1582k
Gwefan Cymru-Catalonia. Clywais
ef yn dweyd wrth Thomas Hughes mai hen iaith vulgar oedd yr iaith
Gymraeg, ac nad oedd yn ffit i'w harfer mewn genteel society, a'i fod yn
penderfynu na byddai iddo degradio ei hun trwy ei dysgu.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_058_llyfr_dadleuon_1_1582k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
LLYFR DADLEUON. Wrecsam. Argraffwyd gan Hughes a’i Fab. |
(delw 6514)
Ein sylwadau mewn teip oren.
Tudalennau gwreiddiol y llÿfr
fellÿ: x89 (â llythyren x o flaen y
rhif)
AR Y GWEILL
GENNYM.
TUDALENNAU x21-x128 HEB EU GWNEUD ETO
MYNEGAI
·····
(=1)
Prawf Dic Shon Dafydd
(I naw o fechgyn, a deuddeg o reithwyr)
(x7)
·····
(=2) Pethau Bychain
(I ddwy ferch) (x17)
·····
(=3) Y Ceffyl, y Drol, a’r Baril
(I dri) (x21)
·····
(=4) Y Neidr yn y Nyth
(I bedwar) (x26)
·····
(=5) Pwy yw y Gŵr Boneddig? (I ddyn ieuangc a brawd a chwaer) (x30)
·····
(=6) Had Da yr Efengyl
(I bedwar meibion neu ferched) (x33)
·····
(=7) Heddwch a Rhyfel
(I dri o fechgyn) (x40)
·····
(=8) Y Creadur Symudliw
(I ddau - meibion neu ferched) (x45)
·····
(=9) Sgweiar y Berw
(I'w adrodd gan un) (x49)
·····
(=10) Y Clarc Gonest (I ddau) (x52)
·····
(=11) Rhannu’r Deisen (I ddwy ferch ac un bachgen) (x54)
·····
(=12) Balchder a Gaiff
Gwymp (I dri o fechgyn a dwy ferch) (x57)
·····
(=13) Y Môr a'r Afonig
(I ddau) (x69)
·····
(=14) Gofalu am
"Number One” (I ddau
fachgen) (x72)
·····
(=15) Y Ddwy fam
(I bedwar o bersonau) (x75)
·····
(=16) Efa Dafydd
(Adroddiad i un) (x80)
·····
(=17) Drws Trugaredd
(I ddau} (x83)
·····
(=18) Y Bugail Da
(I ddau fachgen) (x86)
·····
(=19) Y Ddinas Brydferth
(I dair o ferched) (x92)
·····
(=20) Llawen a Phrudd
(I dair o ferched) (x96)
·····
(=21) Ffydd, Gobaith, a Chariad (I dair o ferched, a phump o gymmeriadau ereill) (x100)
·····
(=22) y Berth yn Llosgi
(I dri) (x104)
·····
(=23) Athrawon ac
Ysoleigion
(I fab a merch) (x112)
·····
(=24) Y Gwrthryfelwr Carcharedig
(I dair o ferched) (x116)
·····
(=25) Beth yw Bywyd?
(I un) (x119)
·····
(=26) Iawn Ymddygiad yn
Moddion Gras (I
ddwy ferch neu ddau fab) (x126)
·····
(=27) Y
ffordd i Wneud Cyfeillion
(I’w adrodd gan athrawes ac un o’i hysgoleigion) (x124)
·····
(=28) Y Beibl
(I’w adrodd gan fachgen neu eneth) (x126)
·····
(=29) Y Byd yr ydym yn byw ynddo
(I’w adrodd gan un – mab neu ferch)
(x127)
xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx
(x6)
AT Y DARLLENYDD.
Y mae y llyfryn hwn yn ymgais i gyflenwi y diffyg cynyddol a
deimlir gan y rhai yr ymddiriedir y gwaith o chwilio am ddefnyddiau gogyfer a
Chyfarfodydd Llenyddol, Ysgolion, a Dirwestol. Gobeithir y ceir y Dadleuon,
Cydymddiddanion, a'r Adroddiadau, ag sydd wedi eu parotoi yn neillduol gogyfer
a'r gwaith hwn, yn hawdd, dyddorol, a buddiol i'r darllenwyr a'r gwrandawyr.
Y CYHOEDDWYR.
Am gyfarwyddiadau
i Ddarllen, Adrodd, a Siarad yn Gyhoedddus, gwel
“COLEG Y
DARLLENYDD,” l/-
“GRAMADEG
ARAETHYDDIAETH.” 1/-
(x7)
LLYFR DADLEUON.
_________________________________________________
(=1) Prawf Dic Shon Dafydd.
_________________________________________________
Y CYMERIADAU A GYNRYCHIOLIR.
DIC SHON DAFYDD: y Carcharor,
BARWN DEDDFOL: y Barnwr.
MR. LLYGADGRAFF: Dadleuwr dros yr Erlyniad.
MR. TAFODRYDD: Dadleuwr dros y Carcharor.
DEUDDEG O REITHWYR.
TYSTION
MR. JONES, Athraw yn yr Ysgol Sul.
MR. THOMAS HUGHES
MR. WILLIAMS,
Llundain
MR. THOMAS,
Argraffydd a Llyfrwerthydd
DAFYDD, tad y
Carcharor:
Cynllun o'r Llys.
R
H
E
I
T
H
W
Y
R
BARNWR
T
Y
S
T
I
O
N
DADLEUWYR
CARCHAROR
Barnwr. - Garcharor! cyhuddir chwi o
flaen y llys hwn o fod yn anwybodus o iaith eich mam - yr hen Gymraeg wen - ac
o esgeuluso a diystyru y cyfryngau a ddarparwyd ar eich cyfer i gyraedd
gwybodaeth o honi. Pa beth a ddywedwch : Euog a'i Dieuog?
Carcharor. - Is me dont understand Welsh.
Barnwr. - Gallwn feddwl nad yw y carcharor yn deall Cymraeg na Seisonig, na
moesau da ychwaith. Are you guilty or not guilty?
Carcharor. - Is me no guilty me
lard.
(x8)
Llygadgraff. - Fy Arglwydd a boneddigion y Rheithwyr, yr ydwyf wedi fy
nghyfarwyddo i erlyn y carcharor sydd o'ch blaen am wadu a diystyru iaith ei
fam - iaith ag y dylasai fel Cymro ei dysgu, yn ol y Weithrod Seneddol a basiwyd
yn senedd Llais y Wlad. Yn ol yr act hon, gosodir rhwymau ar bob
Cymro i ddysgu iaith ei wlad ei hun yn flaenaf oll, ac wedi hyny i ymgydnabyddu
a'r Saesoneg neu unrhyw iaith arall a fyno. Mae y carcharor wedi cyraedd yr
oedran o ugain mlwydd oed, ac y mae heb gydsynio a gofynion y ddeddf. Gallaf
dangos i chwi trwy dystion credadwy, fod pob moddion wedi eu harfer i geisio
cael gan y carcharor i gyflawni ei ddyledswydd, ond ei fod wedi esgeuluso yr
oll. A bydd i'r tystion hyn eich hysbysu fod y carcharor, nid yn unig wedi
gwrthod cydsynio â'r ddeddf, ond ei fod bob cyfle a gaffo yn taflu diystyrwch
ar yr hen Omeraeg ogoneddus, ac yn siarad yn erbyn y gyfraith. Os bydd i mi
brofi fy achos, foneddigion, fel yr wyf yn teimlo yn sicr y gwnaf, er eich
boddlonrwydd, yr wyf yn galw arnoch i roddi y fath ddeddfryd ag a orfoda y
carcharor i dalu manwl sylw i'r gyfraith, neu i gael ei alltudio o'r wlad hyd
nes yr edifarhao am ei bechod.
Tafodrydd. - Fy Arglwydd, yr wyf yn synu fod y fath achos wedi ei ddwyn o
flaen y llys o gwbl. Yn ol fy marn i, y mae yn gywilydd fod y fath gyfraith
anghyfiawn yn cael aros ar ddeddflyfrau ein gwlad. Mae fy ngwaed yn berwi wrth
feddwl fod rhyw fodau dallbleidiol a hunanol wedi cymeryd mantais ar hen ddeddf
o'r fath i lusgo y carcharor o flaen y llys. Byddai yn fendith i'r byd pe
buasai y fath gyfraith, a’r iaith Gymraeg i'w chanlyn, wedi eu hysgubo gyda'u
gilydd i - .
Barnwr. - Mr. Tafodrydd, y mae yn rhaid i mi eich atal. Yr ydym yma, nid
i newid y gyfraith, ond i'w gweinyddu; felly, os ydych am anerch y llys hwn,
rhaid i chwi siarad ar yr achos sydd o'i flaen.
Tafodrydd. - Os diangodd rhyw ymadroddion dros fy ngwefusau ag a
anghymeradwyir genych chwi, fy Arglwydd, yr wyf yn gofyn eich pardwn. Pe cawswn
lonydd i fyn'd yn mlaen yr oeddwn yn meddwl dod at y gyfraith ei hun, a gwnaf
hyny yn awr. Yr hyn a ofyna y gyfraith yw fod pob person o fewn y Dywysogaeth
yn cael cyfleusderau i ddysgu yr iaith; ond os dewisant beidio
(x9)
gwneyd defnydd o honynt, iddynt hwy y bydd y golled, a rhaid iddynt ddyoddef y
canlyniadau. Felly, yr wyf yn dadleu nad oes gan y llys hwn hawl i gospi y
carcharor. Llygadgraff. - Yr wyf yn synu clywed y fath sylwadau gan
ddadleuydd dysgedig yr ochr arall. Ni ddywedaf ei fod yn anwybodus o'r
gyfraith; ond mi a ddywedaf na thalodd sylw manwl i'r gyfraith, neu ni buasai
yn codi y fath wrthddadl. Yr wyf yn penderfynu myn'd yn mlaen a'r achos; ac os
dewisa Mr. Tafodrydd gall ei godi wedy'n i lys uwch.
Barnwr. - Wrth gwrs, rhaid i'r achos fyn'd yn ei flaen.
Llygadgraff. - Af yn mlaen yn awr i alw fy nhystion. Mr. Jones!
(Mr. Jones yn
dyfod yn mlaen}.
Yn awr Mr. Jones
edrychwch ar y carcharor. Oni fu ef yn eich dosbarth yn yr Ysgol Sul?
Jones. - Do.
Llygadgraff. - Faint a ddysgodd pan dan eich gofal?
Jones. - Dim.
Llygadgraff. - A ddarfu i chwi arfer pob moddion i gael ganddo ddysgu?
Jones. - Do; cafodd bob mantais, ond yr oedd fel yn diystyru y cwbl.
Llygadgraff. - Pa beth a feddyliwch wrth ddweyd ei fod yn diystyru y
cwbl. Eglurwch y mater i'r llys.
Jones. - Clywais ef yn dweyd wrth Thomas Hughes mai hen iaith vulgar
oedd yr iaith Gymraeg, ac nad oedd yn ffit i'w harfer mewn genteel society,
a'i fod yn penderfynu na byddai iddo degradio ei hun trwy ei dysgu.
Barnwr. - A yw Thomas Hughes yn y llys?
Llygadgraff. - Ydyw, fy
Arglwydd.
Barnwr. - Gelwch arno i
sefyll i fynu.
Llygadgraff. - Eisteddwch i lawr Mr. Jones, er mwyn i'r llys gael clywed
tystiolaeth Thomas Hughes.
(Thomas Hughes yn
sefyll i fynu}.
Llygadgraff. - A ydych chwi, Thomas Hughes, yn adnabod y carcharor?
Hughes. - Ydwyf.
(x10)
Llygadgraff. - A fuoch chwi yn siarad â'r carcharor.
Hughes. - Yr oeddem yn gyfeillion mawr â'n gilydd. Yr oedd ef a -.
Llygadgraff. - Na hidiwch am eich cyfeillgarwch ag ef.
Atebwch fy ngwestiwn. A fuoch chwi yn siarad â'r carcharor?
Hughes. - Do lawer gwaith.
Llygadgraff. - Beth oedd testun cyffredin eich ymddiddanion.
Hughes. - Y pwys o fod pob Cymro yn meddu gwybodaeth o iaith ei wlad ei
hun.
Llygadgraff. - A wnaeth y carcharor ddefnydd o'r ymadroddion y cyfeiriwyd
atynt gan y tyst Mr. Jones?
Hughes. - Do lawer
gwaith.
Tafodrydd. - Caniatewch i mi i groesholi y tyst hwn. Cofiwch eich bod ar
eich llw. A ydych yn cofio fod y carcharor wedi gwneyd defnydd o'r ymadraddion vulgar,
ac felly yn y blaen am yr iaith Gymraeg.
Hughes. - Ydwyf lawer gwaith.
Tafodrydd. - Ond a ydych yn cofio am rhyw dro neillduol.
Hughes. - Ydwyf.
Tafodrydd. - Pa bryd.
Hughes. - Wrth
ddychwelyd o Ffair Awst ddiweddaf.
Tafodrydd. - Wrth ddychwelyd o'r ffair ai ê? Efallai eich bod wedi yfed
gormod y pryd hyny, ac felly yn agored i wneyd camgymeriadau. Yr ydwyf yn gofyn
i chwi a oeddech yn sobr y pryd hyny?
Hughes. - Yr oeddwn mor sobr a judge.
(Chwerthin yn y
llys, yn yr hwn, yr ymunodd y Barnwr}.
Tafodrydd. - Rhaid i chwi beidio cellwair a'r llys. Adroddwch yr ymddiddan
fu rhyngoch ar y ffordd o'r ffair, a chofiwch eich bod i ddweyd y gwir - yr
holl wir - a dim ond y gwir.
Hughes. - Pan yr oedd
Dic y carcharor, a Jack Parry a minau yn dychwelyd adref, fe drodd y siarad at
yr iaith Gymraeg. Yr oedd Jack a minau yn barnu y dylai pob
(x11)
Cymro ddysgu y ddwy iaith - Cymraeg a Seisoneg. Fod Cymro heb fedru Oymraeg yn
wrthddrych dirmyg a gwawd, a bod Cymro heb fedru Seisonig o dan anfantais fawr;
ond fod meddu gwybodaeth o'r ddwy yn ei gyfaddasu i lenwi unrhyw swydd yn
anrhydeddus mewn unrhyw ran o'r deyrnas. Ar hyny aeth y carcharor i dymer
ddrwg, a dechreuodd ddywedyd mai hen iaith vulgar ac isel oedd y
Gymraeg, ac nad oedd yn cael ei harfer mewn genteel society, ac fod pwy
bynag a'i dysgai yn degradio ei hun, a therfynodd trwy ddweyd nad oedd young
ladies nice byth yn siarad Cymraeg, am fod hyny yn rhwystr iddynt i siarad
Saesonig yn correct.
Tafodrydd. - Gellwch eistedd i lawr. A yw Jack Parry yn y llys. Hoffwn gael
ei holi o berthynas i gywirdeb tystiolaeth y tyst diweddaf.
Llygadgraff. - Nid yw ef yma.
Barnwr. - Dylasai fod yn bresenol ar bob cyfrif. A oes genych ryw reswm i'w
roddi dros ei absenoldeb?
Llygadgraff. - Oes, fy arglwydd, y mae genyf ddeg ar hugain o resymau
dros ei absenoldeb. Yn gyntaf oll, y mae wedi marw, yn ail --.
Barnwr. – Stop - dyna ddigon - ewch yn mlaen.
Tafodrydd. - (Wrth y Rheithwyr). - Yr ydych yn gweled
foneddigion, fod y carcharor yn ddyn o feddwl anibynol - yn barnu drosto ei hun
- ac uwchlaw cymeryd ei arwain gan rhyw benboethiaid ynfyd. Heblaw hyny fe'm
cyfarwyddir i sylfaenu fy nadl dros ryddhad y carcharor ar y ffaith fod dysgu
yr iaith Gymraeg yn rhwystr i ddysgu Seisoneg, ac yn atalfa ar ffordd
llwyddiant pobl ieuaingc.
Barnwr. - Mae'n debyg fod genych dystion i'w dwyn yn mlaen i brofi yr
haeriad yna.
Tafodrydd. - Nag
oes, fy arglwydd, ond --.
Barnwr. - Ni wna haeriadau y tro. Rhaid cael tystiolaeth tystion credadwy o
bob gosodiad a ddygir o flaen y llys hwn. Rhaid i mi alw ar
yr erlynydd i fyn'd yn mlaen i holi ei dystion.
Llygadgraff. - Yr wyf yn synu fod y dadleuydd dysgedig wedi ceisio dallu
y Rheithwyr trwy ei haeriadau noeth, heb fod ganddo rith o brawf drostynt. Ond
y mae genyf
(x12)
dystion credadwy, y rhai a alwaf ger eich bron, a siomir fi yn fawr os na
fyddi'w tystiolaethau chwalu y fath haeriadau gyda phedwar gwynt y nefoedd. A
wnaiff Mr. Williams, Llundain, sefyll i fynu.
(Mr. Williams yn
dyfod yn mlaen).
Yn awr Mr. Williams,
yn mha le yr ydych yn byw?
Williams. - Yn Llundain.
Llygadgraff. - Er's pa faint o amser yr ydych yn byw yno?
Williams. - Er's dros ugain mlynodd.
Llygadgraff. - Pa beth ydych
yn wneyd yno?
Williams. - Cadw siop.
Llygadgraff. - A fedrwch chwi siarad Cymreig.
Williams. - Medraf yn
gampus.
Llygadgraff. - Ai yn Gymraeg yr ydych yn cario eich masnach yn mlaen?
Williams. - Nag ê, ond yn Saesoneg.
Llygadgraff. - Oni yn y Gymraeg yn rhwystr i chwi i gael gwybodaeth o'r
iaith Seisonig.
Williams. - Naddo, ond yn hytrach fel arall.
Llygadgraff. - Beth feddyliwch chwi wrth arfer y geiriau "yn
hytrach fel arall”?
Williams. - Fod gwybodaeth
o'r Gymraeg yn gynorthwy i allu acenu yr iaith Seisoneg yn gywir. Gall Cymro fo
wedi dysgu iaith ei fam yn dda, siarad Seisonig yn gywirach na'r un cockney a
lyngcodd laeth erioed.
Llygadgraff. - Ond onid oedd perygl i chwi anghofio yr iaith Gymraeg
wrth droi am gynifer o flynyddoedd yn mhlith y Saeson?
Williams. - Perygl! dim o'r fath beth. Yr wyf yn adnabod ugeiniau o
Gymru yn Llundain yn llenwi sefyllfaoedd parchus mewn sefydliadau Seisonig -
rhai o honynt yno o fy mlaen i - ond y mae eu Cymraeg yn para mor bur a dilwgr
ag erioed.
Llygadgraff. - A yw pob Cymro sydd yn dyfod i Llundain yn gallu cadw ei
Gymraeg.
Williams. - Fe all pob un. Ond rhaid i mi gyfaddef
(x13)
fod ambell i fachgen a geneth o Gymru yn colli eu Cymraeg cyn dysgu Seisoneg.
Ond trwy drugaredd eithriadau yw y fath Ffops mursenaidd.
Llygadgraff. - Gellwch eistedd i lawr. A wnaiff Mr. Thomas ddyfod yn
mlaen.
(Mr. Thomas yn
dyfod yn mlaen}.
Pa fasnach ydych
yn gario yn mlaen?
Thomas. - Argraffu a gwerthu llyfrau.
Llygadgraff. - A fu y carcharor yn eich gwasanaeth?
Thomas. - Do; ond methais wneyd dim o hono.
Llygadgraff. - Mae'n debyg eich bod yn gwybod am dano cyn ei gymeryd
i'ch gwasanaeth?
Thomas. - Yr oeddwn yn ei adnabod yn dda. Ond cymerais ef o barch i'w
dad, yr hwn a feddyliai y buasai y fasnach a gariaf yn mlaen yn ei dynu i
ddysgu y ddwy iaith.
Llygadgraff. - A wnaeth y carcharor unrhyw gynydd tra gyda chwi.
Thomas. - Fe wnaeth gynydd mawr mewn dwlni, ond nid mewn dim arall. Yr oedd o hyd yn gwerthu y naill lyfr yn
lle y llall. Os gofynai cwsmer am Ganiadau Mynyddog, yr oedd yn sicr o
estyn iddo y Llythyr Ysgrifydd neu Daith y Pererin. Ac os anfonwn
ef allan gyda parcel, nis gallasai ddarllen enw y lle os byddai ch neu ll
yn y gair.
Llygadgraff. - A oedd yn gallu darllen Seisonig?
Thomas. - Ychydig iawn; ddim haner cystal a'r bachgen ddaeth yn ei le,
yr hwn sydd yn gyfarwydd a'r ddwy iaith, ac yn dod yn mlaen yn rhagorol.
Llygadgraff. - Felly, anfonasoch ef ymaith gyda brys.
Thomas. - Do; oblegid nid
oedd yn werth dim i mi.
Tafodrydd (wrth y Tyst). - Yn awr
edrychwch arnaf fi, a rhoddwch atebion uniongyrchol i'm cwestiynau. Yr oeddych yn barnu y gwnelai y carcharor
y tro i chwi?
Thomas. - Nag oeddwn.
Tafodrydd. - Paham y
cymerasoch ef ynte?
Thomas. - Yr wyf yn barod wedi dweyd y rheswm paham.
Tafodrydd. - Rhaid i chwi ei ddweyd eto ynte. Peidiwch a meddwl y cewch
ddiangc o'm gafael.
(x14)
Thomas. - Gwn fod genych dafod rhydd iawn a garw iawn.
(Llygadgraff
yn chwerthin).
Tafodrydd. - Dowch, yr wyf yn gofyn eto, paham y cymerasoch y carcharor
i'ch gwasanaeth?
Thomas. - I foddhau ei dad.
Tafodrydd. - Dowch, yn awr, oni ddarfu i chwi ei gymeryd am fod ei dad yn
ei gynyg i chwi heb ddim cyflog, ac yn foddlon rhoddi arian i chwi os gallech
wneyd rhywbeth o hono?
Thomas. - Yr wyf yn gwadu hyny yn bendant.
Tafodrydd. - Pa beth ydych yn feddwl wrthwadu hyny yn bendant.
Thomas. – ’Rwyf yn meddwl yr hyn a ddywedais.
Tafodrydd. - Dowch, os bydd i chwi gellwair â mi yn y ffordd yna, bydd i mi
ofyn am i chwi gael eich traddodi am ddiystyru y llys.
Llygadraff. – (wrth y Barnwr}. - Yr wyf yn apelio at eich urddas, ac yn
gofyn a yw fy nhystion i gael eu bwlio yn y dull hwn?
Tafodrydd. – (wrth Llygadgraff). - Nid wyf yn bwlio, Syr; yr wyf yn
taflu y fath sen yn ol gyda gwawd a dirmyg! Peidiwch a meddwl y gellwch atal fy
nhafod.
Barnwr. - Dowch, foneddigion, os aiff pethau yn mlaen fel hyn
rhaid i mi atal yr achos. Ewch yn mlaen a'ch gwaith o groesholi.
Tafodrydd. - (wrth y Tyst). - Eisteddwch i lawr, Mr. Thomas. Os byth y
deuwch o fewn cyraedd fy nhafod eto, gwae chwi! (Chwerthin.)
Barnwr. - Distawrwydd!
Tafodrydd. – (wrth
y Rheithwyr}. - Yr ydych yn gweled, Foneddigion, y fath achos dibwys yw hwn
a ddygwyd ger eich bron. Yr wyf yn ystyried mai gwastraff ar amser ydyw, ac yr
wyf yn sicr y byddwch yn gwasanaethu eich gwlad trwy ddychwelyd rheithfarn o
ddieuog ar unwaith. Pa fodd bynag, gan eich bod yn edrych fel mewn petrusder,
bydd cystal i mi ddwyn yn mlaen yr unig dyst sydd genyf, sef tad y carcharor.
Dafydd dowch yn mlaen!
(Dafydd yn dyfod yn mlaen)
Yn awr, Dafydd,
hwn yw eich mab onid e?
(x15)
Dafydd. - Wel, fy arglw'dd - .
Tafodrydd. - Na hidiwch am fy lordio i. Ai eich. mab yw y carcharor?
Dafydd. - Ie, Syr, dyna
fel ma nhw yn deyd. Onid ydach chi yn i wel'd o'n debyg i mi?
Tafodrydd. - O
ydi, yr un ffunud. Mae'n debyg eich bod yn falch o hono?
Dafydd. -
Wel, 'roeddwn i yn falch o hono unwaith; ond ma fo wedi cymryd rhwbath yn i ben
yn erbyn y Gymrag, a byth er hyny rydw i yn methu yn glir a gneyd dim o hono.
Tafodrydd. - A gafodd ef bob chwareu teg genych.
Dafydd. - Do yn wir, fy ar- Syr. Mae'r plant erill yn medru Oymrag a
Sasnag, ond y mae Dic, sef y carcharor, heb fedru na Chymrag na Sasnag. Wn i
ddim beth ddaw o hono yn wir.
Tafodrydd. - A ydych yn meddwl fod ei alluoedd meddyliol yn gyflawn.
Dafydd. - Be ydi hyny, Syr. Tydw i ddim wedi'ch deall yn iawn.
Tafodrydd. - A ydych yn meddwl fod rhyw analluedd yn ei ddadblygiad
meddyliol?
Dafydd. - Tydw i ddim yn ych dyall chi yn wir. Ches i fawr o ysgol
wyddoch chi. Fasa'n dda gin i taech chi yn siarad yn blaenach.
Tafodrydd. - Wel, gofynaf y cwestiwn mewn ffordd arall. A ydych yn meddwl
ei fod ef yn llawn llathen.
Dafydd. - Dyna chi 'nawr. Rydw yn ych dyall chi i'r dim. Wel, rydw i yn
meddwl fod o'n un-owns-ar-bymtheg, ond i fod o wedi gwrando ar rhyw fachgen dwl
fu'n Lerpwl am dri mis, ac a ddaeth adref yn llawn at i ddau ymyl o wynt, ac yn
cymryd
Llygadgraff. - Yr wyf yn sicr y gwnant ymddwyn yn dyner tuag atoch
Dafydd. Gellwch eistedd i lawr.
(Dafydd yn eistedd
i lawr}.
Y awr,
foneddigion, yr ydych
(x16)
wedi clywed yr achos o'ch blaen, ac anmhosibl cael achos mwy eglur. Yr wyf yn
galw arnoch, er mwyn gogoniant eich gwlad ac anrhydedd eich cenedl, i wneyd
eich dyledswydd yn ol deddfau cyfiawn Cymru Wen.
Barnwr. - Garcharor, a oes genych rhywbeth i'w ddweyd wrth y rheithwyr?
Carcharor. - Fy arglwydd a boneddigion. Yr wyf wedi gweled fy ffolineb,
a drwg genyf am yr hyn a wnaethum; ac os maddeuwch i mi, yr wyf yn addaw
diwygio o'r foment hon allan.
Barnwr. - Foneddigion y rheithwyr, yr ydych wedi clywed y tystiolaethau
a ddygwyd o'ch blaen yn yr achos hwn - tystiolaeth o'r fath fwyaf clir a
diamwys. Nid wyf, er pan yn eistedd ar y faingc anrhydeddus hon, wedi cael
achos mwy clir o'm blaen. Rhaid i chwi beidio goddef i'ch teimladau i orbwyso
eich syniad o gyfiawnder. Gwir fod mam y carcharor mewn trallod; ond rhaid
ufuddhau i ddeddfau y wlad; ac ni ddylid dwyn unrhyw deimlad personol rhwng y
carcharor a chyfiawnder. Os bydd i'r carcharor gael ei ollwng yn rhydd bydd
iddo fod yn hollol ddiwerth iddo ei hun - i'w deulu - ac i'w wlad. Dyledswydd -
ie, a braint - pob Cymro yw deall iaith ei wlad ei hun yn ogystal a'r iaith
Seisoneg, ac y mae esgeuluso hyny yn drosedd amlwg o ddeddf natur yn ogystal a
deddf y wlad. Mae y mater o'ch blaen foneddigion; ac nid oes ond i chwi yn awr
i ymneillduo i ystyried eich dedfryd.
[Rheithwyr yn myn'd o'r neilldu am funud].
Barnwr. - Yn awr, foneddigion, a ydych yn cael y carcharor yn euog ynte
dieuog?
Un o'r rheithwyr. - Euog, fy arglwydd; ond yr ydym yn ei gyflwyno i
drugaredd, ac yn gobeithio y caniateir iddo fod ar brawf eto am un flwyddyn.
Barnwr. - Foneddigion, telir sylw i'r hyn a ddywedasoch
(Wrth y Garcharor).
Garcharor, yr
ydych wedi eich cael yn euog o'r cyhuddiad pwysig a ddygwyd yn eich erbyn; a
dylech ddiolch i'r boneddigion hyn nad yw y ddedfryd yn cael ei chyhoeddi ar
unwaith. Rhaid eich rhwymo i ddod yma mewn deuddeg mis; ac os na fyddwch y pryd
hyny wedi dysgu iaith eich gwlad; ac wedi cael gwared o'r lediaith ffol yna,
bydd i chwi gael eich anfon allan i'r byd a cherdyn ar eich cefn, yn nod estyn
(x17)
bys a gwawd pob dyn call. Gollyngir chwi yn rhydd yn awr; a gobeithio y gwnewch
y defnydd goreu o'r amser sydd wedi ei estyn i chwi.
Carcharor. - Diolch i chwi, fy arglwydd,
Barnwr. - Gohirir y llys yn awr.
__________________________________
(=2)
Pethau Bychain.
Ymddiddan, rhwng Maria a Sarah.
__________________________________
Maria. - Fy anwyl Sarah, yr wyf yn gobeithio yr esgusodwch fi, ond yr
wyf yn teimlo tuedd i'ch cyhuddo o fai bychan heddyw.
Sarah. - Yn wir! Hoffwn gael gwybod pa beth a wnaethum o'i le?
Maria. - Fel yr oeddwn yn pasio heibio eich tŷ y dydd o'r blaen,
clywais chwi yn siarad mewn llais uchel fel pe buasoch wedi colli eich tymer, a
phenderfynais siarad â chwi yn nghylch y peth mor fuan ag y cyfarfyddwn a chwi.
Sarah. - Wel, yr ydwyf yn cyfaddef ei fod yn fuïes [sic] (?feius) ynof i
fyned i'r fath dymer ddrwg, ond yn wir yr oedd fy mam wedi bod yn fy nwrdio yn
arw, ac nid wyf yn hoffi cael fy nwrdio am beth mor fach.
Maria. - Ond dichon nad oedd eich mam yn ystyried y peth, yn fach a
dibwys.
Sarah. - Nid wyf yn gallu gweled fod taflu careg at gardotyn bach yn
beth pwysig, achos dyna'r cwbl a wnes. Yr wyf yn synu fod pobl yn gwneyd y fath
dwrw yn nghylch pethau mor fychain.
Maria. - Yr ydych yn fy synu os ydych mewn gwirionedd yn ystyried hyny
yn beth bach. ’Rwyf yn ofni nad ydych yn ystyriol o bwysigrwydd pethau bychain.
Sarah. - Peth bach ydi peth bach, ac yr wyf yn methu deall paham y rhaid
i neb wneyd llawer o dwrw yn eu cylch.
Maria. - Ond rhaid i chwi
gofio fod digwyddiadau pwysig (x18) yn tarddu o achosion bychain, ac fod
pethau mawr yn cael eu gwneud i fynu o lawer o bethau bychain.
Sarah. - Ië, ond pe buaswn wedi cyflawni rhyw drosedd mawr, buaswn yn
foddlon i gymeryd fy nwrdio.
Maria. - Dywedasoch na ddarfu ichwi ond taflu careg fechan at fachgenyn.
Onid ydych yn gwybod y gallasai y fath gareg fechan beri marwolaeth y plentyn
pe buasai yn ei daro ar ranau neillduol ar ei gorff.
Sarah. - Yn sicr ni feddylials am hyny.
Maria. - Mae pobl yn aml yn arfer esgusodi eu beiau a'n pechodau, trwy
ddweyd nad ydynt ond pethau bychain. Ond pan yr ystyriwn bethau mewn cysylltiad
a'u galluoedd neu eu dylanwad, prin y gellir ystyried dim yn fychan. Peth bach
yw y gwlithyn, eto o ddiferion felly y gwneir y moroedd mawr.
Sarah. - Efallai fod rhai pethau bychain ag sydd yn achosi canlyniadau
mawrion - ond ychydig ydynt.
Maria. - Efallai fod eu rhif yn lluosocach nag yr ydych wedi meddwl.
Peth bach iawn yw pluen eira, a gall yr awel ei chwythu yn ol ac yn mlaen; ond
edrychwch arni pan wedi bod yn disgyn am ddyddiau, llanwa y dyfrynoedd, cuddia
bobpeth, a cheir ei gweled mewn rhai gwledydd yn rhuthro i lawr lethrau y
mynyddoedd ac yn goddiweddyd pentrefydd a threfydd a dinystr disymwth.
Sarah. - Mae hyny yn eithaf gwir am y gwledydd hyny lle y disgyna trwch
mawr o eira, ond er hyny ni wna un bluen fach o eira lawer o niwaid.
Maria. - Gwir; ond pe na buasai y bluen gyntaf yn disgyn, ni fyddai yna
eira o gwbl. Rhaid i ni edrych ar bethau yn eu cydgasgliad a'u canlyniadau.
Pethau bychain yw y pigau ar y ddraenen, eto os â un o honynt i'ch llaw neu ran
arall o'ch corff, achosa enyniad a phoenau llymion, ac efallai farwolaeth. Nid
oes dim yn llai na gronynau o lwch, ond o lawer o honynt y ffurfir y bydoedd
gogoneddus. Pethau bychain mewn cydmariaeth yw ceryg, ond o honynt hwy yr
adeiladwyd hen gastelli mawreddog Cymru. Nid yw ffynhonau ond pethau bychain,
ond o honynt hwy y tardda afonydd mawreddog ein gwlad. Peth bach yw gair, ond
eto peth mor nerthol ydyw: mae wedi dadymchwelyd teyrnasoedd a phenderfynu
tynged gwledydd;
(x19)
i filoedd y mae wedi bod yn llewyrch gobalth mewn cyfyngder, ac yn gloch
angladd miliwnau o obeithion disglaer.
Sarah. - Yn sicr yr ydych
yn dweyd y gwir. Yr wyf yn gwybod fod un gair wedi dinystrio cyfeillgarwch oes,
ac wedi llanw llawer calon â thristwch.
Maria. - Ac O! peth mor fach yw moment! ac eto yn y foment fach yna gall
pethau ddigwyd ag a gyfnewidia hanes dyfodol y hyd, gall llongau gael eu
dryllio, gall troseddwyr gael eu hyrddio i fyd arall, a gall llawer o galonau
ofidio wrth welyau anwyliaid yn marw. Yn wir, gall un foment fod yn drobwynt
marwolaeth neu fywyd.
Sarah. - Ie, fel yr ydym yn canu weithiau: -
.........”O Dduw,
ar ba fath edau frau
..........Mae bythol bethau'n hongian!
........Tragwyddol
stâd pob marwol ddyn
..........Ar linyn egwan bywyd."
Maria. - Mae yn dda genyf eich bod yn dechreu gweld fod yna bwysigrwydd
mewn pethau bychain.
Sarah. - Yr ydych mewn gwirionedd wedi cyfnewid fy meddwl yn hollol,
trwy eich sylwadau tarawgar a gwirioneddol. Yr oeddwn yn wastad yn meddwl nad
oedd dim pwys mewn pethau bychain, ond yr wyf yn gweld yn wahanol yn awr.
Maria. - Ond y mae yna rai pethau bychain eraill y dymunwn eich
argyhoeddi o'u pwysigrwydd.
Sarah. - Bydd yn dda iawn genyf eu clywed.
Maria. - Y lleiaf o'r holl hadau yw yr hedyn mwstard, ond o hono y tyfa
pren mor fawr ag y gall adar y nefoedd nythu yn ei gangau. Peth bach yw llyw y
llong, ond arweinia y llestr fwyaf ar hyd ei chwrs ar y mor garwaf.
Sarah. - A pheth mor fach yw gwreichionen o dân!
Maria. - Ie, ond gall y wreichionen yna gyneu tân ag a ddinystra
ddinasoedd cyfain. Y fath ddinystr ar fywydau ac eiddo a achoswyd erioed gan un
wreichionen fach.
Sarah. - Yr wyf wedi bod yn meddwl weithiau y fath beth bach oedd i'n
rhieni cyntaf fwyta o ffrwyth y pren gwaharddedig.
Maria. - Eto yr ydych yn gweled y fath ddylif o drallod a
(x20)
gwae a ddeilliodd o'r weithred fach hono. Ar bethau bach y dibyna pethau mawr.
Yn wir, y mae bron pob digwyddiad o bwys wedi ei achosi gan beth bach. Mae un
weithred wedi achosi marwolaeth miloedd. Mae cwymp careg fach wedi newid tynged
ymherodraethau. Ni ddarfu i'r llofrudd mwyaf ddechreu ei gwrs trwy gyflawni
llofruddiaeth, ond trwy wneyd pechodau bychain, ac oddiwrthynt hwy at rai mwy.
Sarah. - Peth bach yw gronyn gwenith, eto cynyrcha ddefnydd ein bara
beunyddiol.
Maria. - Dechreua y lleidr ei gwrs trwy ladrata peth bach, ac yna i
ladrata peth mwy, nes o'r diwedd bydd yn lleidr beiddgar a gwynebgaled.
Sarah. - Ac yr wyf wedi clywed rhai yn dweyd mai peth bach yw dweyd
anwiredd.
Maria. - Ac eto fe ddechreuodd yr anudonwr mwyaf trwy ddweyd celwydd
bychan, a gall un anwiredd ddwyn tristwch a marwolaeth i filoedd o bersonau
diniwed. Gall bachgen neu ferch ieuanc yn rhwydd esgeuluso yr ysgol Sabbothol
am unwaith, ond gall yr unwaith yna arwain i esgeulusdra parhaus, a diweddu
mewn bywyd o dori'r Sabboth.
Sarah. - Yr wyf wedi clywed am lawer o bethau bychain a achosant
farwolaeth os bydd i ni eu bwyta.
Maria. - Yn wir, y mae y byd yn llawn o bethau bychain pwysig; ond o ran
hyny, a siarad yn gywir, prin y gallwn alw dim yn fychain a dibwys. Gall fod
yna rwygiad bach yn y wisg, ond os esgeulusir ef daw yn fuan yn rhwyg mawr.
Gwneir y wyddor o lythyrenau bychain, er hyny y llythrenau hyny sy'n gwneyd geiriau
a brawddegau, a brawddegau a wnant lyfrau, a goleuir miliwnau trwy gyfrwng
llyfrau.
Sarah. - Gobeithiaf na fydd i mi byth mwy fod mor ddrwg a cheisio
esgusodi fy meiau, trwy ddweyd nad ydynt ond pethau bychain.
Sarah. - Gobeithiaf yn wir na wnewch. Oblegid ni ellwch ddychmygu faint
o ddrwg ac o drallod a allasai y gareg fechan a daflasoch wneyd, nid yn unig i
eraill ond i chwithau hefyd. Un gair sarug a gynyrcha un arall, a'r ddau achosi
ereill, nes peri i gyfeillion gweryla, arweinia
(x21)
hyny yn aml i ymladdau, ac efallai y terfyna mewn llofruddiaeth a marwolaeth.
Bydded i ni osgoi pechodau bychain, cyflawni addewidion bychain, gwneyd y
defnydd goreu o funudau bychain, talu sylw i rybuddion bychain, rhedeg oddiwrth
demtasiynau bychain, bod yn ofalus o eiriau bychain, ac os bydd i ni fod yn
ofalus o'r pethau bychain, anaml y goddiweddir ni gan drallodau mawrion.
Sarah. - Yr wyf yn hollol o'r un farn a chwi, ac
Maria. - Gobeithiaf yn fawr mai felly y bydd. Os gallaf rywbryd eto fod
o rhyw wasanaeth i chwi, gellwch deimlo yn hyderus y rhydd hyny lawer o bleser
i mi.
Sarah. - Gallaf eich sicrhau fy mod yn gwerthfawrogi eich caredigrwydd a
cheisiaf eich ad-dalu trwy dalu manwl sylw i bwysigrwydd pethau bychain.
Maria. - Os gwnewch hyny ad-delir fi yn llawn am unrhyw gymwynas allaf
wneyd i chwi. Nid ydym ond pethau bychain, yn byw mewn byd bychan, ag nid oes
genym ond ychydig amser i fyw; ond yr ydym wedi ein bwriadu i gymeryd rhan mewn
digwyddiadau mawrion, ac yr ydym yn myned yn mlaen tua'r tragywyddol fyd.
Bydded i ni wneyd defnydd da o'n momentau fel y cyflymant heibio, ac felly i
wneyd y goraf o'n hoes fér, fel y byddo i ni gael dedwydd diddarfod oes yn y
maith dragywyddol fyd. Rhaid i mi ffarwelio a chwi yn awr.
-Sarah. - Ffarwel!
__________________________________________
(=3) Y Ceffyl, y
Drol, a’r Baril
(I'w adrodd gan dri)
___________________________________________
Y Ceffyl. Beth, heno eto? Onid wyf fi eisoes wedi bod yn dy dynu i un
daith bell, er pan godais boreu heddyw? Pa ryw ysfa sydd yn dy olwynion - pa
bleser sydd genyt i'm poenydio?
Y Drol. Paid cyfeiliorni, Geffyl: “rhoddi yr aradr o flaen yr ych” yw
peth fel yna. Nid myfi sydd yn galw am danat. Yn wir yr oeddwn yn meddwl mai
tydi oedd yn galw am danaf fi.
(x22)
Y Ceffyl. Ti bendew olwynawg, gwrando air gan dy ragorach. Pa un ai
cymhorth ynte rhwystr i mi deithio ydyw i ti fod yn rhwym wrthyf? Gallwn, fy
Y Baril. Helo, beth yw y row! Byddwn ddistaw a heddychol, ffrindiau. Paham
yr edrychi mor sarug, Drol?
Y Drol. Nid am unrhyw ddrwg o'r eiddof fy hun; ond o herwydd clywed
Ceffyl yn fy nghablu â geiriau mawrion a chelyd.
Y Ceffyl. Onid oeddit yn eu haeddu, am fod mor dafod-ddrwg a
dweyd mai fi yw yr achos o'r daith galed sydd o'n blaen?
Y Drol. Ni
wnaethum hyny cyn i ti yn gyntaf fy nghyhuddo i o fod yr achos, gan ychwanegu
fy mod yn cymeryd pleser yn dy boenydio.
Y Ceffyl. Digon
gwir hefyd, Madam. Oblegid oni buasai eisieu dy dynu di, fe fuasai genyf fi
well gwaith na chludo cwrw.
Y Drol. O yn wir! Ni fyddai dy flewyn mor ddisglaer na'th asenau mor
gnawdol, mewn unrhyw wasanaeth arall. Ac ni
cheit gyfle mor fynych i ddangos dy hun, yn uchder dy ffroen a dy falchder
mawr.
Y Ceffyl. Gresyn meddwl mai o dy herwydd di y mae fy holl
bechodau yn dyfod i'r golwg mor wrthun.
Y Drol.
Anwiredd, Syr! anwiredd i gyd. Pa na buasai am y Baril ni fuasai raid am danaf
finau yn y gwaith annymunol hwn.
Y Baril. Geffyl
a Throl, goddefwch i minau wneyd sylw neu, ddau. Yr oeddwn er ys meityn yn
awyddus i siarad, er yn dewis peidio ymyraeth yn eich cweryl hwn. Eithr yn awr,
wedi clywed fy enw i yn cael ei arfer, a'i arfer, mi feiddiaf ddweyd, dipyn yn
annheg, teimlaia fod yn llawn bryd i minau lefaru.
Y Ceffyl. Gallai
un feddwl o wrando dy araeth nad yfaist ddafn o wirod erioed!
Y Drol. Pan
mewn gwirionedd mai efe yw yr achos o'r holl ddrwg.
(x23)
C. Ie; oblegid os yw y Drol yn achos o'r drwg ynot fi, a thi yn achos o hono yn
y Drol, yn ol Rhesymeg Synwyr Cyffredin rhaid mai ti, Faril, yw yr achos o'r
holl ddrwg o'r dechreu i'r diwedd.
Y Drol. Ie, a
chyn hyny, os nad ar ei ol hefyd!
Y Ceffyl. Yn hollol felly: fel yna y dylaswn ddweyd.
Y Baril. Y mae
yn dda genyf eich bod ill dau wedi medru cydweled, er mai yn y gwaith o fy
ngwawdio i yr ydych wedi cytuno. Ond yr wyf yn gorfod tystio yn y modd mwyaf
difloesgni yn erbyn eich cyhuddiad mai myfi yw yr achos o'r drwg ag y teimlwch
eich bod yn ei afael. Pe na buasai am y cwrw a fwrir i mewn ynof ni
byddai raid am danaf finau yn y gwaith hwn. Gwn y byddai yn bleser genych ill
dau fy nghludo i pe rhoddid imi y dwfr glân neu y llaeth maethlon i'w gadw.
Felly gan hyny nid myfi, mwy nag uu o honoch chwithau, yw yr achos o'r drwg, er
i chwi gyduno i fy nghamliwio a'm difrio mewn dull mor angharedig,
Y Drol. Ond i ddal cwrw y gwnaed di ar y cyntaf; tra yr wyf fi yn
gymhwys i alwedigaethau ereill.
Y Baril. Er mai i'r dyben hwnw y'm gwnaed, yr wyf yn llawn mor addas at
alwedigaethau ereill ag ydwyt tithau. Ond, yn wir, ti a'th gyhuddaist dy hun,
yn gymaint ag mai i fy nghludo i y gwnaethpwyd di yn arbenigol; pe amgen, ni
fuasai y ffurff yna arnat.
Y Ceffyl. Ond pa help oedd ganddi hi iddi gael ei gwneuthur yn y ffurf yna.
A ydwyt mor ddwl a thybied mai y Drol oedd y Saer a'i gwnaeth hi ei hun?
Y Baril. Diolch iti am dy ddadl, yr hon sydd yr un mor rymus yn fy mhlaid i
ag yw yn mhlaid y Drol. A ydyw “Rhesymeg Synwyr Cyffredin” yn dy ddysgu i
ryddhau y Drol oddiwrth bob cyfrifoldeb am yr hyn ydyw hi, ond â'r un anadl i
fy nal i yn gyfrifol am yr hyn ydwyf fi?
Y Ceffyl. Yr wyf fi o darddiad uwch na thydi a'r Drol.
Y Baril. Yn hyn nac ymffrostia; canys nid tydi a wnaeth ragoriaeth rhyngot
ag arall.
Y Drol. Y mae genyf un gair arall i'w ddweyd. Yr ydym,
bellach wedi taflu y drwg oddiar ein hysgwyddau ein hunain a'i roddi oll ar
ysgwydd y cwrw.
(x24)
Y Ceffyl. Wel, ai nid efe yw gwreiddyn yr holl ddrwg?
Y Drol a’r Baril. Nage ddim.
Y Drol. Ewch yn mlaen, Faril; arosaf hyd oni orphenwch.
Y Baril. Na, chwi soniodd am y cwrw. Ar eich ol
chwi, Madam.
Y Ceffyl. (o'r neilldu). Mor fuan yr ä tebyg at ei debyg - hyd yn nod pe
byddent gorfforiad byw o ragrith!
Y Drol. Yn awr ai cyfiawn y cyhuddiad yr hwn a ddygasom yn erbyn cwrw?
Nage, meddaf; eithr, yn hytrach, y mae efe yn diangc yn yr un modd a ninau.
Canys nis
gall yntau ei wneuthur ei hunan; ac felly yr wyf yn awgrymu mai y Darllawydd
sydd yn gytrifol ac nid y Cwrw.
Y Baril. Da y dywedaist, Drol. Y mae cwrw, o ran hyny, yr un mor ddieuog a
ninau.
Y Ceffyl. Nid wyf yn gweled y gellwch, er pob dyfais, osod y bai yn unig ar
ysgwydd y Darllawydd. Oblegid pe na buasai pobl yn meddwi ni fuasai efe yn cael
elw o ddarllaw, ac, felly, ni fuasai efe yn darllaw o gwbl.
Y Baril. Gwir, cyn belled ag
y mae yn cyrhaedd. Ond yr wyf fi yn gwybod fod rhywbeth heblaw meddwi yn cynnal
i fyny y fasnach. Y mae miloedd, er peidio meddwi, yn yfed mwy o gwrw, nag y
mae miloedd ereill er meddwi.
Y Drol. Bid a fyno, yr ydym
o'r un meddwi cyn belled â hyn, mai dynion ac nid nyni sy'n gyfrifol am y drwg.
Y Ceffyl a’r Baril. Yn
hollol felly.
Y Baril. Nid yn unig dynion sy'n gyfrifol am y gwaith sydd genym ni ac am
ein bod ni yn y gwaith hwnw, ond hwynt hwy a wnant y gwaith yn ofynol. Oni bai
fod dyn yn yfed y diodydd meddwol ni fuasai y fath fasnach yn y hyd.
Y Ceffyl. Da iawn. Ond gellir myned radd yn mhellach, ac y mae hyn yn
galw i fy nghof hanesyn a glywais hen feistr i mi yn ei adrodd, pan oeddwn ebol
bach.
Yn debyg i hyn yr adroddai efe: -
Y mae rhyw ymlusgiad yn ngwlad yr India Ddwyreiniol ag sydd yn un anhawdd iawn
ei ladd. Yn gyffredin methu ei ladd y bydd pawb, ond y brodorion y maent
(x25)
hwy yn gwybod y ffordd. Er ei guro a'i dryllio byw fydd efe. Er tynu allan ei
goluddion a'i dori yn ei ganol, byw fydd efe wedi'n. Ie, er tori ei ben hefyd
a'i wneuthur yn ddarnau lawer bydd y creadur rhyfedd hwn yn fyw drachefn.
Y Drol. Y mae hyny yn beth rhyfedd iawn.
Y Baril. Efallai mai byw yn
unig hyd fachludiad haul fydd efe?
Y Ceffyl. Ni soniodd meistr ddim am “fachludiad haul.”
Y Drol. Efallai nad oedd modd ei ladd, ac mai marw o hono ei
hun wnai yr hen frawd.
Y Baril. Wel, atolwg,
Geffyl, beth oedd y dirgelwch?
Y Ceffyl. Yr unig ffordd i'w
ladd oedd torri dori blaen ei gynffon: o wneyd hyny byddai farw yn
ddisyfyd, heb gynwrdd a'i goluddion nag ai ben.
Y Drol a’r Baril. Dear mi!
Y Ceffyl. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio: Y mae y Fasnach Feddwol yn
debyg iawn i'r Ymlusgiad Indiaidd yna - yn un tra anhawdd ei lladd. Nid trwy
guro mewn traethodau, ac nid trwy ddryllio mewn areithiau y mae rhoddi terfyn
ar ei heinioes; nid trwy dyuu coluddion meddwdod allan o honi y bydd hi marw,
chwaith; ac ni leddir hi er tori ei phen a chau y Darllawdy a'r Tafarndy. Pa
fodd ynte y lleddir yr ymlusgiad meddwol?
Y Drol. Trwy beidio –
Y Baril. (yn gorphen brawddeg y Drol}. Yfed dim o'r cwrw.
Y Ceffyl. Ie,
dyna'r dirgelwch, tori y gynffon; gwneyd ymaith â'r haner peint,
ac â'r un glasiad, - yna bvdd i'r Fasnach ag yr ydym ni yn gaethion
iddi, a'r Fasnach sv'n bygwth boddi y byd a diluw dinystr, - bydd i hon felly
drengi yn ddisyfyd.
Y Drol. Gwyn fyd na
threngai hi heddyw!
Y Baril. Amen!
Y
Ceffyl. Ac Amen!
(x26)
________________________________
(=4) Y Neidr yn y Nyth
(I’w adrodd gan bedwar).
________________________________
Cadeirydd.
Mae coeden lwyfan yn yr ardd,
Ag iddew am ei bôn yn hardd:
Hon leda'i gwraidd mewn daiar fras,
A'i changau
yn y nefbedd las.
O foreu wawr
hyd fin yr hwyr
Bydd melus gân o'i brigau gw^yr,
Gan adar mân
- gantorion mawr –
Yn moli “Llywydd nef a llawr.”
Yr ucha' i
gân o gôr y wig
Oedd bronfraith ar yr uchaf frig;
Caed nyth y fronfraith bêr ei
llef
Yn môn y goeden lwyfan gref.
Bachgenyn oedd a gawsai'r nyth,
A nyth oedd hwn i'w gofio byth.
Ond John
ei hun, a’i frodyr dri,
Gant ddweyd yr hanes wrthym ni
John.
Ddiwrnod Gwanwyn heulog,
.....Wrth dramwy trwy yr ardd,
Daeth arnaf awydd blysiog
.....Am gael ryw bethau hardd;
Meddyliais ar y fynyd
.....Gael wyau adar cun, -
Er fod y gwaith yn ynfyd
.....Yn ngolwg pobol hy^n.
James.
Nid ydwyf fi yn tybied,
.....A dweyd y gwir i ti,
Os tynir
nyth aderyn
.....Gan blantos fel nyni --
William.
O “thybi” di yn amgen,
.....Hawdd peidio dwedyd dim,
Gan roi i John bob hamdden,
....Nes y gorpheno, Jim.
(x27) Cadeirydd.
Efelly fyddai oreu.
Robert (yn
ddystaw}.
Siaradwn un ar unwaith,
.....Yn drefnus yn ei dro.
(Wrth y
Cadeirydd }.
Na ddigiwch, Syr, wrth Jimmy, --
.....Ein i'engaf frawd yw o.
John.
I fyny yr un goeden,
.....Dau nyth a welwn i:
Y naill ar uchel gangen,
....Ry^ wan i'w dringo hi;
A'r llall yn môn y llwyfan,
.....Yn hawdda 'i gael erioed,
Yn dal tri wyau arian,
.....Gan addaw un i dd'od.
Yn ol y dreth arferol,
.....Thyn bachgen yr un w^y,
Os bydd y nyth yn weddoi
.....Ddiogel rhagddynt “hwy,”
Hyd nes bydd wyau bedwar
.....Yn gryno yn y nyth.
Ai tybed fod yr adar
.....I'w twyllo felly byth?
James.
Gadeirydd - Syr, boed imi --
Robert (yn
ddystaw).
Taw, taw am dipyn bach.
William (yn
uwch).
Bydd lonydd wnei di, Jimmy,
.....Neu rhoddaf di mewn sach!
John.
Mi welaf, Syr, fod awydd
.....I siarad arnynt hwy:
Eisteddaf i yn llonydd,
.....Heb ddwedyd mymryn mwy.
James.
Pan aethum I i weled
.....Y nyth a gawsai John,
.....Y braw a ges i'm bron;
(x28) Disgwyliwn wei'd yr wyau
.....Yn dwt o fewn y nyth;
Ond neidyr amryw liwiau
.....Oedd yno 'n llygad-ruth!
Och! Syr, y dychryn gefais
.....Wrth estyn yno 'm llaw,
A theimlo rhywbeth oeraidd,
.....A chlywed chwyth di-daw!
Mi redais am fy hoedl
.....I'r fy yn union-syth,
Gan dori yno 'r ddadl
.....Am wyau yn y nyth.
William.
“Wel, Syr, mi aethum inau
.....I'r ardd i wei'd y nyth,
Ar ol i John a Jimmy
.....Am dano ddweyd eu trûth
Ac erbyn hyny wyau
.....Oedd yno'n ddigon siwr,
Cyn sicred â bod dagrau
.....Mewn ffynon lawn o ddw^r.
Ond nid yr wyau welwyd
.....Gan John, Syr, oeddynt hwy;
Eithr wyau'r neidyr enbyd,
..... (Eu 'n yfed y tri w^y
A welsai John i ddechreu)
.....Adaw'sai hi'n y nyth;
A churais hwynt yn dipiau,
.....Fel na welir mo'nynt byth.
Ond Syr, mae ofn y neidyr
.....Yn arw arnom ni!
A diolchem, fi a'm mrodyr,
.....Pe lladdai rywun hi.
Dych'mygaf wel'd oi cholyn,
.....A chlywod yma'i chwyth –
Wch! gweled y fath elyn
.....A neidyr yn y nyth.
Cadeirydd.
Wel; dyna'r hanes, Ond beth sydd
Yn addysgiadol er ein budd
Yn gorwedd yn yr hanes prudd?
(x29) John:
Meddyliwn i yn ddirgel,
.....Mae 'deryn, call oedd ef,
A wnaeth ei nyth yn uchel, -
.....Mor uchel tua'r nef:
Ni feiddiai'r neidr ddringo
.....Mor bell o'i lloches ddu;
Ac felly cafodd hwnw
.....Lonyddwch yn ei dy^.
Ond beth pe syrthiau'r cywion
.....O'r fath uchelder mawr?
Hwy fyddent oll yn feirwon
.....Ysgyrion ar y llawr!
William.
Gwir iawn; ond dylid cofio
.....Na fyddant hwy mor hyf
.....A mentro oddiyno
Cyn iddynt fagu plyf!
Robert.
Nid ydwyf fi ond diddysg,
.....Mewn pethau o'r fath hyn:
Ond tybiwn i fod addysg
.....Fel hon i'r neb a'i mhyn:-
Dinystria ordd y lleidr,
.....Sy gyngor goreu 'rioed;
Ond lloches braf i'r neidr
.....Yw iddew am y coed.
Cadeirydd.
Da iawn: mae'r naill a'r llall yn dda.
Mae dyn yn nghancl byd o bla;
Diogelaf oll yr erys ef.
O anial daiar myrdd a ddaw
O gas elynion ar bob llaw;
Ac yn y cnawd mae chwantau fyrdd
Y dylem dori lawr eu ffyrdd.
Ar bechod yr esgorant hwy, -
Ehaid “lladd y neidyr yn yr wy.”
Hen neidyr fawr ein dyddiau ni
Yw 'r ddiod feddwol fawr ei bri:
Hon gerdd i dai prydfertha'n gwlad,
Yspeilia'n plant a'i marwol frad;
Hi ddring i'r aelwyd, - ddiddos nyth, -
A gedy yno'i gwenwyn byth.
A dyma 'n gwaith, a'n gwaith o hyd,
Sef, ymlid medd'dod maes o'r hyd!
(x30)
_____________________________________________
(=5) Pwy yw y Gw^r Boneddig?
(I’w adrodd gan ddyn ieuangc.}
_____________________________________________
Ar noson mor braf ag ydoedd hon, nid rhyfedd bod plant y pentref yn fawr eu
stw^r yn chwareu â'u gilydd. Ac nid rhyfedd ychwaith os oedd ymhlith cynifer o
blant, rai a wnaent yn anweddus ac angharedig â rhyw greadur o anifail, pe
digwyddai un ddyfod heibio gan fyned ar ddisberod; neu, yn wir, a chreadur o
ddyn os yn un drwg ei lun; ac yn enwedigol os yn ddrwg ei lun o herwydd yfed
gormod o ddiod feddwol. Un
felly, dyn - dyn yn feddw oedd yn destun gwawd i'r plant y noswaith hon. Ebai y
bechgyn, y naill ar ol y llall, “Hoi, gwyliwch! mae draenog yn y clawdd yna, -
hei, hai!” Yno yr oedd y dyn yn druenus ei gyflwr, a'i gefn ar y clawdd, yn rhy
feddw i gerdded. Cyn hir mae y plant yn dechreu canu gwawd yn ei wyneb, ac wedi
i'r blaenoriaid fyned tros y byrdwn rai troion, y maent un ac oll yn ymuno yn y
gân, nes mae adsain eu lleisiau yn diaspedain uwch yr holl bentref.
Yr oedd aml i fam erbyn hyn wedi ei dwyn i ddrws y ty^, i weled beth oedd y
mater; ond cyn i'r un fam ddyfod i wneyd ymchwiliad a oedd ei phlant hi yn
cymeryd rhan yn y fath bleser gwaradwyddus, yr oedd geneth 15eg oed wedi rhedeg
yn ddistaw bach i ganol y twr plant i geisio enill ei brawd oddi yno. “Edwin,” ebai hi wrtho, “paid, taw
rhag cywilydd i ti! oni wyddost fod hwn'a yn w^r boneddig!” Nid atebodd Edwin
iddi un gair, ond - clod iddo - fe aeth ymaith gyda hi yn ddirwgnach. Ond ar y ffbrdd, ymhen enyd fechan, yr
oedd efo yn mwmian “’Gw^r boneddig’ wir! gw^r boneddig iawn!” Ac wedi myned o'r
ddau i'r ty^, a chael yr aelwyd yn wâg, aeth yn ddadl rhyngddynt o barthed gw^r boneddig.
Gwnaiff
Ifan a Catrin adrodd y ddadl
oreu gallont.
Ifan. - Nid wyf yn medru
gwoled, Catrin, pa hawl sy' gan ddyn fel y fo i'r teitl gw^r boneddig.
Catrin. - Wel, Ifan, mae o
yn fab i Lord Lydan, ac felly
rhaid bod ganddo ryw deitl.
Ifan. - Pa deitl sy' ganddo fe,
dywed?
(x31) Catrin. - Fedra' i ddim dweyd yr enw,
ond y mae ganddo ryw deitl hir.
Ifan. - Wel, d'wedwn fod ganddo deitl: ond peth arall eto
ydyw dweyd ei fod ef yn w^r boneddig. Fedrwn i yn fy myw ddeall sut mae neb yn
w^r boneddig am fod ei dad yn foneddwr. Dyna Hugh Dafydd y teiliwr; teiliwr
oedd efe a theiliwr ydyw efe yn awr; ond mae ganddo fab yn Berson, a dd'wedi di
ddim fod y Person yn deiliwr am mai dyna yw ei dad?
Catrin. - Ië, ond nid yw hyny
yr un fath â bod yn w^r boneddig. ’Does neb yn cael ei eni yn deiliwr --.
Ifan. - Dyna fo, a dyna --.
Catrin. - Aros di, Ifan, i
mi orphen, rhag i mi anghofio beth oedd genyf i'w ddweyd.
Ifan. - Wel, gorphen
dithau.
Catrin. - Ië, wel, ïe – wel yn wir yr wyf wedi anghofio - p'am na fuaset ti yn gadael i mi orphen!
Ifan. - Dyna oeddit yn geisio ddweyd, “Na chafodd Hugh
Dafydd mo'i eni yn deiliwr.”
Catrin. - O, ïe. Nage! nage ddim, ond dweyd ‘nad oes neb yn cael ei eni
yn deiliwr.' Ond o
ran hyny mae y ddau agos yr un peth. D'wedwn ynte fel yr wyt ti yn dweyd, - “Na
chafodd Hugh Dafydd mo'i eni yn deiliwr.”
Ifan. - Wel, beth am hyny?
Catrin. - Felly ni anwyd ei fab ’chwaith yn deiliwr!
Ifan. - Aros
di, Catrin, nid yw hyn'a yn sound.
Catrin. - A
dyna paham y mae ei fab ef yn Berson!
Ifan. - Ha-ha-ha! tybed, Catrin?
Catrin. - Ti elli chwerthin,
Ifan; nid wyf yn medru deall mater y teiliwr yma, ond fe gafodd y dyn yna ei
eni yn foneddwr, wedi'n rhaid ei fod ef yn w^r boneddig; a pheth anweddaidd
iawn oedd i ti a'r plant eraill wneyd sport o hono.
Ifan. - Yr
wyf wedi cyfaddef nad oeddwn yn fy lle wrth wneyd hyny; ond ni fuasem yn gwneyd
fel yna â gw^r boneddig,
Catrin, er gwaethed ydym.
C. - Dyaa hi eto! onid wyf yn dweyd o hyd mai gw^r
(x32) boneddig ydyw y dyn yr oeddit
ti a'r plant yn ei amharchu?
Ifan. - Onid
wyf finnau yn dweyd o hyd mai nid gw^r boneddig ydyw? Nid oes genyt un rheswm
yn y byd dros ddweyd ei fod yn foneddwr ond ei fod yn fab i foneddwr; ac nid yw
hyny ond yr un peth â dweyd dy fod ti dy hun yn llongwr am mai llongwr yw 'nhad.
Catrin. - Pa
fodd hyny ac yntau wedi ei eni yn w^r boneddig?
Ifan. - Dyna lle 'rwyt ti yn dyrysu:
Catrin. - Yr wyt yn fy synu yn fawr. Yr oeddwn i yn meddwl yn siwr fod mab
Lord Lydan yn foneddwr mawr. Ond a pheidio son am dano ef, dywed sut un ydyw y
gw^r boneddig, a pha fodd mae myn'd yn foneddwr.
Ifan. - Mi dd'wedaf i ti fel y bydd Dafydd Edward yn ein
dysgu ni yn nghylch hyn yn y class
ddydd Sul: -
Y mae gw^r boneddig bob amser, medd efe, yn un â'i air. Os rhydd ei air am
rywbeth fe a'i cwblhâ. A wnaiff boneddwr ddim yn anheg nag yn wael â neb, - y
mae yn rhy anrhydeddus i wneyd dim felly.
Catrin. - Mi glywais Mam yn dweyd fod ’Nain wedi cael ei throi o Fferam
Wen am fod ’fewyrth Ifan wedi fotio, neu wneyd rywbeth, yn erbyn y Meistr tir;
a, medda mam, 'Pe base Mistar yn w^r boneddig fe fase dy Nain yn Fferam Wen
heddyw.'
Ifan. - Dyna'r peth. Yr
oedd mam yn gweled fod troi ’Nain allan o'r ffarm yn dro gwaol a brwnt; ac yr
oedd Mam yn deall na wnaiff gw^r boneddig ddim tro gwael â neb; ac felly yr
oedd hi yn penderfynu nad oodd ei Meistr yn foneddwr.
Catrin. - Yr wyf erbyn hyn yn deall tipyn both sy'n gwneyd dyn yn
foneddwr.
Ifan. – Fe fyddai Dafydd Edward
yn sôn am both arall hefyd, ag yr oedd yn rhaid i ni ei goflo os oeddym am fod
yn foneddigion. Ni wnaiff gw^r boneddig, medd ef, byth friwio teimlad neb yn
fwriadol; y mae mor addfwyn a llednais, ac mor barchus o bawb; ac nid yw gyflym
i ddigio a hwyrfrydig i faddeu. Pethau
fel yna, mewn dyn sy'n ei ddangos yn w^r boneddig, Catrin; a thi wyddost
dy hun nad yw y rhagoriaethau yna yn dyfod o waedoliaeth.
(x33) Mae y
dyn cyffredin, os yw yn meddu ar y rhai'n, yn foneddwr cystal â'r dyn cyfoethog
a theitlog, ac nid yw y dyn cyfoethog mwy na'r tlawd, os yn amddifad o'r
nodweddau hyn a'u cyffelyb, yn w^r boneddig o gwbl.
Catrin. - Ond yr oeddwn i
yn tybied fod eisieu bod yn ddysgedig hefyd tuag at fod yn foneddwr.
Ifan. – Yr oeddit yn
meddwl yn lled gywir. Y mae addysg dda yn un o'r manteision goreu; a bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda;
a'r doeth a ddeall hyn ac a chwanega
addysg.
Ond mae yn bryd i ni fyn'd at ein gwersi; daw mam i'r ty^ yn ebrwydd a ninau
heb ddechreu arnynt.
Catrin. - Ydyw yn wir, Ifan bach; ac fe fydd Meistar yn flin os awn i'r
Ysgol heb wneyd ein tasgiau. Paham na wnaiff efe, dywed, ein dysgu am w^r
boneddig a phethau fel
yna?
Ifan. Tyr'd, Catrin anwyl; mae o yn gwneyd ei oreu wel'di.
Wel edrych! Mae'r tân bob tamaid wedi diangc i'r ty nesaf!
(=6) Had Da yr Efengyl
Cydymddiddan rhwng pedwar - meibion neu
ferched.
(Mat.
4. 26-30)
Jemima. - Testun ein
hymddiddan yn bresenol, yr wyf yn credu, ydyw Dameg ein Harglwydd yn nghylch
hau hâd Teyrnas nefoedd.
David. - Ië, dyna'r pwngc yr ydym wedi cyfarfod i siarad yn ei gylch, a
phwngc dyddorol iawn ydyw.
Mary. - Ydyw y mae yn bwngc hynod ddyddorol, ac yr ydym yn sicr o gael
llawer o bleser a boddhad wrth ei drafod.
Jemima. - A fyddwch gystal a darllen y ddameg, Jemima?
Jemima. - Gwnaf hyny gyda phleser. “Ac efe a ddywedodd, Felly y mae
teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaear, a chysgu, a chodi nos a dydd,
a'r hâd yn hâd (x34) egino
ac yn tyfu, y modd nis gw^yr efe. Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun;
yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hyny y dywysen, yna yr y^d yn llawn yn y dywysen. A
phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y
cynauaf.” Y mae yr holl amgylchiadau o dan ba rai y llefarwyd y ddameg hon yn
llawn dyddordeb. Llefarwyd hi yn agos i ddechreuad gweinidogaeth gyhoeddus ein
Harglwydd, pan yr oedd y bobi, yn rhyfeddu wrth ei athrawiaeth, yn ymdyru o'i
amgyloh, ac yn dweyd mewn syndod – “Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn.”
David. - Ac yr ydym yn darllen fod y dorf mor lluosog ar yr amgylchiad hwn,
fel y bu gorfod iddo fyned i'r llong ar fur Galilea, a sefyll i fyny yno i
siarad a'r gynulleidfa fawr oedd yn ymgasgledig ar y làn.
Mary. - Gallwn feddwl wrth natur y damegion a lefarodd y pryd hyny, ei
bod yr adog yr oedd yr amaethwyr wrth y gwaith o barotoi eu tiroedd ac yn hau
eu hâd ar gyfer y cynhauaf dyfodol.
John. - Yr wyf yn meddwl fod hyny yn wirionedd, oblegid yr oedd gan
Grist ddull hapus o gymeryd i fyny bethau a gymerant le ar y pryd, a'u
defnyddio i egluro ei wersi ysprydol. Gallaf ddychmygu ei weled yn sefyll ar
fwrdd y llong, a thra yn taflu ei olwg ar y wlad eang a orweddai o'i flaen,
iddo ganfod dyn yn taflu hâd i'r ddaear; a chan gyfeirio a'i fys at y dyn, a
thra yr oedd llygaid y dorf yn edrych i'r un cyfeiriad, a ddywedodd, ”Welo
hauwr a aeth allan i hau.”
Jemima. - Pan y byddaf yn darllen y damegion prydferth hyn, byddaf yn
ceisio darlunio i mi fy hun y fan y cawsant eu llefaru ynddo, a'r amgylchiadau
cysylltiol a hwy. Ac wrth ddarllen y bedwarydd benod o Marc, byddaf yn dychmygu
fy mod yn gweled y llong fach ar y llyn, Arglwydd y Bywyd ac Arglwydd y
Gogoniant yn sefyll ar ei bwrdd, tra y mae y bobl wrth y canoedd, ïe y miloedd,
wedi ymdyru ar y làn, a phob un o honynt yn awyddus i glywed geiriau yr hwn na
lafurodd neb erioed yn debyg iddo; ac yr wyf yn dychmygu fod yr haul mawr yn
taflu ei belydrau ar y dorf fawr, a pheri i donau chwarëus y môr ymddangos fel
aur toddedig, tra yr oedd holl natur o gwmpas yn gwenu mewn prydferthwch,
ceinder, a gogoniant.
(x35) David. - Y fath bleser sydd i'w gael
wrth ddarllen am olygfeydd fel yna, a gwybod fod y gwirioneddau a lefarwyd y
pryd hyny gan ein Harglwydd wedi cael eu trosglwyddo i ni yn Ngair y Gwirionedd
er ein haddysg a'n hiachawdwriaeth.
Mary. - Y mae dameg hâd da yr Efengyl yn meddu cyfeiriad at bethau yr
ydym yn ddigon cyfarwydd a hwy. Yr ydym wedi ymarfer a holl
oruchwyliaethau ffermwriaeth - aredig y tir, hau yr hâd, a thori a chasglu y
ffrwyth, amser cynhauaf.
John. - Ac yr ydym wedi gweled yr holl gyfnewidiadau naturiol y sonia
Grist am danynt; yr ydym wedi canfod yr eginyn yn tori allan trwy'r ddaear; yna
yr ydym wedi gwylio tyfiant y gwelltyn wrth dyfu tuag i fyny ac ymgryfhau, ac
yr ydym wedi gweled yr haf yn ei ogoniant, pan yr oedd y maesydd wedi eu llenwi
a'r llafuriau gwerthfawr, a'r medelwyr yn brysur a'u crymanau yn tori i lawr
werthfawr ffrwyth y ddaear.
Jemima. - Ië, trwy bethau cyffredin fel hyn y galwai ein Harglwydd sylw
y bobi; ac oddiwrth natur arweiniai hwy o ran eu meddyliau at Dduw natur, ac at
y pethau hyny a berthynent i'w tragwyddol heddwch. Am hyny y dywedodd, - ”Felly
y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaear; a chysgu, a chodi nos a
dydd, a'r hâd yn egino ac yn tyfu, y modd
David. - Y mae genym yma, felly, gydmariaefh rhwng hâd a'r Efengyl, ac
yr wyf yn cynyg ein bod yn awr i geisio gweithio allan y gydmariaeth, ac edrych
pa debygolrwydd sydd i'w ganfod yn eu natur, gweithrediadau, a'u heffeithiau.
Yn y bennod hon fe gydmerir yr Efengyl i ddau fath o hâd, hâd mwstard a hâd
gwenith, ac y mae pob un o'r ddau yn hynod yn eu natur a'u gweithrediadau.
Mary. - Y fath beth rhyfeddol ydyw hedyn! Byddaf weithiau yn meddwl am
ei ddechreuad; ac i gael hyny allan, rhaid i ni fyned yn ol at greadigaeth y
hyd, pryd y planodd yr Arglwydd “ardd yn
(x36)
John. - Felly Duw a greodd yr hedyn cyntaf; a byddai i holl ddyfais
unedig dyn fethu pe ceisient wneyd y fath beth. Yn yr ystyr yma y mae yn debyg
i'r Efengyl, oblegid nid dyfais ddynol ydyw, ond efengyl fendigedig y
bendigedig Dduw.
Jemima. - Fel hâd, y mae yr Efengyl wedi ei hau yn nghalonau a
chydwybodau dynion. Ac i'r dyben o wneyd hyn, fe aeth lesu Grist oddi amgylch i
wneuthur daioni, a phregethu y newyddion da; no i'r dyben hyny yr anfonodd ef
ei weinidogion i'r holl fyd i bregethu yr efengyl i bob creadur.
David. - Ond fe hauir yr hâd da hwn trwy lawer o foddhau heblaw pregethu
yr Efengyl. Hauir ef mewn llyfrau da, mewn traethodau crefyddol, cynghorion a
cheryddon.
Mary. - Y mae yna amserau a thymhorau priodol ag y dylid hau hadau, mewn
trefn iddynt dyfu a chynyrchu ffrwyth; ac y mae yn ddyledswydd ac yn fanteisiol
i'r amaethwr i wneyd ei hun yn wybyddus o'r amserau a'r tymhorau priodol i
roddi ei hâd yn y ddaear.
John. - Ac fel hyn y mae gyda hâd yr Efengyl. Ieuengctyd yw yr adeg
fwyaf manteisiol i dderbyn hâd gwirionedd yr Efengyl, ac i'r dyben hyny y
sefydlwyd ein Hysgolion Sabbothol, a thrwy y sefydliad gogoneddus hwn y mae
miloedd wedi derbyn yr hâd, ac wedi dwyn ffrwyth ar ei ganfed.
Jemima. - Y mae o'r pwys mwyaf ein bod yn defnyddio pob cyfleusdra i
wasgar hâd da yr Efengyl; oblegid y mae Duw wedi dweyd, “Y bore haua dy hâd, a
phrydnawn nac atal dy law.” Defnyddir llawer o ymadroddion yn yr Ysgrythyrau i
osod allan Air Duw - megis dail, goleuni i'r tywyll, bara i'r newynog, a dwfr
fel y rheda allan o'r graig i ddisychedu y gwefusau sychedig - ond nid oes yr
un yn gosod allan Air y Gwirionedd mor briodol a hedyn. Er ei fod yn edrych yn
sych a marw, y mae bywyd yn yr hedyn, fel y mae yna fywyd tragwyddol yn yr
Efengyl.
David. - Bydded i hedyn gael ei blanu wrth ochr y perl disgleiriaf yn y
ddaear frasaf, a thra y bydd i un aros yn gareg o hyd, bydd i'r llall ddeffroi,
rhwygo ei blisgyn, cyfodi trwy'r tir i addurno y ddaear a phrydferthwch,
perarogli yr awyr a pherarogl, a chyfoethogi dynion a'i ffrwyth.
(x37)
Mary. - Yr wyf wedi darllen iddynt gael gronyn gwenith wrth
agor hen fedd Aiphtaidd yn ddiweddar, a chredid ei fod wedi bod yno am dair mil
o flynyddoedd. Er yn gladdedig yr holl flynyddau hyn, yr oedd bywyd yu aros o
hyd yn y gronyn hwnw; oblegid pan y planwyd ef yn y ddaear dygodd ffrwyth
toreithiog.
John. - Y mae yna y fath fywyd hefyd yn yr Efengyl. Bydd fyw pan y
byddwn ni feirw - fel y dywedodd y Merthyr wrth farw, pan wedi ei rwymo wrth yr
ystanc - “gellwch fy lladd i -
Jemima. - Yn gladdedig yn y ddaear, nid yw yr hedyn yn aros yn ddifywyd.
Gwthia ei ffordd yn mlaen, a chyda rhyw nerth rhyfeddol gwthia o'r neilldu bob
rhwystr fo ar ei ffordd, ac ymddengys trwy'r tir yn eginyn prydferth a
gwanaidd,
David. - Gall y foson fochan gael ei ch irio gan y gwynt neu ei gollwng
i agcn y graig gan aderyn, a thyf y fesen yna yn ddistaw nes y bo yn dderwen; a
pharha i dyfu iies y galluogir hi o'r diwe.dd i godi y gareg o'i lle a dryllio
y graig yn ddarnau.
Mary. - Yn yr ystyr yna y mae yn arwyddlun priodol o Air Duw, yr hwn, ar
ol iddo gael lle yn meddwl y pechadur, a'i faethu gan gawodau o'r nefoedd, a
dyr y galon galetaf yn ddrylliau. “Onid yw fy ngair i megys tân? medd yr
Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio y graig?”
John. - Mae'r gwirionedd yn allu ag nas gall dim ei wrthsefyll; caria
o'i flaen bob rhwystr fo ar ei ffordd, a buddugoliaetha ar gynddaradd y gwynt
a'r ystorm. Ymosodwyd arno gan ddynion drwg yn mhob oes, ond parha i fyw, tra y
maent hwy yn pydru yn eu beddau. “Gwirionedd sydd allu, a llwydda.”
Jemima. - Y fath beth bychan yw hwnw! (Dalia ronyn gwenith yn ei llaw).
Ac eto byddai i'r un groyn hwn, pe heuid cynyrch pob tymor eilwaith, ymledu o
faes i faes, (x38) o wlad
i wlad, o gyfandir i gyfandir, nes y byddai iddo mewn ychydig flynyddau
orchuddio gwyneb yr holl ddaear a'i ffrwyth - gan roddi gwaith i bob cryman,
llenwi pob ysgubor, a phorthi holl drigolion y ddaear!
David. - Ni chymer y fath ddigwyddiad byth le mewn natur, ond gyda'r
Efengyl bydd felly mewn gwirionedd. Bydd i bob gwlad gael ei hau a hâd yr
Efengyl, a phob teyrnas ddwyn ffrwyth mawr er gogoniant i Dduw.
Mary. - Ië, bydd i'r hedyn a darddodd allan yn Bethlehem ymledu dros
rewllyd-leoedd ac anialdiroedd y byd; ac fel y mae pob diferyn o waed sy'n
llifo yn ngwythïenau plant dynion yn brawf eu bod oll yn perthyn i'r un teulu,
felly fe ddaw yr amser pan y bydd i drigolion pob gwlad a hinsawdd dderbyn yr
un wir ffydd, ac ymddiried yn yr un Ceidwad.
John. - Am yr hau a'r medi yma y soniai y
proffwyd pan yr ysgrifenai, “wrth edrych yn mlaen i'r dyfodol,- “Bydd dyrnaid o
y^d ar y ddaear yn mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus.”
Jemima. - Dysgir ni hefyd yn y dameg hon mai dyledswydd dyn ydyw paratoi
y tir, hau yr hâd, a chasglu y ffrwyth; ond gallu Duw yn unig sy'n peri i'r hâd
i dyfu;
David. - Ar ol holl ymchwiliadau athronwyr,
Mary. - Fel yr ydym yn gweled yr y^d yn tyfu, yn gyntaf yr eginyn, ar ol
hyny y dywysen, yna yr y^d yn llawn yn y dywysen; felly y mae gyda crefydd; yr
ydym yn sylwi ar y cyfnewidiad mewn dynion o un radd i radd arall - o un bywyd
i fywyd arall - ond nis gallwn wybod pa fodd y mae yr effaith yn cael ei
gynyrchu. “Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy yspryd, medd yr
Arglwydd.”
John. - Fel y mae mewn natur felly hefyd y mae mewn crefydd. Rhaid i
ddyn hau yr had a gofalu yn dyner am y (x39)
planhigyn gwanaidd; ond fel y mae Duw anweledig yn gwnpyd I'r gwellt dyfu,
felly y mae Duw anweledig yn maethu yr enaid, a blaendardda a thyfa planhigion
crefydd, a blodeuant a ffrwythant mewn harddwch. Ac fel y mae un cnwd o wenith
yn cynyrchu yr hâd i un arall, felly y mae yr Efengyl yn ffynu o genhedlaeth i
genhedlaeth, ac y mae pob pechadur dychweledig yn dyfod yn foddion i wasgar yr
hâd da i galonau eraill, y rhai yn eu tro a ddygant ffrwyth arall, ac felly y
mae gair yr Arglwydd yn rhedeg ac yn cael gogonedd.
Jemima. - Wrth ddiweddu, yr ydym yn cael ein dysgu ein bod yn ein holl
ymdrechion i ddibynu ar Dduw, oblegid hebddo ef y mae dyn yn wanach na'r gorsen
ysig; ond trwy ei fendith ni bydd ein hymdrechion yn ofer, ond dug ffrwyth
lawer. “Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a'i cei ar ol llawer o
ddyddiau.” “Canys fel y disgyn y gwlaw a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel
yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo hâd i'r
hauwr a bara i'r bwytawr: felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau! ni
ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth
yr anfonais ef o'i blegid.” Isaiah 55. 10, 11.
David. -Yr wyf yn meddwl na allwn derfynu yn well na thrwy ganu fy hoff
Hymn; ac efallai y gwna yr holl gynulleidfa uno a mi.
.....................“O
agor fy llygaid i weled
.......................Gogoniant
dy arfaeth a'th air;
.....................Mae'n
well i mi gyfraith dy enau
.......................Na miloedd o arian ac aur:
.....................A'r
ddaear ar dan a'i thrysorau,
.......................Ond
geiriau fy Nuw saif yr un;
.....................Y
bywyd tragwyddol yw 'nabod
.......................Fy
Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn.
(x40)
(=7) Heddwch a Rhyfel
I DRI O FECHGYN.
[Arthur a Dafydd yn dyfod yn mlaen.]
Arthur. - Wel, Dafydd, a
welsoch chwi y review ar y
milwyr ddoe?
Dafydd. - Na welais Arthur. Nid oes genyf lawer o
flas at bethau felly.
Arthur. - Gallaf eich sicrhau
fod yr olygfa yn un ogoneddus! Nid oes dim yn fy moddhau yn fwy na gweled y soldiers yn myn'd trwy eu hexercises. Gobeithio nad ydych chwi
ddim yn anghymeradwyo pethau felly.
Dafydd. - I ddweyd fy meddwl yn blaen wrthych, y
mae genyf wrthwynebiad cryf i bobpeth o'r fath yna. Nid wyf yn gweled
angenrheidrwydd am y fath rodres a balchder; nid yw yn tueddu at ddim ond i
gamarwain pobl ieuangc, a magu cariad at ryfel.
Arthur. - Wel yn wir! ac yn wir
hefyd, 'rwyf yn gobeithio nad ydych yn un o'r creaduriaid digalon ac ofnus hyny
a alwant eu hunain yn garwyr heddwch.
Dafydd. - Gelwch chwi hwynt y
peth a fynoch, yr wyf yn union o'r un farn a hwy. Ni welais erioed eto
fuddioldeb rhyfel, ond yr wyf wedi gweled y dinystr arswydus a wnaeth.
Arthur. - Mae'n debyg eich bod
wedi cael gafael ar rai o hen resymau gwanwan ac ynfyd Cymdeithas Heddwch. Pe
byddai i ni gario allan eu hegwyddorion hwy, fe fyddai genym fyd hynod mewn
ychydig amser!
Dafydd. - Y mae hyny yn aros i
gael ei brofi: mae genym brofion poenus o erchylldra rhyfel, ac nid yw ond teg
i egwyddorion heddwch gael eu profi cyn eu condemnio.
Arthur. - Wel, mi fuasai yn dda
genyf gael gwybod pa fodd y buasai y deyrnas hon yn codi i'w bri a'i mawredd
presenol heb gymhorth ei byddin gref a'i llynges anorchfygol?
Dafydd. - Nid yw Prydain Fawr yn ddyledus am ei
safle (x41) uchel i greulonderau rhyfel, ond i ryddid
ei sefydliadau, a diwydrwydd ac anturiaeth fasnachol ei phlant; ac nid yw ein
Brenhines yn cael ei chynal ar ei gorsedd trwy rym cleddyfau a bidogau, ond
trwy deyrngarwch a pharch ei deiliaid.
Arthur. - Ond, ar ol y cwbl, y
mae yna ogoniant mewn rhyfel; ac y mae enwau milwyr enwog wedi eu cario i lawr
i ni gyda pharch, ac wedi bod yn destynau caniadau beirdd pob oes; ac y mae
cofgolofnau wedi eu codi i fytholi eu henwogrwydd.
Dafydd. - Ac eto, gyda'u holl
ogoniant a'u bri, nifer fach o honynt a fuont feirw o farwolaeth naturiol.
Torwyd pen Cyrus gan wraig. Llofruddiwyd Philip o
Arthur. - Ond edrychwch ar Duc
Wellington yn ymddyrchafu mewn parch, yn byw i oedran teg, yn marw yn nghanol dagrau
a galar ei wlad, ac yn cael ei gladdu mewn bri a gogoniant mawr.
Dafydd. - Nid yw hynyna ond
eithriad i'r rheol gyffredin. Ond yn lle gadael i'ch dychymyg i aros uwchben yr
hyn a alwch yn ogoniant rhyfel, ewchi faes y frwydr yn y nos, ac edrychwch ar y
miloedd trueiniaid archolledig yn gymysg a chyrff meirwon eu cymdeithion, yn
wasgaredig ar y ddaear laith a gwaedlyd. Y mae yna ryw swn heblaw seiniau
peraidd cerddoriaeth: - yna fe glywch ocheneidiau y rhai fo'n marw a gwaedd
dorcalonus y gweddwon a'r amddifaid.
Arthur. - Mae hyny yn wir; ond
Dafydd. - Ond symudwch yr
achos, a bydd i'r effaith beidio. Ystyriwch fel y llosgir ac yr yspeilir
dinasoedd a threfydd, y dinystr a wneir ar ffrwythau y ddaear, y golled ar
eiddo, a'r modd yr aberthir miloedd o fywydau diniwaid. A ydych yn meddwl fod
enill tiriogaeth neu ogoniant rhyfel yn ddigon i ad-dalu am y pethau hyn?
Arthur. - Nid wyf yn dweyd eu
bod. Ond os bydd i bobloedd a chenhedloedd wrthryfela ac ymosod, rhaid eu
cospi.
Dafydd. - Rhoddwch iddynt
ryddid gwladol a chrefyddol, a (x42) bydd gwrthryfel yn anadnabyddus. Gellid
atal y pethau hyn am lawer llai o arian nag a werir mewn rhyfel. Dywedodd un
athronydd unwaith, “Gadewch i mi gael yr arian a wariwyd mewn rhyfel, a phrynaf
bob troedfedd o dir ar y blaned ddaearol i gyd. Gwisgaf bob dyn, gwraig, a
phlentyn, mewn dillad teilwng o frenhinoedd a brenhinesau. Adeiladaf ysgoldy ar
lethr pob bryn,ac yn mhob pentref trwy'r byd. Adeiladaf golegdy yn mhob tref, a
gwaddolaf ef; athrofa yn mhob sir, a'i llenwi ag athrawon cymwys. Coronaf bob
bryn a lle addoliad; a chynaliaf yn mhob pwlpud bregethwr galluog; ac ar bob
boreu Sabboth bydd i sw^n addoliad ateb sw^n addoliad o gylch y byd; a bydd i
lais gweddi fel sw^n taranau lawer esgyn fry i'r nef yn aberth moliant y
bydysawd.”
Arthur. - Yn wir, fy nghyfaill
Dafydd, yr ydych yn myn'd yn ddoniol iawn; ond pa ddyben sôn am beth nad oes
gobaith y cyflawnir ef byth. Y mae rhyfel wedi arfer bod o'r dechreuad, a
rhyfel a rhyfeloedd a gawn hefyd tra bo'r byd yn fyd.
Dafydd. - Peidiwch myn'd yn rhy
gyflym Arthur. Hyderaf nad ydych yn gwadu gwirionedd y Beibl. Oblegid os credwn
y llyfr hwnw, rhaid i ni gredu mewn amser heddwch, pan y bydd i bob dyn ganfod
yn ei gyd-ddyn gyfaill a brawd; rhyfel, gyda'i afonydd gwaed, ni bydd mwyach;
pan y dysgir march ffroenuchel rhyfel i gyflawni gwell gwaith na sathru dynion
i'r ddaear; pan y bydd y môr mawr llydan yn brif-ffordd y cenhedloedd i dramwyo
ar hyd-ddi a chyfnewid cynyrchion eu diwydrwydd; a phan y troir y cleddyfau yn
sychau, a'r gwaewffyn yn bladuriau.
Arthur. - A ydych am i ni anfon
ein milwyr i'w cartrefleoedd a thynu i lawr ein hamddiffynfeydd?
Dafydd. - O nag ydwyf. Nid oes
genyf wrthwynebiad i ryfel amddiffynol. Mae yn ddyledswydd ar bob gwlad i fod
yn alluog i amddiffyn ei hun rhag gelynion estronol. Gwrthwynebu rhyfel
ymosodol yr ydwyf. Dinystria fasnach, coda brisiau angenrheidiau bywyd, gosoda
drethoedd trymion, a thloda yr holl boblogaeth.
[Frank yn dyfod yn mlaen.]
Arthur. - O! dyma Frank. Pa
fodd yr ydych heno?
Frank. - Yr wyf yn iach, diolch i chwi. Y mae
arnaf ofn fy mod yn eich rhwystro yn eich ymddiddan.
(x43) Dafydd.
- O nag ydych mewn modd yn y byd. Y mae Arthur a finau mewn tipyn o ddadl,
ac efallai y cydsyniwch i'n cynorthwyo i ddyfod i rhyw benderfyniad.
Frank. – ’Rwyf yn eithaf
boddlon. Pa beth yw testun eich dadl?
Arthur. - Y mae Dafydd wedi bod
yn siarad yn hyawdl yn erbyn rhyfel, ac yn ceisio fy mherswadio fod amser i
ddyfod pan y bydd heddwch yn gyffredinol.
Frank. – Yn yr ystyr yna, y mae
yn hollol gywir. Os credwn y Beibl rhaid i ni gredu hyny. Y mae'r amser yn sicr
o ddyfod pan y cyhoeddir newyddion da yr iachawdwriaeth yn mhob gwlad; pan y
dadblygir baner y groes ar bob bryn, ac y dylifa y bobloedd ati; pan y coronir
pob bryn a theml i Dduw, ac yr una pob gwlad i ddathlu cân i'r Gwaredwr cu; pan
na bydd i genedl godi cleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Dafydd. - Gobeithiaf eich bod
yn sefyll dros gael heddwch yn yr oes hon.
Frank. – Yr wyf yn credu mewn heddwch a rhyfel.
Arthur. - Sut felly.
Frank. – Yr wyf yn dadleu dros
heddwch rhwng dyn a Duw, a rhwng dyn a dyn; ond ar y llaw arall yr wyf yn
dadleu dros ryfel; mewn gair, yr wyf yn filwr fy hun.
Dafydd. - Yn wir! y chwi yn
filwr ac yn dadleu dros heddwch!
Frank. – Credaf y cyfnewidiwch
eich barn cyn y bydd i ni derfynu ein hymddiddan.
Arthur. - I ba fintai y
perthynwch?
F. - Mintai gyntaf y Gwirfoddolwyr, y fintai ardderchocaf a safodd erioed ar
faes y frwydr.
Dafydd. - Rhaid eich bod yn
camgymeryd. Ni chlywais erioed am y fath fintai.
Arthur. - Na finau chwaith. Pwy
yw eich cadben?
Frank. – Y Cadfridog mwyaf
gwrol a arweiniodd fyddin erioed. Nid yw eto wedi colli yr un frwydr. Mae
buddugoliaeth yn sicr i'r rhai a ymladdant o dan ei faner.
Dafydd. - Mae arnaf ofn eich
bod yn gysylltiol a rhyw gydfradwriaeth ddirgel.
(x44) Frank. – Nag ydwyf yn wir. Yr ydym yn
awyddus am gael yr holl fyd atom ond iddynt ’listio a ni. Yr wyf newydd dderbyn
comisiwn i restru milwyr, a chan eich bod yn ddau ddyn ieuaingc cyfaddasol,
byddai yn dda genyf eich ’listio chwi. Dewch yn awr, gadewch i mi roddi i chwi
y bounty!
Arthur. - Rhaid i mi wybod mwy
am y peth yn nghyntaf.
Dafydd. - Ni fynwn er dim
ddiraddio fy hun trwy gefnogi y fath symudiad.
Frank. – Sicrhaf chwi fod y gwasanaeth y mwyaf
anrhydeddus yn yr holl fyd.
Arthur. - Wel, dangoswch i ni
eich comisiwn ynte.
Frank. – [Yn
rhoddi iddo ddarn o bapur]. Dyma fe.
Arthur. - [Yn darllen] - “Ewch
i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i bob creadur.”
Dafydd. - Ond adnod o'r Beibi
yw hona.
Frank. – Ie, dyna ydyw. Y Beibl
yw ein deddf-lyfr. Iesu Grist yw ein cadben. Mae ein harfogaeth yn gyflawn a
pherffaith. Mae y gyflog yn dda; a'r gwasanaeth yn anrhydeddus. Brawdoliaeth
heddwch ydyw, ond mewn rhyfel a satan, acyn ymladd yn erbyn drygioni,
eilun-addoliaeth, cyfeiliornad, ofergoeledd, caethiwed, a phobpeth ag sydd yn
darostwng a dinystrio dynion. Yr ydym yn amcanu at goncro y byd. Ein harwyddair
yw, “Y byd i Grist.” Ac er y gall y rhyfel fod yn faith ac yn boeth, y mae y
fuddugoliaeth yn sicr; oblegid fe ddaw teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd
ni, a'i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.
Dafydd. - Gan fod eich amcanion
mor glodwiw a heddychol, yr wyf yn dymuno i chwi bob llwyddiant.
Arthur. - Pwy a ddywedasoch
oedd eich cadfridog?
Frank. – Tywysog heddwch, Brenin
y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi. Darfu iddo Ef ei hun goncro lluoedd
uffern, ac yn awr Efe yw Cadben y fyddin Gristnogol. Mae yn rhoddi bounty; a gwobr ogoneddus ar ddiwedd
yr ymdrech. Dowch, unwch â ni.
Dafydd. - Beth ydych chwi yn
ddweyd, Arthur.
Arthur. - Unaf a'm holl galon!
(x45) Dafydd.
- Yna bydd i ni anghofio ein anghydwelediad o berthynas i ryfeloedd
teyrnasoedd, a thaflu ein hunain o lwyrfryd calon i achos mawr lledaeniad
trais, gormes, a thwyll.
Frank. - Dyna ddewisiad
ardderchog! Rhaid i chwi ddyfod at y Cadfridog, a rhoddi am danoch arfogaeth y
fyddin, a pharotoi i ymladd yn wrol frwydrau yr Arglwydd. A gadewch i ni ganu cyn ymadael un o'n caneuon dewisol.
....................“Mae'r Brenin yn y blaen,
.......................’Rym
ninau oll yn hy;
....................Ni saif na dw^r na thân
.......................O
flaen fath arfog lu:
...............Ni 'awn, ni 'awn dan ganu i'r lan,
...............Cawn wel'd ein concwest yn
y man.”
(=8) Y Creadur
Symudliw
(Evan ac Owen yn cyfarfod.)
Evan. - Prydnawn da i chwi, Owen Jones.
Owen. - Felly i chwithau, Evan
Morgan.
Evan. - Yr ydych wedi bod yn rhodio, debygwyf.
Owen. - Ydwyf; ac yn sicr i chwi, nid yn aml yr wyf wedi mwynhau fy
Evan. - Wel, yr un modd finau hefyd. Mae y tywydd mor hyfryd, fel mae’n
anhawdd peidio bod wrth ein bodd, onid yw hi?
Owen. - Eithaf gwir, fy nghyfaill. Ond pa le y buoch chwi yn rhodio,
gyda’ch cenad? A fuoch chwi ar lan yr afon yn ddiweddar?
Evan. - Dyma y cyfeiriad gymerais i heddyw.
Owen. - I lawr tua’r bont?
Evan. - Ië; ac yna drwy y coed.
Owen. - Beth! yr ydym eill dau wedi bod yn yr un cyfeiriad, y mae’n
debyg.
Evan. - Ac yna i lawr tua’r llyn.
(x46) Owen. - Ië. Ond a ddarfu i chwi sylwi
ar yr hen goeden yn agos i’r llwybr?
Evan. - Yr un bron a syrthio?
Owen. - Ië. Mi welais ryw greadur rhyfedd ar un o’r ceingciau; creadur
na welais erioed ei fath o’r blaen.
Evan. - Wel, dyma hi! bum inau yn sylwi
Owen. - Ië, hir a main, yn debyg iawn i fadfall.
Evan. - Pen yn debyg i eiddo pysgodyn, onide?
Owen. - Gwir. A thafod fel tafod neidr.
Evan. - Dyna chwi yn iawn i’r dim. Troed a thair ewyn.
Owen. - A chynffon hir anghyffredin i greadur mor hynod o fach.
Evan. - Yr un yn gywir! ac yn symud yn araf iawn, os darfu i chwi sylwi.
Owen. - Yr ydych yn berffaith iawn. A’i liw yn lâs, glâs goleu, onide?
Evan. – Ha! dyna gamgymeriad yn
awr, fy anwyl gyfaill. Gwyrdd oedd ei liw, gyda’ch cenad.
Owen. - Ond fy
anwyl gyfaill, gallaf sicrhau i chwi mai glâs oedd lliw y creadur.
Evan. - Glâs yn wir! fy nghyfaill anwyl i, paham na fuasech yn sylwi yn
fanylach fel y darfu i mi? cymerwch fy ngair i mai gwyrdd oedd e’n sicr i chwi.
Owen. - Gwyrdd! gwyrdd, yn wir! mi wn Evan beth yw gwyrdd, ac mi a wn beth
yw glâs, a gallaf ddweyd yn ddibetrus mai glâs oedd ei liw, a dyna i chwi!
Evan. - Beth sydd ar y dyn, dywedwch?
Owen. - Dyn, yn wir! cystal dyn a chwithau!
Evan. - Nid yn hyn o bwngc, beth bynag, canys yr wyf yn ddigon o ddyn i
sicrhau mai gwyrdd oedd y creadur, yn ngwyneb unrhyw greadur, a dyna i chwi.
Owen. - Creadur! wel, galwch fi yr hyn a fynoch; yr wyf yn dal i haeru
mai glâs oedd efe.
Evan. - Nage, gwyrdd.
Owen. - Nage, glâs!
(x47) (Morgan yn dyfod i fewn.)
Morgan. - Beth sy’n bod, gyfeillion, beth sy’n bod? beth yw’r holl ddadlu yma
sydd rhyngoch?
Owen. - Glâs! mi fynaf mai glâs oedd e.
Morgan. - Beth oedd yn lâs?
Evan. - Gwyrdd! yr wyf yn d’wedyd gwyrdd!
Morgan. - Ië; ond beth oedd yn wyrdd?
Owen. - Gwyrdd, yn wir! yr ydych wedi ynfydu.
Morgan. - Dewch, dewch; dyweded un o honoch am beth yr ydych yn dadlu.
Evan. - Ynfydu neu beidio, gwyrdd oedd e.
Morgan. - Beth oedd efe? dewch;
peidiwch bod yn chwerw fel yna, ond dywedwch beth sydd genych chwi mewn dadl,
yn awr?
Owen. - Beth! ond y creadur lawr yna.
Morgan. - Ar yr hen goeden?
Y ddau. - Ië, dyna fo.
Morgan. - Yn
debyg i fadfall.
Y ddau. - Ië.
Morgan. – Beth! yn awr y bum yn
sylwi
Evan. - Dywedwch y gwir yn awr,
onid gwyrdd oedd ei liw ê?
Morgan. - Gwelais ef yn wyrdd, mae’n wir.
Evan. - Dyna Owen Jones; ble’r mae’r glâs genych yn awr, dywedwch?
Owen. - Aroswch fy nghyfaill anwyl i; onid glâs oedd efe? gadewch i ni gael
y gwirionedd yn awr.
Morgan. - Mi a’i gwelais hi yn lâs hefyd.
Y ddau. - Ho! ho! dyna wawd yn
awr.
Morgan. - Dim mewn modd yn y byd, gyfeillion,
Y ddau. - Eglurwch, ynte.
Morgan. - Yr ydych yn iawn eich dau.
Owen. - Pa fodd mae hyny yn bosibl?
Morgan. - Goddefwch i mi egluro i chwi.
(x48) Y ddau. - O’r
goreu.
Morgan. - Chameleon yw y
creadur a welsoch chwi.
Owen. - Wel, beth am hyny?
Morgan. - Ac yn alluog i newid ei liw.
Evan. – Ho!
Owen. - Ha!
Morgan. - Yn awr y mae yn wyrdd, yna yn lâs, ac yna yn ddu, yn ol lliw y
goeden y byddo arni.
Evan. - Wel, mor ffol!
Owen. - Pwy sydd yn ffol?
Morgan. - Y naill fel y llall, fy nghyfeillion i.
Evan. - Dyna yr oeddwn yn myned i ddweyd.
Morgan. - Felly gyfeillion, chwi welwch yr angenrheidrwydd o fod yn
ofalus iawn cyn syrthio i ddadl. Pan glywoch ddynion yn ymgecru a’u gilydd mewn
dadl, gellwch benderfynu fod un os nid y ddau, heb ddeall yn lawn yr hyn ag
sydd ganddynt mewn llaw.
Owen. - Yn gywir fel Evan a finau.
Morgan. - Wel, mae’n dda genyf eich bod mor barod i wel’d y cymwysiad.
Evan. - Mae hyny yn rhwydd iawn mi welaf.
Morgan. - Da iawn. Ond prydnawn da i chwi eich dau mae yn rhaid i mi
eich gadael.
Owen. - Aroswch; yr wyf yn d’od gyda chwi.
Evan. - Peidiwch myn’d cyn ysgwyd dwylaw.
Owen. - Gyda phleser. Prydnawn da i chwi.
Evan. - Prydnawn da Owen, ac i chwithau Morgan.
(x49)
(=9) Sgweiar y Berw
(Dipyn yn llafar Mon.)
HUGH LLWYD oedd ei enw yn iawn,
A llwyd
o’r braidd oedd ei gymeriad,
A llwyd
mewn gwirionedd ei wedd,
Ond
tipyn yn goch oedd ei lygad;
Ei ddiod ef hefyd oedd goch,
A’r un lliw ydoedd ei wyneb,
‘N enwedig ei drwyn a’i ddwy foch,
Yn union yn ol y ddiareb.
Adwaenid e’n dda gan y plant,
A galwent e’n “Sgweiar y Berw:”
Yn Sgweiar, am iddo gael stâd
Ryw fodryb ar ol iddi farw;
A Sgweiar y Berw, bid siwr,
O
herwydd ei fod ef yn bwyta
Gwerth dimai o ferw y dw^r,
‘Rol
codi o’i wely’r peth cynta’.
“Hen lanc” canol oed ydoedd ef,
A’i hon alwedigaeth oedd “Porthmon;”
“Hen ferch” oedd yn cadw ei dy^,
“Hen lencyn” oedd hefyd ei “ hwsmon;”
Yn fferam ei stâd ‘r oedd yn byw,-
A fferam dda iawn yw hi hefyd;
Ond collodd y Sgweiar ei stâd,
A dyma
oedd dechreu ei adfyd.
Ond y fel ei stâd, ebai nhw,
Ei
hyfed wnaeth Sgweiar y Berw,
Yn mharlwr
ty^ tafarn “Y Blaidd”
Ei hyfed mewn licar a chwrw:
Bob nos fel y delai yr hwyr.
Fan hòno y gwelid ef wrthi
Yn gwagio ei boced yn llwyr,
I dalu
am ddwyn
(x50) Pan
oedd efe’r porthmon, Hugh Llwyd,
Ef elai
i’r Eglwys ar brydiau;
Ond wedi cael meddiant o’r stâd,
Fe
dorodd ei grefydd yn dipiau:
Ar foreu y Sul byddai’n awr
Yn aros
yn hwyr yn ei wely;
Ond byddai, mae’n wir, yn bur hwyr
Nos
Sadwrn yn myned i gysgu.
Nos Sul wedi myned o’r bobl
I
Eglwys y Plwyf a’r Capeli,
Ymdeithia’r
Ysgweiar yn nobl
I ganol
y casgiau a’r poteli:
Pan mae ei gym’dogion yn myn’d
I
chwilio am ddyfroedd i’r enaid,
Yn mharlwr “Y Blaidd”
mae y ffrynd
Yn yfed
wrth ford y gwatwariaid.
Bu’n byw yn ei ffarm yn o hir
Fel
tenant, ar ol iddo ‘i gwerthu;
Ond haner ei phris oedd am fîr
Er’s
tro yn ddyledus i’w dalu:
Ni chafodd ond haner yr aur,
Bu hyny
yn ormod i’w gadw;
A chwim yr ehedodd pob darn
O ddwylaw Ysgweiar y Berw.
Nid
yfed y cwbl wnaeth ef,
Oblegid,
pan fyddai mewn cwrw,
Fe
ranai ef ddiod mór gref,
A
thalai, heb ofyn na thwrw;
A rhoddi i’r Sgweiar y gwir,
Ni
byddai ef dranoeth yn holi
I b’le
byddai’r aur wedi ffoi, -
A
chaffai am hyny ei foli.
Daeth ar ei wir ffryndiau ef ofn
Mai
gwario ei stock wnai yn fuan,
A
rhedeg i ddyled ry ddofn
I godi o honi, y truan;
Dechreuodd yn wir ar y gwaith,
A gwerthodd rai o’r anifeiliaid:
Ysywaeth, y gwlanog o’r da,
Ar adeg cyfebriad y defaid.
(x51) Yn awr
mae yn debyg ei lun
I
ddafad yn myned i’r lladdfa;
Ond myned mae’r Sgweiar ei hun,
O’i
wirfodd, i lawr y lithrigfa;
Y ddiod galedodd ei wàr,
Y ddiod a’i rhoddodd mewn rhwydau,
Y ddiod a’i rhwymodd yn dyn
Yn rhaffau anwiredd ei nwydau.
Bu llawer o geisio ei gael
I
lawnodi’r ardystiad Dirwestol;
A byddai yn addaw yn hael
Dan
effaith y ddiod sy’ feddwol;
Ond dranoeth, er addaw mor deg,
I’r
dafarn äi e’n ol ei arfer,
A’r
gobaith am dano, fel niwl,
Ddiflanai
gan fyned yn ofer.
Nid ofer er hyny a fu
Ymdrechion
a chymhell diderfyn:
Meddyliau am dano oedd fry,
I’w
gipio o’r tân fel pentewyn;
Cyndynrwydd ei galon fel iâ,
A
doddodd yn ffrwd edifeiriol,
Mae
heddyw yn ddewr Demlydd Da
A milwr dan arfau Dirwestol.
Ei ydlan sy gyflawn o y^d,
A’i faesydd o iach anifeiliaid;
Yn awr ni chymerai mo’r byd
Am yfed mewn licar ei ddefaid;
Er colli ei feddiant o’r stâd
A gwario ei gwerth o aur melyn,
Adferwyd ei barch yn ei wlad
A llwyddiant y byd sy’n ei ddilyn.
Ond,
mwy na mawr werth
A mwy
na’r holl fyd yn ei gyfoefh,
Enillodd
hen aur y wlad well,
Sy’n
prynu doethineb i’r annoeth:
Nid ydyw yn yfed yn hwy,
Gan
foddi ei enaid a chwrw, -
Cenhadwr
Dirwestol ei Blwy’
Yn awr
ydyw Sgweiar y Berw.
(x52) Mae’n
rhoddi y Sabboth i’r Hwn
A’i
rhoddodd yn fendith i ddynion;
Mae wedi cael “lle yn ei dy^,”
Gan
brofi o’i rad addewidion;
Ei grefydd sydd iddo yn awr
Yn
gyflawn o’r puraf gysuron,
A’i
obaith a’i hyder yn fawr
Am gwbl
adferiad ei galon.
Mae’n
awr wedi dyfod yn w^r
Ac wedi ei
deitio o newydd:
Ei deitl yw “Sgweiar y Dw^r”
Ac ynddo mae’n hynod o ddedwydd.
Anghofier y llwybrau oedd gynt,
Anghofier y licar a’r cwrw,
A rhodder o’r galon rwydd hynt,
I’r proselyt Sgweiar y Berw.
(=10) Y Clarc Gonest
[PERSONAU: - Shopwr a'i Glarc. Y Shopwr yn
sefyll, ac yn agor llythyrau. Y Clarc yn eistedd wrth y bwrdd.]
Shopiwr. - [Wedi darllen y llythyr.] Mae masnach
yn hwylus anghyffredin. Digon o holi am goods,
a digon o goods i gyfarfod a
phob holiad. [Darllen llythyr arall.]
Halo! dyma dro lled chwithig yn awr. Dyma dipyn o ddyryswch yn wir! mae John
Thomas o'r Fron yn holi am y goods a
ordrwyd er's wythnosau yn ol, a finau heb eu danfon. Un go dyn yw John Thomas,
ac mae'n rhaid i mi edrych ato, onide, fe fyn e’ y ffyrling eithaf. ’Does dim i
wneyd ond ei ateb, a haeru fod y goods
ar y ffordd. William! [Yn troi
at y Clarc,] mae John o'r Fron wedi ysgrifenu ataf, ac yn dweyd fod y goods a ordrwyd ganddo heb eu derbyn
eto. Atebwch ef ar unwaith, a d'wedwch eu bod ar y ffordd cyn derbyn ei lythyr.
William. - A fyddai hi yn iawn
i ddweyd hyny, Meistr?
Shopwr. - Yn iawn? pa'm
ych chwi'n gofyn y fath beth?
(x53) WILLIAM. - Wel, Syr, -
Shopiwr. - Peidiwch fy syrio i,
Syr. Gwnewch beth yr wyf yn ei dd'wedyd wrthych.
William. - ’Dalla i ddim, yn
wir, Syr.
Shopiwr. - ’Dallwch chwi
ddim, Syr! Pwy yw'r meistr, gyda'ch cenad?
William. - Chwi, Syr.
Shopiwr. - Ië; fi yw'r meistr,
a gwnewch yn ol fy nghais i yn y fan, onide -
William. - Maddeuwch i fi,
Syr, mae'n well gen i gymeryd y canlyniad na'i wneyd e'.
Shopiwr. - A ydyw yn well
genych golli eich lle nac ufuddhau imi?
William. - Mae'n well genyf
golli fy lle na dweyd anwiredd.
Shopiwr. - Pa anwiredd?
William. - Dweyd fod y goods wedi myn'd, a'r goods yn yr yard ar yr un pryd.
Shopiwr. – [Yn troi at y bobl.] A glywodd rhywun y
fath siarad o'r blaen, tybed? os ä ein clarcod mor dyner eu cydwybodau a hyn,
fe aiff masnach i'r domen cyn bo hir. [Yn
troi at William.] William, chwi gewch bum munud i ystyried y peth.
Gwnewch eich meddwl i fyny yn awr, canys yr wyf fi yn benderfynol o fod yn
feistr ar fy nglarcod. [Yn myned allan.]
William. - Wel, beth
ddywed mam yn awr, tybed? byddaf yn sicr o golli fy lle. Nid wyf yn hidio am fy
hunan gymaint, ond mae mam yn sicr o wel'd eisiau fy nghyflog i. Dyna sy'n
myn'd at fy nghalon i. Fy mam yn dyoddef eisieu! ond ’rwyf yn sicr y bydd mam
yn fwy boddlon i mi golli fy lle na cholli fy nghymeriad. Hi sydd wedi fy nysgu
i ddweyd y gwir. Mi fentraf, doed a ddelo. Mi af oddiyma a'r galon yn dawel,
beth bynag; ac mi gredaf, fel mae mam wedi wedi dweyd yn aml, fod yna un a saif
o blaid y gwan.
Shopiwr. - [Yn dyfod i mewn] - Wel, William, a
wnaethoch chwi eich meddwl i fynu?
William. - Do, Syr.
Shopiwr. - Wel, a ydych yn
barod i ufuddhau?
(x54)
William. - Ydwyf, Syr, fel y
gwyddoch fy mod i yn wastad.
Shopiwr. - O'r goreu, William,
atebwch y llythyr yna yn union fel y gorchymynais i chwi.
William. - Rhaid i mi ddweyd
“Na wnaf” i hynyna, yn wir Syr.
Shopiwr. - Beth! ond yn awr
yr oeddych chwi yn dweyd y buasech yn ufuddhau i mi.
William. - Gwnaf hyny, Syr,
yn mhob peth ond dweyd anwiredd.
Shopiwr. - Wel, William,
rhaid i mi gyfaddef mai chwi sydd yn iawn, a thra y byddoch chwi yn glynu i
ddweyd y gwir, nid oes achos i chwi ofni colli eich lle.
[Yn troi at y bobl.] Nid yn aml y ceir
bachgen yn foddlon i golli ei le yn hytrach na dweyd anwiredd, ac wedi cael y
fath un, mae'n well codi yn ei gyflog na'i golli. Mae'n dda genyf fod un yn fy
ngwasanaeth y gallaf ymddiried ynddo. [Yn
mynd allan.]
William. - Dyma wers fy mam yn
talu ei ffordd yn rhagorol. Mi a af ati yn awr i ddiolch iddi, canys hi sydd yn
haeddu y clod i gyd.
(=11) Rhannu’r Deisen
(I ddwy ferch ac un bachgen.]
Mary. - Ac mae gen inau ddime
hefyd.
Mary. - Wel, gadewch i ni eu rhoi at eu gilydd, a phrynwn teisen [sic]
geiniog. Bydd hyny yn well na phrynu pob o deisen ddime; a gallwn ei rhanu
rhyngom wed'in.
Mary. - Dewch wel'd eich dime; mi redaf i brynu un yn awr. [Mary yn myned a1lan.]
[Mary yn dyfod.]
Mary. - Dyma hi,
Mary. - Ond yr haner, sicr
iawn.
Mary. - Dyma fo, onide?
Mary. - Wel, faint yw'r haner, Frances.
Mary. - O nag yw, yn siwr i chwi; yr ydych am gael mwy na'ch rhan o
lawer iawn.
Mary. - Na chewch, yn sicr; chewch chwi ddim cymaint ag a ddarfu i chwi
ddangos yn awr.
Mary. - Chwi beth! dywedwch beth wnewch chwi!
Mary. - Cewch, ond i chwi foddloni ar yr haner.
Mary. - Beth sydd ar y
ferch?
[Lewis yn dyfod.]
Lewis. - Beth sy'n bod
ferched? Beth sy'n bod?
Mary. - Ond Frances sydd am gael mwy na'i rhan o'r deisen yma!
Mary. – Haner i bob un, siwr iawn.
Lewis.- A gaf fi ei rhanu
hi drosoch chwi?
(x56) Mary.
- Cewch, os ydyw
Lewis.- Rhowch wel’d y deisen
yn awr ynte, mi wnaf fy ngoreu i'w rhanu. - [Yn ei thori yn ddwy.] Hawyr! yr ydwyf wedi methu, yr wyf yn ofni.
Mae hwn yn fwy na hwn; ond aroswch chwi; mi wn beth i'w wneyd. [Yn bwyta peth o'r tamaid mwyaf.]
Lewis.- Wel,
Mary. - O'r anwyl! chwi ewch a fy rhan I i gyd!
Lewis.- Gan bwyll, fy
merch i; gan bwyll. Mae hwn ar y mwyaf yn awr. - [Bwyta.]
Mary. - Dyna, dyna! yr wyf yn foddlon i gymeryd fy rhan i fel y mae ê,
os caf fi, Lewis.
Lewis.- Rhaid bod yn gyfiawn,
fy merched bach i. Hwn sydd fwyaf yn awr. - [Bwyta.]
Mary. - Beth! mae fy rhan i bron wedi myn'd yn llwyr! Ffei! ohonoch, yr un câs!
Frances. – Ië, yr un câs yn siwr! Pwy
sy'n myn'd i fwyta ar eich ol chwi, yr un brwnt!
Lewis.- Ai dyna'r diolch yr wyf
yn ei gael genych?
Mary. - Beth allwch chwi ddisgwyl ar ol chwareu y fath gast a ni? Diolch
yn wir!
Lewis.- Felly yn siwr! Mi welaf
fod yn rhaid i mi edrych ataf fy hun. - [Yn
bwyta'r gweddill.] Dyna; gan nad oes dim gobaith eich boddloni, ’does
dim i'w wneyd ond i mi geisio boddloni fy
Mary. - Wel yn wir! dyna dro onide? A welsoch chwi erioed y fath beth?
Mary. - Wel! mae'n gywir fel cyfreithio.
(x57)
Mary. - A ninau y ffyliaid yn ei ddwylaw, yn colli'r cyfan. Wel, mi
gofiaf y tro am tipyn.
Mary. - Felly finau. A chyda hyny,
Mary. - Ië wir. Rhaid myn'd, boreu da.
(=12) Balchder a Gaiff Gwymp
Y CYMERIADAU
A GYNRYCHIOLIR:-
MR. CRISPIN - Crydd.
MRS.
CRISPIN - Ei wraig.
HARRI
JONES - Ei gyfaill.
JOHN
PARRY - Gwerthwr cyfranau (shares)
ANNIE
CRISPIN - Merch Crispin.
[Mr. at Mrs. Crispin yn dyfod yn
mlaen.]
Mr. Crispin. - Wel, fy anwylyd,
dyma gyfnewidiad er gwell mewn gwirionedd - dyma rhywbeth gwerth llawenychu o'i
blegid.
Mrs. Crispin. - I , yn wir! Beth a ddywed y Jonesiaid yn awr pan y
gwelont ni yn tori tipyn o ffigiwr yn y byd.
Mr. Crispin. - Mi synant dipyn mi gwaranta nhw. A phwy fuasai yn meddwl
y buasai hen ewythr Bryngoleu ag oedd mor ddiystyrllyd o honom tra yn fyw, yn
gadael ei holl arian i ni ar ei ol.
Mrs. Crispin. - Na ofalwch pa beth a wnaeth pan yn fyw; digon i ni ydi
gwybod fod ei bum mil punau yn eiddo ini.
Mr. Crispin. - Wel lwc yn iawn oedd yn wir!
Mrs. Crispin. - Ië,
achos gallwn fyn'd i fyw i dy^ mawr -
(x58) Mr.
Crispin. - A chadw gwas a morwyn -
Mrs. Crispin. - Cael
y dillad a fynom! -
Mr. Crispin. - Canu
yn iach i'r lapstone a'r cwyr -
Mrs. Crispin.- Anghofio
ein hen ffrindiau -
Mr. Crispin. - Ie,
a byw mewn style!
Mrs. Crispin. - Debyg iawn! gadewch i mi wel’d. Dyna deulu Williams;
maent yn od o vulgar: teulu
Harris; maent mor dlawd a llygod eglwys! a dyna Harri Jones, mae yn siarad yn
rhy blaen i'm boddhau i.
Mr. Crispin. - Ond fy merch anwyl i, y mae Harry yn hen gyfaill. Rhaid i ni beidio troi
ein cefnau
Mrs. Crispin. - Yr wyf yn dweyd
fod yn rhaid i ni ei adael a gwnawn hyny hefyd!
Mr. Crispin. - Wrth gwrs os ydych yn dweyd hyny mae'r peth wedi ei
setlio.
Mrs. Crispin. - Ac yn
awr dowch yn mlaen. Mae arnaf eisieu rhoddi ychydig wersi i chwi pa fodd i
ymddwyn yn eich cylch newydd.
Mr. Crispin. - Or
goreu. Gwnaf fy ngoreu i ddysgu.
[Yn myned o'r neilldu, a Harri Jones y
dyfod yn mlaen.]
Harri. - Pa beth sydd wedi dyfod dros fy hen gyfaill Crispin?
Cyfarfyddais ag ef ychydig funudau yn ol, ac yr oedd yn edrych fel pe buasai y
hyd yn lle rhy fach i'w gynwys. ’Roedd ei ben i fyny a'i lygaid tua'r sêr, yn
wir yr oedd arnaf ofn iddo fyn'd yn erbyn rhywbeth a syrthio i'r baw. Beth all
fod yr achos, tybed? efallai ei fod wedi bod yn mesur cryn nifer o draed am
esgidiau newyddion, ac fod y fath lwyddiant masnachol sydyn wedi effeithio ar
ei ben; ni ryfeddwn ddim, achos ni chafodd erioed ei boeni gan ormod o ymenydd.
Holo! pwy sydd yn dyfod? John Parry, fel ’rwy’ byw! Both sydd ganddo yn awr
tybed? Mi waranta mai rhyw dric i hudo arian oddiar yr anwybodus a'r diniwed!
[John Parry yn dyfod yn mlaen.]
Parry. - (Yn cerdded yn gyflym
ac ymffrostgar.j Ah! fy anwyl Harry - fy anwyl a hoff hen gyfaill, pa
fodd yr ydych - mae yn dda genyf yn fy nghalon eich gweled yn edrych gystal.
(x59) Harri.
- Felly yn wir. Yr wyf yn eitha iach, diolch i chwi.
Parry. - Pa fodd y mae eich gwraig dda a'ch plant bach hoffus? Gwelais
hwy y Sul ’dwaetha, ac yr oeddynt yn edrych mor brydferth ag angylion bychain.
Eitha gwir Syr. Ah, Syr, dylech fod yn falch o honynt.
Harri. - Wel, yr wyf yn falch o
honynt.
Parry. - ’Rwyf yn gwybod eich bod. Y fath beth dymunol yw teimlo y
cyfrifoldeb o ddarpar ar gyfer y pethau bach anwyl!
Harri. - Efallai pe buasech yn dad y cawsech allan nad yw y cyfrifoldeb
mor llawn o farddoniaeth ag y gallech feddwl.
Parry. - Yn hollol felly. Yr ydych yn gywir, fy anwyl Syr; mewn gair yr
ydych yn hollol gywir. Nid barddoniaeth ydyw gofalu am lon'd ty^ o blant; ond
ambell waith mae ffyrdd a moddau trwy ba rai y gellir gwneyd y peth yn bleser -
yn bleser. Mae hyn yn ffaith, Syr!
Harri. - Efallai hyny; ond digon i mi ydyw gwybod fy mod yn cael cynaliaeth
onest i'm teulu trwy ddilyn celfyddyd onest.
Parry. - Yn hollol felly. Ond yr wyf yn apelio atoch fel dyn o farn.
Onid ydych yn meddwl yn awr mewn gwirionedd pe bae'ch yn cymeryd ychydig shares -
Harri. - Ychydig beth?
Parry. - Ychydig shares mewn
anturiaeth ardderchog -
Harri. - Nid wyf yn gwybod am yr un.
Parry. - Yn gywir! ond gan fy mod yn gyfaill, yn gyfaill calon i chwi -
Harri. - Ewch yn mlaen.
Parry. - Mae genyf fel gyfaill i chwi i ddwyn ger eich bron raghysbyslen
cwmni newydd - cwmni newydd, Syr -
Harri. - Ewch yn mlaen. Yr wyf yn gwrando.
Parry. - Esgusodwch fi. Y mae meddwl am fawredd ac aruthroledd y peth,
a'r anmhosibolrwydd o'i ddarlunio mewn iaith briodol, yn fy nyrysu yn deg.
Harri. - Mae hyny yn fy synu yn wir.
(x60) Parry.
- Pa fodd bynag dyma raghysbysiad (prospectus) Cwmni Cocosaidd Cyffredinol. Capital £500,000,000 mewn pum can' miliwn o shares punt yr un. Amcan: cyflenwi yr
holl fyd a'r planedau a chocos byd-enwog Traeth Lafan.
Harri. - Amcan gogoneddus yn wir!
Parry. - Yn hollol felly, Syr. Gwelaf eich bod yn w^r o farn.
Harri. - Wrth gwrs fe fydd pawb yn prynu shares.
Parry. - Dim cysgod o amheuaeth am hyny, Syr.
Harri. - Ond pwy sydd yn rhoddi sicrwydd am ddiogelwch yr arian a
llwyddiant yr anturiaeth?
Parry. - Dyma eu henwau, Syr. [Yn
darllen o bapyr.] “Cyfarwyddwyr: Arglwydd Gwagsïol, Iarll Penfeddal,
Henry Tafodlyfn, Yswain, A.S., a Duc Fiddle-de-de.” Yr ydych yn gweled fod
genym ddynion ardderchog ar y bwrdd.
Harri. - Ac y maent wedi addaw bod yn gyfarwyddwyr y cwmni?
Parry. – Wel - hyny ydi - nid ydw i yn meddwl y gwrthodant - mae hyny
gystal a phe buasent wedi addaw.
Harri. - Cynllun
ardderchog!
Parry. - Yr oeddwn yn meddwl mai dyna fuasech yn ddweyd.
Harri. - Yn sicr o dalu yn dda!
Parry. - Dim dadi am hyny. Ac yn awr, Syr, gadewch i mi gynyg i chwi
ychydig shares yn yr anturiaeth
ogoneddus yma.
Harri. - Na, ni chymeraf yr un.
Parry. - Beth ddywedsoch? chymerwch chwi yr un share? yr ydych yn fy synu!
Harri. - A ydwyf fi? yr oeddwn yn arfer meddwl fod hyny yn anmhosibl.
Parry. - Mewn gwirionedd, pa beth ydych yn feddwl?
Harri. - Yr wyf yn meddwl hyn: gall dynion gonest efallai
edrych ar yswigen yn ymddryllio, ond ni charant fod ynddi pan yr ymdora!
Parry. - Syr! goddefwch i mi ddweyd--
(x61) Harri. -
Parry, yr wyf wedi goddef i chwi ddweyd digon a gormod hefyd. Ewch i geisio
twyllo rhywun gwirionach na Harri Jones! yr wyf yn gweled trwyddoch o'r goreu.
Parry. - Gwnaf i chwi edifarhau arfer y fath iaith -
Harri. - Yn awr, peidiwch a bod yn asyn yn ogystal a ffwl.
Parry.- [Yn cipio ei het yn sydyn.] O'r goreu, Syr. Cewch glywed
oddiwrthyf eto.
Harri. - Yr hyn a hoffwn glywed am danoch fyddai eich bod wedi gweled
cyfeiliornad eich ffordd, ac wedi rhoddi i fyny i fyw ar ffolineb eich cyd-ddynion.
Parry. - Mae hyn yn anyoddefol.
Harri. - O'r goreu, dyna'r drws!
Parry. - Wel, fe gawn gyfarfod eto. Cofiwch hyny. Mi a'ch cospaf hyd
eithaf y gyfraith.
[Parry yn myned o'r allan.]
Harri. - Pan y cyfarfyddwn, hyderaf mai fel cyfaill a chyfaill y bydd
hyny, ac nid fel y pryf copyn a'r pryfyn. Dechreuodd trwy ddweyd mai myfi oedd
ei gyfaill - ei anwyl gyfaill - ond diwedda - Wel, waeth sut y diweddodd,
oblegid ar ol y cwbl nid yw ond yn profi yr hen air fod amgylchiadau yn
cyfnewid pethau. Ond dyma Annie fach yn dyfod. Efallai y caf wybod ganddi hi
beth yw y mater ar ei thad.
[Annie Crispin yn dyfod yn mlaen wedi ei
gwisgo yn goegfalch.]
Annie. - Ah! Mr. Jones, pa fodd yr ydych?
Harri. - Yr wyf yn iach diolch i chwi. Ond beth yw y mater arnoch chwi.
Nid yw eich gwyneb trist yn ateb yn dda i'ch gwisg smart.
Annie. - Nid wyf yn gofalu dim am fy ngwisg smart: byddai yn dda genyf ei thaflu ymaith, a ninau mor dlawd
ag oeddym o'r blaen.
Harri. - Tlawd! ni chlywais eich bod wedi myned yn gyfoethog o gwbl!
Annie. - Oni chlywsoch fod rhywun wedi gadael swm mawr o arian i nhad?
Ac - ac - [Yn wylo.]
(x62)Harri. -
Dowch Annie. Siaradwch. Gadewch i mi wybod eich helynt.
Annie. - Wel, byddai nhad yn arferol o fy nghymeryd ar ei lin, a fy
ngharu, a fy nghusanu; ond yn awr -
Harri. - Mae'n debyg ei fod yn eich caru yn fwy nag erioed?
Annie. - Nag ydi yn wir! yr wyf yn cashau yr hen arian yna, oblegid
maent wedi peri i nhad a mam feddwl mwy o lawer am wisgoedd a phethau felly nag
am danaf fi.
Harri. - Ond onid ydych yn hoff o wisgoedd a phethau prydferth?
Annie. - ’Rwyf yn ddigon hoff o wisgoodd prydferth, mae'n wir; ond gwell
genyf gael fy ngham gan fy nhad a'm mam na holl wisgoedd y hyd. Oh! mi fyddai
yn dda genyf pe bae rhywun yn cymeryd yr arian yma, ac yn ein gadael mor dlawd
ag o'r blaen.
Harri. - Mae arnaf ofn eich bod yn gallach na'ch rhieni, Annie. Ac o ran hyny, efallai y cewch eich
dymuniad gyda golwg ar yr arian yna. A ddymunech hyny mewn gwirionedd?
Annie. - O dymunwn yn wir! yr wyf wedi bod yn gweddïo ar i Dduw gymeryd
ymaith yr arian, a'm gwneyd yn ddedwyd eto.
Harri. - Rhaid i chwi fod yn
amyneddgar, Annie, a cheisio aros ei amser Ef. Ond edrychwch, dyma eich tad a
John Parry yn dyfod. Gwell i ni symud o'r neilldu;
ac os dowch gartref gyda mi, mi allwch chwareu gyda Polly a Jane. Bydd iddynt hwy eich caru o galonau cywir, yr wyf
yn gwybod.
[Annie a Harri yn gilio o'r neilldu,
Crispin a Parry yn dyfod yn mlaen.]
Parry. - Fel yr oeddwn yn sylwi, Mr. Crispin, neu yn fwy cywir, fy anwyl
Mr.
Crispin, mae'r anturiaeth yn sicr o dalu; a
chyda'ch talent a'ch dylanwad -
Mr. Crispin. - Yr
ydych yn w^r o graffder, Mr. Parry,
Parry. - Diolch i chwi, Syr, am eich opiniwn uchel am danaf.
Gyda'ch talent a'ch dylanwad, gallwn wneyd rhyfeddodau. Tra yn eich llongyfarch
oherwydd y ffawd dda sydd wedi disgyn i'ch rhan, rhaid eich bod yn gwel’d
(x63) pe gellid ddyblu a threblu yr arian
yna, y gallech ymgyraedd am bethau mwy.
Mr. Crispin. - Yn ddiamheuol!
megis, er engraifft, cael -
Parry. - Eich ethol yn Aelod Seneddol. A goddefwch i mi eich sicrhau fy
anwyl Mr. Crispin, fy mod yn llwyr argyhoeddedig eich bod yn meddu ar bob
cymhwysder i'r swydd.
Mr. Crispin. – ’Rwyf yn meddwl
y gallwn wneyd rhywbeth yn y cyfeiriad yna.
Parry. - Yn ddiddadl Syr! Y foment y gwelais
chwi, dywedais wrthyf fy hun, dyma'r A. S. i ni.
Mr. Crispin. - Yr ydych yn w^r
o graffder neillduol.
Parry. - Dim o'r fath beth, Syr! Gwas y cyhoedd ydwyf fi, fy anwyl
Syr; a bydd y rhan yr wyf fi yn gymeryd yn y “Cwmni Cocosaidd Cyffredinol”
brofi i'r byd fy anhunanolrwydd!
Mr. Crispin. - O! fe dala yr
anturiaeth yn dda! Dim amheuaeth am hyny!
Parry. - Dim cysgod amheuaeth, fy anwyl Syr.
Mr. Crispin. - ’Rwyf yn hollol
gredu hyny; mewn gair, Parry, yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi am wneyd y peth
yn hysbys i mi. Mae genyf bum mil o bunau yn gorwedd yn segur, wyddoch, yn y
Banc, ac nid oes genyf wrthwynebiad i gymeryd cryn nifer o shares yn y cwmni.
Parry. - Wel, bydd yn anhawdd eu cael! Er hyny y mae genyf y fath barch
i chwi, fy anwyl Mr. Crispin, fel y gwnaf fy ngoreu. A phan y byddoch yn Aelod
Seneddol dros ein dinas fawr hyderaf y rhowch eich dylanwad o'm plaid mewn rhyw
ffordd neu gilydd.
Crispin. - Gwnaf! ’Rwyf yn rhoddi fy addewid.
Parry. - Diolch i chwi, diolch i chwi! (o'r neilldu) Gwell i mi guro yr haiarn tra byddo yn boeth!
Mr. Crispin. - Beth oeddych yn
ddweyd, Mr. Parry.
Parry. - Dim ond myn'd dros rhyw gyfrifon. Ië, o ran hyny, gallaf gael shares i'w arglwyddiaeth o fan arall.
Pa nifer hoffech gael Mr. Crispin? mae genyf rhyw nifer yn fy mhoced, y rhai a
allaf adael i chwi eu cael fel ffafr neillduol!
(x64) Mr.
Crispin. - Wel, diolch yn fawr i chwi. Ni bydd i mi anghofio eich
caredigrwydd, Mr. Parry. Gadewch i mi wel’d; ond pa beth ddywed Mrs. Crispin? ond beth
waeth am dani - nid oes angen am iddi
wybod am y peth. Cymeraf bedair mil o shares!!
Parry. - Mae hyny yn profi eich bod yn foneddwr o graffder anarferol, fy
anwyl Syr. [Yn cymeryd papyrau allan.]
Dyma y nifer, Syr. [O'r neilldu.]
Dyma'r helfa oreu a gefais eto.
Mr. Crispin. - [Yn
cymeryd allan archeb ar y Banc ac yn
ysgrifenu.] Dyna, Syr, yw y cheque
am y swm. Caniatewch i mi ddiolch i chwi, Syr, am ganiatau i mi nifer
mor fawr o shares yn y fath
anturiaeth ogoneddus.
Parry. - Peidiwch a son gair, anwyl Syr. Bydd yn bleser genyf gael eich
gwasanaethu unrhyw amser.
Mr. Crispin. –
Parry. - Diolch, Syr. Ond yn awr, gan fy mod yn gweled eich gyfaill
Henry Jones yn dyfod, rhaid i mi fyn'd. Boreu da, fy anwyl Syr. Boreu da. [Parry yn myn'd o'r neilldu.]
Mr. Crispin. -
[Harri Jones yn dyfod yn mlaen.]
Harri. - Wel, Crispin, fy hen gyfaill, beth yw y mater yn awr?
Mr. Crispin. - [Yn ei lygadu o'i ben i'w draed.] Ho! ha! ddaru chwi siarad a fi,
ddyn?
Harri. -
“Siarad a chi ddyn!” pa beth a feddyliwch?
Mr. Crispin. - Yr wyf o'r farn
eich bod wedi gwneyd camgymeriad.
Harri. - Yn wir? credaf fod mwy nag un o honom wedi gwneyd camgymeriad.
Mr. Crispin. - At
beth yr ydych yn cyfeirio? Eglurwch eich hun.
Harri. - Wel, yr oeddwn unwaith yn eich ystyried yn
(x65) weithiwr diwyd a gonest, yn feddianol
ar synwyr cyffredin; dyna un camgymeriad a wnaethym. Yr oeddwn hefyd yn credu
eich bod yn dad caruaidd, na buasai eich serch at eich deulu yn cyfnewid o dan
yr un amgylchiad. Dyna gamgymeriad arall. A gaf fi fyn'd yn mlaen?
Mr. Crispin. - Beth ydych yn
feddwl ddyn? Pwy ydych?
Harri. - Pwy ydwyf? Fe wyddoch o'r goreu! ond mi a'ch adgofiaf. Harri
Jones ydwyf fi, yr hwn unwaith a achubodd eich bywyd rhag boddi - yr hwn fu yn
yr ysgol gyda chwi, ac a'ch diogelodd rhag llawer curfa dda; a'r hwn hefyd a
roddodd fenthyg arian i chwi i ddodrefnu eich ty^ pan oedd eich arian yn fwy
prin nag ydynt yn bresenol. A wnaiff hynyna y tro, tybed?
Mr. Crispin. - Beth sydd ar y
dyn, tybed? nid wyf yn eich adnabod!
Harri. - Ond yr wyf fi yn eich adnabod chwi. Simon Crispin, boneddwr ag
oedd yn ddiweddar yn pwytho esgidiau.
Mr. Crispin. - Nid wyf yn
gwybod dim am bwytho, nac esgidiau, ddyn!
Harri. - Wel, yn siwr, mae'r dyn wedi gwirioni! ond credaf y bydd i'ch
trafodaeth a John Parry eich dwyn i'ch synwyrau eto. Mi fentraf ddweyd eich bod
wedi bod yn ddigon dwi i gymeryd eich perswadio ganddo i gymeryd shares yn ei anturiaeth dwyllodrus,
oblegid gwelais ef yn awr yn dyfod o'r banc, a thebygol fod ganddo swm da o'ch
arian yn ei logell.
Mr. Crispin. - Fy musnes i yw
hyny, ddyn, ac ni pherthyn ddim i chwi. [Yn
cymeryd ei het, ac yn myned o'r neilldu mewn dull mawreddog a bombastaidd.]
Harri. - Fel y mae arian yn gwneyd ynfydyn o ddyn heb synwyr i
ddefnyddio bendithion y nefoedd, a'u derbyn mewn yspryd priodol! Heddwch anwyl!
dyma Mrs. Crispin yn dyfod; a thrwy fod Crispin yn ymddwyn yn ol ei
chyfarwyddyd rhaid i mi ddisgwyl mesur llawn o'i diystyrwch.
[Mrs. Crispin yn dyfod yn mlaen, wedi
ei gwisgo yn ffasiynol ac yn rhodio yn fawreddog.]
Mrs. Crispin. - Yn mha le y mae Crispin tybed? Dywed Annie iddi ei wel’d
gyda John Parry. Dyn drwg yw
(x66) hwnw,
yr wyf yn sicr! Mae arnaf eisiau arian, ac mae'r cheque-book gan Crispin. Sut y bum mor ffol a gadael iddo ei gario, nis gwn. Yn wir,
dyma Harri Jones! Buasai yn well genyf beidio ei gyfarfod ef, yn anad neb. Ond
ni chymeraf arnaf ei adnabod! Ni ellir disgwyl i bobl yn ein sefyllfa ni i
arddel eu hen gydnabyddion vulgar ac
anwybodus.
Harri. - Wel, Mrs. Crispin, ymddengys eich bod mewn myfyrdod dwys yn
nghylch rhywbeth. Maddeuwch i mi am ofyn pa fodd yr ydych?
Mrs. Crispin. - Hoffwn gael gwybod pa hawl sydd genych i'm hanerch i?
Harri. - Hawl hen gyfaill yr hwn a wnaeth lawer o gymwynasau i chwi a'ch
priod yn yr amser a aeth heibio.
Mrs. Crispin. - Ni ddisgwylir i
ni gofio man ffafrau am byth! Heblaw
hyny, Mr. Jones, i fod yn blaen, y mae amgylchiadau wedi cyfnewid pethau gyda
ni -
Harri. - Er gwaeth, gellwch fod yn sicr, Mrs. Crispin.
Mrs. Crispin. - Nage, Syr, ond er gwell. Yr ydym yn awr yn anibynol ar y
byd, a gallwn fforddio diystyru yr hen gyfeillachau a ffurfiwyd genym pan oedd
pethau yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn bresenol.
Harri. - Tebygol fy mod i ystyried eich hen gyfeillach a mi yn y
dosbarth yna?
Mrs. Crispin. - Yn hollol felly, Syr! Ac yr wyf yn gobeithio y bydd yr
eglurhad yma yn ddigon, ac y bydd i chwi yn y dyfodol gadw eich lle eich hun, a
pheidio ceisio ymwthio at rai sy'n troi mewn cylch uwch.
Harri. - Gofalaf am wneyd hyny,
Mrs. Crispin. Pan y byddaf fi yn galw personau yn gyfeillion, byddaf yn disgwyl
iddynt fod yn gyfryw yn ystyr fanylaf y gair. Pan y byddont yn anghofio eu hunain,
byddaf finau yn eu hanghofio hwythau.
Mrs. Crispin. - Diolch i chwi. Bydd i hynyna fy moddhau yn hollol. A gaf
fi ofyn i chwi a welsoch chwi Mr. Crispin?
Harri. - O! do! Mae newydd fod yn prynu shares gan John Pairy. Pa fodd bynag nid yw hyny yn perthyn yn
awr i Harri, gan ei fod ef a chwithau yn dymuno fy anghofio. Dymunaf i chwi
fore da, Mrs. Crispin.
(x67) [Crispin
yn dyfod i mewn yn frysiog.]
Mr. Crispin. - Aroswch Harri -
hyny yw - a ydi Mrs. Crispin yna - beth a wnaf - a wnaf -
Mrs. Crispin. - Wel, Mr. Crispin, beth yw y mater. Yr ydych yn edrych
gan wyllted a phe buasech wedi colli pob dimai o'ch ffortiwn.
Mr. Crispin. – Wel – na - hyny
ydi –
Mrs. Crispin. - Beth ydych yn
feddwl mewn gwirionedd?
Mr. Crispin. – O! dim yn y byd - dim yn y byd.
Mrs. Crispin. - Yr ydych yn
edrych yn rhy benisel a gostyngedig i ddyn o ffortiwn fel chwi.
Mr. Crispin. - [Yn ceisio edrych yn fawreddog a balch ond yn
methu.] - A ydwyf? - Wel, wnaf fi y tro yn awr?
Mrs. Crispin. - Gwnewch; wel, ac yn awr -
Harri. - Yr wyf am eich gadael. Nid wyf byth yn hoffi stwffio fy hun yn
mlaen pan fyddo materion teuluaidd yn cael eu trafod.
Mr. Crispin. - Peidiwch a myn'd
yn wir - aroswch fy hen gyfaill - aroswch er mwyn pobpeth.
Harri. - Beth? Beth? Ychydig amser yn ol yr oeddych –
Mr. Crispin. - Ië, yr
wyf yn gwybod – ond -
Mrs. Crispin. - Mr. Crispin! a ydych yn cofio beth a ddywedais wrthych
ychydig amser yn ol, ynte a ydych wedi anghofio fy nghyfarwyddiadau? Atebwch
fi, Syr!
Mr. Crispin. - Wel, na
- ond - ond - ond
Mrs. Crispin. - Na feindiwch efo'ch “ond, ond,” yr ydym wedi cael llawn
ormod o'r nonsense yna, gadewch
i ni ddyfod at y pwynt. Mae arnaf eisiau pum cant o bunau.
Mr. Crispin. - Ond y ddoe –
ddoe - y cawsoch bum cant!
Mrs. Crispin. - Ond oni wyddoch peth mor gostus yw ffitio ty^ newydd i
fynu. Yr ydym yn awr mewn dyled am bob dimau o'r pum cant sydd arnaf eisieu.
Ond i ba ddyben dadleu y pwnc. Lle mae'r cheque-book.
Mr. Crispin. – [Yn cymeryd
(x68)
Mrs. Crispin. - Onid ydych yn clywed? Y cheque-book! Yr ydych wedi gwirioni y boreu yma.
Mr. Crispin. – [Yn grynedig] - Dyma fo.
Mrs. Crispin. – [Yn edrych ar y
llyfr.] Beth yw hyn, ai ê? O'r anwyl! wnaiff rhywun fy nàl? ’Rwyf yn
siwr o gael ffit!
Mr. Crispin. - Gadewch iddi
Harri. Os peidiwch cymeryd sylw o honi
’toes dim perygl. ’Rydw i yn gwybod am ei ffordd hi.
Mrs. Crispin. - Beth ddywedasoch, yr adyn? Pedair mil a phum cant wedi
myn'd, ac yr ydym mewn dyled am y pum cant arall;
Mr. Crispin. – ’Roeddwn yn
meddwl fod y cwmni yn siwr o dalu yn ardderchog. O! y creadur drwg ydi Parry
yna!
Mrs. Crispin. - Wel, ai twyll oedd y cwbl?
Mr. Crispin. – Wel – wel - ie;
ac y mae Parry wedi codi y pedair mil punau, ac wedi myned nas gwyr neb i ba
le.
Harri. - A beth am y cwmpeini?
Mr. Crispin. - Ni fodolodd
erioed ond yn ymenydd y creadur yna, Parry! O'r anwyl! O'r anwyl! Mae yn waeth
arnom nag y bu erioed o lawer.
Mrs. Crispin. - [Yn wylo]
- Y fath ffyliaid wnaethom o honom ein hunain! Pa beth a ddywed pobl?
Mr. Crispin. - Nid
wyf yn gwybod yn wir! Pe na buasech wedi fy ngorfodi i droi cefn ar fy hen
gyfeillion ni fuasai mor ddrwg ag ydyw!
Harri. - Yr ydych wedi gwneyd camgymeriad ill dau.
Mr. Crispin. - Wnewch chwi
faddeu i mi Harri.
Harri. - O gwnaf a'm holl galon.
Mrs. Crispin. - Mae arnaf ofn gofyn i chwi Harri.
Harri. – Raid i chwi ddim. Maddeuaf ac anghofiaf bobpeth a
aeth heibio.
[Annie yn rhedeg i mewn.]
Annie. – ’Rwyf wedi bod yn
chwilio am danoch yn mhob man.
Harri. - Mae'r nefoedd wedi
gwrando eich gweddi, Annie.
(x69)
Annie. - [Yn curo ef dwylaw]-
Beth! A yw yr arian wedi myn'd mewn gwirionedd?
’Rwyf mor falch! A bydd i chwi fy ngharu yn awr fel yr arferech wneyd
nhad?
Mr. Crispin. - Gwnaf fy merch -
ac mi a'ch caraf yn fwy nag erioed.
Harri. - Gadewch i ni oll ddysgu gwers oddiwrth hyn, sef, peidio
ymddyrchafu ac ymfalchio os gwena Rhagluniaeth arnom. Peidio hedfan yn rhy
uchel; yna bydd genym lai o gwymp os digwydda aflwyddiant ein goddiweddyd. Os
bydd i uchelgais a balchder ein codi i fyny i'r cymylau, bydd i ni gael allan
yn fuan neu yn ddiweddar fod “UCHDEB YSPRYD O FLAEN CWYMP.”
(=13) Y Môr a'r Afonig
(=14) Gofalu am "Number One”
(=15) Y Ddwy fam
(=16) Efa Dafydd
(=17) Drws Trugaredd
(=18) Y Bugail Da
(=19) Y Ddinas Brydferth
(=20) Llawen a Phrudd
(=21) Ffydd, Gobaith, a Chariad
(=22) y Berth yn Llosgi
(=23) Athrawon ac Ysoleigion
(=24) Y Gwrthryfelwr Carcharedig
(=25) Beth yw Bywyd?
(=26) Iawn Ymddygiad yn Moddion Gras
(=27) Y ffordd i Wneud Cyfeillion
(=28) Y Beibl
(=29) Y Byd yr ydym yn byw ynddo
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |
Sumbolau arbennig: ŷ
ŵ
Enw’r parth: kimkat (kimrío + katalúnaj lándoj)
Adolygiad diweddaraf ::
18 02 2003
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats