1533ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website.
Y Beibl Cysegr-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun
ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh.
The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_003_beibl_nahum_34_1533ke.htm
0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
|
Gwefan
Cymru-Catalonia The Holy Bible: |
(delw
6540) Adolygiad diweddaraf – latest
update 08 02 2003 |
1530k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig
·····
PENNOD 1
1:1
Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
1:1 The burden of
Nineveh. The book of the vision of Nahum the Elkoshite.
1:2
DUW sydd eiddigus, a'r ARGLWYDD sydd yn dial, yr ARGLWYDD sydd yn dial, ac yn
berchen llid: dial yr ARGLWYDD ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w
elynion.
1:2 God is jealous,
and the LORD revengeth; the LORD revengeth, and is furious; the LORD will take
vengeance on his adversaries, and he reserveth wrath for his enemies.
1:3
Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr
ARGLWYDD sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch
ei draed ef.
1:3 The LORD is
slow to anger, and great in power, and will not at all acquit the wicked: the
LORD hath his way in the whirlwind and in the storm, and the clouds are the
dust of his feet.
1:4
Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd
Basan a Channel, a llesgaodd blodeuyn Libanus.
1:4 He rebuketh
the sea, and maketh it dry, and drieth up all the rivers: Bashan languisheth,
and Carmel, and the flower of Lebanon languisheth.
1:5
Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei
olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
1:5 The
mountains quake at him, and the hills melt, and the earth is burned at his
presence, yea, the world, and all that dwell therein.
1:6
Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef?
ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.
1:6 Who can
stand before his indignation? and who can abide in the fierceness of his anger?
his fury is poured out like fire, and the rocks are thrown down by him.
1:7
Daionus yw yr ARGLWYDD, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a
ymddiriedant ynddo.
1:7 The LORD is
good, a strong hold in the day of trouble; and he knoweth them that trust in
him.
1:8
A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a
erlid ei elynion ef.
1:8 But with an
overrunning flood he will make an utter end of the place thereof, and darkness
shall pursue his enemies.
1:9
Beth a ddychmygwch yn erbyn yr ARGLWYDD? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder
ddwywaith.
1:9 What do ye
imagine against the LORD? he will make an utter end: affliction shall not rise
up the second time.
1:10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a
thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
1:10 For while
they be folden together as thorns, and while they are drunken as drunkards,
they shall be devoured as stubble fully dry.
1:11
Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr ARGLWYDD: cynghorwr
drygionus.
1:11 There is
one come out of thee, that imagineth evil against the LORD, a wicked
counsellor.
1:12
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn
y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.
1:12 Thus saith
the LORD; Though they be quiet, and likewise many, yet thus shall they be cut
down, when he shall pass through. Though I have afflicted thee, I will afflict
thee no more.
1:13
Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.
1:13 For now
will I break his yoke from off thee, and will burst thy bonds in sunder.
1:14
Yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd o'th blegid, na heuer o'th enw mwyach: torraf o
dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael
ydwyt.
1:14 And the
LORD hath given a commandment concerning thee, that no more of thy name be
sown: out of the house of thy gods will I cut off the graven image and the
molten image: I will make thy grave; for thou art vile.
1:15
Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch; cadw di, O Jwda, dy
wyliau, tâl dy addunedau; canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef
ymaith.
1:15 Behold
upon the mountains the feet of him that bringeth good tidings, that publisheth
peace! O Judah, keep thy solemn feasts, perform thy vows: for the wicked shall
no more pass through thee; he is utterly cut off.
PENNOD 2
2:1
Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd,
nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr.
2:1 He that
dasheth in pieces is come up before thy face: keep the munition, watch the way,
make thy loins strong, fortify thy power mightily.
2:2
Canys dychwelodd yr ARGLWYDD ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd
Israel: canys y dihysbyddwyr a'u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau
gwinwydd.
2:2 For the
LORD hath turned away the excellency of Jacob, as the excellency of Israel: for
the emptiers have emptied them out, and marred their vine branches.
2:3
Tarian ei wŷ r grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷ r o ryfel a wisgwyd ag
ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a'r
ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol.
2:3 The shield
of his mighty men is made red, the valiant men are in scarlet: the chariots
shall be with flaming torches in the day of his preparation, and the fir trees
shall be terribly shaken.
2:4
Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y
prifyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.
2:4 The
chariots shall rage in the streets, they shall justle one against another in
the broad ways: they shall seem like torches, they shall run like the
lightnings.
2:5 Efe a gyfrif ei weision gwychion;
tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a baratoir.
2:5 He shall
recount his worthies: they shall stumble in their walk; they shall make haste
to the wall thereof, and the defence shall be prepared.
2:6
Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddetyd.
2:6 The gates
of the rivers shall be opened, and the palace shall be dissolved.
2:7
A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a'i morynion yn ei harwain megis â
llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau.
2:7 And Huzzab
shall be led away captive, she shall be brought up, and her maids shall lead
her as with the voice of doves, tabering upon their breasts.
2:8 A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn
o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl.
2:8 But Nineveh
is of old like a pool of water: yet they shall flee away. Stand, stand, shall
they cry; but none shall look back.
2:9
Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a'r
gogoniant o bob dodrefn dymunol.
2:9 Take ye the
spoil of silver, take the spoil of gold: for there is none end of the store and
glory out of all the pleasant furniture.
2:10
Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro
ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'u hwynebau oll a gasglant barddu.
2:10 She is
empty, and void, and waste: and the heart melteth, and the knees smite
together, and much pain is in all loins, and the faces of them all gather
blackness.
2:11
Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew,
sef yr hen lew, a'r cenau llew, ac nid oedd a'u tarfai?
2:11 Where is
the dwelling of the lions, and the feedingplace of the young lions, where the
lion, even the old lion, walked, and the lion's whelp, and none made them
afraid?
2:12
Y llew a ysglyfaethodd ddigon i'w genawon, ac a dagodd i'w lewesau, ac a
lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a'i loches ag ysbail.
2:12 The lion
did tear in pieces enough for his whelps, and strangled for his lionesses, and
filled his holes with prey, and his dens with ravin.
2:13
Wele fi yn dy erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y
mwg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o'r ddaear dy
ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.
2:13 Behold, I
am against thee, saith the LORD of hosts, and I will burn her chariots in the
smoke, and the sword shall devour thy young lions: and I will cut off thy prey
from the earth, and the voice of thy messengers shall no more be heard.
PENNOD 3
3:1
Gwae ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a'r ysglyfaeth heb
ymado.
3:1 Woe to the
bloody city! it is all full of lies and robbery; the prey departeth not;
3:2 Bydd sw^n y ffrewyll, a sw^n cynnwrf
olwynion, a'r march yn prancio, a'r cerbyd yn neidio.
3:2 The noise
of a whip, and the noise of the rattling of the wheels, and of the prancing
horses, and of the jumping chariots.
3:3 Y marchog sydd yn codi ei gleddyf
gloyw, a'i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a
heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt:
3:3 The
horseman lifteth up both the bright sword and the glittering spear: and there
is a multitude of slain, and a great number of carcases; and there is none end
of their corpses; they stumble upon their corpses:
3:4 Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres
swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei
swynion.
3:4 Because of
the multitude of the whoredoms of the wellfavoured harlot, the mistress of
witchcrafts, that selleth nations through her whoredoms, and families through
her witchcrafts.
3:5
Wele fi i'th erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb,
a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.
3:5 Behold, I
am against thee, saith the LORD of hosts; and I will discover thy skirts upon
thy face, and I will show the nations thy nakedness, and the kingdoms thy
shame.
3:6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a
gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.
3:6 And I will
cast abominable filth upon thee, and make thee vile, and will set thee as a
gazingstock.
3:7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi
wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y
ceisiaf ddiddanwyr i ti?
3:7 And it
shall come to pass, that all they that look upon thee shall flee from thee, and
say, Nineveh is laid waste: who will bemoan her? whence shall I seek comforters
for thee?
3:8
Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a
amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?
3:8 Art thou
better than populous No, that was situate among the rivers, that had the waters
round about it, whose rampart was the sea, and her wall was from the sea?
3:9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r
Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.
3:9 Ethiopia
and Egypt were her strength, and it was infinite; Put and Lubim were thy
helpers.
3:10
Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a
ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i
holl wŷ r mawr a rwymwyd mewn gefynnau.
3:10 Yet was
she carried away, she went into captivity: her young children also were dashed
in pieces at the top of all the streets: and they cast lots for her honourable
men, and all her great men were bound in chains.
3:11
Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.
3:11 Thou also
shalt be drunken: thou shalt be hid, thou also shalt seek strength because of
the enemy.
3:12
Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt: os
ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr.
3:12 All thy
strong holds shall be like fig trees with the firstripe figs: if they be
shaken, they shall even fall into the mouth of the eater.
3:13
Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elyn-ion;
tân a ysodd dy farrau.
3:13 Behold,
thy people in the midst of thee are women: the gates of thy land shall be set
wide open unto thine enemies: the fire shall devour thy bars.
3:14
Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y
clai, cryfha yr odyn briddfaen.
3:14 Draw thee
waters for the siege, fortify thy strong holds: go into clay, and tread the
mortar, make strong the brickkiln.
3:15
Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y
rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn.
3:15 There
shall the fire devour thee; the sword shall cut thee off, it shall eat thee up
like the cankerworm: make thyself many as the cankerworm, make thyself many as
the locusts.
3:16
Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac
ehedodd ymaith.
3:16 Thou hast
multiplied thy merchants above the stars of heaven: the cankerworm spoileth,
and fleeth away.
3:17
Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn
mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr
haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.
3:17 Thy
crowned are as the locusts, and thy captains as the great grasshoppers, which
camp in the hedges in the cold day, but when the sun ariseth they flee away,
and their place is not known where they are.
3:18
Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a'th bendefigion a orweddant,
gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo.
3:18 Thy
shepherds slumber, O king of Assyria: thy nobles shall dwell in the dust: thy
people is scattered upon the mountains, and no man gathereth them.
3:19
Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy well, pawb a glywo sôn amdanat a
gurant eu dwylo arnat, oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?
3:19 There is
no healing of thy bruise; thy wound is grievous: all that hear the bruit of
thee shall clap the hands over thee: for upon whom hath not thy wickedness
passed continually?
_______________________________________________________________
DIWEDD – END
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You are
visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)