Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2344k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_josua_06_2344k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


 (delw 0003)

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

 

 

Y Beibl Cysegr-lân : (06) Josua

 

(delw 7331)

Adolygiad diweddaraf: 2009-01-19

 



 2345ke This text with an English equivalent

 

 

LLYFR JOSUA

PENNOD 1

1:1 Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,

 

1:2 Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.

 

1:3 Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.

 

1:4 O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd y afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad y Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.

 

1:5 Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.

 

1:6 Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.

 

1:7 Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.

 

1:8 Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos, fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.

 

1:9 Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.

 

1:10 Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,

 

1:11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd; Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.

 

1:12 Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddy­wedyd,

 

1:13 Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.

 

1:14 Eich gwragedd, eich plant, a’ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;

 

1:15 Nes rhoddi o’r ARGLWYDD lonyddwch i’ch brodyr, fel i chwithau, a: meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad yr haul.

 

1:16 Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.

 

1:17 Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi, megis y bu gyda Moses.

 

1:18 Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.

 

PENNOD 2

2:1 A JOSUA mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno.

 

2:2 A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad.

 

2:3 A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.

 

2:4 Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.

 

2:5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt.

 

2:6 Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.

 

2:7 A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.

 

2:8 A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:

 

2:9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr. Mi a wn roddi o’r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.

 

2:10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.

 

2:11 A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr ARGLWYDD eich Duw, efe sydd DDUW yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.

 

2:12 Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr ARGLWYDD, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:

 

2:13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.

 

2:14 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr ARGLWYDD i ni y wlad hon, oni wnawn a chwi drugaredd a gwirionedd.

 

2:15 Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.

 

2:16 A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd.

 

2:17 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma a’r hwn y’n tyngaist.

 

2:18 Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i’r tŷ yma.

 

2:19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.

 

2:20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw a’r hwn y’n tyngaist.

 

2:21 A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.

 

2:22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.

 

2:23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:

 

2:24 A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr ARGLWYDD a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.

 

PENNOD 3

3:1 A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.

 

3:2 Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;

 

3:3 Ac a orchmynasant i’r bobl, gan ddywedyd. Pan weloch chwi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hôl hi.

 

3:4 Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen.

 

3:5 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r ARGLWYDD ryfeddodau yn eich mysg chwi.

 

3:6 Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.

 

3:7 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua; Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.

 

3:8 Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.

 

3:9 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr ARGLWYDD eich Duw.

 

3:10 Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Pheresiaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi.

 

3:11 Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen.

 

3:12 Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth.

 

3:13 A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch ARGLWYDD IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.

 

3:14 A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl;

 

3:15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,)

 

3:16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.

 

3:17 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.

 

PENNOD 4

4:1 A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,

 

4:2 Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth;

 

4:3 A gorchmynnwch iddynt, gan ddy­wedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno.

 

4:4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth:

 

4:5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:

 

4:6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocáu i chwi?

 

4:7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan oedd hi yn myned trwy’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.

 

4:8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meib­ion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno.

 

4:9 A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

 

4:10 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr ARGLWYDD i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.

 

4:11 A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr ARGLWYDD a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl.

 

4:12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:

 

4:13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr ARGLWYDD i ryfel, i rosydd Jericho.

 

4:14 Y dwthwn hwnnw yr ARGLWYDD a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.

 

4:15 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,

 

4:16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen.

 

4:17 Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen.

 

4:18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.

 

4:19 A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.

 

4:20 A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.

 

4:21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?

 

4:22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych.

 

4:23 Canys yr ARGLWYDD eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:

 

4:24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr ARGLWYDD, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.

 

PENNOD 5

5:1 Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhin­oedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r ARGLWYDD ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.

 

5:2 Y pryd hwnnw y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.

 

5:3 A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn.

 

5:4 A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwryyiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft.

 

5:5 Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt.

 

5:6 Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr ARGLWYDD: y rhai y tyngasai yr AR­GLWYDD wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr ARGLWYDD wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

 

5:7 A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd.

 

5:8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiachau.

 

5:9 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw.

 

5:10 A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho.

 

5:11 A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.

 

5:12 A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwy­ach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.

 

5:13 A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr?

 

5:14 Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr ARGLWYDD yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?

 

5:15 A thywysog llu yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd, A Josua a wnaeth felly.

 

PENNOD 6

6:1 A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.

 

6:2 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin, gwŷr grymus o nerth.

 

6:3 A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.

 

6:4 A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn.

 

6:5 A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.

 

6:6 A Josua mab Nun. a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD.

 

6:7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen. arch yr ARGLWYDD.

 

6:8 A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr ARGLWYDD, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned ar eu hôl hwynt.

 

6:9 A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn.

 

6:10 A Josua a orchmynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.

 

6:11 Felly arch yr ARGLWYDD a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.

 

6:12 A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr ARGLWYDD.

 

6:13 A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r utgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr ARGLWYDD, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn.

 

6:14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.

 

6:15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.

 

6:16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr ARGLWYDD y ddinas i, chwi.

 

6:17 A’r ddinas fydd yn ddiofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r ARGLWYDD: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.

 

6:18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd-beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd-beth, os cymerwch o’r diofryd-beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd-beth, ac y trallodech hi.

 

6:19 Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i’r ARGLWYDD: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr ARGLWYDD.

 

6:20 A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.

 

6:21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.

 

6:22 A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.

 

6:23 Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a’i thad, a’i mam, a’i brodyr, a chwbl a’r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel.

 

6:24 A llosgasant y ddinas â thân, a’r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, a roddasant hwy yn nhrysor yr ARGLWYDD.

 

6:25 A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio’r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.

 

6:26 A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr ARGLWYDD fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf-anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.

 

6:27 Felly yr ARGLWYDD oedd gyda Josua; ac aeth ei glod ef trwy’r holl wlad.

 

PENNOD 7

7:1 Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwych Jwda, a gymerodd o’r diofryd-beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel.

 

7:2 A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai.

 

7:3 A hwy a ddychwelasant ai Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny, ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.

 

7:4 Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr; a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.

 

7:5 A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.

 

7:6 A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.

 

7:7 A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen!

 

7:8 O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!

 

7:9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?

 

7:10 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?

 

7:11 Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd-beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.

 

7:12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg.

 

7:13 Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd-beth o’ch mysg.

 

7:14 Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr AR­GLWYDD, nesaed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn ŵr.

 

7:15 A’r hwn a ddelir a’r diofryd-beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr ARGLWYDD, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.

 

7:16 Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd.

 

7:17 Ac efe a ddynesodd deulu Jwda, a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddy­nesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr, a daliwyd Sabdi:

 

7:18 Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda.

 

7:19 A Josua a ddywedodd wrth Achaa, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i ARGLWYDD DDUW Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost; na chela oddi wrthyf.

 

7:20 Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn ARGLWYDD DDUW Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.

 

7:21 Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a’u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.

 

7:22 Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt.

 

7:23 Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr ARGLWYDD.

 

7:24 A Josua a gymerth Achan mab Sera, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynnod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.

 

7:25 A Josua a ddywedodd. Am i ti ein blino ni, yr ARGLWYDD a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.

 

7:26 A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.

 

PENNOD 8

8:1 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad.

 

8:2 A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.

 

8:3 Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos:

 

8:4 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.

 

8:5 Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt,

 

8:6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt.

 

8:7 Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr AR­GLWYDD eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi.

 

8:8 A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.

 

8:9 Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl.

 

 

 

8:10 A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai.

 

8:11 A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai. .

 

8:12 Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i’r ddinas.

 

8:13 A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.

 

8:14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a fore-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas.

 

8:15 A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.

 

8:16 A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.

 

8:17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.

 

8:18 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas.

 

8:19 A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.

 

8:20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch, a, ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.

 

8:21 A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai.

 

8:22 A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt.

 

8:23 A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.

 

8:24 Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.

 

8:25 A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn. hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.

 

8:26 Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.

 

8:27 Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a orchmynasai efe i Josua.

 

8:28 A Josua a losgodd Ai, ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.:

 

8:29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.

 

8:30 Yna Josua a adeiladodd allor i ARGLWYDD DDUW Israel ym mynydd Ebal,

 

8:31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r ARGLWYDD, ac a aberthasant ebyrth hedd.

 

8:32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.

 

8:33 A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, yn gystal yr estron a’r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD o’r blaen fendithio pobl Israel.

 

8:34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.

 

8:35 Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.

 

PENNOD 9

9:1 Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;

 

9:2 Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.

 

9:3 A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.

 

9:4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,

 

9:5 A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:

 

9:6 Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.

 

9:7 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi?

 

9:8 A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywed­odd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

 

9:9 A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr ARGLWYDD dy DDUW: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft;

 

9:10 A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.

 

9:11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.

 

9:12 Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.

 

9:13 Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.

 

9:14 A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr ARGLWYDD.

 

9:15 Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.

 

9:16 Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.

 

9:17 A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriath-jearim.

 

9:18 Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy, oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn ARGLWYDD DDUW Israel: a’r holl gyn­ulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.

 

9:19 A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i ARGLWYDD DDUW Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.

 

9:20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, oherwydd y llw a dyngasom wrthynt.

 

9:21 A’r tywysogion a ddywedasant wrth­ynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai’r tywys­ogion wrthynt.

 

9:22 Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?

 

9:23 Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.

 

9:24 A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r ARGLWYDD dy DDUW orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.

 

9:25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.

 

9:26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.

 

9:27 A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynulleidfa, ac i allor yr ARGLWYDD, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.

 

PENNOD 10

10:1 A phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:

 

10:2 Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

 

10:3 Am hynny Adonisedec brenin Jerw­salem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd.

 

10:4 Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

 

10:5 Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

 

10:6 A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddy­wedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amonaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynullasant i’n herbyn ni.

 

10:7 Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gydag ef, a’r holl gedyrn nerthol.

 

10:8 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.

 

10:9 Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

 

10:10 A’r ARGLWYDD a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth-horon, ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.

 

10:11 A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth-horon, yr ARGLWYDD a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerng cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.

 

10:12 Llefarodd Josua wrth yr ARGLWYDD y dydd y rhoddodd yr AR­GLWYDD yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

 

10:13 A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

 

10:14 Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr ARGLWYDD ar lef dyn: canys yr ARGLWYDD a ymladdodd dros Israel.

 

10:15 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll i Gilgal.

 

10:16 Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.

 

10:17 A mynegwyd i Josua, gan ddy­wedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda.

 

10:18 A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt;

 

10:19 Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr ARGLWYDD eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

 

10:20 A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog.

 

10:21 A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

 

10:22 A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof.

 

10:23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin; Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.

 

10:24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed, ar eu gyddfau hwynt.

 

10:25 A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr ARGLWYDD i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.

 

10:26 Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr.

 

10:27 Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.

 

10:28 Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.

 

10:29 Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna.

 

10:30 A’r ARGLWYDD a’i rhoddodd hithau, a’r brenin, yn llaw Israel, ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi, ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.

 

10:31 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.

 

10:32 A’r ARGLWYDD a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.

 

10:33 Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis; a Josua a’i trawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.

 

10:34 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn.

 

10:35 A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

 

10:36 A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn.

 

10:37 A hwy a’i henillasant hi, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf, a’i brenin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi, ni adawodd efe un yng ngweddiil, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.

 

10:38 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymfaddodd i’w herbyn.

 

10:39 Ac efe a’i henillodd hi, ei brenin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i’w brenin.

 

10:40 Felly y trawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r deau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel.

 

10:41 A Josua a’u trawodd hwynt o Cades-Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.

 

10:42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys ARGLWYDD DDUW Israel oedd yn ymladd dros Israel.

 

10:43 Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll yn Gilgal.

 

PENNOD 11

 

11:1 A phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff,

 

11:2 Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin;

 

11:3 At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd-dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe.

 

11:4 A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.

 

11:5 A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

 

11:6 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.

 

11:7 Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt.

 

11:8 A’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth-maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a’u traw­sant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.

 

11:9 A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr ARGLWYDD iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.

 

11:10 A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.

 

11:11 Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.

 

11:12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a’u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD.

 

11:13 Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.

 

11:14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.

 

11:15 Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.

 

11:16 Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;

 

11:17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal-Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.

 

11:18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.

 

11:19 Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.

 

11:20 Canys o’r ARGLWYDD yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorch­mynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

 

11:21 A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrod­odd hwynt a’u dinasoedd.

 

11:22 Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.

 

11:23 Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

 

PENNOD 12

12:1 Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain:

 

12:2 Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;

 

12:3 Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth-jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth-Pisga:

 

12:4 A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;

 

12:5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.

 

12:6 Moses gwas yr ARGLWYDD a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr ARGLWYDD a’i rhoddodd hi yn eti­feddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

 

12:7 Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;

 

12:8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:

 

12:9 Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

 

12:10 Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;;

 

12:11 Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;

 

12:12 Brenin Eglon, yn un; brenin Geser ynun;

 

12:13 Brenin Debit, yn un; brenin Geder, yn un;

 

12:14 Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un;

 

12:15 Brenin Libna, yn un; breniB Adulam, yn un;

 

12:16 Brenin Maceeda, yn un; brenin Bethel, yn un;

 

12:17 Brenin Tappua, yn un; brenin i Heffer, yn un;

 

12:18 Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un;

 

12:19 Brenin Madoa, yn un; brenin Hasor, yn un;

 

12:20 Brenin Simron-Meron, yn un; bren­in Achsaff, yn un;

 

12:21 Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un;

 

12:22 Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un;

 

12:23 Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;

 

12:24 Brenin Tirsa, yn un: yr holl fren­hinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.

 

PENNOD 13

13:1 A phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu.

 

13:2 Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,

 

13:3 O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:

 

13:4 O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid:

 

13:5 A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal-Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.

 

13:6 Holl breswylwyr y mynydd-dir o Libanus hyd Misreffoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.

 

13:7 Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse.

 

13:8 Gyda’r rhai y derbyniodd y Reuben­iaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt;

 

13:9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:

 

13:10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;

 

13:11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;

 

13:12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith.

 

13:13 Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.

 

13:14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd ARGLWYDD DDUW Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

 

13:15 A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy en teuluoedd:

 

13:16 A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;

 

13:17 Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth-Baalmeon;

 

13:18 Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;

 

13:19 Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sareth-sahar, ym mynydd-dir y glyn;

 

13:20 Beth-peor hefyd, ac Asdoth-Pisga, a Beth-Jesimoth,

 

13:21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amor­iaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

 

13:22 Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.

 

13:23 A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.

 

13:24 Moses hefyd a roddodd etifedd­iaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;

 

13:25 A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;

 

13:26 Ac o Hesbon hyd Ramath-Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;

 

13:27 Ac yn y dyffryn, Beth-Aram, a Beth-Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.

 

13:28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.

 

13:29 Moses hefyd a roddodd etifedd­iaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:

 

13:30 A’u terfyn hwynt oedd o Ma­hanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;

 

13:31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd. .

 

13:32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho, o du y dwyrain.

 

13:33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: ARGLWYDD DDUW Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd,efe wrthynt.

 

PENNOD 14

14:1 Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau-cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.

 

14:2 Wrth goelbren yr oedd eu hetifedd­iaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.

 

14:3 Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;

 

14:4 Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud.

 

14:5 Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.

 

14:6 Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-Barnea.

 

14:7 Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.

 

14:8 Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr ARGLWYDD fy Nuw.

 

14:9 A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy draed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr ARGLWYDD fy Nuw.

 

14:10 Ac yn awr, wele yr ARGLWYDD a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr ARGLWYDD y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain.

 

14:11 Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.

 

14:12 Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr ARGLWYDD fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD.

 

14:13 A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth.

 

14:14 Am hynny mae Hebron yn etifedd­iaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl ARGLWYDD DDUW Israel.

 

14:15 Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

 

PENNOD 15

15:1 A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua’r deau, oedd eithaf y terfyn deau.

 

15:2 A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau.

 

15:3 Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades-Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.

 

15:4 Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.

 

15:5 A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.

 

15:6 A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth-hogla, ac yn myned o’r gogiedd hyd BethAraba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.

 

15:7 A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny a Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwr eithaf sydd wrth En-rogel.

 

15:8 A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua’r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua’r gogledd.

 

15:9 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath-jearim.

 

15:10 A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timna.

 

15:11 A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.

 

15:12 A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.

 

15:13 Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Josua; sef Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.

 

15:14 A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahimaas a Thalmai, meibion Anac.

 

15:15 Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir a’r blaen oedd CiriathSeffer.

 

15:16 A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath-Seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.

 

15:17 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.

 

15:18 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

 

15:19 A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

 

15:20 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.

 

15:21 A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth: meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,

 

15:22 Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,

 

15:23 Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,

 

15:24 A Siff, a Thelem, a Bealoth,

 

15:25 A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,

 

15:26 Ac Amam, a Sema, a Molada,

 

15:27 A Hasar-Gada, a Hesmon, a Bethpalet,

 

15:28 A Hasar-sual a Beer-seba, a Bisiothia,

 

15:29 Baala, ac Iim, ac Asem,

 

15:30 Ac Eltolad, a Chesil, a Horma,

 

15:31 A Siclag, a Madmanna, a Sansanna,

 

15:32 A Lebaoth, a Silhim, ac Afa, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd.

 

15:33 Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna,

 

15:34 A Sanoa, ac En-gannim, Tappua, ac Enam, . .

 

15:35 Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca,

 

15:36 A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

 

15:37 Senan, a Hadasa, a Migdal-Gad,

 

15:38 A Dilean, a Mispe, a Joctheel,

 

15:39 Lachis, a Boscath, ac Eglon,

 

15:40 Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,

 

15:41 A Gederoth, Beth-Dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

 

15:42 Libna, ac Ether, ac Asan,

 

15:43 A Jiffta, ac Asna, a Nesib,

 

15:44 Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.

 

15:45 Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:

 

15:46 O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd:

 

15:47 Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.

 

15:48 Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Socho,

 

15:49 A Danna, a Ciriath-sannath, honno yw Debir,

 

15:50 Ac Anab, ac Astemo, ac Anim,

 

15:51 A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.

 

15:52 Arab, a Duma, ac Esean,

 

15:53 A Janum, a Beth-tappua, ac Affeca,

 

15:54 A Humta, a Chaer-Arba, honno yw Hebron, a Sior; naw dinas, a’u trefydd.

 

15:55 Maon, Carmel, a Siff, a Jutta,

 

15:56 A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa,

 

15:57 Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

 

15:58 Halhul, Beth-sur, a Gedor,

 

15:59 A Maarath, a Bethanoth, ac El-tecon; chwech o ddinasoedd, a’u pen­trefydd.

 

15:60 Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pen­trefydd.

 

15:61 Yn yr anialwch; Beth-araba, Midin, a Sechacha,

 

15:62 A Nibsan, a dinas yr haleni ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.

 

15:63 Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

 

PENNOD 16

16:1 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel,

 

16:2 Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;

 

16:3 Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.

 

16:4 Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.

 

16:5 A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu heti­feddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Atarothadar, hyd Bethhoron uchaf.

 

16:6 A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath-Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha:

 

16:7 Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.

 

16:8 O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd.

 

16:9 A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pen­trefydd.

 

16:10 Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaancaid ymhlth yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.

 

PENNOD 17

17:1 A yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf-anedig Joseff,) i Machir, cyntaf-anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.

 

17:2 Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abieser, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Heffer, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasse mab Joseff, sef y gwrywiaid, yn ôl eu teuluoedd.

 

17:3 Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa:

 

17:4 Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddfiaeth, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ymysg brodyr eu tad.

 

17:5 A deg rhandir a syrthiodd i Manasse, heblaw gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen;

 

17:6 Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasse.

 

17:7 A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr En-tappua.

 

17:8 Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.

 

17:9 A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr.

 

17:10 Y deau oedd eiddo Effraim, a’r gogledd eiddo Manasse; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain.

 

17:11 Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth-sean a’i thref­ydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i thref­ydd; tair talaith.

 

17:12 Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

 

17:13 Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.

 

17:14 A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl arni, wedi i’r ARGLWYDD hyd yn hyn fy mendithio?

 

17:15 A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i’r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a’r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.

 

17:16 A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.

 

17:17 A Josua a ddywedodd wrth dy Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:

 

17:18 Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbyd­au heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.

 

PENNOD 18

18:1 A holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osod­asant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.

 

18:2 A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto

 

18:3 A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes ARGLWYDD DDUW eich tadau i chwi?:

 

18:4 Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y de!ont ataf drachefn.

 

18:5 A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd.

 

18:6 A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr ARGLWYDD ein Duw.

 

18:7 Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifedd­iaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt.

 

18:8 A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo.

 

18:9 A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo.

 

18:10 A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

 

18:11 A choelbren llwyth meibion Ben­jamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.:

 

18:12 A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o r Iorddonen: y terfyn hefyd i oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du’r gogledd, ac yn myned i fyny i trwy’r mynydd tua’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Beth-afen.

 

18:13 Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi i yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua’r deau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Atarothadar, i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth-horon isaf.

 

18:14 A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth-horon tua’r deau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.

 

18:15 A thu y deau sydd o gwr Ciriath-jearim; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa.

 

18:16 Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.

 

18:17 Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En-semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:

 

18:18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd, ac yn disgyn i Araba.

 

18:19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth-hogla tua’r gog­ledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth tan y môr heli tua’r gogledd, hyd gŵr yr Iorddonen tua’r deau. Dyma derfyn y deau.

 

18:20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifedd­iaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.

 

19:21 A dinasoedd llwyth meibion Ben­jamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth-hogla, a glyn Cesis,

 

19:22 A Beth-araba, a Semaraim, a Bethel,

 

19:23 Ac Afim, a Phara, ac Offra,

 

19:24 A Cheffar-haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:

 

19:25 Gibeon, a Rama, a Beeroth,

 

19:26 A Mispe, a Cheffira, a Mosa,

 

19:27 A Recem, ac Irpeel, a Tharala,

 

19:28 A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.

 

PENNOD l9

19:1 A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl: teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda.

 

19:2 Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer-seba, a Seba, a Molada,

 

19:3 A Hasar-sual, a Bala, ac Asem,

 

19:4 Ac Eltolad, a Bethul, a Horma,

 

19:5 A Siclag, a Beth-marcaboth, a Hasar-susa,

 

19:6 A Beth-lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd:

 

19:7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd:

 

19:8 A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath o’r deau. Dyma etifedd­iaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd.

 

19:9 O randir meibion Jwda yr oedd eti­feddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.

 

19:10 A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.

 

19:11 A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr, a Marala, ac yn cyr­haeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam;

 

19:12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth-Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;

 

19:13 Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain, i Gittah-Heffer, i Ittah-Casin; ac yn myned allan i Rimmon-Methoar, i Nea.

 

19:14 A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.

 

19:15 Cattath hefyd, a Nahalai, a Simron, ac Idala, a Bethlehem; deuddeg o ddinas­oedd, a’u pentrefydd.

 

19:16 Dyma etifeddiaeth meibion Sabu­lon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.

 

19:17 Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd.

 

19:18 A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem.

 

19:19 A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath.

 

19:20 A Rabbith, a Cision, ac Abes,

 

19:21 A Remeth, ac En-gannim, ac Enhada, a Beth-passes.

 

19:22 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth-semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

 

19:23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinas­oedd, a’u pentrefydd.

 

19:24 A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.

 

19:25 A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,

 

19:26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gor­llewin, ac i Sihor-Libnath:

 

19:27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua’r gogledd i Beth-Emer, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;

 

19:28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.

 

19:29 A’r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosa; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.

 

19:30 Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd.

 

19:31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.

 

19:32 Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.

 

19:33 A’u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.

 

19:34 A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth-Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul.

 

19:35 A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,

 

19:36 Ac Adama, a Rama, a Hasor,

 

19:37 A Cedes, ac Edrei, ac En-hasor,

 

19:38 Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Beth-anath, a Beth-semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.

 

19:39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.

 

19:40 Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd.

 

19:41 A therfyn eu hetifeddiaeth trwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir-Semes,

 

19:42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla,

 

19:43 Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron,

 

19:44 Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath,

 

19:45 A Jehud, a Bene-berac, a Gath-rimmon,

 

19:46 A Meiarcon, a Raccon, gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo.

 

19:47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.

 

19:48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.

 

19:49 Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meib­ion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:

 

19:50 Wrth orchymyn yr ARGLWYDD y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath-Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.

 

19:51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu’r wlad.

 

PENNOD 20

20:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua, gan ddywedyd,

 

20:2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:

 

20:3 Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybcd: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed.

 

20:4 A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt.

 

20:5 Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.

 

20:6 Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.

 

20:7 Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer-Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda.

 

20:8 Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse.

 

20:9 Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.

 

PENNOD 21

21:1 Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;

 

21:2 Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’n hanifeiliaid.

 

21:3 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr ARGLWYDD, y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol.

 

21:4 A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

 

21:5 Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren.

 

21:6 Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

 

21:7 I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.

 

21:8 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr AR­GLWYDD trwy law Moses, wrth goelbren.

 

21:9 A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;

 

21:10 Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.

 

21:11 A rhoddasant iddynt Gaer-Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd-dir Jwda, a’i meysydd pentrefol oddi amgylch.

 

21:12 Ond maes y ddinas, a’i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.

 

21:13 Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meysydd pen­trefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libna a’i meysydd pentrefol,

 

21:14 A Jattir a’i meysydd pentrefol, ac Estemoa a’i meysydd pentrefol,

 

21:15 A Holon a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol,

 

21:16 Ac Ain a’i meysydd pentrefol, a Jwtta a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny.

 

21:17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meysydd pentrefol, a Geba a’i meysydd pentrefol,

 

21:18 Anathoth a’i meysydd pentrefol, ac Almon a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

 

21:19 Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

 

21:20 A chan deuluoedd meibion Co­hath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.

 

21:21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a’i meysydd pentrefol,

 

21:22 A Cibsaim a’i meysydd pentrefol, a Beth-horon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

 

21:23 Ac o lwyth Dan, Eltece a’i meysydd pentrefol, Gibbethon a’i meysydd pen­trefol.

 

21:24 Ajalon a’i meysydd pentrefol, Gath-Rimmon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd

 

21:25 Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a’i meysydd pentrefol, a Gath-Rimmon a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas.

 

21:26 Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meysydd pen­trefol.

 

21:27 Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, a Beestera a’i meysydd pen­trefol: dwy ddinas.

 

21:28 Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meysydd pentrefol, Dabareth a’i meysydd pentrefol,

 

21:29 Jarmuth a’i meysydd pentrefol, En-gannim a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

 

21:30 Ac o lwyth Aser, Misal a’i meysydd pentrefol, Abdon a’i meysydd pentrefol,

 

21:31 Helcath a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. .

 

21:32 Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad. Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, a Hammoth-dor a’i meysydd pentrefol: tair dinas.

 

21:33 Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

 

21:34 Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a’i meysydd pentrefol, a Carta a’i meysydd pentrefol,

 

21:35 Dimna a’i meysydd pentrefol, Nahalal a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

 

21:36 Ac o lwyth. Reuben, Beser a’i meysydd pentrefol, a Jahasa a’i meysydd pentrefol,

 

21:37 Cedemoth a’i meysydd pentrefol, Meffaath a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

 

21:38 Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilcad a’i meysydd pentrefol, a Mahanaim a’i meysydd pen­trefol,

 

21:39 Hesbon a’i meysydd pentrefol, Jaser a’i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.

 

21:40 Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.

 

21:41 Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meysydd pentrefol.

 

21:42 Y dinasoedd hyn oedd bob un a’u meysydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

 

21:43 A’r ARGLWYDD a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiaassant hi, ac a wladychasant ynddi.

5

21:44 Yr ARGLWYDD hefyd a roddod lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr ARGLWYDD yn eu dwylo hwynt.

 

21:45 Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

 

PENNOD 22

22:1 Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse,

 

22:2 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi.

 

22:3 Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw.

 

22:4 Ac yn awr yr ARGLWYDD eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

 

22:5 Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orch­mynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi; sef caru yr ARGLWYDD eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.

 

 

 

22:6 A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.

 

22:7 Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt;

 

22:8 Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phres hefyd, ac â haearn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion.

 

22:9 A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr AR­GLWYDD trwy law Moses.

 

22:10 A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.

 

22:11 A chlybu meibion Israel ddy­wedyd, Wele, meibion Reuben, a meib­ion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel.

 

22:12 A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel.

 

22:13 A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad,

 

22:14 A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel.

 

22:15 A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd, .

 

22:16 Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr ARGLWYDD, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr AR­GLWYDD?

 

22:17 Ai bychan gennym ni anwiredd Peer, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr ARGLWYDD,

 

22:18 Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel.

 

22:19 Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad medd­iant yr ARGLWYDD, yr hon y mae tabernacl yr ARGLWYDD yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr AR­GLWYDD, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw.

 

22:20 Oni wnaeth Achan mab Sera gam­wedd, oherwydd y diofrydbeth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.

 

22:21 Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel;

 

22:22 ARGLWYDD DDUW y duwiau, AR­GLWYDD DDUW y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)

 

22:23 Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr ARGLWYDD, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr ARGLWYDD ei hun a’i gofynno:

 

22:24 Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Seth sydd i chwi à wneloch ag AR­GLWYDD DDUW Israel?

 

22:25 Canys yr ARGLWYDD a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD. Felly y gwnai eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr ARGLWYDD.

 

22:26 Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;

 

22:27 Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD ger ei fron ef, a’n poethoffrymau, ac a’n hebyrth, ac a’n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD.

 

22:28 Am hynny y dywedasom. Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn, yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr ARGLWYDD, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boeth­offrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.

 

22:29 Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.

 

22:30 A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.

 

22:31 Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr ARGLWYDD: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr ARGLWYDD.

 

22:32 Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt.

 

22:33 A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel, a meibion Israel a fendithiasant DDUW, ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi.

 

22:34 A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW.

 

PENNOD 23

23:1 A darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r ARGLWYDD roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.

 

23:2 A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:

 

23:3 Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i’r holl genhedloedd byn, er eich mwyn chwi: canys yr ARGLWYDD eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.

 

23:4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua’r gorllewin.

 

23:5 A’r ARGLWYDD eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych.

 

23:6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith. Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy;

 

23:7 Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:

 

23:8 Ond glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

 

23:9 Canys yr ARGLWYDD a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.

 

23:10 Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr ARGLWYDD eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.

 

23:11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr AR­GLWYDD eich Duw.

 

23:12 Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:

 

23:13 Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr ARGLWYDD eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

 

23:14 Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr ARGLWYDD eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.

 

23:15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw wrthych; felly y dwg yr ARGLWYDD arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

 

23:16 Pan droseddoch gyfamod yr AR­GLWYDD eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

 

PENNOD 24

24:1 A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron Duw.

 

24:2 A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.

 

24:3 Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.

 

24:4 Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft.

 

24:5 A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,

 

24:6 Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.

 

24:7 A phan waeddasant ar yr ARGLWYDD, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.

 

24:8 A mi a’ch dygais i wlad yr Arnoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi.

 

24:9 Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melltigo chwi.

 

24:10 Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.

 

24:11 A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.

 

24:12 A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi, a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa.

 

24:13 A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai. nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.

 

24:14 Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr AR­GLWYDD.

 

24:15 Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD.

 

24:16 Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr AR­GLWYDD, i wasanaethu duwiau dieithr;

 

24:17 Canys yr ARGLWYDD ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:

 

24:18 A’r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein Duw ni.

 

24:19 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr ARGLWYDD; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau.

 

24:20 O gwrthodwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.

 

24:21 A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr AR­GLWYDD,

 

24:22 A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr ARGLWYDD i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tyst­ion ydym.

 

24:23 Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at AR­GLWYDD DDUW Israel.

 

24:24 A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr ARGLWYDD ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.

 

24:25 Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.

 

24:26 A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith DDUW, ac a gymerth faen mawr, ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr ARGLWYDD.

 

24:27 A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth; i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.

 

24:28 Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.:

 

24:29 Ac wedi’r pethau hyn, y bu.farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.

 

24:30 A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, O du y gogledd i fynydd Gaas.

 

24:31 Ac Israel a wasanaethodd yr AR­GLWYDD holl ddyddiau Josua, a: holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr ARGLWYDD a wnaethai efe er Israel.

 

24:32 Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o’r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.

 

24:33 Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.

 

 

 

 

 

 

 

_____________

DIWEDD


Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització / Latest update 2009-01-19

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ Ə ə

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats