1277ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysegr-Lân yn yr iaith Gymraeg. La Bíblia en gal·lès. La Biblio en la kimra lingvo. Dhə Báibəl in Welsh. The Bible in Welsh.


http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_genesis_01_1277ke.htm

0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân:
(1) Genesis (yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible:
(1)
Genesis (in Welsh and English)

 

(delw 7330)

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.
23 03 2002 Pennodau / Chapters 1-4;
18 06 2002 Pennodau / Chapters 5-18;
26 02 2003 Pennodau / Chapters 19-50


 1222k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig

 

····· 

 

LLYFR CYNTAF MOSES YR HWN A ELWIR

GENESIS

THE FIRST BOOK OF MOSES CALLED

GENESIS

 



PENNOD 1
 
1:1 Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a’r ddaear.
1:1 In the beginning God created the heaven and the earth.
 
1:2 A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
1:2 And the earth was without form, and void; and darkness was upon the face of the deep. And the Spirit of God moved upon the face of the waters.
 
1:3 A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.
1:3 And God said, Let there be light: and there was light.
 
1:4 A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.
1:4 And God saw the light, that it was good: and God divided the light from the darkness.
 
1:5 A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
1:5 And God called the light Day, and the darkness he called Night. And the evening and the morning were the first day.
 
1:6 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd.
1:6 And God said, Let there be a firmament in the midst of the waters, and let it divide the waters from the waters.
 
1:7 A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi at y ffurfafen: ac felly y bu.
1:7 And God made the firmament, and divided the waters which were under the firmament from the waters which were above the firmament: and it was so.
 
1:8 A’r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.
1:8 And God called the firmament Heaven. And the evening and the morning were the second day.
 
1:9 DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.
1:9 And God said, Let the waters under the heaven be gathered together unto one place, and let the dry land appear: and it was so.
 
1:10 A’r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd.
1:10 And God called the dry land Earth; and the gathering together of the waters called he Seas: and God saw that it was good.
 
1:11 A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt at y ddaear: ac felly y bu.
1:11 And God said, Let the earth bring forth grass, the herb yielding seed, and the fruit tree yielding fruit after his kind, whose seed is in itself, upon the earth: and it was so.
 
1:12 A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd.
1:12 And the earth brought forth grass, and herb yielding seed after his kind, and the tree yielding fruit, whose seed was in itself, after his kind: and God saw that it was good.
 
1:13 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.
1:13 And the evening and the morning were the third day.
 
1:14 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
1:14 And God said, Let there be lights in the firmament of the heaven to divide the day from the night; and let them be for signs, and for seasons, and for days, and years:
 
1:15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
1:15 And let them be for lights in the firmament of the heaven to give light upon the earth: and it was so.
 
1:16 A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe.
1:16 And God made two great lights; the greater light to rule the day, and the lesser light to rule the night: he made the stars also.
 
1:17 Ac, yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear,
1:17 And God set them in the firmament of the heaven to give light upon the earth,
 
1:18 Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd.
1:18 And to rule over the day and over the night, and to divide the light from the darkness: and God saw that it was good.
 
1:19 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.
1:19 And the evening and the morning were the fourth day.
 
1:20 DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.
1:20 And God said, Let the waters bring forth abundantly the moving creature that hath life, and fowl that may fly above the earth in the open firmament of heaven.
 
1:21 A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
1:21 And God created great whales, and every living creature that moveth, which the waters brought forth abundantly, after their kind, and every winged fowl after his kind: and God saw that it was good.
 
1:22 A DUW a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear,
1:22 And God blessed them, saying, Be fruitful, and multiply, and fill the waters in the seas, and let fowl multiply in the earth.
 
1:23 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.
1:23 And the evening and the morning were the fifth day.
 
1:24 DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.
1:24 And God said, Let the earth bring forth the living creature after his kind, cattle, and creeping thing, and beast of the earth after his kind: and it was so.
 
1:25 A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, ar anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
1:25 And God made the beast of the earth after his kind, and cattle after their kind, and every thing that creepeth upon the earth after his kind: and God saw that it was good.
 
1:26 DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
1:26 And God said, Let us make man in our image, after our likeness: and let them have dominion over the fish of the sea, and over the fowl of the air, and over the cattle, and over all the earth, and over every creeping thing that creepeth upon the earth.
 
1:27 Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.
1:27 So God created man in his own image, in the image of God created he him; male and female created he them.
 
1:28 DUW hefyd a’u bendigodd hwynt, a DUW ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth a ymsymudo ar y ddaear.
1:28 And God blessed them, and God said unto them, Be fruitful, and multiply, and replenish the earth, and subdue it: and have dominion over the fish of the sea, and over the fowl of the air, and over every living thing that moveth upon the earth.
 
1:29 A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.
1:29 And God said, Behold, I have given you every herb bearing seed, which is upon the face of all the earth, and every tree, in the which is the fruit of a tree yielding seed; to you it shall be for meat.
 
1:30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.
1:30 And to every beast of the earth, and to every fowl of the air, and to every thing that creepeth upon the earth, wherein there is life, I have given every green herb for meat: and it was so.
 
1:31 A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly, yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.
1:31 And God saw every thing that he had made, and, behold, it was very good. And the evening and the morning were the sixth day.

PENNOD 2
 
2:1 Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt.
2:1 Thus the heavens and the earth were finished, and all the host of them.
 
2:2 Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd DUW ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
2:2 And on the seventh day God ended his work which he had made; and he rested on the seventh day from all his work which he had made.
 
2:3 A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteidddiodd ef; oblegid ynddo y gorffwysai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i’w wneuthur.
2:3 And God blessed the seventh day, and sanctified it: because that in it he had rested from all his work which God created and made.
 
2:4 Dyma genedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,
2:4 These are the generations of the heavens and of the earth when they were created, in the day that the LORD God made the earth and the heavens,
 
2:5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear; a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio’r ddaear.
2:5 And every plant of the field before it was in the earth, and every herb of the field before it grew: for the LORD God had not caused it to rain upon the earth, and there was not a man to till the ground.
 
2:6 Ond tarth a esgynnodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
2:6 But there went up a mist from the earth, and watered the whole face of the ground.
 
2:7 A’r ARGLWYDD Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.
2:7 And the LORD God formed man of the dust of the ground, and breathed into his nostrils the breath of life; and man became a living soul.
 
2:8 Hefyd yr ARGLWYDD Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
2:8 And the LORD God planted a garden eastward in Eden; and there he put the man whom he had formed.
 
2:9 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear.
2:9 And out of the ground made the LORD God to grow every tree that is pleasant to the sight, and good for food; the tree of life also in the midst of the garden, and the tree of knowledge of good and evil.
 
2:10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
2:10 And a river went out of Eden to water the garden; and from thence it was parted, and became into four heads.
 
2:11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:
2:11 The name of the first is Pison: that is it which compasseth the whole land of Havilah, where there is gold;
 
2:12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwin a’r maen onics.
2:12 And the gold of that land is good: there is bdellium and the onyx stone.
 
2:13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
2:13 And the name of the second river is Gihon: the same is it that compasseth the whole land of Ethiopia.
 
2:14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates.
2:14 And the name of the third river is Hiddekel: that is it which goeth toward the east of Assyria. And the fourth river is Euphrates.
 
2:15 A’r ARGLWYDD Dduw a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi.
2:15 And the LORD God took the man, and put him into the garden of Eden to dress it and to keep it.
 
2:16 A’r ARGLWYDD Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta:
2:16 And the LORD God commanded the man, saying, Of every tree of the garden thou mayest freely eat:
 
2:17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
2:17 But of the tree of the knowledge of good and evil, thou shalt not eat of it: for in the day that thou eatest thereof thou shalt surely die.
 
2:18 Hefyd yr ARGLWYDD Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo.
2:18 And the LORD God said, It is not good that the man should be alone; I will make him an help meet for him.
 
2:19 A’r ARGLWYDD Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoddd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
2:19 ··And out of the ground the LORD God formed every beast of the field, and every fowl of the air; and brought them unto Adam to see what he would call them: and whatsoever Adam called every living creature, that was the name thereof.
 
2:20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliad, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.
2:20 And Adam gave names to all cattle, and to the fowl of the air, and to every beast of the field; but for Adam there was not found an help meet for him.
 
2:21 A’r ARGLWYDD Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.
2:21 And the LORD God caused a deep sleep to fall upon Adam, and he slept: and he took one of his ribs, and closed up the flesh instead thereof;
 
2:22 A’r ARGLWYDD Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn.
2:22 And the rib, which the LORD God had taken from man, made he a woman, and brought her unto the man.
 
2:23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.
2:23 And Adam said, This is now bone of my bones, and flesh of my flesh: she shall be called Woman, because she was taken out of Man.
 
2:24 Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
2:24 And he said, I heard thy voice in the garden, and I was afraid, because I was naked; and I hid myself.

PENNOD 3
 
3:1 A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd?
3:1 Now the serpent was more subtle than any beast of the field which the LORD God had made. And he said unto the woman, Yea, hath God said, Ye shall not eat of every tree of the garden?
 
3:2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:
3:2 And the woman said unto the serpent, We may eat of the fruit of the trees of the garden:
 
3:3 Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrdwch ag ef, rhag eich marw.
3:3 But of the fruit of the tree which is in the midst of the garden, God hath said, Ye shall not eat of it, neither shall ye touch it, lest ye die.
 
3:4 A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
3:4 And the serpent said unto the woman, Ye shall not surely die:
 
3:5 Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
3:5 For God doth know that in the day ye eat thereof, then your eyes shall be opened, and ye shall be as gods, knowing good and evil.
 
3:6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.
3:6 And when the woman saw that the tree was good for food, and that it was pleasant to the eyes, and a tree to be desired to make one wise, she took of the fruit thereof, and did eat, and gave also unto her husband with her; and he did eat.
 
3:7 A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau
3:7 And the eyes of them both were opened, and they knew that they were naked; and they sewed fig leaves together, and made themselves aprons.
 
3:8 A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda ai wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw, ymysg prennau yr ardd.
3:8 And they heard the voice of the LORD God walking in the garden in the cool of the day: and Adam and his wife hid themselves from the presence of the LORD God amongst the trees of the garden.
 
3:9 A’r ARGLWYDD Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, pa le yr wyt ti?
3:9 And the LORD God called unto Adam, and said unto him, Where art thou?
 
3:10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
3:10 And he said, I heard thy voice in the garden, and I was afraid, because I was naked; and I hid myself.
 
3:11 A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?
3:11 And he said, Who told thee that thou wast naked? Hast thou eaten of the tree, whereof I commanded thee that thou shouldest not eat?
 
3:12 Ac Adda a ddywedod, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais.
3:12 And the man said, The woman whom thou gavest to be with me, she gave me of the tree, and I did eat.
 
3:13 A’r ARGLWYDD Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a waeuthum.
3:13 And the LORD God said unto the woman, What is this that thou hast done? And the woman said, The serpent beguiled me, and I did eat.
 
3:14 A’r ARGLWYDD Dduw a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melldigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes
3:14 And the LORD God said unto the serpent, Because thou hast done this, thou art cursed above all cattle, and above every beast of the field; upon thy belly shalt thou go, and dust shalt thou eat all the days of thy life:
 
3:15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
3:15 And I will put enmity between thee and the woman, and between thy seed and her seed; it shall bruise thy head, and thou shalt bruise his heel.
 
3:16 Wrth y wraig y dywedo, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
3:16 Unto the woman he said, I will greatly multiply thy sorrow and thy conception; in sorrow thou shalt bring forth children; and thy desire shall be to thy husband, and he shall rule over thee.
 
3:17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.
3:17 And unto Adam he said, Because thou hast hearkened unto the voice of thy wife, and hast eaten of the tree, of which I commanded thee, saying, Thou shalt not eat of it: cursed is the ground for thy sake; in sorrow shalt thou eat of it all the days of thy life;
 
3:18 Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytei di.
3:18 Thorns also and thistles shall it bring forth to thee; and thou shalt eat the herb of the field;
 
3:19 Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid ohoni y’th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.
3:19 In the sweat of thy face shalt thou eat bread, till thou return unto the ground; for out of it wast thou taken: for dust thou art, and unto dust shalt thou return.
 
3:20 A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.
3:20 And Adam called his wife’s name Eve; because she was the mother of all living.
 
3:21 A’r ARGLWYDD Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd amdanynt hwy.
3:21 Unto Adam also and to his wife did the LORD God make coats of skins, and clothed them.
 
3:22 Hefyd yr ARGLWYDD Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol:
3:22 And the LORD God said, Behold, the man is become as one of us, to know good and evil: and now, lest he put forth his hand, and take also of the tree of life, and eat, and live for ever:
 
3:23 Am hynny yr ARGLWYDD Dduw a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio’r ddaear, yr hon y cymerasid ef ohoni.
3:23 Therefore the LORD God sent him forth from the garden of Eden, to till the ground from whence he was taken.
 
3:24 So he drove out the man; and he placed at the east of the garden of Eden Cherubims, and a flaming sword which turned every way, to keep the way of the tree of life.
3:24 Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o’r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd

PENNOD 4
 
4:1 Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr ARGLWYDD
4:1 And Adam knew Eve his wife; and she conceived, and bare Cain, and said, I have gotten a man from the LORD.
 
4:2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear.
4:2 And she again bare his brother Abel. And Abel was a keeper of sheep, but Cain was a tiller of the ground.
 
4:3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r ARGLWYDD .
4:3 And in process of time it came to pass, that Cain brought of the fruit of the ground an offering unto the LORD.
 
4:4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac eu braster hwynt. A’r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
4:4 And Abel, he also brought of the firstlings of his flock and of the fat thereof. And the LORD had respect unto Abel and to his offering:
 
4:5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr fel y syrthiodd ei wynepryd ef.
4:5 But unto Cain and to his offering he had not respect. And Cain was very wroth, and his countenance fell.
 
4:6 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd?
4:6 And the LORD said unto Cain, Why art thou wroth? and why is thy countenance fallen?
 
4:7 Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddyinuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.
4:7 If thou doest well, shalt thou not be accepted? and if thou doest not well, sin lieth at the door. And unto thee shall be his desire, and thou shalt rule over him.
 
4:8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd ac a’i lladdodd ef.
4:8 And Cain talked with Abel his brother: and it came to pass, when they were in the field, that Cain rose up against Abel his brother, and slew him.
 
4:9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?
4:9 And the LORD said unto Cain, Where is Abel thy brother? And he said, I know not: Am I my brother’s keeper?
 
4:10 A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear.
4:10 And he said, What hast thou done? the voice of thy brother’s blood crieth unto me from the ground.
 
4:11 Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.
4:11 And now art thou cursed from the earth, which hath opened her mouth to receive thy brother’s blood from thy hand;
 
4:12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.
4:12 When thou tillest the ground, it shall not henceforth yield unto thee her strength; a fugitive and a vagabond shalt thou be in the earth.
 
4:13 Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD , Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau.
4:13 And Cain said unto the LORD, My punishment is greater than I can bear.
 
4:14 Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd.
4:14 Behold, thou hast driven me out this day from the face of the earth; and from thy face shall I be hid; and I shall be a fugitive and a vagabond in the earth; and it shall come to pass, that every one that findeth me shall slay me.
 
4:15 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r ARGLWYDD a osododd nod ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef.
4:15 And the LORD said unto him, Therefore whosoever slayeth Cain, vengeance shall be taken on him sevenfold. And the LORD set a mark upon Cain, lest any finding him should kill him.
 
4:16 A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD , ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden.
4:16 And Cain went out from the presence of the LORD, and dwelt in the land of Nod, on the east of Eden.
 
4:17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch.
4:17 And Cain knew his wife; and she conceived, and bare Enoch: and he builded a city, and called the name of the city, after the name of his son, Enoch.
 
4:18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.
4:18 And unto Enoch was born Irad: and Irad begat Mehujael: and Mehujael begat Methusael: and Methusael begat Lamech.
 
4:19 A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila.
4:19 And Lamech took unto him two wives: the name of the one was Adah, and the name of the other Zillah.
 
4:20 Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.
4:20 And Adah bare Jabal: he was the father of such as dwell in tents, and of such as have cattle.
 
4:21 Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.
4:21 And his brother’s name was Jubal: he was the father of all such as handle the harp and organ.
 
4:22 Sila hithau a esgorodd ar Tubal-Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal-Cain ydoedd Naama.
4:22 And Zillah, she also bare Tubalcain, an instructor of every artificer in brass and iron: and the sister of Tubalcain was Naamah.
 
4:23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i’m harcholl, a llanc i’m clais.
4:23 And Lamech said unto his wives, Adah and Zillah, Hear my voice; ye wives of Lamech, hearken unto my speech: for I have slain a man to my wounding, and a young man to my hurt.
 
4:24 Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.
4:24 If Cain shall be avenged sevenfold, truly Lamech seventy and sevenfold.
 
4:25 Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd DUW (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.
4:25 And Adam knew his wife again; and she bare a son, and called his name Seth: For God, said she, hath appointed me another seed instead of Abel, whom Cain slew.
 
4:26 I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.
4:26 And to Seth, to him also there was born a son; and he called his name Enos: then began men to call upon the name of the LORD.

PENNOD 5
 
5:1 Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y Ddydd y creodd DUW ddyn, ar lun DUW y gwnaeth efe ef.
5:1 This is the book of the generations of Adam. In the day that God created man, in the likeness of God made he him;
 
5:2 Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.
5:2 Male and female created he them; and blessed them, and called their name Adam, in the day when they were created.
 
5:3 Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
5:3 And Adam lived an hundred and thirty years, and begat a son in his own likeness, after his image; and called his name Seth:
 
5:4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5:4 And the days of Adam after he had begotten Seth were eight hundred years: and he begat sons and daughters:
 
5:5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
5:5 And all the days that Adam lived were nine hundred and thirty years: and he died.
 
5:6 Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos.
5:6 And Seth lived an hundred and five years, and begat Enos:
 
5:7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:7 And Seth lived after he begat Enos eight hundred and seven years, and begat sons and daughters:
 
5:8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
5:8 And all the days of Seth were nine hundred and twelve years: and he died.
 
5:9 Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
5:9 And Enos lived ninety years, and begat Cainan:
 
5:10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:10 And Enos lived after he begat Cainan eight hundred and fifteen years, and begat sons and daughters:
 
5:11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
5:11 And all the days of Enos were nine hundred and five years: and he died.
 
5:12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
5:12 And Cainan lived seventy years, and begat Mahalaleel:
 
5:13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:13 And Cainan lived after he begat Mahalaleel eight hundred and forty years, and begat sons and daughters:
 
5:14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
5:14 And all the days of Cainan were nine hundred and ten years: and he died.
 
5:15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
5:15 And Mahalaleel lived sixty and five years, and begat Jared:
 
5:16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:16 And Mahalaleel lived after he begat Jared eight hundred and thirty years, and begat sons and daughters:
 
5:17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
5:17 And all the days of Mahalaleel were eight hundred ninety and five years: and he died.
 
5:18 A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
5:18 And Jared lived an hundred sixty and two years, and he begat Enoch:
 
5:19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a gerihedlodd feibion a merched.
5:19 And Jared lived after he begat Enoch eight hundred years, and begat sons and daughters:
 
5:20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
5:20 And all the days of Jared were nine hundred sixty and two years: and he died.
 
5:21 Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela.
5:21 And Enoch lived sixty and five years, and begat Methuselah:
 
5:22 Ac Enoch a rodiodd gyda DUW wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:22 And Enoch walked with God after he begat Methuselah three hundred years, and begat sons and daughters:
 
5:23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd.
5:23 And all the days of Enoch were three hundred sixty and five years:
 
5:24 A rhodiodd Enoch gyda DUW, ac ni welwyd ef; canys DUW ai cymerodd ef.
5:24 And Enoch walked with God: and he was not; for God took him.
 
5:25 Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
5:25 And Methuselah lived an hundred eighty and seven years, and begat Lamech:
 
5:26 A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flyneddd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:26 And Methuselah lived after he begat Lamech seven hundred eighty and two years, and begat sons and daughters:
 
5:27 A holl ddyddiau Methwsela oedd, naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd, ac efe a fu farw.
5:27 And all the days of Methuselah were nine hundred sixty and nine years: and he died.
 
5:28 Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab;
5:28 And Lamech lived an hundred eighty and two years, and begat a son:
 
5:29 Ac a alwodd i ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr ARGLWYDD.
5:29 And he called his name Noah, saying, This same shall comfort us concerning our work and toil of our hands, because of the ground which the LORD hath cursed.
 
5:30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:30 And Lamech lived after he begat Noah five hundred ninety and five years, and begat sons and daughters:
 
5:31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; a efe a fu farw.
5:31 And all the days of Lamech were seven hundred seventy and seven years: and he died.
 
5:32 A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.
5:32 And Noah was five hundred years old: and Noah begat Shem, Ham, and Japheth.

PENNOD 6
 
6:1 Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni. merched iddynt,
6:1 And it came to pass, when men began to multiply on the face of the earth, and daughters were born unto them,
 
6:2 Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
6:2 That the sons of God saw the daughters of men that they were fair; and they took them wives of all which they chose.
 
6:3 A dywedodd yr C, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
6:3 And the LORD said, My spirit shall not always strive with man, for that he also is flesh: yet his days shall be an hundred and twenty years.
 
6:4 Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu ŵyr enwog gynt
6:4 There were giants in the earth in those days; and also after that, when the sons of God came in unto the daughters of men, and they bare children to them, the same became mighty men which were of old, men of renown.
 
6:5 A’r ARGLWYDD a welodd oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn unig yn ddrygionus bob amser .
6:5 And God saw that the wickedness of man was great in the earth, and that every imagination of the thoughts of his heart was only evil continually.
 
6:6 Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
6:6 And it repented the LORD that he had made man on the earth, and it grieved him at his heart.
 
6:7 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
6:7 And the LORD said, I will destroy man whom I have created from the face of the earth; both man, and beast, and the creeping thing, and the fowls of the air; for it repenteth me that I have made them.
 
6:8 Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
6:8 But Noah found grace in the eyes of the LORD.
 
6:9 Dyma genedlaethau Noa,: Noa oedd gŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda DUW y rhodiodd Noa.
6:9 These are the generations of Noah: Noah was a just man and perfect in his generations, and Noah walked with God.
 
6:10 A Noa a genhedlodd dri o feibion Sem, Cham a Jaffeth.
6:10 And Noah begat three sons, Shem, Ham, and Japheth.
 
6:11 A’r ddaear a lygrasid gerbron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
6:11 The earth also was corrupt before God, and the earth was filled with violence.
 
6:12 A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
6:12 And God looked upon the earth, and, behold, it was corrupt; for all flesh had corrupted his way upon the earth.
 
6:13 A DUW a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear.
6:13 And God said unto Noah, The end of all flesh is come before me; for the earth is filled with violence through them; and, behold, I will destroy them with the earth.
 
6:14 Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi wrth mewn ac oddi allan â phyg.
6:14 Make thee an ark of gopher wood; rooms shalt thou make in the ark, and shalt pitch it within and without with pitch.
 
6:15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
6:15 And this is the fashion which thou shalt make it of: The length of the ark shall be three hundred cubits, the breadth of it fifty cubits, and the height of it thirty cubits.
 
6:16 Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys; o dri uchder y gwnei di hi.
6:16 A window shalt thou make to the ark, and in a cubit shalt thou finish it above; and the door of the ark shalt thou set in the side thereof; with lower, second, and third stories shalt thou make it.
 
6:17 Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
6:17 And, behold, I, even I, do bring a flood of waters upon the earth, to destroy all flesh, wherein is the breath of life, from under heaven; and every thing that is in the earth shall die.
 
6:18 Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.
6:18 But with thee will I establish my covenant; and thou shalt come into the ark, thou, and thy sons, and thy wife, and thy sons’ wives with thee.
 
6:19 Ac o bob peth fyw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.
6:19 And of every living thing of all flesh, two of every sort shalt thou bring into the ark, to keep them alive with thee; they shall be male and female.
 
6:20 O’r ehediaid wrth eu rhywogaethh, ac o’r anifeiliad wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth, dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw
6:20 Of fowls after their kind, and of cattle after their kind, of every creeping thing of the earth after his kind, two of every sort shall come unto thee, to keep them alive.
 
6:21 A chymer iti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
6:21 And take thou unto thee of all food that is eaten, and thou shalt gather it to thee; and it shall be for food for thee, and for them.
 
6:22 Felly y gwnaeth Noa, yn ôl hyn oll a orchmynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.
6:22 Thus did Noah; according to all that God commanded him, so did he.

PENNOD 7
 
7:1 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.
7:1 And the LORD said unto Noah, Come thou and all thy house into the ark; for thee have I seen righteous before me in this generation.
 
7:2 O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a’i fenyw:
7:2 Of every clean beast thou shalt take to thee by sevens, the male and his female: and of beasts that are not clean by two, the male and his female.
 
7:3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
7:3 Of fowls also of the air by sevens, the male and the female; to keep seed alive upon the face of all the earth.
 
7:4 Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i.
7:4 For yet seven days, and I will cause it to rain upon the earth forty days and forty nights; and every living substance that I have made will I destroy from off the face of the earth.
 
7:5 A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo.
7:5 And Noah did according unto all that the LORD commanded him.
 
7:6 Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear.
7:6 And Noah was six hundred years old when the flood of waters was upon the earth.
 
7:7 A Noa a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i’r arch, rhag y dwfr dilyw.
7:7 And Noah went in, and his sons, and his wife, and his sons’ wives with him, into the ark, because of the waters of the flood.
 
7:8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,
7:8 Of clean beasts, and of beasts that are not clean, and of fowls, and of every thing that creepeth upon the earth,
 
7:9 Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai DUW i Noa.
7:9 There went in two and two unto Noah into the ark, the male and the female, as God had commanded Noah.
 
7:10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.
7:10 And it came to pass after seven days, that the waters of the flood were upon the earth.
 
7:11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri’r nefoedd a agorwyd.
7:11 In the six hundredth year of Noah’s life, in the second month, the seventeenth day of the month, the same day were all the fountains of the great deep broken up, and the windows of heaven were opened.
 
7:12 A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.
7:12 And the rain was upon the earth forty days and forty nights.
 
7:13 O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i’r arch;
7:13 In the selfsame day entered Noah, and Shem, and Ham, and Japheth, the sons of Noah, and Noah’s wife, and the three wives of his sons with them, into the ark;
 
7:14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.
7:14 They, and every beast after his kind, and all the cattle after their kind, and every creeping thing that creepeth upon the earth after his kind, and every fowl after his kind, every bird of every sort.
 
7:15 A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes.
7:15 And they went in unto Noah into the ark, two and two of all flesh, wherein is the breath of life.
 
7:16 A’r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai DUW iddo. A’r ARGLWYDD a gaeodd arno ef.
7:16 And they that went in, went in male and female of all flesh, as God had commanded him: and the LORD shut him in.
 
7:17 A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.
7:17 And the flood was forty days upon the earth; and the waters increased, and bare up the ark, and it was lift up above the earth.
 
7:18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.
7:18 And the waters prevailed, and were increased greatly upon the earth; and the ark went upon the face of the waters.
 
7:19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.
7:19 And the waters prevailed exceedingly upon the earth; and all the high hills, that were under the whole heaven, were covered.
 
7:20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd.
7:20 Fifteen cubits upward did the waters prevail; and the mountains were covered.
 
7:21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.
7:21 And all flesh died that moved upon the earth, both of fowl, and of cattle, and of beast, and of every creeping thing that creepeth upon the earth, and every man:
 
7:22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.
7:22 All in whose nostrils was the breath of life, of all that was in the dry land, died.
 
7:23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o’r ddaear: a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
7:23 And every living substance was destroyed which was upon the face of the ground, both man, and cattle, and the creeping things, and the fowl of the heaven; and they were destroyed from the earth: and Noah only remained alive, and they that were with him in the ark.
 
7:24 A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.
7:24 And the waters prevailed upon the earth an hundred and fifty days.

PENNOD 8
 
8:1 A DUW a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a DUW a wnaeth, i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant.
8:1 And God remembered Noah, and every living thing, and all the cattle that was with him in the ark: and God made a wind to pass over the earth, and the waters asswaged;
 
8:2 Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd.
8:2 The fountains also of the deep and the windows of heaven were stopped, and the rain from heaven was restrained;
 
8:3 ::A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
8:3 And the waters returned from off the earth continually: and after the end of the hundred and fifty days the waters were abated.
 
8:4 Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
8:4 And the ark rested in the seventh month, on the seventeenth day of the month, upon the mountains of Ararat.
 
8:5 A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd.
8:5 And the waters decreased continually until the tenth month: in the tenth month, on the first day of the month, were the tops of the mountains seen.
 
8:6 Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch, a wnaethai efe.
8:6 And it came to pass at the end of forty days, that Noah opened the window of the ark which he had made:
 
8:7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8:7 And he sent forth a raven, which went forth to and fro, until the waters were dried up from off the earth.
 
8:8 Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
8:8 Also he sent forth a dove from him, to see if the waters were abated from off the face of the ground;
 
8:9 Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch.
8:9 But the dove found no rest for the sole of her foot, and she returned unto him into the ark, for the waters were on the face of the whole earth: then he put forth his hand, and took her, and pulled her in unto him into the ark.
 
8:10 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch.
8:10 And he stayed yet other seven days; and again he sent forth the dove out of the ark;
 
8:11 A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear.
8:11 And the dove came in to him in the evening; and, lo, in her mouth was an olive leaf plucked off: so Noah knew that the waters were abated from off the earth.
 
8:12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
8:12 And he stayed yet other seven days; and sent forth the dove; which returned not again unto him any more.
 
8:13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
8:13 And it came to pass in the six hundredth and first year, in the first month, the first day of the month, the waters were dried up from off the earth: and Noah removed the covering of the ark, and looked, and, behold, the face of the ground was dry.
 
8:14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaear a sychasai.
8:14 And in the second month, on the seven and twentieth day of the month, was the earth dried.
 
8:15 A llefarodd DUW wrth Noa, gan ddywedyd,
8:15 And God spake unto Noah, saying,
 
8:16 Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.
8:16 Go forth of the ark, thou, and thy wife, and thy sons, and thy sons’ wives with thee.
 
8:17 Pob peth byw a’r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
8:17 Bring forth with thee every living thing that is with thee, of all flesh, both of fowl, and of cattle, and of every creeping thing that creepeth upon the earth; that they may breed abundantly in the earth, and be fruitful, and multiply upon the earth.
 
8:18 A Noa a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.
8:18 And Noah went forth, and his sons, and his wife, and his sons’ wives with him:
 
8:19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
8:19 Every beast, every creeping thing, and every fowl, and whatsoever creepeth upon the earth, after their kinds, went forth out of the ark.
 
8:20 A Noa a adeiladodd allor i’r ARGLWYDD, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor.
8:20 And Noah builded an altar unto the LORD; and took of every clean beast, and of every clean fowl, and offered burnt offerings on the altar.
 
8:21 A’r ARGLWYDD a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr ARGLWYDD yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
8:21 And the LORD smelled a sweet savour; and the LORD said in his heart, I will not again curse the ground any more for man’s sake; for the imagination of man’s heart is evil from his youth; neither will I again smite any more every thing living, as I have done.
 
8:22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.
8:22 While the earth remaineth, seedtime and harvest, and cold and heat, and summer and winter, and day and night shall not cease.

PENNOD 9
 
9:1 DUW hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear.
9:1 And God blessed Noah and his sons, and said unto them, Be fruitful, and multiply, and replenish the earth.
 
9:2 Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
9:2 And the fear of you and the dread of you shall be upon every beast of the earth, and upon every fowl of the air, upon all that moveth upon the earth, and upon all the fishes of the sea; into your hand are they delivered.
 
9:3 Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
9:3 Every moving thing that liveth shall be meat for you; even as the green herb have I given you all things.
 
9:4 Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed.
9:4 But flesh with the life thereof, which is the blood thereof, shall ye not eat.
 
9:5 Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn.
9:5 And surely your blood of your lives will I require; at the hand of every beast will I require it, and at the hand of man; at the hand of every man’s brother will I require the life of man.
 
9:6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn.
9:6 Whoso sheddeth man’s blood, by man shall his blood be shed: for in the image of God made he man.
 
9:7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.
9:7 And you, be ye fruitful, and multiply; bring forth abundantly in the earth, and multiply therein.
 
9:8 A DUW a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd,
9:8 And God spake unto Noah, and to his sons with him, saying,
 
9:9 Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi;
9:9 And I, behold, I establish my covenant with you, and with your seed after you;
 
9:10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
9:10 And with every living creature that is with you, of the fowl, of the cattle, and of every beast of the earth with you; from all that go out of the ark, to every beast of the earth.
 
9:11 A mi a gadarnhaf fy nghyfamod Aâ chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear.
9:11 And I will establish my covenant with you; neither shall all flesh be cut off any more by the waters of a flood; neither shall there any more be a flood to destroy the earth.
 
9:12 A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol:
9:12 And God said, This is the token of the covenant which I make between me and you and every living creature that is with you, for perpetual generations:
 
9:13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi â’r ddaear.
9:13 I do set my bow in the cloud, and it shall be for a token of a covenant between me and the earth.
 
9:14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl.
9:14 And it shall come to pass, when I bring a cloud over the earth, that the bow shall be seen in the cloud:
 
9:15 A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.
9:15 And I will remember my covenant, which is between me and you and every living creature of all flesh; and the waters shall no more become a flood to destroy all flesh.
 
9:16 A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
9:16 And the bow shall be in the cloud; and I will look upon it, that I may remember the everlasting covenant between God and every living creature of all flesh that is upon the earth.
 
9:17 A DUW a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
9:17 And God said unto Noah, This is the token of the covenant, which I have established between me and all flesh that is upon the earth.
 
9:18 A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.
9:18 And the sons of Noah, that went forth of the ark, were Shem, and Ham, and Japheth: and Ham is the father of Canaan.
 
9:19 Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
9:19 These are the three sons of Noah: and of them was the whole earth overspread.
 
9:20 A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
9:20 And Noah began to be an husbandman, and he planted a vineyard:
 
9:21 Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.
9:21 And he drank of the wine, and was drunken; and he was uncovered within his tent.
 
9:22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.
9:22 And Ham, the father of Canaan, saw the nakedness of his father, and told his two brethren without.
 
9:23 A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.
9:23 And Shem and Japheth took a garment, and laid it upon both their shoulders, and went backward, and covered the nakedness of their father; and their faces were backward, and they saw not their father’s nakedness.
 
9:24 A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
9:24 And Noah awoke from his wine, and knew what his younger son had done unto him.
 
9:25 Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.
9:25 And he said, Cursed be Canaan; a servant of servants shall he be unto his brethren.
 
9:26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
9:26 And he said, Blessed be the LORD God of Shem; and Canaan shall be his servant.
 
9:27 DUW a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
9:27 God shall enlarge Japheth, and he shall dwell in the tents of Shem; and Canaan shall be his servant.
 
9:28 A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.
9:28 And Noah lived after the flood three hundred and fifty years.
 
9:29 Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.
9:29 And all the days of Noah were nine hundred and fifty years: and he died.

PENNOD 10
 
10:1 A dyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw.
10:1 Now these are the generations of the sons of Noah, Shem, Ham, and Japheth: and unto them were sons born after the flood.
 
10:2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
10:2 The sons of Japheth; Gomer, and Magog, and Madai, and Javan, and Tubal, and Meshech, and Tiras.
 
10:3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma.
10:3 And the sons of Gomer; Ashkenaz, and Riphath, and Togarmah.
 
10:4 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
10:4 And the sons of Javan; Elishah, and Tarshish, Kittim, and Dodanim.
 
10:5 O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
10:5 By these were the isles of the Gentiles divided in their lands; every one after his tongue, after their families, in their nations.
 
10:6 A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan.
10:6 And the sons of Ham; Cush, and Mizraim, and Phut, and Canaan.
 
10:7 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan.
10:7 And the sons of Cush; Seba, and Havilah, and Sabtah, and Raamah, and Sabtechah: and the sons of Raamah; Sheba, and Dedan.
 
10:8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
10:8 And Cush begat Nimrod: he began to be a mighty one in the earth.
 
10:9 Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD.
10:9 He was a mighty hunter before the LORD: wherefore it is said, Even as Nimrod the mighty hunter before the LORD.
 
10:10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar.
10:10 And the beginning of his kingdom was Babel, and Erech, and Accad, and Calneh, in the land of Shinar.
 
10:11 O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala,
10:11 Out of that land went forth Asshur, and builded Nineveh, and the city Rehoboth, and Calah,
 
10:12 A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr.
10:12 And Resen between Nineveh and Calah: the same is a great city.
 
10:13 Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim,
10:13 And Mizraim begat Ludim, and Anamim, and Lehabim, and Naphtuhim,
 
10:14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
10:14 And Pathrusim, and Casluhim, (out of whom came Philistim,) and Caphtorim.
 
10:15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
10:15 And Canaan begat Sidon his firstborn, and Heth,
 
10:16 A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a r Girgasiad,
10:16 And the Jebusite, and the Amorite, and the Girgasite,
 
10:17 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad,
10:17 And the Hivite, and the Arkite, and the Sinite,
 
10:18 A’r Arfadiad a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
10:18 And the Arvadite, and the Zemarite, and the Hamathite: and afterward were the families of the Canaanites spread abroad.
 
10:19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.
10:19 And the border of the Canaanites was from Sidon, as thou comest to Gerar, unto Gaza; as thou goest, unto Sodom, and Gomorrah, and Admah, and Zeboim, even unto Lasha.
 
10:20 Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd,
10:20 These are the sons of Ham, after their families, after their tongues, in their countries, and in their nations.
 
10:21 I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf.
10:21 Unto Shem also, the father of all the children of Eber, the brother of Japheth the elder, even to him were children born.
 
10:22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram.
10:22 The children of Shem; Elam, and Asshur, and Arphaxad, and Lud, and Aram.
 
10:23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
10:23 And the children of Aram; Uz, and Hul, and Gether, and Mash.
 
10:24 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.
10:24 And Arphaxad begat Salah; and Salah begat Eber.
 
10:25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
10:25 And unto Eber were born two sons: the name of one was Peleg; for in his days was the earth divided; and his brother’s name was Joktan.
 
10:26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,
10:26 And Joktan begat Almodad, and Sheleph, and Hazarmaveth, and Jerah,
 
10:27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla.
10:27 And Hadoram, and Uzal, and Diklah,
 
10:28 Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,
10:28 And Obal, and Abimael, and Sheba,
 
10:29 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: Yr hoff rai hyn oedd feibion Joctan.
10:29 And Ophir, and Havilah, and Jobab: all these were the sons of Joktan.
 
10:30 A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.
10:30 And their dwelling was from Mesha, as thou goest unto Sephar a mount of the east.
 
10:31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
10:31 These are the sons of Shem, after their families, after their tongues, in their lands, after their nations.
 
10:32 Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw.
10:32 These are the families of the sons of Noah, after their generations, in their nations: and by these were the nations divided in the earth after the flood.

PENNOD 11
 
11:1 A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.
11:1 And the whole earth was of one language, and of one speech.
 
11:2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.
11:2 And it came to pass, as they journeyed from the east, that they found a plain in the land of Shinar; and they dwelt there.
 
11:3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
11:3 And they said one to another, Go to, let us make brick, and burn them thoroughly. And they had brick for stone, and slime had they for mortar.
 
11:4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear,
11:4 And they said, Go to, let us build us a city and a tower, whose top may reach unto heaven; and let us make us a name, lest we be scattered abroad upon the face of the whole earth.
 
11:5 A’r ARGLWYDD a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion.
11:5 And the LORD came down to see the city and the tower, which the children of men builded.
 
11:6 A dywedodd yr ARGLWYDD, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur.
11:6 And the LORD said, Behold, the people is one, and they have all one language; and this they begin to do: and now nothing will be restrained from them, which they have imagined to do.
 
11:7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.
11:7 Go to, let us go down, and there confound their language, that they may not understand one another’s speech.
 
11:8 Felly yr ARGLWYDD a’u gwasgaradd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas.
11:8 So the LORD scattered them abroad from thence upon the face of all the earth: and they left off to build the city.
 
11:9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr ARGLWYDD hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
11:9 Therefore is the name of it called Babel; because the LORD did there confound the language of all the earth: and from thence did the LORD scatter them abroad upon the face of all the earth.
 
11:10 Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw.
11:10 These are the generations of Shem: Shem was an hundred years old, and begat Arphaxad two years after the flood:
 
11:11 A Sem a fu farw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:11 And Shem lived after he begat Arphaxad five hundred years, and begat sons and daughters.
 
11:12 Arffacsad hefyd a fu farw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela.
11:12 And Arphaxad lived five and thirty years, and begat Salah:
 
11:13 Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:13 And Arphaxad lived after he begat Salah four hundred and three years, and begat sons and daughters.
 
11:14 Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.
11:14 And Salah lived thirty years, and begat Eber:
 
11:15 A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:15 And Salah lived after he begat Eber four hundred and three years, and begat sons and daughters.
 
11:16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.
11:16 And Eber lived four and thirty years, and begat Peleg:
 
11:17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:17 And Eber lived after he begat Peleg four hundred and thirty years, and begat sons and daughters.
 
11:18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.
11:18 And Peleg lived thirty years, and begat Reu:
 
11:19 A Pheleg a fu farw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:19 And Peleg lived after he begat Reu two hundred and nine years, and begat sons and daughters.
 
11:20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.
11:20 And Reu lived two and thirty years, and begat Serug:
 
11:21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:21 And Reu lived after he begat Serug two hundred and seven years, and begat sons and daughters.
 
11:22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.
11:22 And Serug lived thirty years, and begat Nahor:
 
11:23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:23 And Serug lived after he begat Nahor two hundred years, and begat sons and daughters.
 
11:24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera.
11:24 And Nahor lived nine and twenty years, and begat Terah:
 
11:25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11:25 And Nahor lived after he begat Terah an hundred and nineteen years, and begat sons and daughters.
 
11:26 Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
11:26 And Terah lived seventy years, and begat Abram, Nahor, and Haran.
 
11:27 A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.
11:27 Now these are the generations of Terah: Terah begat Abram, Nahor, and Haran; and Haran begat Lot.
 
11:28 A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.
11:28 And Haran died before his father Terah in the land of his nativity, in Ur of the Chaldees.
 
11:29 Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca.
11:29 And Abram and Nahor took them wives: the name of Abram’s wife was Sarai; and the name of Nahor’s wife, Milcah, the daughter of Haran, the father of Milcah, and the father of Iscah.
 
11:30 A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi.
11:30 But Sarai was barren; she had no child.
 
11:31 ::A Them a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno
11:31 And Terah took Abram his son, and Lot the son of Haran his son’s son, and Sarai his daughter in law, his son Abram’s wife; and they went forth with them from Ur of the Chaldees, to go into the land of Canaan; and they came unto Haran, and dwelt there.
 
11:32 A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.
11:32 And the days of Terah were two hundred and five years: and Terah died in Haran.

PENNOD 12
 
12:1 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.
12:1 Now the LORD had said unto Abram, Get thee out of thy country, and from thy kindred, and from thy father’s house, unto a land that I will show thee:
 
12:2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
12:2 And I will make of thee a great nation, and I will bless thee, and make thy name great; and thou shalt be a blessing:
 
12:3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
12:3 And I will bless them that bless thee, and curse him that curseth thee: and in thee shall all families of the earth be blessed.
 
12:4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrtho; a Lot a aeth gydag ef ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran.
12:4 So Abram departed, as the LORD had spoken unto him; and Lot went with him: and Abram was seventy and five years old when he departed out of Haran.
 
12:5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
12:5 And Abram took Sarai his wife, and Lot his brother’s son, and all their substance that they had gathered, and the souls that they had gotten in Haran; and they went forth to go into the land of Canaan; and into the land of Canaan they came.
 
12:6 Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw.
12:6 And Abram passed through the land unto the place of Sichem, unto the plain of Moreh. And the Canaanite was then in the land.
 
12:7 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD, yr hwn a ymddangosasai iddo.
12:7 And the LORD appeared unto Abram, and said, Unto thy seed will I give this land: and there builded he an altar unto the LORD, who appeared unto him.
 
12:8 Ac efe a dynnodd oddi yno ir mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua’r gorllewin, a llai tua’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD.
12:8 And he removed from thence unto a mountain on the east of Bethel, and pitched his tent, having Bethel on the west, and Hai on the east: and there he builded an altar unto the LORD, and called upon the name of the LORD.
 
12:9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua’r deau.
12:9 And Abram journeyed, going on still toward the south.
 
12:10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad.
12:10 And there was a famine in the land: and Abram went down into Egypt to sojourn there; for the famine was grievous in the land.
 
12:11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
12:11 And it came to pass, when he was come near to enter into Egypt, that he said unto Sarai his wife, Behold now, I know that thou art a fair woman to look upon:
 
12:12 A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw.
12:12 Therefore it shall come to pass, when the Egyptians shall see thee, that they shall say, This is his wife: and they will kill me, but they will save thee alive.
 
12:13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.
12:13 Say, I pray thee, thou art my sister: that it may be well with me for thy sake; and my soul shall live because of thee.
 
12:14 A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.
12:14 And it came to pass, that, when Abram was come into Egypt, the Egyptians beheld the woman that she was very fair.
 
12:15 A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo.
12:15 The princes also of Pharaoh saw her, and commended her before Pharaoh: and the woman was taken into Pharaoh’s house.
 
12:16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod.
12:16 And he entreated Abram well for her sake: and he had sheep, and oxen, and he asses, and menservants, and maidservants, and she asses, and camels.
 
12:17 A’r ARGLWYDD a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.
12:17 And the LORD plagued Pharaoh and his house with great plagues because of Sarai Abram’s wife.
 
12:18 A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?
12:18 And Pharaoh called Abram, and said, What is this that thou hast done unto me? why didst thou not tell me that she was thy wife?
 
12:19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith.
12:19 Why saidst thou, She is my sister? so I might have taken her to me to wife: now therefore behold thy wife, take her, and go thy way.
 
12:20 A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.
12:20 And Pharaoh commanded his men concerning him: and they sent him away, and his wife, and all that he had.

PENNOD 13
 
13:1 Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau.
13:1 And Abram went up out of Egypt, he, and his wife, and all that he had, and Lot with him, into the south.
 
13:2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.
13:2 And Abram was very rich in cattle, in silver, and in gold.
 
13:3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;
13:3 And he went on his journeys from the south even to Bethel, unto the place where his tent had been at the beginning, between Bethel and Hai;
 
13:4 I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr ARGLWYDD.
13:4 Unto the place of the altar, which he had made there at the first: and there Abram called on the name of the LORD.
 
13:5 Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.
13:5 And Lot also, which went with Abram, had flocks, and herds, and tents.
 
13:6 A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.
13:6 And the land was not able to bear them, that they might dwell together: for their substance was great, so that they could not dwell together.
 
13:7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad.
13:7 And there was a strife between the herdmen of Abram’s cattle and the herdmen of Lot’s cattle: and the Canaanite and the Perizzite dwelled then in the land.
 
13:8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni.
13:8 And Abram said unto Lot, Let there be no strife, I pray thee, between me and thee, and between my herdmen and thy herdmen; for we be brethren.
 
13:9 Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy.
13:9 Is not the whole land before thee? separate thyself, I pray thee, from me: if thou wilt take the left hand, then I will go to the right; or if thou depart to the right hand, then I will go to the left.
 
13:10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r ARGLWYDD ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr ARGLWYDD, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.
13:10 And Lot lifted up his eyes, and beheld all the plain of Jordan, that it was well watered every where, before the LORD destroyed Sodom and Gomorrah, even as the garden of the LORD, like the land of Egypt, as thou comest unto Zoar.
 
13:11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.
13:11 Then Lot chose him all the plain of Jordan; and Lot journeyed east: and they separated themselves the one from the other.
 
13:12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.
13:12 Abram dwelled in the land of Canaan, and Lot dwelled in the cities of the plain, and pitched his tent toward Sodom.
 
13:13 A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr.
13:13 But the men of Sodom were wicked and sinners before the LORD exceedingly.
 
13:14 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.
13:14 And the LORD said unto Abram, after that Lot was separated from him, Lift up now thine eyes, and look from the place where thou art northward, and southward, and eastward, and westward:
 
13:15 Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
13:15 For all the land which thou seest, to thee will I give it, and to thy seed for ever.
 
13:16 Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
13:16 And I will make thy seed as the dust of the earth: so that if a man can number the dust of the earth, then shall thy seed also be numbered.
 
13:17 Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.
13:17 Arise, walk through the land in the length of it and in the breadth of it; for I will give it unto thee.
 
13:18 Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD.
13:18 Then Abram removed his tent, and came and dwelt in the plain of Mamre, which is in Hebron, and built there an altar unto the LORD.

PENNOD 14
 
14:1 Bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd;
14:1 And it came to pass in the days of Amraphel king of Shinar, Arioch king of Ellasar, Chedorlaomer king of Elam, and Tidal king of nations;
 
14:2 Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar.
14:2 That these made war with Bera king of Sodom, and with Birsha king of Gomorrah, Shinab king of Admah, and Shemeber king of Zeboiim, and the king of Bela, which is Zoar.
 
14:3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw’r môr heli.
14:3 All these were joined together in the vale of Siddim, which is the salt sea.
 
14:4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.
14:4 Twelve years they served Chedorlaomer, and in the thirteenth year they rebelled.
 
14:5 A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a’r Susiaid yn Ham, a’r Emiaid ya Safe-Ciriathaim,
14:5 And in the fourteenth year came Chedorlaomer, and the kings that were with him, and smote the Rephaims in Ashteroth Karnaim, and the Zuzims in Ham, and the Emims in Shaveh Kiriathaim,
 
14:6 A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
14:6 And the Horites in their mount Seir, unto Elparan, which is by the wilderness.
 
14:7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar.
14:7 And they returned, and came to Enmishpat, which is Kadesh, and smote all the country of the Amalekites, and also the Amorites, that dwelt in Hazezontamar.
 
14:8 Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brerlin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;
14:8 And there went out the king of Sodom, and the king of Gomorrah, and the king of Admah, and the king of Zeboiim, and the king of Bela (the same is Zoar;) and they joined battle with them in the vale of Siddim;
 
14:9 A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal breriin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump.
14:9 With Chedorlaomer the king of Elam, and with Tidal king of nations, and Amraphel king of Shinar, and Arioch king of Ellasar; four kings with five.
 
14:10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byffau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoesant i’r mynydd.
14:10 And the vale of Siddim was full of slimepits; and the kings of Sodom and Gomorrah fled, and fell there; and they that remained fled to the mountain.
 
14:11 A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.
14:11 And they took all the goods of Sodom and Gomorrah, and all their victuals, and went their way.
 
14:12 Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.
14:12 And they took Lot, Abram’s brother’s son, who dwelt in Sodom, and his goods, and departed.
 
14:13 A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd, Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram.
14:13 And there came one that had escaped, and told Abram the Hebrew; for he dwelt in the plain of Mamre the Amorite, brother of Eshcol, and brother of Aner: and these were confederate with Abram.
 
14:14 A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.
14:14 And when Abram heard that his brother was taken captive, he armed his trained servants, born in his own house, three hundred and eighteen, and pursued them unto Dan.
 
14:15 As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u trawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus.
14:15 And he divided himself against them, he and his servants, by night, and smote them, and pursued them unto Hobah, which is on the left hand of Damascus.
 
14:16 Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.
14:16 And he brought back all the goods, and also brought again his brother Lot, and his goods, and the women also, and the people.
 
14:17 A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwr, yw. dyffryn y brenin.
14:17 And the king of Sodom went out to meet him after his return from the slaughter of Chedorlaomer, and of the kings that were with him, at the valley of Shaveh, which is the king’s dale.
 
14:18 Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i DDUW goruchaf:
14:18 And Melchizedek king of Salem brought forth bread and wine: and he was the priest of the most high God.
 
14:19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:
14:19 And he blessed him, and said, Blessed be Abram of the most high God, possessor of heaven and earth:
 
14:20 A bendigedig fyddo DUW goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl.
14:20 And blessed be the most high God, which hath delivered thine enemies into thy hand. And he gave him tithes of all.
 
14:21 A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.
14:21 And the king of Sodom said unto Abram, Give me the persons, and take the goods to thyself.
 
14:22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr ARGLWYDD DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear.
14:22 And Abram said to the king of Sodom, I have lift up mine hand unto the LORD, the most high God, the possessor of heaven and earth,
 
14:23 Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram:
14:23 That I will not take from a thread even to a shoelatchet, and that I will not take any thing that is thine, lest thou shouldest say, I have made Abram rich:
 
14:24 Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerrant hwy eu rhan.
14:24 Save only that which the young men have eaten, and the portion of the men which went with me, Aner, Eshcol, and Mamre; let them take their portion.

PENNOD 15
 
15:1 Wedi’r pethau hyn, y daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.
15:1 After these things the word of the LORD came unto Abram in a vision, saying, Fear not, Abram: I am thy shield, and thy exceeding great reward.
 
15:2 A dywedodd Abram, ARGLWYDD DDUW, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi-blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus.
15:2 And Abram said, Lord GOD, what wilt thou give me, seeing I go childless, and the steward of my house is this Eliezer of Damascus?
 
15:3 Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.
15:3 And Abram said, Behold, to me thou hast given no seed: and, lo, one born in my house is mine heir.
 
15:4 Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’tlh ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
15:4 And, behold, the word of the LORD came unto him, saying, This shall not be thine heir; but he that shall come forth out of thine own bowels shall be thine heir.
 
15:5 Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dy wedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.
15:5 And he brought him forth abroad, and said, Look now toward heaven, and tell the stars, if thou be able to number them: and he said unto him, So shall thy seed be.
 
15:6 Yntau a gredodd yn yr ARGLWYDD, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.
15:6 And he believed in the LORD; and he counted it to him for righteousness.
 
15:7 ::7 Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu.
15:7 And he said unto him, I am the LORD that brought thee out of Ur of the Chaldees, to give thee this land to inherit it.
 
15:8 Yntau a ddywedodd, ARGLWYDD DDUW, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?
15:8 And he said, Lord GOD, whereby shall I know that I shall inherit it?
 
15:9 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen.
15:9 And he said unto him, Take me an heifer of three years old, and a she goat of three years old, and a ram of three years old, and a turtledove, and a young pigeon.
 
15:10 Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.
15:10 And he took unto him all these, and divided them in the midst, and laid each piece one against another: but the birds divided he not.
 
15:11 A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt.
15:11 And when the fowls came down upon the carcases, Abram drove them away.
 
15:12 A phan oedd yr haul at fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
15:12 And when the sun was going down, a deep sleep fell upon Abram; and, lo, an horror of great darkness fell upon him.
 
15:13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd.
15:13 And he said unto Abram, Know of a surety that thy seed shall be a stranger in a land that is not theirs, and shall serve them; and they shall afflict them four hundred years;
 
15:14 A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
15:14 And also that nation, whom they shall serve, will I judge: and afterward shall they come out with great substance.
 
15:15 A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
15:15 And thou shalt go to thy fathers in peace; thou shalt be buried in a good old age.
 
15:16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.
15:16 But in the fourth generation they shall come hither again: for the iniquity of the Amorites is not yet full.
 
15:17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
15:17 And it came to pass, that, when the sun went down, and it was dark, behold a smoking furnace, and a burning lamp that passed between those pieces.
 
15:18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:
15:18 In the same day the LORD made a covenant with Abram, saying, Unto thy seed have I given this land, from the river of Egypt unto the great river, the river Euphrates:
 
15:19 Y Ceneaid, a’r Cenesiaid, a’r Cadmoniaid.
15:19 The Kenites, and the Kenizzites, and the Kadmonites,
 
15:20 Yr Hethiaid hefyd, a’r Pheresiaid, a’r Reffaimiaid,
15:20 And the Hittites, and the Perizzites, and the Rephaims,
 
15:21 Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.
15:21 And the Amorites, and the Canaanites, and the Girgashites, and the Jebusites.

PENNOD 16
 
16:1 Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw Agar.
16:1 Now Sarai Abram’s wife bare him no children: and she had an handmaid, an Egyptian, whose name was Hagar.
 
16:2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr ARGLWYDD a luddiodd imi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: Abram a wran dawodd ar lais Sarai.
16:2 And Sarai said unto Abram, Behold now, the LORD hath restrained me from bearing: I pray thee, go in unto my maid; it may be that I may obtain children by her. And Abram hearkened to the voice of Sarai.
 
16:3 A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yn Eifftes, wedi trigo o    Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
16:3 And Sarai Abram’s wife took Hagar her maid the Egyptian, after Abram had dwelt ten years in the land of Canaan, and gave her to her husband Abram to be his wife.
 
16:4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.
16:4 And he went in unto Hagar, and she conceived: and when she saw that she had conceived, her mistress was despised in her eyes.
 
16:5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thi.
16:5 And Sarai said unto Abram, My wrong be upon thee: I have given my maid into thy bosom; and when she saw that she had conceived, I was despised in her eyes: the LORD judge between me and thee.
 
16:6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
16:6 But Abram said unto Sarai, Behold, thy maid is in thy hand; do to her as it pleaseth thee. And when Sarai dealt hardly with her, she fled from her face.
 
16:7 Ac angel yr ARGLWYDD a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:
16:7 And the angel of the LORD found her by a fountain of water in the wilderness, by the fountain in the way to Shur.
 
16:8 Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.
16:8 And he said, Hagar, Sarai’s maid, whence camest thou? and whither wilt thou go? And she said, I flee from the face of my mistress Sarai.
 
16:9 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi.
16:9 And the angel of the LORD said unto her, Return to thy mistress, and submit thyself under her hands.
 
16:10 Angel yr ARGLWYDD a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd.
16:10 And the angel of the LORD said unto her, I will multiply thy seed exceedingly, that it shall not be numbered for multitude.
 
16:11 Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr ARGLWYDD a glybu dy gystudd di.
16:11 And the angel of the LORD said unto her, Behold, thou art with child, and shalt bear a son, and shalt call his name Ishmael; because the LORD hath heard thy affliction.
 
16:12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr.
16:12 And he will be a wild man; his hand will be against every man, and every man’s hand against him; and he shall dwell in the presence of all his brethren.
 
16:13 A hi a alwodd enw yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O DDUW, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf?
16:13 And she called the name of the LORD that spake unto her, Thou God seest me: for she said, Have I also here looked after him that seeth me?
 
16:14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.
16:14 Wherefore the well was called Beerlahairoi; behold, it is between Kadesh and Bered.
 
16:15 Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Isnmel.
16:15 And Hagar bare Abram a son: and Abram called his son’s name, which Hagar bare, Ishmael.
 
16:16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.
16:16 And Abram was fourscore and six years old, when Hagar bare Ishmael to Abram.

PENNOD 17
 
17:1 A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
17:1 And when Abram was ninety years old and nine, the LORD appeared to Abram, and said unto him, I am the Almighty God; walk before me, and be thou perfect.
 
17:2 A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn.
17:2 And I will make my covenant between me and thee, and will multiply thee exceedingly.
 
17:3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd DUW wrtho ef, gan ddywedyd,
17:3 And Abram fell on his face: and God talked with him, saying,
 
17:4 Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.
17:4 As for me, behold, my covenant is with thee, and thou shalt be a father of many nations.
 
17:5 A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum.
17:5 Neither shall thy name any more be called Abram, but thy name shall be Abraham; for a father of many nations have I made thee.
 
17:6 A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti.
17:6 And I will make thee exceeding fruitful, and I will make nations of thee, and kings shall come out of thee.
 
17:7 Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn DDUW i ti, ac i’th had ar dy ôl di.
17:7 And I will establish my covenant between me and thee and thy seed after thee in their generations for an everlasting covenant, to be a God unto thee, and to thy seed after thee.
 
17:8 A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn DDUW iddynt.
17:8 And I will give unto thee, and to thy seed after thee, the land wherein thou art a stranger, all the land of Canaan, for an everlasting possession; and I will be their God.
 
17:9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a’th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd.
17:9 And God said unto Abraham, Thou shalt keep my covenant therefore, thou, and thy seed after thee in their generations.
 
17:10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi.
17:10 This is my covenant, which ye shall keep, between me and you and thy seed after thee; Every man child among you shall be circumcised.
 
17:11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau.
17:11 And ye shall circumcise the flesh of your foreskin; and it shall be a token of the covenant betwixt me and you.
 
17:12 Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau; yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th had di.
17:12 And he that is eight days old shall be circumcised among you, every man child in your generations, he that is born in the house, or bought with money of any stranger, which is not of thy seed.
 
17:13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol.
17:13 He that is born in thy house, and he that is bought with thy money, must needs be circumcised: and my covenant shall be in your flesh for an everlasting covenant.
 
17:14 A’r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.
17:14 And the uncircumcised man child whose flesh of his foreskin is not circumcised, that soul shall be cut off from his people; he hath broken my covenant.
 
17:15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.
17:15 And God said unto Abraham, As for Sarai thy wife, thou shalt not call her name Sarai, but Sarah shall her name be.
 
17:16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi.
17:16 And I will bless her, and give thee a son also of her: yea, I will bless her, and she shall be a mother of nations; kings of people shall be of her.
 
17:17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?
17:17 Then Abraham fell upon his face, and laughed, and said in his heart, Shall a child be born unto him that is an hundred years old? and shall Sarah, that is ninety years old, bear?
 
17:18 Ac Abraham a ddywedodd wrth DDUW, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!
17:18 And Abraham said unto God, O that Ishmael might live before thee!
 
17:19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â’i had ar ei ôl ef
17:19 And God said, Sarah thy wife shall bear thee a son indeed; and thou shalt call his name Isaac: and I will establish my covenant with him for an everlasting covenant, and with his seed after him.
 
17:20 Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhediaeth lawr.
17:20 And as for Ishmael, I have heard thee: Behold, I have blessed him, and will make him fruitful, and will multiply him exceedingly; twelve princes shall he beget, and I will make him a great nation.
 
17:21 Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.
17:21 But my covenant will I establish with Isaac, which Sarah shall bear unto thee at this set time in the next year.
 
17:22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.
17:22 And he left off talking with him, and God went up from Abraham.
 
17:23 Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.
17:23 And Abraham took Ishmael his son, and all that were born in his house, and all that were bought with his money, every male among the men of Abraham’s house; and circumcised the flesh of their foreskin in the selfsame day, as God had said unto him.
 
17:24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.
17:24 And Abraham was ninety years old and nine, when he was circumcised in the flesh of his foreskin.
 
17:25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.
17:25 And Ishmael his son was thirteen years old, when he was circumcised in the flesh of his foreskin.
 
17:26 O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.
17:26 In the selfsame day was Abraham circumcised, and Ishmael his son.
 
17:27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.
17:27 And all the men of his house, born in the house, and bought with money of the stranger, were circumcised with him.

PENNOD 18
 
18:1 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd ef iddo yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd.
18:1 And the LORD appeared unto him in the plains of Mamre: and he sat in the tent door in the heat of the day;
 
18:2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua’r ddaear,
18:2 And he lift up his eyes and looked, and, lo, three men stood by him: and when he saw them, he ran to meet them from the tent door, and bowed himself toward the ground,
 
18:3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn, dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was.
18:3 And said, My Lord, if now I have found favour in thy sight, pass not away, I pray thee, from thy servant:
 
18:4 Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren;
18:4 Let a little water, I pray you, be fetched, and wash your feet, and rest yourselves under the tree:
 
18:5 Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
18:5 And I will fetch a morsel of bread, and comfort ye your hearts; after that ye shall pass on: for therefore are ye come to your servant. And they said, So do, as thou hast said.
 
18:6 Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
18:6 And Abraham hastened into the tent unto Sarah, and said, Make ready quickly three measures of fine meal, knead it, and make cakes upon the hearth.
 
18:7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef.
18:7 And Abraham ran unto the herd, and fetched a calf tender and good, and gave it unto a young man; and he hasted to dress it.
 
18:8 Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
18:8 And he took butter, and milk, and the calf which he had dressed, and set it before them; and he stood by them under the tree, and they did eat.
 
18:9 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
18:9 And they said unto him, Where is Sarah thy wife? And he said, Behold, in the tent.
 
18:10 Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef.
18:10 And he said, I will certainly return unto thee according to the time of life; and, lo, Sarah thy wife shall have a son. And Sarah heard it in the tent door, which was behind him.
 
18:11 Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.
18:11 Now Abraham and Sarah were old and well stricken in age; and it ceased to be with Sarah after the manner of women.
 
18:12 Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i ini drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd?
18:12 Therefore Sarah laughed within herself, saying, After I am waxed old shall I have pleasure, my lord being old also?
 
18:13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf yn wir, wedi fy heneiddio?
18:13 And the LORD said unto Abraham, Wherefore did Sarah laugh, saying, Shall I of a surety bear a child, which am old?
 
18:14 A fydd dim yn anodd i’r ARGLWYDD? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.
18:14 Is any thing too hard for the LORD? At the time appointed I will return unto thee, according to the time of life, and Sarah shall have a son.
 
18:15 A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd: Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.
18:15 Then Sarah denied, saying, I laughed not; for she was afraid. And he said, Nay; but thou didst laugh.
 
18:16 A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, i’w hanfon hwynt.
18:16 And the men rose up from thence, and looked toward Sodom: and Abraham went with them to bring them on the way.
 
18:17 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
18:17 And the LORD said, Shall I hide from Abraham that thing which I do;
 
18:18 Canys Abraham yn ddiau a fydd ym genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
18:18 Seeing that Abraham shall surely become a great and mighty nation, and all the nations of the earth shall be blessed in him?
 
18:19 Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr ARGLWYDD, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo’r ARGLWYDD ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano.
18:19 For I know him, that he will command his children and his household after him, and they shall keep the way of the LORD, to do justice and judgment; that the LORD may bring upon Abraham that which he hath spoken of him.
 
18:20 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;
18:20 And the LORD said, Because the cry of Sodom and Gomorrah is great, and because their sin is very grievous;
 
18:21 Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl ei gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod.
18:21 I will go down now, and see whether they have done altogether according to the cry of it, which is come unto me; and if not, I will know.
 
18:22 A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr ARGLWYDD.
18:22 And the men turned their faces from thence, and went toward Sodom: but Abraham stood yet before the LORD.
 
18:23 Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?
18:23 And Abraham drew near, and said, Wilt thou also destroy the righteous with the wicked?
 
18:24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?
18:24 Peradventure there be fifty righteous within the city: wilt thou also destroy and not spare the place for the fifty righteous that are therein?
 
18:25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear fam?
18:25 That be far from thee to do after this manner, to slay the righteous with the wicked: and that the righteous should be as the wicked, that be far from thee: Shall not the Judge of all the earth do right?
 
18:26 A dywedodd yr ARGLWYDD, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.
18:26 And the LORD said, If I find in Sodom fifty righteous within the city, then I will spare all the place for their sakes.
 
18:27 Ac Abraham a atebodd, ac a wedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi ya ac yn lludw.
18:27 And Abraham answered and said, Behold now, I have taken upon me to speak unto the Lord, which am but dust and ashes:
 
18:28 Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.
18:28 Peradventure there shall lack five of the fifty righteous: wilt thou destroy all the city for lack of five? And he said, If I find there forty and five, I will not destroy it.
 
18:29 Ac efc a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.
18:29 And he spake unto him yet again, and said, Peradventure there shall be forty found there. And he said, I will not do it for forty’s sake.
 
18:30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.
18:30 And he said unto him, Oh let not the Lord be angry, and I will speak: Peradventure there shall thirty be found there. And he said, I will not do it, if I find thirty there.
 
18:31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a dywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.
18:31 And he said, Behold now, I have taken upon me to speak unto the Lord: Peradventure there shall be twenty found there. And he said, I will not destroy it for twenty’s sake.
 
18:32 Yna ydywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.
18:32 And he said, Oh let not the Lord be angry, and I will speak yet but this once: Peradventure ten shall be found there. And he said, I will not destroy it for ten’s sake.
 
18:33 A’r ARGLWYDD a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
18:33 And the LORD went his way, as soon as he had left communing with Abraham: and Abraham returned unto his place.

PENNOD 19

19:1
A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear;
19:1 And there came two angels to Sodom at even; and Lot sat in the gate of Sodom: and Lot seeing them rose up to meet them; and he bowed himself with his face toward the ground;

19:2
Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.
19:2 And he said, Behold now, my lords, turn in, I pray you, into your servant’s house, and tarry all night, and wash your feet, and ye shall rise up early, and go on your ways. And they said, Nay; but we will abide in the street all night.

19:3
Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.
19:3 And he pressed upon them greatly; and they turned in unto him, and entered into his house; and he made them a feast, and did bake unleavened bread, and they did eat.

19:4
Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr;
19:4 But before they lay down, the men of the city, even the men of Sodom, compassed the house round, both old and young, all the people from every quarter:

19:5 Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt.
19:5 And they called unto Lot, and said unto him, Where are the men which came in to thee this night? bring them out unto us, that we may know them.

19:6 Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl;
19:6 And Lot went out at the door unto them, and shut the door after him,

19:7 Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.
19:7 And said, I pray you, brethren, do not so wickedly.

19:8 Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.
19:8 Behold now, I have two daughters which have not known man; let me, I pray you, bring them out unto you, and do ye to them as is good in your eyes: only unto these men do nothing; for therefore came they under the shadow of my roof.

19:9 A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri’r ddôr.
19:9 And they said, Stand back. And they said again, This one fellow came in to sojourn, and he will needs be a judge: now will we deal worse with thee, than with them. And they pressed sore upon the man, even Lot, and came near to break the door.

19:10 A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.
19:10 But the men put forth their hand, and pulled Lot into the house to them, and shut to the door.

19:11 Trawsant hefyd y dynion oedd with ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio’r drws.
19:11 And they smote the men that were at the door of the house with blindness, both small and great: so that they wearied themselves to find the door.

19:12 A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon.
19:12 And the men said unto Lot, Hast thou here any besides? son in law, and thy sons, and thy daughters, and whatsoever thou hast in the city, bring them out of this place:

19:13 Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef.
19:13 For we will destroy this place, because the cry of them is waxen great before the face of the LORD; and the LORD hath sent us to destroy it.

19:14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; oherwydd y mae’r ARGLWYDD yn difetha’r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.
19:14 And Lot went out, and spake unto his sons in law, which married his daughters, and said, Up, get you out of this place; for the LORD will destroy this city. But he seemed as one that mocked unto his sons in law.

19:15 Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael, rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.
19:15 And when the morning arose, then the angels hastened Lot, saying, Arise, take thy wife, and thy two daughters, which are here; lest thou be consumed in the iniquity of the city.

19:16 Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch, am dosturio o’r ARGLWYDD wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas.
19:16 And while he lingered, the men laid hold upon his hand, and upon the hand of his wife, and upon the hand of his two daughters; the LORD being merciful unto him: and they brought him forth, and set him without the city.

19:17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i’r mynydd rhag dy ddifetha.
19:17 And it came to pass, when they had brought them forth abroad, that he said, Escape for thy life; look not behind thee, neither stay thou in all the plain; escape to the mountain, lest thou be consumed.

19:18 A dywedodd Let wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.
19:18 And Lot said unto them, Oh, not so, my Lord:

19:19 Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof.
19:19 Behold now, thy servant hath found grace in thy sight, and thou hast magnified thy mercy, which thou hast showed unto me in saving my life; and I cannot escape to the mountain, lest some evil take me, and I die:

19:20 Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.
19:20 Behold now, this city is near to flee unto, and it is a little one: Oh, let me escape thither, (is it not a little one?) and my soul shall live.

19:21 Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.
19:21 And he said unto him, See, I have accepted thee concerning this thing also, that I will not overthrow this city, for which thou hast spoken.

19:22 Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.
19:22 Haste thee, escape thither; for I cannot do any thing till thou be come thither. Therefore the name of the city was called Zoar.

19:23 Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.
19:23 The sun was risen upon the earth when Lot entered into Zoar.

19:24 Yna yr ARGLWYDD a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr ARGLWYDD, allan o’r nefoedd.
19:24 Then the LORD rained upon Sodom and upon Gomorrah brimstone and fire from the LORD out of heaven;

19:25 Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
19:25 And he overthrew those cities, and all the plain, and all the inhabitants of the cities, and that which grew upon the ground.

19:26 Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.
19:26 But his wife looked back from behind him, and she became a pillar of salt.

19:27 Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr ARGLWYDD.
19:27 And Abraham gat up early in the morning to the place where he stood before the LORD:

19:28 Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd, ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
19:28 And he looked toward Sodom and Gomorrah, and toward all the land of the plain, and beheld, and, lo, the smoke of the country went up as the smoke of a furnace.

19:29 A phan ddifethodd DUW ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd DUW am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
19:29 And it came to pass, when God destroyed the cities of the plain, that God remembered Abraham, and sent Lot out of the midst of the overthrow, when he overthrew the cities in the which Lot dwelt.

19:30 A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferch.
19:30 And Lot went up out of Zoar, and dwelt in the mountain, and his two daughters with him; for he feared to dwell in Zoar: and he dwelt in a cave, he and his two daughters.

19:31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.
19:31 And the firstborn said unto the younger, Our father is old, and there is not a man in the earth to come in unto us after the manner of all the earth:

19:32 Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o’n tad.
19:32 Come, let us make our father drink wine, and we will lie with him, that we may preserve seed of our father.

19:33 A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
19:33 And they made their father drink wine that night: and the firstborn went in, and lay with her father; and he perceived not when she lay down, nor when she arose.

19:34 A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda’m tad; rhoddwn win iddo i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o’n tad.
19:34 And it came to pass on the morrow, that the firstborn said unto the younger, Behold, I lay yesternight with my father: let us make him drink wine this night also; and go thou in, and lie with him, that we may preserve seed of our father.



19:35 A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
19:35 And they made their father drink wine that night also: and the younger arose, and lay with him; and he perceived not when she lay down, nor when she arose.

19:36 Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o’u tad.
19:36 Thus were both the daughters of Lot with child by their father.

19:37 A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.
19:37 And the firstborn bare a son, and called his name Moab: the same is the father of the Moabites unto this day.

19:38 A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Benammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.
19:38 And the younger, she also bare a son, and called his name Benammi: the same is the father of the children of Ammon unto this day.

PENNOD 20

20:1 Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.
20:1 And Abraham journeyed from thence toward the south country, and dwelled between Kadesh and Shur, and sojourned in Gerar.

20:2 A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara.
20:2 And Abraham said of Sarah his wife, She is my sister: and Abimelech king of Gerar sent, and took Sarah.

20:3 Yna y daeth DUW at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist, a hithau yn bcrchen gŵr.
20:3 But God came to Abimelech in a dream by night, and said to him, Behold, thou art but a dead man, for the woman which thou hast taken; for she is a man’s wife.

20:4 Ond Abimelech ni nesasai ati hi:, ac efe a ddywedodd, ARGLWYDD, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?
20:4 But Abimelech had not come near her: and he said, Lord, wilt thou slay also a righteous nation?

20:5 Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac yng nglendid fy nwylo, y gwneuthum hyn.
20:5 Said he not unto me, She is my sister? and she, even she herself said, He is my brother: in the integrity of my heart and innocency of my hands have I done this.

20:6 Yna y dywedodd DUW wrtho ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.
20:6 And God said unto him in a dream, Yea, I know that thou didst this in the integrity of thy heart; for I also withheld thee from sinning against me: therefore suffered I thee not to touch her.

20:7 Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.
20:7 Now therefore restore the man his wife; for he is a prophet, and he shall pray for thee, and thou shalt live: and if thou restore her not, know thou that thou shalt surely die, thou, and all that are thine.

20:8 Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
20:8 Therefore Abimelech rose early in the morning, and called all his servants, and told all these things in their ears: and the men were sore afraid.

20:9 Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
20:9 Then Abimelech called Abraham, and said unto him, What hast thou done unto us? and what have I offended thee, that thou hast brought on me and on my kingdom a great sin? thou hast done deeds unto me that ought not to be done.

20:10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?
20:10 And Abimelech said unto Abraham, What sawest thou, that thou hast done this thing?

20:11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi. Yn ddiau nid oes ofn DUW yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig.
20:11 And Abraham said, Because I thought, Surely the fear of God is not in this place; and they will slay me for my wife’s sake.

20:12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.
20:12 And yet indeed she is my sister; she is the daughter of my father, but not the daughter of my mother; and she became my wife.

20:13 Ond pan barodd DUW i mi grwydra o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe.
20:13 And it came to pass, when God caused me to wander from my father’s house, that I said unto her, This is thy kindness which thou shalt show unto me; at every place whither we shall come, say of me, He is my brother.

20:14 Yna y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn.
20:14 And Abimelech took sheep, and oxen, and menservants, and womenservants, and gave them unto Abraham, and restored him Sarah his wife.

20:15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
20:15 And Abimelech said, Behold, my land is before thee: dwell where it pleaseth thee.

20:16 Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.
20:16 And unto Sarah he said, Behold, I have given thy brother a thousand pieces of silver: behold, he is to thee a covering of the eyes, unto all that are with thee, and with all other: thus she was reproved.

20:17 Yna Abraham a weddiodd ar DDUW: a DUW a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forynion; a hwy a blantasant.
20:17 So Abraham prayed unto God: and God healed Abimelech, and his wife, and his maidservants; and they bare children.

20:18 Oherwydd yr ARGLWYDD gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.
20:18 For the LORD had fast closed up all the wombs of the house of Abimelech, because of Sarah Abraham’s wife.

PENNOD 21

21:1 A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr ARGLWYDD i Sara fel y llefarasai.
21:1 And the LORD visited Sarah as he had said, and the LORD did unto Sarah as he had spoken.

21:2 Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai DUW wrtho ef.
21:2 For Sarah conceived, and bare Abraham a son in his old age, at the set time of which God had spoken to him.

21:3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac.
21:3 And Abraham called the name of his son that was born unto him, whom Sarah bare to him, Isaac.

21:4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai DUW iddo ef.
21:4 And Abraham circumcised his son Isaac being eight days old, as God had commanded him.

21:5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
21:5 And Abraham was an hundred years old, when his son Isaac was born unto him.

21:6 A Sara a ddywedodd, Gwnaeth DUW i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. ‘
21:6 And Sarah said, God hath made me to laugh, so that all that hear will laugh with me.

21:7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
21:7 And she said, Who would have said unto Abraham, that Sarah should have given children suck? for I have born him a son in his old age.

21:8 A’r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
21:8 And the child grew, and was weaned: and Abraham made a great feast the same day that Isaac was weaned.

21:9 A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
21:9 And Sarah saw the son of Hagar the Egyptian, which she had born unto Abraham, mocking.

21:10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac.
21:10 Wherefore she said unto Abraham, Cast out this bondwoman and her son: for the son of this bondwoman shall not be heir with my son, even with Isaac.

21:11 A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
21:11 And the thing was very grievous in Abraham’s sight because of his son.

21:12 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
21:12 And God said unto Abraham, Let it not be grievous in thy sight because of the lad, and because of thy bondwoman; in all that Sarah hath said unto thee, hearken unto her voice; for in Isaac shall thy seed be called.

21:13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef.
21:13 And also of the son of the bondwoman will I make a nation, because he is thy seed.

21:14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
21:14 And Abraham rose up early in the morning, and took bread, and a bottle of water, and gave it unto Hagar, putting it on her shoulder, and the child, and sent her away: and she departed, and wandered in the wilderness of Beersheba.

21:15 A darfu’r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd.
21:15 And the water was spent in the bottle, and she cast the child under one of the shrubs.

21:16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
21:16 And she went, and sat her down over against him a good way off, as it were a bowshot: for she said, Let me not see the death of the child. And she sat over against him, and lift up her voice, and wept.

21:17 A DUW a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd DUW a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.
21:17 And God heard the voice of the lad; and the angel of God called to Hagar out of heaven, and said unto her, What aileth thee, Hagar? fear not; for God hath heard the voice of the lad where he is.

21:18 Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â’th law, oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
21:18 Arise, lift up the lad, and hold him in thine hand; for I will make him a great nation.

21:19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddiododd y llanc.
21:19 And God opened her eyes, and she saw a well of water; and she went, and filled the bottle with water, and gave the lad drink.

21:20 Ac yr oedd DUW gyda’r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21:20 And God was with the lad; and he grew, and dwelt in the wilderness, and became an archer.

21:21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.
21:21 And he dwelt in the wilderness of Paran: and his mother took him a wife out of the land of Egypt.

21:22 Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, DUW sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
21:22 And it came to pass at that time, that Abimelech and Phichol the chief captain of his host spake unto Abraham, saying, God is with thee in all that thou doest:

21:23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i DDUW, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di a minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
21:23 Now therefore swear unto me here by God that thou wilt not deal falsely with me, nor with my son, nor with my son’s son: but according to the kindness that I have done unto thee, thou shalt do unto me, and to the land wherein thou hast sojourned.

21:24 Ac Abraham a ddywedodd.
Mi a dyngaf.
21:24 And Abraham said, I will swear.

21:25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
21:25 And Abraham reproved Abimelech because of a well of water, which Abimelech’s servants had violently taken away.

21:26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.
21:26 And Abimelech said, I wot not who hath done this thing: neither didst thou tell me, neither yet heard I of it, but to day.

21:27 Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
21:27 And Abraham took sheep and oxen, and gave them unto Abimelech; and both of them made a covenant.

21:28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain.
21:28 And Abraham set seven ewe lambs of the flock by themselves.

21:29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
21:29 And Abimelech said unto Abraham, What mean these seven ewe lambs which thou hast set by themselves?

21:30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
21:30 And he said, For these seven ewe lambs shalt thou take of my hand, that they may be a witness unto me, that I have digged this well.

21:31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
21:31 Wherefore he called that place Beersheba; because there they sware both of them.

21:32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
21:32 Thus they made a covenant at Beersheba: then Abimelech rose up, and Phichol the chief captain of his host, and they returned into the land of the Philistines.

21:33 Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr ARGLWYDD DDUW tragwyddol.
21:33 And Abraham planted a grove in Beersheba, and called there on the name of the LORD, the everlasting God.

21:34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.
21:34 And Abraham sojourned in the Philistines’ land many days.

PENNOD 22

22:1 Ac wedi’r pethau hyn y bu i DDUW brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
22:1 And it came to pass after these things, that God did tempt Abraham, and said unto him, Abraham: and he said, Behold, here I am.

22:2 Yna y dywedodd DUW, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
22:2 And he said, Take now thy son, thine only son Isaac, whom thou lovest, and get thee into the land of Moriah; and offer him there for a burnt offering upon one of the mountains which I will tell thee of.

22:3 Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lace gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai DUW wrtho.
22:3 And Abraham rose up early in the morning, and saddled his ass, and took two of his young men with him, and Isaac his son, and clave the wood for the burnt offering, and rose up, and went unto the place of which God had told him.

22:4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell.
22:4 Then on the third day Abraham lifted up his eyes, and saw the place afar off.

22:5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch.
22:5 And Abraham said unto his young men, Abide ye here with the ass; and I and the lad will go yonder and worship, and come again to you.

22:6 Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.
22:6 And Abraham took the wood of the burnt offering, and laid it upon Isaac his son; and he took the fire in his hand, and a knife; and they went both of them together.

22:7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm?
22:7 And Isaac spake unto Abraham his father, and said, My father: and he said, Here am I, my son. And he said, Behold the fire and the wood: but where is the lamb for a burnt offering?

22:8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, DUW a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:
22:8 And Abraham said, My son, God will provide himself a lamb for a burnt offering: so they went both of them together.

22:9 Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai DUW wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.
22:9 And they came to the place which God had told him of; and Abraham built an altar there, and laid the wood in order, and bound Isaac his son, and laid him on the altar upon the wood.

22:10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab;
22:10 And Abraham stretched forth his hand, and took the knife to slay his son.

22:11 Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
22:11 And the angel of the LORD called unto him out of heaven, and said, Abraham, Abraham: and he said, Here am I.

22:12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni DUW, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.
22:12 And he said, Lay not thine hand upon the lad, neither do thou any thing unto him: for now I know that thou fearest God, seeing thou hast not withheld thy son, thine only son from me.

22:13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab.
22:13 And Abraham lifted up his eyes, and looked, and behold behind him a ram caught in a thicket by his horns: and Abraham went and took the ram, and offered him up for a burnt offering in the stead of his son.

22:14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH-jire; fel y dywedir heddiw. Ym mynydd yr ARGLWYDD y gwelir.
22:14 And Abraham called the name of that place Jehovahjireh: as it is said to this day, In the mount of the LORD it shall be seen.

22:15 Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd;
22:15 And the angel of the LORD called unto Abraham out of heaven the second time,

22:16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad atebaist dy fab, dy unig fab:
22:16 And said, By myself have I sworn, saith the LORD, for because thou hast done this thing, and hast not withheld thy son, thine only son:

22:17 Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
22:17 That in blessing I will bless thee, and in multiplying I will multiply thy seed as the stars of the heaven, and as the sand which is upon the sea shore; and thy seed shall possess the gate of his enemies;

22:18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i.
22:18 And in thy seed shall all the nations of the earth be blessed; because thou hast obeyed my voice.

22:19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.
22:19 So Abraham returned unto his young men, and they rose up and went together to Beersheba; and Abraham dwelt at Beersheba.

22:20 Darfu hefyd, wedi’r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;
22:20 And it came to pass after these things, that it was told Abraham, saying, Behold, Milcah, she hath also born children unto thy brother Nahor;

22:21 Hus ei gyntaf-anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,
22:21 Huz his firstborn, and Buz his brother, and Kemuel the father of Aram,

22:22 A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel.
22:22 And Chesed, and Hazo, and Pildash, and Jidlaph, and Bethuel.

22:23 A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Naohor brawd Abraham.
22:23 And Bethuel begat Rebekah: these eight Milcah did bear to Nahor, Abraham’s brother.

22:24 Ei ordderchwraig hefyd, a’i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.
22:24 And his concubine, whose name was Reumah, she bare also Tebah, and Gaham, and Thahash, and Maachah.

PENNOD 23

23:1 Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara.
23:1 And Sarah was an hundred and seven and twenty years old: these were the years of the life of Sarah.

23:2 A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.
23:2 And Sarah died in Kirjatharba; the same is Hebron in the land of Canaan: and Abraham came to mourn for Sarah, and to weep for her.

23:3 Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
23:3 And Abraham stood up from before his dead, and spake unto the sons of Heth, saying,

23:4 Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg.
23:4 I am a stranger and a sojourner with you: give me a possession of a buryingplace with you, that I may bury my dead out of my sight.

23:5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
23:5 And the children of Heth answered Abraham, saying unto him,

23:6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog DUW wyt ti yn ein phth: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.
23:6 Hear us, my lord: thou art a mighty prince among us: in the choice of our sepulchres bury thy dead; none of us shall withhold from thee his sepulchre, but that thou mayest bury thy dead.

23:7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;
23:7 And Abraham stood up, and bowed himself to the people of the land, even to the children of Heth.

23:8 Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar; i
23:8 And he communed with them, saying, If it be your mind that I should bury my dead out of my sight; hear me, and entreat for me to Ephron the son of Zohar,

23:9 Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes, er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.
23:9 That he may give me the cave of Machpelah, which he hath, which is in the end of his field; for as much money as it is worth he shall give it me for a possession of a buryingplace amongst you.

23:10 Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,
23:10 And Ephron dwelt among the children of Heth: and Ephron the Hittite answered Abraham in the audience of the children of Heth, even of all that went in at the gate of his city, saying,

23:11 Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.
23:11 Nay, my lord, hear me: the field give I thee, and the cave that is therein, I give it thee; in the presence of the sons of my people give I it thee: bury thy dead.

23:12 Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir.
23:12 And Abraham bowed down himself before the people of the land.

23:13 Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes, cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.
23:13 And he spake unto Ephron in the audience of the people of the land, saying, But if thou wilt give it, I pray thee, hear me: I will give thee money for the field; take it of me, and I will bury my dead there.

23:14 Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,
23:14 And Ephron answered Abraham, saying unto him,

23:15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can sici o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.
23:15 My lord, hearken unto me: the land is worth four hundred shekels of silver; what is that betwixt me and thee? bury therefore thy dead.

23:16 Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effroia yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sici o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.
23:16 And Abraham hearkened unto Ephron; and Abraham weighed to Ephron the silver, which he had named in the audience of the sons of Heth, four hundred shekels of silver, current money with the merchant.

23:17 Felly y sicrhawyd maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch.
23:17 And the field of Ephron, which was in Machpelah, which was before Mamre, the field, and the cave which was therein, and all the trees that were in the field, that were in all the borders round about, were made sure

23:18 Yn feddiant i Abraham, yng ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.
23:18 Unto Abraham for a possession in the presence of the children of Heth, before all that went in at the gate of his city.

23:19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan.
23:19 And after this, Abraham buried Sarah his wife in the cave of the field of Machpelah before Mamre: the same is Hebron in the land of Canaan.

23:20 A sicrhawyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.
23:20 And the field, and the cave that is therein, were made sure unto Abraham for a possession of a buryingplace by the sons of Heth.

PENNOD 24

24:1 Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r ARGLWYDD a fendithiasai Abraham ym mhob dim.
24:1 And Abraham was old, and well stricken in age: and the LORD had blessed Abraham in all things.

24:2 A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd:
24:2 And Abraham said unto his eldest servant of his house, that ruled over all that he had, Put, I pray thee, thy hand under my thigh:

24:3 A mi a bataf i ti dyngu i ARGLWYDD DDUW y nefoedd, a DUW y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg:
24:3 And I will make thee swear by the LORD, the God of heaven, and the God of the earth, that thou shalt not take a wife unto my son of the daughters of the Canaanites, among whom I dwell:

24:4 Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gylmeri wraig i’m mab Isaac.
24:4 But thou shalt go unto my country, and to my kindred, and take a wife unto my son Isaac.

24:5 A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono?
24:5 And the servant said unto him, Peradventure the woman will not be willing to follow me unto this land: must I needs bring thy son again unto the land from whence thou camest?

24:6 A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
24:6 And Abraham said unto him, Beware thou that thou bring not my son thither again.

24:7 ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno.
24:7 The LORD God of heaven, which took me from my father’s house, and from the land of my kindred, and which spake unto me, and that sware unto me, saying, Unto thy seed will I give this land; he shall send his angel before thee, and thou shalt take a wife unto my son from thence.

24:8 At os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.
24:8 And if the woman will not be willing to follow thee, then thou shalt be clear from this my oath: only bring not my son thither again.

24:9 A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
24:9 And the servant put his hand under the thigh of Abraham his master, and sware to him concerning that matter.

24:10 A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
24:10 And the servant took ten camels of the camels of his master, and departed; for all the goods of his master were in his hand: and he arose, and went to Mesopotamia, unto the city of Nahor.

24:11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai metched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
24:11 And he made his camels to kneel down without the city by a well of water at the time of the evening, even the time that women go out to draw water.

24:12 Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDO DDUW fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.
24:12 And he said, O LORD God of my master Abraham, I pray thee, send me good speed this day, and show kindness unto my master Abraham.

24:13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:
24:13 Behold, I stand here by the well of water; and the daughters of the men of the city come out to draw water:

24:14 A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.
24:14 And let it come to pass, that the damsel to whom I shall say, Let down thy pitcher, I pray thee, that I may drink; and she shall say, Drink, and I will give thy camels drink also: let the same be she that thou hast appointed for thy servant Isaac; and thereby shall I know that thou hast showed kindness unto my master.

24:15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd.
24:15 And it came to pass, before he had done speaking, that, behold, Rebekah came out, who was born to Bethuel, son of Milcah, the wife of Nahor, Abraham’s brother, with her pitcher upon her shoulder.

24:6 A’r llances oedd deg odiaeth yr owWg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny.
24:16 And the damsel was very fair to look upon, a virgin, neither had any man known her: and she went down to the well, and filled her pitcher, and came up.

24:17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên.
24:17 And the servant ran to meet her, and said, Let me, I pray thee, drink a little water of thy pitcher.

24:18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i diododd ef.
24:18 And she said, Drink, my lord: and she hasted, and let down her pitcher upon her hand, and gave him drink.

24:19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.
24:19 And when she had done giving him drink, she said, I will draw water for thy camels also, until they have done drinking.

24:20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef.
24:20 And she hasted, and emptied her pitcher into the trough, and ran again unto the well to draw water, and drew for all his camels.

24:21 A’r gŵr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr ARGLWYDD ei daith ef, ai naddo.
24:21 And the man wondering at her held his peace, to wit whether the LORD had made his journey prosperous or not.

24:22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymryd o’r gwr glustlws aur, yn banner sici ei bwys; a dwy freichled i’w dwylo hi, yn ddeg sici o aur eu pwys.
24:22 And it came to pass, as the camels had done drinking, that the man took a golden earring of half a shekel weight, and two bracelets for her hands of ten shekels weight of gold;

24:23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad?
24:23 And said, Whose daughter art thou? tell me, I pray thee: is there room in thy father’s house for us to lodge in?

24:24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.
24:24 And she said unto him, I am the daughter of Bethuel the son of Milcah, which she bare unto Nahor.

24:25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya.
24:25 She said moreover unto him, We have both straw and provender enough, and room to lodge in.

24:26 A’r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr ARGLWYDD.
24:26 And the man bowed down his head, and worshipped the LORD.

24:27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr ARGLWYDD fi i dŷ brodyr fy meistr.
24:27 And he said, Blessed be the LORD God of my master Abraham, who hath not left destitute my master of his mercy and his truth: I being in the way, the LORD led me to the house of my master’s brethren.

24:28 A’r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
24:28 And the damsel ran, and told them of her mother’s house these things.

24:29 Ac i Rebeca yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon.
24:29 And Rebekah had a brother, and his name was Laban: and Laban ran out unto the man, unto the well.

24:30 A phan welodd efe y clustlws, a’r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd. Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon.
24:30 And it came to pass, when he saw the earring and bracelets upon his sister’s hands, and when he heard the words of Rebekah his sister, saying, Thus spake the man unto me; that he came unto the man; and, behold, he stood by the camels at the well.

24:31 Ac efe a ddywedodd. Tyred i mewn, ti fendigedig yr ARGLWYDD; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i’r camelod.
24:31 And he said, Come in, thou blessed of the LORD; wherefore standest thou without? for I have prepared the house, and room for the camels.

24:32 A’r gwr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef.
24:32 And the man came into the house: and he ungirded his camels, and gave straw and provender for the camels, and water to wash his feet, and the men’s feet that were with him.

24:33 A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytaf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.
24:33 And there was set meat before him to eat: but he said, I will not eat, until I have told mine errand. And he said, Speak on.

24:34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.
24:34 And he said, I am Abraham’s servant.

24:35 A’r ARGLWYDD a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod.
24:35 And the LORD hath blessed my master greatly; and he is become great: and he hath given him flocks, and herds, and silver, and gold, and menservants, and maidservants, and camels, and asses.

24:36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.
24:36 And Sarah my master’s wife bare a son to my master when she was old: and unto him hath he given all that he hath.

24:37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.
24:37 And my master made me swear, saying, Thou shalt not take a wife to my son of the daughters of the Canaanites, in whose land I dwell:

24:38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab.
24:38 But thou shalt go unto my father’s house, and to my kindred, and take a wife unto my son.

24:39 A dywedais with fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i.
24:39 And I said unto my master, Peradventure the woman will not follow me.

24:40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ARGLWYDD yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad.
24:40 And he said unto me, The LORD, before whom I walk, will send his angel with thee, and prosper thy way; and thou shalt take a wife for my son of my kindred, and of my father’s house:

24:41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.
24:41 Then shalt thou be clear from this my oath, when thou comest to my kindred; and if they give not thee one, thou shalt be clear from my oath.

24:42 A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
24:42 And I came this day unto the well, and said, O LORD God of my master Abraham, if now thou do prosper my way which I go:

24:43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên;
24:43 Behold, I stand by the well of water; and it shall come to pass, that when the virgin cometh forth to draw water, and I say to her, Give me, I pray thee, a little water of thy pitcher to drink;

24:44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr ARGLWYDD i fab fy meistr.
24:44 And she say to me, Both drink thou, and I will also draw for thy camels: let the same be the woman whom the LORD hath appointed out for my master’s son.

24:45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg.
24:45 And before I had done speaking in mine heart, behold, Rebekah came forth with her pitcher on her shoulder; and she went down unto the well, and drew water: and I said unto her, Let me drink, I pray thee.

24:46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.
24:46 And she made haste, and let down her pitcher from her shoulder, and said, Drink, and I will give thy camels drink also: so I drank, and she made the camels drink also.

24:47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi:
24:47 And I asked her, and said, Whose daughter art thou? And she said, The daughter of Bethuel, Nahor’s son, whom Milcah bare unto him: and I put the earring upon her face, and the bracelets upon her hands.

24:48 Ac a ymgrymais, ac a addolais yr ARGLWYDD, ac a fendithiais ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef.
24:48 And I bowed down my head, and worshipped the LORD, and blessed the LORD God of my master Abraham, which had led me in the right way to take my master’s brother’s daughter unto his son.

24:49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy.
24:49 And now if ye will deal kindly and truly with my master, tell me: and if not, tell me; that I may turn to the right hand, or to the left.

24:50 Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.
24:50 Then Laban and Bethuel answered and said, The thing proceedeth from the LORD: we cannot speak unto thee bad or good.

24:51 Wele Rebeca o’th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.
24:51 Behold, Rebekah is before thee, take her, and go, and let her be thy master’s son’s wife, as the LORD hath spoken.

24:52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i’r ARGLWYDD.
24:52 And it came to pass, that, when Abraham’s servant heard their words, he worshipped the LORD, bowing himself to the earth.

24:53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thiysau aur, a gwisgoedd, ac a’u roddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam.
24:53 And the servant brought forth jewels of silver, and jewels of gold, and raiment, and gave them to Rebekah: he gave also to her brother and to her mother precious things.

24:54 A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.
24:54 And they did eat and drink, he and the men that were with him, and tarried all night; and they rose up in the morning, and he said, Send me away unto my master.

24:55 Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.
24:55 And her brother and her mother said, Let the damsel abide with us a few days, at the least ten; after that she shall go.

24:56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at y meistr.
24:56 And he said unto them, Hinder me not, seeing the LORD hath prospered my way; send me away that I may go to my master.

24:57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi.
24:57 And they said, We will call the damsel, and inquire at her mouth.

24:58 A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda’r gwr hwn? A hi a ddywedodd, Af.
24:58 And they called Rebekah, and said unto her, Wilt thou go with this man? And she said, I will go.

24:59 A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion;
24:59 And they sent away Rebekah their sister, and her nurse, and Abraham’s servant, and his men.

24:60 Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
24:60 And they blessed Rebekah, and said unto her, Thou art our sister, be thou the mother of thousands of millions, and let thy seed possess the gate of those which hate them.

24:61 Yna y cododd Rebeca, a’i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a’r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith.
24:61 And Rebekah arose, and her damsels, and they rode upon the camels, and followed the man: and the servant took Rebekah, and went his way.

24:62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai-roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau.
24:62 And Isaac came from the way of the well Lahairoi; for he dwelt in the south country.

24:63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.
24:63 And Isaac went out to meditate in the field at the eventide: and he lifted up his eyes, and saw, and, behold, the camels were coming.

24:64 Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.
24:64 And Rebekah lifted up her eyes, and when she saw Isaac, she lighted off the camel.

24:65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd.
24:65 For she had said unto the servant, What man is this that walketh in the field to meet us? And the servant had said, It is my master: therefore she took a veil, and covered herself.

24:66 A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.
24:66 And the servant told Isaac all things that he had done.

24:67 Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.
24:67 And Isaac brought her into his mother Sarah’s tent, and took Rebekah, and she became his wife; and he loved her: and Isaac was comforted after his mother’s death.

PENNOD 25

25:1 Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura.
25:1 Then again Abraham took a wife, and her name was Keturah.

25:2 A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua.
25:2 And she bare him Zimran, and Jokshan, and Medan, and Midian, and Ishbak, and Shuah.

25:3 A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim.
25:3 And Jokshan begat Sheba, and Dedan. And the sons of Dedan were Asshurim, and Letushim, and Leummim.

25:4 A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.
25:4 And the sons of Midian; Ephah, and Epher, and Hanoch, and Abidah, and Eldaah. All these were the children of Keturah.

25:5 Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.
25:5 And Abraham gave all that he had unto Isaac.

25:6 Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw.
25:6 But unto the sons of the concubines, which Abraham had, Abraham gave gifts, and sent them away from Isaac his son, while he yet lived, eastward, unto the east country.

25:7 A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thri ugain.
25:7 And these are the days of the years of Abraham’s life which he lived, an hundred threescore and fifteen years.

25:8 Ac Abraham a drengbdd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawm o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.
25:8 Then Abraham gave up the ghost, and died in a good old age, an old man, and full of years; and was gathered to his people.

25:9 Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;
25:9 And his sons Isaac and Ishmael buried him in the cave of Machpelah, in the field of Ephron the son of Zohar the Hittite, which is before Mamre;

25:10 Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
25:10 The field which Abraham purchased of the sons of Heth: there was Abraham buried, and Sarah his wife.

25:11 Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i DDUW fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.
25:11 And it came to pass after the death of Abraham, that God blessed his son Isaac; and Isaac dwelt by the well Lahairoi.

25:12 A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham.
25:12 Now these are the generations of Ishmael, Abraham’s son, whom Hagar the Egyptian, Sarah’s handmaid, bare unto Abraham:

25:13 A dyma enwau meibion Ismaet, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,
25:13 And these are the names of the sons of Ishmael, by their names, according to their generations: the firstborn of Ishmael, Nebajoth; and Kedar, and Adbeel, and Mibsam,

25:14 Misma hefyd, a Duma, a Massa,
25:14 And Mishma, and Dumah, and Massa,

25:15 Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema.
25:15 Hadar, and Tema, Jetur, Naphish, and Kedemah:

25:16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyrna eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd.
25:16 These are the sons of Ishmael, and these are their names, by their towns, and by their castles; twelve princes according to their nations.

25:17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg at hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
25:17 And these are the years of the life of Ishmael, an hundred and thirty and seven years: and he gave up the ghost and died; and was gathered unto his people.

25:18 Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
25:18 And they dwelt from Havilah unto Shur, that is before Egypt, as thou goest toward Assyria: and he died in the presence of all his brethren.

25:19 A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.
25:19 And these are the generations of Isaac, Abraham’s son: Abraham begat Isaac:

25:20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.
25:20 And Isaac was forty years old when he took Rebekah to wife, the daughter of Bethuel the Syrian of Padanaram, the sister to Laban the Syrian.

25:21 Ac Isaac a weddïodd ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy, a’r ARGLWYDD a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.
25:21 And Isaac entreated the LORD for his wife, because she was barren: and the LORD was entreated of him, and Rebekah his wife conceived.

25:22 A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedddd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r ARGLWYDD.
25:22 And the children struggled together within her; and she said, If it be so, why am I thus? And she went to inquire of the LORD.

25:23 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
25:23 And the LORD said unto her, Two nations are in thy womb, and two manner of people shall be separated from thy bowels; and the one people shall be stronger than the other people; and the elder shall serve the younger.

25:24 A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.
25:24 And when her days to be delivered were fulfilled, behold, there were twins in her womb.

25:25 A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.
25:25 And the first came out red, all over like an hairy garment; and they called his name Esau.

25:26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau, a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.
25:26 And after that came his brother out, and his hand took hold on Esau’s heel; and his name was called Jacob: and Isaac was threescore years old when she bare them.

25:27 A’r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o’r maes, a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.
25:27 And the boys grew: and Esau was a cunning hunter, a man of the field; and Jacob was a plain man, dwelling in tents.

25:28 Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
25:28 And Isaac loved Esau, because he did eat of his venison: but Rebekah loved Jacob.

25:29 A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol.
25:29 And Jacob sod pottage: and Esau came from the field, and he was faint:

25:36 A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
25:30 And Esau said to Jacob, Feed me, I pray thee, with that same red pottage; for I am faint: therefore was his name called Edom.

25:31 A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth-fraint.
25:31 And Jacob said, Sell me this day thy birthright.

25:32 A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna’r enedigaeth-fraint hon i mi?
25:32 And Esau said, Behold, I am at the point to die: and what profit shall this birthright do to me?

25:33 A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.
25:33 And Jacob said, Swear to me this day; and he sware unto him: and he sold his birthright unto Jacob.

25:34 A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.
25:34 Then Jacob gave Esau bread and pottage of lentiles; and he did eat and drink, and rose up, and went his way: thus Esau despised his birthright.

PENNOD 26

26:1 A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar;
26:1 And there was a famine in the land, beside the first famine that was in the days of Abraham. And Isaac went unto Abimelech king of the Philistines unto Gerar.

26:2 A’r ARGLWYDD a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.
26:2 And the LORD appeared unto him, and said, Go not down into Egypt; dwell in the land which I shall tell thee of:

26:3 Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf; oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad.
26:3 Sojourn in this land, and I will be with thee, and will bless thee; for unto thee, and unto thy seed, I will give all these countries, and I will perform the oath which I sware unto Abraham thy father;

26:4 A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:
26:4 And I will make thy seed to multiply as the stars of heaven, and will give unto thy seed all these countries; and in thy seed shall all the nations of the earth be blessed;

26:5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.
26:5 Because that Abraham obeyed my voice, and kept my charge, my commandments, my statutes, and my laws.

26:6 Ac Isaac a drigodd yn Gerar.
26:6 And Isaac dwelt in Gerar:

26:7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi; canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw, rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg.
26:7 And the men of the place asked him of his wife; and he said, She is my sister: for he feared to say, She is my wife; lest, said he, the men of the place should kill me for Rebekah; because she was fair to look upon.

26:8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr, a chanfod, ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig.
26:8 And it came to pass, when he had been there a long time, that Abimelech king of the Philistines looked out at a window, and saw, and, behold, Isaac was sporting with Rebekah his wife.

26:9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yn hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o’i phlegid hi.
26:9 And Abimelech called Isaac, and said, Behold, of a surety she is thy wife: and how saidst thou, She is my sister? And Isaac said unto him, Because I said, Lest I die for her.

26:10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyda’th wraig di; fel y dygasit arnom ni bechod.
26:10 And Abimelech said, What is this thou hast done unto us? one of the people might lightly have lien with thy wife, and thou shouldest have brought guiltiness upon us.

26:11 A gorchmynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw.
26:11 And Abimelech charged all his people, saying, He that toucheth this man or his wife shall surely be put to death.

26:12 Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A’r ARGLWYDD a’i bendithiodd ef.
26:12 Then Isaac sowed in that land, and received in the same year an hundredfold: and the LORD blessed him.

26:13 A’r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.
26:13 And the man waxed great, and went forward, and grew until he became very great:

26:14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef.
26:14 For he had possession of flocks, and possession of herds, and great store of servants: and the Philistines envied him.

26:15 A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u caeasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd.
26:15 For all the wells which his father’s servants had digged in the days of Abraham his father, the Philistines had stopped them, and filled them with earth.

26:16 Ac Abhimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni; canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
26:16 And Abimelech said unto Isaac, Go from us; for thou art much mightier than we.

26:17 Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.
26:17 And Isaac departed thence, and pitched his tent in the valley of Gerar, and dwelt there.

26:18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gaeasai’r Philistiaid wedi marw Abraham, ac a enwodd enwau arnynt, yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.
26:18 And Isaac digged again the wells of water, which they had digged in the days of Abraham his father; for the Philistines had stopped them after the death of Abraham: and he called their names after the names by which his father had called them.

26:19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.
26:19 And Isaac’s servants digged in the valley, and found there a well of springing water.

26:20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec, oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef.
26:20 And the herdmen of Gerar did strive with Isaac’s herdmen, saying, The water is ours: and he called the name of the well Esek; because they strove with him.

26:21 Cloddiasant hefyd bydew arall; ac ymrysonasant am hwnnw; ac efe a alwodd ei enw ef Sitna.
26:21 And they digged another well, and strove for that also: and he called the name of it Sitnah.

26:22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall, ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth, ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr ARGLWYDD arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.
26:22 And he removed from thence, and digged another well; and for that they strove not: and he called the name of it Rehoboth; and he said, For now the LORD hath made room for us, and we shall be fruitful in the land.

26:23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer-seba.
26:23 And he went up from thence to Beersheba.

26:24 A’r ARGLWYDD a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw DUW Abraham dy dad di: nac ofna, canys byddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
26:24 And the LORD appeared unto him the same night, and said, I am the God of Abraham thy father: fear not, for I am with thee, and will bless thee, and multiply thy seed for my servant Abraham’s sake.

26:25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26:25 And he builded an altar there, and called upon the name of the LORD, and pitched his tent there: and there Isaac’s servants digged a well.

26:26 Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar, ac Ahussath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.
26:26 Then Abimelech went to him from Gerar, and Ahuzzath one of his friends, and Phichol the chief captain of his army.

26:27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi ataf fi; gan i chwi fy nghasau, a’m gyrru oddi wrthych?
26:27 And Isaac said unto them, Wherefore come ye to me, seeing ye hate me, and have sent me away from you?

26:28 Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr ARGLWYDD gyda thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfamod â thi;
26:28 And they said, We saw certainly that the LORD was with thee: and we said, Let there be now an oath betwixt us, even betwixt us and thee, and let us make a covenant with thee;

26:29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr ARGLWYDD.
26:29 That thou wilt do us no hurt, as we have not touched thee, and as we have done unto thee nothing but good, and have sent thee away in peace: thou art now the blessed of the LORD.

26:30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwytasant ac a yfasant.
26:30 And he made them a feast, and they did eat and drink.

26:31 Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.
26:31 And they rose up betimes in the morning, and sware one to another: and Isaac sent them away, and they departed from him in peace.

26:32 A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.
26:32 And it came to pass the same day, that Isaac’s servants came, and told him concerning the well which they had digged, and said unto him, We have found water.

26:33 Ac efe a’i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer-seba hyd y dydd hwn.
26:33 And he called it Shebah: therefore the name of the city is Beersheba unto this day.

26:34 Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.
26:34 And Esau was forty years old when he took to wife Judith the daughter of Beeri the Hittite, and Bashemath the daughter of Elon the Hittite:

26:35 A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.
26:35 Which were a grief of mind unto Isaac and to Rebekah.

PENNOD 27

27:1 A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.
27:1 And it came to pass, that when Isaac was old, and his eyes were dim, so that he could not see, he called Esau his eldest son, and said unto him, My son: and he said unto him, Behold, here am I.

27:2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.
27:2 And he said, Behold now, I am old, I know not the day of my death:

27:3 Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.
27:3 Now therefore take, I pray thee, thy weapons, thy quiver and thy bow, and go out to the field, and take me some venison;

27:4 A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw.
27:4 And make me savoury meat, such as I love, and bring it to me, that I may eat; that my soul may bless thee before I die.

27:5 A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.
27:5 And Rebekah heard when Isaac spake to Esau his son. And Esau went to the field to hunt for venison, and to bring it.

27:6 A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,
27:6 And Rebekah spake unto Jacob her son, saying, Behold, I heard thy father speak unto Esau thy brother, saying,

27:7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y’th fendithiwyf gerbron yr ARGLWYDD cyn fy marw.
27:7 Bring me venison, and make me savoury meat, that I may eat, and bless thee before the LORD before my death.

27:8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti.
27:8 Now therefore, my son, obey my voice according to that which I command thee.

27:9 Dos yn awr i’r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a’n gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gar efe.
27:9 Go now to the flock, and fetch me from thence two good kids of the goats; and I will make them savoury meat for thy father, such as he loveth:

27:10 A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwytao, ac y’th fendithio cyn ei farw.
27:10 And thou shalt bring it to thy father, that he may eat, and that he may bless thee before his death.

27:11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn:
27:11 And Jacob said to Rebekah his mother, Behold, Esau my brother is a hairy man, and I am a smooth man:

27:12 Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith.
27:12 My father peradventure will feel me, and I shall seem to him as a deceiver; and I shall bring a curse upon me, and not a blessing.

27:13 A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.
27:13 And his mother said unto him, Upon me be thy curse, my son: only obey my voice, and go fetch me them.

27:14 Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef.
27:14 And he went, and fetched, and brought them to his mother: and his mother made savoury meat, such as his father loved.

27:15 Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf.
27:15 And Rebekah took goodly raiment of her eldest son Esau, which were with her in the house, and put them upon Jacob her younger son:

27:16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef:
27:16 And she put the skins of the kids of the goats upon his hands, and upon the smooth of his neck:

27:17 Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.
27:17 And she gave the savoury meat and the bread, which she had prepared, into the hand of her son Jacob.

27:18 Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?
27:18 And he came unto his father, and said, My father: and he said, Here am I; who art thou, my son?

27:19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf-anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid.
27:19 And Jacob said unto his father, I am Esau thy firstborn; I have done according as thou badest me: arise, I pray thee, sit and eat of my venison, that thy soul may bless me.

27:20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd. Am i’r ARGLWYDD dy DDUW beri iddo ddigwyddo o’m blaen.
27:20 And Isaac said unto his son, How is it that thou hast found it so quickly, my son? And he said, Because the LORD thy God brought it to me.

27:21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e.
27:21 And Isaac said unto Jacob, Come near, I pray thee, that I may feel thee, my son, whether thou be my very son Esau or not.

27:22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylo, dwylo Esau ydynt.
27:22 And Jacob went near unto Isaac his father; and he felt him, and said, The voice is Jacob’s voice, but the hands are the hands of Esau.

27:23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef.
27:23 And he discerned him not, because his hands were hairy, as his brother Esau’s hands: so he blessed him.

27:24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.
27:24 And he said, Art thou my very son Esau? And he said, I am.

27:25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytaf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.
27:25 And he said, Bring it near to me, and I will eat of my son’s venison, that my soul may bless thee. And he brought it near to him, and he did eat: and he brought him wine, and he drank.

27:26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab.
27:26 And his father Isaac said unto him, Come near now, and kiss me, my son.

27:27 Yna y daeth efe yn nes, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr ARGLWYDD.
27:27 And he came near, and kissed him: and he smelled the smell of his raiment, and blessed him, and said, See, the smell of my son is as the smell of a field which the LORD hath blessed:

27:28 A rhodded DUW i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:
27:28 Therefore God give thee of the dew of heaven, and the fatness of the earth, and plenty of corn and wine:

27:29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a’th felltithio, a bendigedig a’th fendithio.
27:29 Let people serve thee, and nations bow down to thee: be lord over thy brethren, and let thy mother’s sons bow down to thee: cursed be every one that curseth thee, and blessed be he that blesseth thee.

27:30 A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela.
27:30 And it came to pass, as soon as Isaac had made an end of blessing Jacob, and Jacob was yet scarce gone out from the presence of Isaac his father, that Esau his brother came in from his hunting.

27:31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwytaed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid.
27:31 And he also had made savoury meat, and brought it unto his father, and said unto his father, Let my father arise, and eat of his son’s venison, that thy soul may bless me.

27:32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf-anedig Esau.
27:32 And Isaac his father said unto him, Who art thou? And he said, I am thy son, thy firstborn Esau.

27:33 Ac Isaac a ddychrynodd a dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwyteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.
27:33 And Isaac trembled very exceedingly, and said, Who? where is he that hath taken venison, and brought it me, and I have eaten of all before thou camest, and have blessed him? yea, and he shall be blessed.

27:34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad.
27:34 And when Esau heard the words of his father, he cried with a great and exceeding bitter cry, and said unto his father, Bless me, even me also, O my father.

27:35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.
27:35 And he said, Thy brother came with subtlety, and hath taken away thy blessing.

27:36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth-fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau?
27:36 And he said, Is not he rightly named Jacob? for he hath supplanted me these two times: he took away my birthright; and, behold, now he hath taken away my blessing. And he said, Hast thou not reserved a blessing for me?

27:37 Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnafi tithau, fy mab, weithian?
27:37 And Isaac answered and said unto Esau, Behold, I have made him thy lord, and all his brethren have I given to him for servants; and with corn and wine have I sustained him: and what shall I do now unto thee, my son?

27:38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
27:38 And Esau said unto his father, Hast thou but one blessing, my father? bless me, even me also, O my father. And Esau lifted up his voice, and wept.

27:39 Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod;
27:39 And Isaac his father answered and said unto him, Behold, thy dwelling shall be the fatness of the earth, and of the dew of heaven from above;

27:40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
27:40 And by thy sword shalt thou live, and shalt serve thy brother; and it shall come to pass when thou shalt have the dominion, that thou shalt break his yoke from off thy neck.

27:41 Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith a’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesau y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
27:41 And Esau hated Jacob because of the blessing wherewith his father blessed him: and Esau said in his heart, The days of mourning for my father are at hand; then will I slay my brother Jacob.

27:42 A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di.
27:42 And these words of Esau her elder son were told to Rebekah: and she sent and called Jacob her younger son, and said unto him, Behold, thy brother Esau, as touching thee, doth comfort himself, purposing to kill thee.

27:43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;
27:43 Now therefore, my son, obey my voice; and arise, flee thou to Laban my brother to Haran;

27:44
Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;
27:44 And tarry with him a few days, until thy brother’s fury turn away;

27:45
Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yno yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd?
27:45 Until thy brother’s anger turn away from thee, and he forget that which thou hast done to him: then I will send, and fetch thee from thence: why should I be deprived also of you both in one day?

27:46
Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?
27:46 And Rebekah said to Isaac, I am weary of my life because of the daughters of Heth: if Jacob take a wife of the daughters of Heth, such as these which are of the daughters of the land, what good shall my life do me?
PENNOD 28

28:1
Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchmynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymer wraig o ferched Canaan.
28:1 And Isaac called Jacob, and blessed him, and charged him, and said unto him, Thou shalt not take a wife of the daughters of Canaan.

28:2
Cyfod, dos i Mesopotamia, Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:
28:2 Arise, go to Padanaram, to the house of Bethuel thy mother’s father; and take thee a wife from thence of the daughters of Laban thy mother’s brother.

28:3
A DUW Hollalluog a’th fendithio, ac i’th ffrwythlono, ac a’th luosogo, fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd:
28:3 And God Almighty bless thee, and make thee fruitful, and multiply thee, that thou mayest be a multitude of people;

28:4
Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd DUW i Abraham.
28:4 And give thee the blessing of Abraham, to thee, and to thy seed with thee; that thou mayest inherit the land wherein thou art a stranger, which God gave unto Abraham.

28:5
Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
28:5 And Isaac sent away Jacob: and he went to Padanaram unto Laban, son of Bethuel the Syrian, the brother of Rebekah, Jacob’s and Esau’s mother.

28:6
Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan;
28:6 When Esau saw that Isaac had blessed Jacob, and sent him away to Padanaram, to take him a wife from thence; and that as he blessed him he gave him a charge, saying, Thou shalt not take a wife of the daughters of Canaan;

28:7
A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia;
28:7 And that Jacob obeyed his father and his mother, and was gone to Padanaram;

28:8
Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;
28:8 And Esau seeing that the daughters of Canaan pleased not Isaac his father;

28:9
Yna Esau a aeth at Ismael, ac gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
28:9 Then went Esau unto Ishmael, and took unto the wives which he had Mahalath the daughter of Ishmael Abraham’s son, the sister of Nebajoth, to be his wife.

28:10
A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tua Haran.
28:10 And Jacob went out from Beersheba, and went toward Haran.

28:11
Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo’r.haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
28:11 And he lighted upon a certain place, and tarried there all night, because the sun was set; and he took of the stones of that place, and put them for his pillows, and lay down in that place to sleep.

28:12
Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angylion DUW yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.
28:12 And he dreamed, and behold a ladder set up on the earth, and the top of it reached to heaven: and behold the angels of God ascending and descending on it.

28:13
Ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw ARGLWYDD DDUW Abraham dy dad, a DUW Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
28:13 And, behold, the LORD stood above it, and said, I am the LORD God of Abraham thy father, and the God of Isaac: the land whereon thou liest, to thee will I give it, and to thy seed;

28:14
A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
28:14 And thy seed shall be as the dust of the earth, and thou shalt spread abroad to the west, and to the east, and to the north, and to the south: and in thee and in thy seed shall all the families of the earth be blessed.

28:15
Ac wele fi gyda thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: oherwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
28:15 And, behold, I am with thee, and will keep thee in all places whither thou goest, and will bring thee again into this land; for I will not leave thee, until I have done that which I have spoken to thee of.

28:16
A Jacob a ddeffrodd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
28:16 And Jacob awaked out of his sleep, and he said, Surely the LORD is in this place; and I knew it not.

28:17
Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw’r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i DDUW, a dyma borth y nefoedd.
28:17 And he was afraid, and said, How dreadful is this place! this is none other but the house of God, and this is the gate of heaven.

28:18
A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
28:18 And Jacob rose up early in the morning, and took the stone that he had put for his pillows, and set it up for a pillar, and poured oil upon the top of it.

28:19
Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o’r cyntaf.
28:19 And he called the name of that place Bethel: but the name of that city was called Luz at the first.

28:20
Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os DUW fydd gyda myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwyta, a dillad i’w gwisgo,
28:20 And Jacob vowed a vow, saying, If God will be with me, and will keep me in this way that I go, and will give me bread to eat, and raiment to put on,

28:21
A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr ARGLWYDD yn DDUW i mi.
28:21 So that I come again to my father’s house in peace; then shall the LORD be my God:

28:22
A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ DDUW; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymaf i ti.
28:22 And this stone, which I have set for a pillar, shall be God’s house: and of all that thou shalt give me I will surely give the tenth unto thee.

PENNOD 29

29:1 A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.
29:1 Then Jacob went on his journey, and came into the land of the people of the east.

29:2 Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau’r pydew.
29:2 And he looked, and behold a well in the field, and, lo, there were three flocks of sheep lying by it; for out of that well they watered the flocks: and a great stone was upon the well’s mouth.

29:3 Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle.
29:3 And thither were all the flocks gathered: and they rolled the stone from the well’s mouth, and watered the sheep, and put the stone again upon the well’s mouth in his place.

29:4 A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi?
A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.
29:4 And Jacob said unto them, My brethren, whence be ye? And they said, Of Haran are we.

29:5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.
29:5 And he said unto them, Know ye Laban the son of Nahor? And they said, We know him.

29:6 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid.
29:6 And he said unto them, Is he well? And they said, He is well: and, behold, Rachel his daughter cometh with the sheep.

29:7 Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu’r anifeiliaid: dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.
29:7 And he said, Lo, it is yet high day, neither is it time that the cattle should be gathered together: water ye the sheep, and go and feed them.

29:8 A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.
29:8 And they said, We cannot, until all the flocks be gathered together, and till they roll the stone from the well’s mouth; then we water the sheep.

29:9 Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.
29:9 And while he yet spake with them, Rachel came with her father’s sheep: for she kept them.

29:10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
29:10 And it came to pass, when Jacob saw Rachel the daughter of Laban his mother’s brother, and the sheep of Laban his mother’s brother, that Jacob went near, and rolled the stone from the well’s mouth, and watered the flock of Laban his mother’s brother.

29:11 A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
29:11 And Jacob kissed Rachel, and lifted up his voice, and wept.

29:12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad.
29:12 And Jacob told Rachel that he was her father’s brother, and that he was Rebekah’s son: and she ran and told her father.

29:13 A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
29:13 And it came to pass, when Laban heard the tidings of Jacob his sister’s son, that he ran to meet him, and embraced him, and kissed him, and brought him to his house. And he told Laban all these things.

29:14 A dywedodd Laban wrtho ef. Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.
29:14 And Laban said to him, Surely thou art my bone and my flesh. And he abode with him the space of a month.

29:15 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?
29:15 And Laban said unto Jacob, Because thou art my brother, shouldest thou therefore serve me for nought? tell me, what shall thy wages be?

29:16 Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.
29:16 And Laban had two daughters: the name of the elder was Leah, and the name of the younger was Rachel.

29:17 A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg.
29:17 Leah was tender eyed; but Rachel was beautiful and well favoured.

29:18 A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
29:18 And Jacob loved Rachel; and said, I will serve thee seven years for Rachel thy younger daughter.

29:19 A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i ŵr arall; aros gyda mi.
29:19 And Laban said, It is better that I give her to thee, than that I should give her to another man: abide with me.

29:20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
29:20 And Jacob served seven years for Rachel; and they seemed unto him but a few days, for the love he had to her.

29:21 A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy ny ddiau,) fel yr elwyf ati hi.
29:21 And Jacob said unto Laban, Give me my wife, for my days are fulfilled, that I may go in unto her.

29:22 A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.
29:22 And Laban gathered together all the men of the place, and made a feast.

29:23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a’i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi.
29:23 And it came to pass in the evening, that he took Leah his daughter, and brought her to him; and he went in unto her.

29:24 A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.
29:24 And Laban gave unto his daughter Leah Zilpah his maid for an handmaid.

29:25 A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist?
29:25 And it came to pass, that in the morning, behold, it was Leah: and he said to Laban, What is this thou hast done unto me? did not I serve with thee for Rachel? wherefore then hast thou beguiled me?

29:26 A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
29:26 And Laban said, It must not be so done in our country, to give the younger before the firstborn.

29:27 Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill.
29:27 Fulfil her week, and we will give thee this also for the service which thou shalt serve with me yet seven other years.

29:28 A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
29:28 And Jacob did so, and fulfilled her week: and he gave him Rachel his daughter to wife also.

29:29 Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
29:29 And Laban gave to Rachel his daughter Bilhah his handmaid to be her maid.

29:30 Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.
29:30 And he went in also unto Rachel, and he loved also Rachel more than Leah, and served with him yet seven other years.

29:31 A phan welodd yr ARGLWYDD mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.
29:31 And when the LORD saw that Leah was hated, he opened her womb: but Rachel was barren.

29:32 A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o’r ARGLWYDD ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i.
29:32 And Leah conceived, and bare a son, and she called his name Reuben: for she said, Surely the LORD hath looked upon my affliction; now therefore my husband will love me.

29:33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd. Am glywed o’r ARGLWYDD mai cas ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
29:33 And she conceived again, and bare a son; and said, Because the LORD hath heard that I was hated, he hath therefore given me this son also: and she called his name Simeon.

29:34 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lyn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.
29:34 And she conceived again, and bare a son; and said, Now this time will my husband be joined unto me, because I have born him three sons: therefore was his name called Levi.

29:35 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr ARGLWYDD: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.
29:35 And she conceived again, and bare a son: and she said, Now will I praise the LORD: therefore she called his name Judah; and left bearing.
PENNOD 30

30:1 Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi, ac onid e mi a fyddaf farw.
30:1 And when Rachel saw that she bare Jacob no children, Rachel envied her sister; and said unto Jacob, Give me children, or else I die.

30:2 A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle DUW, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?
30:2 And Jacob’s anger was kindled against Rachel: and he said, Am I in God’s stead, who hath withheld from thee the fruit of the womb?

30:3 A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi, a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi.
30:3 And she said, Behold my maid Bilhah, go in unto her; and she shall bear upon my knees, that I may also have children by her.

30:4 A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati.
30:4 And she gave him Bilhah her handmaid to wife: and Jacob went in unto her.

30:5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.
30:5 And Bilhah conceived, and bare Jacob a son.

30:6 A Rahel a ddywedodd, DUW a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.
30:6 And Rachel said, God hath judged me, and hath also heard my voice, and hath given me a son: therefore called she his name Dan.

30:7 Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.
30:7 And Bilhah Rachel’s maid conceived again, and bare Jacob a second son.

30:8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali.
30:8 And Rachel said, With great wrestlings have I wrestled with my sister, and I have prevailed: and she called his name Naphtali.

30:9 Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob.
30:9 When Leah saw that she had left bearing, she took Zilpah her maid, and gave her Jacob to wife.

30:10 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob.
30:10 And Zilpah Leah’s maid bare Jacob a son.

30:11 A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.
30:11 And Leah said, A troop cometh: and she called his name Gad.

30:12 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.
30:12 And Zilpah Leah’s maid bare Jacob a second son.

30:13 A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
30:13 And Leah said, Happy am I, for the daughters will call me blessed: and she called his name Asher.

30:14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.
30:14 And Reuben went in the days of wheat harvest, and found mandrakes in the field, and brought them unto his mother Leah. Then Rachel said to Leah, Give me, I pray thee, of thy son’s mandrakes.

30:15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab.
30:15 And she said unto her, Is it a small matter that thou hast taken my husband? and wouldest thou take away my son’s mandrakes also? And Rachel said, Therefore he shall lie with thee to night for thy son’s mandrakes.

30:16 A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab.
Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno.
30:16 And Jacob came out of the field in the evening, and Leah went out to meet him, and said, Thou must come in unto me; for surely I have hired thee with my son’s mandrakes. And he lay with her that night.

30:17 A DUW a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.
30:17 And God hearkened unto Leah, and she conceived, and bare Jacob the fifth son.

30:18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd DUW fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.
30:18 And Leah said, God hath given me my hire, because I have given my maiden to my husband: and she called his name Issachar.

30:19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.
30:19 And Leah conceived again, and bare Jacob the sixth son.

30:20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd DUW fyfi a chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon.
30:20 And Leah said, God hath endued me with a good dowry; now will my husband dwell with me, because I have born him six sons: and she called his name Zebulun.

30:21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
30:21 And afterwards she bare a daughter, and called her name Dinah.

30:22 A DUW a gofiodd Rahel, a DUW a wrandawodd aml, ac a agorodd ei chroth hi
30:22 And God remembered Rachel, and God hearkened to her, and opened her womb.

30:23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, DUW a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.
30:23 And she conceived, and bare a son; and said, God hath taken away my reproach:

30:24 A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
30:24 And she called his name Joseph; and said, The LORD shall add to me another son.

30:25 A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun.
30:25 And it came to pass, when Rachel had born Joseph, that Jacob said unto Laban, Send me away, that I may go unto mine own place, and to my country.

30:26 Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.
30:26 Give me my wives and my children, for whom I have served thee, and let me go: for thou knowest my service which I have done thee.

30:27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r ARGLWYDD fy mendithio i o’th blegid di.
30:27 And Laban said unto him, I pray thee, if I have found favour in thine eyes, tarry: for I have learned by experience that the LORD hath blessed me for thy sake.

30:28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf. Y
30:28 And he said, Appoint me thy wages, and I will give it.

30:29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi.
30:29 And he said unto him, Thou knowest how I have served thee, and how thy cattle was with me.

30:30 0blegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr ARGLWYDD a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun?
30:30 For it was little which thou hadst before I came, and it is now increased unto a multitude; and the LORD hath blessed thee since my coming: and now when shall I provide for mine own house also?

30:31 Dywedodd yntau. Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.
30:31 And he said, What shall I give thee? And Jacob said, Thou shalt not give me any thing: if thou wilt do this thing for me, I will again feed and keep thy flock.

30:32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn du ymhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ymhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog.
30:32 I will pass through all thy flock to day, removing from thence all the speckled and spotted cattle, and all the brown cattle among the sheep, and the spotted and speckled among the goats: and of such shall be my hire.

30:33 A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi.
30:33 So shall my righteousness answer for me in time to come, when it shall come for my hire before thy face: every one that is not speckled and spotted among the goats, and brown among the sheep, that shall be counted stolen with me.

30:34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di!
30:34 And Laban said, Behold, I would it might be according to thy word.

30:35 Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a’r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun.
30:35 And he removed that day the he goats that were ringstreaked and spotted, and all the she goats that were speckled and spotted, and every one that had some white in it, and all the brown among the sheep, and gave them into the hand of his sons.

30:36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.
30:36 And he set three days’ journey betwixt himself and Jacob: and Jacob fed the rest of Laban’s flocks.

30:37 A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio’r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.
30:37 And Jacob took him rods of green poplar, and of the hazel and chestnut tree; and pilled white streaks in them, and made the white appear which was in the rods.

30:38 Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai’r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.
30:38 And he set the rods which he had pilled before the flocks in the gutters in the watering troughs when the flocks came to drink, that they should conceive when they came to drink.

30:39 A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a’r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.
30:39 And the flocks conceived before the rods, and brought forth cattle ringstreaked, speckled, and spotted.

30:40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch-frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban, ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o’r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.
30:40 And Jacob did separate the lambs, and set the faces of the flocks toward the ringstreaked, and all the brown in the flock of Laban; and he put his own flocks by themselves, and put them not unto Laban’s cattle.

30:41 A phob amser y cyfebrai’r defaid cryfaf, Jacob a osodai’r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail;
30:41 And it came to pass, whensoever the stronger cattle did conceive, that Jacob laid the rods before the eyes of the cattle in the gutters, that they might conceive among the rods.

30:42 Ond pan fyddai’r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob.
30:42 But when the cattle were feeble, he put them not in: so the feebler were Laban’s, and the stronger Jacob’s.

30:43 A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.
30:43 And the man increased exceedingly, and had much cattle, and maidservants, and menservants, and camels, and asses.

PENNOD 31

31:1 Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.
31:1 And he heard the words of Laban’s sons, saying, Jacob hath taken away all that was our father’s; and of that which was our father’s hath he gotten all this glory.

31:2 Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt.
31:2 And Jacob beheld the countenance of Laban, and, behold, it was not toward him as before.

31:3 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi.
31:3 And the LORD said unto Jacob, Return unto the land of thy fathers, and to thy kindred; and I will be with thee.

31:4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes, at ei braidd,
31:4 And Jacob sent and called Rachel and Leah to the field unto his flock,

31:5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a DUW fy nhad a fu gyda myfi.
31:5 And said unto them, I see your father’s countenance, that it is not toward me as before; but the God of my father hath been with me.

31:6 A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad.
31:6 And ye know that with all my power I have served your father.

31:7 A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd DUW iddo wneuthur i mi ddrwg.
31:7 And your father hath deceived me, and changed my wages ten times; but God suffered him not to hurt me.

31:8 Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch-frithion.
31:8 If he said thus, The speckled shall be thy wages; then all the cattle bare speckled: and if he said thus, The ringstreaked shall be thy hire; then bare all the cattle ringstreaked.

31:9 Felly DUW a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi.
31:9 Thus God hath taken away the cattle of your father, and given them to me.

31:10 Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu’r praidd,) yn glych-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion.
31:10 And it came to pass at the time that the cattle conceived, that I lifted up mine eyes, and saw in a dream, and, behold, the rams which leaped upon the cattle were ringstreaked, speckled, and grisled.

31:11 Ac angel DUW a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi.
31:11 And the angel of God spake unto me in a dream, saying, Jacob: And I said, Here am I.

31:12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.
31:12 And he said, Lift up now thine eyes, and see, all the rams which leap upon the cattle are ringstreaked, speckled, and grisled: for I have seen all that Laban doeth unto thee.

31:13 Myfi yw DUW Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
31:13 I am the God of Bethel, where thou anointedst the pillar, and where thou vowedst a vow unto me: now arise, get thee out from this land, and return unto the land of thy kindred.

31:14 A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?
31:14 And Rachel and Leah answered and said unto him, Is there yet any portion or inheritance for us in our father’s house?

31:15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.
31:15 Are we not counted of him strangers? for he hath sold us, and hath quite devoured also our money.

31:16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug DUW oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd DUW wrthyt, gwna.
31:16 For all the riches which God hath taken from our father, that is ours, and our children’s: now then, whatsoever God hath said unto thee, do.

31:17 Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod;
31:17 Then Jacob rose up, and set his sons and his wives upon camels;

31:18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.
31:18 And he carried away all his cattle, and all his goods which he had gotten, the cattle of his getting, which he had gotten in Padanaram, for to go to Isaac his father in the land of Canaan.

31:19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai’r delwau oedd gan ei thad hi.
31:19 And Laban went to shear his sheep: and Rachel had stolen the images that were her father’s.

31:20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.
31:20 And Jacob stole away unawares to Laban the Syrian, in that he told him not that he fled.

31:21 Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
31:21 So he fled with all that he had; and he rose up, and passed over the river, and set his face toward the mount Gilead.

31:22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.
31:22 And it was told Laban on the third day that Jacob was fled.

31:23 Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.
31:23 And he took his brethren with him, and pursued after him seven days’ journey; and they overtook him in the mount Gilead.

31:24 A DUW a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.
31:24 And God came to Laban the Syrian in a dream by night, and said unto him, Take heed that thou speak not to Jacob either good or bad.

31:25 Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead.
31:25 Then Laban overtook Jacob. Now Jacob had pitched his tent in the mount: and Laban with his brethren pitched in the mount of Gilead.

31:26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.
31:26 And Laban said to Jacob, What hast thou done, that thou hast stolen away unawares to me, and carried away my daughters, as captives taken with the sword?

31:27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?
31:27 Wherefore didst thou flee away secretly, and steal away from me; and didst not tell me, that I might have sent thee away with mirth, and with songs, with tabret, and with harp?

31:28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn.
31:28 And hast not suffered me to kiss my sons and my daughters? thou hast now done foolishly in so doing.

31:29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond DUW eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.
31:29 It is in the power of my hand to do you hurt: but the God of your father spake unto me yesternight, saying, Take thou heed that thou speak not to Jacob either good or bad.

31:30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i?
31:30 And now, though thou wouldest needs be gone, because thou sore longedst after thy father’s house, yet wherefore hast thou stolen my gods?

31:31 A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais.
31:31 And Jacob answered and said to Laban, Because I was afraid: for I said, Peradventure thou wouldest take by force thy daughters from me.

31:32 Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt.
31:32 With whomsoever thou findest thy gods, let him not live: before our brethren discern thou what is thine with me, and take it to thee. For Jacob knew not that Rachel had stolen them.

31:33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel.
31:33 And Laban went into Jacob’s tent, and into Leah’s tent, and into the two maidservants’ tents; but he found them not. Then went he out of Leah’s tent, and entered into Rachel’s tent.

31:34 A Rahel a gymerasai’r delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd.
31:34 Now Rachel had taken the images, and put them in the camel’s furniture, and sat upon them. And Laban searched all the tent, but found them not.

31:35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.
31:35 And she said to her father, Let it not displease my lord that I cannot rise up before thee; for the custom of women is upon me. And he searched, but found not the images.

31:36 A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl ?
31:36 And Jacob was wroth, and chided with Laban: and Jacob answered and said to Laban, What is my trespass? what is my sin, that thou hast so hotly pursued after me?

31:37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.
31:37 Whereas thou hast searched all my stuff, what hast thou found of all thy household stuff? set it here before my brethren and thy brethren, that they may judge betwixt us both.

31:38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd.
31:38 This twenty years have I been with thee; thy ewes and thy she goats have not cast their young, and the rams of thy flock have I not eaten.

31:39 Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos.
31:39 That which was torn of beasts I brought not unto thee; I bare the loss of it; of my hand didst thou require it, whether stolen by day, or stolen by night.

31:40 Bûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.
31:40 Thus I was; in the day the drought consumed me, and the frost by night; and my sleep departed from mine eyes.

31:41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.
31:41 Thus have I been twenty years in thy house; I served thee fourteen years for thy two daughters, and six years for thy cattle: and thou hast changed my wages ten times.

31:42 Oni buasai fod DUW fy nhad, DUW Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. DUW a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a’th geryddodd di neithiwr.
31:42 Except the God of my father, the God of Abraham, and the fear of Isaac, had been with me, surely thou hadst sent me away now empty. God hath seen mine affliction and the labour of my hands, and rebuked thee yesternight.

31:43 Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a’r praidd yw fy mhraidd i; a’r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i’m merched hyn, ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant?
31:43 And Laban answered and said unto Jacob, These daughters are my daughters, and these children are my children, and these cattle are my cattle, and all that thou seest is mine: and what can I do this day unto these my daughters, or unto their children which they have born?

31:44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.
31:44 Now therefore come thou, let us make a covenant, I and thou; and let it be for a witness between me and thee.

31:45 A Jacob a gymerth garreg, ac a’i cododd hi yn golofn.
31:45 And Jacob took a stone, and set it up for a pillar.

31:46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd.
31:46 And Jacob said unto his brethren, Gather stones; and they took stones, and made an heap: and they did eat there upon the heap.

31:47 A Laban a’i galwodd hi Jeger-Sahadwtha: a Jacob a’i galwodd hi Galeed.
31:47 And Laban called it Jegarsahadutha: but Jacob called it Galeed.

31:48 A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,
31:48 And Laban said, This heap is a witness between me and thee this day. Therefore was the name of it called Galeed;

31:49 A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.
31:49 And Mizpah; for he said, The LORD watch between me and thee, when we are absent one from another.

31:50 Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, DUW sydd dyst rhyngof fi a thithau.
31:50 If thou shalt afflict my daughters, or if thou shalt take other wives beside my daughters, no man is with us; see, God is witness betwixt me and thee.

31:51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi:
31:51 And Laban said to Jacob, Behold this heap, and behold this pillar, which I have cast betwixt me and thee;

31:52 Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon ataf fi, er niwed.
31:52 This heap be witness, and this pillar be witness, that I will not pass over this heap to thee, and that thou shalt not pass over this heap and this pillar unto me, for harm.

31:53 DUW Abraham, a DUW Nachor, a farno rhyngom ni, DUW eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.
31:53 The God of Abraham, and the God of Nahor, the God of their father, judge betwixt us. And Jacob sware by the fear of his father Isaac.

31:54 Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.
31:54 Then Jacob offered sacrifice upon the mount, and called his brethren to eat bread: and they did eat bread, and tarried all night in the mount.

31:55 A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
31:55 And early in the morning Laban rose up, and kissed his sons and his daughters, and blessed them: and Laban departed, and returned unto his place.

PENNOD 32

32:1 A Jacob a gerddodd i’w daith yntau: ac angylion DUW a gyfarfu ag ef.
32:1 And Jacob went on his way, and the angels of God met him.

32:2 A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll DUW: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.
32:2 And when Jacob saw them, he said, This is God’s host: and he called the name of that place Mahanaim.

32:3 A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:
32:3 And Jacob sent messengers before him to Esau his brother unto the land of Seir, the country of Edom.

32:4 Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
32:4 And he commanded them, saying, Thus shall ye speak unto my lord Esau; Thy servant Jacob saith thus, I have sojourned with Laban, and stayed there until now:

32:5 Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
32:5 And I have oxen, and asses, flocks, and menservants, and womenservants: and I have sent to tell my lord, that I may find grace in thy sight.

32:6 A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef.
32:6 And the messengers returned to Jacob, saying, We came to thy brother Esau, and also he cometh to meet thee, and four hundred men with him.

32:7 Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai;
32:7 Then Jacob was greatly afraid and distressed: and he divided the people that was with him, and the flocks, and herds, and the camels, into two bands;

32:8 Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.
32:8 And said, If Esau come to the one company, and smite it, then the other company which is left shall escape.

32:9 A dywedodd Jacob, O DDUW fy nhad Abraham, a DUW fy nhad Isaac, O ARGLWYDD, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
32:9 And Jacob said, O God of my father Abraham, and God of my father Isaac, the LORD which saidst unto me, Return unto thy country, and to thy kindred, and I will deal well with thee:

32:10 Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
32:10 I am not worthy of the least of all the mercies, and of all the truth, which thou hast showed unto thy servant; for with my staff I passed over this Jordan; and now I am become two bands.

32:11 Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a’m taro, a’r fam gyda’r plant.
32:11 Deliver me, I pray thee, from the hand of my brother, from the hand of Esau: for I fear him, lest he will come and smite me, and the mother with the children.

32:12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
32:12 And thou saidst, I will surely do thee good, and make thy seed as the sand of the sea, which cannot be numbered for multitude.

32:13 Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymerth efe anrheg i’w frawd Esau;
32:13 And he lodged there that same night; and took of that which came to his hand a present for Esau his brother;

32:14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,
32:14 Two hundred she goats, and twenty he goats, two hundred ewes, and twenty rams,

32:15 Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion.
32:15 Thirty milch camels with their colts, forty kine, and ten bulls, twenty she asses, and ten foals.

32:16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o’r neilitu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a’i gilydd.
32:16 And he delivered them into the hand of his servants, every drove by themselves; and said unto his servants, Pass over before me, and put a space betwixt drove and drove.

32:17 Ac efe a orchmynnodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn a thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di?
32:17 And he commanded the foremost, saying, When Esau my brother meeteth thee, and asketh thee, saying, Whose art thou? and whither goest thou? and whose are these before thee?

32:18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hol ni.
32:18 Then thou shalt say, They be thy servant Jacob’s; it is a present sent unto my lord Esau: and, behold, also he is behind us.

32:19 Felly y gorchmynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.
32:19 And so commanded he the second, and the third, and all that followed the droves, saying, On this manner shall ye speak unto Esau, when ye find him.

32:20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
32:20 And say ye moreover, Behold, thy servant Jacob is behind us. For he said, I will appease him with the present that goeth before me, and afterward I will see his face; peradventure he will accept of me.

32:21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.
32:21 So went the present over before him: and himself lodged that night in the company.

32:22 Ac efe a gyfododd y noson honno, a gymerth ei ddwy wraig, a’i ddwy lawforwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc.
32:22 And he rose up that night, and took his two wives, and his two womenservants, and his eleven sons, and passed over the ford Jabbok.

32:23 Ac a’u cymerth hwynt, ac a’u troswglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
32:23 And he took them, and sent them over the brook, and sent over that he had.

32:24 A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr.
32:24 And Jacob was left alone; and there wrestled a man with him until the breaking of the day.

32:25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswilt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.
32:25 And when he saw that he prevailed not against him, he touched the hollow of his thigh; and the hollow of Jacob’s thigh was out of joint, as he wrestled with him.

32:26 A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi.
32:26 And he said, Let me go, for the day breaketh. And he said, I will not let thee go, except thou bless me.

32:27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob.
32:27 And he said unto him, What is thy name? And he said, Jacob.

32:28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.
32:28 And he said, Thy name shall be called no more Jacob, but Israel: for as a prince hast thou power with God and with men, and hast prevailed.

32:29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef.
32:29 And Jacob asked him, and said, Tell me, I pray thee, thy name. And he said, Wherefore is it that thou dost ask after my name? And he blessed him there.

32:30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais DDUW wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.
32:30 And Jacob called the name of the place Peniel: for I have seen God face to face, and my life is preserved.

32:31 A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun.
32:31 And as he passed over Penuel the sun rose upon him, and he halted upon his thigh.

32:32 Am hynny plant Israel ni fwytant y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.
32:32 Therefore the children of Israel eat not of the sinew which shrank, which is upon the hollow of the thigh, unto this day: because he touched the hollow of Jacob’s thigh in the sinew that shrank.

PENNOD 33
 
33:1 A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn.


33:1 And Jacob lifted up his eyes, and looked, and, behold, Esau came, and with him four hundred men. And he divided the children unto Leah, and unto Rachel, and unto the two handmaids.

33:2 Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a’u plant hwy, a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf.
33:2 And he put the handmaids and their children foremost, and Leah and her children after, and Rachel and Joseph hindermost.

33:3 Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.
33:3 And he passed over before them, and bowed himself to the ground seven times, until he came near to his brother.

33:4 Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant.
33:4 And Esau ran to meet him, and embraced him, and fell on his neck, and kissed him: and they wept.

33:5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu’r gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes DUW o’i ras i’th was di.
33:5 And he lifted up his eyes, and saw the women and the children; and said, Who are those with thee? And he said, The children which God hath graciously given thy servant.

33:6 Yna y llawforynion a nesasant, hwynt-hwy a’u plant, ac a ymgrymasant.
33:6 Then the handmaidens came near, they and their children, and they bowed themselves.

33:7 A Lea a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant.
33:7 And Leah also with her children came near, and bowed themselves: and after came Joseph near and Rachel, and they bowed themselves.

33:8 Ac efe a ddywedodd. Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
33:8 And he said, What meanest thou by all this drove which I met? And he said, These are to find grace in the sight of my lord.

33:9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd, bydded i ti yr hyn sydd gennyt.
33:9 And Esau said, I have enough, my brother; keep that thou hast unto thyself.

33:10 A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb DUW, a thi yn fodlon i mi.
33:10 And Jacob said, Nay, I pray thee, if now I have found grace in thy sight, then receive my present at my hand: for therefore I have seen thy face, as though I had seen the face of God, and thou wast pleased with me.

33:11 Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid DUW a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd;
33:11 Take, I pray thee, my blessing that is brought to thee; because God hath dealt graciously with me, and because I have enough. And he urged him, and he took it.

33:12 Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o’th flaen di.
33:12 And he said, Let us take our journey, and let us go, and I will go before thee.

33:13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna’r holl braidd.
33:13 And he said unto him, My lord knoweth that the children are tender, and the flocks and herds with young are with me: and if men should overdrive them one day, all the flock will die.

33:14 Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo’r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.
33:14 Let my lord, I pray thee, pass over before his servant: and I will lead on softly, according as the cattle that goeth before me and the children be able to endure, until I come unto my lord unto Seir.

33:15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi. Ymau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
33:15 And Esau said, Let me now leave with thee some of the folk that are with me. And he said, What needeth it? let me find grace in the sight of my lord.

33:16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
33:16 So Esau returned that day on his way unto Seir.

33:17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
33:17 And Jacob journeyed to Succoth, and built him an house, and made booths for his cattle: therefore the name of the place is called Succoth.

33:18 Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia, ac a wersyllodd o flaen y ddinas.
33:18 And Jacob came to Shalem, a city of Shechem, which is in the land of Canaan, when he came from Padanaram; and pitched his tent before the city.

33:19 Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian:
33:19 And he bought a parcel of a field, where he had spread his tent, at the hand of the children of Hamor, Shechem’s father, for an hundred pieces of money.

33:20 Ac a osododd yno allor, ac a’i henwodd El-Elohe-Israel.
33:20 And he erected there an altar, and called it Elelohe-Israel.

PENNOD 34

34:1 A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.
34:1 And Dinah the daughter of Leah, which she bare unto Jacob, went out to see the daughters of the land.

34:2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a’i canfu hi, ac a’i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a’i treisiodd.
34:2 And when Shechem the son of Hamor the Hivite, prince of the country, saw her, he took her, and lay with her, and defiled her.

34:3 A’i enaid ef a lynodd with Dina merch Jacob, ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances.
34:3 And his soul clave unto Dinah the daughter of Jacob, and he loved the damsel, and spake kindly unto the damsel.

34:4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi.
34:4 And Shechem spake unto his father Hamor, saying, Get me this damsel to wife.

34:5 A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch: (a’i feibion ef oedd gyda’i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.
34:5 And Jacob heard that he had defiled Dinah his daughter: now his sons were with his cattle in the field: and Jacob held his peace until they were come.

34:6 A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef.
34:6 And Hamor the father of Shechem went out unto Jacob to commune with him.

34:7 A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed ohonynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.
34:7 And the sons of Jacob came out of the field when they heard it: and the men were grieved, and they were very wroth, because he had wrought folly in Israel in lying with Jacob’s daughter; which thing ought not to be done.

34:8 A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, atolwg, yn wraig iddo ef.
34:8 And Hamor communed with them, saying, The soul of my son Shechem longeth for your daughter: I pray you give her him to wife.

34:9 Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymerwch ein merched ni i chwithau.
34:9 And make ye marriages with us, and give your daughters unto us, and take our daughters unto you.

34:10 A chwi a gewch breswylio gyda ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.
34:10 And ye shall dwell with us: and the land shall be before you; dwell and trade ye therein, and get you possessions therein.

34:11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.
34:11 And Shechem said unto her father and unto her brethren, Let me find grace in your eyes, and what ye shall say unto me I will give.

34:12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig.
34:12 Ask me never so much dowry and gift, and I will give according as ye shall say unto me: but give me the damsel to wife.

34:13 A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt;
34:13 And the sons of Jacob answered Shechem and Hamor his father deceitfully, and said, because he had defiled Dinah their sister:

34:14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i wr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.
34:14 And they said unto them, We cannot do this thing, to give our sister to one that is uncircumcised; for that were a reproach unto us:

34:15 Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi;
34:15 But in this will we consent unto you: If ye will be as we be, that every male of you be circumcised;

34:16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd-drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.
34:16 Then will we give our daughters unto you, and we will take your daughters to us, and we will dwell with you, and we will become one people.

34:17 Ond oni wrandewch arnom ni i’ch enwaedu; yna y cymerwn ein merch, ac a awn ymaith.
34:17 But if ye will not hearken unto us, to be circumcised; then will we take our daughter, and we will be gone.

34:18 A’u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor, ac yng ngolwg Sichem mab Hemor.
34:18 And their words pleased Hamor, and Shechem Hamor’s son.

34:19 Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dy ei dad.
34:19 And the young man deferred not to do the thing, because he had delight in Jacob’s daughter: and he was more honourable than all the house of his father.

34:20 A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,
34:20 And Hamor and Shechem his son came unto the gate of their city, and communed with the men of their city, saying,

34:21 Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu negesau ynddi; a’r wlad, wele, sydd ddigon eang iddynt hwy: cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
34:21 These men are peaceable with us; therefore let them dwell in the land, and trade therein; for the land, behold, it is large enough for them; let us take their daughters to us for wives, and let us give them our daughters.

34:22 Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyda ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.
34:22 Only herein will the men consent unto us for to dwell with us, to be one people, if every male among us be circumcised, as they are circumcised.

34:23 Eu hanifeiliaid hwynt, a’u cyfoeth hwynt, a’u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddom ni fyddant hwy? yn unig cytunwn â hwynt, a hwy a drigant gyda ni.
34:23 Shall not their cattle and their substance and every beast of theirs be ours? only let us consent unto them, and they will dwell with us.

34:24 Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.
34:24 And unto Hamor and unto Shechem his son hearkened all that went out of the gate of his city; and every male was circumcised, all that went out of the gate of his city.

34:25 A bu ar y trydydd dydd, pan iddynt hwy yn ddolurus, gymryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwryw.
34:25 And it came to pass on the third day, when they were sore, that two of the sons of Jacob, Simeon and Levi, Dinah’s brethren, took each man his sword, and came upon the city boldly, and slew all the males.

34:26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.
34:26 And they slew Hamor and Shechem his son with the edge of the sword, and took Dinah out of Shechem’s house, and went out.

34:27 Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a ysbeiliasant y ddinas, am halogi ohonynt eu chwaer hwynt.
34:27 The sons of Jacob came upon the slain, and spoiled the city, because they had defiled their sister.

34:28 Cymerasant eu defaid hwynt, a^u gwartheg, a’u hasynnod hwynt, a’r hyn oedd yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes,
34:28 They took their sheep, and their oxen, and their asses, and that which was in the city, and that which was in the field,

34:29 A’u holl gyfoeth hwynt; a’u holl rai bychain, a’u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.
34:29 And all their wealth, and all their little ones, and their wives took they captive, and spoiled even all that was in the house.

34:30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a’r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ.
34:30 And Jacob said to Simeon and Levi, Ye have troubled me to make me to stink among the inhabitants of the land, among the Canaanites and the Perizzites: and I being few in number, they shall gather themselves together against me, and slay me; and I shall be destroyed, I and my house.

34:30 Hwythau a atebasant, Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni?
34:31 And they said, Should he deal with our sister as with an harlot?

PENNOD 35

35:1 A DUW a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i DDUW, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.
35:1 And God said unto Jacob, Arise, go up to Bethel, and dwell there: and make there an altar unto God, that appeared unto thee when thou fleddest from the face of Esau thy brother.

35:2 Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad;
35:2 Then Jacob said unto his household, and to all that were with him, Put away the strange gods that are among you, and be clean, and change your garments:

35:3 A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i DDUW, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais.
35:3 And let us arise, and go up to Bethel; and I will make there an altar unto God, who answered me in the day of my distress, and was with me in the way which I went.

35:4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.
35:4 And they gave unto Jacob all the strange gods which were in their hand, and all their earrings which were in their ears; and Jacob hid them under the oak which was by Shechem.

35:5 A hwy a gychwynasant: ac ofn DUW oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
35:5 And they journeyed: and the terror of God was upon the cities that were round about them, and they did not pursue after the sons of Jacob.

35:6 A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef;
35:6 So Jacob came to Luz, which is in the land of Canaan, that is, Bethel, he and all the people that were with him.

35:7 Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El-bethel, oblegid yno yr ymddangosasai DUW iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd.
35:7 And he built there an altar, and called the place Elbethel: because there God appeared unto him, when he fled from the face of his brother.

35:8 A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhonbacuth.
35:8 But Deborah Rebekah’s nurse died, and she was buried beneath Bethel under an oak: and the name of it was called Allonbachuth.

35:9 Hefyd DUW a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef.
35:9 And God appeared unto Jacob again, when he came out of Padanaram, and blessed him.

35:10 A DUW a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
35:10 And God said unto him, Thy name is Jacob: thy name shall not be called any more Jacob, but Israel shall be thy name: and he called his name Israel.

35:11 Hefyd DUW a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di.
35:11 And God said unto him, I am God Almighty: be fruitful and multiply; a nation and a company of nations shall be of thee, and kings shall come out of thy loins;

35:12 A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.
35:12 And the land which I gave Abraham and Isaac, to thee I will give it, and to thy seed after thee will I give the land.

35:13 A DUW a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.
35:13 And God went up from him in the place where he talked with him.

35:14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod-offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
35:14 And Jacob set up a pillar in the place where he talked with him, even a pillar of stone: and he poured a drink offering thereon, and he poured oil thereon.

35:15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd DUW ag ef, Bethel.
35:15 And Jacob called the name of the place where God spake with him, Bethel.

35:16 % A hwy a aethant ymaith o Bethel, ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
35:16 And they journeyed from Bethel; and there was but a little way to come to Ephrath: and Rachel travailed, and she had hard labour.

35:17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
35:17 And it came to pass, when she was in hard labour, that the midwife said unto her, Fear not; thou shalt have this son also.

35:18 Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben-oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin.
35:18 And it came to pass, as her soul was in departing, (for she died) that she called his name Benoni: but his father called him Benjamin.

35:19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
35:19 And Rachel died, and was buried in the way to Ephrath, which is Bethlehem.

35:20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.
35:20 And Jacob set a pillar upon her grave: that is the pillar of Rachel’s grave unto this day.

35:21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal-Edar.
35:21 And Israel journeyed, and spread his tent beyond the tower of Edar.

35:22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad, a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg:
35:22 And it came to pass, when Israel dwelt in that land, that Reuben went and lay with Bilhah his father’s concubine: and Israel heard it. Now the sons of Jacob were twelve:

35:23 Meibion Lea, Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon.
35:23 The sons of Leah; Reuben, Jacob’s firstborn, and Simeon, and Levi, and Judah, and Issachar, and Zebulun:

35:24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin.
35:24 The sons of Rachel; Joseph, and Benjamin:

35:25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali.
35:25 And the sons of Bilhah, Rachel’s handmaid; Dan, and Naphtali:

35:26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
35:26 And the sons of Zilpah, Leah’s handmaid; Gad, and Asher: these are the sons of Jacob, which were born to him in Padanaram.

35:27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer-Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.
35:27 And Jacob came unto Isaac his father unto Mamre, unto the city of Arbah, which is Hebron, where Abraham and Isaac sojourned.

35:28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd.
35:28 And the days of Isaac were an hundred and fourscore years.

35:29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.
35:29 And Isaac gave up the ghost, and died, and was gathered unto his people, being old and full of days: and his sons Esau and Jacob buried him.

PENNOD 36

36:1 A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom.
36:1 Now these are the generations of Esau, who is Edom.

36:2 Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;
36:2 Esau took his wives of the daughters of Canaan; Adah the daughter of Elon the Hittite, and Aholibamah the daughter of Anah the daughter of Zibeon the Hivite;

36:3 Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.
36:3 And Bashemath Ishmael’s daughter, sister of Nebajoth.

36:4 Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.
36:4 And Adah bare to Esau Eliphaz; and Bashemath bare Reuel;

36:5 Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.
36:5 And Aholibamah bare Jeush, and Jaalam, and Korah: these are the sons of Esau, which were born unto him in the land of Canaan.

36:6 Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
36:6 And Esau took his wives, and his sons, and his daughters, and all the persons of his house, and his cattle, and all his beasts, and all his substance, which he had got in the land of Canaan; and went into the country from the face of his brother Jacob.

36:7 Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd-drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.
36:7 For their riches were more than that they might dwell together; and the land wherein they were strangers could not bear them because of their cattle.

36:8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
36:8 Thus dwelt Esau in mount Seir: Esau is Edom.

36:9 A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.
36:9 And these are the generations of Esau the father of the Edomites in mount Seir:

36:10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.
36:10 These are the names of Esau’s sons; Eliphaz the son of Adah the wife of Esau, Reuel the son of Bashemath the wife of Esau.

36:11 A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.
36:11 And the sons of Eliphaz were Teman, Omar, Zepho, and Gatam, and Kenaz.

36:12 A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.
36:12 And Timna was concubine to Eliphaz Esau’s son; and she bare to Eliphaz Amalek: these were the sons of Adah Esau’s wife.

36:13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.
36:13 And these are the sons of Reuel; Nahath, and Zerah, Shammah, and Mizzah: these were the sons of Bashemath Esau’s wife.

36:14 Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.
36:14 And these were the sons of Aholibamah, the daughter of Anah the daughter of Zibeon, Esau’s wife: and she bare to Esau Jeush, and Jaalam, and Korah.

36:15 Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf-anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas,
36:15 These were dukes of the sons of Esau: the sons of Eliphaz the firstborn son of Esau; duke Teman, duke Omar, duke Zepho, duke Kenaz,

36:16 Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.
36:16 Duke Korah, duke Gatam, and duke Amalek: these are the dukes that came of Eliphaz in the land of Edom; these were the sons of Adah.

36:17 A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.
36:17 And these are the sons of Reuel Esau’s son; duke Nahath, duke Zerah, duke Shammah, duke Mizzah: these are the dukes that came of Reuel in the land of Edom; these are the sons of Bashemath Esau’s wife.

36:18 Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau.
36:18 And these are the sons of Aholibamah Esau’s wife; duke Jeush, duke Jaalam, duke Korah: these were the dukes that came of Aholibamah the daughter of Anah, Esau’s wife.

36:19 Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.
36:19 These are the sons of Esau, who is Edom, and these are their dukes.

36:20 Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.
36:20 These are the sons of Seir the Horite, who inhabited the land; Lotan, and Shobal, and Zibeon, and Anah,

36:21 A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.
36:21 And Dishon, and Ezer, and Dishan: these are the dukes of the Horites, the children of Seir in the land of Edom.

36:22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.
36:22 And the children of Lotan were Hori and Hemam; and Lotan’s sister was Timna.

36:23 A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.
36:23 And the children of Shobal were these; Alvan, and Manahath, and Ebal, Shepho, and Onam.

36:24 A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.
36:24 And these are the children of Zibeon; both Ajah, and Anah: this was that Anah that found the mules in the wilderness, as he fed the asses of Zibeon his father.

36:25 A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.
36:25 And the children of Anah were these; Dishon, and Aholibamah the daughter of Anah.

36:26 Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
36:26 And these are the children of Dishon; Hemdan, and Eshban, and Ithran, and Cheran.

36:27 Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan.
36:27 The children of Ezer are these; Bilhan, and Zaavan, and Akan.

36:28 Dyma feibion Disan; Us ac Aran.
36:28 The children of Dishan are these; Uz, and Aran.

36:29 Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana,
36:29 These are the dukes that came of the Horites; duke Lotan, duke Shobal, duke Zibeon, duke Anah,

36:30 Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.
36:30 Duke Dishon, duke Ezer, duke Dishan: these are the dukes that came of Hori, among their dukes in the land of Seir.

36:31 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasau brenin ar feibion Israel.
36:31 And these are the kings that reigned in the land of Edom, before there reigned any king over the children of Israel.

36:32 A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom; ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
36:32 And Bela the son of Beor reigned in Edom: and the name of his city was Dinhabah.

36:33 A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef.
36:33 And Bela died, and Jobab the son of Zerah of Bozrah reigned in his stead.

36:34 Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.
36:34 And Jobab died, and Husham of the land of Temani reigned in his stead.

36:35 A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.
36:35 And Husham died, and Hadad the son of Bedad, who smote Midian in the field of Moab, reigned in his stead: and the name of his city was Avith.

36:36 Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef.
36:36 And Hadad died, and Samlah of Masrekah reigned in his stead.

36:37 A bu Sumla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.
36:37 And Samlah died, and Saul of Rehoboth by the river reigned in his stead.

36:38 A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.
36:38 And Saul died, and Baalhanan the son of Achbor reigned in his stead.

36:39 A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.
36:39 And Baalhanan the son of Achbor died, and Hadar reigned in his stead: and the name of his city was Pau; and his wife’s name was Mehetabel, the daughter of Matred, the daughter of Mezahab.

36:40 A dyma enwau y dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, dug Timna, dug Alfa, dug Jetheth,
36:40 And these are the names of the dukes that came of Esau, according to their families, after their places, by their names; duke Timnah, duke Alvah, duke Jetheth,

36:41 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,
36:41 Duke Aholibamah, duke Elah, duke Pinon,

36:42 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,
36:42 Duke Kenaz, duke Teman, duke Mibzar,

36:43 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.
36:43 Duke Magdiel, duke Iram: these be the dukes of Edom, according to their habitations in the land of their possession: he is Esau the father of the Edomites.

PENNOD 37

37:1 A thrigodd Jacob yng ngwlad ymdaith ei dad, yng ngwlad Canaan.
37:1 And Jacob dwelt in the land wherein his father was a stranger, in the land of Canaan.

37:2 Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd: a’r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.
37:2 These are the generations of Jacob. Joseph, being seventeen years old, was feeding the flock with his brethren; and the lad was with the sons of Bilhah, and with the sons of Zilpah, his father’s wives: and Joseph brought unto his father their evil report.

37:3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef.
37:3 Now Israel loved Joseph more than all his children, because he was the son of his old age: and he made him a coat of many colours.

37:4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.
37:4 And when his brethren saw that their father loved him more than all his brethren, they hated him, and could not speak peaceably unto him.

37:5 A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg.
37:5 And Joseph dreamed a dream, and he told it his brethren: and they hated him yet the more.

37:6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
37:6 And he said unto them, Hear, I pray you, this dream which I have dreamed:

37:7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i.
37:7 For, behold, we were binding sheaves in the field, and, lo, my sheaf arose, and also stood upright; and, behold, your sheaves stood round about, and made obeisance to my sheaf.

37:8 A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasau ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
37:8 And his brethren said to him, Shalt thou indeed reign over us? or shalt thou indeed have dominion over us? And they hated him yet the more for his dreams, and for his words.

37:9 Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi.
37:9 And he dreamed yet another dream, and told it his brethren, and said, Behold, I have dreamed a dream more; and, behold, the sun and the moon and the eleven stars made obeisance to me.

37:10 Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti?
37:10 And he told it to his father, and to his brethren: and his father rebuked him, and said unto him, What is this dream that thou hast dreamed? Shall I and thy mother and thy brethren indeed come to bow down ourselves to thee to the earth?

37:11 A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.
37:11 And his brethren envied him; but his father observed the saying.

37:12 A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.
37:12 And his brethren went to feed their father’s flock in Shechem.

37:13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.
37:13 And Israel said unto Joseph, Do not thy brethren feed the flock in Shechem? come, and I will send thee unto them. And he said to him, Here am I.

37:14 A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.
37:14 And he said to him, Go, I pray thee, see whether it be well with thy brethren, and well with the flocks; and bring me word again. So he sent him out of the vale of Hebron, and he came to Shechem.

37:15 A chyfarfu gŵr ag ef, ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd. Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?
37:15 And a certain man found him, and, behold, he was wandering in the field: and the man asked him, saying, What seekest thou?

37:16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi, mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?
37:16 And he said, I seek my brethren: tell me, I pray thee, where they feed their flocks.

37:17 A’r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan.
37:17 And the man said, They are departed hence; for I heard them say, Let us go to Dothan. And Joseph went after his brethren, and found them in Dothan.

37:18 Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef.
37:18 And when they saw him afar off, even before he came near unto them, they conspired against him to slay him.

37:19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.
37:19 And they said one to another, Behold, this dreamer cometh.

37:20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef.
37:20 Come now therefore, and let us slay him, and cast him into some pit, and we will say, Some evil beast hath devoured him: and we shall see what will become of his dreams.

37:21 A Reuben a glybu, ac a hachubodd ef o’u llaw hwynt, ac a ddywedodd, Na laddwn ef.
37:21 And Reuben heard it, and he delivered him out of their hands; and said, Let us not kill him.

37:22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad.
37:22 And Reuben said unto them, Shed no blood, but cast him into this pit that is in the wilderness, and lay no hand upon him; that he might rid him out of their hands, to deliver him to his father again.

37:23 A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef.
37:23 And it came to pass, when Joseph was come unto his brethren, that they stripped Joseph out of his coat, his coat of many colours that was on him;

37:24 A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.
37:24 And they took him, and cast him into a pit: and the pit was empty, there was no water in it.

37:25 A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aifft, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.
37:25 And they sat down to eat bread: and they lifted up their eyes and looked, and, behold, a company of Ishmeelites came from Gilead with their camels bearing spicery and balm and myrrh, going to carry it down to Egypt.

37:26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?
37:26 And Judah said unto his brethren, What profit is it if we slay our brother, and conceal his blood?

37:27 Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gytunasant.
37:27 Come, and let us sell him to the Ishmeelites, and let not our hand be upon him; for he is our brother and our flesh. And his brethren were content.

37:28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew, ac a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft.
37:28 Then there passed by Midianites merchantmen; and they drew and lifted up Joseph out of the pit, and sold Joseph to the Ishmeelites for twenty pieces of silver: and they brought Joseph into Egypt.

37:29 A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;
37:29 And Reuben returned unto the pit; and, behold, Joseph was not in the pit; and he rent his clothes.

37:30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi?
37:30 And he returned unto his brethren, and said, The child is not; and I, whither shall I go?

37:31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed.
37:31 And they took Joseph’s coat, and killed a kid of the goats, and dipped the coat in the blood;

37:32 Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e.
37:32 And they sent the coat of many colours, and they brought it to their father; and said, This have we found: know now whether it be thy son’s coat or no.

37:33 Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff.
37:33 And he knew it, and said, It is my son’s coat; an evil beast hath devoured him; Joseph is without doubt rent in pieces.

37:34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.
37:34 And Jacob rent his clothes, and put sackcloth upon his loins, and mourned for his son many days.

37:35 A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd amdano ef.
37:35 And all his sons and all his daughters rose up to comfort him; but he refused to be comforted; and he said, For I will go down into the grave unto my son mourning. Thus his father wept for him.

37:36 A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a’r distain.
37:36 And the Midianites sold him into Egypt unto Potiphar, an officer of Pharaoh’s, and captain of the guard.

PENNOD 38

38:1 Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, a’i enw Hira.
38:1 And it came to pass at that time, that Judah went down from his brethren, and turned in to a certain Adullamite, whose name was Hirah.

38:2 Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan, a’i enw ef oedd Sua; ac a’i cymerodd hi, ac a aeth ati hi.
38:2 And Judah saw there a daughter of a certain Canaanite, whose name was Shuah; and he took her, and went in unto her.

38:3 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar <MI" i •c cfc a alwodd ei enw ef Er.
38:3 And she conceived, and bare a son; and he called his name Er.

38:4 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.
38:4 And she conceived again, and bare a son; and she called his name Onan.

38:5 A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Sela. Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.
38:5 And she yet again conceived, and bare a son; and called his name Shelah: and he was at Chezib, when she bare him.

38:6 A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf-enedig, a’i henw Tamar.
38:6 And Judah took a wife for Er his firstborn, whose name was Tamar.

38:7 Ac yr oedd Er, cyntaf-anedig Jwda, yn ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a’i lladdodd ef.
38:7 And Er, Judah’s firstborn, was wicked in the sight of the LORD; and the LORD slew him.

38:8 A Jwda a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrioda hi, a chyfod had i’th frawd.
38:8 And Judah said unto Onan, Go in unto thy brother’s wife, and marry her, and raise up seed to thy brother.

38:9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai’r had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi ohono had i’w frawd.
38:9 And Onan knew that the seed should not be his; and it came to pass, when he went in unto his brother’s wife, that he spilled it on the ground, lest that he should give seed to his brother.

38:10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr ARGLWYDD: am hynny efe a’i lladdodd yntau.
38:10 And the thing which he did displeased the LORD: wherefore he slew him also.

38:11 Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynyddo fy mab Sela: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigiodd yn nhŷ ei thad.
38:11 Then said Judah to Tamar his daughter in law, Remain a widow at thy father’s house, till Shelah my son be grown: for he said, Lest peradventure he die also, as his brethren did. And Tamar went and dwelt in her father’s house.

38:12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a’i gyfaill Hira yr Adulamiad.
38:12 And in process of time the daughter of Shuah Judah’s wife died; and Judah was comforted, and went up unto his sheepshearers to Timnath, he and his friend Hirah the Adullamite.

38:13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid.
38:13 And it was told Tamar, saying, Behold thy father in law goeth up to Timnath to shear his sheep.

38:14 Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.
38:14 And she put her widow’s garments off from her, and covered her with a veil, and wrapped herself, and sat in an open place, which is by the way to Timnath; for she saw that Shelah was grown, and she was not given unto him to wife.

38:15 A Jwda a’i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.
38:15 When Judah saw her, he thought her to be an harlot; because she had covered her face.

38:16 Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd, ac a ddywedodd. Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?
38:16 And he turned unto her by the way, and said, Go to, I pray thee, let me come in unto thee; (for he knew not that she was his daughter in law.) And she said, What wilt thou give me, that thou mayest come in unto me?

38:17 Yntau a ddywedodd.
Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?
38:17 And he said, I will send thee a kid from the flock. And she said, Wilt thou give me a pledge, till thou send it?

38:18 Yntau a ddywedodd. Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef.
38:18 And he said, What pledge shall I give thee? And she said, Thy signet, and thy bracelets, and thy staff that is in thine hand. And he gave it her, and came in unto her, and she conceived by him.

38:19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.
38:19 And she arose, and went away, and laid by her veil from her, and put on the garments of her widowhood.

38:20 A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.
38:20 And Judah sent the kid by the hand of his friend the Adullamite, to receive his pledge from the woman’s hand: but he found her not.

38:21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd. Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
38:21 Then he asked the men of that place, saying, Where is the harlot, that was openly by the way side? And they said, There was no harlot in this place.

38:22 Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
38:22 And he returned to Judah, and said, I cannot find her; and also the men of the place said, that there was no harlot in this place.

38:23 A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.
38:23 And Judah said, Let her take it to her, lest we be shamed: behold, I sent this kid, and thou hast not found her.

38:24 Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a buteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Jwda, Dygwch hi allan, a llosger hi.
38:24 And it came to pass about three months after, that it was told Judah, saying, Tamar thy daughter in law hath played the harlot; and also, behold, she is with child by whoredom. And Judah said, Bring her forth, and let her be burnt.

38:25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O’r gŵr biau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, atolwg, eiddo pwy yw y sêl, a’r breichledau, a’r ffon yma.
38:25 When she was brought forth, she sent to her father in law, saying, By the man, whose these are, am I with child: and she said, Discern, I pray thee, whose are these, the signet, and bracelets, and staff.

38:26 A Jwda a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, oherwydd na roddais hi i’m mab Sela: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.
38:26 And Judah acknowledged them, and said, She hath been more righteous than I; because that I gave her not to Shelah my son. And he knew her again no more.

38:27 Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.
38:27 And it came to pass in the time of her travail, that, behold, twins were in her womb.

38:28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a’r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.
38:28 And it came to pass, when she travailed, that the one put out his hand: and the midwife took and bound upon his hand a scarlet thread, saying, This came out first.

38:29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y toriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.
38:29 And it came to pass, as he drew back his hand, that, behold, his brother came out: and she said, How hast thou broken forth? this breach be upon thee: therefore his name was called Pharez.

38:30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Sera.
38:30 And afterward came out his brother, that had the scarlet thread upon his hand: and his name was called Zarah.

PENNOD 39

39:1 A Joseff a ddygwyd i waered i’r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno.
39:1 And Joseph was brought down to Egypt; and Potiphar, an officer of Pharaoh, captain of the guard, an Egyptian, bought him of the hands of the Ishmeelites, which had brought him down thither.

39:2 Ac yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad.
39:2 And the LORD was with Joseph, and he was a prosperous man; and he was in the house of his master the Egyptian.

39:3 A’i feistr a welodd fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.
39:3 And his master saw that the LORD was with him, and that the LORD made all that he did to prosper in his hand.

39:4 A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.
39:4 And Joseph found grace in his sight, and he served him: and he made him overseer over his house, and all that he had he put into his hand.

39:5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r ARGLWYDD fendithio tŷ’r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.
39:5 And it came to pass from the time that he had made him overseer in his house, and over all that he had, that the LORD blessed the Egyptian’s house for Joseph’s sake; and the blessing of the LORD was upon all that he had in the house, and in the field.

39:6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Joseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.
39:6 And he left all that he had in Joseph’s hand; and he knew not ought he had, save the bread which he did eat. And Joseph was a goodly person, and well favoured.

39:7 A darfu wedi’r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi.
39:7 And it came to pass after these things, that his master’s wife cast her eyes upon Joseph; and she said, Lie with me.

39:8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.
39:8 But he refused, and said unto his master’s wife, Behold, my master wotteth not what is with me in the house, and he hath committed all that he hath to my hand;

39:9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn DUW!
39:9 There is none greater in this house than I; neither hath he kept back any thing from me but thee, because thou art his wife: how then can I do this great wickedness, and sin against God?

39:10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi.
39:10 And it came to pass, as she spake to Joseph day by day, that he hearkened not unto her, to lie by her, or to be with her.

39:11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.
39:11 And it came to pass about this time, that Joseph went into the house to do his business; and there was none of the men of the house there within.

39:12 Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.
39:12 And she caught him by his garment, saying, Lie with me: and he left his garment in her hand, and fled, and got him out.

39:13 A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan,
39:13 And it came to pass, when she saw that he had left his garment in her hand, and was fled forth,

39:14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi, minnau a waeddais â llef uchel,
39:14 That she called unto the men of her house, and spake unto them, saying, See, he hath brought in an Hebrew unto us to mock us; he came in unto me to lie with me, and I cried with a loud voice:

39:15 A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.
39:15 And it came to pass, when he heard that I lifted up my voice and cried, that he left his garment with me, and fled, and got him out.

39:16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.
39:16 And she laid up his garment by her, until his lord came home.

39:17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo;
39:17 And she spake unto him according to these words, saying, The Hebrew servant, which thou hast brought unto us, came in unto me to mock me:

39:18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.
39:18 And it came to pass, as I lifted up my voice and cried, that he left his garment with me, and fled out.

39:19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr enynnodd ei lid ef.
39:19 And it came to pass, when his master heard the words of his wife, which she spake unto him, saying, After this manner did thy servant to me; that his wrath was kindled.

39:20 A meistr Joseff a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenin yn rhwym.
Ac yno y bu efe yn y carchardy.
39:20 And Joseph’s master took him, and put him into the prison, a place where the king’s prisoners were bound: and he was there in the prison.

39:21 Ond yr ARGLWYDD oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.
39:21 But the LORD was with Joseph, and showed him mercy, and gave him favour in the sight of the keeper of the prison.

39:22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.
39:22 And the keeper of the prison committed to Joseph’s hand all the prisoners that were in the prison; and whatsoever they did there, he was the doer of it.

39:23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr ARGLWYDD gydag ef; a’r hyn a wnâi efe, yr ARGLWYDD a’i llwyddai.
39:23 The keeper of the prison looked not to any thing that was under his hand; because the LORD was with him, and that which he did, the LORD made it to prosper.

PENNOD 40

40:1 A darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.
40:1 And it came to pass after these things, that the butler of the king of Egypt and his baker had offended their lord the king of Egypt.

40:2 A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:
40:2 And Pharaoh was wroth against two of his officers, against the chief of the butlers, and against the chief of the bakers.

40:3 Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.
40:3 And he put them in ward in the house of the captain of the guard, into the prison, the place where Joseph was bound.

40:4 A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt mewn dalfa dros amser.
40:4 And the captain of the guard charged Joseph with them, and he served them: and they continued a season in ward.

40:5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un at ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.
40:5 And they dreamed a dream both of them, each man his dream in one night, each man according to the interpretation of his dream, the butler and the baker of the king of Egypt, which were bound in the prison.

40:6 A’r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.
40:6 And Joseph came in unto them in the morning, and looked upon them, and, behold, they were sad.

40:7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?
40:7 And he asked Pharaoh’s officers that were with him in the ward of his lord’s house, saying, Wherefore look ye so sadly to day?

40:8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.
40:8 And they said unto him, We have dreamed a dream, and there is no interpreter of it. And Joseph said unto them, Do not interpretations belong to God? tell me them, I pray you.

40:9 A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen;
40:9 And the chief butler told his dream to Joseph, and said to him, In my dream, behold, a vine was before me;

40:10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaendarddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.
40:10 And in the vine were three branches: and it was as though it budded, and her blossoms shot forth; and the clusters thereof brought forth ripe grapes:

40:11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.
40:11 And Pharaoh’s cup was in my hand: and I took the grapes, and pressed them into Pharaoh’s cup, and I gave the cup into Pharaoh’s hand.

40:12 A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc.
40:12 And Joseph said unto him, This is the interpretation of it: The three branches are three days:

40:13
O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.
40:13 Yet within three days shall Pharaoh lift up thine head, and restore thee unto thy place: and thou shalt deliver Pharaoh’s cup into his hand, after the former manner when thou wast his butler.

40:14 Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, a mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r tŷ hwn:
40:14 But think on me when it shall be well with thee, and show kindness, I pray thee, unto me, and make mention of me unto Pharaoh, and bring me out of this house:

40:15 Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.
40:15 For indeed I was stolen away out of the land of the Hebrews: and here also have I done nothing that they should put me into the dungeon.

40:16 Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.
40:16 When the chief baker saw that the interpretation was good, he said unto Joseph, I also was in my dream, and, behold, I had three white baskets on my head:

40:17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.
40:17 And in the uppermost basket there was of all manner of bakemeats for Pharaoh; and the birds did eat them out of the basket upon my head.

40:18 A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.
40:18 And Joseph answered and said, This is the interpretation thereof: The three baskets are three days:

40:19
O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytant dy gnawd di oddi amdanat.
40:19 Yet within three days shall Pharaoh lift up thy head from off thee, and shall hang thee on a tree; and the birds shall eat thy flesh from off thee.

40:20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ymysg ei weision.
40:20 And it came to pass the third day, which was Pharaoh’s birthday, that he made a feast unto all his servants: and he lifted up the head of the chief butler and of the chief baker among his servants.

40:21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.
40:21 And he restored the chief butler unto his butlership again; and he gave the cup into Pharaoh’s hand:

40:22 A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.
40:22 But he hanged the chief baker: as Joseph had interpreted to them.

40:23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.
40:23 Yet did not the chief butler remember Joseph, but forgat him.
PENNOD 41

41:1 Yna ymhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharo freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
41:1 And it came to pass at the end of two full years, that Pharaoh dreamed: and, behold, he stood by the river.

41:2 Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent.
41:2 And, behold, there came up out of the river seven well favoured kine and fatfleshed; and they fed in a meadow.

41:3 Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon.
41:3 And, behold, seven other kine came up after them out of the river, ill favoured and leanfleshed; and stood by the other kine upon the brink of the river.

41:4 A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision.
Yna y dihunodd Pharo.
41:4 And the ill favoured and leanfleshed kine did eat up the seven well favoured and fat kine. So Pharaoh awoke.

41:5 Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.
41:5 And he slept and dreamed the second time: and, behold, seven ears of corn came up upon one stalk, rank and good.

41:6 Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.
41:6 And, behold, seven thin ears and blasted with the east wind sprung up after them.

41:7 A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd.
41:7 And the seven thin ears devoured the seven rank and full ears. And Pharaoh awoke, and, behold, it was a dream.

41:8 A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharo.
41:8 And it came to pass in the morning that his spirit was troubled; and he sent and called for all the magicians of Egypt, and all the wise men thereof: and Pharaoh told them his dream; but there was none that could interpret them unto Pharaoh.

41:9 % Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.
41:9 Then spake the chief butler unto Pharaoh, saying, I do remember my faults this day:

41:10 Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhy’r distain, myfi a’r pen-pobydd.
41:10 Pharaoh was wroth with his servants, and put me in ward in the captain of the guard’s house, both me and the chief baker:

41:11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.
41:11 And we dreamed a dream in one night, I and he; we dreamed each man according to the interpretation of his dream.

41:12 Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe.
41:12 And there was there with us a young man, an Hebrew, servant to the captain of the guard; and we told him, and he interpreted to us our dreams; to each man according to his dream he did interpret.

41:13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.
41:13 And it came to pass, as he interpreted to us, so it was; me he restored unto mine office, and him he hanged.

41:14 Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a’i cyrchasant efo’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo.
41:14 Then Pharaoh sent and called Joseph, and they brought him hastily out of the dungeon: and he shaved himself, and changed his raiment, and came in unto Pharaoh.

41:15 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli.
41:15 And Pharaoh said unto Joseph, I have dreamed a dream, and there is none that can interpret it: and I have heard say of thee, that thou canst understand a dream to interpret it.

41:16 A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; DUW a etyb lwyddiant i Pharo.
41:16 And Joseph answered Pharaoh, saying, It is not in me: God shall give Pharaoh an answer of peace.

41:17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.
41:17 And Pharaoh said unto Joseph, In my dream, behold, I stood upon the bank of the river:

41:18 Ac wele yn esgyn o’r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg, ac mewn gweirglodd-dir y porent.
41:18 And, behold, there came up out of the river seven kine, fatfleshed and well favoured; and they fed in a meadow:

41:19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.
41:19 And, behold, seven other kine came up after them, poor and very ill favoured and leanfleshed, such as I never saw in all the land of Egypt for badness:

41:20 A’r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf.
41:20 And the lean and the ill favoured kine did eat up the first seven fat kine:

41:21 Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad.
Yna mi a ddeffroais.
41:21 And when they had eaten them up, it could not be known that they had eaten them; but they were still ill favoured, as at the beginning. So I awoke.

41:22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o’r un gorsen.
41:22 And I saw in my dream, and, behold, seven ears came up in one stalk, full and good:

41:23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt.
41:23 And, behold, seven ears, withered, thin, and blasted with the east wind, sprung up after them:

41:24 A’r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.
41:24 And the thin ears devoured the seven good ears: and I told this unto the magicians; but there was none that could declare it to me.

41:25 A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un: yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo.
41:25 And Joseph said unto Pharaoh, The dream of Pharaoh is one: God hath showed Pharaoh what he is about to do.

41:26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.
41:26 The seven good kine are seven years; and the seven good ears are seven years: the dream is one.

41:27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.
41:27 And the seven thin and ill favoured kine that came up after them are seven years; and the seven empty ears blasted with the east wind shall be seven years of famine.

41:28 Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangasodd i Pharo.
41:28 This is the thing which I have spoken unto Pharaoh: What God is about to do he showeth unto Pharaoh.

41:29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft.
41:29 Behold, there come seven years of great plenty throughout all the land of Egypt:

41:30 Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a’r newyn a ddifetha’r wlad.
41:30 And there shall arise after them seven years of famine; and all the plenty shall be forgotten in the land of Egypt; and the famine shall consume the land;

41:31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.
41:31 And the plenty shall not be known in the land by reason of that famine following; for it shall be very grievous.

41:32 Hefyd am ddyblu’r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau’r peth gan DDUW, a bod DUW yn brysio i’w wneuthur.
41:32 And for that the dream was doubled unto Pharaoh twice; it is because the thing is established by God, and God will shortly bring it to pass.

41:33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharo ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft.
41:33 Now therefore let Pharaoh look out a man discreet and wise, and set him over the land of Egypt.

41:34 Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra.
41:34 Let Pharaoh do this, and let him appoint officers over the land, and take up the fifth part of the land of Egypt in the seven plenteous years.

41:35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.
41:35 And let them gather all the food of those good years that come, and lay up corn under the hand of Pharaoh, and let them keep food in the cities.

41:36 A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.
41:36 And that food shall be for store to the land against the seven years of famine, which shall be in the land of Egypt; that the land perish not through the famine.

41:37 A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision.
41:37 And the thing was good in the eyes of Pharaoh, and in the eyes of all his servants.

41:38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd DUW ynddo?
41:38 And Pharaoh said unto his servants, Can we find such a one as this is, a man in whom the Spirit of God is?

41:39 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o DDUW i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.
41:39 And Pharaoh said unto Joseph, Forasmuch as God hath showed thee all this, there is none so discreet and wise as thou art:

41:40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi.
41:40 Thou shalt be over my house, and according unto thy word shall all my people be ruled: only in the throne will I be greater than thou.

41:41 Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft.
41:41 And Pharaoh said unto Joseph, See, I have set thee over all the land of Egypt.

41:42 A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseff, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,
41:42 And Pharaoh took off his ring from his hand, and put it upon Joseph’s hand, and arrayed him in vestures of fine linen, and put a gold chain about his neck;

41:43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft.
41:43 And he made him to ride in the second chariot which he had; and they cried before him, Bow the knee: and he made him ruler over all the land of Egypt.

41:44 Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aifft.
41:44 And Pharaoh said unto Joseph, I am Pharaoh, and without thee shall no man lift up his hand or foot in all the land of Egypt.

41:45 A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath-Panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft,
41:45 And Pharaoh called Joseph’s name Zaphnathpaaneah; and he gave him to wife Asenath the daughter of Potipherah priest of On. And Joseph went out over all the land of Egypt.

41:46 A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.
41:46 And Joseph was thirty years old when he stood before Pharaoh king of Egypt. And Joseph went out from the presence of Pharaoh, and went throughout all the land of Egypt.

41:47 A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.
41:47 And in the seven plenteous years the earth brought forth by handfuls.

41:48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.
41:48 And he gathered up all the food of the seven years, which were in the land of Egypt, and laid up the food in the cities: the food of the field, which was round about every city, laid he up in the same.

41:49 A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd a’i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.
41:49 And Joseph gathered corn as the sand of the sea, very much, until he left numbering; for it was without number.

41:50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddug Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
41:50 And unto Joseph were born two sons before the years of famine came, which Asenath the daughter of Potipherah priest of On bare unto him.

41:51 A Joseff a alwodd enw ei gyntaf-anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) DUW a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.
41:51 And Joseph called the name of the firstborn Manasseh: For God, said he, hath made me forget all my toil, and all my father’s house.

41:52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) DUW a’m ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.
41:52 And the name of the second called he Ephraim: For God hath caused me to be fruitful in the land of my affliction.

41:53 Darfu’r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft.
41:53 And the seven years of plenteousness, that was in the land of Egypt, were ended.

41:54 A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara.
41:54 And the seven years of dearth began to come, according as Joseph had said: and the dearth was in all lands; but in all the land of Egypt there was bread.

41:55 A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
41:55 And when all the land of Egypt was famished, the people cried to Pharaoh for bread: and Pharaoh said unto all the Egyptians, Go unto Joseph; what he saith to you, do.

41:56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i’r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft.
41:56 And the famine was over all the face of the earth: And Joseph opened all the storehouses, and sold unto the Egyptians; and the famine waxed sore in the land of Egypt.

41:57 A daeth yr holl wledydd i’r Aifft at Joseff i brynu; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.
41:57 And all countries came into Egypt to Joseph for to buy corn; because that the famine was so sore in all lands.

PENNOD 42

42:1 Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?
42:1 Now when Jacob saw that there was corn in Egypt, Jacob said unto his sons, Why do ye look one upon another?

42:2 Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bom fyw, ac na byddom feirw.
42:2 And he said, Behold, I have heard that there is corn in Egypt: get you down thither, and buy for us from thence; that we may live, and not die.

42:3 A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i’r Aifft.
42:3 And Joseph’s ten brethren went down to buy corn in Egypt.

42:4 Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.
42:4 But Benjamin, Joseph’s brother, Jacob sent not with his brethren; for he said, Lest peradventure mischief befall him.

42:5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod, oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan.
42:5 And the sons of Israel came to buy corn among those that came: for the famine was in the land of Canaan.

42:6 A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.
42:6 And Joseph was the governor over the land, and he it was that sold to all the people of the land: and Joseph’s brethren came, and bowed down themselves before him with their faces to the earth.

42:7 A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.
42:7 And Joseph saw his brethren, and he knew them, but made himself strange unto them, and spake roughly unto them; and he said unto them, Whence come ye? And they said, From the land of Canaan to buy food.

42:8 A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.
42:8 And Joseph knew his brethren, but they knew not him.

42:9 A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.
42:9 And Joseph remembered the dreams which he dreamed of them, and said unto them, Ye are spies; to see the nakedness of the land ye are come.

42:10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.
42:10 And they said unto him, Nay, my lord, but to buy food are thy servants come.

42:11 Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.
42:11 We are all one man’s sons; we are true men, thy servants are no spies.

42:12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.
42:12 And he said unto them, Nay, but to see the nakedness of the land ye are come.

42:13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni, a’r llall nid yw fyw.
42:13 And they said, Thy servants are twelve brethren, the sons of one man in the land of Canaan; and, behold, the youngest is this day with our father, and one is not.

42:14 A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.
42:14 And Joseph said unto them, That is it that I spake unto you, saying, Ye are spies:

42:15 Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma.
42:15 Hereby ye shall be proved: By the life of Pharaoh ye shall not go forth hence, except your youngest brother come hither.

42:16 Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi.
42:16 Send one of you, and let him fetch your brother, and ye shall be kept in prison, that your words may be proved, whether there be any truth in you: or else by the life of Pharaoh surely ye are spies.

42:17 As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau.
42:17 And he put them all together into ward three days.

42:18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni DUW yr wyf fi.
42:18 And Joseph said unto them the third day, This do, and live; for I fear God:

42:19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth.
42:19 If ye be true men, let one of your brethren be bound in the house of your prison: go ye, carry corn for the famine of your houses:

42:20 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.
42:20 But bring your youngest brother unto me; so shall your words be verified, and ye shall not die. And they did so.

42:21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.
42:21 And they said one to another, We are verily guilty concerning our brother, in that we saw the anguish of his soul, when he besought us, and we would not hear; therefore is this distress come upon us.

42:22 A Reuben a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.
42:22 And Reuben answered them, saying, Spake I not unto you, saying, Do not sin against the child; and ye would not hear? therefore, behold, also his blood is required.

42:23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.
42:23 And they knew not that Joseph understood them; for he spake unto them by an interpreter.

42:24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
42:24 And he turned himself about from them, and wept; and returned to them again, and communed with them, and took from them Simeon, and bound him before their eyes.

42:25 Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.
42:25 Then Joseph commanded to fill their sacks with corn, and to restore every man’s money into his sack, and to give them provision for the way: and thus did he unto them.

42:26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.
42:26 And they laded their asses with the corn, and departed thence.

42:27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.
42:27 And as one of them opened his sack to give his ass provender in the inn, he espied his money; for, behold, it was in his sack’s mouth.

42:28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth DUW i ni hyn?
42:28 And he said unto his brethren, My money is restored; and, lo, it is even in my sack: and their heart failed them, and they were afraid, saying one to another, What is this that God hath done unto us?

42:29 A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,
42:29 And they came unto Jacob their father unto the land of Canaan, and told him all that befell unto them; saying,

42:30 Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.
42:30 The man, who is the lord of the land, spake roughly to us, and took us for spies of the country.

42:31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.
42:31 And we said unto him, We are true men; we are no spies:

42:32 Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni yng ngwlad Canaan.
42:32 We be twelve brethren, sons of our father; one is not, and the youngest is this day with our father in the land of Canaan.

42:33 A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o’ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.
42:33 And the man, the lord of the country, said unto us, Hereby shall I know that ye are true men; leave one of your brethren here with me, and take food for the famine of your households, and be gone:

42:34 A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.
42:34 And bring your youngest brother unto me: then shall I know that ye are no spies, but that ye are true men: so will I deliver you your brother, and ye shall traffic in the land.

42:35 Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.
42:35 And it came to pass as they emptied their sacks, that, behold, every man’s bundle of money was in his sack: and when both they and their father saw the bundles of money, they were afraid.

42:36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.
42:36 And Jacob their father said unto them, Me have ye bereaved of my children: Joseph is not, and Simeon is not, and ye will take Benjamin away: all these things are against me.

42:37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith.
42:37 And Reuben spake unto his father, saying, Slay my two sons, if I bring him not to thee: deliver him into my hand, and I will bring him to thee again.

42:38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.
42:38 And he said, My son shall not go down with you; for his brother is dead, and he is left alone: if mischief befall him by the way in the which ye go, then shall ye bring down my gray hairs with sorrow to the grave.
PENNOD 43

43:1 A’r newyn oedd drwm yn y wlad.
43:1 And the famine was sore in the land.

43:2 A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
43:2 And it came to pass, when they had eaten up the corn which they had brought out of Egypt, their father said unto them, Go again, buy us a little food.

43:3 A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.
43:3 And Judah spake unto him, saying, The man did solemnly protest unto us, saying, Ye shall not see my face, except your brother be with you.

43:4 Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.
43:4 If thou wilt send our brother with us, we will go down and buy thee food:

43:5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.
43:5 But if thou wilt not send him, we will not go down: for the man said unto us, Ye shall not see my face, except your brother be with you.

43:6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd?
43:6 And Israel said, Wherefore dealt ye so ill with me, as to tell the man whether ye had yet a brother?

43:7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?
43:7 And they said, The man asked us straitly of our state, and of our kindred, saying, Is your father yet alive? have ye another brother? and we told him according to the tenor of these words: could we certainly know that he would say, Bring your brother down?

43:8 Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd.
43:8 And Judah said unto Israel his father, Send the lad with me, and we will arise and go; that we may live, and not die, both we, and thou, and also our little ones.

43:9 Myfi a fechnïaf amdano ef, o’m llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth.
43:9 I will be surety for him; of my hand shalt thou require him: if I bring him not unto thee, and set him before thee, then let me bear the blame for ever:

43:10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.
43:10 For except we had lingered, surely now we had returned this second time.

43:11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.
43:11 And their father Israel said unto them, If it must be so now, do this; take of the best fruits in the land in your vessels, and carry down the man a present, a little balm, and a little honey, spices, and myrrh, nuts, and almonds:

43:12 Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.
43:12 And take double money in your hand; and the money that was brought again in the mouth of your sacks, carry it again in your hand; peradventure it was an oversight:

43:13 Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr.
43:13 Take also your brother, and arise, go again unto the man:

43:14 A DUW Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.
43:14 And God Almighty give you mercy before the man, that he may send away your other brother, and Benjamin. If I be bereaved of my children, I am bereaved.

43:15 A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aifft, a safasant gerbron Joseff.
43:15 And the men took that present, and they took double money in their hand, and Benjamin; and rose up, and went down to Egypt, and stood before Joseph.

43:16 A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd.
43:16 And when Joseph saw Benjamin with them, he said to the ruler of his house, Bring these men home, and slay, and make ready; for these men shall dine with me at noon.

43:17 A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodD Joseff: a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff.
43:17 And the man did as Joseph bade; and the man brought the men into Joseph’s house.

43:18 A’r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd.
43:18 And the men were afraid, because they were brought into Joseph’s house; and they said, Because of the money that was returned in our sacks at the first time are we brought in; that he may seek occasion against us, and fall upon us, and take us for bondmen, and our asses.

43:19 A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,
43:19 And they came near to the steward of Joseph’s house, and they communed with him at the door of the house,

43:20 Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth.
43:20 And said, O sir, we came indeed down at the first time to buy food:

43:21 A bu, pan ddaethom i’r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw.
43:21 And it came to pass, when we came to the inn, that we opened our sacks, and, behold, every man’s money was in the mouth of his sack, our money in full weight: and we have brought it again in our hand.

43:22 Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau.
43:22 And other money have we brought down in our hands to buy food: we cannot tell who put our money in our sacks.

43:23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich DUW chwi, a DUW eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy.
43:23 And he said, Peace be to you, fear not: your God, and the God of your father, hath given you treasure in your sacks: I had your money. And he brought Simeon out unto them.

43:24 A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt.
43:24 And the man brought the men into Joseph’s house, and gave them water, and they washed their feet; and he gave their asses provender.

43:25 Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.
43:25 And they made ready the present against Joseph came at noon: for they heard that they should eat bread there.

43:26 Pan ddaeth Joseff i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr.
43:26 And when Joseph came home, they brought him the present which was in their hand into the house, and bowed themselves to him to the earth.

43:27 Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto?
43:27 And he asked them of their welfare, and said, Is your father well, the old man of whom ye spake? Is he yet alive?

28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni, byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.
43:28 And they answered, Thy servant our father is in good health, he is yet alive. And they bowed down their heads, and made obeisance.

29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun, ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, DUW a roddo ras i ti, fy mab.
43:29 And he lifted up his eyes, and saw his brother Benjamin, his mother’s son, and said, Is this your younger brother, of whom ye spake unto me? And he said, God be gracious unto thee, my son.

30 A Joseffa frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno.
43:30 And Joseph made haste; for his bowels did yearn upon his brother: and he sought where to weep; and he entered into his chamber, and wept there.

31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.
43:31 And he washed his face, and went out, and refrained himself, and said, Set on bread.

32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid, oherwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Eifftiaid.
43:32 And they set on for him by himself, and for them by themselves, and for the Egyptians, which did eat with him, by themselves: because the Egyptians might not eat bread with the Hebrews; for that is an abomination unto the Egyptians.

33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf-anedig yn ô1 ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.
43:33 And they sat before him, the firstborn according to his birthright, and the youngest according to his youth: and the men marvelled one at another.

34 Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.
43:34 And he took and sent messes unto them from before him: but Benjamin’s mess was five times so much as any of theirs. And they drank, and were merry with him.

PENNOD 44

44:1 Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, llanw sachau’r gwŷr o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un yng ngenau ei sach.
44:1 And he commanded the steward of his house, saying, Fill the men’s sacks with food, as much as they can carry, and put every man’s money in his sack’s mouth.

44:2 A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff, yr hwn a ddywedasai efe.
44:2 And put my cup, the silver cup, in the sack’s mouth of the youngest, and his corn money. And he did according to the word that Joseph had spoken.

44:3 Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod.
44:3 As soon as the morning was light, the men were sent away, they and their asses.

44:4 Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid nepwll, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?
44:4 And when they were gone out of the city, and not yet far off, Joseph said unto his steward, Up, follow after the men; and when thou dost overtake them, say unto them, Wherefore have ye rewarded evil for good?

44:5 Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
44:5 Is not this it in which my lord drinketh, and whereby indeed he divineth? ye have done evil in so doing.

44:6 Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.
44:6 And he overtook them, and he spake unto them these same words.

44:7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato DUW i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.
44:7 And they said unto him, Wherefore saith my lord these words? God forbid that thy servants should do according to this thing:

44:8 Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?
44:8 Behold, the money, which we found in our sacks’ mouths, we brought again unto thee out of the land of Canaan: how then should we steal out of thy lord’s house silver or gold?

44:9 Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd.
44:9 With whomsoever of thy servants it be found, both let him die, and we also will be my lord’s bondmen.

44:10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.
44:10 And he said, Now also let it be according unto your words: he with whom it is found shall be my servant; and ye shall be blameless.

44:11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan.
44:11 Then they speedily took down every man his sack to the ground, and opened every man his sack.

44:12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin.
44:12 And he searched, and began at the eldest, and left at the youngest: and the cup was found in Benjamin’s sack.

44:13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.
44:13 Then they rent their clothes, and laded every man his ass, and returned to the city.

44:14 A daeth Jwda a’i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
44:14 And Judah and his brethren came to Joseph’s house; for he was yet there: and they fell before him on the ground.

44:15 A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth?
44:15 And Joseph said unto them, What deed is this that ye have done? wot ye not that such a man as I can certainly divine?

44:16 A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd DUW allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni, a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd.
44:16 And Judah said, What shall we say unto my lord? what shall we speak? or how shall we clear ourselves? God hath found out the iniquity of thy servants: behold, we are my lord’s servants, both we, and he also with whom the cup is found.

44:17 Yntau a ddywedodd, Na ato DUW i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.
44:17 And he said, God forbid that I should do so: but the man in whose hand the cup is found, he shall be my servant; and as for you, get you up in peace unto your father.

44:18 Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.
44:18 Then Judah came near unto him, and said, Oh my lord, let thy servant, I pray thee, speak a word in my lord’s ears, and let not thine anger burn against thy servant: for thou art even as Pharaoh.

44:19 Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
44:19 My lord asked his servants, saying, Have ye a father, or a brother?

44:20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.
44:20 And we said unto my lord, We have a father, an old man, and a child of his old age, a little one; and his brother is dead, and he alone is left of his mother, and his father loveth him.

44:21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf ft, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
44:21 And thou saidst unto thy servants, Bring him down unto me, that I may set mine eyes upon him.

44:22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad.
44:22 And we said unto my lord, The lad cannot leave his father: for if he should leave his father, his father would die.

44:23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
44:23 And thou saidst unto thy servants, Except your youngest brother come down with you, ye shall see my face no more.

44:24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.
44:24 And it came to pass when we came up unto thy servant my father, we told him the words of my lord.

44:25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
44:25 And our father said, Go again, and buy us a little food.

44:26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni.
44:26 And we said, We cannot go down: if our youngest brother be with us, then will we go down: for we may not see the man’s face, except our youngest brother be with us.

44:27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
44:27 And thy servant my father said unto us, Ye know that my wife bare me two sons:

44:28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:
44:28 And the one went out from me, and I said, Surely he is torn in pieces; and I saw him not since:

44:29 Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.
44:29 And if ye take this also from me, and mischief befall him, ye shall bring down my gray hairs with sorrow to the grave.

44:30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau;)
44:30 Now therefore when I come to thy servant my father, and the lad be not with us; seeing that his life is bound up in the lad’s life;

44:31 Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.
44:31 It shall come to pass, when he seeth that the lad is not with us, that he will die: and thy servants shall bring down the gray hairs of thy servant our father with sorrow to the grave.

44:32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.
44:32 For thy servant became surety for the lad unto my father, saying, If I bring him not unto thee, then I shall bear the blame to my father for ever.

44:33 Gan hynny weithian, atolwg, arhosed dy was dros y llanc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr:
44:33 Now therefore, I pray thee, let thy servant abide instead of the lad a bondman to my lord; and let the lad go up with his brethren.

44:34 Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad, a’r llanc heb fod gyda mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.
44:34 For how shall I go up to my father, and the lad be not with me? lest peradventure I see the evil that shall come on my father.
PENNOD 45

45:1 Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Joseff a’i frodyr.
45:1 Then Joseph could not refrain himself before all them that stood by him; and he cried, Cause every man to go out from me. And there stood no man with him, while Joseph made himself known unto his brethren.

45:2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Eifftiaid, a chlybu tŷ Pharo.
45:2 And he wept aloud: and the Egyptians and the house of Pharaoh heard.

45:3 A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.
45:3 And Joseph said unto his brethren, I am Joseph; doth my father yet live? And his brethren could not answer him; for they were troubled at his presence.

45:4 Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft.
45:4 And Joseph said unto his brethren, Come near to me, I pray you. And they came near. And he said, I am Joseph your brother, whom ye sold into Egypt.

45:5 Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd DUW fyfi o’ch blaen chwi.
45:5 Now therefore be not grieved, nor angry with yourselves, that ye sold me hither: for God did send me before you to preserve life.

45:6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.
45:6 For these two years hath the famine been in the land: and yet there are five years, in the which there shall neither be earing nor harvest.

45:7 A DUW a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
45:7 And God sent me before you to preserve you a posterity in the earth, and to save your lives by a great deliverance.

45:8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond DUW: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.
45:8 So now it was not you that sent me hither, but God: and he hath made me a father to Pharaoh, and lord of all his house, and a ruler throughout all the land of Egypt.

45:9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: DUW a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:
45:9 Haste ye, and go up to my father, and say unto him, Thus saith thy son Joseph, God hath made me lord of all Egypt: come down unto me, tarry not:

45:10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:
45:10 And thou shalt dwell in the land of Goshen, and thou shalt be near unto me, thou, and thy children, and thy children’s children, and thy flocks, and thy herds, and all that thou hast:

45:11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.
45:11 And there will I nourish thee; for yet there are five years of famine; lest thou, and thy household, and all that thou hast, come to poverty.

45:12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.
45:12 And, behold, your eyes see, and the eyes of my brother Benjamin, that it is my mouth that speaketh unto you.

45:13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.
45:13 And ye shall tell my father of all my glory in Egypt, and of all that ye have seen; and ye shall haste and bring down my father hither.

45:14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.
45:14 And he fell upon his brother Benjamin’s neck, and wept; and Benjamin wept upon his neck.

45:15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.
45:15 Moreover he kissed all his brethren, and wept upon them: and after that his brethren talked with him.

45:l6 A’r gair a ddaeth i dŷ Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Joseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision.
45:16 And the fame thereof was heard in Pharaoh’s house, saying, Joseph’s brethren are come: and it pleased Pharaoh well, and his servants.

45:17 A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;
45:17 And Pharaoh said unto Joseph, Say unto thy brethren, This do ye; lade your beasts, and go, get you unto the land of Canaan;

45:18 A chymerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad.
45:18 And take your father and your households, and come unto me: and I will give you the good of the land of Egypt, and ye shall eat the fat of the land.

45:19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch.
45:19 Now thou art commanded, this do ye; take you wagons out of the land of Egypt for your little ones, and for your wives, and bring your father, and come.

45:20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi.
45:20 Also regard not your stuff; for the good of all the land of Egypt is yours.

45:21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.
45:21 And the children of Israel did so: and Joseph gave them wagons, according to the commandment of Pharaoh, and gave them provision for the way.

45:22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.
45:22 To all of them he gave each man changes of raiment; but to Benjamin he gave three hundred pieces of silver, and five changes of raiment.

45:23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.
45:23 And to his father he sent after this manner; ten asses laden with the good things of Egypt, and ten she asses laden with corn and bread and meat for his father by the way.

45:24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
45:24 So he sent his brethren away, and they departed: and he said unto them, See that ye fall not out by the way.

45:25 Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;
45:25 And they went up out of Egypt, and came into the land of Canaan unto Jacob their father,

45:26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft.
Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.
45:26 And told him, saying, Joseph is yet alive, and he is governor over all the land of Egypt. And Jacob’s heart fainted, for he believed them not.

45:27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt.
45:27 And they told him all the words of Joseph, which he had said unto them: and when he saw the wagons which Joseph had sent to carry him, the spirit of Jacob their father revived:

45:28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
45:28 And Israel said, It is enough; Joseph my son is yet alive: I will go and see him before I die.
PENNOD 46

46:1 Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i DDUW ei dad Isaac.
46:1 And Israel took his journey with all that he had, and came to Beersheba, and offered sacrifices unto the God of his father Isaac.

46:2 A llefarodd DUW wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
46:2 And God spake unto Israel in the visions of the night, and said, Jacob, Jacob. And he said, Here am I.

46:3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW, DUW dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.
46:3 And he said, I am God, the God of thy father: fear not to go down into Egypt; for I will there make of thee a great nation:

46:4 Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.
46:4 I will go down with thee into Egypt; and I will also surely bring thee up again: and Joseph shall put his hand upon thine eyes.

46:5 A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef.
46:5 And Jacob rose up from Beersheba: and the sons of Israel carried Jacob their father, and their little ones, and their wives, in the wagons which Pharaoh had sent to carry him.

46:6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, Jacob, a’i holl had gydag ef:
46:6 And they took their cattle, and their goods, which they had gotten in the land of Canaan, and came into Egypt, Jacob, and all his seed with him:

46:7 Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.
46:7 His sons, and his sons’ sons with him, his daughters, and his sons’ daughters, and all his seed brought he with him into Egypt.

46:8 A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Jacob a’i feibion Reuben, cynfab Jacob.
46:8 And these are the names of the children of Israel, which came into Egypt, Jacob and his sons: Reuben, Jacob’s firstborn.

46:9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
46:9 And the sons of Reuben; Hanoch, and Phallu, and Hezron, and Carmi.

46:10 A meibion Simeon, Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.
46:10 And the sons of Simeon; Jemuel, and Jamin, and Ohad, and Jachin, and Zohar, and Shaul the son of a Canaanitish woman.

46:11 Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari. ‘
46:11 And the sons of Levi; Gershon, Kohath, and Merari.

46:12 ^ A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.
46:12 And the sons of Judah; Er, and Onan, and Shelah, and Pharez, and Zarah: but Er and Onan died in the land of Canaan. And the sons of Pharez were Hezron and Hamul.

46:13 Meibion Issachar hefyd. Tola, a Phufa, a Job, a Simron.
46:13 And the sons of Issachar; Tola, and Phuvah, and Job, and Shimron.

46:14 A meibion Sabulon, Sered, ac Elon, a Jaleel.
46:14 And the sons of Zebulun; Sered, and Elon, and Jahleel.

46:15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
46:15 These be the sons of Leah, which she bare unto Jacob in Padanaram, with his daughter Dinah: all the souls of his sons and his daughters were thirty and three.

46:16 A meibion Gad, Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.
46:16 And the sons of Gad; Ziphion, and Haggi, Shuni, and Ezbon, Eri, and Arodi, and Areli.

46:17 A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia, Heber a Malchiel.
46:17 And the sons of Asher; Jimnah, and Ishuah, and Isui, and Beriah, and Serah their sister: and the sons of Beriah; Heber, and Malchiel.

46:18 Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.
46:18 These are the sons of Zilpah, whom Laban gave to Leah his daughter, and these she bare unto Jacob, even sixteen souls.

46:19 Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin.
46:19 The sons of Rachel Jacob’s wife; Joseph, and Benjamin.

46:20 Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
46:20 And unto Joseph in the land of Egypt were born Manasseh and Ephraim, which Asenath the daughter of Potipherah priest of On bare unto him.

46:21 A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.
46:21 And the sons of Benjamin were Belah, and Becher, and Ashbel, Gera, and Naaman, Ehi, and Rosh, Muppim, and Huppim, and Ard.

46:22 Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.
46:22 These are the sons of Rachel, which were born to Jacob: all the souls were fourteen.

46:23 A meibion Dan oedd Husim.
46:23 And the sons of Dan; Hushim.

46:24 A meibion Nafftali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Silem.
46:24 And the sons of Naphtali; Jahzeel, and Guni, and Jezer, and Shillem.

46:25 Dyma feibion Bilha, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith dyn oll.
46:25 These are the sons of Bilhah, which Laban gave unto Rachel his daughter, and she bare these unto Jacob: all the souls were seven.

46:26 Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain.
46:26 All the souls that came with Jacob into Egypt, which came out of his loins, besides Jacob’s sons’ wives, all the souls were threescore and six;

46:27 A meibion Joseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.
46:27 And the sons of Joseph, which were born him in Egypt, were two souls: all the souls of the house of Jacob, which came into Egypt, were threescore and ten.

46:28 Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen.
46:28 And he sent Judah before him unto Joseph, to direct his face unto Goshen; and they came into the land of Goshen.

46:29 A Joseff a baratodd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.
46:29 And Joseph made ready his chariot, and went up to meet Israel his father, to Goshen, and presented himself unto him; and he fell on his neck, and wept on his neck a good while.

46:30 A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto.
46:30 And Israel said unto Joseph, Now let me die, since I have seen thy face, because thou art yet alive.

46:31 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi.
46:31 And Joseph said unto his brethren, and unto his father’s house, I will go up, and show Pharaoh, and say unto him, My brethren, and my father’s house, which were in the land of Canaan, are come unto me;

46:32 A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’i hyn oll oedd ganddynt.
46:32 And the men are shepherds, for their trade hath been to feed cattle; and they have brought their flocks, and their herds, and all that they have.

46:33 A phan alwo Pharo amdanoch, dywedyd, Beth yw eich gwaith?
46:33 And it shall come to pass, when Pharaoh shall call you, and shall say, What is your occupation?

46:34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Eifftiaid yw pob defaid.
46:34 That ye shall say, Thy servants’ trade hath been about cattle from our youth even until now, both we, and also our fathers: that ye may dwell in the land of Goshen; for every shepherd is an abomination unto the Egyptians.

PENNOD 47

47:1 Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen.
47:1 Then Joseph came and told Pharaoh, and said, My father and my brethren, and their flocks, and their herds, and all that they have, are come out of the land of Canaan; and, behold, they are in the land of Goshen.

47:2 Ac efe a gymerth rai o’i frodyr, sef pum dyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo.
47:2 And he took some of his brethren, even five men, and presented them unto Pharaoh.

47:3 A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd.
47:3 And Pharaoh said unto his brethren, What is your occupation? And they said unto Pharaoh, Thy servants are shepherds, both we, and also our fathers.

47:4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.
47:4 They said moreover unto Pharaoh, For to sojourn in the land are we come; for thy servants have no pasture for their flocks; for the famine is sore in the land of Canaan: now therefore, we pray thee, let thy servants dwell in the land of Goshen.

47:5 A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat.
47:5 And Pharaoh spake unto Joseph, saying, Thy father and thy brethren are come unto thee:

47:6 Tir yr Aifft sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.
47:6 The land of Egypt is before thee; in the best of the land make thy father and brethren to dwell; in the land of Goshen let them dwell: and if thou knowest any men of activity among them, then make them rulers over my cattle.

47:7 A dug Joseff Jacob ei dad, ac a’i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo.
47:7 And Joseph brought in Jacob his father, and set him before Pharaoh: and Jacob blessed Pharaoh.

47:8 A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?
47:8 And Pharaoh said unto Jacob, How old art thou?

47:9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
47:9 And Jacob said unto Pharaoh, The days of the years of my pilgrimage are an hundred and thirty years: few and evil have the days of the years of my life been, and have not attained unto the days of the years of the life of my fathers in the days of their pilgrimage.

47:10 A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.
47:10 And Jacob blessed Pharaoh, and went out from before Pharaoh.

47:11 A Joseff a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aiffit, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo.
47:11 And Joseph placed his father and his brethren, and gave them a possession in the land of Egypt, in the best of the land, in the land of Rameses, as Pharaoh had commanded.

47:12 Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, a bara, yn ôl eu teuluoedd.
47:12 And Joseph nourished his father, and his brethren, and all his father’s household, with bread, according to their families.

47:13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.
47:13 And there was no bread in all the land; for the famine was very sore, so that the land of Egypt and all the land of Canaan fainted by reason of the famine.

47:14 Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo.
47:14 And Joseph gathered up all the money that was found in the land of Egypt, and in the land of Canaan, for the corn which they bought: and Joseph brought the money into Pharaoh’s house.

47:15 Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian.
47:15 And when money failed in the land of Egypt, and in the land of Canaan, all the Egyptians came unto Joseph, and said, Give us bread: for why should we die in thy presence? for the money faileth.

47:16 A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian.
47:16 And Joseph said, Give your cattle; and I will give you for your cattle, if money fail.

47:17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.
47:17 And they brought their cattle unto Joseph: and Joseph gave them bread in exchange for horses, and for the flocks, and for the cattle of the herds, and for the asses: and he fed them with bread for all their cattle for that year.

47:18 A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.
47:18 When that year was ended, they came unto him the second year, and said unto him, We will not hide it from my lord, how that our money is spent; my lord also hath our herds of cattle; there is not ought left in the sight of my lord, but our bodies, and our lands:

47:19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? prŷn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd.
47:19 Wherefore shall we die before thine eyes, both we and our land? buy us and our land for bread, and we and our land will be servants unto Pharaoh: and give us seed, that we may live, and not die, that the land be not desolate.

47:20 A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.
47:20 And Joseph bought all the land of Egypt for Pharaoh; for the Egyptians sold every man his field, because the famine prevailed over them: so the land became Pharaoh’s.

47:21 Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gŵr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.
47:21 And as for the people, he removed them to cities from one end of the borders of Egypt even to the other end thereof.

47:22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.
47:22 Only the land of the priests bought he not; for the priests had a portion assigned them of Pharaoh, and did eat their portion which Pharaoh gave them: wherefore they sold not their lands.

47:23 Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.
47:23 Then Joseph said unto the people, Behold, I have bought you this day and your land for Pharaoh: lo, here is seed for you, and ye shall sow the land.

47:24 A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.
47:24 And it shall come to pass in the increase, that ye shall give the fifth part unto Pharaoh, and four parts shall be your own, for seed of the field, and for your food, and for them of your households, and for food for your little ones.

47:25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.
47:25 And they said, Thou hast saved our lives: let us find grace in the sight of my lord, and we will be Pharaoh’s servants.

47:26 A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.
47:26 And Joseph made it a law over the land of Egypt unto this day, that Pharaoh should have the fifth part; except the land of the priests only, which became not Pharaoh’s.

47:27 Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.
47:27 And Israel dwelt in the land of Egypt, in the country of Goshen; and they had possessions therein, and grew, and multiplied exceedingly.

47:28 Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd.
47:28 And Jacob lived in the land of Egypt seventeen years: so the whole age of Jacob was an hundred forty and seven years.

47:29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft:
47:29 And the time drew nigh that Israel must die: and he called his son Joseph, and said unto him, If now I have found grace in thy sight, put, I pray thee, thy hand under my thigh, and deal kindly and truly with me; bury me not, I pray thee, in Egypt:

47:30 Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aifft, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air.
47:30 But I will lie with my fathers, and thou shalt carry me out of Egypt, and bury me in their buryingplace. And he said, I will do as thou hast said.

47:31 Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho.
Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.
47:31 And he said, Swear unto me. And he sware unto him. And Israel bowed himself upon the bed’s head.
PENNOD 48

48:1 A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.
48:1 And it came to pass after these things, that one told Joseph, Behold, thy father is sick: and he took with him his two sons, Manasseh and Ephraim.

48:2 A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat.
Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.
48:2 And one told Jacob, and said, Behold, thy son Joseph cometh unto thee: and Israel strengthened himself, and sat upon the bed.

48:3 A dywedodd Jacob wrth Joseff, DUW, Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd:
48:3 And Jacob said unto Joseph, God Almighty appeared unto me at Luz in the land of Canaan, and blessed me,

48:4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlon, ac a’th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.
48:4 And said unto me, Behold, I will make thee fruitful, and multiply thee, and I will make of thee a multitude of people; and will give this land to thy seed after thee for an everlasting possession.

48:5 Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i’r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.
48:5 And now thy two sons, Ephraim and Manasseh, which were born unto thee in the land of Egypt before I came unto thee into Egypt, are mine; as Reuben and Simeon, they shall be mine.

48:6 A’th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.
48:6 And thy issue, which thou begettest after them, shall be thine, and shall be called after the name of their brethren in their inheritance.

48:7 A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.
48:7 And as for me, when I came from Padan, Rachel died by me in the land of Canaan in the way, when yet there was but a little way to come unto Ephrath: and I buried her there in the way of Ephrath; the same is Bethlehem.

48:8 A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?
48:8 And Israel beheld Joseph’s sons, and said, Who are these?

48:9 A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd DUW i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt.
48:9 And Joseph said unto his father, They are my sons, whom God hath given me in this place. And he said, Bring them, I pray thee, unto me, and I will bless them.

48:10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd.
48:10 Now the eyes of Israel were dim for age, so that he could not see. And he brought them near unto him; and he kissed them, and embraced them.

48:11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele parodd DUW i mi weled dy had hefyd.
48:11 And Israel said unto Joseph, I had not thought to see thy face: and, lo, God hath showed me also thy seed.

48:12 A Joseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.
48:12 And Joseph brought them out from between his knees, and he bowed himself with his face to the earth.

48:13 Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a’u nesaodd hwynt ato ef.
48:13 And Joseph took them both, Ephraim in his right hand toward Israel’s left hand, and Manasseh in his left hand toward Israel’s right hand, and brought them near unto him.

48:14 Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a’i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.
48:14 And Israel stretched out his right hand, and laid it upon Ephraim’s head, who was the younger, and his left hand upon Manasseh’s head, guiding his hands wittingly; for Manasseh was the firstborn.

48:15 Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, DUW, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, DUW, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
48:15 And he blessed Joseph, and said, God, before whom my fathers Abraham and Isaac did walk, the God which fed me all my life long unto this day,

48:16 Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.
48:16 The Angel which redeemed me from all evil, bless the lads; and let my name be named on them, and the name of my fathers Abraham and Isaac; and let them grow into a multitude in the midst of the earth.

48:17 Pan welodd Joseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.
48:17 And when Joseph saw that his father laid his right hand upon the head of Ephraim, it displeased him: and he held up his father’s hand, to remove it from Ephraim’s head unto Manasseh’s head.

48:18 Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.
48:18 And Joseph said unto his father, Not so, my father: for this is the firstborn; put thy right hand upon his head.

48:19 A’i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.
48:19 And his father refused, and said, I know it, my son, I know it: he also shall become a people, and he also shall be great: but truly his younger brother shall be greater than he, and his seed shall become a multitude of nations.

48:20 Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed DUW di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.
48:20 And he blessed them that day, saying, In thee shall Israel bless, saying, God make thee as Ephraim and as Manasseh: and he set Ephraim before Manasseh.

48:21 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw, a bydd DUW gyda chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau.
48:21 And Israel said unto Joseph, Behold, I die: but God shall be with you, and bring you again unto the land of your fathers.

48:22 A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.
48:22 Moreover I have given to thee one portion above thy brethren, which I took out of the hand of the Amorite with my sword and with my bow.
PENNOD 49

49:1 Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.
49:1 And Jacob called unto his sons, and said, Gather yourselves together, that I may tell you that which shall befall you in the last days.

49:2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
49:2 Gather yourselves together, and hear, ye sons of Jacob; and hearken unto Israel your father.

49:3 Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.
49:3 Reuben, thou art my firstborn, my might, and the beginning of my strength, the excellency of dignity, and the excellency of power:

49:4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
49:4 Unstable as water, thou shalt not excel; because thou wentest up to thy father’s bed; then defiledst thou it: he went up to my couch.

49:5 Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.
49:5 Simeon and Levi are brethren; instruments of cruelty are in their habitations.

49:6 Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.
49:6 O my soul, come not thou into their secret; unto their assembly, mine honour, be not thou united: for in their anger they slew a man, and in their selfwill they digged down a wall.

49:7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
49:7 Cursed be their anger, for it was fierce; and their wrath, for it was cruel: I will divide them in Jacob, and scatter them in Israel.

49:8 Tithau, Jwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.
49:8 Judah, thou art he whom thy brethren shall praise: thy hand shall be in the neck of thine enemies; thy father’s children shall bow down before thee.

49:9 Cenau llew wyt ti, Jwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef?
49:9 Judah is a lion’s whelp: from the prey, my son, thou art gone up: he stooped down, he couched as a lion, and as an old lion; who shall rouse him up?

49:10 Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.
49:10 The sceptre shall not depart from Judah, nor a lawgiver from between his feet, until Shiloh come; and unto him shall the gathering of the people be.

49:11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin.
49:11 Binding his foal unto the vine, and his ass’s colt unto the choice vine; he washed his garments in wine, and his clothes in the blood of grapes:

49:12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.
49:12 His eyes shall be red with wine, and his teeth white with milk.

49:13 Sabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.
49:13 Zebulun shall dwell at the haven of the sea; and he shall be for an haven of ships; and his border shall be unto Zidon.

49:14 Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.
49:14 Issachar is a strong ass couching down between two burdens:

49:15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.
49:15 And he saw that rest was good, and the land that it was pleasant; and bowed his shoulder to bear, and became a servant unto tribute.

49:16 Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.
49:16 Dan shall judge his people, as one of the tribes of Israel.

49:17 Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.
49:17 Dan shall be a serpent by the way, an adder in the path, that biteth the horse heels, so that his rider shall fall backward.

49:18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, ARGLWYDD.
49:18 I have waited for thy salvation, O LORD.

49:19 Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.
49:19 Gad, a troop shall overcome him: but he shall overcome at the last.

49:20 O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
49:20 Out of Asher his bread shall be fat, and he shall yield royal dainties.

49:21 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
49:21 Naphtali is a hind let loose: he giveth goodly words.

49:22 Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.
49:22 Joseph is a fruitful bough, even a fruitful bough by a well; whose branches run over the wall:

49:23 A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.
49:23 The archers have sorely grieved him, and shot at him, and hated him:

49:24 Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus DDUW Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:
49:24 But his bow abode in strength, and the arms of his hands were made strong by the hands of the mighty God of Jacob; (from thence is the shepherd, the stone of Israel:)

49:25 Trwy DDUW dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, a bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, a bendithion y bronnau a’r groth.
49:25 Even by the God of thy father, who shall help thee; and by the Almighty, who shall bless thee with blessings of heaven above, blessings of the deep that lieth under, blessings of the breasts, and of the womb:

49:26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
49:26 The blessings of thy father have prevailed above the blessings of my progenitors unto the utmost bound of the everlasting hills: they shall be on the head of Joseph, and on the crown of the head of him that was separate from his brethren.

49:27 Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail.
49:27 Benjamin shall ravin as a wolf: in the morning he shall devour the prey, and at night he shall divide the spoil.

49:28 Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
49:28 All these are the twelve tribes of Israel: and this is it that their father spake unto them, and blessed them; every one according to his blessing he blessed them.

49:29 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;
49:29 And he charged them, and said unto them, I am to be gathered unto my people: bury me with my fathers in the cave that is in the field of Ephron the Hittite,

49:30 Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.
49:30 In the cave that is in the field of Machpelah, which is before Mamre, in the land of Canaan, which Abraham bought with the field of Ephron the Hittite for a possession of a buryingplace.

49:31 Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.
49:31 There they buried Abraham and Sarah his wife; there they buried Isaac and Rebekah his wife; and there I buried Leah.

49:32 Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.
49:32 The purchase of the field and of the cave that is therein was from the children of Heth.

49:33 Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.
49:33 And when Jacob had made an end of commanding his sons, he gathered up his feet into the bed, and yielded up the ghost, and was gathered unto his people.
PENNOD 50

50:1 Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef.
50:1 And Joseph fell upon his father’s face, and wept upon him, and kissed him.

50:2 Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.
50:2 And Joseph commanded his servants the physicians to embalm his father: and the physicians embalmed Israel.

50:3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.
50:3 And forty days were fulfilled for him; for so are fulfilled the days of those which are embalmed: and the Egyptians mourned for him threescore and ten days.

50:4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,
50:4 And when the days of his mourning were past, Joseph spake unto the house of Pharaoh, saying, If now I have found grace in your eyes, speak, I pray you, in the ears of Pharaoh, saying,

50:5 Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.
50:5 My father made me swear, saying, Lo, I die: in my grave which I have digged for me in the land of Canaan, there shalt thou bury me. Now therefore let me go up, I pray thee, and bury my father, and I will come again.

50:6 A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.
50:6 And Pharaoh said, Go up, and bury thy father, according as he made thee swear.

50:7 A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,
50:7 And Joseph went up to bury his father: and with him went up all the servants of Pharaoh, the elders of his house, and all the elders of the land of Egypt,

50:8 A holl dŷ Joseff, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.
50:8 And all the house of Joseph, and his brethren, and his father’s house: only their little ones, and their flocks, and their herds, they left in the land of Goshen.

50:9 Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.
50:9 And there went up with him both chariots and horsemen: and it was a very great company.

50:10 A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.
50:10 And they came to the threshingfloor of Atad, which is beyond Jordan, and there they mourned with a great and very sore lamentation: and he made a mourning for his father seven days.

50:11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.
50:11 And when the inhabitants of the land, the Canaanites, saw the mourning in the floor of Atad, they said, This is a grievous mourning to the Egyptians: wherefore the name of it was called Abelmizraim, which is beyond Jordan.

50:12 A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.
50:12 And his sons did unto him according as he commanded them:

50:13 Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda’r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.
50:13 For his sons carried him into the land of Canaan, and buried him in the cave of the field of Machpelah, which Abraham bought with the field for a possession of a buryingplace of Ephron the Hittite, before Mamre.

50:14 A dychwelodd Joseff i’r Aifft, efe, a’i frodyr, a’r rhai oil a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
50:14 And Joseph returned into Egypt, he, and his brethren, and all that went up with him to bury his father, after he had buried his father.

50:15 Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.
50:15 And when Joseph’s brethren saw that their father was dead, they said, Joseph will peradventure hate us, and will certainly requite us all the evil which we did unto him.

50:16 A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,
50:16 And they sent a messenger unto Joseph, saying, Thy father did command before he died, saying,

50:17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseff, Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.
50:17 So shall ye say unto Joseph, Forgive, I pray thee now, the trespass of thy brethren, and their sin; for they did unto thee evil: and now, we pray thee, forgive the trespass of the servants of the God of thy father. And Joseph wept when they spake unto him.

50:18 A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.
50:18 And his brethren also went and fell down before his face; and they said, Behold, we be thy servants.

50:19 A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch, canys a ydwyf fi yn lle DUW?
50:19 And Joseph said unto them, Fear not: for am I in the place of God?

50:20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond DUW a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.
50:20 But as for you, ye thought evil against me; but God meant it unto good, to bring to pass, as it is this day, to save much people alive.

50:21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
50:21 Now therefore fear ye not: I will nourish you, and your little ones. And he comforted them, and spake kindly unto them.

50:22 A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg.
50:22 And Joseph dwelt in Egypt, he, and his father’s house: and Joseph lived an hundred and ten years.

50:23 Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff.
50:23 And Joseph saw Ephraim’s children of the third generation: the children also of Machir the son of Manasseh were brought up upon Joseph’s knees.

50:24 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a DUW gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
50:24 And Joseph said unto his brethren, I die: and God will surely visit you, and bring you out of this land unto the land which he sware to Abraham, to Isaac, and to Jacob.

50:25 A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, DUW gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi, dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.
50:25 And Joseph took an oath of the children of Israel, saying, God will surely visit you, and ye shall carry up my bones from hence.

50:26 A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef, ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
50:26 So Joseph died, being an hundred and ten years old: and they embalmed him and he was put in a coffin in Egypt.


DIWEDD / END

_______________________________________________________________



 

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

free invisible hit counter
Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats