1470k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 


http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_cronicl2_14_1470k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys
(Col·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân:
(14) Cronicl-2


(delw 6655)
 





 1471ke This page with an English translation  


PENNOD 1
1:1 A Solomon mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a’r ARGLWYDD ei DDUW oedd gydag ef, ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr.

1:2 A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl.

1:3 Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.

1:4 Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem.

1:5 Hefyd, yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri, mab Hur, oedd yno o flaen pabell yr ARGLWYDD: a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi.

1:6 A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr ARGLWYDD, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.

1:7 Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti.

1:8 A dywedodd Solomon wrth DDUW, Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef.

1:9 Yn awr, O ARGLWYDD DDUW, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear.

1:10 Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?

1:11 A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt:

1:12 Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.

1:13 A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon, i Jerwsalem, oddi ger­bron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel.

1:14 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch, ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Jerwsalem gyda’r brenin.

1:15 A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir.

1:16 A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.

1:17 Canys deuent i fyny, a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian, a march am gant a hanner, ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt.

PENNOD 2

2:1 A Solomon a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD, a brenhindy iddo ei hun.

2:2 A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr, a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd, ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant.

2:3 A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost a Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddoi drigo ynddo, felly gwna a minnau.

2:4 Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr AR­GLWYDD fy Nuw, i’w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogldarth llysieuog ger ei fron ef, ac i’r gwastadol osodiad bara, a’r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr ARGLWYDD ein Duw ni.
Hyd byth y mae hyn ar Israel.

2:5 A’r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein Duw ni na’r holl dduwiau.

2:6 A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef?

2:7 Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda’r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd.

2:8 Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus; ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda’th weision dithau;

2:9 A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol.

2:10 Ac wele, i’th weision, i’r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.

2:11 A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a’i hanfonodd at Solomon, O gariad yr ARGLWYDD ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.

2:12 Dywedodd Hiram hefyd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i’r AR­GLWYDD, a brenhindy iddo ei hun.

2:13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o’r eiddo fy nhad Hiram:

2:14 Mab gwraig o ferched Dan, a’i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad.

2:15 Ac yn awr, y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i’w weision:

2:16 A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.

2:17 A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant.

2:18 Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar again mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith.

PENNOD 3

3:1 A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr ARGLWYDD i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

3:2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad.

3:3 A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ DDUW. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd.

3:4 A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur.

3:5 A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe a ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef.

3:6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim.

3:7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiald ar y parwydydd.

3:8 Ac efe a wnaethy cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent.

3:9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.

3:10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.

3:11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.

3:12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y ty; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall.

3:13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn.

3:14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny.

3:15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd.

3:16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau.

3:17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.

PENNOD 4

4:1 Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.

4:2 Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.

4:3 A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi am­gylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.

4:4 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.

4:5 A’i dewder oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili; a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.

4:6 Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo.

4:7 Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy.

4:8 Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

4:9 Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres.

4:10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.

4:11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon iDDUW:

4:12 Y ddwy golofn, a’r cnapiau, a’r coronau ar ben y ddwy golofn, a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau:

4:13 A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bom­granadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.

4:14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion;

4:15 Un môr, a deuddeg o ychen dano:

4:16 Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r cigweiniau, a’u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o bres gloyw.

4:17 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha.

4:18 Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.

4:19 A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ DDUW, a’r allor aur, a’r byrddau oedd a’r bara gosod arnynt,

4:20 A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;

4:21 Y blodau hefyd, a’r lampau, a’i gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith.

4:22 Y saltringau hefyd, .a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a’i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

PENNOD 5

5:1 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon iyr ARGLWYDD; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ DDUW, yr arian, a’r aur, a’r holl lestri.


5:2 Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.

5:3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis.

5:4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a’r Lefiaid a godasant yr arch.

5:5 A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a’r Lefiaid a’u dygasant hwy i fyny.

5:6 Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd.

5:7 A’r offeiriaid a ddygasant arch cyf­amod yr ARGLWYDD i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid.

5:8 A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion, oddi arnodd.

5:9 A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan.
Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn.

5:10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr ARGLWYDD gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft.

5:11 A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:

5:12 Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.

5:13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbolau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD;

5:14 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ DDUW.

PENNOD 6

6:1 Yna y llefarodd Solomon, Yr AR­GLWYDD a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch;

6:2 A minnau a adeiledaisyn drigfa i ti, a lle i’th breswylfod yn dragywydd.

6:3 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.

6:4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd,

6:5 Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel:

6:6 Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.

6:7 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.

6:8 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:

6:9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau, efe a adeilada y tŷ i’m henw i.

6:10 Am hynny yr ARGLWYDD a gwbl­haodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefar­odd yr ARGLWYDD, ac a adeiledaisi enw ARGLWYDD DDUW Israel.

6:11 Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a amododd efe a meibion Israel.

6:12 A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynull­eidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo:

6:13 Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd:

6:14 Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod â thrugaredd a’th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon:

6:15 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â’th enau, felly y cwblheaist â’th law, megis y mae y dydd hwn.

6:16 Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW Israel, cadw a’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.

6:17 Yn awr gan hynny, O ARGLWYDD DDUW Israel, poed gwir fyddoair a leferaist wrth dy was Dafydd.

6:18 Ai gwir yw, y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i?

6:19 Edrych gan hynny ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O ARGLWYDD fy Nuw, i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron:

6:20 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma ddydd a nos, tua’r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïowas di yn y fan hon.

6:21 Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a’th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o’r nefoedd; a phan glywech, maddau.

6:22 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:

6:23 Yna gwrando di o’r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i’r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.

6:24 A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn:

6:25 Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i’r tir a roddaist iddynt hwy, ac i’w tadau.

6:26 Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i’th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt:

6:27 Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.

6:28  Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo;

6:29 Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a’i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn:

6:30 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion;)

6:31 Fel y’th ofnont, gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear, yr hon a roddaist i’n tadau ni.

6:32 Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a’th law gadarn, a’th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn:

6:33 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, ac y’th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i.

6:34 Os a dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddiant arnat ti tua’r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a’r tŷ a adeil­edais i’th enw di:

6:35 Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

6:36  Os pechant i’th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i’w herbyn hwynt, a’u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos;

6:37 Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol;

6:38 Os dychwelant atat â’u holl galon, ac â’u holl enaid, yng ngwlad eu caethiw­ed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua’u gwlad a roddaist i’w tadau, a’r ddinas a ddetholaist, a’r tŷ a adeiledais i’th enw di:

6:39 Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a’u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i’th bobl a bechasant i’th erbyn.

