1932k Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol. Beriah Gwynfe Evans, 1898

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_053_dafydd_dafis_1898_01_1932k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol
Beriah Gwynfe Evans, 1898

 

 

 

 

Fe fydd y testun gwreiddiol ar gael hefyd ar ffurf delwau maes o law.

 

 

 

 

 

 


(delw 6513)

 

Ein sylwadau mewn teip oren.

 

(Ry^n ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb, Mae w^, y^, **’ i’w gweld yn y fersiwn hon - mae’n haws i’w teipio felly. Byddwn yn eu cywiro unwaith y bydd y cwbl wedi ei deipio gennym)

 

AR Y GWEILL GENNYM

Tudalennau i’w gwneud o hyd: 12 - 336

 

(Mae’r geiriau a brawddegau Saesneg sydd wedi eu hysgrifennu mewn orgraff Gymraeg yn y nofel wedi eu rhoi mewn llythrennau italig gennym, er nad ydynt wedi ei hamlygu yn y testun gwreiddiol – e.e. Y Gwd Ffêri)

_____________________________________________________

 

Gyda Dymuniadau Gorau 15 / 6 / 17 Dad

 

....

 

...

 

(x0i)

 

(x0ii) tudalen weili

 

(x0iii) Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.
Awdur: Beriah Gwynfe Evans, 1898

 


(x0iv) tudalen weili

 

(x0v) GAIR O EGLURHAD AT Y SAWL Y PERTHYN IDDYNT WYBOD.

Gyda chryn betrusder y cydsyniais â nifer lluosog o geisiadau o wahanol gyfeiriadau i roi ffurf mwy parhaol i Adgofion Dafydd Dafis nag oedd yn ddichonadwy yn ngholofnau papur newydd. Gwir ddarfod imi gael llu o brofion pan ymddangosodd yr erthyglau gyntaf, fod Dafydd a Claudia yn bersonau tra phoblogaidd yn mhob rhan o’r Dywysogaeth, ac yn mhlith pob dosbarth o gymdeithas; eithr priodolwn y poblogrwydd hwnw i raddau helaeth i ddyddordeb amserol y materion a drinid gan y Llaethwr a’i Briod, ac ofnwn nas gellid disgwyl i’r poblogrwydd barhau wedi i ddyddordeb uniongyrchol yr amgylchiadau a ddesgrifid basio. Eithr sicrheid fi yn wahanol, a bod i Dafydd a Claudia swyddogaeth uwch a mwy parhaol na difyru darllenwyr papur newydd dros enyd awr.

Ysgrifenwyd yr erthyglau gwreiddiol yn aml yn frysiog yn nghanol prysurdeb galwedigaethol; llawer o honynt pan oeddwn dan gystudd trwm; rhai o honynt pan nas gallwn eistedd i ysgrifenu, ae y gorfodid fi felly i’w traddodi i law arall eu hysgrifennu yn ymyl fy nghlaf wely. Nodir y ffeithiau hyn yn awr yn benaf am y priodolid y pryd hwnw - ac eto - ran o leiaf o’r awduraeth i Aelodau Seneddol neillduol. Dymuna’r awdwr hysbysu mai efe, ac efe yn unig, oedd yn euog o’u cyhoeddi fel yr ymddangosasant gyntaf, ac na “ysbryddolwyd” hwynt gan neb arall. Eto gyda phob gwyleidd-dra

 

 

 


(x0vi) tudalen weili ymfalchia yn y ffaith ddarfod iddo dan y cyfryw amgylchiadau, lwyddo i roddi portreadau mor gywir o’r hyn a gymerai le o’r tu ol i’r lleni fel y tybiai hyd yn nod y chwareuwyr mai rhai o’u cwmni hwy eu hunain a wnaethai eu brad!

Wrth barotoi yr ysgrifau hyny i ymddangos Yn eu ffurf bresenol ceisiais adael allan bob peth a ymddangosai imi fel wedi colli ei ddyddordeb i’r cyhoedd. Yr amcan oedd cyflwyno’r Adgofion yn awr fel pe yr ysgrifenasid hwynt yn
1898, ac nid yn 1893-95. Ceisiwyd gwneud i’r Adgofion adrodd eu stori eu hun am un o’r cyfnodau pwysicaf yn hanes dadblygiad gwleidyddiaeth a chenedlaetholdeb Cymru. A lwyddwyd i wneud hyny barned y darllenydd.

 

Fel cynorthwy pwysig at gadw i fyny ddyddordeb y cyhoedd, anturiais ddwyn newydd-beth i fewn i lenyddiaeth Gymreig – sef y Cartoons sy’n addurno’r gyfrol bresenol. Gan nad pa cyhyd y pery dyddordeb y cyhoedd yn “Dafydd Dafis” fel cynyrch llenyddol, teimla’r awdwr yn falch i feddwl ei fod wedi llwyddo i ddangos i’r byd fod Cymru yn gallu cynyrchu talent arlunyddol o’r radd flaenaf, bod i’r dalent hono faes cyfreithlawn yn llenyddiaeth gartrefol y genedl, ac y medr Cyhoeddwyr Cymru wneud cyfiawnder â chynyrch Celf Cymru. O’r saith arlunydd y ceir eu gwaith yn y gyfrol hon, mae chwech yn dal cysylltiad agos â Chymru, a phump yn Gymry yn mron mor Gymreig a Dafydd Dafis ei hun!Yn y cysylltiad hwn gweddus cydnabod caredigrwydd Mr. Marchant Williams yn caniatau adgynyrchu rhai o ddarluniau Will Morgan o’r “Welsh Members of Parliament;” ar Meistri Bradbury, Agnew a’u Cyf., Perchenogion “Punch,” am gyffelyb ganiatad caredig i adgyhoeddi rhai o’u Gwawd Ddarluniau hwy - caniatad a werthfawrogir yn fwy am na roddwyd ef o’r blaen erioed i unrhyw waith Cymreig, ac hyd wyf yn wybod i ond yn unig un cyhoeddwr Seisnig erioed. Gweddus cydnabod rhwymedigaeth bersonol i’r Cartoonist galluog, Mr. E. T. Reed, am y cymorth gwerthfawr a roddodd efe yn y mater, ac am rai darluniau gwreiddiol o’i eiddo nad ymddangosasant o’r blaen.


 


(x0vii) Gan nas gallwn, heb chwyddo’r gwaith i faintioli direswm, fanylu cymaint ar ddigwyddiadau eleni a llynedd ag ar flynyddoedd cyntaf yr hanes, ceisiais wneud i fyny am y diffyg drwy gymhwyso y rhan fwyaf o’r Cartoons gwreiddiol at amgylchiadan y ddwy flynedd olaf.

Prin mae eisieu ychwanegu nad oes na gwenwyn na malais wedi symbylu ysgrifbin yr awdwr na phwyntil yr arlunwr. Ceisiodd y naill fel y llall roi y wedd ddifyr ar ddigwyddiadau bywyd cyhoeddus dynion cyhoeddus y genedl. Eithr gwnaed hyny mewn perffaith natur dda – ac nid gormod yw dweyd mai cyfeillion personol agosaf yr awdwr yw rhai o’r rhai a ymddangosant amlycaf yn y rhanau mwyaf difyr o’r gwaith. Eto, credaf fod gwersi buddiol i Gymru, i’w gweleidyddiaeth, ei chrefydd, a’i harferion cymdeithasol, yn gorwedd o dan yr holl ddifyrwch. Llawenychaf wrth weled fod y farn gyhoeddus, fel y’i cynrychiolir gan y Wasg Seisnig a Chymraeg, yn cymeryd yn ymarferol yr un olwg ar genhadaeth “Dafydd Dafis” ag a gymerir gan

Eich ufydd was,
YR AWDWR.

Mehefin, 1896

 

_

 

 

CYNWYSIAD.


Pennod I. – Dechreu’r Helynt.

x1

- Y wraig a minau

 

- Eisio imi fynd yn A.S.

 

- Dagrau a llawenydd

 

- Y wraig yw pen y gw^r

 

- Ysgrifenu at Tom Ellis

 

 

 

Pennod II. – Y Garej and Pêr.

x6

- Llythyr Tom Ellis

 

- Y lle lle gwneis i gamsyniad

 

- Ffordd Claudia

 

- A’i salwch

 

- Y Gwd Ffêri -

 

- Y ddreif gynta tu nol i’r ddau geffyl glâs

 

 

 

Pennod III. – Y Ddau Geffyl Glas Cynta.

x13

- Practeisio yn y garej

 

- Adgofion

 

- Yr hogyn tlawd a’r gw^r cyfoethog

 

- Achub bywyd Claudia

 

 

 

Pennod IV.- Yn Yr Hows of Comons.

x20

- Dreifio i’r Ty^.

 

- Brenin Begeriald Cymru

 

- Tom Ellis a Lloyd George

 

- Difishyn Bel

 

- Y Cariadon Seneddol

 

- Gwd bei

 

- Dinbach!

 

- Iyng Wêls yn achub einioes Gladstone..

 

 

 

Pennod V. - Gyda’r Merched.

x29

- Sut i wynebu Claudia

 

- Cofio’r tric â mam

 

- Ffoi i’r gwely

 

- Pryder Claudia ac athrod Sarah

 

- Tranoeth

 

- “Y gnwy^r” yn erbyn y byd

 

- Cynddylan, y Gymdeithasfa, a’r Aelodau

 

- Humphreys Owen a’r Esgob

 

- S. T. Evans a’r Briodas Frenhinol

 

 

 

Pennod VI. - Methodist ynte Cymro.

x38

- Barn f’ewyrth am Claudia

 

- “Gwraig a Gw^r”

 

- Y ffeit hefo Claudia

 

- Pam **’rwy’n Fethodist

 

- Abel Thomas a Sir Gaerfyrddin

 

- Cwestiwn y Dadgysylltiad

 

- Lady Henry Somerset

 

- Gwaith imi eto

 

 

 

 

 

(x0viii)

 

Pennod VII. - Gyda’r Aelodau.

x47

- Ble mae’r Chwip?

 

- Beth ydi gwaith Chwip?

 

- Beth ydi “pario”?

 

- Mr. Majority Banks

 

- Herbert Lewis

 

- Mabon a Richard Morris

 

- Tân y Western Mail

 

- Mr. Counsilor Beavan a’r botal

 

- Yr Aelodau Cymreig a Gladstone

 

 

 

Pennod VIII. - Y Cymru a Mr. Gladstone.

x56

- Yr ohebiaeth a’r hen w^r

 

- Sut y cefais i o

 

- Y tair plaid Gymreig

 

- Y llythyr at Mr. Gladstone

 

- Pwy a’i harwyddodd

 

- Pwy beidiodd

 

- Yr atebiad iddo

 

- Dehonglwr meddwl Mr. Gladstone

 

- Yr Aelod newydd dros Abertawe

 

- Samuel Smith yn **’maflyd yn ngholer Rathbone

 

- Bryn Roberts mewn cwmni drwg

 

- Bowen Rowlands a’i sedd

 

- “Tobit” yn ceisio gwlad well

 

 

 

Pennod IX. - Cweryl a Claudia.

x67

- Uchelgais Claudia

 

- Callineb y Papurau Cymraeg

 

- Am i mi fod yn “Syr Dafydd”

 

- Sut i mi gael bod yn “Syr”

 

- “Syr” John Piwlston

 

- Anwybyddu Cyniru

 

- Tywysogion anghofus

 

- Cost y Briodas

 

- Colli fy nhymer

 

- Côt of Arms Dafydd Dafis

 

 

 

Pennod X. - Dalen o f’hanes boreuol.

x76

-Y Frenhines a Claudia

 

- Profedigaeth Mr. Rathbone

 

- Clos Y Gogledd, a Chlos y De, a Chlos Nein

 

- Y Carpenter a’r Watchmaker

 

- Y Jacs-in-the-bocs Gwyddelig

 

- Pobl Arfon a Mr. Rathbone

 

 

 

Pennod XI. - Cyffesiad Bryn Roberts.

x86

- Tê Parti yn ein ty^ ni

 

- Bryn Roberts a D. A. Thomas

 

- Cyffelybiaeth Farddonol

 

- Y Ddeiseb ynghylch y Brifysgol

 

- A oes Plaid Gymreig?

 

- Dameg Bryn Roberts

 

- Aralleiriad D. A Thomas

 

- Beth fydd nesa?

 

 

 

Pennod XII. - Donibrwc Ffer.

x93

- Row yn y Ty^

 

 - Stop-tap siarad ofer

 

- Herod a Judas

 

- Logan a Carson

 

- Golygfa ryfedd

 

- Ffri ffeit

 

- Dafydd Dafis a John.Burns

 

- Dafydd Dafis a’r Swyddog

 

- Urddas Gladstone

 

 

 

(x0ix)

 

Pennod XIII. - Cyfarfod Dirgel arall.

x101

- Pwysigrwydd Dafydd Dafis

 

- Cwrdd Eglwys ar ei achos

 

- Ceisio cau i geg o

 

- Mr. Rathbone fel Thomas yn anghredadyn

 

- Sail ffydd Bryn Roberts

 

- Y Major yn amddiffyn hawliau’r Wasg

 

- Llythyr Mr. Gladstone

 

- Cenadwri Stiwart Rendel

 

- I’ch Pebyll, Israel!

