Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2672k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_ecclesiasticus_73_2672k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k
y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
2673ke This page with an English
version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
DOETHINEB JESUS MAB SIRACH, NEU
ECCLESIASTICUS
PROLOG A WNAETH AWDUR ANADNABYDDUS.
Y Jesus hwn oedd fab i Sirach, ac ŵyr i Jesus o'r un enw ag ef. Y
gŵr hwn gan hynny oedd fyw yn yr amseroedd diwethaf, gwedi caethgludo'r
bobl, a'u galw adref drachefn, ac agos ar ôl yr holl broffwydi. Ei daid ef
Jesus, fel y mae efe ei hun yn tystiolaethu, oedd ŵr diwyd iawn a doeth
ymysg yr Hebreaid, yr hwn nid yn unig a gasglodd ddwys a byr ymadroddion y
gwŷr doethion a fuasai o'i flaen ef, eithr ei hun hefyd a draethodd rai
o'r eiddo ei hun, yn llawn o fawr ddealltwriaeth a doethineb. Am hynny pan fu
farw y Jesus cyntaf, a gadael y llyfr hwn wedi ei orffen agos, Sirach ei fab
ef, wedi ei gael ar ei ôl ef, a'i gadawodd i'w fab ei hun Jesus, yr hwn wedi ei
gael i'w law, a'i cynullodd i gyd yn drefnus yn un llyfr, ac a'i galwodd
Doethineb, gan roddi ei enw ei hun, enw ei dad, a'i daid, yn deitl iddo, gan
ddenu y gwrandawr trwy enw Doethineb i roi mwy o serch ar astudio'r llyfr hwn.
Y mae efe gan hynny yn cynnwys dywediadau doethion, ymadroddion dieithr, a
damhegion, a rhai hen historiau duwiol priodol am ŵyr a ryngasai fodd Duw;
ei weddi hefyd, a'i gân: heblaw hynny, pa ddaioni a welsai Duw yn dda ei
wneuthur i'w bobl, a pha blâu a bentyrasai efe ar eu gelynion hwy. Y Jesus yma
oedd yn dilyn Salomon, ac nid oedd lai enwog am ddoethineb a dysgeidiaeth; ac
yntau yn wir yn ŵr mawr ei ddysg, ac yn cael ei gyfrif felly.
PROLOG DOETHINEB JESUS FAB SIRACH.
Gan roddi i ni lawer a mawrion bethau trwy'r gyfraith a'r proffwydi, ac eraill
a'u dilynasant hwy; am ba rai y mae yn rhaid canmol Israel oherwydd addysg a
doethineb; ym mha rai y mae yn rhaid nid yn unig i'r darllenyddion fyned yn
ddoethach, eithr hefyd i'r rhai sy'n chwenychu dysgu, fod yn fuddiol i'r rhai
oddi allan, trwy draethu ac ysgrifennu hefyd: fy nhaid Jesus, wedi iddo ymroddi
yn fawr i ddarllen y gyfraith a'r proffwydi, ac eraill o lyfrau ein tadau, ac
wedi myned yn hyfedr ynddynt, a ddygwyd rhagddo i sgrifennu peth ei hun, o'r
pethau a berthyn i addysg a doethineb; fel y gallai y rhai sydd awyddus i
ddysg, ac wedi ymroddi i'r pethau hyn, gynyddu yn fwy mewn buchedd yn ôl y
gyfraith. Am hynny byddwch, atolwg, yn ewyllysgar ac yn ddyfal i'w ddarllen; a
maddeuwch i ni, os nyni wrth gymryd poen yn cyfieithu, a welir heb gyrhaeddyd
grym rhyw eiriau: oblegid nid yw yr un pethau o'r un grym, pan draether hwynt
yn Hebraeg, â phan droer hwynt i iaith arall. Ac nid hyn yn unig, eithr pethau
eraill, sef y gyfraith, a'r proffwydi, a'r llyfrau eraill, sy iddynt ragoriaeth
nid bychan pan draether hwynt yn eu hiaith eu hun. Oblegid yn y ddeunawfed
flwyddyn ar hugain i'r brenhin Euergetes, wedi i mi ddyfod i'r Aifft, ac aros
yno ennyd, mi a gefais lyfr o addysg nid bychan. Am hynny y tybiais fod yn
angenrheitiaf dim gymryd peth diwydrwydd a phoen i'w gyfieithu ef. Felly mi a
ymroddais trwy fawr anhunedd a chyfarwyddyd yr amser hwnnw i ddwyn y llyfr i
ben, ac i'w osod allan er eu mwyn hwythau hefyd, y rhai mewn gwlad ddieithr
ŷnt yn chwennych dysgu, wedi ymbaratoi o'r blaen, yn eu moddau, i fyw yn
ôl y gyfraith.
PENNOD 1
1:1 Oddi wrth yr Arglwydd y daeth pob doethineb, a chydag ef y mae hi
byth.
1:2 Pwy a rif dywod y môr, a'r dafnau glaw, a dyddiau tragwyddoldeb?
1:3 Pwy a olrhain allan uchder y nefoedd, a lled y ddaear, a'r
dyfnder, a doethineb?
1:4 Crewyd doethineb yn gyntaf o'r cwbl, a deall synnwyr erioed.
1:5 Ffynnon doethineb yw gair Duw Goruchaf; a'i ffyrdd hi yw y
gorchmynion tragwyddol.
1:6 I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb, a phwy a wybu ei
chynghorion doeth hi?
1:7 I bwy yr eglurwyd gwybodaeth doethineb? a phwy a ddeallodd ei
hamryw ffyrdd hi?
1:8 Un sy ddoeth i'w ofni yn fawr, yr Arglwydd yn eistedd ar ei
orseddfainc:
1:9 Yr Arglwydd a'i creodd hi, ac a'i gwelodd, ac a'i rhifodd, ac a'i
tywalltodd hi ar ei holl waith.
1:10 Y mae hi gyda phob cnawd, yn ôl ei roddiad ef; ac efe a'i
rhoddes hi i'r neb a'i carant ef.
1:11 Anrhydedd, a gogoniant, a hyfrydwch, a choron gorfoledd, yw ofn
yr Arglwydd.
1:12 Ofn yr Arglwydd sy ddifyrrwch i'r galon, ac a rydd lawenydd, a
hyfrydwch, a hir hoedl.
1:13 Yn y diwedd da fydd i'r hwn a ofno'r Arglwydd, ac efe a
fendithir yn ei ddydd diwedd.
1:14 Dechrau doethineb yw ofni'r Arglwydd; ac efe a grewyd gyda'r
ffyddloniaid yn y groth.
1:15 Hi a osododd sylfaen dragwyddol gyda dynion, a chyda'u
hiliogaeth hwynt y pery hi.
1:16 Ofn yr Arglwydd yw cyflawnder doethineb, ac sydd yn llenwi
dynion â'i ffrwyth hi.
1:17 Hi a lanwodd eu holl dai hwynt â'i phethau dymunol, a'u
hysguboriau â'i chnwd.
1:18 Coron doethineb, yn dwyn allan ffrwyth heddwch a iachawdwriaeth
iachol, yw ofn yr Arglwydd; a dawn Duw yw pob un o'r ddau: ac y mae hi yn
helaethu gorfoledd i'r rhai a'i carant ef.
1:19 Doethineb a lawiodd ddeall, a gwybodaeth synnwyr, ac a
ddyrchafodd ogoniant y rhai a lynant ynddi.
1:20 Gwreiddyn doethineb yw ofni'r Arglwydd, a'i changhennau ydynt
hir hoedl.
1:21 Ofn yr Arglwydd sydd yn gyrru pechodau ymaith, ac yn troi
digofaint ymaith, lle y byddo hi yn bresennol.
1:22 Ni ddichon gŵr dicllon gael ei gyfrif yn gyfiawn; oblegid
athrylith ei ddicllonedd a fydd yn dramgwydd iddo.
1:23 Y dioddefgar a ddioddef dros amser;
ac wedi hynny y blagura llawenydd iddo ef:
1:24 Efe a guddia ei eiriau dros amser; a gwefusau llawer a fynegant
ei synnwyr ef.
1:25 Yn nhrysorau doethineb y mae damhegion gwybodaeth: eithr ffiaidd
yw duwioldeb gan bechadur.
1:26 Os chwenychi ddoethineb, cadw'r gorchmynion; a'r Arglwydd a'i
rhydd hi i ti.
1:27 Oblegid doethineb ac athrawiaeth yw ofn yr Arglwydd; a bodlon yw
ganddo ffydd ac addfwyndra.
1:28 Nac amau ofn yr Arglwydd, pan fyddech mewn angen: ac na ddos ato
ef â chalon ddauddyblyg.
1:29 Na ragrithia o flaen dynion, eithr edrych beth a ddywedych.
1:30 Na ddyrchafa dydi dy hun, rhag i ti syrthio, a dwyn amarch i'th
enaid dy hun, ac i'r Arglwydd ddatguddio dy holl gyfrinach di, a'th fwrw i lawr
yng nghanol y gynulleidfa, am na ddaethost mewn gwirionedd at ofn yr Arglwydd,
eithr bod dy galon yn llawn twyll.
PENNOD 2
2:1 Fy mab os deui i wasanaethu'r Arglwydd, paratoa dy enaid i
brofedigaeth.
2:2 Uniona dy galon, a dioddef: ac na wna frys yn amser trallod.
2:3 Glŷn wrtho ef heb ymado, fel y'th gynydder yn dy ddiwedd.
2:4 Derbyn yn llawen yr hyn a ddigwyddo; a bydd ymarhous wrth dy
gyfnewid i ostyngiad.
2:5 Oblegid aur a brofir yn tân, a dynion cymeradwy yn ffwrn
gostyngiad.
2:6 Cred ynddo ef, ac efe a'th dderbyn di: uniona dy lwybrau, a
gobeithia ynddo ef.
2:7 Y rhai ydych yn ofni'r Arglwydd, credwch iddo ef, ac ni phalla
eich gwobr chwi.
2:8 Y rhai ydych yn ofni'r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni, ac am
lawenydd tragwyddoldeb, a thrugaredd.
2:9 Y rhai ydych yn ofni'r Arglwydd, ymarhoswch am ei drugaredd ef;
ac na chiliwch, rhag eich syrthio.
2:10 Edrychwch ar y cenedlaethau gynt, a gwelwch; pwy a ymddiriedodd
i'r Arglwydd, ac a waradwyddwyd? neu pwy a arhosodd yn ei ofn ef, ac a adawyd?
neu pwy a alwodd arno ef, ac yntau yn ei ddiystyru ef?
2:11 Oblegid tosturiol, a thrugarog, ymarhous, ac aml o drugaredd,
yw'r Arglwydd: ac y mae efe yn maddau pechodau, ac yn achub yn amser trallod.
2:12 Gwae'r calonnau ofnus, a'r dwylo llesg, a'r pechadur a gerddo
ddau lwybr!
2:13 Gwae'r galonlesg! oherwydd nid yw yn credu; am hynny ni
amddiffynnir ef.
2:14 Gwae chwi, y rhai a gollasoch amynedd! a pha beth a wnewch chwi
pan ymwelo'r Arglwydd â chwi?
2:15 Y rhai a ofnant yr Arglwydd ni anghredant ei eiriau ef; a'r rhai
a'i carant ef a gadwant ei ffyrdd ef.
2:16 Y rhai a ofnant yr Arglwydd a geisiant yr hyn sy dda ganddo ef;
a'r rhai a'i carant ef a lenwir a'r gyfraith.
2:17 Y rhai a ofnant yr Arglwydd a baratoant eu calonnau, ac a
ostyngant eu heneidiau ger ei fron ef,
2:18 Gan ddywedyd, Syrthiwn yn nwylo Duw, ac nid yn nwylo dynion:
oherwydd fel y mae ei fawredd ef, felly y mae ei drugaredd.
PENNOD 3
3:1 Fy mhlant, clywch fi eich tad, a
gwnewch felly, fel y byddoch gadwedig:
3:2 Oblegid yr Arglwydd a roddes i'r tad anrhydedd ar y plant, ac a
sicrhaodd farn y fam ar y meibion.
3:3 Yr hwn sydd yn anrhydeddu ei dad, sydd yn cael maddeuant am ei
bechod;
3:4 A'r hwn sydd yn anrhydeddu ei fam, sydd fel un yn casglu trysor.
3:5 Yr hwn a anrhydeddo ei dad, a gaiff lawenydd o'i blant; ac efe a
wrandewir y dydd y gweddïo.
3:6 Hirhoedlog fydd yr hwn a anrhydeddo ei dad: a'r hwn a ufuddhao
i'r Arglwydd, a bair orffwystra i'w fam.
3:7 Yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd, a anrhydedda ei dad, ac a
wasanaetha y rhai a'i cenedlasant ef, fel ei arglwyddi.
3:8 Anrhydedda dy dad a'th fam ar weithred a gair, fel y delo i ti
fendith gan ddynion;
3:9 Oblegid bendith y tad a sicrha deiau y plant: ond melltith y fam
a ddiwreiddia sylfeini.
3:10 Na ymffrostia yn amarch dy dad: oherwydd nid parch i ti fydd
amarch dy dad:
3:11 Canys anrhydedd fydd i ddyn o anrhydedd ei dad: a mam mewn
amarch sydd warth i'r plant.
3:12 Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint; ac na thristâ ef yn dy
fyw.
3:13 Os palla ei synnwyr, cyd-ddwg ag ef; ac na amharcha ef pan
fyddech yn dy holl gryfder.
3:14 Oherwydd nid anghofir dy drugaredd i'th dad: ac yn lle pechodau,
fe a'i chwanegir i'th adeiladu di i fyny.
3:15 Yn nydd dy drallod y meddylir amdanat ti: a'th bechodau a
doddir, megis pan ddêl meiriol ar iâ.
3:16 Megis cablwr yw yr hwn sydd yn gwrthod ei dad; a melltigedig gan
Dduw yw yr hwn sydd yn digio ei fam.
3:17 Fy mab, gorffen dy waith yn llednais, a'r dyn cymeradwy a'th
hoffa di.
3:18 Po mwyaf fyddech, ymddarostwng yn fwy, a thi a gei ffafr yng
ngŵydd yr Arglwydd.
3:19 Y mae llawer yn uchel radd ac yn anrhydeddus; eithr i'r rhai
llednais y datguddir dirgeledigaethau:
3:20 Canys mawr yw gallu'r Arglwydd, a'r rhai gostyngedig a'i
hanrhydeddant ef.
3:21 Na chais yn ddisynnwyr bethau rhy galed i ti, ac na chais yn
angall bethau rhy gryfion i ti.
3:22 Y pethau a orchmynnwyd, meddwl am hynny yn sanctaidd; oblegid
nid rhaid i ti weled pethau cuddiedig â'th lygaid.
3:23 Na fydd ry fanwl mewn pethau afraid: canys fe ddangoswyd i ti
fwy nag a ddichon dynion eu deall.
3:24 Eu hofer dyb a dwyllodd lawer, a drwg dyb a lesgaodd eu deall
hwynt.
3:25 Oni bydd canhwyllau dy lygaid gennyt, fe fydd eisiau goleuni
arnat: ond o bydd eisiau gwybodaeth, na fynega hynny.
3:26 Drwg fydd ar galon galed yn y diwedd: a'r hwn a hoffa
enbydrwydd, a ddifethir ynddo.
3:27 Calon galed a lwythir â phoenau: a'r pechadur a chwanega
bechodau ar bechodau.
3:28 Yng nghosbedigaeth y balch nid oes meddyginiaeth; oherwydd
gwreiddio planhigyn drygioni ynddo ef.
3:29 Calon y deallgar a feddwl am ddameg; a chlust y gwrandawydd yw
dymuniad y doeth.
3:30 Dwfr a ddiffydd dân yn fflamio; a thrwy elusen y ceir maddeuant
am bechodau.
3:31 A'r Arglwydd, yr hwn sydd yn talu cymwynasau, sy gofus erbyn yr
amser a ddaw; a'r cyfryw, yn amser ei dramgwydd, a gaiff ateg.
PENNOD 4
4:1 Fy mab, na thwylla'r tlawd am ei fywyd, ac na wna i lygaid
anghenus hir ddisgwyl.
4:2 Na thristâ enaid newynog, ac na wna i ŵr yn ei eisiau hir ddisgwyl.
4:3 Na chwanega flinder ar galon gystuddiol, ac na wna i'r anghenog
hir ddisgwyl am ei rodd.
4:4 Na fwrw ymaith ymbiliwr gorthrymedig, ac na thro dy wyneb oddi
wrth y tlawd.
4:5 Na thro dy lygaid oddi wrth yr anghenus, ac na ddod le i ddyn
i'th felltithio di:
4:6 Canys os efe a'th felltithia di yn chwerwder ei enaid, yr hwn a'i
gwnaeth ef a wrendy ei weddi ef.
4:7 Gwna dy hun yn hawddgar i'r gynulleidfa, a gostwng dy ben i
ŵr mawr.
4:8 Gostwng dy glust at y tlawd yn ddidrist, ac ateb ef yn heddychol
ac yn llednais.
4:9 Gwared yr hwn sydd yn cael cam, o law yr hwn fydd yn gwneuthur
cam: ac na fydd lwfr pan eisteddych i farnu.
4:10 Bydd i'r amddifad fel tad, ac yn lle gŵr i'w mam hwynt; a
thi a gei fod megis yn fab i'r Goruchaf; ac efe a'th gâr di yn fwy na'th fam.
4:11 Doethineb a ddyrchafa ei meibion, ac a dderbyn y rhai a'i
ceisiant.
4:12 Yr hwn sydd yn ei charu hi, sydd yn caru einioes; a'r rhai a
ddisgwyliant amdani hi yn fore, a lenwir â llawenydd.
4:13 Yr hwn a'i dalio hi, a etifedda ogoniant; a'r Arglwydd a
fendithia'r lle yr êl hi i mewn.
4:14 Y rhai sydd yn ei gwasanaethu hi, sydd yn gwasanaethu'r
Sanctaidd; ac y mae'r Arglwydd yn caru y rhai sydd yn ei charu hi.
4:15 Yr hwn sydd yn gwrando arni hi, a farna genhedloedd; a'r hwn a
wrandawo arni hi, a breswylia'n ddiogel.
4:16 Os un a ymddyry iddi, efe a'i caiff hi yn etifeddiaeth, a'i
hiliogaeth a gaiff fod mewn meddiant ohoni.
4:17 Canys ar y cyntaf hi a rodia gydag ef ar ffyrdd gwyrgeimion, ac
a ddwg ofn ac arswyd arno ef, ac a'i poena ef â'i haddysg, nes gallu ohoni
ymddiried i'w enaid ef, ac oni phrofo hi ef yn ei chyfiawnderau:
4:18 Yna hi a ddaw yn union ato ef, ac a'i llawenycha ef, ac a ddatguddia
ei dirgelwch iddo.
4:19 Os cyfeiliorna efe, hi a'i gad ef, ac a'i dyry i fyny i'w gwymp
ei hun.
4:20 Cadw'r amser cyfaddas, ac ymgadw rhag drygioni; ac na fydded
cywilydd gennyt pan berthyno i'th enaid.
4:21 Canys y mae cywilydd yn dwyn pechod; ac y mae cywilydd yn
anrhydedd a gras.
4:22 Na dderbyn wyneb yn erbyn dy enaid dy hun, ac na pharcha neb
i'th ddinistr dy hun.
4:23 Na atal air yn amser iachawdwriaeth, ac na chuddia dy ddoethineb
yn ei harddwch.
4:24 Oblegid wrth ymadrodd yr adwaenir doethineb, ac addysg wrth
eiriau'r tafod.
4:25 Na ddywed yn erbyn y gwirionedd er dim, ond bydded wladaidd
gennyt dy anwybodaeth.
4:26 Na fydded gywilydd gennyt gyfaddef dy bechodau, ac nac ymegnia
yn erbyn y ffrwd.
4:27 Nac ymddyro i ddyn ffôl, ac na dderbyn wyneb y galluog.
4:28 Ymegnïa gyda'r gwirionedd hyd farwolaeth; a'r Arglwydd Dduw a
ymladd gyda thithau.
4:29 Na fydd esgud â'th dafod, a diog ac araf yn dy weithredoedd.
4:30 Na fydd megis llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy ffansi.
4:31 Na fydded dy law yn agored i gymryd, ac yn gaead i roddi.
PENNOD 5
5:1 Na osod dy galon ar dy olud; ac na ddywed, Y mae gennyf ddigon i
fyw.
5:2 Na ddilyn dy ewyllys dy hun, a'th gryfder dy hun, i rodio yn
ffyrdd dy galon dy hun.
5:3 Na ddywed, Pwy a'm darostwng i oherwydd fy ngweithredoedd?
oblegid yr Arglwydd gan ddial a ddial dy draha di.
5:4 Na ddywed, Mi a bechais, a pha dristwch a fu i mi? oblegid y
mae'r Arglwydd yn hirymarhous; ni ad efe i ti ddianc.
5:5 Na fydd ry ddifraw oherwydd maddeuant, i chwanegu pechodau ar
bechodau:
5:6 Ac na ddywed, aml yw ei drugaredd ef, efe a faddau luosowgrwydd
fy mhechodau; oblegid trugaredd a digofaint a ddaw oddi wrtho ef, a'i
ddigofaint ef a orffwys ar bechaduriaid.
5:7 Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i
ddydd: oblegid yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra fyddech di yn
ddifraw y'th ddryllir, a thi a ddifethir yn amser dialedd.
5:8 Na osod dy galon ar olud anghyfiawn, oblegid ni fuddiant hwy yn
amser cystudd.
5:9 Na ymdro gyda phob gwynt, ac na ddos ym mhob llwybr: felly y gwna
y pechadur daudafodiog.
5:10 Bydd ddianwadal yn dy ddeall sicr, a bydded dy ymadrodd yn un.
5:11 Bydd esgud i wrando pethau da, a bydded dy fywyd mewn gwirionedd,
a thraetha ateb uniawn yn ddioddefgar.
5:12 Od oes deall gennyt, ateb dy gymydog; ac onid oes, bydded dy law
ar dy safn.
5:13 Yn yr ymadrodd y mae gogoniant a gwarth; a thafod dyn sy gwymp
iddo.
5:14 Na alwer di yn hustyngwr, ac na chynllwyn â'th dafod: oblegid i
leidr y mae cywilydd blin, a damniad drwg i'r daudafodiog.
5:15 Na fydd ddiwybod o ddim, na mawr na bychan.
PENNOD 6
6:1 Na fydd elyn yn lle cyfaill: canys felly y cei enw drwg, gwarth a
gwaradwydd, yn etifeddiaeth: felly y caiff y pechadur daudafodiog amarch.
6:2 Na ymddyrcha yng nghyngor dy enaid dy hun, rhag llarpio dy enaid
fel tarw.
6:3 Ti a fwytei dy ddail, ac a golli dy ffrwyth, ac a'th ollyngi dy
hun fel pren crin.
6:4 Enaid drygionus sydd yn difetha ei berchennog, ac yn ei wneuthur
ei hun yn watworgerdd i'w elynion.
6:5 Genau melys sydd yn amlhau cyfeillion: a thafod ymadroddus sydd
yn amlhau ymadroddion teg.
6:6 Bydd heddychol â llawer; eithr bydded dy gynghorwr un o fil.
6:7 Os mynni di gael cyfaill, cais ef mewn profedigaeth; ac nac
ymddiried iddo ar frys amdanat dy hun;
6:8 Canys y mae cyfaill dros ei amser ei hun, ac nid erys yn nydd dy
drallod di.
6:9 Ac y mae cyfaill a dry yn elyn, ac yn gecrus, ac a ddatguddia dy
waradwydd di.
6:10 Ac y mae cyfaill a fydd cyfrannog o'r bwrdd; eithr yn nydd dy
drallod nid erys efe.
6:11 Ac yn dy fyd da efe a fydd fel tithau, ac efe a fydd hy ar
dylwyth dy dŷ di.
6:12 Os darostyngir di, efe a fydd i'th erbyn, ac a ymguddia o'th
ŵydd.
6:13 Ymneilltua oddi wrth dy elynion, a gochel dy gyfeillion.
6:14 Amddiffyn cadarn yw cyfaill ffyddlon; a'r hwn a gafodd y cyfryw,
a gafodd drysor.
6:15 Nid oes dim a gystadla gyfaill ffyddlon, ac nid oes a gydbwysa
ei degwch ef.
6:16 Eli einioes yw cyfaill ffyddlon; a'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd,
a'i cânt ef.
6:17 Yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd, sydd yn cyfarwyddo ei gyfeillach
yn uniawn: canys fel y byddo efe, y bydd ei gymydog hefyd.
6:18 Fy mab, casgl addysg o'th ieuenctid, a thi a gei ddoethineb hyd
henaint.
6:19 Tyred ati fel un yn aredig ac yn hau; ymaros hefyd am ei
ffrwythau daionus hi: oblegid ychydig boen a gymeri di yn ei gwaith hi, a buan
y bwytei o'i chnwd hi.
6:20 Y mae hi yn chwerw iawn i'r annysgedig: a'r digalon nid erys
gyda hi.
6:21 Megis maen prawf cryf y bydd hi arno ef; ac nid oeda efe ei bwrw
hi ymaith.
6:22 Oblegid y mae doethineb yn ôl ei henw, ac nid yw hi amlwg i
lawer.
6:23 Gwrando, fy mab, derbyn fy marn i, ac na wrthod fy nghyngor.
6:24 Dyro dy draed yn ei llyffetheiriau hi, a'th wddf yn ei chadwyn.
6:25 Gostwng dy ysgwydd, a dwg hi, ac na fydd elyn i'w rhwymau hi.
6:26 Tyred ati â'th holl enaid, a chadw ei ffyrdd hi â'th holl allu.
6:27 Olrhain, a chais, a thi a gei ei hadnabod hi; a phan gaffech afael
arni, na ollwng hi ymaith.
6:28 Oblegid o'r diwedd ti a gei ei gorffwystra hi; a hynny a dry yn
llawenydd i ti.
6:29 A'i llyffetheiriau hi a fydd i ti yn amddiffyn cadarn, a'i
chadwynau yn wisg ogoneddus.
6:30 Oherwydd y mae arni hi wychder euraid; a'i rhwymau sydd ysnoden
borffor.
6:31 Fel gwisg ogoneddus y gwisgi di hi; ac fel coron orfoleddus y
gosodi hi amdanat.
6:32 Os mynni, fy mab, ti a fyddi ddysgedig; ac os rhoddi dy feddwl,
ti a fyddi gall.
6:33 Os ceri wrando, ti a dderbynni ddeall; ac os gostyngi dy glust,
ti a fyddi doeth.
6:34 Saf ymysg henuriaid; a'r neb a fyddo doeth, glŷn wrtho ef.
6:35 Myn glywed pob traethawd duwiol, ac na ddihanged diarhebion
deallus oddi gennyt.
6:36 O gweli ŵr deallgar, cyfod yn fore ato ef; a threulied dy
droed riniogau ei ddrws ef.
6:37 Meddwl am orchmynion yr Arglwydd yn berffaith; a myfyria ar ei
orchmynion ef bob amser: efe a sicrha dy galon, a doethineb a roddir i ti wrth
dy ddymuniad.
PENNOD 7
7:1 Na wna ddrwg, ac ni oddiwedd drwg dydi.
7:2 Ymado oddi wrth yr anghyfiawn, ac fe a gilia pechod oddi wrthyt
ti.
7:3 Fy mab, na heua ymysg cwysau anghyfiawnder, rhag i ti eu medi yn
saith-ddyblyg.
7:4 Na chais gan yr Arglwydd lywodraeth, na chadair gogoniant gan y
brenin.
7:5 Nac ymgyfiawnha gerbron yr Arglwydd, ac na chymer arnat fod yn
ddoeth yng ngŵydd y brenin.
7:6 Na chais fod yn farnwr, rhag na allech dynnu anghyfiawnder
ymaith; rhag un amser i ti ofni rhag y cadarn, a gosod ohonot dramgwydd ar
ffordd dy uniondeb.
7:7 Na phecha yn erbyn torf dinas, ac nac ymwthia i dyrfa.
7:8 Na ymrwym â phechod ddwywaith; oherwydd ni byddi ddigerydd am un.
7:9 Na ddywed, Duw a edrych ar luosowgrwydd fy rhoddion i; a phan
offrymwyf i'r Goruchaf Dduw, efe a'i derbyn.
7:10 Na fydd egwan dy galon yn dy weddi, ac nac esgeulusa wneuthur
elusen.
7:11 Na watwar y dyn a fyddo yn chwerwder ei enaid: oherwydd y mae
gostyngydd a dyrchafydd.
7:12 Na ddychymyg gelwydd ar dy frawd; ac na wna y fath beth i'th
gyfaill.
7:13 Na fyn ddywedyd dim celwydd: oherwydd ni ddaw mynych ymarfer
ohono ef i ddaioni.
7:14 Na fydd siaradus ymysg lliaws o henuriaid; ac nac ofer
aildraetha dy ymadrodd yn dy weddi.
7:15 Na chasâ waith poenus, na hwsmonaeth, yr hon a greodd y
Goruchaf.
7:16 Na chyfrif di dy hun ymysg pechaduriaid; eithr cofia nad oeda
digofaint.
7:17 Darostwng dy enaid yn ddirfawr: canys dialedd yr annuwiol fydd
tân a phryf.
7:18 Na newidia gyfaill am ddim cyffredinol, na'th frawd ffyddlon am
aur Offir.
7:19 Nac ymado â gwraig ddoeth dda: canys gwell yw ei gras hi nag
aur.
7:20 Na fydd ddrwg wrth weinidog a fyddo yn gweithio mewn gwirionedd,
na'r gwas cyflog sydd yn ei roddi ei hunan i ti yn hollol.
7:21 Cared dy enaid weinidog synhwyrol, ac na thwylla ef am ei
ryddid.
7:22 Os anifeiliaid sy gennyt, edrych arnynt: ac os buddiol ydynt i
ti, cadw hwynt gyda thi.
7:23 Od oes i ti blant, dysg hwynt, a gostwng eu gyddfau hwy o'u
hieuenctid.
7:24 Od oes ferched i ti, gwylia eu cyrff hwynt, ac na ddangos dy
wyneb yn llawen wrthynt.
7:25 Dod dy ferch yn briod, a thi a fyddi wedi gwneuthur gwaith mawr:
eithr dod hi i ŵr synhwyrol.
7:26 Oes i ti wraig wrth dy feddwl? na fwrw hi ymaith, ac na ddod dy
hun i un atgas.
7:27 Anrhydedda dy dad â'th holl galon, ac nac anghofia ofidiau dy
fam:
7:28 Cofia mai trwyddynt hwy y'th anwyd di; a pha beth a deli di
iddynt hwy, o'r fath a wnaethant hwy i ti?
7:29 Ofna'r Arglwydd â’th holl enaid, a pharcha ei offeiriaid ef.
7:30 Câr yr hwn a'th wnaeth â’th holl nerth, ac na ad ei weinidogion
ef.
7:31 Ofna'r Arglwydd, ac anrhydedda'r offeiriad: a dod iddo ef ran,
fel y gorchmynnwyd i ti; y blaenffrwyth, a'r aberth dros gamwedd, a rhodd y
palfeisiau, ac aberth y cysegriad, a blaenffrwyth y pethau sanctaidd.
7:32 Estyn hefyd dy law i'r tlawd, fel y perffeithier dy fendith di.
7:33 Y mae cymeriad i rodd yng ngolwg pob un byw; ac na atal gymwynas
i'r marw.
7:34
Na phalla fod gyda'r wylofus: a galara gyda'r galarus.
7:35
Na fydd ddiog i ofwyo'r claf: canys trwy'r cyfryw bethau y'th gerir di.
7:36 Yn dy holl eiriau meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di byth.
PENNOD 8
8:1 Nac ymryson â gŵr cadarn, rhag syrthio ohonot yn ei law ef.
8:2 Nac ymgynhenna â gŵr cyfoethog, rhag iddo roddi pwys i'th
erbyn di: oblegid aur a ddifethodd lawer, ac a wyrodd galonnau brenhinoedd.
8:3 Nac ymgynhenna â gŵr siaradus, ac na phentyrra goed ar ei
dân ef.
8:4 Na chellwair â'r annysgedig, rhag amherchi dy hynafiaid di.
8:5 Na ddannod i'r dyn a drodd oddi wrth bechod: cofia ein bod ni oll
dan gerydd.
8:6 Nac amharcha ddyn yn ei henaint: canys y mae rhai ohonom ninnau
yn heneiddio.
8:7 Na lawenycha am farw yr hwn sy fwyaf gelyn i ti: cofia ein bod ni
oll yn marw.
8:8 Na ddiystyra draethawd y doethion, eithr ymarfer di â'u diarhebion
hwynt: oblegid ganddynt hwy y dysgi di addysg, a gwasanaethu pendefigion yn
hawdd.
8:9 Nac ymado â thraethiad henuriaid: oblegid hwynthwy a ddysgasant
gan eu tadau; canys ganddynt hwy y dysgi di ddeall, a rhoddi ateb pan fyddo
rhaid.
8:10 Na chynnau farwor pechadur, rhag dy losgi yn fflam ei dân ef.
8:11 Na chyfod mewn dig o flaen y trahaus, rhag iddo eistedd fel un
yn cynllwyn yn erbyn dy enau di.
8:12 Nac echwynna i ddyn cryfach na thi: ac os echwynni, bydd fel un
wedi colli.
8:13 Na fechnïa am fwy nag a allech: ac os mechnïi, meddwl am dalu.
8:14 Nac ymgyfreithia ag Ustus; oblegid wrth ei feddwl ef y barnant
hwy iddo ef.
8:15 Na ddos ar hyd y ffordd gydag un hy, rhag iddo fod yn drwm
wrthyt: oblegid wrth ei ewyllys ei hun y gwna efe, a thrwy ei anghallineb ef y
derfydd amdanat tithau gydag ef.
8:16 Na wna gynnen â'r dicllon, ac na ddos gydag ef i anialwch: fel
diddim yw gwaed yn ei olwg ef; ac efe a'th gwympa di yno lle nid oes help.
8:17 Nac ymgynghora â'r ffôl; oherwydd ni fedr efe gelu gair.
8:18 Na wna beth cyfrinachol o flaen y dieithr: oblegid ni wyddost ti
beth a esgyr efe.
8:19 Na amlyga dy galon i bob dyn, rhag iddo roddi gau ddiolch i ti.
PENNOD 9
9:1 Na ddal eiddigedd wrth wraig dy fynwes, ac na ddysg iddi addysg
ddrwg yn dy erbyn dy hun.
9:2 Na ddod dy hunan i wraig, i fyned ohoni yn uwch na thi.
9:3 Na ddos i gyfarfod â gwraig buteinig, rhag i ti un amser syrthio
yn ei maglau hi.
9:4 Na fydd yn fynych gyda chantores, rhag dy ddal trwy ei chelfyddyd
hi.
9:5 Na chraffa ar forwyn, rhag dy dramgwyddo trwy'r pethau sy
werthfawr ynddi.
9:6 Na ddod dy enaid i buteiniaid, rhag colli ohonot dy etifeddiaeth.
9:7 Nac edrych o amgylch mewn heolydd dinas, ac na wibia yn ei
hanghyfaneddleoedd hi.
9:8 Tro dy olwg oddi wrth wraig brydweddol, ac na ystyr degwch arall;
oblegid llawer trwy degwch gwraig a gyfeiliornasant; a thrwy hyn y cynnau
cariad fel tân.
9:9 Na eistedd ddim gyda gwraig â gŵr iddi, ac na eistedd ddim â
hi yn dy freichiau, ac na chydildia â hi mewn gwin, rhag pwyso o'th feddwl ati
hi, a llithro ohonot, trwy dy chwant, i ddistryw.
9:10 Na ad hen gyfaill; oblegid nid yw un newydd gystal ag ef: megis
gwin newydd yw cyfaill newydd; os heneiddia efe, ti a'i hyfi yn llawen.
9:11 Na chenfigenna wrth ogoniant pechadur: oblegid ni wyddost ti pa
ddiwedd fydd iddo.
9:12 Na fydded hoff gennyt yr hyn sydd hoff gan y rhai annuwiol:
eithr cofia nad ânt hwy yn ddigerydd i'r bedd.
9:13 Ymgadw ymhell oddi wrth ŵr ag awdurdod iddo i ladd, fel nad
amheuech di ofn angau: ac os deui di ato ef, na wna fai, rhag iddo yn ebrwydd
ddwyn ymaith dy einioes di: gwybydd mai ymysg maglau yr ydwyt yn tramwy, ac mai
ar binaclau'r ddinas yr ydwyt yn rhodio.
9:14 Bwrw yr amcan gorau y gallech am dy gymydog; ac ymgynghora â'r
doethion.
9:15 Bydded dy ymresymiad di â'r synhwyrol, a'th holl ymddiddan yng
nghyfraith y Goruchaf.
9:16 Bydded gwŷr cyfiawn yn cydwledda â thi, a bydded dy
orfoledd di yn ofn yr Arglwydd.
9:17 Trwy law y gweithiwr y canmolir gwaith, a doeth dywysog pobl yn
ei ymadrodd.
9:18 Ofnadwy yn ei ddinas yw gŵr siaradus; a'r rhy brysur yn ei
ymadrodd a gaseir.
PENNOD 10
10:1 Barnwr doeth a ddysg ei bobl, a thywysogaeth y synhwyrol a
drefnir yn dda.
10:2 Fel y byddo barnwr y bobl, y bydd ei swyddogion ef; ac fel y
byddo tywysog dinas, y bydd y rhai oll sydd yn preswylio ynddi.
10:3 Brenin annoeth a ddifetha ei bobl; a thrwy synnwyr y penaethiaid
y cyfanheddir y ddinas.
10:4 Yn llaw'r Arglwydd y mae meddiant y ddaear: ac efe a gyfyd un
buddiol mewn pryd arni.
10:5 Yn llaw'r Arglwydd y mae llwyddiant gŵr: ac ar wyneb
ysgrifennydd efe a esyd ei anrhydedd.
10:6 Na ddwg gas i'th gymydog am bob cam; ac na wna ddim mewn
gweithredoedd trahaus.
10:7 Gas gerbron yr Arglwydd a dynion yw balchder: ac amryfusedd
anghyfiawn a fwrir oddi wrth y ddau.
10:8 Brenhiniaeth a symudir o'r naill genedl i'r llall o achos
anghyfiawnder, a thraha, a chyfoeth trwy dwyll.
10:9 Paham y mae pridd a lludw yn falch? Nid oes dim anwirach na'r
cybydd: oblegid y mae'r cyfryw yn rhoddi ei enaid ei hun ar werth; oherwydd ei
ymysgaroedd a fwrw efe allan yn ei fywyd.
10:10
Meddyg a dyr ymaith hir glefyd: a'r hwn sy frenin heddiw, a fydd marw yfory.
10:11 Canys pan fyddo marw dyn, efe a gaiff ymlusgiaid, a bwystfilod,
a phryfed, yn etifeddiaeth.
10:12 Dechreuad balchder yw myned o un oddi wrth Dduw, ac ymado o'i
galon ef oddi wrth yr hwn a'i gwnaeth:
10:13 Canys dechreuad pechod yw balchder; a'r hwn sydd yn ei ddal ef a
wna ffieidd-dra yn drahaus: am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy gosbedigaeth
ryfedd, ac y llwyr ddinistriodd hwynt.
10:14 Yr Arglwydd a fwriodd i lawr orseddfeinciau tywysogion
beilchion, ac a wnaeth i'r rhai llednais eistedd ynddynt yn eu lle hwynt.
10:15 Yr Arglwydd a dynnodd ymaith wraidd y rhai beilchion, ac a
blannodd y rhai gostyngedig yn eu lle hwynt mewn gogoniant.
10:16 Yr Arglwydd a ddinistriodd wledydd y cenhedloedd, ac a'u
difethodd hwynt hyd sylfeini'r ddaear.
10:17 Efe a dynnodd rai ohonynt ymaith, ac a'u difethodd hwynt, ac a
wnaeth i'w coffadwriaeth ddarfod oddi ar y ddaear.
10:18 Ni chrewyd balchder i ddynion, na dicter llidiog i blant
gwragedd.
10:19 Had diogel yw y rhai sy'n ofni'r Arglwydd; a phlanhigyn
gwerthfawr yw y rhai sy'n ei garu ef: had amharchus yw y rhai nid ystyriant y
gyfraith; had cyfeiliornus yw y rhai a droseddant y gorchmynion.
10:20 Parchedig ymysg brodyr yw eu tywysog; felly y mae y rhai sy'n
ofni'r Arglwydd yn ei olwg yntau.
10:21 Ofn yr Arglwydd sydd yn myned o flaen awdurdod: eithr dinistr
tywysogaeth yw creulondeb a balchder.
10:22 Ofn yr Arglwydd sydd ogoniant i'r cyfoethog, i'r anrhydeddus, ac
i'r tlawd.
10:23 Nid cyfiawn yw amherchi tlawd synhwyrol; ac nid gweddus
anrhydeddu gŵr pechadurus.
10:24 Pendefigion, a barnwyr, a chedyrn, a anrhydeddir; ac nid mwy neb
ohonynt na'r hwn sydd yn ofni'r Arglwydd.
10:25 Rhai rhyddion a wasanaethant was synhwyrol: a gŵr doeth ni
rwgnach pan gerydder ef.
10:26 Na chymer arnat fod yn ddoeth wrth wneuthur dy waith; ac na
chais anrhydedd tra fyddech mewn ing:
10:27 Oblegid gwell yw yr hwn sydd yn gweithio, ac mewn amldra o bob
peth, na'r hwn sydd yn ymffrostio, ac arno eisiau bara.
10:28 Fy mab, anrhydedda dy enaid yn llednais, a dod iddo yr anrhydedd
a haeddai.
10:29 Pwy a gyfiawnha yr hwn a becho yn erbyn ei enaid ei hun? a phwy
a barcha yr hwn a amharcho ei fywyd ei hun?
10:30 Y mae tlawd mewn parch oherwydd ei wybodaeth; ac y mae cyfoethog
mewn parch oherwydd ei gyfoeth.
10:31 Yr hwn sy barchedig mewn tlodi, pa faint mwy mewn cyfoeth? a'r
hwn sydd amharchedig mewn cyfoeth, pa faint mwy mewn tlodi?
PENNOD 11
11:1 Doethineb y gostyngedig a ddyrchaif ei ben ef, ac a'i gesyd ef
ymysg pendefigion.
11:2 Na chanmol ŵr wrth ei bryd, ac na meiddia ef wrth yr olwg
arno.
11:3 Bechan ymysg yr ehediaid yw'r wenynen; a phenmelystra yw ei
ffrwyth hi.
11:4 Na orfoledda oherwydd gwisg o ddillad, ac na ymddyrcha yn amser
anrhydedd: oblegid rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a'i weithredoedd ef
ydynt ddirgel i ddynion.
11:5 Llawer teyrn a eisteddodd ar lawr; a'r hwn ni thybiai un, a
wisgodd y goron.
11:6 Llawer cadarn a amharchwyd yn ddirfawr; a'r anrhydeddus a roddwyd
i ddwylo eraill.
11:7 Nac achwyn cyn chwilio'r gwirionedd: myn wybod yn gyntaf, ac yna
beia.
11:8 Na farna cyn clywed; ac na fwrw air ymysg ymadroddion rhai
eraill.
11:9 Nac ymryson am y peth nid yw yn perthyn i ti; ac na chydeistedd
ym marn pechaduriaid.
11:10 Fy mab, na ymyrr ar lawer o bethau: oherwydd os trini lawer
peth, ni byddi difai: os dilyni, ni oddiweddi; ac os ffoi, ni ddihengi.
11:11 Y mae a lafuria, ac a boena, ac a frysia, ac o hynny y mae yn
fwy ei eisiau ef.
11:12 Y mae un anniben, ac arno eisiau help, yn fychan ei nerth, ac yn
fawr ei dlodi; a golwg yr Arglwydd a edrychodd arno ef er daioni, ac a'i
dyrchafoddef o'i waelder;
11:13 Ac efe a ddyrchafodd ei ben ef o drueni; a llawer, pan welsant,
a fu ryfedd ganddynt o’i blegid ef.
11:14
Da a drwg, einioes ac angau, tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y maent.
11:15 Oddi wrth yr Arglwydd y mae doethineb, a chyfarwyddyd, a
gwybodaeth ei gyfraith ef: oddi wrtho ef y mae cariad, a ffyrdd gweithredoedd
da.
11:16 Cyfeiliorni a thywyllwch a gydgrewyd â phechaduriaid: a drygioni
a heneiddia yn y rhai sy'n gorfoleddu mewn drygioni.
11:17 Rhodd yr Arglwydd a erys gyda'r duwiol; a'i ewyllys da ef a bair
ffynnu byth.
11:18 Y mae dyn yn cyfoethogi trwy ei gallineb a'i grintachrwydd; a
dyna ei ran ef o'i gyflog.
11:19 Lle y dywed efe, Mi a gefais esmwythdra, ac yn awr mi a fwytaf
o'm da bob amser; ac eto ni ŵyr efe pa amser a â heibio iddo ef, ac y gedy
efe hwynt i arall, ac y bydd efe marw.
11:20 Saf di yn dy gyfamod, ac ymddiddan yn hwnnw, a heneiddia yn dy
waith.
11:21 Na fydded rhyfedd gennyt am waith pechadur; creda i'r Arglwydd,
ac aros yn dy boen: oblegid hawdd yw yng ngolwg yr Arglwydd yn ddisymwth
ddiatreg gyfoethogi'r tlawd.
11:22 Bendith yr Arglwydd sydd gyflog i'r duwiol; ac mewn awr fuan y
gwna efe i'w fendith ef darddu.
11:23 Na ddywed, Pa les i mi ryngu bodd? a pha ddaioni fydd i mi
bellach?
11:24 Na ddywed, Y mae gennyf fi ddigon, ac y mae gennyf lawer, a pha
niwed a gaf fi yn fy mywyd bellach?
11:25 Yn amser daioni yr ydys yn gollwng drygfyd dros gof, ac yn amser
drygfyd nid ydys yn coffau daioni;
11:26 Am fod yn hawdd o flaen yr Arglwydd dalu i ddyn yn ei ddydd
diwedd yn ôl ei weithredoedd.
11:27 Cystudd awr a wna anghofio danteithion; a diwedd dyn a
ddatguddia ei weithredoedd ef.
11:28 Na chyfrif neb yn ddedwydd cyn ei farw; ac wrth ei blant yr
adwaenir gŵr.
11:29 Na ddwg bob dyn i'th dŷ: oherwydd aml yw cynllwyn diafol.
11:30 Fel petris wedi eu dal mewn rhwyd, felly y mae calon y balch; ac
fel gwyliedydd yn dringo i le y caffo efe gwymp:
11:31 Oblegid y mae efe yn cynllwyn, gan droi y da yn ddrwg; ac efe a
fwrw fai arnat mewn pethau canmoladwy.
11:32 O wreichionen fechan y daw llawer o farwor; a dyn pechadurus a
gynllwyn am waed.
11:33 Gochel ddrygddyn; oblegid drygioni y mae efe yn ei lunio: rhag
iddo roddi arnat ti anaf byth.
11:34 Derbyn ddieithrddyn i dŷ, ac efe a'th dralloda di, ac a'th
yrr o'r eiddot dy hun.
PENNOD 12
12:1 Os gwnei ddaioni, gwybydd i bwy y gwnelych; ac fe fydd diolch i
ti am dy ddaioni.
12:2 Gwna ddaioni i'r duwiol, a thi a gei dal; oni chei ganddo ef, ti
a'i cei gan y Goruchaf.
12:3 Ni bydd daioni i'r hwn a ymgynefino â drygioni, nac i'r hwn nid
ymedy ag elusen.
12:4 Dod i'r duwiol, ac na dderbyn bechadur.
12:5 Gwna ddaioni i'r gostyngedig, ac na ddod i'r annuwiol: atal dy
fara, ac na ddod iddo ef; rhag trwy hynny iddo dy orthrymu di: oblegid am yr
holl ddaioni a wnelych di iddo ef, efe a gaiff ddau cymaint o ddrygioni i
tithau.
12:6 Oherwydd cas gan y Goruchaf bechaduriaid, ac efe a ddial y rhai
duwiol, ac a'u ceidw hwythau i gadarn ddydd eu dialedd.
12:7 Dod i'r daionus, ac na dderbyn bechadur.
12:8 Nid adwaenir cyfaill mewn gwynfyd, ac ni lecha gelyn mewn
drygfyd.
12:9 Mewn gwynfyd gŵr y bydd ei elynion yn drist; ac yn ei
ddrygfyd yr ymneilltua cyfaill hefyd.
12:10 Nac ymddiried i'th elyn byth: oblegid fel y rhyda pres, felly y
gwna ei ddrygioni yntau.
12:11 Er ymostwng ohono, ac ymgrymu, gwylia ar dy enaid, ac ymgadw
rhagddo ef; a thi a fyddi iddo fel un yn sychu drych, a thi a gei wybod na
sychodd efe ei rwd yn llwyr.
12:12 Na osod ef yn agos atat, rhag iddo dy ddinistrio di, a sefyll yn
dy le di: na osod ef ar dy law ddeau, rhag iddo geisio cael dy gadair di, ac
o'r diwedd cael ohonot wybod fy ngeiriau i, a'th bigo â'm hymadroddion.
12:13 Pwy a dosturiai wrth y swynwr a frathai neidr? nac wrth y neb a ddeuai
yn agos at fwystfilod?
12:14 Felly wrth yr hwn a ddaw at bechadur, ac a gydlygrer yn ei
bechodau ef, pwy a dosturia wrtho?
12:15 Un awr yr erys efe mewn sefyllfod iawn; ond os gogwyddi di, ni
erys efe.
12:16 Melys fydd gelyn yn ei wefusau, ac yn ei galon efe a ymgynghora
am dy droi di i'r ffos: efe a wyla â'i lygaid; ond os caiff efe amser cyfaddas,
ni chaiff efe ei ddigon o waed.
12:17 Os drygfyd a ddigwydd i ti, ti a'i cei ef yno yn gyntaf; ac fel
dyn yn helpio, efe a'th ddisodla di.
12:18 Efe a ysgwyd ei ben, ac a gur â'i ddwylo, ac a siarad lawer, ac
a newidia ei wynepryd.
PENNOD 13
13:1 Yr hwn a gyffyrddo â phyg, a halogir ganddo; a'r hwn a fyddo
gyfrannog â'r balch, a fydd debyg iddo.
13:2 Na chyfod faich rhy drwm i ti yn dy fywyd; ac na fydd gyfrannog
ag un cryfach a chyfoethocach na thi: canys pa gyfrannu a wna'r crochan pridd
â'r pair? hwn a dery, a hwnnw a dyr.
13:3 Os y cyfoethog a wna gam, yna yr ymbilir ag ef; os tlawd a wna
gam, yna y bygythir ef.
13:4
Os buddiol fyddi di, efe a gymer dy waith di; ac os bydd eisiau arnat, efe a'th
gystuddia.
13:5 Os bydd peth gennyt, efe a fydd byw gyda thi, ac a'th dloda di,
ac ni bydd gwaeth ganddo ef.
13:6 Os bydd arno dy eisiau di, efe a'th dwylla di, ac a chwardd
arnat, ac a rydd i ti obaith: efe a ddywed yn deg wrthyt, ac a ddywed, Beth
sydd arnat ti ei eisiau?
13:7 Efe a'th gywilyddia di â'i fwyd, nes iddo dy ddihysbyddu di
ddwywaith neu dair; ac yn y diwedd efe a'th watwar: wedi hynny, pan y'th welo,
efe a'th ad di, ac a ysgwyd ei ben arnat.
13:8 Gochel dy dwyllo yn dy feddwl, ac na'th ddarostynger yn llawenydd
dy galon.
13:9 Pan y'th wahoddo gŵr galluog, cilia ymaith; ac efe a'th
wahodd yn fwy o hynny:
13:10 Na phwysa arno, rhag dy yrru allan yn ddifarn; ac na saf ymhell,
rhag dy ollwng dros gof:
13:11 Nac ymgystadla ag ef mewn ymadrodd, ac nac ymddiried i'w aml
eiriau ef: oblegid trwy ymadrodd lawer y prawf efe dydi, ac megis dan chwerthin
y cais efe dy gyfrinach di.
13:12 Anhrugarog yw, heb gadw ei eiriau; ac ni arbed efe dy ddrygu
a'th garcharu di.
13:13 Disgwyl, ac edrych yn fanwl am wrando: oherwydd yr wyt ti yn
rhodio mewn perygl i syrthio: pan glywech hyn yn dy gwsg, deffro.
13:14 Yn dy holl oes câr yr Arglwydd, a galw arno ef i'th
iachawdwriaeth.
13:15 Pob anifail a gâr ei gyffelyb; a phob dyn sy dda ganddo ei
gymydog.
13:16 Pob cnawd a ymgymhara wrth ei ryw; ac wrth ei gyffelyb y
glŷn gŵr.
13:17 Pa gyfeillach sy rhwng y blaidd a'r oen? felly rhwng y pechadur
a'r duwiol.
13:18 Pa heddwch sy rhwng yr hyena a'r ci? a pha heddwch rhwng y
cyfoethog a'r tlawd?
13:19 Yr asynnod gwylltion yn yr anialwch yw helfa'r llewod: porfa'r
cyfoethogion yw'r tlodion.
13:20 Ffieidd-dra'r beilchion yw gostyngeiddrwydd: felly y mae'r tlawd
yn ffiaidd gan y cyfoethog.
13:21 Pan siglo'r cyfoethog, ei gyfeillion a'i sicrhânt ef; ond pan
syrthio'r tlawd, ei gyfeillion a'i gwthiant ef.
13:22 Pan syrthio'r cyfoethog, fe a fydd iddo lawer cynorthwywr: pe
dywedai efe bethau i'w celu, hwy a'i cyfiawnhânt ef: llithrodd y gwaelddyn, a
cheryddwyd ef; efe a lefarodd yn ddoeth, ac ni roddid iddo le.
13:23 Pan lefarai'r cyfoethog, pawb a dawai, ac a ddyrchafent ei
ymadrodd ef hyd y cymylau: pan lefarai y tlawd, hwy a ddywedent, Pwy yw hwn? ac
os tramgwyddai, hwy a'i dymchwelent ef.
13:24 Da yw'r cyfoeth ni bo ynddo bechod; a drwg yw tlodi yng ngenau'r
annuwiol.
13:25 Galon dyn sydd yn newidio ei wyneb ef, pa un bynnag ai er da ai
er drwg: calon lawen a wna wyneb siriol.
13:26 Arwydd calon mewn gwynfyd yw wyneb llawen; a meddylfryd poenus
yw cael allan ddamhegion.
PENNOD 14
14:1 Gwyn ei fyd y gŵr ni lithrodd â'i enau, ac ni phigwyd â
lliaws o bechodau.
14:2 Gwyn ei fyd yr hwn ni chondemnio ei enaid ei hun ef, a'r hwn ni
syrthio oddi wrth ei obaith yn yr Arglwydd.
14:3 Nid da yw cyfoeth i ŵr cybydd; a pha beth a wnâi gŵr
cenfigennus â golud?
14:4 Yr hwn sydd yn casglu, gan arbed oddi wrtho ei hun, sydd yn
casglu i arail; ac eraill a lythinebant ei dda ef.
14:5 Yr hwn sy ddrwg iddo ei hun, i bwy y bydd efe yn dda? ni chaiff
efe lawenydd o'i olud.
14:6 Nid oes neb waeth na'r hwn sydd yn cenfigennu wrtho ei hun; a
dyma wobr ei ddrygioni ef:
14:7 Os gwna efe ddaioni, nid o'i fodd y gwna: ac o'r diwedd efe a wna
ei ddrygioni yn amlwg.
14:8 Drwg yw golwg y cenfigennus: efe a dry ei wyneb, ac a ddirmyga
ddynion.
14:9 Llygad y cybydd ni lenwir â'i ran; ac anghyfiawnder y drygionus a
wywa ei enaid ef.
14:10 Llygad drwg sy genfigennus am ei fara, ac y mae efe yn grintach
ar ei fwrdd.
14:11 Fy mab, pa fodd bynnag y byddo gennyt ti, bydd dda wrthyt dy
hun, a dwg dy offrymau i'r Arglwydd yn addas.
14:12 Cofia nad oeda angau, ac na ddangoswyd i ti gyfamod uffern.
14:13 Cyn dy farw bydd dda wrth dy gyfaill; ac yn ôl dy allu, estyn dy
law a dod iddo ef.
14:14 Na thwylla dydi dy hun am y dydd da, ac nac aed rhan chwant da
heibio i ti.
14:15 Onid i arall y gadewi di dy lafur, a'r hyn y cymeraist boen
amdano, i'w rannu wrth goelbren?
14:16 Dod, a derbyn, a sancteiddia dy enaid; oherwydd nid gwiw ceisio
bwyd yn y bedd.
14:17 Pob cnawd a heneiddia fel dilledyn; canys y cyfamod o'r dechrau
yw, Ti a fyddi farw yn ddiau.
14:18 Fel o'r dail gleision ar bren brigog y mae rhai yn syrthio, a
rhai yn torri allan; felly y mae cenhedlaeth cig a gwaed; y naill sydd yn marw,
a'r llall yn geni.
14:19 Pob gwaith a bydra ac a dderfydd; a'r hwn sydd yn ei weithio ef
a â gyd ag ef.
14:20 Gwyn ei fyd y gŵr a fyfyria bethau da mewn doethineb, a'r
hwn yn synhwyrol a ymresyma am bethau sanctaidd.
14:21 Yr hwn a feddwl am ei ffyrdd hi yn ei galon, a fydd deallgar yn
ei dirgeledigaethau hi.
14:22 Dos ar ei hôl hi fel olrheiniwr, a chynllwyn yn ei ffyrdd hi.
14:23 Yr hwn a edrycho trwy ei ffenestri hi, a wrendy hefyd wrth ei
dorau hi.
14:24 Yr hwn a letyo yn agos i'w thŷ hi, ac a yrro ei hoel i'w
pharwydydd hi,
14:25 Efe a esyd ei babell gerllaw iddi, ac a letya yn llety y rhai
daionus.
14:26 Efe a esyd ei feibion dan ei chysgod hi, ac a erys dan ei
changhennau hi.
14:27 Hi a'i cysgoda ef rhag y gwres, ac efe a letya yn ei gogoniant
hi.
PENNOD 15
15:1 Yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd, a wna dda; a'r hwn sydd yn dal
gwybodaeth y gyfraith, a'i caiff hi:
15:2 Fel mam y cyferfydd hi ag ef, ac fel gwraig a briodwyd o forwyn y
derbyn hief.
15:3 Hi a'i portha ef â bara deall, ac a'i dioda ef â dwfr doethineb.
15:4 Efe a sicrheir arni hi, ac ni ogwydda: efe a lŷn wrthi hi,
ac ni waradwyddir ef.
15:5 Hi a'i cyfyd ef goruwch ei gymdogion, ac a egyr ei enau ef yng
nghanol y gynulleidfa.
15:6 Llawenydd a choron gorfoledd a gaiff efe; a hi a rydd iddo enw
tragwyddol yn etifeddiaeth.
15:7 Eithr dynion ansynhwyrol ni chânt afael arni hi; a gwŷr
pechadurus hefyd ni chânt ei gweled hi:
15:8 Canys pell yw hi oddi wrth falchder; a gwŷr celwyddog ni chofiant
hi.
15:9 Nid gweddus clod yng ngenau pechadur: oblegid yr Arglwydd nis
anfonodd hi iddo ef;
15:10 Canys trwy ddoethineb y traethir clod; a'r Arglwydd a'i llwydda
ef.
15:11 Na ddywed, Trwy waith yr Arglwydd yr euthum i ymaith: oblegid ni
ddylit ti wneuthur yr hyn sy gas ganddo ef.
15:12 Na ddywed, Efe a'm lluniodd i: oblegid nid rhaid iddo ef wrth
ŵr pechadurus.
15:13 Cas gan yr Arglwydd bob ffieidd-dra; ac nid da yw hynny gan y
rhai a'i hofnant ef.
15:14 Efe a wnaeth ddyn o'r dechreuad, ac a'i gadawodd ef yn llaw ei
gyngor;
15:15 Os mynni, i gadw'r gorchmynion, ac i wneuthur ffyddlondeb
cymeradwy.
15:16 Efe a osododd o'th flaen di dân a dwfr: estyn dy law at yr hwn a
fynnych di.
15:17 Y mae o flaen dynion einioes ac angau; a'r hyn a fynno efe a
roddir iddo ef.
15:18 Oblegid mawr yw doethineb yr Arglwydd, ac y mae efe yn gryf o
allu, ac yn gweled pob peth.
15:19 Hefyd y mae ei olwg ef ar y rhai sy yn ei ofni ef; ac efe a
ŵyr holl waith dyn.
15:20 Ni orchmynnodd efe i neb wneuthur yn annuwiol; ac ni roddes efe
genad i neb i bechu.
PENNOD 16
16:1 Na ddymuna liaws o blant anfuddiol; ac na fydd lawen o blant
annuwiol.
16:2 Os amlhânt, na fydd lawen ohonynt, oni bydd ofn yr Arglwydd gyda
hwynt.
16:3 Nac ymddiried i'w heinioes hwynt, ac na hydera ar eu
lluosowgrwydd: canys gwell yw un cyfiawn na mil, a gwell yw marw heb blant na
chael plant annuwiol.
16:4 Canys trwy un synhwyrol y gwneir y ddinas yn gyfannedd; ond
tylwyth yr annuwiola â yn anghyfannedd.
16:5 Llawer o'r fath hyn a welodd fy llygad i; a'm clust a glywodd
bethau mwy na hyn.
16:6 Yng nghynulleidfa pechaduriaid y cynnau tân, ac mewn cenedl
wrthryfelgar y llysg digofaint.
16:7 Ni bu efe fodlon i'r hen gewri, y rhai a ymadawsant yng nghryfder
eu ffolineb.
16:8 Nid arbedodd efe le ymdaith Lot; eithr ffieiddiodd hwynt am eu
balchder.
16:9 Ni thrugarhaodd efe wrth genedl distryw, y rhai a aethant allan
yn eu pechodau a wnaethant;
16:10 Na'r chwe chan mil o wŷr traed,
y rhai a gasglesid yng nghaledwch eu calonnau.
16:11 Ac o bydd un gwarsyth ymysg y bobl, rhyfedd yw os dianc efe yn
ddigerydd: canys gydag ef y mae trugaredd a digofaint: y mae efe yn alluog i
faddau, ac i dywallt digofaint.
16:12 Yn ôl amldra ei drugaredd y bydd ei argyhoeddiad ef: yn ôl ei
weithredoedd y barna efe ŵr.
16:13 Ni ddianc pechadur â'i anrhaith; ac ni phalla amynedd y duwiol.
16:14 Dod le i bob elusen: oblegid pob un a gaiff yn ôl ei
weithredoedd.
16:15 Yr Arglwydd a galedodd Pharo, fel nad adwaenai efe ef, fel y
byddai ei rym ef yn hysbys i'r byd.
16:16 Ei drugaredd ef sydd amlwg i bob creadur: ag adamant y gwahanodd
efe ei oleuni a'r tywyllwch.
16:17 Na ddywed, Rhag yr Arglwydd yr ymguddiaf: a phwy o'r uchelder
a'm cofia? ymysg pobl lawer ni'm cofir i: canys beth yw fy enaid i ymysg
creaduriaid mor aneirif?
16:18 Wele, y nef, ie, nef y nefoedd, y dyfnder, a'r ddaear, a'r hyn
sydd ynddynt hwy, a siglant, pan ofwyo efe.
16:19 Y mynyddoedd, a seiliau'r ddaear, pan edrychai'r Arglwydd
arnynt, a gydysgydwent, dan grynu.
16:20
Ni all calon feddwl am y pethau hyn yn addas: a phwy a all ddeall ei ffyrdd ef?
16:21 Tymestl yw hi, yr hon ni all neb ei gweled; canys y rhan fwyaf
o'i waith ef sy guddiedig.
16:22 Pwy a draetha, neu a ddioddef, weithredoedd ei gyfiawnder ef?
oherwydd pell yw ei gyfanod, a holi pob peth a fydd yn y diwedd.
16:23 Y disynnwyr a feddwl am bethau ofer; a'r gŵr angall
cyfeiliornus sydd yn meddwl pethau ffôl.
16:24 Gwrando arnaf fi, fy mab, a dysg wybodaeth; ac ar fy ngeiriau i
gwylia a'th galon.
16:25 Mi a ddangosaf addysg wrth bwys, ac a draethaf yn ofalus am ei
wybodaeth ef.
16:26 Wrth farn y gwnaed gweithredoedd yr Arglwydd o'r dechreuad; ac
gwarsyth ymysg efe a ddosbarthodd eu rhannau er pan wnaed hwynt.
16:27 Efe a addurnodd ei weithredoedd byth; y mae y rhai pennaf
ohonynt yn ei law ef byth bythol: ni newynasant, ac ni flinasant, ac ni
pheidiasant â'u gwaith.
16:28 Ni rwystra'r naill ohonynt y llall; ac ni anufuddhânt ei air ef
byth.
16:29 Wedi hyn yr edrychodd yr Arglwydd ar y ddaear, ac efe a'i
llanwodd hi â'i ddaioni.
16:30 Y mae efe yn gorchuddio ei hwyneb hi â phob peth byw: ac iddi hi
y maent hwy yn dychwelyd drachefn.
PENNOD 17
17:1 Yr Arglwydd a greodd ddyn o'r ddaear; ac y mae efe yn ei droi ef
iddi hi drachefn.
17:2 Efe a roddes iddynt hwy ddyddiau rhifedig, ac amser; ac a roddes
iddynt feddiant ar y pethau sy ynddi hi;
17:3 Ac efe a'u gwisgodd hwy â nerth cymwys iddynt, ac a'u gwnaeth hwy
ar ei ddelw ei hun.
17:4 Efe a roddes ei ofn ef ar bob cnawd, ac iddo ef lywodraethu ar
fwystfilod ac ehediaid.
17:5 Derbyniasant rym pum gweithrediad yr Arglwydd; ac efe a rannodd
iddynt hwy feddwl yn y chweched lle; ac yn y seithfed, ymadrodd, yn lladmerydd
o'i feddyliau ef.
17:6 Cyngor, a thafod, a llygaid, clustiau, a chalon, a roddes efe
iddynt hwy i ddeall.
17:7 Hefyd efe a'u llanwodd hwynt â gwybodaeth deall, ac a ddangosodd
iddynt dda a drwg.
17:8 Efe a osododd ei olwg ar eu calonnau hwynt, fel y dangosai iddynt
fawredd ei weithredoedd.
17:9 Efe a roddes iddynt orfoleddu byth yn ei ryfeddodau ef, fel y
mynegent ei weithredoedd ef yn synhwyrol.
17:10 A'r etholedigion a glodforant ei enw sanctaidd ef.
17:11 Efe a roddes hefyd iddynt wybodaeth, a chyfraith y bywyd yn
etifeddiaeth iddynt.
17:12 Efe a wnaeth gyfamod tragwyddol â hwynt, ac a ddangosodd ei
farnedigaethau iddynt.
17:13 Eu llygaid a welsant fawredd ei ogoniant, a'u clustiau a
glywsant ei leferydd gogoneddus ef.
17:14 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Gochelwch rhag pob peth
anghyfiawn: hefyd efe a roes orchymyn i bob un ohonynt am ei gymydog.
17:15 Ni chuddir eu ffyrdd hwy o'i olwg ef; o'i flaen ef y maent hwy
bob amser.
17:16 Pob dyn o'i ieuenctid sydd yn pwyso i ddrygioni; ac ni allent
hwy wneuthur eu calonnau yn gig, o rai cerrig.
17:17 Oherwydd wrth ddosbarthu cenhedloedd yr holl dir, efe a osododd
dywysog ar bob cenedl, ac a gymerodd yr Israel yn rhan iddo ei hun;
17:18 Yr hwn, ac efe yn gyntaf-anedig, y mae efe yn ei faethu ag addysg;
ac wrth gyfrannu goleuni cariad, nid yw yn ei yrru ef ymaith.
17:19 Am hynny eu holl weithredoedd hwynt sy fel yr haul ger ei fron
ef; ac y mae ei lygaid ef yn wastadol ar eu ffyrdd hwynt.
17:20 Nid yw eu hanghyfiawnder hwynt guddiedig rhagddo; eithr y mae eu
holl bechodau hwynt ger ei fron ef.
17:21 Eithr yr Arglwydd, am ei fod yn ddaionus, ac yn adnabod yr hyn a
luniodd efe ei hun, nis gadawodd hwynt, ac ni pheidiodd â'u harbed.
17:22 Elusennau gŵr sydd megis sêl gydag ef: ac efe a geidw gymwynas
dyn fel cannwyll llygad, gan rannu edifeirwch i'w feibion a'i ferched ef.
17:23 Wedi hynny efe a gyfyd, ac a dal iddynt hwy; ie, eu taledigaeth
a dâl efe ar eu pennau.
17:24 Eto efe a roddes i'r edifeiriol ddychweliad, ac a gysurodd y
rhai a adawsent amynedd.
17:25 Tro gan hynny at yr Arglwydd, a gad dy bechodau: gweddïa o'i
flaen ef, a gwna lai o fai.
17:26 Dychwel at y Goruchaf, a thro oddi wrth anghyfiawnder: oherwydd
efe a'th arwain di o dywyllwch i oleuni iachawdwriaeth: casâ hefyd ffieidd-dra yn
ddirfawr.
17:27 Pwy a folianna'r Goruchaf yn y bedd, yn lle y rhai sydd yn byw,
ac yn rhoddi mawl?
17:28 Darfu mawl gan y marw, megis gan un heb fod: yr hwn sydd yn fyw,
ac yn iach ei galon, a folianna'r Arglwydd.
17:29 Mor fawr yw trugaredd ein Harglwydd Dduw, a'i dosturi i'r rhai
sy'n troi ato ef yn sanctaidd!
17:30 Canys ni all pob peth fod mewn dynion, am nad yw mab dyn yn
anfarwol.
17:31 Pa beth disgleiriach na'r haul? ac y mae diffyg ar hwn felly
dyn, yr hwn sydd yn meddwl yn ôl cig a gwaed:
17:32 Y mae efe yn ystyried nerth uchder y nefoedd; eithr daear a
lludw yw pob dyn.
PENNOD 18
18:1 Yr hwn sydd yn byw byth a greodd bob peth yn gyffredinol.
18:2 Yr Arglwydd yn unig sydd gyfiawn, ac nid oes neb ond efe:
18:3 Yr hwn â rhychwant ei law sydd yn llywodraethu'r byd, ie, ac y
mae pob peth yn ufuddhau i'w ewyllys ef: oblegid y mae efe yn frenin ar bob
peth, trwy ei nerth yn gwahanu ynddynt hwy y pethau sanctaidd oddi wrth y
pethau halogedig.
18:4 I bwy y parodd efe fynegi ei weithredoedd? a phwy a olrheiniodd
allan ei fawrion weithredoedd ef?
18:5 Pwy a rif gadernid ei fawredd ef? a phwy a esyd ar draethu ei
drugaredd ef?
18:6 Ni ellir lleihau na chwanegu, ac ni ellir olrhain allan,
ryfeddodau'r Arglwydd.
18:7 Pan orffenno dyn, yna y dechrau efe; a phan beidio efe, yna efe a
betrusa.
18:8 Pa beth yw dyn? a pha fudd sydd ohono
ef? beth yw ei dda ef? a pha beth yw ei ddrwg ef?
18:9 Rhifedi dyddiau dyn ydynt gan mlynedd
o'r mwyaf.
18:10 Fel defnyn o ddwfr wrth y môr, ac
fel greyenyn wrth y tywod, yw mil o flynyddoedd wrth ddyddiau tragwyddoldeb.
18:11 Am hynny y mae yr Arglwydd yn ymaros
wrthynt hwy, ac yn tywallt ei drugaredd arnynt.
18:12 Efe a welodd ac a wybu fod eu diwedd hwy yn ddrwg: am hynny efe
a wnaeth ei drugaredd yn aml.
18:13 Trugaredd dyn sy tuag at ei gymydog, a thrugaredd yr Arglwydd ar
bob cnawd; yn argyhoeddi, ac yn addysgu, ac yn athrawiaethu, ac yn troi, fel y
gwna bugail ei braidd.
18:14 Y mae efe yn trugarhau wrth y rhai sy'n derbyn addysg, ac wrth y
rhai sydd yn brysio at ei farnedigaethau ef.
18:15 Fy mab, na ddifwyna dy weithredoedd da, ac na ddod air drwg
sarrug wrth roddi peth.
18:16 Onid yw'r gwlith yn gostwng y gwres? felly gwell yw gair na
rhodd.
18:17 Wele, onid gwell yw gair na rhodd dda? eithr gyda'r graslon y
mae pob un o'r ddau.
18:18 Un ffôl a ddannod yn daeogaidd; a rhodd y cenfigennus a wna i'r
llygaid ballu.
18:19 Cyn llefaru, dysg: a chyn afiechyd, cymer feddyginiaeth.
18:20 Cyn barn, hola di dy hun; ac yn amser gofwy ti a gei drugaredd.
18:21 Cyn dy glafychu, ymddarostwng trwy ddirwest; ac yn amser pechod,
dangos edifeirwch.
18:22 Na ad i ddim dy rwystro i dalu dy adduned mewn pryd; ac nac oeda
ymgyfiawnhau hyd farwolaeth.
18:23 Ymbaratoa cyn gweddïo; ac na fydd fel dyn yn temtio'r Arglwydd.
18:24 Meddwl am y digofaint a fydd yn y diwedd; ac amser dialedd, pan
droer ei wyneb ef ymaith.
18:25 Yn amser amldra, meddwl am amser newyn; ac yn amser cyfoeth, am
dlodi ac eisiau.
18:26 O'r bore hyd yr hwyr y newidia amser; a phob peth a wneir yn
fuan gerbron yr Arglwydd.
18:27 Ar ddyn doeth y bydd ofn duwiol ym mhob peth, ac yn amser pechod
efe a ymochel rhag amryfusedd; a'r angall ni cheidw amser.
18:28 Pob un synhwyrol a edwyn ddoethineb ac addysg; ac efe a rydd
fawl i'r hwn a'i cafodd hi.
18:29 Y rhai a fuant ddeallus mewn ymadroddion, a aethant hefyd yn
ddoethion eu hunain.
18:30 Na ddos ar ôl dy chwantau, eithr ymatal oddi wrth dy awydd.
18:31 Os rhoddi i'th enaid yr hyn a ryngo bodd iddo, yna y gwnei di
i'th elynion chwerthin, y rhai sydd yn cenfigennu wrthyt.
18:32 Na ymlawenycha mewn llawer o ddanteithrwydd, ac nac ymrwym i'r
draul.
18:33 Na ddos yn dlawd trwy wledda wrth fenthycio, heb ddim yn dy
bwrs; canys felly y byddit ti enwog gynllwynwr i'th einioes dy hun.
PENNOD 19
19:1 Ni chyfoethoga gweithiwr meddw: a'r hwn sydd yn diystyru ychydig,
a syrth o fesur ychydig ac ychydig.
19:2 Gwin a gwragedd sydd yn gyrru doethion ar encil; a'r hwn a lyno
wrth buteiniaid a fydd digywilydd:
19:3 Pydrni a phryfed a'i cânt ef yn etifeddiaeth; a gŵr rhyfygus
a gymerir ymaith.
19:4 Yr hwn sydd yn credu yn fuan sydd ysgafn ei feddwl; a'r hwn sydd
yn pechu a gyfeiliorna yn erbyn ei enaid ei hun.
19:5 Yr hwn sydd yn llawenychu mewn drygioni, a gondemnir; yr hwn sydd
yn gwrthwynebu melyschwant sydd yn coroni ei fywyd.
19:6 Yr hwn a atalio ei dafod, a fydd byw yn ddigynnen; a'r hwn sydd
yn casáu siarad, sydd yn llai ei niwed.
19:7 Nac ailadrodd wrth arall y peth a ddywetbwyd i ti, ac ni byddi
ronyn gwaeth.
19:8 Na fynega fuchedd arall wrth na chyfaill na gelyn; ac na
ddatguddia, os gelli yn ddifai:
19:9 Canys efe a'th wrendy, ac a ddeil arnat ti; ac mewn amser efe
a'th gasâ di.
19:10 Pan glywech air, gad iddo farw gyda thi; a bydd ddiogel na rwyga
efe dydi.
19:11 Un ffôl a ofidia gan air, fel yr hon sydd yn esgor ar blentyn.
19:12 Fel saeth ynglyn ym morddwyd un, felly y mae gair ym mola'r
ffôl.
19:13 Rhybuddia gyfaill; ysgatfydd nis gwnaeth: ac os gwnaeth, rhag
gwneuthur mwy.
19:14 Cerydda dy gyfaill; ysgatfydd nis dywedodd: ac os dywedodd, rhag
iddo ddywedyd eilwaith.
19:15 Cerydda gyfaill: oblegid mynych y mae yn enllib; ac na choelia
bob chwedl.
19:16 Y mae un yn llithro yn ei ymadrodd, ac nid o'i fodd; a phwy ni
thramgwyddodd â'i dafod?
19:17 Cerydda dy gymydog cyn ei fygwth; a dod le i gyfraith y
Goruchaf, gan fod yn ddiddig.
19:18 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad cymeradwyaeth gydag ef: a doethineb
a bair gariad ganddo ef.
19:19 Addysg bywyd yw gwybodaeth gorchmynion yr Arglwydd: a'r rhai
sydd yn gwneuthur yr hyn sy fodlon ganddo ef, sydd yn cael ffrwyth pren
anfarwoldeb.
19:20 Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb; ac ym mhob doethineb y mae
gwneuthuriad y gyfraith, a gwybodaeth am ei hollalluogaeth ef.
19:21 Y gwas a ddywedo wrth ei feistr, Ni wnaf yr hyn sy fodlon
gennyt; pe gwnelai efe wedi hynny, y mae efe yn digio ei faethydd.
19:22 Nid doethineb yw gwybodaeth drygioni; a chyngor pechaduriaid nid
yw synnwyr.
19:23 Y mae drygioni, a hwnnw yn ffiaidd; ac y mae angall annoeth.
19:24 Gwell yw y bychan ei ddeall, ac yn ofni Duw, na'r hwn sydd yn
rhagori mewn callineb, ac yn troseddu cyfraith y Goruchaf.
19:25 Y mae cyfrwystra diwyd, a hynny yn anghyfiawn; ac y mae a dry
ymaith ffafr, i ddangos barn; a doeth yw yr hwn sydd gyfiawn mewn barn.
19:26 Y mae un yn gwneuthur drygioni yn bruddaidd, ond wedi ymgrymu,
ac o'i fewn yn llawn twyll tanllyd:
19:27 Efe gan gydostwng ei wyneb, a chymryd arno fod yn fyddar, lle
nid adwaenir ef, a achub dy fiaen di i wneuthur niwed i ti:
19:28 Ac os o eisiau gallu y rhwystrir iddo bechu, eto efe a wna ddrwg
os caiff amser.
19:29 Wrth y golwg yr adwaenir gŵr: ac wrth ei olwg yr adwaenir
un deallus, pan gyfarfyddech ag ef.
19:30 Gwisg gŵr, a chwerthiniad y dannedd, a'i gerddediad, sydd
yn dangos yr hyn sydd ynddo ef.
PENNOD 20
20:1 Y mae cerydd nid yw deg; ac y mae un yn tewi, a hwnnw yn gall.
20:2 Gwell o lawer yw ceryddu na digio yn ddirgel: ac fe gedwir rhag
niwed yr hwn a gydnabyddo ei fai.
20:3 Mor dda yw dangos edifeirwch pan y'th gerydder! felly y dihengi
rhag pechod gwirfodd.
20:4 Megis chwant disbaidd i dorri morwyndod llances, felly y mae'r
hwn sy'n gwneuthur barnedigaeth wrth drawster.
20:5 Y mae un distaw, yr hwn a geir yn ddoeth; ac y mae sydd atgas am
ei siarad lawer.
20:6 Y mae sydd yn tewi, am nad oes ganddo ateb; ac y mae sydd yn
tewi, am ei fod yn gwybod ei amser.
20:7 Dyn doeth a dau, hyd oni welo amser; eithr yr ehud a'r angall a â
dros amser.
20:8 Yr aml ei eiriau a ffieiddir; ac atgas fydd yr hwn yn hynny a
gymero awdurdod iddo ei hun.
20:9 Y mae pechadur, yr hwn sydd yn llwyddo mewn pethau drwg; ac y mae
caffaeliad a dry yn niwed.
20:10 Y mae rhodd ni bydd fuddiol i ti; ac y mae rhodd a dâl ei dau
cymaint.
20:11 Y mae gostyngiad oherwydd gogoniant; ac y mae a gododd ei ben o
waeledd.
20:12 Y mae a brŷn lawer am ychydig, ac a'i tâl adref yn saith
gymaint.
20:13 Gŵr doeth wrth ei ymadrodd sydd yn ei wneuthur ei hun yn
gariadus; a ffafr ffyliaid a dywelltir allan.
20:14 Ni bydd rhodd yr angall fuddiol i ti, pan ei derbyniech; na'r
eiddo'r cenfigennus oherwydd ei angen; oblegid y mae efe yn edrych am dderbyn
llawer peth am un.
20:15 Ychydig a rydd efe, a llawer a ddannod efe; efe a egyr ei safn
fel crïwr; heddiw yr echwynna efe, ac yfory efe a'i gofyn drachefn: cas gan yr
Arglwydd a chan ddynion yw y cyfryw.
20:16 Y ffôl a ddywed, Nid oes gennyf gyfeillion, nid oes i mi ddiolch
am fy nghymwynasau, a'r rhai sydd yn bwyta fy mara sydd yn ddrwg eu tafod
amdanaf.
20:17 Pa sawl gwaith, a pha sawl un a'i gwatwarant ef! nid yw efe yn
deall yn iawn beth yw bod â pheth ganddo; a'r un fath iddo ef yw na bai ganddo.
20:18 Gwell yw llithro ar balmant, na llithro â'r tafod; felly y daw
cwymp y drygionus ar frys.
20:19 Chwedl amhrydlon fydd yn wastadol yng ngenau'r diaddysg.
20:20 O enau'r ffôl y llysir dihareb; oblegid ni ddywed efe hi yn ei
hamser.
20:21 Y mae a luddir i bechu trwy eisiau; a phan orffwyso, ni phigir
ef.
20:22 Y mae a gyll ei enaid ei hun o wladeidd-dra; a thrwy dderbyn
wyneb y mae efe yn ei golli.
20:23 Y mae a edy i'w gyfaill rhag cywilydd, ac a'i gwna ef yn elyn
iddo ei hun heb fod yn rhaid.
20:24 Anaf mawr ar ddyn yw celwydd; ac efe fydd yn wastadol yng ngenau
yr hwn sy ddiaddysg.
20:25 Gwell yw lleidr na'r hwn a ymgynefino â chelwydd: a phob un o'r ddau
a gaiff ddinistr yn etifeddiaeth.
20:26 Amharchus yw arfer dyn celwyddog; a'i gywilydd fydd gydag ef yn
wastadol.
20:27 Y doeth a'i gesyd ei hun rhagddo trwy ymadrodd: a'r call a
ryglydda fodd pendefigion.
20:28
Yr hwn a goleddo ei dir, a wna ei ddas yn uwch; a'r hwn a ryglyddo fodd
pendefigion, a gaiff faddeuant am anghyfiawnder.
20:29 Anrhegion a rhoddion sydd yn dallu llygaid y doethion; ac fel
ffrwyn mewn safn, y maent yn troi cerydd ymaith.
20:30 Doethineb guddiedig, a thrysor heb ei weled, pa fudd sydd o'r un
o'r ddau?
20:31 Gwell yw dyn yn cuddio ei ffoliineb, na dyn yn cuddio ei
ddoethineb.
20:32 Gwell yw angenrheidiol ddioddefgarwch yn ceisio'r Arglwydd, nag
un yn llywodraethu ei fywyd ei hun heb gyfarwyddwr.
PENNOD 21
21:1 Os pechaist, fy mab, na wna
mwy; eithr gweddïa dros yr hyn a fu.
21:2 Ffo oddi wrth bechod megis rhag
wyneb sarff: oblegid os deui di yn agos ato, efe a'th frath di: dannedd llew yw
ei ddannedd ef, yn lladd eneidiau dynion.
21:3 Pob anwiredd sy fel cleddyf
daufiniog: ni ellir iacháu ei archollion ef.
21:4 Ymsywyn a cham a anrheithia
gyfoeth: felly y gwneir tŷ’r beilchion yn anghyfannedd.
21:5 Gweddi o enau'r tlawd a
gyrraedd i glustiau'r Arglwydd: a'i farn ef a ddaw yn ebrwydd.
21:6 Yr hwn sydd yn casáu cerydd,
sydd ar lwybr pechadur; eithr yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd, a dry o ewyllys
ei galon.
21:7 Adwaenir o bell ac o
agos yr ymadroddus ei dafod: eithr y doeth a ŵyr pan lithro efe.
21:8 Yr hwn a adeilado ei dŷ ag
arian rhai eraill, sy megis yr hwn sydd yn casglu iddo ei hun gerrig i wneuthur
carnedd ei feddrod.
21:9 Swp o garth yw cynulleidfa y
rhai anwir; a'u diwedd fydd fflam dân i'w dinistrio.
21:10 Ffordd pechaduriaid a wastatawyd a cherrig:
ac yn ei chwr eithaf hi y mae ffos uffern.
21:11 Yr hwn sydd yn cadw cyfraith
yr Arglwydd, sydd yn dyfod i'w deall hi: a pherffeithrwydd ofn yr Arglwydd yw
derbyn doethineb.
21:12 Yr hwn nid yw gall, ni chymer
ddysg: canys y mae callineb yn amlhau chwerwedd.
21:13 Gwybodaeth y doeth a amlha fel
llifeiriant; a'i gyngor ef fydd fel pur ffynnon y bywyd.
21:14 Y tu mewn i'r ffôl sy fel
llestr twn; ni ddeil efe ddim gwybodaeth yn ei fywyd.
21:15 Gŵr doeth, os clyw air
doeth, a'i cenmyl, ac a chwanega ato: yr annoeth a'i clybu, ac nid oedd fodlon
ganddo, eithr efe a'i trodd yn ôl ei gefn.
21:16 Ymadrodd y ffôl sy megis baich
ar ffordd: eithr yng ngwefusau y doeth y ceir gras.
21:17 A genau'r doeth yr ymofynnir
yn y gynulleidfa; a hwy a ystyriant ei eiriau ef yn eu calonnau.
21:18 Megis tŷ wedi ei dynnu
ymaith yw doethineb i'r ffôl: ac ymddiddan disynnwyr yw gwybodaeth yr annoeth.
21:19 Megis llyffetheiriau ar draed,
ac megis gefynnau dwylo ar y llaw ddeau, yw addysg gan y rhai annoeth.
21:20 Y ffôl yn chwerthin a gyfyd ei
lef; eithr prin y gwena gŵr call yn ddistaw.
21:21 Megis tlws o aur yw addysg gan
y call, ac megis arddyrndlws ar y braich deau.
21:22 Buan fydd troed y ffôl yn
nhŷ arall; a'r gŵr a ŵyr lawer fydd gwaradwyddus ganddo hynny.
21:23 Yr angall o'r drws a ysbïa i'r
tŷ; eithr gŵr medrus a saif allan.
21:24 Anfedrusrwydd dyn yw gwrando
wrth ddrysau; a'r call fydd blin ddo yr amarch.
21:25 Gwefusau y rhai siaradus a
draethant bethau ni pherthyn iddynt eu hun: a geiriau y rhai call a bwysir mewn
clorian.
21:26 Yng ngenau ffyliaid y
mae eu calon; ac yng nghalon doethion y mae eu genau.
21:27 Pan felltithio'r annuwiol
Satan, y mae efe yn melltithio ei enaid ei hun.
21:28 Yr hustyngwr sydd yn halogi ei
enaid ei hun, ac a gaseir pa le bynnag yr ymdeithio.
PENNOD 22
22:1 Y diog sy gyffelyb i garreg
fudr; a phawb a'i hwtia ef allan er amarch iddo.
22:2 I fiswail tomennau y cyffelybir
y diog; pob un a'i cymero i fyny a ysgwyd ei law.
22:3 Gwaradwydd y tad a'i cenhedlodd
yw mab diaddysg; a merch ffôl a anwyd i'w golled ef.
22:4 Merch gall fydd etifedd ei
gŵr: a'r waradwyddus sy dristwch i'w thad.
22:5 Yr hy a waradwydda ei thad a'i
gŵr; a hi a amherchir gan bob un o'r ddau.
22:6 Megis cerdd mewn tristwch yw
ymadrodd allan o amser: eithr prydlon bob amser fydd ffrewyllau ac addysg
doethineb.
22:7 Megis asio llestr pridd
y mae yr hwn sy yn dysgu'r ffôl, ac megis un yn deffro un o drymgwsg.
22:8 Mynegi i un yn cysgu y mae yr
hwn sydd yn mynegi peth i un ffôl: a phan ddarffo'r chwedl, efe a ddywed, Beth
yw'r mater?
22:9 Plant yn cael eu cynhaliaeth
mewn buchedd dda, sydd yn cuddio gwaeledd eu rhieni:
22:10 A phlant yn ymffrostio mewn
dirmyg ac annoethineb, sydd yn halogi bonedd eu carennydd.
22:11 Wyla am y marw; canys efe a
gollodd y goleuni: ac wyla am y ffôl canys y mae diffyg synnwyr arno: wyla
ychydig am y marw, am iddo ef orffwys; eithr gwaeth na marwolaeth yw bywyd y
ffôl.
22:12 Saith niwrnod fydd o alar am y marw; ond am
y ffôl a'r annuwiol, holl ddyddiau ei einioes ef.
22:13 Na amlha eiriau gyda'r angall,
ac na ddos at yr annoeth: ymgadw oddi wrtho ef, rhag cael blinder, ac na'th
haloger di gan ei frynti ef: cilia oddi wrtho, a thi a gei orffwystra, a byth
ni'th flinir â'i ynfydrwydd ef.
22:14 Beth sy drymach na phlwm? a
pha enw sydd iddo ef ond Ffôl?
22:15 Haws yw dwyn tywod, a halen, a
darn o haearn, na dyn ansynhwyrol.
22:16 Coed wedi ei gysylltu a'i
rwymo yn adeiladaeth, ni ddetyd er ei ysgwyd; felly calon wedi ei sicrhau trwy
gyngor doeth, nid arswyda un amser gan ofn.
22:17 Calon wedi ei chadarnhau trwy
feddwl deallus, sy fel plastr teg ar bared llyfn.
22:18 Ni saif palis a osodir yn
uchel, yn erbyn y gwynt: felly calon ofnus, gyda meddwl un ffôl, ni phery yn
erbyn ofn.
22:19 Yr hwn a bigo lygad, a ddwg
ddagrau allan; a'r hwn a bigo galon, a bair iddi ddangos ei gwybodaeth.
22:20 Yr hwn a deifl garreg at adar,
a'u tarfa hwynt; a'r hwn sydd yn gwaradwyddo ei gyfaill, sydd yn datod
cyfeillach.
22:21 Pe tynnit gleddyf ar dy
gyfaill, na anobeithia: oherwydd y mae cymod.
22:22 Ped agorit dy safn yn erbyn dy
gyfaill, nac ofna: oblegid fe all bod cytundeb; ond am waradwydd, a balchder,
datguddio cyfrinach, a dyrnod trwy dwyll: am y pethau hyn y ffy pob cyfaill
ymaith.
22:23 Cadw ffyddlondeb a'th gymydog
yn ei dlodi, fel y gallech lawenychu yn ei wynfyd ef: glŷn wrtho yn amser
cystudd, fel y byddech gydetifedd yn ei etifeddiaeth ef. Nid yw tlodi bob amser
i'w ddiystyru, na'r cyfoethog angall i'w fawr berchi.
22:24 O flaen tân y mae tarth a mwg
y ffumer yn myned: felly y mae ymddifenwi o flaen celanedd.
22:25 Nid cywilydd fydd gennyf
amddiffyn fy nghyfaill; ac nid ymguddiaf rhagddo ef.
22:26 O digwydd i mi ddrwg
o'i blegid ef, pob un a glywo a ochel rhagddo.
22:27 Pwy a esyd gadwraeth o flaen
fy ngenau, a sêl doethineb ar fy ngwefusau, fel na syrthiwyf yn ddisymwth
trwyddynt, ac na'm difetho fy nhafod?
PENNOD 23
23:1 O Arglwydd, Tad a llywydd fy
holl einioes, na ad fi yn eu cyngor hwynt, ac na ad i mi syrthio trwyddynt.
23:2 Pwy a esyd ffrewyllau ar fy
meddyliau, ac addysg doethineb ar fy nghalon, fel na'm harbedont am fy
amryfusedd, ac nad êl heibio i'm pechodau;
23:3 Rhag cynyddu fy anwybodaeth, ac
amlhau fy mhechodau i'm dinistr, a syrthio ohonof o flaen fy ngwrthwynebwyr, a
llawenychu o'm gelynion arnaf, y rhai y mae eu gobaith yn bell oddi wrth dy
drugaredd di?
23:4 O Arglwydd Dad, a Duw fy mywyd,
na ddod i mi olwg uchel; eithr tro oddi wrth dy weision feddwl cawraidd bob
amser.
23:5 Tro oddi wrthyf fi ofer obaith
a chwant; a dal i fyny bob amser yr hwn a fynnai dy wasanaethu di.
23:6 Na oddiwedded awydd i'r bol fi,
na chwant y cnawd: ac na ddod fi dy was i fyny i feddwl digywilydd.
23:7 Gwrandewch, blant, addysg genau
cywir: a'r hwn a'i cadwo, ni ddelir ef byth yn ei wefusau.
23:8 Y pechadur a adewir yn ei
ffoledd: y difenwr a'r balch a ddifethir trwyddynt.
23:9 Na arfer dy enau i dyngu, ac na
ymgynefina ag enwi yr hwn sydd Sanctaidd.
23:10 Oblegid megis ni bydd ychydig
gleisiau ar y gwas a gurer yn wastadol; felly yr hwn a dyngo, ac a enwo Dduw
bob amser, ni bydd lân oddi wrth bechod.
23:11 Y gŵr a dyngo lawer a
lenwir o anwiredd, ac nid ymedy dialedd â'i dŷ ef: os pecha efe, ei bechod
fydd arno: ac os diystyr ganddo, y mae efe yn pechu y dau cymaint: os yn ofer
hefyd y tyngodd efe, ni chyfiawnheir ef; oblegid fe a lenwir ei dŷ ef o
ddialedd.
23:12 Y mae ymadrodd wedi ei wisgo â
marwolaeth: Duw a wnêl na chaffer hwnnw yn etifeddiaeth Jacob; oherwydd hyn oll
a fydd bell oddi wrth y rhai duwiol, ac nid ymdrybaeddant hwy mewn pechodau.
23:13 Nac arfer dy enau i
anghymesurwydd o dyngu: oblegid y mae yn hynny ymadrodd pechadurus.
23:14 Cofia dy dad a'th fam, pan
fyddech yn eistedd ymysg pendefigion; rhag i ti anghofio ger eu bron hwynt, ac
i ti wrth dy arfer ddihoeni, ac ewyllysio ohonot na'th anesid, a melltithio
ohonot ddydd dy enedigaeth.
23:15 Y dyn a ymarfero â geiriau
gwaradwyddus, ni chymer addysg tra fyddo byw.
23:16 Dau fath sydd yn pechu llawer,
a'r trydydd sydd yn dwyn digofaint: Meddwl brwd sy fel y tân poeth, yr hwn ni
ddiffydd nes ei ddarfod: dyn godinebus yn ei gorff cnawdol, yr hwn ni phaid,
hyd oni chyneuo efe dan.
23:17 Y mae pob bara yn felys
gan ddyn godinebus; ni phaid efe nes ei farw.
23:18 Dyn yn troseddu oddi wrth ei
wely ei hun, gan ddywedyd yn ei galon, Pwy sydd yn fy ngweled? y mae tywyllwch
o'm hamgylch i, ac y mae y parwydydd yn fy nghuddio, ac nid oes neb yn fy
ngweled: beth sydd arnaf fi ei ofn? ni chofia y Goruchaf fy mhechodau i.
23:19 Y cyfryw ddyn sydd yn ofni
llygaid dynion yn unig, ac ni ŵyr fod llygaid yr Arglwydd goruchaf yn
ddeng mil eglurach na'r haul, yn canfod holl ffyrdd dynion, ac yn ystyried y
rhannau cuddiedig.
23:20 Cyn creu dim, pob peth oedd
hysbys iddo ef; ac wedi eu gorffen, y mae efe yn canfod y cwbl.
23:21 Yn heolydd y ddinas y dielir
ar hwn, ac efe a ddelir lle nis amheuodd efe.
23:22 Felly y bydd y wraig sydd yn
gadael ei gŵr, ac yn ceisio etifeddiaeth o arall:
23:23 Oblegid yn gyntaf, hi a
anufuddhaodd i gyfraith y Goruchaf; ac yn ail, hi a bechodd yn erbyn ei
gŵr; ac yn drydydd, hi a dorrodd briodas trwy odineb, ac a ddug blant o
ŵr arall.
23:24 Honno a ddygir allan yn y gynulleidfa, ac fe
fydd edrych ar ei phlant hi.
23:25 Ni wreiddia ei phlant hi, ac
ni ddwg ei changhennau hi ffrwyth.
23:26 Ei choffadwriaeth a ad hi yn
felltith, ac ni ddileir ei gwaradwydd hi.
23:27 A'r rhai a adewir a gânt wybod
nad oes dim well nag ofn yr Arglwydd, na dim felysach na gwylied ar orchmynion
Duw.
23:28 Gogoniant mawr yw dilyn Duw; a
hir hoedl yw cael dy dderbyn ganddo.
PENNOD 24
24:1 Doethineb a'i cenmyl ei hun, ac
a orfoledda ymysg ei phobl.
24:2 Hi a egyr ei genau yng
nghynulleidfa'r Goruchaf, ac a orfoledda gerbron ei allu ef.
24:3 Mi a ddeuthum o enau'r
Goruchaf, ac a orchuddiais y ddaear fel niwl.
24:4 Mi a breswyliais mewn lleoedd
uchel; a'm gorseddfainc i sy mewn colofn o gwmwl.
24:5 Myfi a amgylchais gylch y
nefoedd fy hunan, ac a rodiais yng ngwaelod y dyfnder.
24:6 Cefais feddiant o donnau'r môr,
ac o'r holl dir, ac o bob pobl a chenedl.
24:7 A chyda'r rhai hyn oll y
ceisiais i orffwystra; fel y cyfanheddwn yn etifeddiaeth rhyw un.
24:8 Yna y'm gorchmynnodd Creawdydd
pob peth, a'r hwn a'm creodd innau a wnaeth i'm pabell orffwyso, ac a
ddywedodd, Preswylia yn Jacob, a chymer etifeddiaeth yn Jerwsalem.
24:9 Efe a'm creodd i o'r dechreuad
cyn y byd; ac ni phallaf fi byth.
24:10 Mi a wasanaethais ger ei fron
ef yn y babell sanctaidd: ac felly y'm sicrhawyd yn Seion.
24:11 Gwnaeth efe hefyd i mi
orffwyso yn y ddinas sanctaidd; ac yn Jerwsalem y mae fy ngallu i.
24:12 Ac mi a wreiddiais ymysg pobl
anrhydeddus, sef yn rhan yr Arglwydd, a'i etifeddiaeth.
24:13 Fel cedyrn Libanus y
dyrchafwyd fi, ac fel cypreswydden ym mynyddoedd Hermon.
24:14 Fel palmwydden yn Engadi y
dyrchafwyd fi, ac fel planhigyn rhos yn Jericho, fel olewydden hardd mewn maes
teg, ac fel planwydden wrth ddyfroedd y cynyddais.
24:15 Fel sinamwn, ac fel swp o
beraroglau, ac megis myr dewisol, y rhoddais fy mherarogl, fel galbanum, ac
onics, a storacs, ac fel tarth thus yn y babell.
24:16 Mi a estynnais fy nghanghennau
fel terebinthus; a'm canghennau sydd ganghennau gogoniant a gras.
24:17 Fel gwinwydden y tarddodd
perarogl ohonof fi; a ffrwyth gogoniant a chyfoeth yw fy mlodau.
24:18 Mam cariad da, ac ofn, a
gwybodaeth, a gobaith sanctaidd, ydwyf fi: am hynny, gan fy mod yn dragwyddol, myfi
a roddir i'm holl blant, y rhai a enwyd ganddo ef.
24:19 Deuwch ataf fi, y rhai ydych
yn fy chwenychu, a llanwer chwi a'm ffrwythau:
24:20 Canys melysach yw fy
nghoffadwriaeth na’r mêl, a’m hetifeddiaeth na’r dil mêl.
24:21 Bydd ar y rhai a'm bwytânt i
newyn eto; ac ar y rhai a'm hyfant i y bydd syched eto.
24:22 Ni waradwyddir byth yr hwn a
ufuddhao i mi; ac ni phecha y rhai a weithiant trwof fi.
24:23 Llyfr cyfamod y goruchaf Dduw
yw hyn oll, sef y gyfraith, yr hon a orchmynnodd Moses i ni yn etifeddiaeth i
gynulleidfaoedd Jacob.
24:24 Na phellwch fod yn gryfion yn
yr Arglwydd; fel y cadarnhao efe chwi, glynwch wrtho ef: canys yr hollalluog
Arglwydd sydd Dduw yn unig, ac nid oes Iachawdwr ond efe.
24:25 Yr hwn a'i ddoethineb sydd yn
llenwi pob peth fel Pison, ac fel Tigris yn nyddiau y ffrwythau newydd.
24:26 Yr hwn sydd yn llenwi deall
fel Ewffrates, ac fel yr Iorddonen yn amser cynhaeaf.
24:27 Yr hwn sydd yn dangos addysg
gwybodaeth fel goleuni, ac fel Geon yn nyddiau cynhaeaf gwin.
24:28 Ni adnabu y dyn cyntaf hi yn
berffaith: felly nid olrhain y diwethaf hi allan.
24:29 Oblegid y mae ei meddyliau hi
yn helaethach na'r môr, a'i chyngor yn ddyfnach na'r dyfnder mawr.
24:30 Yr ydwyf fi doethineb fel ffos
yn dyfod o afon, ac fel aber yn myned i ardd.
24:31 Mi a ddywedais, Dyfrhaf fy
ngardd orau, a mwydaf fy ngarddwely yn dda: ac wele, fe aeth fy nant yn afon,
a'm hafon yn fôr.
24:32 Myfi a wnaf i addysg oleuo fel
y bore, ac a'i dangosaf hi ymhell:
24:33 Oherwydd myfi a dywalltaf
athrawiaeth fel proffwydoliaeth, ac mi a'i gadawaf hi i'r holl oesoedd yn
dragwyddol.
24:34 Gwelwch nad trosof fy hunan y
cymerais i oen, eithr dros bawb a geisiant ddoethineb.
PENNOD 25
25:1 Gan dri pheth yr euthum i yn
deg, ac y codais i yn deg gerbron yr yr Arglwydd a dynion; Cytundeb brodyr, a
chyfeillach cymdogion, a gŵr a gwraig yn cytuno â'i gilydd.
25:2 Tri math ar ddyn sy gas gan fy
enaid i, ac yr ydwyf yn anfodlon iawn i'w buchedd; Tlawd balch, a chyfoethog
celwyddog, a henwr godinebus angall.
25:3 Oni chesglaist ti ddim yn dy
ieuenctid, pa fodd y cei di ddim yn dy henaint?
25:4 Mor hardd yw barn ar rai
penllwyd! a medru cyngor ar hynafgwyr!
25:5 Mor hardd yw doethineb
hynafgwyr! a deall a chyngor mewn anrhydeddus!
25:6 Coron hynafgwyr yw gwybod
llawer; a'u gorfoledd yw ofn yr Arglwydd.
25:7 Naw peth a gyfrifais i yn
ddedwydd yn fy nghalon, a'r degfed a draethaf fi â'm tafod; Dyn yn cael
llawenydd o'i blant, ac yn byw i weled cwymp ei elynion:
25:8 Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn
cytal â gwraig synhwyrol, a'r hwn ni lithrodd ei dafod, ac ni wasanaethodd yr
hwn sydd anaddas iddo:
25:9 Gwyn ei fyd yr hwn a gafodd
synnwyr, a'r hwn a draetho wrth rai a wrandawo.
25:10 Mor fawr yw'r hwn sydd yn cael
doethineb! ond nid oes neb uwchlaw yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd.
25:11 Cariad yr Arglwydd sydd
eglurach na dim: i ba beth y cyffelybir yr hwn sydd yn cael gafael arno ef?
25:12 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad
ei gariad ef; a ffydd yw dechreuad glynu wrtho ef.
25:13 Dewis bob dyrnod, ond dyrnod
ar y galon; a phob drygioni, ond drygioni gwraig;
25:14 A phob niwed, ond niwed
caseion; a phob dial, ond dial gelynion.
25:15 Nid oes pen waeth na phen
sarff, na digofaint waeth na digofaint gelyn.
25:16 Gwell gennyf fi gytal â llew,
ac â draig, na chytal â gwraig ddrwg.
25:17 Y mae drygioni gwraig yn
newidio ei hwyneb hi, ac yn tywyllu ei hwynepryd hi fel arth.
25:18 Yng nghanol ei gymdogion yr
eistedd ei gŵr hi; ac efe a ucheneidia o'i anfodd o'i hachos hi.
25:19 Bychan yw pob drwg wrth ddrwg
gwraig; syrthied coelbren pechadur arni hi.
25:20 Fel y mae dringfa dywodlyd i
draed hynafgwr, felly y mae gwraig ddrwg ei thafod i ŵr distaw.
25:21 Na thramgwydda wrth degwch
gwraig; ac na chwennych wraig er trythyllwch.
25:22 Llawn dig, a digywilydd-dra, a
mawr waradwydd, yw gwraig, os rhydd hi i'w gŵr ei gynhaliaeth.
25:23 Gwraig ddrwg a wna galon isel,
ac wyneb trist, ac archoll calon. Dwylo gweiniaid, a gliniau rhyddion, yw'r hon
ni chynorthwya ei gŵr yn ei gyfyngdra.
25:24 Trwy wraig y daeth dechreuad
pechod; ac o'i phlegid hi yr ydym ni yn meirw oll.
25:25 Na ddod i ddwfr le i fyned
trosodd, nac i wraig ddrwg ryddid i rodienna o amgylch.
25:26 Onid â hi wrth dy law di, tor
hi oddi wrth dy gnawd; dod iddi lythyr ysgar, a gollwng hi yn rhydd.
PENNOD 26
26:1 Gwyn ei fyd gŵr y wraig
dda: canys dyblir rhifedi ei ddyddiau ef.
26:2 Gwraig rymus a lawenycha ei
gŵr: ac efe a gyflawna flynyddoedd ei fywyd mewn heddwch.
26:3 Rhan dda yw gwraig dda; ac yn
rhan y rhai sydd yn ofni'r Arglwydd y rhoddir hi.
26:4 Pa un bynnag fyddo dyn ai tlawd
ai cyfoethog, o bydd ganddo galon dda at yr Arglwydd, efe a orfoledda bob amser
yn wynebsiriol.
26:5 Rhag tri pheth yr arswydodd fy
nghalon i, a rhag y pedwerydd yr ofnais yn ddirfawr; Enllib dinas, ac
ymgasgliad torf afreolus, a gau dystiolaeth; blinach nag angau yw y rhai hyn
oll.
26:6 Baich calon, a galar, yw gwraig
yn dal eiddigedd wrth wraig, a ffrewyll y tafod yn cyfrannu â phawb.
26:7 Iau ychen yn siglo yw gwraig
ddrwg; ac y mae ei pherchennog megis yn ymaflyd mewn ysgorpion.
26:8 Dicter mawr yw gwraig feddw ac
ynfyd; ac ni chela hi ei gwarth ei hun.
26:9 Puteindra gwraig a adwaenir
wrth ddyrchafiad ei llygaid a'i hamrantau.
26:10 Dod gadwraeth sicr ar ferch
anhywaith, rhag, os caiff hi ryddid, iddi ei chamarfer ei hun.
26:11 Gwylia ar y llygad digywilydd;
ac na ryfedda os gwna hi gam â thi.
26:12 Fel yr egyr fforddol sychedig
ei safn pan gaffo ffynnon; felly yr yf hi o bob dwfr cyfagos, ac yr eistedd
wrth bob pawl, ac yr egyr ei chawell yn erbyn pob saeth.
26:13 Gras gwraig a wna ei gŵr
yn hyfryd; a'i gwybodaeth hi a wna ei esgyrn ef yn freision.
26:14 Rhodd yr Arglwydd yw gwraig
ddistaw garedig: ac nid oes cydwerth i enaid a gymerodd addysg.
26:15 Gras ar ras yw gwraig
gywilyddgar a ffyddlon: ac nid oes dim a ddichon gydbwyso ei diwair feddwl hi.
26:16 Fel y mae'r haul yn codi yn
uchel leoedd yr Arglwydd, felly y mae tegwch gwraig dda yn llywodraethu ei
thŷ.
26:17 Fel cannwyll yn goleuo yn y
canhwyllbren sanctaidd, felly y mae tegwch pryd mewn llawn oedran.
26:18 Fel colofnau aur mewn
morteisiau arian, felly y mae traed prydferth gyda dwyfron ddianwadal.
26:19 Fy mab, cadw flodau dy
ieuenctid yn iach, ac na ddod dy gryfder i ddieithriaid.
26:20 Wedi i ti gael rhan ffaeth o'r
maes oll, heua dy had dy hun, gan obeithio yn dy fonedd dy hun.
26:21 Felly dy hiliogaeth, yr hon a
adawech, a fawrheir, a hyder ganddynt ar eu bonedd.
26:22 Gwraig ar werth a gyfrifir ei
bod un wedd â hwch: a'r briod a gyfrifir yn dŵr yn erbyn marwolaeth i'w
gŵr.
26:23 Gwraig annuwiol a roddir yn
rhan i ŵr anwir: a'r dduwiol a roddir i'r hwn sydd yn ofni'r Arglwydd.
26:24 Gwraig anonest a ddiystyra
amarch; eithr merch onest a barcha ei gŵr.
26:25 Megis ci y cyfrifir gwraig
ddigywilydd: a'r gywilyddgar a ofna'r Arglwydd.
26:26 Y wraig sydd yn perchi ei
gŵr ei hun, a wêl pawb yn ddoeth: a'r hon a'i hamharcho ef yn ei balchder,
a gydnebydd pawb ei bod yn annuwiol.
26:27 Am wraig floeddgar a siaradus
yr edrychir i darfu gelynion.
26:28 Am ddau beth y mae fy nghalon
i yn athrist, ac am y trydydd y daeth arnaf ddicter; Bod rhyfelwr yn anghenus
trwy eisiau, a dirmygu gwŷr synhwyrol, ac un yn dychwelyd oddi wrth
gyfiawnder at bechod: yr Arglwydd a'i paratoa ef i'r cleddyf.
26:29 Anodd yw i farsiandwr ymgadw
rhag gwneuthur cam; ac ni chyfiawnneir tafarnwr oddi wrth bechod.
PENNOD 27
27:1 O Achos peth cyffredinol y
pechodd llawer: a'r hwn sydd yn ceisio cael amldra, a dry ei olwg ymaith.
27:2 Rhwng cyswllt cerrig y gyrrir
hoel; a rhwng prynu a gwerthu y glŷn pechod.
27:3 Oni ddeil dyn yn ofn yr
Arglwydd yn ddiwyd, ebrwydd y dinistrir ei dyef.
27:4 Wrth ysgwyd y gogr yr erys yr
amhuredd; felly brynti dyn yn ei ymresymiad ef.
27:5 Y ffwrn sydd yn profi llestri
pridd; felly y mae profedigaeth dyn yn ei ymresymiad ef.
27:6 Ei ffrwyth a ddengys goleddiad
y pren: felly y gwna traethu'r meddwl yng nghalon dyn.
27:7 Na chanmol ŵr cyn clywed
ei ymadrodd: oblegid dyna brofedigaeth dyn.
27:8 Os dilyni gyfiawnder, ti a'i
goddiweddi hi, ac a'i gwisgi hi fel gwisg laes ogoneddus.
27:9 Adar a arhosant gyda'u
cyffelyb; a'r gwirionedd a dry at y rhai a weithiant trwyddi.
27:10 Fel y cynllwyn llew i'r helfa,
felly y gwna pechod i'r rhai a weithredant ddrygioni.
27:11 Traethiad y duwiol sy bob
amser mewn doethineb; a'r angall a newidia fel y lleuad.
27:12 Ymysg yr ansynhwyrol cadw yr
amser; a thyred yn fynych i fysg y rhai pwyllog.
27:13 Baich yw traethiad ffyliaid;
a'u difyrrwch fydd mewn trythyllwch pechod.
27:14 Ymadrodd yr hwn a dyngo lawer,
a wna i'r gwallt sefyll; ac ymsywyn y cyfryw a wna gau clustiau.
27:15 Ymsywyn beilchion a bair
gelanedd; a'u difenwad hwynt sy flin ei glywed.
27:16 Yr hwn sydd yn datguddio
cyfrinach, a gollodd ei gred; ac ni chaiff efe gyfaill wrth ei fodd.
27:17 Hoffa dy gyfaill, a gwna yn ffyddlon
ag ef: eithr os datguddi di ei gyfrinach ef, na ddilyn ar ei ôl ef mwyach.
27:18 Oblegid megis y difethodd dyn
ei elyn, felly y collaist ti gariad dy gymydog.
27:19 Ac fel pe gollyngai gŵr
aderyn o'i law, felly y gollyngaist ti dy gymydog, ac nis deli ef drachefn.
27:20 Na chanlyn ef: oblegid y mae
efe ymhell, ac y mae fel iwrch wedi dianc allan o'r fagl:
27:21 Oblegid fe a ellir iacháu
archoll, ac y mae cymod am ddifenwi: eithr yr hwn a ddatguddiodd gyfrinach, a
gollodd ei obaith.
27:22 Y mae yr hwn sydd yn amneidio
â'i lygad yn adeiladu drwg; a'r hwn a'i hadwaeno ef a gilia oddi wrtho.
27:23 Efe a wna ei enau yn fwyn yn
dy ŵydd di, a rhyfedd fydd ganddo ef dy ymadrodd: wedi hynny efe a dry ei
chwedl, ac a fwrw fai ar dy ymadrodd di.
27:24 Llawer o bethau a gaseais i,
ac ni welwn ddim tebyg iddo ef: yr Arglwydd hefyd a'i casâ ef.
27:25 Y neb sydd yn taflu carreg i
fyny, sydd yn ei thaflu hi ar ei ben ei hun: a dyrnod twyllodrus a wna
archollion.
27:26 Yr hwn a gloddio ffos, a syrth
ynddi hi; a'r hwn a osodo fagl, a ddelir a hi.
27:27 Yr hwn a wnelo ddrwg,
arno ef y disgyn; ac ni chaiff efe wybod o ba le y mae yn dyfod iddo.
27:28 Gwatwar a gwatadwyddo sy'n
eiddo'r beilchion: eithr dialedd a gynllwyn iddynt hwy fel llew.
27:29 Mewn magl y delir y rhai sydd
yn llawen ganddynt syrthio o'r rhai duwiol; a chyn eu marwolaeth y treulia
gofid hwynt.
27:30 Digofaint a llid sy ffiaidd; a'r dyn
pechadurus a'u caiff hwy ill dau.
PENNOD 28
28:1 Y dialwr a gaiff ddialedd gan
yr Arglwydd; ac efe gan gadw a geidw ei bechodau ef mewn cof.
28:2 Maddau i'th gymydog y cam a
wnaeth efe â thi; ac yna, pan weddïech di, y maddeuir dy bechodau dithau.
28:3 Dyn a ddeil ddig wrth ddyn; ac
a gais efe gan yr Arglwydd feddyginiaeth?
28:4 Ni thrugarha efe wrth ddyn cyffelyb
iddo ei hun; ac a ymbil efe dros ei bechodau ei hun?
28:5 Os efe nid yw ond cnawd a ddeil
ddig, pwy a ymbil am faddeuant o'i bechodau ef?
28:6 Cofia'r diwedd, a phaid â dal
galanastra; cofia lygredigaeth a marwolaeth, ac aros wrth y gorchmynion.
28:7 Cofia y gorchmynion, ac na ddal
ddig wrth dy gymydog: cofia gyfamod y Goruchaf, ac nac edrych ar anwybodaeth.
28:8 Ymgadw rhag cynnen, a thi a
wnei yn llai dy bechodau; oblegid gŵr dicllon a gynnau gynnen.
28:9 Gŵr pechadurus a dralloda
gyfeillion, ac a wna ymryson rhwng rhai heddychol.
28:10 Fel y byddo defnydd y tân,
felly y llysg efe; ac fel y byddo cryfder dyn, y bydd ei ddigofaint ef; ac yn
ôl cyfoeth dyn y cyfyd ei lid ef; a pho cryfaf fo y rhai sy'n ymryson, mwyaf y
cynnau eu llid hwynt.
28:11 Y mae ymryson prysur yn cynnau
tân; ac ymladd prysur yn tywallt gwaed.
28:12 Os chwythi di wreichionen, hi
a gynnau; ond os poeri di arni, hi a ddiffydd: ac y mae'r ddau yn dyfod o'r
genau.
28:13 Melltithiwch yr athrodwr a'r
dau-dafodiog: oblegid llawer un heddychlon a ddifethasant hwy.
28:14 Tafod dauddyblyg a gynhyrfodd
lawer, ac a'u gwasgarodd hwynt o genedl i genedl: dinasoedd cedyrn a
ddinistriodd efe hefyd, a theiau pendefigion a ddifethodd efe.
28:15 Tafod dauddyblyg a fwriodd
wragedd rhinweddol allan, ac a'u diddymodd hwynt o'u llafur.
28:16 Yr hwn a wrandawo arno ef ni
chaiff fyth orffwystra, ac ni phreswylia yn llonydd.
28:17 Dyrnod ffrewyll a wna glais; a
dyrnod tafod a dyr yr esgyrn.
28:18 Llawer a syrthiasant oherwydd
min y cleddyf: ond nid cymaint ag a syrthiasant oblegid y tafod.
28:19 Gwyn ei fyd yr hwn a
amddiffynnwyd rhagddo, ac nid aeth yn ei ddigofaint ef; yr hwn ni thynnodd ei
iau ef, ac ni rwymwyd â'i rwymau ef:
28:20 Oblegid iau haearn yw ei iau
ef, a rhwymau pres yw ei rwymau ef;
28:21 Marwolaeth ddrwg yw ei
farwolaeth ef; a mwy buddiol yw y bedd nag ef.
28:22 Ni chaiff efe lywodraeth ar y
rhai duwiol; ac ni losgir hwynt yn ei mam ef.
28:23 Y rhai sydd yn gadael yr Arglwydd
a syrthiant iddo; ac ynddynt hwy y llysg efe heb ddiffoddi: efe a yrrir arnynt
hwy fel llew, ac fel llewpard y difa efe hwynt.
28:24 Edrych ar gau ohonot dy dyddyn
â drain; a rhwym i fyny dy arian a'th aur:
28:25 A phwysa dy eiriau mewn
clorian, a gwna i'th enau ddôr a chlo.
28:26 A gochel rhag llithro ohonot
trwyddo, a rhag syrthio ohonot o flaen y cynllwynwr.
PENNOD 29
29:1 Yr hwn sy drugarog, sydd yn
rhoddi echwyn i'w gymydog; a'r hwn sydd yn cadarnhau ei law ef, sydd yn cadw'r
gorchmynion.
29:2 Dod echwyn i'th gymydog yr
amser y byddo rhaid iddo; a thâl drachefn i'th gymydog mewn amser.
29:3 Cadw dy air, a gwna yn ffyddlon
ag ef, a thi a gei wrth dy raid bob amser.
29:4 Llawer a gyfrifasant echwyn fel
peth wedi ei gael, ac a barasant flinder i'r rhai a'u helpiasant hwy.
29:5 Y mae efe yn cusanu ei law ef,
hyd oni dderbynio; ac efe a ostwng ei leferydd am arian ei gymydog: ond yn
amser talu efe a oeda yr amser, ac a rydd ateb hwyrfrydig, ac a wna esgus o'r
amser.
29:6 Ac os dichon efe, prin y caiff
efe yr hanner, ac efe a gyfrif hynny fel peth wedi ei gael ar y ffordd: os
amgen, efe a'i difuddiodd o'i arian, ac a'i cafodd ef yn elyn heb achos: efe a
dâl iddo felltithion a difenwad; efe a dâl iddo amarch yn lle anrhydedd.
29:7 Llawer oherwydd hynny a
nacasant fenthycio am ddrygwaith rhai eraill, gan ofni eu difuddio.
29:8 Er hynny bydd ddioddefgar wrth
ŵr tlawd, ac nac oeda dy elusen iddo.
29:9 Cynorthwya'r tlawd er mwyn y
gorchymyn, ac na thro ef ymaith yn ei angen.
29:10 Coll dy arian er mwyn cyfaill
neu frawd, ac na chuddia hwynt dan garreg i'w colli.
29:11 Gosod dy drysor yn ôl
gorchymyn y Goruchaf, ac efe a fydd mwy buddiol i ti nag aur.
29:12 Cae dy elusen yn dy gelloedd;
a hi a'th wared di o bob niwed.
29:13 Hi a ymladd drosot ti yn well
na tharian gref, ac na gwaywffon gadarn, yn erbyn y gelyn.
29:14 Gŵr da a fechnïa dros ei
gymydog; a'r hwn a gollodd gywilydd-dra a'i gad ef.
29:15 Na anghofia garedigrwydd
meichiau; oblegid efe a'i rhoddes ei hun drosot ti.
29:16 Pechadur a anrheithia feichiau
da ei gyflwr;
29:17 A'r hwn sydd o feddwl
anffyddlon, a ad mewn perygl yr hwn a'i gwaredodd ef.
29:18 Mechnïaeth a ddifethodd lawer
un goludog, ac a'u siglodd hwynt fel ton y môr: hi a wnaeth i wŷr cedyrn
fudo allan o'u tai, fel y crwydrasant ymysg cenhedloedd dieithr.
29:19 Y pechadur a droseddo
orchmynion yr Arglwydd, a syrth mewn mechnïaeth; a'r hwn a ddilyn achosion rhai
eraill er gwobr, a syrth mewn cyfraith.
29:20 Cynorthwya dy gymydog yn ôl dy
allu; a gwylia arnat dy hun rhag syrthio ohonot.
29:21 Y peth pennaf o fywyd dyn, yw
dwfr, a bara, a dillad, a thŷ yn gorchuddio gwarth.
29:22 Gwell yw bywyd y tlawd mewn
bwth gwael, na gwleddau danteithiol mewn tŷ un arall.
29:23 Am fawr a bychan bydd fodlon,
ac ni chei di glywed edliw dy dŷ.
29:24 Bywyd drwg yw myned o dŷ
i dŷ: lle yr ymdeithi di, ni elli agoryd dy enau.
29:25 Ti a letyi, ac a ddiodi rai
anniolchgar, ac a gei glywed chwerwder hefyd.
29:26 Tyred, ymdeithydd, gwna'r
bwrdd yn drefnus; ac od oes dim gennyt, dod i mi fwyd.
29:27 Tyred allan, ymdeithydd, o
flaen yr anrhydeddus: y mae yn rhaid i mi wrth fy nhŷ, y mae fy mrawd yn
lletya gyda mi.
29:28 Trwm yw hyn i'r hwn sy ganddo
synnwyr; edliw y tŷ, a gwaradwyddo y benthyciwr.
PENNOD 30
30:1 Yr hwn sydd yn caru ei fab a'i
mynych ffrewylla ef, fel y caffo lawenydd ohono ef yn y diwedd.
30:2 Yr hwn a ddysgo ei fab, a gaiff
lawenydd ohono, ac a orfoledda o'i achos ef ymysg ei gydnabod.
30:3 Yr hwn sydd yn dysgu ei fab, a
ddigia ei elynion; ac a orfoledda o'i blegid ef o flaen ei gyfeillion.
30:4 Er marw ei dad ef, eto y mae
efe megis heb farw; am adael ohono ef ar ei ôl un cyffelyb iddo ei hun.
30:5 Yn ei fywyd efe a'i gwelodd ef,
ac a fu lawen o'i blegid: ac yn ei ddiwedd ni bu efe athrist.
30:6 Efe a adawodd un i ddial yn
erbyn ei elynion, ac un i dalu diolch i'w gyfeillion.
30:7 Yr hwn sydd yn mawrhau gormod
ar ei fab, a rwym ei archollion ef, ac at bob bloedd fe gythryblir ei
ymysgatoedd ef.
30:8 March heb ei ddofi a â yn
bengaled; a mab a adawer iddo ei hun a â yn anllywodraethus.
30:9 Llocha dy fab, ac efe a'th
ddychryna di: chwarae ag ef, ac efe a'th dristâ di.
30:10 Na chydchwardd ag ef rhag
gofidio ohonot gydag ef, a gwasgu dy ddannedd yn y diwedd.
30:11 Na ddod iddo ryddid yn ei ieuenctid,
ac nac edrych heibio i'w anwybodaeth.
30:12 Gostwng ei war ef yn ei
ieuenctid, a chur ei ystlys tra fyddo efe blentyn, rhag iddo fyned yn bengaled,
ac anufuddhau i ti, a bod yn ofid i'th galon.
30:13 Addysga dy fab, a chymer boen
gydag ef, fel na byddo ei anweddeidd-dra ef yn dramgwydd i ti.
30:14 Gwell yw'r tlawd iach a chryf,
na'r cyfoethog clwyfus ei gorff.
30:15 Iechyd a chyfansoddiad da sydd
well na phob aur; a chorff cryf na golud anfeidrol.
30:16 Nid oes gyfoeth gwell na
iechyd corff: ac nid oes llawenydd gwell na llawenydd calon.
30:17 Gwell yw marwolaeth nag
einioes chwerw, neu nychdod parhaus.
30:18 Danteithion wedi eu tywallt ar
safn gaead, sy fel seigiau o fwyd wedi eu gosod ar fedd.
30:19 Pa fudd a wna'r offrwm i
eilun? oblegid ni fwyty efe, ac ni arogla: felly y mae yr hwn a erlidir gan yr
Arglwydd.
30:20 Y mae efe yn gweled â'i
lygaid, ac yn tuchan fel disbaidd yn cofleidio morwyn, ac yn ucheneidio.
30:21 Na ddod dy enaid i dristwch;
ac na chystuddia dydi dy hun yn dy gyngor dy hun.
30:22 Llawenydd calon yw einioes
dyn, a gorfoledd gŵr sydd yn estyn ei ddyddiau ef.
30:23 Hoffa dy enaid dy hun, a
chysura dy galon; a gyr dristwch ymhell oddi wrthyt: oblegid tristwch a laddodd
lawer, ac nid oes fudd ynddo.
30:24 Cenfigen a dig sydd yn lleihau
dyddiau; a gofal sydd yn dwyn henaint cyn yr amser.
30:25 Calon hoyw a da, a
ofala am ei bwyd a'i lluniaeth.
PENNOD 31
31:1 Gwylio am olud a wna i'r cnawd
ddihoeni; a gofal amdano a luddia gwsg.
31:2 Gofalus wylio a lestair hepian;
a chlefyd trwm a dyr gwsg.
31:3 Y goludog sydd yn cymryd poen
yn casglu cyfoeth; ac yn ei esmwyth-dra efe a lenwir â'i ddanteithion.
31:4 Y mae'r tlawd yn cymryd poen yn
ei dlodi; a phan beidio, tlawd yw efe.
31:5 Ni chyfrifir yn gyfiawn yr hwn
a hoffo aur; a'r hwn a ddilyno lygredigaeth a gaiff ei wala ohono.
31:6 Llawer a ddifethwyd o achos
aur; ac o'u blaen yr oedd eu dinistr.
31:7 Pren tramgwydd yw efe i'r rhai
a aberthant iddo; ac wrtho ef y delir pob angall.
31:8 Gwyn ei fyd y goludog a geir yn
ddifai, ac nid aeth ar ôl aur.
31:9 Pwy yw efe? a nyni a'i galwn ef
yn hapus: canys pethau rhyfedd a wnaeth efe ymysg ei bobl.
31:10 Pwy a brofwyd trwy yr aur hwn,
ac a gafwyd yn berffaith? ac efe a gaiff fod yn orfoleddus: pwy a allodd bechu,
ac ni phechodd? ac a allodd wneuthur drygioni, ac nis gwnaeth?
31:11 Am hynny y sicrheir ei dda ef;
a'r gynulleidfa a fynega ei elusennau ef.
31:12 Pan eisteddych di ar fwrdd
helaeth, na rytha dy geg arno, ac na ddywed, Mae llawer o fwyd arno.
31:13 Cofia mai peth drwg yw
drwglygad: a pha beth a wnaed waeth na llygad? am hynny yr wyla efe wrth bob
achlysur.
31:14 Nac estyn dy law i bob lle yr
edrycho efe, ac na wthia hi gydag ef i'r ddysgl
31:15 Barna dy gymydog wrthyt dy
hun; a bydd bwyllog ym mhob peth.
31:16 Bwyta fel dyn yr hyn a osoder
o'th flaen; ac na fydd wancus, rhag dy gasáu.
31:17 Paid yn gyntaf, oherwydd
medrusrwydd; ac na fydd annigonol, rhag gweled bai arnat.
31:18 Pan eisteddych ymysg llawer, nac estyn dy
law yn gyntaf.
31:19 Digon yw ychydig iawn i'r
medrus; ac ni bydd yn fyr ei anadl ar ei wely.
31:20 Cysgu yn iachus a gaiff yr hwn
a fwytao yn gymesurol: efe a gyfyd yn fore â'i synnwyr ganddo: eithr y gŵr
ni ddigoner a gaiff boen, anhunedd, a geri, a chnofeydd y bol.
31:21 Ac os gorfu arnat mewn gwledd
fwyta, cyfod o'r canol, bwrw, ac ymesmwytha.
31:22 Clyw fi, fy mab, ac na
ddiystyra fi, ac yn y diwedd ti a gei fy ngeiriau i yn wir. Yn dy holl waith
bydd esgud, ac ni ddigwydd un clefyd i ti.
31:23 Gwefusau llawer a fendithiant
yr hael o'i fara; a chredadwy fydd tystiolaeth am ei ddaioni ef.
31:24 Yr holl ddinas a rwgnach yn
erbyn yr anhael o'i fara; a thystiolaeth am ei ddrygioni ef nid amheuir.
31:25 Na ddangos dy wroldeb mewn
gwin: canys gwin a ddifethodd lawer.
31:26 Y ffwrn a brawf y min wrth ei
drochi; felly y gwna gwin galon y beilchion wrth feddwdod.
31:27 Gwin sy gystal â bywyd i ddyn,
os yfir ef yn gymesurol: pa fywyd gan hynny sydd i'r dyn sy heb win? canys i
lawenychu dynion y crewyd ef.
31:28 Llawenydd calon, a hyfrydwch
meddwl, yw'r gwin a yfer mewn pryd, yn gymesurol:
31:29 Eithr gwin, pan yfer gormod
ohono, a bair chwerwder meddwl, ymgecraeth, a chynhennu.
31:30 Meddwdod yr angall a chwanega
ddig, oni thramgwyddo; a wanha gryfder, ac a bair archollion.
31:31 Na cherydda dy gymydog wrth
yfed gwin, ac na ddirmyga ef pan fyddo llawen: na ddywed air gwaradwyddus
wrtho, ac na phwysa arno trwy ei gymell i yfed.
PENNOD 32
32:1 Os gwnaed di yn llywodraethwr
ar y wledd, nac ymddyrchafa, eithr bydd iddynt megis un ohonynt hwy: gofala
drostynt, ac felly eistedd i lawr.
32:2 Ac wedi i ti wneuthur dy swydd,
cymer dy le, fel y byddych lawen gyda hwynt, ac y derbyniech goron am dy iawn
lywodraeth ar y wledd,
32:3 Llefara di, yr hwn wyt hynaf,
canys hyn sy weddus i ti; eithr trwy ddiwydrwydd gwybodaeth, ac na rwystra
gerdd.
32:4 Na thywallt ymadrodd pan fyddo
amser i wrando; ac na ddangos dy ddoethineb allan o amser.
32:5 Megis selxxx o garbuncl mewn
gwisg o aur, yw cytsain miwsig wrth gwmniaeth gwin.
32:6 Megis sêl o smaragdus mewn
boglyn o aur, yw melystra miwsig gyda'r gwin melys.
32:7 Ti ŵr ieuanc, llefara pan
fyddo rhaid, a hynny yn brin, pan y'th ofynner ddwywaith.
32:8 Gwna ddiben ar dy ymadrodd:
cynnwys lawer mewn ychydig eiriau: bydd megis un a gwybodaeth ganddo, ac yn
ddistaw hefyd.
32:9 Nac ymgystadla ymysg gwŷr
mawr; ac na siarad lawer lle y byddo hynafgwyr.
32:10 O flaen taran yn y man
y daw mellten; ac o flaen y llednais yr a ffafr.
32:11 Cyfod mewn pryd, ac na fydd
olaf: rhed i'th dŷ, ac na segura:
32:12 Yno chwarae, a gwna dy feddwl;
ond nid mewn pechod, nac ymadrodd balch.
32:13 A bendithia am hyn yr hwn a'th wnaeth, ac
a'th lanwodd â'i bethau da.
32:14 Y neb a ofna'r Arglwydd a
dderbyn ei addysg ef: a'r hwn a foregodo i'w geisio ef, a gaiff ewyllys da.
32:15 Yr hwn a geisio'r ddeddf a
lenwir â hi; a'r rhagrithiwr a dramgwydda wrthi hi.
32:16 Y rhai a ofnant yr Arglwydd a
gânt farn dda, a chyfiawnderau a gyneuant fel goleuni.
32:17 Y pechadur a wrthyd gerydd, ac
a gaiff esgus wrth ei ewyllys ei hun.
32:18 Gŵr a gymero gyngor, ni
ddiystyra ddeall: ond y dieithr a'r balch ni arswyda gan ofn; ie, wedi iddo
wneuthur peth ohono ei hun heb gyngor.
32:19 Na wna ddim heb gyngor; ac
wedi gwneuthur, nac edifarha.
32:20 Na ddos ar hyd ffordd y gellych
syrthio arni, ac na thramgwydda ymysg y cerrig.
32:21 Na fydd hyderus ar ffordd
ddi-rwystr.
32:22 Gwylia dy blant dy hun hefyd.
32:23 Ym mhob gweithred dda
ymddiried i'th enaid dy hun; canys hyn yw cadw y gorchmynion.
32:24 Yr hwn a gredo yn yr Arglwydd,
a ddisgwyl ar y gorchymyn; a'r hwn a obeithio ynddo ef, ni bydd dim gwaeth
iddo.
PENNOD 33
33:1 Ni ddigwydd niwed i'r hwn a
ofno'r Arglwydd; eithr mewn profedigaeth efe a'i gwared ef drachefn.
33:2 Nid cas gan y doeth y gyfraith;
ond yr hwn a ragrithio sy megis llong mewn tymestl.
33:3 Dyn synhwyrol a ymddiried yn y
gyfraith; a'r gyfraith sy ffyddlon megis oracl iddo yntau.
33:4 Paratoa dy ymadrodd, ac felly
y'th wrandewir: bydd sicr o'r peth, ac yna ateb.
33:5 Calon y ffôl sydd fel olwyn men;
a'i feddyliau sy fel echel dro.
33:6 Megis ystalwyn yw cyfaill
gwatwarus, yn gweryru dan bawb a'r a eisteddant arno.
33:7 Paham y mae diwrnod yn rhagori
ar ddiwrnod, gan fod cwbl oleuni pob diwrnod yn y flwyddyn yn dyfod oddi wrth
yr haul?
33:8 Trwy wybodaeth yr Arglwydd y
gwahanwyd hwynt; ac efe a newidiodd yr amserau a'r gwyliau:
33:9 Rhai ohonynt hwy a wnaeth efe
yn ddyddiau uchel, ac a'u sancteiddiodd hwynt; ac efe a osododd rai ohonynt yn
rhifedi y dyddiau.
33:10 A phob dyn oll sydd o'r llawr;
ac o'r ddaear y crewyd Adda.
33:11 Yr Arglwydd trwy fawr
wybodaeth a'u neilltuodd hwynt, ac a wnaeth eu ffyrdd hwy yn amryw.
33:12 Rhai ohonynt hwy a fendithiodd
ac a ddyrchafodd efe; a rhai ohonynt a sancteiddiodd, ac a nesaodd efe ato ei
hun; rhai ohonynt hwy a felltithiodd ac a ddarostyngodd efe, ac a drodd allan
o'u lleoedd.
33:13 Megis y mae'r clai yn llaw y
crochenydd, i'w lunio wrth ei ewyllys ef; felly y mae dyn yn llaw yr hwn a'i
gwnaeth, i roddi iddo fel y gwelo efe yn dda.
33:14 Y mae da wedi ei osod yn erbyn
drwg, ac einioes yn erbyn angau: felly y mae y duwiol yn erbyn y pechadur, a'r
pechadur yn erbyn y gŵr duwiol.
33:15 Felly edrych ar holl
weithredoedd y Goruchaf; bob yn ddau y maent hwy, y naill yn erbyn y llall.
33:16 Minnau a ddeffroais yn
ddiwethaf fel un yn lloffa ar ôl cynaeafwyr y grawnwin: trwy fendith yr
Arglwydd y cynyddais, ac y llenwais fy ngwinwryf, fel cynaeafwr grawnwin.
33:17 Ystyriwch nad i mi fy hunan y
cymerais i boen, ond i bawb a geisiant athrawiaeth.
33:18 O bendefigion y bobl,
clywch; O lywodraethwyr y gynulleidfa, gwrandewch â'ch clustiau.
33:19 Na ddod awdurdod arnat dy hun
i fab nac i wraig, i frawd nac i gydymaith, tra fyddech byw: ac na ddod dy dda
i arall, rhag bod yn edifar gennyt, a gorfod i ti ymbil amdano drachefn.
33:20 Tra fyddwch fyw, ac anadl
ynot, na ddyro dy hun i fyny i neb:
33:21 Canys gwell yw bod dy blant yn
ceisio gennyt ti, nag i ti fod yn disgwyl wrth ddwylo dy blant.
33: 22
Cymer dy ragor yn dy holl weithredoedd; ac na anafa dy barch.
33:23 Yn y dydd y gorffennych di
ddyddiau dy einioes, ac yn amser dy ddiwedd, rhan dy etifeddiaeth.
33:24 Rhodder porthiant, a gwialen,
a phwn, i'r asyn; felly bara, a chosbedigaeth, a gwaith, i'r gweinidog.
33:25 Os gosodi dy was ar waith, ti
a gei orffwystra; ond os gollyngi ef yn segur, efe a gais ryddid.
33:26 Iau a chebystr a ostwng y war;
felly y mae cosbedigaeth a phoenau i weinidog drwg.
33:27 Gyr ef i'w waith, fel na byddo
efe segur: oblegid llawer o ddrygioni a ddysgodd seguryd.
33:28 Gosod ef ar waith, fel y
gweddai iddo: oni bydd efe ufudd, dod heyrn trymach arno:
33:29 Ond na ddod ormod ar un cnawd;
ac na wna ddim heb bwyll.
33:30 Os bydd gennyt weinidog,
bydded efe i ti fel dy enaid dy hun; oblegid mewn gwaed y cefaist ti ef.
33:31 Os bydd gennyt weinidog, gwna
ohono ef fel o frawd: canys fe fydd mor rhaid i ti wrtho ef ag wrthyt dy hun:
os cosbi di ef ar gam, a chodi ohono yntau, a ffoi ymaith, pa ffordd y ceisi di
ef?
PENNOD 34
34:1 Ofer a chelwyddog obaith fydd
gan ŵr ansynhwyrol; a breuddwydion a falchia y rhai angall.
34:2 Megis un yn rhoi cais ar
gysgod, ac yn ymlid gwynt, yw'r hwn a goelio i freuddwydion.
34:3 Gweledigaeth breuddwydion sy
gyffelybiaeth o'r naill beth i'r llall, megis cyffelybrwydd wyneb i wyneb.
34:4 Pa lendid a geir o'r aflan? a
pha wirionedd o'r celwyddog?
34:5 Ofer yw dewiniaeth, coelion, a
breuddwydion; a'r galon sydd yn ffansïo fel calon gwraig yn esgor.
34:6 Oddieithr i’r Goruchaf eu
danfon hwynt yn dy ymweliad di, na ddod dy galon arnynt.
34:7 Breuddwydion a dwyllasant
lawer; a'r rhai a obeithiasant ynddynt hwy a fethasant.
34:8 Heb gelwydd y perffeithir y
gyfraith; a pherffeithrwydd i enau ffyddlon yw doethineb.
34:9 Y gŵr a gerddodd lawer, a
ŵyr lawer: a'r hwn a gafodd brawf o lawer o bethau, a ddengys synnwyr.
34:10 Ychydig a ŵyr yr hwn ni
phrofwyd: a'r hwn a gerddodd lawer sy'n llawn o synnwyr.
34:11 Mi a welais lawer yn fy
ngherdded; ac yr wyf yn deall mwy nag a fedraf ei adrodd.
34:12 Mi a fûm yn fynych mewn perygl
marwolaeth; eto mi a achubwyd trwy ras Duw.
34:13 Ysbryd y rhai a ofnant yr
Arglwydd a gaiff fyw: oblegid y mae eu gobaith hwy ar eu Hachubwr.
34:14 Yr hwn sydd yn ofni'r Arglwydd
nid ofna ddim, ac ni ddychryna; oblegid efe yw ei obaith ef.
34:15 Gwyn ei fyd enaid y neb a
ofno'r Arglwydd: at bwy y mae efe yn edrych? a phwy yw ei gadernid ef?
34:16 Canys y mae llygaid yr
Arglwydd ar y rhai a'i carant ef, yn amddiffynfa nerthol, ac yn gadernid cryf,
yn gysgod rhag gwres, ac yn gysgod rhag yr haul hanner dydd, ac yn geidwad rhag
tramgwyddo, ac yn help rhag syrthio,
34:17 Yn dyrchafu'r enaid, ac yn
llewyrchu'r llygaid, ac yn rhoddi iechyd, a bywyd, a bendith.
34:18 Gwawd yw offrwm yr hwn a
abertho o dda anghyfiawn: ni byddir bodlon i roddion y rhai anwir.
34:19 Nid yw y Goruchaf fodlon i
offrymau yr annuwiol; ac nid trwy lawer o aberthau y bodlonir ef am bechod.
34:20 Megis un yn lladd y mab
o flaen llygaid y tad, yw'r hwn a offrymo aberth o dda y tlodion.
34:21 Bywyd y tlodion anghenus yw
bara; a dyn gwaedlyd yw yr hwn a'i dygo oddi arno.
34:22 Lladd ei gymydog y mae yr hwn
a dwyllo y gwas cyflog am ei gyflog.
34:23 Pan fyddo un yn adeiladu, ac arall yn tynnu
i lawr, pa fudd a gânt hwy ond poen?
34:24 Pan fyddo un yn gweddïo, ac
arall yn melltithio, lleferydd pa un a wrendy'r Arglwydd?
34:25 Y neb a ymolcho, wedi cyffwrdd
â'r marw, ac a gyffyrddo ag ef eilwaith, pa fudd a gaiff efe o'i ymolchiad?
34:26 Felly y dyn a ymprydio oblegid
ei bechodau, ac a â drachefn, ac a wna yr un pethau; pwy a wrendy ar ei weddi
ef? a pha fudd fydd iddo ef am ymddarostwng?
PENNOD 35
35:1 Y mae y neb sydd yn cadw'r
gyfraith yn dwyn digon o offrymau; y neb sydd yn glynu wrth y gorch-mynion,
sydd yn aberthu iachawdwriaeth.
35:2 Ac y mae yr hwn a dalo ddiolch
yn offrymu peilliaid; a'r hwn a roddo elusen yn aberthu moliant.
35:3 Ewyllys yr Arglwydd yw troi
oddi wrth ddrygioni; a bodloni yw ymado ag anghyfiawnder.
35:4 Nac ymddangos gerbron yr
Arglwydd yn waglaw:
35:5 Oblegid hyn oll a wneir o achos
y gorchymyn.
35:6 Y mae offrwm y duwiol yn
gwneuthur yr allor yn fras, a'i arogl peraidd ef sy gerbron y Goruchaf.
35:7 Aberth y gŵr cyfiawn sy
gymeradwy; ac ni ollyngir dros gof ei goffadwriaeth ef.
35:8 Gogonedda Dduw â llygad da, ac
na phrinha flaenffrwyth dy ddwylo.
35:9 Dangos dy wyneb yn llawen ym
mhob rhodd; a chysegra dy ddegfed yn siriol.
35:10 Dod i'r Goruchaf megis y
rhoddes yntau i tithau, ac fel y mae dy allu, â llygad da:
35:11 Oblegid yr Arglwydd a dal; ac
efe a dâl i ti y saith gymaint.
35:12 Na phrinha dy offrwm; canys ni
dderbyn efe mohono: ac na ymddiried wrth aberth anghyfiawn; oblegid yr Arglwydd
sy Farnwr, ac nid yw efe yn derbyn wyneb neb.
35:13 Ni dderbyn efe wyneb yn erbyn
y tlawd, eithr efe a wrendy weddi'r gorthrymedig.
35:14 Ni ddiystyra efe ddeisyfiad yr
amddifad, na'r weddw, pan dywallto hi ei gweddi.
35:15 Onid yw dagrau'r weddw yn
disgyn ar ei gruddiau hi, a'i llefain yn erbyn y neb sydd yn eu peri?
35:16 Yr hwn a addolo Dduw a fydd
cymeradwy; a'i weddi ef a gyrraedd hyd y cymylau.
35:17 Gweddi y gostyngedig a â
trwy'r cymylau; ac nis diddenir hi nes ei dyfod yn agos; nid ymedy hi nes i'r
Goruchaf edrych i farnu yn gyfiawn, ac i wneuthur barn.
35:18 Canys yr Arglwydd nid oeda, ac
ni hirymerys y Cadarn wrthynt hwy, nes dryllio llwynau'r rhai anhrugarog, a
thalu dialedd i'r Cenhedloedd; a dwyn ymaith luosowgrwydd y rhai trahaus, a
dryllio teyrnwialen y rhai anghyfiawn;
35:19 Nes iddo dalu i bob dyn yn ôl
ei weithredoedd, ac i weithredoedd dynion yn ôl eu dychmygion; nes iddo farnu
achos ei bobl, a'u llawenychu hwy â'i drugaredd.
35:20 Hyfryd yw trugaredd yn amser
adfyd, fel y cymylau glaw yn amser sychder.
PENNOD 36
36:1 Cymer drugaredd arnom ni, O
Arglwydd Dduw pawb oll; ac edrych arnom:
36:2 A gyr dy ofn ar y Cenhedloedd oll,
y rhai ni'th geisiasant.
36:3 Cyfod dy law ar y Cenhedloedd
dieithr; gad iddynt weled dy allu di.
36:4 Megis y'th sancteiddiwyd yn ein
mysg ni ger eu bron hwynt; felly mawrhaer di yn eu mysg hwythau ger ein bron
ninnau.
36:5 Gwna iddynt dy adnabod megis yr
ydym ni yn dy adnabod, nad oes un Duw ond tydi, O Arglwydd.
36:6 Adnewydda arwyddion, a newidia
ryfeddodau: gogonedda dy law a'th ddeheufraich, fel y gosodont allan dy
weithredoedd rhyfedd.
36:7 Cyffroa dy lid, a thywallt dy
ddicter: cymer y gwrthwynebwr ymaith, a dryllia'r gelyn.
36:8 Prysura'r amser, cofia'r
cyfamod, a mynegant hwy dy ryfeddodau di.
36:9 Gad i ddigofaint tanllyd
ddifa'r neb a ddihango; a chaffed y rhai a wnânt niwed i'th bobl eu difetha.
36:10 Dryllia bennau tywysogion y
Cenhedloedd, y rhai a ddywedant, Nid oes ond nyni.
36:11 Casgl holl lwythau Jacob
ynghyd, a chymer hwynt yn etifeddiaeth i ti, megis o'r dechreuad.
36:12 O Arglwydd, trugarha wrth y
bobl, y rhai a elwir ar dy enw di; ac wrth Israel, yr hwn a elwaist ti yn gyntaf-anedig.
36:13 Tosturia wrth Jerwsalem, dinas
dy gysegr, a'th orffwysfa di.
36:14 Llanw Seion â'th oraclau
anhraethadwy, a'th bobl â'th ogoniant.
36:15 Dod dystiolaeth i'r pethau a
greaist yn y dechreuad; a chyfod y proffwydi a fuant yn dy enw.
36:16 Dod wobr i'r rhai sydd yn aros
wrthyt ti, a chaffer dy broffwydi yn ffyddlon.
36:17 Gwrando, O Arglwydd, weddïau
dy weision, yn ôl bendith Aaron i'th bobl, fel y gwypo y rhai oll sydd ar y
ddaear mai ti yw yr Arglwydd, y Duw tragwyddol.
36:18 Y bol a dreulia bob bwyd; ond
y mae rhyw fwyd yn well na bwyd arall.
36:19 Taflod y genau a edwyn amryw
fwyd hela; felly yr edwyn calon gall eiriau celwyddog.
36:20 Calon wrthnysig a bair
dristwch; ond dyn a ŵyr lawer, a dâl iddo.
36:21 Gwraig a dderbyn bob gŵr;
eithr y mae rhyw ferch yn well na merch arall.
36:22 Tegwch gwraig a lawenycha'r
wynepryd ac nid oes gan ŵr hyfrydwch mwy.
36:23 Os bydd ar ei thafod hi
drugaredd, lledneisrwydd, ac iachâd, nid fel eraill y mae ei gŵr hi.
36:24 Y mae perchen gwraig yn
dechrau llwyddo, sef help fel ef ei hun, a cholofn gorffwystra.
36:25 Lle nid oes gae, yr anrheithir
y berchenogaeth: a'r hwn nid oes wraig iddo, a grwydra dan alaru.
36:26 Pwy a goelia williad wedi
ymdaclu, ac yn gwibio o ddinas i ddinas? felly y mae am y dyn nid oes ganddo
nyth, eithr lletya ym mha le bynnag yr elo hi yn nos arno.
PENNOD 37
37:1 Pob cydymaith a ddywed, Da
gennyf finnau ef; eithr y mae cydymaith mewn enw yn unig.
37:2 Onid tristwch hyd angau ydyw,
pan dro cyfaill neu gydymaith i fod yn elyn?
37:3 O feddwl drygionus, o ba le yr
ymdreiglaist ti, i orchuddio'r ddaear a thwyll?
37:4 Rhyw gyfaill a wna yn llawen
gyda'i gydymaith yn ei lawenydd; ac a fydd yn ei erbyn ef yn amser adfyd.
37:5 Rhyw gyfaill a gymer boen
gyda'i gydymaith er mwyn ei fol, ac a gymer darian yn erbyn y gelyn.
37:6 Nac anghofia dy gydymaith yn dy
feddwl, ac na fydd anghofus amdano pan fyddech yn gyfoethog.
37:7 Pob cynghorwr a genmyl ei
gyngor: ac y mae a gynghora er budd iddo ei hun.
37:8 Gwylia gynghorwr, a myn wybod
yn gyntaf pa raid fydd wrtho ef, (oblegid y mae efe yn cynghori trosto ei hun,)
rhag iddo fwrw y coelbren arnat ti,
37:9 A dywedyd wrthyt, Da yw dy
ffordd; ac yna sefyll o'r tu arall, i edrych beth a ddigwyddo i ti.
37:10 Nac ymgynghora â'r neb a'th
amheuo di: a chêl dy gyfrinach oddi wrth y rhai a genfigennant wrthyt.
37:11 Nac ymgynghora â gwraig, am yr
hon y mae hi yn dal eiddigedd wrthi; nac â'r llwfr am ryfel; nac â'r marchnadwr
am gyfnewid; nac â'r prynwr am werthu; nac â'r cenfigennus am ddiolchgarwch;
nac â'r anhrugarog am gymwynas; nac â'r diog am ddim gwaith; nac â'r gwas a
gyfloger dros flwyddyn, am orffen peth; nac â gwas diog am lawer o waith: na
wrando ar y rhai hyn am ddim cyngor.
37:12 Eithr bydd yn wastad gyda
gŵr duwiol, yr hwn a wyddost ti ei fod yn cadw gorchmynion yr Arglwydd, yr
hwn y byddo ei feddwl fel dy feddwl dithau; yr hwn, os tramgwyddi di, a
gydofidia â thi.
37:13 Safed cyngor dy galon dy hun:
oblegid nid oes neb ffyddlonach i ti na honno.
37:14 Canys y mae meddwl dyn yn
arfer weithiau o fynegi mwy na saith o wylwyr yn eistedd mewn tŵr gwylio
uchel.
37:15 Ac o flaen hyn oll, gweddïa ar
y Goruchaf ar iddo gyfarwyddo dy ffordd di mewn gwirionedd.
37:16 Cyn dechrau pob gwaith bydded
rheswm; ac o flaen pob gweithred aed cyngor.
37:17 Arwydd newidiad llawenydd yw'r
wyneb.
37:18 Pedwar math ar beth sydd yn
ymddangos; da, a drwg; einioes, ac angau: a'r tafod sydd yn llywodraethu yn
wastad arnynt hwy.
37:19 Y mae un call, ac yn dysgu
llawer eraill, ac eto yn anfuddiol i'w enaid ei hun.
37:20 Y mae un yn ddoeth ar eiriau,
ac eto yn atgas: gan hwnnw nid oes dim doethineb:
37:21 Oblegid ni roddes yr Arglwydd
ras iddo ef; canys efe a adawyd heb bob doethineb.
37:22 Rhyw un sy gall i'w enaid ei hun;
a ffrwythau deall sy ganmoladwy yn ei enau ef.
37:23 Gŵr doeth a ddysg ei
bobl; a ffrwythau ei ddeall ef sydd sicr.
37:24 Gŵr doeth a gaiff ddigon
o fendith; a'r rhai oll a'i gwelant ef, a'i cyfrifant yn hapus.
37:25 Dyddiau oes gŵr sydd wrth
rifedi; a dyddiau Israel sydd annifeiriol.
37:26 Y doeth a etifedda ogoniant
ymysg ei bobl; a'i enw a fydd byth.
37:27 Fy mab, prawf dy enaid tra
fyddech byw; gwêl yr hyn sy ddrwg iddo, ac na ddod iddo.
37:28 Nid yw pob peth yn fuddiol i
bawb; ac nid yw pob enaid yn hoff ganddo bob peth.
37:29 Na fydd annigonol o ddim
dantaith, ac na ruthra i fwyd.
37:30 O lawer o fwydydd y daw
clefyd; a gormodedd a dry fel geri.
37:31 Trwy ormodedd y bu feirw
llawer; ond yr hwn a ymgeidw a estyn ei hoedl.
PENNOD 38
38:1 Anrhydedda'r meddyg ag
anrhydedd dyledus iddo, am fod yn rhaid wrtho ef: oblegid yr Arglwydd a'i
creodd ef:
38:2 Canys oddi wrth y Goruchaf y
daeth meddyginiaeth; ac efe a gaiff ogoniant gan y brenin.
38:3 Gwybodaeth y meddyg a ddyrchafa
ei ben ef; ac yng ngŵydd gwŷr mawr y perchir ef;
38:4 Yr Arglwydd a greodd
feddyginiaethau a'r ddaear; ac ni bydd ffiaidd gan ŵr call mohonynt.
38:5 Oni wnaed y dwfr yn beraidd a
phren, fel y gwybyddai dynion ei rinwedd ef?
38:6 Ac efe a roddes wybodaeth i
ddynion, fel y gogoneddid ef am ei ryfeddodau.
38:7 A'r rhai hynny y mae efe yn
meddyginiaethu, ac yn tynnu ymaith boen dyn.
38:8 A'r rhai hynny y gwna yr
apothecari eli; ac ar ei waith nid oes diben: oherwydd oddi wrth yr Arglwydd y
mae heddwch ar wyneb y ddaear.
38:9 Fy mab, na fydd esgeulus yn dy
glefyd; eithr gweddïa ar yr Arglwydd, ac efe a'th iachâ di.
38:10 Tro oddi wrth anwiredd, ac
iawndrefna dy ddwylo, a glanha dy galon oddi wrth bob pechod.
38:11 Dod berarogl, a choffadwriaeth
o beilliaid, a dod offrwm bras, fel un heb fod:
38:12 Yna dod le i'r meddyg: oblegid
yr Arglwydd a'i creodd ef: nac ymadawed â thi; oherwydd fe fydd rhaid i ti
wrtho ef.
38:13 Y mae amser pan fyddo ffyniant
ar eu llaw hwynt:
38:14 Canys hwy a weddïant hefyd ar
yr Arglwydd, ar iddo ef lwyddo yr hyn y maent hwy yn ei roddi, er esmwythdra ac
iechyd i estyn einioes.
38:15 Yr hwn a becho yng ngŵydd
yr hwn a'i gwnaeth, syrthied yn llaw y meddyg.
38:16 Fy mab, gollwng ddagrau dros y
marw, a dechrau alaru, fel pe bait yn dioddef anfad niwed; ac yna amdoa ei
gorff ef yn ôl yr arfer, ac na ddiystyra ei gladdedigaeth ef.
38:17 Wyla yn chwerw, a gofidia yn
dost, a galara fel yr haeddai efe, ddiwrnod neu ddau, rhag cael anair: yna
cymer ddiddanwch am dy dristwch:
38:18 Oblegid o dristwch y daw
marwolaeth; a thristwch calon a blyga gryfder.
38:19 Mewn cystudd yr erys tristwch;
a melltith calon yw bywyd y tlawd.
38:20 Na ddod dristwch at dy galon;
tro ef ymaith, a meddwl am y diwedd.
38:21 Nac anghofia hyn, oherwydd ni
elli ddychwelyd: ni elli di ddaioni iddo ef, ond niwed a wnei i ti dy hun.
38:22 Cofia'r farn sydd i mi; felly
y bydd yr eiddot tithau: i mi ddoe, ac i tithau heddiw.
38:23 Gorffwysed coffadwriaeth y
marw, pan orffwyso yntau: cymer gysur amdano ef, gan fyned ei ysbryd oddi wrtho.
38:24 Doethineb y dysgedig a geir
wrth hamdden amserol: a'r hwn a edrycho ychydig am ei waith, ni bydd efe doeth.
38:25 Pa fodd y daw efe i
ddoethineb, yr hwn sydd yn dal y penffestr, ac sydd a'i hoffter yn yr irai, ac
sydd yn gyrru'r ychen, ac sydd yn arfer eu gwaith hwynt, ac yn chwedleua am
fustachiaid?
38:26 Y mae efe yn rhoi ei feddwl ar
droi cwysau, ac yn ddiiwyd i roddi gwellt i'r gwartheg.
38:27 Felly pob saer, a phensaer, yr
hwn a weithia nos a dydd, yr hwn a gerfia gerfiadau seliau, ac a fydd astud i
wneuthur amryw gerfiadau, ac a rydd ei feddwl ar ddynwared portreiadau, ac a
fydd wyliadwrus i orffen gwaith.
38:28 Felly'r gof yn eistedd wrth yr
einion, ac yn ystyried y gwaith haearn; angerdd y tân a wna i'w gnawd ef
ddihoeni, ac efe a ymladd â gwres yr aelwyd: y mae sŵn y morthwyl a'r
einion yn dyfod yn wastad i'w glustiau ef; ar wedd y dodrefnyn y mae efe yn ei
wneuthur y mae ei lygaid ef yn wastad: ei feddwl a rydd efe ar orffen ei waith,
a'i ofal fydd am ei orffen yn hardd.
38:29 Felly y mae'r crochenydd yn
eistedd wrth ei waith, ac yn troi y droell â'i draed, yr hwn a esyd ar ei waith
bob amser yn ofalus, a'i holl waith ef fydd dan rif.
38:30 Efe a lunia'r clai â'i fraich,
ac a'i meddalha ef â'i draed: efe a esyd ei feddwl ar ei blymio drosto, ac a
fydd ofalus i ysgubo'r odyn.
38:31 Y rhai hyn oll sydd yn
ymddiried yn eu dwylo eu hun; a phob un a gais fod yn gelfydd yn ei waith.
38:32 Heb y rhai hyn ni chyfanheddir
dinas: ac ni chânt hwy drigo lle y mynnont, na rhodio i fyny ac i waered.
38:33 Ni cheisir hwynt i fod o
gyngor y bobl, ac ni ddyrchefir hwynt yn y gynulleidfa: nid eisteddant hwy ar
orseddfainc ynadon, ac ni ddeallant gyfamod y gyfraith: ni fedrant egluro cyfiawnder
a barn, ac ni byddant i'w cael lle y bo traethu damhegion.
38:34 Eithr y maent hwy yn cynnal y
byd: a'u dymuniad sydd yng ngwaith eu celfyddyd.
PENNOD 39
39:1 Eithr yr hwn a roddo ei fryd ar
gyfraith y Goruchaf, ac a fyfyrio ynddi, a gais ddoethineb y rhai oll a fuant
gynt, ac a dreulia ei amser yn y proffwydi.
39:2 Efe a geidw eiriau gwŷr
enwog, ac a fydd lle y bo damhegion call.
39:3 Efe a gais ddirgelwch
diarhebion, ac a erys yng nghaled gwestiynau damhegion.
39:4 Efe a wasanaetha ymysg pendefigion,
ac a ymddengys yng ngŵydd tywysogion; efe a dramwya trwy wlad
cenhedloedd dieithr: canys efe a brofodd y da a'r drwg ymysg dynion.
39:5 Efe a rydd ei feddwl ar fyned
yn fore at yr Arglwydd yr hwn a'i gwnaeth ef, ac efe a weddïa gerbron y
Goruchaf, ac a egyr ei enau mewn gweddi, ac a ymbil dros ei bechodau.
39:6 Pan fynno yr Arglwydd mawr, efe
a lenwir ag ysbryd deall: efe a draetha eiriau doethion; ac yn ei weddi efe a
folianna'r Arglwydd.
39:7 Efe a gyfarwydda ei gyngor a'i
wybodaeth ef; yn ei ddirgelwch ef y myfyria efe.
39:8 Efe a ddengys addysg ei
athrawiaeth, ac a lawenycha yng nghyfraith cyfamod yr Arglwydd.
39:9 Llawer a ganmolant ei synnwyr
ef, ac nis dileir hi byth: nid ymedy ei goffadwriaeth ef, eithr ei enw a bery
yn oes oesoedd.
39:10 Cenhedloedd a fynegant ei
ddoethineb ef, a'r gynulleidfa a draetha ei glod ef.
39:11 Efe a ad enw gwell na mil, o
bydd efe marw; ac os byw fydd, efe a'i chwanega.
39:12 Mynegaf eto yr hyn a
feddyliais: oblegid yr ydwyf fi mor llawn â'r lleuad yn y llawnllonaid.
39:13 Gwrandewch arnaf fi, chwi rai
sanctaidd; blodeuwch fel rhosyn wedi ei blannu wrth afon y maes;
39:14 A rhoddwch arogl peraidd fel
thus, a dygwch flodau fel gardd lili; rhoddwch arogl, a chenwch fawl; a
bendithiwch yr Arglwydd yn ei holl weithredoedd.
39:15 Mawrygwch ei enw, a gosodwch
allan ei fawl ef, gan ganu â gwefusau, ac â thelynau: a dywedwch yn eich
clodforedd fel hyn:
39:16 Holl weithredoedd yr Arglwydd
ydynt dda odiaeth: a'i holl orchmynion ef a wneir mewn pryd.
39:17 Ni all neb ddywedyd, Beth yw
hyn? paham y mae hyn acw? canys mewn pryd y ceisir hwynt oll: wrth ei air ef y
safodd y dwfr fel pentwr, a'r llynnau dyfroedd wrth air ei enau ef.
39:18 Yn ei orchymyn ef y mae pob
dim a ryglydda fodd iddo; ac nid oes a ddichon luddias ei iachawdwriaeth ef.
39:19 Gweithredoedd pob cnawd sy ger
ei fron ef, ac ni ellir cuddio dim rhag ei olwg ef.
39:20 Y mae efe yn edrych o
dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb; ac nid oes dim rhyfedd ger ei fron ef.
39:21 Nid rhaid gan hynny ddywedyd,
Beth yw hyn? pam y mae hyn acw? oblegid efe a wnaeth bob peth i'r peth y mae yn
rhaid iddo wrthynt.
39:22 Ei fendith ef a orchuddiodd
fel afon, ac a ddyfrhaodd y ddaear fel llif.
39:23 Fel y trodd efe y dyfroedd yn
halltineb: felly y caiff y Cenhedloedd ei ddig ef yn etifeddiaeth.
39:24 Ei ffyrdd ef sydd union i'r
rhai sanctaidd, a thramgwydd i'r anwir.
39:25 Pethau da a grewyd o'r
dechreuad i'r rhai da, a phethau niweidiol i bechaduriaid.
39:26 Y pethau pennaf o
angenrheidiau bywyd dyn, yw dwfr, tân, a haearn, a halen, a blawd gwenith, a
llaeth, a mêl, a gwin, ac olew, a dillad.
39:27 Y rhai hyn oll sy dda i'r
duwiol; felly y troir hwynt yn niwed i'r pechaduriaid.
39:28 Y mae ysbrydion a wnaed er
dialedd, ac yn eu dig y cryfhânt hwy eu ffrewyllau: ac yn y diwedd hwy a
dywalltant allan eu nerth, ac a ostegant lid yr hwn a'u gwnaeth.
39:29 Tân, a môr, a newyn, a
marwolaeth, y rhai hyn oll a wnaed er dialedd.
39:30 Dannedd bwystfilod, a
sgorpionau, a gwiberod, a'r cleddyf, sydd yn dial er dinistr ar yr annuwiolion.
39:31 Byddant lawen pan gyfodo efe,
a pharod fyddant ar y ddaear, pan fyddo rhaid wrthynt; a phan ddelo eu hamser,
nid ânt hwy dros ei orchymyn ef.
39:32 Am hyn yr ymnerthais i o'r
dechreuad, ac a feddyliais am y pethau hyn, ac a'u gadewais mewn ysgrifen.
39:33 Holl waith yr Arglwydd sy dda;
ac efe a'u dyry hwy wrth bob rhaid yn eu hamser.
39:34 Ni ellir dywedyd, Gwaeth yw
hyn na hyn acw: oblegid cymeradwy fydd pob un yn ei amser.
39:35 Am hynny yn awr â'r galon oll
ac â'r genau canmolwch a bendithiwch enw'r Arglwydd.
PENNOD 40
40:1 Blinder mawr a grewyd i bob
dyn, a iau drom sydd ar feibion dynion, o'r dydd y delont hwy o groth eu mam
hyd y dydd y dychwelont i fam pob peth:
40:2 Sef eu meddyliau, a'u braw calon,
eu disgwyliad am y pethau a ddaw, a'u dydd diwedd;
40:3 O'r hwn sydd yn eistedd ar
deyrngadair gogoniant, hyd yr iselradd, yr hwn sydd yn y pridd a'r lludw;
40:4 O'r hwn sydd yn gwisgo porffor
a choron, hyd yr hwn a wisg liain cri.
40:5 Y mae dig a chenfigen, blinder
a helbul, ac ofn marwolaeth, a llid, ac ymryson; ac yn amser cymryd esmwythdra
yn ei wely, ei gwsg liw nos a newidia ei wybodaeth ef.
40:6 Megis yn nydd amser gwylio,
felly yn ei gwsg, ychydig neu beth heb ddim yw ei esmwythdra ef: efe a
gythryblir yn ei galon megis un wedi ffoi o ryfel.
40:7 Pan fo pob peth yn ddiofal, efe
a ddeffry, ac a ryfedda nad oedd yr ofn ddim.
40:8 Felly y mae i bob cnawd, yn
ddyn ac yn anifail; ac i bechaduriaid y mae saith mwy na hyn.
40:9 Marwolaeth, gwaed, ymryson,
cleddyf, gorthrymder, newyn, cystudd, a ffrewyll,
40:10 Yn erbyn yr annuwiol y gwnaed
hyn oll; ac er eu mwyn hwy y bu y dilyw.
40:11 Pob peth a'r y sydd o'r
ddaear, a ddychwel i'r ddaear; hyn sy o'r dyfroedd, a droir i'r môr.
40:12 Pob derbyn gwobr, ac
anghyfiawnder, a ddileir; ac uniondeb a bery byth.
40:13 Golud rhai anghyfiawn a â yn
ddihysbydd fel afon, ac a ddiflanna trwy dwrf fel taran fawr ar law.
40:14 Tra yr agoro efe ei law, efe a
fydd lawen: felly y derfydd am y troseddwyr.
40:15 Hiliogaeth yr annuwiol ni
byddant ganghennog; eithr fel gwraidd aflan ydynt ar graig ddibyn.
40:16 Y chwyn yn tyfu wrth bob dwfr,
ac yng nglan yr afon, a dynnir o flaen pob gwellt.
40:17 Caredigrwydd sy fel gardd
baradwysaidd: a thrugaredd a bery byth.
40:18 Melys yw buchedd yr hwn a
weithio, ac a fyddo bodlon i'w gyflwr; gwell na'r ddau yw yr hwn a gaffo
drysor.
40:19 Planta, ac adeiladu dinas, a
sicrha enw: eithr gwraig ddifai a gyfrifir yn well na'r ddau.
40:20 Gwin a cherdd a lawenycha'r
galon; eithr hoffi doethineb sy fwy na'r dau.
40:21 Pibell a saltring a wnânt
gynghanedd felys: a thafod mwyn sy well na'r ddau.
40:22 Pryd a thegwch a chwennych
llygad: er hynny gwell yw egin glas na'r ddau.
40:23 Cyfaill a chydymaith a
gyfarfyddant mewn pryd; gwraig gyda'i gŵr sydd well na'r ddau.
40:24 Brodyr a chymorth sy dda yn
amser adfyd; eithr elusen a wared yn fwy na'r ddau.
40:25 Aur ac arian a sefydlant y
troed: a chyngor sy gymeradwyach na'r ddau.
40:26 Golud a chryfder a ddyrchafa'r
galon: eithr ofn yr Arglwydd sy fwy na'r ddau: nid oes eisiau yn ofn yr
Arglwydd, ac nid rhaid iddo ef geisio help.
40:27 Gardd a fendithiwyd yw ofn yr
Arglwydd, ac a'i gorchuddia ef uwch pob gogoniant.
40:28 Fy mab, na fydd yn westai:
gwell yw marw na gwesta.
40:29 Nid yw bywyd yr hwn a edrych
ar fwrdd gŵr arall, i'w gyfrif yn fywyd; efe a haloga ei enaid am fwyd
eraill: eithr y gŵr call, a ddysgwyd yn dda, a ymochel rhag hynny.
40:30 Melys yw cardota yng ngenau y
digywilydd; ond yn ei fol ef y llysg tân.
PENNOD 41
41:1 O angau, mor chwerw yw meddwl
amdanat ti i'r dyn a fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sy ganddo; i'r
gŵr a fyddo dihelbul, ac yn llwyddiannus ym mhob peth; ac i'r hwn a
ddichon eto gymryd ei fwyd!
41:2 O angau, mor dda yw dy farn di
i'r anghenus, ac i'r gwan; i'r hen ddihenydd, ac i'r hwn sydd yn flin arno am
bob peth; ac i'r anobeithiol, ac i'r annioddefgar!
41:3 Nac ofna farn angau: cofia y
rhai a fu o'th flaen, ac a fydd ar dy ôl di: dyma farn yr Arglwydd ar bob
cnawd.
41:4 Paham y gwrthwynebi di ewyllys
y Goruchaf? pa un bynnag ai deg, ai cant, ai mil o flynyddoedd y buost ti fyw,
nid oes gyfrif yn y bedd.
41:5 Plant ffiaidd yw plant
pechaduriaid; felly y mae y rhai sydd yn byw yn nhrigfâu yr annuwiol.
41:6 Etifeddiaeth plant yr annuwiol
a ddifethir; a chyda'u hiliogaeth hwynt yr erys gwaradwydd yn wastad.
41:7 Rhag tad annuwiol yr achwyn y
plant; oblegid hwy a waradwyddir o'i achos ef.
41:8 Gwae chwi, wŷr annuwiol, y
rhai a adawsoch gyfraith y Duw goruchaf! oblegid er eich amlhau, chwi a
ddifethir;
41:9 A phan aner chwi, chwi a enir i
felltith; ac os meirw fyddwch, rhoddir i chwi felltith yn rhan.
41:10 Pob peth a â i'r ddaear, a
ddelo o'r ddaear: felly yr â yr annuwiol o felltith i ddistryw.
41:11 Galar dynion fydd am eu cyrff,
ond enw drwg dynion a ddileir.
41:12 Bydd ofalus am enw da: canys
hwnnw a erys gyda thi yn hwy na mil o drysorau mawrion o aur.
41:13 Buchedd dda a gaiff nifer o
ddyddiau; ond enw da a bery byth.
41:14 Fy meibion, cedwch addysg mewn
heddwch: canys doethineb wedi ei chuddio, a thrysor heb ei weled, pa fudd sydd
o'r ddau?
41:15 Gwell yw'r dyn a guddio ei
ffolineb, na'r dyn a guddio ei ddoethineb.
41:16 Gwladeiddia gan hynny yn ôl fy
ngair i: oblegid nid da yw cadw pob gwladeidd-dra, ac nid yw gwbl gymeradwy ym
mhob peth.
41:17 Cywilyddiwch yng ngŵydd
tad a mam am odineb, ac yng ngŵydd tywysog neu bendefig am gelwydd,
41:18 Am fai o flaen yr ynad a'r
tywysog, am anwiredd yng ngŵydd y gynulleidfa a'r bobl, am anghyfiawnder
yng ngŵydd cydymaith a chyfaill;
41:19 Felly am ladrad oherwydd y lle
y byddech yn aros ynddo, ac oherwydd gwirionedd Duw a'i gyfamod; ac am roddi dy
benelin ar y bara, a phan y'th gerydder am roddi a derbyn;
41:20 Yr un modd am dewi wrth y rhai
a'th gyfarchant, ac am edrych ar wraig buteinig;
41:21 Ac am droi dy wyneb oddi wrth
dy gar, am ddwyn rhodd neu ran, ac am ddal sylw ar wraig gŵr arall;
41:22 Neu am arfer maswedd â morwyn
un arall, ac na thyred yn agos at ei gwely hi; bydded gywilydd gennyt edliw
gerbron cydymaith; ac na ddannod wedi rhoddi;
41:23 Ac am adrodd drachefn yr hyn a
glywech, a datguddio cyfrinach.
41:24 Felly y byddi gywilyddgar, ac
y cei di ffafr gan bob dyn.
PENNOD 42
42:1 Nac ystyr berson i bechu, ac na
fydded arnat gywilydd am y pethau hyn:
42:2 Sef am gyfraith y Goruchaf, a'i
gyfamod, nac am y farn a wnêl i'r annuwiol fod yn gyfiawn;
42:3 Am gyfrif â'th gyfeillion a'th
gydymdeithwyr, neu am roddi etifeddiaeth cyfeillion;
42:4 Am fod yn ofalus am gloriannau
a phwysau, ac am feddiannu llawer neu ychydig;
42:5 Am uniondeb yn prynu a gwerthu,
am geryddu llawer ar blant, ac am dynnu gwaed o ystlys gwas drwg.
42:6 Da yw sêl rhag gwraig
ddrwg, a chloi lle y byddo llawer o ddwylo.
42:7 Pan roddech beth at arall, dod dan rif a
phwys; dod a derbyn wrth ysgrifen.
42:8 Trwy ddysgu'r annoeth, a'r
angall, a'r cleiriach a ymrysono ag ieuenctid, y byddi di wir ddysgedig, a
chymeradwy gerbron pob dyn byw.
42:9 Merch a bair i'w thad wylied yn
ddirgel; a gofal amdani hi a rwystra ei gwsg ef: rhag iddi nac yn ei hieuenctid
fyned dros flodau ei hoedran, na chael ei chasáu wedi gwra;
42:10 Rhag ei halogi yn ei
morwyndod, a'i beichiogi yn nhŷ ei thad; ac iddi wneuthur bai pan fyddo
gyda gŵr; ac er cytal, fod yn amhlantadwy.
42:11 Cadw yn sicr ferch wamal, rhag
iddi dy wneuthur yn wawd i'th elynion, a pheri i'r ddinas sôn amdanat, ac i'r
bobl feio arnat, a'th waradwyddo yng ngŵydd y gynulleidfa.
42:12 Nac edrych ar degwch pob dyn,
ac nac aros ymysg gwragedd:
42:13 Oblegid o ddillad y daw
gwyfyn, a drygioni gwraig o wraig.
42:14 Gwell yw gŵr drygionus na
gwraig gymwynasgar, sef gwraig a waradwyddo yn gywilyddus.
42:15 Mi a gofiaf weithredoedd yr
Arglwydd, ac a fynegaf yr hyn a welais: yng ngeiriau'r Arglwydd y ceir ei
weithredoedd ef.
42:16 Pan oleuo'r haul, efe a oleua
ar bob peth; felly y mae ei waith ef yn llawn o ogoniant yr Arglwydd.
42:17 Ni wnaeth yr Arglwydd i'w rai
sanctaidd fynegi ei holl ryfeddodau ef, y rhai a sicrhaodd yr Hollalluog, fel y
byddai pob peth yn sicr yn ei ogoniant ef.
42:18 Y mae efe yn chwilio allan y
dyfnder, a'r galon, ac yn deall eu cyfrwystra hwynt: canys y mae'r Goruchaf yn
gwybod pob gwybodaeth, ac yn gweled arwyddion y byd.
42:19 Y mae efe yn mynegi pethau a
fuant, a phethau a fyddant; ac yn datguddio ôl pethau dirgel.
42:20 Nid a un meddwl heibio iddo
ef, ac ni bydd un gair yn guddiedig oddi wrtho.
42:21 Efe a harddodd fawredd ei
ddoethineb; ac y mae efe o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb: ni ellir chwanegu ato
ef, na thynnu oddi wrtho: nid rhaid iddo ef wrth gyngor neb.
42:22 Mor ddymunol yw ei holl
weithredoedd ef! ie, hyd yn oed mewn gwreichionen y gellir gweled hyn.
42:23 Y mae y rhai hyn oll yn byw ac
yn parhau byth; ac wrth bob rhaid y maent hwy yn ufuddhau oll.
42:24 Y maent hwy oll yn
ddauddyblyg, y naill ar gyfer y llall; ac ni wnaeth efe ddim a di%g arno.
42:25 Y mae y naill yn sicrhau
daioni'r llall: a phwy a gaiff ddigon o edrych ar ei ogoniant ef?
PENNOD 43
43:1 Gogoniant yr uchelder, y ffurfafen
eglur, tegwch y nefoedd, a'i olygiad gogoneddus;
43:2 Y mae yr haul hefyd, wrth
ymddangos, yn mynegi offeryn rhyfedd, gwaith y Goruchaf.
43:3 Ar hanner dydd efe a lysg y
wlad; a phwy a ddichon aros ar gyfer ei wres poeth ef?
43:4 Y mae un yn cadw ffwrn mewn
gwaith brwd; tri mwy y llysg yr haul y mynyddoedd: gan chwythu allan angerdd
tanllyd, ac yn disgleirio â'i belydr, y mae efe yn dallu'r llygaid:
43:5 Mawr yw yr Arglwydd, yr hwn a'i
gwnaeth ef; ac wrth ei orchymyn ef efe a beidiodd â'i daith.
43:6 Y lleuad hefyd a wnaeth efe i
wasanaethu yn ei hamser; i fod yn egluro yr amser, ac yn arwydd i'r byd.
43:7 Wrth y lleuad y ceir gwybod yr
ŵyl, sef goleuni yn lleihau tua'r diwedd.
43:8 Ar ei henw hi y mae y mis; a hi
a gynydda yn rhyfedd yn ei chyfnewid, yn offeryn i'r lluoedd yn yr uchelder, yn
llewyrchu yn ffurfafen y nefoedd.
43:9 Disgleirdeb y sêr sydd yn
degwch i'r nefoedd, ac yn harddwch yn disgleirio yn uchel leoedd yr Arglwydd.
43:10 Wrth orchymyn yr un Sanctaidd
y maent hwy yn sefyll yn eu trefn, ac nid ydynt yn diffygio yn eu
gwyliadwriaeth.
43:11 Gwêl yr enfys, a chlodfora yr
hwn a'i gwnaeth hi: teg odiaeth yw hi yn ei disgleirdeb.
43:12 Y mae hi yn amgylchu'r nefoedd
â chylch gogoneddus; dwylo'r
Arglwydd a'i hanelodd hi.
43:13 Y mae efe wrth ei orchymyn yn
gwneuthur i'r eira ddisgyn ar frys, ac i daranau ei farn ef brysuro.
43:14 Am hyn yr ymegyr y trysorau,
ac yr eheda y cymylau fel adar.
43:15 Yn ei fawredd y sicrhaodd
efe'r cymylau, ac a dorrodd yn fân y cerrig cenllysg.
43:16 A'r mynyddoedd a symudant wrth
ei olwg ef: wrth ei ewyllys ef y chwyth y deheuwynt.
43:17 Twrf ei daran ef a bair i'r
ddaear grynu, a thymestl y gogleddwynt, a'r trowynt: y mae efe yn taenu eira
fel adar yn ehedeg, ac efe a syrth fel y disgyn ceiliogod rhedyn.
43:18 Rhyfedd gan lygad weled tegwch
ei wynder ef; a phob calon a synna wrth ei gawod ef.
43:19 Efe a dywallt rew ar y ddaear
fel halen; ac wedi iddo rewi, y mae efe yn biglym.
43:20 Pan chwytho'r gogleddwynt oer,
a rhewi o'r dwfr yn iâ, ar bob llyn dwfr y saif, ac efe a wisg y dyfroedd megis
a llurig.
43:21 Y mae efe yn difa'r
mynyddoedd, ac yn llosgi'r diffeithwch, ac yn diffoddi pob gwyrddlesni fel tân.
43:22 Meddyginiaeth rhag y cwbl yw
niwl a ddelo ar frys; a gwlith a ddelo yn ôl gwres a lawenycha.
43:23 Wrth ei gyngor y llonyddodd
efe y dyfnder, ac y plannodd ynysoedd ynddo.
43:24 Y rhai a hwyliant ar y môr a
fynegant mor enbyd yw efe; a phan glywom ninnau â'n clustiau, nyni a ryfeddwn.
43:25 Yno y mae dieithr weithredoedd
a rhyfedd, pob amryw anifail, a'r mor feirch.
43:26 Trwyddo ef y mae ei angel ef
yn cael rhwydd-deb; a thrwy ei air ef y cyfansoddwyd pob peth.
43:27 Nyni a ddywedwn lawer, er
hynny yr ydym ni yn fyr: i ddywedyd ar air, efe yw'r cwbl.
43:28 Pa fodd y gallwn ni ei ogoneddu
ef? canys y mae efe uwchlaw ei holl waith.
43:29 Ofnadwy yw'r Arglwydd, a mawr
odiaeth; a rhyfedd yw ei allu ef.
43:30 Pan ogoneddoch chwi yr
Arglwydd, dyrchefwch ef fwyaf ag y galloch; ac efe a ragora lawer ar hynny: a
phan ddyrchafoch ef, rhoddwch lawer o egni; na flinwch: canys ni chyrhaeddwch
chwi byth adref.
43:31 Pwy a'i gwelodd ef, ac a
fynega i ni? a phwy a'i mawryga ef megis y mae?
43:32 Y mae llawer peth mwy na hyn
yn guddiedig; canys ychydig a welsom ni o'i weithredoedd ef:
43:33 Oblegid yr Arglwydd a wnaeth
bob peth: ac i'r rhai duwiol y rhoddes efe ddoethineb.
PENNOD 44
44:1 Canmolwn yn awr y gwŷr
enwog, a'n tadau a'n cenhedlodd ni.
44:2 Llawer o ogoniant a wnaeth yr
Arglwydd trwyddynt hwy, a'i fawredd erioed.
44:3 Y rhai a lywodraethasant ar eu
teyrnasoedd, ac oeddynt wŷr enwog o allu, yn cynghori yn synhwyrol, ac yn
traethu proffwydoliaethau;
44:4 Blaenorwyr y bobl trwy eu
cyngor, a thrwy ddeall addysg y bobl; doethion ac ymadroddus oeddynt yn eu
hathrawiaeth;
44:5 Hwy a geisiasant allan felystra
cerdd, ac a draethasant ganiadau sgrifenedig;
44:6 Gwŷr cyfoethogion, cedyrn
o nerth, a heddychlon yn eu cartref, oeddynt hwy.
44:7 Y rhai hyn oll yn eu
cenedlaethau a gawsant ogoniant, a gorfoledd yn eu dyddiau.
44:8 Bu rai ohonynt hwy gyfryw ag a
adawsant enw ar eu hôl, fel y mynegid eu clod hwynt.
44:9 Bu hefyd rai heb fod coffa
amdanynt, y rhai y darfu amdanynt fel pe na buasent, ac a aethant fel pe nas
ganesid hwynt, a'u plant ar eu hôl hwynt.
44:10 Eithr gwŷr trugarog oedd
y rhai hyn, cyfiawnder pa rai nis anghofiwyd.
44:11 Gyda'u hiliogaeth hwynt yr
erys etifeddiaeth dda; y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfamod hefyd;
44:12 Y mae eu
hiliogaeth hwynt yn y cyfamod, a'u plant ar eu hôl.
44:13 Byth y pery eu hiliogaeth; a'u
gogoniant ni ddileir.
44:14 Eu cyrff a gladdwyd mewn
heddwch; ac y mae eu henw yn byw byth.
44:15 Y bobl a fynegant eu doethineb
hwy, a'r gynulleidfa a draetha eu clod hwynt.
44:16 Enoch a ryglyddodd fodd i
Dduw, ac a fudwyd ymaith, yn siampl o edifeirwch i'r cenedlaethau oll.
44:17 Noa a gafwyd yn berffaith ac
yn gyfiawn yn amser dicter: efe a gymerwyd yn gyfnewid am y byd; am hynny, pan
fu y dilyw, y gadawyd ef yng ngweddill i'r ddaear.
44:18 Cyfamod tragwyddol a wnaed ag
ef, na ddifethid pob cnawd trwy ddilyw mwy.
44:19 Abraham sydd dad mawr i lawer
o genhedloedd; ac ni chafwyd ei fath ef mewn gogoniant:
44:20 Yr hwn a gadwodd gyfraith y
Goruchaf, ac a ddaeth mewn cyfamod ag ef: efe a osododd y cyfamod yn ei gnawd;
ac wrth ei brofi, efe a gafwyd yn ffyddlon.
44:21 Am hynny y sicrhaodd efe iddo
ef trwy lw, y bendithid y Cenhedloedd yn ei had ef, yr amlheid ef fel llwch y
ddaear, ac y dyrchefid ei had ef fel y sêr, ac y caent etifeddu o fôr i fôr, ac
o'r afon i eithaf y ddaear.
44:22 Felly y sicrhaodd efe i Isaac,
er mwyn Abraham ei dad, fendith pob dyn, a'r cyfamod,
44:23 Ac a wnaeth iddo orffwyso ar
ben Jacob: efe a'i hadnabu ef gan ei fendithio, ac a roddodd iddo etifeddiaeth,
ac a neilltuodd ei ran ef, ac a'i rhannodd ymysg y deuddeg llwyth.
PENNOD 45
45:1 Ac efe a ddug allan ohono ef
ŵr trugarog, yr hwn a gafodd ffafr yng ngolwg pob cnawd, sef Moses, yr hwn
oedd hoff gan Dduw a dynion, yr hwn y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig.
45:2 Efe a'i gwnaeth ef yn debyg i'r
saint gogoneddus, ac a'i mawrygodd ef, gan beri i'w elynion ei ofni ef.
45:3 Trwy ei eiriau ef y gwnaeth efe
i ryfeddodau beidio, ac a'i gwnaeth ef yn ogoneddus yng ngolwg brenhinoedd: efe
a roddes gydag ef orchymyn i'w bobl, ac a ddangosodd iddo ran o'i ogoniant.
45:4 Efe a'i sancteiddiodd ef yn ei
ffyddlondeb a'i larieidd-dra, ac a'i dewisodd ef o blith yr holl ddynion.
45:5 Efe a wnaeth iddo glywed ei
lais ef, ac a'i dug ef i'r cwmwl tywyll ac a roddes orchmynion o'i flaen ef,
sef cyfraith bywyd a gwybodaeth; fel y dysgai efe y cyfamod i Jacob, a'i
farnedigaethau i Israel.
45:6 Efe a ddyrchafodd Aaron y sanct
tebyg iddo ef, ei frawd o lwyth Lefi.
45:7 Efe a wnaeth ag ef gyfamod
tragwyddol, ac a roddes iddo offeiriadaeth ymysg y bobl: efe a'i gwnaeth ef yn
ddedwydd mewn harddwisg, ac a'i gwisgodd ef a gwisg ogoneddus.
45:8 Efe a'i gwisgodd ef â gogonedd
cyflawn, ac a'i gwregysodd ef ag offer cadernid, â llawdr, â gwisg laes, ac ag
effod.
45:9 Efe a'i hamgylchodd ef â
phomgranadau, ac â chlych aur lawer o amgylch, i seinio pan gerddai efe, i
wneuthur sŵn a glywid yn y deml, ac i fod yn goffadwriaeth i feibion ei
bobl ef;
45:10 A gwisg sanctaidd o aur, â
sidan glas, â phorffor ac amryw waith, â dwyfronneg barn, ag arwyddion
gwirionedd,
45:11 Ac â gwaith cywraint o sgarlad
plethedig, ac â meini gwerthfawr wedi eu cerfio fel sêl, a'u gosod mewn aur
trwy waith eurych, ag ysgrifen wedi ei cherfio, er coffadwriaeth, yn ôl nifer
meibion Israel.
45:12 Ar y meitr y gosodasai efe
goron o aur, yn yr hon y cerfiesid Sancteiddrwydd, yn harddwch anrhydeddus, yn
waith godidog, yn hyfryd i'r llygaid, yn hardd ac yn deg.
45:13 Ni bu y fath o'i flaen ef; ac
erioed ni wisgodd neb dieithr hwynt, ond ei feibion ef bob amser.
45:14 Dwy waith yn y dydd yn
wastadol y poethoffrymir eu haberthau hwynt.
45:15 Moses a'i cysegrodd ef, ac a'i
heneiniodd ag olew sanctaidd: a hyn a wnaed yn gyfamod tragwyddol iddo ef ac
i'w had, cyhyd ag y parhao'r nefoedd, gael ohonynt ei wasanaethu ef, ac
offeiriadu hefyd, a bendithio'r bobl yn ei enw ef.
45:16 Efe a'i dewisodd ef o flaen
pob dyn byw, i offrymu offrwm i'r Arglwydd, myctarth a pherarogl er
coffadwriaeth, i wneuthur cymod dros y bobl.
45:17 Efe a roddes iddo ei
orchmynion, ac yng nghyfamod y gyfraith awdurdod, i ddysgu ei dystiolaethau ef
i Jacob, ac i egluro ei gyfraith ef i Israel.
45:18 Dieithriaid a gydsafasant i'w
erbyn ef, ac a genfigenasant wrtho ef yn yr anialwch, sef y gwŷr oedd gyda
chynulleidfa Dathan ac Abiram, a Core, mewn llid a dicter.
45:19 Yr Arglwydd a welodd hyn, ac
ni bu fodlon; a hwy a ddifethwyd yn llidiowgrwydd ei ddicter ef: efe a wnaeth
arnynt wyrthiau, gan eu difetha â fflam dan.
45:20 Eithr efe a roddes ychwaneg o
ogoniant i Aaron, ac a roddes iddo etifeddiaeth; blaenffrwyth y cyntaf-anedig a
rannodd efe iddo; yn enwedig efe a arlwyodd ddigon o fara:
45:21 Oblegid y maent hwy yn cael
bwyta o aberthau'r Arglwydd, y rhai a roddes efe iddo ef ac i'w had.
45:22 Eithr ni roddes efe
etifeddiaeth iddo ef o dir y bobl, ac nid oedd iddo etifeddiaeth ymysg y bobl: oblegid
efe ei hun yw rhan ei etifeddiaeth ef.
45:23 Phinees mab Eleasar oedd y
trydydd mewn gogoniant; am iddo ddwyn sêl yn ofn yr Arglwydd, a sefyll i fyny
ag ewyllys da a pharod, a gwneuthur cymod dros Israel, pan droesai'r bobl
ymaith.
45:24 Am hynny y gwnaeth efe ag ef
gyfamod heddychlon, y cai efe fod yn bennaf ar y cysegr ac ar ei bobl, fel y
byddai braint yr offeiriadaeth iddo ef ac i'w had byth:
45:25 Yn ôl y cyfamod a wnaethid â
Dafydd mab Jesse o lwyth Jwda, y byddai etifeddiaeth y brenin i'w epil ef yn
unig; ac y byddai etifeddiaeth Aaron i'w had ef yr un modd.
45:26 Rhodded Duw ddoethineb yn eich
calon chwi, i farnu ei bobl ef yn gyfiawn, fel na ddileer eu daioni hwynt, ac y
parhao eu gogoniant trwy eu cenedlaethau.
PENNOD 46
46:1 Cryf mewn rhyfel oedd Jesus mab
Nafe, a dilynwr Moses mewn proffwydoliaethau; yr hwn yn ôl ei enw oedd fawr, er
iachawdwriaeth i etholedigion Duw, ac i ddial ar y gelynion a gyfodent i'w
herbyn hwynt, fel y cai Israel ei etifeddiaeth.
46:2 Pa ogoniant a gafodd efe yn
dyrchafu ei ddwylo, ac yn tynnu ei gleddyf yn erbyn y dinasoedd!
46:3 Pwy o'i flaen ef a safodd
felly? canys efe oedd dywysog ar ryfel yr Arglwydd.
46:4 Onid trwy ei waith ef y safodd
yr haul, ac y gwnaed un diwrnod cyhyd â dau?
46:5 Efe a alwodd ar y Llywydd
goruchaf, pan oedd y gelynion yn pwyso arno o bob parth: a'r mawr Iôr a'i
gwrandawodd ef.
46:6 Ac â cherrig cesair mawr allu,
efe a ruthrodd ar y cenhedloedd â rhyfel, ac yng ngoriwaered Bethoron efe a
ddifethodd y gwrthwynebwyr; fel y gallai y cenhedloedd adnabod ei holl
arfogaeth ef, mai o flaen yr Arglwydd yr oedd efe yn rhyfela, oblegid efe oedd
yn canlyn ar ôl y Galluog.
46:7 Yn amser Moses hefyd y gwnaeth
efe a Chaleb hefyd fab Jeffunne waith elusen, gan sefyll yn erbyn y
gynulleidfa, ac atal y bobl rhag pechu, a lluddio y grwgnach drygionus.
46:8 A hwynthwy ill dau a
ddianghasant, o chwe chan mil o wŷr traed, i'w dwyn hwynt i mewn i'r
etifeddiaeth, sef i'r wlad oedd yn llifeirio o laeth a mel.
46:9 I Caleb hefyd y rhoddes yr
Arglwydd gryfder, yr hwn a barhaodd gydag ef hyd ei henaint; fel yr aeth efe i
uchelder y wlad, a'i had ef a'i goresgynnodd hi yn etifeddiaeth:
46:10 Fel y gallai holl feibion
Israel weled mai da yw dilyn yr Arglwydd.
46:11 Y barnwyr hefyd bob un erbyn
ei enw, y rhai oll ni phuteiniodd eu calon, a pha rai bynnag ni throesant oddi
wrth yr Arglwydd, bydded eu coffadwriaeth hwynt yn fendigedig.
46:12 Bydded eu hesgyrn yn iraidd yn
eu lle, a bydded eu henw hwynt, y rhai oedd anrhydeddus, yn aros ar eu plant.
46:13 Samuel, proffwyd yr Arglwydd,
yr hwn oedd hoff gan ei Arglwydd, a osododd freniniaethau, ac a eneiniodd
dywysogion ar ei bobl ef.
46:14 Trwy gyfraith yr Arglwydd y
barnodd efe y gynulleidfa; a'r Arglwydd a ystyriodd wrth Jacob.
46:15 Efe a gafwyd yn wir broffwyd
wrth ei ffydd; ac efe a adnabuwyd wrth ei eiriau ei fod yn ffyddlon mewn
gweledigaeth.
46:16 Ac efe a alwodd ar yr Arglwydd
galluog, pan oedd ei elynion ef o amgylch yn pwyso arno wrth offrymu yr oen
sugno.
46:17 A'r Arglwydd a daranodd o'r
nefoedd, ac a wnaeth glywed ei leferydd â sŵn mawr.
46:18 Felly y drylliodd efe dywysogion y Tyriaid,
a holl benaethiaid y Philistiaid.
46:19 A chyn amser ei hir hun, efe a
dystiolaethodd o flaen yr Arglwydd a'i eneiniog, Ni chymerais o dda neb gymaint
ag esgid: ac nid achwynodd neb rhagddo ef.
46:20 Ac wedi iddo ef huno, efe a
broffwydodd, ac a ddangosodd i'r brenin ei ddiwedd, ac a ddyrchafodd ei lef o'r
ddaear mewn proffwydoliaeth, i ddileu anwiredd y bobl.
PENNOD 47
47:1 Wedi hyn y cyfododd y proffwyd
Nathan yn nyddiau Dafydd.
47:2 Fel y neilltuir y
braster oddi wrth yr offrwm, felly y dewiswyd Dafydd o feibion Israel.
47:3 Efe a chwaraeodd â llewod megis
â mynnod, ac ag eirth megis ag ŵyn defaid.
47:4 Oni laddodd efe gawr yn ei
ieuenctid? ac oni thynnodd efe ymaith waradwydd y bobl, pan gyfododd efe ei law
â charreg dafl, a bwrw i lawr falchder Goleiath?
47:5 Canys efe a alwodd ar yr
Arglwydd goruchaf, ac yntau a roddes nerth i'w ddeheulaw ef i ladd y dyn cryf
yn y rhyfel, fel y dyrchafai efe gorn ei bobl.
47:6 Felly y bobl a'i hanrhydeddodd
yntau â myrddiwn, ac a'i canmolodd ym mendithion yr Arglwydd, pan roes iddo ef
goron y gogoniant.
47:7 Efe a ddrylliodd y gelynion o
amgylch, ac a ddifethodd y Philistiaid wrthwynebwyr iddo, ac a ddrylliodd e
corn hwy hyd heddiw.
47:8 Yn ei holl waith y rhoddes ef
glodforedd i'r hwn sy Sanctaidd Goruchaf; â geiriau anrhydeddus, ac â'i holl
galon, y canodd efe ganiadau ac y carodd ef yr hwn a'i gwnaeth.
47:9 Ac efe a osododd gantorion o
flaen yr allor, fel y gwnaent gerdd felys ar dafod, ac y clodforent Dduw
beunydd â'u caniadau.
47:10 Efe a roddes drefn weddaidd am
y gwyliau, ac a gymhwysodd yr amserau yn berffaith, fel y clodforent hwy ei enw
sanctaidd ef, ac y gwnaent i'w gysegr ef seinio yn fore.
47:11 Yr Arglwydd a ddileodd ei
bechodau ef, ac a ddyrchafodd ei gorn ef byth, ac a roddes iddo gyfamod y
frenhiniaeth, a gorseddfainc gogoniant yn Israel.
47:12 Ar ôl hwn y cododd mab doeth,
ac a breswyliodd mewn ehangder er ei fwyn ef.
47:13 Salomon a deyrnasodd mewn
amser heddychlon, ac a oedd anrhydeddus: canys Duw a barasai lonyddwch o'i
amgylch ef, fel yr adeiladai efe dŷ i'w enw ef, ac y darparai gysegr dros
fyth.
47:14 Mor ddoeth oedd efe yn ei
ieuenctid, a megis afon yn llawn o synnwyr!
47:15 Dy enaid a orchuddiodd yr holl ddaear, ac
a'i llanwodd a diarhebion damhegol.
47:16 Dy enw a aeth ymhell i'r
ynysoedd; a chu oeddit am dy heddwch.
47:17 Rhyfeddodd y gwledydd wrth dy
ganiadau, a'th ddiarhebion, a'th gyffelybiaethau, a'th ddeongliadau.
47:18 Trwy enw Arglwydd Dduw yr holl
ddaear, yr hwn a elwir dy Dduw di, Israel, y cesglaist ti aur fel alcam, ac y
cefaist arian cyn amled â'r plwm.
47:19 Ti a ogwyddaist dy lwynau i
wragedd, ac a'th ddarostyngwyd yn dy gorff.
47:20 Ti a anefaist dy ogoniant, ac
a halogaist dy hiliogaeth, gan ddwyn digofaint yn erbyn dy blant, a dwyn gofid
am dy ynfydrwydd.
47:21 Felly y rhannwyd y
frenhiniaeth, ac y dechreuodd brenhiniaeth anufuddgar fod o Effraim.
47:22 Er hynny ni ad yr Arglwydd ei
drugaredd ymaith byth, ac ni ddifethir un o'i weithredoedd ef, ac ni ddilea efe
hiliogaeth ei etholedig, ac ni ddwg ymaith epil yr hwn a'i câr ef: o ba herwydd
efe a adawodd weddill i Jacob, a gwreiddyn i Ddafydd, ohono ef.
47:23 Yna Salomon a orffwysodd
gyda'i dadau, ac a adawodd o'i hiliogaeth ar ei ôl, Roboam, ynfydrwydd y bobl,
ac un disynnwyr, yr hwn a yrrodd y bobl ymaith â'i gyngor. Ac yr oedd Jeroboam
mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ac a ddangosodd y ffordd i Effraim i
bechu.
47:24 A'u pechodau hwy a amlhasant mor
ddirfawr, hyd oni throdd efe hwynt allan o'r wlad.
47:25 Canys hwy a geisiasant allan
bob anwiredd, hyd oni ddaeth dig a dialedd arnynt.
PENNOD 48
48:1 Yna y
cododd Eleias y proffwyd fel tân, a'i air ef a losgai fel llusern.
48:2 Yr hwn a ddug arnynt hwy newyn
mawr, a thrwy ei sêl a'u gwnaeth hwy yn ychydig.
48:3 Efe a gaeodd y nefoedd trwy air
yr Arglwydd; a thair gwaith y dug efe dan i waered.
48:4 O Eleias, mor ogoneddus fuost
ti yn dy ryfeddodau! a phwy a ddichon ymffrostio fel tydi!
48:5 Yr hwn a gyfodaist y marw o
farwolaeth, a dyn o'r bedd, trwy air y Goruchaf;
48:6 Yr hwn a ddygaist frenhinoedd i
ddinistr, a phendefigion o'u heisteddfa;
48:7 Yr hwn a glywaist gerydd yr
Arglwydd yn Sinai, a barnedigaethau dialedd yn Horeb;
48:8 Yr hwn a eneiniodd frenhinoedd
i dalu'r pwyth, a phroffwydi i ddilyn ar ei ôl ef;
48:9 Yr hwn a godwyd i fyny mewn
trowynt o dân, ac mewn cerbyd meirch tanllyd;
48:10 Yr hwn a ordeiniwyd i geryddu
mewn pryd, ac i ostegu dicter barn yr Arglwydd, cyn iddo dorri allan yn llid;
ac i droi calon y tad at y mab, ac i gyweirio llwythau Jacob.
48:11 Gwyn eu byd hwy a'th welsant
di, ac a hunasant mewn cariad: canys nyni a fyddwn byw yn ddiau.
48:12 Eleias a orchuddiwyd a
throwynt; ac Eliseus a lanwyd a'i ysbryd ef: ni syflodd efe er tywysogion yn ei
ddyddiau, ac ni allodd neb ei ddarostwng ef.
48:13 Ni orchfygodd dim ef: ac wedi
ei huno, ei gorff ef a broffwydodd.
48:14 Efe a wnaeth ryfeddodau yn ei
fywyd; ac yn ei ddiwedd, rhyfedd oedd ei weithredoedd ef.
48:15 Er hyn oll ni chymerodd y bobl
edifeirwch, ac ni chiliasant oddi wrth eu pechodau, hyd oni chaethgludwyd hwynt
o'u gwlad, a'u gwasgaru ym mhob gwlad: eto gadawyd ychydig bobl, a thywysog yn
nhŷ Ddafydd.
48:16 Rhai ohonynt a wnaethant yr
hyn oedd yn rhyglyddu bodd i Dduw, a rhai a wnaethant lawer o bechodau.
48:17 Eseceias a gadarnhaodd ei
ddinas, ac a ddug ddwfr i'w chanol hi: efe a gloddiodd y graig â haearn, ac a
wnaeth ffynhonnau i'r dwfr.
48:18 Yn ei ddyddiau ef y daeth
Senacherib i fyny, ac a anfonodd Rabsaces o Lachis, ac a ddyrchafodd ei law yn
erbyn Seion, ac a ymffrostiodd yn ei falchder.
48:19 Yna y crynodd eu calonnau a'u
dwylo hwynt, ac yr ymofidiasant fel gwragedd yn esgor.
48:20 Ond hwy a alwasant ar yr Arglwydd
trugarog, gan estyn eu dwylo ato ef; a'r Sanctaidd a'u gwrandawodd hwy o'r
nefoedd, ac a'u gwaredodd trwy law Esay.
48:21 Efe a drawodd lu yr Asyriaid,
a'i angel ef a'u dinistriodd hwynt.
48:22 Oblegid Eseceias a wnaethai yr
hyn oedd fodlon gan yr Arglwydd, ac a ddilynodd ffyrdd Dafydd ei dad yn lew,
fel y gorchmynasai y proffwyd Esay, yr hwn oedd fawr a pharchedig yn ei olwg
ef.
48:23 Yn ei ddyddiau ef yr aeth yr
haul yn ei ôl; ac efe a estynnodd hoedl y brenin.
48:24 Trwy ysbryd godidog y gwelodd
efe y pethau a fyddent yn y diwedd, ac y cysurodd efe y rhai oedd yn galaru yn
Seion.
48:25 Efe a ddangosodd y pethau a
ddeuai byth, a phethau dirgel cyn eu dyfod.
PENNOD 49
49:1 Coffadwriaeth Joseias fydd fel
cymysg arogl-darth trwy gyfarwydd waith yr apothecari: melys ydyw fel y mêl ym
mhob genau, ac fel cerdd mewn gwledd o win.
49:2 Efe a gafodd rwydd-deb yn
troi'r bobl, ac a ddug ymaith ffieidd-dra anwiredd.
49:3 Efe a gyfeiriodd ei galon at yr
Arglwydd, ac a gadarnhaodd dduwioldeb yn amser pechaduriaid.
49:4 Pawb ond Dafydd, Eseceias, a
Joseias, a wnaethant fai; canys hwy a adawsant gyfraith y Goruchaf; brenhinoedd
Jwda hefyd a ballasant.
49:5 Yntau a roddes eu corn hwynt i
arall, a'u gogoniant i genedl ddieithr.
49:6 Hwy a losgasant ddinas
etholedig y cysegr, ac a anrheithiasant ei heolydd hi, yn ôl proffwydoliaeth
Jererneias.
49:7 Canys ei gystuddio ef a
wnaethant, ac yntau wedi ei sancteiddio yn broffwyd o groth ei fam, i
ddiwreiddio, a niweidio, a difetha; felly hefyd i adeiladu, ac i blannu.
49:8 Eseciel yntau a welodd
weledigaeth ogoneddus, yr hon a ddangoswyd iddo ar gerbyd y ceriwbiaid.
49:9 Efe a gofiodd y
gelynion yn y gafod, ac a gyfarwyddodd y rhai uniawn eu ffyrdd.
49:10 Felly bendigedig fyddo
coffadwriaeth y deuddeg proffwyd, ac ireiddier eu hesgyrn o'u lle: canys hwy a
gysurasaat Jacob, ac a'u gwaredasant â gobaith sicr.
49:11 Pa fodd y mawrygwn ni
Soro-babel? yntau oedd megis sêl ar y llaw ddeau:
49:12 Felly Jesus fab Josedec: y
rhai yn eu dyddiau a adeiladasant y tŷ, ac a gyfodasant deml sanctaidd i'r
Arglwydd, yr hon a ddarparwyd yn ogoniant tragwyddol.
49:13 Nehemeias hefyd oedd o'r rhai
etholedig, am yr hwn y mae mawr goffa; yr hwn a gododd i ni y caerau a
syrthiasai, ac a osododd i fyny y pyrth a'r barrau, ac a gyfododd ein tai ni.
49:14 Ni chrewyd ar y ddaear fath Enoch: canys efe
a gyfodwyd i fyny oddi ar y ddaear.
49:15 Ac ni bu y fath ŵr a
Joseff, yr hwn oedd bennaeth ar ei frodyr, a chynhaliwr y bobl, yc hwn yr
edrychodd yr Arglwydd am ei esgyrn.
49:16 Sem a Seth a gawsant barch gan
ddynion: ac Adda oedd yn y greadwriaeth goruwch pob peth byw.
PENNOD 50
50:1 Simon yr archoffeiriad, mab
Oneias, yr hwn yn ei fywyd a gyfododd y tŷ, ac yn ei ddyddiau a sicrhaodd
y bobl,
50:2 Efe a barodd o'r sylfaen
adeiladu'r uchder dauddyblyg, a'r fagwyr uchel, o amgylch y deml.
50:3 Yn ei ddyddiau ef, y noe i
dderbyn dwfr, yr hon oedd o'i hamgylch fel y môr, a wisgwyd â dalennau pres.
50:4 Efe a gymerth ofal dros
y bobl rhag eu difetha, ac a gadarnhaodd y ddinas erbyn gwarchae arni.
50:5 Mor ogoneddus oedd efe yng
nghanol y bobl, wrth ddyfod allan o'r tŷ dan orchudd!
50:6 Fel y seren ddydd ymysg y
cymylau, ac fel y lleuad yn ei llawnllonaid, yr ydoedd efe;
50:7 Fel yr haul yn tywynnu ar deml
y Goruchaf, ac fel yr enfys yn llewyrchu yn y cymylau disglair:
50:8 Ac fel blodau rhos pan fyddant
newydd; fel lili wrth aberoedd dyfroedd, a blagur y pren thus yn amser haf;
50:9 Fel tân a thus mewn thuser, fel
llestr o aur wedi ei wneuthur o'r un darn, a'i harddu a phob maen gwerthfawr;
50:10 Fel olewydden deg ffrwythlon,
ac fel cypreswydden wedi tyfu i'r awyr;
50:11 Pan gymerai efe y wisg
ogoneddus, a phan wisgai efe yr hyfrydwch perffaith, wrth fyned i fyny at yr
allor sanctaidd yn anrhydeddus.
50:12 Pan gymerai efe yr aelodau o
law'r offeiriaid, efe a safai wrth aelwyd yr allor, a'i frodyr o'i amgylch, fel
cedrwydden yn Libanus, a hwy a'i hamgylchent ef fel canghennau palmwydd.
50:13 Felly y byddai meibion Aaron
oll yn eu gwychder, ac offrwm yr Arglwydd yn eu dwylo, o flaen holl gynulleidfa
Israel.
50:14 Gan orffen y gwasanaeth wrth
yr allor, i wneuthur offrwm yr Hollalluog goruchaf yn hardd,
50:15 Efe a estynnai ei ddwylo at y
ddiodoffrwm, ac a gymysgai beth o'r gwin, ac a'i tywalltai wrth droed yr allor
yn arogl peraidd, i'r hwn sydd oruchaf Frenin ar bawb.
50:16 Yna meibion Aaron a waeddent
ac a seinient mewn utgyrn tawdd, ac a wnaent sŵn mawr eglur, yn
goffadwriaeth o flaen y Goruchaf.
50:17 Yna yr holl bobl a gydsyrthient i lawr ar eu
hwynebau ar frys, i addoli eu Harglwydd, y goruchaf Dduw hollalluog.
50:18 Y cantorion hefyd a glodforent
â'u lleisiau, ac a wnaent gynghanedd felys trwy eu hamryw seiniau.
50:19 A'r bobl a ymbilient â'r
Arglwydd goruchaf trwy weddi gerbron y Trugarog, nes cyflawni anrhydedd yr
Arglwydd, a gorffen ei wasanaeth ef.
50:20 Yna efe a ddisgynnai, ac a
ddyrchafai ei ddwylo ar holl gynulleidfa meibion Israel, i draethu bendith yr
Arglwydd â'i wefusau, ac i ymorfoleddu yn ei enw ef.
50:21 A hwy a ymgryment i addoli
eilwaith, i dderbyn y fendith gan y Goruchaf.
50:22 Yn awr gan hynny bendigwch
Dduw pob peth, yr hwn yn unig a wna ryfeddod ym mhob man, yr hwn a ddyrchafa
ein dyddiau ni o'r groth, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur â nyni yn ôl ei
drugaredd.
50:23 Caniataed efe i ni hyfrydwch
calon, a bod heddwch yn ein dyddiau ni yn Israel byth,
50:24 A chadarnhau ohono ffyddlondeb
ei drugaredd i ni, a'n gwaredu ni yn ei amser ef.
50:25 Dwy genhedlaeth sy flin gan fy
enaid, a'r drydedd nid yw genhedlaeth:
50:26 Y rhai a eisteddant ym mynydd
Samaria, a'r rhai a breswyliant Palesteina, a'r bobl ynfyd y rhai a drigant yn
Sichem.
50:27 Jesus mab Sirach o Jerwsalem a
sgrifennodd yn y llyfr hwn athrawiaeth deall a gwybodaeth, yr hwn a lawiodd
ddoethineb o'i galon.
50:28 Gwyn ei fyd yr hwn a
ymgynefino â'r rhai hyn; a'r hwn a'u gosodo hwynt yn ei galon a fydd doeth.
50:29 Oblegid os gwna efe y pethau
hyn, efe a fydd nerthol i bob peth: canys goleuni'r Arglwydd a fydd yn
gyfarwyddyd iddo ef, ac i'r rhai duwiol y rhoddes efe ddoethineb. Bendigedig
fyddo yr Arglwydd byth. Felly y byddo, felly y byddo.
PENNOD 51
51:1 Clodforaf di, O Arglwydd
Frenin; a moliannaf di, fy Nuw a'm Hiachawdwr; dy enw di a glodforaf.
51:2 Oblegid ti sydd yn
amddiffynnydd ac yn help i mi, ac a waredaist fy nghorff rhag dinistr, a rhag
magl tafod enllibus, rhag gwefusau a ddychmygant gelwydd; ie, yn erbyn y rhai
sydd yn cyfodi i'm herbyn yr ydwyt ti yn help i mi;
51:3 Gwaredaist fi yn ôl amldra dy
drugaredd a mawredd dy enw rhag dannedd y rhai oedd barod i'm bwyta, ac o law y
rhai oedd yn ceisio fy enaid, ac o lawer o flinderau, y rhai a gefais;
51:4 Rhag i'r tân fy mygu o amgylch,
ac o ganol y tân yr hwn nis cyneuais;
51:5 Felly y'm gwaredaist o waelod
bol uffern, rhag tafod aflan, a rhag chwedl celwyddog.
51:6 A rhag anair gyda'r brenin trwy
dafod anghyfiawn, fy enaid a aeth yn agos i angau, a'm heinioes oedd yn agos i
uffern isaf.
51:7 Hwy a'm hamgylchynasant o bob
tu, ac nid oedd a'm helpiai: mi a edrychais am help dyn, ac nid oedd dim.
51:8 Am hynny mi a gofiais dy
drugaredd di, O Arglwydd, a'th weithredoedd gynt, dy fod di yn achub y rhai
dioddefgar, ac yn eu hachub hwynt o law y gelynion.
51:9 A mi a ddyrchefais fy ngweddi
o'r ddaear, ac a ddeisyfais ymwared rhag marwolaeth:
51:10 Ac a ddeisyfais ar yr
Arglwydd, tad fy Arglwydd, na adawai efe fyfi yn nydd trallod, y pryd ni cheid
help gan y beilchion.
51:11 Mi a foliannaf dy enw di yn
wastadol, ac a'th glodforaf di yn fy nghyffes; a'm gweddi a wrandawyd:
51:12 Oblegid ti a'n cedwaist ni
rhag dinistr, ac a'm gwaredaist i o'r amser drwg: am hynny y clodforaf a
moliannaf di, ac a fendithiaf dy enw, O Arglwydd.
51:13 A myfi eto yn ieuanc, cyn fy
nhwyllo, mi a ofynnais ddoethineb yn eglur yn fy ngweddi.
51:14 O flaen y deml y
gweddïais amdani hi, a hyd y diwedd y ceisiaf hi.
51:15 Ie, o'r blodeuyn, nes
aeddfedu'r grawnwin, yr ymhyfrydodd fy nghalon ynddi; fy nhroed a rodiodd yn
union; mi a'i holrheiniais hi o'm hieuenctid.
51:16 Mi a ostyngais ychydig ar fy
nghlust, ac a'i derbyniais hi, ac a gefais lawer o ddysg.
51:17 Mi a euthum rhagof ynddi hi: am hynny i'r hwn a roddes i mi ddoethineb y
rhoddaf fi y gogoniant.
51:18 Oblegid mi a roddais fy mryd
ar wneuthur ar ei hôl hi, a dilyn daioni; ac felly ni’m gwaradwyddir.
51:19 Fy enaid a ymdrechodd â hi, ac
mi a fûm ddiwyd yn fy ngweithredoedd: mi a estynnais fy nwylo tua'r nef i fyny,
ac a ddeellais beth oedd fod heb ei hadnabod hi.
51:20 Mi a gyfarwyddais fy enaid
ati, ac a'i cefais hi mewn puredd: cefais fy nghalon wedi ei chysylltu â hi o'r
dechreuad; am hynny ni'm gwrthodir.
51:21 Fy nghalon a gafodd helbul yn
ei cheisio hi: am hynny mi a gefais gyfoeth da.
51:22 Yr Arglwydd a roddes dafod yn
wobr i mi, a mi a'i moliannaf ef a hwnnw.
51:23 Nesewch ataf fi, O annysgedig,
ac arhoswch yn nhŷ athrawiaeth.
51:24 Paham yr ydych chwi yn oedi?
neu beth a ddywedwch chwi am hyn, gan fod ar eich eneidiau chwi syched mor
ddirfawr?
51:25 Mi a agorais fy ngenau, ac a
leferais, Prynwch hi i chwi heb arian.
51:26 Gostyngwch eich gyddfau dan yr
iau, a derbynied eich enaid athrawiaeth: hawdd yw ei chael hi.
51:27 Gwelwch â'ch llygaid gymryd
ohonof fi boen, a chael ohonof fi i mi fy hun esmwythdra mawr.
51:28 Mynnwch gyfran o addysg am
nifer mawr o arian, a meddiennwch aur lawer trwyddi hi.
51:29 Llawenyched eich calon yn ei
drugaredd ef, ac na fydded yn gywilydd gennych ei foliannu ef.
51:30 Gwnewch eich gwaith mewn pryd,
ac efe a rydd i chwi eich gwobr yn ei amser.
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website