“Y GYMYDOGAETH GYMREIG YN TENNESSEE.” Gorphenaf 1856. Y mae ar hyd y Pine Creek
gannoedd o gyfeiriau o'r Pines harddaf dros gan' troedfedd o uchder. Y mae'r coedwigoedd yn gyffredin yn rhai
pur agored. Gallai dyn mewn llawer man glirio cyfair mewn deuddydd. 1759k
Gwefan Cymru-Catalonia.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_064_tennessee_1856_1759k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k Y
Cyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
Y Cronicl
Cyfrol 14, Rhif 159
“Y
GYMYDOGAETH GYMREIG YN TENNESSEE.”
Rhoddwn ger bron gynnwysiad llythyr ydys newydd
dderbyn oddiwrth Mr. Bebb mewn perthynas i’r tir yn Tennessee, ag yr ydys yn
ddiweddar wedi siarad ac ysgrifenu cymaint yn ei gylch.
Anwyl Gefnder, - Er pan ysgrifenais o Knoxville, yr wyf wedi cael
cyfle da i edrych yn lled fanwl dros y rhan fwyaf o’r tir. Mae y tracts sydd
genym yn Morgan County yn dir ffrwythlawn o gefnau a glynoedd, yn cael eu
gwisgo â choedwigoedd mawrion o Dderw, Walnut, Poplar, &c. Y mae yno
gyflawnder o’r glo a’r haiarn goreu yn Tennessee. Y mae yno borfeydd da; ond y
mae arwyneb y tir yn bur anwastad, ac felly nid yw mor fanteisiol i’w amaethu
a’r tir sydd gennym yn Scott County; ac oblegid hyny, yr ydym wedi dewis y lle
i gychwyn ein cymydogaeth yn Scott County; ac y mae yn dda gennyf allu sicrhau
i chwi, ei fod yn lle hyfryd iawn. Y mae yn gorwedd ychydig i’r gogledd o
Huntsville, pentref newydd y sir; ac y mae yn ymylu ar South Fork y
Cumberland River. Y mae mor hyfryd ei orweddiad ag ydyw rolling Prairies
Illinois, neu ddyffryn canol Kentucky. Y mae arno gyflawnder o ffynhonau, ac y
mae ei ffrydiau yn llifo, nid drwy gymoedd dyfnion, ond ar hyd eu gwelyau
breision ar wyneb y tir. Y mae yno y coedydd goreu at ddefnyddioldeb ar a
welais erioed, heb fod yn rhy fawr i allu eu trin. Amryw fathau o Dderw ac o Pines. Y mae yno hefyd Chestnuts, Poplars,
&c. Y mae ar hyd y Pine Creek gannoedd o gyfeiriau o’r Pines harddaf dros
gan’ troedfedd o uchder. Y mae’r coedwigoedd yn gyffredin yn rhai pur agored.
Gallai dyn mewn llawer man glirio cyfair mewn deuddydd. Ni bydd yno ddim eisieu
“drainio.” Y mae yno gyflawnder o wellt yn awr i wartheg a
defaid. Yr oedd yno ddigonedd o hono drwy y gauaf; a bu deadelloeodd lluosog
fyw arno drwy y gauaf, er fod y gauaf diweddaf yr un oeraf mewn cof neb yma. Ni
welais erioed lle gwell at fagu defaid a gwartheg a cheffylau; digon o wellt,
ac o ddfr ac o gysgod. Mae’r hinsawdd yn hyfryd dros ben yno. Bum yma dros
ddyddiau poethaf yr haf. Yr oedd yn llawer oerach ac iachach yno nag yn
Cincinnati. Nid oedd yno ddim mosquitoes. Nid oedd y gwenith ddim mor
aeddfed yno ag y buasawn yn dysgwyl. Yr oedd yn dechreu melynu; ond yr oedd yn
lawn aeddfed oddeutu Lexington yn Kentucky. Gan nad oedd genym ni ddim ond deng
mil o gyfeiriau yn y fan hyfryd yma, darfu i Mr. E. B. Jones a minnau gymeryd
llain helaeth i’r ochr ddeheuol iddynt, yn ymylu am lawer o filldiroedd â’r
“South Fork” ac yr ydym yn gobeithio y gall agerdd-fadau fynd i lawr ar hyd
hòno. Y mae dynion yn ei chwilio yn awr. Os gellir cael agerdd-fadau ar hyd-ddi -
ac yr wyf yn credu y gellir - bydd yn hawdd i ni anfon glo a choed a phethau
eraill i lawr i farchnadoedd Nashville, prif dref y Dalaeth. Yr wyf wedi prynu
mewn melin lif yn ymyl yma ddefnyddiau i adeiladu y tai erbyn y daw ein pobl
yma, ac yr wyf yn gadael Mr. E. B. J. i arolygu adeiladiad y tai. Prysuraf
finnau yn ol yn ddioed i New York i brynu pymtheg mil o gyfeiriau a gynnigiwyd
i mi gan Mr. G. Byddant yn union oddiar Huntsville ac yn gysylltiedig â’r tir
sydd genym yma. Y mae y cysgod mwyaf dymunol rhag tes a gwlaw i anifeiliaid dan
ochrau y sand-stone cliffs gyda glàn yr afon, a bydd yn hawdd i ni gau oddeutu
miloedd o gyfieiriau, am fod genym ddigon o ddefnyddiau at rails, a bod yr afon
yn derfyn diogel i ni yn yr ochr bellaf.
Y mae yma eleni gnwd da iawn o ffrwythau -
afalau, peaches, grapes, &c. Nid oes dim eisiau i chwi na minnau ysgrifennu
i ganmol y tir yma. Daeth
y Drych a’r Herald allan i’n herbyn dipyn yn rhy frysiog. Daw
gwerth ein tir yn hysbys er eu gwaethaf. Ym wir, gellwch fod yn eithaf tawel
fod yma”beautiful land - excellent water - a delicious climate - fine timber -
abundance of coal - all near the river. Land easily cleared and fenced.” Nid
wyf yn gwybod pa le y gallasem gael man hyfrydach yn yr Unol Daleithiau. Y mae
tiroedd brasach yn Paddy’s Run a Putnam, ac amryw fanau; ond nis gwn pa le yn
America y gallasem gael cymaint o dir - mor radlawn, yn meddu cynnifer o gyfleusderau,
ac mewn hinsawdd mor iach a hyfryd.
Dichon mae y ffordd oreu etto i ddyfod yma ydyw drwy Cincinnati.
Gellir dyfod am gan’ milldir gyda’r Railway o Cincinnati i Lexington ac am gan’
milldir eilwaith gyda’r Coach dyddiol o Lexington i Somerset, ac am 85
milldir ar hyd ffordd Waggon dda o Somerset i’r fan.
Cefias gyfle da pan yn Knoxville i ymddyddan ag Engineers y
Railffordd o Ohio i Knoxville. Y mae Dinas Cincinnati a Thalaeth Kentucky wedi
ymrwymo i’w chario ymlaen o Lexington i linell terfyn (+ gair annarllenadwy)
Kentucky; ac yr ydys wedi cael bron ddigon o addewidion yn Tennessee i wneud y
triugain milldir sydd oddiyno drwy Wheeler’s Gap, a heibio i “Jacksboro.”
Ie, heibio i “Jacksboro” a thrwy swydd Anderson, a thros y Clinch wrth dref Clinton, i lawr i Knoxville. Ychwanega y
rheilffordd hòno, pan ei gorphenir, nid ychydig at werth ein tir yn Anderson
County.
Yr wyf am frysio yn awr tua New York, mewn gobaith i
gyrhaedd yno i dderbyn ein cyfeillion o’r “John Bright” i’r lan.
Mehefin 21, 1856....................................................WILLIAM
BEBB
·····
DIWEDD / END
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN
HWN |
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Adolygiadau
diweddaraf: 2004-02-06
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia)
Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy
Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats