The Bible in Welsh and English. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition. 1484ke Gwefan
Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_esra_15_1484ke.htm
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw 6540) Adolygiadau diweddaraf: |
1483k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig
PENNOD 1
1:1 Yn y flwyddyn gyntaf
i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd
yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl
deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
1:1 Now in the
first year of Cyrus king of Persia, that the word of the LORD by the mouth of
Jeremiah might be fulfilled, the LORD stirred up the spirit of Cyrus king of
Persia, that he made a proclamation throughout all his kingdom, and put it also
in writing, saying,
1:2 Fel hyn y dywed
Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y
ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon
sydd yn Jwda.
1:2 Thus saith Cyrus king of
1:3 Pwy sydd
ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem,
yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ ARGLWYDD DDUW
1:3 Who is there among you of all his people? his God be with him,
and let him go up to Jerusalem, which is in Judah, and build the house of the
LORD God of Israel, (he is the God,) which is in Jerusalem.
1:4 A phwy bynnag a
adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef
ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm
tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem.
1:4 And whosoever remaineth in any place where he sojourneth, let the
men of his place help him with silver, and with gold, and with goods, and with
beasts, beside the freewill offering for the house of God that is in Jerusalem.
1:5 Yna y cododd
pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd
Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn
Jerwsalem.
1:5 Then rose up the chief of the fathers of Judah and Benjamin, and
the priests, and the Levites, with all them whose spirit God had raised, to go up
to build the house of the LORD which is in
1:6 A’r rhai oll
o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, â golud, ac ag
anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn
ewyllysgar.
1:6 And all they that were about them strengthened their hands with
vessels of silver, with gold, with goods, and with beasts, and with precious
things, beside all that was willingly offered.
1:7 A’r brenin
Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor
allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:
1:7 Also Cyrus the king brought forth the vessels of the house of the
LORD, which Nebuchadnezzar had brought forth out of Jerusalem, and had put them
in the house of his gods;
1:8 Y rhai hynny a
ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a’u rhifodd
hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda.
1:8 Even those did Cyrus king of Persia bring forth by the hand of
Mithredath the treasurer, and numbered them unto Sheshbazzar, the prince of
Judah.
1:9 A dyma eu
rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain
o gyllyll.
1:9 And this is the number of them: thirty chargers of gold, a
thousand chargers of silver, nine and twenty knives,
1:10 Deg ar hugain
o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o
lestri eraill.
1:10 Thirty basins of gold, silver basins of a second sort four
hundred and ten, and other vessels a thousand.
1:11 Yr holl
lestri, y aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug
Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.
1:11 All the vessels of gold and of silver were five thousand and
four hundred. All these did Sheshbazzar bring up with them of the captivity
that were brought up from Babylon unto Jerusalem.
PENNOD 2
2:1 A dyma feibion
y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a
gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i
Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun;
2:1 Now these are the children of the province that went up out of
the captivity, of those which had been carried away, whom Nebuchadnezzar the
king of Babylon had carried away unto Babylon, and came again unto Jerusalem
and Judah, every one unto his city;
2:2 Y rhai a ddaeth
gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar,
Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwyr pobl Israel:
2:2 Which came with Zerubbabel: Jeshua, Nehemiah, Seraiah, Reelaiah,
Mordecai, Bilshan, Mizpar, Bigvai, Rehum, Baanah. The number of the men of the
people of Israel:
2:3 Meibion Paros,
dwy fil a deuddeg ac wyth ugain.
2:3 The children of Parosh, two thousand an hundred seventy and two.
2:4 Meibion
Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
2:4 The children of Shephatiah, three hundred seventy and two.
2:5 Meibion Ara,
saith gant a phymtheg a thrigain.
2:5 The children of Arah, seven hundred seventy and five.
2:6 Meibion
Pahath-Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg.
2:6 The children of Pahathmoab, of the children of Jeshua and Joab,
two thousand eight hundred and twelve.
2:7 Meibion Elam,
mil dau dant a phedwar ar ddeg a deugain.
2:7 The children of Elam, a thousand two hundred fifty and four.
2:8 Meibion Sattu,
naw cant a phump a deugain.
2:8 The children of Zattu, nine hundred forty and five.
2:9 Meibion Saccai,
saith gant a thrigain.
2:9 The children of Zaccai, seven hundred and threescore.
2:10 Meibion Bani,
chwe chant a dau a deugain.
2:10 The children of Bani, six hundred forty and two.
2:11 Meibion Bebai,
chwe chant a thri ar hugain.
2:11 The children of Bebai, six hundred twenty and three.
2:12 Meibion Asgad,
mil dau cant a dau ar hugain
2:12 The children of Azgad, a thousand two hundred twenty and two.
2:13 Meibion
Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain.
2:13 The children of Adonikam, six hundred sixty and six.
2:14 Meibion
Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain.
2:14 The children of Bigvai, two thousand fifty and six.
2:15 Meibion Adin,
pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain.
2:15 The children of Adin, four hundred fifty and four.
2:16 Meibion Ater o
Heseceia, onid dau pum ugain.
2:16 The children of Ater of Hezekiah, ninety and eight.
2:17 Meibion Besai,
tri chant a thri ar hugain.
2:17 The children of Bezai, three hundred twenty and three.
2:18 Meibion Jora,
cant a deuddeg.
2:18 The children of Jorah, an hundred and twelve.
2:19 Meibion Hasum,
dau cant a thri ar hugain.
2:19 The children of Hashum, two hundred twenty and three.
2:20 Meibion
Gibbar, pymtheg a phedwar ugain.
2:20 The children of Gibbar, ninety and five.
2:21 Meibion
Bethlehem, cant a thri ar hugain.
2:21 The children of Bethlehem, an hundred twenty and three.
2:22 Gwŷr
Netoffa, onid pedwar trigain
2:22 The men of Netophah, fifty and six.
2:23 Gwŷr
Anathoth, cant ac wyth ar hugain.
2:23 The men of Anathoth, an hundred twenty and eight.
2:24 Meibion Asmafeth,
dau a deugain.
2:24 The children of Azmaveth, forty and two.
2:25 Meibion
Ciriath-arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.
2:25 The children of Kirjatharim, Chephirah, and Beeroth, seven
hundred and forty and three.
2:26 Meibion Rama a
Gaba, chwe chant ac un ar hugain.
2:26 The children of Ramah and Gaba, six hundred twenty and one.
2:27 Gwŷr
Michmas, cant a dau ar hugain.
2:27 The men of Michmas, an hundred twenty and two.
2:28 Gwŷr
Bethel ac Ai, dau cant a thri war ar hugain.
2:28 The men of Bethel and Ai, two hundred twenty and three.
2:29 Meibion Nebo,
deuddeg a deugain.
2:29 The children of Nebo, fifty and two.
2:30 Meibion
Magbis, cant ac onid pedwar trigain.
2:30 The children of Magbish, an hundred fifty and six.
2:31 Meibion Elam
arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.
2:31 The children of the other Elam, a thousand two hundred fifty and
four.
2:32 Meibion Harim,
tri chant ac ugain.
2:32 The children of Harim, three hundred and twenty.
2:33 Meibion Lod,
Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain.
2:33 The children of Lod, Hadid, and Ono, seven hundred twenty and
five.
2:34 Meibion
Jericho, tri chant a phump a deugain.
2:34 The children of Jericho, three hundred forty and five.
2:35 Meibion Senaa,
tair mil a chwe chant a deg ar hugain.
2:35 The children of Senaah, three thousand and six hundred and
thirty.
2:36 Yr offeiriaid:
meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri.
2:36 The priests: the children of Jedaiah, of the house of Jeshua,
nine hundred seventy and three.
2:37 Meibion Immer,
mil a deuddeg a deugain.
2:37 The children of Immer, a thousand fifty and two.
2:38 Meibion Pasur,
mil dau cant a saith a deugain.
2:38 The children of Pashur, a thousand two hundred forty and seven.
2:39 Meibion Harim,
mil a dau ar bymtheg.
2:39 The children of Harim, a thousand and seventeen.
2:40 Y Lefiaid:
meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar a ddeg a thrigain.
2:40 The Levites: the children of Jeshua and Kadmiel, of the children
of Hodaviah, seventy and four.
2:41 Y cantoriaid:
meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.
2:41 The singers: the children of Asaph, an hundred twenty and eight.
2:42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion
Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un
deugain.
2:42 The children of the porters: the children of Shallum, the
children of Ater, the children of Talmon, the children of Akkub, the children
of Hatita, the children of Shobai, in all an hundred thirty and nine.
2:43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,
2:43 The Nethinims: the children of Ziha, the children of Hasupha,
the children of Tabbaoth,
2:44 Meibion Ceros, meibion Siaha, meibion Padon,
2:44 The children of Keros, the children of Siaha, the children of
Padon,
2:45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub,
2:45 The children of Lebanah, the children of Hagabah, the children
of Akkub,
2:46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan,
2:46 The children of Hagab, the children of Shalmai, the children of
Hanan,
2:47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia,
2:47 The children of Giddel, the children of Gahar, the children of Reaiah,
2:48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam,
2:48 The children of Rezin, the children of Nekoda, the children of
Gazzam,
2:49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai,
2:49 The children of Uzza, the children of Paseah, the children of
Besai,
2:50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim,
2:50 The children of Asnah, the children of Mehunim, the children of
Nephusim,
2:51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,
2:51 The children of Bakbuk, the children of Hakupha, the children of
Harhur,
2:52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa,
2:52 The children of Bazluth, the children of Mehida, the children of
Harsha,
2:53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,
2:53 The children of Barkos, the children of Sisera, the children of
Thamah,
2:54 Meibion Neseia, meibion:Hatiffa.
2:54 The children of Neziah, the children of Hatipha.
2:55 § Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth,
meibion Peruda,
2:55 The children of Solomon’s servants: the children of Sotai, the
children of Sophereth, the children of Peruda,
2:56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,
2:56 The children of Jaalah, the children of Darkon, the children of
Giddel,
2:57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim,
meibion Ami.
2:57 The children of Shephatiah, the children of Hattil, the children
of Pochereth of Zebaim, the children of Ami.
2:58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant
deuddeg a phedwar ugain.
2:58 All the Nethinims, and the children of Solomon’s servants, were
three hundred ninety and two.
2:59 A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub,
Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o
Israel yr oeddynt:
2:59 And these were they which went up from Telmelah, Telharsa,
Cherub, Addan, and Immer: but they could not show their father’s house, and
their seed, whether they were of Israel:
2:60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a
deuddeg a deugain.
2:60 The children of Delaiah, the children of Tobiah, the children of
Nekoda, six hundred fifty and two.
2:61A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion
Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid
ar eu henw hwynt.
2:61 And of the children of the priests: the children of Habaiah, the
children of Koz, the children of Barzillai; which took a wife of the daughters
of Barzillai the Gileadite, and was called after their name:
2:62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhiith yr achau, ond ni
chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. .
2:62 These sought their register among those that were reckoned by
genealogy, but they were not found: therefore were they, as polluted, put from
the priesthood.
2:63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau
sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac a Thummim.
2:63 And the Tirshatha said unto them, that they should not eat of
the most holy things, till there stood up a priest with Urim and with Thummim.
2:64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a
thrigain:
2:64 The whole congregation together was forty and two thousand three
hundred and threescore,
2:65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri
chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion
ac yn gantoresau.
2:65 Beside their servants and their maids, of whom there were seven
thousand three hundred thirty and seven: and there were among them two hundred
singing men and singing women.
2:66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn
ddau cant ac yn bump a deugain;
2:66 Their horses were seven hundred thirty and six; their mules, two
hundred forty and five;
2:67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod
yn chwe mil saith gant ac ugain.
2:67 Their camels, four hundred thirty and five; their asses, six
thousand seven hundred and twenty.
2:68 Ac o’r pennau-cenedl pan ddaethant i dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn
oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr
ARGLWYDD, i’w gyfodi yn ei le.
2:68 And some of the chief of the fathers, when they came to the
house of the LORD which is at Jerusalem, offered freely for the house of God to
set it up in his place:
2:69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain
o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid,
2:69 They gave after their ability unto the treasure of the work
threescore and one thousand drams of gold, and five thousand pound of silver,
and one hundred priests’ garments.
2:70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion,
a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd, a holl Israel yn
eu dinasoedd.
2:70 So the priests, and the Levites, and some of the people, and the
singers, and the porters, and the Nethinims, dwelt in their cities, and all
Israel in their cities.
PENNOD 3
3:1 A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y
bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr.
3:1 And when
the seventh month was come, and the children of Israel were in the cities, the
people gathered themselves together as one man to Jerusalem.
3:2 Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a
Sorobabel mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i
offrymu aml offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr
Duw.
3:2 Then stood up Jeshua the son of Jozadak, and his brethren the
priests, and Zerubbabel the son of Shealtiel, and his brethren, and builded the
altar of the God of Israel, to offer burnt offerings thereon, as it is written
in the law of Moses the man of God.
3:3 A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt
ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boeth-offrymau i’r ARGLWYDD,
poethoffrymau bore a hwyr.
3:3 And they set the altar upon his bases; for fear was upon them
because of the people of those countries: and they offered burnt offerings
thereon unto the LORD, even burnt offerings morning and evening.
3:4 Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac
a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei
ddydd;
3:4 They kept also the feast of tabernacles, as it is written, and
offered the daily burnt offerings by number, according to the custom, as the
duty of every day required;
3:5 Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau,
a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a
offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r ARGLWYDD.
3:5 And afterward offered the continual burnt offering, both of the
new moons, and of all the set feasts of the LORD that were consecrated, and of
every one that willingly offered a freewill offering unto the LORD.
3:6 O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu
poethoffrymau i’r ARGLWYDD. Ond teml yr ARGLWYDD ni sylfaenasid eto.
3:6 From the
first day of the seventh month began they to offer burnt offerings unto the
LORD. But the foundation of the temple of the LORD was not yet laid.
3:7 Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd,
a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus
hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
3:7 They gave money also unto the masons, and to the carpenters; and
meat, and drink, and oil, unto them of Zidon, and to them of Tyre, to bring
cedar trees from Lebanon to the sea of Joppa, according to the grant that they
had of Cyrus king of Persia.
3:8 Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ DDUW i
Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab
Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeinaid ar Lefiaid, a’r rhai oll
a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab
ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr ARGLWYDD.
3:8 Now in the second year of their coming unto the house of God at
Jerusalem, in the second month, began Zerubbabel the son of Shealtiel, and
Jeshua the son of Jozadak, and the remnant of their brethren the priests and
the Levites, and all they that were come out of the captivity unto Jerusalem;
and appointed the Levites, from twenty years old and upward, to set forward the
work of the house of the LORD.
3:9 Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’l frodyr, Cadmiel a’i feibion,
meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ DDUW:
meibion Henadad, â’u meibion hwythau a u brodyr y Lefiaid.
3:9 Then stood Jeshua with his sons and his brethren, Kadmiel and his
sons, the sons of Judah, together, to set forward the workmen in the house of
God: the sons of Henadad, with their sons and their brethren the Levites.
3:10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr ARGLWYDD, hwy a
osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â
symbalau, i foliannu yr ARGLWYDD, yn ol ordinhad Dafydd brenin Israel.
3:10 And when the builders laid the foundation of the temple of the
LORD, they set the priests in their apparel with trumpets, and the Levites the
sons of Asaph with cymbals, to praise the LORD, after the ordinance of David
king of Israel.
3:11 A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD,
mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl
bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu
tŷ yr ARGLWYDD.
3:11 And they sang together by course in praising and giving thanks
unto the LORD; because he is good, for his mercy endureth for ever toward
Israel. And all the people shouted with a great shout, when they praised the
LORD, because the foundation of the house of the LORD was laid.
3:12 Ond llawer o’r offeiriaid ‘r Lefiaid, a’r pennau-cenedl, y rhai
oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu
golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd
gorfoledd:
3:12 But many of the priests and Levites and chief of the fathers,
who were ancient men, that had seen the first house, when the foundation of
this house was laid before their eyes, wept with a loud voice; and many shouted
aloud for joy:
3:13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth
sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn
a glywid ymhell.
3:13 So that the people could not discern the noise of the shout of
joy from the noise of the weeping of the people: for the people shouted with a
loud shout, and the noise was heard afar off.
PENNOD 4
4:1 Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y
gaethglud yn adeiladu y deml i ARGLWYDD DDUW Israel;
4:1 Now when the adversaries of Judah and Benjamin heard that the
children of the captivity builded the temple unto the LORD God of Israel;
4:2 Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau-cenedl, ac a
ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw
chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr
hwn a’n dug ni i fyny yma.
4:2 Then they came to Zerubbabel, and to the chief of the fathers,
and said unto them, Let us build with you: for we seek your God, as ye do; and
we do sacrifice unto him since the days of Esarhaddon king of Assur, which
brought us up hither.
4:3 Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau-cenedl
Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni; eithr
nyni a gydadeiladwn i ARGLWYDD DDUW Israel, o megis y’n gorchmynnodd y brenin
Cyrus, brenin Persia.
4:3 But Zerubbabel, and Jeshua, and the rest of the chief of the
fathers of Israel, said unto them, Ye have nothing to do with us to build an
house unto our God; but we ourselves together will build unto the LORD God of
Israel, as king Cyrus the king of Persia hath commanded us.
4:4 A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy
i adeiladu,
4:4 Then the people of the land weakened the hands of the people of
Judah, and troubled them in building,
4:5 Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor
hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin
Persia.
4:5 And hired counsellors against them, to frustrate their purpose,
all the days of Cyrus king of Persia, even until the reign of Darius king of
Persia.
4:6 Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr
ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
4:6 And in the reign of Ahasuerus, in the beginning of his reign,
wrote they unto him an accusation against the inhabitants of Judah and Jerusalem.
4:7 Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath,
Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac
ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
4:7 And in the days of Artaxerxes wrote Bishlam, Mithredath, Tabeel,
and the rest of their companions, unto Artaxerxes king of Persia; and the
writing of the letter was written in the Syrian tongue, and interpreted in the
Syrian tongue.
4:8 Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifenydd a ysgrifenasant lythyr
yn erbyn a Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:
4:8 Rehum the chancellor and Shimshai the scribe wrote a letter
against Jerusalem to Artaxerxes the king in this sort:
4:9 Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd,
a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr
Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr
Elamiaid,
4:9 Then wrote Rehum the chancellor, and Shimshai the scribe, and the
rest of their companions; the Dinaites, the Apharsathchites, the Tarpelites,
the Apharsites, the Archevites, the Babylonians, the Susanchites, the
Dehavites, and the Elamites,
4:10 A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac
a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser
a’r amser.
4:10 And the rest of the nations whom the great and noble Asnapper
brought over, and set in the cities of Samaria, and the rest that are on this
side the river, and at such a time.
4:11 Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y
brenin, Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.
4:11 This is the copy of the letter that they sent unto him, even
unto Artaxerxes the king; Thy servants the men on this side the river, and at
such a time.
4:12 Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi
wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar
ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.
4:12 Be it known unto the king, that the Jews which came up from thee
to us are come unto Jerusalem, building the rebellious and the bad city, and
have set up the walls thereof, and joined the foundations.
4:13 Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a
gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi
drysor y brenhinoedd.
4:13 Be it known now unto the king, that, if this city be builded,
and the walls set up again, then will they not pay toll, tribute, and custom,
and so thou shalt endamage the revenue of the kings.
4:14 Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y
brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom
ac yr hysbysasom i’r brenin,
4:14 Now because we have maintenance from the king’s palace, and it
was not meet for us to see the king’s dishonour, therefore have we sent and
certified the king;
4:15 Fel y ceisier yn llyfr historiau dy dadau: a thi a gei yn llyfr
yr historiau, (ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar,
niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad-fwriad o fewn
hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
4:15 That search may be made in the book of the records of thy
fathers: so shalt thou find in the book of the records, and know that this city
is a rebellious city, and hurtful unto kings and provinces, and that they have
moved sedition within the same of old time: for which cause was this city
destroyed.
4:16 Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r
muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.
4:16 We certify the king that, if this city be builded again, and the
walls thereof set up, by this means thou shalt have no portion on this side the
river.
4:17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr
ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria,
ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser.
4:17
Then sent the king an answer unto Rehum the chancellor, and to Shimshai the
scribe, and to the rest of their companions that dwell in Samaria, and unto the
rest beyond the river, Peace, and at such a time.
4:18 Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
4:18 The letter which ye sent unto us hath been plainly read before
me.
4:19 A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon
er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a
gwrthryfel.
4:19 And I commanded, and search hath been made, and it is found that
this city of old time hath made insurrection against kings, and that rebellion
and sedition have been made therein.
4:20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb
o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
4:20 There have been mighty kings also over Jerusalem, which have
ruled over all countries beyond the river; and toll, tribute, and custom, was
paid unto them.
4:21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac
nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
4:21 Give ye now commandment to cause these men to cease, and that
this city be not builded, until another commandment shall be given from me.
4:22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i
ddrygu y brenhinoedd?
4:22 Take heed now that ye fail not to do this: why should damage
grow to the hurt of the kings?
4:23 Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen
Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i
Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
4:23 Now when the copy of king Artaxerxes’ letter was read before
Rehum, and Shimshai the scribe, and their companions, they went up in haste to
Jerusalem unto the Jews, and made them to cease by force and power.
4:24 Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem, ac
y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.
4:24 Then ceased the work of the house of God which is at Jerusalem.
So it ceased unto the second year of the reign of Darius king of Persia.
PENNOD 5
5:1 Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant
i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant
iddynt.
5:1 Then the prophets, Haggai the prophet, and Zechariah the son of
Iddo, prophesied unto the Jews that were in Judah and Jerusalem in the name of
the God of Israel, even unto them.
5:2 Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac
a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi
Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.
5:2 Then rose up Zerubbabel the son of Shealtiel, and Jeshua the son
of Jozadak, and began to build the house of God which is at Jerusalem: and with
them were the prophets of God helping them.
5:3 pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a
Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i
chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?
5:3 At the same time came to them Tatnai, governor on this side the
river, and Shetharboznai, and their companions, and said thus unto them, Who
hath commanded you to build this house, and to make up this wall?
5:4 Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a
adeiladant yr adeiladaeth yma?
5:4 Then said we unto them after this manner, What are the names of
the men that make this building?
5:5 A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant
iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius; ac yna yr atebasant trwy lythyr
am hyn.
5:5 But the eye of their God was upon the elders of the Jews, that
they could not cause them to cease, till the matter came to Darius: and then
they returned answer by letter concerning this matter.
6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai:
tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y
rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius:
5:6 The copy of the letter that Tatnai, governor on this side the
river, and Shetharboznai, and his companions the Apharsachites, which were on
this side the river, sent unto Darius the king:
5:7 Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn, yr ysgrifenasid ynddo; Pob
heddwch i’r brenin Dareius.
5:7 They sent a letter unto him, wherein was written thus; Unto
Darius the king, all peace.
5:8 Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i
dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed
yn ei barwydydd ef, a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo
yn eu dwylo hwynt.
5:8 Be it known unto the king, that we went into the province of
Judea, to the house of the great God, which is builded with great stones, and
timber is laid in the walls, and this work goeth fast on, and prospereth in
their hands.
5:9 Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel
hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur
yma?
5:9 Then asked we those elders, and said unto them thus, Who
commanded you to build this house, and to make up these walls?
5:10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel
yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.
5:10 We asked their names also, to certify thee, that we might write
the names of the men that were the chief of them.
5:11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym
weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer
o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef.
5:11 And thus they returned us answer, saying, We are the servants of
the God of heaven and earth, and build the house that was builded these many
years ago, which a great king of Israel builded and set up.
5:12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes
hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a
ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.
5:12 But after that our fathers had provoked the God of heaven unto
wrath, he gave them into the hand of Nebuchadnezzar the king of Babylon, the
Chaldean, who destroyed this house, and carried the people away into Babylon.
5:13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y
brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ DDUW hwn.
5:13 But in the first year of Cyrus the king of Babylon the same king
Cyrus made a decree to build this house of God.
5:14 A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai
Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai
hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un
Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
5:14 And the vessels also of gold and silver of the house of God,
which Nebuchadnezzar took out of the temple that was in Jerusalem, and brought
them into the temple of Babylon, those did Cyrus the king take out of the
temple of Babylon, and they were delivered unto one, whose name was
Sheshbazzar, whom he had made governor;
5:15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt
i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ DDUW yn ei le.
5:15 And said unto him, Take these vessels, go, carry them into the
temple that is in Jerusalem, and let the house of God be builded in his place.
5:16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ
DDUW yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac
nis gorffennwyd ef.
5:16 Then came the same Sheshbazzar, and laid the foundation of the
house of God which is in Jerusalem: and since that time even until now hath it
been in building, and yet it is not finished.
5:17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna
yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ DDUW
hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.
5:17 Now therefore, if it seem good to the king, let there be search
made in the king’s treasure house, which is there at Babylon, whether it be so,
that a decree was made of Cyrus the king to build this house of God at
Jerusalem, and let the king send his pleasure to us concerning this matter.
PENNOD 6
6:1 Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ
y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon.
6:1 Then Darius the king made a decree, and search was made in the
house of the rolls, where the treasures were laid up in Babylon.
6:2 A chafwyd yn Achmetha, yn y Llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac
fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth:
6:2 And there was found at Achmetha, in the palace that is in the
province of the Medes, a roll, and therein was a record thus written:
6:3 Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus
orchymyn am dŷ DDUW o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr
aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei
uchder, ac yn drigain cufydd ei led:
6:3 In the first year of Cyrus the king the same Cyrus the king made
a decree concerning the house of God at Jerusalem, Let the house be builded,
the place where they offered sacrifices, and let the foundations thereof be
strongly laid; the height thereof threescore cubits, and the breadth thereof
threescore cubits;
6:4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul
o dŷ y brenin.
6:4
With three rows of great stones, and a row of new timber: and let the expenses
be given out of the king’s house:
6:5 A llestri tŷ DDUW hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug
Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder
hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ
DDUW.
6:5 And also let the golden and silver vessels of the house of God,
which Nebuchadnezzar took forth out of the temple which is at Jerusalem, and
brought unto Babylon, be restored, and brought again unto the temple which is
at Jerusalem, every one to his place, and place them in the house of God.
6:6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch
cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi
yno.
6:6 Now therefore, Tatnai, governor beyond the river, Shetharboznai,
and your companions the Apharsachites, which are beyond the river, be ye far
from thence:
6:7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ DDUW hwn: adeiladed tywysogion
a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i DDUW yn ei le.
6:7 Let the work of this house of God alone; let the governor of the
Jews and the elders of the Jews build this house of God in his place.
6:8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon
hyn wrth adeiladu y tŷ DDUW hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged
o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y
gwaith.
6:8 Moreover I make a decree what ye shall do to the elders of these
Jews for the building of this house of God: that of the king’s goods, even of
the tribute beyond the river, forthwith expenses be given unto these men, that
they be not hindered.
6:9 A’r hyn a fyddo angenrheiduil i boethoffrymau DUW y nefoedd, yn
eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn yd, yn halen, yn win, ac yn olew,
yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd
yn ddi-baid:
6:9 And that which they have need of, both young bullocks, and rams,
and lambs, for the burnt offerings of the God of heaven, wheat, salt, wine, and
oil, according to the appointment of the priests which are at Jerusalem, let it
be given them day by day without fail:
6:10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i DDUW y nefoedd, ac y
gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion.
6:10 That they may offer sacrifices of sweet savours unto the God of
heaven, and pray for the life of the king, and of his sons.
6:11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn,
tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded
ei dŷ ef yn domen am hynny.
6:11 Also I have made a decree, that whosoever shall alter this word,
let timber be pulled down from his house, and being set up, let him be hanged
thereon; and let his house be made a dunghill for this.
6:12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob
brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo
DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
6:12 And the God that hath caused his name to dwell there destroy all
kings and people, that shall put to their hand to alter and to destroy this
house of God which is at Jerusalem. I Darius have made a decree; let it be done
with speed.
6:13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u
cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.
6:13 Then Tatnai, governor on this side the river, Shetharboznai, and
their companions, according to that which Darius the king had sent, so they did
speedily.
6:14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy
broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a
gorffenasant, wrth orchymyn DUW Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac
Artacsercses brenin Persia.
6:14 And the elders of the Jews builded, and they prospered through
the prophesying of Haggai the prophet and Zechariah the son of Iddo. And they
builded, and finished it, according to the commandment of the God of Israel,
and according to the commandment of Cyrus, and Darius, and Artaxerxes king of
Persia.
6:15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd
y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
6:15 And this house was finished on the third day of the month Adar,
which was in the sixth year of the reign of Darius the king.
6:16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o
feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo DUW mewn llawenydd;
6:16 And the children of Israel, the priests, and the Levites, and
the rest of the children of the captivity, kept the dedication of this house of
God with joy,
6:17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o
ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn
bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
6:17 And offered at the dedication of this house of God an hundred
bullocks, two hundred rams, four hundred lambs; and for a sin offering for all
Israel, twelve he goats, according to the number of the tribes of Israel.
6:18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu diosbarthiadau, a’r Lefiaid
yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr
Moses.
6:18 And they set the priests in their divisions, and the Levites in
their courses, for the service of God, which is at Jerusalem; as it is written
in the book of Moses.
6:19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd
ar ddeg o’r mis cyntaf.
6:19 And the children of the captivity kept the passover upon the
fourteenth day of the first month.
6:20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i
gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu
brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.
6:20 For the priests and the Levites were purified together, all of
them were pure, and killed the passover for all the children of the captivity,
and for their brethren the priests, and for themselves.
6:21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob
un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i
geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a fwytasant,
6:21 And the children of Israel, which were come again out of
captivity, and all such as had separated themselves unto them from the
filthiness of the heathen of the land, to seek the LORD God of Israel, did eat,
6:22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn
llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin
Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
6:22 And kept the feast of unleavened bread seven days with joy: for
the LORD had made them joyful, and turned the heart of the king of Assyria unto
them, to strengthen their hands in the work of the house of God, the God of
Israel.
PENNOD 7
7:1 Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia,
Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
7:1 Now after these things, in the reign of Artaxerxes king of
Persia, Ezra the son of Seraiah, the son of Azariah, the son of Hilkiah,
7:2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
7:2 The son of Shallum, the son of Zadok, the son of Ahitub,
7:3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
7:3 The son of Amariah, the son of Azariah, the son of Meraioth,
7:4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
7:4 The son of Zerahiah, the son of Uzzi, the son of Bukki,
7:5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad
pennaf:
7:5 The son of Abishua, the son of Phinehas, the son of Eleazar, the
son of Aaron the chief priest:
7:6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd
cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a’r brenin
a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno
ef.
7:6 This Ezra went up from Babylon; and he was a ready scribe in the
law of Moses, which the LORD God of Israel had given: and the king granted him
all his request, according to the hand of the LORD his God upon him.
7:7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r
Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y
seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses.
7:7 And there went up some of the children of Israel, and of the priests,
and the Levites, and the singers, and the porters, and the Nethinims, unto
Jerusalem, in the seventh year of Artaxerxes the king.
7:8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y
seithfed flwyddyn i’r brenin.
7:8 And he came to Jerusalem in the fifth month, which was in the
seventh year of the king.
7:9 Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i
fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel
yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef.
7:9 For upon the first day of the first month began he to go up from
Babylon, and on the first day of the fifth month came he to Jerusalem,
according to the good hand of his God upon him.
7:10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD,
ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
7:10 For Ezra had prepared his heart to seek the law of the LORD, and
to do it, and to teach in Israel statutes and judgments.
7:11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr
offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD,
a’i ddeddfau ef i Israel.
7:11 Now this is the copy of the letter that the king Artaxerxes gave
unto Ezra the priest, the scribe, even a scribe of the words of the
commandments of the LORD, and of his statutes to Israel.
7:12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad,
ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser.
7:12 Artaxerxes, king of kings, unto Ezra the priest, a scribe of the
law of the God of heaven, perfect peace, and at such a time.
7:13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o
bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i
Jerwsalem, gael myned gyda thi.
7:13 I make a decree, that all they of the people of Israel, and of
his priests and Levites, in my realm, which are minded of their own freewill to
go up to Jerusalem, go with thee.
7:14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid,
i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law
di,
7:14 Forasmuch as thou art sent of the king, and of his seven
counsellors, to inquire concerning Judah and Jerusalem, according to the law of
thy God which is in thine hand;
7:15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i
gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn
Jerwsalem,
7:15 And to carry the silver and gold, which the king and his
counsellors have freely offered unto the God of Israel, whose habitation is in
Jerusalem,
7:16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith
Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant
ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:
7:16 And all the silver and gold that thou canst find in all the
province of Babylon, with the freewill offering of the people, and of the
priests, offering willingly for the house of their God which is in Jerusalem:
7:17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod,
ŵyn, a’u bwyd-offrymau, a’u diod-offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor
tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
7:17 That thou mayest buy speedily with this money bullocks, rams,
lambs, with their meat offerings and their drink offerings, and offer them upon
the altar of the house of your God which is in Jerusalem.
7:18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur a’r
rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich DUW.
7:18 And whatsoever shall seem good to thee, and to thy brethren, to
do with the rest of the silver and the gold, that do after the will of your
God.
7:19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy DDUW,
dod adref o flaen dy DDUW yn Jerwsalem.
7:19 The vessels also that are given thee for the service of the
house of thy God, those deliver thou before the God of Jerusalem.
7:20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy DDUW, yr
hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin.
7:20 And whatsoever more shall be needful for the house of thy God,
which thou shalt have occasion to bestow, bestow it out of the king’s treasure
house.
7:21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl
drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac
ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;
7:21 And I, even I Artaxerxes the king, do make a decree to all the
treasurers which are beyond the river, that whatsoever Ezra the priest, the
scribe of the law of the God of heaven, shall require of you, it be done
speedily,
7:22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath
o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.
7:22 Unto an hundred talents of silver, and to an hundred measures of
wheat, and to an hundred baths of wine, and to an hundred baths of oil, and
salt without prescribing how much.
7:23 Beth bynnag yw gorchymyn DUW y nefoedd, gwneler yn ddyfal i
dŷ DUW y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y
brenin a’i feibion?
7:23 Whatsoever is commanded by the God of heaven, let it be
diligently done for the house of the God of heaven: for why should there be
wrath against the realm of the king and his sons?
7:24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r
Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ DDUW hwn,
na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth.
7:24 Also we certify you, that touching any of the priests and
Levites, singers, porters, Nethinims, or ministers of this house of God, it
shall not be lawful to impose toll, tribute, or custom, upon them.
7:25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law,
gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai
oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
7:25 And thou, Ezra, after the wisdom of thy God, that is in thine
hand, set magistrates and judges, which may judge all the people that are
beyond the river, all such as know the laws of thy God; and teach ye them that
know them not.
7:26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy DDUW, a chyfraith y brenin,
gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai
i ddirwy o dda; ai i garchar.
7:26 And whosoever will not do the law of thy God, and the law of the
king, let judgment be executed speedily upon him, whether it be unto death, or
to banishment, or to confiscation of goods, or to imprisonment.
7:27 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW ein tadau, yr hwn a roddes fel
hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn sydd yn
Jerwsalem:
7:27 Blessed be the LORD God of our fathers, which hath put such a
thing as this in the king’s heart, to beautify the house of the LORD which is
in Jerusalem:
7:28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac
o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw
yr ARGLWYDD fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny
gyda mi.
7:28 And hath extended mercy unto me before the king, and his
counsellors, and before all the king’s mighty princes. And I was strengthened
as the hand of the LORD my God was upon me, and I gathered together out of
Israel chief men to go up with me.
PENNOD 8
8:1 A dyma eu pennau-cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny
gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin, allan o Babilon.
8:1 These are now the chief of their fathers, and this is the
genealogy of them that went up with me from Babylon, in the reign of Artaxerxes
the king.
8:2 O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion
Dafydd; Hattus:
8:2 Of the sons of Phinehas; Gershom: of the sons of Ithamar; Daniel:
of the sons of David; Hattush.
8:3
O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu
hachau gant a deg a deugain o wrywiaid.
8:3 Of the sons
of Shechaniah, of the sons of Pharosh; Zechariah: and with him were reckoned by
genealogy of the males an hundred and fifty.
8:4 O feibion Pahath-Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau
cant o wrywiaid.
8:4 Of the sons of Pahathmoab; Elihoenai the son of Zerahiah, and
with him two hundred males.
8:5 O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o
wrywiaid.
8:5 Of the sons of Shechaniah; the son of Jahaziel, and with him
three hundred males.
8:6 O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a
deugain o wrywiaid.
8:6 Of the sons also of Adin; Ebed the son of Jonathan, and with him
fifty males.
8:7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a
thrigain o wrywiaid.
8:7 And of the sons of Elam; Jeshaiah the son of Athaliah, and with
him seventy males.
8:8 Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar
ugain o wrywiaid.
8:8 And of the sons of Shephatiah; Zebadiah the son of Michael, and
with him fourscore males.
8:9 O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a
deunaw o wrywiaid.
8:9 Of the sons of Joab; Obadiah the son of Jehiel, and with him two
hundred and eighteen males.
8:10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o
wrywiaid.
8:10 And of the sons of Shelomith; the son of Josiphiah, and with him
an hundred and threescore males.
8:11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar
hugain o wrywiaid.
8:11 And of the sons of Bebai; Zechariah the son of Bebai, and with
him twenty and eight males.
8:12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab
a chant.
8:12 And of the sons of Azgad; Johanan the son of Hakkatan, and with
him an hundred and ten males.
8:13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt,
Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.
8:13 And of the last sons of Adonikam, whose names are these,
Eliphelet, Jeiel, and Shemaiah, and with them threescore males.
8:14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a
thrigain o wrywiaid.
8:14 Of the sons also of Bigvai; Uthai, and Zabbud, and with them
seventy males.
8:15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y
gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni
chefais yno neb o feibion Lefi.
8:15 And I gathered them together to the river that runneth to Ahava;
and there abode we in tents three days: and I viewed the people, and the
priests, and found there none of the sons of Levi.
8:16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan,
ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y
penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:
8:16 Then sent I for Eliezer, for Ariel, for Shemaiah, and for
Elnathan, and for Jarib, and for Elnathan, and for Nathan, and for Zechariah,
and for Meshullam, chief men; also for Joiarib, and for Elnathan, men of
understanding.
8:17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, y pennaeth yn y fan a
elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i
frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni
weinidogion i dŷ ein Duw.
8:17 And I sent them with commandment unto Iddo the chief at the
place Casiphia, and I told them what they should say unto Iddo, and to his
brethren the Nethinims, at the place Casiphia, that they should bring unto us
ministers for the house of our God.
8:18 A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom
ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i
feibion, a’i frodyr, ddeunaw;
8:18 And by the good hand of our God upon us they brought us a man of
understanding, of the sons of Mahli, the son of Levi, the son of Israel; and
Sherebiah, with his sons and his brethren, eighteen;
8:19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merasi, a’i frodyr, a’u
meibion, ugain;
8:19 And Hashabiah, and with him Jeshaiah of the sons of Merari, his
brethren and their sons, twenty;
8:20 Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng
ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid
erbyn eu henwau.
8:20 Also of the Nethinims, whom David and the princes had appointed
for the service of the Levites, two hundred and twenty Nethinims: all of them
were expressed by name.
8:21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio
gerbron ein DUW ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n
golud oll.
8:21 Then I proclaimed a fast there, at the river of Ahava, that we
might afflict ourselves before our God, to seek of him a right way for us, and
for our little ones, and for all our substance.
8:22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a
gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem
wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i
ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef.
8:22 For I was ashamed to require of the king a band of soldiers and
horsemen to help us against the enemy in the way: because we had spoken unto
the king, saying, The hand of our God is upon all them for good that seek him;
but his power and his wrath is against all them that forsake him.
8:23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe
a wrandawodd amom.
8:23 So we fasted and besought our God for this: and he was entreated
of us.
8:24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia,
Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt;
8:24 Then I separated twelve of the chief of the priests, Sherebiah,
Hashabiah, and ten of their brethren with them,
8:25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef
offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i
dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.
8:25 And weighed unto them the silver, and the gold, and the vessels,
even the offering of the house of our God, which the king, and his counsellors,
and his lords, and all Israel there present, had offered:
8:26 Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o
arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;
8:26 I even weighed unto their hand six hundred and fifty talents of
silver, and silver vessels an hundred talents, and of gold an hundred talents;
8:27 Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres
melyn da, mor brydferth ag aur.
8:27 Also twenty basins of gold, of a thousand drams; and two vessels
of fine copper, precious as gold.
8:28 A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r ARGLWYDD; a’r
llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i ARGLWYDD
DDUW eich tadau.
8:28 And I said unto them, Ye are holy unto the LORD; the vessels are
holy also; and the silver and the gold are a freewill offering unto the LORD
God of your fathers.
8:29 Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron
penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau-cenedl Israel yn Jerwsalem,
yng nghelloedd tŷ yr ARGLWYDD.
8:29 Watch ye, and keep them, until ye weigh them before the chief of
the priests and the Levites, and chief of the fathers of Israel, at Jerusalem,
in the chambers of the house of the LORD.
8:30 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r
aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni. ;
8:30 So took the priests and the Levites the weight of the silver,
and the gold, and the vessels, to bring them to Jerusalem unto the house of our
God.
8:31 A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r
mis cyntaf i fyned i Jerwsalem: a llaw ein ein Duw oedd arnom ni, ac a
gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd.
8:31 Then we departed from the river of Ahava on the twelfth day of
the first month, to go unto Jerusalem: and the hand of our God was upon us, and
he delivered us from the hand of the enemy, and of such as lay in wait by the
way.
8:32 A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.
8:32 And we came to Jerusalem, and abode there three days.
8:33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri,
yn nhŷ ein DUW ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar
mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y
Lefiaid, oedd gyda hwynt;
8:33 Now on the fourth day was the silver and the gold and the
vessels weighed in the house of our God by the hand of Meremoth the son of
Uriah the priest; and with him was Eleazar the son of Phinehas; and with them
was Jozabad the son of Jeshua, and Noadiah the son of Binnui, Levites;
8:34 Wrth rifedi ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd
y pryd hwnnw.
8:34 By number and by weight of every one: and all the weight was
written at that time.
8:35 Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a
offrymasant boethoffrymau i DDUW Israel, sef deuddeg o fustych dros holl
Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar again o ŵyn, a
deuddeg o fychod yn bech-aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r ARGLWVDD.
8:35
Also the children of those that had been carried away, which were come out of
the captivity, offered burnt offerings unto the God of Israel, twelve bullocks
for all Israel, ninety and six rams, seventy and seven lambs, twelve he goats
for a sin offering: all this was a burnt offering unto the LORD.
8:36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a
thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.
8:36 And they delivered the king’s commissions unto the king’s
lieutenants, and to the governors on this side the river: and they furthered
the people, and the house of God.
PENNOD 9
9:1 Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan
ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, oddi wrth
bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd-dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr
Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid,
a’r Amoriaid.
9:1 Now when these things were done, the princes came to me, saying,
The people of Israel, and the priests, and the Levites, have not separated
themselves from the people of the lands, doing according to their abominations,
even of the Canaanites, the Hittites, the Perizzites, the Jebusites, the
Ammonites, the Moabites, the Egyptians, and the Amorites.
9:2Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun, ac i’w meibion; a’r
had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a’r
tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.
9:2 For they have taken of their daughters for themselves, and for
their sons: so that the holy seed have mingled themselves with the people of
those lands: yea, the hand of the princes and rulers hath been chief in this
trespass.
9:3 Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a
dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn.
9:3 And when I heard this thing, I rent my garment and my mantle, and
plucked off the hair of my head and of my beard, and sat down astonied.
9:4 Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel,
am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth
prynhawnol.
9:4 Then were assembled unto me every one that trembled at the words
of the God of Israel, because of the transgression of those that had been
carried away; and I sat astonied until the evening sacrifice.
9:5 Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd; ac wedi i
mi rwygo fy nillad a’m gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy
nwylo at yr ARGLWYDD fy NUW,
9:5 And at the evening sacrifice I arose up from my heaviness; and
having rent my garment and my mantle, I fell upon my knees, and spread out my
hands unto the LORD my God,
9:6 Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi
fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros
ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
9:6 And said, O my God, I am ashamed and blush to lift up my face to
thee, my God: for our iniquities are increased over our head, and our trespass
is grown up unto the heavens.
9:7 Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn;
ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law
brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd
wyneb, megis heddiw.
9:7 Since the days of our fathers have we been in a great trespass
unto this day; and for our iniquities have we, our kings, and our priests, been
delivered into the hand of the kings of the lands, to the sword, to captivity,
and to a spoil, and to confusion of face, as it is this day.
9:8 Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr ARGLWYDD
ein Duw, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd
ef; fel y goleuai ein Duw ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn
ein caethiwed.
9:8 And now for a little space grace hath been showed from the LORD
our God, to leave us a remnant to escape, and to give us a nail in his holy
place, that our God may lighten our eyes, and give us a little reviving in our
bondage.
9:9 Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein DUW ni yn ein
caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o fluen brenhinoedd Persia, i roddi i ni
orffwystra iddyrchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd
ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem.
9:9 For we were bondmen; yet our God hath not forsaken us in our
bondage, but hath extended mercy unto us in the sight of the kings of Persia,
to give us a reviving, to set up the house of our God, and to repair the
desolations thereof, and to give us a wall in Judah and in Jerusalem.
9:10 Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein Duw? canys gadawsom dy
orchmynion di,
9:10 And now, O our God, what shall we say after this? for we have
forsaken thy commandments,
9:11 Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan
ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu, gwlad halogedig yw hi,
trwy halogedigaeth pobi y gwledydd, oblegid eu ffieidd-dra hwynt, y rhai a’i
llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd.
9:11 Which thou hast commanded by thy servants the prophets, saying,
The land, unto which ye go to possess it, is an unclean land with the
filthiness of the people of the lands, with their abominations, which have
filled it from one end to another with their uncleanness.
9:12 Ac yn awr, na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na
chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt
na’u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch
hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth.
9:12 Now therefore give not your daughters unto their sons, neither
take their daughters unto your sons, nor seek their peace or their wealth for
ever: that ye may be strong, and eat the good of the land, and leave it for an
inheritance to your children for ever.
9:13 Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a’n
mawr gamwedd, am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd, a rhoddi i ni
ddihangfa fel hyn;
9:13 And after all that is come upon us for our evil deeds, and for
our great trespass, seeing that thou our God hast punished us less than our
iniquities deserve, and hast given us such deliverance as this;
9:14 A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu a’r
ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un gweddill
na dihangol?
9:14 Should we again break thy commandments, and join in affinity
with the people of these abominations? wouldest not thou be angry with us till
thou hadst consumed us, so that there should be no remnant nor escaping?
9:15 ARGLWYDD DDUW Israel, cyfiawn. ydwyt ti; eithr gweddill dihangol
ydym ni, megis heddiw; wele ni o’th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn
ni sefyll o’th flaen di am hyn.
9:15 O LORD God of Israel, thou art righteous: for we remain yet escaped,
as it is this day: behold, we are before thee in our trespasses: for we cannot
stand before thee because of this.
PENNOD 10
10:1 Ac wedi i Esra weddïo a
chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ DDUW, tyrfa fawr o Israel a
ymgasglasant ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a
wylasant ag wylofain mawr
10:1 Now when Ezra had prayed, and when he had confessed, weeping and
casting himself down before the house of God, there assembled unto him out of
Israel a very great congregation of men and women and children: for the people
wept very sore.
10:2 Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a
ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein DUW, ac a gytaliasom â gwragedd
dieithr o bobl y wlad: etc yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
10:2 And Shechaniah the son of Jehiel, one of the sons of Elam,
answered and said unto Ezra, We have trespassed against our God, and have taken
strange wives of the people of the land: yet now there is hope in Israel
concerning this thing.
10:3 Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n Duw, ar fwrw allan yr holl
wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr ARGLWYDD, a’r rhai a ofnant orchmynion ein
DUW: a gwneler yn ôl y gyfraith.
10:3 Now therefore let us make a covenant with our God to put away all
the wives, and such as are born of them, according to the counsel of my lord,
and of those that tremble at the commandment of our God; and let it be done
according to the law.
10:4 Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi:
ymwrola, a gwna.
10:4 Arise; for this matter belongeth unto thee: we also will be with
thee: be of good courage, and do it.
10:5 Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r
Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.
10:5 Then arose Ezra, and made the chief priests, the Levites, and all
Israel, to swear that they should do according to this word. And they sware.
10:6 Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ DUW, ac a aeth i ystafell
Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr;
canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud.
10:6 Then Ezra rose up from before the house of God, and went into the
chamber of Johanan the son of Eliashib: and when he came thither, he did eat no
bread, nor drink water: for he mourned because of the transgression of them
that had been carried away.
10:7 A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y
gaethglud ymgaslu i Jerwsalem;
10:7 And they made proclamation throughout Judah and Jerusalem unto
all the children of the captivity, that they should gather themselves together
unto Jerusalem;
10:8 A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y
penaethiaid a’r henuriaid, efa a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi
wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.
10:8 And that whosoever would not come within three days, according to
the counsel of the princes and the elders, all his substance should be
forfeited, and himself separated from the congregation of those that had been
carried away.
10:9 Felly holl wyr Jwda a Benjamin
a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr
ugeinfed dydd o’r mis; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ DDUW, yn
crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.
10:9 Then all the men of Judah and Benjamin gathered themselves
together unto Jerusalem within three days. It was the ninth month, on the
twentieth day of the month; and all the people sat in the street of the house
of God, trembling because of this matter, and for the great rain.
10:10 Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a
bechasoch, ac a gytaliasoch aâ gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod
Israel.
10:10 And Ezra the priest stood up, and said unto them, Ye have
transgressed, and have taken strange wives, to increase the trespass of Israel.
10:11 Ac yn awr rhoddwch foliant i ARGLWYDD DDUW eich tadau, a gwnewch
ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd
dieithr.
10:11 Now therefore make confession unto the LORD God of your fathers,
and do his pleasure: and separate yourselves from the people of the land, and
from the strange wives.
10:12 A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant aâ llef uchel,
Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur.
10:12 Then all the congregation answered and said with a loud voice,
As thou hast said, so must we do.
10:13 Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll
allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y
peth hyn.
10:13 But the people are many, and it is a time of much rain, and we
are not able to stand without, neither is this a work of one day or two: for we
are many that have transgressed in this thing.
10:14 Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa, a deued y rhai o’n
dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid
pob dinas, a’u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y
peth hyn.
10:14 Let now our rulers of all the congregation stand, and let all
them which have taken strange wives in our cities come at appointed times, and
with them the elders of every city, and the judges thereof, until the fierce
wrath of our God for this matter be turned from us.
10:15 Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar
hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy.
10:15 Only Jonathan the son of Asahel and Jahaziah the son of Tikvah
were employed about this matter: and Meshullam and Shabbethai the Levite helped
them.
10:16 A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad,
a’r gwŷr oedd bennau-cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau,
a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis, i ymofyn am y
peth hyn.
10:16 And the children of the captivity did so. And Ezra the priest,
with certain chief of the fathers, after the house of their fathers, and all of
them by their names, were separated, and sat down in the first day of the tenth
month to examine the matter.
10:17 A hwy a wnaethant ben â’r holl wyr a gytaliasent â gwragedd
dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.
10:17 And they made an end with all the men that had taken strange
wives by the first day of the first month.
10:18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â
gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a’i frodyr; Maaseia, ac Elieser,
a Jarib, a Gedaleia.
10:18 And among the sons of the priests there were found that had
taken strange wives: namely, of the sons of Jeshua the son of Jozadak, and his
brethren; Maaseiah, and Eliezer, and Jarib, and Gedaliah.
10:19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan
iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd.
10:19 And they gave their hands that they would put away their wives; and
being guilty, they offered a ram of the flock for their trespass.
10:20 Ac o feibion Immer, Hanani, a Sebadeia.
10:20 And of the sons of Immer; Hanani, and Zebadiah.
10:21 Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac
Usseia.
10:21 And of the sons of Harim; Maaseiah, and Elijah, and Shemaiah,
and Jehiel, and Uzziah.
10:22
Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.
10:22 And of the
sons of Pashur; Elioenai, Maaseiah, Ishmael, Nethaneel, Jozabad, and Elasah.
10:23 Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,)
Pethaheia,, Jwda, ac Elieser.
10:23 Also of the Levites; Jozabad, and Shimei, and Kelaiah, (the same
is Kelita,) Pethahiah, Judah, and Eliezer.
10:24 Ac o’r cantorion; Eliasib: ac o’r porthorion; Salum, a Thelem,
ac Uri.
10:24 Of the singers also; Eliashib: and of the porters; Shallum, and
Telem, and Uri.
10:25
Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac
Eleasar, a Malcheia, a Benaia.
10:25 Moreover
of Israel: of the sons of Parosh; Ramiah, and Jeziah, and Malchiah, and Miamin,
and Eleazar, and Malchijah, and Benaiah.
10:26 Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a
Jeremoth, ac Eleia.
10:26 And of the sons of Elam; Mattaniah, Zechariah, and Jehiel, and
Abdi, and Jeremoth, and Eliah.
10:27 Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a
Sabad, ac Asisa.
10:27 And of the sons of Zattu; Elioenai, Eliashib, Mattaniah, and
Jeremoth, and Zabad, and Aziza.
10:28
Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai.
10:28 Of the
sons also of Bebai; Jehohanan, Hananiah, Zabbai, and Athlai.
10:29 Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a
Ramoth.
10:29 And of the sons of Bani; Meshullam, Malluch, and Adaiah, Jashub,
and Sheal, and Ramoth.
10:30 Ac o feibion Pahath-Moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia,
Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse.
10:30 And of the sons of Pahathmoab; Adna, and Chelal, Benaiah,
Maaseiah, Mattaniah, Bezaleel, and Binnui, and Manasseh.
10:31 Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
10:31 And of the sons of Harim; Eliezer, Ishijah, Malchiah, Shemaiah,
Shimeon,
10:32 Benjamin, Maluch, a Semareia.
10:32 Benjamin, Malluch, and Shemariah.
10:33 O feibion Hasum; Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai,
Manasse, a Simei.
10:33 Of the sons of Hashum; Mattenai, Mattathah, Zabad, Eliphelet,
Jeremai, Manasseh, and Shimei.
10:34 O feibion Bani; Maadai, Amram, ac Uel,
10:34 Of the sons of Bani; Maadai, Amram, and Uel,
10:35 Benaia, Bedeia, Celu,
10:35 Benaiah, Bedeiah, Chelluh,
10:36 Faneia, Meromoth, Eliasib,
10:36 Vaniah, Meremoth, Eliashib,
10:37 Mataneia, Matenai, a Jaasau,
10:37 Mattaniah, Mattenai, and Jaasau,
10:38 A Bani, a Binnui, Simei,
10:38 And Bani, and Binnui, Shimei,
10:39 A Selemeia, a Nathan, ac Adaia,
10:39 And Shelemiah, and Nathan, and Adaiah,
10:40 Machnadebai, Sasai, Sarai,
10:40 Machnadebai, Shashai, Sharai,
10:41 Asareel, a Selemeia, a Semareia,
10:41 Azareel, and Shelemiah, Shemariah,
10:42 Salum, Amareia, a Joseff.
10:42 Shallum, Amariah, and Joseph.
10:43
O feibion Nebo; Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadua, a Joel, a Benaia.
10:43 Of the
sons of Nebo; Jeiel, Mattithiah, Zabad, Zebina, Jadau, and Joel, Benaiah.
10:44 Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr: ac yr oedd i rai
ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt.
10:44 All these had taken strange wives: and some of them had wives by
whom they had children.
__________________________________________________________________
DIWEDD – END
Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Ble’r wyf i? Yr ych
chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weər àm ai? Yùu àar vízïting ə peij fròm
dhə "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
"CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website