 

- Y Chapel Sites eto..

 

 

 

Pennod XIV. - Yn y **’Steddfod.

x111

- Eisio teitl

 

- Ble i’w gael o

 

- Sut i gael teitl mewn **’Steddfod

 

- Mynd i Bontypridd

 

- Gael fy ngodro yno

 

- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

- Llyfr yr Orgraff

 

- Cymdeithas Addysg Merched

 

- Yr Orsedd

 

- Ogof Macphelah’r Beirdd

 

- Adres Dafydd Dafis

 

 

 

Pennod XV. - Hogi’r Arfau.

x124

- Cyfarfod arall o’r Blaid Gymreig

 

- Complit Letar Reitar y Blaid

 

- Rathbone a Sam Evans yn gwrthwynebu

 

- Salwch Bryn Roberts

 

- Y Ffeiting Mejor

 

- Stiwart Rendel i’r ffrynt

 

- Cân Alfred Thomas

 

- Syr Edward Reed a’r Mejor

 

- Penau’r Bregeth a’r Casgliadau

 

 

 

Pennod XVI. - Yr Ogof Gymreig.

x129

- Beth yw Ogof Seneddol?

 

- Ogofau Chamberlain a Rathbone

 

- Ogof Adulam y Cyfieithiad Diwygiedig

 

- Y pedwar ogofwr

 

- Pam na bai Ellis a Lloyd George yn joinio

 

- Esboniad Dafydd Dafis

 

- Y Plans a’r Spesifficeshyns

 

- Yr Arcitect a’r Contractor

 

 

 

Pennod XVII. - Rhostio’r Aelod.

x136

- Claudia yn darllen llythyr Bryn Roberts

 

- Digter Claudia

 

- Mynd i Ginio

 

- Mr. a Mrs. Wynford Philipps

 

- Claudia’n swyno Bryn

 

- A’i rostio ef

 

 

 

Pennod XVIII. - Triciau Loyd George.

x148

- Amryw ddoniau Lloyd George

 

- Ei wendid o

 

- Claudia’n cael y gora arno fo, wrth gwrs

 

- Gwraig Shon Robaits yn ceisio efelychu Claudia

 

- Ac, wrth gwrs, yn methu

 

- Bedi’r dwymyn werdd?

 

 

 

 

 (x0x)

 

Pennod XIX. - Ffarwelio a’r Ty am Dymor.

x155

- Gyda’r Aelodau Cymreig eto

 

- Bygwth mynd ar streic

 

- A pheidio

 

- Y Colera yn y Ty

 

- Claudia’n dychryn

 

- Minau’n cael gorphwys

 

- A mynd i Ffrainc

 

 

 

Pennod XX. - Dechreu’r Otym Seshyn.

x162

- Wedi dod’nol!

 

- Tair wsnos yn Ffrainc

 

- Dechreu’r Otym Seshyn

 

- Ellis, Lord Cynlas

 

- Stiwart Rendel a’r dyfodol

 

- Depiwteshyn at Dafydd Dafis

 

 

 

Pennod XXI. - Helynt Y Teigar.

x170

- Dafydd a Dic Whittington

 

- Claudia am fy ngwneud yn awdwr

 

- Cais hynod Claudia

 

- Dafydd fel Herod wedi gaddo gormod

 

- Chwilio am deigar

 

- Helynt y teigar

 

 

 

Pennod XXII. - Profedigaeth Sir Fon.

x179

- Tredmil Aelod Seneddol

 

- Be **’di pario

 

- Stori Tom Ells

 

- Welsh Nashynalists Seisnig

 

- Mynwy a Brycheiniog

 

- Depiwteshyn Sir Fon

 

- Ai fi ydi Dafydd Dafis

 

 

 

Pennod XXIII. - Temtiad Dafydd Dafis.

x195

- Depiwteshyn arall

 

- Oddiwrth Lord Solsbri

 

- Ar y ffordd i Gaerdydd

 

- Ei gariad at Gymru

 

- Hen Wlad fy Nhadau mewn gwisg newydd

 

- Baner Solsbri, a Baner dafydd Dafis

 

- Syr Stafford Northcote a Dr. Treharne –

 

- Temtio Dafydd Dafis

 

 

 

Pennod XXIV. - Dafydd Yn mblith y Doctoriaid.

x214

- Codi yn y Coleg

 

- Eidea Claudia

 

- Y Jyj a’r Eglwys

 

- Mynd at Mr. Acland

 

- Ddi Dafydd Dafis Scolarship

 

- Begars o Gymru

 

 

 

Pennod XXV. - Yr HenWas – a’r Newydd.

x220

- Claudia’n teyrnasu, fel arfer

 

- “Dreif on John!”

 

- Ciniawa gyda Gladstone yn Biarritz

 

- Newid y gweision

 

- Barn Gladstone am Dafydd

 

- Program Rosebery

 

 

 

(x0xii)

 

Pennod XXVI. - Dechreu’r Gwrthryfel

x231

- Seiet ola Stiwart Rendel

 

- Son am neud Dafydd yn Veicownt

 

- Syr William Harcourt yn insyltio Syr George

 

- Y cyfarfod dirgel yn 963 Park Lane

 

- Trefnu’r Gwrthryfel ..

 

 

 

Pennod XXVII. - Claudia a Syr William Harcourt.

x238

- Mynd at Syr William

 

- Ffordd Claudia hefo fo

 

- Amddiffyn Anrhydedd Cymru

 

- Ei farn o am yr Aelodau Cymreig

 

- Achos dfiolch Syr William,

 

- a Dafydd

 

 

 

Pennod XXVIII. - Gyda Meibion y Prophwydi.

x246

- “Is leiff wyrth lifing?

 

- Ecstraordinari Honorarl Membar

 

- Gwerth digrï

 

- Dafydd Jesse, Mus. Doc.

 

- Iwnifersiti Bethel

 

- Gwarogaeth Meibion y Prophwydi

 

 

 

Pennod XXIX. - Carcharu Dafydd gan y Gwyddelod.

x253

- Hanesydd y dyfodol

 

- Ddi grê senseshyn

 

- Pam nad ysgrifenwyd hanes y Rifolt

 

- Diflaniad anesboniadwy Dafydd Dafis

 

- Y Cidnappers Gwyddelig

 

- Teligram drud ond rhad

 

- Claudia’n Scotland Yard

 

 

 

Pennod XXX. - Ddi Lo of Compenseshyn.

x266

- Demonstreshyn y teligrams

 

- Llougyfarchiadau’r byd ar (sic) Betws

 

- Enw Cymraeg Claudia

 

- Ceisio gosod trefn ar bethau eto

 

- Y sgwrs hefo’r pedwar gwrthryfelwr

 

 

 

Pennod XXXI. - Ofeshyn yn Nhy’r Cyffredin

x276

- Fisit eto i Dy^’r Cyffredin

 

- Offrwm Cymod y Werddon

 

- Bryn a Claudia’n ffrindia

 

- Y Demonstreshyn yn y Ty^

 

- Barn y Spicar

 

 

 

Pennod XXXII. - Sut y gwnaed John Owen yn Esgob.

x288

- Lynsh gyda Alfted

 

- Esgob Llanelwy yn cael ei ddiarddel

 

- Yr Esgob eisio help Dafydd Dafis

 

- Ymweliad a Solsbri

 

- Gorchfygu Satan eto

 

 

 

Pennod XXXIII. - Dagrau a llawenydd.

x302

- Ydi Claudia wedi digio?

 

- Agor ein calonau

 

- Teithwyr a Phererinion..

 

 

 

 

(x0xii)

 

Pennod XXXIV. - Dafydd fel Bardd Cwsg.

x307

- Gwilym ap Harddgot

 

- Chamberlain y Showman

 

- Yr Asyn Anufydd

 

- Swyddfa’r Brifysgol

 

- Streic y Penrhyn

 

- Brwydr Cynhadledd Caerdydd

 

- Gwedd Meirch Seneddol Cymru

 

- Gwahanol Olygfeydd

 

- Rhyddfreiniad y Ddynes

 

 

 

Pennod XXXV. - Caru, Priodi, a Byw.

x314

- Dyddiau carwriaeth

 

- Y ddau offiser yn y thiatr

 

- I’w myst asc mei ffadder!

 

- Gofyn i dad Claudia

 

- Synu Claudia a’i modryb

 

- Y Laethwraig newydd

 

- Claudia’n fy synu ina

 

 

 

Pennod XXXVI. - Dafydd a’r Frenhines.

x322

- Y Droing Rwm

 

- Ofni am synwyr Claudia

 

- Bedi Cort Dress

 

- Bedi Inffra Dig

 

- Yn y Queen’s Droing Rwm

 

- Dychryn

 

- Claudia

 

- Iarll Tre’r Llaethwr

 

- Y diwedd

 

 

 

Anerch Ffarwel gan gynyrchwyr “Dafydd Dafis”

x336

 

.....

RHESTR DARLUNIAU.

 

 

RHIF Y LLUN

 

 

TUDALEN

 

d1

CARTRE DAFYDD — (T. H. Thomas)

(Dafydd Dafis o Claudia ger 963 Park Lane)

Gwyneblun

 

d2

GWEDD MEIRCH SENEDDOL CYMRU — (Dyer Davies)

(Aelodau Rhyddfrydol Cymru)

1

 

d3

PEDWAR ESGOB CYMRU — (Ab Caledfryn)

 

8

 

d4

GWILYM AB HARDDGOT — (E. T. Reed)

(Syr William Harcourt fel Bardd Cymreig)

16

 

d5

EIN HEN BENDEFIGION (F. G. Gould)

(Arglwydd Penrhyn a'r Anrhydeddus Douglas Pennant)

24

 

d6

RHYDDFREINIAD Y DDYNES — (Ab Caledfryn)

(Prif Arweinyddesau Mudiad y Merched)

32

 

d7

Y FFORDD DDYLASAI RODIO — (Dyer Davies)

(Mr. Abel Thomas; Parch. W. Davies, Llandilo; Parch. Towyn Jones)

40

 

d8

GLO, AUR, AC ALCAN CYMRU — (Will Morgan)

(Mabon, Pritchard Morgan, a D. Randell)

48

 

d9

GWELL DAU NA THRI — WEITHIAU — (F. C. Gould)

(Mr. Chamberlain, Argl. Salisbury, Arglwyddes Londonderry)

64

 

d10

YR HOGYN DRWG — (Dyer Davies)

(Alfred Thomas, D. A. Thomas, T. Ellis, Lloyd George, Rosebery, Harcourt, a Balfour)

72

 

 

 

 

d11

ARWEINYDD NEWYDD Y BLAID GYMREIG — (E. T. Reed)

(Alfred Thomas a’r Ddraig Goch)

80

 

d12

MAES PENFRO — (Ab Caledfryn)

(Mr. a Mrs. Wyford Philipps; Iarll Cawdor; Argl. Emlyn; W. Jones, A.S.; Syr Charles Phillips; Parch. L. James, Brynbank, Parch.. W. Jones, Trewyddel)

88

 

d13

DONIBRWC FFER YN NHY'R CYFFREDIN — (E. T. Reed)

(Aelodau Ty'r Cyffredin yn cwffio)

96

 

d14

PWY YDI DAFYDD DAFIS ? — (Will Morgan)

(Major Jones, Lloyd George, Syr Edward Reed, Mr. Rathbone)

104

 

d15

GORSEDD Y BEIRDD A'R ARCHDDERWYDDIAETH — (Ab Caledfryn)

(Prif Feirdd Cymru)

112

 

d16

PEDWAR MATH O AELOD CYMREIG — (F. C. Gould)

(Syr William Harcourt, Mr. Maclean, Mr. Alfred Thomas, Mr. D. A. Thomas)

120

 

d17

(PWY YDI PWY — (E. T. Reed)

(Syr Charles Dilke and Mr. McKenna)

128

 

d18

Y TRI BRAWD — (Ab Caledfryn)

(Mr. Gladstone, Mr. T. Gee, Mr. Carr)

136

 

d19

RHOSTIO'R AELODAU — (Dyer Davie)

(Claudia a'i chyfeillesau yn pluo a rhostio Aelodau Seneddol)

144

 

d20

Y MEISTR NEWYDD A'R HEN SGOLARS — ( Will Morgan)

(Alfred Thomas, Bryn Roberts, a D. A. Thomas)

160

 

d21

FFASIYNAU NEWYDD — (F. C. Gould)

(Salisbury a Chamberlain ag Etholiadau Cymru)

176

 

d22

NID MÔN YW'R LLEIAF — (E. T. Reed)

(Mr. Ellis Jones Griffith)

184

 

 

 

 

 

 

d23

TORIAETH GYMREIG — A FU, AR SYDD, AC A DDAW — (Dyer Davies)

(Aelodau Toriaidd Cymru)

192

 

d24

SWYDDFEYDD PRIF YSGOL GYMRU — (Ab Caledfryn)

(Prif Swyddogion Llys Prif Ysgol Cymru)

208

 

d25

BRWYDR CYNHADLEDD CAERDYDD — (Dyer Davies)

(Y prif bersonau yn y ddadl dros siarad Cymraeg)

224

 

d26

CONTRACTIO ALLAN — (E. T. Reed)

(Mri. Chamberlain, Maclean, a Jemmy Lowther)

240

 

d27

GWELEDIGAETH STREIC Y PENRHYN — (Arthur E. Elias)

(Argl. Penrhyn, Mr. Young, Mr. Carter, Mr. W. J. Williams, Mr. D. R. Daniel, Mr. Ritchie, a Dirprwyaeth Gweithwyr Bethesda)

256

 

d28

Y FANGL ESGOBOL — (Dyer Davies)

(Archesgob Caergaint, Esgob Llanelwy, Arglwydd Salisbury, Mri. T. Ellis; Humphreys Owen, a W. Lumley)

272

 

d29

CROESAW ADRE — (Ab Caledfryn)

 

(Talent merched Cymru'n croesawu Claudia a Dafydd)

288

 

d30

 GORCHWYL ANHAWDD — (E. T. Reed)

(Mr. Maclean a Syr William Hart-Dyke)

320

 

d31

ANERCH FFARWEL — (Ab Caledfryn)

(Awdwr, Arlunwyr, a Chyhoeddwr “Dafydd Dafis”)

336

 

______________________________________________________

 

 

 

 

 

(x1)

DAFYDD DAFIS.
PENNOD 1.
DECHREU’R HELYNT.
- Y wraig a minau - Eisio imi fynd yn A.S. - Dagrau a llawenydd - Y wraig yw pen y gw^r - Ysgrifenu at Tom Ellis

“David,” ebe’r wraig yn sydyn, “Ei want iw tw get intw ddi hows!”

(Bernais yn ddoeth, wrth olygu yr Adgofion hyn i’w cyhoeddi, i ddilyn orgraff wreiddiol Dafydd Dafis ei hun. Eithr ni fydd nemawr anhawsder i’r Cymro ddarllen Saesneg yr awdwr, gan fod Dafydd yn sillebu ei Saesneg yn Gymraeg ac nid yn. Saesneg. Darllener felly ei Saesneg fel petai Gymraeg, a daw’r sain yn gywir, a’r synwyr, wrth gwrs, yn canlyn.
- GOL. YR HUNANGOFIANT.)

Codais fy llygaid mewn syndod a phenbleth.

Gael i chwi gael deall, **’rwan, sut roedd pethau yn bod, mi roeddan ni’n dau, y wraig a minau, y prydnawn Llun Sulgwyn hwnw,

(Gwel y darllenydd oddiwrth gynwys penodau canlynol mai at ddigwyddiadau’r flwyddyn 1893, hyny yw ail dymor Seneddol Gweinyddiaeth olaf Mr. Gladstone, y cyfeiria Dafydd Dafis yn nechreu ei adgofion gwleidyddol, a dug hwynt i lawr hyd yr amser presenol (1898). – GOL.)

yn eistedd un bob tu i’r aelwyd fel byddan ni’n arfer a gwneud. **’Roedd Claudia’n pondro uwch ben rhywbeth **’roedd hi’n galw Mac Rami
arno fo, - er nas gwn i pwy ar wymad daear oedd yr hen greadur

 

 

(x2) DAFYDD DAFIS. hwnw chwaith, rhagor na mai Scotshman oedd o wrth ei enw. A thra **’roedd Claudia’n poeni, ei hun, hefo gwaith Mac Rami, mi roeddwn inau’n darllen Y Genedl, fel byddwn i’n arfer a gwneud yr adeg hono ar brydnawn os na fyddai’r Beibl, neu Draethodau Llenvddol Dr. Lewis Edwards genyf wrth law.

Fel **‘rydach chi’n gwybod, mae “busines llaeth” fel y byddwn ni’n ei alw fo **’rwan, neu “werthu llefrith,” fel yr arferwn ei alw ys talwm, wedi talu ei ffordd i lawar un yn Llundan yma, - ac mi rydw inau’n un o’r rheiny. Mi rof fy hanes i chwi ryw dro, ac mi ddalia i, nad yn aml y cewch chi well nofel na f’hanes i o’r dydd y deuthym i’r ddinas fawr yma, yn hogyn o’r wlad, heb geiniog goch yn fy mhocad, hyd **’rwan, pan y medrwn, tae fater am hyny, brynu holl stad y sgweiar yn Llanidris lle ces fy magu. Ond daw hyny yn ei dro cyn bydda i wedi gorphen ysgrifenu’r adgofion yma.

Ies, David, diar,” ebe’r wraig eilwaith, “Ei wont tw get iw intw ddi hows!”

“Be andros,” ebe fi wrthyf fy hun, “sy ar Claudia **‘rwan ?”
Mi rodd y peth yn fy mlino am ddau reswm; yn un peth, fydd Claudia byth yn fy ngalw i yn “David diar,” os na fydd hi am gael rhyw gais mwy na’r cyffredin gin i, - Mr. Davies fydd hi fel rheol gan Claudia; ac yn yr ail le, mi roeddem, fel y deidais i eisys, ein dau yn y ty^ ar y pryd.

“Hwot dw iw min **’y nghalon i?” meddwn. “Ei am in ddi hows now, mei diar!”

 Ei dw wish iw wd toc sensibli David,” ebe hithau, gan guro blaen ei throed ar y ffwtstwl sidan - arwydd sicr nad oedd hi yn meddwl cymeryd dim lol. “Now dw pwt ddat horid peper owt of iwar hand ffor a minit, and lisn.”

 



(x3) Hard leins ar Y Genedl oedd ei alw fo’n “horid peper”, hefyd, ond gan fod y droed yn parhau i guro, bernais mai doethach gwneyd, a chadd Y Genedl fynd o’r neilldu er mwyn Claudia, - fel y cafodd llawer peth gwell nag o lawer pryd.

 Now, David, hwot Ei min is Ei wont iw tw go intw ddi Hows of Comons.”

Wel, **’toedd dim o hyn yn gwella rhyw lawar ar bethau; mi rodd Ty^’r Cyffredin yn nghau, a’r aelodau gyd ffwrdd dros Wyliau’r Sulgwyn. Mentrais inau ddeyd hyny, a dyma’r droed yn curo yn nghynt o’r haner.

“How stiwpid iw can bi tw hi siwar!” medde hi. “Hwot Ei min is ddat iw myst gif yp bisnes and go intw ddi Hows.”

Wel, a deyd y gwir yn onast wrtha chi rwan, **‘toeddwn i ddim rhyw lawar iawn callach eto. Pa eisio rhoid y fusnes i fyny oedd er mynd am dro i Dy^’r Cyffredin? Er na **’toeddwn i wedi bod yno erioed, ran hyny, mi rown i’n gybyddus a Tom Ellis, ac mi rodd wedi deyd wrtha i y noson hono y buodd o’n gadeirydd y’n te parti ni hefo’r Ysgol Sul ar’s dwy flynedd yn ol, ebe fo:

“Mr. Dafis os bydd arnoch chi neu Mrs. Davies eisio rhyw dro weled Ty^ y Cyffredin, rhowch wybod, a mi ofala i am wneyd pob peth yn stre’t acw i chi. Rimembar Mrs. Davies, Ei shal hi at iwar syrfis at ôl teims.”

Felly, **’toedd dim trafferth i fod am gael mynd i mewn, a lol wirion oedd son am roid y fusnes i fyny, - er nad oedd Claudia ddim wedi godro buwch er’s deuddeng mlynedd, nac wedi bod yn edrych ar y dynion yn llanw’r tiniau er’s tros ddeg, a **’doeddwn ina ddim ond yn mynd am dro hwyr a bora er’s dwy neu dair blynedd bellach.

Dichon eich bod chi’n synu fod rhwfun fel Claudia wedi

 

 

(x4) bod yn trafod llaeth (ond amser tê) erioed, heb son am odro buchod. Mi rydw i wedi synu ganwaith f’hun, a phan ddeyda i’r stori i gyd wrtha chi, pa sut y daeth hi i’r fusnes llaeth, ac o ble doeth hi, fel y deyda i wrtha chi yn y man, mi synwch chitha fwy fyth. Mi fedra dyn dall weled mai nid yn myd y buchod y ganed Claudia - ond mi ddeyda i’r cwbwl wrtha chi yn y man.

‘“Tw pwt it plenli,” ebra hi, pan welodd na **’toeddwn i’n dallt yn iawn be oedd ganddi, “Ei wont iw tw get a sit in Parlament. Ei thinc iw haf as mytsh reit tw bi a Membar of Parlament as meni of ddos hw ar dder.”

Wel, mi
doris i allan i chwerthin dros y lle. Fedrwn i yn fy myw beidio. Mi roedd y syniad yn rhy chwerthinllyd i mi beidio. Fi, oedd wedi fy magu ar y fferm fynyddig Cwmyronen, yn Llanidris, yn meddwl am wneyd yr hyn oedd y sgweiar wedi methu gneyd, er iddo gynyg dair gwaith, a gwario’r byd o arian wrth geisio a methu; fi, oedd wedi d’od i Lundain heb geiniog tu cefn i mi chwarter canrif cynt, yn meddwl am fynd i’r Senedd gyda’r gwyr mawr, os gwelwch yn dda; fi, nad oeddwn yn gwybod dim Saesneg ond yr hyn oedd Claudia wedi ddysgu i mi; fi yn meddwl myned i’r fan lle **’roedd siaradwyr goreu’r deyrnas yn ymgynull! Mi roedd y syniad mor hynod, mor “owtrejys,” ys deydai Claudia, nes, fel y deydais, i mi chwerthin dros yr holl le. Fedrwn i yn fy myw beidio.

Ond mi fasa’n well imi beidio hefyd, fel gallaswn i fod yn gwybod yn reit dda petawn i wedi meddwl am hanar mynud be oeddwn i’n wneyd. Dichon, pytawn i heb chwerthin pan wneis i, na fasa dim llawar wedi dod o’r peth, ac y cawswn ina lonydd fel cynt i fwynhau fy hun adre yn nghwmni Claudia yn lle troi cefn ar aelwyd

 

 

(x5) dawel, a rhuthro, fel gwneis i, ar fy mhen i ganol dwndwr a ffwdan gwleidyddiaeth.

Eithr nid eiddo gw^r ei ffordd **’nenwedig os bydd o’n briod, a’i wraig yn fyw, a hono rywbeth tebyg i Claudia!

Nid cynt y daru mi chwerthin, na dyma Claudia yn cochi fel tân, a’i llygada’n fflachio fel dwy seren, ac yna’n perlio gan ddagrau, a’r hancas poced lês yn dod allan - ac, mewn gair, mi welis fy mod i wedi rhoid fy nhroed ynddi. A dyna fi fel ffwl gwirion at ei hymyl, ac yn taflu **’mraich am dani, fel yr arferwn wneyd er’s talwm byd bellach, ac yn deyd:

Fforgif mi, galon; iw no Ei didnt min it. Eil dw hwotefer iw leic, Claudia bach!”

Mi ellwch chi chwerthin am y mhen i, os leiciwch chi - fydda i ddim llawar gwaeth o hyny. Ond, fel na fedrwn i yn y myw beidio chwerthin pan soniodd Claudia am i mi fynd yn Em Pi, felly fedrwn i yn y myw beidio mynd ati a sychu ei dagrau pan weles y mod i wedi rhoid poen iddi wrth chwerthin.

A chyda mod i’n deyd dyma hithau yn codi’i phen, a gwelwn y dagrau wedi boddi’r tân, ond wedi gadael goleuni arall ar ei hol, goleuni oeddwn wedi weled ganwaith yn ei llygaid hi er’s tro byd; a dyma’r fraich wen am fy ngwddw, a’m pen yn cael ei dynu i lawr ati, a wel, ddeyda i ddim chwaneg.

Ond diwedd y stori ydi hyn. Mi foddlonis i gymeryd y mater i ystyriaeth, ac ymgynghori â Tom Ellis, ac edrych be welwn i ac a glywn i am y ffordd ora i fynd o’i chwmpas hi i gael A.S. ar ol fy enw.

Mi ddaru’n setlo i mi sgwenu at Tom Ellis am gael tocyn i weld y Ty^’n ddechreu’r wsnos wedyn, a threulio noswaith yn y Ty^ er gwelad sut rodd petha’n mynd yno, a chlwad popeth oedd i’w glwad am dro.

 



(x6) Pennod II. – Y GAREJ AND PÊR.
- Llythyr Tom Ellis
- Y lle lle gwneis i gamsyniad
- Ffordd Claudia
- A’i salwch
- Y Gwd Ffêri -
- Y ddreif gynta tu nol i’r ddau geffyl glâs

Wel, mi sgwenis i at Tom Ellis, ac mi ges atab yn ol yn deyd wrtha i am fod yn y lobi am bump o’r gloch ddydd Mawrth, ac y gofala fo am dana i wedyn. Mi roeddwn i’n synu braidd i fod o’n ceisio gin i aros yn y lobi - wrth gwrs lobi Ty^’r Cyffredin oedd o’n feddwl. Chymwn i ddim llawar am ddeyd wrth ddyn diarth chwaethach cyfaill am aros yn y lobi; mi fydd y forwyn yma bob amsar yn ceisio gan ddyn diarth i ddod i fiawn i’r hôl os nad i’r morning rwm pan fydd yn galw i ngwelad i. **’Toeddwn i rywsut ddim yn hidio rhw lawar fod Tom Ellis yn son am i mi aros yn y lobi.

“Be mae’r dyn yn feddwl ydw i, tybad?” ebra fi rhwng dau damad, wedi darllan y llythyr i mi f’ hun wrth y bwrdd amser brecwast.

Hwot is ddi matar, David?” gofynai Claudia. “Iwar corispondant sîms tw haf pwt iw owt.”

“Allwn feddwl hyny wir!” atebis ina. “Lwcus mai ata i ac nid atach di Claudia mae o wedi sgwenu.”

Byt hw is it ffrom, and hwot is it abowt ?

“Ond orwth Ellis mae o a – “

And cant he get iw a pas? Ddi eidia!”

 



(x7) “Ydi, ydi, mae'r pas yn ol reit deicyn i," atebis.

Wel, hwot in ddi nêm of gwdnes is ddi trybl?

“Wel, deyd mae o am i mi weitied iddo fo yn y lobi, fel taswn i ryw ffwtman iddo fo! Aed Ellis a'i Hows of Comons i'w grogi cyn rhosa i iddo fo yn y lobi!
Fasa fawr gyn i iddo gael lle imi yn y wêtingrwm gan nad sut. Lobi'n wir! Mi ro i lobi iddo fo!” a theflais ei lythyr ar y bwrdd.

Ar hyn dyma Claudia'n chwerthin allan.

“Oh David! David!” ebe hi, "iwf got a dîl tw lyrn! Eim affred Ei myst cym widd iw ddi ffyrst teim affter ôl!”

Ond **'toeddwn i ddim yn leicio hyn chwaith, ae mi fuo Claudia, fel y bydd hi, yn ddigon craff i weld hyny hefyd; a chan ofni y baswn i'n **'cau mynd wedi'r cwbl, mi eglurodd i mi mai "y lobi" y gelwid **'stafell fawr yn nghanol y Ty^, lle bydd byddigions yn aros i weitied am rai o'r aelodau, a deudodd sut y bu arni hi ryw dro y bu yno.

“Oh, olreit os felly mae hi, neu mi roeddwn i am ddeyd y drefn yn ofnatsan wrth Ellis os oedd o'n mynd i ngosod i yn y lobi fel rhyw dramp," ebe fi.

Felly mi yris bostcard at Ellis i ddeyd y baswn i hefo fo dydd Mawrth yn ol y trefniant. Ond mi gefis i cyn hyny brofi'n chwerw beth oedd cysylltiad â Thy^'r Cyffredin yn debyg o gostio imi.

Gyda mod i wedi postio'r atab at Tom Ellis dyma Claudia yn troi ata i ac yn deyd: -

"How dw iw propos going, David ?”

"Waeth gyn i," ebia finau. "Naill ai lawr trwy'r Green Park neu rhyd Piccadilly a
Trafalgar Square."

“No, no!” atebai Claudia. "Not ddi wê byt ddi manar.”

 



(x8) "Oh," meddwn ina, gan ddechra gweld be oedd gyny hi. "Waeth gyn i. Os bydd hi'n ddiwrnod braf, mi fedra i gerddad. Dichon dowch chi hefo mi trwy Green Park am dro. Neu os bydd hi'n dywydd mawr mi fydd bus yn pasio fforma ac mi a i yn hwnw."

Mi spiodd Claudia arna i'n wirion.

"Hwot dw iw mîn, David?" ebra hi. "Going down tw ddi Howsis of Parlament bei apointment tw mît a Membar of Hyr Majesti's Gyfyrment, and tecing a comon bus! Ei am syrpreisd at iw Ei myst se!"

A dyma hi'n taflu'r shwgartongs i ganol y ddysgl cig mocb, ac yn gosod y teblspwn yn y basn shwgwr.

Fydd Claudia byth yn anghofio'i hun felly os na fydd rhywbath fwy nag arfar wedi ei chynhyrfu, ac mi dybis inau mai gora po cynta oedd imi offrymu aberth dros bechod.

"Wel," ebra fi, "mae bus yn ddigon da i undyn, chwaethach i werthwr llaeth fel fi. Ond os yda chi'n barnu'n wahanol Claudia bach, a i ddim i gicio row yn i gylch o. Mi gyma i gab, neno dyn, os bydd hyny'n y'ch plesio chi'n well."

Mi gnodd ei gwefus, ond prun ai i beidio chwerthin ai i beidio deyd gair oedd ar flaen ei thafod, twn i ddim.

"Iwar coffi is cweit cold; let mi gif iw sym hot;" ebra hi gan maflyd yn y nghwpan i a tholltio beth oedd yno fo i'r slopbesn. "Jyst a litl bit mor bêcn David? Hiars a biwtiffwl litl bit," âc heb weitied imi ddeyd baswn i na baswn i ddim, dyma hi yn rhoid darn ar y mhlat i.

 **'Toeddwn i ddim yn hanar leicio byny chwaith — nid y bêcn ydw i'n feddwl, ond fod Claudia'n talu cymint o sylw i fan gysuron bywyd imi ar frecwast fel hyn. Mi wyddwn fod rhywbath i ganlyn roi y petha hyny. Gyda mod i'n

 

 

 (x9) dechra cael blas ar y coffi cynes a'r darn dewisol cig moch, dyma Claudia'n deyd:—

"Dont iw thinc, David, ddat ffor a man in iwar posishyn, iw ot tw dw ddis thing handsymli?"

"Be da chi'n feddwl?" ebra fi. "Os ydy well gyno chi mi gewch yru i nol preifat hansom imi, er y gwnai cab cyffredin yr un tro imi."

"Ies," atebai hithau, ond yn amheus felly. "Ond tybad **'rwan, David, na ddylasa chi fynd yn eich cerbyd eich hun?"

"Be da chi'n feddwl?" gofynis mewn syndod, gan rhoid y gyllell a'r fforc ar y plat. **'Toedd gyn i run cerbyd, welwch chi, ond y ceir llaeth, mi roedd gyn i gryn haner cant o'r rhei hyny. "Ond os yda chi Claudia am i mi wneud, mi rydw i'n ddigon bodlon o'm rhan fy hun —— "

Ond cyn imi fedru gorffan dyma hi'n taflu ei theblnapcin ar y bwrdd, ac yn rhuthro ata i a thaflu ei dwy fraich am y ngwddw i, ac yn deyd:

"Iw ar a diar old David afffer ôl! Ei was olmost affrêd tw syjest it, and hiar iw jymp at ddi proposal jyst tw plîs mi."

"Ie, ie," ebra finau, "ond ddylis i rioed basa peth felly'n eich plesio chi Claudia, chwaith. Tyda chi ddim bodlon imi wneud hyny yn ymyl y fferm chwaethach ar hyd Piccadilly."

“Gwneud peth, David,"ebra hitha gan spio'n wyllt yn fy llygid.

“Wel, gwneud rhyn yda chi'n geisio gyn i **'rwan i wneud, dreifio yn y car llaeth tua'r Hows of Cornons."

Oh! Gwd Hefns!" ebra hi, a dyma hi'n rhoid sgrech, ac oni bai imi ei dal hi mi fasa wedi syrthio yn wysg ei chefn i'r llawr.

 

 




(x10) Amball dro bydd Claudia'n cael y ffitia sterics yma. Welis i ddim o honi yn eu cael nhw ond dwy waith o'r blaen - un tro pan ruthrodd Sarah'r forwyn i fiawn ati i ddeyd mod i wedi cael fy lladd ar y stryd o flaen y ty^, pan **'toeddwn i ddim, ond ryw tshap arall, pwr ffelo, oedd wedi syrthio o dan y wagen; a'r tro arall pan oedd hi wedi gwanio'n fawr ar ol hir salwch ac y digwyddodd i ryw beth tu hwnt i’r cyffredin ei siomi hi'n arw. Mi fuodd am dridiau'r tro dweutha hyny yn sal ofnatsan, a'r doctor yn dod yno deirgwaith bob dydd, a phan holis i o am y peth, a sut roedd hi'n dod mlaen, mi ddeydodd:-

Owar peshent ricweiars feri cerffwl trîtment, feri cerffwl trîtment. Shi posesis a heili stryng temperament, feri heili stryng, indid."

A mi dybis i wrth hyny ei bod hi mewn cyflwr reit beryglus. Mi gefis ofn yn fy nghalon ei bod hi'n mynd i gael un o'r ffitia rheiny'r tro yma. Ond wedi imi ei chario hi at y soffa, a'i rhoid hi ar wastad ei chefn fan hono, a meddwl rhedeg i ganu'r gloch am help, mi roedd ei llaw hi'n dal am fy ngwddw, a dyma hi'n agor i llygid ac yn deyd gydag ochenaid

"Sê it wos a jôc, David diar !”

Wel ie’n tad, jôc oedd o, be arall?" ebra fina, er mod i'n reit ddifrifol yn y peth y deydis i hefyd. Mi fasa cyn gystlad gyn i ddreifio i lawr at yr Hows of Comons mewn car llaeth ag mewn cab o ran hyny.

"Byt i'w shwdnt, David! Iw gef mi sytsh a shoc."

" **'Toeddwn i ddim yn styried basa ti’n i gymyd o felly, Claudia bach," ebra finau, gan roid cusan ar ei thalcen gwyn llydan hi. "Wna i ddim eto."

Dys ddat miu ddat Ei am tw sî abowt it meiselff ?” gofynai, gan wenu fel angyles arna i.

 

 

 

(x11)

Ie, ie, wrth gwrs hyny,” ebra finau, er na wyddwn i
ar wynab daear be oedd hyny chwaith.


ºº “And Ei no ddi feri thing tw siwt iw,” meddai hithau.
Wil iw cym ffor a dreif ddis affternwn.”

ºº “Do i, os gofalwch chi fod cerbyd yn barod,” atebis ina.

ºº “Of cors it wil hi redi,” ebra hitha. “Hafnt iw told mi tw sî abowt it? Shal wi sé thri ocloc?”

ººAc am dri o’r gloch dyma Claudia i fewn i fy ystafell
wedi gwusgo’r peth delia welsoch chi rioed.

ºº “Hwot dw iw thinc of mei dreifing costiwm?”

ºº”Hyn,” meddwn i gan maflyd yny hi a rhoid clamp o
gusan mawr iddi.

ºº “Dont, iw ffwlis boi!“ llefai hi. “Iwl spoil mei dres! Byt rili now dw iw thinc it bicyms mi?“ a dyma hi’n troi
o gwmpas gael imi gael golwg lawn arni hi.

ºº “Piti na fasa gyn i garej i dy siwtio di, Claudia bach;” ebra fina. “Toes yr un ledi yn Llundain fasa’n edrych yn
well mewn carej ffyrst clas **‘rwan na’ch di.”

ºº “Ffalsio yda chi **‘rwan, David, rwyn siwr o hyny,” ebe
hitha, gan spio fyny ata i o dan ei hamrantau duon
mawrion.

ºº “Naci’n reit siwr ichi, mi rydw i’n deyd calon y gwir.
Be leiciwn i fasa broam ffyrst clas, **‘rwan, a dau geffyl glas
mawr yno fo, a chitha’n dreifio trwy’r parc heddyw’r prynawn yno fo tu nol iddyn nhw.”

ºº “Dw iw mîn it rili?” ebra hitha, gan droi i spio’n fy
llygid i. “Dden cym and sî hwot iwar gwd ffêri has dun
tw mît iwar wishis
!” A chan fachu’i llaw yn y mraich i
arweiniodd fi lawr i’r grisia, ac allan drwy’r ffrynt. “Ddêr!
Hwot dw iw thinc of ddat
!”


Ac fel rwy yn y fan yma, dyna lle roedd o flaen y  ty^ y

 

 

 



Tudalennau i’w gwneud: 14 – 336

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

º

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Enw’r parth: kimkat

Adolygiadau diweddaraf:  2002-09-15, 2005-09-03
·····

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA




Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats