1222k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysegr-Lân yn yr iaith Gymraeg. La Bíblia en gal·lès. Dhə Báibəl in Welsh. The Bible in Welsh.


http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_genesis_01_1222k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)

El projecte Siôn Prys
(Col
·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân :
(1) Genesis



(delw 6672)

Adolygiadau diweddaraf -
23 03 2002
Pennodau 1-4
18 06 2002
Pennodau 5-18
02 02 2003
Pennodau 19-29
25 03 2003
Pennodau 30-50



 1277ke This page with an English translation - First Epistle of John the Apostle / 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version

····· 


·····


LLYFR CYNTAF MOSES YR HWN A ELWIR GENESIS

PENNOD 1 ::

1:1
Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a'r ddaear.

1:2 A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.

1:3 A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.

1:4 A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch.

1:5 A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf.

1:6 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd.

1:7 A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroedd oddi at y ffurfafen: ac felly y bu.

1:8 A'r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, yr ail ddydd.

1:9 DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i'r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.

1:10 A'r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd.

1:11 A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt at y ddaear: ac felly y bu.

1:12 A'r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd.

1:13 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y trydydd dydd.

1:14 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.

1:15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.

1:16 A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu'r dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu'r nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe.

1:17 Ac, yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear,

1:18 Ac i lywodraethu'r dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd.

1:19 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.

1:20 DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.

1:21 A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.

1:22 A DUW a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear,

1:23 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pumed dydd.

1:24 DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.

1:25 A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, ar anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.

1:26 DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

1:27 Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.

1:28 DUW hefyd a’u bendigodd hwynt, a DUW ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth a ymsymudo ar y ddaear.

1:29 A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.

1:30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.

1:31 A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly, yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.

PENNOD 2

2:1
Felly y gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear, a’u holl lu hwynt.

2:2 Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd DUW ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.

2:3 A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteidddiodd ef; oblegid ynddo y gorffwysai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i’w wneuthur.

2:4 Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,

2:5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear; a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear.

2:6 Ond tarth a esgynnodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.

2:7 A'r ARGLWYDD Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.

2:8 Hefyd yr ARGLWYDD Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du'r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.

2:9 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear.

2:10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.

2:11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:

2:12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwin a'r maen onics.

2:13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.

2:14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a'r bedwaredd afon yw Ewffrates.

2:15 A'r ARGLWYDD Dduw a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i'w chadw hi.

2:16 A’r ARGLWYDD Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta:

2:17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.

2:18 Hefyd yr ARGLWYDD Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo.

2:19 A'r ARGLWYDD Dduw a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoddd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.

2:20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliad, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.

2:21 A’r ARGLWYDD Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.

2:22 A’r ARGLWYDD Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn.

2:23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.

2:24 Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

PENNOD 3

3:1
A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd?

3:2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:

3:3 Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrdwch ag ef, rhag eich marw.

3:4 A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.

3:5 Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.

3:6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.

3:7 A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau

3:8 A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda ai wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw, ymysg prennau yr ardd.

3:9 A’r ARGLWYDD Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, pa le yr wyt ti?

3:10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.

3:11 A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?

3:12 Ac Adda a ddywedod, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais.

3:13 A'r ARGLWYDD Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a waeuthum.

3:14 A'r ARGLWYDD Dduw a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melldigedicach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes

3:15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.

3:16 Wrth y wraig y dywedo, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.

3:17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.

3:18 Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytei di.

3:19 Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaear; oblegid ohoni y'th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.

3:20 A'r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.

3:21 A'r ARGLWYDD Dduw a wnaeth i Adda ac i'w wraig beisiau crwyn, ac a'u gwisgodd amdanynt hwy.

3:22 Hefyd yr ARGLWYDD Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol:

3:23 Am hynny yr ARGLWYDD Dduw a'i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio'r ddaear, yr hon y cymerasid ef ohoni.

3:24 So he drove out the man; and he placed at the east of the garden of Eden Cherubims, and a flaming sword which turned every way, to keep the way of the tree of life.

PENNOD 4

4:1
Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr ARGLWYDD

4:2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio'r ddaear.

4:3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r ARGLWYDD .

4:4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac eu braster hwynt. A'r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:

4:5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr fel y syrthiodd ei wynepryd ef.

4:6 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd?

4:7 Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddyinuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.

4:8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd ac a'i lladdodd ef.

4:9 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?

4:10 A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o'r ddaear.

4:11 Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di.

4:12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.

4:13 Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD , Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau.
î 4:14 Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o'th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a'm caffo a'm lladd.

4:15 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r ARGLWYDD a osododd nod ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.

4:16 A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD , ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.

4:17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch.

4:18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.

4:19 A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila.

4:20 Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.

4:21 Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.

4:22 Sila hithau a esgorodd ar Tubal-Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal-Cain ydoedd Naama.

4:23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i'm harcholl, a llanc i'm clais.

4:24 Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.

4:25 Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd DUW (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.

4:26 I'r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.

PENNOD 5


5:1 Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y Ddydd y creodd DUW ddyn, ar lun DUW y gwnaeth efe ef.

5:2 Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a'u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.

5:3 Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a'i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.

5:4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.

5:5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.

5:6 Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos.

5:7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

5:9 Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.

5:10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

5:12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel.

5:13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

5:15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.

5:16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.

5:18 A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.

5:19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a gerihedlodd feibion a merched.

5:20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

5:21 Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela.

5:22 Ac Enoch a rodiodd gyda DUW wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd.

5:24 A rhodiodd Enoch gyda DUW, ac ni welwyd ef; canys DUW ai cymerodd ef.

5:25 Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.

5:26 A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flyneddd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:27 A holl ddyddiau Methwsela oedd, naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd, ac efe a fu farw.

5:28 Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab;

5:29 Ac a alwodd i ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr ARGLWYDD.

5:30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

5:31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; a efe a fu farw.

5:32 A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.

PENNOD 6

6:1
Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni. merched iddynt,

6:2 Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.

6:3 A dywedodd yr C, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.

6:4 Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu ŵyr enwog gynt

6:5 A’r ARGLWYDD a welodd oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn unig yn ddrygionus bob amser .

6:6 Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.

6:7 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.

6:8 Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

6:9 Dyma genedlaethau Noa,: Noa oedd gŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda DUW y rhodiodd Noa.

6:10 A Noa a genhedlodd dri o feibion Sem, Cham a Jaffeth.

6:11 A'r ddaear a lygrasid gerbron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.

6:12 A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.

6:13 A DUW a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear.

6:14 Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi wrth mewn ac oddi allan â phyg.

6:15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.

6:16 Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys; o dri uchder y gwnei di hi.

6:17 Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.

6:18 Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.

6:19 Ac o bob peth fyw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.

6:20 O'r ehediaid wrth eu rhywogaethh, ac o’r anifeiliad wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth, dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw

6:21 A chymer iti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.

6:22 Felly y gwnaeth Noa, yn ôl hyn oll a orchmynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.

PENNOD 7

7:1
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, Dos di, a'th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.

7:2 O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a'i fenyw; a dau o'r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a'i fenyw:

7:3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.

7:4 Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a'r a wneuthum i.

7:5 A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo.

7:6 Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear.

7:7 A Noa a aeth i mewn, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i'r arch, rhag y dwfr dilyw.

7:8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,

7:9 Yr aeth i mewn at Noa i'r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai DUW i Noa.

7:10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.

7:11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o'r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri'r nefoedd a agorwyd.

7:12 A'r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.

7:13 O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i'r arch;

7:14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.

7:15 A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.

7:16 A'r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai DUW iddo. A'r ARGLWYDD a gaeodd arno ef.

7:17 A'r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a'r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.

7:18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.

7:19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.

7:20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd.

7:21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid ac yn fwvystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.

7:22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o'r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.

7:23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a'r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o'r ddaear: a Noa a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.

7:24 A'r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.

PENNOD 8

8:1
A DUW a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a'r a oedd gydag ef yn yr arch: a DUW a wnaeth, i wynt dramwy ar y ddaear, a'r dyfroedd a lonyddasant.

8:2 Caewyd hefyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o'r nefoedd.

8:3 A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.

8:4 Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.

8:5 A'r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y gwelwyd pennau'r mynyddoedd.

8:6 Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch, a wnaethai efe.

8:7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.

8:8 Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.

8:9 Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd hi, ac a'i derbyniodd hi ato i'r arch.

8:10 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o'r arch.

8:11 A'r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.

8:12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.

8:13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.

8:14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.

8:15 A llefarodd DUW wrth Noa, gan ddywedyd,

8:16 Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.

8:17 Pob peth byw a'r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.

8:18 A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.

8:19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.

8:20 A Noa a adeiladodd allor i'r ARGLWYDD, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor.

8:21 A'r ARGLWYDD a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr ARGLWYDD yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio'r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o'i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.

8:22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.

PENNOD 9

9:1
DUW hefyd a fendithiodd Noa a'i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear.

9:2 Eich ofn hefyd a'ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a'r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.

9:3 Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.

9:4 Er hynny na fwytewch gig ynghyd â'i einioes, sef ei waed.

9:5 Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn.

9:6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn.

9:7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.

9:8 A DUW a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd,

9:9 Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi;

9:10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â'r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o'r rhai oll sydd yn myned allan o'r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.

9:11 A mi a gadarnhaf fy nghyfamod Aâ chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha'r ddaear.

9:12 A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a'r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol:

9:13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi â'r ddaear.

9:14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl.

9:15 A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.

9:16 A'r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio'r cyfamod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.

9:17 A DUW a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.

9:18 A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.

9:19 Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.

9:20 A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:

9:21 Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.

9:22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.

9:23 A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.

9:24 A Noa a ddeffrôdd o'i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.

9:25 Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.

9:26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

9:27 DUW a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

9:28 A Noa a fu fyw wedi'r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.

9:29 Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.

PENNOD 10

10:1
A dyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi'r dilyw.

10:2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.

10:3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma.

10:4 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.

10:5 O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.

10:6 A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan.

10:7 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan.

10:8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.

10:9 Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD.

10:10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar.

10:11 O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala,

10:12 A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr.

10:13 Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim,

10:14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.

10:15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,

10:16 A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a r Girgasiad,

10:17 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,

10:18 A’r Arfadiad a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.

10:19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.

10:20 Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd,

10:21 I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf.

10:22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram.

10:23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.

10:24 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.

10:25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.

10:26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,

10:27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla.

10:28 Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,

10:29 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: Yr hoff rai hyn oedd feibion Joctan.

10:30 A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.

10:31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.

10:32 Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi'r dilyw.

PENNOD 11

11:1
A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.

11:2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.

11:3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

11:4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a'i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear,

11:5 A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd i weled y ddinas a'r tŵr a adeiladai meibion dynion.

11:6 A dywedodd yr ARGLWYDD, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur.

11:7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.

11:8 Felly yr ARGLWYDD a'u gwasgaradd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas.

11:9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr ARGLWYDD hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

11:10 Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi'r dilyw.

11:11 A Sem a fu farw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:12 Arffacsad hefyd a fu farw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela.

11:13 Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:14 Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

11:15 A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.

11:17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

11:19 A Pheleg a fu farw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

11:21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

11:23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera.

11:25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11:26 Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

11:27 A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.

11:28 A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.

11:29 Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca.

11:30 A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi.

11:31 A Them a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno

11:32 A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.

PENNOD 12

12:1
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.

12:2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.

12:3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.

12:4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrtho; a Lot a aeth gydag ef ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran.

12:5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.

12:6 Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw.

12:7 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD, yr hwn a ymddangosasai iddo.

12:8 Ac efe a dynnodd oddi yno ir mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua’r gorllewin, a llai tua’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD.

12:9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua’r deau.

12:10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad.

12:11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:

12:12 A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw.

12:13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.

12:14 A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.

12:15 A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo.

12:16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod.

12:17 A’r ARGLWYDD a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

12:18 A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?

12:19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith.

12:20 A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.

PENNOD 13

13:1
Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau.

13:2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.

13:3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;

13:4 I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr ARGLWYDD.

13:5 Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.

13:6 A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.

13:7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad.

13:8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni.

13:9 Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy.

13:10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r ARGLWYDD ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr ARGLWYDD, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.

13:11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.

13:12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.

13:13 A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr.

13:14 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.

13:15 Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.

13:16 Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.

13:17 Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.

13:18 Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD.

PENNOD 14

14:1
Bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd;

14:2 Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar.

14:3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw’r môr heli.

14:4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.

14:5 A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a’r Susiaid yn Ham, a’r Emiaid ya Safe-Ciriathaim,

14:6 A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.

14:7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar.

14:8 Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brerlin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;

14:9 A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal breriin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump.

14:10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byffau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoesant i’r mynydd.

14:11 A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.

14:12 Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.

14:13 A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd, Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram.

14:14 A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

14:15 As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u trawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus.

14:16 Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.

14:17 A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwr, yw. dyffryn y brenin.

14:18 Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i DDUW goruchaf:

14:19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:

14:20 A bendigedig fyddo DUW goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl.

14:21 A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.

14:22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr ARGLWYDD DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear.

14:23 Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram:

14:24 Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerrant hwy eu rhan.

PENNOD 15

15:1
Wedi’r pethau hyn, y daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.

15:2 A dywedodd Abram, ARGLWYDD DDUW, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi-blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus.

15:3 Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.

15:4 Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’tlh ymysgaroedd di fydd dy etifedd.

15:5 Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dy wedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.

15:6 Yntau a gredodd yn yr ARGLWYDD, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.

15:7 7 Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu.

15:8 Yntau a ddywedodd, ARGLWYDD DDUW, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?

15:9 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen.

15:10 Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.

15:11 A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt.

15:12 A phan oedd yr haul at fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.

15:13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd.

15:14 A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.

15:15 A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.

15:16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.

15:17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

15:18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:

15:19 Y Ceneaid, a’r Cenesiaid, a’r Cadmoniaid.

15:20 Yr Hethiaid hefyd, a’r Pheresiaid, a’r Reffaimiaid,

15:21 Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.

PENNOD 16

16:1
Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw Agar.

16:2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr ARGLWYDD a luddiodd imi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: Abram a wran dawodd ar lais Sarai.

16:3 A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yn Eifftes, wedi trigo o    Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.

16:4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.

16:5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thi.

16:6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.

16:7 Ac angel yr ARGLWYDD a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:

16:8 Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.

16:9 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi.

16:10 Angel yr ARGLWYDD a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd.

16:11 Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr ARGLWYDD a glybu dy gystudd di.

16:12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr.

16:13 A hi a alwodd enw yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O DDUW, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf?

16:14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.

16:15 Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Isnmel.

16:16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.

PENNOD 17

17:1
A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.

17:2 A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn.

17:3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd DUW wrtho ef, gan ddywedyd,

17:4 Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.

17:5 A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum.

17:6 A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti.

17:7 Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn DDUW i ti, ac i’th had ar dy ôl di.

17:8 A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn DDUW iddynt.

17:9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a’th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd.

17:10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi.

17:11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau.

17:12 Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau; yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th had di.

17:13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol.

17:14 A’r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir   ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.

17:15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.

17:16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi.

17:17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?

17:18 Ac Abraham a ddywedodd wrth DDUW, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!

17:19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â’i had ar ei ôl ef

17:20 Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhediaeth lawr.

17:21 Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.

17:22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.

17:23 Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.

17:24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

17:25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

17:26 O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.

17:27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.

PENNOD 18

18:1
A’r ARGLWYDD a ymddangosodd ef iddo yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd.

18:2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua’r ddaear,

18:3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn, dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was.

18:4 Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren;

18:5 Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.

18:6 Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.

18:7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef.

18:8 Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.

18:9 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.

18:10 Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef.

18:11 Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.

18:12 Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i ini drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd?

18:13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf yn wir, wedi fy heneiddio?

18:14 A fydd dim yn anodd i’r ARGLWYDD? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.

18:15 A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd: Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.

18:16 A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, i’w hanfon hwynt.

18:17 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?

18:18 Canys Abraham yn ddiau a fydd ym genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.

18:19 Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr ARGLWYDD, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo’r ARGLWYDD ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano.

18:20 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;

18:21 Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl ei gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod.

18:22 A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr ARGLWYDD.

18:23 Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?

18:24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?

18:25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear fam?

18:26 A dywedodd yr ARGLWYDD, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.

18:27 Ac Abraham a atebodd, ac a wedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi ya ac yn lludw.

18:28 Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.

18:29 Ac efc a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.

18:30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.

18:31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a dywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.

18:32 Yna ydywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.

18:33 A’r ARGLWYDD a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.

PENNOD 19

19:1
A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear;

19:2
Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.

19:3
Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.

19:4
Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr;

19:5 Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt.

19:6
Yna y daeth Lot atynt hwy allan i'r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl;

19:7
Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.

19:8
Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i'r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.

19:9
A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri'r ddôr.

19:10
A'r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i'r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.

19:11
Trawsant hefyd y dynion oedd with ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio'r drws.

19:12
A'r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a'th feibion, a'th ferched, a'r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o'r fangre hon.

19:13
Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr ARGLWYDD: a'r ARGLWYDD a'n hanfonodd ni i'w ddinistrio ef.

19:14
Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o'r fan yma; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difetha'r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.

19:15
Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a'th ddwy ferch, y rhai sydd i'w cael, rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.

19:16
Yntau a oedd hwyrfrydig, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch, am dosturio o'r ARGLWYDD wrtho ef; ac a'i dygasant ef allan, ac a'i gosodasant o'r tu allan i'r ddinas.

19:17
Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i'r mynydd rhag dy ddifetha.

19:18
A dywedodd Let wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.

19:19
Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i'r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof.

19:20
Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.

19:21
Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.

19:22
Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.

19:23
Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.

19:24
Yna yr ARGLWYDD a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr ARGLWYDD, allan o'r nefoedd.

19:25
Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.

19:26
Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o'i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

19:27
Ac Abraham a aeth yn fore i'r lle y safasai efe ynddo gerbron yr ARGLWYDD.

19:28
Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd, ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.

19:29
A phan ddifethodd DUW ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd DUW am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

19:30
A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a'i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a'i ddwy ferch.

19:31
A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.

19:32
Tyred, rhoddwn i'n tad win i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.

19:33
A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno: a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda'i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

19:34
A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda'm tad; rhoddwn win iddo i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.

19:35
A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno hefyd: a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

19:36
Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o'u tad.

19:37
A'r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.

19:38
A'r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Benammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.


PENNOD 20

20:1 Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.

20:2
A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara.

20:3
Yna y daeth DUW at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist, a hithau yn bcrchen gŵr.

20:4
Ond Abimelech ni nesasai ati hi:, ac efe a ddywedodd, ARGLWYDD, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?

20:5
Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac yng nglendid fy nwylo, y gwneuthum hyn.

20:6
Yna y dywedodd DUW wrtho ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a'th ateliais rhag pechu i'm herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.

20:7
Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i'r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a'r rhai oll ydynt eiddot ti.

20:8
Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a'r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.

20:9
Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i'th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.

20:10
Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?

20:11
A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi. Yn ddiau nid oes ofn DUW yn y lle hwn: a hwy a'm lladdant i o achos fy ngwraig.

20:12
A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.

20:13
Ond pan barodd DUW i mi grwydra o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe.

20:14
Yna y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a'u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn.

20:15
A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.

20:16
Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i'th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i'r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.

20:17
Yna Abraham a weddiodd ar DDUW: a DUW a iachaodd Abimelech, a'i wraig, a'i forynion; a hwy a blantasant.

20:18
Oherwydd yr ARGLWYDD gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.

PENNOD 21

21:1 A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr ARGLWYDD i Sara fel y llefarasai.

21:2
Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai DUW wrtho ef.

21:3
Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac.

21:4
Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai DUW iddo ef.

21:5
Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.

21:6
A Sara a ddywedodd, Gwnaeth DUW i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. '

21:7
Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.

21:8
A'r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.

21:9
A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.

21:10
A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â'm mab i Isaac.

21:11
A'r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.

21:12
A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had.

21:13
Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef.

21:14
Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beerseba.

21:15 A darfu'r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd.

21:16
A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw.
Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.

21:17
A DUW a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd DUW a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.

21:18
Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â'th law, oblegid myfi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.

21:19
A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o'r dwfr, ac a ddiododd y llanc.

21:20
Ac yr oedd DUW gyda'r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.

21:21
Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a'i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.

21:22
Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, DUW sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

21:23
Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i DDUW, na fyddi anffyddlon i mi, nac i'm mab, nac i'm hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di a minnau, ac â'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.

21:24
Ac Abraham a ddywedodd.
Mi a dyngaf.

21:25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.

21:26
Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.

21:27
Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.

21:28
Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.

21:29
Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?

21:30
Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o'm llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.

21:31
Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.

21:32
Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.

21:33
Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr ARGLWYDD DDUW tragwyddol.

21:34
Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

PENNOD 22

22:1 Ac wedi'r pethau hyn y bu i DDUW brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

22:2
Yna y dywedodd DUW, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o'r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

22:3
Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lace gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i'r lle a ddywedasai DUW wrtho.

22:4
Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai'r lle o hirbell.

22:5
Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; a mi a'r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch.

22:6
Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a'i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a'r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.

22:7
A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm?

22:8
Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, DUW a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:

22:9
Ac a ddaethant i'r lle a ddywedasai DUW wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a'i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.

22:10
Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab;

22:11
Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

22:12
Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni DUW, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.

22:13
Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o'i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a'i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab.

22:14
Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH-jire; fel y dywedir heddiw. Ym mynydd yr ARGLWYDD y gwelir.

22:15
Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd ar Abraham yr ail waith o'r nefoedd;

22:16
Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad atebaist dy fab, dy unig fab:

22:17
Mai gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a'th had a feddianna borth ei elynion;

22:18
Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i.

22:19
Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.

22:20
Darfu hefyd, wedi'r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;

22:21
Hus ei gyntaf-anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,

22:22
A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel.

22:23
A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Naohor brawd Abraham.

22:24
Ei ordderchwraig hefyd, a'i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.

PENNOD 23

23:1 Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara.

23:2 A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.

23:3 Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,

23:4 Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o'm golwg.

23:5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,

23:6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog DUW wyt ti yn ein phth: cladd dy farw yn dy ddewis o'n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.

23:7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;

23:8 Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o'm golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar; i

23:9 Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes, er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.

23:10 Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,

23:11 Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a'r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.

23:12 Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir.

23:13 Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a'i rhoddi, atolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes, cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.

23:14 Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,

23:15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can sici o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.

23:16 Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effroia yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sici o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.

23:17 Felly y sicrhawyd maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a'r ogof oedd ynddo, a phob pren a'r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch.

23:18 Yn feddiant i Abraham, yng ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.

23:19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan.

23:20 A sicrhawyd y maes, a'r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

PENNOD 24

24:1 Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a'r ARGLWYDD a fendithiasai Abraham ym mhob dim.

24:2
A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a'r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd:

24:3
A mi a bataf i ti dyngu i ARGLWYDD DDUW y nefoedd, a DUW y ddaear, na chymerech wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg:

24:4
Ond i'm gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gylmeri wraig i'm mab Isaac.

24:5
A'r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i'r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i'r tir y daethost allan ohono?

24:6
A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.

24:7
ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a'm cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i'm mab oddi yno.

24:8
At os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.

24:9
A'r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.

24:10
A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.

24:11
Ac efe a wnaeth i'r camelod orwedd o'r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai metched yn dyfod allan i dynnu dwfr.

24:12
Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDO DDUW fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â'm meistr Abraham.

24:13
Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:

24:14
A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i'th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â'm meistr.

24:15
A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a'i hystên ar ei hysgwydd.

24:6
A'r llances oedd deg odiaeth yr owWg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny.

24:17
A'r gwas a redodd i'w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o'th ystên.

24:18
A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a'i diododd ef.

24:19
A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i'th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.

24:20
A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i'r cafn, ac a redodd eilwaith i'r pydew i dynnu, ac a dynnodd i'w holl gamelod ef.

24:21
A'r gŵr, yn synnu o'i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr ARGLWYDD ei daith ef, ai naddo.

24:22
A bu, pan ddarfu i'r camelod yfed, gymryd o'r gwr glustlws aur, yn banner sici ei bwys; a dwy freichled i'w dwylo hi, yn ddeg sici o aur eu pwys.

24:23
Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad?

24:24
A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.

24:25
A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya.

24:26
A'r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr ARGLWYDD.

24:27
Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a'i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr ARGLWYDD fi i dŷ brodyr fy meistr.

24:28
A'r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.

24:29
Ac i Rebeca yr oedd brawd, a'i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i'r ffynnon.

24:30
A phan welodd efe y clustlws, a'r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd. Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.

24:31
Ac efe a ddywedodd. Tyred i mewn, ti fendigedig yr ARGLWYDD; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i'r camelod.

24:32
A'r gwr a aeth i'r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i'r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef.

24:33
A gosodwyd bwyd o'i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytaf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.

24:34
Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.

24:35
A'r ARGLWYDD a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod.

24:36
Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i'm meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.

24:37
A'm meistr a'm tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.

24:38
Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i'm mab.

24:39
A dywedais with fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i.

24:40
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ARGLWYDD yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i'm mab i o'm tylwyth, ac o dŷ fy nhad.

24:41
Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.

24:42
A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:

24:43
Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a'r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i'w yfed o'th ystên;

24:44
Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i'th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr ARGLWYDD i fab fy meistr.

24:45
A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a'i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg.

24:46
Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.

24:47
A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwylo hi:

24:48
Ac a ymgrymais, ac a addolais yr ARGLWYDD, ac a fendithiais ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab ef.

24:49
Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â'm meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy.

24:50
Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.

24:51
Wele Rebeca o'th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

24:52
A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i'r ARGLWYDD.

24:53
A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thiysau aur, a gwisgoedd, ac a'u roddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i'w brawd hi, ac i'w mam.

24:54
A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a'r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.

24:55
Yna y dywedodd ei brawd a'i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o'r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.

24:56
Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at y meistr.

24:57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi.

24:58 A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda'r gwr hwn? A hi a ddywedodd, Af.

24:59
A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a'i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion;

24:60
Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

24:61
Yna y cododd Rebeca, a'i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a'r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith.

24:62
Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai-roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau.

24:63
Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.

24:64
Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.

24:65
Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? A'r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd.

24:66
A'r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.

24:67
Ac Isaac a'i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a'i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.

PENNOD 25

25:1 Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a'i henw Cetura.

25:2
A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua.

25:3
A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim.

25:4
A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.

25:5
Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.

25:6
Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a'u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua'r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw.

25:7
A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thri ugain.

25:8
Ac Abraham a drengbdd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawm o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.

25:9
Ac Isaac ac Ismael ei feibion a'i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;

25:10
Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.

25:11
Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i DDUW fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.

25:12
A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham.

25:13
A dyma enwau meibion Ismaet, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,

25:14
Misma hefyd, a Duma, a Massa,

25:15
Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema.

25:16
Dyma hwy meibion Ismael, a dyrna eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd.

25:17
A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg at hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.

25:18
Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.

25:19
A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.

25:20
Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.

25:21
Ac Isaac a weddïodd ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy, a'r ARGLWYDD a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.

25:22
A'r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedddd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD.

25:23
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di; a'r naill bobl fydd cryfach na'r llall, a'r hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.

25:24
A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.

25:25
A'r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.

25:26
Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sawdl Esau, a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.

25:27
A'r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o'r maes, a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.

25:28
Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.

25:29
A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.

25:36
A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

25:31
A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth-fraint.

25:32
A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna'r enedigaeth-fraint hon i mi?

25:33
A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.

25:34
A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.

PENNOD 26

26:1 A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar;

26:2
A'r ARGLWYDD a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i'r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.

26:3
Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a'th fendithiaf; oherwydd i ti ac i'th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad.

26:4
A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i'th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:

26:5
Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a'm cyfreithiau.

26:6
Ac Isaac a drigodd yn Gerar.

26:7
A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi; canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw, rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg.

26:8
A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy'r ffenestr, a chanfod, ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig.

26:9
Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yn hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o’i phlegid hi.

26:10
A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig di; fel y dygasit arnom ni bechod.

26:11
A gorchmynnodd Abimelech i'r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â'r gŵr hwn, neu â'i wraig, a leddir yn farw.

26:12
Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A'r ARGLWYDD a'i bendithiodd ef.

26:13
A'r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.

26:14
Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a'r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef.

26:15
A'r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a'u caeasant hwy, ac a'u llanwasant â phridd.

26:16
Ac Abhimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni; canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.

26:17
Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.

26:18
Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gaeasai'r Philistiaid wedi marw Abraham, ac a enwodd enwau arnynt, yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.

26:19
Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.

26:20
A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec, oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef.

26:21
Cloddiasant hefyd bydew arall; ac ymrysonasant am hwnnw; ac efe a alwodd ei enw ef Sitna.

26:22
Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall, ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth, ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr ARGLWYDD arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.

26:23
Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer-seba.

26:24
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw DUW Abraham dy dad di: nac ofna, canys byddaf gyda thi, ac a'th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.

26:25
Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.

26:26
Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar, ac Ahussath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.

26:27
Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi ataf fi; gan i chwi fy nghasau, a'm gyrru oddi wrthych?

26:28
Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr ARGLWYDD gyda thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfamod â thi;

26:29
Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y'th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr ARGLWYDD.

26:30
Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwytasant ac a yfasant.

26:31
Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i'w gilydd: ac Isaac a'u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

26:32
A'r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.

26:33
Ac efe a'i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer-seba hyd y dydd hwn.

26:34
Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.

26:35
A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.

PENNOD 27

27:1 A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.

27:2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.

27:3 Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a'th fwa, a dos allan i'r maes, a hela i mi helfa.

27:4 A gwna i mi flasusfwyd o'r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y'th fendithio fy enaid cyn fy marw.

27:5 A Rebeca a glybu pan ddywedodd
Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i'r maes, i hela helfa i'w dwyn.

27:6 A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,

27:7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y'th fendithiwyf gerbron yr ARGLWYDD cyn fy marw.

27:8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti.

27:9 Dos yn awr i'r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a'n gwnaf hwynt yn fwyd blasus i'th dad, o'r fath a gar efe.

27:10 A thi a'u dygi i'th dad, fel y bwytao, ac y'th fendithio cyn ei farw.

27:11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn:

27:12 Fy nhad, ond odid, a'm teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith.

27:13 A'i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.

27:14 Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a'u dygodd at ei fam: a'i fam a wnaeth fwyd blasus o'r fath a garai ei dad ef.

27:15 Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf.

27:16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef:

27:17 Ac a roddes y bwyd blasus, a'r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.

27:18 Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?

27:19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf-anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithio dy enaid.

27:20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd. Am i'r
ARGLWYDD dy DDUW beri iddo ddigwyddo o'm blaen.

27:21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e.

27:22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad:
yntau a'i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a'r dwylo, dwylo Esau ydynt.

27:23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a'i bendithiodd ef.

27:24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.

27:25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytaf o helfa fy mab, fel y'th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.

27:26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab.

27:27 Yna y daeth efe yn nes, ac a'i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr ARGLWYDD.

27:28 A rhodded DUW i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:

27:29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a’th felltithio, a bendigedig a'th fendithio.

27:30 A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o'i hela.

27:31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a'i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwytaed o helfa ei fab, fel y'm bendithio dy enaid.

27:32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf-anedig Esau.

27:33 Ac Isaac a ddychrynodd a dychryn
mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a'i dug
i mi, a mi a fwyteais o'r cwbl cyn dy ddyfod, ac a'i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.

27:34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad.

27:35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.

27:36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a'm disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth-fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau?

27:37 Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a'i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnafi tithau, fy mab, weithian?

27:38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

27:39 Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod;

27:40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a'th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

27:41 Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith a'r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesau y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.

27:42 A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o'th blegid di, ar fedr dy ladd di.

27:43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;

27:44 Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;

27:45
Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yno yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd?

27:46
Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?

PENNOD 28

28:1
Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchmynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymer wraig o ferched Canaan.

28:2
Cyfod, dos i Mesopotamia, Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:

28:3
A DUW Hollalluog a’th fendithio, ac i’th ffrwythlono, ac a’th luosogo, fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd:

28:4
Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd DUW i Abraham.

28:5 Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.

28:6
Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan;

28:7
A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia;

28:8
Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;

28:9
Yna Esau a aeth at Ismael, ac gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.

28:10
A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tua Haran.

28:11
Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo’r.haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.

28:12
Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angylion DUW yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.

28:13
Ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw ARGLWYDD DDUW Abraham dy dad, a DUW Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.

28:14
A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.

28:15
Ac wele fi gyda thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: oherwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.

28:16
A Jacob a ddeffrodd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.

28:17
Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw’r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i DDUW, a dyma borth y nefoedd.

28:18
A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.

28:19
Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o’r cyntaf.

28:20
Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os DUW fydd gyda myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwyta, a dillad i’w gwisgo,

28:21
A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr ARGLWYDD yn DDUW i mi.

28:22
A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ DDUW; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymaf i ti.

PENNOD 29

29:1 A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.

29:2
Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau'r pydew.

29:3
Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau'r pydew yn ei lle.

29:4
A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi?
A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.

29:5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.

29:6
Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda'r defaid.

29:7
Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu'r anifeiliaid: dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.

29:8
A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.

29:9
Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda'r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.

29:10
A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.

29:11
A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

29:12
A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i'w thad.

29:13
A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cusanodd, ac a'i dug ef i'w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.

29:14
A dywedodd Laban wrtho ef. Yn ddiau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.

29:15
A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y'm gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?

29:16
Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.

29:17
A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg.

29:18
A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a'th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.

29:19
A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na'i rhoddi i ŵr arall; aros gyda mi.

29:20
Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.

29:21
A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy ny ddiau,) fel yr elwyf ati hi.

29:22
A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.

29:23
Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a'i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi.

29:24
A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.

29:25
A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y'th wasanaethais? a phaham y'm twyllaist?

29:26
A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

29:27
Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill.

29:28
A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29:29
Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

29:30
Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.

29:31
A phan welodd yr ARGLWYDD mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.

29:32
A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o'r ARGLWYDD ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a'm hoffa i.

29:33
A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd. Am glywed o'r ARGLWYDD mai cas ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.

29:34
A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lyn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.

29:35
A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr ARGLWYDD: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.


PENNOD 30
 30:1 Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi, ac onid e mi a fyddaf farw.

 30:2 A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle DUW, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?

 30:3 A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi, a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi.

 30:4 A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati.

 30:5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.

 30:6 A Rahel a ddywedodd, DUW a'm barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

 30:7 Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.

 30:8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â'm chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali.

 30:9 Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a'i rhoddes hi yn wraig i Jacob.

 30:10 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob.

 30:11 A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

 30:12 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.

 30:13 A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a'm galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.

 30:14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a'u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.

 30:15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab.

 30:16 A Jacob a ddaeth o'r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y'th brynais am fandragorau fy mab.
Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno.

 
30:17 A DUW a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.

 30:18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd DUW fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i'm gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.

 30:19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.

 30:20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd DUW fyfi a chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon.

 30:21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.

 30:22 A DUW a gofiodd Rahel, a DUW a wrandawodd aml, ac a agorodd ei chroth hi

 30:23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, DUW a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.

 30:24 A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.

 30:25 A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i'm bro, ac i'm gwlad fy hun.

 30:26 Dyro fy ngwragedd i mi, a'm plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.

 30:27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r ARGLWYDD fy mendithio i o'th blegid di.

 30:28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a'i rhoddaf. Y

 30:29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi.

 30:30 0blegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr ARGLWYDD a'th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i'm tŷ fy hun?

 30:31 Dywedodd yntau. Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.

 30:32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn du ymhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ymhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog.

 30:33 A'm cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi.

 30:34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di!

 30:35 Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a'r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a'u rhoddes dan law ei feibion ei hun.

 30:36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

 30:37 A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio'r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.

 30:38 Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai'r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

 30:39 A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a'r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.

 30:40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch-frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban, ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o'r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.

 30:41 A phob amser y cyfebrai'r defaid cryfaf, Jacob a osodai'r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail;

 30:42 Ond pan fyddai'r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a'r cryfaf eiddo Jacob.

 30:43 A'r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.

 

PENNOD 31

 31:1 Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i'n tad ni, ac o'r hyn ydoedd i'n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.

 31:2 Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt.

 31:3 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi.

 31:4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i'r maes, at ei braidd,

 31:5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a DUW fy nhad a fu gyda myfi.

 31:6 A chwi a wyddoch mai â'm holl allu y gwasanaethais eich tad.

 31:7 A'ch tad a'm twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd DUW iddo wneuthur i mi ddrwg.

 31:8 Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch-frithion.

 31:9 Felly DUW a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a'u rhoddes i mi.

 31:10 Bu hefyd yn amser cyfebru o'r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu'r praidd,) yn glych-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion.

 31:11 Ac angel DUW a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi.

 31:12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian
 dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu'r praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.

 31:13 Myfi yw DUW Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o'r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.

 31:14 A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?

 31:15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a'n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.

 31:16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug DUW oddi ar ein tad ni, nyni a'n plant a'i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd DUW wrthyt, gwna.

 31:17 Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a'i wragedd ar gamelod;

 31:18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a'i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.

 31:19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai'r delwau oedd gan ei thad hi.

 31:20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad:
 canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.

 31:21 Felly y ffodd efe â'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.

 
31:22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.

 31:23 Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a'i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.

 31:24 A DUW a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.

 31:25 Yna Laban a oddiweddodd Jacob:
a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd;
Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â'i frodyr ym mynydd Gilead.

 
31:26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.

 31:27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?

 

 31:28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a'm merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn.

 31:29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi

 ddrwg; ond DUW eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.

 31:30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i?

 31:31 A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais.

 31:32 Gyda'r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o'r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a'u lladratasai hwynt.

 31:33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt:
yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth

i babell Rahel.

 31:34 A Rahel a gymerasai'r delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd.

 31:35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd,
ac ni chafodd y delwau.

 31:36 A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan
erlid ohonot ar fy ôl ?

 31:37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.

 31:38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a'th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd.

 31:39 Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o'm llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a'r hyn a ladrateid y nos.

 31:40 Bûm y dydd, y gwres a'm treuliodd, a rhew y nos; a'm cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.

 31:41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.

 31:42 Oni buasai fod DUW fy nhad, DUW Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. DUW a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a'th geryddodd di neithiwr.

 31:43 Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a'r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a'r praidd yw fy mhraidd i;
a'r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i'm merched hyn, ac i'w meibion hwynt y rhai a esgorasant?

 31:44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.

 31:45 A Jacob a gymerth garreg, ac a'i cododd hi yn golofn.

 31:46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd.

 31:47 A Laban a'i galwodd hi Jeger-Sahadwtha: a Jacob a'i galwodd hi Galeed.

 31:48 A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,

 31:49 A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.

 31:50 Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, DUW sydd dyst rhyngof fi a thithau.

 31:51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi:

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

 31:52 Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na'r golofn hon ataf fi, er niwed.

 
31:53 DUW Abraham, a DUW Nachor, a farno rhyngom ni, DUW eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.

 31:54 Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.

 31:55 A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a'i ferched, ac a'u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i'w fro ei hun.

 

PENNOD 32

 32:1 A Jacob a gerddodd i'w daith yntau: ac angylion DUW a gyfarfu ag ef.

 32:2 A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll DUW: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.

 32:3 A Jacob a anfonodd genhadau o'i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:

 32:4 Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.

 32:5 Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i'm harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

 32:6 A'r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i'th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef.

 32:7 Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, a'r eidionau, a'r camelod, yn ddwy fintai;

 32:8 Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.

 32:9 A dywedodd Jacob, O DDUW fy nhad Abraham, a DUW fy nhad Isaac, O ARGLWYDD, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i'th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!

 32:10 Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â'th was: oblegid â'm ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.

 32:11 Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a'm taro, a'r fam gyda'r plant.

 32:12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a'th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

 32:13 Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymerth efe anrheg i'w frawd Esau;

 32:14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,

 32:15 Deg ar hugain o gamelod blithion a'u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion.

 32:16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o'r neilitu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a'i gilydd.

 32:17 Ac efe a orchmynnodd i'r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn a thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?

 32:18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i'm harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hol ni.

 32:19 Felly y gorchmynnodd hefyd i'r ail, ac i'r trydydd, ac i'r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.

 32:20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.

 32:21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.

 32:22 Ac efe a gyfododd y noson honno, a gymerth ei ddwy wraig, a'i ddwy lawforwyn, a'i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc.

 32:23 Ac a'u cymerth hwynt, ac a'u troswglwyddodd trwy'r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.

 32:24 A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi'r wawr.

 32:25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswilt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.

 32:26 A'r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni'th ollyngaf, oni'm bendithi.

 32:27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob.

 32:28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.

 32:29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a'i bendithiodd ef.

 32:30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais DDUW wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.

 32:31 A'r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o'i glun.

 32:32 Am hynny plant Israel ni fwytant y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.

 

PENNOD 43

 33:1 A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn.

 33:2 Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a'u plant hwy, a Lea a'i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf.

 33:3 Ac yntau a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

 33:4 Ac Esau a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd ef: a hwy a wylasant.

 33:5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu'r gwragedd, a'r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes DUW o'i ras i'th was di.

 33:6 Yna y llawforynion a nesasant, hwynt-hwy a'u plant, ac a ymgrymasant.

 33:7 A Lea a nesaodd a'i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant.

 33:8 Ac efe a ddywedodd. Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

 33:9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd, bydded i ti yr hyn sydd gennyt.

 33:10 A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o'm llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb DUW, a thi yn fodlon i mi.

 33:11 Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid DUW a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd;

 33:12 Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o'th flaen di.

 33:13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a'r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna'r holl braidd.

 33:14 Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo'r anifeiliaid sydd o'm blaen i, ac y gallo'r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

 33:15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o'r bobl sydd gyda mi. Ymau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

 33:16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

 33:17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

 33:18 Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia, ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

 33:19 Ac a brynodd ran o'r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian:

 33:20 Ac a osododd yno allor, ac a'i henwodd El-Elohe-Israel.

 

PENNOD 34

 34:1 A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.

 34:2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a'i canfu hi, ac a'i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a'i treisiodd.

 34:3 A'i enaid ef a lynodd with Dina merch Jacob, ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances.

 34:4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi.

 34:5 A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch: (a'i feibion ef oedd gyda'i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.

 34:6 A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef.

 34:7 A meibion Jacob a ddaethant o'r maes, wedi clywed ohonynt; a'r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.

 34:8 A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, atolwg, yn wraig iddo ef.

 34:9 Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymerwch ein merched ni i chwithau.

 34:10 A chwi a gewch breswylio gyda ni, a'r wlad fydd o'ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.

 34:11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a'r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.

 34:12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig.

 34:13 A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt;

 34:14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i wr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.

 34:15 Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi;

 34:16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd-drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.

 34:17 Ond oni wrandewch arnom ni i'ch enwaedu; yna y cymerwn ein merch, ac a awn ymaith.

 34:18 A'u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor, ac yng ngolwg Sichem mab Hemor.

 34:19 Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dy ei dad.

 34:20 A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,

 34:21 Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu negesau ynddi; a'r wlad, wele, sydd ddigon eang iddynt hwy: cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.

 
34:22 Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyda ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.

 34:23 Eu hanifeiliaid hwynt, a'u cyfoeth hwynt, a'u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddom ni fyddant hwy? yn unig cytunwn â hwynt, a hwy a drigant gyda ni.

 34:24 Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a'r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

 34:25 A bu ar y trydydd dydd, pan iddynt hwy yn ddolurus, gymryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwryw.

 34:26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.

 
34:27 Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a ysbeiliasant y ddinas, am halogi ohonynt eu chwaer hwynt.

 34:28 Cymerasant eu defaid hwynt, a^u gwartheg, a'u hasynnod hwynt, a'r hyn oedd yn y ddinas, a'r hyn oedd yn y maes,

 34:29 A'u holl gyfoeth hwynt; a'u holl rai bychain, a'u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.

 34:30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a'r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ.

 
34:30 Hwythau a atebasant, Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni?


PENNOD 35


 35:1 A DUW a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno;
a gwna yno allor i DDUW, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.

 35:2 Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad;

 35:3 A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i DDUW, yr hwn a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais.

 35:4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a'r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a'u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.

 35:5 A hwy a gychwynasant: ac ofn DUW oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.

 35:6 A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef;

 35:7 Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El-bethel, oblegid yno yr ymddangosasai DUW iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd.

 
35:8 A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhonbacuth.

 35:9 Hefyd DUW a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a'i bendithiodd ef.

 35:10 A DUW a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.

 35:11 Hefyd DUW a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di.

 35:12 A'r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.

 
35:13 A DUW a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.

 35:14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod-offrwm, ac a dywalltodd olew arni.

 
35:15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd DUW ag ef, Bethel.

 35:16 % A hwy a aethant ymaith o Bethel, ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.

 35:17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i'r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.

 35:18 Darfu hefyd, wrth ymadael o'i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben-oni: ond ei dad a'i henwodd ef Benjamin.

 35:19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.

 35:20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.

 35:21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o'r tu hwnt i Migdal-Edar.

 35:22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad, a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg:

 35:23 Meibion Lea, Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon.

 35:24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin.

 35:25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali.

 35:26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.

 35:27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer-Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.

 35:28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd.

 35:29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a'i feibion, Esau a Jacob, a'i claddasant ef.

PENNOD 36

 

 36:1 A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom.

 36:2 Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;

 36:3 Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.

 36:4 Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.

 36:5 Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.

 36:6 Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a'i feibion, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl ysgrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i'r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.

 36:7 Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd-drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.

 36:8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.

 36:9 A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.

 36:10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.

 
36:11 A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.

 36:12 A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.

 36:13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

 36:14 Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.

 36:15 Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf-anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas,

 36:16 Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.

 36:17 A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.

 36:18 Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau.

 36:19 Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.

 36:20 Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.

 
36:21 A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.

 
36:22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.

 
36:23 A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.

 36:24 A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.

 
36:25 A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.

 
36:26 Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

 36:27 Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan.

 36:28 Dyma feibion Disan; Us ac Aran.

 36:29 Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana,

 36:30 Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.

 36:31 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasau brenin ar feibion Israel.

 
36:32 A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom; ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

 36:33 A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef.

 36:34 Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.

 36:35 A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.

 36:36 Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef.

 36:37 A bu Sumla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

 36:38 A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.

 36:39 A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

 36:40 A dyma enwau y dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, dug Timna, dug Alfa, dug Jetheth,

 36:41 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,

 36:42 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

 36:43 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.

 

PENNOD 37

 37:1 A thrigodd Jacob yng ngwlad ymdaith ei dad, yng ngwlad Canaan.

 37:2 Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda'i frodyr ar y praidd: a'r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.

 37:3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na'i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef.

 37:4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na'i holl frodyr, hwy a'i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.

 37:5 A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a'i mynegodd i'w frodyr: a hwy a'i casasant ef eto yn ychwaneg.

 37:6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.

 37:7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i'm hysgub i.

 37:8 A'i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasau ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.

 37:9 Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a'i mynegodd i'w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a'r lleuad, a'r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi.

 37:10 Ac efe a'i mynegodd i'w dad, ac i'w frodyr. A'i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a'th fam, a'th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti?

 37:11 A'i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.

 37:12 A'i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.

 37:13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a'th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.

 37:14 A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i'th frodyr, a pha lwyddiant sydd i'r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a'i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

 37:15 A chyfarfu gŵr ag ef, ac wele efe yn crwydro yn y maes: a'r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd. Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?

 37:16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi, mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?

 37:17 A'r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a'u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a'u cafodd hwynt yn Dothan.

 37:18 Hwythau a'i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, i'w ladd ef.

 37:19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.

 37:20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o'r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.

 37:21 A Reuben a glybu, ac a hachubodd ef o'u llaw hwynt, ac a ddywedodd, Na laddwn ef.

 37:22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o'u llaw hwynt, i'w ddwyn eilwaith at ei dad.

 37:23 A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef.

 37:24 A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a'r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.

 37:25 A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i'r Aifft, a'u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.

 37:26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?

 37:27 Deuwch, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, oblegid ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe. A'i frodyr a gytunasant.

 37:28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o'r pydew, ac a werthasant Joseff i'r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i'r Aifft.

 37:29 A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;

 37:30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi?

 37:31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed.

 37:32 Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a'i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e.

 37:33 Yntau a'i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff.

 37:34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.

 37:35 A'i holl feibion, a'i holl ferched, a godasant i'w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i'r beddrod: a'i dad a wylodd amdano ef.

 37:36 A’r Midianiaid a'i gwerthasant ef i'r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a'r distain.

PENNOD 38


 38:1 Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, a'i enw Hira.

 38:2 Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan, a'i enw ef oedd Sua; ac a’i cymerodd hi, ac a aeth ati hi.

 38:3 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar <MI" i •c cfc a alwodd ei enw ef Er.

 38:4 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.

 38:5 A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Sela. Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.

 38:6 A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf-enedig, a'i henw Tamar.

 38:7 Ac yr oedd Er, cyntaf-anedig Jwda, yn ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a'i lladdodd ef.

 38:8 A Jwda a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrioda hi, a chyfod had i'th frawd.

 38:9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai'r had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi ohono had i'w frawd.

 38:10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr ARGLWYDD: am hynny efe a’i lladdodd yntau.

 38:11 Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynyddo fy mab Sela: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigiodd yn nhŷ ei thad.

 38:12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a'i gyfaill Hira yr Adulamiad.

 38:13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid.

 38:14 Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a'i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

 38:15 A Jwda a'i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.

 38:16 Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd. Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?

 38:17 Yntau a ddywedodd.
Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?

 38:18 Yntau a ddywedodd. Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a'th freichledau, a'th ffon sydd yn dy law. Ac efe a'u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef.

 38:19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.

 38:20 A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.

 38:21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd. Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.

 38:22 Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.

 38:23 A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.

 38:24 Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a buteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Jwda, Dygwch hi allan, a llosger hi.

 38:25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O'r gŵr biau'r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, atolwg, eiddo pwy yw y sêl, a'r breichledau, a'r ffon yma.

 38:26 A Jwda a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, oherwydd na roddais hi i'm mab Sela: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.

 38:27 Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.

 38:28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a'r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

 38:29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y toriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.

 38:30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Sera.

PENNOD 39


 39:1 A Joseff a ddygwyd i waered i'r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a'i ddistain, a'i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a'i dygasant ef i waered yno.

 39:2 Ac yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad.

 39:3 A'i feistr a welodd fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.

 39:4 A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a'i gwasanaethodd ef: yntau a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

 39:5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i'r ARGLWYDD fendithio tŷ'r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.

 39:6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a'r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Joseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.

 39:7 A darfu wedi'r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi.

 39:8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.

 39:9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn DUW!

 39:10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi.

 39:11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i'r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

 39:12 Hithau a'i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

 39:13 A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan,

 39:14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i'n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi, minnau a waeddais â llef uchel,

 39:15 A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

 39:16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

 39:17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i'm gwaradwyddo;

 39:18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.

 39:19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr enynnodd ei lid ef.

 39:20 A meistr Joseff a'i cymerth ef, ac a'i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenin yn rhwym.
Ac yno y bu efe yn y carchardy.

 39:21 Ond yr ARGLWYDD oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.

 
39:22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.

 39:23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr ARGLWYDD gydag ef; a'r hyn a wnâi efe, yr ARGLWYDD a'i llwyddai.

PENNOD 40

 40:1 A darfu wedi'r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a'r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.

 40:2 A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a'r pen-pobydd:

 40:3 Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.

 40:4 A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt mewn dalfa dros amser.

 40:5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un at ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

 40:6 A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

 40:7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?

 40:8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.

 40:9 A'r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;

 40:10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaendarddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

 40:11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.

 40:12 A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw'r tair cainc.

 40:13 O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a'th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.

 40:14 Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, a mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o'r tŷ hwn:

 40:15 Oblegid yn lladrad y'm lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.

 40:16 Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.

 40:17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a'r ehediaid yn eu bwyta hwynt o'r cawell oddi ar fy mhen.

 40:18 A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.

 40:19 O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a'th groga di ar bren; a'r ehediaid a fwytant dy gnawd di oddi amdanat.

 40:20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a'r pen-pobydd ymysg ei weision.

 40:21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.

 40:22 A'r pen-pobydd a grogodd efe, fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.

 40:23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.
PENNOD 41

 41:1 Yna ymhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharo freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.

 41:2 Ac wele, yn esgyn o'r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

 41:3 Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o'r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon.

 41:4 A'r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision.
Yna y dihunodd Pharo.

 41:5 Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.

 41:6 Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.

 
41:7 A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd.

 41:8 A'r bore y bu i'w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a'i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a'u dehonglai hwynt i Pharo.

 41:9 % Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.

 41:10 Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a'm rhoddes mewn carchar yn nhy'r distain, myfi a'r pen-pobydd.

 
41:11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.

 41:12 Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i'r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe.

 
41:13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i'm swydd; ac yntau a grogodd efe.

 41:14 Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a'i cyrchasant efo'r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo.

 41:15 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i'w ddehongli.

 41:16 A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; DUW a etyb lwyddiant i Pharo.

 41:17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

 41:18 Ac wele yn esgyn o'r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg, ac mewn gweirglodd-dir y porent.

 41:19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.

 41:20 A'r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf.

 41:21 Ac er eu myned i'w boliau, ni wyddid iddynt fyned i'w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad.
Yna mi a ddeffroais.

 41:22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen.

 41:23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt.

 41:24 A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a'i dehonglai i mi.

 41:25 A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un: yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo.

 41:26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.

 41:27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

 
41:28 Hyn yw'r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a'i dangasodd i Pharo.

 41:29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft.

 41:30 Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a'r newyn a ddifetha'r wlad.

 41:31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

 41:32 Hefyd am ddyblu'r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau'r peth gan DDUW, a bod DUW yn brysio i'w wneuthur.

 41:33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharo ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft.

 41:34 Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra.

 41:35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

 41:36 A bydded yr ymborth yng nghadw i'r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.

 41:37 A'r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision.

 41:38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd DUW ynddo?

 41:39 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o DDUW i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.

 41:40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi.

 41:41 Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft.

 41:42 A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a'i rhoddes hi ar law Joseff, ac a'i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,

 41:43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o'i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft.

 41:44 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na'i droed, trwy holl wlad yr Aifft.

 41:45 A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath-Panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft,

 41:46 A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

 41:47 A'r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.

 41:48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.

 41:49 A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd a'i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.

 41:50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddug Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

 41:51 A Joseff a alwodd enw ei gyntaf-anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) DUW a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.

 41:52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) DUW a'm ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.

 41:53 Darfu'r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft.

 41:54 A'r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara.

 41:55 A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

 41:56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i'r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft.

 41:57 A daeth yr holl wledydd i'r Aifft at Joseff i brynu; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.
PENNOD 42

 42:1 Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?

 42:2 Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bom fyw, ac na byddom feirw.

 42:3 A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i'r Aifft.

 42:4 Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.

 42:5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod, oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan.

 42:6 A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

 42:7 A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a'u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.

 42:8 A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

 42:9 A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

 42:10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

 42:11 Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

 42:12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

 42:13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni, a'r llall nid yw fyw.

 42:14 A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

 42:15 Wrth hyn y'ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o'ch brawd ieuangaf yma.

 42:16 Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi.

 42:17 As efe a'u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau.

 42:18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni DUW yr wyf fi.

 42:19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o'ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i'ch tylwyth.

 42:20 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

 42:21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

 42:22 A Reuben a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.

 42:23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

 42:24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

 42:25 Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i'w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

 42:26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.

 42:27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.

 42:28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth DUW i ni hyn?

 42:29 A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

 42:30 Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.

 42:31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.

 42:32 Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni yng ngwlad Canaan.

 42:33 A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o'ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

 42:34 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.

 42:35 Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a'u tad, ofni a wnaethant.

 42:36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

 42:37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a'i dygaf ef atat ti eilwaith.

 42:38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.
 
PENNOD 43


43:1 A’r newyn oedd drwm yn y wlad.

43:2 A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o'r Aifft, ddywedyd o'u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

43:3 A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.

43:4 Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.

43:5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.

43:6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i'r gŵr fod i chwi eto frawd?

43:7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?

43:8 Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a'n plant hefyd.

43:9 Myfi a fechnïaf amdano ef, o'm llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a'i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i'th erbyn byth.

43:10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.

43:11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau'r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i'r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.

43:12 Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.

43:13 Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr.

43:14 A DUW Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y'm diblantwyd, a ddiblentir.

43:15 A'r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i'r Aifft, a safasant gerbron Joseff.

43:16 A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i'r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd.

43:17 A'r gŵr a wnaeth fel y dywedodD Joseff: a'r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff.

43:18 A'r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i'n cymryd ni yn gaethion, a'n hasynnod hefyd.

43:19 A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,

43:20 Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth.

43:21 A bu, pan ddaethom i'r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a'i dygasom eilwaith yn ein llaw.

43:22 Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau.

43:23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich DUW chwi, a DUW eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy.

43:24 A'r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i'w hasynnod hwynt.

43:25 Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.

43:26 Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i'r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr.

43:27 Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto?

28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni, byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.

29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun, ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, DUW a roddo ras i ti, fy mab.

30 A Joseffa frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a wylodd yno.

31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.

32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i'r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai'r Eifftiaid fwyta bara gyda'r Hebreaid, oherwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Eifftiaid.

33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf-anedig yn ô1 ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.

34 Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.

PENNOD 44
 

44:1 Ac efe a orchmynnodd i'r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, llanw sachau'r gwŷr o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un yng ngenau ei sach.

44:2 A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff, yr hwn a ddywedasai efe.

44:3 Y bore a oleuodd, a'r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a'u hasynnod.

44:4 Hwythau a aethant allan o'r ddinas. Ac nid nepwll, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?

44:5 Onid dyma'r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

44:6 Yntau a'u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

44:7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato DUW i'th weision di wneuthur y cyfryw beth.

44:8 Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?

44:9 Yr hwn o'th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i'm harglwydd.

44:10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.

44:11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan.

44:12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a'r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin.

44:13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i'r ddinas.

44:14 A daeth Jwda a'i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.

44:15 A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth?

44:16 A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd DUW allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i'm harglwydd, ie nyni, a'r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd.

44:17 Yntau a ddywedodd, Na ato DUW i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.

44:18 Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.

44:19 Fy arglwydd a ymofynnodd â'i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?

44:20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a'i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o'i fam ef; a'i dad sydd hoff ganddo ef.

44:21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf ft, fel y gosodwyf fy llygaid arno.

44:22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â'i dad: oblegid os ymedy efe â'i dad, marw fydd ei dad.

44:23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.

44:24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.

44:25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

44:26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni.

44:27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;

44:28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:

44:29 Os cymerwch hefyd hwn ymaith o'm golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i'm penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.

44:30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau;)

44:31 Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a'th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.

44:32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i'm tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.

44:33 Gan hynny weithian, atolwg, arhosed dy was dros y llanc, yn was i'm harglwydd; ac aed y llanc i fyny gyda'i frodyr:

44:34 Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad, a'r llanc heb fod gyda mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.

PENNOD 45

45:1 Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Joseff a'i frodyr.

45:2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu'r Eifftiaid, a chlybu tŷ Pharo.

45:3 A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A'i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.

45:4 Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i'r Aifft.

45:5 Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd DUW fyfi o'ch blaen chwi.

45:6 Oblegid dyma ddwy flynedd o'r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.

45:7 A DUW a'm hebryngodd i o'ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.

45:8 Ac yr awr hon nid chwi a'm hebryngodd i yma, ond DUW: ac efe a'm gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.

45:9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: DUW a'm gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:

45:10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a'th feibion, a meibion dy feibion, a'th ddefaid, a'th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:

45:11 Ac yno y'th borthaf; (oblegid pum mlynedd o'r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a'th deulu, a'r hyn oll sydd gennyt.

45:12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.

45:13 Mynegwch hefyd i'm tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a'r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.

45:14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.

45:15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.

45:l6 A'r gair a ddaeth i dŷ Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Joseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision.

45:17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;

45:18 A chymerwch eich tad, a'ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad.

45:19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i'ch rhai bach, ac i'ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch.

45:20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi.

45:21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.

45:22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.

45:23 Hefyd i'w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i'w dad ar hyd y ffordd.

45:24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.

45:25 Felly yr aethant i fyny o'r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;

45:26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft.
Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.

45:27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i'w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt.

45:28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.

PENNOD 46

46:1 Yna y cychwynnodd Israel, a'r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i DDUW ei dad Isaac.

46:2 A llefarodd DUW wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob.
Yntau a ddywedodd, Wele fi.

46:3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW, DUW dy dad: nac ofna fyned i waered i'r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

46:4 Myfi a af i waered gyda thi i'r Aifft; a myfi gan ddwyn a'th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

46:5 A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a'u rhai bach, a'u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i'w ddwyn ef.

46:6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a'u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i'r Aifft, Jacob, a'i holl had gydag ef:

46:7 Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a'i holl had, a ddug efe gydag ef i'r Aifft.

46:8 A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft, Jacob a'i feibion Reuben, cynfab Jacob.

46:9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.

46:10 A meibion Simeon, Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.

46:11 Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari. '

46:12 ^ A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.

46:13 Meibion Issachar hefyd. Tola, a Phufa, a Job, a Simron.

46:14 A meibion Sabulon, Sered, ac Elon, a Jaleel.

46:15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a'i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.

46:16 A meibion Gad, Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.

46:17 A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia, Heber a Malchiel.

46:18 Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.

46:19 Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin.

46:20 Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

46:21 A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.

46:22 Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.

46:23 A meibion Dan oedd Husim.

46:24 A meibion Nafftali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Silem.

46:25 Dyma feibion Bilha, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith dyn oll.

46:26 Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i'r Aifft, yn dyfod allan o'i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain.

46:27 A meibion Joseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i'r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.

46:28 Ac efe a anfonodd Jwda o'i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen.

46:29 A Joseff a baratodd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.

46:30 A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto.

46:31 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi.

46:32 A'r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a'u gwartheg, a’i hyn oll oedd ganddynt.

46:33 A phan alwo Pharo amdanoch, dywedyd, Beth yw eich gwaith?

46:34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o'u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a'n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Eifftiaid yw pob defaid.

PENNOD 47
 

47:1 Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a'u defaid, a'u gwartheg, a'r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen.

47:2 Ac efe a gymerth rai o'i frodyr, sef pum dyn, ac a'u gosododd hwynt o flaen Pharo.

47:3 A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a'n tadau hefyd.

47:4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i'r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.

47:5 A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a'th frodyr a ddaethant atat.

47:6 Tir yr Aifft sydd o'th flaen; cyflea dy dad a'th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.

47:7 A dug Joseff Jacob ei dad, ac a'i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo.

47:8 A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?

47:9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.

47:10 A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.

47:11 A Joseff a gyfleodd ei dad a'i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aiffit, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo.

47:12 Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a'i frodyr, a holl dylwyth ei dad, a bara, yn ôl eu teuluoedd.

47:13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

47:14 Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo.

47:15 Pan ddarfu'r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu'r arian.

47:16 A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu'r arian.

47:17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a'u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

47:18 A phan ddarfu'r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a'n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a'n tir.

47:19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a'n tir? prŷn ni a'n tir am fara; a nyni a'n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo'r tir yn anghyfannedd.

47:20 A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.

47:21 Y bobl hefyd, efe a'u symudodd hwynt i ddinasoedd, o'r naill gŵr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.

47:22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i'r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a'u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

47:23 Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a'ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

47:24 A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o'r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i'r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i'r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i'ch rhai bach.

47:25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.

47:26 A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.

47:27 Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

47:28 Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd.

47:29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft:

47:30 Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o'r Aifft, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air.

47:31 Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho.
Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.

PENNOD 48

48:1 A bu, wedi'r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.

48:2 A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat.
Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

48:3 A dywedodd Jacob wrth Joseff, DUW, Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a'm bendithiodd:

48:4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a'th wnaf yn ffrwythlon, ac a'th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y'th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i'th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.

48:5 Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i'r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.

48:6 A'th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.

48:7 A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.

48:8 A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?

48:9 A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd DUW i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a'u bendithiaf hwynt.

48:10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a'u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.

48:11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele parodd DUW i mi weled dy had hefyd.

48:12 A Joseff a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

48:13 Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a'u nesaodd hwynt ato ef.

48:14 Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

48:15 Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, DUW, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, DUW, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

48:16 Yr angel yr hwn a'm gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

48:17 Pan welodd Joseff osod o'i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

48:18 Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma'r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

48:19 A'i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a'i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

48:20 Ac efe a'u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed DUW di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.

48:21 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw, a bydd DUW gyda chwi, ac efe a'ch dychwel chwi i dir eich tadau.

48:22 A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa.

PENNOD 49

49:1 Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.

49:2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.

49:3 Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.

49:4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.

49:5 Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.

49:6 Na ddeled fy enaid i'w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â'u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o'u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.

49:7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a'u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.

49:8 Tithau, Jwda, dy frodyr a'th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.

49:9 Cenau llew wyt ti, Jwda; o'r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a'i cyfyd ef?

49:10 Nid ymedy'r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.

49:11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed y grawnwin.

49:12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.

49:13 Sabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a'i derfyn fydd hyd Sidon.

49:14 Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.

49:15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.

49:16 Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.

49:17 Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau'r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

49:18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, ARGLWYDD.

49:19 Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.

49:20 O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

49:21 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

49:22 Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.

49:23 A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i casasant ef.

49:24 Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus DDUW Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:

49:25 Trwy DDUW dy dad, yr hwn a'th gynorthwya, a'r Hollalluog, yr hwn a'th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, a bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, a bendithion y bronnau a'r groth.

49:26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

49:27 Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty'r ysglyfaeth, a'r hwyr y rhan yr ysbail.

49:28 Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma'r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

49:29 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda'm tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;

49:30 Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.

49:31 Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.

49:32 Meddiant y maes, a'r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

49:33 Pan orffennodd Jacob orchymyn i'w feibion, efe a dynnodd ei draed i'r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

PENNOD 50

50:1 Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef.

50:2 Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.

50:3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.

50:4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,

50:5 Fy nhad a'm tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y'm cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.

50:6 A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y'th dyngodd.

50:7 A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,

50:8 A holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a'u defaid a'u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

50:9 Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

50:10 A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

50:11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.

50:12 A'i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.

50:13 Canys ei feibion a'i dygasant ef i wlad Canaan, ac a'i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda'r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.

50:14 A dychwelodd Joseff i'r Aifft, efe, a'i frodyr, a'r rhai oil a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.

50:15 Pan welodd brodyr Joseff farw o'u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a'n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.

50:16 A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,

50:17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseff, Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a'u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.

50:18 A'i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.

50:19 A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch, canys a ydwyf fi yn lle DUW?

50:20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i'm herbyn; ond DUW a'i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.

50:21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a'ch cynhaliaf chwi, a'ch rhai bach. Ac efe a'u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

50:22 A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg.

50:23 Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff.

50:24 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a DUW gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a'ch dwg chwi i fyny o'r wlad hon, i'r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.

50:25 A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, DUW gan eich gofwyo a'ch gofwya chwi, dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.

50:26 A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a'i peraroglasant ef, ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.

DIWEDD
·····
 

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

free invisible hit counter
Edrychwych ar fy ystadegau