1461k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya :
Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr
iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text
electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_colosiaid_51_1461k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y
llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
1462ke This page with an English
translation (The Epistle of Paul the
Apostle to the Colossians: 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
PENNOD 1
1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a
Thimotheus ein brawd,
1:2 At y saint a'r ffyddlon frodyr yng Nghrist y
rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r
Arglwydd Iesu Grist.
1:3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein
Harglwydd Iesu Grist, gan weddio drosoch chwi yn wastadol,
1:4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist
Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;
1:5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn
y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl:
1:6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag
y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau,
er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:
1:7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein
hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist;
1:8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad
chwi yn yr Ysbryd.
1:9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y
clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi a
gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;
1:10 Fel y
rhodioch yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob
gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;
1:11 Wedi eich
nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a
hirymaros gyda llawenydd;
1:12 Gan ddiolch
i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn
y goleuni:
1:13 Yr hwn a'n
gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd i deyrnas ei annwyl
Fab:
1:14 Yn yr hwn y
mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:
1:15 Yr hwn yw
delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur:
1:16 Canys trwyddo
ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac
yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai
meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.
1:17 Ac y mae efe
cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.
1:18 Ac efe yw pen
corff yr eglwys; efe, yr hwn yw'r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw;
fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth.
1:19 Oblegid
rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;
1:20 Ac, wedi iddo
wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei
hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y
nefoedd.
1:21 A chwithau, y
rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr
awr hon hefyd a gymododd efe,
1:22 Yng nghorff
ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius,
ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef:
1:23 Os ydych yn
parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth
obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a'r
sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:
1:24 Yr hwn ydwyf
yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni'r hyn sydd yn
ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw'r eglwys:
1:25 I'r hon y'm
gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag
atoch chwi, i gyflawni gair Duw;
1:26 Sef y
dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a
eglurwyd i'w saint ef:
1:27 I'r rhai yr
ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y
Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant:
1:28 Yr hwn yr ydym
ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel
y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu:
1:29 Am yr hyn yr
ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn
gweithio ynof fi yn nerthol.
PENNOD 2
2:1
Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn
chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;
2:2
Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylitu mewn cariad, ac i bob golud
sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ;
2:3
Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
2:4
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.
2:5
Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr
ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng
Nghrist.
2:6
Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodioch ynddo;
2:7
Wedi eich gwreiddio a'ch adeiladu ynddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis
y'ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.
2:8
Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl
traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.
2:9
Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol.
2:10
Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac
awdurdod:
2:11
Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff
pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:
2:12
Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cydgyfodwyd trwy
ffydd gweithrediad Duw yr hwn a'i cyfododd ef o feirw.
2:13
A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a
gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau;
2:14
Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd
yng ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y
groes;
2:15
Gan ysbeilio'r tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar
gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.
2:16
Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl,
neu newyddloer, neu Sabothau:
2:17
Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.
2:18
Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac
addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan
ei feddwl cnawdol ei hun;
2:19
Ac heb gyfatal y Pen, o'r hwn y mae'r holl gorff, trwy'r cymalau a'r
cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylitu, yn cynyddu gan
gynnydd Duw,
2:20
Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr
ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau,
2:21
(Na chyffwrdd; ac nac archwaetha, ac na theimla;
2:22
Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac
athrawiaethau dynion?
2:23
Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a
gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni'r cnawd.
PENNOD 3
3:1
Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae
Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
3:2 Rhoddwch eich serch ar bethau sydd
uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear.
3:3 Canys meirw ydych, a'ch bywyd a
guddiwyd gyda Christ yn Nuw.
3:4 Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni,
yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.
3:5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y
rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwyn, drygchwant, a chybydd-dod, yr
hon sydd eilun-addoliaeth:
3:6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint
Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod:
3:7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau
gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.
3:8 Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith
yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch
genau.
3:9 Na ddywedwch gelwydd wrth eich
gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd a'i weithredoedd;
3:10 A gwisgo'r newydd, yr hwn a
adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creodd ef:
3:11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew,
enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd
bob peth, ac ym mhob peth.
3:22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth
i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion,
eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:
3:23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch
o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion;
3:24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y
derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei
wasanaethu.
PENNOD 4
4:1 Y Meistriaid, gwnewch i'ch
gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y
nefoedd.
4:2 Parhewch mewn gweddi, gan wylied
ynddi gyda diolchgarwch;
4:3 Gan weddio hefyd drosom ninnau, ar
i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf
hefyd mewn rhwymau:
4:4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae
yn rhaid i mi ei draethu.
4:5 Rhodiwch mewn doethineb tuag at y
rhai sydd allan, gan brynu'r amser.
4:6 Bydded eich ymadrodd bob amser yn
rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi
ateb i bob dyn.
4:7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus
i chwi, y brawd annwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cyd-was yn yr Arglwydd:
4:8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn
hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;
4:9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r
annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir
yma.
At y Colosiaid yr
ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf: 2005-02-19
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website