1359k Englynion wedi eu casglu o hen gylchgronau ayyb.  Y Gwenithyn. Gronyn glwys goreu’n ein gwlad – o gan’ waith / Yw’r Gwenithyn gwiw-fad: /
Cu flaenor ein cyflenwad / A’m hymborth;- i’r dorth mae’n dad.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_049_englynion_1_1359k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

.......................................1360k Y Gyfeirddalen i'r Adran Englynion

........................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Englynion
Wedi eu casglu o hen gylchgronau, ayyb

 

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us
(delw 4666)
Cliciwch ar y delw i’w fwyhau

 

 

 

 
·····

 

 

Adgof (R. Ingram)
Archwaeth (Cynfelyn)
Beddargraff Y Cynffonwr (Dewi Orwig)
Beddargraph Milwr Ieuanc (Berw)
Beddargraph Mr. Evan Hugh Owen, Caernarfon (Deiniolydd) 
Beddargraph Tri Phlentyn (Berw)
Castell y Faerdref (Ioan Ddu)
Craig Y Garn (Ellis Jones)
Creigfryn (J. Green)
Cwyn Henafgwr (Elidirfab) 
Eiddigedd (Dewi Barcer)

“Ei  Grist Ef”  (H. Gwerfyl James)

Enaid Baban (J.R.W., Nantgaredig)
Er Cof (Gutyn Arfon)
Er Cof am Ferch y Bardd Hafal (“E.”)
Gwyl Mabon (Myfyr Hefin)
Haul ar ol Gwlaw (Bryfdir) 
Ioan ix.4.  (G. W. Francis)
Kruger (Dr. Leyds) 
“Mygyn o’r Cetyn Cwta”  (John Davys-Thomas)
“Ni Ddrygant, Ni Ddifethant Yn Holl Fynydd Fy Sancteiddrwydd,” &c.  (Morleisfab)
Nyth Aderyn (Ieuan Dwyfach)
Ochenaid (H. Ll. W. Hughes)
Pont y Borth (John J. Jones)
Trachwant (Asa)
Y Bardd Yn Wylo Am Ei Anwylyd (Thomas Williams)
Y Beddfaen (Myfyrian) 
Y Cleddyf (Willie Francis)
Y Crwydryn (Gwernogle)
Y Cybydd (Dewi Gwendraeth) 
Y Deurodur (Daniel Jones)
Y Gwenithyn (D. R. Davies) 
Y Gwlithyn (W. J. Jones) 
Y Lloer (Gerallt) 
Y Milwr  (Ieuan Mai) 
Y Morwr (W. R. Jones)

Ymson Islwyn am Galedfryn (Islwyn)
Y Parch. Thomas Roberts (Hywel Cefni)
Yr Eilliwr (Owain Arfon) 
Yr Enfys  (Eryddon)
Yr Huan (Asa) 
Yr Oen (Thomas Griffiths) 
Yr Wylan ar y Mor (D. S. Thomas [Glan Pair])
Y Tafod (David Wynne)

 _______________________________________________________

ADGOF.
Ei sang ar fynwent Anghof, - drwg gryniad
..........Egyr enau’r ogof:
.....O gwr hon udgorn Adgof,
.....Eilw’r cynt yn ol i’r cof.

R. Ingram.

Bedlinog.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


__
__________________________________________________

ARCHWAETH
Gallu gwanc o gylla gwyd, - yw Archwaeth, -
..........Arderchog reddf grewyd:
.....Yn y genau mae’n gynnwyd
.....I yngan byw angen bywyd.
 
Cynfelyn.

Pisgah. 
(Y Geninen 1901 t272)

__
_______________________________________________

BEDDARGRAFF Y CYNFFONWR.
Huna dyn cynffonllyd, gwên deg, - is hon, -
..........Hen sarff fu trwy’i adeg;
.....Ni achwyna ddim ’chwaneg, -
.....Clai a geir yn cloi ei geg.

Dewi Orwig
(Y Geninen 1904 tudalen 252)

__
__________________________________________________

BEDDARGRAPH MILWR IEUANC
A fu farw ar ei daith adref o Dde Affrig.
Adref o faes gwrhydri – ni ch’add dd’od,
..........Yn wych ddyn i’w foli:
.....Yn hanes gwron heini’
.....Canfydder breuder ein bri. 

Berw.
(Y Geninen 1901 t272)

__
_______________________________________________

BEDDARGRAPH MR. EVAN HUGH OWEN, CAERNARFON
(Buddugol)
Evan Hugh Owen fu, yn ei awydd
I wella gweinion, yn llyw i gynydd;
O ddawn ber, rywiog, rhyfeddai’n broydd
At ei lifeiriol, ffraethbert leferydd:
Masnachwr, arwerthwr rhydd - a doniol, -
Ië, mynwesol, hael gymwynasydd.

Deiniolydd.
(Y Geninen 1902 t271)

____________________________________________________

BEDDARGRAPH TRI PHLENTYN
Tirion iawn oedd ein tri ni, - a miniog
..........Siom enaid fu’n colli,
.....Ydyw’r hyn dd’wed rhieni:
.....Ond Ior aeth a’r tirion dri.

Berw
(Y Geninen 1901 t272)

__
_______________________________________________

CASTELL Y FAERDREF
Chwech Englyn i Gastell y Faerdref.
Buddugol yn Eisteddfod Llandudno, Dydd Calan, 1865.

Yn Gaer enwawg gywreiniol, - lle mynid
..........    Llumanau chwyfianol,
.....Dy asio wnaed oesau’n ol
.....Ar fryniau’r Faerdref freiniol.

Y bryniau lle caer ein brenin - enwog
..........     Maelgwn Gwynedd ddewr-lin,
.....Fu’n dyst hêdd i ryfedd rin,
.....Odl lwys yr hen Daliesin.

Yn myw wawl yr haul melyn - dy fawrion
..........     Glyd furiau’n ymestyn,
.....A gwedd dy falch dyrau gwyn
.....Oedd hyfryd ar y ddeufryn.

Gynt bygwth bu rhyw luoedd - rhïeddog
..........     Ein rhyddid a’n tiroedd;
.....A’th dyrau serth i drais oedd,
.....A’i “ddu lu,” yn nawddleoedd.

Llywelyn ddiball alwodd - ei fawr rym,
..........    A’th fri ddarostyngodd;
.....Dy dyrau’th fariau un fodd,
.....Uchelion a lwyr chwalodd.

Difrodedd anadferadwy - yn nydd
..........    Duw’r nef fu dy ofwy;
.....Uwch y môr ni ddyrchi mwy
.....Yn ogoniant Dyganwy.

Ioan Ddu

(Yr Eisteddfod 1865 t372)

__
_______________________________________________

CRAIG Y GARN.
Yn anwyl fan awenydd, - a difyr
..........Le i’r defaid beunydd,
.....Craig y Garn, hyd y Farn, fydd
.....Yn dal uwchben y dolydd:

Ellis Jones
Y Garnedd Lwyd, Bala
(Y Geninen 1900 t270)


_________________________________________________

CREIGFRYN.
Er yn llesg, gwrol esgyn – i dŷ Ion 
..........Wnai’r diweniaith Greigfryn:
I wresog waith yr Iesu gwyn – ymroddodd, -
.....Hardd y daliodd nes cyraedd ei delyn.

Evan Edwards rydd fwyn nodau – o fawl
.......... I’r Gwr fu a’i freichiau
.....O tanodd, yn y tònau
.....A’i fyw hedd yn ei gryfhau.

J. Green.

Ponciau.
(Y Geninen 1902 t271)

 
_________________________________________________

CWYN HENAFGWR.
Siomedig yn un swm ydyw – fy oes, -
..........Pwy fesur ei gwayw?
.....Mor hawdd cyfri’m camrau heddyw.
.....Ar fin y bedd yr wyf yn byw.

Elidirfab.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


_________________________________________________

EIDDIGEDD (Buddugol)
Du, hen elyn dynoliaeth, - a rawd
..........Fag enaid diffaeth,
.....Yw Eiddigedd: hi fedd faeth
.....I gul anian gelyniaeth.

Dewi Barcer.
Blaenhirbant.
(Y Geninen 1901 t272)

 
_________________________________________________

“EI GRIST EF.”
Trwy’r “Grist Ef” cawn dangnefedd,-a nefoedd
..........Nwyfus, lawn gorfoledd:
.....O fewn hon cawn afonhedd,
.....A gwiw fôr o gyfaredd.

H. Gwerfyl James.
(Y Geninen 1902 t271)
__
_______________________________________________

ENAID BABAN.

Enaid glwys, wynned a glân! - nef yn wir
..........Nawf yn ei wên eiriau;
..........Odlig gu ddyhidla gân
..........O hanes Iôr Ei Hunan..


Nantgaredig ...................J.R.W.

(Cymru Hydref 15 1896 Cyfrol 11, Rhif 63, t153)

_________________________________________________

 

ER COF AM FERCH Y BARDD HAFAL
Yn ngwlad ei hing olaf, - adre’n iach,
..........Wedi’r nychol auaf,
.....Aed a’r eneth dirionaf –
.....Ethel Wyn – i fythol haf.

E.
(Y Geninen 1901 t272)

_________________________________________________

ER COF.
Elis anwyl, os unwaith – hunaist ti
..........Dan ystorm artaith,
.....Ni weli hono eilwaith –
.....Mae hi’n deg y’mhen y daith.

Gutyn Arfon.
(Y Geninen 1903 tudalen 287)

_________________________________________________

GWYL MABON
Gwyl fisol, rasol ei rhyw, - a gwyl iawn
..........I gael “hwyl” ddigyfryw, -
.....Gwyl ry’ hedd i’r glowyr yw
.....Ein Llun hudol, - llon ydyw.

Myfyr Hefin
(Y Geninen 1901 t272)

__
_______________________________________________

HAUL AR OL GWLAW.
Y gyfnos drom gefnais draw, - torodd gwawr
..........Tiroedd gwell yn ddistaw;
.....Drwy y glyn, rhandir y gwlaw,
.....Daw’r heulwen wedi’r wylaw.

Y nos drom a’i hanes drig - mewn niwloedd
..........Mewn alaeth drylliedig;
.....Y wawr braf, cawn ar ei brig
.....Gorhudol wên garedig.

Bryfdir.
(Y Geninen 1900 t270)

__
_______________________________________________

IOAN ix.4.
{Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.}

A gar daith mewn gwaith i gŷd , - dilyned
..........Oleuni yr Ysbryd
.....Nid yw mwyniant ond am enyd;
.....A nôs bêdd yw hanes y byd.

G. W. Francis.
Nantlle. 
(Y Geninen 1901 t272)


_______________________________________________________

KRUGER.
Kruger, yn dêr fel y dydd, - a arwain
..........Gymmeriad ysblennydd;
Dyn hoff yw, llydan ei ffydd,
A chryf was Duw a chrefydd:
Gwych wladgarwr, hen dwr da, -
Parod darian Pretoria.

Dr. Leyds.
(Y Geninen 1900 t270)

_________________________________________________

“MYGYN O’R CETYN CWTA.” 
Ysmician wnawn wrth ’smocio - y Myglys;
.......... Ac ni’n meglir ganddo:
.....Ond er ein dwyn o’n cwyn i’n co’,
.....Y tebycaf yw’r Tybaco.

John Davys-Thomas.

Kilvey. 
(Y Geninen 1902 tudalen 176)

_______________________________________________________

“NI DDRYGANT, NI DDIFETHANT YN HOLL FYNYDD FY SANCTEIDDRWYDD,” &c.
Ceir, ryw bryd, wyn fyd di fâr, - di annwn,
..........Di helgwn dialgar, -
.....Pob dyn i’w gyd-ddyn yn gâr
.....A chân Duw gylcha’n daear.

Morleisfab
(Y Geninen 1902 t271)
_________________________________________________

NYTH ADERYN.
Cyweirndorch yw nas ceir undyn – lunia
..........Ddarn mor lân a dillyn:
.....Rhydd Nêr, drwy waith aderyn,
.....Arddangosfa dda i ddyn.

Ieuan Dwyfach.
(Y Geninen 1900 t270)

_________________________________________________

OCHENAID (BUDDUGOL)
Awel isel fro loesion – a’i chynyrch,
..........Yw Ochenaid calon:
.....Helynt anwel plant dynion,
.....A’u hingoedd, dd’wed yngŵydd Ion.

H. LL. W. Hughes 
Cwmoerddwfr.
(Y Geninen 1902 tudalen 176)


_________________________________________________

PONT Y BORTH.
O Arfon i Fon pont ddi fai - pont hardd
..........Pont o hyd a’n synai:
.....Molwn ei threm, lanw a thrai -
.....Drws i Fon dros y Fenai

John J. Jones

Ebenezer.
(Y Geninen 1902 t271)



_________________________________________________


TRACHWANT

Trachwant, pe’n berchen y byd – chwenychai,
..........Yn awchus, ryw eilfyd;  
.....Mwya’ gaiff, mwya’ i gyd
.....Ei raib anwar a’i benyd.

Asa
(Y Geninen 1904 tudalen 252)

_________________________________________________

Y BARDD YN WYLO AM EI ANWYLYD.
Wylo am ei anwylyd – mae ein bardd,
..........Am un bur ei bywyd:
.....Daeth i ben holl daith ei byd,
.....Frau einioes, ar fer enyd.

Ein cu frawd, cofia, er hyn, - yr Iesu
  Grasol fu ei gofyn:
.....Yn ei ymyl cân emyn -
.....Hen dôn y Gwaed yn ei gwyn.

Thomas Williams.

Rhoshirwaen.  
(Y Geninen 1902 t271)


_________________________________________________

Y BEDDFAEN.
Maen geiriol yn min y gweryd, - yn dyst
..........Am y da mewn bywyd
.....A aeth i hedd bedd o’r byd:
.....Dôr ei ’stafell – drws deufyd.

Myfyrian.
(Y Geninen 1902 t271)

__
_______________________________________________

Y CLEDDYF.
Gwenwynig yn ei anian  -  ydyw’r Cledd, -
..........Awdwr clwy’ yn mhobman:
.....Hen arf da gynhyrfa dân
.....Hylifol erch gyflafan.

Willie Francis.

Oerddwr.
(Y Geninen 1902 tudalen 176)

__
_____________________________________________________

Y CRWYDRYN.
 (Buddugol yn Lerpwl, 1901).
Un llwydaidd ei ddilledyn, a’r rodle’r
..........  Afradlon, yw’r Crwydryn:
.....Cardotta ei fara fyn,
.....A’i fwrdd yw llaw oferddyn.
 
Gwernogle.
(Y Geninen 1902 t271)

_________________________________________________

Y CYBYDD.
Dyn di-fwyd, o dan adfydau - yw ef
..........Drwy’i oes; ac i’w glustiau,
.....Swn arian yw’r sain orau;
.....A’i gôd yn gudd geidw’n gau.

Dewi Gwendraeth
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


____________________________________________________

Y DEURODUR (Buddugol)
March yw heb branc na ’stranciau; - a phorthiant
..........Ni pherthyn i’w reidiau:
.....I frysiog wr, cludwr clau,
.....Bywiog, ystwyth, heb gostau.

Daniel Jones.
Cwmtofach
(Y Geninen 1901 t272)

__
__________________________________________________

Y GWENITHYN.
Gronyn glwys goreu’n ein gwlad – o gan’ waith
..........Yw’r Gwenithyn gwiw-fad:
.....Cu flaenor ein cyflenwad
.....A’m hymborth;- i’r dorth mae’n dad.

D. R. Davies.
Llanrhystyd.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)
(CYDFUDDUGOL).

__
_______________________________________________

Y GWLITHYN.
Ardderchog, leithiog Wlithyn, - un crwn, bach
..........Coron berl y rhosyn;
.....Hyd ysgol y Nos disgyn
.....Ar firain, glaer fron y glyn.

W. J. Jones.
Birchgrove.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


__
__________________________________________________

Y LLOER.
I’th orsedd wen, ysblenydd, - y deui,
..........Loer dawel yr hwyrddydd;
.....Ernes o’r wawr, y nos, rydd
.....Dy lwyd olau dieilydd.


Gerallt.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


_________________________________________________

Y MILWR.
(Buddugol yn Llangedwyn, 1900).
 Gwr teilwng geir at alwad, - erioed
..........Y Milwr dewr-fwriad;

.....A phenaf was diffniad:
.....Ei wn a’i gledd nodda’n gwlad..


Ieuan Mai.

Meifod.
(Y Geninen 1902 t271)


_______________________________________________________

Y MORWR.
Y gwr dewr farchoga’r don – yw’ r Morwr
..........Ymerys uwch eigion:
.....Mwynha llu ei gwmni llon
.....A’i ddaioni i ddynion.

 
W. R. Jones.
Merthyr.
(Y Geninen 1900 t270)


_________________________________________________

 

YMSON ISLWYN AM GALEDFRYN.
Swn y gwlaw yn syn glywaf — hanner nos,
..........Neu ar nant clustfeiniaf,
.....Neu ar ser, neu aeg rhos haf —
.....A hen gyfaill lon gofiaf.
...................................................ISLWYN

(Cymru Hydref 15 1896 Cyfrol 11, Rhif 63, t153)
__
_______________________________________________

Y PARCH. THOMAS ROBERTS.
Gŵr fu’n gryf yn ei grefydd, - a gwir hoff
..........Graffus ymresymydd. -
.....Eilun yr oes, - ei lèn rydd
.....Fyw ddelw nef-feddylydd.

Hywel Cefni.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)



_________________________________________________

YR EILLIWR.
Gyda’i arf y farf a fyn - ei heillio
..........Yn hollol bob blewyn:
.....Mae’n gallu trin miniog ellyn
.....Â’i law, yn deg, i lanhau dyn.

Owain Arfon
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


_________________________________________________

YR ENFYS.
(Buddugol yn Ngherrig y Drudion).
Bwa glan, - gwers i’r annuw, - yw Enfys, -
Swynfawr sel llw’r Mawr-dduw,
.....O roddiad hen:  trwydded Duw
..... I’w ddeiliaid rhag ail ddiluw.


Eryddon.
(Y Geninen 1902 t271)

__
_______________________________________________

YR HUAN.
Arlunydd oriel Anian, - tirion dad.
..........Teyrn y dydd, yw’r Huan;
.....A cheir, drwy’r enfys eiriau,
.....Olwg glir o’i liwiau glân.

Asa.

Ffynon Coranau.
(Y Geninen 1903 tudalen 142)
  

__
__________________________________________________

YR OEN.
Mor siriol, ar ddôl werdd, ddeilliog, -  yw’r Oen:
..........Yn ei bur wedd serchog,
.....I ni, dan wèn, glaerwen glog,
.....Rho’ed delw o’r dihalog.

Thomas Griffiths.

Croesor.
(Y Geninen 1902 tudalen 176)



_________________________________________________

YR WYLAN AR Y MOR. - (BUDDUGOL)
Y lwydwen Wylan leda - edyn mwyth -
..........Ar don môr chwareua
.....Heb arswyd, danteithfwyd da
.....Yw y pysgod a’i pesga..

D. S. Thomas (Glan Pair).
(Y Geninen 1903 tudalen 142)


_________________________________________________

Y TAFOD
Peiriant rhyfeddol, parod, -wna ei swydd
..........Yn y safn, yw’r Tafod:
.....Dwg eiriau’n bur, eglur, òd,
.....O fyw ardal Myfyrdod.

David Wynne.
Corris.
(Y Geninen 1903 tudalen 287)



·····

 

DIWEDD

 


Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 

Adolygiadau diweddaraf: 08 11 2002 - 2004-02-26

Sumbolau arbennig ŷ ŵ

CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats