1350k Yr Adgyfodiad - Eben Fardd (Ebenezer Thomas 1802-63) bardd a beirniad, a aned ym mhlwyf Llanarmon, Gwynedd. Aelod o’r Methodistiaid Calfinaidd. Bu’n byw am y rhan fwyaf o’i oes yng Nghlynnog, Gwynedd, lle gweithiai fel athro ysgol a chwedyn fel groser.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_044_adgyfodiad_eben_fardd_1851_1350k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barrthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Yr Adgyfodiad
1851

Eben Fardd (= Ebenezer Thomas 1802-63)

 


(delw 4666)

 


·····



I’w hychwanegu: tudalennau

34 :: 35 :: 36 :: 37 :: 38 :: 39 :: 40 :: 41 :: 42 :: 43 :: 44 :: 45 :: 46 :: 47 :: 48 :: 49 :: 50 :: 51 :: 52 :: 53 :: 54 :: 55 :: 56 :: 57 :: 58 :: 59 :: 60 :: 61 :: 62 :: 63 :: 64 :: 65 :: 66 :: 67 :: 68 :: 69 :: 70 :: 71 :: 72 :: 73 :: 74 :: 75 :: 76 :: 77


 


·····

Eben Fardd (Ebenezer Thomas 1802-63) bardd a beirniad, a aned ym mhlwyf Llanarmon, Gwynedd. Aelod o’r Methodistiaid Calfinaidd. Bu’n byw am y rhan fwyaf o’i oes yng Nghlynnog, Gwynedd, lle gweithiai fel athro ysgol a chwedyn fel groser.

(x24)

YR ADGYFODIAD.
PRYDDEST, MEWN PUMP O LYFRAU,
GAN
EBENEZER THOMAS (EBEN FARDD), CLYNNOG.

(Y Traethodydd 1851 tudalennau 1? - 77)

“Cyfyd fal yd o fol âr,
Gnŵd tew eginhâd daear
A'r môr a yrr o'r meirwon,
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y dòn!" G. Owen.


CYNLLUN. - Yr Adgyfodiad yn cael ei olygu fel buddygoliaeth olaf Mab Duw ar
Satan.
ARWR. - Ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.
AMSER. - Cyfran o'r Dydd Olaf.
GOLYGFA. - Yr awyr - pyrth y nef - teml y Duwdod - Mynydd Duw – llŷs yr archangel - yn olaf ac arbenicaf, llanerch flodeuog wrth droed Mynydd Duw, wedi ei
hymylu â phalmwydd nefol a choed Pren y Bywyd, a’i hamgylchu â deildai angelaidd ar finion llynnau tryloewon, ac aberoedd dolenog o Ddwfr y Bywyd.
PEIRIANAETH. -Y Dychymyg ar edyn yr Awen, ac yn ngoleuni y Dadguddiad
Dwyfol, yn achub y blaen ar Amser i ddilyn y dychweliad o'r Adgyfodiad i'r nef, lle
ceir fod lliaws o ysbrydion perffeithiedig o fydoedd eraill wedi cyrhaedd yn ystod yr
Adgyfodiad Daearol, y rhai ydynt anhysbys o'i ryfeddodau mawreddig, ond y mae yr
awgrymau a gawsent am dano gan eu hengyl-weinyddion, golwg ar y dychweliad gorfoleddus o hono, ynghyd â gweled y dyddordeb cyffredinol a effeithia yr amgylchiad ar holl lu y nef, yn ennyn awydd ynddynt am gael darluniad cyflawn o'r weithred; eu hengyl-gymdeithion, yn deall eu dymuniad, ydynt yn negeseua gyda’r Archangel yn eu hachos, pryd y trefnir i gyfarfod cyffredinol gael ei gynnal, ac i sant o oes olaf y ddaear fod yn brif draethydd ar yr Adgyfodiad, ac i gael ei gynnorthwyo gan rai o’r engyl, &c. Y llefarwyr yn y cyfarfod hwn a ddesgrifiant yr holl weithred a'i chysylltiadau i’r newydd-ddyfodiaid.
MESUR. - Gorchan y Gyhydedd Hir yn foelawdl - nid yn ddïawdl.

LLYFR 1
Y CYNHWYSIAD.
YMORALWAD A'R AWEN. - Y testun, ynghyd âg ymsyniaeth ar ei fawreddusrwydd. – Erfyniad am gymhorth yr Ysbryd Dwyfol. - Rhagehediad y Dychymyg i nawn y dydd olaf – Parotöadau y Barnwr a'i osgordd ogoneddus i ddychwelyd i'r nef. - Y ddaear yn adfail anghyfannedd a llosg! - Satan a’i engyl, a’r damnedigion dynol, wedi eu bythgloi yn uffern! - Yr orymdaith fuddygol hyd byrth y nef, a defod y mynediad i mewn trwy'r pyrth, yn cael eu desgrifio. - Y Cyfryngwr yn cyflwyno ei briodasferch i’w Dad. - Yr amlygiad o'r boddlonrwydd Dwyfol. - Yr addoliad yn nheml y nef, a’r ymwasgariad dilynol. - Ysbrydion perffeithiedig o fydoedd eraill, y rhai a gyrhaeddasant i’r nef yn union yn ystod yr Adgyfodiad ar y ddaear, wedi clywed am orfawredd y weithred, gan eu hengyl-weinyddion, a gweled gogoniant y dychweliad gorfoleddus, ynghyd â’r argraff dyddorol a wnelsai yr amgylchiad ar bawb, yn amlygu eu hawydd am eglurhad a desgrifiad cyflawnach o’r unrhyw. – Negeseuaeth eu hengyl-weinyddion gyda’r archangel tuag at gael hyny iddynt. – Darluniad o lys yr archangel. – Cyfarfod yn cael ei benodi i draethu rhyfeddodau, trefn, a natur yr Adgyfodiad i’r ysbrydion newydd-ddyfodol. – Y lle, a’r amser, sef yr hyn oedd heb redeg allan o’r dydd olaf wrth gyffrif dyn. – Sant o oes olaf y ddaear yn cael ei benodi i fod yn brif lefarydd. – Ymadawiad yr engyl-weinyddion o’r llys i le y cyfarfod. – Desggrifiad o’r lle. – Dilynir hwy gan yr Angel-amserydd, ac Angel-udganydd, yr hwn trwy udgornfloedd seinber gynulla ynghyd y cyfarfod. – Galw y Gogoniant i arwyddo yr ymfoddhad Dwyfol yn yr amcan. – Mawr-addoliad y cyfarfod. – Galw y Sant-bywnewidiol ymlaen i draethu rhyfeddodau y dydd! &c. Desgrifiad o’i ddull. – Y newydd-ddyfodiaid yn gyfleuedig nesaf ato.

(x25)
O AWEN, adfywia! ymarfer egnïon,
Uwchlaw ymdrechiadau cyffredin marwolion;
Ti Gynneddf fythfywiol sy gan Dduw yn ngweddill,
I feirdd o hil Adda yn enaid i’w pennill,
Dod di yr eneiniad bereiddia fy sillau,
Dod uwchddynol dreiddiad a grym i’m syniadau.

Tydi ysbrydolaist batriarchiaid y cynfyd,
Ti ddysgaist i Enoch gerdd barn ac ailfywyd;
A Job amyneddgar hyfforddiaist i ganu,
Pan nad oedd un cyfaill a wnai ei ddyddanu,
Trwy dynu y gorchudd oddiar y golygiad,
Ac agoshau pellder y dynol adferiad;
Ti baraist i Ddafydd, y bardd mawr Hebrëaidd,
Hawdd-ddirnad dirgelion a’u canu yn beraidd,
A gweled y cyfnod pan darddai dynoliaeth
Mewn bythol wyrddlesni o ddyffryn marwolaeth:
Y bardd ieuanc, Daniel, chwaräes delyn Juda
Yn bêr dan dy nodded yn llwyni Caldea,
A thrwot ddëonglai freuddwydion breninoedd,
Ac ystyr awgrymau cyfriniol y nefoedd.
Ti olchaist y cèn oddiar lygad ei feddwl,
I weled treigliadau pell amser yn fanwl;
A chanfod dyfodiad y mŷg Hen Ddihenydd,
I’r farnol orseddfainc yr olaf foreuddydd;
A chanfod hil Adda o’r llwch yn dadebru,
A’r newydd-ddynoliaeth yn dechreu blaendarddu;
A dinystr hen oesoedd yn cael adgyweiriaeth,
Yn nhranc angeu’i hunan ddydd mawr y bywiolaeth

Mae’r testun arddunol mor uchel-fawreddig,
Pa syniad all gyrhaedd ei ranau arbenig?
Dechreuad teyrnasiad bywioldeb tragwyddol,
Ail-fywyd o feirw i’r holl epil ddynol; -

Cân, Awen! i’r Bywyd Duwddynol ei hunan,
Yr Hwn o’i nef-gysegr yn awr a dry allan,
Mewn canaid freninwisg fyrdd gwynach nag eira,
Fel haul ei wynebpryd, fel fflam dân y tremia!
Daw trwy y pyrth auraidd i’r dirfawr eangder,
Gosgorddion seraphaidd ddadblygant ei faner!
Cân! cân i’r milfiloedd o lachar gerubiaid,
Cân! cân i’r myrddfyrddiwn o engyl bendigaid,
A ffurfiant orymdaith trwy’r pell ëangderau,
I hebrwng yr Ynad i fro y cymylau,
Lle’r eistedd ei ddwyfol Fawrhydi ar gyhoedd,
Ar orsedd chwyfiannol ffurfafen y nefoedd;
Lle lleda ei frawdlys fel dinas wèn lachar,
A’i phelydr yn treiddio awyrgylch y ddaear.

Ond cân yn enwedig i’r wyrth anghymharol,
“Adgyfodiad y cnawd ar bywyd tragwyddol:”
Hynyna sy heddyw yn faich dy egnïon,
Eanga i’r eithaf fy holl amgyffredion!

(x26)

Rhy fawr a rhy uchel i ti ac i minnau,
Yw’r testun, mi ofnaf, i’w drafod yn oleu,
Heb Ysbryd y Bywyd i’m harwain, beth bynag,
O! Ddwyfol Fywiawdwr! dod im’ oleufynag!
Ti wyddost yn berffaith y diwedd o’r dechrau,
Bywheaist Di dryblith yr holl ëangderau;
Adfywio adfeilion Anianau trancedig,
Nid ydyw i Ti ond rhyw orchwyl sathredig:
Cynnyrchaist fyrdd myrddiwn o Adgyfodiadau,
Fe allai, yn mydoedd gwahanol wybrenau,
Pan lwyr doddai Amser rhyw belen neillduol,
Yn ddefnyn cydgymysg a’r môr mawr tragwyddol;
Pan lyncid gan fywyd ryw barthol farwoldeb,
Pan drawsffurfid defnydd i dêr ysbrydoldeb.

O! dysg fi, O! dysg fi, Fawreddus Greawdydd!
Nid rhaglith yw ’ngweddi at ffurf y Gân Newydd,
Nid ffurfiol ddynwared rhai’n galw ar dduw benthyg,
A grëai paganfeirdd yn ngwyll eu dychymyg:
Na! mynwn, O Dduwdod! it’ dreiddio fy anian,
Eangu fy enaid i’th gynnwys dy Hunan,
Ac iro fy llygaid â Dwyfol elïon,
I weled a dirnad bywhâd daearolion,
I weled y belen oblygol yn angau,
Yn prysur roi allan ei myrdd cenedlaethau:
“Y pridd roed i’r pridd, a’r lludw i’r lludw,”
Yn derbyn ymadferth, ac Angeu yn marw!
O! dyna brif-destun, pa raid wrth un eilwaith?
Mae’n ddechreu - a diwedd gwyrth Amser a’i heffaith!

Yr Awen a’m cluda i gyfnod dyfodol,
Sef nawn bythsefydliad materion daearol,
Y pryd y try’r Ynad a’i saint a’i angelion,
O frawdle yr wybren i’r mŷg oruchafion,
I brydferth hedd-lwyni y wynfa dragwyddol,
Yn berffaith orchfygwr nerth angeu a diafol.
Ar edyn yr Awen ennillaf ar Amser,
A dygaf i f’ymyl o anhysbys bellder
Ddychweliad buddygol Mab Duw a’i anwylion
Y dydd rifir olaf ar ddeial plant dynion!

Y farn a aeth drosodd! Plant Adda ddidolwyd,
Rhai drwg gyda Satan a’i engyl gadwynwyd,
Rhai da a ddyrchafwyd o domen y ddaear,
I fysg y minteioedd seraphaidd a hawddgar,
Mewn purdeb cyfaddas yw rhestru yn ymyl
Cerubiaid difrychau, a dihalog engyl:
Oll, oll, yn gyffelyb i Fab Duw ei hunan
A’u gwisg yn gyfiawnder o fewn ac odd allan.

Un drem ymadawol belydrant i wared,
Ar ludw’r cydlosgiad daearol cyn myned;
Ac wele y cyfan yn bentwr o ulw,
Llosgfalau llesmeiriol sy yma ac acw!
(x27) Elfenau y dinystr yn ffrwydro’n ddychrynllyd
Yn nghelloedd marworog adfeilion daearfyd!
Pyrth annwfn a gauwyd yn d’yn, anagorol,
A rhygniad arswydus y bolltau tragwyddol
Trwy ingol deimladau preswylwyr y dalaith!
Yr archddiafl hylldremiai yn mwrllwch Gehenna,
A’i lengoedd cythreulig gyd-syrthient i’r danchwa.
Egwyddor anghydnaws ei ddieflig lywodraeth,
Yw cydwrthdarawiad o bob afreolaeth;
Ei drosedd oedd teyrnfrad ysgeler a damniol,
A’i gosb yw teyrnasu ar deyrnfrad dragwyddo
Un sedd yn ngwrth arall mewn ciprys diddarfod,
Yn ysu gan angerdd poeth wŷn ac anghydfod,
Gan gadw sedd Satan ar sigl yn oes oesoedd,
Ac eto’n ei chynnal trwy wrthrym en trinoedd
Nes felly mae pryder a nwydau gelynol
Y fall, yn bythenyn dïaledd parhaol!

Yn gymysg â’r giwdawd angelig sy yma,
I lawr bendramwnwgl aeth rhan o hil Adda!
Cynnifer o honynt fu’n ceisio dadymchwel
Llywodraeth Jehofah trwy’r unrhyw wrthryfel;
Ac yn nhiriogaethau y tân ar pryf oesol,
Ni dderfydd trengiasau’r farwolaeth dragwyddol!
Eu Duw a felldithiant, edrychant i fynu;
Ond cwmwl digofaint yn wybren y fagddu
Dry’n ol melldithion ar uffern ei hunan,
Yn fythol gawodydd o dân ac o frwmstan.
Mewn maglau ennynol, y diafl a’i angelion,
Ynghyd â gwrthnysig annedwydd ddynolion,
A geisiant ddïengyd, ond try i’r gwrthwyneb,
Ymhyrddiant heb dycio am faith dragwyddoldeb,
Mae’r “wàl fawr ddiadlam” gylch ogylch Gehenna,
Ag arni’r fflam-argraff “Ni ddaw neb oddiyma!”

Yn awr wele’r Barnwr a’r llys gorfoleddus,
A’r fintai ddifrychau yn ysgog yn drefnus;
Ymrestrant ar daenlawr o nwy uwchawyrol,
Er esgyn i’r afrif gerbydau buddygol,
I gyflym olwyno dros rodau’r ëangder,
Hyd ddorau pyrth dysglaer y nefol uchelder.
Yr Ynad gan wisgo ei dalaith freninol,
A ferchyg ei gerbyd o wawl yn y canol;
Oddiwrth y gogoniant a ddysglaer belydra
Adlewyrch ysblenydd a deifl y wèn dyrfa,
Fel na raid wrth heulwen na llusern wybrenol;
Y Dwyfol Benadur rydd wawr mwy tanbeidiol.
A sylwaf o amgylch fod bydoedd-ysblenydd,
Yn ngoleu i’r orymdaith yn colli’u lleuferydd
Trybelid a llachar ledaena y gloewder,
Yn oleu hydreiddiol trwy’r dirfawr ëangder;

(x28) A gwelir claer heiliau trwy’r cyfrwng arddunol,
Fel gynt y canfyddid o’r belen ddaearol;
Y lloer yn llwydwelw yn ngoleu yr heulwen,
Mewn encil unigol ar lethrau yr wybren;
Un modd y byd-lampau tanbeidiol eu lluched,
Ddywelwent yn nhanlliw yr osgordd ogoned.

Seraphiaid, cerubiaid, angelion a seintiau,
Yn awr gydgyweiriant eu heuraidd delynau,
A dwyfol beroriaeth yr hynt orfoleddus,
Sy’n bêr annhraethadwy, a thyner soniarus,
Y sŵn dolysteiniol a gwympa i’r wybyr,
Gan greu ymdòniadau trwy’r teneu uchawyr,
Y rhai a ymledant i’r pell ëangderau,
Nes gwneyd y bydysawd yn syniol o’r corau
Sy’n chwareu gogoniant i’r Llywydd buddygol,
Ddug anllygredigaeth o’r adfail ddaearol!

Ond wele’n y pellder fynyddau ban Gwynfa,
Amgaerau a thyrau prif-ddinas Jehofa;
Ac ar uchelfanau yr oror dragwyddol,
Ac yma ac acw o fryn i fryn oesol,
Y gwelir minteioedd o engyl claerwynion,
Yn prysur adeinio i’r tyrau tryloewon;
Yn awr newydd ganfod yr edmyg ddychweliad
O’r belen ddaearol ac o’r Adgyfodiad.


Y boreu buasai rhyw nifer o honynt,
Yn mrawdlys y cwmwl a’r holl ddynol helynt,
Ond yn y cyfamser mewn bydoedd pellenig,
Ysbrydion fyrdd ddeuent yn llawn-berffeithiedig,
A hwythau anfonid o waith y ddaearen,
I weini’r rhai hyny mewn rhyw bell, bell wybren;
A’u hebrwng i wynfa tros dryblith anhygyrch,
Rhag colli eu llwybrau rhwng rhodau yr entyrch,
Ac ar eu disgyniad ar fanau paradwys,
Ynghyd â’r ysbrydion ddygasent i orphwys,
Hwy gawsant y nefoedd yn wag, mewn cymhariaeth,
Myrdd myrddiwn y cwmwl heb dd’od o’n gorchwyliaeth.

Rhai eraill o’r engyl yn gynnar a droisent
O awyr y ddaear, lle’r boreu buasent,
Er mwyn gwneyd yn barod yr arlwy a’r croesaw
I’r dorf waredigol, glân lu y ddeheulaw;
Y rhai hyn hedasent i’r trumau tragwyddol.
A’u trem trwy ororau’r ëangder anfeidrol,
I edrych am herodr y fintai organaid,
A chwyfiad y faner fuddygol fendigaid,
Yr hon a chwareuai yn ngorwel nef lachar
Fel gynt y gogleddwawl yn wybren y ddaear,
Nes oedd ei thòniadau yn hytrach sirioli
Dysglaerdeb perffeithglaer y Dwyfol Oleuni!
Yr eiliad y gwelsant yr arwydd pelydraidd,
I lawr â’r holl nefoedd i’r tyrau grisialaidd,
(x29) A’r cannaid borthorion, bob un yn ei gyfle,
Yn derbyn y dorf orfoleddus oll adre’.

Yn awr weler brydferth orymdaith yn sefyll,
Wrth byrth ëang gwynfa’n glaerwynion eu mentyll;
Ac wele yr herodr mewn sillau grasusol,
Yn traethu ’i gyfarchiad, gan leisio’n berorol,
Yn eglur a chroew fel cydgor y tànau,
Chwareuid ar unwaith mewn myrdd o delynau;
Disgynai’i acenion ar fryniau paradwys,
A’r adsain a’u pynciai trwy’r glynoedd mirieinlwys,
Nes graddol ddiflanu o’r sŵn pêr, mawreddig,
Fel sïad dystawol olafnod mewn miwsig: -
“O byrth,” medd yr herodr, “dyrchefwch eich penau!
Ac ëang agorwch, dragwyddol brif-ddrysau!
A daw i mewn trwoch mewn uchel urdduniant,
Y Dwyfol Orchfygwr, sef BRENIN GOGONIANT!”-

 

Oddiar yr amgaerau nef-wyliwr a lefai,
“Pwy ydyw y Brenin Gogoniant?” gofynai.
Yr herodr atebai mewn adsain berdreiddiol, -
“Efe yw yr Arglwydd sydd gadarn a nerthol,
Yr Arglwydd sydd nerthol a chadarn mewn rhyfel,
Efe yw yr Arglwydd a’r Brenin Goruchel!
O byrth ymëangwch! dyrchefwch eich penau!
A llawn ymagorwch dragwyddol brif-ddrysau!
A daw i mewn trwoch mewn prydferth urdduniant
Y Dwyfol Orchfygwr, sef Brenin Gogoniant!”-

Drachefn o’r holl amgaer perorai yr holiant -
“Pwy ydyw? Pwy ydyw y Brenin Gogoniant?”

Nid herwydd na wyddid pwy oedd y Tywysog,
Nesasai i’r ddinas yn Gerub Eneiniog;
Ond dyma ffurf ddwyfol glân gorau y nefoedd,

I byncio ei foliant yr awrhon ar gyhoedd.
Y ddysglaer orymdaith fynychai’r atebiad,
Fel nerthol lifeiriant mewn perffaith gydseiniad,

Cerddorai nes siglo’r tragwyddol nef-amgant -
“Cryf Arglwydd y Lluoedd yw’r Brenin-Gogoniant!”

Ar hyn i mewn elai y dorf orfoleddus,
Gan chwareu peroriaeth annhraethol soniarus;
Holl wynfa ddadseiniai yr anthem o foliant, -
“Cryf Arglwydd y Lluoedd yw’r Brenin-Gogoniant!”

 

Nesäi y Cyfryngwr i’r ofnadwy Wyddfod,

I bur deml Jehofa, ar Fynydd y Duwdod!
Cyflwynai ei deg briodasferch ddifrychau,
Gan wedyd – “O Dad, wele’r teulu a Minnau,
Y rhai i Mi roddaist, a gedwais yn d’Enw

Er byd, cnawd, a diafol, - byw ydynt er marw!”

Y LLAIS annarluniol o gysegr Jehofa,
Berorai i foddlonrwydd drwy holl awyr gwynfa;
Byw-dreiddiai’r pereiddlais yn dangnef a gwynfyd,
Trwy ddedwydd fynwesau meib hoenus y bywyd:
(x30) Chwareuai pelydrau y cariad tragwyddol,
Yn nydd claer paradwys fel arwydd boddhaol
O lwyr ymhyfrydiad y Dwyfol Mawrhydi,
Yn llawn ogoneddiad holl blant y goleuni.

Yn awr y myrdd-fyrddiwn o saint ac angelion,
Cerubiaid, seraphiaid; a’r holl wynfaolion,
Gan guddio’u hwynebau addolent yn arab
Y Tri-un Jehofa’n Mherson y Cynfab.
Mewn sanctaidd orchwyledd hwy dalent warogaeth
A pherffaith anrhydedd i’r anfarwol Benaeth,

Gan wedyd, “Sanct! Sanct! Sanct! Arglwydd Dduw’r Lluoedd,
Llawn, llawn o’th ogoniant yw daear a nefoedd!
Tydi ydwyt deilwng i dderbyn anrhydedd,
A gallu, a moliant tragwyddol, a mawredd.”


Yr “Amen” cydganol ar ddiwedd yr anthem,
Ohiriol fynychai holl gorau Caersalem;
Ysbrydion gwaredol rhyw filfil o fydoedd,
O enau pencerddiaid cynhenid y nefoedd,
A gipient yr acen, ac oll yn mhriod-ddull
Eu bydoedd gwahanol, ac eto yn unddull,
A byncient “Amenau” mewn cywrain beroriaeth,
A’r holl amrywseiniau trwy bob nefol dalaeth,
Gan hedeg yn gyflym ar edyn yr adsain,
Wnaent nef a’i phreswylwyr yn un bêr arwyrain,
Fel un miwsig perffaith a ddeilliai o seiniau
Rhyw lïaws aneirif o bêr offerynau.

Ar hyn ymwasgarai afriflu’r gogoniant,
I wledda ar burlan a dihysbydd fwyniant,
I droi tudalenau gweithredoedd y Duwdod,
Er cael darganfyddion, yn gyfres ddiddarfod,
O ras a mawrhydi yr Hanfod gyfriniol,
Sy’n burdeb, daioni, a chariad tragwyddol.

Parhau yr oedd mawrwaith dydd olaf marwoldeb,
I dynu eu sylw, cyffröi eu dyddordeb;
Yr argraff roddasai golygfa y diwrnod
Oedd annileadwy ddelweddiad o syndod,
A threiddio fel trydan wnai’r gair “Adgyfodiad”
O enau i enau, o deimlad i deimlad!

Wrth glywed yr ymsôn yn troi, môr dra hyfryd,
Yn benaf dyddordeb cyfundeb y bywyd,
Y newydd-ddyfodiaid o’r holl fydoedd eraill,
Amlygent eu hawydd, bawb i’w angel-gyfaill, 
Am wybod manylach hysbysrwydd o’r weithred:
Edrychai’n berffeithiad daearol waredred:
Tra ar eu ehediad y dydd mawr arbenig,
Trwy ddisathr ororau wybrenau pellenig,
Hwy gawsent aml awgrym o’r hyn oedd yn dygwydd
Yn naear plant dynion trwy nerthoedd yr Arglwydd;
A ffraeth fynegiadau eu hengyl-weinyddion,
A synent yn ddirfawr yr wybrol forddolion;
(x31) Ac ar eu disgyniad ar fryniau paradwys,
O’r braidd yr ardremient trwy’r meithder eglurlwys,
Na welent y faner Gyfryngol yn chwyfio
Yn ngorwel y nefoedd, gan fywiog ymdònio,
Pan, ar yr un eiliad, cyferchid eu clustiau,
Ag adsain ymchwelog buddygol ganiadau,
Yn cyhoedd ddynesu i byrth tragwyddoldeb,
O anghladd Marwolaeth, ddydd geni Bywioldeb.
Ond cyflym olyniad prif ffeithiau mòr fawrion,
A phrysur a pharthol awgrymau’r angelion,
Tra’n gwneyd eu syniadau – o’r unrhyw yn ddyrys,
Oedd eto’n creu awydd am fod yn fwy hysbys;

Oblegid rhaid deall fod nefol berffeithiad,
Ar gynnydd tragwyddol mewn byth-ragfynediad,
Ac er eu perfeithio yn ngraddfa’r is-fydoedd,

Nid oeddynt ond dechreu ymagor i’r nefoedd.

Yr engyl-weinyddion, gan gyflym rag-ddirnad
Eu mewnol orawydd, a’u haiddgar ddymuniad,
Ar frys anfonasant urddasol ddirprwyaeth
I lys yr archangel, er rhoddi hysbysiaeth
O sanctaidd awyddfryd pob newydd-ddyfodiad,
I gael hanes fanol o drefn Adgyfodiad.


Ehedfa y dirprwy yn fellt-frysiol ydoedd,
I brif borth grisialaidd penswyddog y nefoedd,
I’r cerub-borthorion mynegent eu gofyn,
Ac wele’r aurddorau yn agor i’w derbyn:
A’r dirprwy hebryngid gan seraph-weinyddion,
I’r wyddfod-ystafell ëangfawr gysurlon,
Lle, ar sedd ogoned eisteddai’r archangel,
Braidd newydd roi heibio’i lathr udgorn bloedd-uchel!
Trwy’r llŷs yr oedd sereiph yn cyflym gynniwair,
A mynych ddiferai o bob gwefus ddysglair
Y gair ADGYFODIAD – a’u trem addoliadol
Yn dangos cyffröad a syndod effeithiol;
Yr edmyg sylweddau ysgogent mor ysgawn
A phe eu llunesid o dyner nefolwawn,

Fel nènol, deneulun, sidanog gymylau,

Gynt chwyfient yn awyr y têr arwybrenau;
O’u llygaid caruaidd pelydrai gŵyl awydd
I wybod negesaeth eu dirprwy-garenydd,
Yr hyn a dueddai i eiliad o osteg
Trwy ëang gynteddoedd y priflys cywreindeg;
Oddieithr bod yn meithder y neuadd fawr helaeth
Ryw dant heb lwyr orphen ei hunan-chwareuaeth,
Yn dàl oediog adsain mewn araf ddystawiad
Ar sŵn y sill olaf o’r gair Adgyfodiad.


Yn awr gyda gwênau a edwyn nefolion,
Yr angel-dywysog bengrymai wahoddion
I’r dirprwy ddynesu, a thraethu’r dymuniad
Arwyddai eu haiddgar ddeisyfol ddyfodiad.

(x32).
Ar hyn eu llefarydd gyfarchai’r llŷs uchel;
A dyma’i serch-ddeiseb: - “ O! gànaid archangel!
Mae’r newydd-ddyfodiaid o’r bydoedd cylchynol,
Wrth glywed am wyrthiau y belen ddaearol,
Yn chwennych cael manol a chyflawn ddarluniad
O olygfeydd rhyfedd y dynol adferiad;
Mae’u mawl a’u haddoliad yn aros y testyn,
Er rhoddi gogoniant mwy perffaith i’r Duw-ddyn!
Am hyny rhyglydded i’th f’yg archawdurdod
Benodi areithwyr, a lle i gyfarfod,
Er adgynnrychioli, trwy nefol hyawdledd,
I’r newydd-ddyfodiaid brif ffeithiau yr ADWEDD.”


Atebai’r archangel mewn geiriau grasusol-
Fy mrodyr angelaidd! mae’r cais mor foddhaol,
Yn wir, fel y teimlaf awyddfryd yn ennyn
I brysur gyflawni y peth y’ch yn ofyn; -
Gan hyny cynnalier prif gwrdd cyffredinol,
I’r hwn ymgynnulled o’r bell lwythau nefol,
Yn sereiph, cerubiaid, angelion, a dynion,
Ynghyd â’r holl newydd-berffeithiol ysbrydion,
Cynnifer ag ydynt yn rhydd ac awyddus,
I gyrhaedd adolwg o’r wyrth ogoneddus. –

Sefyllfod y purlan gynnulliad fo’n gymhwys
Ar fin dwfr y bywyd, gar deildai paradwys,
Ac yno boed rhyddid i ofyn ac ateb,
Gan bob aelod dysglaer o’r nefol gyfundeb.
Y penaf lefarydd fo sant o’r hil ddynol,
O oes olaf daear – o’r tô bywnewidiol; -
A’r angel-gyfrifydd fun gwylio treigl amser,
A ddeil ei ddydd-wydryn goroesol ar gyfer; -
Yr angel fu’r boreu â’i safiad urddasol
Ar dir a môr llydan y byd diofrydol,
A’i lais yn diaspad trwy’r llawr ar uchelder,
Gan groew fanllefain – “Ni bydd mwyach amser!”
Y naill droed ar sychdir ar llall ar fôr ëang,
Oedd ddirgel arwyddlun cyfriniol mewn ymsang,
O ryfedd derfyniad y cyfnod cromfachol,
A alwyd yn Amser ynglŷn â’r hil ddynol;
Un pen o’r olafddydd oedd ar dir meidroldeb,
A’r llall sy’n ymestyn i fôr tragwyddoldeb:-
Yr angel rybuddiodd fel byn yn y boreu,
A ddwg i’r cynnulliad ei ddydd-wydryn goleu,
Yr hwn a rêd eto ychydig yn chwaneg,
I drin pwnc y ddaear - defnyddier yr adeg;
Ac wedi diferiad yr olaf dywodyn,
Ar ddidranc gyfandir y parhâd diderfyn,
Cymysger y testun â’r holl ryfeddodau,
Ofynant chwareuad y nefol delynau,
Er dedwydd berori gogoniant tragwyddol,
Yr Hanfod Oruchaf, y Triundod dwyfol.

 

(x33)

Pan dawai’r penadur, pelydrai boddlonrwydd
Trwy’r meithion gynteddau o olwg yr Arglwydd;
Ac mal y tanbeidiai y Dwyfol ddysgleirdeb,
Pob angel addolai dàn guddio ei wyneb;
Ac yna cyffyrddent â’u mil-fyrdd o dànau,
Er anfon i’r orsedd ryw dòn o fawlseiniau. –


Ymgrymai y dirprwy, a gŵyl ymneillduent,
A rhai o weinyddion y llŷs a’u a’u dilynent,
A dygai un gydag ef udgorn perseiniol
I alw’r cynnulliad i’r llanerch benodol,
A’r llall a gymerai ddydd-wydryn y ddaear,
A’i amser-weddillyn oedd eto heb wasgar;
Ynghyd ehedasant; nid oes amser-raniad
A ddengys gyflymrwydd yr angel-ehediad;
Ac ar lanerch ëang, wrth droed y Bryn Dwyfol,
Lle saif yr ysblenydd orseddfainc dragwyddol,
Ar daenlawr llysieuog, bythwyrddlas, a hyfryd,
Ymylwyd â phalmwydd a choed Pren y Bywyd,
Lle cerdd y dwfr bywiol yn ffrydiau tryloewon,
Ar berlog raianlawr rhwng hedd-lwyni ffrwythlon,
Lle’r ymsercha engyl yn neildai anniflant,
Dàn hauldês cariadbair y Dwyfol ogoniant,
Honyma yw’r llanerch, lle prysur udganwyd
I alw’r cynnulliad y modd y penodwyd.


Ar chwythad yr udgorn y lluoedd ymgasglent,
A’r dirprwy angelaidd y dyben fynegent,
Awgrymiad y cynllun oddiwrth aidd bendigaid,
A sanctaidd chwilfrydedd y newydd-ddyfodiaid,
Y fywiog negesaeth yn llŷs yr archangel,
Ac mal y rhyglyddodd i’r Duwdod eu harddel,
Y modd y trefnasai y llysol awdurdod,
Am relyw’r olafddydd yn hyd y cyfarfod,
Ac i’r prif-lefarydd fod o’r dosbarth dynol,
O olaf âl daear, sef sant bywnewidiol:


Hyn oll a fynegai y dirprwy-lefarydd,
Mewn seinber hyawdledd i’r llïaws ysblenydd,
“Gan hyny, nefolion!” chwanegai’r dirprwyad,
“Os cymeradwywch, cynnygiaf fod galwad,
I Sant bywneidiol, o freiniol hil Adda,
Ddarlunio i’r newydd-ddyfodiaid sy yma
Y mawr ogoneddus, aruthrol amgylchiad,
Ddynoda ymadrodd drwy’r gair ADGYFODIAD.”


Ar hyn y Shecinah, mewn dirfawr ysblander,
Chwareuai’n foddhaol a bywiog ar gyfer;
A hyfryd bêr awel oddiwrth yr orseddfainc,
Led-wyrai dalfrigau y palmwydd ireiddgainc,
Mewn dull o ymgrymiad i’r mŷg bresennoldeb,
A wnai y nef ddysglaer yn fwy ei dysgleirdeb!


Yn nedwydd fwynderau y Dwyfol amlygiad,
Y dyrfa lïosog gyflwynai addoliad;

(x33) Eu pêr Haleluiau arllwysai y lluoedd
I’r Hanfod Raslonaf sy’n byw yn oesoesoedd;
A thra’r oedd yr awel ar adsain yn pyncio
Y mawl-air bendigaid - daeth galwad ddiymdro,
I’r sant o oes olaf y losg-belen isod,
Ddwyn allan ei draethiad ar fawrwyrth y diwrnod.


Ar hyny dynesai, mewn gwisg laes a chlaerwen,
A safai yn llednais, fel prif-athro trylen,
Ar uchlawr blodeuog - pelydrai ei lygaid

Ar dyrfa awyddus y newydd-ddyfodiaid,

Y rhai gyfleasid, trwy ffafr y llu nefol,

Y nesaf i’r hwyawdl lefarydd daearol.

 

LLYFR II.

Y CYNNWYSIAD.

Y Sant bywneidiol yn agor ei gyfarchiad; ond cyn myned rhagddo nemawr, yn amlygu ei awydd am i un o’r engyl cyntefig ddangos pa fodd y buasai o’r dechreuad rhwng Mab Duw a Satan, yr hyn a wnelai weithred yr adgyfodiad yn eglurach. - Yr angel yn dyfod ymlaen – desgrifiad o hono. - Dechreua drwy amlygu y gwahanaieth rhwng coronau y tywysogion nefol a choron Jehofa! – Yna crybwylla am y gwrthryfel satanaidd yn y nef. - Desgrifiad o’r parotoadau milwrol at ei ddarostwng. - Y gad yn cyfarfod. – Satan wedi ei gynddeiriogi trwy y rhwygiad a wnelai y fyddin deyrngarol yn ei restrau, yn defnyddio gwlybyr halogedig a dynasai o awyrgylch lygredig el dalaeth, i wenwyno y saethau - syfrdandod y fyddin deyrngarol mewn canlyniad - ei henciliad o flaen Satan a’i fyddin tua’r brif ddinas nefol. - Y Tad yn anfon y Mab i’r frwydr - yntau yn marchogaeth ar baladr o’r gwawl nefol yn erbyn Satan - ac â tharanfollt hollalluog yn ei ddymchwelyd ef a’i fyddin, gan eu chwyrndaflu hyd attyniad annwfn, lle y disgynent i ddinystr.

I’w hychwanegu: tudalennau

34 :: 35 :: 36 :: 37 :: 38 :: 39 :: 40 :: 41 :: 42 :: 43 :: 44 :: 45 :: 46 :: 47 :: 48 :: 49 :: 50 :: 51 :: 52 :: 53 :: 54 :: 55 :: 56 :: 57 :: 58 :: 59 :: 60 :: 61 :: 62 :: 63 :: 64 :: 65 :: 66 :: 67 :: 68 :: 69 :: 70 :: 71 :: 72 :: 73 :: 74 :: 75 :: 76 :: 77

 

DIWEDD


 


DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

 

 

sumbolau arbenning: ŵ ŷ

Adolygiadau diweddaraf:  10 07 2002


Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats