1483k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân
(1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_esra_15_1483k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k
y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
(delw 7401) Adolygiadau diweddaraf: |
1484ke This page with an English
translation (Esra / Ezra: 1620 Welsh
Bible / 1611 English Authorized Version)
PENNOD 1
1:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni
gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin
Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen,
gan ddywedyd,
1:2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y
nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi
adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.
1:3 Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag
ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ
ARGLWYDD DDUW
1:4 A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn
ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac
ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem.
1:5 Yna y cododd pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r
offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i
adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn Jerwsalem.
1:6 A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â
llestri arian, ac aur, â golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr,
heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.
1:7 A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr
ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe
yn nhŷ ei dduwiau ei hun:
1:8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin
1:9 A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur,
mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll.
PENNOD 2
2:1 A dyma feibion
y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a
gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i
Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun;
2:2 Y rhai a ddaeth
gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar,
Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwyr pobl Israel:
2:3 Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain.
2:4 Meibion
Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
2:5 Meibion Ara,
saith gant a phymtheg a thrigain.
2:6 Meibion
Pahath-Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg.
2:7 Meibion
2:8 Meibion Sattu,
naw cant a phump a deugain.
2:9 Meibion Saccai,
saith gant a thrigain.
2:42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion
Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un
deugain.
2:43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,
2:44 Meibion Ceros, meibion Siaha, meibion Padon,
2:45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub,
2:46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan,
2:47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia,
2:48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam,
2:49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai,
2:50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim,
2:51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,
2:52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa,
2:53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,
2:54 Meibion Neseia, meibion:Hatiffa.
2:60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a
deuddeg a deugain.
2:61A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion
2:62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhiith yr achau, ond ni
chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. .
2:63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau
sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac a Thummim.
2:64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a
thrigain:
2:65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri
chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion
ac yn gantoresau.
2:66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn
ddau cant ac yn bump a deugain;
2:67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod
yn chwe mil saith gant ac ugain.
2:68 Ac o’r pennau-cenedl pan ddaethant i dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn
oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr
ARGLWYDD, i’w gyfodi yn ei le.
2:69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain
o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid,
2:70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion,
a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd, a holl Israel yn
eu dinasoedd.
PENNOD 3
3:1 A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y
bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr.
3:2 Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel
mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu aml
offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw.
3:3 A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt
ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boeth-offrymau i’r ARGLWYDD,
poethoffrymau bore a hwyr.
3:4 Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac
a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei
ddydd;
3:5 Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau,
a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a
offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r ARGLWYDD.
3:6 O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu
poethoffrymau i’r ARGLWYDD. Ond teml yr ARGLWYDD ni sylfaenasid eto.
3:7 Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd,
a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus
hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
3:8 Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ DDUW i
Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab
Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeinaid ar Lefiaid, a’r rhai oll
a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab
ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr ARGLWYDD.
3:9 Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’l frodyr, Cadmiel a’i feibion,
meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ DDUW: meibion
Henadad, â’u meibion hwythau a u brodyr y Lefiaid.
3:10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr ARGLWYDD, hwy a
osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â
symbalau, i foliannu yr ARGLWYDD, yn ol ordinhad Dafydd brenin Israel.
3:11 A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD,
mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â
bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
3:12 Ond llawer o’r offeiriaid ‘r Lefiaid, a’r pennau-cenedl, y rhai
oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu
golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd
gorfoledd:
3:13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth
sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn
a glywid ymhell.
PENNOD 4
4:1 Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y
gaethglud yn adeiladu y deml i ARGLWYDD DDUW Israel;
4:2 Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau-cenedl, ac a
ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw
chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr
hwn a’n dug ni i fyny yma.
4:3 Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau-cenedl
Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni; eithr
nyni a gydadeiladwn i ARGLWYDD DDUW Israel, o megis y’n gorchmynnodd y brenin
Cyrus, brenin Persia.
4:4 A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy
i adeiladu,
4:5 Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor
hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin
Persia.
4:6 Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr
ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
4:7 Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath,
Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac
ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
4:8 Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifenydd a ysgrifenasant lythyr
yn erbyn a Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:
4:9 Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd,
a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr
Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr
Elamiaid,
4:10 A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac
a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser
a’r amser.
4:11 Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y
brenin, Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.
4:12 Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi
wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar
ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.
4:13 Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a
gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi
drysor y brenhinoedd.
4:14 Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y
brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom
ac yr hysbysasom i’r brenin,
4:15 Fel y ceisier yn llyfr historiau dy dadau: a thi a gei yn llyfr
yr historiau, (ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar,
niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad-fwriad o fewn
hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
4:16 Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r
muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.
4:17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd,
a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill
o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser.
4:18 Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
4:19 A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon
er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a
gwrthryfel.
4:20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb
o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
4:21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac
nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
4:22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i
ddrygu y brenhinoedd?
4:23 Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen
Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i
Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
4:24 Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem, ac
y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.
PENNOD 5
5:1 Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a
broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y
proffwydasant iddynt.
5:2 Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac
a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi
Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.
5:3 pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a
Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i
chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?
5:4 Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a
adeiladant yr adeiladaeth yma?
5:5 A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant
iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius; ac yna yr atebasant trwy lythyr
am hyn.
6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai:
tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y
rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius:
5:7 Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn, yr ysgrifenasid ynddo; Pob
heddwch i’r brenin Dareius.
5:8 Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i
dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed
yn ei barwydydd ef, a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo
yn eu dwylo hwynt.
5:9 Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel
hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur
yma?
5:10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel
yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.
5:11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym
weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn
lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd
ef.
5:12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes
hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a
ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.
5:13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y
brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ DDUW hwn.
5:14 A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai
Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai
hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un
Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
5:15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt
i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ DDUW yn ei le.
5:16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ
DDUW yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac
nis gorffennwyd ef.
5:17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna
yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ DDUW
hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.
PENNOD 6
6:1 Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ
y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon.
6:2 A chafwyd yn Achmetha, yn y Llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac
fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth:
6:3 Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus
orchymyn am dŷ DDUW o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr
aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei
uchder, ac yn drigain cufydd ei led:
6:4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul
o dŷ y brenin.
6:5 A llestri tŷ DDUW hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug
Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder
hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ
DDUW.
6:6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch
cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi
yno.
6:7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ DDUW hwn: adeiladed tywysogion
a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i DDUW yn ei le.
6:8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon
hyn wrth adeiladu y tŷ DDUW hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged
o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y
gwaith.
6:9 A’r hyn a fyddo angenrheiduil i boethoffrymau DUW y nefoedd, yn
eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn yd, yn halen, yn win, ac yn olew,
yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd
yn ddi-baid:
6:10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i DDUW y nefoedd, ac y
gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion.
6:11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn,
tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded
ei dŷ ef yn domen am hynny.
6:12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob
brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo
DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
6:13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u cyfeillion,
megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.
6:14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy
broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a
gorffenasant, wrth orchymyn DUW Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac
Artacsercses brenin Persia.
6:15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd
y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
6:16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o
feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo DUW mewn llawenydd;
6:17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o
ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn
bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
6:18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu diosbarthiadau, a’r Lefiaid
yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr
Moses.
6:19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd
ar ddeg o’r mis cyntaf.
6:20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i
gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu
brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.
6:21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob
un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i
geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a fwytasant,
6:22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn
llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin
Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
PENNOD 7
7:1 Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia,
Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
7:2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
7:3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
7:4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
7:5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad
pennaf:
7:6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd
cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a’r brenin
a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno
ef.
7:7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r
Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y
seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses.
7:8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y
seithfed flwyddyn i’r brenin.
7:9 Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i
fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel
yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef.
7:10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD,
ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
7:11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr
offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD,
a’i ddeddfau ef i Israel.
7:12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad,
ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser.
7:13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o
bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i
Jerwsalem, gael myned gyda thi.
7:14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid,
i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law
di,
7:15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i
gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn
Jerwsalem,
7:16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith
Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant
ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:
7:17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod,
ŵyn, a’u bwyd-offrymau, a’u diod-offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor
tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
7:18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur a’r
rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich DUW.
7:19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy DDUW,
dod adref o flaen dy DDUW yn Jerwsalem.
7:20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy DDUW, yr
hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin.
7:21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl
drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac
ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;
7:22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath
o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.
7:23 Beth bynnag yw gorchymyn DUW y nefoedd, gwneler yn ddyfal i
dŷ DUW y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y
brenin a’i feibion?
7:24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid,
cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ DDUW hwn, na ellir
bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth.
7:25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law,
gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai
oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
7:26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy DDUW, a chyfraith y brenin,
gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai
i ddirwy o dda; ai i garchar.
7:27 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW ein tadau, yr hwn a roddes fel
hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn sydd yn
Jerwsalem:
7:28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac
o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw
yr ARGLWYDD fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny
gyda mi.
PENNOD 8
8:1 A dyma eu pennau-cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny
gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin, allan o Babilon.
8:2 O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion
Dafydd; Hattus:
8:3 O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y
rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid.
8:4 O feibion Pahath-Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau
cant o wrywiaid.
8:5 O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o
wrywiaid.
8:6 O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a
deugain o wrywiaid.
8:7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a
thrigain o wrywiaid.
8:8 Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar
ugain o wrywiaid.
8:9 O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a
deunaw o wrywiaid.
8:10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o
wrywiaid.
8:11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar
hugain o wrywiaid.
8:12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab
a chant.
8:13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt,
Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.
8:14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a
thrigain o wrywiaid.
8:15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y
gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni
chefais yno neb o feibion Lefi.
8:16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan,
ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y
penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:
8:17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, y pennaeth yn y fan a
elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i
frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni
weinidogion i dŷ ein Duw.
8:18 A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom
ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i
feibion, a’i frodyr, ddeunaw;
8:19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merasi, a’i frodyr, a’u
meibion, ugain;
8:20 Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng
ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid
erbyn eu henwau.
8:21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio
gerbron ein DUW ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n
golud oll.
8:22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a
gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem
wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i
ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef.
8:23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe
a wrandawodd amom.
8:24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia,
Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt;
8:25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef
offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i
dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.
8:26 Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o
arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;
8:27 Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres
melyn da, mor brydferth ag aur.
8:28 A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r ARGLWYDD; a’r
llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i ARGLWYDD
DDUW eich tadau.
8:29 Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron
penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau-cenedl Israel yn Jerwsalem,
yng nghelloedd tŷ yr ARGLWYDD.
8:30 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r
aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni. ;
8:31 A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r
mis cyntaf i fyned i Jerwsalem: a llaw ein ein Duw oedd arnom ni, ac a
gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd.
8:32 A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.
8:33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri,
yn nhŷ ein DUW ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar
mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y
Lefiaid, oedd gyda hwynt;
8:34 Wrth rifedi ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd
y pryd hwnnw.
8:35 Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a
offrymasant boethoffrymau i DDUW Israel, sef deuddeg o fustych dros holl
Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar again o ŵyn, a deuddeg
o fychod yn bech-aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r ARGLWVDD.
8:36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a
thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.
PENNOD 9
9:1 Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan
ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, oddi wrth
bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd-dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr
Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid,
a’r Amoriaid.
9:2Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun, ac i’w meibion; a’r
had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a’r
tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.
9:3 Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a
dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn.
9:4 Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel,
am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth
prynhawnol.
9:5 Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd; ac wedi i
mi rwygo fy nillad a’m gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy
nwylo at yr ARGLWYDD fy NUW,
9:6 Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi
fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros
ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
9:7 Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn;
ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law
brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd
wyneb, megis heddiw.
9:8 Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr ARGLWYDD
ein Duw, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd
ef; fel y goleuai ein Duw ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn
ein caethiwed.
9:9 Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein DUW ni yn ein
caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o fluen brenhinoedd Persia, i roddi i ni
orffwystra iddyrchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd
ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem.
9:10 Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein Duw? canys gadawsom dy
orchmynion di,
9:11 Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan
ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu, gwlad halogedig yw hi,
trwy halogedigaeth pobi y gwledydd, oblegid eu ffieidd-dra hwynt, y rhai a’i
llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd.
9:12 Ac yn awr, na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na
chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt
na’u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch
hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth.
9:13 Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a’n
mawr gamwedd, am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd, a rhoddi i ni
ddihangfa fel hyn;
9:14 A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu a’r
ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un
gweddill na dihangol?
9:15 ARGLWYDD DDUW Israel, cyfiawn. ydwyt ti; eithr gweddill dihangol
ydym ni, megis heddiw; wele ni o’th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn
ni sefyll o’th flaen di am hyn.
PENNOD 10
10:1 Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu,
gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ DDUW, tyrfa fawr o Israel a
ymgasglasant ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a
wylasant ag wylofain mawr
10:2 Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a
ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein DUW, ac a gytaliasom â gwragedd
dieithr o bobl y wlad: etc yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
10:3 Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n Duw, ar fwrw allan yr holl
wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr ARGLWYDD, a’r rhai a ofnant orchmynion ein
DUW: a gwneler yn ôl y gyfraith.
10:4 Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi:
ymwrola, a gwna.
10:5 Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r
Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.
10:6 Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ DUW, ac a aeth i ystafell
Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr;
canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud.
10:7 A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y
gaethglud ymgaslu i Jerwsalem;
10:8 A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y
penaethiaid a’r henuriaid, efa a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi
wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.
10:9 Felly holl wyr Jwda a Benjamin
a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr
ugeinfed dydd o’r mis; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ DDUW, yn
crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.
10:10 Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a
bechasoch, ac a gytaliasoch aâ gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod
Israel.
10:11 Ac yn awr rhoddwch foliant i ARGLWYDD DDUW eich tadau, a gwnewch
ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
10:12 A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant aâ llef uchel,
Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur.
10:13 Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan,
ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn.
10:14 Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa, a deued y rhai o’n
dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid
pob dinas, a’u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y
peth hyn.
10:15 Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar
hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy.
10:16 A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad,
a’r gwŷr oedd bennau-cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau,
a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis, i ymofyn am y
peth hyn.
10:17 A hwy a wnaethant ben â’r holl wyr a gytaliasent â gwragedd
dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.
10:18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â
gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a’i frodyr; Maaseia, ac Elieser,
a Jarib, a Gedaleia.
10:19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan
iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd.
10:20 Ac o feibion Immer, Hanani, a Sebadeia.
10:21 Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac
Usseia.
10:22
Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.
10:23 Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Simei, a
Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia,, Jwda, ac Elieser.
10:24 Ac o’r cantorion; Eliasib: ac o’r porthorion; Salum, a Thelem,
ac Uri.
10:25
Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac
Eleasar, a Malcheia, a Benaia.
10:26 Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a
Jeremoth, ac Eleia.
10:27 Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a
Sabad, ac Asisa.
10:28 Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai.
10:29 Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a
Ramoth.
10:30 Ac o feibion Pahath-Moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia,
Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse.
10:31 Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
10:32 Benjamin, Maluch, a Semareia.
10:33 O feibion Hasum; Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai,
Manasse, a Simei.
10:34 O feibion Bani; Maadai, Amram, ac Uel,
10:35 Benaia, Bedeia, Celu,
10:36 Faneia, Meromoth, Eliasib,
10:37 Mataneia, Matenai, a Jaasau,
10:38 A Bani, a Binnui, Simei,
10:39 A Selemeia, a Nathan, ac Adaia,
10:40 Machnadebai, Sasai, Sarai,
10:41 Asareel, a Selemeia, a Semareia,
10:42 Salum, Amareia, a Joseff.
10:43 O feibion Nebo; Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadua, a Joel,
a Benaia.
10:44 Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd
dieithr: ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt. __________________________________________________________________
DIWEDD
Sumbolau arbennig:
ŵ ŷ ə
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weər àm ai? Yùu àar vízïting ə peij fròm
dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə)
Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website