6:40 Yn awr, O fy NUW, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando à’r weddi a wneir tua’r lle yma.

6:41 Ac yn awr cyfod, O ARGLWYDD DDUW, i’th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O ARGLWYDD DDUW, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni.

6:42 O ARGLWYDD DDUW, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.

PENNOD 7

7:1 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth; a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tŷ.

7:2 Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn iyr ARGLWYDD, oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasaiyr AR­GLWYDD.

7:3 A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr ARGLWYDD ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr ARGLWYDD, canys daionus yw efe, oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.

7:4 Yna y brenin a’r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr ARGLWYDD.

7:5 A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ DDUW.

7:6 A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a’r

offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.

7:7 A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr AR­GLWYDD: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaeth­ai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a’r bwyd-offrwm, a’r braster.

7:8 A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft.

7:9 Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a’r ŵyl saith niwrnod.

7:10 Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei pobl.

7:11 Fel hyn y gorffennodd Solomonyr ARGLWYDD, a thŷ y brenin: a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn eiei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus.

7:12 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a mi a ddewisais y fan hon i mi ynaberth.

7:13 Os caeaf fi y nefoedd, fel na byddo glaw, neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear, ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl;

7:14 Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachaf eu gwlad hwynt.

7:15 Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a’m clustiau yn ymwrando a’r weddi a wneir yn y fan hon.

7:16 Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol.

7:17 A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau:

7:18 Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di, megis yr amodais a Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel.

7:19 Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:

7:20 Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt, a’r tŷ a sanct­eiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg, a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb, ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

7:21 A’r tŷ yma, yr hwn sydd uchel, a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu: fel y dywedo, Paham y gwnaeth yr AR­GLWYDD fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ hwn?

7:22 Yna y dywedant, Am iddynt wrthod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft, ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt: am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy.

PENNOD 8

8:1 Ac ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomonyr ARGLWYDD, a’i dŷ ei hun,

8:2 Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno.

8:3 A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a’i gorchfygodd hi.

8:4 Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath.

8:5 Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau;

8:6 Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinas­oedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.

8:7 Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pherestaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel;

8:8 Ond o’u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Sol­omon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn.

8:9 Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef.

8:10 A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y pobl.

8:11 A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr ARGLWYDD ddyfod i mewn iddo.

8:12 Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth;

8:13 I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

8:14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw.

8:15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau.

8:16 A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr ARGLWYDD, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr ARGLWYDD.

8:17 Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom.

8:18 A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a’u dygasant i’r brenin Solomon.:

PENNOD 9

9:1 A phan glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

9:2 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a’r na fynegodd efe iddi hi.

9:3 A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe,

9:4 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad, a’i drulliadau ef, a’u gwisgoedd, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.

9:5 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoeth­ineb:

9:6 Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i.

9:7 Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.

9:8 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr ARGLWYDD dy DDUW: oherwydd cariad dy DDUW tuag at Israel, i’w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.

9:9 A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd bren­hines Seba i’r brenin Solomon.

9:10 Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr.

9:11 A’r brenin a wnaeth o’r coed algu­mim risiau iyr ARGLWYDD, ac iy brenin, a thelynau a nablau i’r cantorion: ac ni welsid eu bath o’r blaen yng ngwlad Jwda.

9:12 A’r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a’r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i’r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.

9:13 A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;

9:14 Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.

9:15 A’r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.

9:16 A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.

9:17 A’r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a’i gwisgodd ag aur pur.

9:18 A chwech o risiau oedd i’r orseddfa, a throedle o aur, ynglyn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau;

9:19 A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu.
Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas.

9:20 A holl llestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon.

9:21 Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram: unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.

9:22 A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

9:23 A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef.

9:24 A hwy a ddygasant bod un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

9:25 Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch; ac efe a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem.

9:26 Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft.

9:27 A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

9:28 Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft, ac o bob gwlad.

9:29 A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahia y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?

9:30 A Solomon a deyrnasodd yn Jerw­salem ar holl Israel ddeugain mlynedd.

9:31 A Solomon a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 10

10:1 A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin.

10:2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft.

10:3 Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Is­rael a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,

10:4 Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a’th wasanaethwn di.

10:5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith.

10:6 A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn?

10:7 A hwy a lefarasant wrtho, gan ddy­wedyd, Os byddi yn dda i’r bobl yma, a’u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth.

10:8 Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.

10:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni?

10:10 A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynydd­asent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad.

10:11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau.

10:12 Yna y daeth Jeroboam, a’r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd.

10:13 A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw: a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid;

10:14 Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf arni hi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a min­nau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau.

10:15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth DDUW, fel y cwblhai yr ARGLWYDD ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

10:16 A ^phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd. Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i’w pebyll, edrych yn awr ar dy dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i’w pebyll.

10:17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy.

10:18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.

10:19 Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.

PENNOD 11

11:1 A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o hollJwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.

11:2 Ond gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,

11:3 Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd,

11:4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i’wei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.

11:5 A Rehoboam a drigodd yn Jerw­salem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda.

11:6 Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,

11:7 A Bethsur, a Socho, ac Adulam,

11:8 A Gath, a Maresa, a Siff,

11:9 Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca,

11:10 A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.

11:11 Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin.

11:12 Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.

11:13 A’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau.

11:14 Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a’u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r ARGLWYDD.

11:15 Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd, ac i’r cythreuliaid, ac i’r lloi a wnaethai efe.

11:16 Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a ddaeth­ant i Jerwsalem, i aberthu i ARGLWYDD DDUW eu tadau.

11:17 Felly hwy a gadarnhasant frenhin­iaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.

11:18 A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse:

11:19 A hi a ymddug iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham.

11:20 Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddug iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith.

11:21 A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched.

11:22 A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin.

11:23 Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Ben­jamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.

PENNOD 12

12:1 Ac wedi i Rehoboam sicrhau y fren­hiniaeth, a’i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr ARGLWYDD, a holl Israel gydag ef.

12:2 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD,

12:3 A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o’r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a’r Ethiopiaid.

12:4 Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.

12:5 Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadewais chwi yn llaw Sisac.

12:6 Yna tywysogion Israel a’r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr ARGLWYDD.

12:7 A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ym­ostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.

12:8 Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd.

12:9 Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon.

12:10 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw dan law tywysogion gwŷr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.

12:11 A phan elai y brenin iyr AR­GLWYDD, gwŷr y gard a ddeuent ac a’u cyrchent hwy, ac a’u dygent drachefn i ystafell gwŷr y gard.

12:12 A phan ymostyngodd efe, llid yr ARGLWYDD a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriai ef yn hollol; ac yn Jwda hefyd yr oedd pob peth yn dda.

12:13 Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones.

12:14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, canys ni pharatodd efe ei galon i geisio yr ARGLWYDD.

12:15 Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Semaia y proffwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? A bu rhyfeloedd rhwng Reho­boam a Jeroboam yn wastadol.

12:16 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd; ac Abeia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 13

13:1 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda.

13:2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam.

13:3 Ac Abeia a gydiodd y rhyfel a llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol.

13:4 Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd, O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi;

13:5 Oni ddylech chwi wybod roddi o ARGLWYDD DDUW Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen?

13:6 Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd.

13:7 Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt.

13:8 Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr ARGLWYDD, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.

13:9 Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr AR­GLWYDD, meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau.

13:10 Ninnau, yr ARGLWYDD yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr ARGLWYDD yw meibion Aaron, a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl.

13:11 Ac y maent hwy yn llosgi i’r AR­GLWYDD boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogldarth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a’r canhwyllbren aur a’i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr ARGLWYDD ein Duw; ond chwi a’i gwrthodasoch ef.

13:12 Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn ARGLWYDD DDUW eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.

13:13 Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o’u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt.

13:14 A Jwda a edrychodd yn 61, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn 61; a hwy a waeddasant ar yr ARGLWYDD, a’r offeir­iaid a leisiasant mewn utgyrn.

13:15 A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda.

13:16 A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt.

13:17 Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig.

13:18 Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar AR­GLWYDD DDUW eu tadau.

13:19 Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a’i phentrefi, a Jesana a’i phentrefi, ac Effraim a’i phentrefi.

13:20 Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr AR­GLWYDD a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.

13:21 Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched.

13:22 A’r rhan arall o hanes Abeia, a’i ffyrdd ef, a’i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.

PENNOD 14

14:1 Felly Abeia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.

14:2 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW.

14:3 Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a’r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:

14:4 Ac a orchmynnodd i Jwda geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn.

14:5 Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinas­oedd Jwda yr uchelfeydd a’r delwau: a chafodd y frenhiniaeth lonydd o’i flaen ef.

14:6 Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny, oblegid yr ARGLWYDD a roddasai lonyddwch iddo.

14:7 Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o’n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr AR­GLWYDD ein Duw, ni a’i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant.

14:8 Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn, o Jwda tri chan mil, ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau, ac yn tynnu bwa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymus.

14:9 A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llu o fil o filoedd, ac â thri chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresa.

14:10 Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa.

14:11 Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein Duw; canys pwyso yr

ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O AR­GLWYDD, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn.

14:12 Felly yr ARGLWYDD a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Jwda; a’r Ethiopiaid a ffoesant.

14:13 Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar: a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau; canys drylliasid hwynt o flaen yr AR­GLWYDD, ac o flaen ei lu ef; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn.

14:14 A thrawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar; canys yr oedd dychryn yr ARGLWYDD arnynt hwy: a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd; canys anrhaith fawr oedd ynddynt.

14:15 Lluestai yr anifeiliaid hefyd a drawsant hwy, ac a gaethgludasant lawer o ddefaid a chamelod, ac a ddychwelasant i Jerwsalem.

PENNOD 15

15:1 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded.

15:2 Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR­GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.

15:3 Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir DDUW, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.

15:4 Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at ARGLWYDD DDUW Israel, a’i geisio ef, efe a geid ganddynt.

15:5 Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan, nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.

15:6 A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.

15:7 Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi.

15:8 A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr ARGLWYDD, yr hon oedd o flaen porth yr ARGLWYDD.

15:9 Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a’r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys. hwy a syrthiasant ato ef yn arni o Israel, pan welsant fod yr ARGLWYDD ei DDUW gydag ef.

15:10 Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed. flwyddyn o deyrnasiad Asa.

15:11 A hwy a aberthasant i’r ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, o’r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid.

15:12 A hwy a aethant dan gyfamod i geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a’u holl galon, ac a’u holl enaid:

15:13 A phwy bynnag ni cheisiai ARGLWYDD DDUW Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.

15:14 A hwy a dyngasant i’r ARGLWYDD â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.

15:15 A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys a’u holl galon y tyngasent, ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a’i cawsant ef: a’r ARGLWYDD a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

15:16 A’r brenin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a donodd ei delw hi, ac a’i drylliodd, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron.

15:17 Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

15:18 Ac efe a ddug i mewn iyr ARGLWYDD yr hyn a gysegrasai ei dad, a’r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.

15:19 Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

PENNOD 16

16:1 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.

16:2 Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd,

16:3 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

16:4 A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn.erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali.

16:5 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll.

16:6 Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.

16:7 Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwyd ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr ARGLWYDD dy DDUW, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di.

16:8 Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr ARGLWYDD, efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di.

16:9 Canys y mae llygaid yr ARGLWYDD yn edrych ar yr holl ddaear, i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan.

16:10 Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.

16:11 Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

16:12 Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad, nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr ARGLWYDD yn ei glefyd, ond y meddygon.

16:13 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad.

16:14 A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau. mawr iawn.

PENNOD 17

17:1 A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel.

17:2 Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef.

17:3 A’r ARGLWYDD a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd a Baalim:

17:4 Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.

17:5 Am hynny yr ARGLWYDD a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.

17:6 Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr ARGLWYDD: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda.

17:7 Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda.

17:8 A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid.

17:9 A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl.

17:10

 Ac arswyd yr ARGLWYDD oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat.

17:11 A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.

17:12 Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau.

17:13 A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyra nerthol yn Jerwsalem.

17:14 A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol.

17:15 A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil.

17:16 A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r ARGLWYDD; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol.

17:17 Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion a bwau a tharianau.

17:18 A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel.

17:19 Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.

PENNOD 18

18:1 Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.

18:2 Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i’r bobl oedd gydag ef, ac a’i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead.

18:3 Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddy­wedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a’m pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.

18:4 Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD.

18:5 Am hynny brenin Israel a gasglodd o’r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys Duw a’i dyry yn llaw y brenin.

18:6 Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

18:7 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r ARGLWYDD; ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni enoed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.

18:8 A brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.

18:9 A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria, a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.

18:10 A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddy­wedodd, Fel hyn y dywedodd yr AR­GLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.

18:11 A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-Gilead, a ffynna: canys yr AR­GLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin.

18:12 Air gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o’r rhai hynny, a dywed y gorau.

18:13 A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo fy Nuw, hynny a lefaraf fi.

18:14 A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.

18:15 A’r brenin a ddywedodd wrtho. Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD?

18:16 Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’wei hun mewn tangnefedd.

18:17 (A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt, na phroffwydai efe ddaioni i mi, ond drygioni?)

18:18 Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy.

18:19 A dywedodd yr ARGLWYDD, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-Gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn.

18:20 Yna ysbryd a aeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho. Pa fodd?

18:21 Dywedodd yntau, Myfi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. A dywedodd yr ARGLWYDD, Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly.

18:22 Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti..

18:23 Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd. Pa ffordd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?

18:24 A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.

18:25 A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;

18:26 A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.

18:27 Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn hedd­wch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl pobl.

18:28 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead.

18:29 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i’r rhyfel.

18:30 A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.

18:31 A phan welodd tywysogion y cerbyd­au Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a’r ARGLWYDD a’i cynorthwyodd ef, a Duw a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.

18:32 A phan welodd tywysogion y cerbyd­au nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.

18:33 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r gad; canys fe’m clwyfwyd i.

18:34 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid byd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.

PENNOD 19

19:1 A Jehosoffat brenin Jwda a ddychwelodd i’wei hun i Jerwsalem mewn heddwch.

19:2 A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casau yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti.

19:3 Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw.

19:4 A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at ARGLWYDD DDUW eu tadau.

19:5 Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;

19:6 Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr ARGLWYDD; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.

19:7 Yn awr gan hynny bydded ofn yr ARGLWYDD arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda’r ARGLWYDD ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.

19:8 A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr ARGLWYDD, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem.

19:9 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pel hyn y gwnewch mewn ofn yr ARGLWYDD, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith.

19:10 A pha amrafael bynnag a ddel atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaetliau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch.

19:11 Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r ARGLWYDD; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r ARGLWYDD fydd gyda’r daionus.

PENNOD 20

20:1 Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel.

20:2 Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi.

20:3 A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ymipryd trwy holl Jwda.

20:4 A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr ARGLWYDD: canys hwy a ddaethant holl ddinasoedd Jwda i geisio’r ARGLWYDD.

20:5 A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o flaen y cyntedd newydd,

20:6 Ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW ein tadau, onid wyt ti yn DDUW yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di?

20:7 Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bob! Israel, ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd?

20:8 A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw, gan ddywedyd,

20:9 Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni.

20:10 Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt:

20:11 Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu.

20:12 O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.

20:13 A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant.

20:14  Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr ARGLWYDD yng nghanol y gynulleidfa.

20:15 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.

20:16 Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel.

20:17 Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt a’r ARGLWYDD fydd gyda chwi.

20:18 A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr ARGLWYDD, gan addoli yr ARGLWYDD.

20:19 A’r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu ARGLWYDD DDUW Israel â llef uchel ddyrchafedig.

20:20 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddy­wedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch.

20:21 Ac efe a ymgynghorodd a’r bobl, ac a osododd gantorion i’r ARGLWYDD, a

rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr ARGLWYDD, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

20:22 Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gan a’r moliant, y rhoddodd yr ARGLWYDD gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd.

20:23 Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i’w difrodi, ac i’w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.

20:24 A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol.

20:25 A phan ddaeth Jehosaffat a’i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda’r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyf­aethu yr ysbail; canys mawr oedd.

20:26 Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr ARGLWYDD: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw.

20:27 Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr ARGLWYDD a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion.

20:28 A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, â thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr ARGLWYDD.

20:29 Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr ARGLWYDD yn erbyn gelyn­ion Israel.

20:30 Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei DDUW a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.

20:31 A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi.

20:32 Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

20:33 Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at DDUW eu tadau.

20:34 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel.

20:35  Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni.

20:36 Ac efe a unodd ag ef at wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber.

20:37 Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr ARGLWYDD a ddrylliodd dy waith di. A’r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.

PENNOD 21

21:1 A Jehosoffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21:2 Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Jehosaffat; Asareia, a Jehiel, a Sechareia, ac Asareia, a Michael, a Seffatia: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel.

21:3 A’u tad a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau, gyda dinasoedd caerog yn Jwda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram, canys efe oedd y cyntaf-anedig.

21:4 A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr a’r cleddyf, a rhai hefyd o dywysogion Israel.

21:5 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrn­asu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

21:6 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

21:7 Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe a Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i’w feibion byth.

21:8 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun.

21:9 A Jehoram a aeth allan, a’i dywys­ogion, a’i holl gerbydau gydag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau.

21:10 Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda tryd y dydd hwn: a gwrthry­felodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag AR­GLWYDD DDUW ei dadau.

21:11 Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda, ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio, ac a gymhellodd Jwda i hynny.

21:12 A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda;

21:13 Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel, a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio, fel y puteiniodd tŷ Abab, a lladd ohonot dy frodyr hefyd ody dad, y rhai oedd well na thydi:

21:14 Wele, yr ARGLWYDD a dery â phla mawr dy bobl di, a’th blant, a’th wragedd, a’th holl olud.

21:15 A thi a gei glefyd mawr, clefyd o’th ymysgaroedd, nes myned o’th goluddion allan gan y clefyd, o ddydd i ddydd.

21:16 Felly yr ARGLWYDD a gyffrodd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid, a’r Arabiaid, y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid:

21:17 A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a’i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin, a’i feibion hefyd a’i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o’i feibion.

21:18 Ac wedi hyn oll yr ARGLWYDD a’i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele.

21:19 A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgar­oedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A’i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau.

21:20 Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhin­oedd.

PENNOD 22

22:1 A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jeho­ram brenin Jwda a deyrnasodd.

22:2 Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam efoedd Athaleia merch Omri.

22:3 Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg.

22:4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef.

22:5 S Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-Gilead: a’r Syriaid a drawsant Joram.

22:6 Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion a’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe a Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe.

22:7 A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth DDUW, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr ARGLWYDD i dorri ymaith dyˆ Ahab.

22:8 A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a’u lladdodd hwynt.

22:9 Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr ARGLWYDD â’i holl galon. Felly nid oedd gan dy Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.

22:10  Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda.

22:11 Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef.

22:12 Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ DDUW chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

PENNOD 23

23:1 Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod.

23:2 A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem.

23:3 A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ DDUW: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr AR­GLWYDD am feibion Dafydd.

23:4 Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, y rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid, fydd yn borthorion i’r trothwyau;

23:5 A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr AR­GLWYDD.

23:6 Ac na ddeled neb iyr ARGLWYDD, ond yr offeiriaid, a’r gweinidogion o’r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr ARGLWYDD.

23:7 A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â’i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda’r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan.

23:8 A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.)

23:9 A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a’r tarianau, a’r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ DDUW.

23:10 Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â’i arf yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ, ynghylch yr allor a’r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.

23:11 Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r dystiolaeth, ac a’i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.

23:12  A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl iyr ARGLWYDD.

23:13 A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

23:14 A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o’r rhesau: a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.

23:15 A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch iy brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

23:16 A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r AR­GLWYDD.

23:17 Yna yr holl bobl a aethant iBaal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.

23:18 A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr ARGLWYDD, dan law yr offeiriaid

y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i offrymu poethoffrymau yr ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.

23:19 Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll.

23:20 Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered oyr ARGLWYDD: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf iy brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.

23:21 A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia a’r cleddyf.

PENNOD 24

24:1 Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.

24:2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad.

24:3 A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.

24:4 Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr ARGLWYDD.

24:5 Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid.

24:6 A’r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr ARGLWYDD, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth?

24:7 Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ DDUW; a holl gysegredig bethau tŷ yr ARGLWYDD a roesant hwy i Baalim.

24:8 Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD oddi allan.

24:9 A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r ARGLWYDD dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.

24:10 A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i’r gist, nes gorffen ohonynt.

24:11 A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a’i chymryd hi, a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer.

24:12 A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr ARGLWYDD; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr ARGLWYDD.

24:13 Felly y gweithwyr a weithiasant, a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethantDDUW yn ei drefn ei hun, ac a’i cadarnhasant ef.

24:14 A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr ARGLWYDD, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.

24:15 Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw.

24:16 A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at DDUW a’i dŷ.

24:17 Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.

24:18 A hwy a adawsant dy ARGLWYDD DDUW eu tadau, ac a wasanaethasant y

llwyni, a’r ddwau: a daeth digofeint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn.

24:19 Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr ARGLWYDD; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.

24:20 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr ARGLWYDD? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr ARGLWYDD, am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau.

24:21 A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD.

24:22 Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr ARGLWYDD, a gofynned.

24:23 Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.

24:24 Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a’r ARGLWYDD a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod ARGLWYDD DDUW eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas.

24:25 A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gyd-fwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.

24:26 A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.

24:27 Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd amo, a sylfaeniad tŷ DDUW, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd.
Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 25

25:1 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem.

25:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid â chalon berffaith.

25:3 A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef, efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef.

25:4 Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Ni bydd marw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun.

25:5 Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a’u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian.

25:6 Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian.

25:7 Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, O frenin, nac aed llu Israel gyda thi: canys nid yw yr ARGLWYDD gydag Israel, sef gyda holl feibion Effraim.

25:8 Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarnha i ryfel: ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan DDUW nerth i gynorthwyo, ac i gwympo.

25:9 Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr DUW, Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? A dywedodd gŵr DUW, y mae ar law yr ARGLWYDD roddi i ti lawer mwy na hynny.

25:10 Felly Amaseia a’u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i

fyned i’w mangre eu hun. A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i’w mangre eu hun mewn llid dicllon.

25:11 y Ac Amaseia a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd allan ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr halen, ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil.

25:12 Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw, ac a’u dygasant i ben y graig, ac a’u taflasant hwy o ben y graig, fel y drylliwyd hwynt oll.

25:13 A’r rhyfelwyr, y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda, o Samaria hyd Beth-horon, ac a drawsant ohonynt dair mil, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr.

25:14 Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid, efe a ddug dduwiau meibion Seir, ac a’u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogldarthodd iddynt.

25:15 Am hynny y llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddy­wedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di?

25:16 A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd. Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.

25:17 Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd. Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.

25:18 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn.

25:19 Dywedaist, Wele, trewaist yr Edom­iaid, a’th galon a’th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ, paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?

25:20 Ond ni wrandawai Amaseia; canys oddi wrth DDUW yr oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom.

25:21 Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon oedd yn Jwda.

25:22 A Jwda a drawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll.

25:23 A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas, fab Jehoahas brenin Jwda, yn Bethsemes, ac a’i dug ef i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw­salem, o berth Effraim hyd borth y gongl, pedwar can cufydd.

25:24 Ac efe a gymerth yr holl aur, a’r arian, a’r holl lestri a gafwyd yn nhŷ DDUW gydag Obed-edom, a thrysorau tŷ y brenin, a’r gwystlon hefyd, ac a ddychwelodd i Samaria.

25:25 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw, wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel, bymtheng mlynedd.

25:26 A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia, wele, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?

25:27 Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr ARGLWYDD, hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem, ac efe a ffodd i Lachis: ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno.

25:28 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda.

PENNOD 26

26:1 Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.

26:2 Efe a adeiladodd Eloth, ac a’i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau.

26:3 Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnas­odd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem.

26:4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef.

26:5 Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr ARGLWYDD, Duw a’i llwyddodd ef.

26:6 Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid.

26:7 A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a’r Mehuniaid.

26:8 A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.

26:9 Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a’u cadarnhaodd hwynt.

26:10 Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer, oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear.

26:11 Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin.

26:12 Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant.

26:13 A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn.

26:14 Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i’r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwau, a thaflau i daflu cerrig.

26:15 Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a’i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.

26:16 Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei DDUW: ac efe a aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.

26:17 Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr ARGLWYDD, yn feibion grymus:

26:18 A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r ARGLWYDD, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr ARGLWYDD DDUW.

26:19 Yna y llidiodd Usseia, a’r arogldarth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngwydd yr offeiriaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, gerllaw allor yr arogldarth.

26:20 Ac edrychodd Asareia yr arch-offeiriad a’r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i’r ARGLWYDD ei daro ef.

26:21 Ac Usseia y brenin a fu wahan­glwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neiiltuol, canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr ARGLWYDD: a Jotham ei fab ef oedd ary brenin, yn barnu pobl y wlad.

26:22 A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia, a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos.

26:23 Felly Usseia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe.
A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 27

27:1 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc.

27:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr ARGLWYDD. A’r bobl oedd eto yn ymlygru.

27:3 Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr ARGLWYDD, ac ar fur y twr yr adeilad­odd efe lawer.

27:4 Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau.

27:5 Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meib­ion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd.

27:6 Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratodd ei ffyrdd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW.

27:7 A’r rhan arall o hanes Jotham, a’i holl ryfeloedd ef, a’i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

27:8 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerw­salem.

27:9 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas .Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 28

28:1 Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ond ni wnaeth ele yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.

28:2 Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig.

28:3 Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac a losgodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

28:4 Efe a aberthodd hefyd, ac a arogl­darthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

28:5 Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef a lladdfa fawr.

28:6 Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod, hwynt oll yn feibion grymus: am wrthod ohonynt ARGLWYDD DDUW eu tadau.

28:7 A Sichri, gŵr grymus o Effraim, a laddodd Maaseia mab y brenin, ac Asricam llywodraethwr y tŷ, ac Eicana y nesaf at y brenin.

28:8 A meibion Israel a gaethgludasant o’u brodyr ddau can mil, yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt, ac a ddygasant yr ysbail i Samaria.

28:9 Ac yno yr oedd proffwyd i’r AR­GLWYDD, a’i enw Oded; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, oherwydd digofaint ARGLWYDD DDUW eich tadau yn erbyn Jwda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi, a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd.

28:10 Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem yn gaethweision, ac yn gaethforynion i chwi: onid oes gyda chwi, ie, gyda chwi, bechodau yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw?

28:11 Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi, a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o’ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr ARGLWYDD arnoch chwi.

28:12 Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim, Asareia mab Johanan, Berecheia mab Mesilemoth, a Jehisceia mab Salum, ac Amasa mab Hadlai, a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o’r filwriaeth,

28:13 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni ddygwch y gaethglud yma: canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr ARGLWYDD, yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel.

28:14 Felly y llu a adawodd y gaethglud a’r anrhaith o flaen y tywysogion, a’r holl gynulleidfa.

28:15 A’r gwŷr, y rhai a enwyd wrth eu henwau, a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt a’r ysbail, a dilladasant hwynt, a rhoddasant iddynt esgidiau, ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed; eneiniasant hwynt hefyd, a dygasant ar asynnod bob un llesg, ie, dygasant hwynt i Jericho, dinas y palmwydd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria.

28:16 Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef.

28:17 A’r Edomiaid a ddaethent eto, ac a drawsent Jwda, ac a gaethgludasent gaethglud.

28:18 Y Philistiaid hefyd a ruthrasent a ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a’i phentrefi, Timna hefyd a’i phentrefi, a Gimso a’i phentrefi; ac a drigasant yno.

28:19 Canys yr ARGLWYDD a ddarostyngodd Jwda, o achos Ahas brenin Israel: oblegid efe a noethodd Jwda, gan droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr.

28:20 A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef, ac a gyfyngodd arno ef, ac nis cynorthwyodd ef.

28:21 Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac oy brenin, a chan y tywysogion, a’i rhoddi i frenin Asyria; eto nis cynorthwyodd efe ef.

28:22 A’r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD: hwn yw y brenin Ahas.

28:23 Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a’i trawsent ef; ac efe a ddywedodd. Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y’m cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd.

28:24 Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ DDUW, ac a ddarniodd lestri tŷ DDUW, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem.

28:25 Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr, ac a ddicllonodd AR­GLWYDD DDUW ei dadau.

28:26 A’r rhan arall o’i hanes ef, a’i holl ffyrdd, cyntaf a diwethaf, wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

28:27 Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas ya Jerwsalem, ond ni ddygasant hwy efi feddrod brenhinoedd Israel.
A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 29

29:1 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia.

29:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad.

29:3 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a’u cyweiriodd hwynt.

29:4 Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a’r Lefiaid, ac a’u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain,

29:5 Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dy ARGLWYDD DDUW eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o’r lle sanctaidd.

29:6 Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ac a’i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr ARGLWYDD, ac a droesant eu gwarrau.

29:7 Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogldarth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i DDUW Israel.

29:8 Am hynny digofaint yr ARGLWYDD a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â’ch llygaid.

29:9 Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy’r cleddyf, ein meibion hefyd, a’n merched, a’n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.

29:10 Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag ARGLWYDD DDUW Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.

29:11 Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr ARGLWYDD a’ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.

29:12 Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Asareia, o feibion y Cohathiaid: ac o feibion Merari, Cis mab Abdi, ac Asareia mab Jehaleleel: ac o’r Gersoniaid; Joa mab Simma, ac Eden mab Joa:

29:13 Ac o feibion Elisaffan; Simri, a Jeiel; ac o feibion Asaff; Sechareia, a Mataneia:

29:14 Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn, Semaia, ac Ussiel.

29:15 A hwy a gynullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin, trwy eiriau yr AR­GLWYDD, i lanhau tŷ yr ARGLWYDD.

29:16 A’r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr ARGLWYDD i’w lanhau ef, ac a ddyg­asant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr ARGLWYDD, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.
A’r Lefiaid a’i cymerasant, i’w ddwyn ymaith allan i afon Cidron.

29:17 Ac yn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o’r mis y daethant i borth yr ARGLWYDD: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr ARGLWYDD, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o’r mis cyntaf y gorffenasant.

29:18 Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr ARGLWYDD, ac allor y poethoffrwm, a’i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a’i holl lestri.

29:19 A’r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr ARGLWYDD.

29:20 Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD.

29:21 A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr ARGLWYDD.

29:22 Felly hwy a laddasant y bustych, a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a’i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.

29:23 A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a’r gynulleidfa, ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy.

29:24 A’r offeiriaid a’u lladdasant hwy, ac a wnaethant gymod ar yr allor â’u gwaed hwynt, i wneuthur cymod dros holl Israel: canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a’r pech-aberth.

29:25 Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr ARGLWYDD) trwy law ei broffwydi ef.

29:26 A’r Lefiaid a safasant ag offer Da­fydd, a’r offeiriaid â’r utgyrn.

29:27 A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a’r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr ARGLWYDD, â’r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.

29:28 A’r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a’r cantorion yn canu, a’r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.

29:29 A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a’r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.

29:30 A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr ARGLWYDD, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant a llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.

29:31 A Heseceia a atebodd ac a ddywed­odd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r ARGLWYDD; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr ARGLWYDD. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.

29:32 A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD.

29:33 A’r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.

29:34 Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a’u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i’r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgys­egru na’r offeiriaid.

29:35 Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a’r ddiod-offrwm i’r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.

29:36 A Heseceia a lawenychodd, a’r holl bobl, oherwydd paratoi o DDUW y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.

PENNOD 30

30:1 A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda, ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse, i ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD i Jerwsalem i gynnal Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel.

30:2 A’r brenin a ymgynghorodd, a’i dywysogion, a’r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis.

30:3 Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon, ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem.

30:4 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin, ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa.

30:5 A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel, o Beerseba hyd Dan, am ddy­fod i gynnal y Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel yn Jerwsalem: canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig.

30:6 Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abra­ham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.

30:7 Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel .eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn ARGLWYDD DDUW eu tadau; am hynny efe a’u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi.

30:8 Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i’r ARGLWYDD, a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr AR­GLWYDD eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.

30:9 Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwel­wch ato ef.

30:10 Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse,

hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a’u gwatwarasant hwy.

30:11 Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse., ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.

30:12 Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

30:13 A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn.

30:14 A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogldarth, a thaflasant hwynt i afon Cidron.

30:15 Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis: yr offeir­iaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr ARGLWYDD.

30:16 A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.

30:17 Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa:y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i’w sancteiddio i’r ARGLWYDD.

30:18 Oherwydd llawer o’r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrif­enedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD daionus a faddeuo i bob un

30:19 A baratodd ei galon i geisio Duw, gef ARGLWYDD DDUW ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr.

30:20 A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y pobl.

30:21 A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr ARGLWYDD o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i’r ARGLWYDD.

30:22 A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.

30:23 A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd.

30:24 Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.

30:25 A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a’r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda.

30:26 Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem.

30:27 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl, a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a’u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i’w breswylfa sanctaidd ef, i’r nefoedd.

PENNOD 31

31:1 Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.

31:2 A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm, ac i’r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.

31:3 A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a’r newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.

31:4 Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i’r offeiriaid a’r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr ARGLWYDD.

31:5 A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a’r olew, a’r mêl, ac o holl gnwd y maes, a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.

31:6 A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i’r ARGLWYDD eu Duw, ac a’u gosodasant bob yn bentwr.

31:7 Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.

31:8 A phan ddaeth Heseceia a’r tywys­ogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr ARGLWYDD, a’i bobl Israel.

31:9 A Heseceia a ymofynnodd â’r offeir­iaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.

31:10 Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dy Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr ARGLWYDD, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr ARGLWYDD a fendithiodd ei bobl; a’r gweddill yw yr amldra hyn.

31:11 A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a’u paratoesant,

31:12 Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a’r degwm, a’r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail.

31:13 Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ DDUW.

31:14 A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua’r dwyrain, oedd ar y petha a offrymid yn ewyllysgar i DDUW, i rannu offrymau yr ARGLWYDD, a’r pethau sancteiddiolaf.

31:15 Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan:

31:16 Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a’r oedd yn dyfod iyr ARGLWYDD, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau;

31:17 I genedl yr offeiriaid wrtheu tadau, ac i’r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau;

31:18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a’u meibion, a’u merched, trwy’r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd:

31:19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.

31:20 Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a’r gwirionedd, gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW.

31:21 Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd .efe yng ngweinidogaeth tŷ DDUW, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei DDUW, efe a’i gwnaeth a’i holl galon, ac a ffynnodd.

PENNOD 32

32:1 Wedi y pethau hyn, a’u sicrhau, y daeth Senacherib brenin Asyria, ac a ddaeth i mewn i Jwda; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun.

32:2 A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib, a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem,

32:3 Efe a ymgynghorodd â’i dywysogion, ac â’i gedyrn, am argae dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o’r ddinas. A hwy a’i cynorthwyasant ef.

32:4 Felly pobl lawer a ymgasglasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a’r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad, gan ddywedyd, Paham y daw brenhinoedd Asyria, ac y cânt ddyfroedd lawer?

32:5 Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau.

32:6 Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd,

32:7 Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef.

32:8 Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr ARGLWYDD ein Duw sydd gyda ni, i’n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.

32:9 Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a’i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd,

32:10 Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria, Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem?

32:11 Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i’ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr AR­GLWYDD ein Duw a’n gwared ni o law brenin Asyria.

32:12 Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef, a’i allorau, ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem, gan ddywedyd, O flaen un allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch?

32:13 Oni wyddoch chwi beth a wneuthum, mi a’m tadau, i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o’m llaw i?

32:14 Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn, y rhai a ddarfu i’m tadau eu difetha, a allai waredu ei bobl o’m llaw i, fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o’m llaw i?

32:15 Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef: canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o’m llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o’m llaw i?

32:16 A’i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr ARGLWYDD DDUW, ac yn erbyn Heseceia ei was ef.

32:17 Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu ARGLWYDD DDUW Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o’m llaw i, felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o’m llaw i.

32:18 Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur, i’w hofni hwynt, ac i’w brawychu; fel yr enillent hwy y ddinas.

32:19 A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn.

32:20 Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i’r nefoedd.

32:21 A’r ARGLWYDD a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun. A phan ddaeth efe iei dduw, y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf.

32:22 Felly y gwaredodd yr ARGLWYDD Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pawb eraill, ac a’u cadwodd hwynt oddi amgylch.

32:23 A llawer a ddygasant roddion i’r ARGLWYDD i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd, ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.

32:24 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo.

32:25 Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem.

32:26 Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrig­olion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr ARGLWYDD arnynt yn nyddiau Heseceia.

32:27 Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn: ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerthfawr, o beraroglau hefyd, ac o darianau, ac o bob llestri hyfryd;

32:28 A selerau i gnwd yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a phresebau i bob math ar anifail, a chorlannau i’r diadellau.

32:29 Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd, a chyfoeth o ddefaid a gwartheg lawer: canys Duw a roddasai iddo ef gyfoeth mawr iawn.

32:30 A’r Heseceia yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon, ac a’u dug hwynt yn union oddi tanodd, tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd. A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith.

32:31 Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon, y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad, Duw a’i gadawodd ef, i’w brofi ef, i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon.

32:32 A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i garedigrwydd ef, wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos, ac yn llyfr bren­hinoedd Jwda ac Israel.

32:33 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth.
A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PENNOD 3333:1 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem:

33:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

33:3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

33:4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd.

33:5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.

33:6 Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

33:7 Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ DDUW, am yr hwn y dywedasai DUW wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.

33:8 Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i’ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, trwy law Moses.

33:9 Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.

33:10 Er llefaru o’r ARGLWYDD wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.

33:11 Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.

33:12 A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,

33:13 Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a’i dug ef drachefn i Jerw­salem i’w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW.

33:14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du’r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a’i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.

33:15 Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a’r ddelw, allan o dŷ yr ARGLWYDD, a’r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr ARGLWYDD, ac yn Jerwsalem, ac a’u taflodd allan o’r ddinas.

33:16 Ac efe a gyweiriodd allor yr AR­GLWYDD, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant, dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu ARGLWYDD DDUW Israel.

33:17 Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i’r ARGLWYDD eu Duw yn. unig.

33:18 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’i weddi ef at ei DDUW, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw ARGLWYDD DDUW Israel, wele hwynt ymhiith geiriau brenhinoedd Israel.

33:19 Ei weddi ef hefyd, a’r modd y cymododd Duw ag ef, a’i holl bechod ef, a’i gamwedd, a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.

33:20 Felly Manasse a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef.yn eiei hun, ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

33:21 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerw­salem.

33:22 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei. dad ef, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

33:23 Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr ymostyngasai Man­asse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.

33:24 A’i weision ef a fradfwriadasant i’w erbyn ef, ac a’i lladdasant ef yn eiei him.

33:25 Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

PENNOD 34

34:1 Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

34:2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

34:3 Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio DUW Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchel­feydd, a’r llwyni, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau .toddedig.

34:4 Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.

34:5 Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem.

34:6 Felly y gwnaeth.efe yn ninasoedd Manasse, ac Effraim, a Simeon, a hyd Nafftali, â’u ceibiau oddi amgylch.

34:7 A phan ddinistriasai efe yr allorau a’r llwyni, a dryllio ohono y delwau cerfiedig, gan eu malurio yn llwch, a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel, efe a ddychwelodd i Jerwsalem.

34:8 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, wedi glanhau y wlad, a’r tŷ, efe a anfonodd Saffan mab Asaleia, a Maaseia tywysog y ddinas, a Joa mab Joahas y cofiadur, i gyweirio tŷ yr AR­GLWYDD ei DDUW.

34:9 A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ DDUW, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem.

34:10 A hwy a’i rhoddasant yn llaw y gweithwyr, y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr ARGLWYDD: hwythau a’i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith, y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ.

34:11 Rhoddasant hefyd i’r seiri ac i’r adeiladwyr, i brynu cerrig nadd, a choed tuag at y cysylltiadau, ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda.

34:12 A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath, ac Obadeia, y Lefiaid, o feibion Merari; a Sechareia, a Mesulam, o feibion y Cohathiaid, i’w hannog: ac o’r Lefiaid, pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd.

34:13 Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr, ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith: ac o’r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion, a swyddogion, a phorthorion.

34:14  A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr ARGLWYDD, Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, yr hwn a roddasid trwy law Moses.

34:15 A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr ARGLWYDD. A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan:

34:16 A Saffan a ddug y llyfr at y brenin, ac a ddug air drachefn i’r brenin, gan ddywedyd, Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn ei wneuthur.

34:17 Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr, ac yn llaw y gweithwyr.

34:18 Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin.

34:19 A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

34:20 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd,

34:21 Ewch, ymofynnwch â’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr ARGLWYDD, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

34:22 Yna yr aeth Hilceia, a’r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.

34:23 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi,

34:24 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda:

34:25 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

34:26 Ond am frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn a’r ARGLWYDD, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel am y geiriau a glywaist;

34:27 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glyw­aist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr ARGLWYDD.

34:28 Wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

34:29 Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem.

34:30 A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr AR­GLWYDD, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid, a’r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.

34:31 A’r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr ARGLWYDD, ar rodio ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddefodau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw.

34:32 Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau.

34:33 Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr AR­GLWYDD eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl ARGLWYDD DDUW eu tadau.

PENNOD 35

35:1 A Joseia a gynhaliodd Basg i’r AR­GLWYDD yn Jerwsalem: a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf.

35:2 Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau, ac a’u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD;

35:3 Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i’r ARGLWYDD, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a addladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr ARGLWYDD eich Duw, a’i bobl Israel,

35:4 Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau, yn ôl eich dosbarthadau, yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel, ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef.

35:5 A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl, ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid.

35:6 Felly Heddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Moses.

35:7 A Joseia a roddodd i’r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tuag at y Pasg-aberthau, sef i bawb a’r a gafwyd, hyd rifedi deng mil ar hugain, a thair mil o eidionau; hyn oedd o gyfoeth y brenin.

35:8 A’i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i’r bobl, i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid: Hilceia, a Sechareia, a Jehiel, blaenoriaid tŷ DDUW, a roddasant i’r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau, ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau.

35:9 Cononeia hefyd, a Semaia, a Neth-aneel, ei frodyr, a Hasabeia, a Jehiel, a Josabad, tywysogion y Lefiaid, a rodd­asant i’r Lefiaid yn Basg-ebyrth, bum mil o ddefaid, a phum cant o eidionau.

35:10 Felly y paratowyd y gwasanaeth; a’r offeiriaid a safasant yn eu lle, a’r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.

35:11 A hwy a laddasant y Pasg; a’r offeir­iaid a daenellasant y gwaed o’u llaw hwynt, a’r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt.

35:12 A chymerasant ymaith y poeth-offrymau, i’w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl, i offrymu i’r ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionau.

35:13 A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod: a’r cysegredig bethau

eraill a ferwasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a’u rhanasant ar redeg i’r holl pobl.

35:14 Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu’r poethoffrymau a’r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i’r offeiriaid meibion Aaron.

35:15 A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa, yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaff, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; a’r porthorion ym mhob porth; ni chaent hwy ymado o’u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy.

35:16 Felly y paratowyd holl wasanaeth yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, i gynnal y Pasg, ac i offrymu poethoffrym­au ar allor yr ARGLWYDD, yn ôl gorchy­myn y brenin Joseia.

35:17 A meibion Israel y rhai a gafwyd, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, saith niwrnod.

35:18 Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i’r Pasg a gynhaliodd Joseia, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a holl Jwda, a’r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerw­salem.

35:19 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn.

35:20 Wedi hyn oll, pan baratoesai Joseia y tŷ, Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates: a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef.

35:21 Yntau a anfonodd genhadau ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a Duw a archodd i mi frysio: paid di â DUW, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi.

35:22 Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido.

35:23 A’r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost.

35:24 Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd, ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau.
A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.

35:25 Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a’r holl gantorion a’r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a’i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau.

35:26 A’r rhan arall o hanes Joseia a’i didaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD,

35:27 A’i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

PENNOD 36

36:1 Yna pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem.

36:2 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

36:3 A brenin yr Aifft a’i diswyddodd ef yn Jerwsalem; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian, a thalent o aur.

36:4 A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, ac a drodd ei enw ef yn Joacim. A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef, ac a’i dug i’r Aifft.

36:5 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW.

36:6 Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i’w ddwyn i Babilon.

36:7 Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr ARGLWYDD i Babilon, ac a’u rhoddedd hwynt yn ei deml o fewn Babilon,

36:8 A’r rhan arall o hanes Joacim, a’i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a’r hyn a gafwyd arno ef, wele hwynt yn ysgrif­enedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

36:9 Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu, a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

36:10 Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Pabilon, gyda llestri dymunol tŷ yr AR­GLWYDD: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

36:11 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

36:12 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr ARGLWYDD.

36:13 Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Neluchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i DDUW: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at ARGLWYDD DDUW Israel.

36:14 Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.

36:15 Am hynny ARGLWYDD DDUW eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod.

36:16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.

36:17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na ŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.

36:18 Holl lestri tŷ DDUW hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau y brenin a’i dywysogion; y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon.

36:19 A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant.

36:20 A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid:

36:21 I gyflawni gair yr ARGLWYDD trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.

36:22 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr ARGLWYDD a gyffrodd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl fren hiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd,

36:23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr ARGLWYDD ei DDUW fyddo gydag ef, ac eled i fyny.





_______________________________________

DIWEDD 

 

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.  2006-09-04

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA



 


Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats