1351k Hunan-Gymhorth. Samuel Smiles. Cyfieithiedig gan J. GWRHYD LEWIS. (1898). “Mae’r Nefoedd yn cynorthwyo’r rhai hynny a gynorthwyant eu hunain.” Dyma hen ddywediad sydd wedi ei wireddu drwy’r oesau, ac yn cynwys mewn cylch bychan doraeth helaeth o brofiad dynol.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_045_hunan_gymhorth_01_1898_1351k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Hunan-Gymhorth
Samuel Smiles.

Cyfiethiedig gan J. GWRHYD LEWIS. (1898)

 


 (delwedd 4666)

 

 

Yr ydym wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg.


Yr ydym wedi rhoi llythyren x o flaen pob rhif tudalen o’r gwaith gwreiddiol. Yn y modd hwn y gellir cael hyd i’r tudalen priodol â’r teclyn chwilio: x223 (= tudalen 223)
·····

AR Y GWEILL GENNYM

Ma’e tudalennau a farciwyd â melwn wedi eu cynnwys. Nid yw’r lleill wedi eu sganio eto.

01 :: 02 :: 03 :: 04 :: 05 :: 06 :: 07 :: 08 :: 09 :: 10 :: 11 :: 12 :: 13 :: 14 :: 15 :: 16 :: 17 :: 18 :: 19 :: 20 :: 21 :: 22 :: 23 :: 24 :: 25 :: 26 :: 27 :: 28 :: 29 :: 30 :: 31 :: 32 :: 33 :: 34 :: 35 :: 36 :: 37 :: 38 :: 39 :: 40 :: 41 :: 42 :: 43 :: 44 :: 45 :: 46 :: 47 :: 48 :: 49 :: 50 :: 51 :: 52 :: 53 :: 54 :: 55 :: 56 :: 57 :: 58 :: 59 :: 60 :: 61 :: 62 :: 63 :: 64 :: 65 :: 66 :: 67 :: 68 :: 69 :: 70 :: 71 :: 72 :: 73 :: 74 :: 75 :: 76 :: 77 :: 78 :: 79 :: 80 :: 81 :: 82 :: 83 :: 84 :: 85 :: 86 :: 87 :: 88 :: 89 :: 90 :: 91 :: 92 :: 93 :: 94 :: 95 :: 96 :: 97 :: 98 :: 99 :: 100 :: 101 :: 102 :: 103 :: 104 :: 105 :: 106 :: 107 :: 108 :: 109 :: 110 :: 111 :: 112 :: 113 :: 114 :: 115 :: 116 :: 117 :: 118 :: 119 :: 120 :: 121 :: 122 :: 123 :: 124 :: 125 :: 126 :: 127 :: 128 :: 129 :: 130 :: 131 :: 132 :: 133 :: 134 :: 135 :: 136 :: 137 :: 138 :: 139 :: 140 :: 141 :: 142 :: 143 :: 144 :: 145 :: 146 :: 147 :: 148 :: 149 :: 150 :: 151 :: 152 :: 153 :: 154 :: 155 :: 156 :: 157 :: 158 :: 159 :: 160 :: 161 :: 162 :: 163 :: 164 :: 165 :: 166 :: 167 :: 168 :: 169 :: 170 :: 171 :: 172 :: 173 :: 174 :: 175 :: 176 :: 177 :: 178 :: 179 :: 180 :: 181 :: 182 :: 183 :: 184 :: 185 :: 186 :: 187 :: 188 :: 189 :: 190 :: 191 :: 192 :: 193 :: 194 :: 195 :: 196 :: 197 :: 198 :: 199 :: 200 :: 201 :: 202 :: 203 :: 204 :: 205 :: 206 :: 207 :: 208 :: 209 :: 210 :: 211 :: 212 :: 213 :: 214 :: 215 :: 216 :: 217 :: 218 :: 219 :: 220 ::


 

HUNAN-GYMHORTH.
GYDAG ARDDANGHOSIADAU O
YMDDYGIAD A DYFALBARHAD,
GAN
DR. SAMUEL SMILES, LLUNDAIN.
WEDI El GYFIEITHU A'I DALFYRU GAN Y
Parch. J. GWRHYD LEWIS, Tonyrefail.

“Pe gallwn roddi cynghor i unrhyw ddyn ieuanc, dywedwn wrtho, Ceisiwch gyrchu yn aml i gymdeithas eich gwell. Mewn llyfrau ac mewn bywyd, dyma’r gymdeithas iachusaf; dysgwch edmygu yn briodol; hynny yw hyfrydwch penaf bywyd.  Sylwch beth edmyga dynion mawr; edmygant bethau mawr; edmyga dynion  o ysbryd cul bethau iselwael, ac addolant yr hyn sydd yn anheilwng." - W. M. THACKERAY.

TONYPANDY:
EVANS A SHORT, 15, HEOL DE WINTON.
1898.


·····

CYNNWYSIAD.

PENNOD I.
Hunan
-Gymhorth - Cenedlaethol ac Unigol     
x-xi

PENNOD II.
Arweinwyr Diwydrwydd - Dyfeiswyr a Chynnyrchwyr    
x14

PENNOD III.
Tri Chrochennydd enwog - Palissy, Bottgher, Wedgwood
x34

PENNOD IV.
Ymroddiad a Dyfalbarhad
x47

PENNOD V.
Cynorthwyon a Chyfleusterau - Olrheiniadau Gwyddonol  
x60

PENNOD VI.
Gweithwyr mewn Celfyddyd   
x78

PENNOD VII.
Diwydrwydd a'r Bendefigaeth  
x105

PENNOD VIII.
Egni a Gwroldeb    
x117
                          
PENNOD IX.
Dynion Gorchwylgar    
x138

PENNOD X.
Arian - eu defnyddio a'u camdefnyddio
x150

PENNOD XI.
Hunanddiwylliant - Manteision ac anfanteision
x165

PENNOD XII.
Esiamplau - Cynddelwau
x189

PENNOD XIII.
Cymeriad - Y Gwir Foneddwr  
x200


·····

 

addurnlun - dail


HUNAN-GYMHORTH.
  
(x1)
PENOD {sic} 1.
Hunan-Gymhorth, Cenedlaethol ac
Unigol.  

“Mae’r Nefoedd yn cynorthwyo’r rhai hynny a gynorthwyant eu hunain.” Dyma hen ddywediad sydd wedi ei wireddu drwy’r oesau, ac yn cynwys mewn cylch bychan doraeth helaeth o brofiad dynol. Ysbryd hunan-gymhorth yw gwreiddyn pob gwir dyfiant a berthyn i ddyn ar ei ben ei hun; ac fel yr arddangosir ef ym mywydau y miloedd, efe yw ffynnonell wirioneddol pob yni a nerth cenedlaethol. Mae cymhorth a ddaw o’r tu allan yn wanhaol yn ei effeithiau lawer pryd, ond mae cymhorth a geir o’r tu fewn yn adgyfnerthol bob amser. Beth bynag wneir dros bersonau, neu ddosbarthiadau o ddynion y mae i fesur yn tynu ymaith y cymhellion a’r angenrheidrwydd a deimlant i wneuthur drostynt eu hunain; ac ymhob man lle gwelir dynion yn cael gormod o’u harwain a’u rheoli, y tueddiad anocheladwy yw eu gwneyd yn gymharol ddiymadferth.

Nis gall hyd yn oed y sefydliadau goreu roi nemawr o help gweithredol i ddyn. Dichon mai’r gymwynas fwyaf allant wneyd âg ef yw ei adael yn rhydd i ddadblygu ei hun ac i wella ei sefyllfa. Eto, myn dynion ymhob oes gredu fod eu llesiant a’u dedwyddwch i’w sicrhau drwy sefydliadau yn hytrach na thrwy eu hymddygiad hwy eu hunain. O herwydd hyn, mae cyfreithiau priodol wedi cael eu gorbrisio yn aml fel moddion i ddyrchafu dynolryw. Ond deuir i weled yn fwy amlwg y naill ddydd ar ol y llall mai negyddol a gomeddol, ac nid cadarnhaol a gweithredol yw swyddogaeth llywodraeth. Ei phrif amcan hi yw amddiffyn - amddiffyn bywyd, rhyddid a meddiannau. Ond iddynt gael eu gweinyddu yn ddoeth, diogela cyfreithiau ddynion yn y mwynhad o ffrwyth eu llafur corfforol a meddyliol; ond nis gall cyfreithiau, pa mor gaeth bynag y byddont, wneyd y diog yn weithgar, y gwastraffwr yn ddarbodus, na’r meddwyn yn sobr. Yr unig ffordd y cynyrchir diwygiadau o’r natur hyn yw drwy weithgarwch, trefnidedd, ac hunanymwadiad personol.

(x2) Yn y cyffredin, gwelir nad yw Llywodraeth cenedl ond adlewyrch yr unigolion a’i cyfansoddant. Pan ddigwyddo’r Llywodraeth fod yn uwch na’r bobl, dirdynir hi i lawr, a phan ddigwyddo fod yn is, dirdynir hi i fyny, nes el chael i’r un lefel â hwynt. Myn pobl anrhydeddus eu llywodraethu yn anrhydeddus, a myn pobl anwybodus a throseddgar eu llywodraethu yn greulawn. Dengys pob profiad fod gwerth a nerth Gwladwriaeth yn dibynu llawer llai ar ffurf ei sefydliadau nag ar gymeriad ei deiliaid. Oblegyd nid yw’r genedl ond cydgrynhoad o gyflyrau unigol, ac nid yw gwareiddiad ei hunan ond pwnc o ddiwylliad personol y gwyr, y gwragedd, a’r plant y cyfansoddir cymdeithas o honynt.

Mae cynnydd cenedlaethol yn cael ei wneyd i fyny o ddiwydrwydd, yni, ac uniondeb unigolion, yr un modd ag y mae dirywiad cenedlaethol yn cael ei wneyd i fyny o segurdod, hunangariad, a drygioni unigolion. Nid yw’r rhan amlaf o’r pethau a gollfarnwn fel drygau cymdeithasol, yn ddim ond yr hyii sydd yn tardda o fywyd llygredig dyn ei hun; ac er i ni geisio eu tori i lawr a’u diwreiddio drwy rym Cyfraith, ni wnant ond ail dyfu, gyda thirfdra newydd, mewn rhyw ffurf arall, oddieithr i elfenau bywyd a chymeriad personol gael eu gwella. Os cywir y golygiad hwn, rhaid fod gwladgarwch a dyngarwch yn gynhwysedig nid mewn newid cyfreithiau a chyfaddasu sefydliadau, yn gymaint ag mewn helpu a symbylu dynion i ddyrchafu a gwella eu hunain drwy eu hymdrechion unigol ac anibynnol.

Ychydig iawn o bwys ellir roddi ar y modd y llywodraethir dyn o’r tu allan, tra dibyna’r cyfan ar y dull y llywodraetha ei hun o’r tu fewn. Nid yr hwn a reolir gan ormesdeyrn yw’r caethwas truenusaf, ond yr hwn sydd yn gaeth i’w anwybodaeth, i’w hunangariad, ac i’w ddrygioni ei hun. Ni ellir gwneyd cenedloedd ydynt yn gaeth o galon yn bobl ryddion drwy gyfnewid meistri neu sefydliadau yn unig; a thra y parheir i goleddu’r syniad dinystriol fod rhyddid yn dibynu yn hollol ar, ac yn gynhwysedig mewn llywodraeth, ni bydd i’r cyfnewidiadau gael mwy o ddylanwad ymarferol a pharhaol na symudiad y delweddau mewn lledrithiadyr (phantasmagoria). Rhaid i sylfeini cedyrn rhyddid orffwys ar gymeriad unigol; yr hyn hefyd yw’r unig ernes o ddiogelwch cymdeithasol a ffyniant cenedlaethol. Dywed John Stuart Mill nad yw gormesiaeth yn cynyrchu ei effeithiau gwaethaf tra bo unigoliaeth yn bodoli oddi tano; ac fod yr hyn a ddifoda unigoliaeth yn ormesiaeth, pa enw bynag roddir arno.

Ceir hen gamgymeriadau o barthed i’r modd i ddyrchafu dynoliaeth yn troi i fyny yn barhaus. Gwaedda rhai am Gaisariaeth, ereill am Genedlaetholdeb, ac ereill am Fesurau Seneddol. Mewn gair byr, swm a sylwedd Caisariaeth yw, “Gwneler pob peth dros y bobl, a dim drwy y bobl.” Athrawiaeth, os dilynir hi, a baratoa’r ffordd yn gyflym i unrhyw ffurf o ormeslywiaeth. Nid yw ond eilunaddoliaeth yn un o’i ffurfiau gwaethaf. Addoli gallu yn unig, yr hyn sydd lawn mor ddinystriol yn ei ddylanwad ag addoli cyfoeth yn unig. Mwy iachus o lawer i’w chyhoeddi ymysg y (x3 - ANIBYNIAETH) cenedloedd yw yr athrawiaeth o Hunan-Gymhorth; a chyn gynted ag y caiff hon ei deall yn drwyadl, a’i dwyn i weithrediad, ni bydd Caisariaeth mwyach. Mae’r ddwy egwyddor yn groes i’w gilydd, ac y mae’r hyn a ddywedodd Victor Hugo am yr Ysgrif bin a’r Cledd, yn wir am danynt hwythau:- “Fe ladd hwn hwnyna.”

Camsynir hefyd gyda golwg ar ddylanwad Undebau Cenedlaethol a Mesurau Seneddol. Gellir difynu fan yma yr hyn a ddywedodd William Dargan, un o wladgarwyr penaf y Werddon, yn adeg yr Arddangosiad Diwydianol cyntaf yn Dublin: - “A dweyd y gwir,” meddai, “ni wrandewais erioed ar y gair anibyniaeth yn cael ei barablu heb fod fy ngwlad a’m cyd-drefwyr yn dod i fy meddwl. Clywais lawer am yr anibyniaeth oedd i ddod o’r cyfeiriad hwn a’r cyfeiriad arall, ac am y pethau mawrion oeddem i’w meddianna drwy ddyfodiad personau o wledydd ereill i’n plith. Ond yr wyf bob amser wedi arfer meddwl fod ein hanibyniaeth diwydianol yn dibynu arnom ni ein hunain. Er mai distadl yw ein diwydiant (industry), ni fu genym erioed fantais well, na rhagolygon disgleiriach, os yr iawn ddefnyddiwn ein galluoedd, nag a feddwn yn bresennol. Yr ydym wedi rhoddi un cam, ond dyfalbarhad a sicrha lwyddiant, ac ond i ni fynd rhagom yn aiddgar, byddwn mewn byr amser yn gyfartal o ran ein cysur a’n hanibyniaeth i unrhyw bobl ereill.”

Mae pob cenedl wedi dod i fod yr hyn ydyw yn bresennol drwy astudiaeth a gwaith canoedd o genedlaethau o ddynion. Bu llafurwyr caled a dyfalbarhaol o bob gradd a sefyllfa mewn bywyd yn gwneyd eu rhan tuag at ddwyn oddiamgylch yr effeithiau gogoneddus, ac un oes yn adeiladu ar waith oes flaenorol, gan ei ddwyn i sefyllfa berffeithiach yn barhaus. Dygodd yr olyniaeth cyson hwn o weithwyr gorchestol drefn allan o’r tryblith mewn diwydiant, gwyddor a chelf; ac yr ydym ninnau, y rhai sydd yn byw yn bresennol, wedi dod i feddiant o’r ystad werthfawr a baratowyd drwy fedr a diwydrwydd ein cyndadau; ystâd sydd wedi ei hymddiried i ni i’w thrin, a’i throsglwyddo i lawr i’n holynwyr, nid yn unig heb ei gwneyd yn waeth, ond wedi ei gwneyd yn well.

Mae ysbryd hunan-gymhorth, fel yr amlygir ef yn ngweithrediadau egniol unicrolion, wedi bod bob amser yn nodwedd amlwg yng nghymeriad y Saeson. Gwelid yn wastad yn ymddyrchafu uwchlaw copäon y lluaws nifer o unigolion a ragorent ar ereill, ac a hawlient warogaeth y cyhoedd. Ond y mae ein cynnydd i’w briodoli hefyd i dorfeydd o ddynion llai galluog ac adnabyddus. Er mai enwau’r cadfridogion a arferir gyhoeddi yn hanes rhyfeloedd, drwy ddewrder ac arwriaeth y milwyr cyffredin, i raddau helaeth, yr ennillir y buddugoliaethau. Bu miloedd o wroniaid na ysgrifenodd neb eu hanes, er hynny, taflasant eu dylanwad ar wareiddiad a chynnydd y byd yn llawn mor nerthol a’r mawrion hynny y trosglwyddir eu henwau o oes i oes. Medda hyd yn oed y dyn iselaf, sydd yn ceisio byw yn sobr, gweithgar, a gonest, ddylanwad presennol a dyfodol ar lesiant ei wlad, oblegyd y mae ei gymeriad yn effeithio ar fywydau ereill, ac yn lledaenu esiampl dda drwy yr holl amser a ddaw.

(x4)
Nid yw’r rhai enwocaf mewn gwyddor, llên a chelf, wedi bod yn gyfyngedig i un dosbarth neu radd mewn bywyd. Maent wedi dod o gabanau y tlodion, ac o balasau y cyfoethogion. Ymgododd rhai o brif apostolion Duw “o’r rhengoedd.” Cymerodd y rhai tlotaf weithiau y lleoedd uchaf; ac ni phrofodd yr anhawsderau a ymddangosent fel y pethau mwyaf anorfod, yn rhwystrau ar eu ffordd. Gellir meddwl mai’r anhawsderau arbenig hynny fuont lawer pryd eu cynorthwyon penaf, drwy alw allan y gallaoedd oedd ganddynt i weithio a dioddef, a symbylu i fywyd gynneddfau a fuasent, oni bai hynny, wedi gorwedd o hyd yn guddiedig, Yn wir, mae’r engreifftiau o rwystrau a orchfygwyd, ac o fuddugoliaethau a ennillwyd yn y modd hwn, mor lluosog, fel y maent braidd yn gwirio’r hen ddywediad y “gall dyn gydâg ewyllys wneuthur unrhyw beth.” Cymerwch, er engraifft, y ffaith hynod mai o siop yr eilliwr y daeth Jeremy Taylor, y mwyaf barddonol o dduwinyddion; Syr Richard Arkwright, sylfaenydd y law-weithfa gotwm: Arglwydd Tenterden, un o’r rhai enwocaf fel Arglwydd Brif Farnwr; a Turner, y penaf ymhlith peitharlunwyr (landscape painters).

Nis gŵyr neb yn sicr beth oedd Shakespeare, ond nid oes amheuaeth na chododd o radd isel. Cigydd a phorthmon oedd ei dad, a thybia rhai iddo yntau fo am y rhan flaenaf o’i fywyd yn gribwr gwlân; tra y dywed ereill iddo fod yn is-athraw mewn ysgol, ac wedi hynny yn gyfrifwas i ddyn a ddilynai yr alwedigaeth o osod arian ar lôg. Wrth ddarllen ei weithiau, gellid meddwl iddo fod yn dilyn braidd bob galwedigaeth. Mae cywirdeb ei ymadroddion ynghylch y môr y fath, fel y dadleua ysgrifenydd llyngesol iddo fod yn forwr; tra y gwêl clerigwr brofion yn ei weithiau iddo fod yn glochydd, a cheir un a hynododd ei hun fel beirniad cnawd ceffylau yn cael ynddynt brofion ei fod wedi bod yn borthmon. Sicr yw fod Shakespeare yn chwareuydd; ac yn ystod ei fywyd “chwareuodd lawer rhan,” gan gasglu ei ystorfa ryfedd o wybodaeth oddiar feusydd eang o brofiad a sylwadaeth. Rhaid ei fod wedi bod yn fyfyriwr manwl, ac yn weithiwr difefl; ac y mae ei ysgrifeniadau hyd heddyw yn parhau i ddylanwadu yn nerthol ar gymeriad miloedd o’i gydgenedl.

Mae’r dosbarth cyffredin o lafurwyr wedi rhoi i ni Brindley, y peirianydd; Cook, y mordwywr; a Barns, y bardd. Medr seiri maen a phriddfaen ymffrostio yn Edwards a Telford, y peirianwyr; Hugh Miller, y daearegwr; Cunningham, yr ysgrifenydd a’r cerflunydd; a Ben Jonson, yr hwn fu yn gweithio ar adeilad Lincoln’s Inn gyda llwyarn yn ei law, a llyfr yn ei logell. Ymysg y seiri coed a hynodasant eu hunain cawn Inigo Jones, y pen-saer; John Hunter, yr anianydd; Proff. Lee, y Dwyrein-ieithydd; a John Gibson, y cerflunydd.

O blith y gweuyddion, ymgododd Simson, y mesuronydd; Wilson, yr adarydd; a Dr. Livingstone, y teithiwr cenhadol. Rhoddodd cryddion i ni Shovel, y llyngesydd clodfawr; Sturgeon, y trydanwr; Drew, y traethodydd; a Carey, y cenhadwr; tra yr (x5 RHAI O’R DYNION MWYAF WEDI DOD O’R RHENGOEDD) oedd Morrison, cenhadwr llafurus arall, yn wneuthurwr gweddygau (shoe lasts). Yn ddiweddar caed o hyd i naturiaethydd dwfn yn mherson crydd o’r enw Thomas Edwards, yn Banff, yr hwn, tra yn cynnal ei hun drwy ei alwedigaeth, sydd wedi rhoi ei oriau hamddenol i fyfyrio anianaeth yn ei holl gangenau; ac y mae ei ymchwiliadau mewn perthynas â’r crestfilod lleiaf wedi eu gwobrwyo drwy ddarganfyddiad rhywogaeth newydd, i’r hon mae naturiaethwyr wedi rhoddi’r enw “ Praniza Edwardsii.”

Nid yw teiliwriaid ychwaith wedi bod heb eu hynodwyr. Dilynodd John Stow, yr hanesydd, y grefft hen dros ran o’i fywyd. Gwelwyd Jackson, y paentiwr, yn gwneyd dillad am flynyddau. Bu Syr John Hawkswood, yr hwn a enwogodd ei hun gymaint yn Poitiers, ac a wnaed yn Farchog gan Edward III., yn egwyddorwas i deiliwr yn Llundain. Perthynai’r Llyngesydd Hobson i’r un alwedigaeth. Gweithiai i ddilledydd ger Bonchurch, yn Ynys Gwyrth, pan ddaeth y cri drwy’r pentref fod nifer o gâd-longau yn hwylio gyferbyn â’r ynys. Neidiodd oddiar ei fwrdd, a rhedodd i lawr i’r traeth i gael golwg arnynt. Taniwyd ef ar unwaith gan awydd am fod yn forwr; mynodd fâd i’w ddwyn ymlaen at y llongau, a chafodd ei dderbyn fel gwirfoddolwr. Ymhen blynyddau dychwelodd i’w bentref genedigol yn ei lawn urddau, a mwynhaodd giniaw o gig moch ac wyau yn yr hen fwthyn y buasai yn gweithio fel egwyddorwas ynddo. Ond diau mai’r teiliwr hynotaf o’r oll ydoedd Andrew Jackson, diweddar Arlywydd yr Unol Dalaethau. Ryw dro, tra ar ganol araeth orchestol yn Washington yn darlunio ei hun fel un oedd wedi dechreu ei yrfa wleidyddol fel ynad heddwch, ac wedi dringo yn raddol, gwaeddodd llais o’r dorf, “O deiliwr i fynny.” Yn berffaith nodweddiadol o hono ei hun, derbyniodd y brath-air mewn ysbryd caredig, a throdd ef yn fantais iddo ei hun. “Dywed rhyw foneddwr,” meddai, “fy mod wedi bod yn deiliwr. Nid yw o un sarhad i mi, oblegyd pan yn dilyn y grefft cawn y gair o fod yn deiliwr da, ac o wneyd dillad oeddynt yn gweddu i’r dim. Yr oeddwn yn fanwl gyda’m cwsmeriaid, ac yn gwneyd gwaith didwyll bob amser.”

Meibion i gigyddion oedd y Prifor Wolsey, De Foe, a Kirke White; tincerdd oedd Bunyan, a basgedwr oedd Joseph Lancester. Ymhlith y rhai a lafuriasant ynglŷn a dyfeisiad yr agerbeiriant cawn Newcomen, Watt, a Stephenson; y blaenaf yn ôf, yr ail yn wneuthurwr offerynau mesuronol, a’r olaf yn danwr ar beiriant. Torwr glo oedd Bewick, tad coed-gerfiadaeth; dechreuodd Baffin ar ei fordeithiau fel dyn o flaen yr hwylbren; a chwareuai Herschel y telgorn (oboe) mewn seindorf filwrol. Cerfiwr oedd Chantrey, argraffydd oedd Etty, a mab i dafarnwr oedd Syr Thomas Lawrence. Bu Faraday, yr hwn oedd fab i ôf, yn llyfr-rwymydd nes oedd yn ddwy ar hugain oed, ond erbyn hyn saif yn y rhês flaenaf fel athronydd.

Yng nghyfres y prif seryddwyr, cawn Copernicus, mab i bobydd o Pwyl; Kepler, mab i westywr Ellmynaidd; d’Alembert, plentyn a (x6) godwyd i fyny un gauafnos oddiar risiau Eglwys yn Paris, ac a fagwyd gan wraig i wydrwr; Newton, mab i dir berchenog bychan ger Grantham; a Laplace, mab i werinwr tlawd yn ymyl Honfleur. Er cwrdd âg amgylchiadau cyfyng yn nechreu eu gyrfa, drwy arfer eu talent, ennillodd y gwyr hyn gymeriad na fedrai golud y byd ei bwrcasu iddynt. Pe yn meddu ar gyfoeth, gallasai hynny brofi iddynt yn fwy o rwystr nag hyd yn oed eu hamgylchiadau isel. Daliai tad Lagrange, y seryddwr a’r mesuronydd, y swydd o Drysorydd Rhyfel yn Turin; ond gan iddo fethu mewn rhyw raganturiaethau o’i eiddo, syrthiodd ei deulu i dlodi. I hynyma, yn rhanol, yr arferai Lagrange yn niwedd ei oes briodoli ei fri a’i hapusrwydd. “Pe wedi digwydd bod yn gyfoethog,” meddai, mae’n ddigon tebyg na fuaswn wedi dod yn fesuronydd.”

Mae llu o feibion clerigwyr a gweinidogion wedi hynodi eu hunain yn neilltuol yn hanes ein gwlad. Yn eu mysg ceir Drake a Nelson, yn enwog am eu harwriaeth ar y cefnfor; Wallaston, Young, Playfair a Bell, am eu gwybodaeth wyddonol; Wren, Reynolds, Wilson a Wilkie, am eu gorchestion mewn celfyddyd; Thurlow a Campbell am eu llwyddiant ynglŷn â’r gyfraith; ac Addison, Thomson, Goldsmith, Coleridge a Tennyson, am eu llenyddiaeth; Arglwydd Hardinge, y Milwriad Edwardes, ar Uchgadben Hodson, y rhai y mae eu coffawdwriaeth mor anrhydeddus mewn cysylltiad â hanes y rhyfeloedd yn India, oeddynt hefyd feibion i glerigwyr. Cafodd ymerodraeth Lloegr yn India ei hennill a’i dal gan ddynion canolraddol yn bennaf, megys Clive, Warren, Hastings, a’u holynwyr.

Ymysg meibion cyfreithwyr, deuwn ar draws Burk, Smeaton, Scott, a Wordsworth, ac Arglwyddi Somers, Hardwick, a Dunning. Syr William Blackstone oedd fab i weithiwr sidanau. Yr oedd tad Arglwydd Gifford yn chwegnwyddwr yn Dover; tad Arglwydd Denman yn feddyg, tad Barnwr Talfourd yn ddarllawydd, a thad y Prif Farnwr Pollock yn gyfrwywr yn Charing Cross. Layard, yr hwn a ddarganfyddodd gof-adeilau Ninife, oedd ysgrifenydd i gyfreithiwr yn Llundain; a bu Syr William Armstrong, dyfeisydd “cyflegrau Armstrong,” yn dilyn y gyfraith. Yr oedd Milton yn fab i ysgrifenydd, a Pope a Southey yn feibion i werthwyr llieiniau. Y Proff. Wilson oedd fab i law-weithydd o Paisley; - ac Arglwydd Macaulay oedd fab i fasnachwr yn Affrica. Fferyllydd oedd Keats, ac egwyddorwas i gyfferiwr oedd Syr Humphrey Davy. Wrth siarad am dano ei hun, dywedai Davy ryw dro, “Rwyf wedi gwneyd fy hun y peth wyf, dwedaf hyn gyda chalon syml, heb unrhyw ymffrost.” Cychwynodd Richard Owen, Newton Hanesiaeth Naturiol, ei yrfa fel medlongwr (midshipman), ac ni ddechreuodd ar ei ymchwiliadau gwyddonol nes mynd ymlaen mewn dyddiau. Rhoes i lawr sylfeini ei wybodaeth eang tra yn gwasanaethu fel rhestrebydd y gronfa ardderchog o gywreinon a gasglwyd drwy ddiwydrwydd John Hunter, gwaith y bu wrtho yng Ngholeg y Llaw-feddygon dros gyfnod o ddeng mlynedd.

(x7 - TRAMORWYR ENWOG)
Gwelir ymysg tramorwyr, yn gystal a Saeson, gyflawnder o arddangosiadau o ddynion a roisant fri ar dlodi drwy eu llafur a’u hathrylith. Fel celfyddydwyr, disgleiria enwau Claude, mab i basteiwr; Geefs, mab i bobydd; Leopold Robert, mab i oriedydd; a Haydn, mab i saer olwynion. Yr oedd tad Gregori VII. yn saer coed; tad Sextus V, yn fugail; a thad Adrian Vl. yn fadwr tlawd. Pan yn fachgen, am ei fod yn rhy dlawd i allu talu am oleuni i fyfyrio, arferai Adrian baratoi ei wersi yn ngoleu’r lampau ar yr heolydd, ac ym mhyrth yr eglwys. Cyffelyb oedd dechreuad Hautefeuille, y gallofydd, mab i bobydd yn Orleans; Durand, y pen saer, mab i grydd yn Paris; a Gesner, yr anianydd, mab i grwynwr yn Zurich. Dechreuodd yr olaf ei oes dan bob anfantais sydd yng nglŷn â thlodi, afiechyd, a gofidiau teuluaidd; ond nid oedd dim a fedrai ladd ei wroldeb, na’i atal i fynd rhagddo. Yr oedd o’i fywyd yn brawf amlwg o wirionedd y dywediad mai y rhai sydd â mwyaf i’w wneyd, ac yn ewyllysio gweithio, sydd yn cael o hyd i fwyaf o amser.

Y fferyllydd Yauquelin, oedd fab i werinwr o Saint Andre, yn y Calvados. Pan yn fachgenyn yn yr ysgol, er mai gwael oedd ei wisg, yr oedd yn fywiog a deallus. Arferai ei athraw, wrth ei ddysgu i ddarllen ac ysgrifennu, ei ganmol am ei ymroddiad, a dywedai, “Dos yn dy flaen, fy machgen i; gweithia a myfyria di, Colin bach; a byddi ryw ddiwrnod yn gallu ymwisgo yn llawn mor urddasol â gwarcheidwad Eglwys y plwyf.” Wrth ymweled ryw dro â’r ysgol, hoffodd cyffeiriwr o’r wlad freichiau preiffion y llanc, a chynygiodd ei gymeryd i’w fferyllfa i bwnio cyfferi. Cydsyniodd Yauquelin, gan hyderu y gallasai barhau i efrydu. Ond ni chaniatâi y meistr newydd iddo dreulio dim amser gyda’i wersi, ac wedi gweled hynny penderfynodd y llanc ymadael âg ef ar unwaith. Gadawodd Saint Andre, a chyfeiriodd ei gamrau tua Paris, â’i ysgrepan ar ei ysgwydd. Wedi cyrraedd yno, chwiliai am le iddo ei hun fel gwas cyffeiriwr, ond mothai ei gael. Ar ol cael ei orchfygu gan ludded ac angen, syrthiodd Yauquelin yn glaf, a chymerwyd ef i’r ysbytŷ, lle y tybiodd y buasai yn marw. Ond yr oedd pethau gwell yn aros y bachgen. Gwellhaodd, a chychwynodd drachefn i chwilio am waith, yr hyn a gafodd cyn hir gyda chyfferiwr arall. Yn fuan iawn daeth yn adnabyddus i Fourcroy, y fferyllydd clodfawr. Cafodd y boneddwr hwn ei foddhau gymaint ynddo fel y gwnaeth ef yn ysgrifenydd cyfrinachol iddo ei hun; ac ymhen blynyddau ar ol hyn, ar farwolaeth yr athronydd, dilynodd Yauquelin ef fel Proffeswr mewn fferylliaeth. Yn y flwyddyn 1829, penododd etholwyr Calvados ef i’w cynrychioli yn Ystafell y Dirprwywyr, a daeth i mewn yn fuddugoliaethus i’r pentref a adawsai yn fachgenyn mor dlawd a dinod amryw o flynyddau yn flaenorol.

Y mae’r engreifftiau a geir yn y wlad hon a gwledydd ereill o ddynion wedi ymgodi o’r rhengoedd iselaf i safleoedd o ddefnyddioldeb a dylanwad, drwy ymroddiad a dyfalbarhad, mor aml, yn wir, fel nad ydynt ers hir amser bellach yn cael eu cyfrif yn bethau eithriadol. (x8) Wrth sylwi ar ambell un o’r rhai mwyaf nodedig, braidd nad ellir dweyd mai brwydro yn foreu âg anhawsderau oedd un o anhebgorion eu llwyddiant. Ceir yn y Tŷ Cyffredin ar bob adeg nifer o ddydion hunan-ddyrchafedig o’r fath hyn, ac y maen glod i’n Senedd ei bod wedi eu croesawi a’u hanrhydeddu yno. Pan yr oedd y diweddar Joseph Brotherton, aelod dros Salford, yn ystod y ddadl dros Fesur Deg Awr, yn desgrifio gyda theimlad dwys y caledi ar blinderau oedd wedi orfod mynd drwyddynt tra yn fachgen yn gweithio yn y felin gotwm, ac yn datgan y penderfyniad a wnaethai yr adeg hono, sef, os y deuai byth yn alluog, y gwnai ymdrech i wella sefyllfa’r dosbarth hwnnw, cododd Syr James Graham ar ei ol, a dywedodd, yng nghanol cymeradwyaeth y Tŷ, na wyddai ef o’r blaen fod dechreuad Mr. Brotherton wedi bod mor isel, ond ei fod yn awr yn teinilo yn fwy balch nag erioed o’r Tŷ Cyffredin, wrth feddwi fod person oedd wedi ymgodi o’r sefyllfa hono yn alluog i eistedd ochr yn ochr A rhai oeddynt o waedoliaeth yn foneddwyr.

Arferai’r diweddar Mr. Fox, aelod dros Oldham, ddechreu ar ei adgofion gyda’r geiriau, “Pan oeddwn i yn gweithio fel gweuydd yn Nghaercynan (Norwich),” ac y mae genym eto i’n o aelodau seneddol fu a’u dechreuad yn llawn mor isel. Mewn atebiad i ymosodiad a wnaethid arno gan ei wrthwynebwyr gwleidyddol, darfu i Mr. Lindsay, y llong-berchenog adnabyddus, ryw dro roi adroddiad syml o’i hanes i etholwyr Weymouth. Yr oedd wedi ei adael yn amddifad pan yn bedair ar ddeg oed, a phan ymadawodd o Glasgow i Lerpwl i ddechreu gweithio ei ffordd drwy’r byd, ni feddai ddim arian, a chaniataodd cadben y llong iddo gael talu am ei gludiad drwy drefnu y glo yn y globwll. Bu yn Lerpwl dros saith wythnos cyn llwyddo i gael gwaith, a bu yn y tymor hwn yn cysgu mewn pentai (sheds), ac yn byw yn galed. O’r diwedd, cafodd gysgod ar fwrdd llong a hwyliai i India Orllewinol. Dechreuodd ei waith arni fel bachgenyn, a chyn ei fod yn bedair ar bymtheg, yr oedd, drwy ei ymroddiad a’i ymddygiad da, wedi ymgodi i fod yn llywydd y llong. Pan yn dair ar hugain gadawodd y môr, gan ymsefydlu ar y traeth, ac oddiar hynny bu ei gynnydd yn gyflym. “ Llwyddais,” meddai, drwy ddiwydrwydd a llafur diflino, a thrwy gadw mewn golwg bob amser yr egwyddor fawr o wneyd i ereill fel y carwn i ereill wneyd i mi.”

Dug gyrfa Mr. William Jackson, o Birkenhead, yr aelod dros Ogledd-barth Derby, lawer o debygolrwydd i eiddo Mr. Lindsay. Bu farw ei dad, yr hwn oedd lawfeddyg yn Nghaerwerydd (Lancaster), gan adael ar ei ol deulu o unarddeg o blant, y seithfed o ba rai oedd William. Cawsai’r plant hynaf addysg dda tra yr oedd eu tad yn fyw, ond wedi ei golli gorfodwyd y rhai ieuengaf i ymladd drostynt eu hunain. Cymerwyd William o’r ysgol cyn ei fod yn ddeuddeg oed, a rhoed ef i weithio yn galed wrth ochr llong o chwech y boreu hyd naw yr hwyr. Aeth ei feistr yn glaf, a chymerwyd y llanc i’r cyfrif-dŷ, lle y cai ychydig fwy o seibiant. Rhoes hyn gyfleustra (x9 – RICHARD COBDEN – DIWYDRWYDD YN ANHEBGOROL) iddo i ddarllen, a chan fod yr Encyclopedia Britannica o hyd cyrraedd iddo, darllenodd y cyfrolau drwyddynt o A i Z, y dydd yn rhanol, ond gan mwyaf y nos. Wedi hynny dechreuodd fasnachu; bu yn ddiwyd, a llwyddodd. Yn awr mae ganddo longau bron ar bob môr, ac y mae yn dal cysylltiad masnachol â phob gwlad braidd a’r wyneb y ddaear.

Yn yr un dosbarth gellir rhestru’r diweddar Richard Cobden, yr hwn a ddechreuodd ei oes yn llawn mor isel. Mab i amaethwr bychan yn Midhurst, yn Sussex oedd. Cafodd ei anfon yn ieuanc iawn i Lundain, a’i gyflogi fel gwesyn mewn nwyddfa yno. Yr oedd yn fachgenyn gweddaidd, diwyd, a llawn o awydd am wybodaeth. Rhybuddiwyd ef gan ei feistr i ofalu peidio darllen gormod, ond aeth ymlaen yn ei ffordd ei hun, gan drysori ei feddwl â’r cyfoeth oedd mewn llyfrau. Dringodd o’r naill sefyllfa o ymddiriedaeth i’r llall; daeth yn deithiwr dros y masnachdy; ac yn y diwedd dechreuodd ar ei anturiaethau fel argraffydd calico yn Manceinion. Gan ei fod yn teimlo dyddordeb mewn materion gwleidyddol, tynnwyd ei sylw at y Deddfau Yd, y rhai y gellir dweyd iddo gyflwyno ei holl feddiannau a’i fywyd i’w galw yn ol. Yr oedd yr araeth gyntaf draddododd yn gyhoeddus yn fethiant hollol, ond drwy ymarferiad ac ymdrech, daeth wedi hynny yn un o’r siaradwyr mwyaf naturiol a dylanwadol, ac yn un a ennillai ganmoliaeth diduedd Syr Robert Peel ei hunan. Dywed M. D.de Lhuys, y Llysgenadwr Ffrengig, ei fod yn “bortread byw o’r hyn fedr teilyngdod, dyfalbarhad, a llafur gyflawni, ac yn un o’r arddangosiadau mwyaf cyflawn o ddyn yn ymgodi o ddinodedd i’r safle uchaf ym mharch ei gyd-ddynion, drwy rym ei werth a’i wasanaeth personol.”

Ymhob un o’r engreifftiau uchod, ymroddiad di-ildio oedd y pris a delid am ragoriaeth, a gosodid urddas o unrhyw natur bob amser y tu hwnt i gyrraedd segurdod. Y llaw ar pen diwyd yn unig a ymgyfoethogant mewn hunan-ddiwylliad, cynnydd mewn doethineb, a masnach. Hyd yn oed pan ga dynion eu geni yn gyfoethog, mae unrhyw enwogrwydd gwirioneddol allant feddiannu fel personau unigol yn rhwym o gael ei gyrraedd yn unig drwy ymroddiad egniol, oblegyd, er y gellir cyflwyno etifeddiaeth o erwi drwy ewyllys, nis gellir cyflwyno etifeddiaeth o wybodaeth a doethineb felly. Gall dyn cyfoethog dalu i ereill am wneyd gwaith yn ei le, ond nis gall gael ereill i feddwl drosto, na phrynu un math o hunan-ddiwylliad. Mae’r athrawiaeth fod rhagoriaeth mewn unrhyw gyfeiriad i’w gyrraedd yn unig drwy ymroddiad llafurus, yn dal yn gymaint o wirionedd yn achos y dyn cyfoethog âg yn eiddo Drew a Gifford, unig ysgol pa rai oedd cell y crydd; neu Hugh Miller, unig goleg yr hwn oedd maengloddfa Cromarty.

Mae’n amlwg nad yw cyfoeth ac esmwythyd yn hanfodol i ddiwylliant uchelaf dyn, onid e ni fuasai’r byd wedi bod mor ddyledus ymhob oes i’r rhai hynny sydd wedi cychwyn o’r sefyllfaoedd iselaf. Nid yw bywyd esmwyth a moethus yn dysgu dynion i frwydro âg anhawsderau, nac ychwaith yn deffro ynddynt ymwybyddiaeth (x10) o’u gallu. Yn wir, mae tlodi mor bell o fod yn anffawd, fel y gellir, drwy hunan-gymhorth egniol, ei droi i fod yn fendith lawer pryd. Dywed Bacon, “Ymddengys nad yw dynion yn deall eu cyfoeth na’u nerth. Am y naill, credant bethau mwy na ddylent; am y llall, credant bethau llawer llai. Dysg hunanddibyniad ac hunanymwadiad ddyn i yfed o’i ddyfrgist ei hun, a bwyta ei fara melus ei hun; ac i lafurio am ei fywoliaeth, a defnyddio yn ofalus yr hyn a ymddiriedwyd iddo.”

Gwir fod cyfoeth yn brofedigaeth gref i esmwythyd ac hunanfoddiant, ond mae’n glod i gyfoethogion ein gwlad nad ydynt wedi arfer bod yn segurwyr. Gwnant eu rhan o waith y wladwriaeth, ac yn aml cymerant fwy na’u rhan o’i pheryglon. Dywediad dymunol am swyddog yn Rhyfeloedd yr Orynys, pan y gwelid ef yn gweithio ei ffordd ymlaen drwy’r baw ar llaid yn ochr ei gatrawd, oedd, “Dacw bymtheg mil o bunnau’r flwyddyn yn mynd;” ac yn ein hoes ni dygodd llethrau oerion Sebastopol, a gwastadeddau llosgedig India, dystiolaeth i hunanymwadiad ac ymyflwyniad cyffelyb o du ein dosbarthiadau mwyaf urddasol. Mae miloedd o fechyn dewrion, o radd a sefyllfa, wedi peryglu a cholli eu bywyd wrth wasanaethu eu gwlad a’u cenedl.

Nid yw’r dosbarthiadau cyfoethocaf wedi bod yn llai nodedig yn eu holrheiniadau ar hyd feusydd mwy tawel athroniaeth a gwyddor. Sylwer ar hanes Bacon, Worcester, Boyle, Cayendish, Talbot a Rosse. Gellir cyfrif yr olaf fel gallofydd mawr y bendefigaeth. Pe heb gael ei eni yn bendefig, buasai ef yn debyg o fod wedi cyrraedd y safle uchaf fel dyfeisydd. Yr oedd ei wybodaeth am waith gôf mor drwyadl, fel y dywedir ei fod ar ryw achlysur wedi ei gymell gan law-weithydd oedd yn anhysbys o’r safle a feddai y gwr enwog mewn cymdeithas, i ymgymeryd a bod yn flaenor (foreman) mewn gweithfa eang. Mae “pellwelyr Rosse,” yr hwn a ddyfeisiwyd ganddo, yn sicr o fod yr offeryn godidocaf o’i natur ag sydd eto wedi ei lunio.

Ond ar diriogaethau gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yn benaf y cawn y prif lafurwyr ymysg y dosbarthiadau uwchraddol. Yr unig ffordd i gyrraedd llwyddiant yn y cangenau hyn, fel yr holl rai ereill, yw drwy ddiwydrwydd, ymarfeoriad, ac efrydiaeth; a rhaid i’r arweinydd seneddol fod yn un o’r gweithwyr caletaf. Dyma’r fath ddynion oedd Palmerston, Derby, Russell, Disraeli, a Gladstone. Ni chafodd y gwyr hyn y fantais o unrhyw Fesur Deg Awr, ond cawsant wneyd gwaith dau ddiwrnod mewn un yn aml. Un o’r rhai hynotaf o’r cyfryw weithwyr oedd y diweddar Syr Robert Peel. Meddai ar allu i weithio bron yn ddibaid, ac ni fynai arbed ei hun. Dengys ei yrfa y swm o waith fedr dyn o alluoedd cymedrol gyflawni drwy ymroddiad diorffwys. Yn y deugain mlynedd y bu yn y Senedd gwnaeth waith aruthrol. Yr oedd yn ddyn cydwybodol, a pha beth bynag gymerai mewn llaw gwnai ef yn drwyadl. Profa ei holl areithiau el fod yn arfer rhagfeddwl yn ofalus bob peth fuasai yn lefaru neu ysgrifennu ar y pwnc fyddai dan ystyriaeth. Ni arbedai unrhyw drafferth i gyfaddasu ei hun i alluoedd amrywiol ei (x11 – ARGLWYDD BROUGHAM) wrandawyr. Mewn un ystyr, rhagorai ar y rhan amlaf o ddynion elai yn fwy eang a rhyddfrydig o ran ei egwyddorion fel yr âi yn hynach. Parhaodd hyd y diwedd yn agored i dderbyn golygiadau newyddion, ac er fod llawer yn tybied ei fod yn eithafol o ochelgar, ni adawodd ei hun i syrthio i’r gorhoffder hwnnw o’r gorffennol sydd yn parlysio meddyliau cynnifer, ac yn gwneyd eu henaint mor resynus.

Yr oedd diwydrwydd Arglwydd Brougham bron yn ddiarebol. Parhaodd ei lafur cyhoeddus am fwy na thriugain mlynedd. Bu yn ymwneyd â’r gyfraith, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a gwyddoniaeth, a mynodd ragori ymhob cangen. Pa fodd y llwyddodd i wneyd hyn sydd ddirgelwch i lawer. Ryw dro, pan ofynwyd i Syr Samuel Romilly ymgymeryd â rhyw waith newydd, ymesgusododd drwy ddweyd nod oedd ganddo amser; “Ond,” meddai, ewch ag ef i fy nghyfaill Brougham, “ymddengys fod ganddo ef amser i bopeth.” Y dirgelwch oedd, nad adawai un funud yn ddiddefnydd; ac heblaw hynny, meddai ar gyfansoddiad haiarnaidd. Wedi cyrraedd yr oedran ym mha un y buasai’r rhan amlaf o ddynion yn ymneilltuo i fwynhau’r seibiant a ennillasid mor ddrud ganddynt, dechreuodd ef gyfres o ymchwiliadau llafurfawr mewn cysylltiad â deddfau Goleuni, a chyflwynodd ffrwyth ei lafur i’r gwyddonwyr penaf fedrai Paris a Llundain alw ynghyd. Tua’r un adeg dygai drwy’r wasg ei frasluniau rhagorol o “Enwogion Gwyddor a Llên o dan deyrnasiad Sior III.,” a chymerai ei ran o’r gwaith cyfreithiol ar dadleuon gwleidyddolyn Nhŷ’r Arglwyddi. Cynghorodd Sydney Smith ef unwaith i geisio boddloni ar wneyd cymaint o waith ag a fedrai tri dyn cryf gyflawni, a dim rhagor. Ond yr oedd gweithio wedi dod yn ail natur i Broughain, fel nad oedd unrhyw fesur o ymroddiad yn ormod yn ei olwg; ac yr oedd ei hoffder o ragoriaeth yn gymaint, fel y dywed un awdwr yn ddigon priodol am dano: “Pe buasai wedi dechreu ei yrfa yn ddim amgen na duwr esgidiau, ni fuasai erioed wedi ymfoddloni nes rhagori ar bob duwr arall a feddai Lloegr.”

Gweithiwr caled arall o’r un dosbarth yw Syr E. Bulwer Lytton. Ychydig iawn o ysgrifenwyr sydd wedi gwneyd mwy, nac wedi cyrraedd enwogrwydd uwch fel ffugchwedlwr, bardd, hanesydd, traethodwr, areithiwr a gwleidyddwr. Mae wedi gweithio ei ffordd yn raddol, gan ddiystyru pob esmwythyd, ac wedi ei gynhyrfu drwyddo gan awydd i ragori. Nid oes nemawr o awduron Seisnig wedi ysgrifennu cynnifer o gyfrolau, na chynyrchu cymaint o deilyngdod uwchraddol. Hawlia diwydrwydd Bulwer yr edmygedd mwyaf ar gyfrif y ffaith ei fod yn hunan-osodedig hollol. Er fod yr holl bleserau a fwynheir gan ddynion ydynt wedi ei geni i amgylchiadau cyfoethog o hyd cyrraedd iddo, mae wedi ymwadu â hwynt i fesur helaeth wrth ddewis y sefyllfa a dilyn bywyd llenor. Fel Byron, barddonol oedd ei ymgais gyntaf - (“Weeds and Wild Flowers,”) a throdd allan yn fethiant. Ffugchwedl oedd ei ail – (“Falkland,”) a phrofodd honno hefyd yn fethiant. Buasai dyn (x12) o wroldeb cyffredin wedi rhoi heibio’r syniad o fod yn awdwr, ond aeth Bulwer ymlaen gyda phenderfyniad i lwyddo. Dilynodd “ Pelham” “Falkland” o fewn blwyddyn; ac y mae’r gweddill o’i fywyd llenyddol, yr hwn sydd bellach yn ymestyn dros ddeng mlynedd ar hugain, wedi bod yn olyniad o fuddugoliaethau.

Mr. Disraeli sydd arddangosiad arall o nerth diwydrwydd ac ymroddiad yng ngweithiad allan gymeriad cyhoeddus godidog. Gwawdiwyd ei ddau lyfr cyntaf yntau, a chyhoeddwyd eu bod yn gynyrch lloerigiaeth llenorol. Ond daliodd i lafurio, a rhoes ei “Coningsby,” ei “Sybil,” a’i “Tancred,” brawf o’r defnydd gwerthfawr oedd yn ei natur. Bu ei ymddanghosiad cyntaf fel areithydd yn y Tŷ Cyffredin hefyd yn fethiant. Er wedi ei chyfansoddi mewn arddull brydferth ac uchelgeisiol, cai pob brawddeg o’i eiddo ei derbyn gyda “chwerthiniad uchel.” Ond tra yn teimlo i’r byw chwerwder gwawd ei gydseneddwyr, dywedodd, “Yr wyf wedi dechreu gwahanol bethau amryw weithiau, ac wedi llwyddo ynddynt o’r diwedd. Mi a eisteddaf i lawr yn bresennol, ond daw’r adeg y gwrandewch arnaf.” Daeth yr adeg; ac y mae’r modd y llwyddodd Disraeli o’r diwedd i hawlio sylw’r gynulleidfa fwyaf diwylliedig o foneddwyr yn yr holl fyd, yn dangos beth all egni a phenderfyniad wneyd. Ni throes ef o’r neilltu i bendrymu a chwyno, fel y gwna cannoedd o ddynion ieuainc ar ol methu unwaith; ond gweithiodd yn gyson a diorffwys. Dechreuodd wella ei ddiffygion; ymarferodd â’r gelfyddyd o siarad yn gyhoeddus, a chyflenwodd ei feddwl A gwybodaeth wleidyddol. Llafuriodd gyda disgwyliad ffyddiog am lwyddiant, a daeth hynny, ond yn araf; ac yna chwarddodd y Tŷ gydag ef, ac nid am ei ben ef. Diflanodd pob adgof o’i fethiant, a chydunodd pawb o’r diwedd i’w gydnabod fel un o’r rhai mwyaf dylanwadol ymysg siaradwyr seneddol.

Er y gellir gwneyd llawer drwy ddiwydrwydd ac egni unigol, fel y dengys yr engreifftiau hyn ac ereill a geir yn y tudalenau dilynol, eto, rhaid cydnabod fod y cymhorth a gawn gan ereill o bwys mawr. Priodol y dywed Wordsworth fod yn “rhaid i ddibyniaeth dynol ac anibyniaeth dynol fynd gyda’u gilydd.” O’r cryd i’r bedd, mae pawb yn ddibynol i raddau ar ereill, ac yn ddyledus iddynt am eu meithriniad a’u diwylliant; a’r goreu a’r cryfaf geir yn gyffredin yn fwyaf parod i gydnabod hyn. Cymerer yn engraifft yrfa’r diweddar Alexis de Tocqueyille, dyn o haniad urddasol o’r ddwy ochr, oblegyd yr oedd ei dad yn bendefig enwog yn Ffrainc, a’i fam yn wyres i Malesherbes. Trwy ddylanwad teuluol, penodwyd ef yn Farnwr Brawiadur (Judge Auditor) yn Versailles, pan yn ddim ond un ar hugain oed; ond gan ei fod yn teimlo nad oedd wedi ennill y swydd drwy deilyngdod, penderfynodd ei rhoi i fyny, a bod yn ddyledus am ei ddyrchafiad dyfodol mewn bywyd iddo ei hun yn unig. Dichon yr ymddanghosai ei benderfyniad i rai yn beth ffol iawn, ond daliodd ef ato. Trefnodd i adael Ffrainc i’r diben o fynd ar daith drwy’r Unol Dalaethau, a chynyrch y daith honno yw ei lyfr gwerthfawr ar Werinlywodraeth yn America.” Mae ei gyfaill a’i gyd-deithiwr, (x13 – DE TOCQUEVILLE AR GYDGYNORTHWY) Gustave de Beaumont, wedi rhoi desgrifiad o’i ddiwydrwydd dibaid yn ystod y tymor hwnnw. “Yr oedd ei natur,” meddai, “yn hollol wrthwynebol i segurdod, a pha un bynag a’i teithio a’i gorffwys y byddai, yr oedd ei feddwi ar waith bob amser. Gydag Alexis, yr ymddiddan mwyaf dewisol oedd, yr un fyddai fwyaf buddiol. Y diwrnod gwaethaf oedd y diwrnod a dreulid yn ofer, ac yr oedd colli’r ennyd leiaf o amser yn flinder iddo.” Wrth ysgrifennu at gyfaill, dywedai Tocqueyille ei hun; “Nid oes unrhyw dymor o’n bywyd y gallwn daflu gwaith o’r neilltu yn hollol. Mae dyn yn y byd yma yn debyg i ymdeithydd yn cerdded tua goror sydd yn mynd oerach. oerach fel mae yn tynu ymlaen; po bellaf yr â cyflymaf y dylai gerdded. Clefyd mawr yr enaid yw annwyd. Ac wrth sefyll yn erbyn y drwg arswydol hwn, rhaid i ddyn gael ei gynnal nid yn unig drwy weithrediad ei feddwl ymroddgar ei hun, ond hefyd drwy ddod i gyffyrddiad â’i gydlafurwyr yng ngwaith bywyd.”

Er mor sicr y teimlai Tocqueyille yn ei farn gyda golwg ar yr angenrheidrwydd o arfer ymdrech ac hunanddibyniad personol, nid oedd neb yn barotach i gydnabod gwerth y cymhorth ar gefnogaeth mae pawb yn rhwymedig i raddau i ereill am danynt. Cydnabyddai ef yn aml, gyda diolchgarwch, ei rwymedigaethau i’w gyfeillion, De Kergorlay a Stofells; i’r naill am help meddyliol, ac i’r llall am help a chydymdeimlad moesol. Ysgrifennai at Kergorlay, “Dy eiddo di yw yr unig enaid mae gennyf ymddiried ynddo, a’r hwn mae ei ddylanwad yn gadael argraff ddilwgr arnaf. Medda lluaws ereill ddylanwad ar ryw fân bethau a berthynant i’m bywyd, ond ni fedd neb gymaint o ddylanwad â thi ar gychwyniad syniadau sylfaenol, ac a’r ddechreuad yr egwyddorion hynny sydd yn rheol ymddygiad.” Nid oedd Tocqueyille yn llai parod i gydnabod ei rwymedigaethau i’w wraig, Marie, am ei help i gadw ei dymer a’i feddwl mewn cywair i fynd ymlaen a’i efrydiaethau yn llwyddianus. Credai fod gwraig garedig yn dyrchafu cymeriad ei gwr yn ddiarwybod, tra mae un o natur anynad yn llawn mor sicr o’i dynu i lawr.

I ddiweddu, mae cymeriad dyn yn cael ei ffurfio gan fil o fân ddylanwadau; gan esiampl a rheol, gan fywyd a llenyddiaeth; gan y byd yr ydym yn byw ynddo yn ogystal â chan-ysbrydoedd ein cyndadau, geiriau a gweithredoedd pa rai a etifeddir genym. Ond er fod y dylanwadau hyn yn rymus, mae’n amlwg fod dynion yn rhwym o fod yn brif weithredyddion yn nygiad oddiamgylch eu llesiant a’u llwyddiant eu hunain. Pa mor ddyledus bynag y gall y doeth a’r da fod i ereill, hwynthwy eu hunain yw’r personau raid iddynt gymeryd fel eu cynorthwywyr penaf.

(x14
)

PENOD II.
Arweinwyr Diwydrwydd, Dyfeiswyr a Chynyrchwyr.


Un o neilltuolion y Saeson yw eu hysbryd ymroddgar. Gwelir ef yn eglur yn eu hanes drwy gyfnodau’r gorffenol, a deil mor nodweddiadol o honynt heddyw ag erioed. Yr ysbryd hwn, fel yr amlygir ef gan bobl gyffredin Lloegr, sydd wedi gosod i lawr sylfeini, ac wedi adeiladu mawredd diwydianol (industrial) y deyrnas. Mae tyfiant nerthol y genedl, yn yr ystyr yma, wedi bod gan mwyaf yn ffrwyth ymdrech unigolion, ac wedi dod yn ddibynol ar nifer y dwylaw a’r meddyliau fyddai ganddi ar waith o bryd i bryd. A thra mae’r ysbryd hwn wedi bod yn egwyddor fywydol i’r genedl, mae wedi bod hefyd yn egwyddor achubol a meddyginiaethol iddi, drwy wrthweithio effeithiau diffygion yn ein cyfreithiau ac anmherffeithderau yn ein cyfansoddiad.

Yr yrfa o ddiwydrwydd mae’r genedl wedi ddilyn, fu hefyd yr addysg goreu iddi. Fel mae ymroddiad cyson i waith yr hyfforddiad iachusaf i bob person unigol, felly mae y dysgyblaeth goreu i wladwriaeth. Cerdda diwydrwydd anrhydeddus yr un llwybr â dyledswydd; ac y mae Rhagluniaeth wedi cysylltu’r ddau â dedwyddwch yn bur agos. Dywed y bardd fod y duwiau wedi gosod llafur a lludded ar y ffordd sydd yn arwain i Feusydd Gwynfyd. Nid oes un bara a fwyteir gan ddyn mor felus â’r hwn a enilla drwy ei lafur ei hun. Drwy lafur mae’r ddaear wedi ei thrin, a dyn wedi ei ddwyn o’i farbareidd-dra; ac nid oes cam mewn gwareiddiad wedi ei roi hebddo. Mae nid yn unig yn ddyledswydd, ond yn fendith; ac nid oes ond y segur-ddyn a’i teimla yn felldith. Yn ysgol llafur y dysgir y ddoethineb ymarferol oreu; ac nid yw oes o weithio â dwylaw yn anghydweddol â diwylliad meddyliol uchel.

Dywedai Hugh Miller, yr hwn oedd mor addas a neb i draethu barn ar y mater, mai ei brofiad ef oedd, fod gwaith hyd yn oed o’r natur galetaf yn llawn o fwynhad ac o elfenau hunanddiwylliant. Daliai mai gwaith yw’r athraw goreu, ac mai ysgol llafur yw’r ysgol ardderchocaf o’r oll, gyda’r unig eithriad o’r un Gristionogol.

Dengys yr engreifftiau a roddwyd eisoes o bersonau wedi ymgodi o’r dosbarthiadau gweithgar, ac wedi enwogi eu hunain mewn gwyddor, masnach, llenyddiaeth a chelfyddyd, nad yw’r anhawsderau a deifl tlodi a llafur ar ffordd dynion yn rhai anorchfygol beth bynag. (x15 - LLAFUR YR YSGOL OREU) Gyda golwg ar y dyfeisiadau a’r trefniantau sydd wedi rhoi cymaint o nerth a chyfoeth i’r genedl, yr ydym yn ddyledus am y rhan luosocaf o honynt i ddynion o’r sefyllfaoedd iselaf. Tynner allan yr hyn a wnaethant hwy yn y cyfeiriad hwn, a gwelir mai ychydig iawn fydd ar ol wedi ei wneyd gan ereill.

Rhoes dyfeiswyr gychwyniad i rai o ddiwyddianau (industries) penaf y byd. Iddynt hwy mae cymdeithas yn ddyledus am lawer o’i phrif angenrheidiau, ei chysuron, a’i moethau; a thrwy eu hathrylith a’u llafur mae bywyd wedi ei wneyd yn mhob ystyr yn fwy esmwyth a dedwydd. Mae ein hymborth a’n dillad, dodrefn ein tai, y nwy a oleua ein heolydd, y cyfryngau sydd i’n cludo o fan i fan, yr offerynau sydd gennym i wneyd ein gorchwylion, a miloedd o bethau ereill yn ffrwyth llafur a dyfais lluaws o feddyliau; ac y mae dynion, yn bersonol a chymdeithasol, yn medi ddydd a nos yr elw a ddeillia o’r cyfryw ddyfeisiadau.

Er fod dyfeisiad yr agerbeiriant yn perthyn mewn ystyr i’n hoes ni, yr oedd y meddylrych o honno wedi cael bodolaeth gannoedd o flynyddau yn ol. Yr un fath a lluaws o ddyfeisiadau ereill, dygwyd ef oddiamgylch yn raddol. Nid aeth y syniad a daflwyd allan gan Hero o Alexandria erioed ar goll yn hollol; ond, fel y gronyn gwenith a fuasai yn guddiedig yn llaw y corff perarogledig, eginodd a thyfodd yn nerthol drachefn pan ddygwyd ef i lawn oleuni gwyddoniaeth ddiweddar. Er hynny nid oedd yr agerbeiriant yn ddim nes cael ei ddwyn allan o’r sefyllfa o ddamcaniaeth, a’i gymeryd mewn llaw gan allofyddion celfydd. Erbyn hyn mae’n gofgolofn o allu hunangymhorth y fath adroddiad ardderchog o amynedd, o ymchwiliadau llafurfawr, ac o anhawsderau wedi eu gorchfygu gan ddiwydrwydd dewr a gyflwynir ganddo! Yn dwr o’i amgylch cawn Savary, y peirianydd milwrol; Newcomen, y gôf o Dartmouth; Cawley, y gwydrwr; Smeaton, y peirianydd dinesig; ac yn ymgodi uwchlaw’r oll, James Watt, y gwneuthurwr offerynau mesuronol.

Yr oedd Watt yn un o’r dynion mwyaf diwyd; a dengys ei hanes mai nid yr hwn sydd yn meddu’r galluoedd naturiol cryfaf gyrraedda’r nod uchaf, ond yr hwn sydd yn defnyddio ei alluoedd yn y modd goreu. Gwyddai llawer yn nyddiau Watt fwy nag ef, ond ni lafuriai neb yn ddyfalach i droi’r hyn a wyddai i amcanion ymarferol a gwasanaethgar. Mwy na’r oll, yr oedd ei ymchwiliad am ffeithiau bron yn ddiderfyn. Meithrinai beunydd yr aferiad o dalu sylw manwl i bethau, ac ar hyn yn benaf, yn ol Mr. Edgeworth, y dibyna llwyddiant a rhagoriaeth fynychaf. Barnai’r gwr enwog hwnnw fod y gwahaniaeth meddyliol geir rhwng dynion i’w briodoli i’r arferiad o dalu sylw, yn fwy nag i unrhyw anghyfartaledd gwreiddiol rhwng galluoedd y naill berson a’r llall.

Pan yn fachgenyn, gwelai Watt wyddoniaeth yn ei deganau. Arweiniodd y pedwaranau (quadrants) orweddent o gylch y siop saer oedd gan ei dad, ef i fyfyrio tremyddiaeth a seryddiaeth; tueddodd gwendid ei iechyd ef i ddechreu treiddio i gyfrinion anianaeth; ac attynodd ei deithiau unigol drwy’r wlad ei sylw at lysieuaeth ac (x16) hanesiaeth. Tra yn dilyn ei waith fel gwneuthurwr offerynau mesuronol, ceisiodd rhywun ganddo wneyd organ, ac er nad oedd ganddo glust at fiwsig, dechreuodd astudio cerddoriaeth, a llwyddodd i wneyd yr offeryn. Yr un modd, pan osodwyd cynddelw (model) bychau agerbeiriant Newcomen yn ei law i’w adgyweirio; dechreuodd ar unwaith ddysgu yr oll oedd ar hynny o bryd yn wybyddus am wres, tarthiant, a chyd-ddwysiant, ac o’r diwedd corfforwyd cynyrch ei lafur yn ei agerbeiriant dwyshaol (condensing steam engine).

Dros ddeng mlynedd parhaodd i gynllunio a dyfeisio, heb fawr gobaith i’w sirioli, na nemawr o gyfeillion i’w galonogi. Yn ystod y tymor hwn enillai fara i’w deulu drwy wneyd a gwerthu pedwaranau, adgyweirio mân offerynau cerddorol, gofalu am heolydd, arolygu toriad camlesydd, neu wneyd unrhyw beth a droai i fyny, ac a roddai ragolwg am ennillion gonest. O’r diwedd, tarawodd ar gydymaith priodol yn mherson Mathew Boulton, o Birmingham, dyn celfydd, llawn o yni, ac yn gweled ymhell. Ymunodd y gwr hwn âg ef yn y gorchwyl o geisio dwyn y peiriant dwyshaol i ymarferiad cyffredinol fel gallu gweithiol; ac y mae llwyddiant y ddau erbyn hyn yn fater o hanesiaeth.

Mae llu o ddyfeiswyr wedi bod o bryd i bryd yn gwneyd gwelliantau ynglŷn â’r agerbeiriant, ac yn ei gyfaddasu braidd i bob dibenion llaw-weithiol, megys gyru llongau, malu ŷd, argraffu llyfrau, bathu arian, ac yn y blaen; ond un o’r cyfaddasiadau mwyaf gwerthfawr oedd yr hwn a ddyfeisiwyd gan Trevithick, ac a berffeithiwyd yn y diwedd gau George Stephenson a’i fab, yn y ffurf o beiriant symudol (locomotive) ar y gledrffordd. Drwy hwn mae cyfnewidiadau cymdeithasol o bwysigrwydd dirfawr wedi eu dwyn oddiamgylch, a phethau o ganlyniadau mwy, ac edrych arnynt yn eu dylanwad a’r gynnydd a gwareiddiad dynol, na pheiriant dwyshaol Watt.

Un o effeithiau cyntaf dyfeisiad Watt oedd sefydliad y llaw-weithfeydd cotwm. Nid oes dadl nad y person fu â’r llaw flaenaf yn sylfaeniad y gangen bwysig hon o diwydiant, oedd Syr Richard Arkwright, yr hwn oedd â’i yni a’i graffder ymarferol o bosibl yn fwy nodedig nag hyd yn oed ei ddyfeisgarwch celfyddydol. Yn wir, mae ei wreiddioldeb fel dyfeisydd wedi bod yn cael ei ameu, yr un modd ag eiddo Watt a Stephenson. Ymddengys fod Arkwright yn sefyll yn yr un berthynas â’r peiriant nyddu ag y safai Watt a’r agerbeiriant, a Stephenson â’r peiriant ymsymudol. Casglodd at eu gilydd yr edau gwasgaredig o gywreindeb oeddynt eisoes yn bodoli, a gweuodd hwynt yn ol ei gynllun ei hun yn ddyfeisiad. newydd a gwreiddiol.

Fel y rhan amlaf o’n prif allofyddion, cododd Richard Arkwright o’r rhengoedd. Ganwyd ef yn Preston, yn y flwyddyn 1732. Yr oedd ei rieni yn dlawd, ac yntau yr ieuengaf o dri ar ddeg o blant. Ni chafodd awr erioed o ysgol; yr unig addysg a dderbyniodd fe’i rhoddodd iddo ei hun, a hyd y diwedd ni allai ysgrifennu ond gydag anhawsder. Rhoddwyd ef yn egwyddorwas i eilliwr, ac ar ol dysgu’r (x17 – RICHARD ARKWRIGHT, DYFEISYDD) grefft, dechreuodd ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Bolton, mewn seler danddaearol, uwch drws yr hon y gosododd y geiriau, “Dewch at yr eilliwr tanddaearol; mae’n eillio am geiniog.” Gwelodd yr eillwyr ereill fod eu cwsmeriaid yn cefnu arnynt, a thynasant eu pris i lawr i’w safon ef. Yng ngrym ei awydd am helaethu ei fasnach, cyhoeddodd Arkwright drachefn ei fod yn rhoddi “eilliad llwyr am ddimai.” Ymhen ychydig flynyddau canodd yn iach i’r seler, a dechreuodd deithio fel masnachydd mewn gwallt. Y dyddiau hynny gwisgid gwallt-gapanau, ac yr oedd gwneyd y rhai hyn yn ffurfio cangen bwysig o alwedigaeth yr eillwyr. Arferai Arkwright ddilyn y ffeiriau cyflogi drwy Swydd Gaerwerydd (Lancashire), er mwyn cael cyfle i brynu ceinciau o wallt y merched ieuainc a gyrchent iddynt, a dywedir ei fod yn lled lwyddianus gyda’r gorchwyl. Gwerthai hefyd gyffer fferyllol at liwio gwallt, a gwnai ychydig arian o hono. Ond ymddengys mai gwneyd bywoliaeth, a hynny yn ddigon prin, oedd y nod eithaf a gyrraeddai.

Trwy i’r gwallt-gapanau fynd allan o’r ffasiwn, aeth yn amser caled. ar eu gwneuthurwyr, a theimlodd Arkwright awydd gwneyd prawf o’i allu dyfeisiol. Y dyddiau hynny gwneid llawer o ymgeisiadau i gynllunio peiriant nyddu, a phenderfynodd yr eilliwr fwrw ei long ar fôr dyfeisiant gyda’r lleill. Fel ereill o’r un tueddiad, yr oedd wedi bod eisoes yn treulio’i oriau hamddenol i geisio dyfeisio peiriant i ysgogi yn barhaus (perpetual motion machine), ac yr oedd y symudiad oddiwrth hwnnw at beiriant nyddu yn ymddangos yn rhwydd. Ond parodd yr ymgais iddo esgeuluso ei waith, gwario’r ychydig arian oedd wedi gynilo, a darostwng ei hun i dlodi mawr. Methai ei wraig oddef yr hyn gyfrifai yn wastraff ynfyd ar amser ac arian, ac mewn eiliad o gyffro eithafol, dinystriodd ei gynddelwau, gan hyderu y llwyddai felly i symud yr achos o anghysur ei theulu. Yr oedd Arkwright o dymer boeth a chyndyn; digiodd wrth ei wraig oherwydd ei hymddygiad, ac ymadawodd â hi ar unwaith.

Wrth deithio o gylch y wlad, yr oedd Arkwright wedi dod yn adnabyddus â dyn o’r enw Kay, awrleisydd yn Warrington. Tybia rhai i Kay hysbysu iddo yr egwyddor o nyddu â rholyddion; ond dywedir hefyd mai edrych yn ddamweiniol ar ddarn o haiarn gwynias yn hwyhau wrth fynd rhwng dau rolydd haiarn, awgrymodd y syniad iddo gyntaf. Fodd bynag, cymerodd y drychfeddwl afael gre yn ei feddwl ar unwaith, ac aeth yn ei flaen i gynllunio’r trefniant drwy ba un yr oedd y peth i gael ei gyflawni. Taflodd heibio’r gwaith o gasglu gwallt, a chyflwynodd ei holl amser i berffeithio ei beiriant, cynddelw o ba un, wedi cael ei wneyd gan Kay yn ol ei gyfarwyddyd ef, a roes i fyny ym mharlwr yr Ysgol Ramadegol Rydd yn Preston. Gan ei fod yn fwrdeisydd o’r dref, pleidleisiodd yn yr etholiad cynhyrfus hwnnw y dychwelwyd y Cadfridog Burgoyne ynddo; ond yr oedd ei dlodi yn gymaint, a’i wisg mor garpiog, fol y bu raid i nifer o bersonau wneyd casgliad bychan yn eu mysg eu hunain i’w osod mewn sefyllfa addas i wneyd ei ymddangosiad yn ystafell y pleidleisio. Profodd arddangos ei beiriant mewn tref lle yr oedd, cynnifer (x18) o weithwyr yn ennill eu bywoliaeth drwy lafur eu dwylaw yn anturiaeth beryglus, a chlywid chwyrniadau drwgargoelus y tu allan i’r ysgoldŷ o bryd i bryd. Gan gofio tynged Kay, yr hwn yr ymosodasid yn greulawn arno, ac a orfodasid i ffoi i Swydd Gaerwerydd, oherwydd ei waith yn dyfeisio’r hêd-wenol (fly-shuttle); ac ystyried tynged Hargreaves, peiriant nyddu yr hwn oedd wedi bod yn cael ei dynu yn ddarnau, gan fileinlu (mob) yn Blackburn, ychydig o amser cyn hynny; penderfynodd Arkwright sypynio fyny ei gynddelw a’i syniud i le llai peryglus. Felly aeth i Ddim Obant (Nottingham), lle yr apeliodd at rai o’r arianwyr lleol am gymhorth; ac addawodd y Meistri Wright dalu ymlaen llaw iddo swm o arian ar y telerau eu bod i gyfranogi o’r elw a ddeilliai o’r dyfeisiad. Er hynny, gan na ellid perffeithio’r peiriant mor rhwydd ag y disgwylient, anogodd yr arianwyr hyn Arkwright i apelio at Meistri Strutt a Need, y blaenaf o ba rai oedd dyfeisydd y gwŷdd hosanau (stocking-frame). Gwelodd Mr. Strutt fod y peiriant yn deilwng o’i sylw; ffurfiwyd cydfasnach rhyngddo a’i ddyfeisydd yn ddioedi; ac yr oedd ffordd Arkwright i lwyddiant yn ymddangos bellach yn glir. Sicrhawyd y breint-lythyr yn enw “Richard Arkwright, Awrleisydd;” ac y mae yn ffaith deilwng o’i chofio, ei fod wedi ei gymeryd allan yn 1769, yr un flwyddyn ag y cafodd Watt ei freinteb ar yr agerbeiriant. Adeiladwyd melin gotwm yn Nim Obant yn gyntaf, yr hen a yrid gan geffylau; a chodwyd un arall yn fuan yn Cromford, Swydd Derby, yr hon a droid gan olwyn ddwfr.

Er hynny, nid oedd trafferthion Arkwright ond megys wedi dechreu. Yr oedd ganddo eto y gorchwyl o berffeithio holl fân adranau ei beiriant, bu am flynyddau yn gwneyd gwelliantau parhaus arno, ac nid oedd yr elw a dderbynid oddiwrtho ond bychan. Pan ddechreuai llwyddiant ymddangos yn beth mwy sicr, disgynodd llaw-weithwyr Swydd Gaerwerydd ar Arkwright, fel y disgynodd mŵynwyr Cernyw (Cornwall) ar Boulton a Watt, i’w ysbeilio o ffrwyth ei lafur. Cyhoeddwyd ef yn elyn y dosbarth gweithgar; a chwilfriwiwyd melin oedd wedi adeiladu ger Chorley, gan fileinlu, yn mhresenoldeb yr heddgeidwaid ar milwyr. Gwrthododd pobl Swydd Gaerwerydd brynu ei nwyddau, er y cydnabyddid eu bod y goreuon mewn marchnad. Wedi hynny gwrthodasant dalu am yr hawl o ddefnyddio ei beirianau, a chytunasant i’w drechu yn llys y gyfraith. Er holl ymdrechion dynion gonest o’i blaid, dymchwelwyd ei freinteb. Ar ol i’r prawf fynd drosodd, tra yr elai heibio’r gwesty lle yr arosai ei wrthwynebwyr, dywedodd un o honynt yn ddigon uchel iddo glywed, “Wel, dyna ni wedi gwneyd yn hen eilliwr o’r diwedd;” i’r hyn yr atebodd yn dawel, “Na ofalwch, mae genyf eto ellyn digon llym i’ch eillio chwi oll.” Sefydlodd felinau newyddion yn Swyddi Derby a Chaerwerydd, ac yn yr Alban. Daeth melinau yn Cromford hefyd i’w law ar derfyniad ei gydfasnach â Strutt; ac ar gyfrif swm a rhagoroldeb ei gynyrchion, cafodd cyn pen nemawr amser feistrolaeth mor gyflawn ar y fasnach, fel mai efe ei hun a benodai’r prisoedd, ac a lywyddai brif symudiadau y nyddwyr cotwm ereill.

(x19
– Y SYR ROBERT PEEL CYNTAF
)
Meddai Arkwright ar ewyllys gref, dewrder di-droi-yn-ol, craffder naturiol, a chymhwysderau masnachol na cheir yn aml eu cyffelyb. Gweithiai ar rai adegau o bedwar yn y boreu hyd naw yn yr hwyr. Yn hanner cant oed dechreuodd ddysgu Gramadeg Seisnig a gwella ei lawysgrifen a’i sillebiaeth. Wedi gorchfygu ei holl rwystrau, cafodd y boddhad o fedi ffrwyth ei lafur caled. Ymhen deunaw mlynedd wedi gwneyd ei beiriant cyntaf, cododd i gymaint o barch yn Swydd Derby fel y penodwyd ef yn Uchel Sirydd, ac yn fuan ar ol hyn gwnaed ef yn Farchog gan Sior III. Bu farw yn 1792. Dyma sylfaenydd cyfundrefn ddiweddar y llaw-weithfeydd yn Lloegr, cangen o ddiwydiant sydd wedi bod yn ffynhonnell cyfoeth enfawr i unigolion, ac i’r genedl.

Ceir yn hanes yr holl ganghenau mawrion ereill o ddiwydiant ym Mhrydain enghreifftiau o ddynion egnïol fuont yn lles i’r ardaloedd y llafurient ynddynt, ac yn achos o ychwanegiad nerth a chyfoeth i’r wladwriaeth yn gyffredinol. Ymysg y cyfryw gellir nodir Struttiaid o Belper; y Tennantiaid o Glasgow; y Marshalliaid a’r Gottiaid o Leeds; y Peeliaid, yr Ashworthiaiad, y Birleyaid, y Fieldeniaid, yr Ashtoniaid, yr Heywoodiaid, a’r Ainsworthiaid o Ddeheubarth Swydd Gaerwerydd. Bu amryw o ddisgynyddion y rhai hyn yn enwog mewn cysylltiad â gwleidyddiaeth, a gellir cyfeirio at y Peeliaid yn arbenig felly.

Amaethwr parchus oedd sylfaenydd teulu’r Peeliaid. Tua chanol y ganrif o’r blaen daliai dyddyn yn ymyl Blackburn, o’r hwn y symudodd wedi hynny i dŷ ar Heol y Pysgod yn y dref honno. Fel yr oedd Robert Peel yn dechreu mynd ymlaen mewn dyddiau, gwelai deulu lluosog o feibion a merched yn tyfu o’i gylch; ond gan mai gwael oedd y tir oddeutu Blackburn, ni chanfyddai fod ei orchwylion amaethyddol yn rhoi rhagolygon calonogol iawn iddo. Fodd bynag, yr oedd yr ardal wedi bod ers amser maith yn nodedig am nwydd cartrefol a elwid yn “llwydleision Blackburn,” yr hwn a wneid o arwe wlan ac ystof gotwm. Arferai amaethwyr diwyd a feddent deuluoedd ddefnyddio’r amser na fyddai raid iddynt dreulio ar eu meusydd i wau yn eu cartrefi; ac felly y dechreuodd Robert Peel ar y gwaith o wneyd calico. Yr oedd yn ddyn cynil, ymroddgar a gonest, gwnai waith didwyll, a bu’n llwyddianus gydag ef.

Ond y peth a dynodd sylw Robert Peel yn benaf oedd y gwaith o argraffu ar galico, yr hyn ar hynny o bryd oedd gelfyddyd gydmarol anadnabyddus. Am dymor bu yn mynd drwy res o ymbrawfiadau (experiments) i geisio argraffu â pheirianwaith. Gwnai’r ymbrawfiadau hyn yn ddirgelaidd yn ei dŷ ei hun, ac haiarnid y llian a ddefnyddid i’r amcan hwnnw gan un o’r gwragedd berthynent i’r teulu. Y dyddiau hynny yr oedd llestri ffrantr (pewter) yn cael eu defnyddio yn aml. Wedi braslinellu llun ar un o’r llestri hyn, meddyliodd Peel y gallesid cael argraff i’r gwrthwyneb oddiarno, a’i gosod mewn lliw ar galico. Mewn bwthyn yn ymyl yr amaethdy, preswyliai gwraig a feddai beiriant at wasglyfnu pethau (calendering machine). Aeth Peel i mewn i’w thŷ, rhwbiodd ychydig o liw (x20) dros y llun oedd ef wedi fraslinellu, gosododd ddarn o galico arno, ac wedi rhoi’r llestr o dan was y peiriant, cafodd fod yr argaff a ddymunai wedi ei chael ar y calico. Dywedir mai hyn roes ddechreuad i’r gwaith o argraffu ar galico drwy gyfrwng rholyddion. Perffeithiodd Robert Peel ei drefniant yn fuan, a’r patrwm cyntaf a ddygodd allan oedd deilen perllysg; ac oherwydd hyn sonir am dano yn ardal Blackburn hyd heddyw fel “Parsley Peel.” Wrth weld ei hun yn llwyddo, penderfynodd roi heibio’r gwaith o amaethu, symudodd i bentref Brookside, a chyflwynodd ei holl amser i’r alwedigaeth newydd. Yno, yn cael ei gynorthwyo gan ei feibion, y rhai oeddynt lawn mor egniol ag yntau, dygodd y fasnach ymlaen yn llwyddianus am flynyddau. Fel y tyfai’r meibion, ymranai’r fasnach yn wahanol gangenau, a deuai pob cangen i estyn bywoliaeth gysurus i luaws mawr o feibion llafur.

Etifeddodd Syr Robert Peel, y barwnig cyntaf, a’r ail law-weithydd o’r enw hwn, holl ysbryd anturiaethus a gallu ei dad. Nid oedd ei sefyllfa ar y cychwyn fawr yn uwch na gweithwyr cyffredin; oblegid yr oedd ei dad, er yn gosod i lawr sylfeini llwyddiant dyfodol, yn gorfod brwydro’n galed â’r anhawsterau gyfodent o brinder cyfalaf. Pan nad oedd ond ugain oed, penderfynodd ddechreu ar yr alwedigaeth o argraffu ar galico, yr hon erbyn hyn oedd wedi ddysgu gan ei dad, ar ei gyfrifoldeb ei hun. Ymunodd ei ewythr, James Haworth, a William Yates o Blackburn, âg ef yn ei anturiaeth. Yr holl gyfalaf fedrent godi yn eu mysg eu hunain oedd ₤5OO, a rhoddid y rhan fwyaf o’r swm gan William Yates. Robert Peel, er ieuenged oedd, gyfranai’r holl wybodaeth ymarferol o’r gwaith; ond dywedid ei fod yn “cario hen ben a’r ysgwyddau ieuainc,” a phrofodd fod hynny yn wirionedd. Prynwyd melin ŷd adfeiliedig, a chaeau oeddynt yn dal cysylltiad â hi, yn agos i dref Bury, am swm cydmarol fychan. Wedi i ychydig o bentai gael eu gosod i fyny yn frysiog, dechreuodd y cydfasnachwyr argraflu cotwm yn y flwyddyn 1770, ac ymhen ychydig flynyddau drachefn dechreuasant ar y gorchwyl o nyddu cotwm. Gellir cael rhyw syniad am eu dull cynil o fyw oddiwrth y digwyddiad canlynol ar eu gyrfa foreuol. Dechreuodd William Yates, yr hwn oedd â gwraig a phlant ganddo, gadw tŷ; ac i wneyd cymwynas â Peel, yr hwn oedd heb briodi, boddlonodd i’w gymeryd atynt i letya. Y swm a dalai’r olaf am ei fwyd a’i lety oedd wyth swllt yr wythnos; ond teimlai Yates fod hyn yn rhy fach, a deisyfodd arno dalu swllt yn rhagor. Nid oedd Peel yn foddlon gwneyd hyny, bu bron mynd yn anghydfod rhyngddynt, ond daethant i gytundeb o’r diwedd drwy i’r lletywr addaw rhoddi chwe cheiniog arall. Merch o’r enw Ellen oedd plentyn hynaf Yates, a daeth yn ffafren neilltuol yng ngholwg y lletywr yn fuan. Ar ol dychwelyd oddiwrth ei waith, cymerai hi ar ei lin, a dywedai, “Wel, Nelly, ti fyddi yn wraig i mi, oni fyddi?” I’r hyn yr atebai y fechan, fel y gwnai pob blentyn, “Byddaf.” “Felly mi arosaf i ti, mi’th garaf di, a neb arall.” Ac fe arosodd hefyd. Fel yr oedd yr eneth yn cynyddu ac yn ymddadblygu, yr oodd ei benderfyniad yntau i aros yn mynd yn gryfach; ac wedi i (x21 – YATES, PEEL, A’U CYF.) ddeng mlynedd ymlithro heibio - blynyddau o ymroddiad a llwyddiant - priododd Robert Peel Ellen Yates gyda’i bod yn gadael ei dwy-ar-bymtheg oed. Y ferch yma a fagai’r lletywr ar ei lin, a ddaeth o’r diwedd yn “Lady Peel,” ac yn fam dyfodol Brif Weinidog Lloegr. Yr oedd yn foneddiges ardderchog, ac yn addurn i unrhyw sefyllfa mewn bywyd. Meddai ar alluoedd meddyliol cryfion, ac ar bob achos neilltuol byddai yn gynghorydd doeth a ffyddlawn i’w phriod. Dros amryw flynyddau ar ol priodi, gweithredai fel ysgrifenydd iddo, a gofalai am y rhan fwyaf o’i ohebiaethau masnachol, oblegyd ysgrifenwr difater ac annealladwy oedd ef ei hun. Bu farw yn 1803, dim ond tair blynedd wedi i’w phriod gael ei godi yn Farwn. Dywedir i fywyd moesweddog Llundain, yr hwn oedd mor wahanol i’r hyn oedd hi wedi arfer gartref, brofi yn niweidiol iddi. Ar ol hyn clywid yr hen Mr. Yates yn aml yn dweyd, “Pe buasai Robert heb wneyd ein Nelly yn ‘Arglwyddes’, gallasai fod yn fyw eto.”

Yr oedd gyrfa Yates, Peel a’u Cyf. o’r dechreu i’r diwedd yn un o lwyddiant difwlch. Peel ei hun oedd enaid y gydfasnach. Meddai fwy o gymhwysterau at fasnach na neb o’r nyddwyr cotwm boreuaf. Yr oedd yn ddyn o feddwl a chorff cryf, a llafuriai yn ddiorffwys. Bu ef i’r gelfyddyd o argraffu ar gotwm yr hyn fu Arkwright i’r gelfyddyd o nyddu cotwm, a bu ei lwyddiant yn llawn cymaint. Sicrhai rhagoriaeth nwyddau y cydberchenogion alwad y farchnad, a safai eu clod yn uwch nag eiddo neb arall yn Swydd Gaerwerydd. Sefydlasant weithfeydd mawrion ereill ar yr Irwell ar Roch; ac er eu anrhydedd y dywedir, eu bod tra yn gwneyd eu goreu i berffeithio eu masnach, yn ymdrechu hefyd yn mhob modd i hyrwyddo lles a chysur eu gweithwyr.

Yr oedd Syr Robert Peel yn barod i roesawu pob dyfeisiadau newyddion, ac fel prawf o hyn gellir cyfeirio at ei waith yn mabwysiadu’r trefniant er cynyrchu yr hyn elwir yn wrthsafwaith (resist work) mewn argraffu ar galico. Cyflawnir hyn drwy osod glud ar y rhanau hynny o’r llian y bwriedir eu cadw yn wynion. Y person ddarganfyddodd y glud oedd boneddwr a deithiai dros dŷ yn Llundain, yr hwn a’i gwerthodd i Mr. Peel am swm dibwys. Bu raid ymarfer ag ef am flwyddyn neu ddwy cyn perffeithio’r trefniant ai wneyd yn ymarferol ddefnyddiol; ond darfu i ardderchawgrwydd yr effaith, a chywreindeb y patrwm a gynyrchid, osod sefydliad Bury ar unwaith yn ben ar bob gweithfa oedd yn argraffu ar galico o fewn y wlad. Sefydlwyd cydfasnachdai ereill mewn gwahanol Siroedd, y rhai a reolid gan aelodau o’r un teulu, a chyda’r un ysbryd anturiaethus. Bu’r gwahanol sefydliadau hyn nid yn unig yn foddion i ddwyn elw i’r perchenogion, ond hefyd yn feithrinfeydd i amryw o’r argraffwyr a’r llaw-weithwyr mwyaf llwyddianus yn Swydd Gaerwerydd.

Ymhlith ereill a hynodasant eu hunain, mae’r Parch. William Lee, dyfeisydd y gwŷdd hosanau (stocking-frame), a John Heathcoat, dyfeisydd y peiriant pleth-rwyd (bobbin-net machine), yn deilwng o (x22)  sylw. Drwy ymdrechion diflino y gwyr hyn mae lluaws o’r dosbarthiadau gweithgar yn Nim Obant a’r ardaloedd cylchynol wedi cael ffyrdd i ennill bywoliaeth gysurus. Ganwyd William Lee yn Woodborough, pentref o fewn saith milltir i Ddim Obant, tua’r flwyddyn 1563. Yn ol rhai adroddiadau yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau da, ond yn ol ereill bu raid iddo wneyd ymdrech galed i gael ysgol. Aeth i fewn, fel efrydydd o’r radd isaf, i Goleg Crist, yn Nghaergrawnt, yn 1579. Wedi hynny symudodd i Goleg St. John, a chymerodd y gradd o B.C. yn 1583. Tybir iddo ddechreu paratoi ar gyfer y gradd o A.C., ond ar y pen hwn ymddengys nad yw adroddiad y Brifathrofa yn glir.

Yn yr adeg y dyfeisiodd Lee y gwydd hosanau, yr oedd yn gurad yn Calverton, ger Dim Obant, ac yn ol un adroddiad cafodd y dyfeisiad ei ddechreuad drwy siomiant carwriaethol. Dywedir fod y curad wedi syrthio mewn cariad at ferch ieuanc na fedrai gydgyfnewid serchiadau ag ef; a phan y talai ef ymweliad â hi, arferai roi mwy o sylw i wau hosanau a hyfforddi ei dysgyblion yn y gelfyddyd honno, nag i sercheiriau ei hedmygwr. Honir i’r diystyrwch hwn greu yn ei feddwl y fath gasineb tuag at wau â llaw, fel y penderfynodd y mynai gynllunio peiriant a’i gwnelai yn waith dielw. Bu dair blynedd yn ymroi i ddyfeisio, ac yn gadael i bob peth fynd yn aberth i’w feddylrych newydd. Pan agorodd rhagolygon am lwyddiant o’i flaen, rhoddodd i fyny ei guradiaeth, a chyflwynodd ei holl amser i wneuthur hosanau drwy beirianwaith. Dyma’r adroddiad a roddir o’i hanes gan Henson ac ereill.

Beth bynag all fod y ffeithiau gwirioneddol o barthed i ddechreuad y gwŷdd hosanau, nis gall fod amheuaeth gyda golwg ar athrylith y gwr a’i dyfeisiodd. Yr oedd gwaith clerigwr a drigai mewn pentref anghysbell, ac a dreuliasai ei ddyddiau gan mwyaf gyda llyfrau, yn dyfeisio peiriant sydd a’i symudiadau mor esmwyth a dyrys, ac ar unwaith yn dyrchafu’r gelfyddyd o wau o’r hen drefn boenus o ffurfio edafedd yn gadwen o ddolenau â thair gwäell rhwng bysedd merch neu wraig, i’r drefn brydferth a chyflym o wau â’r gwŷdd, yn wir yn orchestgamp ryfeddol, ac yn un ellir gyfrif yn ddihafal braidd yn hanes dyfeisiau gallofyddol. Gwelwn fod y clod dyledus i Lee yn fwy fyth, pan gofiom fod y llawgelfyddau y pryd hwnnw yn eu mabandod, ac nad oedd eto nemawr o sylw wedi ei dalu i gynlluniad peirianwaith at amcanion llaw-weithiol. Yr oedd ef dan angenrheidrwydd i ddesgrifio ar y pryd wahanol ranau ei beiriant y modd goreu y gallai, ac i fabwysiadu gwahanol ddyfeisfoddau i dori drwy anhawsterau fel y deuent i’w gyfarfod. Yr oedd ei offerynau yn anghelfydd, a’i ddefnyddiau yn amherffaith, ac nid oedd ganddo weithwyr cywrain i’w gynorthwyo. Yn ol y traddodiad, yr oedd y gwŷdd cyntaf wedi ei wneyd o goed bron yn gyfangwbl, a’r nodwyddau wedi eu sicrhau mewn darnau bychain o goed celyd. Un o brif anhawsterau Lee oedd ffurfio’r pwythyn (stitch), oherwydd nad oedd llygaid i’w nodwyddau, ond gorchfygwyd hwn o’r diwedd drwy dorri llygaid iddynt â rhygnen (file). Yn raddol gorchfygwyd (x23 – DYFEISIAD Y GWYDD HOSANAU) y naill anhawster ar ol y llall, ac wedi tair blynedd o lafur caled daeth y peiriant yn barod i waith. Yn awr dechreuodd y curad blaenorol, a’i galon yn llawn o frwdfrydedd dros ei gelfyddyd, wau hosanau ym mhentref Calyerton, a pharhaodd i weithio dros amryw flynyddau, gan ddysgu ei frawd James ac ereill o’i berthynasau yn y gelfyddyd.

Wedi dwyn ei wŷdd i radd gymharol o berffeithrwydd, teimlai’n awyddus am nawdd y Frenhines Elizabeth. Aeth tua Llundain i’r dyben o gael ei arddangos o flaen ei Mawrhydi. Llwyddodd i gael ymddiddan â hi a gweithio ei beiriant yn ei phresenoldeb. Ond ni chafodd y gefnogaeth a ddisgwyliai, am yr ofnai’r frenhines fod y peiriant wedi ei amcanu i amddifadu lluaws o ddynion tlodion o’r hyn ennillent drwy wau â’u dwylaw. Wedi teimlo fod ei ddyfais yn cael ei diystyru, derbyniodd y cyngor a roddid iddo gan Sully, gweinidog synwyrol Harri IV, sef myned rhag ei flaen i Rouen, tref oedd y pryd hwnnw yn un o’r canolfanau llaw-weithfaol pwysicaf yn Ffrainc. Aeth Lee â’i beiriant i Ffrainc yn 1605, a chymerodd ei frawd a saith o weithwyr gydag ef. Cafodd dderbyniad caredig yn Rouen, dechreuodd wau hosanau ar raddfa helaeth, ac yr oedd ganddo naw gwŷdd mewn llawn waith pan y cymylwyd ei wybren ar unwaith. Llofruddiwyd Harri IV, yr hwn oedd wedi ei ddarbwyllo i ymsefydlu yn Ffrainc, ac wedi addaw pob nawdd a charedigrwydd iddo, gan y penboethyn Rayaillac; ac mewn canlyniad collodd yntau bob amddiffyniad. Er mwyn sicrhau ei hawl i’r hyn a addawasai’r brenin iddo, gwnaeth Lee ei ymddangosiad gerbron y llys yn Paris; ond gan ei fod yn Brotestant, ac yn perthyn i wlad arall, triniwyd ei achos gyda diystyrwch; ac wedi cael ei lethu gan flinder a gofid, bu farw y dyfeisydd nodedig yn Paris, mewn cyflwr o dlodi ac angen eithafol.

Llwyddodd ei frawd a saith o’r gweithwyr i ddianc yn ol i Loegr, a’u peirianau oll ond dau gyda hwy. Ar ddychweliad James Lee i Ddim Obant, ymunwyd âg ef gan un Ashton, melinydd oedd wedi ei ddysgu i wau â’r gwŷdd gan y dyfeisydd ei hun cyn mynd drosodd i Ffrainc. Dechreuodd y naw hyn drachefn ar eu gwaith yn Thoroton, a dygid ef yn mlaen gyda chryn lwyddiant. Yr oedd y fan yn dra manteisiol i’r amcan, gan fod gwlan y defaid a borent yn ardal gymydogaethol Sherwood, yn rhagori ar y cyffredin. Dywedir mai Ashton a roes y soddiedyddion plwm yn nglyn ar gwŷdd, ac yr oedd hyn yn welliant pwysig. Yn raddol amlhaodd nifer y gwŷdd mewn gwahanol rannau o’r wlad, a daeth gwau hosanau drwy beirianwaith yn gangen bwysig o ddiwydiant y genedl.

Un o’r symudiadau pwysicaf ynglyn â’r gwŷdd hosanau oedd ei gymhwysiad at wneuthur ysnoden (lace) ar raddfa helaeth. Yn 1777 ceid dau ddyn o’r enw Frost a Holmes yn gwau pwynt-rwyd (point-net) drwy gyfaddasiad a wnaethent o hono; ac ymhen deng mlynedd ar hugain yr oedd y cynydd yn y gangen hon wedi bod mor gyflym, fel yr oedd 1,500 o wŷdd mewn ymarferiad, a thros 15,000 o ddynion yn cael eu cyflogi i wneyd pwynt-rwyd. Eto, yn (x24) herwydd y rhyfel, y cyfnewidiad yn y dull o wisgo, a phethau ereill, lleihaodd llaw-weithiad ysnodenau yn Swydd Dim Obant, a pharhaodd mewn sefyllfa isel hyd ddyfeisiad y peiriant pleth-rwyd (bobbin-net machine) gan John Heathcoat, aelod seneddol dros Tiverton, yr hyn a barodd i’r gwaith gael ei ail sefydlu ar sylfeini cedyrn.

John Heathcoat oedd fab i amaethwr bychan yn Duffield, Swydd Derby, lle y ganwyd ef yn 1783. Dysgai yn gyflym yn yr ysgol, ond cafodd ei dynu o honi yn gynar,. a’i osod yn egwyddorwas i ôf gwŷdd ger Loughborough. Daeth ar fyr i drin yr offer gyda deheurwydd, a meddianodd wybodaeth fanwl am wahanol rannau y gwŷdd hosanau a’r peiriant ystofi. Yn ei oriau hamddenol astudiai y modd i wneyd gwelliantau ynglyn â hwynt; a phan nad oedd ond un ar bymtheg oed, meddyliodd am gynllunio peiriant i wau ysnodenau tebyg i ysnodenau Buckingham neu Ffrainc, y rhai y pryd hwnnw a wneid â llaw. Y gwelliant ymarferol cyntaf o’i eiddo oedd yr un ynglyn â’r peiriant ystofi, pan y llwyddodd, drwy gyfarpar cywrain, i wneyd menyg o ymddangosiad ysnodenol; a’r llwyddiant hwn a’i calonogodd i barhau i astudio’r modd i wneyd ysnodenau drwy beirianwaith. Yr oedd y gwŷdd hosanau, mewn ffurf gymhwysedig, wedi ei arfer eisoes i wneyd ysnodenau plethrwydol, yn y rhai y dolenid y maglyn yr un modd ag mewn hosan; ond yr oedd y gwaith yn fain a brau, ac o ganlyniad yn fyr o roi boddlonrwydd. Treuliasai prif allofyddion Dim Obant flynyddau meithion mewn ymdrech i ddyfeisio peiriant i gordeddu’r maglau edafedd o gylch eu gilydd wrth ffurfio’r rhwyd. Ond yr oedd rhai o’r dynon hyn wedi marw mewn tlodi, ereill wedi ymddyrysu, ar oll o honynt wedi syrthio’n fyr o gyrraedd yr amcan mewn golwg. Daliai’r hen beiriant ystofi ei dir.

Pan tuag ugain oed aeth Heathcoat i Ddim Obant. Cyflogwyd ef yno i osod i fyny wŷdd hosanau a gwŷdd ystofi. Derbyniai hur dda am ei waith, a pherchid ef gan bawb ar gyfrif ei allu dyfeisiol, ei wybodaeth gyffredinol, a’i egwyddorion cywir. Daliai ei olwg o hyd ar ei nod blaenorol, ac ymroddai i geisio cynllunio peiriant at wneyd rhwydau wedi eu cordeddu yn groesymgroes (twist traverse-net machine). Yn gyntaf dysgodd y ffordd i wau ysnoden Buckingham â llaw, gyda’r amcan o fedru effeithio’r un ysgogiadau drwy gyfryngau celfyddydol. Yr oedd yn dasg maith a llafurus, ac yn gofyn am ddyfalbarhad a medrusrwydd. Darluniai Elliot, ei feistr, ef yn y tymor hwn fel bachgen tawel, hunanymwadol, dyfeisgar, calonog yn ngwyneb methiantau, a llawn o ffydd yn ei lwyddiant dyfodol.

Gwaith anhawdd yw rhoi desgrifiad mewn geiriau o ddyfeisiad mor ddyrys â’r peiriant pleth-rwyd. Math o obenydd celfyddydol ydoedd, yn efelychu mewn modd cywrain ysgogiadau bysedd y gwneuthurwr ysnodenau tra’n gwau neu’n clymu maglau’r ysnoden ar ei gobenydd. Wrth ddatod darn o ysnoden oedd wedi ei gwau â llaw, galluogwyd Heathcoat i ddosbarthu’r edau i rai hydredol a rhai croesredol. Dechreuodd ei ymbrawfiadau drwy osod edau (x25 – JOHN HEATHCOAT) rwymo cyffredin ar eu hyd ar fath o ystram (frame) i fod yn ystof, ac yna gyrru’r edau wau rhyngddynt â phlygyddion (plyers), y rhai a’u trosglwyddent i blygyddion ereill ar yr ochr gyferbyniol; wedi hynny, ar ol rhoi cordeddiad iddynt, gyrrid yr edau drachefn rhwng y llinynau nesaf; ac yn y modd hwn cai’r maglau eu clymu yr un fath ag y clymir hwy a llaw ar obenydd. Yr oedd ganddo eto y gorchwyl o ddyfeisio peirianwaith fyddai yn gwneyd yr holl ysgogiadau esmwyth a chywrain yma, a chostiodd hynny lafur meddyliol dirfawr iddo. Yn hir ar ol hyn dywedai, “Roedd yr anhawster i gael yr edau croesredol i gordeddu yn eu lle penodedig yn gymaint, fel pe buasai raid ei wneyd yn awr, mae’n bur debyg na fuaswn yn cynnyg mynd drwyddo.” Ei gam nesaf oedd darparu pleth-wëyll metelaidd i arwain yr edau yn ol ac ymlaen drwy’r ystof, ond ni fethodd gyrraedd yr amcan hwn drachefn. Gweithiodd allan ei feddylrych gyda medrusrwydd rhyfeddol, a chafodd freinteb arno pan yr oedd yn bedair ar hugain oed.

Drwy’r tymor hwn cedwid ei wraig bron mor bryderus ag yntau. Gwyddai hi yn dda am ei drafferthion a’i anhawsterau tra yn ymdrechu perffeithio ei ddyfeisiad. Un hwyr gofynai yn bryderus iddo “A weithia ef? “ “Na wna,” oedd yr ateb pruddaidd, “rhaid ei dynu yn ddarnau eto.” Nis gallai hi, druan, atal ei theimladau yn hwy, eisteddodd i lawr ac wylodd yn chwerw. Ond ni chafodd ddisgwyl yn ofer nemawr o wythnosau yn chwaneg; daeth y llwyddiant y llafuriwyd mor galed am dano; ac yr oedd John Heathcoat yn ddyn llawen a dedwydd pan yn dwyn adref y llain cyntaf o bleth-rwydwaith a wnaethid a’i beiriant, ac yn ei osod yn llaw ei briod.

Yr un fath ag y digwyddodd i ereill, amheuwyd hawliau Heathcoat fel dyfeisydd. Ar y dybiaeth fod ei freinteb yn ddirym, mabwysiadodd y gwneuthurwy’r ysnodenau y peiriant pleth-rwyd yn ofn, ac heriasant y dyfeisydd i wneyd ei waethaf. Dygwyd allan freintebau ereill am welliantau a chyfaddasiadau honedig, ond dechreuodd rhai o’r cyfryw freintebogion ymgyfreithio a’u gilydd, a thrwy hynny daeth hawliau Heathcoat i gael eu cydnabod. Pan oedd un llaw-weithydd wedi dwyn cynghaws yn erbyn llaw-weithydd arall am doril ar ei freinteb, barnodd y llys nad oedd y ddau beiriant mewn dadl yn ddim amgen na thoriadau ar freinteb Heathcoat. Ar yr achlysur hwnnw gofynwyd i Syr John Copley amddiffyn ei hawliau ef, cydnabyddodd nad oedd yn deall yr achos yn hollol, ond gan y canfyddai ei fod yn un lled bwysig, cynygiodd fynd i lawr i’r wlad ar unwaith, ac astudio’r peiriant nes ei ddeall; “ac yna,” meddai ef, “mi a’ch amddiffynaf hyd eithaf fy ngallu.” Gosododd ei hun yn y llytliyr-gerbyd y noson honno, ac aeth i lawr i Ddim Obant, i barotoi ei ddadl mewn ffordd nad oedd un dadleuwr feallai wedi bod yn ei pharotoi yn flaenorol. Boreu tranoeth gosododd y rhingyll dysgedig ei hun mewn gwŷdd ysnodenau, ac ni adawodd ef nes dod yn alluog i wneyd yn ddestlus ddarn o bleth-rwyd a’i ddwylaw ei hun, a deall egwyddor yn ogystal ag holl fanylion y peiriant yn drwyadl. Pan ddaeth yr achos ymlaen, yr oedd y boneddwr (x26) yn medru gweithio'r cynddelw ar y bwrdd gyda'r fath rwyddineb a medrusrwydd, ac esbonio natur y ddyfais mor glir nes gyrru'r barnwr, y rheithwyr, a'r edrychwyr i syndod; a diamheu i gydwybodolrwydd y boneddwr a'i ddull meistrolgar o drin yr achos, gario eu dylanwad ar ddyfarniad y llys.

Wedi i'r prawf fynd drosodd, gwnaeth Mr. Heathcoat ymchwiliad, a chafodd fod chwech cant o beirianau ar waith, wedi eu gwneuthur bob un yn ol ei freinteb ef; yna gosododd dreth ar eu perchenogion, yr hyn a gyrraeddai i swm mawr. Cynyddodd gwasanaeth y peirianau yn gyflym; yr oedd yr elw a wneid gan wneuthurwyr ysnodenau yn ddirfawr; ac eto tynwyd i lawr bris y nwydd o bum punt y llathen ysgwar i tua phum ceiniog mewn pum mlynedd ar hugain. Yn y pum mlynedd ar hugain dilynol mae ad-daliadau blynyddol masnach yr ysnodenau wedi bod ar gyfartaledd yn bedair miliwn o bunau, a thua 150,000 o weithwyr wedi bod yn derbyn cyflogau cydmarol dda.

Ond i ddychwelyd at hanes personol Heathcoat. Yn 1809 cawn ef wedi ymsefydlu yn Loughborough, Swydd Gaerlur (Leicester}. Yno bu'n cario ymlaen fasnach ysnodenau dros amryw flynyddau, gan gyflogi nifer mawr o bobl, y rhai ennillent o ₤5 i ₤10 yr wythnos. Er cymaint y cynnydd yn rhifedi'r rhai a gyflogid drwy ddyfeisiad y peirianau newyddion, dechreuwyd sibrwd eu bod yn gwneyd llafur yn afreidiol, a ffurfiwyd bradgyngrair eang i'r amcan o'u dinystrio pa le bynag y ceid hwynt. Yn 1811 cododd anghydfod rhwng y meistri a'r gweithwyr hosanau ac ysnodenau yn y rhanau deheuol o Swydd Dim Obant a'r rhanau cyffiniol o Swyddi Derby a Chaerlur. Parodd hyn i fileinlu godi yn Ashfield, y rhai a ddinystrient wydd y llaw-weithyddion liw dydd. Wedi i rai o'r arweinyddion gael eu dal a'u cospi, dysgodd y lleill fod yn fwy gwyliadwrus, eto yr oedd y dinystr yn cael ei ddwyn ymlaen yn ddirgelaidd pa le bynag y ceid cyfle. Gan fod y peiriannau o wneuthuriad mor egwan fel yr oedd ergyd morthwyl yn eu gwneyd yn ddiwerth, a chan fod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gario ymlaen mewn tai dydoledig, ymhell o'r trefydd fynychaf, yr oedd yn hawdd cael cyfleusterau i ddinystrio. Yn ardal Dim Obant, canolbwynt y terfysg, ymfrurfiai'r peiriant-dorwyr yn gyfangorff rheolaidd, a chynalient gyfarfodydd yn y nos i drefnu eu cynlluniau. Eu harweinydd oedd un Ned Ludd, ac oddiwrtho ef y cawsant yr enw Luddiaid. Bu'r mileinwaith o dorri'r peiriannau yn parhau yn frwd drwy ystod gauaf 1811, yr hyn a achosai ofid mawr, ac a droai filoedd allan o waith. Yn y cyfamser symudwyd y gwydd gan eu perchenogion o'r tai yn y pentrefi a'r wlad i nwyddfeydd y trefi er mwyn diogelwch.
Wrth weld mai ysgafn fuasai cosp y rhai a ddaliesid, aeth y Luddiaid yn fwy hyf. Dechreuodd y terfysg o'r newydd, ac ymledodd fel tan gwyllt drwy'r ardaloedd gogleddol a chanoldirol. Cynaliai'r terfysgwyr eu cyfarfodydd yn ddirgelaidd hollol, a rhoddent bob aelod o'u cyngrair dan lw i fod yn ufudd i'w harweinwyr. (x27 – AMHEU HAWLIAU HEATHCOAT)
Penderfynwyd dinystrio pob peiriant a ddefnyddid i wneyd llian, calico, neu ysnodenau, a bu dychryn yn teyrnasu am flynyddau. Yn Swyddi Efrog a Chaerwerydd gosodid y melinau ar dân. Dechreuwyd ymosod ar feistri y llaw-weithfeydd, baeddwyd rhai o honynt yn greulawn, a lladdwyd amryw. O'r diwedd gosodwyd y gyfraith mewn grym; rhoddwyd amryw o'r Luddiaid i farwolaeth;
ac ar ol blynyddau o gyffro a blinder cafwyd terfyn ar derfysg y torrwyr peiriannau.
Ymysg y lluaws yr ymosodwyd ar eu llaw-weithfeydd yr oedd dyfeisydd y peiriant plethrwyd. Un diwrnod tesog yn haf 1816, daeth haid o'r terfysgwyr, gyda ffaglenau yn eu dwylaw, i mewn i'w weithfa yn Loughborough, a gosodasant hi ar dân, gan ddinystrio dau ar bymtheg ar hugain o beiriannau, a thros werth ₤10,000 o eiddo. Daliwyd deg o honynt, a dienyddiwyd wyth am eu hanfadwaith. Gofynodd Mr. Heathcoat am iawn, a gwrthwynebwyd ef; ond trodd Llys y Benadures o'i du, a dyfarnodd fod yn rhaid i'r wlad wneyd i fyny ei golled o ₤10,000. Gwnaeth yr ynadon eu heithaf i gysylltu a'r dyfarniad yr amod fod yn rhaid iddo wario'r arian yn Swydd Gaerlur, ond methasant, a gwrthododd yntau am ei fod eisoes wedi penderfynu symud ei weithfa i fan arall. Yn Tiverton, Dyfneint (
Devon), cafodd o hyd i adeilad a fuasai gynt yn llaw-weithfa wlân, ond drwy fod y fasnach honno wedi dirywio yn yr ardal, arosai yr adeilad yn segur; prynodd ac adgyweiriodd Heathcoat ef, a dechreuodd wneyd ysnodenau ynddo. Cadwai mewn llawn waith gynifer a thri chant o beiriannau, a rhoddai huriau da i nifer mawr o weithwyr. Sefydlodd yno hefyd doddfa haiarn (iron-foundry) a gweithfeydd at wneyd offerynau amaethyddol ac yn y blaen; a rhoes fywyd newydd drwy holl ardal Tiverton yn fuan. Tra yn byw yno y dyfeisiodd ei ager-aradr (steam-plough), yr hwn a fu mewn cryn ymarferiad nes daeth eiddo Fowler allan.

Yr oedd Heathcoat nid yn unig yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion, ond hefyd yn ddyn cywir, gonest a charedig. Bu yn hunan-addysgydd diwyd drwy ei oes, rhoddai bob cefnogaeth i'r bobi ieuainc oedd yn ei wasanaeth, a gwnai bob peth yn ei allu i dynnu allan eu talentau. Yng nghanol ei lafur medrodd hebgor amser i ddysgu'r Ffrancaeg a'r Eidalaeg yn lled drwyadl, yr oedd wedi ymgydnabyddu yn dda a chynyrchion goreu llenyddiaeth, ac ni cheid nemawr o bynciau na byddai ganddo ef olygiadau lled gywir arnynt. Edrychai ei ddwy fil o weithwyr
arno fel eu tad, a darparai yntau yn gyson a gofalus ar gyfer eu llesiant a'u cysur. Ni phrofodd llwyddiant yn anmhariad iddo ef, fel i lawer; ac ni chauodd ei galon yn erbyn y tlawd a'r ymdrechgar. Cyfranodd chwech mil o bunau tuag at adeiladu ysgolion i roi addysg deilwng i blant ei weithwyr.  Yr oedd hefyd yn hoenus a siriol bob amser, yn ffafryn gan bob dosbarth, ac yn cael ei barchu fwyaf gan y rhai a'i hadnabyddent oreu.

Yn 1831 dewiswyd ef i'w cynrychioli gan etholwyr Tiverton, a bu yn aelod seneddol am ddeng mlynedd ar hugain. Dros ran helaeth (x28)
o'r tymor hwn yr oedd Arglwydd Palmerston yn gyd-aelod âg ef, a rhoes y boneddwr anrhydeddus hwnnw amryw droion ddadganiad cyhoeddus o'i syniadau uchel am dano. Ar ei ymneilltuad o'r gynrychiolaeth, yn herwydd henaint a methiant, anrhegwyd ef gan dri chant ar ddeg o'i weithwyr ag inclestr arian ac ysgrifbin aur, fel arwydd o'u parch dwfn tuag ato. Eto ni chafodd ond dwy flynedd i fwynhau ei seibiant, bu farw yn lonawr, 1861, gan adael ar ei ol enw y gall ei ddisgynyddion deimlo yn falch o hono.

Yr ydym yn troi yn nesaf at yrfa dra gwahanol, eiddo'r enwog ond yr anffortunus Jacquard. Mae'i fywyd yntau yn dangos y dylanwad fedr dynion celfydd, hyd yn nod o'r sefyllfa iselaf, daflu ar ddiwydiant cenedl. Yr oedd ei rieni yn byw yn
Lyons; ac, er yn llafurus, yn rhy dlawd i roddi iddo fawr addysg. Cyn gynted ag y daeth i oed i ddysgu crefft, gosodwyd ef gyda llyfr-rwymwr. Rhoes hen ysgrifenydd a gadwai gyfrifon ei feistr rai gwersi mewn rhifyddiaeth iddo. Amlygodd duedd nodedig at allofyddiaeth yn fuan, a synodd rhai o'i ddyfeisiau yr ysgrifenydd yn gymaint, fel y cynghorodd ei dad i roi iddo ryw grefft arall, fwy manteisiol i ddadblygiad ei dalentau arbennig. Mewn canlyniad i hyn, rhoed ef gyda chyllellydd, ond triniai hwnnw ef mor angharedig, fel y bu raid ei gymeryd oddi wrtho, a gosodwyd ef gyda gwneuthurwr argraff-lythyrenau.

Ar farwolaeth ei rieni, gwelodd Jacquard fod amgylchiadau yn ei orfodi i gymeryd at wŷdd ei dad, a dilyn crefft gweuydd. Ond dechreuodd bron yn ddiatreg ddwyn gwelliantau i fewn i'r gwŷdd, ac ymgollodd mor llwyr yn ei ddyfeisiau, fel yr anghofiodd ei waith, ac yr aeth heb ddim i'w gynnal. Gwerthodd ei wŷdd er mwyn talu ei ddyled, a hynny ar yr adeg y cymerai
arno ei hun y baich o gadw gwraig. Aeth yn dlotach drachefn, ac i dalu ei ofynwyr, gwerthodd yn nesaf ei dŷ. Dechreuodd chwilio am waith, ond gan fod pawb yn ei gyfrif yn ddiogyn, methai lwyddo am dymor. O'r diwedd cyflogwyd ef gan wneuthurwr cordenau (line maker) o Bresse. Aeth yno, gan adael ei wraig yn Lyons i ennill ei thamaid drwy wneyd bunhetiau cawn (straw bonnets).

Ychydig o hanes Jacquard gawn am flynyddau ar ol hyn, ond mae'n amlwg ei fod yn y tymor hwn wedi bod yn llafurio i berffeithio'r tyn-wydd (drawloom), i'r amcan o wneyd nwyddau a addurnid a lluniau (figured fabrics) yn rhagorach. Yn 1790 dygodd y peiriant hwnnw allan mewn ffurf ddiwygiedig, ac ymhen deng mlynedd yr oedd 4,000 o hono ar waith yn
Lyons yn unig. Rhwystrwyd ei efrydiaethau gallofyddol gan y Chwyldroad, ac yn 1792 cawn ef yn ymladd yn rhengoedd Gwirfoddolwyr Lyons yn erbyn Byddin yr Undeb. Cyn hir cefnodd ar faes y rhyfel, a dychwelodd i Lyons i edrych am ei wraig. Cafodd hi mewn nen-awr (garret), ac yn y fan honno yn parhau o hyd i ddilyn ei hen alwedigaeth. Gwelodd yn fuan nad gwiw aros yn segur gyda'i wraig, ac fod rhaid chwilio am rywbeth i'w wneyd. Cafodd waith gan law-weithydd talentog, a thra yn gweithio yn galed y dydd, elai (x29 - JACQUARD, VAUCANSON.) ymlaen â'i efrydiaethau dyfeisiol y nos. Credai y gallesid dwyn i mewn eto welliantau pwysig i'r gwŷdd a ddefnyddid i wau nwyddau llunaddurnog, ac yn ddamweiniol mynegodd y peth i'w feistr, gan awgrymu ei ofid na byddai ei amgylchiadau yn caniatau iddo weithio ei feddylrych allan. Gwelodd ei feistr werth yr awgrym, a gosododd swm o arian at ei law, fel y gallai ddyfeisio'r gwelliantau amcanedig yn hamddenol.

Mewn tri mis yr oedd Jacquard wedi gorffen gwŷdd diwygiedig, yn yr hwn y defnyddid gweithrediad peiriannol yn lle llafur blin a thrafferthus y gweithydd. Arddangoswyd ef yn yr Arddangosiad Diwydianol yn
Paris yn 1801, ac enillodd yr elydr-dlws (bronze medal). Daeth y Gweinidog Carnot i Lyons i ymweled â Jacquard, ac i'w longyfarch ar lwyddiant ei ddyfais. Y flwyddyn ganlynol cynygodd Cymdeithas y Celfau yn Llundain wobr am ddyfeisio peiriant at wneyd rhwydau pysgota a rhwydwaith at fyrddio - at wasanaeth llongau. Clywodd Jacquard am hyn, a thra yn rhodiana yn y maes ryw ddiwrnod, daeth cynllun y cyfryw beiriant i'w feddwl. Rhoddodd ei gyfaill, y llaw-weithydd, iddo ddigon o arian i weithio ei syniad allan, ac ymhen tair wythnos yr oedd y peiriant yn barod.

Pan ddaeth gorchestwaith Jacquard yn wybyddus, gofynwyd ganddo ddod â'i beiriant gerbron Rhaglaw y dalaeth, a cherbron yr Ymherawdwr wedi hynny, a chafodd derbyniad teilwng o'i athrylith gan y naill a'r llall. Wrth weled hynawsedd yr Ymherawdwr, bu yn ddigon eofn i awgrymu iddo rai o'r gwelliantau y carai eto eu gwneyd ar y gwŷdd a arferid i wau nwyddau llunaddurnog. A'r canlyniad fu iddo gael ystafelloedd wedi eu trefnu ar ei gyfer yn Amgueddfa'r Celfau a'r Gwyddorau, lle y cai wasanaeth y gweithdy, ac y darperid pob peth er ei gynal yn gysurus.

Wedi ymsefydlu yn yr Amgueddfa, ymaflodd Jacquard yn ei waith yn galonog. Yr oedd ganddo yn awr y fantais o gael edrych yn fanwl ar y gwahanol beirianau a gynwysai y drysorfa enfawr honno o gywreinwaith. Ymysg y peiriannau adynasant ei sylw yn benaf, ac a'i gosodasant o'r diwedd ar lwybr ei ddyfeisiad, yr oedd gwydd at wau sidan blodeuog, o waith Vaucanson, gwneuthurwr y peirianau hunan-ysgogol (automatic).

Meddai Vaucanson ar athrylith o'r radd flaenaf. Yr oedd ei allu dyfeisiol yn ddigyffelyb braidd. Gellir cymhwyso yr hen ddywediad fod bardd yn cael ei eni, ac nid ei wneuthur," gyda llawn cymaint o briodoldeb at y dyfeisydd. Mae yntau, er yn ddyledus i ddiwylliant ac iawnddefnyddiad o gyfleusterau, yn cynllunio ac yn gwneuthur cyfuniadau newyddion o beirianwaith yn benaf i foddhau ei reddf ei
hunan. Dyma'r ffaith am Vaucanson yn arbenig; oblegyd yr oedd ei orchestweithiau yn fwy nodedig am eu cywreinrwydd nag am eu defnyddioldeb. Tra nad oedd ond bachgennyn yn mynd i gyfeillachau Sabbothol gyda'i fam, difyrai ei hun wrth wylio drwy agenau gwahanfur, ran o ysgogiadau awrlais oedd yn yr ystafell nesaf. Ymdrechai eu deall, a thrwy feddwl yn barhaus am (x30) y mater, ymhen amryw fisoedd darganfyddodd egwyddor yr hyn a eilw oriedyddion yn ddiangiad (escapement).

O'r amser hwnnw aeth dyfeisiant â'i fryd yn gyfangwbl. Gydag ychydig o offerynau anghelfydd a drefnasai iddo ei hun, gwnaeth awrlais pren a nodai allan yr oriau gyda chywirdeb rhyfeddol. Bu am flynyddau yn efrydu difyniaeth, cerddoriaeth, a gallofyddiaeth, gyda'r amcan o allu gwneuthur gwahanol fathau o hunan-ysgogyddion, a lluniodd bethau hynod. Gwnaeth beiriant oedd yn ddynwarediad o chwibanoglydd, ac yn chwareu amryw donau yn gywir. Dilynwyd hwnnw gan efelychiad o hwyaden yn nofio, ymdrochi, yfed a lleisio fel pe yn hwyaden wirioneddol. Ar ol hynny dyfeisiodd wiber, a ddefnyddid ar ol hyn ar yr esgynlawr yn mhrudd-chwareu Cleopatria," yr hon oedd yn medru hysian ac ymsaethu at fynwes y chwareuyddes.

Ni chyfyngodd Vaucanson ei hun i wneuthuriad hunan-ysgogyddion. Wrth weld ei gelfyddgarwch, penododd y Prifor de Fleury ef yn arolygydd dros law-weithfeydd sidan Ffrainc, ac nid cynt yr ymaflodd yn ei swydd nag y dechreuodd ddwyn gwelliantau i mewn i'r gwahanol beirianau a arferid. Un o'r rhai cyntaf oedd ei drefniant at wau sidan cordeddedig, yr hwn a enynodd ddigter crefftwyr
Lyons i'r fath raddau, fel y bu agos iddynt ei ladd, am yr ofnent y collent eu gwaith drwy'r dyfeisiad. Eto aeth ef yn ei flaen, a chynlluniodd yn nesaf beiriant at wau sidanau blodeuog, gyda threfniant i drwsio'r edau, fel ag i wneyd eiddo pob ysgainc yn gyfartal o ran rhefder.

Ar ol hir nychdod, bu Vaucanson farw yn
1782, a gadawodd yn ei ewyllys ei holl gasgliad o beirianau i'r Frenhines. Ni roes hi nemawr o werth arnynt, a chawsant eu gwasgaru yn fuan. Ond drwy ryw ffawd cadwyd ei beiriant at wau sidan blodeuog yn Amgueddfa'r Celfau a'r Gwyddorau, ac yno daeth Jacquard o hyd iddo. Eu hwn o werth amhrisadwy iddo, oblegyd gosododd ef ar unwaith ar ben y ffordd at y prif welliant a ddygodd i mewn i'w wydd diwygiedig.

Un o'r pethau mwyaf arbennig yng ngwydd Vaucanson oedd trolyn (cylinder) tylledig, yr hwn yn ol nifer y tyllau a ddeuent i'r golwg pan droid ef, a reoleiddiai ysgogiad nifer o nodwyddau, ac a barai i'r edau ystofi wyro yn y fath fodd fel ag i gynyrchu'r llun a amcenid gael. Cymerodd Jacquard afael yn yr awgrym ar unwaith, a chyd ag athrylith gwir ddyfeisydd dechreuodd wneuthur gwelliant
arno. Ymhen mis yr oedd ei beiriant nyddu wedi ei gwblhau. At drolyn Vaucanson ychwanegodd ddarn hirfaith o glud-len (paste-board), a nifer o dyllau wedi eu torri ynddo, drwy'r rhai y cyflwynid yr edau ystofi i sylw y gweuydd; tra y dangosai darn arall o beirianwaith i'r gweithydd liw y wenol (shuttle) ddylai daflu. Yn y modd hwn gwneid i ffwrdd a gwasanaeth y fynydd (drawboy) a darllenydd y lluniau (reader of designs). Y defnydd cyntaf wnaeth Jacquard o'i wydd newydd oedd gwau amryw latheni o nwydd harddwych yn anrheg i'r Ymherodres Josephine. Teimlai Napoleon yn foddhaol  (x31 – MARWOLAETH JACQUARD) iawn ar ffrwyth llafur y dyfeisydd, a gorchymynodd i nifer o wŷdd gael eu gwneyd gan y crefftwyr goreu, yn ol cynllun Jacquard, a'u cyflwyno yn rhad iddo. Yna dychwelodd y dyfeisydd i Lyons. Yno profodd ran gyffredin dyfeiswyr. Cafodd ei drin yr un modd ag y triniasid Kay, Hargreaves ac Arkwright yn Swydd Gaerwerydd. Edrychai'r gweithwyr ar ei wŷdd fel peth wedi ei fwriadu i'w hamddifadu hwy o'u bara. Cynaliwyd cyfarfod terfysglyd, a phenderfynwyd dinystrio'r peiriannau, ond ataliwyd hynny gan y milwyr. Methodd Cynghor y Gwyr Doeth" dawelu'r cythrwfl, bygythiwyd hwy, a llosgwyd llun Jacquard. Wrth weld teimlad y lluaws, ymaflodd y Gwyr Doeth " yn un o'r peiriannau, a chwalasant ef yn gyhoeddus. Dilynodd terfysgoedd, ac yn un o honynt llusgwyd y dyfeisydd gan fileinlu ar hyd y llongborth, a cheisiwyd ei foddi, ond gwaredwyd ef.

Eto i gyd
nis gellid anwybyddu gwŷdd Jacquard, ac nid oedd ei lwyddiant ond mater o amser. Cymhellwyd ef yn daer gan law-weithyddion sidan i ddod drosodd i Loegr; ond er garwed y driniaeth dderbyniai gan ei gyd-drefwyr, yr oedd ei gariad at ei wlad yn ormod i ganiatau iddo wneyd hynny. Fodd bynag, mabwysiadodd y llaw-weithyddion Seisnig ei wŷdd. Pan welsant hyn, gwnaeth llaw-weithyddion Lyons yr un peth, rhag cael eu gyrru o'r maes, a chyn hir yr oedd gwŷdd Jacquard yn cael ei arfer braidd at bob math o nyddu. Profwyd fod ofnau'r gweithwyr yn ddisail. Yn lle lleihau cynhyddodd yr alwad am ddynion i fwy na deg cymaint. Yn 1833 yr oedd yn Lyons 60,000 o bersonau yn cael eu cyflogi ynglyn a gwneyd nwyddau llunaddurnog, ac erbyn hyn mae yno lawer mwy.

Treuliodd Jacquard weddill ei ddyddiau mewn heddwch. Bu'r gweithwyr a'i llusgasent ar hyd y llong-borth {sic}gyda'r amcan o geisio ei foddi, yn dymuno wedi hynny am gael ei gario ar hyd yr un ffordd er dathlu dydd ei enedigaeth. Ond ni oddefai ei wyleidd-dra iddynt wneyd y fath arddangosiad. Ymneilltuodd yn driugain oed i derfynu ei dymhor yn Oullins, lle genedigol ei dad. Yno, yn 1820, y derbyniodd urdd y Lleng Anrhydedd; ac yno, yn 1834, y bu farw, ac y claddwyd ef, Cyfodwyd cofgolofn iddo, ond gadawyd ei berthynasau yn dlawd; ac ymhen ugain mlynedd ar ol ei farwolaeth, yr oedd ei ddwy nith yn gorfod gwerthu am ychydig ffranciau y bathodyn aur yr anrhydeddasid eu hewythr ag ef gan Louis XVIII. Hyn yn y diwedd," meddai un awdwr, yw diolchgarwch y rhai a fwynhant y budd a ddeillia oddiwrth law-weithfeydd
Lyons i'r gwr y mae hi mor ddyledus iddo am gymaint o'i gorwychder."

Byddai yn hawdd helaethu merthyrdraith dyfeiswyr, a chofnodi enwau dynion a wnaethant eu rhan i hyrwyddo cynydd diwydiant, heb gael nemawr o gydnabyddiaeth am eu hymdrechion; oblegyd digwydda yn rhy aml fod athrylith yn cael planu'r pren, a phen-bylni yn cael bwyta'r ff rwyth oddiarni; ond ni gyfyngwn ein hunain yn bresennol i hanes un person cydmarol ddiweddar, sef Joshua Hielmann, dyfeisydd y peiriant cribo (combing machine).


 (x32) Ganwyd Heilmann tua'r flwyddyn 1796 yn Mulhouse, y lle enwocaf am weithfeydd cotwm yn Alsace. Daliai ei dad gysylltiad â'r gweithfeydd hyn, ac aeth yntau i mewn i'w swyddfa yn bymtheg oed. Bu yno am ddwy flynedd, a rhoddai ei oriau hamddenol i ddysgu arluniaeth (drawing). Treuliodd ddwy flynedd arall yn ariandy ei ewythr yn Paris, gan efrydu mesuroniaeth yn ei oriau hwyrol. Wedi bynny bu yn efrydydd yn Amgueddfa'r Celfau a'r Gwyddorau, lle y gwrandawai yr areithiau, ac yr astudiai y gwahanol beirianau. Wedi treulio ysbaid o amser fel yma yn ddiwyd, dychwelodd i Alsace i adolygu gwneuthuriad peirianwaith ddarperid ar gyfer gweithfa newydd yn Vieux-Thann, yr hon a gychwynwyd yn fuan. Ond daeth yn adeg ddyryslyd ar fasnach, aeth y weithfa i ddwylaw ereill, a dychwelodd Heilmann at ei deulu yn Mulhouse.

Yn y cyfnod hwn yr oedd wedi treulio cryn lawer o'i amser ham­ddenol gyda dyfeisiadau. Un o'i orchestion cyntaf oedd peiriant at wneyd brodwaith. Yn hwn yr oedd ugain o nodwyddau yn cael eu defnyddio ac yn gweithio i gyd yr un pryd. Ni fu Heilmann ond chwech mis yn ei gynllunio a'i barotoi. Arddangosodd ef yn Arddangosfa
1834, a derbyniodd fathodyn aur am dano, ynghyd ag urdd y Lleng Anrhydedd. Dilynwyd hwn yn fuan gan amryw ddyfeisiadau ereill, megys gwŷdd diwygiedig, peiriant at fesur a phlygu nwyddau, peiriant i ddirwyn arwe, yng nghyd ag amryw welliantau ar beir­ianau a arferid i barotoi, nyddu a gwau sidan a chotwm. Ond y mwyaf prydferth a chywrain o'i holl ddyfeisiadau oedd y peiriant cribo, ac yn awr awn rhagom i roddi desgrifiad byr o honno.

Yr oedd Heilmann wedi bod yn llafurio yn galed am flynyddau i geisio cynllunio peiriant at gribo sidan hiredafog, am fod y peiriant cribo cyffredin mor ddiffygiol i wneyd y gwaith o barotoi y nwydd cri (raw material) ar gyfer ei nyddu, yn enwedig y mathau tecaf o edafedd, ac heblaw hyn yn achosi gwastraff mawr. Er mwyn gwella'r diffyg hwn, cynygiodd nyddwyr
Alsace wobr o bum mil o ffranciau am beiriant diwygiedig, a dechreuodd Heilmann barotoi ar gyfer y gystadleuaeth yn ddiatreg. Nid awydd am elw barai iddo wneyd hyn, oblegyd yr oedd wedi dod yn gymharol gyfoethog drwy ei wraig. Arferai ddweyd “na wneir byth bethau mawrion gan y dyn sydd bob amser yn ymholi, faint o elw ddwg hwn i mi?” Yr hyn a'i cymhellai oedd greddf anataladwy y dyfeisydd, yr hwn ni osodir un dyrysbwnc celfyddydol o'i flaen, heb ei fod yn cael ei cynhyrfu i geisio ei ddeongli. Ond yr oedd y gorchwyl y tro hwn yn llawer mwy anhawdd nag yr oedd ef yn meddwi. Cymerodd iddo flynyddau o fyfyrio caled, ac yr oedd y treuliau cysylltiedig â'r gwaith mor fawr, fel y llyncwyd gwaddol y wraig i fyny yn fuan, ac y darostyngwyd yntau i dlodi heb allu dwyn ei beiriant i berffeithrwydd. O'r amser hwnnw gorfodid ef i ddibynnu yn benaf ar garedigrwydd cyfeillion er dilyn ymlaen gyda'i ddyfeisiad.

Tra'n parhau i frwydro a thylodi ac anhawsterau, bu farw gwraig Heilmann, gan gredu fod ei gwr wedi ei ddinystrio. Yn fuan ar ol hyn daeth ef i Loegr, ac ymsefydlodd dros dymhor yn Manceinion (x33
Y PEIRIANT CRIBO.) (Manchester), gan lafurio gyda'i beiriant o hyd. Yr oedd ganddo gynddelw (model) wedi ei wneyd iddo gan y peirianwyr enwog, Sharpe, Roberts a'u Cyf. ond methai ei gael i weithio yn foddhaol, ac o'r diwedd dygwyd ef bron i fin anobaith. Dychwelodd i Ffrainc i weld ei deulu, gan ddilyn ei syniad yn barhaus, yr hwn oedd wedi cymeryd meddiant cyflawn o'i feddwl. Tra'n eistedd ar yr aelwyd un hwyr, ac yn meddwl am dynged galed llawer o ddyfeiswyr, a'r anffodion sydd mor aml yn goddiweddyd eu teuluoedd, cafodd ei hun yn edrych ar ei ferched yn cribo eu gwallt llaes ac yn ei dynu yn ei lawn hyd rhwng eu bysedd. Tarawyd ef yn sydyn gan y syniad y gallai ddod allan o'i anhawster, pe gallai efelychu yn llwyddianus mewn peiriant y gwaith o gribo allan y gwallt hwyaf, a gwthio yn ol y gwallt byraf drwy wrthdroi gweithrediad y grib. Gyda'r syniad hwn aeth rhagddo, a dyfeisiodd y trefniant mwyaf syml o ran ymddangosiad, ond mwyaf dyrys mewn gwirionedd, ac ar ol llawer o lafur caled llwyddodd i berffeithio ei beiriant cribo. Wrth edrych arno yn gweithio, gwelir ar unwaith y tebygolrwydd rhyfedd sydd rhwng ei ysgogiadau ag eiddo'r bysedd wrth gribo gwallt, yr hyn a awgrymodd y trefniant. Mae wedi ei ddarlunio fel un yn gweithredu braidd gyda thynerwch teimlad y bysedd dynol." Criba yr ysgainc gotwm y ddau pen, rhydd yr edau yn hollol gyfochrog â'u gilydd, gwahana'r rhai hirion oddiwrth y rhai byrion, ac una'r edau hirion yn un gainc, a'r rhai byrion yn gainc arall. Yn glo ar y cwbl, ymddengys y peiriant fel yn gweithredu nid yn unig gyda manyldeb celfydd y bysedd dynol, ond hefyd gyda dealltwriaeth celfydd y meddwl dynol.

Yr oedd gwerth masnachol pennaf y dyfeisiad yn gynwysedig yn ei waith yn dwyn y mathau mwyaf cyffredin o gotwm i fod yn bethau y gellid eu nyddu yn fain. Galluogodd y llaw-weithyddion i ddethol yr edau mwyaf cyfaddas at nwyddau uchelbris, ac i gynyrchu'r mathau meiniaf o edau ar raddfa lawer helaethach. Trwy offerynoliaeth y peiriant, daeth yn bosibl i wneyd edefyn mor fain fel y gellid nyddu 334 o filltiroedd allan o un pwys o'r cotwm darparedig, ac wrth weithio'r defnydd i'r mathau meiniaf a thecaf o ysnoden, gwneid y swllt-werth gwreiddiol o gotwm-wlân yn werth tri neu bedwar cant o bunnau cyn dod i law y gwisgwr neu'r prynwr. Teimlwyd gwerth dyfeisiad Heilmann gan nyddwyr cotwm Lloegr yn fuan. Ymunodd chwech o gwmnioedd yn Swydd Gaerwerydd, a phrynasant yr hawl i nyddu cotwm i Loegr am y swm o ₤30,000; talodd y nyddwyr gwlân yr un faint am hawl i gymhwyso'r peiriant at eu gwasanaeth; a'r Meistri Marshall o Leeds ₤20,000 am yr hawl i'w gymhwyso at lin. Yn y modd hwn daeth cyfoeth fel dylif i ran Heilmann dlawd yn y diwedd. Ond ni chadd fyw i'w fwynhau. O'r braidd oedd ei lafur maith wedi ei goroni a llwyddiant cyn ei fod yn cau ei lygaid yn yr angeu; a darfu i'w fab, yr hwn oedd wedi bod yn gydgyfranog ag ef yn ei drafferthion, ei ganlyn ar fyr amser.

Ar draul aberthu bywydau gwerthfawr fel yma y gwneir prif ryfeddodau gwareiddiad.

 

(x34)

PENOD III.

Tri Chrochenydd enwog: Palissy, Böttgher, Wedgwood.

Cyflwyna hanes crochenyddiaeth llaws o enghreifftiau arbennig o ymdrech a dyfalbarhad. O'r rhai fuont yn nodedig ar y maes hwn yr ydym yn dethol allan dri, sef Bernard Palissy, y Ffrancwr; Johann Friedrich Böttgher, yr Allman; a Josiah Wedgwood, y Sais. Er fod y gelfyddyd o wneyd llestri cyffredin o glai yn adnabyddus i lawer o genedloedd y dyddiau gynt, ychydig wyddai am y gelfyddyd o wneyd llestri emliwiog (enamelled). Arferasid hi gan yr Etrusciaid, a cheir rhai o'u llestri hyd y dydd heddyw mewn cronfeydd hynafol. Ond collwyd y gelfyddyd, ac ni chafwyd ail afael arni hyd yn ddiweddar. Ymddengys fod y Mooriaid wedi cadw gwybodaeth o honi yn eu mysg, ac yr oeddynt yn ei harferyd yn Majorca pan feddiannwyd yr ynys honno gan y Pisiaid yn 1115. Yr oedd llestri emliwiog ymysg yr ysbail a ddygwyd oddiyno. Tua dau cant o flynyddau ar ol hyn dechreuodd yr Eidaliaid wneyd efelychiadau o lestri emliwiog, a galwent hwy yn "Majolica," yn ol enw'r lle y gwneid hwynt gan y Mooriaid.

Y gwr ailddarganfyddodd y gelfyddyd o emliwio yn yr Eidal oedd Luca della Robbia, cerflunydd o Florence. Darlunia Vasari ef fel dyn o ymroddiad diflino, yn cŷnio drwy'r dydd ac yn arlunio drwy y rhan fwyaf o'r nos. Pan fyddai'r nosweithiau yn oer, gosodai ei draed mewn basgedaid o naddion (shavings), i'w cadw yn wresog, tra fyddai yn tynu ei arluniadau (drawings). "Nid wyf yn synu at hyn," meddai Vasari, "oblegyd nid oes neb yn dod yn enwog mewn unrhyw gelfyddyd, os na ddechreua yn foreu feddiannu'r gallu o oddef gwres, oerfel, newyn ac anghysuron ereill." Mae dynion yn twyllo eu hunain wrth feddwl y gallant gyrraedd enwogrwydd tra yn cymeryd pethau yn esmwyth ac hamddenol. Nid wrth gysgu, ond wrth fod yn effro a llafurio yn ddyfal, y gwneir cynnydd ac y cyrhaeddir enwogrwydd. .

Er ei holl ymroddiad a'i ddiwydrwydd ni lwyddai Luca i ennill digon i'w gynal drwy gerflunio, a meddyliodd y gallai barhau i gynddelwi pe cai ryw ddefnydd rhwyddach a rhatach na mynor. Parodd hyn iddo ddechreu gwneyd ei gynddelwau mewn clai; a gwneyd ymbrawfiadau i geisio caenenu a chrasu'r clai, i wneuthur y cynddelwau hyn yn rhai parhaol. Cyn hir dyfeisiodd ffordd i orchuddio'r clai â defnydd a droai yn emliw parhaol, drwy gael ei roi (x35 -
LUCA DELLA- ROBBIA A BERNARD PALISSY.) yng ngwres angerddol ffwrnais. Wedi hyn dyfeisiodd ffordd i roddi lliw i'r emliw, a thrwy hynny ychwanegu yn fawr at ei brydferthwch. Aeth y sôn am waith Luca dros holl Ewrop, a gwasgarwyd enghreifttiau o'i gelfyddydwaith ymhell ac agos. Anfonwyd lliaws ohonynt i Ffrainc ac Ysbaen, lle y canmolid hwynt yn ddirfawr. Yr amser hwnnw ystenau a chrochenynau llwydion a diaddurn oedd­ynt braidd yr unig nwyddau priddlestriol a gynyrchid yn Ffrainc, ac felly y parhaodd gydag ychydig iawn o welliant hyd amser Palissy, dyn a frwydrodd ag anhawsterau gyda dewrder rhyfeddol.

Tybir i Bernard Palissy gael ei eni yn neheubarth Ffrainc, o fewn esgobaeth Agen, tua'r flwyddyn 1510. Ymddengys mai gwneuthurwr gwydr oedd ei dad, ac yn yr alwedigaeth honno y dygwyd yntau i fyny. Yr oedd ei rieni yn rhy dlawd i roi iddo ddim addysg. "Nid oedd genyf unrhyw lyfrau," meddai ymhen amser ar ol hyn, "ond nefoedd a daear, y rhai sy'n rhydd i bawb." Eto i gyd, dysgodd y ffordd i liwio gwydr, arlunio, a darllen ac ysgrifennu.

Pan tua deunaw oed, wrth weld y fasnach wydr mor isel, gadawodd Palissy dŷ ei dad, a throdd allan i'r byd i edrych a oedd ynddo ryw le ar ei gyfer ef. Cyfeiriodd yn gyntaf tua
Gascony, gan weithio ei grefft lle bynag y cai gyfle, a threulio rhan o'i amser yn achlysurol i fesur tir. Yna trodd ei gyfeiriad tua'r gogledd, gan aros am dymhor mewn gwahanol fanau yn Ffrainc, Flanders, a'r Almaen Isaf.

Fel hyn treuliodd Palissy ddeng mlynedd arall o'i oes, yna priododd a rhoes heibio grwydro, gan roi ei hun i lawr yn nhref fechan
Nantes, i ddilyn y galwedigaethau o liwio gwydr a mesur tir. Yno ganwyd plant iddo, cynnyddodd ei dreuliau yn gystal a'i gyfrifoldeb, ac er gwneyd ei oreu, yr oedd ei ennillion yn rhy brin i gyfateb i'w angenrheidiau. Teimlodd ei fod yn alluog i wneyd rhywbeth gwell nag ymboeni gyda galwedigaeth oedd mor anwadal a lliwio gwydr, a phenderfynodd droi ei sylw at y gelfyddyd gydrywiol o liwio ac emliwio llestri pridd. Er hynny ni wyddai ddim am y gwaith, ac nid oedd erioed wedi gweld clai yn cael ei grasu cyn iddo ddechreu ar ei weithrediadau. Felly yr oedd ganddo i ddysgu'r oll iddo ei hun, heb un cynorthwywr. Ond yr oedd yn llawn gobeithion, yn awyddus i ddysgu, ac o ddyfalbarhad diderfyn.

Gweled cwpan Eidalaidd o waith Luca della Robbia barodd i Palissy ddechreu meddwl am y gelfyddyd newydd. Dichon na buasai hyn yn cael fawr argraff
arno ar ryw amser arall, ond gan iddo ddigwydd ar yr adeg y teimlai awydd newid ei alwedigaeth, bu'r olwg ar y cwpan yn foddion i gynhyrfu ei holl natur, a pheri iddo benderfynu ceisio darganfod yr emliw wnai iddo ymddangos mor brydferth. Pe na buasai ganddo deulu, gallasai fynd am dro i'r Eidal er cael allan y dirgelwch: ond nis gallai adael ei wraig a'i blant, felly arhosodd gartref, gan hyderu y llwyddai drwy ei ymdrech ei hun i gael o hyd i'r ffordd o wneyd ac emliwio priddlestri.

 


(x36) Ar y cyntaf methai ddirnad beth oedd y sylweddau y cyfansoddid yr emliw o honynt, a dechreuodd ar bob math o ymbrawfiadau er cael hyn allan. Cymysgodd y pethau y tybiai fod yn fwyaf tebyg o'i gynyrchu. Yna prynodd a drylliodd grochannau pridd cyffredin, taenodd y cymysgedd hwn drostynt, a rhoddodd hwynt mewn ffwrnais i'w crasu. Ond nid oedd ffrwyth ei ymbrawfiadau yn ddim ond torri llestri yn ofer, a gwastraffu tanwydd, moddion, amser a llafur. Nid yn hawdd y cydymdeimla gwragedd ag ymbrawfiadau nad yw eu heffaith teimladwy yn ddim amgen na gwario'r arian sydd eisieu i gael dillad a bwyd i'r plant, ac nis gallai gwraig Palissy ymgymodi a'r syniad o brynu rhagor o foddion a chrochannau. Eto yr oedd yn rhaid ymdawelu, oblegyd yr oedd ef wedi penderfynu y mynnai feistroli dirgelwch yr emliw.

Bu yn parhau i wneyd ei ymbrawfiadau nes oedd tlodi yn llygadrythu yn ei wyneb ef a'i deulu. Treuliais," meddai, “amryw flynyddau yn ofer, a hynny mewn gofid ac ocheneidiau, am fy mod yn methu cyrraedd fy amcan mewn unrhyw fodd." Yn y tymhorau rhwng ei ymbrawfiadau byddai yn lliwio gwydr, tynu darluniau, a mesur tiroedd; ond yr oedd ei ennillion oddiwrth y pethau hyn yn fychan iawn. O'r diwedd aeth yn analluog i wneyd ei ymbrawf­iadau mewn ffwrnais o'r eiddo ei hun, oherwydd y draul i gael tanwydd; ond prynodd ychwaneg o lestri, torrodd hwynt fel o'r blaen yn dri neu bedwar cant o ddarnau, ac wedi eu gorchuddio a chymysgedd fferyllol, cariodd hwy i waith priddlechi oedd tua phum’ milltir o Saintes, i'w crasu mewn ffwrnais gyffredin. Wedi i'r crasiad fyned drosodd, aeth i edrych ar y darnau yn cael eu tynu allan, ac er ei ofid yr oedd y cwbl yn fethiant. Ond os wedi ei siomi, nid oedd eto wedi ei orchfygu, oblegyd penderfynodd yn y fan honno ddechreu o'r newydd."

Daeth galwad am fesur y morfeydd yn nghymydogaeth Saintes, i'r diben o benodi treth y tir. Cyflogwyd Palissy i wneyd y mesuriad a pharatoi'r map gofynedig. Cymerodd y gwaith hwn gryn ysbaid o'i amser, a diamheu iddo gael tâl da am ei gyflawni; ond nid cynt y gorffennodd ef nag yr ail-ddechreuodd gydag aiddgarwch dyblyg ar ei hen ymchwiliadau. Drylliodd eto dri dwsin o grochannau pridd, gorchuddiodd hwy a gwahanol ddefnyddiau, a dygodd hwy i ffwrnais wydr oedd yn yr ardal i'w crasu. Rhoes yr ymbrawf hwn ryw belydryn gwanaidd o oleuni iddo. Yr oedd gwres ychwanegol y ffwrnais wydr wedi toddi rhai o'r cyfansoddion (com­pounds); ond er i Palissy chwilio'n ddyfal am yr emliw gwyn ni fedrai gael dim.

Aeth ymlaen a'i ymbrawfiadau, heb un ffrwyth boddhaol, am ddwy flynedd arall. Erbyn hyn yr oedd cynyrch mesuriad y mor­feydd wedi ei ddifa, ac yntau a'i deulu wedi disgyn drachefn i dlodi. Ond penderfynodd wneyd un ymdrech fawr derfynol. Anfonodd fwy na thri chant o ddarnau, wedi ei gorchuddio a chyfansoddion, i'r ffwrnais wydr; ac aeth yno i wylied effeithiau'r crasu. Bu bedwar diwrnod yn gwilio'n ddyfal, ac yna agorwyd y ffwrnais. (x37 - YMCHWILIAD AM YR EMLIW.) Nid oedd y defnydd wedi toddi ond ar un o'r tri chant o ddarnau, a dygwyd ef allan i oeri. Fel yr ymgaledai deuai yn wyn a gloyw. Yr oedd wedi ei orchuddio ag emliw gwyn, yr hwn," meddai Pal­issy, “oedd yn hynod o brydferth;" a diau ei fod yn hynod o brydferth i'w olwg ef ar ol ei holl ddisgwyliad pryderus. Rhedodd ag ef i'w wraig gan deimlo ei hun yn greadur newydd hollol. Ond nid oedd ei gamp wedi ei chwbl ennill eto - pell o hynny.

I gwblhau ei ddyfeisiad, yr hyn a dybiai fod yn awr yn ymyl, penderfynodd adeiladu ffwrnais wydr iddo ei
hunan gerllaw ei dy, fel gallai wneyd ei waith yn ddirgelaidd. Dechreuodd adeiladu a'i ddwylaw ei hun, gan gario'r priddfeini o'r maes ar ei gefn. Ymhen saith neu wyth mis, gorffenwyd y ffwrnais. Yn y cyfamser yr oedd Palissy wedi ffurfio nifer o lestri clai yn barod i roi yr emliw arnynt. Wedi taenu y cymysgedd drostynt, gosodwyd hwy yn y ffwrnais ar gyfer yr ymbrawf tanllyd a gogoneddus. Er prined oedd ei arian, yr oedd Palissy wedi casglu ystorfa fawr o danwydd ar gyfer yr ymdrech derfynol. O'r diwedd cyneuodd y tan, a bu drwy y dydd wrth y ffwrnais yn ei phorthi â thanwydd. Bu yno drwy'r nos drachefn, ond ni thoddodd yr emliw. Cododd yr haul, a dygodd ei wraig iddo gyfran o'i boreufwyd prin, oblegyd rhaid oedd iddo ddal i borthi'r ffwrnais. Aeth yr ail ddydd heibio, a'r ail nos ar ei ol, heb i Palissy druan ei wedd ysgogi o'r fan. Do, dirwynodd y trydydd, y pedwerydd, y pumed a'r chweched dydd a nos i derfyn, tra yr oedd ef yn parhau i wylied a llafurio, gan ymladd yn erbyn gobaith, ac eto ni thoddodd yr emliw.

Yna meddyliodd y gallai fod rhywbeth yn ddiffygiol yn y defnyddiau a doddid, a dechreuodd gymysgu defnyddiau ereill ar gyfer ymbrawf newydd. Aeth dwy neu dair wythnos heibio felly. Ond pa fodd y prynai ychwaneg o grochannau? Yr oedd y rhai blaenorol, wrth gael eu hir grasu, wedi mynd yn ddiwerth i'w defnyddio mwy. Yr oedd ei arian hefyd i gyd wedi eu gwario. Ond cafodd fenthyg yr hyn oedd ofynol i brynu tanwydd a chrochannau, a daeth yn barod i wneyd ymbrawf arall.

Dyma'r olaf a'r ffyrnicaf o'r oll. Cyneuodd y tan; daeth y gwres yn angerddol; ond eto ni thoddodd yr emliw. Dechreuai'r tanwydd fynd yn brin! Pa fodd y cadwai y tan i fyny? Yr oedd polion yr ardd yno; gellid llosgi y rhai hyn. Codwyd hwynt, a thaflodd hwynt i'r ffwrnais. Llosgwyd hwynt yn ofer! Nid oedd yr emliw eto wedi toddi. Rhaid oedd cael tanwydd faint bynag a gostiai. Yr oedd dodrefn y ty a'r estyll oedd ar y muriau yn aros. Clywid swn darnio yn yr anedd; ac yng nghanol ysgrechiadau y wraig a'r plant, y rhai a ofnent fod synwyr Palissy yn rhoi ffordd, ymaflwyd yn y byrddau, holltwyd hwynt, a thaflwyd hwynt i'r ffwrnais. Ni thoddasai yr emliw eto! Yr oedd yr estyll yn aros ar y muriau. Clywid trwst chwilfriwio coed drachefn yn y ty, dirdynwyd yr estyll i lawr, ac hyrddiwyd hwynt ar ol y dodrefn i'r tan. Rhuthrodd y wraig a'r plant allan, a rhedasant yn wyllt drwy y dref, gan waeddi fod Palissy wedi mynd yn wallgof, ac yn darnio hyd yn oed ei ddodrefn yn danwydd!




(x38
)
Dros fis cyfan nid oedd ei grys wedi bod oddiam ei gefn, ac yr oedd ei lafur, ei bryder a'i newyn wedi difa ei nerth yn llwyr. Yr oedd mewn dyled, ac yn ymddangos ar fin dinystr. Ond yr oedd o'r diwedd wedi meistroli y dirgelwch; canys yr oedd yr ymdorriad mawr diweddaf o wres wedi toddi yr emliw. Pan dynwyd yr ystenau llwydion cyffredin allan o'r ftwrnais wedi iddi oeri, cafwyd eu bod wedi eu caenenu a chlaerolch gwyn. Am hynny gallai oddef ei ddifrio a'i wawdio, ac aros yn amyneddgar am gyfle i ddwyn ei ddarganfyddiad i ymarferiad.

Yn nesaf cyflogodd Palissy grochenydd i wneyd nifer o lestri pridd yn ol arfelion (designs) oedd wedi dynu; tra y cynddelwai yntau gofluniau (medallions) mawrion mewn clai gyda'r amcan o'u hemliwio. Yr oedd yn anhawdd gwybod pa fodd i gynal ei deulu nes cael y rhai hyn yn barod i'w gwerthu. Ond yn ffodus yr oedd yn Saintes dafarnwr a gredai yn ddiysgog yng ngonestrwydd, os nad yn marn, Palissy, a bu mor garedig ag addaw bwyd a llety iddo ef a'i deulu dros chwe' mis, iddo gael chwareu teg i fynd ymlaen a'i waith. Gyda golwg ar y crochenydd a gyflogasai, gwelodd Palissy yn fuan nas gallai barhau i dalu iddo y gyflog addawedig. Gwedi diosg ei dy eisoes, nid oedd ganddo bellach ond ei
hunan i'w ddiosg; am hynny rhoddodd rai o'i ddillad i'r crochenydd yn rhan-dal o'r gyflog oedd ddyledus iddo.

Darparodd Palissy ffwrnais arall, ond bu mor anffodus a defnyddio llawer o feini callestr i'w hadeiladu. Pan roddwyd tan ynddi, holltodd y rhai hyn, ac ymsaethodd darnau o honynt ar draws y llestri, gan lynu wrthynt. Er i'r emliw doddi yn foddhaol, yr oedd y llestri wedi eu hamharu, a llafur chwech mis arall wedi mynd yn ddifudd. Cynygiai dynion brynu y llestri fel yr oeddynt, ond ni wnai Palissy eu gwerthu, am ei fod yn gwybod y byddai hynny yn milwrio yn erbyn ei lwyddiant dyfodol. Chwalodd hwynt yn ddarnau. Er cwrdd a'r anffawd hwn yr oedd gobaith yn ei ddal yn wrol. Yr elfen chwerwaf yn fy nghwpan yr adeg hon," meddai, oedd gwatwaredd ac erledigaeth tylwyth fy nhŷ fy hun, y rhai oeddynt mor afresymol a disgwyl i mi wneyd gwaith pan nad oedd gennyf fodd i'w wneyd. Bu fy ffwrneisiau am flynyddau heb un math o do arnynt, a thra yn eu gwylied bum lawer noswaith yn hollol at drugaredd y gwynt a'r gwlaw, heb gymhorth na dyddanwch, oddigerth mewiadau cathod ar un llaw ac udiadau cwn ar y llall. Weithiau curai'r dymhestl ar fy ffwrneisiau mor drwm nes fy ngorfodi i'w gadael a ffoi am gysgod. Lawer pryd yn fy ngwendid awn adref gan ymdroi fel meddwyn, mor wlyb a bawlyd a phe wedi cael fy nirdynu drwy'r llaid, a'm calon ar dorri wrth weld fy llafur yn mynd yn ofer. Ond wedi cyrraedd y tŷ, cawn dywydd garwach yn aml yno, fel yr wyf yn synu y funud yma na fuaswn wedi fy ngorchfygu'n llwyr gan yr holl flinderau." Yn y sefyllfa hon ar bethau disgynodd Palissy i gyflwr o ddi-galondid. Crwydrai yn bruddglwyfus ar hyd y meusydd o gylch Saintes, mor deneu ag ysgerbwd, a'i wisg yn hongian yn garpiau (x
39 - PALISSY YN GWNEYD LLESTRI.) am dano.


Mewn un adran o'i ysgrifeniadau darlunia y modd yr oedd crothau ei goesau wedi mynd yn rhy feinion i'w ardysau gynal ei hosanau i fyny. Difriai ei deulu ef yn barhaus am ei ddiofalwch, a gwawdiai ei gymydogion ei ystyfnigrwydd. Dychwelodd at ei alwedigaeth flaenorol; ond wedi llafurio yn galed am flwyddyn, yn ystod yr hon yr ennillodd fywioliaeth i'w deulu, ac yr ad-feddianodd i raddau ei enw da ymysg ei gymydogion, ailymafodd yn ei hoff orchwyl. Wedi treulio eisoes ddeng mlynedd i ddarganfod yr emliw, bu lawer o wyth arall cyn perffeithio ei ddyfeisiad. Ond yr oedd pob anffawd yn dysgu gwers newydd iddo, a phob methiant yn ei wneyd yn fwy deheuig.

O'r diwedd daeth yn alluog i werthu ei lestri, a thrwy hynny gynal ei deulu yn gysurus. Ond ni theimlai un amser yn foddlawn ar y nod oedd wedi gyrraedd. Elai rhagddo o un gwelliant i welliant arall, gan ymestyn at y perffeithrwydd eithaf oedd yn bosibl. Astudiai wrthrychau naturiol i'r amcan o gael patrymau, a gwnai hynny mor llwyddianus fel y dywed yr enwog Buffon ei fod yn naturiaethydd rhy fawr i ddim ond Natur i'w gynyrchu." Yn bresennol cyfrifir ei lestri addurnedig yn emau prinion yn nhrysor-gelloedd y casglwyr cywreinion penaf, a gwerthir hwy am brisoedd ydynt bron yn anhygoel. Mae yr addurniadau a geir arnynt yn gynddelwau o'r fath berffeithiaf wedi eu tynnu oddiwrth bethau byw. Pan oedd Palissy wedi cyrraedd eithafoedd ei fri fel celfyddydwr, galwai ei hun yn Grochenydd a dyfeisydd priddlestri addurnedig.”

Eto i gyd nid ydym wedi dod i derfyn dyoddefiadau Palissy. Yr adeg honno yr oedd yr erledigaeth yn mynd yn boeth iawn yn Neheubarth Ffrainc, a chan ei fod ef yn Brotestant, ac yn datgan ei olygiadau yn ddiofn, edrychid
arno fel heretic peryglus. Wedi i'r gelynion ddwyn cyhuddiadau i'w erbyn, torrodd y "swyddogion cyfiawnder " i mewn i'w dy, rhuthrodd haid o wehilion y bobl i'w weithfa a chwilfriwiasant ei lestri, a dygwyd yntau liw nos i ddaear-gell yn Bordeaux, i aros ei dro wrth yr ystanc neu'r arteithglwyd. Dedfrydwyd ef i gael ei losgi; ond arferodd y Penceidwad de Montmorency ei ddylanwad i arbed ei fywyd, nid am fod ganddo unrhyw barch i Palissy na'i grefydd, ond am nad allai gael neb arall a fedrai wneyd palmant emliw ar gyfer y palas gorwych a adeiladai ar y pryd yn Ecouen, tua deng milltir o Paris. Penodwyd ef yn Ddyfeisydd Priddlestri Addurnedig i'r Brenin a'r Penceidwad," yr hyn a fu yn foddion i'w symud ar unwaith o afael awdurdod a llywodraeth Bordeaux. Felly cafodd ei ryddhau, a dychwelodd i'w gartref yn Saintes. Ond cafodd hwnnw wedi ei dorri i fyny, ei weithfa heb do arni, a'i holl weithiau wedi eu chwalu. Gan ysgwyd y llwch oddiwrth ei draed, cefnodd ar Saintes, i beidio gwynebu arni byth mwy, a symudodd i Paris, i ddechreu ar y gwaith a drefnasid iddo gan y Penceidwad a'r Fam-frenhines.

Heblaw gwneuthur priddlestri, gyda chymhorth ei ddau fab, ysgrifenodd Palissy yn y rhan olaf o'i oes amryw lyfrau ar Grochenyddiaeth, er mwyn galluogi ei gydwladwyr i ymgadw rhag y (x40) camgymeriadau dybryd a wnaethai ef ei hun. Ysgrifenodd hefyd ar amaethyddiaeth ac hanesiaeth naturiol, a bu yn traddodi darlithiau ar y pwnc olaf a nodwyd i ryw nifer bychan o bersonau. Cododd wrthryfel yn erbyn serddewiniaeth, arfferylliaeth, swynyddiaeth, ac hocedau cyffelyb. Crëodd hyn liaws o elynion iddo, y rhai a'i gwawdient fel heretic, a chafodd ei ddal eilwaith a'i roi yng Ngharchar y Llywodraeth. Yr oedd bellach yn hen wr triugain a deunaw oed, yn crymu ar fin ei fedd, ond o ran ei ysbryd mor wrol ag erioed. Bygythid ei roi i farwolaeth os na wadai ei grefydd; ond yr oedd yr un mor gyndyn yn ei waith yn dal dros grefydd ag y buasai yn ei ymchwiliad am ddirgelwch yr emliw. Aeth Harri III. i edrych am dano yn ei garchar, gyda'r amcan o'i ddenu i wadu ei ffydd. Gyfaill anwyl," meddai'r Brenin, yr ydych yn gwasanaethu fy mam a minnau ers dros bum mlynedd a deugain. ’Rydym wedi cydymddwyn â'ch gwaith yn glynu wrth eich crefydd yng nghanol tanau a chyflafanau; yr wyf yn awr yn cael fy ngwasgu gymaint gan blaid Guise, a chan fy mhobl fy hun, fel yr wyf dan orfodaeth i'ch gadael yn nwylaw eich gelynion, ac yfory cewch eich llosgi, os na bydd i chwi droi." Syr," atebai'r hen wr anorchfygol, ’rwyf yn barod i roi fy mywyd dros ogoniant Duw. ’Rydych wedi dweyd lawer gwaith eich bod yn tosturio wrthyf; ’nawr yr wyf finnau yn tosturio wrthych chwithau, yr hwn a lefarasoch y geiriau, yr wyf dan orfodaeth! Nid yw y rhai hyn eiriau brenin, syr; mae'n fwy nas gellwch chwi na'r rhai sy'n eich gorfodi effeithio byth arnaf, canys mi wn pa fodd i farw." Bu farw yn fuan ar ol hyn, ac yn ferthyr, er nad wrth yr ystanc. Bu farw yng Ngharchar y Llywodraeth, wedi bod yno ddwy flynedd, gan derfynu yn dawel oes nodedig am ei llafur caled, ei dioddefgarwch arwrol, ei gonestrwydd diwyrni, a'i harddanghosiad o rinweddau gwerthfawr a gogoneddus.

Yr oedd bywyd Johann Friedrich Böttgher, dyfeisydd y meinbridd caled (hard porcelain), yn wahanol iawn i eiddo Palissy, er ei fod yn cynwys llawer o bethau dyddorol a rhamantus. Ganwyd ef yn Schleiz, yn Prwsia, tua'r nwyddyn 1685; a phan yn ddeuddeg oed, aeth yn egwyddorwas i gyffeiriwr yn
Berlin. Cafodd ei swyno yn foreu gan fferylliaeth, a threuliai'r rhan fwyaf o'i oriau hamddenol i wneyd ymbrawfiadau. Tueddai'r rhai hyn, gan mwyaf, i un cyfeiriad, sef at y nod o droi meteloedd cyffredin yn aur. Ymhen ychydig flynyddau cymerodd Böttgher arno fod wedi darganfod y ffordd i wneyd hynny yn wirioneddol; a thrwy ryw gast neu gilydd darbwyllodd ei feistr ac ereill i gredu ei fod wedi troi copr yn aur. Ymdaenodd y son fod Böttgher wedi cael allan y dirgelwch, ac ymgasglai torfeydd o gylch siop y cyffeiriwr i gael golwg ar y cogydd aur" ieuanc. Clywodd y brenin Frederick 1. y newydd, a phan ddanghoswyd iddo ddarn o'r aur yr honid ei fod wedi ei wneyd o gopr, penderfynodd sicrhau swm anferth o hono ar unwaith. Yr oedd Prwsia ar y pryd mewn cyfyngder arianol, a bwriadai'r brenin sicrhau Böttgher, a'i ddefnyddio i wneyd aur iddo ef tu fewn i gaerfa Spandau. Ond drwgdybiodd y llanc yr amcan, (x41 - 


JOHANN FRIEDRICH BÖTTGHER.) a dychrynodd rhag i'w dwyll gael ei ddatguddio; felly gosododd ei draed yn y tir yn ddiymdroi, a llwyddodd i groesi'r terfyn i Saxony. Cynygiwyd gwobr o fil o ddarnau triswllt Prwsia am ddal Böttgher, ond yn ofer. Cyrhaeddodd Wittenberg, ac apeliodd am amddiffyniad Etholydd Saxony, Frederick Augustus I. Yr oedd yntau mewn mawr angen am arian, a llawenychai yn ei ragolygon am feddianu digon o aur drwy help yr arfferyllydd dieithr. Felly dygwyd Böttgher yn ddirgelaidd i Dresden, yng nghwmni gwarchodlu'r brenin. Prin yr oedd wedi gadael Wittenberg cyn fod catrawd o dalfilwyr Prwsia yn gwneyd eu hymddanghosiad o flaen y porth, ac yn gorchymyn i'r gwneuthurwr aur gael ei roi i fyny. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar; yr oedd Böttgher wedi ei roi eisoes yn y Aur yn Dresden, ac yn cael ei drin yn barchus yno, ond ei fod dan warchawd.

Cafodd yr Etholydd ei hun dan orfod i'w adael yn y fan honno am dymhor, a myned i Pwyl; ond yn ei orawydd am arian, ysgrifennodd ato o
Warsaw, gan daer erfyn arno fynegu'r gyfrinach, fel y gallai yntau wneyd aur at ei wasanaeth. Wrth gael ei wasgu yn y modd hwnnw, anfonodd Böttgher gostrelaid fechan o hylif cochlyd i'r brenin, yr hwn yr honnid y byddai iddo droi yn aur bob meteloedd ond eu toddi. Ymddiriedwyd y gostrel i ofal y Tywysog Furst von Furstenburg; ac yng nghwmni byddin o warchodwyr, brysiodd yntau â hi i Warsaw. Penderfynwyd rhoi'r peth i brawf uniongyrchol. Clodd y brenin a'r tywysog eu hunain mewn ystafell ddirgel yn y palas, gwregysasant eu hunain mewn ffedogau lledr, a dechreuasant doddi'r copr, gan gymhwyso hylif coch Böttgher ato. Ond nid oedd yr effaith yn foddhaol. Er eu goreu daliai'r copr yn gopr o hyd. Eto, wrth edrych dros gyfarwyddiadau'r arfferyllydd, gwelodd y brenin fod yn rhaid i'r hylif, cyn y llwyddai, gael ei ddefnyddio "gyda gwir burdeb calon"; a chan fod ei Fawrhydi wedi treulio'r hwyr hwnnw mewn cwmni llygredig, priodolodd fethiant yr ymbrawf i'r ffaith hon. Gwnaed ail gynnyg, heb unrhyw ganlyniad amgenach; ac yna aeth y brenin allan o'i gof, oblegyd yr oedd wedi bod yn cyffesu ac yn derbyn maddeuant y Pab cyn dechreu'r tro hwn.

Penderfynodd Frederick Augustus orfodi Böttgher i ddatguddio'r gyfrinach, am mai dyma'r unig ffordd a welai fod ganddo i ddod allan o'i ddyryswch arianol. Clywodd yntau am fwriad y brenin, ac amcanodd ffoi drachefn. Llwyddodd i gychwyn yn ddiarwybod i'w warcheidwaid, ac wedi cerdded am dri diwrnod cyrhaeddodd i Ens, yn Awstria; ond pan yn ei wely y nos honno, daliwyd ef gan Swyddogion yr Etholydd, ac er gwaethaf ei apeliadau at yr awdurdodau Awstriaidd, dygwyd ef yn ol i
Dresden. O'r amser hwn cafodd ei wylied yn fwy manwl nag erioed, a'i roi yn fuan wedi hyn yng nghaerfa Koningstein. Hysbyswyd ef fod y drysorgell freninol yn wag, a deuddeg catrawd o Bwyliaid, oeddynt heb dderbyn eu cyflogau, yn aros am eu aur. Daeth y brenin ei hun ato, a dywedodd yn sarug wrtho y cai ei grogi os nad elai i ddechreu gwneyd aur ar unwaith.

 

 

(x42) Aeth blynyddau heibio heb i gopr na dim arall gael ei droi'n aur gan Böttgher, ac eto ni chrogwyd ef. Trefnai Rhagluniaeth iddo wneuthur rhywbeth gwell, sef troi clai yn feinbridd. Dygasai'r Portugaliaid rai engreifftiau prydferth o feinbriddion o China, y rhai a werthid am eu pwysau o aur. Cyfeiriwyd sylw Böttgher at y rhai hyn gan arfferyllydd o'r enw Tschirnhaus, yr hwn oedd ddyn dysgedig, ac mewn parch mawr gan y Tywysog a'r Etholydd. Tra yr oedd Böttgher yn byw o hyd mewn ofn, dywedodd wrtho un diwrnod, "Os na elli wneyd aur, gwna rhywbeth arall; gwna feinbridd." Derbyniodd yntau'r awgrym, a dechreuodd ar ei ymbrawfiadau, gan lafurio ddydd a nos. Bu yn hir cyn llwyddo, ond o'r diwedd gosodwyd ef ar ben y llwybr gan ryw glai coch a ddygasid iddo i wneyd ei dawdd-lestri o hono. Sylwodd fod y clai hwn, pan godid ef i dymeredd digon uchel, yn troi'n wydr, yn cadw'i ffurf, ac o ran ei natur yn tebygu i feinbridd, er yn gwahaniaethu o ran lliw ac anhryloywder. Yr oedd ef yn hollol ddiarwybod wedi dod o hyd i'r meinbridd coch, a dechreuodd wneuthur a gwerthu meinbriddion cochion.,

 

Eto gwyddai Böttgher yn ddigon da fod y lliw gwyn yn un o briodoleddau hanfodol gwir feinbridd, a pharhaodd i ddilyn ei ymbrawfiadau, gan obeithio y gallai gael allan y dirgelwch. Aeth rhai blynyddau eto heibio heb argoel am lwyddiant, nes y daeth damwain arall i'w gynorthwyo i ddeall pa fodd i wneyd meinbridd gwyn. Un diwrnod yn y flwyddyn 1707, teimlai ei ffugwallt (perruque) yn drymach nag arfer, a gofynodd i'w was am eglurhad ar hynny. Atebwyd iddo mai'r hyn achosai'r gwahaniaeth oedd y pylor a ddefnyddiasid i drwsio'i wallt-gapan, yr hwn a wneid o fath o bridd oedd mewn arferiad mawr fel gwallt-bylor y dyddiau hynny. Cydiodd dychymyg byw Böttgher yn yr awgrym. Meddyliodd ei fod yn bosibl mai'r pridd hwn, y cyfansoddid y gwallt-bylor o hono, oedd y peth y chwiliai yntau am dano. Mynodd wneyd prawf, a gwobrwywyd ei ofal a'i wyliadwriaeth, oblegyd cafodd allan mai kaolin oedd y brif elfen yn y gwallt-bylor, ac mai'r diffyg o hono oedd wedi bod yn rhwystr anorfod ar ei ffordd yntau i wneyd ei ddyfeisiad.

 

Bu cynyrch y darganfyddiad yn bwysig. Yn Hydref 1707, cyflwynwyd y darn cyntaf o feinbridd gwyn i'r Etholydd; teimlai yntau'n dra boddhaol arno, a threfnodd i roddi i Böttgher bob peth angenrheidiol er perffeithio'i ddyfeisiad. Wedi cael gweithiwr celfydd o Delfft, dechreuwyd troi allan feinbriddion gyda llwyddiant mawr. Ond cedwid Böttgher, druan, dan law, rhag iddo ddatguddio ei gyfrinach i ereill, neu ddianc o afael yr Etholydd. Gwylid y gweithdai a'r ffwrneisiau newyddion ddydd a nos gan filwyr, a chedwid chwech o swyddogion i ofalu na chai yntau fyned o'r golwg.

 

Gwyddai'r Etholydd fod Holland wedi ymgyfoethogi drwy'r gweithfeydd llestri oedd ganddi yn Delfft, ac ni welai un rheswm paham nad allai yntau wneyd hynny drwy weithfeydd meinbriddion. (x43 - BÖTTGHER YN GWNEYD MEINBRIDDION.) Gorchymynwyd sefydlu llaw-weithfa Freninol yn Albrechtsburg ar unwaith, a chyhoeddwyd drwy holl Ewrop fod Frederick Augustus, er mwyn hyrwyddo llwyddiant Saxony, wedi troi ei sylw at drysorau tanddaearol ei wlad, a thrwy bersonau galluog a gyflogid ganddo, wedi darganfod y ffordd i wneuthur llestri cochion llawer rhagorach na'r rhai a ddygid o China a Japan, a meinbriddion digyffelyb. Estynwyd gwahoddiad hefyd i gelfyddydwyr a llaw-weithwyr i ddod o unrhyw wlad i Saxony, i gael cyflogau da am waith, a phob nawddogaeth o eiddo'r brenin.

 

Er cymaint o gyfoeth ddeuai i ran yr Etholydd drwy Böttgher, ni dderbyniai ond triniaeth greulawn ac annynol ganddo. Cedwid dau swyddog uwchraddol iddo i arolygu'r weithfa, tra nad oedd yntau yn ddim amgen na blaenor y crochenyddion, a charcharor y brenin. Adeiladwyd gweithfa yn Meissen; ac hyd yn oed yn yr adeg honno, pan oedd ei wasanaeth yn anhebgorol, arweinid ef yn ol a blaen i Dresden gan filwyr. Wedi i'r weithfa hon gael ei gorffen, cai ei gloi bob nos yn ei ystafell. Efteithiai'r pethau hyn yn ddwys ar ei feddwl, ac yn ei lythyrau at y brenin erfyniai yn daer drachefn a thrachefn am ei dosturi. Mae rhai o'r llythyrau hynny yn ddigon i hollti'r galon galetaf. "Mi gyflwynaf fy holl enaid i'r gelfyddyd o wneuthur meinbriddion; mi wnaf fwy na wnaeth dyfeisydd erioed dim ond i mi gael rhyddid, ie, rhyddid," meddai.

 

Anwybydda pob apeliad o'i eiddo wnai'r brenin. Boddlonai iddo gael rhai ffafrau ereill, ond dim rhyddid. Edrychai arno fel ei gaethwas. Wedi dal i lafurio'n galed yn y fath gyflwr am dymor, torrodd ei galon a dechreuodd ddiota. Cyn gynted ag yr ymollyngodd i feddwi, aeth y rhan amlaf o weithwyr Meissen i ddilyn yr un arferiad. Digwyddai ymrysonau ac ymladdfeydd parhaus yn eu mysg, a mynych y byddai raid galw am wasanaeth y milwyr yno. A chyn hir yr oedd mwy na thri chant, ie, yr oll o'r gweithwyr, yn cael eu cau i fyny yn Albrechtsburg, a'u trin fel carcharorion y llywodraeth.

 

O'r diwedd syrthiodd Böttgher yn glaf, ac yn Mai, 1713, tybid fod ei ymddatodiad yn ymyl. Yn ei ddychryn rhag colli caethwas mor werthfawr, trefnodd y brenin i warcheidwad ei gymeryd ychydig oddiamgylch mewn cerbyd bob dydd. Wedi iddo wella i raddau, caniataodd iddo fynd yn achlysurol i Dresden. Mewn llythyr a ysgrifenodd yn Ebrill, 1714, addawodd i Böttgher gyflawn ryddid, ond yr oedd yn rhy ddiweddar. Er iddo ddihoeni am dymhor drachefn, yr oedd ei gaethiwed maith a chreulawn wedi gwneyd ei waith ar ei gorff, ei feddwl, a'i gymeriad; a bu farw ar y 13eg o Fawrth, 1719, yn bymtheg ar hugain oed. Claddwyd ef liw nos, fel pe na buasai ond ci, yn Nghladdfa Ioan, yn Meissen. Dyma fraslinelliad o driniaeth flin a diwedd truenus un o gymhwynaswyr pennaf Saxony.

 

Yr oedd gyrfa Josiah Wedgwood, y crochenydd Seisnig, yn llai aml-liwiog a mwy llwyddianus nag eiddo Palissy a Böttgher, a disgynodd ei goelbren mewn amseroedd mwy dymunol- Hyd y (x44) ganrif ddiweddaf yr oedd Lloegr yn ailraddol i amryw o brif wledydd Ewrop o ran ei phriddlestriaeth. Gwir fod llawer o grochenyddion yn Swydd Gaerdryw (Staffordshire), a Wedgwood ei hun yn perthyn i deulu lliosog o grochenyddion o'r enw hwn, ond nid oedd eu llestri ond pethau llwydion a garw, a'r lluniau arnynt wedi eu hysgrabinio i fewn pan oedd y clai yn dyner. Dygid y llestri pridd goreu a ddefnyddiai'r wlad o Delfft, a'r llestri cerig o Cologne. Ymsefydlodd dau grochenydd dieithr, y brodyr Elers, o Nuremberg, yn Swydd Gaerdryw dros dymhor, a dygasant gyda hwy welliantau pwysig; ond symudasant cyn hir i Chelsea, a chyflwynasant eu holl amser i wneuthur darnau addurnedig. Hyd yn hyn, nid oedd unrhyw feinbridd, a ddaliai ei ysgrabinio ag offerynau blaenfain, wedi ei wneuthur yn Lloegr, a thros amser maith nid oedd y pethau a wneid yn Swydd Gaerdryw, ac a elwid yn "llestri gwynion," yn wynion o gwbl, ond yn hytrach o liw hufenog a bawlyd. Dyna, mewn gair byr, oedd sefyllfa pridd-lestriaeth pan aned Josiah Wedgwood yn Burslem, yn 1730; ond erbyn amser ei farwolaeth, yn mhen tri ugain a phedair. o flynyddau, yr oedd pethau wedi cyfnewid yn gyfangwbl.

 

Yr un fath ag Arkwright, yr oedd Wedgwood yr ieuengaf o dri ar ddeg o blant. Priddlestrwyr oedd ei daid, a brawd ei daid; a dyna oedd ei dad hefyd, yr hwn a fuasai farw pan nad oedd ef ond bachgennyn, gan adael iddo yn ei ewyllys ugain punt. Yr oedd wedi dysgu darllen ac ysgrifennu yn ysgol y pentref, ond ar farwolaeth ei dad cadd ei dynu o honi, a'i osod i weithio fel "taflydd" (thrower) mewn gwaith llestri bychan oedd gan ei frawd. Yno y dechreuodd ei fywyd fel gweithiwr, "ar ffon isaf yr ysgol," fel y dywedai. Yn fuan ar ol hyn cafodd ei daro gan y frech wen, a bu'n dioddef oddiwrth effaith hon am y gweddill o'i dymhor, oblegyd gadawodd ar ei hoi afiechyd yn ei benlin, yr hwn a'i blinai yn fynych, ac ni chafodd wared o hono nes cymeryd ei glun ymaith ymhen amryw flynyddau. Mewn araeth a draddodai ar Wedgwood ryw dro yn Burslem, dywedai Mr. Gladstone ei fod yn ymddangos mai'r hyn y dioddefodd gymaint oddiwrtho fu'n achlysur o'i enwogrwydd dilynol, am ei fod, drwy ei analluogi i barhau yn weithiwr cyffredin, wedi ei orfodi i fod yn rhywbeth mwy na hynny.

 

Wedi gorffen ei dymor fel egwyddorwas gyda'i frawd, ymunodd Wedgwood a gweithiwr arall, a buont yn cydfasnachu mewn carnau cyllyll, blychau, a gwahanol offerynau at wasanaeth tŷ. Bu mewn cysylltiad â dyn arall yn gwneuthur canwyllbrenau, blychau trew-lwch, a phethau cyffelyb; eto, ni wnaeth ond ychydig o gynnydd nes iddo ddechreu ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Burslem, yn 1759. Yno bu'n gweithio'n ddyfal, ac yn eangu ei fasnach yn raddol. Y nôd ddaliai o'i flaen yn bennaf oedd gwneyd llestri o liw hufen, a rhagorach o ran ffurf, golch, a pharhad, na'r rhai a wneid ar hynny o bryd yn Swydd Gaerdryw. Er mwyn cyrraedd ei amcan, cyflwynai ei oriau hamddenol i astudio fferylliaeth, a gwneyd ymbrawfiadau ar doddiant, golchau, a gwahanol fathau o glai. Drwy ei fod yn sylwedydd manwl, gwelodd fod math o bridd a gynwysai gellt (x45 - YN DYSGU'R GREFFT O WNEYD LLESTRI.) (silica), er yn ddu cyn ei boethi, yn troi'n wyn ar ol ei roi yng ngwres y ffwrnais. Parodd hyn iddo benderfynu cymysgu'r cellt â phylor y gweithfeydd llestri, a chafodd allan fod y cymysgedd yn troi'n wyn wrth gael ei losgi. Nid oedd raid iddo bellach wneyd dim ond gorchuddio'r defnydd hwn a golch tryloyw cyn cael un o gynyrchion pennaf celfyddyd y crochenydd, set priddlestri Seisnig.

 

Bu Wedgwood hefyd dros gryn amser yn ymdrafferthu gyda'i ffwrneisiau, er nad i'r un graddau a .Palissy, a gorchfygodd ei anhawsterau fel yntau drwy ddyfalbarhad. Nid oedd ei ymgeisiadau cyntaf i wneuthur meinbriddion at wasanaeth byrddau ond cyfres o fethiantau. Aeth llawer o amser, arian a llafur yn ofer cyn iddo ddod o hyd i'r math o olch oedd yn cyfateb i'w arfer, ond ni chymerai ei ddigaloni, ac o'r diwedd buddugoliaethodd ar bob anhawster drwy amynedd. Rhoddai ei holl fryd ar berffeithio pridd-lestriaeth, ac ni chollai ei olwg ar hyn am funud. Hyd yn oed wedi dod i allu gwneyd llestri gwynion ac hufenliw wrth y miloedd at wasanaeth cartrefol a thramorol, daliai i wneyd gwelliantau yn ei weithfeydd; a dilynid ei esiamplau gan ereill, nes symbylu yr holl ranbarth i weithgarwch, a sefydlu cangen gref o ddiwydiant Prydeinig ar sylfeini cedyrn. Ymestynai'n wastad at y perffeithrwydd eithaf, a dewisai beidio gwneyd peth o gwbl yn hytrach na'i wneyd yn wael.

 

Gan ei fod yn llafurio gydag amcanion cywir, derbyniai gydymdeimlad a chefnogaeth dynion safle a dylanwad. Gwnaeth i'r Frenhines Charlotte y bwrdd-lestri cyntaf o wneuthuriad Prydeinig, o'r fath a alwyd wedi hynny yn "Llestri'r Frenhines," a phenodwyd ef yn Grochenydd Brenhinol, teitl y rhoddai fwy o werth arno na phe wedi cael ei wneyd yn Farwnig. Ymddiriedwyd iddo gydrifau drudfawr o feinbriddion i'w hefelychu, a llwyddodd yn hyn yn rhyfeddol. Rhoes Syr William Hamilton iddo fenthyg hen lestri a ddygasid o Herculaneum, a chynyrchodd gopiau ardderchog o honynt. Cynygiodd Duces Portland fwy nag ef am Dlws-gawg Barberini pan oedd yn cael ei werthu. Rhodd hi ddeunaw can' gini, hanner cant yn fwy nag a gynygiai ef, am dano. Ond pan ddeallodd beth oedd ei amcan, cynygiodd iddo gael benthyg y tlws-gawg i wneyd copiau o hono. Gwnaeth hanner cant o'r cyfryw, a chostiodd hynny £2500; ac er iddo fod yn golledwr mewn ystyr arianol, cyrhaeddodd ei amcan, sef dangos y gwna medr ac egni'r Saeson beth bynag y mae ereill wedi wneyd.

 

Galwai Wedgwood dodd-lestr y fferyllydd, gwybodaeth yr hynafieithydd, a chywreinrwydd y celfyddydwr, i'w gynorthwyo. Daeth o hyd i Flaxman pan yn llanc, a thra yn meithrin ei dalent, tynodd oddiwrtho nifer mawr o arfelion (designs) ar gyfer ei bridd-lestri a'i feinbriddion. Trwy ei ymbrawfiadau a'i efrydiaeth ail ddarganfyddodd y gelfyddyd o argraffu ar dlws-gawgiau meinbriddol a phriddlestriol, a phethau cyffelyb. Buasai'r gelfyddyd hon mewn arferiad ymhlith yr hen Etrusciaid, ond yr oedd ar goll er dyddiau Pliny. Enwogodd ei hun fel gwyddonydd, a chysylltir ei enw hyd (x46) heddyw a'r Tanfesurydd (Pyrometer), yr hwn a ddyfeisiwyd ganddo. Pleidiai bob mudiad a dueddai i lesoli'r cyhoedd; a rhaid priodoli gwneuthuriad Camlas y Trent a'r Mersey yn bennaf i'w ymdrechion ef, mewn cysylltiad a medrusrwydd celfyddydol Brindley. Yr oedd ei enwogrwydd yn gymaint, fel y daeth ei weithfeydd yn Burslem ac Etruria yn bwynt atyniad i ymwelwyr o nod o bob rhan o Ewrop.

 

Y canlyniad o ymdrechion Wedgwood fu dwyn crochenyddiaeth, yr hon a gafodd yn y sefyllfa iselaf oedd yn bosibil i fod yn un o brif drafnidiaethau Lloegr; ac yn lle dadforio o wahanol fanau y pethau oeddynt angenrheidiol arnom at wasanaeth cartrefol, daethom i all-forio yn helaeth i wledydd ereill, ac i'w cyflenwi a llestri er gwaethaf diffyndollau trymion a roddid ar nwyddau Prydeinig. Ymhen deng mlynedd ar hugain wedi i Wedgwood ddechreu, yn lle fod gwaith ansefydlog yn cael ei ddarparu ar gyfer rhyw nifer fechan o weithwyr dinod, a'r rhai hyn yn cael eu talu yn waradwyddus, yr oedd 20,000 o bersonau yn derbyn cyflogau da am wneyd llestri. Heblaw hyn, rhaid cofio'r ychwanegiad a roddasai'r gwaith i nifer y rhai a gyflogid i dori glo, ac i gludo'r nwyddau hyn dros dir a môr, ynghyd a'r symbyliad a roddasai i fasnach mewn llawer ffordd yng ngwahanol rannau'r wlad. Eto i gyd, er mor bwysig oedd y cynnydd wedi bod yn ei amser ef, barnai Wedgwood nad oedd y gwaith ond megys yn dechreu, ac nad oedd y gwelliantau a ddygasai ef oddiamgylch ond pethau dibwys o'u cymharu a'r hyn oedd yn bosibl i'w wneyd drwy ddiwydrwydd a dealltwriaeth cynnyddol y llaw-weithyddion, ynghyd a'r cyfleusterau naturiol, a'r manteision gwleidyddol a fwynheid gan Brydain Fawr. Mae'n amlwg erbyn heddyw fod ei farn yn gywir. Yn 1852, allforiwyd dim llai na 84,000,000 o ddarnau priddlestriol o Loegr i wledydd ereill, heblaw yr hyn a wnaed at wasanaeth cartrefol. Ond nid swm a gwerth y pethau gynyrchir yw'r oll a hawlia ein hystyriaeth, ond hefyd y gwelliant mawr yn sefyllfa'r trigolion a ddygant ymlaen y gangen hon o ddiwydiant. Yr adeg y dechreuodd Wedgwood ar ei lafur, gorweddai ardaloedd Swydd Gaerdryw mewn cyflwr hanner barbaraidd. Yr oedd y bobi yn dlawd, anniwylliedig, ac anaml. Pan oedd ef wedi cyflawn sefydlu ei law-weithfeydd, ceid digon o waith, cyflogau anrhydeddus, a nifer y trigolion yn dri chymaint; ac yr oedd eu dyrchafiad moesol yn gyfartal i'w cynnydd naturiol.

 

Mae dynion o'r fath hyn yn deilwng o gael eu cydnabod fel arwyr diwydianol y byd gwareiddiedig. Nid yw eu hunanymddibyniad yng nghanol anhawsterau, a'u glewder wrth ymestyn at amcanion uchel, yn llai arwrol yn ol eu natur na glewder ac ymgyflwyniad y milwr a'r morwr, dyledswydd ac ymffrost pa rai yw amddiffyn yr hyn mae'r arweinwyr diwydianol yma wedi ennill mewn modd mor ogoneddus.

 

(x47)

PENNOD IV.

Ymroddiad a dyfalbarhad.

 

Cyrhareddir yr amcanion pennaf drwy foddion distadl yn aml. Mae'r bywyd cyffredin a dreulir bob dydd, gyda'i ofalon, ei angenrheidiau, a'i ddyledswyddau, yn rhoi digon o gyfle i ennill profiad o'r fath oreu; a'i lwybrau mwyaf sathredig yn arwain y gweithiwr diffuant i ddigon o le i ymdrechu a gwella ei hunan. Ceir ffordd llwyddiant yn gorwedd yn gyfochrog â hen brif-ffordd cyflawniad dyledswyddau; a'r rhai sydd fwyaf dyfal-barhaol, ac yn gweithio yn yr ysbryd goreu, fyddant fynychaf y mwyaf llwyddianus.

 

Beiir ffawd lawer pryd am ei dallineb; ond nid yw ffawd mor ddall â dynion. Wrth edrych o'n hamgylch, gwelwn fod ffawd braidd bob amser o du y diwyd, yr un modd ag y mae'r gwyntoedd a'r tonnau o ochr y mordwywyr goraf. Y galluoedd yr edrychir arnynt fel pethau ailraddol, megys synwyr cyffredin, ystyriaeth, ymroddiad a dyfalbarhad, yw y rhai geir yn fwyaf ddefnyddiol wrth ddilyn hyd yn oed y canghenau uchaf o ymchwiliad dynol. Nid yw gwir athrylith byth yn diystyru gwasanaeth y galluoedd ailraddol hyn; ac y mae'r dynion enwocaf wedi bod ymysg y credwyr lleiaf yn ngallu athrylith. Yr ydys wedi deffinio athrylith fel peth nad yw yn ddim amgen na "synwyr cyffredin wedi ei rymusu." Siaradai un boneddwr oedd yn athraw a llywydd coleg am dani fel "y gallu o wneyd ymdrechion." Daliai John Foster mai'r "gallu sydd gan ddyn i gyneu ei dân ei hun ydyw," a dywedai Buffon mai "amynedd" yw hi.

 

Nid oes amheuaeth nad oedd gan Newton feddwl o'r radd flaenaf oll, ac eto pan ofynwyd iddo pa fodd yr oedd yn gweithio allan ei ddarganfyddiadau rhyfeddol, atebodd yn wylaidd, "Drwy eu myfyrio beunydd." Dro arall hysbysodd ei ddull o efrydu fel hyn: "Yr wyf yn cadw'r mater yn ddibaid o flaen fy meddwl nes yr agoro'r gwawriadau cyntaf bob yn ychydig yn oleuni cyflawn a chlir." Ennillodd ef, fel pawb ereill, ei enwogrwydd drwy ei ymroddiad a'i ddyfalbarhad; a phan yn teimlo yn flinedig, adgyfnerthai ei feddwl drwy gyfnewid gwaith, a rhoi un pwnc i lawr i gymeryd i fyny bwnc arall. Dywedai Dr. Bentley, "Os wyf wedi gwneyd rhyw wasanaeth i'r cyhoedd, mae i'w briodoli i ddiwydrwydd ac efrydiaeth gyson." A dyfynai Kepler y llinell honno o eiddo Virgil, fel yr eglurhad goreu ar ei gynnydd: "Ymhoywa clod drwy weithgarwch, a meddiana nerth dwy ei ysgogiadau ei hun."

 

Mae'r gorchestion rhyfeddol ydynt wedi eu cyflawni drwy rym (x48) diwydrwydd a dyfalbarhad yn hollol, wedi peru i lawer amheu a yw athrylith yn gynysgaeth mor eithriadol ag y meddylir weithiau. Barnai Voltaire nad oes ond llinell fain iawn o wahaniaeth rhwng y dyn a gyfrifir yn dalentog a'r dyn cyffredin. Tybiai Beccaria y gallasai pawb fod yn feirdd ac areithwyr, ac honai Reynolds y gallasent fod yn arlunwyr a cherfwyr. Credai Locke a Diderot fod gan bawb yr un cymhwyster i fod yn athrylithgar, ac fod yr hyn fedr rhai gyflawni, yn rhwym o fod o fewn cylch gallu pawb ereill a ymroddant i'r un pethau o dan gyffelyb amgylchiadau. Ond eto i gyd, tra'n cydnabod y gweithredoedd nerthol a gyflwnwyd gan lafur, ac yn cydnabod hefyd fod y dynion mwyaf talentog yn ddieithriad wedi arfer bod yn weithwyr diflino, ymddengys i ni ei fod yn ddigon amlwg nas gallasai unrhyw fesur o ymroddiad, yn anibynnol ar y gynysgaeth wreiddiol o galon ac ymenydd, gynyrchu un Shakespeare, Beethoven, na Michael Angelo.

 

Gwadai Dalton, y fferyllydd, nad oedd ef yn meddu ar athrylith, a phriodolai bopeth a gyflawnasai i ddiwydrwydd ac ymdrech. Dywedai John Hunter, "Mae fy meddwl fel cwch gwenyn, ac er llawned o si a chyffro ydyw, mae'n llawn o drefn a rheoleidd-dra, ac o ymborth wedi ei gasglu drwy ddiwydrwydd o ystorfeydd goreu natur." Nid oes raid ond taflu golwg dros hanes dynion mawrion cyn cael allan fod y dyfeiswyr, y celfyddydwr, y meddylwyr, a'r gweithwyr mwyaf nodedig yn priodoli eu llwyddiant i fesur helaeth i'w diwydrwydd a'u hymroddiad. Dynion a droent bopeth yn aur, hyd yn oed amser ei hunan, oeddynt. Daliai Disraeli yr hynaf fod dirgelwch llwyddiant yn gynwysedig mewn meistroli'r mater fo dan sylw, ac mai'r unig ffordd i gyrraedd y meistrolaeth hwnnw yw drwy ymroddiad ac efrydiaeth barhaus. Dyma sydd yn cyfrif am y ffaith mai nid y dynion a ystyrir yn ordalentog sydd yn arfer cynhyrfu'r byd fwyaf, ond y dynion a ystyrir yn gyffredin o ran galluoedd. Wrth son am ei mab talentog ond diofal, dywedai un weddw, "Druan o hono, nid yw yn gallu dal gyda dim." Mae'r rhai sy'n ddiffygiol mewn dyfalbarhad yn cael eu gadael ar ol yn rhedegfa bywyd gan y diwyd, ac hyd yn oed gan y didalent. Dywed diareb Eidalaidd, "Mae'r hwn sy'n mynd yn araf yn mynd am amser maith, ac yn mynd ymhell."

 

O ganlyniad, pwynt mawr i ymestyn ato yw cael y gallu gweithiol wedi ei ddysgyblu yn gymharol dda. Rhaid adwneyd ac adwneyd drachefn; gyda llafur y daw rhwyddineb. Nis gellir meistroli'r gelfyddyd symlaf heb hyn. Dyma'r modd y meithrinodd y diweddar Syr Robert Peel y galluoedd cyffredin hynny a'i gwnaethant o'r diwedd yn addurn i Senedd Prydain. Pan yn fachgen yn Maenor Drayton, arferai ei dad ei roi i sefyll wrth y bwrdd i siarad yn ddifyfyr , ac arferai ef yn foreu i adrodd cymaint a fedrai o'r bregeth wrandawai bob Sabbath. Ychydig o gynnydd wneid ar y dechreu, ond drwy ddyfalbarhad cyson, daeth ei gof yn fwy gafaelgar a'i sylw yn fwy manwl, a chyn hir adroddid y bregeth bron air yng ngair. Pan oedd ym mhen blynyddau yn ateb y naill ar ol y llall o ymresymiadau ei wrthwynebwyr Seneddol, - gwaith nad allai (x49 - GWEITHIO YN HOENUS A CHALONOG.) neb braidd gystadlu ag ef ynddo - ychydig feddylid fod y gallu rhyfeddol ddangosai ar y fath achlysuron i gofio popeth mor fanwl a chywir, wedi ei feddianu drwy'r dysgyblaeth roddasai ei dad iddo yn eglwys y plwyf yn Drayton.

 

Mae'n anhawdd meddwl beth all ymroddiad parhaus wneyd mewn cysylltiad â'r pethau mwyaf cyffredin. Ymddengys chwareu crwth yn orchwyl distadl, ond gofyna ymarferiad maith a llafurus. Dywedai Giardini wrth lanc a holai faint o amser gymerai iddo i'w ddysgu, "Deuddeg awr bob dydd dros ugain mlynedd." Rhaid i'r ddawnsyddes dlawd lafurio'n galed am dymor maith cyn gwneyd ei marc. Pan ymbaratoai Taglioni ar gyfer ei harddanghosiad hwyrol, wedi cael gwers galed gan ei thad am ddwy awr, byddai'n aml yn syrthio i lawr yn lluddedig ac anymwybodol, a byddai raid diosg ei dillad, ei hysbyngu a'i hadgyfnerthu. Ni sicrheid ystwythter ac ysbonciau'r hwyr ond ar draul o'r fath hyn.

 

Mae cynnydd o'r natur oreu yn gymharol araf. Ni wneir pethau mawrion ar unwaith, a rhaid i ni ymfoddloni ar fynd rhagom mewn bywyd fel yr ydym yn rhodio, o gam i gam. Dywed Maistre mai gwybod pa fodd i aros a disgwyl yw dirgelwch mawr llwyddiant. Rhaid hau cyn gellir medi, ac aros yn hir weithiau, ganfod yn foddlawn yn y cyfamser i edrych ymlaen yn obeithlawn. Y ffrwyth goreu sydd yn addfeda fwyaf araf yn aml; ond "amser ac amynedd," medd y ddiareb ddwyreiniol, "a droant ddeilen y ferwydden yn sidan."

 

Mewn trefn i ddisgwyl yn amyneddgar, rhaid gweithio yn hoenus. Mae hoenusrwydd yn gymhwyster rhagorol i weithio, ac yn rhoi ystwythter i'r cymeriad. Fel y dywed rhyw esgob, "Tymer yw naw rhan o ddeg o Gristionogaeth;" felly mae sirioldeb a diwydrwydd yn naw rhan o ddeg o ddoethineb ymarferol. Dyma fywyd ac enaid dedwyddwch a llwyddiant. Ni theimlai Sydney Smith ei hun yn ei elfen briodol pan yn llafurio fel offeiriad plwyf yn Swydd Caerefrog, ond yr oedd bob amser yn siriol ac yn gwneyd ei oreu. "Yr wyf yn penderfynu hoffi fy ngwaith," meddai, "ac ymgymodi âg ef. Mae hynny yn fwy dynol na gwneyd malpai uwch ei ben, a llunio achwyniadau a rhyw sothach cyffelyb." Felly y dywedai Dr. Hook pan yn gadael Leeds am faes newydd, "Ple bynag y byddaf, gyda bendith Duw, gwnaf yr hyn yr ymeifl fy llaw ynddo a'm holl egni; ac os na ddeuaf o hyd i waith, mi a'i creaf ef."

 

Rhaid i'r rhai a lafuriant er mwyn budd y cyhoedd yn arbennig, weithio'n hir ac ymarhous fynychaf, heb nemawr o ragolygon am dal neu ffrwyth uniongyrchol. Erys yr had a heuant yn guddiedig weithiau dan eira'r gauaf, a chyn daw'r gwanwyn dichon bydd y llafurwr wedi mynd i'w orffwysfa. Nid yw pob gweithiwr cyhoeddus, fel Rowland Hill, yn cael gweld syniad mawr ei fywyd yn dwyn ffrwyth yn ystod ei oes. Heuodd Adam Smith hadau diwygiad cymdeithasol pwysig, yn yr hen Brif Athrofa lwydaidd honno yn Glasgow, a rhoes i lawr sylfeini ei "Wealth of Nations," ond ehedodd triugain a deg o flynyddau cyn i'w waith ddwyn ffrwythau sylweddol; ac yn wir, nid ydynt wedi eu casglu i fewn i gyd eto.

 (x50) Os cyll dyn ei obaith, nid oes dim a all wneyd y diffyg i fyny. Mae'n newid y cymeriad yn hollol. Yr oedd Carey, y cenhadwr, yn un o'r gweithwyr mwyaf hoenus a gwrol, am ei fod bob amser yn llawn gobeithion. Ryw dro pan yn blentyn ceisiai ddringo i ben coeden, ond llithrodd ei droed, a syrthiodd i lawr, gan dori ei glun. Bu yn gyfyngedig i'w wely am wythnosau, ond cyn gynted ag y daeth i allu cerdded heb gymhorth, aeth yn union at yr un goeden, a dringodd i'w brigau uchaf. Yr oedd yn rhaid i Carey wrth wroldeb di-ildio er cyflawni gwaith mawr ei fywyd; danghosodd hefyd ei fod yn ei feddu, a chyflawnodd ei waith yn ogoneddus. Pan yn yr India, nid oedd yn beth anarferol iddo dreulio allan nerth tri o ysgrifenyddion mewn un dydd, a bwriai yntau ei flinder drwy newid ei waith. Ei ddau gynhorthwywr oedd Ward a Marsham, y naill yn fab i saer, a'r Hall yn fab i weuydd; ac nid oedd yntau ond mab i grydd. Drwy ymdrechion y tri codwyd coleg ardderchog yn Serampore; sefydlwyd un ar bymtheg o orsafoedd llwyddianus; cyfieithwyd y Beibl i un ar bymtheg o ieithoedd, a rhoddwyd cychwyniad i chwyldroad moesol ardderchog yn yr India Brydeinig. Nid oedd ar Carey gywilydd o'i ddechreuad isel. Un diwrnod pan wrth fwrdd y Llywydd-Gadfridog, clywodd swyddog a eisteddai gyferbyn ag ef yn gofyn i un arall, yn ddigon uchel iddo i'w glywed, a oedd Carey ddim wedi bod yn grydd ryw dro. "Na, Syr," atebai Carey ar darawiad, "ni fu yn ddim ond clytiwr esgidiau."

 

Dywedai Dr. Young, yr athronydd, "Gall unrhyw ddyn wneyd yr hyn mae arall wedi wneuthur;" ac nid ymddengys iddo ef erioed gilio'n ol rhag un anhawster y byddai wedi penderfynu mynd drwyddo. Y tro cyntaf iddo esgyn ar geffyl, yr oedd yng nghwmni wyr i Barclay, y maesgampwr enwog, a phan y gwelodd ei gyfaill yn gyru ei geffyl ar garlam dros argae uchel, ceisiodd yntau wneyd yr un peth, ond syrthiodd oddiar ei anifail. Heb yngan gair, esgynodd a gwnaeth ail gynnyg, a bu yn aflwyddianus; ond ni thaflwyd ef ymhellach nag i war ei geffyl. Ar y trydydd tro, llwyddodd i fynd yn glir dros yr argae. Nid llai dyddorol yw'r hanesyn am Audubon, yr adarydd Americanaidd, fel mae ef ei hun yn ei adrodd. "Bu damwain ddigwyddodd i ddau cant o'm harluniadau (drawings) cyntaf bron rhoi terfyn ar fy ymchwiliadau adaryddol. Gadewais bentref Henderson, yn Kentucky, lle bum yn byw dros rai blynyddau, i fynd ar neges i Philadelphia. Teflais olwg dros fy arluniadau cyn ymadael; gosodais hwynt yn gryno mewn cist bren, a rhoddais hwy yng ngofal un o'm perthynasau, gan orchymyn iddo ofalu na byddai un niwaid yn digwydd iddynt. Bum oddicartref amryw wythnosau, a phan ddychwelais holais am fy nghist. Dygwyd hi i mi, ac agorais hi. Ond, O! ddarllenydd anwyl! tosturia wrthyf. Yr oedd par o lygod Llychlyn wedi cymeryd meddiant o'r oll, ac yn magu teulu ieuanc ymysg y papyrau darniedig; ie, y papyrau a gynrychiolent ychydig o wythnosau yn flaenorol yn agos i fil o breswylyddion yr awyr. Yr oedd y gwres difaol a redodd ar darawiad drwy fy ymenydd yn ormod i'w ddal heb iddo effeithio ar fy holl gyfundrefn ïeuol. Cysgais dros amryw nosweithiau, ac ehedodd y (x51 - NEWTON A CARLYLE.) dyddiau heibio fel dyddiau anghof, hyd nes i mi, wedi i'r galluoedd anifeilaidd gael eu galw'n ol i weithrediad drwy rym fy nghyfansoddiad, gymeryd i fyny fy ngwn, fy nodlyfr, a'm pwyntil, a mynd allan i'r coed mor hoenus a phe na fuasai dim wedi digwydd. Teimlais yn falch y gallwn yn awr wneyd gwell arluniadau nag o'r blaen; a chyn i fwy na thair blynedd fynd heibio, yr oedd fy mhapyr-gist wedi ei llanw drachefn."

 

Mae dinystriad damweiniol papyrau Syr Isaac Newton, drwy i'w gi bychan, Diamond, ddymchwelyd canwyll gwyr a losgai ar ei ysgrifen-fwrdd, pan y cafodd cyfrifiantau llafurfawr y treuliasai flynyddau meithion i'w gwneuthur, eu dinystrio mewn mynydyn, yn hanes digon adnabyddus, ac ni raid ei ail adrodd. Dywedir i'r golled achosi'r fath ofid dwys iddo, fel y niweidiodd ei iechyd yn fawr, ac y gwanhaodd ei nerth meddyliol. Digwyddodd damwain gyffelyb ynglyn a llawysgrif Carlyle o'r gyfrol gyntaf o'i "French Revolution." Yr oedd wedi rhoi benthyg y llawysgrif i gymydog llenorol i'w darllen. Trwy ryw anffawd, yr oedd y llawysgrif wedi ei gadael ar lawr y parlwr a'i hanghofio. Pan oedd wythnosau wedi mynd heibio, anfonodd yr hanesydd am ei waith, gan fod yr argraffwyr yn "gwaeddi am gopi." Gwnaed ymchwiliadau, a chafwyd fod yr is-forwyn, ar ol cael o hyd i'r hyn y meddyliai hi nad oedd yn ddim amgen na sypyn o bapyr diwerth ar y llawr, wedi ei ddefnyddio i gyneu tan y gegin a'r parlwr. Y cyfryw oedd yr atebiad a ddychwelwyd i Carlyle, a gellir dychymygu beth oedd ei deimlad. Er hynny, nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond dechreu gweithio, ac ail ysgrifennu'r llyfr; ac er nad oedd ganddo un brasysgrifeniad o hono, a bod yn rhaid iddo gasglu ynghyd ffeithiau a syniadau oeddynt wedi eu gollwng i ddianc ers hir amser, gwnaeth hyn. Yr oedd cyfansoddi'r llyfr y tro cyntaf wedi bod yn fwynhad iddo, ond yr oedd ei ysgrifennu'r ail dro yn boen a gofid, er yn arddanghosiad o benderfyniad na cheir yn aml ddim yn mynd tu hwnt iddo. Arferai George Stephenson, wrth anerch pobi ieuainc, symio i fyny ei gynghorion yn y geiriau, "Gwnewch fel y gwnaethum I - dyfalbarhewch." Bu ef am bymtheg mlynedd yn ymroi i berffeithio ei beiriant ymsymudol cyn iddo gyrraedd ei oruchafiaeth derfynol yn Rainhill; a bu Watt yn llafurio am ddeng mlynedd ar hugain cyn gorffen ei beiriant dwyseiddio. Rhy brin y disgwyliasai neb gael mewn cadlanc, ysgrifenydd Tŷ Indiaidd, ac egwyddorwas i gyfreithiwr, ddynion i ddarganfod iaith anghofiedig ac hanes claddedig Babilon, ac eto, dyna oedd Rawlinson, Norris, a Layard, y gwyr fuont yn dadenhuddo mynorion Ninife; yn rhoi eglurhad ar y llythyrenau cynaidd (cuneiform) oedd wedi mynd allan o ymarferiad oddiar adeg gorchfygiad Persia gan y Macedoniaid; ac yn cloddio i fyny'r trysorau hanesiol gwerthfawr a ddygwyd o Babilon i'r Amgueddfa Brydeinig. Costiodd gwneyd hyn yn ddrud iddynt, ond drwy ddyfalbarhad llwyddasant.

 

Cawn yng ngyrfa Iarll Buffon arddanghosiad rhagorol o allu ddiwydrwydd, ac o gywirdeb ei ddywediad ef ei hun, sef, mai (x52) "Amynedd yw Athrylith." Er ucheled y nod a gyrraeddodd mewn hanesiaeth naturiol, pan oedd yn llanc, ni edrychid arno ond fel un o alluoedd cyffredin. Araf iawn yr ymffurfiai ei feddwl, ac araf hefyd yr adgofiai'r hyn fyddai wedi ddysgu. Yr oedd o duedd naturiol ddiog, a chan ei fod wedi ei eni i etifeddiaeth eang, gallesid disgwyl iddo feithrin pob tueddiad at esmwythyd a moethusrwydd. Ond penderfynodd ymwadu â mwynderau ac ymroddi i efrydiaeth ac hunanddiwylliant. Galwodd Joseph ei was i'w gynorthwyo i dori drwy'r arferiad o gysgu'n hir y boreu, ac addawodd goron o wobr iddo am bob tro y llwyddai i'w godi cyn chwech o'r gloch. Ar y cyntaf, pan elwid arno, dadleuai ei fod yn glaf, dwrdiai am gael ei aflonyddu, a bygythiai anfon y gwas i'w ffordd; ond ar ol cael llonydd i gysgu, byddai'n anfoddlawn drachefn. O'r diwedd, penderfynodd Joseph y mynai'r goron yn hytrach na'r ceryddon; gwnai iddo godi bodd neu anfodd; ac un tro, pan oedd Buffon yn hynod o gyndyn, arferodd fesur mwy eithafol na'r cyffredin. Taflodd lond cawg o ddwfr cyn oered â'r ia o dan ddillad y gwely, a gwelwyd yr effaith ar darawiad. Cyn hir daeth Buffon i fedru codi'n ddidrafferth, ac arferai ddweyd ei fod yn ddyledus i Joseph am dair neu bedair cyfrol o'i tt Hanesiaeth Naturiol."

 

Bu Buffon dros ddeugain mlynedd yn gweithio wrth ei ysgrifenfwrdd o naw hyd ddau ac o bump hyd naw bob dydd. Yr oedd ei ddiwydrwydd mor barhaol a rheolaidd fel y daeth yn angenrhaid i'w natur, a'i efrydiaethau yn swynion i'w fywyd; a phan yn tynu tua diwedd ei oes dywedai'n aml ei fod yn hyderu y gallai gysegru ychydig o flynyddau yn ychwaneg iddynt. Gweithiai'n gydwybodol, gan ymdrechu rhoi i'w ddarllenwyr ei feddyliau goreu, wedi eu gosod allan yn y wedd oreu. Ni flinai byth ar adolygu ei gyfansoddiadau, a gellir cyfrif ei arddull bron yn berffaith. Ysgrifenodd ei "Epoques de la Nature" un ar ddeg o weithiau cyn teimlo ei fod yn ei foddloni, er ei fod wedi meddwl y gwaith drosodd am hannercan' mlynedd. Yr oedd yn hynod o drefnus gyda phopeth, ac arferai ddweyd fod athrylith heb drefn yn colli tair rhan o bedair o'i nerth. Gellir priodoli ei lwyddiant mawr fel ysgrifenydd yn benaf i'w lafur eithafol a'i ymroddiad dibaid. Dywedai ei fod yn credu'n ddiysgog fod athrylith yn ffrwyth ystyriaeth ddofn wedi ei rhoddi i ryw bwnc neilltuol, a'i fod ef yn arfer blino wrth gyfansoddi ei weithiau cyntaf, ond yn gorfodi ei hun i ddychwelyd atynt, a mynd drostynt eilwaith ac eilwaith, ac fod yr hyn a fuasai'n flinder iddo wedi dod o'r diwedd yn fwynhad. Dylid ychwanegu iddo ysgrifennu'r oll o'i brif weithiau tra yn cael ei flino gan un o'r clefydau mwyaf poenus mae'r corff dynol yn ddarostyngedig iddynt.

 

Cafodd galluoedd gweithiol Syr Walter Scott eu meithrin mewn swyddfa cyfreithiwr, lle y bu yn llafurio'n galed dros amryw flynyddau fel adysgrifenydd (copying clerk). Gwnelai ei waith diflas yn ystod y dydd oriau ei hwyr yn fwy melus iddo, y rhai a dreuliai fynychaf i ddarllen a myfyrio. Priodolai ef ei hun ei arferiad o fyfyrio a'i ddiwydrwydd dibaid, yr hyn y mae llenorion mor ami yn (x53 - SYR WALTER SCOTT.) ddiffygiol ynddo, i'r dysgyblaeth a gawsai yn y swyddfa. Fel adysgrifenydd, derbyniai dair ceiniog am bob tudalen gynhwysai hyn a hyn o eiriau, a thrwy orlafur byddai weithiau yn medru copio 120 o dudalenau mewn pedair awr ar hugain, ac felly ennill arian da, a chael modd i brynu ambell lyfr.

 

Daliai Scott nad oedd un cysylltiad rhwng athrylith â diystyru dyledswyddau cyffredin bywyd, ac fod treulio rhan gymedrol o bob diwrnod i ymwneyd a rhyw alwedigaeth gyfreithlawn, yn help i alluoedd pennaf dyn. Tra yr oedd, mewn blynyddau dilynol, yn gweithredu fel ysgrifennydd yr Arseddlys (Court of Sessions) yn Edinburgh, gwnai'r rhan fwyaf o'i waith llenyddol cyn boreufwyd, a threuliai'r dydd yn y llys, i awduroli gweithredoedd cofrestredig ac ysgrifeniadau o wahanol natur. Dywed Lockhart, "Mae'n un o'r ffeithiau mwyaf nodedig yn ei hanes, ei fod drwy ystod y cyfnod mwyaf cynyrchiol o'i yrfa lenyddol, yn rhwym o fod wedi rhoi rhan helaeth o'i amser, am hanner pob blwyddyn o leiaf, i gyflawni ei ddyledswyddau arferol." Ar un achlysur dywedai, "Penderfynais y cawsai llenyddiaeth fod yn ffon llaw ac nid yn ffon fagl i mi, ac na chai'r elw a ddeilliai oddiwrth fy ngweithiau llenyddol fod byth yn anhebgorol i dalu fy nhreuliau cyfiredin."

 

Yr oedd yn brydlon gyda phopeth, ac oni bai hynny nis gallasai fynd drwy'r fath swm aruthrol o waith llenyddol. Gofalai ateb pob llythyr ar y dydd y derbyniai ef, oddigerth fod ymchwiliad ac ystyriaeth yn ofynol. Ni allasai mewn un ffordd arall ymgadw i fyny a'r dylif o ohebiaethau oedd yn ymdywallt arno, ac weithiau yn gosod ei natur dda i'r prawf llymaf. Codai am bump yn y boreu, cyneuai ei dân ei hun, ac ymdrwsiai yn bwyllog. Eisteddai wrth ei ysgrifenfwrdd am chwech, gyda'i bapyrau wedi eu trefnu o'i flaen yn y modd manylaf; ei weithiau cyfeiriol wedi eu rhestru o'i amgylch ar y llawr, a chi neu ddau yn gorwedd i wylio'i lygaid, o'r tu allan i'r cylch o lyfrau. Erbyn deuai'r teulu yn barod i gael boreufwyd, rhwng wyth a naw, byddai, a defnyddio ei air ef ei hun, wedi gwneyd digon i dori gwddf gwaith y diwrnod. Ond er ei holl ddiwydrwydd a'i wybodaeth aruthrol, siaradai Scott bob amser yn y modd mwyaf gwylaidd am ei alluoedd. Ar un achlysur dywedai, "Drwy bob rhan o'm gyrfa yr wyf wedi teimlo fy mod yn cael fy mlino a'm rhwystro gan fy anwybodaeth i fy hunan."

 

Y cyfryw yw gwir ddoethineb a gostyngeiddrwydd, canys po fwyaf fo dyn yn wybod mewn gwirionedd, lleiaf i gyd fydd ei dyb am dano ei hun. Cafodd y myfyriwr hwnnw o Goleg y Drindod, a aeth i fyny at ei athraw i'w hysbysu ei fod yn ymadael am ei fod "wedi gorffen ei addysg," gerydd doeth yn atebiad y prif athraw:- "Felly'n wir! Nid wyf finnau ond wedi dechreu fy addysg." Gall y dyn arwynebol, sydd wedi cyrraedd rhyw hanner gwybodaeth am lawer o bethau, ond heb wybod dim yn drwyadl, ymogoneddu yn ei ddoniau; ond cydnabydda'r dyn doeth yn ostyngedig "mae'r oll a wyr ef yw, nad ydyw'n gwybod dim," neu fel Newton, nad yw wedi bod yn gwneyd dim mwy na chasglu cregin ar y traeth, tra mae'r cefnfor mawr o wirionedd yn gorwedd yn anchwiliedig o'i flaen.

 

(x54) Ceir ym mywydau llenorion o'r ail radd engreifftiau llawn mor nodedig o ddylanwad dyfalbarhad. Ganwyd y diweddar John Button, awdwr y "Beauties of England and Wales," mewn bwthyn gwael yn Kingston, Swydd Wilt. Yr oedd ei dad wedi bod yn bobydd ac yn fragwr, ond dinystriwyd ef yn ei fasnach, ac aeth yn wallgof, tra nad oedd Button ond plentyn. Ychydig o addysg dderbyniodd, ond cafodd o'i flaen lawer o esiamplau drwg. Pan yn ieuanc iawn, rhoddwyd ef i lafurio gyda'i ewythr oedd yn cadw tafarn yn Clerkenwell, a bu yn costrelu a chistio gwin am bum' mlynedd. Gwanychodd ei iechyd, a thaflodd ei ewythr ef allan i'r byd, heb ddim ond dau gini, cynyrch ei bum' mlynedd gwasanaeth, yn ei logell. Yn ystod ei saith mlynedd dilynol profodd lawer o dywydd garw, eto dywed yn ei hunangofiant, "Yn fy llety tlawd a thywyll am ddeunaw ceiniog yr wythnos, ymroddwn i fyfyrio, a darllenwn yn fy ngwely bob hwyr yn y gauaf, am nas gallwn fforddio i gael tân." Wedi cerdded bob cam o Gaerbaddon (Bath), cafodd waith yno fel diodgellydd (cellerman); ond cyn hir cawn ef yn y brif ddinas drachefn, heb geiniog yn ei logell, esgidiau am ei draed, na chrys am ei gefn. Er hynny, llwyddodd i gael gwaith fel diodgellydd yn Nhafarn Llundain, lle y gorfodid ef i fod yn y ddiodgell o saith yn y boreu hyd un ar ddeg yn yr hwyr. Torodd ei iechyd i lawr dan bwys ei lafur a'i gaethiwed yno; a chan ei fod wedi dysgu ysgrifennu yn ystod yr ychydig fynydau hamddenol fedrai gael 'nawr ac eilwaith, cafodd ei gyflogi gan gyfreithiwr am bymtheg swllt yr wythnos. Tra'n dilyn y gwaith hwn, treuliai'r amser fyddai ganddo at ei wasanaeth ei hun, i fynd o gylch yr ystorfeydd llyfrau, a darllenai, drwy gael cipolwg achlysurol arnynt, lyfrau na fedrai eu prynu; ac yn y modd hwn casglodd lawer o wybodaeth gyffredinol. Yna symudodd i swyddfa arall, lle y cai gyflog o bunt yr wythnos. Yn wyth ar hugain oed, yr oedd yn alluog i ysgrifennu llyfr, a chyhoeddodd ef o dan y pennawd, "The Enterprising Adventures of Pizarro;" ac o'r adeg honno hyd ei farwolaeth, dros gyfnod o bymtheg mlynedd a deugain, treuliodd Britton ei amser gyda gorchwylion llenyddol. Nid yw nifer ei weithiau cyhoededig yn llai na phedwar ugain a saith, y pwysicaf o ba rai yw "The Cathedral Antiquities of England," gwaith gwir odidog, yn bedair ar ddeg o gyfrolau, ac ynddo ei hun y golofn oreu o ddiwydrwydd John Britton.

 

Meddai Loudon, y garddwr arbeithig (landscape gardener), ar alluoedd rhyfeddol i weithio. Yr oedd yn fab i amaethwr yn ymyl Edinburgh, ac ymarferodd a llafurwaith yn foreu. Parodd y medrusrwydd a ddanghosai yn y cyfeiriad hwn i'w dad benderfynu ei ddwyn i fyny yn arddwr arbeithig. Yn ystod y tymor y bu yn egwyddorwas, eisteddai uwchben ei lyfrau ddwy noswaith gyfan bob wythnos, ac eto gweithiai yn galetach na'r rhan amlaf drwy'r dydd. Yng nghwrs ei efrydiaeth nosawl, dysgodd y Ffrancaeg, a chyn ei fod yn ddeunaw oed, cyfieithodd hanes bywyd Abelard ar gyfer Gwyddoniadur. Pan yn ugain oed, ysgrifenodd yn ei nodlyfr, "''Nawr yr wyf yn ugain oed, wedi treulio feallai un rhan o dair o'm (x55 - SAMUEL DREW) bywyd eisoes, ac eto beth wyf wedi wneyd i lesoli fy nghyd-ddyn-ion?" Dyma ystyriaeth go anarferol i lanc o'r oedran hwn, onid e? Dechreuodd ddysgu'r Ellmynaeg, a meistrolodd hi gyda chyflymder. Wedi cymeryd at dyddyn eang gyda'r amcan o ddwyn gwelliantau i'r gelfyddyd o amaethu, llwyddodd yn fuan i wneyd elw blynyddol lled fawr. Pan daflwyd y cyfandir yn agored ar derfyniad y rhyfel, ymwelodd â gwledydd tramor i'r dyben o ymgyfarwyddo â'u harferion o arddu ac amaethu. Bu ar ei daith ddwywaith, a chyhoeddodd ffrwyth y teithiau hynny yn ei Wyddoniaduron, y rhai ydynt ymysg y gweithiau rhagoraf o'u natur, ac yn llawn o wybodaeth a chyfarwyddiadau buddiol, wedi eu casglu drwy ddiwydrwydd a llafur na bu yn aml eu cyffelyb.

 

Nid yw gyrfa Samuel Drew yn llai teilwng o sylw na neb o'r rhai ydym wedi nodi eisoes. Un o weithwyr plwyf St. Austell yng Nghernyw oedd ei dad. Er yn dlawd, trefnodd i anfon ei ddau fachgen i ysgol geiniog yr wythnos oedd yn yr ardal. Elai Jabes, yr hynaf, ymlaen yn llwyddianus gyda'i wersi. Ond nid oedd Samuel ond llobyn, nodedig am wneyd direidi ac absenoli ei hun heb ganiatad ei athraw. Yn wyth mlwydd oed gyrwyd ef i weithio ac i ennill ceiniog a dimai'r dydd fel golchydd (buddle boy) mewn cloddfa mŵn alcan. Yn ddeng mlwydd aeth yn egwyddorwas i grydd, a thra yn dilyn y grefft honno, bu raid iddo ddyoddef llawer o dywydd garw, a byw, fel yr arferai ddweyd, "megys llyffant dan oged." Meddyliai weithiau am adael ei feistr, a mynd yn forleidr; ac ymddengys ei fod yn cynnyddu mewn drygioni fel y cynnyddai mewn oedran. Mewn ysbeilio perllanau, herwhela, a phethau cyffelyb, efe fyddai yr arweinydd fynychaf. Pan oddeutu dwy ar bymtheg oed, rhedodd i ffwrdd, gan amcanu cael lle ar fwrdd llong rhyfel; ond wedi cysgu un noswaith mewn maes agored, ymlonyddodd ychydig a dychwelodd at ei grefft.

 

Yn nesaf symudodd i ymyl Plymouth i ddilyn ei grefft fel crydd. Tra yn preswylio yn Crafthole bu agos iddo golli ei fywyd mewn anturiaeth rednwyddol (smuggling exploit). Un noson rhoddwyd rhybudd allan drwy'r pentref fod rhednwydd-long ar gyfer y lan yn barod i'w dadlwytho; ar hyn rhedodd y pentrefwyr, y rhai oeddynt bron i gyd yn rhednwyddwyr, tua'r traeth. Safodd un adran o honynt ar y creigiau, i roi arwyddion a threfnu'r nwyddau fel byddent yn cael eu dwyn i dir; tra'r aeth adran arall i'r badau, ac yn eu plith yr oedd Drew. Yr oedd y nos yn dywyll, ac ychydig o'r llwyth oedd wedi ei ddwyn i dir pan ddechreuodd y gwynt chwythu; a'r môr ymgynhyrfu. Eto penderfynai'r rhai oedd yn y badau ddal i gludo'r nwyddau o'r llong a safai gryn bellder oddiwrth y lan. Yn sydyn chwythodd y gwynt het un o'r rhai oedd yn yr un bad â Drew, ac wrth geisio cael gafael arni dymchwelwyd y bad. Boddodd tri o'r dynion yn y fan, ymlynodd y lleill wrth y bad am ysbaid; ond wedi deall eu bod yn cael eu gyrru allan i'r môr, dechreuasant nofio. Yr oeddynt lawn ddwy filltir oddiwrth y tir, a'r nos yn an arferol o ddu. Wedi bod tua theirawr yn y dwfr, cyrhaeddodd (x56)



(x57
)
(x58
)
(x59
)
(x60
)
(x61
)
(x62
)
(x63
)
(x64
)
(x65
)
(x66
)
(x67
)
(x68
)
(x69
)
(x70
)
(x71
)
(x72
)
(x73
)
(x74
)
(x75
)
(x76
)
(x77
)
(x78
)
(x79
)
(x80
)
(x81
)
(x82
)
(x83
)
(x84
)
(x85
)
(x86
)
(x87
)
(x88
)
(x89
)
(x90
)
(x91
)
(x92
)
(x93
)
(x94
)
(x95
)
(x96
)
(x97
)
(x98
)
(x99
)
(x10
0)
(x10
1)
(x10
2)
(x10
3)
(x10
4)
(x10
5)
(x10
6)
(x10
7)
(x10
8)
(x10
9)
(x11
0)
(x11
1)
(x11
2)
(x11
3)
(x11
4)
(x11
5)
(x11
6)
(x11
7)
(x11
8)
(x11
9)
(x12
0)
(x12
1)
(x12
2)
(x12
3)
(x12
4)
(x12
5)



(x126)
gwirionedd. Wedi clywed am sefyllfa druenus y pysgotwyr perlau yn Manaar, penderfynodd ymweled a hwynt, a dechreuodd ei gloch seinio gwahoddiad trugaredd i'r rhai hynny drachefn. Bedyddiai ac addysgai, ond nid oedd yn alluog i wneyd yr olaf ond drwy gyfieithwyr, a'r addysg mwyaf hyawdl a gyfrannai oedd ei weinyddiadau i anghenion a dioddefiadau'r trueiniaid.

Cerddodd ymlaen ar hyd traeth Comorin, drwy’r trefi a'r pentrefi, y temlau a'r nodachdai (bazaars), gan wahodd y brodorion i ddod i gael eu haddysgu. Yr oedd yn ei feddiant gyfieithiadau o'r Hol-wyddoreg, Credo'r Apostolion, y Deg Gorchymyn, a Gweddi'r Arglwydd. Wedi trysori'r rhai hyn i'w gof yn iaith y bobl, adroddai hwy i'r plant, ac wedi iddynt eu dysgu, anfonai hwynt o gylch i'w hadrodd i'w rhieni a'u cymydogion. Yn Penrhyn Comorin, sefydlodd ddeg ar hugain o fân eglwysi, gan neilltuo yr un nifer o athrawon brodorol i'w hegwyddori. Oddi yno aeth i Travancore, gan ymroi i addysgu o bentref i bentref, nes oedd ei lais wedi mynd bron yn anhyglyw, a bedyddio nes oedd ei ddwylaw yn ymollwng gan ludded. Gwnai ei fywyd pur a difrifol, a'i ymddygiadau caredig ac hunan-aberthol, i bawb ei edmygu; ac yr oedd llwyddiant ei weinidogaeth yn llawer mwy na'i rag-ddisgwyliadau penaf.

Dan ddylanwad yr ystyriaeth fod y cynauaf yn fawr a'r gweithwyr yn anaml," hwyliodd Xavier yn nesaf i Malacca a Japan, lle y cafodd ei hun ymysg cenhedloedd oedd yn hollol newydd iddo, ac yn siarad ieithoedd gwahanol. Y peth mwyaf allai wneyd yma oedd gweddïo, esmwythau gobenydd, a gweini wrth wely'r claf, ac weithiau gwlychu llawes ei wisg wen mewn dwfr, i gael gwasgu o honi ychydig ddiferynau i fedyddio'r sawl fyddai ym marw. Fel hyn gan obeithio pob peth, ac heb ofni dim, elai'r milwr ffyddlawn hwn o eiddo'r Gwirionedd rhagddo, o'r dechreu i'r diwedd, yng ngryrn ei egni a'i ffydd. Pa ffurf bynnag o farwolaeth all fod yn fy aros,” meddai, yr wyf yn barod i'w dioddef ddeng mil o weithiau er mwyn un enaid." Brwydrai a newyn, syched, anghysuron a pheryglon o bob natur, ac elai ymlaen a'i genhadaeth o gariad heb orffwys na diffygio. O'r diwedd, ar ol un flynedd ar ddeg o lafur, tra'n ymdrechu gweithio'i ffordd i China, tarawyd ef gan dwymyn yn Ynys Sanchian, ac o'r fan honno yr aeth i dderbyn ei goron. Nid tebyg fod arwr o gymeriad mwy pur, hunanymwadol, a dewr, erioed wedi troedio ein daear.

Mae llu o genhadon ereill wedi dilyn Xavier, megys Carey yn yr India, Williams yn Ynysoedd Môr y Deheu, a Moffatt a Livingstone yn Affrica. Bu John Williams, merthyr Erromanga, yn egwyddorwas i werthwr haiarn (ironmonger). Er na edrychid arno fel un o feddwl disglaer, yr oedd yn ddeheuig gyda'i grefft, ac iddo ef yr ymddiriedai ei feistr bob gorchwyl fyddai yn gofyn am fwy o ofal na'r cyffredin. Gadawodd pregeth a glywodd yn ddamweiniol argraff ddofn ar ei feddwl, a daeth yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol. Penderfynodd ymgyflwyno i'r gwaith cenhadol, a derbyniwyd ef gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Ynysoedd y Môr Tawelog fu prif faes ei lafur. Yr un fath a'r apostolion, gweithiai a'i ddwylaw, (x127 – BYDDWCH ONEST) Gwnelai waith gôf, garddai, ac adeiladai longau. Tra yn ceisio egwyddori trigolion yr Ynysoedd yng ngwirioneddau yr efengyl, ymboenai i ddysgu iddynt gelfyddydau'r byd gwareiddiedig. Pan yng nghanol ei lafur diflino, llofruddiwyd ef gan yr anwariaid ar draeth Erromanga, ac ni fu neb yn fwy teilwng o'r anrhydedd o wisgo coron merthyrdod.
Gyrfa Dr. Livingstone yw un o'r rhai mwyaf dyddorol o'r oll. Yr oedd ei hynafiaid yn ücheldirwyr tlodion ond gonest, ac adroddir i un o honynt, yr hwn oedd yn nodedig yn ei ardal am ei ddoethineb a'i bwyll, pan ar ei wely marw alw ei blant o'i gylch, a gadael iddynt y geiriau hyn, fel yr unig gymunrodd oedd ganddo i'w rhoddi: - “Yr wyf wedi chwilio yn y modd manylaf yr holl draddodiadau fedrwn gael am ein teulu, ac nis gellais erioed gael allan fod un dyn anonest yn mysg ein cyndadau; o ganlyniad, os bydd i unrhyw un o honoch chwi neu unrhyw un o'ch plant droi allan yn anonest, ni fydd hynny yn herwydd fod y peth yn rhedeg yn ein gwaed; nid yw yn perthyn i chwi; yr wyf yn gadael y gorchymyn hwn gyda chwi—Byddwch onest." Yn ddeng mlwydd oed dechreuodd Livingstone ar ei waith fel lleiniwr (piecer) mewn gweithfa gotwm yn ymyl Glasgow. Prynodd Ramadeg Lladin a rhan o gyflog ei wythnos gyntaf, a dechreuodd ddysgu'r iaith honno, gan ddilyn ei efrydiaethau mewn ysgol nos. Eisteddai i lawr gyda 'i wersi hyd deuddeg neu un o'r gloch, er ei fod yn gorfod bod gyda'i orchwyl am chwech bob boreu. Yn y modd hwn aeth drwy Virgil a Horace, a darllenai hefyd yn helaeth bob rhyw lyfrau a ddeuent i'w ffordd, gyda 'r eithriad o ffugchwedlau. Ond y pethau hoffai fwyaf oedd gweithiau gwyddonol a hanes teithiau. Treuliai ambell awr fedrai hebgor i efrydu llysieuaeth, a chrwydrai drwy'r holl ardal i gasglu gwahanol lysiau. Darllenai hyd yn oed yng nghanol twrdd peirianau'r weithfa, a rhoddai'r llyfr ar ei nyddiadyr mewn ffordd y gallai gipio brawddeg ar ol brawddeg o hono wrth fynd ymlaen a'i waith. Yn y dull yma casglodd lawer iawn o wybodaeth fuddiol, ac fel yr ai rhagddo mewn oedran llenwid ef ag awydd am fynd yn genhadwr at y paganiaid. Gyda'r bwriad hwn dechreuodd feddwl am addysg feddygol. Cynilodd ei enillion, ac ystoriodd ddigon o arian i’w alluogi i gynnal ei hun tra'n dilyn y dosbarthiadau Meddygol a Groegaidd ynghyd a'r Areithiau Duwinyddol yn Glasgow, dros amryw auafau, gan weithio fel nyddwr cotwm yn ystod y gweddill o bob blwyddyn. Aeth drwy ei yrfa golegol heb dderbyn ffyrling o help oddiwrth neb, dim ond dibynu’n gyfangwbl ar ei enillion ei hun; a dywedai ymhen blynyddau y buasai yn hoffi cael ail ddechreu bywyd o dan yr un amgylchiadau isel, a mynd drwy'r un dysgyblaeth caled drachefn. O'r diwedd gorffenodd ei dymor, pasiodd ei arholiad yn anrhydeddus, a chafodd ei dderbyn fel trwyddedog (licentiate) i Gymdeithas y Meddygon a'r Llaw-feddygon. Ar y cyntaf meddyliodd am fynd i China, ond yr oedd sefyllfa ryfelgar y wlad ar y pryd yn anhawster ar ei ffordd i fynd yno; ac wedi iddo gynyg ei wasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain, anfonwyd ef allan i Affrica yn 1840. Amcanai fynd i China am y credai y gallai fynd yno heb ddibynu ar neb, a dywedai (x128) mai'r unig wrthwynebiad a deimlai i fynd i Affrica ar draul y Gymdeithas Genhadol oedd nad dymunol i un a arferasai weithio’i ffordd ei hun, oedd cael ei roi i ddibynu ar ereill." Wedi cyrraedd Affrica dechreuodd weithio yn egniol ar unwaith. Yn lle taro i fewn i waith dynion ereill, mynodd faes iddo'i hun, a dechreuodd addysgu'r bobl gan weithio'n galed a'i ddwylaw bob dydd. “Gwnelai fy llafur corfforol gydag adeiladu a gorchwylion ereill," meddai ”i mi deimlo lawer pryd mor flinedig ac annghymwys ar gyfer efrydiaeth yn yr hwyr ag y teimlwn pan yn nyddwr cotwm." Tra ymysg y Bechuaniaid, yr oedd yn cloddio camlesydd, yn adeiladu tai, yn trin tiroedd, yn codi anifeiliaid, ac yn dysgu'r brodorion i weithio yn gystal ag addoli. Y tro cyntaf y cychwynodd ar ei draed gyda nifer o honynt i daith hirbell, clywodd rai o honynt yn sisial nad oedd yn gryf, fod ei goesau yn ymddangos yn breiffion am ei fod yn gosod ei hun yn y cydau (llodrau) hynny, ac y byddai allan o wynt yn fuan.'” Parai hyn i'w waed Ucheldirol gyffroi, ac i'w natur anghofio pob lludded, a'u cadw hwythau i gerdded gyda'r cyflymder eithaf am ddyddiau o'r bron, nes eu clywed yn dechreu rhoi mynegiad i syniadau tra gwahanol am ei allu i deithio. Gellir cael rhyw syniad am y gwaith gyflawnodd a'r modd y llafuriodd wrth ddarllen ei Missionary Travels," un o'r llyfrau mwyaf dyddorol a roddwyd erioed yn nwylaw'r cyhoedd. Mae un o'r gweithrediadau diweddaf sydd o'i eiddo yn wybyddus yn berffaith nodweddiadol o'r dyn. Wedi i'r agerfad Birkenhead, yr hwn a ddygodd allan i Affrica gydag ef, droi yn fethiant, anfonodd adref i ofyn am wneyd llong arall gwerth ₤2000, a chynygiodd dalu'r swm hwnnw o'r arian a dderbyniasai oddiwrth ei lyfrau, ac a osodasai o'r neilltu i'r dyben o roi ysgol i'w blant.

Yr oedd gyrfa John Howard o'i dechreu i'w diwedd yn arddangosiad o amcan, egni a phenderfyniad. Danghosodd ei fywyd dyngarol fod yn bosibl hyd yn oed i wendid corfforol symud mynyddoedd o anhawsterau oddiar Iwybr dyledswydd. Cymerodd y syniad o wella sefyllfa carcharorion feddiant mor gyflawn o'i natur, fel na allai unrhyw lafur, perygl na dioddefaint ei rwystro i gyrraedd ei nod. Prin y gellid ei gyfrif yn athrylithgar, nid oedd ei dalentau ond cymedrol, ond yr oedd ei galon yn bur a'i ewyllys yn nerthol. Llwyddodd i raddau yn ystod ei fywyd, ac ni ddarfyddodd ei ddylanwad yn angeu, ond erys yn amlwg nid yn unig ar ddeddfwriaeth Lloegr, ond eiddo pob cenedl wareiddiedig hyd yr awr hon.

Jonas Hanway oedd un arall o'r personau amyneddgar a dyfalbarhaol a wnaethant eu rhan i ddyrchafu ein gwlad. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1712, yn Portsmouth, lle cafodd ei hun yn blentyn amddifad yn lled foreu. Ar ol marwolaeth ei dad, symudodd ei fam a'i phlant i Lundain, gosododd hwynt mewn ysgolion, ac ymdrechodd yn galed i'w dwyn i fyny yn barchus. Yn ddwy ar bymtheg oed, anfonwyd Jonas i Lisbon, i fod yn egwyddorwas i drafnidiwr; a thrwy ei ymroddiad i'w waith, ynghyd a'i garedigrwydd, enillodd yn fuan barch ac ymddiriedaeth pawb a'i hadwaenai. Wedi dychwelyd i Lundain yn 1743, derbyniodd y cynygiad roddid iddo i ddod yn (x129 – JONAS HANWAY) rhan-berchenog mewn masnacbdy Seisnig yn St. Petersburg, i ddwyn ymlaen y drafnidiaeth Gaspiaidd, yr hon y pryd hwnnw oedd yn ei mabandod. Gyda'r amcan o helaethu'r fasnach, aeth Hanway tua Rhwsia, ac oddiyno tua Phersia, gan ddwyn gydag ef sypynau mawrion o frethynau Seisnig, y rhai oeddynt yn llanw ugain o gerbydau. Yn Astracan cymerodd long i hwylio tuag Astrabad, ar draeth deheu-ddwyreiniol y Môr Caspiaidd. Ond prin yr oedd wedi dwyn ei sypynau i dir cyn fod gwrthryfel yn tori allan. Cymerwyd gafael yn ei nwyddau, ac er iddo wedi hynny allu adfeddianu 'r rhan fwyaf o honynt, yr oedd elw ei anturiaeth wedi ei golli. Deallodd fod bradgynllyniau wedi eu tynu i gymeryd gafael arno ef a'i gwmni; am hynny hwyliodd drachefn, ac wedi brwydro a lliaws o beryglon, cyrhaeddodd Ghilan yn ddiogel. Ei ddiangfa ar yr achlysur hwn a barodd iddo feddwl gyntaf am yr hyn a gymerodd o hyn allan fel arwyddair ei fywyd –“Peidiwch byth a digaloni." Yn olynol i hynyma bu'n aros am bum mlynedd yn St. Petersburg, ac yn dwyn yn mlaen fasnach Iwyddiannus. Ond gan fod perthynas wedi gadael meddianau iddo, a bod ganddo ei hun gryn lawer o gyfoeth, gadawodd Rwsia a dychwelodd i'w wlad enedigol yn 1750. Yr oedd ei iechyd yn awr yn wanaidd, ac un o'i amcanion wrth ddychwelyd oedd cael adgyfnerthiad.  Treuliodd y gweddill o'i dymor i wasanaethu ei gyd-ddynion. Yr oedd yn byw mewn modd cynil a syml, fel y gallai gyfranu mwy o arian tuag at achosion elusengar. Un o'r materion cyhoeddus cyntaf y talodd sylw iddo oedd gwella prif-ffyrdd Llundain, a llwyddodd yn hynny i raddau helaeth. Gan fod y sôn ar led fod y Ffrancod yn dod i ymosod yn 1755, dechreuodd feddvvl am y modd goreu i gadw i fyny gyflenwad o forwyr. Galwodd ynghyd nifer o fasnachwyr a pherchenogion llongau i'r Gyfnewidfa Frenhinol, ac yno awgrymodd iddynt y priodoldeb o ymffurfio yn gymdeithas er paratoi dynion i wasanaethu ar fwrdd llongau y llywodraeth. Derbyniwyd ei awgrym gyda brwdfydedd, ffurfiwyd cymdeithas, penodwyd swyddogion, a neilltuwyd yntau i fod yn arolygydd ar y gweithrediadau. Y canlyniad fu sefydlu yn 1756, y Gymdeithas Forawl, sefydliad sydd wedi profi yn lles mawr i'r genedl, ac yn parhau i fod yn ddefnyddiol iawn hyd heddyw.

Cyflwynai Mr. Hanway y rhannau ereill o'i amser hamddenol i gychwyn sefydliadau cyhoeddus pwysig yn y brif-ddinas. Er yn foreu, cymerai ddyddordeb arbennig yn Ysbyty y Plant Diarddel, yr hwn oedd wedi ei gychwyn gan Thomas Coram amryw flynyddau yn flaenorol; ond erbyn hyn, drwy fod rhieni yn cymeryd mantais arno i esgeuluso eu plant, a'u gadael i ddibynu ar garedigrwydd ereill, yn ymddangos yn debyg o wneyd mwy o niwed nag o les. Penderfynodd roddi atalfa ar y drwg, er yn rhagweled yr anhawsterau mawrion oedd ganddo i dori drwyddynt, a llwyddodd yn y diwedd i ddwyn yr yspyty i ateb y dybenion a amcenid iddo wrth ei gychwyn. Cychwynwyd y sefydliad a elwir yn Ysbyty Magdalen yn benaf drwy ei ymdrechion ef. Ond ar ran babanod tlodion y plwyf y bu ei ymdrechion mwyaf llafurus a dyfalbarhaol. Yr oedd yr esgeulustra eithafol oedd ynglyn a phlant y tlodion plwyfol, a'r (x130) marwolaethau lliosog oedd yn eu mysg, yn ddychrynllyd; ond nid oedd unrhyw fudiad ar droed i geisio lleihau y dioddefaint, fel yr oedd ynglyn ag achos y plant diarddel. Am hynny, galwodd Mr. Hanway ei holl egnion at y gorchwyl. Ceisiodd gael allan yn gyntaf i ba raddau yr oedd y trueni hwn yn bodoli. Heb gael un-rhyw gynorthwy gan neb, chwiliodd gartrefi'r dosbarthiadau tlotaf yn Llundain, ymwelodd a chymharthau (wards) cleifion y tlotai, ac felly daeth i wybod yn fanwl pa fodd y llywodraethid pob tloty yn ac o gylch y brif-ddinas. Yn nesaf, aeth ar daith drwy Ffrainc a Holland, gan ymweled a'r tai oeddynt at dderbyn tlodion, a gwneyd nodiad o bopeth a deimlai y gellid ei fabwysiadu er mantais yn Lloegr. Bu wrth y gorchwyl hwn am bum mlynedd, ac ar ei ddychweliad, cyhoeddodd ffrwyth ei sylwadau. Mewn canlyniad i hyn, cafodd lliaws o dlotai eu diwygio a'u gwella. Yn 1761, cafodd Fesur Seneddol wedi ei basio yn rhwymo pob plwyf yn Llundain i gadw cofnodiadau blynyddol o'r holl blant a dderbynid i mewn, a ollyngid allan, ac a fyddent feirw, a chymerodd ofal fod y Mesur yn cael sylw priodol, oblegyd arolygai ef ei hun y gweithrediadau gyda gwyliadwr-iaeth diflino. Elai o dloty i dloty yn y boreu, ac at y naill aelod seneddol ar ol y llall yn y prydnawn, ddiwrnod ar ol diwrnod, gan dderbyn pob sèn, ateb pob gwrthddadl, a chyfaddasu ei hun ar gyfer pob tymer. Ar ol llafurio yn galed am ddeng mlynedd, llwyddodd i gael gan y Senedd i basio Mesur arall yn gorchymyn fod i'r plant a fegid ar gost y plwyf gael eu dwyn i fyny o dan ofal mamaethod, o'r tu allan i derfynau'r ddinas, ac nid yn y tlotai, nes byddent yn chwech mlwydd oed. Yr enw roddai'r tlodion ar hon oedd Y ddeddf i gadw plant yn fyw;" ac yr oedd y cofnodiadau am y blynyddoedd olynol i'w chyhoeddiad, yn profi fod miloedd o fywydau wedi eu diogelu drwy ymyriad y dyn da a synwyrol hwn.

Pa le bynnag y byddai gwaith dyngarol yn cael ei wneyd yn Llundain, gallesid bod yn sicr fod Hanway â llaw ynddo. Drwy ei ddylanwad ef y cafwyd un o'r Mesurau cyntaf er amddiffyn yr ysgubwyr simneiau. Ar doriad tan mawr allan yn Montreal, ac un arall yn Bridgetown, bu yn foddion i godi tanysgrifiadau lliosog i helpu'r dioddefwyr. Cydnabyddid ei ddidwylledd a'i ysbryd hunanaberthol gan bawb; ac ni oddefwyd iddo fynd yn hollol dlawd wrth gyfrannu a gwasanaethu i ereill. Darfu i bump o foneddigion penaf Llundain fynd at Arglwydd Bute, yr hwn oedd yn brif-weinidog ar y pryd, i ofyn am i ryw sylw gael ei wneyd o wasanaeth rhyddfrydig y dyn rhagorol hwn i'w wlad a'i genedl, a'r canlyniad fu, iddo gael ei benodi yn fuan yn un o'r dirprwywyr i ofalu am luniaeth y llynges.

Wedi tynnu ymlaen mewn dyddiau, aeth ei iechyd yn wanaidd iawn, a bu raid iddo roi i fyny ei swydd ar y Bwrdd Lluniaethol. Eto, nis gallai fod yn segur. Llafuriai i sefydlu canghennau o'r Ysgol Sabbathol, yr hon oedd yn ei mabandod yr adeg honno; neu i gynorthwyo'r dynion duon oedd yn grwydriaid ar hyd heolydd y brif-ddinas; neu ynte i ysgafnhau beichiau rhyw ddosbarth tlawd neu gilydd yn barhaus. Ond er mor gyfarwydd ag adfyd yn ei holl (x131 – CARIO GWLAWLEN AR HEOLYDD LLUNDAIN) ffurfiau, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf siriol a hoenus, a phrofai hynny yn help mawr iddo, gyda chorff mor eiddilaidd, i dynnu drwy gymaint o waith. Dichon yr ymddengys yn beth distadl i nodi mai efe oedd y cyntaf i feiddio cerdded heolydd Llundain gyda gwlaw-len (umbrella) uwch ei ben;  ac yr oedd yn gofyn cryn dipyn o wroldeb i allu gwneyd hynny yn yr adeg honno. Ond ar ol cario ei wlawlen am ddeng mlyned ar hugain, gwelodd o'r diwedd yr offeryn yn dod i ymarferiad cyffredinol. Yr oedd Hanway yn ddyn y gellid dibynu ar ei air bob amser. Gweithiai allan mewn ymarferiad yr hyn a broffesai, ac fel masnachwr, dirprwywr, a phopeth arall, bu ei gymeriad uwchlaw amheuaeth. Tra'n gofalu am luniaeth i'r llynges, os digwyddai rhywun anfon anrheg iddo, dychwelai hi yn foneddigaidd gyda'r awgrym ei bod yn rheol ganddo i beidio derbyn dim o law neb fyddaf yn dal cysylltiad â'r swyddfa." Pan deimlodd fod ei natur yn methu, ymbaratodd ar gyfer marw gyda'r un sirioldeb a phe buasai yn ymbaratoi ar gyfer taith i'r wlad. Talodd eu gofynion i bawb y masnachai a hwynt, canodd yn iach i'w holl gyfeillion, trefnodd ei amgylchiadau, ac ymadawodd a'r byd yn dawel ac heddychlawn, yn ei bedwaredd flwydd ar ddeg a thriugain. Nid oedd y cyfoeth a adawai yn llawn dwy fil o bunnau, a chan nad oedd ganddo berthynasau mewn angen am danynt, rhannodd hwy rhwng gwahanol  amddifaid a thlodion oeddynt wedi arfer derbyn o'i garedigrwydd drwy'r blynyddau. Y cyfryw, mewn geiriau byr, oedd bywyd ardderchog Jonas Hanway, dyn oedd mor onest, egniol, llafurus, ac unionfryd a neb a welodd ein gwlad erioed.

Mae bywyd Granville Sharp yn engraifft darawiadol arall o'r un egni personol - egni a ddanghoswyd yn amlwg gan yr ardderchog lu fuont yn llafurio i ddiddymu Caethwasiaeth. Ymysg y rhai hynny ymddisgleiria enwau Clarkson, Wilberforce, Buxton a Brougham. Ond er eu bod hwy yn gewri, Granville Sharp oedd y cyntaf, ac o bosibl y mwyaf o honynt o ran egni, dyfalbarhad, a gwroldeb. Dechreuodd ei yrfa fel egwyddorwas i werthwr llieiniau ar Fryn y Twr; ond ar orffeniad ei dymor aeth yn ysgrifennydd i Swyddfa'r Câd-offer (Ordnance Oftce), a thra yn dilyn yr alwedigaeth ddinod honno y dygai ymlaen yn ei oriau hamddenol y gwaith o ryddhau y Dyn Du. Yr oedd bob amser yn barod i ymgymeryd ag unrhyw lafur y byddai amcan daionus iddo. Tra yn dysgu ei grefft fel gwerthwr llieiniau, cai ei arwain yn aml gan ddyn oedd yn cyd-letya ag ef, yr hwn oedd yn Undodwr o ran cred, i ddadleu ar bynciau crefyddol. Honai'r Undodwr fod golygiadau Trindodaidd Granville yn codi oddiar ei anallu i ddarllen yr Ysgrythyrau yn yr iaith Roeg; am hynny dechreuodd astudio'r iaith honno ar unwaith yn ystod ei oriau hwyrol, a chyn hir daeth i'w deall yn lled drwyadl. Arweiniwyd ef bron yr un fath gan ddadl fu rhyngddo ag Iddew ynghylch deongliad rhyw broffwydoliaethau i geisio dysgu'r Hebraeg, a llwyddodd yn yr amcan hwnnw hefyd. Ond cafodd yr amgylchiad a rôdd gyfeiriad i brif ymdrechion ei fywyd, ei achlysuro gan ei garedigrwydd a'i gymwynasgarwch. Rhoddai William ei frawd, yr hwn oedd yn llawfeddyg yn Mincing Lane, gyfarwyddiadau meddygol (x132) yn rhâd i'r tlodion, ac ymysg y rhai a ddaethent i'w feddygfa un boreu yr oedd Affricanwr clwyfedig o'r enw Jonathan Strong. Yr oedd y dyn du wedi cael ei drin yn greulawn gan ei feistr, yr hwn oedd gyfreithiwr o Ynys Barbadoes, ond yn byw ar y pryd yn Llundain. Wedi ei wneyd yn gloff, bron yn gwbl ddall, ac yn hollol analluog i weithio, yr oedd ei feistr wedi taflu’r truan yn ddidrugaredd i'r heol i newynu, gan dybied y gallai wneyd a fynai ag ef fel eiddo personol iddo ei hun. Bu'r dyn du o dan ei archollion yn ceisio cynnal corff ac enaid wrth eu gilydd drwy gardota am dymor, a gweithiodd ei ffordd at William Sharp, yr hwn wedi trin ei glwyfau, a drefnodd iddo gael mynd i mewn i Ysbyty St. Bartholomew, lle y gwellhawyd ef. Wedi iddo ddod allan o'r ysbyty, cynhaliai'r ddau frawd ef, ac ni thybient ar hynny o adeg fod gan neb hawl ar ei berson. Llwyddasant i gael gwaith iddo gyda chyffeiriwr, a bu yn ngwasanaeth hwnnw am ddwy flynedd. Ond un diwrnod cafodd ei hen feistr olwg arno yn ddamweiniol, a phenderfynodd y mynai adfeddiant o hono. Cyflogodd ddau o swyddogion yr Arglwydd Faer i ddal Strong a'i osod yn ei gadwynau. Wrth gofio caredigrwydd Sharp yn ei drallod blaenorol, penderfynodd y dyn du anfon llythyr ato i ofyn am ei gydymdeimlad eto. Erbyn hyn yr oedd Sharp wedi anghofio'r enw Strong, ond anfonodd genad i chwilio i mewn i'r mater, a dychwelodd hwnnw gan ddweyd fod y ceidwad yn tystio nad oedd ganddo unrhyw berson o'r fath o dan ei ofal. Wedi clywed hyn, aeth Sharp yn uniongyrchol tua'r carchar, a gofynodd am weled Jonathan Strong. Cafodd fynd i fewn ato, ac adnabyddodd ef ar darawiad. Yna gorchymynodd i'r ceidwad ofalu ar ei berygl na throsglwyddai ef i neb hyd nes cai awdurdod priodol i wneyd hynny. Aeth at yr Arglwydd Faer i ofyn gwys yn erbyn y personau oeddynt wedi carcharu Strong yn ddiachos. Ymddanghosodd y pleidiau o flaen y Maer, a chafwyd allan fod meistr blaenorol Strong wedi ei werthu eisoes i berson arall, yr hwn a daerai fod ganddo hawl i'r dyn du fel ei eiddo. Ond yn gymaint ag nad oedd un cyhuddiad o drosedd yn cael ei ddwyn yn erbyn Strong, cafodd ei gyhoeddi yn ddyn rhydd, a dilynodd ei gymwynasydd allan o'r llys heb neb yn beiddio gosod ei law arno. Rhoddodd yr hwn a brynasai y caethwas rybudd cwyn i Sharp ar unwaith, gyda'r amcan o adfeddianu y dyn a hawliai fel ei eiddo cyfreithlawn.

Tua'r amser hwnnw (1767) yr oedd rhyddid personol y Sais, er yn cael ei goleddu fel damcaniaeth, yn beth y torid arno yn druenus. Yr oedd treisgipio dynion er mwyn eu gosod i wasanaethu ar y môr yn beth oedd mewn ymarferiad cyson, ac heblaw 'r dirdyrf (pressgangs), yr oedd minteioedd o ddynladron yn cael eu cyflogi yn Llundain a manau ereill, i gymeryd gafael ar ddynion a'u dwyn at wasanaeth y gwyr a elwid yn Gwympeini'r India Ddwyreiniol. A phan na fyddai eisiau'r dynion yn yr India, danfonid hwy mewn llongiau i’r planwyr yn y trefedigaethau Americanaidd. Cyhoeddid hysbysiadau am ddynion duon ar werth, yn newyddiaduron Llundain a Lerpwl. Cynnygid hefyd wobrwyon am ddal caethion enciliedig, a'u dychwelyd i'w perchenogion.

(x13
3
- GRANVILLE SHARP – CYFAILL Y DYN DU) Lled anhawdd oedd penderfynu beth ydoedd sefyllfa'r sawl a gyfrifid yn gaethwas yn Lloegr. Yr oedd y dyfarniadau a roddasid yn y llysoedd barn yn amrywio yn fawr. Tybiai'r lliaws nas gallai caethwas anadlu ar dir Prydain, ond barnai'r cyfreithwyr penaf yn. dra gwahanol. Yr oedd pawb o'r cyfreithwyr y troai Sharp atynt i ofyn cyfarwyddyd, yn ei ymgais i amddiffyn ei hun yn ngwyneb y cwyn ddygid i'w erbyn ynglyn ag achos Strong, yn unfryd unfarn yn ei gyhuddo; a dywedwyd wrtho fod yr Arglwydd Brif Farnwr Mansfield a'i holl brif-gynghorwyr yn ddiysgog yn eu barn nad oedd y caethwas, drwy ddod i Loegr, wedi dod yn rhydd. Buasai clywed hyn yn ddigon i beri i ddyn cyffredin ddigaloni ar unwaith, ond ni wnaeth ond symbylu Sharp i benderfynu ymladd brwydr y dyn du, o leiaf yn Lloegr. Wedi cael ei adael gan wyr y gyfraith, gorfodwyd ef i wneyd ymgais ddiobaith i amddiffyn ei hun. Bu am ddwy flynedd yn defnyddio pob munud hamddenol fedrai gael, i astudio cyfreithiau Lloegr gyda golwg ar eiddo personol, a gwneyd dyfyniadau o ddyfarniadau'r llysoedd ac opiniynau'r pnf ddadleuwyr. Yn yr ymdrech galed a phoenus hon, nid oedd ganddo athraw na chyfarwyddwr. Dylynai ei alwedigaeth drwy'r dydd, a myfyriai ei bwnc dyrys drwy'r rhan fwyaf o'r nos. Ond trodd ffrwyth ei lafur a'i ymchwiliad yn foddhad iddo ef ei hun, ac yn syndod i wyr y gyfraith. Diolch i Dduw," meddai, nid oes dim mewn unrhyw gyfraith na deddf o eiddo Lloegr a fedr gyfiawnhau caethiwo ereill." Yr oedd erbyn hyn yn teimlo fod ei draed ar dir diogel, ac ni phetrusai am y canlyniadau. Cydgasglodd ffrwyth ei efrydiaethau o dan y penawd Yr Anghyfiawnder o Oddef Caethwasiaeth yn Lloegr," a gwasgarodd amryw gopïau, wedi eu hysgrifennu a'i law ei hun, ymysg y prif gyfreithwyr. Wedi deall pa fath ddyn oedd ganddo i ymyraeth ag ef, ceisiodd hawlydd Strong ohirio y cynghaws a ddygai yn erbyn Sharp, a chynnygiodd cyn hir i ddod i gytundeb ag ef, ond gwrthododd yntau hynny. Parhaodd Sharp i wasgaru ei draethodyn ymysg y cyfreithwyr, nes gwelodd y rhai oeddynt wedi eu cyflogi i ddadleu yn erbyn Strong nad oedd ond ofer mynd ymlaen ymhellach, a bu rhaid i'r achwynydd dalu'r treuliau a swm dau cymaint a hynny am gael terfynu'r mater. Yna argraffwyd y traethodyn yn 1769.

Yn y cyfamser lladratwyd amryw ddynion duon ereill yn Llundain, a danfonwyd hwy mewn llongau tua'r India Orllewinol i'w gwerthu. Pa le bynnag y gallai Sharp ddod o hyd i unrhyw achos o'r fath, gosodai'r gyfraith ar waith ar unwaith i waredu'r lladratedig. Cymerwyd gafael ar wraig un Hylas, Affricaniad, a gyrrwyd hi tua'r Barbadoes. Yn enw ei gwr dygodd Sharp gynghaws yn erbyn y troseddwr, a bu raid iddo ddwyn y ddynes yn ol i Loegr, a thalu iawn i Hylas.

Yn 1770, daliwyd Affricaniad o'r enw Lewis ar noson dywell gan ddau fadwr a gyflogasid gan berson a hawliai fod y dyn du yn eiddo iddo. Llusgwyd ef i'r bad, lle cauwyd ei safn ac y rhwymwyd ei aelodau, ac wedi rhwyfo i lawr dros yr afon, rhoddwyd ef ar fwrdd
(x134) llong a hwyliai tua Jamaica, gan amcanu ei werthu cyn gynted ag y glaniai ar yr ynys. Ond yr oedd ysgrechfeydd y truan wedi tynu sylw rhai o'i gymydogion, a rhedodd un o honynt yn uniongyrchol at Sharp, yr hwn oedd erbyn hyn yn cael ei adnabod fel cyfaill y dyn du, ac hysbysodd ef o'r ymosodiad gwaradwyddus. Mynodd Sharp awdurdod cyfreithiol ar unwaith i ddwyn Lewis yn ol, a phrysurodd tua Gravesend, ond erbyn cyrraedd yno yr oedd y llong wedi hwylio tua'r Downs. Yma mynodd Lythyr Dyfyn (a writ of Habeas Corrpus), danfonodd ef i lawr i Spithead, a chyn fod y llestr wedi gallu gadael traethau Lloegr yr oedd y wys wedi ei chyflwyno. Cafwyd y truan wedi ei rwymo wrth yr hwylbren, yn foddfa o ddagrau, ac yn tremio yn hiraethlawn ar y tir yr oedd ar gael ei dori i ffwrdd oddiwrtho. Dygwyd ef yn ei ol i Lundain, a chodwyd gwarant yn erbyn ei boenydiwr. Daeth yr achos i gael ei brofi gerbron Arglwydd Mansfield, barn yr hwn, fe gofir, oedd eisoes wedi ei datgan fel un hollol groes i eiddo Sharp. Fodd bynnag, ymgadwodd y Barnwr rhag mynd i mewn i'r pwnc cyfreithiol o ryddid neu rwymedigaeth y caeth yn Lloegr, ond gollyngodd y dyn du yn rhydd ar y tir nad oedd yr amddiffynydd yn gallu dwyn unrhyw brawf fod Lewis yn eiddo iddo hyd yn oed mewn enw.

Felly, yr oedd y cwestiwn o ryddid y dyn du yn Lloegr heb ei benderfynu eto; ond yn y cyfamser elai Sharp ymlaen a'i waith teilwng, ac ychwanegwyd amryw ereill at nifer y rhai gwaredigol. O'r diwedd dygwyddodd amgylchiad a ddygodd y mater i brawf. Yr oedd dyn o'r enw James Somerset wedi ei ddwyn gan ei feistr i Loegr, a'i adael yno. Wedi hynny ceisiodd ei feistr ei ddal a'i anfon i Jamaica i'w werthu. Cymerodd Sharp, yn ol ei arfer, achos y dyn du yn ei law, a chyflogodd ddadleuwyr i'w amddiffyn. Awgrymodd Arglwydd Mansfield fod y mater yn un o ddyddordeb cyffredinol, ac fod yn rhaid cael golygiad yr holl farnwyr arno. Teimlai Sharp y byddai raid iddo yn awr frwydro â'r holl nerthoedd ellid ddwyn i'w erbyn, ond daliai ei benderfyniad yn ddiysgog. Yr oedd ei weithrediadau blaenorol wedi dechreu cario eu dylanwad eisoes, am hynny teimlid dyddordeb arbenig yn ei symudiadau, ac hysbysid ef gan amryw gyfreithwyr enwog eu bod hwy o'i du.

Cafodd y pwnc o ryddid personol, yr hwn oedd yn awr i'w benderfynu, ei drin a'i derfynu yn deg o flaen Arglwydd Mansfield a'r tri barnwyr a'i cynorthwyent, ar yr egwyddor eang o hawl hanfodol a chyfansoddiadol pob dyn yn Lloegr i'w ryddid personol cyhyd ag y byddai yn parchu cyfreithiau'r wlad. Parhaodd y prawf dros lawer o fisoedd, ond o'r diwedd dywedodd Arglwydd Mansfield, ym meddwl yr hwn yr oedd y fath gyfnewidiad wedi ei effeithio'n raddol gan ymresymiadau'r dadleuwyr, y rhai oeddynt wedi eu sylfaenu bron i gyd ar draethodyn Sharp, ei bod bellach yn ffaith amlwg fod yr holl lys yn unfryd unfarn, ac nad oedd galwad am gyflwyno'r mater i'r deuddeg rheithwyr. Dywedodd ym mhellach fod yn amhosibl i neb amddiffyn hawliau Caethwasiaeth; na buont erioed yn cael eu cydnabod gan gyfreithiau Lloegr, ac am hynny fod yn (x135 – Y GYMDEITHAS ER DIDDYMU CAETHWASIAETH) rhaid gollwng JamesSomerset yn rhydd. Drwy sicrhau'r dyfarniad hwn rhoes Sharp ergyd marwol i'r Drafnidiaeth Gaethwasol oedd o'r blaen yn cael ei dwyn ymlaen yn agored ar hyd heolydd Lerpwl a Llundain, a chododd uwchlaw amheuaeth y ffaith fod pob caethwas cyn gynted ag y rhoddai ei draed ar dir Lloegr yn ddyn rhydd.

Ni raid dilyn gyrfa Granville Sharp lawer ym mhellach. Parhaodd yn ffyddlon gyda phob mudiad daionus. Bu yn offerynol i sefydlu trefedigaeth Sierra Leone fel noddfa i ddynion duon fyddent wedi eu gwaredu. Ymdrechodd wella sefyllfa'r Indiaid brodorol yn y trefedigaethau Americanaidd. Llafuriodd i geisio helaethu hawliau gwleidyddol deiliaid Lloegr, a diddymi’r arferiad o dreisgipio morwyr. Teimlai ef fod gan y morwr, yn gystal a'r dyn du, hawl i amddiffyniad y gyfraith, ac nad oedd ei fywyd mordwyol mewn un modd yn ei ddifreinio fel dinesydd Prydeinig. Ymdrechodd Sharp hefyd, ond yn hollol ofer, adferyd teimladau da rhwng Lloegr a'i Threfedigaethau y tu draw i'r Werydd; a phan ddechreuwyd ar frwydrau'r Chwyldroad Americanaidd, teimlai mor angerddol dros yr hyn a gyfrifai yn iawn, fel y rhoddodd i fyny ei alwedigaeth yn Swyddfa'r Câd-offer, yn hytrach na bod a llaw mewn gwaith oedd mor annaturiol iddo.

Bu rhyddhau'r dyn du yn brif amcan ei fywyd hyd y diwedd. Sefydlwyd y Gymdeithas er Diddymu Caethwasiaeth, a daeth arwyr ereill, wedi eu tanio gan ysbryd Sharp, i ymaflyd yn y gwaith. Disgynodd ei fantell ar Clarkson, Wilberforce, Brougham a Buxton, y rhai a lafuriasant yr un modd ag y llafuriasai yntau, hyd nes difodwyd Caethwasiaeth drwy'r holl diriogaethau Prydeinig. Dichon fod enwau'r boneddigion hyn yn cael eu cysylltu a buddugoliaethau'r achos hwn yn amlach na'r eiddo ef, ond i Sharp yn benaf mae'r clod yn ddyledus. Pan ddechreuodd ef ar ei waith pwysig, yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun, a rhagfarn a theimlad prif ddadleuwyr a barnwyr y wlad yn ei erbyn, ond pan ddechreuasant hwy yr oedd y tir wedi ei arloesi i raddau helaeth. Efe oedd y gwr a gyneuodd y ffagl fu yn goleuo meddyliau'r lleill.

Cyn i Sharp farw, yr oedd Clarkson wedi dechreu astudio'r pwnc o Gaethwasiaeth, ac hyd yn oed wedi ddewis yn destyn i ysgrifennu ei Draethawd colegol arno. Nodir ysmotyn yn ymyl Melin Wade, yn Swydd Hertford, fel y fan y darfu iddo, wedi mynd allan o'i dy un diwrnod, eistedd yn bendrist ar y dywarchen yn ymyl y ffordd, a phenderfynu ymgyflwyno'n hollol i'r gwaith. Cyfieithodd ei draethawd o'r Lladin i'r Saesneg, rhoes ychwanegiadau ato, a chyhoeddodd ef. Yna ymdyrodd gweithwyr ereill o'i amgylch. Cyn gynted ag y clywodd am y Gymdeithas er Diddymu Caethwasiaeth, ymunodd a hi. Aberthodd holl ragolygon ei fywyd i ddilyn y cwrs hwn. Dewiswyd Wilberforce i arwain yn y Senedd, ond i ran Clarkson y daeth y gorchwyl o gasglu a threfnu'r crug anferth o dystiolaethau a gynnygid yn ffafr y diddymiad. Gellir rhoi un engraifft nodedig o'r dyfalbarhad rhyfeddol ddangosai Clarkson. Taerai pleidwyr Caeth-wasiaeth nad oedd neb ond dynion duon a ddelid mewn brwydrau (x136) yn cael eu gwerthu i fod yn gaethion. Gwyddai Clarkson am yr hêlfeydd caethion oedd yn cael eu dwyn ymlaen, ond nid oedd ganddo dystion i brofi fod y rhai hyn yn arferedig. Un diwrnod dygwyddodd boneddwr a siaradai ag ef ddweyd wrtho, ei fod tua blwyddyn cyn hynny wedi bod yn ymddiddan a dyn ieaunc a fuasai yn cymeryd rhan weithredol yn yr hêlfeydd. Nid oedd y boneddwr yn cofio enw'r dyn ieuanc, ac ni allai roi desgrifiad llawn iawn o hono, ond gwyddai ei fod yn perthyn i long rhyfel oedd wedi ei gadael mewn rhyw borthladd dan ofal ei swyddogion. Gyda'r pelydryn unigol hwn o oleu ar y mater, penderfynodd Clarkson y mynai gael y dyn ieuanc i fod yn dyst. Ymwelodd a phob porthladd y gorweddai llongau o'r fath ynddo, a chwiliodd y llongau yn fanwl, ond heb lwyddo nes dod i'r porthladd diweddaf at y llong ddiweddaf yn hwnnw, ac yn y fan honno daeth o hyd i'r hwn a geisiai, a throdd allan yn dyst effèithiol a gwerthfawr iddo.
Bu Clarkson dros amryw flynyddau yn dal gohebiaeth a thros bedwar cant o bersonau, a theithiodd dros bymtheg mil ar hugain o filltiroedd i chwilio am dystiolaethau. O'r diwedd cafodd ei analluogi gan afiechyd, yr hwn a achoswyd gan ei weithgarwch diflino, ond ni chymerwyd ef o'r maes cyn fod ei ymdrechion wedi deffro meddwl y cyhoedd, ac ennill cydymdeimlad pob dyn da o blaid y caethwas truan.

Ar ol blynyddoedd o ymdrech gyson, diddymwyd y fasnach gaethwasol. Ond yr oedd un orchest fawr i'w chyflawni eto, sef diddymu caethwasiaeth ei hun drwy'r holl lywodraeth Brydeinig. Yma eto yni a phenderfyniad a ennillodd y dydd. Ymhlith yr arweinwyr yn y gwaith hwn nid oedd neb yn fwy amlwg na Fowell Buxton, yr hwn a gymerodd y safle a feddianid yn flaenorol yn Nhy'r Cyffredin gan Wilberforce. Lled hwyrdrwm, ystyfnig ac anhawdd ei reoli yr ymddangosai Buxton yn fachgenyn. Collodd ei dad yn ieuanc, ond yr oedd ganddo fam ddoeth, yr hon a'i dysgyblai yn ofalus, gan ei orfodi i ufuddhau, a'i gefnogi ar yr un pryd i arfer barnu a gweithredu drosto ei hun mewn materion y gellid yn ddiogel eu gadael at ei ddewisiad. Credai ei fam fod ewyllys gref, mewn cysylltiad ag amcan teilwng, yn elfen werthfawr ond iddi gael ei harwain yn briodol, a gweithredai yn unol a'i chred. Ychydig ddysgodd Fowell yn yr ysgol, a braidd na chyfrifid ef yn ddiog a didalent. Dychwelodd adref yn bymtheg oed, yn llanc cryf, nwyfus a thrwsglaidd, ac heb fod yn hoff iawn o wneyd dim ond rhwyfo bad, saethu, marchogaeth a rhyw bethau cyffelyb. Yr oedd digon o nwydd crai (raw matenal) ynddo, ond yr oedd mewn angen diwylliant, dysgyblaeth a dadblygiad. Yn y cyfwng hwn, bu mor ffodus a dod i gyffyrddiad â theulu'i Gurneyaid, y rhai oeddynt yn enwog am eu boneddigeiddrwydd, eu diwylliant meddyliol, a'u hymdrech o blaid pob mudiad dyngarol. Symbylodd y rhai hyn ef i ddiwyllio ei hun, ac wedi iddo fynd i Brifathrofa Dublin, ac ennill urddau uchel yno, dywedai mai'r hyn oedd wedi peri iddo ymroi i weithio, oedd ei awydd am gael dwyn yn ol y gwobrwyon oeddynt hwy wedi ei gynhyrfu a'i alluogi ef (x137 – DIM CAETHWAS YN Y TREFEDIGAETHAU) i'w hennill. Priododd un o ferched y teulu hwn, a dechreuodd ar ei alwedigaeth fel ysgrifennydd i'w ewythrod, y darllawyr Llundeinig. Ei ewyllys gref, y peth a'i gwnelai yn greadur mor anhawdd i'w drafod pan yn fachgenyn, oedd asgwrn cefn ei gymeriad yn awr. Taflai ei holl enaid i'w waith, a daeth Buxton, "y cawrfil," fel y gelwid ef, am ei fod yn chwe troedfedd a phedair modfedd o daldra, yn un o'r dynion mwyaf gweithgar a llwyddianus. Gallwn ddarllen am awr," meddai, astudio mesuroniaeth am awr arall, a saethu am awr olynol, a gwneyd pob un o'r pethau hyn a'm holl egni." Cafodd ei dderbyn yn rhan-berchenog, a'i osod yn rheolwr yr holl fasnach. Taflodd ei ddylanwad fel trydan byw drwy bob rhan o honi, a gwnaeth hi yn llawer mwy llwyddianus nag y buasai yn flaenorol. Nid esgeulusai ei feddwl ychwaith; rhoddai ei oriau hwyrol at hunanddiwylliant, a myfyriai weithiau Blackstone, Montesquieu, a gwahanol esboniadau ar gyfraith Lloegr. Ei reolau wrth ddarllen oeddynt, peidio dechreu llyfr heb ei orffen,"  “peidio ei orfïen cyn ei feistroli,"  ac astudio pob peth a'i holl feddwl."

Yn ddeuddeg ar hugain oed aeth Buxton i'r Senedd, ac ennillodd yn fuan safle o ddylanwad arbennig. Y pwnc yr ymroddodd yn benaf iddo oedd llwyr ryddhad y caethion yn y trefedigaethau Prydeinig. Arferai ef ei hun briodoli'r dyddordeb boreuol a deimlai yn y mater hwn i ddylanwad Priscilla Gurney, dynes o dalent ddisglaer a chalon ragorol. Pan ar ei gwely marw, yn 1821, danfonodd amryw droion am Buxton, a deisyfodd arno wneyd achos y caethwas yn nod mawr ei fywyd." Ei gweithred olaf oedd ceisio ail-adrodd y deisyfiad dwys hwn, a bu farw yn ei hymdrech i wneyd hynny. Ni anghofiodd Buxton byth mo'i deisyfiad; rhoddodd un o'i ferched ar ei henw hi, ac ar ddydd priodas y ferch honno, sef yr 21ain o Awst, 1834, dydd rhyddhad y dyn du, wedi i Priscilla droi allan o dt^ei thad yng nghwmni ei phriod, eisteddodd Buxton ac ysgrifennodd y geiriau hyn at gyfaill, Mae^r briodferch wedi ymadael, aeth popeth drosodd yn ddymunol, ac nid oes un caethwas yn y trefedigaethau Prydeinig.”

Nid oedd Buxton yn athrylithgar, ond yr oedd yn ddyn unplyg, penderfynol ac egniol. Gosodir allan ei holl gymeriad yn ei eiriau tarawiadol ei hun, y rhai sydd yn werth i bob dyn ieuanc argraffu ar ei galon: “Po hwyaf yr wyf yn byw, mwyaf sicr yr wyf yn dod i gredu mai'r gwahaniaeth mawr rhwng dynion galluog a dynion distadl yw egni —penderfynolrwydd anorchfygol.” Gosod amcan, ac yna angeu neu fynu ei gyrraedd. Gwna hyn unrhyw beth fo'n bosibl i'w wneuthur, ac heb hyn nis gall unrhyw ddoniau, nac amgylchiadau, na chyfleusterau, wneyd creadur deudroediog yn ddyn." (x138)



(x13
8)
PENNOD IX.
Dynion Gorchwylgar.

Wrth ddyn gorchwylgar y golygwn yr hyn a eilw y Sais yn man of business. Cymer rhai yn ganiataol nad oes rhyw lawer o dalent yn angenrheidiol er bod yn llwyddianus mewn masnach. Dyna'r syniad awgrymir gan Hazlitt yn ei draethawd ar Fywyd a Gweithrediad. Ond gwell genym dderbyn barn Helps, yr hwn a ddywed fod y rhai sydd yn ddynion gorchwylgar yng ngwir ystyr y gair, bron mor brin a phrif-feirdd, ac yn fwy anaml na seintiau a merthyron. Pan gofiom fod synwyr cyffredin cryf, adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, parodrwydd i weithredu ar achosion digwyddol, gallu i ddosrannu gwaith rhwng niferi, a llawer o gymhwysterau ereill, yn hanfodol er llanw'r cymeriad hwn yn hollol, nis gallwn edrych arno fel un cyffredin; a theimlwn fod mwy nag a feddylir lawer pryd yn y dywediad hwnnw – “Busnes sydd yn gwneyd dynion."

Hen gamgymeriad y syrthia lliaws iddo yw fod dynion athrylithgar yn cael eu hanghymhwyso i ymwneyd a masnach, a'r rhai sydd yn ymwneyd a masnach yn cael eu hanghymhwyso i ddilyn olrheiniadau athrylith. Y rheswm roddai un dyn ieuanc ers blynyddau yn ol dros gyflawni hunanladdiad oedd ei fod wedi ei eni i fod yn ddyn a'i gollfarnu i fod yn chwêgnwyddwr." Ond druan o hono, profodd drwy ei weithred ynfyd ei fod ymhell islaw safon chwêgnwyddiaeth hefyd. Nid yr alwedigaeth sydd yn diraddio'r dyn, ond y dyn yn diraddio'r alwedigaeth. Mae pob gwaith a ddug elw gonest yn anrhydeddus, pa un bynnag ai eiddo llaw neu eiddo meddwl fyddo. Gellir ystaenio'r bysedd, a chadw'r galon yn lân ar yr un pryd.

Nid yw'r dynion galluocaf wedi teimlo fod llafurio yn onest am fywoliaeth yn ddianrhydedd iddynt, er eu bod ar yr un pryd yn ymestyn at bethau uwch. Yr oedd Thales, y cyntaf o'r saith doethwr; Solon, ail sylfaenydd Athen; ac Hyperates, y mesuronydd, yn drafnidwyr. Darfu i Plato, yr hwn ar gyfrif mawredd ei ddoethineb a gyfenwid yn Dduwinydd, dalu ei dreuliau teithiol drwy'r Aifft o'r elw a ddeilliai oddiwrth yr olew a werthai ar ei daith. Cynhaliai Spinoza ei hun drwy gaboli gwydr tra yn dilyn ei olrheiniadau athronyddol. Elai Linnaeus, y llysieuydd, ymlaen a'i efrydiaethau tra yn morthwylio lledr a gwneyd esgidiau. Yr oedd Shakespeare (x139 – ATHRYLITH A LLAFUR) yn rheolwr chwareudy, ac o bosibl yn ymddiried mwy yn ei gymhwysterau yn y cyfeiriad hwn nag yn ei alluoedd i ysgrifennu barddoniaeth. Ymddengys ei fod yn ddifater ynghylch ennil enwogrwydd llenyddol. Nid oes hanes iddo arolygu cyhoeddiad unrhyw chwareugerdd o'i eiddo, nac hyd yn oed gymeradwyo'r syniad o argraffu un o honynt, ac y mae'r amser yr ysgrifennodd ei brif weithiau yn ddirgelwch hyd heddyw. Eto, mae'n ffaith iddo lwyddo mewn ystyr fasnachol, a chasglu digon o arian i allu ymneilltuo i'w drefenedigol i fyw arnynt.

Bu Chaucer yn ei ieuenctyd yn filwr, ac yn ei ganol oed yn Ddirprwywr Cyllidau, a Goruchwyliwr Coed a Thiroedd y Goron. Yr oedd Spencer yn Ysgrifennydd i Arglwydd Raglaw y Werddon, ac wedi hynny yn Sirydd Cork, a dywedir ei fod yn hynod o gall mewn materion masnachol. Yn amser y Werinlywodraeth, dyrchafwyd Milton, yr hwn oedd ar y cyntaf yn ysgolfeistr, i'r swydd o Ysgrifennydd Cynghor y Llywodraeth; ac y mae Llyfrai’r Cynghor a'i lythyrau yntau, y rhai sydd o hyd ar gael, yn brofion digonol o'i weithgarwch a'i wasanaeth yn y swydd honno. Profodd Isaac Newton ei hun yn ddefnyddiol fel Ceidwad y Bathdy (Master of the Mint), a gwnaed darnau arian newyddion 1694 o dan ei arolygiaeth personol ef. Ymffrostiai Cowper yn ei fanylder ynglyn a phob trafnidiaeth, er y ceisiai awgrymu nad oedd wedi gweled unrhyw fardd ond ei hunan yn enwog yn y cyfeiriad hwnnw." Ond yn hyn yr oedd yn cyfeiliorni, oblegyd yr oedd Wordsworth a Scott, er yn brif-feirdd, yn nodedig o gywir, manwl ac ymroddgar mewn busnes. Yr oedd David Ricardo ynghanol ei oruchwylion fel dyled-faeliwr (stock-jobber) yn Llundain, galwedigaeth y gwnaeth gyfoeth mawr drwyddi, yn medru canolbwyntio ei feddwl ar ei hoff destyn, sef trefnidedd gwladol (political economy), ac yn cyfuno ynddo ei hun y masnachwr a'r athronydd dwfn.

Mae genym gyflawnder o arddangosiadau, yn ein dyddiau ein hunain, o'r ffaith nad yw'r gallu. meddyliol uchaf yn anghydweddol a chyflawniad egniol ac effeithiol o ddyledswyddau cyffredin bywyd. Yr oedd Grote, yr hanesydd Groegaidd enwog, yn geidwad ariandy yn Llundain. Nid oes amser maith er pan ymneilltuodd John Stuart Mill, un o feddylwyr blaenaf ein hoes, o'i swydd fel Archwiliwr dan Gwmpeini India Ddeheuol, gan ddwyn gydag ef edmygedd a chymeradwyaeth ei gydswyddogion, nid ar gyfrif ei olygiadau athronyddol uchel, ond o herwydd y safle oedd wedi ennill fel swyddog, a'r modd teilwng yr oedd wedi arfer cyflawni ei swydd.

Y ffordd i lwyddo mewn busnes bron bob amser yw ffordd synwyr cyffredin. Mae ymdrech ac ymroddiad yn llawn mor hanfodol i hyn ag i gasglu gwybodaeth neu ddilyn celfyddyd. Dyweda’r  Groegiaid gynt fod tri pheth yn ofynol er dod yn alluog mewn unrhyw alwedigaeth, sef natur, efrydiaeth, ac ymarferiad. Mewn masnach, ymarferiad dyfal a doeth yw dirgelwch llwyddiant. Os gwna rhai yr hyn a elwir yn "ergydion hapus," mae'r cyfryw ergydion, fel arian a enillir drwy hapchwareu, yn agored iawn i'w (x140)
hudo i ddinystr drachefn. Arferai Bacon ddweyd ei fod mewn masnach yr un fath ag mewn ffyrdd - y ffordd agosaf yw'r un fudraf yn gyffredin, ac os yw dyn am gael y ffordd decaf, rhaid iddo fynd dipyn oddiamgylch. Mae cael cyfran ddyddiol hyd yn oed o galedwaith cyffredin yn gwneyd ei orffwysfa yn fwy melus i ddyn.

Dylai pob dyn ieuanc gael ei ddysgu i deimlo fod ei ddedwyddwch a’i lwyddiant mewn bywyd yn dibynu o angenrheidrwydd arno ef ei hun yn benaf, ac ar ei ymarferiad o'i egnïon ei hun, yn hytrach nag ar help a nawddogaeth ereill Cynghor synwyrol oedd eiddo'r diweddar Arglwydd Melbourne, wrth ysgrifennu at Arglwydd John Russell, mewn atebiad i apêl a wnaethid ar ran un o feibion y bardd Moore. Fy anwyl John," meddai, “byddaf yn barod i gydsynio, ond beth bynnag a wneir, credwyf mai i Moore ei hun y dylid ei wneyd. O'r braidd y gellir cymeradwyo'r syniad o wneyd darpariaeth ar gyfer dynion ieuainc. Mae'n un o'r pethau mwyaf niweidiol iddynt, am ei fod yn tueddu i'w gwneyd yn ddiymdrech. Ni ddylai dyn ifanc, tra 'n iach, byth glywed un iaith ond hon: - Mae genych eich llwybr i'w dori, ac y mae'n dibynu ar eich ymdrechion chwi eich hunan pa un a newynwch ai peidio."

Ni byddai yn unrhyw fantais i'r natur ddynol gael ffordd bywyd wedi ei gwneyd yn rhy rwydd. Gwell bod o dan orfod i weithio'n galed a byw yn gynil, na chael popeth yn barod at law a gobenydd o fanblu i orwedd arno. Ymddengys fod dechreu ar fywyd gydag ychydig mewn cymhariaeth o arian mor angenrheidiol fel cymhelliad i weithio, fel y gellir braidd ei roi i lawr fel un o'r amodau sydd yn hanfodol i lwyddiant. Pan ofynwyd i un barnwr enwog beth oedd y peth mwyaf anhebgorol er llwyddo yn y bar, atebodd: - “Llwydda rhai drwy alluoedd meddyliol mawrion, rhai drwy gysylltiadau anrhydeddus, rhai drwy wyrth, ond y rhan amlaf drwy ddechreu heb un swllt yn eu llogell."
Clywsom adrodd am benadeiledydd o gyrhaeddiadau mwy na'r cyffredin, yr hwn oedd wedi bod yn cymhwyso ei hun drwy efrydiaeth faith, a thrwy deithio drwy wledydd clasurol y Dwyrain, ac yn y diwedd wedi dod adref i ddechreu ar ei alwedigaeth. Penderfynodd ddechreu mewn unrhyw le y gallai gael gwaith, ac ymgymerodd a thynu i lawr hen adeiladau, un o'r gorchwylion iselaf a mwyaf diennill ynglyn a'r gelfyddyd. Ond yr oedd ef yn ddigon synwyrol i beidio cychwyn yn rhy uchel, ac yn ddigon penderfynol i weithio'i ffordd i fyny. Un diwrnod tesog yn Gorffenaf, gwelodd cyfaill ef ar ben tô yn prysur dynu i lawr hen adeilad, a gwaeddodd, Dyna orchwyl teilwng o ddyn sydd wedi bod drwy Groeg benbwygilydd.” Er hynny cyfiawnodd y gorchwyl, y fath ag oedd, yn briodol; daliodd ymlaen nes ymgodi yn raddol at bethau mwy enillfawr; a chyn hir esgynodd i rodfeydd uchaf ei alwedigaeth.

Yn wir, gellir cyfrif yr angenrheidrwydd o weithio fel prif ffynhonnell yr oll a elwir genym yn gynnydd mewn unigolion, ac yn wareiddiad mewn cenhedloedd; ac y mae'n amheus a allai dim (x141 – DYLANWAD DIWYDRWYDD YMARFEROL) fod yn fwy o felldith ar ddyn nag i'w holl ddymuniadau gael eu cyflenwi yn anibynnol ar unrhyw ymdrech o'i du, heb adael iddo ddim i'w obeithio, nac i ymegnïo am dano. Bod heb nôd i ymestyn ato, ac heb fod dan angenrheidrwydd i weithio, yw un o'r pethau mwyaf poenus ac anoddefadwy i ddyn. Pan ofynodd Ardalydd de Spinola ryw dro i Syr Horace Vere o ba glefyd y buasai ei frawd farw, atebodd Vere, "Bu farw o fod heb ddim i'w wneyd." Ah," ebai Spinola, mae hynny yn ddigon i ladd y cryfaf o honom."

Èr hynny, ceir y rhai sydd yn methu mewn bywyd yn dueddol iawn i honi fod ereill wedi gwneyd cam a hwynt, ac i benderfynu'n frysiog fod pawb ond hwy eu hunain a rhyw law yn eu hanffodion personol hwy. Cyhoeddodd dyn yn ddiweddar lyfr, yn yr hwn y darluniai ei fethiantau mewn masnach, gan gydnabod nad oedd erioed wedi dysgu taflen lliosiaeth (multiplication table), ac eto deuai i'r penderfyniad mai'r achos gwreiddiol o'i fethiant mewn bywyd oedd ariangarwch eithafol yr oes. Cydnabyddai Lamartine hefyd ei fod yn teimlo'n gas tuag at rifyddiaeth; ond pe buasai ei gasineb yn y cyfeiriad hwn wedi bod yn llai, dichon na fuasai raid i'w edmygwyr gasglu tanysgrifiadau tuag at ei gynnal yn ei hen ddyddiau.

Eto, edrycha rhai arnynt eu hunain fel dynion wedi eu geni i dynged ddrwg, a gwnant eu meddwl i fyny fod y byd bob amser yn mynd i'w herbyn, heb fod unrhyw fai o'u tu hwy eu hunain. Elai un o'r dosbarth hwn mor bell a dweyd ei fod yn credu’n ddiysgog, pe buasai ef ddim ond wedi digwydd bod yn hetiwr, y buasai dynion yn cael eu geni heb benau. Ond mae hen ddihareb Rwsiaidd yn dweyd fod Anffawd yn byw y drws nesaf i Hurt-rwydd; a cheir yn fynych fod y dynion sy'n achwyn yn barhaus ar eu tynged, mewn rhyw ffordd neu gilydd, yn medi canlyniadau eu hesgeulustra, eu hanhrefn, a'u diffyg ymroddiad hwy eu hunain. Mae geiriau Dr. Johnson, yr hwn a aeth i fyny i Lundain heb ddim ond un swllt ar hugain yn ei logell, yn eithaf gwirionedd: - “Mae'r holl achwyniadau ddygir yn erbyn y byd yn anheg; nid yn aml y gwelais ddyn o deilyngdod yn cael ei esgeuluso; oherwydd ei ddiffyg ei hun yn y cyffredin yr oedd yn methu llwyddo." Coleddai Washington Irving syniadau cyffelyb: - “Gyda golwg ar fod dynion gwylaidd yn cael eu hesguluso," meddai, "nid yw fynychaf yn ddim ond truth, drwy yr hwn y ceisia dynion dioglyd a dibenderfyniad roi'r achos o'u diffyg llwyddiant wrth ddrws y cyhoedd." Eto i gyd, mae teilyngdod gwylaidd yn rhy dueddol i fod yn deilyngdod diegni ac esgeulus. Mae talent addfed a diwylliedig yn sicr o farchnad, os deil i ymdrechu; ond rhaid iddi beidio eistedd ar ei sodlau gartref a disgwyl y daw dynion i chwilio am dani. Mae llawer o siarad disail hefyd ynghylch fod dynion hyf ac haerllug yn llwyddo, tra yr eir heibio i ddynion o deilyngdod tawel yn ddisylw. Ond yn y cyffredin digwydda fod y dynion hyf hyn yn meddu'r parodrwydd a'r gweithgarwch hynny nad yw teilyngdod yn ddim ond peth difudd hebddynt. Mae ci fo'n cyfarth yn fwy gwerthfawr na llew fo'n cysgu."

(x14
2) Sylw, ymroddiad, manylder, trefn, prydlondeb a bywiogrwydd, yw'r prif elfenau sy'n eisieu er llwyddo mewn unrhyw fusnes. Dichon yr ymddengys y pethau hyn yn rhai distadl, ond y maent yn bethau o bwysigrwydd arbennig. Os pethau bychain ydynt, dylid cofio mai o bethau bychain mewn cymhariaeth y gwneir bywyd dynion i fyny. Mynychiad o fan weithredoedd wna i fyny gyfanswm cymeriad unigolion, ac a benderfyna natur cymeriad cenhedloedd hefyd. Lle gwelir personau neu genhedloedd wedi tori i lawr, ceir bron yn ddieithriad mai esgeulustra o bethau bychain oedd y graig y tarawsant i'w herbyn. Mae gan bob dyn ei ddyledswyddau, ac o ganlyniad, mae arno angen gwrteithio ei alluoedd i'w cyflawni, pa un bynnag ai trefnu ty, dilyn galwedigaeth, neu lywodraethu cenedl fydd ei waith.

Mae'r engreifftiau roddasom eisoes o ddynion wedi hynodi eu hunain mewn gwahanol gangenau o ddiwydiant, celf a gwyddor, yn ddigonol i ddangos yr angenrheidrwydd am ymroddiad a dyfalbarhad. Elfen bwysig arall yw manylder, ac y mae bob amser yn arwyddo fod dyn wedi cael addysgiad da. Dylid bod yn fanwl wrth sylwi ar bethau, yn fanwl a chywir mewn ymadroddion, ac yn fanwl yn holl drafodaethau bywyd. Gwell gwneyd ychydig o waith yn berffaith, na llawer yn hannerog. Arferai un dyn doeth ddweyd,— Aroswch dipyn, fel y gallom ddod i derfyniad yn gynt." Telir rhy fach o sylw yn aml i fanylder. Dywedai gwr lled sylwgar yn ddiweddar:— “Mae'n syndod mor lleied o ddynion geir yn alluog i ddarnodi ffaith yn gywir." Eto i gyd, mewn ymdrafodaethau masnachol, ein dull o ymwneyd â phethau bychain sydd yn peri i ddynion ein hoffi, neu yn eu troi yn ein herbyn, fynychaf. Er cael medr, ac ymddygiad da mewn ystyriaethau ereill, nis gellir ymddiried i'r hwn sydd yn arfer bod yn anghywir; rhaid mynd dros ei waith drachefn; ac yn y fel yma achosa drafferth a blinder beunydd. Un o nodweddion arbennig Charles James Fox oedd ei fod yn cymeryd trafferth gyda phopeth a wnelai. Pan gafodd ei benodi yn Ysgrifennydd y Llywodraeth, wrth glywed rhywun yn awgrymu fod ei lawysgrif yn wael, penderfynodd gyflogi athraw i'w ddysgu i ysgrifennu, ac ysgrifennodd gopi ar ol copi, fel bachgenyn yn yr ysgol, nes perffeithio ei hun yn ddigonol. Arferai yr un manylder gyda phob peth arall, ac ennillodd ei enwogrwydd yr un fath a'r paentiwr, drwy beidio esgeuluso dim."

Mae trefn yn hanfodol, ac yn galluogi dyn i fynd drwy ei waith gyda boddlonrwydd. Dywedai'r Parch. Richard Cecil fod bod yn drefnus yn debyg i sypynu pethau mawrion mewn cist, ac y gesyd sypynwr da gymaint arall o bethau i fewn ag a esyd un gwael. Yr oedd ei gyflymder ef i droi gwaith o'i law yn rhyfeddol. Y ffordd fyraf i gyflawni lliaws o orchwylion," meddai, yw peidio gwneyd ond un o honynt ar y tro;" ac ni roddai byth o'r neilltu unrhyw orchwyl allai gyflawni, gyda'r bwriad o droi'n ol ato ar ryw adeg fwy hamddenol. Pan fyddai gwaith yn gwasgu arno, torai ar draws yr amser oedd ganddo at ymborthi a chysgu, yn hytrach na gadael dim (x143 – “PRYNU’R TYDDYN”) o'i waith heb ei wneyd.
Arwyddair De Witt hefyd oedd, Un peth ar y tro." Os byddaf yn gorfod gwneyd rhyw bethau yn frysiog," meddai, ni byddaf yn meddwl am ddim arall nes gorffen y rhai hynny; ac os bydd rhyw amgylchiadau teuluaidd yn hawlio fy sylw, yr wyf yn ymroddi yn hollol iddynt hyd nes y byddaf wedi eu trefnu."

Pan ofynwyd i weinidog Ffrengig oedd yn nodedig am ei gyflymder gyda'i orchwylion, ac yn llawn mor nodedig a hynny am ei gysondeb i ddilyn lleoedd o adloniant, pa fodd yr oedd yn medru cyfuno'r ddau beth hyn, atebodd, Drwy beidio gohirio hyd yfory yr hyn ellir gyflawni heddyw." Dywedai Arglwydd Brougham am wladweinydd yn Lloegr, ei fod wedi troi'r rheol hon i'r gwrthwyneb, ac mai ei ymgais oedd peidio gwneyd heddyw yr hyn ellid ei ohirio hyd yfory. Fel mae gwaethaf y modd, dyna arfer llawer, ond rhai diog ac aflwyddianus ydynt.
Rhaid i ddyn ei hun ofalu am bob mater pwysig o'i eiddo. Dywed hen ddihareb, Os ydych am gael eich gwaith wedi ei wneyd, ewch a gwnewch ef eich hunan; os nad ydych am iddo gael ei wneyd, anfonwch rywun arall o'i blegyd." Yr oedd gan foneddwr diog ystâd yn werth tua phump cant y flwyddyn. Wedi suddo i ddyled, gwerthodd un hanner, a rhentodd yr hanner arall i amaethwr diwyd am ugain mlynedd. Tua diwedd y tymor gaÏwodd yr amaethwr i dalu yr ardreth, a gofynodd i'r perchenog a wnelai werthi’r tir. A brynwch chwi ef?" gofynai'r meistr mewn syndod. Gwnaf, syr, os gallwn gytuno," oedd yr ateb, Mae hyn yn rhyfedd," sylwai'r boneddwr;  dywedwch pa fodd yr ydych yn cyfrif am dano; tra na fedrwn i fyw ar gymaint arall o dir, ac heb dalu dim rhent, yr ydych chwi yn talu dau cant bob blwyddyn, ac mewn ychydig flynyddau yn gallu prynu'r tir!” Mae'r achos yn eglur," atebai'r amaethwr, yr oeddech chwi yn eistedd yn llonydd, ac yn dweyd ewch, yr oeddwn innau yn codi ac yn dweyd dewch; yr oeddech chwi yn gorwedd yn eich gwely ac yn y mwynhau eich ystad; yr oeddwn innau yn codi'n foreu ac yn gofalu am fy ngwaith." Rhoddodd Syr Walter Scott y cynghor sylweddol hwn i ddyn ieuanc oedd newydd gael ei benodi i swydd: Gwnewch ar unwaith yr hyn fyddo i'w wneuthur, a chymerwch eich oriau o adloniant ar ol gwaith, byth o'i flaen. Pan fo byddin yn ymdaith, teflir y rhan olaf o honi lawer pryd i ddyryswch am nad yw'r rhan flaenaf yn ymsymud yn gyson a diatal. Mae'r un fath gyda gwaith. Os na chaiff yr hyn fyddo’n gyntaf mewn llaw ei wneyd yn ddiatal a rheolaidd, crona pethau ereill o'r tu ol, nes dechreua gorchwylion wasgu i gyd ar unwaith, ac nis gall ymenydd un dyn ddal y cymysgedd."

Dylai'r ystyriaeth o werth amser symbylu dynion i fod yn barod  i weithio. Arferai athronydd Eidalaidd ddweyd mai amser oedd ei ystâd; ystad na chynyrchai ddim oedd o werth heb iddi gael ei gwrteithio; ond ystâdd, pan drinid hi yn briodol, nad oedd byth yn  fyr o dalu'n dda i'r gweithiwr am ei lafur. Un fantais a ddeillia i ddyn o fod mewn gwaith yn gyson yw, ei fod yn cael ei gadw yn y (x144) modd hwn rhag gwneyd drwg, oblegyd  sicr yw fod ymenydd segur yn weithfa i'r diafol, Wrth fod mewn gwaith mae dyn yn debyg i dŷ yn cael ei ddal gan u ddeiliad, ond wrth fod yn segur mae'n debyg i dŷ wedi ei adael yn wâg; a phan mae  drysau'r dychymyg o led y pen, mae profedigaethau yn cael ffordd rydd, a meddyliau drwg yn cael pob rhyddid i ymdyru i fewn. Mae y prif fordwywyr wedi gorfod teimlo nad yw dynion byth mor barod i rwgnach a chodi terfysg â phan maent heb ddim i'w wneuthur. Oblegyd hyn arferai un hen gadben, pan na byddai dim arall ganddo i'w roi o flaen ei forwyr, orchymyn iddynt lanhau'r angor."

Arfera dynion gorchwylgar ddyfynu'r arwireb fod Amser yn arian, ond y mae'n fwy na hynny. Wrth ei iawn ddefnyddio mae dyn yn diwyllio'i feddwl ac yn gwella ei gymeriad. Gwnai un awr a dreulir bob dydd yn segur, pe defnyddid hi yn briodol, ddyn anwybodus yn ddoethawr mewn ychydig o flynyddau. Byddai chwarter awr bob dydd, ond ei neilltuo at hunanddiwylliant, yn beth y teimlid ei effaith ar ben y flwyddyn. Nid yw meddyliau rhinweddol a phrofiad a gesglir yn ofalus yn cymeryd i fyny ddim lle, a gallwn fynd a hwy gyda ni i bob man heb draul na thrafferth. Y ffordd oreu i sicrhau seibiant yw defnyddio ein horiau yn gynil a gofalus. Galluoga hyn ni i fod yn feistriaid ar ein gwaith, yn lle ein bod yn cael ein gyrru ganddo. O'r ochr arall, mae gwneyd camgyfrif o'n hamser yn ein gosod mewn ffwdan, penbleth ac anhawsterau parhaus. Dywedodd Nelson ryw dro, Mae fy llwyddiant mewn bywyd i'w briodoli i fod yn wastad chwarter awr o flaen fy amser." Ni feddylia rhai dynion am werth arian nes byddant wedi eu gwario yn llwyr, a'r un modd yr ymddyga llawer mewn cysylltiad a'u hamser. Gadewir i'r oriau lithro heibio heb eu defnyddio, ac yna, pan mae bywyd yn tynu i'r terfyn, dechreuant feddwl am eu dyledswydd i wneyd gwell defnydd o honno. Ond gall yr arferiad o fyw yn segur a diofal fod wedi dod erbyn hyn yn rhy nerthol i'w orchfygu, a theimlant yn analluog i dori'r cadwynau y goddefasant eu hunain i gael eu rhwymo a hwynt. Gellir adennill cyfoeth colledig drwy ddiwydrwydd, gwybodaeth golledig drwy efrydiaeth, iechyd colledig drwy gymedroldeb a meddyginiaeth, ond unwaith y collir amser y mae wedi mynd am byth.
Bydd i ystyriaeth briodol o werth amser ein harwain i fod yn brydlon gyda phob peth. Mae prydlondeb yn ddyledswydd ar foneddigion, ac yn anhebgorol i ddynion gorchwylgar. Nid oes dim a gynyrcha ymddiried mewn dyn yn gynt na'r ymarferiad o'r rhinwedd hon, na dim a wanha ymddiriedaeth ynddo yn gynt na'r diffyg o honni. Mae'r hwn a ochela rhag eich cadw i aros am dano, yn dangos fod ganddo ofal am eich amser chwi yn gystal ag am yr eiddo ei hun. Bod yn brydlon yw un o'r moddau sydd genym i wireddu ein parch personol i'r rhai hynny y gelwir arnom i'w cyfarfod yn nhrafodaethau bywyd; ac y mae'r hwn sydd yn esgeulus o hyn yn defnyddio amser pobl ereill yn anheg. Pan yr esgusodai ysgrifennydd Washington ei hun am ddod yn ddiweddar at ei waith (x145 - NAPOLEON) drwy roi’r bai ar ei oriawr, atebodd ei feistr yn dawel, Felly rhaid i chwi gael oriawr arall, neu i mi gael ysgrifennydd arall." Mae'r hwn sydd yn ddifater o amser ac o'r defnydd wneir o honno yn tori ar heddwch a sirioldeb dynion ereill. Teifl bawb yr ymwna â hwynt i sefyllfa dwymynol, y mae bob amser yn ddiweddar, ac nid yw yn rheolaidd mewn dim ond ei afreoleiddiwch. Yn y cyffredin, gwelir fod y dynion sydd ar ol o ran amser ar ol o ran llwyddiant hefyd, ac fod y byd yn eu taflu o'r neilltu i chwyddo rhengoedd y rhai sydd beunydd yn grwgnach ac yn rhoi anair i ffawd.

Yn ychwanegol at y cymhwysterau cyffredin mae’n ofynol i ddyn gorchwylgar o'r radd flaenaf gael amgyffrediad cyflym a dianwadalwch i weithio allan ei gynlluniau. Mae callder (tact) hefyd yn bwysig; ac er mai rhodd natur yn benaf yw hon, eto mae'n beth y gellir ei ddadblygu a'i ddiwyllio drwy sylw a phrofiad. Mae dynion o'r nodwedd hyn yn gyflym i weld y ffordd briodol i weithredu, ac os yn meddu ar benderfynolrwydd, maent yn barod i ddwyn yr hyn gymerant mewn llaw i derfyniad llwyddianus. Gellir dweyd fod y cymhwysterau yma yn werthfawr ac yn anhebgorol i'r rhai sydd yn trefnu gweithrediadau dynion ereill ar raddfa eang. Fel engraifft, meddyliwn am gadfridogion. Rhaid i gadfridog fod yn alluog nid yn unig fel rhyfelwr, ond hefyd fel dyn o fusnes. Gofynir iddo feddu callineb mawr, adnabyddiaeth helaeth o gymeriadau, a gallu i drefnu symudiadau llu nifeirol o ddynion, y rhai sydd raid iddo eu porthi, eu ddilladu, a darparu ar eu cyfer bob peth sydd angenrheidiol er eu galluogi i gadw'r maes ac ennill brwydrau. Yn yr ystyron hyn yr oedd Napoleon a Wellington yn ddynion gorchwylgar o'r radd flaenaf.

Yr oedd Napoleon yn meddi’r fath adnabyddiaeth o gymeriadau ag a'i galluogai i ddethol, braidd yn ddifeth, y cyfryngau goreu i weithio allan ei gynlluniau. Eto, nid ymddiriedai ond yr hyn oedd raid i gyfryngau mewn unrhyw faterion pwysig. Gwelir hyn yn amlwg wrth ddarllen y 15fed gyfrol o'i "Ohebeithiau," lle ceir y llythyrau, yr archiadau a'r brysnegesau a ysgrifenwyd ganddo yn Finkenstein, castell bychan ar derfynau Pwyl (Poland) yn y flwyddyn 1807, yn fuan ar ol buddugoliaeth Eylau. Gwersyllai catrodau Ffrainc, yr adeg honno ar lan yr afon Passarge, gyda'r Rhwsiaid o'u blaen, yr Awstriaid ar yr ochr ddeheu, a'r Prwsiaid gorchfygedig o'r tu ol iddynt. Yr oedd yn ofynol cadw gohebiaeth barhaus â Ffrainc, a hynny drwy wlad lawn o elynion. Ond yr oedd y trefniadau wedi eu. gwneyd mor berffaith, fel y dywedir na ddarfu i Napoleon fethu derbyn na danfon unrhyw lythyr yn brydlon. Cadwai ei olwg gyda'r manylder eithaf ar symudiadau’r byddinoedd, ar ddygiad i fyny'r adgyfnerthiadau o gonglau pellenig Ffrainc, Yspaen, yr Eidal a'r Almaen, ac ar agoriad camlesydd a pharatoad ffyrdd i drosglwyddo cynyrchion Pwyl a Prwsia yn rhwydd i'w wersylloedd. Cawn ef yn enwi'r lleoedd yr oedd meirch i'w cael ynddynt, yn trefnu i gael digon o gyfrwyau, yn rhoi archebion am esgidiau i'r milwyr, ac yn nodi'n fanwl faint o fara, o gresdeisenau (biscuits) ac o wirodydd oedd i gael (x146) eu dwyn i'r gwersyll, neu i gael eu gosod yn yr ystorfeydd yn barod at wasanaeth y milwyr. Ar yr un pryd yr ydym yn ei gael yn ysgrifennu i Paris gan roi cyfarwyddiadau o barthed i adsefydliad y Coleg Ffrengig, yn tynu cynllun o addysg cyffredinol, yn geirio i'w ysgrifennydd gyhoeddebau (bulletins) ac erthyglau i'w rhoi yn y Moniteur," yn archwilio'r adroddiadau cyllidol, yn rhoi hyfforddiadau gyda golwg ar gyfnewidiadau oedd i’w gwneyd yn y Palas Ymherodrol ac Eglwys St. Magdalen, yn taflu ambell watwareg at Madam de Stael a chylchgronau Paris, yn rhoi llaw o gymhorth i ostegu cweryl o berthynas i'r Prif Opera, ac yn dwyn ymlaen ohebiaeth ag Ymherawdwr Twrci a Phenadur Persia. Felly gwelir ei fod, tra o ran ei gorff yn Finkenstein, o ran ei feddwl yn gweithio mewn cant o wahanol fanau yn Paris, yn Ewrop, a thrwy'r holl fyd.

Yr oedd Wellington, yr un fath a Napoleon, yn ddyn gorchwylgar o'r radd flaenaf; a dichon na chyfeiliornwn wrth ddweyd mai hyn sydd i fesur mawr yn cyfrif am y ffaith na chollodd frwydr erioed yn ei fywyd. Tra yn is-swyddog teimlai'n anfoddog i weld ei ddyrchafiad cyhyd cyn dyfod, ac apeliodd at Arglwydd Camden, yr hwn oedd yn Rhaglaw y Werddon ar y pryd, am swydd ar y Bwrdd Cyllidol neu Fwrdd y Trysorlys. Pe llwyddasai, mae'n ddiamheu y buasai wedi ymgodi yn uchel yn y cylch hwnnw; ond bu ei apeliad yn ofer, ac arosodd yn y fyddin i ddod y mwyaf o holl gadfridogion Prydain.
Dechreuodd Wellington ei yrfa filwrol o dan y Duc Caerefrog a'r Cadfridog Walmoden, yn Flanders a'r Iseldiroedd (Holland), lle dysgodd, yng nghanol anffodion a gorchfygiadau, pa fodd mae trefniadau gorchwyliol gwael, a chadfridogaeth diwerth yn medru lladd ysbryd byddin. Ymhen deng mlynedd wedi ymuno a'r fyddin cawn ef yn bencatrawd (colonel) yn India, ac yn cael ei ganmol gan ei uwchafiaid fel swyddog o yni ac ymdrech diflino. Ymroddodd i godi ei filwyr i'r safon uchelaf o ddisgyblaeth. Ysgrifenai'r Cadfridog Harris yn 1799, Mae eiddo'r Pencatrawd Wellesley yn gynddelwad (model) o fyddin, ac uwchlaw pob canmoliaeth." Cafodd ei benodi yn fuan ar ol hyn yn llywodraethwr prif-ddinas Meysore. Yn y rhyfel a'r Mahrattiaid y galwyd arno gyntaf i brofi ei hun fel cadfridog, a phan yn bedair ar ddeg ar hugain ennillodd frwydr fythgofiadwy Assaye, gyda byddin a wneid i fyny o 1500 o Brydeiniaid, a 5000 o Indiaid, yn erbyn 20,000 o draedfilwyr, a 30,000 o farchfilwyr Mahrattaidd. Ond ni ddarfu i fuddugoliaeth mor ddisglaer aflonyddu dim ar dawelwch ei feddwl, nac amharu gonestrwydd perffaith ei gymeriad.

Yn fuan wedi hyn daeth cyfleustra i arddangos ei gymhwysterau ardderchog fel llywodraethwr. Rhoddwyd ef yn llywodraethwr ar randir bwysig yn uniongyrchol ar ol i Seringapatam gael ei chymeryd, a'i ymgais gyntaf oedd sefydlu trefn a disgyblaeth caeth ymysg ei bobl ei hun. Yn eu llawenydd am y fuddugoliaeth elai'r catrodau yn benrydd a direol. "Anfonwch y câd-faer (provost marshal) ataf," meddai, a gosodwch ef dan fy awdurdod; mae'n ofer disgwyl trefn (x147 – WELLINGTON YN YR ORYNYS) na diogelwch, nes bydd rhai o'r ysbeilwyr wedi eu crogi." Y llymder hwn o'i eiddo ar y maes, er ei fod yn ddychryn, fu iachawdwriaeth ei filwyr mewn llawer ymgyrch. Ei orchwyl nesaf oedd adsefydlu'r marchnadoedd ac ail agor y ffynhonnellau cyflenwad. Ysgrifennodd y Cadfridog Harris at y Pencadlyw i uchel gymeradwyo Wellesley am y disgyblaeth perffaith oedd wedi sefydlu, a'r trefniadau doeth oedd wedi wneyd i gael cyflenwadau, y rhai oeddynt wedi agor digon o farchnad, a chreu ymddiriedaeth ym mynwesu gwerthwyr o bob math." Daw yr un nodweddion i'r golwg yn ei hanes yn yr India o'r dechreu i'r diwedd; ac y mae'n hynod fod un o'i frysnegesau galluocaf i Arglwydd Clive, yr hon oedd yn llawn o helyntion y rhyfelgyrch, wedi ei hysgrifennu tra yr oedd yr adran a arweiniai yn croesi'r Toombuddra, yng ngwyneb byddin liosog Dhoondiah, yr hon oedd wedi cymeryd ei safle ar y bryn cyferbyniol, a thra yr oedd cannoedd o faterion o'r pwys mwyaf yn gwasgu ar ei feddwl. Ond un o'r pethau rhyfeddaf ynglyn ag ef oedd, ei allu i ymneilltuo am enyd oddiwrth y gorchwyl fyddai ganddo mewn llaw, a rhoi ei holl feddwl ar faterion ereill cwbl wahanol.

Ar ei ddychweliad i Loegr wedi gwneyd enw iddo ei hun fel cadfridog, cafodd Syr Arthur Wellesley waith yn barod ar ei gyfer. Yn 1808, rhoddwyd dan ei law fyddin o 10,000 i fynd i ryddhau Portugal. Glaniodd, ymladdodd, ac ennillodd ddwy frwydr, a llawnododd Gytundeb Citra. Ar ol marwolaeth Syr John Moore ymddiriedwyd i'w ofal gadgyrchiad arall i Portugal. Ond drwy holl ryfeloedd yr Orynys, yr oedd y lluoedd a ymladdent yn erbyn Wellmgton yn llawer cryfach na'i eiddo ef. O 1809 hyd 1813, ni bu ganddo ar unrhyw dymor fwy na 30,000 o filwyr Prydeinig at ei alwad, tra yr oedd yn ei erbyn o fewn terfynau'r Orynys 350,000 o Ffrancod, a'r rhan amlaf o honynt yn filwyr profiadol, ac yn cael eu llywyddu gan gadfridogion galluocaf Napoleon. Pa fodd yr oedd i gystadlu a'r fath nerthoedd aruthrol? Teimlai fod yn rhaid mabwysiadu rhyw gynllun gwahanol i eiddo'r cadfridogion Yspaenaidd, y rhai a faeddid ac a wasgerid bob amser yr anturient i ymladd ar y gwastadeddau agored. Gwelodd fod ganddo hyd yn hyn y gorchwyl o greu'r fyddin oedd i ymladd a'r Ffrancod gydag unrhyw obaith rhesymol am lwyddiant. Am hynny, ar ol brwydr Talavera yn 1809, ymneilltuodd i Portugal i weithio allan y cynllun y penderfynasai erbyn hyn arno. Y cynllun oedd, trefnu byddin o Portugaliaid, dan swyddogion Prydeinig, a'u dysgu i weithredu mewn undeb a'i gatrodau ef ei hun, gan osgoi yn y cyfamser y perygl o gael ei orchfygu, drwy beidio mynd i gwrdd a'r gelyn o gwbl. Credai y byddai iddo yn y modd hwn ladd ysbryd y Ffrancod, y rhai nis gallent fodoli heb gael buddugoliaethu; ac yna, wedi cael ei fyddin yn barod i waith, a'r gelynion wedi colli eu hegni, y gallai ruthro arnynt a'u gorchfygu.

Ni chafodd dyn erioed fwy o'i brofi drwy rwystrau a gwrthwynebiadau nag a gafodd Wellington yn y rhyfelgyrchoedd hyn. Codai'r anhawsterau oddiar wendid, twyll ac ystrywiau'r rhai oedd yn (x148)

(x14
8)
(x14
9)
(x15
0)
(x15
1)
(x15
2)
(x15
3)
(x15
4)
(x15
5)
(x15
6)
(x15
7)
(x15
8)
(x15
9)
(x16
0)
(x16
1)
(x16
2)
(x16
3)
(x16
4)
(x16
5)
(x16
6)
(x16
7)
(x16
8)
(x16
9)
(x17
0)
(x17
1)
(x17
2)
(x17
3)
(x17
4)
(x17
5)
(x17
6)
(x17
7)
(x17
8)
(x17
9)
(x18
0)
(x18
1)
(x18
2)
(x18
3)
(x18
4)
(x18
5)
(x18
6)
(x18
7)
(x18
8)
(x18
9)
(x19
0)
(x19
1)
(x19
2)
(x19
3)
(x19
4)
(x19
5)
(x19
6)
(x19
7)
(x19
8)
(x19
9)
 
(x20
0
)
Coron a gogoniant bywyd yw Cymeriad.  Hwn yw'r meddiant penaf fedr dyn gael, gesyd urddas arno ymhob sefyllfa, a dyrchafa ef yngolwg cymdeithas.   Mae'n fwy effeithiol na chyfoeth, a sicrha i'w berchenog yr oll o'r anrhydedd heb ddim o'r eiddigedd sydd ynglyn ag enwogrwydd. Caria ddylanwad a deimlir bob amser, oblegyd mae yn gynyrch didwylledd, uniondeb a gwadalwch profedig - elfenau ydynt yn hawlio ymddiriedaeth ac edmygedd dynion, yn fwy feallai nag unrhyw elfenau ereill. Cymeriad yw dynoliaeth yn ei gwedd oreu. Dynion o gymeriad yw cydwybod cymdeithas; ac heblaw hyn, ymhob gwlad a lywodraethir yn deilwng, hwynthwy yw ei phrif allu ysgogol, oblegyd elfenau moesol gan mwyaf sydd yn llywio'r byd. Dywedai Napoleon fod y moesol i'r anianol, hyd yn oed mewn rhyfel, fel deg i un. Mae nerth, diwydiant, a gwareiddiad teyrnas yn dibynu ar gymeriad unigolion, ac y mae holl sylfeini diogelwch gwladwriaethol yn gorfiwys arno. Nid yw cyfreithiau a sefydliadau ond pethau a dyfant allan o honno. Ynghlorian gywir natur, caiff unigolion a chenhedloedd yr hyn maent yn haeddu, a dim rhagor. Ac fel mae achos yn dwyn ei effaith, felly mae ansawdd cymeriad ymysg dynion yn sicr o gynyrchu ei ffrwythau priodol ei hun.

Er i ddiwylliant dyn fod yn brin, ei alluoedd yn gyffredin, a'i gyfoeth yn ychydig, ond i'w gymeriad fod yn dda, bydd yn sicr o gario dylanwad, pa un bynnag ai yn y weithfa, y farchnadfa, y Senedd, neu rywle arall y digwydda fod.   “Rhaid i'm hesgyniad i awdurdod fod drwy gymeriad," meddai Canning, “ni chynnygiaf un llwybr arall, a chredaf mai dyma'r llwybr sicrhaf, er mai nid hwn yw'r byraf bob amser." Gellir edmygu dynion o dalent, ond rhaid cael rhywbeth ychwaneg cyn gallu ymddiried ynddynt. Dywedai Arglwydd John Russell ryw dro mai'r arferiad yn Lloegr yw gofyn am gymhorth dynion o athrylith, ond dilyn arweiniad dynion o gymeriad. Profwyd hyn yn hanes y diweddar Francis Horner, dyn y dywedai Sidney Smith fod y Deg Gorchymyn wedi eu hargraffu ar ei wedd. Ni pharhaodd ei dymor ef ond deunaw mlynedd ar hugain, ond ni thalodd Senedd Prydain Fawr fwy o barch i neb yn ei fywyd, ac ni theimlodd yn fwy chwith o golli neb pan fu farw. Pa fodd y cyrhaeddodd y fath ddylanwad? Drwy waedoliaeth? Nid oedd ond mab i fasnachwr yn Edinburgh. (x201 – CYMERIAD GONEST)  Drwy gyfoeth? Ni bu ef nac un o'i berthynasau erioed yn berchen chwe' cheiniog nad oedd arno eu heisieu. Drwy swyddogaeth? Un swydd fu yn ddal yn ei fywyd, ni ddaliodd honno ond ychydig flynyddau, nid oedd yn swydd o awdurdod, ac ni dderbyniai fawr o dal am ei chyflawni. Drwy alluoedd meddyliol? Nid oedd ond dyn o alluoedd cymedrol, ond yr oedd bob amser yn ofalus a phwyllog, a'i uchelgais penaf oedd bod yn gywir. Drwy hyawdledd? Siaradai yn araf, gyda chwaeth da, heb ddim o'r areithyddiaeth hwnnw sydd yn dychrynu nac yn hud-ddenu. Drwy ba beth y cyrhaeddodd ef ynte?   Drwy synwyr cyffredin, diwydrwydd, egwyddorion didwyll, a chalon gywir - pethau na raid i un meddwl sydd wedi ei gydfantoli yn weddol ofni na all eu meddianu. Ymddyrchafodd drwy nerth cymeriad, a'r cymeriad hwnnw, nid wedi ei etifeddu'n naturiol, ond wedi ei ffurflo, o elfenau nad oeddynt decach na'r cyffredin, ganddo ef ei hun. Ceid yn Nhy'r Cyffredin liaws o ddynion mwy galluog, ond dim tin yn fwy o werth moesol. Ganwyd Horner i ddangos beth all galluoedd cymedrol, heb gael eu cynhorthwyo gan ddim ond diwylliant a daioni, gyrraedd, hyd yn oed ynghanol cystadleuaeth ac eiddigedd bywyd cyhoeddus.

Priodolai Franklin hefyd ei lwyddiant fel dyn cyhoeddus i onestrwydd ei gymeriad. "Ni fum erioed," meddai, “yn hyawdl fel siarawdwr, o'r braidd y gellid dweyd fod fy iaith yn ddiwall, a phetruswn gryn lawer gyda dewisiad fy ngeiriau; ond gwyddai pawb fod fy amcan yn dda, ac yr oeddwn fynychaf yn cyrraedd fy mhwynt." Mae cymeriad yn creu ymddiriedaeth mewn dynion o safle uchel yn gystal a dynion o amgylchiadau isel. Dywedwyd am yr Alexander cyntaf fu yn Ymherawdwr Rhwsia fod ei gymeriad yn gymaint o werth a chyfansoddiad gwladwriaethol.   Yn ystod rhyfeloedd y Fronde, Montaigne oedd yr unig foneddwr ymysg y Ffrancod a gadwai byrth ei gastell heb eu bolltio, a dywedid fod ei gymeriad personol yn fwy o amddiffyniad iddo nag y gallasai catrawd o filwyr fod. Gellir dweyd fod cymeriad yn nerth mewn ystyr uwch nag y mae gwybodaeth felly. Mae meddwl heb galon, deall heb fuchedd, a medr heb rinwedd, yn alluoedd mewn ystyr;
ond gallant fod yn alluoedd na chynyrchant ddim ond drygioni. Gallwn gael ein hyfforddi neu ein difyru ganddynt, ond mae mor anhawdd lawer pryd i ni geisio eu hedmygu ag y byddai edmygu deheurwydd côdleidr.

Gwirioneddolrwydd, cywirdeb, a daioni, yw elfenau hanfodol cymeriad teilwng. Mae'r hwn sydd yn feddianol ar yr elfenau hyn, mewn cysylltiad a grym amcan, yn meddu ar allu i wneuthur daioni, gwrthwynebu drygioni, a dal i fyny dan anhawsterau ac anffodion.  Pan syrthiodd Stephen o Colonna i ddwylaw ei ymosodwyr barbaraidd, ac y gofynasant yn wawdus iddo, "Pa le mae dy amddiffynfa yn awr?" gan roi ei law ar ei galon, atebodd yn wrol, “Dyma hi." Mewn adfyd y ceir cymeriad dyn da yn ymddysgleirio fwyaf; a phan fetho pob peth arall saif ef yn ddiysgog (x202) ar ei uniondeb a'l ddewrder. Mae'r rheol a ddylynid gan Arglwydd Erskine yn deilwng o gael ei cherfio ar galon pob dyn ieuanc. "Y rheol roddwyd i mi ar ddechreu fy ngyrfa," meddai, "oedd gwneyd bob amser yr hyn y dywedai fy nghydwybod ei fod yn ddyledswydd arnaf, a gadael y canlyniadau i Dduw. Hyd yn hyn yr wyf wedi ei dilyn hi, ac nid oes genyf le i gwyno fod fy ufudd dod iddi wedi bod yn golled dymhorol i mi, ond i'r gwrthwyneb, yr wyf wedi ei chael yn ffordd i lwyddiant a chyfoeth, a charwn nodi allan yr un llwybr i fy mhlant ar fy ol."

Ymdrechu meddianu cymeriad da ddylai fod un o brif amcanion bywyd dyn.   Bydd i'w ymgais i'w sicrhan drwy foddion teilwng ei gyffroi i ymegnio , a bydd i'w syniad am ddynoliant, fel y byddo yn cael ei ddyrchafu, wneyd ei amcan yn fwy sefydlog a byw.  Mae'n fuddiol i ni gael safon uchel i'n bywyd, hyd yn oed pe byddem yn fyr o allu ei chyrraedd yn hollol. “Mae'r dyn ieuanc nad yw yn edrych i fyny," meddai Mr. Disraeh, "yn edrych i lawr; ac y mae'r ysbryd sydd heb fod yn esgyn i'r uchelion, yn sicr o fynd i ymlusgo yn y llwch.”  Bydd yr hwn sydd yn gosod safon uchel iddo ei hun i fyw a meddwl wrthi, yn siwr o wneyd yn well na'r hwn sydd heb safon o gwbl. “Tynnwch wrth ŵn aur," medd y ddihareb Ysgotaidd, "ac efallai y cewch lawes ohono." Nis gall y sawl sydd yn ymestyn at y nod uchaf lai na chyrraedd pwynt llawer uwch na’r un y cychwynodd oddi arno, ac er i'r pwynt gyrhaeddir fod yn is na'r un amcenid nis gall yr ymgais ynddi ei hun lai na bod o les parhaol.

Ceir lliaws o gymeriadau ffugiol, ond eto mae'n anhawdd camsynied yr un gwirioneddol. Ceisia llawer ffugio er mwyn cymeryd mantais ar yr anochelgar. Dywedai'r Milwriad Chartens wrth ddyn oedd yn nodedig am ei onestrwydd, “Mi r'own fil o bunnau am eich enw da chwi." "Paham?" "Am y gallwn wneyd deng mil drwyddo," oedd yr ateb.

Didwylledd mewn gair a gweithred yw asgwrn cefn cymeriad, ac ymlyniad teyrngarol wrth eirwiredd yw ei nodwedd fwyaf amiwg. Wedi marw'r diweddar Syr Robert Peel, dygodd Duc Wellington, mewn araeth yn Nhy'r Arglwyddi, dystiolaeth ragorol i'w gymeriad. “Bum dros amser maith," meddai, "yn dal cysylltiad agos ag ef mewn bywyd cyhoeddus. Buom gyda'n gilydd mewn cynghorau, a chefais yr anrhydedd o fwynhau ei gyfeillgarwch yn y dirgel lawer tro. Ni welais enoed ddyn ag yr oedd genyf fwy o ymddiried yn ei onestrwydd a'i uniondeb, na neb yn fwy ymroddedig bob amser i hyrwyddo lies y wladwriaeth. Ni chefais yn ystod fy mywyd yr achos lleiaf i dybio ei fod yn dweyd dim na chredai yn ddiysgog ei fod yn ffaith." A diamheu mai'r gwirioneddolrwydd uchelfrydig hwn o eiddo'r gwladweinydd clodfawr oedd dirgelwch rhan go helaeth o'i ddylanwad a'i allu.

Mae'r fath beth a didwylledd mewn gweithred yn gystal ag mewn
geiriau, yr hyn sydd yn hanfodol i gymeriad tellwng. Rhaid i ddyn fod yn wirioneddol yr hyn y ceisia ddangos ei fod. Ysgrifennodd (x203 – “BYDDWCH YR HYN Y DANGHOSWCH EICH BOD”) boneddwr o America at Granville Sharp, i'w hysbysu ei fod oddiar edmygiad o'i  riweddau disglaer wedi gosod un o’i feibion ar ei enw ef, ac atebodd Sharp - "Rhaid i mi ofyn genych ddysgu i'ch bachgen un reol o eiddo'r teulu yr ydych wedi rhoi eu henw arno. Dyma hi: Byddwch yn wirioneddol y peth y dangoswch eich bod. Fel y dywed fy nhad, yr oedd hon yn cael ei dilyn yn ofalus gan ei dad ef, yr hwn oedd yn ddyn syml a gonest.” Bydd i bob dyn sydd yn parchu ei hun, ac yn hoffi cael ei barchu gan ereill, ymdrechu gweithio allan y rheol hon yn ei holl ymddygiadau.  Dywedodd Cromwell ryw dro with Bernard, yr hwn oedd yn gyfreithiwr medrus, ond yn lled ddiofal am weithredu cydwybod, "Yr wyf yn deall eich bod wedi bod yn hynod o ochelgar yn ddiweddar, ond peidiwch ymddiried gormod yn hynny, gall cyfrwystra eich twyllo, ond ni wna cywirdeb hynny byth." Nid yw dynion sydd â’u gweithredoedd yn hollol groes i'w geiriau yn hawlio parch, ac nid oes gan yr hyn a ddywedant nemawr o ddylanwad, mae hyd yn oed gwirioneddau, pan lefarir hwynt ganddynt, fel pe baent yn disgyn yn wywedig oddiar eu gwefusau.

Mae'r dyn o gymeriad da yn gwneyd yr hyn sydd iawn, yn y dirgel yn gystal ag yn y cyhoedd.  Gofynwyd unwaith i fachgenyn oedd wedi cael cyfle i ysbeilio, "Paham na buaset wedi gosod rhai o'r peranau (pears) yn dy logell? Nid oedd yno neb i dy ganfod." Atebodd yntau, “Oedd, yr oeddwn i yno i fod yn dyst o'r weithred, ac nid wyf yn dewis gweld fy hunan byth yn gwneyd dim sydd yn anonest." Yr oedd ymddygiad y bachgennyn yn profi fod ei fywyd dan reolaeth egwyddorion cywir, ac fod ganddo gydwybod effro. Mae egwyddorion o'r natur hyn yn moldio cymeriad dyn i ffurf briodol, ac yn dod i weithredu'n fwy grymus y naill ddydd ar ol y llall. Heb y dylanwad llywodraetbol hwn, nid oes gan gymeriad ddim i'w amddiffyn, mae'n agored i syrthio ymaith o flaen profedigaethau yn barhaus, ac y mae pob gweithred anheilwng a gyflawnir yn arwain dyn i edrych yn is arno ei hun.

Yn y fan yma, gellir sylwi fel y mae'n bosibl cryfhau ac ategu'r cymeriad drwy feithrin arfenadau da. Dywedodd rhywun fod dyn yn sypyn o arferiadau, ac arferiad yn ail natur. Credai Metastasio mai arferiad yw hyd yn oed rhinwedd ei hunan. Yn ei 'Gyfatebiaeth' ymdrecha Butler argraffu ar feddwl y darllenydd fod yn bwysig iddo ddisgyblu ei hun yn ofalus, a gwrthsefyll profedigaethau, er mwyn gwneyd rhinwedd yn beth mor arferedig fel y daw o'r diwedd i deimlo fod yn rhwyddach iddo fyw yn rhinweddol nag i roi ffordd i bechod. Dywedai Arglwydd Brougham wrth son am y pwysigrwydd o roddi addysg ac esiampl dda i blant, “Yr wyf yn ymddiried pob peth braidd i arferiad. Ar hyn mae'r deddfroddwr, yn gystal a'r ysgolfeistr, wedi dibynu yn benaf ymhob oes.  Mae arferiad yn gwneyd pob peth yn hawdd, ac yn peri i anhawsterau ddiflanu." Felly, gwneler sobrwydd yn arferiad, a bydd anghymedroldeb yn yn beth ffiaidd, gwneler cynhildeb yn arfenad, a daw afradlondeb diofal yn beth croes i bob egwyddor sydd yn rheoli  bywyd dyn.

(x204)
(x20
5)
(x20
6)
(x20
7)
(x20
8)
(x20
9)
(x21
0)
(x21
1)
(x21
2)
(x21
3)
(x21
4)
(x21
5)
(x21
6)
(x21
7)
(x21
8)
(x21
9)
(x22
0 ::



 
 

DIWEDD

 

·····

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

 

 


Simbolau arbennig : ŵ ŷ

 

Adolygiadau diweddaraf:  12 07 2002

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats