1492k
Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya
: Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysegr-Lân (1620) yn yr
iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text
electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_habacuc_01_1492k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google:
#kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn
Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google:
#kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu
trwy Google: #kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Cywaith Siôn Prys |
|
1493ke
This page
with an English translation - Haggai (1620 Welsh Bible / 1611 English
Authorized Version)
·····
PENNOD 1
1:1 Y baich a welodd y proffwyd Habacuc.
1:2
Pa hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais,
ac nid achubi!
1:3 Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac
y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i, ac y mae a
gyfyd ddadl ac ymryson.
1:4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â
barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a
â allan.
1:5
Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys
gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.
1:6
Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar
hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt.
1:7
Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u
rhagoriaeth.
1:8
A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddian yr
hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell, ehedant
fel eryr yn prysuro at fwyd.
1:9 Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer
eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.
1:10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a
thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a
gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.
1:11
Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym
yma i'w dduw ei hun.
1:12
Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw.
O ARGLWYDD, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O DDUW, i
gosbedigaeth.
1:13
Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar
anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir
un cyfiawnach nag ef ei hun?
1:14
Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt?
1:15 Cyfodant hwynt oll â'r bach;
casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a
lawenychant ac a ymddigrifant.
1:16
Am hynny yr aberthant i'w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i'w ballegrwyd:
Canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'u bwyd yn fras.
1:17
A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn
wastadol?
PENNOD 2
2:1 Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tw^r, a gwyliaf, i
edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y'm cerydder.
2:2
A'r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn
eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno.
2:3
Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o'r diwedd,
ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.
2:4
Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd
byw trwy ei ffydd.
2:5
A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gw^r balch yw efe, ac heb aros
gartref, yr hwn a helaetha ei feddwi fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis
digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl
bobloedd.
2:6
Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a
dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a'r neb a lwytho arno ei
hun y clai tew!
2:7
Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th
gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?
2:8 Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer,
holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar
y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.
2:9 Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ , i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!
2:10
Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ , wrth ddistrywio pobloedd lawer;
pechaist yn erbyn dy enaid.
2:11
Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed.
2:12 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a
gadarnhao ddinas mewn anwiredd!
2:13
Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân,
ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?
2:14 Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth
gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr.
2:15
Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn
ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!
2:16
Llanwyddi o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen:
ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy
ogoniant.
2:17
Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u
dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a
drigant ynddi.
2:18
Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr el cherfio; i'r ddelw
dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur
eilunod mudion?
2:19
Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg:
wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn.
2:20 Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd:
y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.
PENNOD 3
3:1
Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth.
3:2
Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol
y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd.
3:3 DUW a ddaeth o Teman, a'r Sanctaidd o
fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a'r ddaear a lanwyd o'i fawl.
3:4 A'i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd
cyrn iddo yn dyfod allan o'i law, ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.
3:5 Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aeth
marwor tanllyd allan wrth ei draed ef.
3:6
Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y
mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymasant:
llwybrau tragwyddol sydd iddo.
3:7
Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan; crynodd llenni tir Midian.
3:8
A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai
wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar
gerbydau dy iachawdwriaeth?
3:9
Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y
ddaear ag afonydd.
3:10
Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y
dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.
3:11
Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant,
ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair.
3:12
Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.
3:13
Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th
eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd
y gwddf. Sela.
3:14
Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru;
ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. .
3:15
Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.
3:16
Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth
pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod:
pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â'i fyddinoedd.
3:17
Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr
olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r
gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:
3:18
Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth.
3:19
Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth a'm traed a wna efe fel traed ewigod; efe a wna i
mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau.
__________________________________________________________________
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf - 02 02 2003
Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
"CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website
Weərr àm ai? Yùù ààrr vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait
o ymwelwyr i’r Adran hon (Y Beibl
Cymraeg) oddi ar 1 Medi 2005
Edrychwych ar fy
ystadegau