Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.  2698k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_esdras1_67_2698k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Y Beibl Cysegr-lân (1620):

Yr Apocrypha

 

(67) Esdras-1



 


(delw 7387)

Adolygiadau diweddaraf:  2009-02-17

 

 

  2699ke This page with an English version (First Book of Esdras) (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

 

LLYFR CYNTAF ESDRAS

 

PENNOD 1
1:1 A Joseias a gadwodd wŷl y Pasg i'w Arglwydd yn Jerwsalem, ac a offrymodd yr oen Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf;

1:2 Ac a gyfleodd yr offeiriaid yn eu beunyddiol oruchwyliaethau, wedi eu dilladu mewn gwisgoedd llaesion yn nhŷ’r Arglwydd.

1:3 Ac efe a ddywedodd wrth y Lefiaid, sanctaidd weinidogion Israel, am iddynt eu sancteiddio eu hunain i'r Arglwydd, i osod arch sanctaidd yr Arglwydd yn y tŷ a adeiladasai'r brenin Salomon mab Dafydd,

1:4 Gan ddywedyd, Na fydded hi mwyach yn faich i chwi ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a gofelwch am ei bobl ef Israel, ac ymbaratowch trwy eich teuluoedd, yn ôl eich dosbarthiadau, fel y sgrifennodd Dafydd brenin Israel, ac yn ôl mawredd Salomon ei fab ef.

1:5 A sefwch yn y deml, yn ôl dosbarthiad teulu eich tadau chwi y Lefiaid, gerbron eich brodyr meibion Israel.

1:6 Mewn trefn offrymwch y Pasg, a pharatowch yr aberthau i'ch brodyr; a chedwch y Pasg yn ôl gorchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

1:7 A Joseias a roddodd i'r bobl oedd yn bresennol ddeng mil ar hugain o ŵyn a mynnod, a thair mil o eidionau: hyn o gyfoeth y brenin a roddwyd i'r bobl, ac i'r offeiriaid, ac i'r Lefiaid, yn ôl yr addewid.

1:8 Yna Helcias, a Sachareias, a Syelus, llywodraethwyr y deml, a roddasant i'r offeiriaid tuag at y Pasg ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau.

1:9 Jechoneias hefyd, a Samaias, a Nathanael ei frawd, a Sabaias, ac Ochiel, a Joram, milwriaid, a roddasant i'r Lefiaid ynghyfer y Pasg, bum mil o ddefaid, a seithgant o eidionau.

1:10 Pan orffennwyd hyn yn drefnus, yr offeiriaid a'r Lefiaid a safasant trwy'r llwythau, a chanddynt fara croyw;

1:11 Yn ôl dosbarthiadau teuluoedd eu tadau, yng ngŵydd y bobl, i offrymu i'r Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly y gwnaethant y bore.

1:12 A hwy a rostiasant yr oen Pasg wrth dân yn ôl y ddefod, a'r offrymau a ferwasant gyda pheraroglau mewn pedyll a chrochanau, ac a'u rhoddasant gerbron yr holl bobl:

1:13 Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i'w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron:

1:14 Canys yr offeiriaid a offryment y braster hyd yr hwyr: a'r Lefiaid a baratoent iddynt eu hunain, ac i'w brodyr yr offeiriaid, meibion Aaron.

1:15 A'r cantorion sanctaidd, meibion Asaff, oedd yn eu cyfle, yn ôl gorchymyn Dafydd, sef Asaff, Sachareias, a Jedwthwn, gweledydd y brenin.

1:16 A'r porthorion oedd ym mhob porth: ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy.

1:17 Felly y gorffennwyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw,

1:18 Gan gynnal y Pasg, ac offrymu poethoffrymau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymyn y brenin Joseias.

1:19 Felly meibion Israel, y rhai oedd bresennol, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, dros saith niwrnod.

1:20 Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er amser Samuel y proffwyd.

1:21 Ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel y cyffelyb Basg ag a gynhaliodd Joseias, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r Iddewon, a holl Israel, a'r rhai oedd bresennol o drigolion Jerwsalem.

1:22 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseias y cynhaliwyd y Pasg hwnnw.

1:23 A gweithredoedd Joseias oeddynt uniawn gerbron ei Arglwydd, a chalon gyflawn o dduwioldeb.

1:24 Ac am y pethau a ddigwyddasant yn ei amser ef, y maent yn ysgrifenedig o'r blaen, o ran y rhai a bechasant, ac a fuant annuwiol yn erbyn yr Arglwydd, rhagor pob cenedl a theyrnas, gan ei dristáu ef yn ddirfawr, fel y cyfododd geiriau'r Arglwydd yn erbyn Israel.

1:25 Wedi darfod i Joseias y pethau hyn, y digwyddodd i Pharo brenin yr Aifft ddyfod i ryfela yn erbyn Carchamis ar Ewffrates; a Joseias a aeth i'w gyfarfod ef.

1:26 Ond brenin yr Aifft a anfonodd ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, brenin Jwdea?

1:27 Nid yn dy erbyn di y'm gyrrodd yr Arglwydd Dduw; ond fy rhyfel i sydd ar Ewffrates. Ac yn awr yr Arglwydd sy gyda mi, a'r Arglwydd sydd gyda mi yn peri i mi frysio: ymado â mi, ac na wrthwyneba'r Arglwydd.

1:28 Ond ni throai Joseias ei gerbyd oddi wrtho ef, eithr efe a ymdaclodd i ymladd ag ef, heb ystyried geiriau Jeremi y proffwyd o enau yr Arglwydd.

1:29 Ac efe a fyddinodd yn ei erbyn yn nyffryn Megido. A'r tywysogion a ddaethant i waered at y brenin Joseias.

1:30 A'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi allan o'r gad; canys yr ydwyf yn llesg iawn. Ac yn ebrwydd ei weision a'i dygasant ef allan o'r gad.

1:31 Yna efe a esgynnodd i'w ail gerbyd; ac wedi iddo ddychwelyd i Jerwsalem, efe a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau.

1:32 A thrwy holl Jwda y galarwyd am Joseias; a Jeremi y proffwyd a alarnadodd am Joseias, a'r llywodraethwyr a'u gwragedd a wnaethant gwynfan mawr am Joseias, hyd y dydd heddiw. Ac fe aeth hynny yn ddefod i'w wneuthur yn wastad ymhlith holl genedl Israel.

1:33 Y mae'r pethau hyn yn ysgrifenedig yn llyfr historiau brenhinoedd Jwda, a phob gweithred a'r a wnaeth Joseias; a'i ogoniant, a'i wybodaeth yng nghyfraith yr Arglwydd, a'r pethau a wnaethai efe o'r blaen, a'r pethau a hysbyswyd y pryd hyn, sy'n ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

1:34 A'r bobl a gymerasant Joachas fab Joseias, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Joseias ei dad, pan oedd efe yn dair blwydd ar hugain o oed.

1:35 Ac efe a deyrnasodd yn Jwdea ac yn Jerwsalem dri mis: ac yna brenin yr Aifft a'i tynnodd ef ymaith o deyrnasu yn Jerwsalem.

1:36 Ac efe a drethodd ar y wlad gan talent o arian, ac un dalent o aur.

1:37 A brenin yr Aifft a wnaeth Joacim ei frawd ef yn frenin Jwdea a Jerwsalem.

1:38 Ac efe a rwymodd Joacim a'r llywodraethwyr: ac efe a ddaliodd Saraces ei frawd, ac a'i dug ef ymaith i'r Aifft.

1:39 Joacim oedd bum mlwydd ar hugain pan ddechreuodd efe deyrnasu yn Jwdea a Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

1:40 Am hynny Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a'i rhwymodd ef â chadwyn bres, ac a'i dug ef ymaith i Babilon.

1:41 Yna Nabuchodonosor a gymerth o lestri sanctaidd yr Arglwydd, ac a'u dug hwynt ymaith, ac a'u rhoddes yn ei deml ei hun o fewn Babilon.

1:42 Ond ei holl weithredoedd ef, a'i halogedigaeth, a'i anwiredd, sydd yn ysgrifenedig yng Nghroniclau'r brenhinoedd.

1:43 A Joacim ei fab a deyrnasodd yn ei le ef: a deunaw mlwydd oed oedd efe, pan urddwyd ef yn frenin:

1:44 A thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac yntau a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

1:45 Felly ymhen y flwyddyn Nabuchodonosor a anfonodd, ac a'i dug ef i Babilon, gyda llestri sanctaidd yr Arglwydd;

1:46 Ac a wnaeth Sedeceias yn frenin Jwdea a Jerwsalem, pan oedd efe yn un mlwydd ar hugain o oed; ac efe a deyrnasodd un mlynedd ar ddeg.

1:47 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac nid ofnodd y geiriau a ddywedasai Jeremi y proffwyd wrtho o enau'r Arglwydd.

1:48 Ac yn ôl iddo fod wedi ei dyngu i Nabuchodonosor, efe a dyngodd anudon i enw'r Arglwydd, ac a wrthryfelodd, ac a galedodd ei war a'i galon, as a droseddodd gyfreithiau Arglwydd Dduw Israel.

1:49 A phenaethiaid y bobl a'r offeiriaid a wnaethant lawer o anwiredd yn erbyn y cyfreithiau, ac a ragorasant ar holl frynti'r holl genhedloedd, ac a halogasant deml yr Arglwydd yr hon a gysegrasid yn Jerwsalem.

1:50 Er hynny Duw eu tadau a ddanfonodd ei gennad i'w galw hwy drachefn, am iddo fod yn eu harbed hwynt, a'i dabernacl ei hun.

1:51 Ond hwynthwy a watwarent ei genhadau ef; a'r dydd yr ymddiddanai'r Arglwydd â hwynt, hwy a watwarent ei broffwydi ef.

1:52 O'r diwedd, efe a ddicllonodd wrth ei bobl am eu camweddau mawrion, ac a barodd i frenhinoedd y Caldeaid ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt.

1:53 Y rhai hyn a laddasant eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf o fewn amgylchoedd eu teml sanctaidd, ac ni pharchasant na gŵr ieuanc, na morwyn, na henwr, na phlentyn, yn eu plith hwynt.

1:54 Eithr efe a'u rhoddes hwynt oll yn eu dwylo hwy, a holl lestri sanctaidd yr Arglwydd, mawrion a bychain, a llestri arch Duw; a thrysorau'r brenin a gymerasant hwy, ac a ddygasant ymaith i Babilon.

1:55 A hwy a losgasant deml yr Arglwydd, ac a dorasant i lawr furiau Jerwsalem, ac a losgasant ei thyrau â thân.

1:56 Difwynasant hefyd ei holl bethau gwerthfawr, ac a'u dinistriasant: ac efe a ddug ymaith y rhai a weddillasai'r cleddyf, i Babilon;

1:57 Y rhai a fuant yn gaethweision iddo ef ac i'w feibion, nes teyrnasu o'r Persiaid; fel y cyflawnid gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy enau Jeremi;

1:58 Fel y mwynhai'r wlad ei Sabothau, yr holl amser y bu hi yn ddiffeithwch, ac y gorffwysai hyd oni chyflawnid deng mlynedd a thrigain.

PENNOD 2
2:1 y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus brenin y Persiaid, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremi,

2:2 Yr Arglwydd a anogodd ysbryd Cyrus brenin y Persiaid, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny mewn ysgrifen,

2:3 Gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin y Persiaid; Arglwydd Israel, sef yr Arglwydd goruchaf, a'm gwnaeth i yn frenin ar yr holl fyd,

2:4 Ac a orchmynnodd i mi adeiladu iddo dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwdea.

2:5 Am hynny od oes neb ohonoch chwi o’i bobl ef, bydded yr Arglwydd, sef ei Arglwydd, gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwdea, ac adeiladed dŷ Arglwydd Israel: canys efe yw'r Arglwydd sydd yn preswylio yn Jerwsalem.

2:6 A phwy bynnag sydd yn cyfanheddu'r lleoedd hynny o'u hamgylch, cynorthwyed y rhai sydd yno ef ag aur, ac ag arian,

2:7 A rhoddion, a meirch, ac anifeiliaid, gydag addunol offrymau i deml yr Arglwydd, yr hon sydd yn Jerwsalem.

2:8 Yna penaethiaid teuluoedd Jwdea, a llwyth Benjamin, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a gyfodasant, a chymaint oll ag y cynhyrfodd yr Arglwydd eu meddwl i fyned i fyny, ac i adeiladu tŷ i'r Arglwydd yn Jerwsalem.

2:9 A'r rhai oedd o'u hamgylch hwynt a'u cynorthwyasant ym mhob peth, ag arian, ac ag aur, â meirch ac anifeiliaid, ac â llawer iawn o addunol roddion, y rhai yr oedd eu meddwl wedi eu cynhyrfu at hynny.

2:10 Y brenin Cyrus hefyd a ddug allan lestri sanctaidd yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nabuchodonosor ymaith o Jerwsalem, ac a'u cysegrasai yn nheml ei eilunod:

2:11 A phan ddug Cyrus brenin y Persiaid hwynt allan, efe a'u rhoddodd hwynt at Mithridates ei drysorydd,

2:12 I'w rhoddi hwynt i Sanabassar rhaglaw Jwdea.

2:13 Dyma eu rhifedi hwynt; Mil o gawgiau aur, a mil o gawgiau arian, o noeau arian i'r ebyrth naw ar hugain, deg ar hugain o ffiolau aur, ac o arian ddwy fil pedwar cant a deg; a mil o lestri eraill.

2:14 Felly yr holl lestri aur ac arian, y rhai a ddygasid ymaith, oedd bum mil, pedwar cant, a naw a thrigain.

2:15 A Sanabassar a'u dug hwynt gyda'r rhai a aethant o gaethiwed Babilon i Jerwsalem.

2:16 Ond yn amser Artacsercses brenin y Persiaid; Belemus, a Mithridates, a Thabehus, a Rathumus, a Beeltethmus, a Semelius y sgrifennydd, ac eraill o'u cydswyddwyr hwynt, y rhai oedd yn aros yn Samaria, ac mewn lleoedd eraill, a sgrifenasant ato y llythyr hwn yn erbyn y rhai oedd yn preswylio yn Jwdea a Jerwsalem: At y brenin Artacsercses ein harglwydd;

2:17 Dy weision di, Rathumus sgrifennydd historïau, a Semelius y sgrifennydd ac eraill o'u cydgynghorwyr, a'r barnwyr sydd yn Celo-Syria ac yn Phenice:

2:18 Bydded hysbys i'n harglwydd frenin fod yr Iddewon a ddaethant oddi wrthych chwi atom ni i Jerwsalem, y ddinas wrthryfelgar ddrygionus honno, yn adeiladu'r farchnadle, ac yn adnewyddu ei muriau hi, ac yn gosod sylfaenau'r deml.

2:19 Yn awr os adeiledir y ddinas hon, ac adnewyddu ei muriau hi, ni wrthodant yn unig dalu teyrnged, eithr hwy a wrthwynebant frenhinoedd.

2:20 Oherwydd bod y pethau sy'n perthynu i'r deml yn myned rhagddynt, ni thybiasom fod yn weddaidd gollwng heibio y fath beth,

2:21 Eithr ei ddangos ef i'n harglwydd y brenin modd y gallech di, o rhyngai fodd i ti, chwilio yn llyfrau dy dadau;

2:22 A thi a gei yn y Croniclau y pethau sy sgrifenedig am y pethau hyn, fel y ceffych wybod fod y ddinas hon yn gwrthryfela, ac yn gwneuthur blinder i frenhinoedd ac i ddinasoedd,

2:23 A bod yr Iddewon yn wrthryfelgar, ac yn magu terfysgau ynddi erioed; oherwydd yr hwn beth y darfu dinistrio'r ddinas hon.

2:24 Am hynny yn awr, O arglwydd frenin, yr ydym ni yn hysbysu i ti, os adeiledir y ddinas hon, ac os cyweirir ei muriau hi, ni bydd i ti ffordd i fyned i Celo-Syria nac i Phenice.

2:25 Yna y brenin a sgrifennodd drachefn at Rathumus yr historiawr, ac at Beeltethmus, ac at Semelius y sgrifennydd, ac at eraill o'u cydswyddwyr, a thrigolion Samaria, Syria, a Phenice, yn y wedd hon;

2:26 Myfi a ddarllenais y llythyr a ddanfonasoch ataf: am hynny mi a orchmynnais chwilio; ac fe a gafwyd fod y ddinas hon erioed yn gwrthwynebu brenhinoedd,

2:27 A bod ei phobl yn gwneuthur terfysgoedd a rhyfeloedd, a bod brenhinoedd cryfion a chedyrn yn teyrnasu yn Jerwsalem, y rhai oedd yn teyrnasu, ac yn mynnu teyrnged o Celo-Syria a Phenice.

2:28 Oherwydd hynny y gorchmynnais yn awr wahardd i'r gwŷr hyn adeiladu'r ddinas, a gwylied rhag gwneuthur ohonynt ddim mwyach,

2:29 Ac na chaffai'r gweithwyr drygionus hynny fyned rhagddynt ymhellach, i flino'r brenin.

2:30 Ac wedi i Rathumus, a Semelius yr ysgrifennydd, ac eraill eu cydswyddwyr, ddarllen y pethau a sgrifenasai'r brenin Artacsercses, yna hwy a ddaethant ar ffrwst i Jerwsalem, a byddin o wŷr meirch, a sawdwyr lawer, ac a ddechreuasant rwystro'r adeiladwyr, fel y peidiodd adeiladaeth y deml yn Jerwsalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin y Persiaid.

PENNOD 3
3:1 A phan oedd Dareius yn teyrnasu, efe a wnaeth wledd fawr i'w holl ddeiliaid, ac i'w holl deulu, ac i holl lywodraethwyr Media a Phersia,

3:2 Ac i'r holl benaethiaid, a'r blaenoriaid, a'r swyddwyr oedd tano ef, o India hyd Ethiopia, trwy gant a saith ar hugain o daleithiau.

3:3 Ac wedi iddynt fwyta ac yfed, a'u digoni, hwy a aethant ymaith: a'r brenin Dareius a aeth i'w stafell, ac a gysgodd ychydig, ac a ddeffrodd.

3:4 Yna y tri wŷr ieuainc, y rhai oedd yn cadw corff y brenin, a ddywedasant y naill wrth y llall,

3:5 Dyweded pob un ohonom ni air godidog: a'r neb a orchfygo, ac y gweler ei air yn ddoethach na'r lleill, Dareius y brenin a ddyry iddo ef fawr roddion, yn arwydd o fuddugoliaeth;

3:6 Sef gwisgo porffor, ac yfed mewn llestri aur, a chysgu mewn dillad goreuraid, a cherbyd a ffrwynau o aur, a gwisg pen o sidan, a chadwyn am ei wddf:

3:7 Ac efe a gaiff eistedd yn nesaf at Dareius oherwydd ei ddoethineb, ac efe a elwir yn gâr i Dareius.

3:8 Yna pob un a sgrifennodd ei air, ac a'i seliodd: a hwy a'u rhoddasant dan obennydd y brenin Dareius,

3:9 Ac a ddywedasant, Pan ddeffro'r brenin, y rhoddir iddo'r ysgrifen; a phwy bynnag y barno'r brenin a thri thywysog Persia, fod ei air yn ddoethaf, efe a gaiff y fuddugoliaeth, fel yr ysgrifennwyd.

3:10 Un a sgrifennodd, Trechaf yw gwin.

3:11 Y llall a sgrifennodd, Trechaf yw brenin.

3:12 Y trydydd a sgrifennodd, Trechaf yw gwragedd; ond uwchlaw pob peth, Gwirionedd a orchfyga.

3:13 A phan ddeffrodd y brenin, hwy a gymerasant eu sgrifennau, ac a'u rhoddasant iddo, ac efe a'u darllenodd hwynt.

3:14 Ac efe a yrrodd i alw am holl bendefigion Persia a Media, a'r penaethiaid, a'r blaenoriaid, a'r llywodraethwyr, a'r swyddwyr.

3:15 Ac efe a eisteddodd yn y frawdle: a'r sgrifennau a ddarllenwyd ger eu bron hwynt.

3:16 Yna efe a ddywedodd, Gelwch y gwŷr ieuainc, fel y mynegont eu geiriau eu hunain. Felly hwy a'u galwasant, a hwythau a ddaethant i mewn.

3:17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hysbyswch i ni y sgrifennau. Yna y cyntaf a ddechreuodd, yr hwn a ddywedasai am nerth y gwin,

3:18 Ac a ddywedodd fel hyn; O chwychwi wŷr, mor nerthol yw gwin, yr hwn sydd yn twyllo pob dyn a'r a'i hyfo!

3:19 Y mae efe yn gwneuthur yr un meddwl gan y brenin a chan yr ddifad, gan y caeth a'r rhydd, gan tlawd a'r cyfoethog.

3:20 . Y mae efe yn troi pob meddwl i
 ddigrifwch a llawenydd, fel na chofio dyn na thristwch na dyled.

3:21 Ac y mae efe yn gwneuthur pob calon yn hael, ac ni feddwl am frenin na phennaeth; ac efe a bair adrodd y cwbl wrth dalentau.

3:22 A phan fyddont wedi yfed, nid argofiant garu na ehyfeillion na brodyr; ac wedi hynny ar fyrder y tynnant gleddyfau.

3:23 Ac wedi iddynt ddadebru o'r gwin, ni ddaw yn eu cof beth a wnaethant.

3:24 Ha wŷr, onid trechaf yw gwin, yr hwn sydd yn peri y cyfryw bethau? Ac wedi iddo ef ddywedyd felly, efe a dawodd.

PENNOD 4
4:1 Yna yr ail, yr hwn a ddywedasai am nerth y brenin, a ymadroddodd;

4:2 O chwychwi wŷr, onid trechaf yw dynion, y rhai sydd yn llywodraethu môr a thir, a'r hyn oll sydd ynddynt?

4:3 Ond y mae'r brenin yn gryfach, ac yn rheoli'r cwbl; efe sydd yn arglwyddiaethu arnynt hwy; a'r hyn oll a archo efe iddynt, hwy a'i gwnant.

4:4 Od eirch efe iddynt ryfela y naill ar y llall, hwy a wnânt hynny: os denfyn efe hwynt yn erbyn y gelynion, hwy a ânt, ac a dorrant i lawr fynyddoedd, muriau, a thyrau.

4:5 Hwy a laddant, ac a leddir, ac ni thorrant orchymyn y brenin: os gorchfygant, i'r brenin y dygant y cwbl, yn gystal yr anrhaith a phob peth arall:

4:6 A'r sawl nid elo i derfysg, ac i ryfel, eithr llafurio'r ddaear; wedi iddynt ei hau, hwy a'i medant, ac a'i dygant i'r brenin, ac a gymhellant y naill y llall i dalu teyrnged i'r brenin:

4:7 Ac etc nid yw efe ond un dyn: od eirch efe ladd, fe a leddir; od eirch efe arbed, fe a arbedir;

4:8 Od eirch efe daro, hwy a drawant; od eirch efe ddiffeithio, hwy a ddiffeithiant; od eirch efe adeiladu, hwy a adeiladant;

4:9 Od eirch efe dorri i lawr, hwy a dorrant; od eirch efe blannu, hwy a blannant.

4:10 Felly ei holl bobl, a'i holl luoedd, sydd yn ufuddhau iddo ef: ac yn y cyfamser efe a eistedd i lawr, ac a fwyty, ac a yf, ac a huna.

4:11 Canys y rhai hyn a'i cadwant ef o amgylch ogylch; ac ni ddichon neb fyned ymaith i'w negesau ei hun, ac ni byddant anufudd iddo mewn dim.

4:12 O chwychwi wŷr, onid trechaf y brenin, gan ei fod ef yn cael y cyfryw rwysg? Ar hynny efe a dawodd.

4:13 Yna y trydydd, yr hwn a ddywedasai am wragedd, a gwirionedd, (hwnnw oedd Sorobabel,) a ddechreuodd ymadroddi:

4:14 O chwychwi wŷr, nid y brenin mawr, na llaweroedd o ddynion, na gwin, sy drechaf: pwy ynteu a feistrola arnynt hwy, a phwy a'u gorchfyga hwynt ond y gwragedd?

4:15 Gwragedd a esgorasant ar y brenin, ac ar yr holl bobl sydd yn llywodraethu môr a thir.

4:16 Ac ohonynt hwy y ganwyd hwynt; a hwynthwy a fagasant y rhai a blannodd y gwinwydd, o ba rai y gwneir y gwin.

4:17 Hwynthwy hefyd sy'n gwneuthur dillad i ddynion, ac yn gwneuthur gwŷr yn anrhydeddus; ac ni ddichon gwŷr fod heb y gwragedd.

4:18 Pe casglent aur ac arian, a phob peth gwerthfawr, oni charent hwy wraig lân brydweddol?

4:19 Oni ymadawent hwy â'r rhai hynny oll, ac oni ymroddent iddi hi, gan lygadrythu arni? a phawb a ddewisai ei chael hi o flaen aur, ac arian, a phob peth gwerthfawr.

4:20 Dyn a ymedy â'i dad a'i magodd, ac â'i wlad, ac a ymlyn wrth ei wraig.

4:21 Ac efe a anturia ei hoedl dros ei wraig, ac ni feddwl am dad, na mam, na gwlad.

4:22 Wrth hyn y gellwch wybod mai gwragedd sy'n meistroli arnoch chwi: onid ydych chwi yn llafurio, ac yn poeni, ac er hynny yn rhoddi ac yn dwyn y cwbl i'r gwragedd?

4:23 Gŵr a gymer ei gleddyf, ac a â allan i ladd, ac i ladrata, ac i fordwyo ar fôr ac afonydd;

4:24 Efe a edrych ar lew, ac a gerdd yn y tywyllwch; ac wedi hynny efe a ddwg gwbl o'i ladrad, a'i drais, a'i anrhaith, at ei gariad.

4:25 Am hynny gŵr a gâr ei wraig ei hun yn fwy na'i dad neu ei fam.

4:26 Ie, llawer a aethant allan o'u pwyll oherwydd gwragedd, a llaweroedd a aethant yn weision er mwyn gwragedd.

4:27 Llawer hefyd a gyfrgollwyd, ac a gyfeiliornwyd, ac a bechasant, er mwyn gwragedd.

4:28 Ac yn awr oni choeliwch chwi fi? onid mawr yw'r brenin, yn ei allu? onid yw pob teyrnas yn ofni cyffwrdd ag ef?

4:29 Eto mi a'i gwelais ef, ac Apame, gordderch y brenin, merch Bartacus ardderchog, yn eistedd ar ddeheulaw'r brenin,

4:30 Ac yn cymryd y goron oddi am ben y brenin, ac yn ei rhoddi am ei phen ei hun, ac yn cernodio'r brenin â'i llaw aswy,

4:31 Ac yntau yn safnrhythu, ac yn edrych arni; ac os chwarddai hi arno ef, yntau a chwarddai; ac os dig fyddai hi wrtho ef, yna y gwenieithiai efe iddi hi, i gael ei chymod.

4:32 O chwi wŷr, onid trechaf yw'r gwragedd, gan eu bod yn gwneuthur fel hyn?

4:33 Yna'r brenin a'r tywysogion a edrychasant bawb ar ei gilydd: ac yntau a ddechreuodd ymadrodd am y gwirionedd.

4:34 O chwi wŷr, onid nerthol yw gwragedd? mawr yw'r ddaear, ac uchel yw'r nef a buan yw'r haul yn ei gwrs: canys efe a dry o amgylch y nef mewn un dydd, ac a red eilwaith i'w le ei hun.

4:35 Onid mawr yw efe, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn? Am hynny y mae'r gwirionedd yn fwy ac yn gryfach na dim oll.

4:36 Yr holl ddaear sydd yn galw am wirionedd, a'r nef sydd yn ei bendithio: a phob peth sydd yn ysgwyd ac yn crynu rhagddi, ac nid oes dim anghyfiawn gyda hi.

4:37 Drygionus yw gwin, drygionus yw'r brenin, a drygionus yw'r gwragedd, a holl feibion dynion sy ddrygionus, a'u holl weithredoedd sy anwir, ac nid oes ynddynt wirionedd, eithr yn eu hanwiredd y darfyddant.

4:38 Ond y gwirionedd sydd yn arcs, ac sydd nerthol yn dragywydd, ac sydd yn byw ac yn teyrnasu yn oes oesoedd.

4:39 Gyda hi nid oes derbyn wyneb na gwobr: eithr y mae hi yn gwneuthur cyfiawnder, ac yn ymgadw rhag anghyfiawnder a drygioni; a phawb a ganmolant ei gweithredoedd hi.

4:40 Ac nid oes yn ei barn hi ddim anghyfiawn; a hyhi yw'r cadernid, a'r deyrnas, a'r gallu, a'r mawredd, trwy yr holl oesoedd.
Bendigedig fyddo Duw y gwirionedd.

4:41 Ar hynny efe a beidiodd â llefaru. Yna yr holl bobl a lefasant, ac a ddywedasant, Mawr yw gwirionedd, a threchaf.

4:42 Yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Gofyn y peth a fynnych, heblaw yr hyn sydd yn sgrifenedig, ac ni a'i rhoddwn ef i ti, am dy gael di yn ddoethaf; a thi a gei eistedd yn nesaf ataf fi, ac yn gâr i mi y'th elwir.

4:43 Yna efe a ddywedodd wrth y brenin, Cofia'r adduned a addunaist y dydd y daethost i'r frenhiniaeth, sef ar i ti adeiladu Jerwsalem,

4:44 A danfon eilwaith y llestri a ddygasid ymaith o Jerwsalem, y rhai a roddasai Cyrus o'r neilltu, pan addunodd efe ddinistrio Babilon, a'u danfon hwy yno drachefn.

4:45 Tithau hefyd a addunaist adeiiadu'r deml a losgodd yr Edomiaid pan ddistrywiodd y Caldeaid Jwdea.

4:46 Ac yn awr, O arglwydd frenin, dyma'r peth yr ydwyf yn ei ddeisyf ac yn ei ofyn gennyt; a dyma'r mawredd a geisiaf fi gennyt: am hynny yr ydwyt yn dymuno arnat gyflawni'r adduned a addunaist â'th enau dy hun i Frenin y nef.

4:47 Yna Dareius y brenin a gyfododd i fyny, ac a'i cusanodd ef, ac a roddodd iddo lythyrau at bawb o'i drysorwyr, a'i lywodraethwyr, a'r blaenoriaid, a'r swyddwyr, ar iddynt hwy ei hebrwng ef yn ddiogel, a'r sawl oedd gydag ef yn myned i fyny i adeiladu Jerwsalem.

4:48 Ac efe a sgrifennodd lythyrau at holl lywodraethwyr Celo-Syria a Phenice, ac at y rhai oedd yn Libanus, ar iddynt hwy gludo coed cedr o Libanus i Jerwsalem, ac adeiladu'r ddinas gydag ef.

4:49 Ac efe a sgrifennodd am yr holl Iddewon, y rhai oedd yn myned i fyny
 o'i deyrnas ef i Jwdea, ynghylch eu rhyddid, sef na byddai i un pennaeth, na swyddog, na llywodraethwr, na thrysorwr, fyned trwy nerth i’w drysau hwynt;

4:50 Ac i'r holl wlad yr oeddynt hwy yn ei pherchenogi fod yn rhydd oddi wrth deyrnged; a bod i'r Edomiaid roddi iddynt y pentrefydd yr oeddynt yn eu dal o'r eiddo'r Iddewon:

4:51 A rhoddi ugain o dalentau bob blwyddyn tuag at adeiladaeth y deml, hyd oni ddarfyddai ei hadeiladu hi;

4:52 A deg eraill o dalentau bob blwyddyn, i gynnal y poethoffrymau ar yr allor beunydd, fel yr oedd y gorchymyn i offrwm dau ar bymtheg;

4:53 A bod i bawb a'r a elai o Babilon i adeiladu'r ddinas, gael rhyddid yn gystal iddynt eu hunain, ag i'w plant, a'r holl offeiriaid a'r a aethent ymaith.
 

4:54 Ac efe a sgrifennodd am gyfreidiau, gwisgoedd yr offeiriaid, y rhai y gwasanaethant ynddynt.

4:55 Ac efe a sgrifennodd am iddynt roddi i'r Lefiaid eu cyfreidiau, nes gorffen y tŷ, ac adeiladu Jerwsalem.

4:56 Efe hefyd a sgrifennodd am iddynt roddi dognau a chyflog i'r rhai oedd yn gwylied y ddinas.

4:57 Ac efe a anfonodd o Babilon yr holl lestri a roddasai Cyrus o’r neillyu: a pheth bynnag a archasai Cyrus, efe a orchmynnodd ei wneuthur, a'i anfon i Jerwsalem.

4:58 A phan aeth y gŵr ieuanc allan, efe a ddyrchafodd ei wyneb i fyny i'r nef tua Jerwsalem, ac a ddiolchodd i Frenin y nef,

4:59 Gan ddywedyd, Oddi wrthyt ti y mae'r fuddugoliaeth, oddi wrthyt ti y mae'r doethineb, ac eiddot ti yw'r
gogoniant, a minnau yw dy was di.

4:60 Bendigedig wyt ti, yr hwn a roddaist i mi ddoethineb; clodforaf di, O Arglwydd Dduw ein tadau.

4:61 Felly efe a gymerth y llythyrau, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Babilon, ac a fynegodd i'w holl frodyr.

4:62 A hwy a fendithiasant Dduw eu tadau, oherwydd iddo roddi iddynt hwy rwydd-deb ac esmwythdra,

4:63 I fyned i fyny, ac i adeiladu Jerwsalem, a'r deml, yr hon a elwir ar ei enw ef: a hwy a lawenychasant ag offer cerdd ac a gorfoledd, dros saith niwrnod.

PENNOD 5
5:1 Wedi’r pethau hyn y detholwyd penaethiaid tai eu tadau, yn ôl eu llwythau, i fyned i fyny, â'u gwragedd, a'u meibion, a'u merched, a'u gweision, a'u morynion, a'u hanifeiliaid.

5:2 A'r brenin Dareius a anfonodd fil o wŷr meirch gyda hwynt, i'w hebrwng yn ddiogel i Jerwsalem, ynghyd ag offer cerdd, tympanau, a phibellau.

5:3 A'u holl frodyr hwynt oedd yn canu â hwynt. Felly y gwnaeth efe iddynt fyned i fyny gyda hwynt.

5:4 A dyma enwau'r gwŷr a aethant i fyny yn ôl eu teuluoedd, wrth eu llwythau, yn ôl eu pennau-cenedl.

5:5 Yr offeiriaid, meibion Phinees fab y tŷ, ac adeiladu Jerwsalem. Aaron: Jesus mab Josedec, fab Saraias, o lwyth Jwda; a Joacim, mab Sorobabel, fab Salathiel, o dylwyth Dafydd, o genhedlaeth Phares, o lwyth Jwda;

5:6 Yr hwn a lefarodd eiriau doethion holl lestri a roddasai Cyrus o'r neilltu: wrth Dareius brenin y Persiaid, yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef, ar y mis Nisan, hwnnw yw'r mis cyntaf.

5:7 A dyma hwy o Jwda y rhai a ddaethant i fyny o gaethiwed y gaethglud, y rhai a gaethgludasai Nabuchodonosor brenin Babilon i Babilon.

5:8 A hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i gyrrau eraill Jwda, pob un i'w ddinas ei hun, y rhai a ddaethent gyda Sorobabel, a Jesus, Nehemeias, Sachareias, a Resaias, Enenius, Mardocheus, Beelsarus, Asffarasus, Reelius, Roimus, a Baana, eu blaenoriaid hwynt.

5:9 Eu rhifedi hwynt o'r genedl, a'u blaenoriaid: meibion Phoros, dwy fil a chant a deuddeg a thrigain; meibion Saffat, pedwar cant, a deuddeg a thrigain;

5:10 Meibion Ares, saith gant, un ar bymtheg a deugain;

5:11 Meibion Phaath-Moab, dwy fil, wyth gant a deuddeg;

5:12 Meibion Elam, mil, deucant, pedwar ar ddeg a deugain: meibion Sathi, naw cant, pump a deugain; meibion Corbe, saith gant a phump; meibion Bani, chwe chant ac wyth a deugain;

5:13 Meibion Bebai, chwe chant, tri ar hugain; meibion Asgad, tair mil, dau cant a dau ar hugain;

5:14 Meibion Adonicam, chwe chant, saith a thrigain; meibion Bagoi, dwy fil, chwech a thrigain; meibion Adin, pedwar cant, pedwar ar ddeg a deugain;

5:15 Meibion Ateresias, deuddeg a phedwar ugain: meibion Ceilan ac Asetas, saith a thrigain; meibion Asuran, pedwar cant, deuddeg ar hugain;

5:16 Meibion Ananeias, cant ac un; meibion Arom, deuddeg ar hugain; a meibion Bassa, tri chant, tri ar hugain; meibion Arsiffurith, cant a dau;

5:17 Meibion Meterus, tair mil, a phump; meibion Bethlomon, cant a thri ar hugain;

5:18 Hwynthwy o Netoffa, pymtheg a deugain; hwynt o Anathoth, cant, tri ar bymtheg a deugain; hwynt o Bethsamos, dau a deugain;

5:19 Hwynt o Ciriathiarius, pump ar hugain; hwynt o Caffiras a Beroth, saith gant, tri a deugain; hwynthwy o Birath, saith gant;

5:20 Hwynt o Chadias ac Ammidioi, pedwar cant, dau ar hugain; hwynt o Cyrama a Gabdes, chwe chant, un ar hugain;

5:21 Hwynt o Michmas, cant, dau ar hugain; hwynt o Bethel, deuddeg a deugain; meibion Neffis, cant, deg a deugain a chwech;

5:22 Meibion Calamolan ac Onus, saith gant, pump ar hugain; meibion Jerechus, dau cant, pump a deugain;

5:23 Meibion Sanaa, tair mil, tri chant a deg ar hugain.

5:24 Yr offeiriaid: meibion Jedu fab Jesus, ymhlith meibion Sanasib, naw cant, deuddeg a thrigain; meibion Meruth, mil, deuddeg a deugain;

5:25 Meibion Pasur, mil, saith a deugain; meibion Harim, mil a deg a thrigain.

5:26 Y Lefiaid: meibion Jesue, Cadmiel, Banuas, a Suias, pedwar ar ddeg a thrigain.

5:27 Y meibion y rhai oedd gantorion sanctaidd: meibion Asaff, cant, wyth ar hugain.

5:28 Y porthorion: meibion Salum, meibion Jatal, meibion Talmon, meibion Dacobi, meibion Teta, meibion Sami, y cwbl oedd gant, pedwar ar bymtheg ar hugain.

5:29 Gweinidogion y deml: meibion Esau, meibion Asiffa, meibion Tabaoth, meibon Ceras, meibion Sud, meibion Phaleas, meibion Labana, meibion Hagaba,

5:30 Meibion Accub, meibion Uta, meibion Cetab, meibion Agab, meibion Subai, meibion Anan, meibion Cathua, meibion Gedur,

5:31 Meibion Raia, meibion Daisan, meibion Necoda, meibion Caseba, meib Gasera, meibion Aseias, meibion Phinees, meibion Asara, meibion Bastai, meibion Asana, meibion Meunim, meibion Naffison, meibion Accub, meibion Acuffa, meibion Assur, meibion Pharacim, meibion Basaloth,

5:32 Meibion Mehida, meibion Coutha, meibion Carea, meibion Barcus, meibion Aserar, meibion Thomoi, meibion Nasith, meibion Atiffa.

5:33 Meibion gweision Salomon: meibion Soffereth, meibion Pharada, meibion Joëli, meibion Loson, meibion Isdael, meibion Saffeth,

5:34 Meibion Agia, meibion Phacareth, meibion Sabie, meibion Saroffie, meibion Maseias, meibion Gar, meibion Adus, meibion Suba, meibion Afferra, meibion Barodis, meibion Sabat, meibion Alom.

5:35 Holl weinidogion y deml, a meibion gweision Salomon, oedd dri chant a deuddeg a thrigain.

5:36 Y rhai hyn a ddaethant i fyny o Thelmeleth a Thelharsa; Caralathar ac Aalar yn eu harwain hwynt.

5:37 Ac ni fedrent hwy ddangos eu teuluoedd, na'u bonedd, pa fodd yr oeddynt o Israel: meibion Dalaias, meibion Tobeia, meibion Necodan, chwe chant, deuddeg a deugain.

5:38 Ac o'r offeiriaid y rhai oedd yn offeiriadu, ac heb eu cael: meibion Hobaia, meibion Accos, meibion Adus, yr hwn a gymerasai iddo yn wraig Augia, un o ferched Berselus,

5:39 Ac a alwyd ar ei enw ef: ac ysgrifen y genedl hon a geisiwyd ymysg yr achau, ond nis cafwyd; ac am hynny y gwaharddwyd iddynt offeiriadu.

5:40 Canys Nehemeias ac Athareias a ddywedasant wrthynt na chaent hwy fod yn gyfranogion o'r pethau cysegredig, oni chyfodai archoffeiriad wedi ei wisgo ag addysg a gwirionedd.

5:41 Felly hwynt oll o Israel, o'r rhai oeddynt ddeuddeng mlwydd a thros hynny, oeddynt o gyfrif yn ddeugain mil, heblaw gweision a morynion, dwy fil, tri chant a thri ugain.

5:42 Eu gweision a'u llawforynion oeddynt saith mil, tri chant a saith a deugain: a'r cantorion a'r cantoresau, dau cant, pump a deugain.

5:43 Pedwar cant a phymtheg ar hugain o gamelod, saith mil ac un ar bymtheg ar hugain o feirch, dau cant a phump a deugain o fulod, pum mil a phum cant a phump ar hugain o anifeiliaid arferol â'r iau.

5:44 A rhai o'u llywiawdwyr hwynt yn ôl eu teuluoedd, pan ddaethant i deml Dduw yn Jerwsalem, a addunasant adeiladu y tŷ yn ei le ei hun, yn ôl eu gallu;

5:45 A rhoddi i drysor y gwaith fil o bunnau o aur, a phum mil o bunnau o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid.

5:46 Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a'r bobl a drigasant yn Jerwsalem, ac yn y wlad; a'r cantorion, a'r porthorion, a holl Israel, yn eu pentrefydd.

5:47 Ond pan ddaeth y seithfed mis, pan oedd pawb o feibion Israel ar yr eiddo ei hun, hwy a ymgasglasant i gyd o unfryd mewn lle amlwg, wrth y porth cyntaf, yr hwn sy tua'r dwyrain.

5:48 Yna Jesus mab Josedec, a'i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel a'i frodyr, gan godi i fyny, a baratoesant allor Duw Israel,

5:49 I offrymu poethoffrymau arni, megis y mae yn sgrifenedig yn llyfr Moses gŵr Duw.

5:50 Ac yno yr ymgasglodd yn eu herbyn hwynt rai o holl genhedloedd y wlad: ond hwynthwy a drefnasant yr allor yn ei chyfle, am fod holl genhedloedd y wlad yn elynion iddynt: a hwy a offrymasant ebyrth wrth yr amser, a phoethoffrymau i'r Arglwydd, fore a hwyr.

5:51 Hwy a gadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn orchmynedig yn y gyfraith; ac a offrymasant ebyrth beunydd, fel yr oedd yn ddyledus:

5:52 Ac wedi hynny yr offrymau gwastadol, ac offrymau'r Sabothau, a'r newyddloerau, a'r holl wyliau sanctaidd.

5:53 A'r rhai oll a'r a wnaethent adduned i Dduw, a ddechreuasant offrymu aberthau i Dduw, o'r dydd cyntaf o'r seithfed mis, er nad adeiladasid eto deml Dduw.

5:54 A hwy a roddasant i'r seiri maen, ac i'r seiri pren, arian, a bwyd, a diod, yn llawen.

5:55 A hwy a roddasant geir i'r Sidoniaid, ac i'r Tyriaid, i ddwyn cedrwydd o Libanus, y rhai a gludid yn gludeiriau i borthladd Jope, fel y gorchmynasid iddynt gan Cyrus frenin y Persiaid.

5:56 Ac yn yr ail flwyddyn, ar yr ail mis, ar ôl ei ddyfod i deml Dduw yn Jerwsalem, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesus mab Josedec, a'u brodyr, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r holl rai a'r a ddaethent i Jerwsalem allan o gaethiwed Babilon:

5:57 A hwy a sylfaenasant dŷ Dduw ar y dydd cyntaf o'r ail mis, yn yr ail flwyddyn ar ôl eu dychwelyd i Jwdea a Jerwsalem.

5:58 A hwy a osodasant y Lefiaid, y rhai oedd dros ugeinmlwydd oed, ar waith yr Arglwydd. A Jesus, a'i feibion, a'i frodyr, a Chadmiel ei frawd, a meibion Madiabun, gyda meibion Joda fab Eliadun, a'u meibion, a'u brodyr, i gyd yn Lefiaid, o unfryd a ddilynasant, gan wneuthur y gwaith yn nhŷ Dduw: felly y gweithwyr a adeiladasant deml yr Arglwydd.

5:59 A'r offeiriaid a safasant wedi eu gwisgo yn eu gwisgoedd, ag offer cerdd, ac ag utgyrn, a'r Lefiaid meibion Asaff â symbalau,

5:60 Yn canu, ac yn moliannu'r Arglwydd, fel yr ordeiniasai Dafydd brenin Israel.

5:61 A hwy a ganasant ganiadau yn llafar er moliant i'r Arglwydd; oherwydd bod ei drugaredd a'i ogoniant yn dragywydd yn holl Israel.

5:62 Yna'r holl bobl a leisiasant mewn utgyrn, ac a waeddasant â llef uchel, gan gydfoliannu'r Arglwydd am godi i fyny dŷ’r Arglwydd.

5:63 Rhai hefyd o'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r penaethiaid, yr henuriaid, y rhai a welsent y tŷ cyntaf, a ddaethant at adeiladaeth hwn, trwy wylofain â nad fawr.

5:64 Llawer hefyd ag utgyrn ac â llawenydd mawr a waeddasant â llef uchel,

5:65 Fel na ellid clywed yr utgyrn gan nad y bobl: eto yr oedd y dyrfa yn fawr, yn lleisio mewn utgyrn, fel y clywid ymhell.

5:66 Am hynny, pan glybu gelynion llwyth Jwda a Benjamin hynny, hwy a ddaethant i gael gwybod beth yr oedd sain yr utgyrn yn ei arwyddocau.

5:67 Yna y gwybuant mai y rhai a ddaethai o'r caethiwed a adeiladent y deml i Arglwydd Dduw Israel.

5:68 Am hynny hwy a aethant at Sorobabel a Jesus, ac at benaethiaid y teuluoedd, gan ddywedyd wrthynt, Ni a adeiladwn gyda chwi hefyd;

5:69 Canys yr ydym ni yn ufuddhau i'ch Arglwydd chwi, fel yr ydych chwithau, ac yn aberthu iddo ef, er dyddiau Asbasareth brenin Asyria, yr hwn a'n dug ni yma.

5:70 Yna Sorobabel, a Jesus, a phenaethiaid teuluoedd Israel, a ddywedasant wrthynt, Ni pherthyn i chwi ac i ni gydadeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw ni.

5:71 Nyni ein hunain a adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.

5:72 Er hynny pobl y wlad, yn pwyso yn drwm ar y rhai oedd yn Jwdea, a rwystrasant iddynt adeiladu.

5:73 A thrwy eu cynllwyn, a therfysgoedd, a denu pobl, hwy a luddiasant orffen yr adeiladaeth, tra fu'r brenin Cyrus yn fyw; felly y rhwystrwyd hwynt rhag adeiladu dros ysbaid dwy flynedd, hyd deyrnasiad Dareius.

PENNOD 6
6:1 Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius, Aggeus a Sachareias mab Ido, y proffwydi, a broffwydasant i'r Iddewon, yn Jwdea, a Jerwsalem, yn enw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn oedd arnynt.

6:2 Yna Sorobabel mab Salathiel a Jesus mab Josedec a safasant i fyny, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem: proffwydi'r Arglwydd oedd gyda hwynt, ac yn eu cynorthwyo.

6:3 Yn y cyfamser hwnnw Sisinnes llywiawdwr Syria a Phenice, a Sathrabusanes a'i gyfeillion, a ddaethant atynt hwy, ac a ddywedasant wrthynt,

6:4 Trwy orchymyn pwy yr ydych chwi'n adeiladu'r tŷ hwn, a'r adeilad yma, ac yn gwneuthur yr holl bethau eraill? a phwy yw'r gweithwyr sy'n gwneuthur y pethau hyn?

6:5 Eto henuriaid yr Iddewon a gawsent ffafr; gan i'r Arglwydd ymweled â'r caethiwed:

6:6 Ac ni rwystrwyd hwynt i adeiladu, nes hysbysu i Dareius y pethau hyn, a chael ateb oddi wrtho ef.

6:7 Copi'r llythyrau a sgrifennodd ac a anfonodd Sisinnes llywiawdwr Syria a Phenice, a Sathrabusanes, a'u cyfeillion, rheolwyr yn Syria a Phenice, at Dareius; Annerch i'r brenin Dareius:

6:8 Bydded y cwbl yn hysbys i'n harglwydd frenin; pan ddaethom ni i wlad Jwdea, a myned i mewn i ddinas Jerwsalem, ni a gawsom yn ninas Jerwsalem henuriaid yr Iddewon y rhai oedd o'r gaethglud,

6:9 Yn adeiladu tŷ’r Arglwydd, mawr a newydd, o gerrig nadd a gwerthfawr, a'r coed wedi eu gosod eisoes ar y magwyrydd.

6:10 Ac yr ydys yn gwneuthur y gwaith hwn ar frys, ac y mae'r gwaith yn myned rhagddo'n llwyddiannus yn eu dwylo hwynt, ac â phob gogoniant a diwydrwydd y gweithir ef.

6:11 Yna ni a ofynasom i'r henuriaid hyn, gan ddywedyd, Trwy orchymyn pwy yr ydych chwi yn adeiladu'r tŷ hwn, ac yh sylfaenu'r gwaith yma?

6:12 Am hynny fel yr hysbysem i ti mewn ysgrifen, nyni a ofynasom iddynt pwy oedd y gweithwyr pennaf, ac a geisiasom ganddynt enwau eu gwŷr pennaf yn ysgrifenedig.

6:13 Ond hwy a'n hatebasant ni, Gweision ydym ni i'r Arglwydd, yr hwn a greodd y nefoedd a'r ddaear.

6:14 Ac am y tŷ hwn, efe a adeiladwyd er ys llawer o flynyddoedd gan frenin o Israel, mawr a chadarn, ac a orffennwyd.

6:15 Ond pan anogodd ein tadau ni Dduw i ddicllonedd, a phan bechasant yn erbyn Arglwydd Israel, yr hwn sydd yn y nefoedd, efe a'u rhoddes hwynt yn nwylo Nabuchodonosor brenin Babilon y Caldeaid,

6:16 Y rhai a dynasant y tŷ i lawr, ac a'i llosgasant ef, ac a gaethgludasant y bobl i Babilon.

6:17 Ond yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus ar wlad Babilon, y brenin Cyrus a sgrifennodd am adeiladu'r tŷ hwn.

6:18 A'r llestri sanctaidd o aur ac o arian, y rhai a ddygasai Nabuchodonosor allan o'r tŷ yn Jerwsalem, ac a'u gosodasai yn ei deml ei hun, Cyrus y brenin a'u dug hwynt drachefn allan o'r deml yn Babilon, ac a'u rhoddodd hwynt i Sorobabel ac i Sanabassarus y llywiawdwr;

6:19 Gan orchymyn iddo ef ddwyn ymaith y llestri hynny, a'u gosod hwynt o fewn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu teml yr Arglwydd yn ei chyfle.

6:20 A phan ddaeth y Sanabassarus hwnnw yma, efe a sylfaenodd dŷ’r Arglwydd yn Jerwsalem; ac er y pryd hynny hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef eto.

6:21 Ac yn awr, o rhynga bodd i'r brenin, chwilier ymysg coflyfrau'r brenin Cyrus:

6:22 Ac o cheir bod adeiladaeth tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem wedi ei gwneuthur trwy gytundeb y brenin Cyrus, ac o rhynga bodd i'r arglwydd ein brenin, hysbysed i ni am y peth hyn.

6:23 Yna y brenin Dareius a orchmynnodd chwilio ymysg y coflyfrau yn Babilon; ac fe a gafwyd yn Ecbatana, y llys sydd yng ngwlad Media, fan lle yr oedd y pethau hyn yn ysgrifenedig.

6:24 Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus, y brenin Cyrus a orchmynnodd adeiladu tŷ’r Arglwydd yn Jerwsalem, lle yr aberthant a thân gwastadol;

6:25 Uchder yr hwn fydd drigain cufydd, a'i led yn drigain cufydd, a thair rhes o gerrig nadd, ac un rhes o goed newydd o'r wlad honno: a'r draul a roddir o dŷ’r brenin Cyrus.

6:26 A'r llestri sanctaidd o dŷ’r Arglwydd, yn aur ac arian, y rhai a gymerth Nabuchodonosor ymaith o'r tŷ yn Jerwsalem, ac a'u dug i Babilon, eu rhoddi drachefn i'r tŷ yn Jerwsalem, a'u gosod yn y fan lle'r oeddynt.

6:27 Hefyd efe a orchmynnodd i Sisinnes llywiawdwr Syria a Phenice, ac i Sathrabusanes a'u cyfeillion, ac i'r rhai oedd wedi eu gosod yn llywodraethwyr yn Syria a Phenice, wylied nad ymyrrent a'r fan honno, eithr gadael i Sorobabel gwas yr Arglwydd, a llywydd Jwdea, ac i henuriaid yr Iddewon, adeiladu tŷ’r Arglwydd yn y fan honno.

6:28 Myfi a orchmynnais hefyd ei adeiladu ef yn gyfan eilwaith, ac iddynt hwy fod yn astud i gynorthwyo'r rhai oedd o gaethglud yr Iddewon, nes gorffen tŷ’r Arglwydd:

6:29 A rhoddi dogn allan o deyrnged Celo-Syria a Phenice yn ddyfal i'r gwŷr hyn tuag at ebyrth i'r Arglwydd, ac i Sorobabel y llywydd tuag at fustych, a hyrddod, ac ŵyn;

6:30 Ŷd hefyd, halen, gwin, ac olew; a hynny yn wastadol bob blwyddyn, heb ymofyn ymhellach, fel y tystiolaetho'r offeiriaid sydd yn Jerwsalem fod yn ei dreulio beunydd;

6:31 Fel yr offrymont beunydd i Dduw goruchaf dros y brenin, a thros ei blant, ac y gweddïont gyda'u heinioes hwynt.

6:32 Efe a orchmynnodd hefyd am bwy bynnag a droseddai ddim a'r a ddywetbwyd neu a'r a sgrifennwyd uchod, neu a ddirmygai ddim o hynny, gymryd pren allan o'i dŷ ef ei hun, a'i grogi ef arno, a bod ei gyfoeth ef yn eiddo'r brenin.

6:33 Am hynny'r Arglwydd, yr hwn yr ydys yn galw ar ei enw yno, a ddistrywio bob brenin a chenedl a'r a estynno ei law i luddias neu i wneuthur niwed i dŷ’r Arglwydd, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

6:34 Myfi y brenin Dareius a orchmynnais wneuthur yn ddiwyd yn y pethau hyn.

PENNOD 7
7:1 YnaSisinnes llywydd Celo-Syria a Phenice, a Sathrabusanes, a'u cyfeillion, yn canlyn gorchmynion y brenin Dareius,

7:2 Yn ddyfal iawn a olygasant ar y gwaith sanctaidd, gan gynorthwyo henuriaid yr Iddewon, a llywodraethwyr y deml.

7:3 Ac felly y gwaith sanctaidd a lwyddodd, pan ydoedd Aggeus a Sachareias y proffwydi yn proffwydo.

7:4 Felly hwy a orffenasant y pethau hyn trwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac o gytundeb Cyrus a Dareius ac Artacsercses, brenhinoedd Persia.

7:5 Ac fel hyn y gorffennwyd y tŷ sanctaidd ar y trydydd ar hugain o'r mis Adar, yn y chweched flwyddyn i Dareius frenin y Persiaid.

7:6 A phlant Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, ac eraill o'r gaethglud a chwanegwyd atynt, a wnaethant yn ôl yr hyn sydd ysgrifenedig yn llyfr Moses.

7:7 Ac i gysegru teml yr Arglwydd, hwy a orfrymasant gant o fustych, deucant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn,

7:8 A deuddeg gafr dros bechod holl Israel, yn ôl rhifedi penaethiaid llwythau Israel.

7:9 A'r offeiriaid a'r Lefiaid a safasant wedi ymwisgo yn eu gwisgoedd yn ôl eu teuluoedd, yng ngwasanaeth Arglwydd Dduw Israel, yn ôl llyfr Moses; a'r porthorion hefyd wrth bob porth.

7:10 A phlant Israel, gyda'r rhai a ddaethent allan o'r caethiwed, a gynaliasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf, wedi i'r offeinaid a'r Lefiaid ymsancteiddio.

7:11 Ni sancteiddiasid holl feibion y gaethiwed ynghyd, eithr y Lefiaid a gydsancteiddiasid oll.

7:12 Felly hwy a offrymasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.

7:13 Yna holl blant Israel, y rhai a ddaethent o'r caethiwed, a fwytasant, sef y rhai oll a'r a ymneilltuasent oddi wrth ffieidd-dra pobl y wlad, ac a geisiasant yr Arglwydd.

7:14 A hwy a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod, gan lawenychu gerbron yr Arglwydd;

7:15 Oherwydd iddo ef droi cyngor brenin Asyria tuag atynt hwy, i nerthu eu dwylo hwynt yng ngwaith Arglwydd Dduw Israel.

PENNOD 8
8:1 Ac wedi'r pethau hyn, pan oedd Artacsercses brenin y Persiaid yn teyrnasu, y daeth Esdras mab Saraias, fab Esereias, fab Helcias, fab Salum,

8:2 Fab Saduc, fab Achitob, fab Amareias, fab Oseias, fab Memeroth, fab Saraias, fab Sanias, fab Boccas, fab Abisun, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf.

8:3 Yr Esdras hwn a aeth i fyny o Babilon, fel ysgrifennydd pared iawn yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasid trwy Dduw Israel.

8:4 Y brenin hefyd a roddodd iddo ef anrhydedd: canys efe a gafodd ffafr ger ei fron ef yn ei holl ddymuniadau.

8:5 Gydag ef hefyd yr aeth i fyny rai o blant Israel, o'r offeiriaid, o'r Lefiaid, o'r cantorion sanctaidd, ac o'r porthorion, a gweinidogion y deml, i Jerwsalem,

8:6 Yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses, ar y pumed mis; hon ydoedd y seithfed flwyddyn i'r brenin: canys hwy a aethant o Babilon y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, ac a ddaethant i Jerwsalem, fel y rhoddodd yr Arglwydd rwydd-deb iddynt yn eu taith.

8:7 Oherwydd yr oedd gan Esdras gyfarwyddyd mawr, fel na adawodd efe heibio ddim o gyfraith a gorchmynion yr Arglwydd, o