Y Beibl Cysegr-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2360k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_job_18_2360k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


 (delw 0003)

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

 

 

Y Beibl Cysegr-lân : (18) Job

 

(delw 7316)


 

 

 

 1415ke This page with an English equivalent – Job (1620 Welsh Bible) + (1611 English Authorized Version, the “King James” version)

 

LLYFR JOB

PENNOD 1


1:1
Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job, ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.


1:2
Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.


1:3
A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion, ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.


1:4
A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.


1:5
A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.


1:6
A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.


1:7
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.


1:8
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?


1:9
Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW?


1:10
Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.


1:11
Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.


1:12
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD.


1:13
A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.


1:14
A daeth cennad at Job, ac a ddy­wedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;


1:15
A’r Sabeaid a ruthrasant, ac a’u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.


1:16
Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a’r gweision, ac a’u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.


1:17
Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i’r camelod, ac a’u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddi­hengais i fynegi i ti.


1:18
Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf:


1:19
Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.


1:20
Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;


1:21
Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a’r ARGLWYDD a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD.


1:22
Yn hyn i gyd ni phechodd Job, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn DUW.

 

 

PENNOD 2


2:1
A dydd a ddaeth i feibion Duw ddy­fod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.


2:2
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.


2:3
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos?


2:4
A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes.


2:5
Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb.


2:6
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef.


2:7
Felly Satan a aeth allan oddi ger­bron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun.


2:8
Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.


2:9
Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltthia DDUW, a bydd farw.


2:10
Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan DDUW yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job a’i wefusau.


2:11
A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro.


2:12
A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchaf­asant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant Iwch ar eu pennau tua’r nefoedd.


2:13
Felly hwy a eisteddasant gydag ef, ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.

 

 

PENNOD 3


3:1
Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.


3:2
A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,


3:3
Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.


3:4
Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.


3:5
Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno.


3:6
Y nos honno, tywyllwch a’i cymero, na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.


3:7
Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.


3:8
A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi.


3:9
A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:


3:10
Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.


3:11
Paham na bum farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth?


3:12
Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?


3:13
Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.


3:14
Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;


3:15
Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;


3:16
Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.


3:17
Yno yr annuwiolion a beidiant a’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.


3:18
Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; nic chlywant lais y gorthrymydd.


3:19
Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.


3:20
Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid?


3:21
Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?


3:22
Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?


3:23
Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?


3:24
Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.


3:25
Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.


3:26
Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

 

 

PENNOD 4


4:1
Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,


4:2
Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?


4:3
Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.


4:4
Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.


4:5
Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.


4:6
Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith?;


4:7
Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?


4:8
Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant.


4:9
Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.


4:10
Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.


4:11
Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.


4:12
Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono.


4:13
Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,


4:14
Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu.


4:15
Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.


4:16
Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy Ilygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,


4:17
A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr?


4:18
Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:


4:19
Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd a’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?


4:20
O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.


4:21
Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

 

 

PENNOD 5


5:1
Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di?


5:2
Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.


5:3
Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio; ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.


5:4
Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.


5:5
Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a Iwnc eu cyfoeth.


5:6
Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear:


5:7
Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.


5:8
Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar DDUW y rhoddwn fy achos:


5:9
Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:


5:10
Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:


5:11
Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawd­wriaeth.


5:12
Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.


5:13
Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.


5:14
Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.


5:15
Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.


5:16
Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.


5:17
Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.


5:18
Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachant.


5:19
Mewn chwech o gyfyngderau efe a’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.


5:20
Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.


5:21
Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.


5:22
Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.


5:23
Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.


5:24
A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi.


5:25
A chei wybod hefyd mai Iluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.


5:26
Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.


5:27
Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

 

 

PENNOD 6


6:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


6:2
O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!


6:3
Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.


6:4
Oherwydd y mae saethau yr Hollall­uog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn.


6:5
A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?


6:6
A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?


6:7
Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.


6:8
O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!


6:9
Sef rhyngu bodd i DDUW fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith.


6:10
Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.


6:11
Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?


6:12
Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?


6:13
Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?


6:14
I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.


6:15
Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;


6:16
Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:


6:17
Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle.


6:18
Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.


6:19
Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.


6:20
Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.


6:21
Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.


6:22
A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi?


6:23
Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?


6:24
Dysgwch fi, a myfi a dawaf: A gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.


6:25
Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?


6:26
Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?


6:27
Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill.


6:28
Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.


6:29
Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.


6:30
A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

 

 

PENNOD 7


7:1
Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?


7:2
Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:


7:3
Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.


7:4
Pan orweddwyf, y dywedaf. Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.


7:5
Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.


7:6
Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.


7:7
Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.


7:8
Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.


7:9
Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.


7:10
Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy.


7:11
Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.


7:12
Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?


7:13
Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwytha fy nghwynfan;


7:14
Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau:


7:15
Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl.


7:16
Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.


7:17
Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?


7:18
Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment?


7:19
Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?


7:20
Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?


7:21
A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

 

 

PENNOD 8


8:1
Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac ddywedodd,


8:2
Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf?


8:3
A ŵyra DUW farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?


8:4
Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd;


8:5
Os tydi a foregodi at DDUW, ac a weddïi ar yr Hollalluog;


8:6
Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.


8:7
Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.


8:8
Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt:


8:9
(Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:)


8:10
Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon?


8:11
A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr?


8:12
Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn.


8:13
Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng DUW dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr;


8:14
Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef.


8:15
Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.


8:16
Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan.


8:17
Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.


8:18
Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais.


8:19
Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill.


8:20
Wele, ni wrthyd DUW y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus;


8:21
Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd.


8:22
A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.

 

 

PENNOD 9


9:1
Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,


9:2
Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw?


9:3
Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.


9:4
Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth; pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?


9:5
Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.


9:6
Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.


9:7
Yr hwn a ddywed wrth y haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.


9:8
Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.


9:9
Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.


9:10
Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.


9:11
Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a a rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.


9:12
Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?


9:13
Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.


9:14
Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?


9:15
I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr.


9:16
Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.


9:17
Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.


9:18
Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder.


9:19
Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?


9:20
Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn.


9:21
Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.


9:22
Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol.


9:23
Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.


9:24
Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?


9:25
A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.


9:26
Aethant heibio megis llongau buain, megis yr eheda eryr at ymborth.


9:27
Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:


9:28
Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion.


9:29
Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?


9:30
Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;


9:31
Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant.


9:32
Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.


9:33
Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.


9:34
Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:


9:35
Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

 

 

PENNOD 10


10:1
Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.


10:2
Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.


10:3
Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?


10:4
Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?


10:5
A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,


10:6
Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?


10:7
Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di.


10:8
Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.


10:9
Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn?


10:10
Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?


10:11
Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i âg esgyrn ac â gïau.


10:12
Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.


10:13
A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.


10:14
Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.


10:15
Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;


10:16
Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.


10:17
Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn.


10:18
Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad!


10:19
Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd.


10:20
Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;


10:21
Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;


10:22
Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

 

 

PENNOD 11


11:1
A Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,


11:2
Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus?


11:3
Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo?


11:4
Canys dywedaist. Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.


11:5
Ond, O na lefarai DUW, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,


11:6
A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag a haeddai dy anwiredd.


11:7
A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?


11:8
Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?


11:9
Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr.


11:10
Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef?


11:11
Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?


11:12
Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.


11:13
Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;


11:14
Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddefi anwiredd drigo yn dy luestai:


11:15
Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:


11:16
Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.


11:17
Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.


11:18
Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.


11:19
Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb.


11:20
Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

 

 

PENNOD 12


12:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


12:2
Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.


12:3
Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?


12:4
Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar DDUW, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.


12:5
Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed.


12:6
Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi DUW, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.


12:7
Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.


12:8
Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.


12:9
Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn?


12:10
Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.


12:11
Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd?


12:12
Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.


12:13
Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.


12:14
Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.


12:15
Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.


12:16
Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus.


12:17
Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.


12:18
Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.


12:19
Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn.


12:20
Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodil y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen.


12:21
Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion.


12:22
Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni.


12:23
Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra.


12:24
Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.


12:25
Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

 

 

PENNOD 13


13:1
Wele, fy llygad a welodd hyn oll, fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd.


13:2
Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau.


13:3
Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw.


13:4
Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.


13:5
O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb.


13:6
Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.


13:7 A ddywedwch chi anwiredd dros DDUW? ac a ddywedwch chwi dwÿll er ei fwÿn e?
A ddywedwch chwi anwiredd dros DDUW? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?


13:8
A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros DDUW?


13:9
Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn?


13:10
Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel.


13:11
Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?


13:12
Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrif o glai.


13:13
Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau, a deued aaraf yr hyn a ddelo.


13:14
Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?


13:15
Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.


13:16
Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.


13:17
Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau.


13:18
Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir.


13:19
Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau i mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.


13:20
Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.


13:21
Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi.


13:22
Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi.


13:23
Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod.


13:24
Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti?


13:25
A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych?


13:26
Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid.


13:27
Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed,


13:28
Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.

 

 

PENNOD 14


14:1
Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul.


14:2
Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif.


14:3
A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi?


14:4
Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflân? neb.


14:5
Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt:


14:6
Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod.


14:7
Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.


14:8
Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd;


14:9
Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.


14:10
Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?


14:11
Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr, a’r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu:


14:12
Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o’u cwsg.


14:13
O na chuddit fi yn y bedd! na’m cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a’m coflo!


14:14
Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.


14:15
Gelwi, a myfi a’th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.


14:16
Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?


14:17
Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.


14:18
Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddiflanna; a’r graig a symudir o’i lle.


14:19
Dyfroedd a dreuliant y cerrig; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear, ac yn gwneuthur i obaith dyn golli.


14:20
Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith: a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd.


14:21
Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd, ac nis gwybydd efe: a hwy a ostyngir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt:


14:22
Ond ei gnawd arno a ddoluria, a’i enaid ynddo a alara.

 

 

PENNOD 15


15:1
Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,


15:2
A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt?


15:3
A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt?


15:4
Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw.


15:5
Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.


15:6
Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac aid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.


15:7
A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau?


15:8
A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun?


15:9
Beth a wyddost ti a’r nas gwyddoiri ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau?


15:10
Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a’r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na’th dad di.


15:11
Ai bychan gennyt ti ddiddanwch DUW? a oes dim dirgel gyda thi?


15:12
Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid,


15:13
Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn DUW, a gollwng y fath eiriau allan o’tn enau?


15:14
Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?


15:15
Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.


15:16
Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr?


15:17
Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a r hyn a welais a fynegaf.


15:18
Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant:


15:19
I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.


15:20
Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.


15:21
Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.


15:22
Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.


15:23
Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.


15:24
Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef; hwy a’i gorchfygant, fel brenin pared i ryfel.


15:25
Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd.


15:26
Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei dananau:


15:27
Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau.


15:28
A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.


15:29
Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear.


15:30
Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.


15:31
Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef.


15:32
Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a’i gangen ni lasa.


15:33
Efe a ddihidia ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.


15:34
Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr.


15:35
Y maent yn ymddwyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.

 

 

PENNOD 16


16:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


16:2
Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.


16:3
Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb?


16:4
Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.


16:5
Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.


16:6
Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?


16:7
Ond yn awr efe a’m blinodd i, anrheithiaist fy holl gynulleidfa:


16:8
A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.


16:9
Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.


16:10
Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.


16:11
DUW a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion.


16:12
Yr oeddwn yn esmwyth; ond a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun.


16:13
Ei saethyddion ef sydd yn fy anagylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear.


16:14
Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.


16:15
Gwnïais sachlen ar fy nghroen, halogais fy nghorn yn y llwch.


16:16
Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:


16:17
Er nad oes gamwedd yn fy nwylo, a bod fy ngweddi yn bur.


16:18
O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd.


16:19
Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder.


16:20
Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth DDUW.


16:21
O na chai un ymddadlau a DUW dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!


16:22
Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.

 

 

PENNOD 17


17:1
Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi.


17:2
Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt?


17:3
Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law ya fy llaw i?


17:4
Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt.


17:5
Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.


17:6
Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl,ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt.


17:7
Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod.


17:8
Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr.


17:9
Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.


17:10
Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi.


17:11
Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon.


17:12
Gwnant y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch.


17:13
Os disgwyliaf, y bedd sydd dy i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely.


17:14
Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt.


17:15
A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?


17:16
Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.

 

 

PENNOD 18


18:1
A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,


18:2
Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn.


18:3
Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?


18:4
O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle?


18:5
Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.


18:6
Goleuni a dywylla yn ei luesty ef a’i lusern a ddiffydd gydag ef.


18:7
Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr.


18:8
Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.


18:9
Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef.


18:10
Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.


18:11
Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed.


18:12
Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.


18:13
Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf-anedig angau a fwyty ei gryfder ef.


18:14
Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau.


18:15
Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.


18:16
Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd.


18:17
Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.


18:18
Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd.


18:19
Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.


18:20
Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw.


18:21
Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir a dyma le y dyn nid edwyn DDUW.

 

 

PENNOD 19


19:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


19:2
Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau?


19:3
Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn.


19:4
Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig f amryfusedd.


19:5
Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd fin herbyn;


19:6
Gwybyddwch yn awr mai DUW a’m. dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd.


19:7
Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.


19:8
Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.


19:9
Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.


19:10
Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.


19:11
Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion.


19:12
Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.


19:13
Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.


19:14
Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant.


19:15
Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.


19:16
Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau.


19:17
Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff.


19:18
Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn.


19:19
Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.


19:20
Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.


19:21
Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw DUW a gyffyrddodd â mi.


19:22
Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd?


19:23
O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!


19:24
O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!


19:25
Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.


19:26
Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corn hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd:


19:27
Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof.


19:28
Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.


19:29
Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

 

 

PENNOD 20


20:1
Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,


20:2
Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.


20:3
Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.


20:4
Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,


20:5
Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?


20:6
Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau;


20:7
Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant. Pa le y mae efe?


20:8
Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.


20:9
Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono.


20:10
Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.


20:11
Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.


20:12
Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;


20:13
Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:


20:14
Ei lwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef.


20:15
Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef.


20:16
Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’l lladd ef.


20:17
Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.


20:18
Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.


20:19
Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;


20:20
Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd.


20:21
Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.


20:22
Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.


20:23
Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigo­faint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.


20:24
Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef.


20:25
Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno.


20:26
Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.


20:27
Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.


20:28
Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.


20:29
Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW.

 

 

PENNOD 21


21:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


21:2
Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur.


21:3
Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch.


21:4
A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd?


21:5
Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau.


21:6
Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.


21:7
Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?


21:8
Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg.


21:9
Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen DUW arnynt hwy.


21:10
Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla.


21:11
Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant.


21:12
Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ.


21:13
Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd.


21:14
Dywedant hefyd wrth DDUW, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.


21:15
Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno?


21:16
Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.


21:17
Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? DUW a ran ofidiau yn ei ddig.


21:18
Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt.


21:19
DUW a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd.


21:20
Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog.


21:21
Canys pa wynfyd sydd ganddo efyn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?


21:22
A ddysg neb wybodaeth i DDUW? gan ei fod yn barnu y rhai uchel.


21:23
Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl.


21:24
Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr.


21:25
A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch,


21:26
Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt,


21:27
Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dych mygu ar gam yn fy erbyn.


21:28
Canys dywedwch, Pa le y mae ty y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion?


21:29
Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy,


21:30
Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.


21:31
Pwy a fynegaei ffordd efyneiwyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?


21:32
Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr.


21:33
Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef.


21:34
Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

 

 

PENNOD 22


22:1
Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,


22:2
A wna gŵr lesâd i DDUW, fel y gwna y synhwyrol lesad iddo ei hun?


22:3
Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?


22:4
Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?


22:5
Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn?


22:6
Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.


22:7
Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.


22:8
Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi.


22:9
Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.


22:10
Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;


22:11
Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant.


22:12
Onid ydyw DUW yn uchelder y nef oedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.


22:13
A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll?


22:14
Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.


22:15
A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?


22:16
Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.


22:17
Hwy a ddywedasant wrth DDUW, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy?


22:18
Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi.


22:19
Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt.


22:20
Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.


22:21
Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.


22:22
Cymer y gyfraith, atolwg, o’i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon.


22:23
Os dychweli at yr Hollalluog, ti adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.


22:24
Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd.


22:25
A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian.


22:26
Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at DDUW.


22:27
Ti a weddïi arno ef, ac efe a’th wrendy; a thi a deli dy addunedau.


22:28
Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.


22:29
Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.


22:30
Efe a wareda ynys y diniwed; a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.

 

 

PENNOD 23


23:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


23:2
Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid.


23:3
O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! .


23:4
Trefnwn fy mater ger ei fron efe: a llanwn fy ngenau â rhesymau.


23:5
Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.


23:6
A ddadlau efe i’m herbyn a helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.


23:7
Yno yr uniawn a ymresymai ag ef; felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.


23:8
Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw fe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:


23:9
Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:


23:10
Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.


23:11
Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni wyrais.


23:12
Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol.


23:13
Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna.


23:14
Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau.


23:15
Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.


23:16
Canys DUW a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd:


23:17
Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.

 

 

PENNOD 24


24:1
Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef?


24:2
Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt.


24:3
Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl.


24:4
Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.


24:5
Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i’w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i’w plant.


24:6
Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.


24:7
Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.


24:8
Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.


24:9
Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd.


24:10
Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.


24:11
Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig.


24:12
Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.


24:13
Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.


24:14
Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog; a’r nos y bydd efe fel lleidr.


24:15
A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb.


24:16
Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y rhai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni.


24:17
Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt.


24:18
Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd.


24:19
Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant.


24:20
Y groth a’i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren.


24:21
Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw.


24:22
Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o’i einioes.


24:23
Er rhoddi iddo fod mewn diogel wch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy.


24:24
Hwynt-hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen.


24:25
Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a’m gwna i yn gelwyddog, ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?

 

 

PENNOD 25


25:1
Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,


25:2
Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau.


25:3
A oes gyfrif o’i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?


25:4
Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?


25:5
Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi, a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef:


25:6
Pa faint llai dyn, yr hwn sydd bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?

 

 

PENNOD 26


26:1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,


26:2
Pwy a gynorthwyaist ti? ai y dinerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?


26:3
Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?


26:4
Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?


26:5
Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.


26:6
Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.


26:7
Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim.


26:8
Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.


26:9
Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.


26:10
Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.


26:11
Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.


26:12
Efe a ranna y môr a’i nerth, ac a dery falchder â’i ddoethineb.


26:13
Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.


26:14
Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?

 

 

PENNOD 27


27:1
A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd,


27:2
Y mae DUW yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a’r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid;


27:3
Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd . Duw yn fy ffroenau;


27:4
Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd ac ni thraetha fy nhafod dwyll.


27:5
Na ato DUW i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.


27:6
Yn fy nghyfiawndcr y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw.


27:7
Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.


27:8
Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno DUW ei enaid ef allan?


27:9
A wrendy DUW ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno?


27:10
A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar DDUW bob amser?


27:11
Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog.


27:12
Wele, chwychwi oll a’i gwelsoch, a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?


27:13
Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw, ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog.


27:14
Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i’r cleddyf: a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.


27:15
Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a’i wragedd gweddwon nid wylant.


27:16
Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai;


27:17
Efe a’i darpara, ond y cyfiawn a’i gwisg: a’r diniwed a gyfranna yr arian.


27:18
Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr.


27:19
Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw.


27:20
Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a’i lladrata ef liw nos.


27:21
Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd, ac efe a a ymaith; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le.


27:22
Canys DUW a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef.


27:23
Curant eu dwylo arno, ac a’i hysiant allan o’i le.

 

 

PENNOD 28


28:1
Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef.


28:2
Haearn a dynnir allan o’r pridd, ac o’r garreg y toddir pres.


28:3
Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.


28:4
Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.


28:5
Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.


28:6
Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.


28:7
Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:


28:8
Yr hwn ni sathrodd cenawon llew, nid aeth hen lew trwyddo.


28:9
Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd.


28:10
Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.


28:11
Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.


28:12
Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?


28:13
Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.


28:14
Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.


28:15
Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.


28:16
Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir.


28:17
Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.


28:18
Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.


28:19
Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.


28:20
Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?


28:21
Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.


28:22
Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi.


28:23
DUW sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.


28:24
Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan, yr holl nefoedd;


28:25
I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur.


28:26
Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau:


28:27
Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratodd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan.


28:28
Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

 

 

PENNOD 29


29:1
Yna Job a barablodd drachefh, ac a ddywedodd,


29:2
O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai DUW fi;


29:3
Pan wnai efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;


29:4
Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch DUW ar fy mhabell;


29:5
Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch;


29:6
Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!


29:7
Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,


29:8
Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.


29:9
Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.


29:10
Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau.


29:11
Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:


29:12
Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.


29:13
Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.


29:14
Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron.


29:15
Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff.


29:16
Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.


29:17
Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef.


29:18
Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod.


29:19
Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.


29:20
Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw.


29:21
Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor.


29:22
Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy.


29:23
A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-law.


29:24
Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.


29:25
Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

 

 

PENNOD 30


30:1
Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid.


30:2
I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy.


30:3
Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt:


30:4
Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.


30:5
Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;)


30:6
I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.


30:7
Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.


30:8
Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt.


30:9
Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.


30:10
Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.


30:11
Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.


30:12
Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr.


30:13
Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.


30:14
Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.


30:15
Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwi.


30:16
Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.


30:17
Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys.


30:18
Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais.


30:19
Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw.


30:20
Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf.


30:21
Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law.


30:22
Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd.


30:23
Canys myfi a wn y dygi di fi i i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.


30:24
Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef.


30:25
Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr ang­henog?


30:26
Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth.


30:27
Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant.


30:28
Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa.


30:29
Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys.


30:30
Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres.


30:31
Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.

 

 

PENNOD 31


31:1
Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?


31:2
Canys pa ran sydd oddi wrth DDUW oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder?


31:3
Onid oes dinistr i’r anwir? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd?


31:4
Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?


31:5
Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo;


31:6
Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned DUW wybod fy mherffeithrwydd.


31:7
Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:


31:8
Yna heuwyf fi, a bwytaed arall, ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.


31:9
Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;


31:10
Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.


31:11
Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr.


31:12
Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth.


31:13
Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi;


31:14
Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo?


31:15
Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth, a’i gwnaeth yntau? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru?


31:16
Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio;


31:17
Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono;


31:18
(Canys efe a gynyddodd gyda mi fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;)


31:19
Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog neb wisg:


31:20
Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i,


31:21
Os codais fy llaw yn erbyn yr amddi­fad, pan welwn fy nghymorth yn y porth;


31:22
Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal.


31:23
Canys ofn dinistr DUW oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.


31:24
Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt;


31:25
Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer;


31:26
Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair;


31:27
Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:


31:28
Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn DDUW uchod.


31:29
Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casai, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:


31:30
(Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)


31:31
Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni.


31:32
Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion.


31:33
Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;


31:34
A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws?


31:35
O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr.


31:36
Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.


31:37
Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato.


31:38
Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cydwylo;


31:39
Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef:


31:40
Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.

 

 

PENNOD 32


32:1
Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.


32:2
Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw.


32:3
A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog.


32:4
Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran.


32:5
Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigo­faint ef.


32:6
Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.


32:7
Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb.


32:8
Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.


32:9
Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.


32:10
Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.


32:11
Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.


32:12
Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:


32:13
Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: DUW sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.


32:14
Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi.


32:15
Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.


32:16
Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)


32:17
Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.


32:18
Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.


32:19
Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.


32:20
Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.


32:21
Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.


32:22
Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

 

 

PENNOD 33


33:1
Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.


33:2
Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.


33:3
O uniondeb fy nghalon- y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur.


33:4
Ysbryd DUW a’m gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i.


33:5
Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o’m blaen i.


33:6
Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau.


33:7
Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.


33:8
Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion:


33:9
Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof.


33:10
Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo.


33:11
Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau.


33:12
Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw DUW na dyn.


33:13
Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd.


33:14
Canys y mae DUW yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.


33:15
Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;


33:16
Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt:


33:17
I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.


33:18
Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.


33:19
Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef a gofid caled:


33:20
Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a’i enaid fwyd blasus.


33:21
Derfydd ei gnawd ef allan o olwg; saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen.


33:22
Nesau y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr.


33:23
Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:


33:24
Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn.


33:25
Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid.


33:26
Efe a weddia ar DDUW, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.


33:27
Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb. Mi a bechais, ac a wyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi,


33:28
Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni.


33:29
Wele, hyn oll a wna DUW ddwywaith neu dair â dyn,


33:30
I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw.


33:31
Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.


33:32
Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawn hau di.


33:33
Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.

 

 

PENNOD 34


34:1
Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,


34:2
Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch.


34:3
Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd.


34:4
Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda.


34:5
Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf; a DUW a ddug ymaith fy marn.


34:6
A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd.


34:7
Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr?


34:8
Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol.


34:9
Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw.


34:10
Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.


34:11
Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.


34:12
Diau hefyd na wna DUW yn annuwiol, ac na wyra yr Hollalluog farn.


34:13
Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?


34:14
Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef,


34:15
Pob cnawd a gyd-drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd.


34:16
Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.


34:17
A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?


34:18
A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?


34:19
Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.


34:20
Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw.


34:21
Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.


34:22
Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.


34:23
Canys ni esyd DUW arddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith a Duw.


34:24
Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.


34:25
Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.


34:26
Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:


34:27
Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef:


34:28
Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.


34:29
Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig?


34:30
Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.


34:31
Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;


34:32
Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.


34:33
Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis, ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.


34:34
Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, dywed fi.


34:35
Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb.


34:36
Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.


34:37
Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.

 

 

PENNOD 35


35:1
A Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,


35:2
A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw?


35:3
Canys dywedaist. Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod?


35:4
Myfi a atebaf i ti, ac i’th gyfeillion gyda thi.


35:5
Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.


35:6
Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os arni fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?


35:7
Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?


35:8
I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.


35:9
Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.


35:10
Ond ni ddywed neb, Pa le y mae DUW, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?


35:11
Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.


35:12
Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.


35:13
Diau na wrendy DUW oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno.


35:14
Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.


35:15
Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi:


35:16
Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.

 

 

PENNOD 36


36:1
A Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,


36:2
Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros DDUW.


36:3
O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawn­der.


36:4
Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.


36:5
Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.


36:6
Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid.


36:7
Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.


36:8
Ac os hwy a rwymir a gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;


36:9
Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt:


36:10
Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.


36:11
Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch.


36:12
Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.


36:13
Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.


36:14
Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan.


36:15
Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.


36:16
Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.


36:17
Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.


36:18
Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr.


36:19
A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.


36:20
Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.


36:21
Ymochel, nac edrych ar anwiredd; canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.


36:22
Wele, DUW trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?


36:23
Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?


36:24
Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.


36:25
Pob dyn a’i gwêl, a dyn a’i cenfydd o bell.


36:26
Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.


36:27
Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;


36:28
Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.


36:29
Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?


36:30
Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.


36:31
Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.


36:32
Efe a guddia y goleuni a chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.


36:33
Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

 

 

PENNOD 37


37:1
Wrth hyn hefyd y cryn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle.


37:2
Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef.


37:3
Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear.


37:4
Swn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.


37:5
DUW a wna daranau a’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.


37:6
Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.


37:7
Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.


37:8
Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le.


37:9
O’r deau y daw corwynt, ac oerni oddi wrth y gogledd.


37:10
A’i wynt y rhydd DUW rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.


37:11
Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.


37:12
Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy both bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.


37:13
Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.


37:14
Gwrando hyn. Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.


37:15
A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd DUW hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?


37:16
A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith-gwbl o wybodaeth?


37:17
Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel a’r deheuwynt?


37:18
A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?


37:19
Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.


37:20
A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.


37:21
Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt.


37:22
O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.


37:23
Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.


37:24
Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

 

 

PENNOD 38


38:1
Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd,


38:2
Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth.


38:3
Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.


38:4
Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.


38:5
Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?


38:6
Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,


38:7
Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?


38:8
A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth?


38:9
Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,


38:10
Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,


38:11
Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.


38:12
A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle,


38:13
I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?


38:14
Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.


38:15
Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.


38:16
A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?


38:17
A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?


38:18
A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.


38:19
Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,


38:20
Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dy ef?


38:21
A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?


38:22
A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,


38:23
Y rhai a gedwais i hyd amser cyf-yngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?


38:24
Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?


38:25
Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,


38:26
I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn, ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?


38:27
I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?


38:28
A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?


38:29
O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?


38:30
Y dyfroedd a guddir megis â charreg’, ac wyneb y dyfnder a rewodd.


38:31
A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?


38:32
A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion?


38:33
A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?


38:34
A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?


38:35
A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?


38:36
Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon?


38:37
Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.


38:38
Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?


38:39
A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,


38:40
Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?


38:41
Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar DDUW, gwibiant o eisiau bwyd.

 

 

PENNOD 39


39:1
A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi?


39:2
A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant?


39:3
Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â’u gofid.


39:4
Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy.


39:5
Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt?


39:6
Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dy iddo, a’r diffeithwch yn drigfa iddo.


39:7
Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.


39:8
Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.


39:9
A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?


39:10
A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?


39:11
A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?


39:12
A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di?


39:13
A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod? neu adenydd a phlu i’r estrys?


39:14
Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a’u cynhesa yn y llwch;


39:15
Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.


39:16
Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;


39:17
Oblegid na roddes DUW iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.


39:18
Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a’i farchog.


39:19
A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?


39:20
A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef.


39:21
Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau.


39:22
Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.


39:23
Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a’r darian.


39:24
Efe a Iwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yc utgorn yw.


39:25
Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn. Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a’r bloeddio.


39:26
Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau?


39:27
Ai wrth dŷ orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel?


39:28
Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a’r lle cadarn?


39:29
Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell.


39:30
Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.

 

 

PENNOD 40


40:1
Yr ARGLWYDD hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,


40:2
Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo DDUW, atebed i hynny.


40:3
A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,


40:4
Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.


40:5
Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.


40:6
A’r ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd,


40:7
Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.


40:8
A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun?


40:9
A oes i ti fraich fel i DDUW? neu a wnei di daranau a’th lais fel yntau?


40:10
Ymdrwsia yn awr â mawredd ac a godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.


40:11
Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.


40:12
Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.


40:13
Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.


40:14
Yna hefyd myfi a addefaf i ti; y gall dy ddeheulaw dy achub.


40:15
Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.


40:16
Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol.


40:17
Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.


40:18
Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.


40:19
Pennaf o ffyrdd DUW ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesau ato ef.


40:20
Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.


40:21
Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.


40:22
Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant a’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant.


40:23
Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn.


40:24
A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef a bachau?

 

 

PENNOD 41


41:1
A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?


41:2
A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei en ef a mynawyd?


41:3
A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?


41:4
A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?


41:5
A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau?


41:6
A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?


41:7
A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?


41:8
Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.


41:9
Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?


41:10
Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?


41:11
Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.


41:12
Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd-dra ei ystum ef.


41:13
Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef a’i ffrwvn ddauddyb- lyg?


41:14
Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.


41:15
Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.


41:16
Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.


41:17
Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.


41:18
Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.


41:19
Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef.


41:20
Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.


41:21
Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau.


41:22
Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef.


41:23
Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.


41:24
Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin.


41:25
Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhant.


41:26
Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig.


41:27
Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.


41:28
Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.


41:29
Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.


41:30
Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.


41:31
Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.


41:32
Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.


41:33
Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.


41:34
Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.

 

 

PENNOD 42


42:1
A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,


42:2
Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.


42:3
Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.


42:4
Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.


42:5
Myfi a glywais a’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di.


42:6
Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.


42:7
Ac wedi dywedyd o’r ARGLWYDD y geiriau hyn wrth Job, yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.


42:8
Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddied fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.


42:9
Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt. A’r ARGLWYDD a dderbyniodd wyneb Job.


42:10
Yna yr ARGLWYDD a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r ARGLWYDD a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.


42:11
Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr ARGLWYDD arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.


42:12
Felly yr ARGLWYDD a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.


42:13
Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.


42:14
Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren-happuc.


42:15
Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.


42:16
A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.


42:17
Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.

 

_____________

DIWEDD


Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització / Latest update  2007-02-04, 2007-02-06

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats