1340k Gwefan
Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620)
yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text
electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_lefiticus_03_2205k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia 0860k y llyfr ymwelwyr |
|
1341ke This page
with an English translation
PENNOD
1
1:1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;
1:2 I wybod doethineb ac addysg, i
ddeall geiriau synnwyr;
1:3 I gymryd athrawiaeth deall,
cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;
1:4 I roi callineb i’r angall, ac
i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.
1:5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega
addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
1:6 I ddeall dihareb, a’i deongl;
geiriau y doethion, a’u damhegion.
1:7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad
gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
1:8 Fy mab, gwrando addysg dy dad,
ac nac ymado â chyfraith dy fam:
1:9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy
i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
1:11 Os dywedant, Tyred gyda ni,
cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
1:12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd;
ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew:
1:13 Nyni a gawn bob cyfoeth
gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:
1:14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg;
bydded un pwrs i ni i gyd:
1:15 Fy mab, na rodia yn y ffordd
gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.
1:16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant
i dywallt gwaed.
1:18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y
maent yn llechu.
1:24 Yn gymaint ag i mi eich
gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
1:25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor
i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd:
1:26 Minnau hefyd a chwarddaf yn
eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;
1:27 Pan ddêl amoch yr hyn yr ydych yn
ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod
arnoch wasgfa a chaledi:
1:28 Yna y galwant arnaf, ond ni
wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:
1:29 Canys cas fu ganddynt
wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:
1:30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i;
dirmygasant fy holl gerydd.
PENNOD 2
2:1 Fy mab, os derbynni di fy
ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
2:2 Fel y parech i’th glust wrando
ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;
2:3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth,
os cyfodi dy lef am ddeall;
2:4 Os ceisi hi fel arian, os chwili
amdani fel am drysorau cuddiedig;
2:5 Yna y cei ddeall ofn yr
ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.
2:6 Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi
doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.
2:7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai
uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodia yn uniawn.
2:8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn,
ac yn cadw ffordd ei saint.
2:9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder,
a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus
2:10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th
galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;
2:11 Yna cyngor a’th gynnal, a
synnwyr a’th geidw:
2:12 I’th achub oddi wrth y ffordd
ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;
2:13 Y rhai a ymadawant â llwybrau
uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;
2:14 Y rhai a ymlawenychant i
wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;
2:15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn
geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:
2:16 I’th wared oddi wrth y fenyw
estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;
2:17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr
ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.
PENNOD 3
3:1 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith
dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:
3:2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd
bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.
3:3 Na ad i drugaredd a gwirionedd
ymadael â thi : clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
3:4 Felly y cei di ras a deall da
gerbron DUW a dynion.
3:5 Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th
holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun.
3:6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef,
ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
3:7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy
hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.
3:8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail,
a mêr i’th esgyrn.
3:9 Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th
gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:
3:30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
3:31 Na chenfigenna wrth ŵr
traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef.
3:32 Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y
cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
PENNOD 4
4:1 Gwrandewch, blant, addysg tad,
ac erglywch i ddysgu deall.
4:2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i
chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.
4:3 Canys yr oeddwn yn fab i’m tad,
yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.
4:4 Efe a’m dysgai, ac a ddywedai
wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.
4:5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na
ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.
4:6 Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw:
câr hi, a hi a’th wared di.
4:7 Pennaf peth yw doethineb: cais
ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.
4:8 Dyrchafa di hi, a hithau a’th
ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.
4:9 Hi a rydd ychwaneg o ras i’th
ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.
4:15 Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.
4:16 Canys ni chysgant nes gwneuthur
drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddyntn gwympo rhyw ddyn.
PENNOD 5
5:1 Fy mab, gwrando ar fy noethineb,
a gostwng dy glust at fy neall:
5:2 Fel y gellych ystyried pwyll,
a’th wefusau gadw gwybodaeth.
5:3 Canys gwefusau y ddieithr a
ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew:
5:4 Ond ei diwedd hi a fydd chwerw
fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.
5:5 Ei thraed hi a ddisgynnant i
angau; a’i cherddediad a sang uffern.
5:6 Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd,
y symud ei chamre hi, heb wybod i ti.
5:7 Yr awr hon gan hynny, O blant,
gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau.
5:8 Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi
hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi:
5:9 Rhag i ti toddi dy harddwch i
eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon:
5:10 Rhag llenwi yr estron â’th
gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr;
5:11 Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi
i’th gnawd a’th gorff gurio,
5:12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i
addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!
PENNOD 6
6:1 Y mab, os mechnïaist dros dy
gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr,
6:2 Ti a faglwyd â geiriau dy enau,
ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.
6:3 Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a
gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac
ymbil â’th gymydog.
6:4 Na ddyro gwsg i’th lygaid, na
hun i’th amrantau.
6:5 Gwared dy hun fel yr iwrch o law
yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.
6:6 Cerdda at y morgrugyn, tydi
ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth:
6:7 Nid oes ganddo neb i’w arwain,
i’w lywodraethu, nac i’w feistroli;
6:8 Ac er hynny y mae efe yn paratoi
ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf.
6:9 Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa
bryd y cyfodi o’th gwsg?
PENNOD 7
7:1 Fy mab, cadw fy ngeiriau, a
chuddia fy ngorchmynion gyda thi.
7:2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd
fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad.
7:3 Rhwym hwynt am dy fysedd,
ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.
7:4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer
wyt ti; galw ddeall yn gares:
7:5 Fel y’th gadwont oddi wrth y
wraig ddieithr, a rhag y fenyw a’r ymadrodd gwenieithus.
7:6 Canys a mi yn ffenestr fy
nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,
7:7 A mi a welais ymysg y ffyliaid,
ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,
7:8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw
ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi.
7:9 Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan
oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:
7:11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei
thraed nid arhoant yn ei thŷ:
7:12 Weithiau
yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)
7:13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i
cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a
ddywedodd wrtho,
7:14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd;
heddiw y cywirais fy adduned:
7:15 Ac am hynny y deuthum allan i
gyfarfod â thi, i chwiho am dy wyneb; a
chefais afael arnat.
7:16 Mi a drwsiais fy ngwely â
llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.
7:22 Efe a’i canlynodd hi ar frys,
fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi:
7:23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu
ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
7:24 Yn awr gan hynny, fy meibion,
gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.
7:25 Na thuedded dy galon at ei
ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.
PENNOD 8
8:1 Onid yw
doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?
8:2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y
ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.
8:3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref,
yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:
8:4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi
yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.
8:5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr
angall, byddwch o galon ddeallus.
8:6 Gwrandewch: canys myfi a
draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.
8:7 Canys fy ngenau a draetha
wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.
8:8 Holl eiriau fy ngenau ydynt
gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.
8:9 Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb
a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth.
8:27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr
oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:
8:28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau
uwchbetn a phan nerthodd efe ffynhon-nau y dyfnder:
8:29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r
môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y
ddaear:
8:30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis
un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn yn
ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;
8:31 Ac yn llawenychu yng
nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
PENNOD 9
9:1 Doethineb a adeiladodd ei
thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.
9:2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi
a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.
9:3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y
mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:
9:4 Pwy bynnag sydd annichellgar,
tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,
9:5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac
yfwch o’r gwin a gymysgais.
9:6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a
byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.
9:7 Yr hwn a geryddo watwarwr, a
gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.
9:8 Na cherydda watwarwr, rhag iddo
dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di.
9:9 Dyro addysg i’r doeth, ac efe
fydd doethach: dysg y cyfiwn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.
9:13 Gwraig ffôl a fydd siaradus;
angall yw, ac ni ŵyr ddim:
9:14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei
thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,
9:15 I alw ar y neb a fyddo yn myned
heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:
9:16 Pwy bynnag sydd ehud, tröed
yma: a phwy byrmag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,
9:17 Dyfroedd lladrad sydd felys, a
bara cudd sydd beraidd.
PENNOD 10
10:1 Diarhebion Solomon. Mab doeth a
wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.
10:2 Ni thycia trysorau drygioni:
ond cyfiawnder a wared rhag angau.
10:3 Ni edy yr ARGLWYDD i enaid y
cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.
10:4 Y neb a weithio â llaw
dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.
10:5 Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl
amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.
10:6 Bendithion
fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
10:7 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd
fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.
10:8 Y galon ddoeth a dderbyn
orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp
10:9 Y neb a rodio yn uniawn, a
rodia yn ddiogel: ond y neb a gam-dry ei ffyrdd, a fydd hynod.
10:10 Y neb a amneidio â’i lygaid, a
bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp.
10:11 Ffynnon bywyd yw genau y
cyfiawn, ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.
10:15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas
ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu
tlodi.
10:16 Gwaith y cyfiawn a dynn at
fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.
10:17 Ar y ffordd i fywyd y mae y
neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.
10:20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian
detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.
10:22 Bendith yr ARGLWYDD a
gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.
10:24 Y peth a ofno y drygionus, a
ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, DUW a’i rhydd.
10:25 Fel y mae y corwynt yn myned
heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth
10:26 Megis finegr i’r ddannedd , a
mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb ai gyrrant.
10:30 Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.
10:31 Genau y cyfiawn a ddwg allan
ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith.
PENNOD 11
11:1 Cloriannau anghywir sydd
ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.
11:2 Pan ddêl balchder, fe ddaw
gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb.
11:3 Perffeithrwydd yr uniawn a’u
tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt.
11:4 Ni thycia cyfoeth yn nydd
digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
11:5 Cyfiawnder y perffaith a’i
hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.
11:6 Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared
hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.
11:7 Pan fyddo marw dyn drygionus,
fe a ddarfu am ei obaith ef : a gobaith y trawrs a gyfrgollir.
11:8 Y cyfiawn a waredir o
gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef.
11:9 Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei
gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.
11:11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y
dinistrir hi.
11:12 Y neb sydd ddisynnwyr a
ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.
11:13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a
ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.
11:14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a
syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.
11:27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio
ddrwg, iddo ei hun y daw.
PENNOD 12
12:1 Y neb a garo addysg, a gâr wybodaeth:
ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.
12:2 Gŵr da a gaiff ffafr gan
yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.
12:3 Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni:
ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.
12:4 Gwraig rymus sydd goron i’w
gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.
12:5 Meddyliau y cyfiawn sydd
uniawn: a. chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.
12:6 Geiriau y drygionus yw cynllwyn
am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt.
12:7 Difethir y drygionus, fel na byddont
hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.
12:8 Yn ôl ei ddeall y canmolir
gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.
12:9 Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo
ei.hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac
sydd
12:11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr,
disynnwyr yw.
12:12 Y drygionus sydd yn deisyf
rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.
12:13 Trwy drosedd ei wefusau y
meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.
12:14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir
gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.
12:15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn
ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.
12:16 Mewn un dydd y gwybyddir
dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.
12:17 Y neb a ddywedo y gwir, a
ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.
12:24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.
PENNOD 13
13:1 Mab doeth a wrendy ar
athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.
13:2 Gŵr a fwynha ddaioni o
ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.
13:3 Y neb a geidw ei enau, a geidw
ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.
13:4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni
chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.
13:5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond
y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.
13:6 Cyfiawnder a geidw y perffaith
yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.
13:7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn
gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.
13:8 Iawn am einioes gŵr yw ei
dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.
13:9 Goleuni y cyfiawn a lawenha:
ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.
PENNOD 14
14:1 Gwraig ddoeth a adeilada ei
thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo.
14:2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei
uniondcr, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn
ei ddirmygu ef.
14:3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen
balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt.
14:4 Lle nid oes ychen, glân yw y
preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.
14:5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd;
ond gau dyst a draetha gelwyddau.
14:6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb,
ac
14:7 Dos ymaith oddi wrth ŵr
ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.
14:8 Doethineb y call yw deall ei
ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.
14:9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn
camwedd; ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.
14:17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.
14:28 Mewn amlder y bobl y rnae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y
dinistrir y tywysog.
14:29 Y diog i ddigofaint sydd yn
llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.
PENNOD 15
15:1 Ateb arafaidd a ddetry lid: ond
gair garw a gyffry ddigofaint.
15:2 Tafod y synhwyrol a draetha
wybodaeth yn dda; ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.
15:3 Ym mhob lle y y mae llygaid yr
ARGLWYDD, yn canfod y drygionus a’r daionus.
15:4 Pren y bywyd yw tafod iach: ond
trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.
15:5 Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei
dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.
15:6 Yn nhŷ y cyfiawn y bydd
mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.
15:7 Gwefusau y doethion a wasgarant
wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.
15:8 Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd
gan yr ARGLWYDD: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.
15:9 Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd
gan yr ARGLWYDD: , ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.
15:30 Llewyrch y llygaid a lawenha y galon; a gair da a frasâ yr esgyrn.
15:31 Y glust a wrandawo ar gerydd y
bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.
15:32 Y neb a wrthodo addysg, a
ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.
15:33 Addysg doethineb yw ofn yr
ARGLWYDD; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.
PENNOD 16
16:1 Paratoad y galon
mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae.
16:2 Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei
olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion.
16:3 Treigla dy weithredoedd ar yr
ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant.
16:4 Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth
er ei fwyn ei hun: a’r anauwiol hefyd erbyn y dydd drwg.
16:5 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn
uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.
16:6 Trwy drugaredd a gwirionedd y
dileir pechod: a thrwy ofn Yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.
16:7 Pan fyddo ffyrdd gŵrr yn
rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef.
16:8 Gwell yw ychydig trwy
gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
16:9 Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a
gyfarwydda ei gerddediad ef.
16:26 Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo.
16:27 Dyn i’r fall sydd yn cloddio
drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.
PENNOD 17
17:1 Gwell yw tamaid sych a
llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.
17:2 Gwas synhwyrol a feistrola ar
fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.
17:3 Y tawddlestr sydd i’r arian,
a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD.
17:4 Y drygionus a wrendy ar wefus
anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.
17:5 Y neb a watwaro y tlawd, sydd
yn gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd
dieuog.
17:6 Coron yr hynafgwyr yw en
hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.
17:7 Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd
rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.
17:8 Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg
ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.
17:9 Y neb a guddia bechod, sydd yn
ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.
17:13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef.
PENNOD 18
18:1 Y neilltuol a gais wrth ei
ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.
18:2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall;
ond bod i’w galon ei datguddio ei hun.
18:3 Wrth ddyfodiad y drygionus y
daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.
18:4 Geiriau yng ngenau gŵr
sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.
18:5 Nid da derbyn wyneb yr
annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.
18:6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i
gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau.
18:7 Genau y ffôl yw ei ddinistr,
a’i wefusau sydd fagi i’w enaid.
18:8 Geiriau yr hustyngwÿr sÿdd
megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.
18:9 Y neb a fyddo diog yn ei waith,
sydd frawd i’r treulgar.
18:20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y
digonir ef.
18:21 Angau a bywyd sydd ym meddiant
y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.
18:22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd
yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.
19:1 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb,
iialr triws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.
19:2 Hefyd, bod yr enaid heb
wybodaeth, nid yw dda; ar hwn sydd brysur ei draed a becha.
19:3 Ffolineb dyn a ŵyra ei
ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.
19:4 Cyfoeth a chwanega lawer o
gyfeilhon: hond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.
19:5 Tyst celwyddog ni bydd dieuog:
a lluniwr celwyddau ni ddianc.
19:6 Llawer ymbiliant o flaen
pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael.
19:7 Holl frodyr y tlawd â’i casânt
ef - pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni
throant ato
19:8 A gaffo ddoethitleb a gâr ei
enaid: a gadwo ddeeall a ennill ddaioni.
19:9 Tyst celwyddog ni bydd dieuog,
a thraethwr celwyddau a ddifethir.
PENNOD 20
20:1 Gwatwarus yw gwin, a
therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
20:2 Megis rhuad flew ieuanc yw ofn
y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei
hun.
20:3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio
ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.
20:4 Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y
cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.
20:5 Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll
yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan.
20:6 Llawer dyn a gyhoedda ei
drugarowgrwydd ei hun.- ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?
20:7 Y cyfiawn a rodia yn ei
uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.
20:8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i
lygaid bob drwg.
20:9 Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a
lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?
20:16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros
estrones.
20:17 Melys gan ŵr fara trwy
ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean.
20:18 Bwriadau a sicrheir trwy
gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.
20:19 Y neb a fyddo athrodwr a
ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau.
20:30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.
PENNOD 21
21:1 Fel afonydd o ddwfr y mae calon
y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno.
21:2 Pob ffordd gŵr sydd uniawn
yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.
21:3 Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr
ARGLWYDD nag aberth.
21:4 Uchder golwg, a balchder calon,
ac âr yr annuwiol, sydd bechod.
21:5 Bwriadau y diesgeulus sydd at
helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.
21:6 Trysorau a gasgler â thafod
celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.
21:7 Anrhaith yr annuwiol a’u
difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.
21:8 Trofaus a dieithr yw ffordd
dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.
21:9 Gwell yw bod mewn congl yn nen
tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
PENNOD 22
22:1 Mwy dymunol yw enw da na
chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.
22:2 Y tlawd a’r cyfoethog a
gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.
22:3 Y call a genfydd y drwg, ac a
ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
22:4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn
yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd
22:5 Drain a maglau sydd yn ffordd y
cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.
22:6 Hyfforddia blentyn ym mhen ei
ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.
22:7 Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar
y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.
22:8 Y neb a heuo anwiredd a fed
flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.
22:9 Yr hael ei lygad a fendithir:
canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.