth. Be’ ddwedodd hi am dana i, Dic?
Dic.
- Tyr’d draw am dro, mi gei wybod.

·····

 

DIWEDD


DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

 

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ 

 

Cywiriadau: x17? x18? 22? 23? 24? 32?

 

Diweddariad diwethaf  03 08 2002 :: 2004-02-05

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

 (o ymwelwyr i Adran Cywaith Siôn Prÿs - testunau Cymraeg arlein - ers 1 Medi 2005)
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats