2205k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_lefiticus_03_2205k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


..
 
 
 
 
 
 
 
0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
 
Y Beibl Cysegr-lân:
(3) Lefiticus
 


 


(delw 7309)


 
2206ke This page with an English translation
 
 
TRYDYDD LLYFR MOSES YR HWN A ELWIR LEFITICUS

PENNOD 1
1:1 A’r ARGLWYDD a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,

1:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt. Pan ddygo dyn ohonoch offrwrn i'r ARGLWYDD, o anifail, sef o'r eidionau, neu o'r praidd, yr offrymwch eich offrwm.

1:3 Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwrn ef, offrymed efyn wryw perffaith-gwbl; a dyged ef o'i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD.

1:4 A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm, ac fe a'i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto.

1:5 Lladded hefyd yr eidion gerbron yr ARGLWYDD; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

1:6 A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.

1:7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.

1:8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a'r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

1:9 Ond ei berfedd a'i draed a ylch efe mewn dwfr: a'r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

1:10 Ac os o'r praidd, sef o'r defaid, neu o'r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith-gwbl.

1:11 A lladded ef gerbron yr ARGLWYDD, o du'r gogledd i'r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.

1:12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyda’i ben a'i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

1:13 Ond golched y perfedd a'r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.

1:14 Ac os poethoffrwm o aderyn fyd ei offrwm ef i'r ARGLWYDD; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.

1:15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

1:16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du'r dwyrain, i'r lle y byddo y lludw.

1:17 Hollted ef, a'i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

PENNOD 2
2:1 Pan offrymo dyn fwyd-offrwm i'r ARGLWYDD, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.

2:2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o'i beilliaid, ac o'i olew, ynghyd à'i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

2:3 A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i'w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr ARGLWYDD ydyw.

2:4 Hefyd pan offrymech fwyd-offrwm, wcdi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.

2:5 Ond os bwyd-offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew.

2:6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd-offrwm yw.

2:7 Ac os bwyd-offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.

2:8 A dwg i'r ARGLWYDD y bwyd-offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.

2:9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

2:10 A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd-offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr ARGLWYDD ydyw.

2:11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymoch i'r ARGLWYDD; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r ARGLWYDD.

2:12 Offrymwch i'r ARGLWYDD offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

2:13 Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy DDUW o fod ar dy fwyd-offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.

2:14 Ac os offrymi i'r ARGLWYDD fwyd-offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd-offrwm dy ffrwythau cyntaf.

2:15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd-offrwm yw.

2:16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghyd a'i holl thus: offrwm tanllyd i'r ARGLWYDD yw.

PENNOD 3
3:1 Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr ARGLWYDD yn berffaith-gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw.

3:2 A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a’r holl wêr ar yr allor o amgylch.

3:3 Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r ARGLWYDD; sef y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd.

3:4 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau.

3:5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.

3:6 Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd-aberth i’r ARGLWYDD, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith-gwbl.

3:7 Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr ARGLWYDD.

3:8 A gosododd ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.

3:9 Ac offrymed o'r aberth hedd yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD; ei weren, a'r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â'r weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

3:10 A'r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, yngbyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.

3:11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd i'r ARGLWYDD ydyw.

3:12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr ARGLWYDD.

3:13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

3:14 Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r ARGLWYDD; sef y weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

3:15 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd a'r arennau, a dynn efe ymaith.

3:16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr ARGLWYDD.

3:17 Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.

PENNOD 4
4:1 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aloses, gan ddywedyd,

4:2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr ARGLWYDD, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y petbau ni ddylid eu gwneuthur:

4:3 Os offeiriad eneiniog a becha yn ô1 pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith-gwbl, yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD.

4:4 A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr ARGLWYDD.

4:5 A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod.

4:6 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o'r gwaed gerbron yr ARGLWYDD seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr.

4:7 A gosoded yr offeiriad beth o'r gwaed gerbron yr ARGLWYDD ar gyrn allor yr arogl-darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

4:8 A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a'r holl wêr fyddo ar y perfedd;

4:9 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â'r arennau;

4:10 Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm.

4:11 Ond croen y bustach, a'i holl gig, ynghyd â'i ben, a'i draed, a'i berfedd, a'i fiswail,

4:12 A'r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i'r tu allan i'r gwersyll, i le glan, wrth dywalltfa'r lludw; ac a'i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa'r lludw y llosgir ef.

4:13 Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a'r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr ARGLWYDD, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:

4:14 Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.

4:15 A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr ARGLWYDD, a lladdant y bustach gerbron yr ARGLWYDD.

4:16 A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.

4:17 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr ARGLWYDD seithwaith, o flaen y wahanlen.

4:18 A gosoded o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

4:19 A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor.

4:20 A gwnaed i'r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech-aberth; felly gwnaed iddo: a'r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.

4:21 A dyged y bustach allan i'r tu allan i'r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.

4:22 Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr ARGLWYDD ei DDUW, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

4:23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith-gwbl.

4:24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr ARGLWYDD. Dyma aberth dros bechod.

4:25 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â'i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm.

4:26 A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.

4:27 Ac os pecha neb o bobi y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr ARGLWYDD, ddim o'r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

4:28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i'w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith-gwbl dros ei bechod a bechodd efe.

4:29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

4:30 A chymered yr offeiriad o'i gwaed hi â'i fys, a rhodded ar gyrn allor y poeth-offrwrm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

4:31 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD: a gwnaed yr offeiriad, gymod drosto; a maddeuir iddo.

4:32 Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith-gwbl.

4:33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

4:34 A chymered yr offeiriad â'i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

4:35 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

PENNOD 5
5:1 Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.

5:2 Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.

5:3 Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o'i blegid, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.

5:4 Neu os dyn a dwng, gan draethu a'r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.

5:5 A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo;

5:6 A dyged i'r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o'r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod.

5:7 Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i'r ARGLWYDD, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm.

5:8 A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.

5:9 A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o'r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.

5:10 A'r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a'r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

5:11 Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.

5:12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i'r ARGLWYDD. Dyma aberth dros bechod.

5:13 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o'r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i'r offeiriad y gweddill, megis o'r bwyd-offrwm.

5:14 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

5:15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i'r ARGLWYDD; yna dyged i'r ARGLWYDD dros ei gamwedd, hwrdd perffaith-gwbl o'r praidd, gyda'th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd.

5:16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

5:17 Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a'i anwiredd a ddwg.

5:18 A dyged hwrdd perffaith-gwbl o'r praidd, gyda'th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.

5:19 Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr ARGLWYDD.

PENNOD 6
6:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

6:2 Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i'w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog;

6:3 Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o'r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:

6:4 Yna, am iddo bechu, a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,

6:5 Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i'r neb a'i piau.

6:6 A dyged i'r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith-gwbl o'r praidd, gyda'th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.

6:7 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr ARGLWYDD: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.

6:8 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

6:9 Gorchymyn i Aaron, ac i'w feibion gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.)

6:10 Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded cf gerllaw yr allor.

6:11 A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i'r tu allan i'r gwersyll, i le glân.

6:12 A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.

6:13 Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.

6:14 Dyma hefyd gyfraith y bwyd-offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr ARGLWYDD, o flaen yr allor:

6:15 A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd-offrwm, ac o'i olew, a'r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd-offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogi peraidd i'r ARGLWYDD.

6:16 A'r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytant ef.

6:17 Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o'm haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd.

6:18 Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr ARGLWYDD; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.

6:19 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

6:20 Dyma offrwm Aaron a'i feibion, yr hwn a offrymant i'r ARGLWYDD, ar y dydd eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd-offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a'i hanner brynhawn.

6:21 Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd-offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

6:22 A'r offeiriad o'i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: llosger y cwbl i'r ARGLWYDD.

6:23 A phob bwyd-offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.

6:24 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

6:25 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr ARGLWYDD: sancteiddiolaf yw efe.

6:26 Yr offeiriad a'i hoffrymo dros bechod, a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod.

6:27 Beth bynnag a gyffyrddo â'i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o'i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.

6:28 A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.

6:29 Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.

6:30 Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o'i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.

PENNOD 7
7:1 Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw.

7:2 Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a'i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.

7:3 A'i holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a'r weren fol.

7:4 A'r ddwy aren, a'r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd a'r arennau, a dynn efe ymaith.

7:5 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: aberth dros gamwedd yw.

7:6 Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw.

7:7 Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a'i piau.

7:8 A'r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe.

7:9 A phob bwyd-offrwm a graser mewn ffwrn, a'r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo'r offeiriad a'i hoffrymo.

7:10 A phob bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd.

7:11 Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i'r ARGLWYDD.

7:12 Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda'r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew, ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew.

7:13 Heblaw'r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda'i hedd-aberth o ddiolch.

7:14 Ac offrymed o hyn un dorth o'r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD; a bydded hwnnw eiddo'r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.

7:15 A chig ei hedd-aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore.

7:16 Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono.

7:17 Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.

7:18 Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i'r hwn a'i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a'r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.

7:19 A'r cig a gyffyrddo â dim afian, ni fwyteir, mewn tân y llosgir ef: a'r cig arall, pob glân a fwyty ohono.

7:20 A'r dyn a fwytao gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i'r ARGLWYDD, a'i aflendid amo; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

7:21 Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i'r ARGLWYDD; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

7:22 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

7:23 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.

7:24 Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith, ond gan fwyta na fwytewch ef.

7:25 Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o'r hwn yr offrymir aberth tanllyd i'r ARGLWYDD; torrir ymaith yr enaid a'i bwytao o fysg ei bobl.

7:26 Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o'r eiddo aderyn, nac o'r eiddo anifail.

7:27 Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.

7:28 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

7:29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r ARGLWYDD, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r ARGLWYDD.

7:30 Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD; y gwêr ynghyd a'r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i'w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

7:31 A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i'w feibion.

7:32 Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i'r offeiriad, o'ch ebyrth hedd.

7:33 Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a'r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan.

7:34 Oherwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o'u hebyrth hedd, ac a'u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i'w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.

7:35 Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i'r ARGLWYDD;

7:36 Yr hwn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.

7:37 Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd-offrwm, a'r aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd, a'r cysegriadau, a'r aberth hedd;

7:38 Yr hon a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i'r ARGLWYDD, yn anialwch Sinai.

PENNOD 8
8:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

8:2 Cymer Aaron a'i feibion gydag ef, a'r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:

8:3 A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.

8:4 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

8:5 A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneuthur.

8:6 A Moses a ddug Aaron a'i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.

8:7 Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a’i gwregysodd ef â'r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a'i gwregysodd a gwregys cywraint yr effod, ac a'i caeodd amdano ef.

8:8 Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a'r Thummim yn y ddwyfronneg.

8:9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD i Moses.

8:10 A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'u cysegrodd hwynt.

8:11 Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, i'w cysegru.

8:12 Ac efe a dywalltodd o olew'r eneiniad ar ben Aaron, ac a'i heneiniodd ef, i'w gysegru.

8:13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.

8:14 Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a'i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod;

8:15 Ac efe a'i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a'i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a'i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni.

8:16 Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u gwêr; a Moses a'i llosgodd ar yr allor.

8:17 A'r bustach, a'i groen, a'i gig, a'i fiswail, a losgodd efe mewn tân o'r tu allan i'r gwersyll: fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

8:18 Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd:

8:19 Ac efe a'i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.

8:20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a'r gwêr.

8:21 Ond y perfedd a'r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses, yr  hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

8:22 Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.

8:23 Ac efe a'i lladdodd; a Moses a gymerodd o'i waed, ac a'i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.

8:24 Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o'r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.

8:25 Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a'r gloren, a'r holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u braster, a'r ysgwyddog ddeau.

8:26 A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr ARGLWYDD, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a'u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau:

8:27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a'u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

8:28 A Moses a'u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a'u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i'r ARGLWYDD.

8:29 Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a'i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD with Moses.

8:30 A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o'r gwaed oedd ar yr allor, ac a'i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a'i wisgoedd, a'i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.

8:31 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a'r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a'i feibion a'i bwyty ef.

8:32 A'r gweddill o'r cig, ac o'r bara, a losgwch yn tân.

8:33 Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi.

8:34 Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wneuthur, i wneuthur cymod drosoch.

8:35 Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr ARGLWYDD, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y'm gorchmynnwyd.

8:36 A gwnaeth Aaron a'i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy law Moses.

PENNOD 9
9:1 Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a'i feibion, a henuriaid Israel;

9:2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith-gwbl, a dwg hwy gerbron yr ARGLWYDD.

9:3 Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwyddiaid, perffaith-gwbl, yn boethoffrwm;

9:4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr ARGLWYDD; a bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr ARGLWYDD i chwi.

9:5 A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a'r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr ARGLWYDD.

9:6 A dywedodd Moses, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr ARGLWYDD i chwi.

9:7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.

9:8 Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.

9:9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.

9:10 Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

9:11 A'r cig a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwersyll.

9:12 Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

9:13 A dygasant y poethoffrwm ato, gyda'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'u llosgodd hwynt ar yr allor.

9:14 Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac a'u llosgodd hwynt ynghyd a'r offrwm poeth ar yr allor.

9:15 Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf.

9:16 Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a'i hoffrymodd yn ôl y ddefod.

9:17 Ac efe a ddug y bwyd-offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a'i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore.

9:18 Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

9:19 Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu.

9:20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau, ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.

9:11 Y parwydennau hefyd, a'r ysgwyddog ddeau a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDO; fel y gorchmynnodd Moses.

9:22 A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a'u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a'r poethoffrwm, a'r ebyrth hedd.

9:23 A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd i'r holl bobl.

9:24 A daeth tân allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.

PENNOD 10
10:1 Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr ARGLWYDD dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt.

10:2 A daeth tân allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a'u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr ARGLWYDD.

10:3 A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesant ataf, a cherbron yr holl bobl y'm gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.

10:4 A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o'r gwersyll.

10:5 A nesau a wnaethant, a'u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o'r gwersyll; fel y llefarasai Moses.

10:6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dy Israel, am y llosgiad a losgodd yr ARGLWYDD.

10:7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr ARGLWYDD arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.

10:8 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd,

10:9 Gwin a diod gadarn nac yf di, na'th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn:

10:10 A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân;

10:11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthynt trwy law Moses.

10:12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o'i feibion ef, Cymerwch y bwyd-offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd sancteiddiolaf yw.

10:13 A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, yw hyn: canys fel hyn y'm gorchmynnwyd.

10:14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a'r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a'th feibion, a'th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i'th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel.

10:15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a'r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o'r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD: a bydded i ti, ac i'th feibion gyda thi, yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.

10:16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd with Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,

10:17 Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a'i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr ARGLWYDD?

10:18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchmynnais.

10:19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a'u poethoffrwm, gerbron yr ARGLWYDD; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr ARGLWYDD?

10:20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.

PENNOD 11
11:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,

11:2 Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r anifeiliaid a fwytewch, o'r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear.

11:3 Beth bynnag a hollto'r ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o'r anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.

11:4 Ond y rhai hyn ni fwytewch; o'r rhai a gnoant eu cil ac o'r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti'r ewin; aflan fydd i chwi.

11:5 A'r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi'r ewin; aflan yw i chwi.

11:6 A'r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi'r ewin; aflan yw i chwi.

11:7 A'r llwdn hwch, am ei fod yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.

11:8 Na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.

11:9 Hyn a fwytewch o bob dim a'r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch.

11:10 A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.

11:11 Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o'u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.

11:12 Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.

11:13 A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr-wennol;

11:14 A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;

11:15 Pob cigfran yn ei rhyw;

11:16 A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;

11:17 Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,

11:18 A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,

11:19 A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.

11:20 Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.

11:21 Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;

11:22 O'r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a'r selam yn ei ryw, a'r hargol yn ei ryw, a'r hagab yn ei ryw.

11:23 A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.

11:24 Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â'u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.

11:25 A phwy bynnag a ddygo ddim o'u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

11:26 Am bob anifail fydd yn hollti'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo a hwynt.

11:27 Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr. •

11:28 A'r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.

11:29 A'r rhai hyn sydd aflan i chwi o'r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a'r llygoden, a'r llyffant yn ei ryw;

11:30 A'r draenog, a'r lysard, a'r ystelio, a'r falwoden, a'r wadd.

11:31 Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.

11:32 A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân.

11:33 A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o'r rhai hyn i'w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o'i fewn; a thorrwch yntau.

11:34 Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o'r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan.

11:35 Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o'u burgyn arno; y ffwrn a'r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.

11:36 Eto glân fydd y ffynnon a'r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo a'u burgyn, a fydd aflan.

11:37 Ac os syrth dim o'u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.

11:38 Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o'u burgyn hwynt arno ef aflan fydd efe i chwi.

11:39 Ac os bydd marw un anifail a'r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo a'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.

11:40 A'r hwn a fwyty o'i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.

11:41 A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwytaer ef.

11:42 Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd-dra ydynt.

11:43 Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o'u plegid, fel y byddech aflan o'u herwydd.

11:44 Oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

11:45 Canys myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a'ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.

11:46 Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a'r ehediaid, a phob peth byw a'r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a'r sydd yn ymlusgo ar y ddaear,

11:47 I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a'r hwn nis bwyteir.

PENNOD 12
12:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

12:2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan.

12:3 A'r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.

12:4 A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i'r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.

12:5 Ond os ar fenyw yr esgor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.

12:6 A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:

12:7 Ac offrymed efe hynny gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed gymod drosti: a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw.

12:8 Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymered ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn offrwm poeth, a'r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymod drosti; a glân fydd.

PENNOD 13
13:1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

13:2 Dyn (pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd, neu gramen, neu ddisgleirder, a bod yng nghroen ei gnawd ei megis pla'r clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion ef yr offeiriaid.

13:3 A'r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a'r offeiriad a'i hedrych, ac a'i barn yn aflan.

13:4 Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na'r croen, a'i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.

13:5 A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o'r pla yn y croen; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith.

13:6 Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o'r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: cramen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd.

13:7 Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen, wedi i'r offeiriad ei weled, i'w famu yn lân; dangoser ef eilwaith i'r offeiriad.

13:8 Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o'r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.

13:9 Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad;

13:10 Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi'r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd;

13:11 Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan.

13:12 Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o'r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o'i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho'r offeiriad;

13:13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw.

13:14 A'r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.

13:15 Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw.

13:16 Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad:

13:17 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.

13:18 Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a'i iacháu;

13:19 A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a'i ddangos i'r offeiriad:

13:20 Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na'r croen, a'i flewyn wedi troi yn wyn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o'r cornwyd.

13:2l Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.

13:22 Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw etc.

13:23 Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.

13:24 Os cnawd fydd  llosgiad yn y croen, a bod i'r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wyn;

13:11 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is i'w weled na'r croen; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o'r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.

13:26 Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.

13:27 Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.

13:28 Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chwydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.

13:29 Os bydd gŵr neu wraig a phla arno mewn pen neu farf;

13:30 Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os is y gwelir na'r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahanglwyf pen neu farf yw.

13:31 Ac os yr offeiriad a edrych ar bla'r ddufrech; ac wele, ni bydd yn is ei weled na'r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod.

13:32 Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn is gweled y ddufrech na'r croen;

13:33 Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith.

13:34 A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd is ei gweled na'r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.

13:35 Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhau ef;

13:36 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.

13:37 Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.

13:38 Os bydd yng nghroen cnawd gŵr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwynion;

13:39 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe.

13:40 A gŵr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; eto glân fydd.

13:41 Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd talfoel; eto glân fydd efe.

13:42 Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef.

13:43 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd;

13:44 Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a'r offeiriad a'i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.

13:45 A'r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a'i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.

13:46 Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o'r gwersyll.

13:47 Ac os dilledyn fydd a phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin,

13:48 Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;

13:49 Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla'r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i'r offeiriad.

13:50 Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.

13:51 A'r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahanglwyf ysol yw y pla; aflan yw.

13:52 Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlân, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahanglwyf ysol yw efe; llosger yn tân.

13:53 Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;

13:54 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eilwaith.

13:55 Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan, llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o'r tu mewn ai o'r tu allan.

13:56 Ac os edrych yr offeiriad; ac wele'r pla yn odywyll, ar ôl ei olchi; yna torred ef allan o'r dilledyn, neu o'r croen, neu o'r ystof, neu o'r anwe.

13:57 Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.

13:58 A'r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd.

13:59 Dyma gyfraith pla gwahanglwyf, mewn dilledyn gwlân, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i'w farnu yn lân, neu i'w farnu yn aflan.

PENNOD 14
14:1 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

14:2 Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at y offeiriad:

14:3 A'r offeiriad a ddaw allan o'r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla'r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus;

14:4 Yna gorchmynned yr offeiriad i'r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.

14:5 A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi at ddwfr rhedegog.

14:6 A chymered efe yr aderyn byw, a'r coed cedr, a'r ysgarlad, a'r isop, a throched hwynt a'r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.

14:7 A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.

14:8 A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i'r gwersyll, a thriged o'r tu allan i'w babell saith niwrnod.

14:9 A'r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a'i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.

14:10 A'r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith-gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith-gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o blew.

14:11 A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

14:12 A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

14:13 A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech-aberth, a'r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo'r offeiriad, yn fytogystal â’r pech-aberth: sancteiddiolaf yw.

14:14 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef.

14:15 A chymered yr offeiriad o'r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:

14:16 A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o'r olew a'i fys seithwaith gerbron yr ARGLWYDD.

14:17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.

14:18 A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr ARGLWYDD.

14:19 Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm.

14:20 Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a'r bwyd-offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd.

14:21 Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i'w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd-offrwm, a log o olew;

14:22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech-aberth, a'r llall yn boethoffrwm.

14:23 A dyged hwynt yr wythfed dydd i'w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD.

14:24 A echymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

14:25 A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.

14:26 A thywallted yr offeiriad o'r olew ar gledr ei law aswy ei hun:

14:27 Ac a'i fys deau taenelled yr offeiriad o'r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr ARGLWYDD.

14:28 A rhodded yr offeiriad o'r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.

14:29 A'r rhan arall o'r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr ARGLWYDD.

14:30 Yna offrymed un o'r turturau, neu o'r cywion colomennod, sef o'r rhai a gyrhaeddo ei law ef;

14:31 Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, ynghyd â'r bwyd-offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr ARGLWYDD.

14:32 Dyma gyfraith yr un y byddo pla'r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i'w lanhad.

14:33 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

14:34 Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;

14:35 A dyfod o'r hwn biau'r ty, a dangos i'r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:

14:36 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi'r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla, fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ,

14:37 Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a'r olwg arnynt yn is na'r pared,

14:38 Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.

14:39 A'r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ,

14:40 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu'r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i le aflan.

14:41 A phared grafu'r tŷ o'i fewn o amgylch, a thywalltant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

14:42 A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.

14:43 Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;

14:44 Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.

14:45 Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a'i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i'r tu allan i'r ddinas i le aflan.

14:46 A'r hwn a ddêl i'r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.

14:47 A'r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad.

14:48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo'r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla.

14:49 A chymered i lanháu y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop.

14:50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.

14:51 A chymered y coed cedr, a'r isop, a'r ysgarlad, a'r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith.

14:52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â'r coed cedr, ac â'r isop, ac â'r ysgarlad.

14:53 A gollynged yr aderyn byw allan o'r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.

14:54 Dyma gyfraith am bob pla'r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,

14:55 Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ,

14:56 Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb;

14:57 I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.

PENNOD 15
15:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

15:2 Llefarwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt. Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o'i gnawd, a fydd aflan oblegid ei ddiferlif.

15:3 A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif: os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif, neu ymatal o'i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif; ei aflendid ef yw hyn.

15:4 Pob gwely y gorweddo ynddo un diferllyd, a fydd aflan; ac aflan fydd pob peth yr eisteddo efe arno.

15:5 A'r neb a gyffyrddo â'i wely ef, golched ei ddillad, ac ymdroched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:6 A'r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:7 A'r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:8 A phan boero'r diferllyd ar un glân, golched hwnnw ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:9 Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo'r diferllyd ynddo.

15:10 A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano, bydd aflan hyd yr hwyr: a'r hwn a'u dyco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:11 A phwy bynnag y cyffyrddo'r dierllyd ag ef, heb olchi ei ddwylo mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:12 A'r llestr pridd y cyffyrddo'r diferllyd ag ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.

15:13 A phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i'w lanhau, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog, a glân fydd.

15:14 A'r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a deued gerbron yr ARGLWYDD, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i'r offeiriad.

15:15 Ac offrymed yr offeiriad hwynt, un yn bech-aberth, a'r llall yn boethoffrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei ddiferlif, gerbron yr ARGLWYDD.

15:16 Ac os gŵr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:17 A phob dilledyn, a phob croen, y byddo disgyniad had arno, a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.

15:18 A'r wraig y cysgo gŵr mewn disgyniad had gyda hi; ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau.

15:19 A phan fyddo gwraig â diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth: a phwy bynnag a gyffyrddo â hi, bydd aflan hyd yr hwyr.

15:20 A'r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth, fydd aflan; a'r hyn oll yr eisteddo hi arno, a fydd aflan.

15:21 A phwy bynnag a gyffyrddo â'i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:22 A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:23 Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan.

15:24 Ond os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi, fel y byddo o'i misglwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.

15:25 A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.

15:26 Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei misglwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei misglwyf hi.

15:27 A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd, a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

15:28 Ac os glanheir hi o'i diferlif; yna cyfrifed iddi saith niwrnod: ac wedi hynny glân fydd.

15:29 A'r wythfed dydd cymered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

15:30 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech-aberth, a'r llall yn boethoffrwm; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr ARGLWYDD, am ddiferlif ei haflendid.

15:31 Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.

15:32 Dyma gyfraith yr hwn y byddo'r diferlif arno, a'r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had, fel y byddo aflan o'u herwydd;

15:33 A'r glaf o'i misglwyf, a'r neb y byddo'r diferlif arno, o wryw, ac o fenyw, ac i'r gŵr a orweddo ynghyd â'r hon a fyddo aflan.

PENNOD 16
16:1 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr ARGLWYDD, ac y buant feirw,

16:2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i'r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl.

16:3 A hyn y daw Aaron i'r cysegr: â bustach ieuanc yn bech-aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm.

16:4 Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.

16:5 A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.

16:6 Ac offrymed Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.

16:7 A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

16:8 A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr ARGLWYDD, a'r coelbren arall dros y bwch dihangol.

16:9 A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac offrymed ef yn bech-aberth.

16:10 A'r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod ag ef, ac i'w ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.

16:11 A dyged Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun:

16:12 A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr ARGLWYDD, a llonaid ei ddwylo o arogl-darth peraidd man, a dyged o fewn y wahanlen:

16:13 A rhodded yr arogl-darth ar y tân, gerbron yr ARGLWYDD; fel y cuddio mwg yr arogl-darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:

16:14 A chymered o waed y bustach, a thaenelled â'i fys ar y drugareddfa tua'r dwyrain: a saith waith y taenella efe o'r gwaed â'i fys o flaen y drugareddfa.

16:15 Yna lladded fwch y pech-aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed a'i waed megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:

16:16 A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt.

16:17 Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymodod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel.

16:18 Ac aed efe allan at yr allor sydd gerron yr ARGLWYDD, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

16:19 A thaenelled arni o'r gwaed seithwaith â'i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.

16:20 A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a'r allor, dyged y bwch byw:

16:21 A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i'r anialwch.

16:22 A'r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i'r anialwch.

16:23 Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i'r cysegr, a gadawed hwynt yno.

16:24 A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl.

16:25 A llosged wêr y pech-aberth ar yr allor.

16:26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i'r gwersyll.

16:27 A bustach y pech-aberth, a bwch y bech-aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i'r tu allan i'r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a'u cnawd, a'u biswail, yn tân.

16:28 A golched yr hwn a'u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i'r gwersyll.

16:29 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.

16:30 Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i'ch glanhau o'ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr ARGLWYDD.

16:31 Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.

16:32 A'r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a'r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna'r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd:

16:33 Ac a lanha'r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a'r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa.

16:34 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oil, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

PENNOD 17
17:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,  

17:2 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,  

17:3 Pob un o dŷ Israel a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o'r gwersyll,  

17:4 Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i'r ARGLWYDD, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl.     

17:5 Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i'r ARGLWYDD, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i'r ARGLWYDD.  

17:6 A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.  

17:7 Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.  

17:8  Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o'r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth,  

17:9 Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i'w offrymu i'r ARGLWYDD; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.  

17:10 51 A phwy bynnag o dŷIsrael, ac o'r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.  

17:11 Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a'i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gyfaod dros yr enaid.  

17:12 Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a'r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed.  

17:13 A phwy bynnag o feibion Israel, neu o'r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch.  

17:14 Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a'i bwytao, a dorrir ymaith.  

17:15 A phob dyn a'r a fwytao'r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.  

17:16 Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

PENNOD 18
18:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

18:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw.

18:3 Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.

18:4 Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw.

18:5 Ie, cedwch fy neddfau a'm barnedigaethau: a'r dyn a'u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr ARGLWYDD.

18:6 Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd , i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr ARGLWYDD.

18:7 Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.

18:8 Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw.

18:9 Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt.

18:10 Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw.

18:11 Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi.

18:12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi.

18:13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi.

18:14 Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi.

18:15 Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi.

18:16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw.

18:17 Na noetha noethni gwraig a'i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch wi merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn.

18:18 Hefyd na chymer wraig ynghyd â'i chwaer, i'w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda'r llall, yn ei byw hi.

18:19 Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.

18:20 Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o'i phlegid.

18:21 Ac na ddod o'th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy DDUW: myfi yw yr ARGLWYDD.

18:22 Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd-dra yw hynny.

18:23 Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.

18:24 Nac ymhalogwch yn yr un o'r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o'ch blaen chwi:

18:25 A'r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â'i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo'r wlad ei thrigolion.

18:26 Ond cedwch chwi fy neddfau a'm barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na'r priodor, na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg:

18:27 (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a'r wlad a halogwyd;)

18:28 Fel na chwydo'r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o'ch blaen.

18:29 Canys pwy bynnag a wnêl ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a'u gwnelo o blith eu pobl.

18:30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wmeuthur yr un o'r deddfau ffiaidd a wnaed o'ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.

PENNOD 19
19:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

19:2 Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

19:3 Ofnwch bob un ei fam, a'i dad; a chedwch fy Sabothau: yr ARGLWYDD eich Duw ydwyf fi.

19:4 Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr ARGLWYDD eich Duw ydwyf fi.

19:5 A phan aberthoch hedd-aberth i'r ARGLWYDD, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.

19:6 Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.

19:7 Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe, ni bydd gymeradwy.

19:8 A'r hwn a'i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr ARGLWYDD; a'r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.

19:9 A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ae na chynnull loffion dy gynhaeaf.

19:10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr: yr ARGLWYDD eich Duw chwi ydwyf fi.

19:11 Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.

19:12 Ac na thyngwch i'm henw i yn anudon, ac na haloga enw dy DDUW; yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:13 Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.

19:14 Na felltiga'r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy DDUW: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:15 Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.

19:16 Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog; yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:17 Na chasa dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.

19:18 Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond car dy gymydog megis ti dy hun: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:19 Cedwch fy neddfau: na ad i'th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.

19:20 A phan fyddo i ŵr a wnelo a benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.

19:21 A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i'r ARGLWYDD, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd.

19:22 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â'r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr ARGLWYDD, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.

19:23 A phan ddeloch i'r tir, a phlannu ohonoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi: na fwytaer ohono.

19:24 A'r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr ARGLWYDD ag ef.

19:25 A'r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw.

19:26 Na fwytewch ddim ynghyd â'i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.

19:27 Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf.

19:28 Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:29 Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio'r tir, a llenwi'r wlad o ysgelerder.

19:30 Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:31 Nac ewch ar ôl dewiniaid, a nac ymofynnwch â'r brudwyr, i ymhalogi o'u plegid: yr ARGLWYDD eich ydwyf fi.

19:32 Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy DDUW: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

19:33 A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef.

19:34 Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr ARGLWYDD eich Duw ydwyf fi.

19:35 Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur.

19:36 Bydded i chwi gloriannau cyfian, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr ARGLWYDD eich Duw ydwyf fi. yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft.

19:37 Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

PENNOD 20
20:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

20:2 Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o'r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a'i llabyddiant ef â cherrig.

20:3 A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.

20:4 Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch, ac nis lladdant ef:

20:5 Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.

20:6 A'r dyn a dro ar ôl deiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

20:7 Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

20:8 Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr ARGLWYDD eich sancteiddydd.

20:9 Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.

20:10 A'r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig.

20:11 A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

20:12 Am y gŵr a orweddo ynghyd â'i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

20:13 A'r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd-dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

20:14 Y gŵr a gymero wraig a'i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.

20:15 A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.

20:16 A'r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a'r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

20:17 A'r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.

20:18 A'r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o’i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.

20:19  Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.

20:20 A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi-blant.

20:21 A'r gwr^ a gymero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di-blant fyddant.

20:22 Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo'r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.

20:23 Ac na rodiwch yn neddfau'r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o'ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.

20:24 Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a'i rhoddaf i chwi i'w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi, yr hwn a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill.

20:25 Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a'r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a'r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i'w gyfrif yn aflan.

20:26 Byddwch chwithau sanctaidd i mi: oherwydd myfi yr ARGLWYDD ydwyf sanctaidd, ac a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.

20:27 Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

PENNOD 21
21:1 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl.

21:2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd,

21:3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi.

21:4 Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i’w aflanhau ei hun.

21:5 Na wnant foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd.

21:6 Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.

21:7 Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w DDUW.

21:8 A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy DDUW di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr ARGLWYDD eich sancteiddydd.

21:9 i§I Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân.

21:10 A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad:

21:11 Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam:

21:12 Ac nac aed allan o’r cysegr, ac na haloged gysegr ei DDUW; am fod coron olew eneiniad ei DDUW arno ef; myfi yw yr ARGLWYDD.

21:13 A chymered efe wraig yn ei morwyndod.

21:14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig.

21:15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr ARGLWYDD ei sancteidd-ydd ef.

21:16 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

21:17 Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu bara ei DDUW:

21:18 Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesau; y gŵr dall, neu’r cloff, neu’r trwyndwn, neu’r neb y byddo dim gormod ynddo;

21:19 Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don;

21:20 Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gor, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin.

21:21 Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD; anaf sydd arno; na nesaed i offrymu bara ei DDUW.

21:22 Bara ei DDUW, o’r pethau sanctaidd cysegredig, ac o’r pethau cysegredig, a gaiff efe ei fwyta.

21:23 Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr ARGLWYDD eu sancteiddydd hwynt.

21:24 A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.

PENNOD 22
22:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

22:2 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr ARGLWYDD.

22:3 Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r ARGLWYDD, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr ARGLWYDD.

22:4 Na fwytaed neb o hiliogaeth Aarono’r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi v/rth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;

22:5 Na’r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno:

22:6 A’r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.

22:7 A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn.

22:8 Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr ARGLWYDD.

22:9 Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr ARGLWYDD eu sancteiddydd hwynf.

22:10 Ac na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta’r peth cysegredig.

22:11 Ond pan bryno’r offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef.

22:12 A merch yr offeiriad, pan; fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig.

22:13 Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, megis yn ei hieuenctid; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono.

22:14 A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad.

22:15 Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymant i’r ARGLWYDD.

22:16 Ac na wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd, pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt: oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu sancteiddydd.

22:17 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth. Moses, gan ddywedyd,

22:18 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, a ac o ddieithr yn Israel, a offrymo ei offwrn yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymasant i’r ARGLWYDD yn boethoffrwm;

22:19 Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwryw perffaith-gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr.

22:20 Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch.

22:21 A phan offrymo gŵr aberth hedd i’r ARGLWYDD, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffaith-gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno.

22:22 Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadennog, neu’r crachlyd, neu’f clafrllyd, nac offrymwch hwy i’r ARGLWYDD, ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr ARGLWYDD.

22:23 A’r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymu yn offrwrn gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymeradwy.

22:24 Nac offrymwch i’r ARGLWYDD ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth.

22:25 Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn; canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.

22:26 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

22:27 Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

22:28 Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd.

22:29 A phan aberthoch aberth diolch i’r ARGLWYDD, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain.

22:30 Y dydd hwnnw y bwyteir ef; na weddiiwch ohono hyd y bore: myfi yw yr ARGLWYDD.  

22:31 Cedwch chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr ARGLWYDD.

22:32 Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel:  myfi yw yr ARGLWYDD eich sancteiddydd, 

22:33 Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: myfi yw yr ARGLWYDD. 

PENNOD 23
23:1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, hefyd

23:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr ARGLWYDD, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.

23:3 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r ARGLWYDD yn eich holl drigfannau.

23:4 Dyma wyliau yr ARGLWYDD, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor.

23:5 O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr ARGLWYDD.

23:6 A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r ARGLWYDD: saith niwrnod y bwytewch fara croyw.

23:7 Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.

23:8 Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r ARGLWYDD saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.

23:9 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,

23:10 Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.

23:11 Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr ARGLWYDD, i’ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi.

23:12 Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith-gwbl, yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD.

23:13 A’i fwyd-offrwm o ddwy ddegfed o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD, yn arogl peraidd; a'i ddiod-offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin.

23:14 Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwrn eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.

23:15 A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth, o’r dydd y dygoch ysgub| y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant:

23:16 Hyd drannoeth wedi'r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd-offrwm newydd i'r ARGLWYDD.

23:17 A dygwch o'ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i'r ARGLWYDD.

23:18 Ac offrymwch gyda'r bara saith oen biwyddiaid, perffaith-gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i'r ARGLWYDD fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd-offrwm â'u diod-offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

23:19 Yna aberthwch un bwch geifr yn bech-aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

23:20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara'r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, ynghyf â'r ddau oen: cysegredig i'r ARGLWYDD ac eiddo'r offeiriad fyddant.

23:21 A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.

23:22 A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

23:23 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

23:24 Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd.

23:25 Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r ARGLWYDD.

23:26 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

23:27 Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i'r ARGLWYDD. ,

23:28 Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.

23:29 Canys pob enaid a'r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

23:30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.

23:31 Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.

23:32 Saboth gorffwystra yw efe i chwi, i ystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o'r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.

23:33 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gan ddywedyd.

23:34 Llefara wrth feibion Israel, gan i ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis hwn y bydd gwŷl y pebyll saith niwrnod i'r ARGLWYDD.

23:35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.

23:36 Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i'r ARGLWYDD : uchel ŵyl yw hi, na wnewch a ddim caethwaith.

23:37 Dyma wyliau yr ARGLWYDD, y rhai a cyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i'r ARGLWYDD aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd-offrwm, aberth, a diod-offrwm; pob peth yn ei ddydd:

23:38 Heblaw Sabothau yr ARGLWYDD, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i’r ARGLWYDD.

23:39 Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i’r ARGLWYDD saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.

23:40 A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw saith niwrnod.

23:41 A chedwch hon yn ŵyl i’r ARGLWYDD saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.

23:42 Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod:

23:43 Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw.

23:44 A thraethodd Moses wyliau yr ARGLWYDD wrth feibion Israel.

PENNOD 24
24:1 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

24:2 Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i’r goleun i beri i’r lampau gynnau bob amser.

24:3 O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr ARGLWYDD, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.

24:4 Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr ARGLWYDD bob amser.

24:5 A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.

24:6 A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr ARGLWYDD.

24:7 A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.

24:8 Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr ARGLWYDD bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.

24:9 A bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, trwy ddeddf dragwyddol.

24:10 A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o’r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll.

24:11 A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr ARGLWYDD, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.

24:12 A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr ARGLWYDD beth a wnaent.

24:13 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

24:14 Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef.

24:15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei DDUW, a ddwg ei bechod.

24:16 A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr ARGLWYDD; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw yr ARGLWYDD.

24:17 A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.

24:18 A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.

24:19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:

24:20 Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.

24:21 A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.

24:22 Bydded un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich Duw.

24:23 II A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

PENNOD 25
25:1 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,

25:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i’r ARGLWYDD.

25:3 Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.

25:4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir, sef Saboth i’r ARGLWYDD: na heua dy faes, ac na thor dy winllan.

25:5 Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist; bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir.

25:6 Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch; ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi.

25:7 I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

25:8 Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain. 

25:9 Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad.

25:10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu.

25:11 Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd.

25:12 Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi.

25:13 O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth.

25:14 Pan werthech ddim i’th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd.

25:15 Pryn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.

25:16 Yn ôl amidra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.

25:17 Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy DDUW: canys myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

25:18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel.

25:19 Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel.

25:20 Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:

25:21 Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.

25:22 A’r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwytewch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, bwytewch o’r hen.

25:23 A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi.

25:24 Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir.

25:25 Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o’i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng, yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd.

25:26 Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo, a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng:

25:27 Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth.

25:28 Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili; ac yn y jiwbili yr a yn rhydd, ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth.

25:29 A phan wertho gŵr dy annedd o fewn dinas gaerog, yna bydded ei ollyngdod hyd ben biwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.

25:30 Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i’r neb a’i prynodd, ac i’w hiliogaeth: nid a yn rhydd yn y jiwbili.

25:31 Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd.

25:32 Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser.

25:33 Ac os pryn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel.

25:34 Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.

25:35 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o’i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud.

25:36 Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy DDUW: a gad i’th frawd fyw gyda thi.

25:37 Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.

25:38 Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn DDUW i chwi.

25:39 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a’i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.

25:40 Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi.

25:41 Yna aed oddi wrthyt ti, efe a’i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.

25:42 Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.

25:43 Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy DDUW.

25:44 A chymer dy wasanaethwr, a’th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.

25:45 A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o’r rhai hyn, ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.

25:46 Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl, i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.

25:47 A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi, ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a’i werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn:

25:48 Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd;

25:49 Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a’i gollwng ef yn rhydd; neu un o’i gyfnesaf ef, o’i dylwyth ei hun, a’i gollwng yn rhydd, neu, os ei law a gyrraedd, gollynged efe ef ei hun.

25:50 A chyfrifed â’i brynwr, o’r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jiwbili a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi’r blynyddoedd, megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef.

25:51 Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.

25:52 Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili, pan gyfrifo a ef; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.

25:53 Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.

25:54 Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jiwbili, efe a’i blant gydag ef.

25:55 Canys gweision i mi yw meibion Israel; fy ngweision ydynt, y rhai a ddygais o dir yr Aifft: myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

PENNOD 26
26:1
Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi.

26:2 Fy Sabothau i a gedwch, a’m cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr ARGLWYDD.

26:3 Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchmynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt;

26:4 Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.

26:5 A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel.

26:6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid a cleddyf trwy eich tir.

26:7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.

26:8 A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf.

26:9 A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.

26:10 A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.

26:11 Rhoddaf hefyd fy nhabernaci yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.

26:12 A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn DDUW i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.

26:13 Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.

26:14 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn;

26:15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod;

26:16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwyty:

26:17 Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.

26:18 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau.

26:19 A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a’ch tir chwi fel pres:

26:20 A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.

26:21 Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.

26:22 Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddi-blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleiha chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.

26:23 Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;

26:24 Yna y rhodiaf finnau yn y gwrth­wyneb i chwithau, a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.

26:25 A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.

26:26 A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni’ch digonir chwi.

26:27 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;

26:28 Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau.

26:29 A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch.

26:30 Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.

26:31 A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.

26:32 A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd.

26:33 Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a’ch tir fydd ddiffeithwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.

26:34 Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelyn­ion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau.

26:35 Yr holl ddyddiau y byddo yn ddi­ffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.

26:36 A’r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelyn­ion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.

26:37 A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.

26:38 Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwyty.

26:39 A’r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant.

26:40 Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi,

26:41 A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion, os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth:

26:42 Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a’m cyfamod hefyd ag Isaac, a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf, ac a gofiaf y tir hefyd.

26:43 A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau.

26:44 Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfamod a hwynt: oherwydd myfi ydyw yr ARGLWYDD eu Duw hwynt.

26:45 Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn DDUW: myfi ydwyf yr ARGLWYDD.

26:46 Dyma’r deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr ARGLWYDD rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.

PENNOD 27
27:1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

27:2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt. Pan addunedo neb adduned neilltuol, y dynion fydd eiddo yr ARGLWYDD, yn dy bris di.

27:3 A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr.

27:4 Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.

27:5 Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

27:6 A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian, ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian.

27:7 Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

27:8 Ond os tlotach fydd efe na’th bris di, yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia’r offeiriad ef.

27:9 Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r ARGLWYDD, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r ARGLWYDD, sanctaidd fydd.

27:10 Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newida i anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd,

27:11 Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r ARGLWYDD; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad:

27:12 A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.

27:13 Ac os efe gan brynu a’i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei burned ran yn i ychwaneg.

27:14 A phan sancteiddio gŵr ei dŷyn sanctaidd i’r ARGLWYDD; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif.

27:15 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.

27:16 Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r ARGLWYDD; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.

27:17 Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif.

27:18 Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant
yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer dy bris di.

27:19 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef.

27:20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall, ni cheir ei ollwng mwy.

27:21 A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i’r arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad.

27:22 Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r arglwydd,

27:23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili, a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r arglwydd, y dydd hwnnw.

27:24 Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.

27:25 A phob pris i ti fydd wrth sic! y cysegr: ugain gera fydd y sicl.

27:26 Ond y cyntaf-anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i’r arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr arglwydd yw efe.

27:27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.

27:28 Ond pob diofryd-beth a ddiofrydo un i’r arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd-beth sydd sancteiddiolaf i’r arglwydd.

27:29 Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.

27:30 A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr ARGLWYDD a’u piau: cysegredig i’r ARGLWYDD yw.

27:31 Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato.

27:32 A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i’r ARGLWYDD.

27:33 Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig, ni ellir ei ollwng yn rhydd.

27:34 Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.


 
DIWEDD
 
Adolygiadau diweddaraf:  02 02 2003
Sumbolau arbennig: ŷŵ
 
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
Edrychwych ar fy ystadegau