1756ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620)
yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text
electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_hebreaid_58_1756ke.htm
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delw
6540) Adolygiadau
diweddaraf - latest updates. |
1755k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig
Epistolau Sant Paul: At yr
Hebreaid
PENNOD 1
1:1 Duw,
wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi,
yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab;
1:1 God, who at sundry times and in divers manners spake in
time past unto the fathers by the prophets,
1:2 Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd
pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd:
1:2 Hath in these last days spoken unto us by his Son, whom
he hath appointed heir of all things, by whom also he made the worlds;
1:3 Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb
ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei
nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y
Mawredd yn y goruwch leoedd;
1:3 Who being the brightness of his glory, and the express
image of his person, and upholding all things by the word of his power, when he
had by himself purged our sins, sat down on the right hand of the Majesty on
high;
1:4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well
na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy.
1:4 Being made so much better than the angels, as he hath by
inheritance obtained a more excellent name than they.
1:5 Canys wrth bwy o’r angylion y
dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A
thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab?
1:5 For unto which of the angels said he at any time, Thou
art my Son, this day have I begotten thee? And again, I will be to him a
Father, and he shall be to me a Son?
1:6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y
Cyntaf-anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef.
1:6 And again, when he bringeth in the firstbegotten into
the world, he saith, And let all the angels of God worship him.
1:7 Ac am yr angylion y mae yn
dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn
fflam dân.
1:7 And of the angels he saith, Who maketh his angels
spirits, and his ministers a flame of fire.
1:8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc
di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas
di.
1:8 But unto the Son he saith, Thy throne, O God, is for
ever and ever: a sceptre of righteousness is the sceptre of thy kingdom.
1:9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a
gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew
gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion.
1:9 Thou hast loved righteousness, and hated iniquity;
therefore God, even thy God, hath anointed thee with the oil of gladness above
thy fellows.
1:10 Ac, Tydi yn y dechreuad,
Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd:
1:10 And, Thou, Lord, in the beginning hast laid the
foundation of the earth; and the heavens are the works of thine hands:
1:11 Hwynt-hwy a ddarfyddant; ond tydi
sydd yn parhau; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant;
1:11 They shall perish; but thou remainest; and they all
shall wax old as doth a garment;
1:12 Ac megis gwisg y plygi di
hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant.
PENNOD
2:1 Am
hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni
eu gollwng hwy i golli.
2:1 Therefore we ought to give the more earnest heed to the
things which we have heard, lest at any time we should let them slip.
2:2 Canys os bu gadarn y gair a
lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn
daledigaeth;
2:2 For if the word spoken by angels was stedfast, and every
transgression and disobedience received a just recompense of reward;
2:3 Pa fodd y dihangwn ni, os
esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r
Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef:
2:3 How shall we escape, if we neglect so great salvation;
which at the first began to be spoken by the Lord, and was confirmed unto us by
them that heard him;
2:4 A Duw hefyd yn cyd-dystiolaethu,
trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn
ôl ei ewyllys ei hun?
2:4 God also bearing them witness, both with signs and
wonders, and with divers miracles, and gifts of the Holy Ghost, according to
his own will?
2:5 Canys nid i’r angylion y
darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.
2:5 For unto the angels hath he not put in subjection the
world to come, whereof we speak.
2:6 Eithr un mewn rhyw fan a
dystiolaethodd, gan ddywedyd. Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab
dyn, i ti i ymweled ag ef?
2:6 But one in a certain place testified, saying, What is
man, that thou art mindful of him? or the son of man, that thou visitest him?
2:7 Ti a’i gwnaethost ef ychydig is
na’r angylion: a gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef
ar weithredoedd dy ddwylo:
2:7 Thou madest him a little lower than the angels; thou
crownedst him with glory and honour, and didst set him over the works of thy
hands:
2:8 Ti a ddarostyngaist bob peth dan
ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb
ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu
darostwng iddo.
2:8 Thou hast put all things in subjection under his feet.
For in that he put all in subjection under him, he left nothing that is not put
under him. But now we see not yet all things put under him.
2:9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu,
yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi
ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth
dros bob dyn.
2:9 But we see Jesus, who was made a little lower than the
angels for the suffering of death, crowned with glory and honour; that he by
the grace of God should taste death for every man.
2:11 For both he that sanctifieth and they who are sanctified
are all of one: for which cause he is not ashamed to call them brethren,
2:12 Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy
enw di i’m brodyr; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di.
2:14 Oblegid hynny, gan fod y plant
yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un
pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth
ganddo, hynny yw, diafol;
2:14 Forasmuch then as the children are partakers of flesh
and blood, he also himself likewise took part of the same; that through death
he might destroy him that had the power of death, that is, the devil;
2:15 Ac y gwaredai hwynt, y rhai
trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed.
PENNOD 3
3:1 Oherwydd paham, frodyr
sanctaidd, cyfranogion o’r galwedigaefh nefol, ystyriwch Apostol ac
Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu;
3:1 Wherefore, holy brethren, partakers of the heavenly
calling, consider the Apostle and High Priest of our profession, Christ Jesus;
3:2 Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i
hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dy ef.
3:2 Who was faithful to him that appointed him, as also
Moses was faithful in all his house.
3:3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn
haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn
cael mwy o barch na’r tŷ.
3:3 For this man was counted worthy of more glory than
Moses, inasmuch as he who hath builded the house hath more honour than the
house.
3:4 Canys pob tŷ a adeiledir
gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.
3:4 For every house is builded by some man; but he that
built all things is God.
3:5 A Moses yn wir a fu ffyddlon yn
ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru;
3:5 And Moses verily was faithful in all his house, as a
servant, for a testimony of those things which were to be spoken after;
3:6 Eithr Crist, megis Mab ar ei
dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd
ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.
3:6 But Christ as a son over his own house; whose house are
we, if we hold fast the confidence and the rejoicing of the hope firm unto the
end.
3:7 Am hynny, megis y mae’r Ysbryd
Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef,
3:7 Wherefore (as the Holy Ghost saith, To day if ye will
hear his voice,
3:8 Na chaledwch eich calonnau,
megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch:
3:8 Harden not your hearts, as in the provocation, in the
day of temptation in the wilderness:
3:9 Lie y temtiodd eich tadau fyfi,
y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.
3:9 When your fathers tempted me, proved me, and saw my
works forty years.
3:14 Canys fe a’n gwnaed ni yn
gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd;
3:14 For we are made partakers of Christ, if we hold the
beginning of our confidence stedfast unto the end;
3:15 Tra dywedir, Heddiw, os gwran-
dewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad.
PENNOD 4
4:1 Ofnwn gan hynny, gan fod
addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb
ohonoch yn debyg i fod yn ôl.
4:1 Let us therefore fear, lest, a promise being left us of
entering into his rest, any of you should seem to come short of it.
4:2 Canys i ninnau y pregethwyd yr
efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt
hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant.
4:2 For unto us was the gospel preached, as well as unto
them: but the word preached did not profit them, not being mixed with faith in
them that heard it.
4:3 Canys yr ydym ni, y rhai a
gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn
fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu
gwneuthur er seiliad y byd.
4:3 For we which have believed do enter into rest, as he
said, As I have sworn in my wrath, if they shall enter into my rest: although
the works were finished from the foundation of the world.
4:4 Canys efe a ddywedodd mewn man
am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl
weithredoedd.
4:4 For he spake in a certain place of the seventh day on
this wise, And God did rest the seventh day from all his works.
4:5 Ac yma drachefn, Os ânt i mewn
i’m gorffwysfa i.
4:5 And in this place again, If they shall enter into my
rest.
4:6 Gan hynny, gan fod hyn wedi ei
adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf
iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth;
4:6 Seeing therefore it remaineth that some must enter
therein, and they to whom it was first preached entered not in because of unbelief:
4:7 Trachefn, y mae efe yn pennu
rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y
dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.
4:7 Again, he limiteth a certain day, saying in David, To day,
after so long a time; as it is said, To day if ye will hear his voice, harden
not your hearts.
4:8 Canys pe dygasai Jesus hwynt i
orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.
4:8 For if Jesus had given them rest, then would he not
afterward have spoken of another day.
4:9 Y mae gan hynny orffwysfa eto yn
ôl i bobl Dduw.
4:9 There remaineth therefore a rest to the people of God.
l5 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyda’n
gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ninnau, eto heb
bechod.
PENNOD 5
5:1 Canys pob archoffeiriad
wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at
Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau:
5:1 For every high priest taken from among men is ordained
for men in things pertaining to God, that he may offer both gifts and
sacrifices for sins:
5:2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y
rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei
amgylchu â gwendid.
5:2 Who can have compassion on the ignorant, and on them
that are out of the way; for that he himself also is compassed with infirmity.
5:3 Ac o achos hyn y dylai, megis
dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau.
5:3 And by reason hereof he ought, as for the people, so
also for himself, to offer for sins.
5:4 Ac nid yw neb yn cymryd yr
anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron.
5:4 And no man taketh this honour unto himself, but he that
is called of God, as was Aaron.
5:5 Felly Crist hefyd
5:5 So also Christ glorified not himself to be made an high
priest; but he that said unto him, Thou art my Son, to day have I begotten
thee.
5:6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle
arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
5:6 As he saith also in another place, Thou art a priest for
ever after the order of Melchisedec.
5:7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd,
gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn
oedd abl i’w achub ef oddi with farwolacth, a chael ei wrando yn yr hyn a
ofnodd;
5:7 Who in the days of his flesh, when he had offered up
prayers and supplications with strong crying and tears unto him that was able
to save him from death, and was heard in that he feared;
5:8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd
ufudd-dod trwy’r pethau a ddioddefodd:
5:8 Though he were a Son, yet learned he obedience by the
things which he suffered;
5:9 Ac wedi ei berffeithio, efe a
wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo;
5:9 And being made perfect, he became the author of eternal
salvation unto all them that obey him;
5:10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn
Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
5:12 For when for the time ye ought to be teachers, ye have
need that one teach you again which be the first principles of the oracles of
God; and are become such as have need of milk, and not of strong meat.
PENNOD 6
6:1 Am hynny, gan roddi
heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at
berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd
meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw,
6:1 Therefore leaving the principles of the doctrine of
Christ, let us go on unto perfection; not laying again the foundation of
repentance from dead works, and of faith toward God,
6:2 I athrawiaeth bedyddiadau, ac
arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a’r farn dragwyddol.
6:2 Of the doctrine of baptisms, and of laying on of hands,
and of resurrection of the dead, and of eternal judgment.
6:3 A hyn a wnawn, os
caniatâ Duw.
6:3 And this will we do, if God permit.
6:4 Canys amhosibl yw i’r rhai a
oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion
o’r Ysbryd Glân,
6:4 For it is impossible for those who were once
enlightened, and have tasted of the heavenly gift, and were made partakers of
the Holy Ghost,
6:5 Ac a brofasant ddaionus air Duw,
a nerthoedd y byd a ddaw,
6:5 And have tasted the good word of God, and the powers of
the world to come,
6:6 Ac a syrthiant ymaith,
ymadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu
hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar.
6:6 If they shall fall away, to renew them again unto
repentance; seeing they crucify to themselves the Son of God afresh, and put
him to an open shame.
6:7 Canys y ddaear, yr hon sydd yn
yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y
llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw:
6:7 For the earth which drinketh in the rain that cometh oft
upon it, and bringeth forth herbs meet for them by whom it is dressed,
receiveth blessing from God:
6:8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain
a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi.
6:8 But that which beareth thorns and briers is rejected,
and is nigh unto cursing; whose end is to be burned.
6:9 Eithr yr ydym ni yn coelio
amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth
iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn.
6:9 But, beloved, we are persuaded better things of you, and
things that accompany salvation, though we thus speak.
6:11 Ac yr ydym yn chwennych fod i
bol un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y
diwedd:
6:11 And we desire that every one of you do show the same
diligence to the full assurance of hope unto the end:
6:12 Fel na byddoch fusgrell, eithr
yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion.
6:13 Canys Duw, wrth wneuthur
addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu, neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun,
6:13 For when God made promise to Abraham, because he could
swear by no greater, he sware by himself,
6:14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan
fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf.
6:17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn
helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a
gyfryngodd trwy lw:
6:17 Wherein God, willing more abundantly to show unto the
heirs of promise the immutability of his counsel, confirmed it by an oath:
6:18 Fel trwy ddau beth dianwadal,
yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur
cryf: y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen;
6:18 That by two immutable things, in which it was impossible
for God to lie, we might have a strong consolation, who have fled for refuge to
lay hold upon the hope set before us:
6:19 Yr hwn sydd gennym ni megis
angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd
o’r tu fewn i’r lien,
6:19 Which hope we have as an anchor of the soul, both sure
and stedfast, and which entereth into that within the veil;
6:20 I’r man yr aeth y rhagflaenor
drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl
urdd Melchisedec.
PENNOD 7
7:1 Canys y Melchisedec hwn,
brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth
ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef;
7:1 For this Melchisedec, king of Salem, priest of the most
high God, who met Abraham returning from the slaughter of the kings, and
blessed him;
7:2 I’r hwn hefyd y cyfrannodd
Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin
cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch,
7:2 To whom also Abraham gave a tenth part of all; first
being by interpretation King of righteousness, and after that also King of
Salem, which is, King of peace;
7:3 Heb dad, heb fam, heb achau, heb
fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn
gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd.
7:3 Without father, without mother, without descent, having
neither beginning of days, nor end of life; but made like unto the Son of God;
abideth a priest continually.
7:4 Edrychwch faint oedd hwn, i’r
hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith.
7:4 Now consider how great this man was, unto whom even the
patriarch Abraham gave the tenth of the spoils.
7:5 A’r rhai yn wir sydd o feibion
Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm
gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau
Abraham:
7:5 And verily they that are of the sons of Levi, who
receive the office of the priesthood, have a commandment to take tithes of the
people according to the law, that is, of their brethren, though they come out
of the loins of Abraham:
7:6 Eithr yr hwn nid oedd ei achau
ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr
addewidion iddo,
7:6 But he whose descent is not counted from them received
tithes of Abraham, and blessed him that had the promises.
7:7 Ac yn ddi-ddadl, yr hwn sydd
leiaf a fendithir gan ei well.
7:7 And without all contradiction the less is blessed of the
better.
7:8 Ac yma y mae dynion y rhai sydd
yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef
yn fyw.
7:8 And here men that die receive tithes; but there he
receiveth them, of whom it is witnessed that he liveth.
7:9 Ac, fel y dywedwyf felly, yn
Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau.
7:9 And as I may so say, Levi also, who receiveth tithes,
payed tithes in Abraham.
7:15 Ac y mae’n eglurach o lawer
eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi,
7:15 And it is yet far more evident: for that after the
similitude of Melchisedec there ariseth another priest,
7:16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl
cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol.
7:20 Ac yn gymaint nad heb lw y
gwnaethpwyd ef yn Offeiriad:
7:20 And inasmuch as not without an oath he was made priest:
7:21 (Canys y rhai hynny yn wir
ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a
ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd
Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:)
7:21 (For those priests were made without an oath; but this
with an oath by him that said unto him, The Lord sware and will not repent,
Thou art a priest for ever after the order of Melchisedec:)
7:22 Ar destament gwell o hynny y
gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd.
7:22 By so much was Jesus made a surety of a better
testament.
7:25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn
gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob
amser i eiriol drostynt hwy.
7:25 Wherefore he is able also to save them to the uttermost
that come unto God by him, seeing he ever liveth to make intercession for them.
7:26 Canys y cyfryw Archoffeiriad
sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei
wneuthur yn uwch na’r nefoedd, oedd weddus i ni;
7:26 For such an high priest became us, who is holy,
harmless, undefiled, separate from sinners, and made higher than the heavens;
7:27 Yr hwn nid yw raid iddo
beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei
bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith,
pan offrymodd efe ef ei hun.
7:28 Canys y gyfraith sydd yn
gwneuthur dynion a gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn
a fu wedi’r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn
dragywydd.
PENNOD 8
8:1 A phen ar y pethau a ddywedwyd
yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw
gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd;
8:1 Now of the things which we have spoken this is the sum:
We have such an high priest, who is set on the right hand of the throne of the
Majesty in the heavens;
8:2 Yn Weinidog y gysegrfa, a’r gwir
dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.
8:2 A minister of the sanctuary, and of the true tabernacle,
which the Lord pitched, and not man.
8:3 Canys pob archoffeiriad a osodir
i offrymu rhoddion ac aberthau: oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr
hyn a offrymai.
8:3 For every high priest is ordained to offer gifts and
sacrifices: wherefore it is of necessity that this man have somewhat also to
offer.
8:4 Canys yn wir pe bai efe ar y
ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn
offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf:
8:4 For if he were on earth, he should not be a priest,
seeing that there are priests that offer gifts according to the law:
8:5 Y rhai sydd yn gwasanaethu i
siampl a chysgod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd
efe ar fedr gorffen y babell: canys, Gwêl, medd efe, ar wneuthur ohonot bob
peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
8:5 Who serve unto the example and shadow of heavenly
things, as Moses was admonished of God when he was about to make the
tabernacle: for, See, saith he, that thou make all things according to the
pattern showed to thee in the mount.
8:6 Ond yn awr efe a gafodd
weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae hyn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr
hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.
8:6 But now hath he obtained a more excellent ministry, by
how much also he is the mediator of a better covenant, which was established
upon better promises.
8:7 Oblegid yn wir pe buasai’r
cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i’r ail.
8:7 For if that first covenant had been faultless, then
should no place have been sought for the second.
8:8 Canys yn beio arnynt hwy y dywed
efe, Wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ
Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd:
8:8 For finding fault with them, he saith, Behold, the days
come, saith the Lord, when I will make a new covenant with the house of Israel
and with the house of Judah:
8:9 Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u
tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr
Aifft: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i, minnau a’u hesgeulusais
hwythau, medd yr Arglwydd.
8:9 Not according to the covenant that I made with their
fathers in the day when I took them by the hand to lead them out of the
8:10 Oblegid hwn yw’r cyfamod a
amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a
ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt: a
mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl:
8:10 For this is the covenant that I will make with the house
of Israel after those days, saith the Lord; I will put my laws into their mind,
and write them in their hearts: and I will be to them a God, and they shall be
to me a people:
8:11 Ac ni ddysgant bob un ei
gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid
hwynt-hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt.
PENNOD
9:1 Am hynny yn wir yr
ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol.
9:1 Then verily the first covenant had also ordinances of
divine service, and a worldly sanctuary.
9:2 Canys yr oedd tabernacl wedi ei
wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara
gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr.
9:2 For there was a tabernacle made; the first, wherein was
the candlestick, and the table, and the showbread; which is called the
sanctuary.
9:3 Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y
babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf;
9:3 And after the second veil, the tabernacle which is
called the Holiest of all;
9:4 Yr hwn yr oedd y thuser aur
ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch: yn yr hon yr oedd y crochan
aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau’r cyfamod:
9:4 Which had the golden censer, and the ark of the covenant
overlaid round about with gold, wherein was the golden pot that had manna, and
Aaron’s rod that budded, and the tables of the covenant;
9:5 Ac uwch ei phen ceriwbiaid y
gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn
rhan.
9:5 And over it the cherubims of glory shadowing the
mercyseat; of which we cannot now speak particularly.
9:6 A’r pethau hyn wedi eu trefnu
felly, i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd
yn cyflawni gwasanaeth Duw:
9:6 Now when these things were thus ordained, the priests
went always into the first tabernacle, accomplishing the service of God.
9:7 Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn
yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i
hun, a thros anwybodaeth y bobl.
9:7 But into the second went the high priest alone once
every year, not without blood, which he offered for himself, and for the errors
of the people:
9:8 A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn,
nac oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r
tabernacl cyntaf yn sefyll:
9:8 The Holy Ghost this signifying, that the way into the
holiest of all was not yet made manifest, while as the first tabernacle was yet
standing:
9:9 Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros
yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni
allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd;
9:9 Which was a figure for the time then present, in which
were offered both gifts and sacrifices, that could not make him that did the
service perfect, as pertaining to the conscience;
9:10 Y rhai oedd yn sefyll yn unig
ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod
arnynt hyd amser y diwygiad.
9:11 Eithr Crist, wedi dyfod yn
Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach,
nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma;
9:11 But Christ being come an high priest of good things to
come, by a greater and more perfect tabernacle, not made with hands, that is to
say, not of this building;
9:12 Nid chwaith trwy waed geifr a
lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i’r cysegr, gan gad i ni
dragwyddol ryddhad.
9:13 Oblegid os ydyw gwaed teirw a
geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i
bureiddiad y cnawd;
9:13 For if the blood of bulls and of goats, and the ashes of
an heifer sprinkling the unclean, sanctifieth to the purifying of the flesh:
9:14 Pa faint mwy y bydd i waed
Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw,
buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw?
9:19 Canys wedi i Moses adrodd yr
holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a
geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r
bobl oll,
9:19 For when Moses had spoken every precept to all the
people according to the law, he took the blood of calves and of goats, with
water, and scarlet wool, and hyssop, and sprinkled both the book, and all the
people,
9:20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y
testament a orchmynnodd Duw i chwi.
9:21 Y tabernacl
hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe a gwaed yr un modd.
9:24 Canys nid i’r cysegr o waith
llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i
ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni:
9:24 For Christ is not entered into the holy places made with
hands, which are the figures of the true; but into heaven itself, now to appear
in the presence of God for us:
9:25 Nac fel yr offrymai efe ei hun
yn fynych, megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn,
a gwaed arall:
9:25 Nor yet that he should offer himself often, as the high
priest entereth into the holy place every year with blood of others;
9:26 (Oblegid yna rhaid fuasai
iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y
byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.
9:26 For then must he often have suffered since the
foundation of the world: but now once in the end of the world hath he appeared
to put away sin by the sacrifice of himself.
PENNOD 10
10:1 Oblegid y gyfraith, yr
hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau,
10:1 For the law having a shadow of good things to come, and
not the very image of the things, can never with those sacrifices which they
offered year by year continually make the comers thereunto perfect.
10:2 Oblegid yna hwy a beidiasent â’u
hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu
glanhau unwaith.
10:2 For then would they not have ceased to be offered?
because that the worshippers once purged should have had no more conscience of
sins.
10:3 Eithr yn yr aberthau hynny y
mae atgoffa pechodau bob blwyddyn.
10:3 But in those sacrifices there is a remembrance again
made of sins every year.
10:4 Canys amhosibl yw i waed teirw
a geifr dynnu ymaith bechodau.
10:4 For it is not possible that the blood of bulls and of
goats should take away sins.
10:5 Oherwydd paham y mae efe, wrth
ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm
10:5 Wherefore when he cometh into the world, he saith,
Sacrifice and offering thou wouldest not, but a body hast thou prepared me:
10:6 Offrymau poeth, a thros bechod,
ni buost fodlon iddynt.
10:6 In burnt offerings and sacrifices for sin thou hast had
no pleasure.
10:7 Yna y dywedais, Wele fi yn
dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy
ewyllys di, O Dduw.
10:7 Then said I, Lo, I come (in the volume of the book it is
written of me,) to do thy will, O God.
10:8 Wedi iddo ddywedyd uchod,
Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid
ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;
10:8 Above when he said, Sacrifice and offering and burnt
offerings and offering for sin thou wouldest not, neither hadst pleasure
therein; which are offered by the law;
10:9 Yna y dywedodd, Wele fi yn
dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail.
10:9 Then said he, Lo, I come to do thy will, O God. He
taketh away the first, that he may establish the second.
10:11 Ac y mae pob offeiriad yn
sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai
ni allant fyth ddileu pechodau:
10:11 And every priest standeth daily ministering and offering
oftentimes the same sacrifices, which can never take away sins:
10:12 Eithr hwn, wedi offrymu un
aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw,
10:12 But this man, after he had offered one sacrifice for
sins for ever, sat down on the right hand of God;
10:13 O hyn allan yn disgwyl hyd oni
osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef.
10:15 Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd
yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddy wedyd o’r blaen,
10:15 Whereof the Holy Ghost also is a witness to us: for
after that he had said before,
10:16 Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf
i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a osodaf fy nghyfreithiau
yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau,
10:16 This is the covenant that I will make with them after
those days, saith the Lord, I will put my laws into their hearts, and in their
minds will I write them;
10:17 A’u pechodau a’u hanwireddau
ni chofiaf mwyach.
10:19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni
ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu,
10:19 Having therefore, brethren, boldness to enter into the
holiest by the blood of Jesus,
10:20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol,
yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef;
10:20 By a new and living way, which he hath consecrated for
us, through the veil, that is to say, his flesh;
10:21 A bod i ni Offeiriad mawr ar
dŷ Dduw:
10:21 And having an high priest over the house of God;
10:22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn
hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein
corff â dwfr glan.
10:23 Daliwn gyffes ein gobaith yn
ddisigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;)
10:23 Let us hold fast the profession of our faith without
wavering; (for he is faithful that promised;)
10:24 A chydystyriwn bawb ein
gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:
10:24 And let us consider one another to provoke unto love and
to good works:
10:25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad
ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy,
o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
10:25 Not forsaking the assembling of ourselves together, as
the manner of some is; but exhorting one another: and so much the more, as ye
see the day approaching.
10:26 Canys os o’n gwirfodd y
pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi
ei adael mwyach,
10:26 For if we sin wilfully after that we have received the
knowledge of the truth, there remaineth no more sacrifice for sins,
10:27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am
farnedigaeth, ac angerdd tan, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr.
10:28 Yr un a ddirmygai gyfraith
Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:
10:28 He that despised Moses’ law died without mercy under two
or three witnesses:
10:29 Pa faint mwy cosbedigaeth,
dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn
aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y
gras?
10:30 Canys nyni a adwaenom y neb a
ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr
Arglwydd a farna ei bobl.
10:32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau
o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon:
10:32 But call to remembrance the former days, in which, after
ye were illuminated, ye endured a great fight of afflictions;
10:33 Wedi eich gwneuthur weithiau
yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau, ac weithiau yn bod yn gyfranogion
â’r rhai a drinid felly.
10:34 For ye had compassion of me in my bonds, and took
joyfully the spoiling of your goods, knowing in yourselves that ye have in
heaven a better and an enduring substance.
PENNOD 11
11:1 Ffydd yn wir yw sail y
pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.
11:1 Now faith is the substance of things hoped for, the
evidence of things not seen.
11:2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr
henuriaid air da.
11:2 For by it the elders obtained a good report.
11:3 Wrth ffydd yr ydym yn deall
wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y
pethau a welir.
11:3 Through faith we understand that the worlds were framed
by the word of God, so that things which are seen were not made of things which
do appear.
11:4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i
Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn
gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe,
wedi marw, yn llefaru eto.
11:4 By faith Abel offered unto God a more excellent
sacrifice than Cain, by which he obtained witness that he was righteous, God
testifying of his gifts: and by it he being dead yet speaketh.
11:5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel
na welai farwolaeth, ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn
ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw.
11:5 By faith Enoch was translated that he should not see
death; and was not found, because God had translated him: for before his
translation he had this testimony, that he pleased God.
11:6 Eithr heb ffydd amhosibl yw
rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod
ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio
11:6 But without faith it is impossible to please him: for he
that cometh to God must believe that he is, and that he is a rewarder of them
that diligently seek him.
11:7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei
rybuddio gan Dduw am y pethau
11:7 By faith Noah, being warned of God of things not seen as
yet, moved with fear, prepared an ark to the saving of his house; by the which
he condemned the world, and became heir of the righteousness which is by faith.
11:8 Trwy ffydd, Abraham, pan ei
galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn
etifeddiaeth, ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
11:8 By faith Abraham, when he was called to go out into a
place which he should after receive for an inheritance, obeyed; and he went
out, not knowing whither he went.
11:9 Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe
yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac
a Jacob, cyd-etifeddion o’r un addewid:
11:9 By faith he sojourned in the land of promise, as in a
strange country, dwelling in tabernacles with Isaac and Jacob, the heirs with
him of the same promise:
11:10 Canys disgwyl yr ydoedd am
ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.
11:13 These all died in faith, not having received the
promises, but having seen them afar off, and were persuaded of them, and
embraced them, and confessed that they were strangers and pilgrims on the
earth.
11:24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned
yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo,
11:24 By faith Moses, when he was come to years, refused to be
called the son of Pharaoh’s daughter;
11:25 Gan ddewis yn hytrach oddef
adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser;
11:25 Choosing rather to suffer affliction with the people of
God, than to enjoy the pleasures of sin for a season;
11:26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg
Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy.
11:33 Y rhai trwy ffydd a
oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a
gaeasant safnau llewod,
11:33 Who through faith subdued kingdoms, wrought
righteousness, obtained promises, stopped the mouths of lions,
11:34 A ddiffoddasant angerdd y tân,
a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion
mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio.
11:35 Women received their dead raised to life again: and
others were tortured, not accepting deliverance; that they might obtain a
better resurrection:
11:36 Ac eraill a gawsant
brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar:
11:36 And others had trial of cruel mockings and scourgings,
yea, moreover of bonds and imprisonment:
11:37 Hwynt-hwy a labyddiwyd, a
dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf, a grwydrasant mewn
crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr;
11:37 They were stoned, they were sawn asunder, were tempted,
were slain with the sword: they wandered about in sheepskins and goatskins;
being destitute, afflicted, tormented;
11:38 (Y rhai nid oedd y byd yn
deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd
y ddaear.
PENNOD 12
12:1 Oblegid hynny ninnau
hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi
heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr
yrfa a osodwyd o’n blaen ni,
12:1 Wherefore seeing we also are compassed about with so
great a cloud of witnesses, let us lay aside every weight, and the sin which
doth so easily beset us, and let us run with patience the race that is set
before us,
12:2 Gan edrych ar Iesu, Pen-tywysog
a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a
ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw
gorseddfainc Duw.
12:2 Looking unto Jesus the author and finisher of our faith;
who for the joy that was set before him endured the cross, despising the shame,
and is set down at the right hand of the throne of God.
12:3 Ystyriwch am hynny yr hwn a
ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac
nad ymollyngoch yn eich eneidiau.
12:3 For consider him that endured such contradiction of
sinners against himself, lest ye be wearied and faint in your minds.
12:4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at
waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.
12:4 Ye have not yet resisted unto blood, striving against
sin.
12:5 A chwi a ollyngasoch dros gof y
cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga
gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo:
12:5 And ye have forgotten the exhortation which speaketh
unto you as unto children, My son, despise not thou the chastening of the Lord,
nor faint when thou art rebuked of him:
12:6 Canys y neb y mae’r Arglwydd yn
ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.
12:6 For whom the Lord loveth he chasteneth, and scourgeth
every son whom he receiveth.
12:7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw
yn ymddwyn tuag atoch megis tuag a feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei
dad yn ei geryddu?
12:7 If ye endure chastening, God dealeth with you as with
sons; for what son is he whom the father chasteneth not?
12:8 Eithr os heb gerydd yr ydych,
o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.
12:8 But if ye be without chastisement, whereof all are
partakers, then are ye bastards, and not sons.
12:9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau
ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn
ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?
12:9 Furthermore we have had fathers of our flesh which
corrected us, and we gave them reverence: shall we not much rather be in
subjection unto the Father of spirits, and live?
12:14 Dilynwch heddwch â phawb, a
sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd:
12:14 Follow peace with all men, and holiness, without which
no man shall see the Lord:
12:15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb
yn pallu oddi wrth ras Duw, rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac
yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer,
12:15 Looking diligently lest any man fail of the grace of
God; lest any root of bitterness springing up trouble you, and thereby many be
defiled;
12:16 Na bo un puteiniwr, neu
halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei
enedigaeth-fraint.
12:18 Canys ni ddaethoch chwi at y
mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl,
12:18 For ye are not come unto the mount that might be
touched, and that burned with fire, nor unto blackness, and darkness, and
tempest,
12:19 A sain utgorn, a llef geiriau;
yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd
wrthynt:
12:19 And the sound of a trumpet, and the voice of words; which
voice they that heard entreated that the word should not be spoken to them any
more:
12:20 (Oblegid ni allent hwy oddef
yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir,
neu a wenir â phicell.
12:20 (For they could not endure that which was commanded, And
if so much as a beast touch the mountain, it shall be stoned, or thrust through
with a dart:
12:21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg,
ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.)
12:21 And so terrible was the sight, that Moses said, I
exceedingly fear and quake:)
12:22 Eithr chwi a ddaethoch i
fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o
angylion,
12:22 But ye are come unto mount Sion, and unto the city of
the living God, the heavenly Jerusalem, and to an innumerable company of
angels,
12:23 I gymanfa a chynulleidfa’r
rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr
pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd,
12:23 To the general assembly and church of the firstborn,
which are written in heaven, and to God the Judge of all, and to the spirits of
just men made perfect,
12:24 Ac at Iesu, Cyfryngwr y
testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell
na’r eiddo Abel.
12:24 And to Jesus the mediator of the new covenant, and to
the blood of sprinkling, that speaketh better things than that of Abel.
12:26 Llef yr hwn y pryd hwnnw a
ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn
cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd.
12:27 And this word, Yet once more, signifieth the removing of
those things that are shaken, as of things that are made, that those things
which cannot be shaken may remain.
12:28 Oherwydd paham, gan ein bod ni
yn derbyn teyrnas ddi-sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw
wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn:
12:28 Wherefore we receiving a kingdom which cannot be moved,
let us have grace, whereby we may serve God acceptably with reverence and godly
fear:
12:29 Oblegid ein Duw ni sydd dân
ysol.
PENNOD 13
13:1 Parhaed brawdgarwch.
13:1 Let brotherly love continue.
13:2 Nac anghofiwch letygarwch:
canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod.
13:2 Be not forgetful to entertain strangers: for thereby
some have entertained angels unawares.
13:3 Cofiwch y rhai sydd yn rhwym,
fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain
hefyd yn y corff.
13:3 Remember them that are in bonds, as bound with them; and
them which suffer adversity, as being yourselves also in the body.
13:4 Anrhydeddus yw priodas ym
mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw.
13:4 Marriage is honourable in all, and the bed undefiled:
but whoremongers and adulterers God will judge.
13:5 Bydded eich ymarweddiad yn
ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd,
Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith:
13:5 Let your conversation be without covetousness; and be
content with such things as ye have: for he hath said, I will never leave thee,
nor forsake thee.
13:6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr
Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
13:6 So that we may boldly say, The Lord is my helper, and I
will not fear what man shall do unto me.
13:7 Meddyliwch am eich blaenoriaid,
y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd
eu hymarweddiad hwynt.
13:7 Remember them which have the rule over you, who have
spoken unto you the word of God: whose faith follow, considering the end of
their conversation.
13:8 Iesu Grist, ddoe a heddiw yr
un, ac yn dragywydd.
13:8 Jesus Christ the same yesterday, and to day, and for
ever.
13:9 Na’ch arweinier oddi amgylch ag
athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras,
nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd.
13:9 Be not carried about with divers and strange doctrines.
For it is a good thing that the heart be established with grace; not with
meats, which have not profited them that have been occupied therein.
13:20 A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug
drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed
y cyfamod tragwyddol,
13:20 Now the God of peace, that brought again from the dead
our Lord Jesus, that great shepherd of the sheep, through the blood of the
everlasting covenant,
13:21 A’ch perffeithio ym mhob
gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy
yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd.
Amen.
At yr Hebreaid yr ysgrifennwyd o’r Ital, gyda Thimotheus.
__________________________________________________
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf - latest updates - 08 02 2003
Sumbolau arbennig: ŷŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
o ymwelwyr i’r Adran hon (Y Beibl Cymraeg) oddi ar 1 Medi 2005
Edrychwch ar fy ystadegau
/ View My Stats