1531k
Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia
Website. Y
Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès
de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy
Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_micha_01_1531k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
1532ke Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
·····
PENNOD 1
1:1
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas,
a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem.
1:2 Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a
bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.
1:3 Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod o'i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a
sathr ar uchelderau y ddaear.
1:4 A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholltant fel
cŵyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered.
1:5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac
am bechodau tŷ
1:7 A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau
a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr
putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.
1:8 Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf
alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan.
1:9 Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth
hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
PENNOD 2
2:1 Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo
ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ui eu dwylo.
2:2 Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau,
ac a'u dygant: gorthrymant hefyd w^r a'i dŷ , dyn a'i etifeddiaeth.
2:4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar
gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd
y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.
2:6 Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni
phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.
2:7 O yr hon a elwir tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai
dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau i'r neb a rodio yn uniawn?
2:8 Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y
dilledyn gyda'r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn
dychwelyd o ryfel.
2:9 Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a
dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth.
PENNOD 3
3:1 Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg,
penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ
3:2 Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu
croen oddi amdanynt, a'u cig oddi wrth eu hesgyrn;
3:3 Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi
amdanynt, a'u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig
yn y badell.
3:4 Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac
3:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy
mhobl, y rhai a frathant â'u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a'r neb ni roddo yn
eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn.
3:7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a waradwyddir;
ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd DUW ateb.
3:8 Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn
a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i
3:9 Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion
tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb.
PENNOD 4
1:4 A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd
tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a
ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato.
4:2 A.chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny
i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd,
ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr
ARGLWYDD o Jerwsalem.
4:3 Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd
cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn
bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel
mwyach.
4:4 Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb
neb i'w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a'i llefarodd.
4:5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a
ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd.
4:6 Yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y casglaf y gloff, ac y
cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:
4:7 A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl
gref; a'r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
4:8 A thithau, tw^r y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw,
ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.
4:9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu
am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor.
PENNOD 5
5:1 Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin;
gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr
5:2 A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd
Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn
5:3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon
a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel,
5:4 Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn
ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe
a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.
5:5 A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan
sathru o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r
dynion pennaf.
5:6 A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â'i
gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir,
a phan sathro o fewn ein terfynau.
5:7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith
oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn,
ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
5:8 A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl
lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y
diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd
achubydd.
5:9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a
dorrir ymaith.
5:10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy
feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:
5:11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl
amddiffynfeydd:
5:12 A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:
5:13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th
blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:
5:14 Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd, a dinistriaf dy
ddinasoedd.
PENNOD 6
6:1 Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed
yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.
6:2 Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gw^yn yr
ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag
6:3 Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais ?
tystiolaetha i'm herbyn.
6:5 Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha
ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod
cyfiawnder yr ARGLWYDD.
6:6 A pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr
uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethonrymau, ac â dyniewaid?
6:7 A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd oi feheryn, neu â myrddiwn o
ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy
nghroth dros bechod fy enaid?
6:8 Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr
ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio
gyda'th DDUW?
6:9 Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw:
gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.
PENNOD 7
7:1 Gwae fi!
canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf
gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth
cyntaf.
7:2 Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith
dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.
7:3 I wneuthur drygioni â'r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a'r
barnwr am wobr; a'r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y
plethant ef.
7:4 Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae
drain; dydd dy wylwyr, a'th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth
hwynt.
7:5 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy
enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes.
7:6 Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a'r
waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gw^r yw dynion ei dŷ .
7:7 Am hynny mi a edrychaf ar yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth DDUW fy
iachawdwriaeth: fy NUW a'm gwrendy.
7:8 Na lawenycha i'm herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan
eisteddwyf mewn tywyllwch, yr ARGLWYDD a lewyrcha i mi.
7:9 Dioddefaf ddig yr ARGLWYDD, canys pechais i'w erbyn; hyd oni
ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a
welaf ei gyfiawnder ef.
7:10 A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon
a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach
y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd.
7:11 Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y
ddeddf.
7:12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o'r dinasoedd
cedyrn, ac o'r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.
______________________________________________________________
DIWEDD
Adolygiad diweddaraf / Darrera
actualització / Latest update
2006-09-04
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
o ymwelwyr i’r Adran hon (Y Beibl Cymraeg) oddi ar 1 Medi 2005
Edrychwych ar fy
ystadegau