Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2688k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_histori_susanna_76_2688k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau
diweddaraf: 2009-01-28 |
2689ke This page with an English
version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version) (Susanna)
HISTORI SUSANNA
Wedi ei neilltuo oddi wrth ddechrau DANIEL,
oherwydd nad ydyw yn yr Hebraeg, megis nad yw'r Histori am Bel a'r Ddraig
HISTORI SUSANNA
1 Yr oedd gŵr yn preswylio yn Babilon a'i enw Joacim.
2 Ac efe a briododd wraig a'i henw Susanna, merch Chelcias, yr hon oedd
lân iawn, ac yn ofni'r Arglwydd.
3 Ei rhieni hefyd oedd gyfiawn, ac a ddysgasent eu merch yn ôl cyfraith
Moses.
4 A Joacim oedd gyfoethog iawn; ac iddo ef yr oedd gardd deg yn gyfagos
i'w dŷ: at yr hwn yr ymgynullai'r
Iddewon; am ei fod ef yn anrhydeddusach na neb arall.
5 A'r flwyddyn honno y rhoddwyd dau henuriad o'r bobl yn farnwyr, am y
rhai y dywedodd yr Arglwydd mai o Babilon y daeth yr anwiredd, oddi wrth y
barnwyr hynaf, y rhai a gymerent arnynt lywodraethu'r bobl.
6 Y rhai hyn oedd yn aros yn nhŷ Joacim: ac atynt y tramwyai pawb
oll a'r a ymgyfreithient.
7 A phan elai'r bobl ymaith ganol dydd, y byddai Susanna yn myned i
rodio i ardd ei gŵr.
8 A'r ddau henuriad a'i gwelent hi beunydd yn myned i mewn, ac yn
rhodio: ac yr oeddynt mewn chwant iddi hi.
9 A hwy a wyrdroesant eu meddwl eu hun, ac a ostyngasant eu llygaid fel
na allent edrych tua'r nefoedd, na chofio cyfiawn farnedigaethau.
10 Ac er eu bod ill deuoedd yn glwyfus o'i chariad hi, eto ni
ddangosai'r naill y gofid oedd arno i'r llall:
11 Oherwydd bod yn waradwydd ganddynt ddangos eu bod mewn chwant i'w
chorff hi.
12 A beunydd y disgwylient yn ddyfal am ei gweled hi.
13 A'r naill a ddywedodd wrth y llall, Awn yn awr adref; oblegid y mae
hi yn bryd cinio.
14 Yna'r aethant allan, ac a ymadawsant y naill oddi wrth y llall: ac er
hynny troi a wnaethant eilchwyl, a dyfod i'r un man; ac wedi ymofyn â'i gilydd
yr achos, cyffesu a wnaethant bob un i'w gilydd eu chwant, ac yn unfryd llunio
amser y gallent ei chael hi ei hunan.
15 Ac fel yr oeddynt yn disgwyl amser cyfaddas, Susanna a aeth i mewn
fel yr arferai o'r blaen, a dwy forwyn yn unig gyda hi, ar fedr ymolchi yn yr
ardd; canys brwd oedd yr hin.
16 Nid oedd neb yno ond y ddau henuriad, y rhai a ymguddiasent, ac oeddynt
yn ei disgwyl hi.
17 A hi a ddywedodd wrth ei morynion Dygwch i mi olew, a sebon, a
chaewch ddrysau'r ardd, fel y gallwyf ymolchi.
18 A'r morynion a wnaethant fel yr archasai hi: ac wedi iddynt gau
drysau'r ardd, hwy a aethant allan i ddrws dirgel, i gyrchu'r pethau a archasid
iddynt: eithr ni welsant mo'r henuriaid, o achos eu bod wedi ymguddio.
19 Ac fe ddarfu, wedi i'r morynion fyned allan, i'r ddau henuriad godi,
a rhedeg ati hi, a dywedyd,
20 Wele ddrysau'r ardd yn gaead, fel na all neb ein gweled: yr ydym ni
ein deuoedd mewn chwant i ti; cytuna â nyni, a gorwedd gyda ni.
21 Os tydi ni wnei hynny, nyni a dystiolaethwn yn dy erbyn, fod gŵr
ieuanc gyda thi, ac anfon ohonot y
morynion ymaith oddi wrthyt am hynny.
22 Yna'r ochneidiodd Susanna, gan ddywedyd, Yr ydwyf fi mewn cyfyngdra
o'r ddeutu: os y peth hwn a wnaf fi, marwolaeth yw i mi: os minnau nis gwnaf,
ni allaf ddianc o'ch dwylo chwi.
23 Eto mae yn ddewisach gennyf fi syrthio yn eich dwylo chwi heb ei
wneuthur, na phechu gerbron yr Arglwydd.
24 A Susanna a ddolefodd â llef uchel. Felly y llefodd y ddau henuriad
yn ei herbyn hi.
25 A'r naill a redodd, ac a agorodd ddrysau'r ardd.
26 Pan glybu tylwyth y tŷ y llefain yn yr ardd, myned a wnaethant i
mewn i'r drws dirgel, i edrych beth a ddarfuasai iddi hi.
27 Eithr wedi i'r henuriaid ddywedyd eu chwedl, cywilyddio yn ddirfawr a
wnaeth y gweision: oherwydd ni buasai'r fath air i Susanna o'r blaen.
28 A thrannoeth, pan ddaeth y bobl i dŷ Joacim ei gŵr hi, y
ddau henuriad hefyd a ddaethant yno, yn llawn drwg feddwl i Susanna, ar ei rhoi
hi i'w marwolaeth.
29 A hwy a ddywedasant yng ngwydd y bobl, Danfonwch am Susanna ferch
Chelcias, gwraig Joacim. A hwy a ddanfonasant amdani hi.
30 Hithau a ddaeth, a'i rhieni, a'i phlant a'i holl geraint.
31 Susanna oedd dyner, a phrydferth ei gwedd.
32 A'r rhai anwir hyn a barasant ddinoethi ei hwyneb hi, canys yr oedd â
gorchudd arno, fel y gallent borthi eu chwant â'i thegwch hi.
33 Yna yr wylodd cynifer un ag oedd yn ei chylch hi, a'r rhai oll a'i
hadwaenent.
34 A'r ddau henuriad a safasant i fyny yng nghanol y bobl, ac a
roddasant eu dwylo ar ei phen hi.
35 A hithau yn wylo, a edrychodd i fyny tua'r nefoedd, am fod ei chalon
hi a'i goglyd ar yr Arglwydd.
36 A'r henuriaid a ddywedasant, Pan oeddem ni yn rhodio ein hunain yn yr
ardd, y daeth hi â dwy lawforwyn i mewn; a hi a gaeodd ddrysau yr ardd, ac a
anfonodd y morynion ymaith.
37 Yna y daeth gŵr ieuanc ati, yr hwn oedd yno yn ymguddio, ac a
orweddodd gyda hi.
38 A ninnau yng nghongl yr ardd pan welsom y cyfryw anwiredd, a redasom
atynt.
39 A phan welsom fel yr oeddynt ynghyd, ni allasom ei ddala ef, am ei
fod yn gryfach na ni; eithr efe a agorodd y drws, ac a ddihangodd.
40 Eithr gwedi i ni ddala hon, ni a'i holasom hi, pwy oedd y gŵr
ieuanc hwnnw; ac ni ddangosai hi i ni: a hyn yr ydym ni yn ei dystiolaethu.
41 A'r gynulleidfa a'u credodd hwynt, megis henuriaid a barnwyr y bobl:
ac felly hwy a'i barnasant hi i farwolaeth.
42 Yna Susanna a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, O Dduw tragwyddol,
i'r hwn y mae pob dirgelwch yn hysbys, a'r hwn a wyddost bob peth cyn ei
ddigwydd;
43 Ti a wyddost gamdystiolaethu ohonynt yn fy erbyn: ac yn awr y mae yn
rhaid i mi farw, er na wneuthum i'm hoes y pethau y mae'r gwŷr hyn wedi eu
drwg ddychymyg i'm herbyn.
44 A'r Arglwydd a wrandawodd ar ei llef hi.
45 Ac wrth fyned â hi i'w marwolaeth, yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd
sanctaidd llencyn ieuanc, a'i enw Daniel;
46 Yr hwn a lefodd yn uchel, Gwirion wyf fi oddi wrth waed y wraig hon.
47 A'r holl bobl a droesant ato ef, ac a ddywedasant, Beth yw'r ymadrodd
hwn a ddywedaist ti?
48 Ac efe a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd, O Israeliaid, a
ydych chwi mor ansynhwyrol â gadael yn euog ferch o Israel, heb lwyr chwilio a
gwybod y gwirionedd?
49 Trowch eilchwyl i'r frawdle: canys tystiolaethu a wnaethant gelwydd
yn ei herbyn hi.
50 A'r holl bobl a droesant ar ffrwst: a'r hynafgwyr a ddywedasant
wrtho, Tyred, eistedd yn ein plith, a dangos i ni, gan i Dduw roddi i ti fraint
henuriad.
51 A Daniel a ddywedodd wrthynt, Neilltuwch hwy oddi wrth ei gilydd
ymhell, a mi a'u holaf hwynt,
52 A phan ddarfu neilltuo'r naill oddi wrth y llall, efe a alwodd un
ohonynt, ac a ddywedodd wrtho, O dydi hen mewn drygioni, yr awr hon y daeth dy
bechodau yn dy erbyn, y rhai a wnaethost o'r blaen,
53 A'th gamfarnau a fernaist, yn gadael yn euog y gwirion, ac yn
rhyddhau'r anwir; lle y dywedodd yr Arglwydd, Na ladd y gwirion a'r cyfiawn.
54 Felly yn awr, os gwelaist ti hon, dangos dan ba ryw bren y gwelaist
ti hwy ynghyd? Yna'r atebodd yntau, Dan lentyscbren.
55 A Daniel a ddywedodd, Gwych y dywedaist gelwydd yn erbyn dy ben dy
hun; canys angel yr Arglwydd a dderbyniodd farn Duw i'th wahanu di yn ddau.
56 Yna wedi troi hwnnw heibio, efe a barodd ddyfod â'r llall, ac a
ddywedodd wrtho, O hiliogaeth Canaan, ac nid Jwda, tegwch a'th dwyllodd di, a
chwant a lygrodd dy galon.
57 Fel hyn y gwnaethoch chwi â merched Israel, y rhai rhag ofn a
gytunasant â chwi: eithr merch Jwda nid arhoai eich anwiredd chwi.
58 Felly dywed i mi, Dan ba ryw bren y deliaist ti hwynt ynghyd? Ac efe
a atebodd, Dan brinwydden.
59 A Daniel a ddywedodd wrtho, Gwych y dywedaist tithau hefyd gelwydd yn
erbyn dy ben dy hun: canys y mae angel yr Arglwydd yn aros â'r cleddyf ganddo,
i'th dorri di yn dy hanner, ac i'ch difetha chwi eich deuoedd.
60 Yna y llefodd yr holl gynulleidfa â llef uchel, gan foli'r Arglwydd
yr hwn a wared y sawl a ymddiriedo ynddo ef.
61 A hwy a godasant yn erbyn y ddau henuriad; canys Daniel a'u daliasai
hwynt ar eu geiriau eu hunain yn euog o gamdystiolaeth;
62 A hwy a wnaethant iddynt y modd yr amcanasent hwy wneuthur ar gam a'u
cymydog, ac a'u rhoddasant i'w marwolaeth, yn ôl cyfraith Moses. Felly y
gwaredwyd y gwaed gwirion y dydd hwnnw.
63 Yna Chelcias a'i wraig a glodforasant Dduw dros eu merch Susanna,
gyda Joacim ei gŵr hi, a'r holl genedl, am na chawsid ynddi ddim
anonestrwydd.
64 Ac o'r dydd hwnnw allan yr oedd Daniel mewn parch mawr ymhlith y
bobl.
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-28
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website