Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 1414k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_joel_01_1414k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


..

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

 

 

Y Beibl Cysegr-lân : (29) Joel

 

(delw 7277)

Adolygiad diweddaraf - 02 02 2003

 

 

 

 

 1415ke This page with an English equivalent – Joel (1620 Welsh Bible) + (1611 English Authorized Version, the “King James” version)
 


·····
PENNOD 1

1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel.

1:2
Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau?

1:3 Mynegwch hyn i'ch plant, a'ch plant i'w plant hwythau, a'u plant hwythau i genhedlaeth arall.

1:4
Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust.

1:5
Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.

1:6
Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi.

1:7
Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.

1:8
  Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.

1:9
Torrwyd oddi wrth dŷ yr ARGLWYDD yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.

1:10
Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew.

1:11
Cywilyddiwch, y llafurwyr, udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes.

1:12
Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.

1:13
Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid, udwch, weinidogion  yr allor; deuwch, weinidogion fy NUW, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain; canys atelir oddi wrth dŷ eich DUW yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.

1:14
Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr ARGLWYDD eich DUW, a gwaeddwch ar yr ARGLWYDD,

1:15
Och o'r diwrnod! canys dydd yr ARGLWYDD sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw.

1:16
Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein DUW, y bwyd, y llawenydd, a'r digrifwch?

1:17
Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlan a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd.

1:18
O o'r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd.

1:19
Arnat ti, ARGLWYDD, y llefaf, canys y  tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes.

1:20
Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau  dwfr, a'r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.

PENNOD 2

2:1 Cenwch yr utgorn yn Seion, a bloeddiwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl breswylwyr y wlad; canys daeth dydd yr ARGLWYDD, canys y mae yn agos.

2:2
, Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwlog, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith ar eu hôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth.

2:3
O'u blaen y difa y tân, ac ar eu hôl y fflam; mae y wlad o'u blaen fel gardd baradwys, ac ar eu hôl yn ddiffeithwch anrheithiedig; a hefyd ni ddianc dim ganddynt.

2:4
Yr olwg arnynt sydd megis golwg o feirch; ac fel marchogion, felly y rhedant.

2:5
Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llamant, fel sŵn tân ysol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel.

2:6 O'u blaen yr ofna y bobl; pob wyneb a gasgl barddu.

2:7
Rhedant fel glewion, dringant y mur fel rhyfelwyr, a cherddant bob un yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddi ar eu llwybrau.

2:8
Ni wthiant y naill y llall, cerddant bob un ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf, nid archollir hwynt.

2:9
Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i'r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr.

2:10
O'u blaen y crŷn y ddaear, y nefoedd a gynhyrfir; yr haul a'r lleuad a dywyllir, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.

2:11
A'r ARGLWYDD a rydd ei lef o flaen ei lu: canys mawr iawn yw ei wersyll ef: canys cryf yw yr hwn sydd yn gwneuthur ei air ef: oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy iawn; a phwy a'i herys?

2:12
Ond yr awr hon, medd yr ARGLWYDD, Dychwelwch ataf fi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac â galar.

2:13
A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr ARGLWYDD eich DUW: oherwydd graslon a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. 

2:14 Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd-offrwm a diod-offrwm i'r ARGLWYDD eich DUW?

2:15
Cenwch utgorn yn Seion, cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa:

2:16
Cesglwch y bobl; cysegrwch y gynulleidfa: cynullwch yr henuriaid; cesglwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priodfab allan o'i ystafell, a'r briodferch allan o ystafell ei gwely.

2:17
Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, a dywedant, Arbed dy bobl, O ARGLWYDD, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: paham y dywedent ymhlith y bobloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt?

2:18
Yna yr ARGLWYDD a eiddigedda am ei dir, ac a arbed ei bobl.

2:19
A'r ARGLWYDD a etyb, ac a ddywed wrth ei bobl, Wele fi yn anfon i chwi ŷd, a gwin, ac olew; a diwellir chwi ohono: ac ni wnaf chwi mwyach yn waradwydd ymysg y cenhedloedd.

2:20
Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gogleddlu, a gyrraf ef i dir sych diffaith, a'i wyneb tua môr y dwyrain, a'i ben ôl tua'r mor eithaf; a'i ddrewi a gyfyd, a'i ddrycsawr a â i fyny, am iddo wneuthur mawrhydri.

2:21
Nac ofna di, ddaear; gorfoledda a llawenycha: canys yr ARGLWYDD a wna fawredd,

2:22
Nac ofnwch, anifeiliaid y maes: canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch; canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigysbren a'r winwydden a roddant eu cnwd.

2:23
Chwithau, plant Seion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr ARGLWYDD eich DUW: canys efe a roddes i chwi y cynnar law yn gymedrol, ac a wna i'r cynnar law a'r diweddar law ddisgyn i chwi yn y mis cyntaf.

2:24
A'r ysguboriau a lenwir o ŷd, a'r gwin newydd a'r olew a â dros y llestri.

2:25
A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust, a'r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith.

2:26
Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a wnaeth a chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth.

2:27
A chewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, ac nid neb arall: a'm pobl nis gwaradwyddir byth.

2:28
A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a'ch meibion a'ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau:

2:29
Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.

2:30
A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg.


2:31 Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, o flaen dyfod mawr ac ofnadwy ddydd yr ARGLWYDD.

2:32 A bydd, yr achubir pob un a alwo ar enw yr ARGLWYDD: canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, ac yn y gweddillion a alwo yr ARGLWYDD.

PENNOD 3


3:1 Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem,

3:2
Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a'm hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir.

3:3
Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent.

3:4
Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain;

3:5
Am i chwi gymryd fy arian a'm haur, a dwyn i'ch temlau fy nhlysau dymunol.

3:6
Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i'r Groegiaid, i'w pellhau oddi wrth eu hardaloedd.

3:7
Wele, mi a'u codaf hwynt o'r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

3:8
A minnau a werthaf eich meibion a'ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a'u gwerthant i'r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.

3:9
Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny.

3:10
Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a'ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf.

3:11
Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O ARGLWYDD, dy gedyrn.

3:12
Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd r amgylch.

3:13
Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd a'r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt.

3:14
Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr ARGLWYDD yng nglyn terfyniad.

3:15
Yr haul a'r lloer a dywyllant, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.

3:16
A'r ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a'r ddaear a grynant: ond yr ARGLWYDD fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.

3:17
Felly y cewch wybod mai myfi yw ARGLWYDD eich DUW, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.

3:18
A'r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffynnon Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.

3:19
Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.

3:20
Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth.

3:21
Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr ARGLWYDD sydd yn trigo yn Seion.

 
______________________________________________________________
DIWEDD


 
Adolygiadau diweddaraf - 02 02 2003
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 
·····

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwych ar fy ystadegau