Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. 2613ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_gweddi_manasses_78_2693ke

0001 Yr Hafan / Home Page

or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website

          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English

                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  

                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page

                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân: Yr Apocrypha
(78) Gweddi Manasses

(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible: The Apocrypha
(78) Prayer of Manassheh 

(in Welsh and English)

 


(delw 7310)

Adolygiadau diweddaraf - latest updates. 2009-01-25

 



 

 2692k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig (Gweddi Manasses)

····· 

GWEDDI MANASSES BRENIN JWDA, PAN OEDDID YN EI DDAL EF YN GARCHAROR YN BABILON
(= the prayer of Manassheh, king of Judah, when he was being held prisoner in Babylon)

O Argwlydd, hollalluog Dduw ein tadau, Abraham, Isaac, a Jacob, a'u cyfiawn hiliogaeth hwynt:
O Lord, Almighty God of our fathers, Abraham, Isaac, and Jacob, and of their righteous seed;

yr hwn a wnaethost nefoedd a daear, a'u gwychder oll:
who hast made heaven and earth, with all the ornament thereof;

yr hwn a rwymaist y môr â gair dy orchymyn;
who hast bound the sea by the word of thy commandment;

yr hwn a gaeaist y dyfnder, ac a'i seliaist â'th enw ofnadwy a gogoneddus:
who hast shut up the deep, and sealed it by thy terrible and glorious name;

yr hwn y mae pob peth yn ei ofni, ac yn crynu rhag wyneb dy nerth:
whom all men fear, and tremble before thy power;

oblegid ni ellir aros mawredd dy ogoniant, na dioddef dicter dy fygwth yn erbyn pechaduriaid.
for the majesty of thy glory cannot be borne, and thine angry threatening toward sinners is importable:

Eithr trugaredd dy addewid di sydd anfeidrol ac anchwiliadwy:
but thy merciful promise is unmeasurable and unsearchable;

oblegid tydi sydd Arglwydd goruchaf, daionus, ymarhous, mawr ei drugaredd hefyd, ac edifeiriol am ddrwg dyn.
for thou art the most high Lord, of great compassion, longsuffering, very merciful, and repentest of the evils of men.

Tydi, O Arglwydd, yn ôl amldra dy ddaioni, a addewaist edifeirwch a maddeuant i'r rhai a bechasant i'th erbyn, ac yn amldra dy dosturiaeth a ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid er iachawdwriaeth.
Thou, O Lord, according to thy great goodness hast promised repentance and forgiveness to them that have sinned against thee: and of thine infinite mercies hast appointed repentance unto sinners, that they may be saved.

Am hynny tydi, O Arglwydd Dduw y rhai cyfiawn, ni osodaist edifeirwch i'r rhai cyfiawn, i Abraham, Isaac, a Jacob, y rhai ni phechasant i'th erbyn,
Thou therefore, O Lord, that art the God of the just, hast not appointed repentance to the just, as to Abraham, and Isaac, and Jacob, which have not sinned against thee;

ond ti a osodaist edifeirwch er fy mwyn i bechadur.
but thou hast appointed repentance unto me that am a sinner:

Mi a bechais yn fwy na rhifedi tywod y môr;
for I have sinned above the number of the sands of the sea.

fy anwireddau a amlhasant, O Arglwydd, fy anwireddau a amlhasant, ac nid wyf fi deilwng i edrych, ac i weled uchder y nefoedd, oherwydd amldra fy anwireddau.
My transgressions, O Lord, are multiplied: my transgressions are multiplied, and I am not worthy to behold and see the height of heaven for the multitude of mine iniquities.

Mi a grymais i lawr gan rwymau haearn, fel na allaf godi fy mhen; ni allaf chwaith gymryd fy anadl, am gyffroi ohonof dy lid di, a gwneuthur yr hyn sy ddrwg yn dy olwg: dy ewyllys nis gwneuthum, a'th orchmynion nis cedwais;
I am bowed down with many iron bands, that I cannot life up mine head, neither have any release: for I have provoked thy wrath, and done evil before thee: I did not thy will, neither kept I thy commandments:

gosodais i fyny ffieidd-dra, ac amlheais gamweddau.
I have set up abominations, and have multiplied offences.

Ac yr awr hon yr ydwyf fi yn plygu glin fy nghalon, gan ddymuno daioni gennyt:
Now therefore I bow the knee of mine heart, beseeching thee of grace.

pechais, O Arglwydd, pechais; ac yr ydwyf yn cydnabod fy anwireddau.
I have sinned, O Lord, I have sinned, and I acknowledge mine iniquities:

Am hynny yr ydwyf fi yn deisyf, gan atolwg i ti, maddau i mi, O Arglwydd, maddau i mi, ac na ddifetha fi ynghyd â'm hanwireddau, ac na chadw ddrwg i mi, gan ddigio byth wrthyf, ac na ddamnia fi i geudod y ddaear:
wherefore, I humbly beseech thee, forgive me, O Lord, forgive me, and destroy me not with mine iniquites. Be not angry with me for ever, by reserving evil for me; neither condemn me to the lower parts of the earth.

canys tydi sy Dduw, Duw, meddaf, i'r edifeiriol:
For thou art the God, even the God of them that repent;

ac ynof fi y dangosi dy holl ddaioni: oblegid ti a'm hachubi i, yr hwn ydwyf annheilwng, yn ôl dy fawr drugaredd.
and in me thou wilt shew all thy goodness: for thou wilt save me, that am unworthy, according to thy great mercy.

Am hynny y'th foliannaf di bob amser, holl ddyddiau fy einioes: oblegid y mae holl nerthoedd y nefoedd yn dy foliannu di, ac i ti y mae'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Therefore I will praise thee for ever all the days of my life: for all the powers of the heavens do praise thee, and thine is the glory for ever and ever. Amen. .


__________________________________________________________________________

 

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.  2009-01-25

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats