1564k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân
(1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh.
Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_nehemeia_16_1564k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
(delw 6540) Adolygiadau diweddaraf: |
1565ke This page with an English
translation (Nehemeia / Nehemiah: 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
·····
PENNOD 1
1:1 Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym
mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,
1:2 Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a
gwŷr o Jwda, a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a
adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem.
1:3 A hwy a ddywedasant wrthyf, Y
gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder
mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â
thân.
1:4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a
alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y
nefoedd;
1:5 A
dywedais, Atolwg, ARGLWYDD DUW y nefoedd, y DUW mawr ofnadwy, yr hwn sydd yn
cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion:
1:6 Bydded, atolwg, dy glust yn clywed,
a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei
gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision,
ac yn cynesu pechodau meibion Israel, y
rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom.
1:7 Gwnaethom yn llygredig iawn i’th
erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion,
na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.
1:8 Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist
wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os
chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd:
1:9 Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy
ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt, pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y
nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i
drigo o’m henw ynddo.
PENNOD 2
2:1 Ac ym mis Nisan, yn yr ugeinfed
flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o’i flaen ef: a mi a gymerais y
gwin, ac a’i rhoddais i’r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei
fron ef.
ddirfawr:
2:4 A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo’r
brenin yn dragywydd: paham na thristái fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ
beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu hysu â thân?
2:4 A’r brenin a ddywedodd wrthyf. Pa
beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar DDUW y nefoedd.
2:5
A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn
gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau,
fel yr adeiladwyf hi.
2:6
A’r brenin a ddywedodd wrthyf, a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y
bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo
amser.
2:7 Yna y dywedais wrth y brenin, O
rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r
afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;
2:8 A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y
brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai
a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r
brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.
2:9
Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, ac a roddais iddynt
lythyrau y brenin. A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion
gyda mi.
2:10
Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu
ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.
ôl.
i’r pendefigion, nac i’r penaethiaid,
nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
2:19 Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad,
a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a’n gwatwarasant
ni, ac a’n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei
wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?
PENNOD 3
3:1 Yna Eliasib yr archoffeiriad a
gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy
a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef;
ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.
3:2 A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr
3:3 A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt-hwy a
osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau.
3:4 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A
cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher
eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana.
3:5 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr
mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd.
3:6 A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr
hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau,
a’i gloeau, a’i farrau.
3:7 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y
Meronothiad, gwŷr
3:8 Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussid mab Harhaia, o’r gofaint aur.
Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o’r apothecariaid: a hwy a
gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan.
3:9 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog banner
rhan
Jerwsalem.
3:13 Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt-hwy
a’i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei
ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom.
3:15 A Salum mab Col-hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y
ffynnon; efe a’i hadeiladodd, ac a’i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mur pysgodlyn
Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd.
3:16 Ar ei ôl ef y cyweiriodd
Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan
Bethsur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd
dŷ cedyrn.
a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad, hyd ystafell y gongl.
PENNOD 4
4:1 Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd
ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon.
4:2 Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a
llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei
wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant
hwy y cerrig o’r tyrrau llwch, wedi eu llosgi?
4:3 A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei
ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i
fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt.
4:4 Gwrando, O ein Duw; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu
gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed:
4:5 Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt
o’th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr.
4:6 Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei
hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.
4:7 Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a’r Arabiaid, a’r Ammoniaid,
a’r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y
llidiasant yn ddirfawr:
4:8 A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn
Jerwsalem, ac i’w rhwystro.
4:9 Yna y gweddiasom ar ein DUW, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu
herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt.
4:10 A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer
sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur.
4:14 A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y
pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch
rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr,
eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.
4:18 Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei
glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.
4:19 A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac
wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar
hyd y y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.
PENNOD 5
5:1
Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a’u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.
5:2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein
meibion, a’n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y
byddom byw.
5:3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a’n gwinllannoedd,
a’n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.
5:4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu
treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd.
5:5 Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni
fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision,
ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i’w rhyddhau;
canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn.
5:6 Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a’r geiriau
hyn.
5:7 Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y
pendefigion, a’r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd
ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.
5:8 Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein
brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i’r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn
gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant
air i ateb.
5:9 A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni
ddylech chwi rodio mewn ofn ein DUW ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein
gelynion?
5:13 A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr
ysgydwo DUW bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair
hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynulleidfa a
ddywedasant. Amen: ac a folianasant yr arglwydd.
A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.
PENNOD 6
6:1 A phan glybu Sanbalat, a
Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y
mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y
dorau ar y pyrth;)
6:2 Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf, gan
ddywedyd, Tyred, ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd
Ono. Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi.
6:3 Minnau a anfonais genhadau atynt hwy, gan
ddywedyd, Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur; oherwydd hynny ni allaf
ddyfod i waered: paham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i waered
atoch chwi?
6:4 Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon
bedair gwaith, ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt.
6:5 Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed
waith yr un ffunud, â llythyr agored yn ei law:
6:6 Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig, Ymysg y
cenhedloedd y mae y gair, a Gasmu sydd yn dywedyd, dy fod di a’r Iddewon yn
amcanu gwrthryfela: oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur, fel y byddit
frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn;
6:7 A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i
bregethu amdanat yn Jerwsalem, gan ddywedyd, Y mae brenin yn Jwda. Ac yn awr y
fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn
ynghyd.
6:8 Yna yr anfonais ato, gan ddywedyd, Ni ddarfu yn
ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o’th galon dy hun yr ydwyt
yn eu dychmygu hwynt.
6:9 Oblegid hwynt-hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni,
gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan
hynny cryfha yn awr, O dduw, fy
nwylo i.
6:14
O fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat, yn ôl eu gweithredoedd hynny, a Noadeia y
broffwydes hefyd, a’r rhan arall o’r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i.
6:15
A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a
deugain.
PENNOD 7
7:1 Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi
ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid;
7:2 Yna mi a orchmynnais i Hanani fy
mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr
ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer:
7:3 A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer
pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul, a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant
y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn
ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ.
7:4 A’r ddinas oedd eang a mawr; ac
ychydig bobl ynddi: a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.
7:5 A’m Duw a roddodd yn fy nghalon
gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a’r bobl, i’w cyfrif wrth eu hachau.
A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig
ynddo,
7:6 Dyma feibion y dalaith, y rhai a
ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin
Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i’w ddinas ei hun,
7:7 Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel:
Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth,
Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel;
7:8 Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg
a thrigain.
7:9 Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg
a thrigain.
7:10 Meibion Ara, chwe chant a deuddc^ a
deugain.
7:11 Meibion Pahath-Moab, o feibion Jesua
a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.
7:12 Meibion Elam, mil dau cant a phedwar
ar ddeg a deugain.
7:13 Meibion Sattu, wyth gant a phump a
deugain.
7:14 Meibion Saccai, saith gant a
thrigain.
7:15 Meibion Binnui, chwe chant ac wyth a
deugain.
7:16 Meibion Bebai, chwe chant ac wyth ar
hugain.
7:17 Meibion Asgad, dwy fil tri chant a
dau ar hugain.
7:18 Meibion Adonicam, chwe chant a saith
a thrigain. (
7:19 Meibion Bigfai, dwy fil a saith a
thrigain.
7:20 Meibion Adin, chwe chant a phymtheg
a deugain.
7:21 Meibion Ater o Heseceia, tri ar
bymtheg a phedwar ugain.
7:22 Meibion Hasum, tri chant ac wyth ar
hugain.
7:23 Meibion Besai, tri chant a phedwar
ar hugain.
7:24 Meibion Hariff, cant a deuddeg.
7:25 Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar
ugain.
7:26 Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant
ac wyth a phedwar ugain.
7:27 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar
hugain.
7:28 Gwŷr Beth-asmafeth, dau a deugain.
7:29 Gwŷr Ciriath-jearim, Ceffira, a
Beeroth, saith gant a thri a deugain.
7:30 Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac
un ar hugain.
7:31 Gwŷr Michmas, cant a dau ar
hugain.
7:32 Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri
ar hugain.
7:33 Gwŷr Nebo arall, deuddeg a
deugain.
7:34 Meibion Elam arall, mil dau cant a
phedwar ar ddeg a deugain.
7:35 Meibion Harim, tri chant ac ugain,
7:36 Meibion Jericho, tri chant a phump a
deugain.
7:37 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith
gant ac un ar hugain.
7:38 Meibion Senaa, tair mil naw cant a
deg ar hugain.
7:19 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o
dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain.
7:40 Meibion Immer, mil a deuddeg a
deugain.
7:41 Meibion Pasur, mil dau cant a saith
a deugain.
7:42 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
7:43 Y Lefiaid: meibion Jesua, o Cadmiel,
ac o feibion Hodefa, pedwar ar ddeg a thrigain.
7:44 Y cantorion: meibion Asaff, cant ac
wyth a deugain.
7:45 Y porthorion: meibion Salum, meibion
Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, cant a thri
ar bymtheg ar hugain.
7:46 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion
Hasuffa, meibion Tabbaoth,
7:47 Meibion Ceros, meibion Sia, meibion
Padon,
7:48 Meibion Lebana, meibion Hagaba,
meibion Salmai,
7:49 Meibion Hanan, meibion Gidel,
meibion Gahar,
7:50 Meibion Reaia, meibion Resin,
meibion Necoda,
7:51 Meibion Gassam, meibion Ussa,
meibion Phasea,
7:52 Meibion Besai, meibion Meunim,
meibion Neffisesim,
7:53 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa,
meibion Harhur,
7:54 Meibion Baslith, meibion Mehida,
meibion Harsa,
7:55 Meibion Barcos, meibion Sisera,
meibion Thama,
7:56 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
7:57 Meibion gweision Solomon: meibion
Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida,
7:58 Meibion Jaala, meibion Darcon,
meibion Gidel,
7:59 Meibion Seffatia, meibion Hattil,
meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon.
7:60 Yr holl Nethiniaid, a meibion
gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain.
7:61 A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o
Tel-mela, Tel-haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eU
tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.
7:62 Meibion Delaia, meibion Tobeia,
meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.
7:63 Ac o’r offeiriaid: meibion Habaia,
meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y
Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.
7:64 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen
ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r
offeiriadaeth.
7:65 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na
fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â
Thummim.
7:66 Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy
fil a deugain tri chant a thrigain.
7:67 Heblaw eu gweision hwynt a’u
morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a
chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau.
7:68 Eu meirch hwynt oedd saith gant ac
un ar bymtheg ar hugain; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain;
7:69 Y camelod oedd bedwar cant a
phymtheg ar hugain, yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.
7:70 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant
tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur, deg a
deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.
7:71 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant
i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o
arian.
7:72 A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r
bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a
thrigain o wisgoedd offeiriaid.
7:73 A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r
porthorion, a’r cantorion, a rhai o’r bobl, a’r Nethiniaid, a holl Israel, a
drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion
Israel yn eu dinasoedd.
PENNOD 8
8:1
A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a
ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a
orchmynasai yr ARGLWYDD i Israel.
8:2
Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a
gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r
seithfed mis.
8:3
Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o’r bore
hyd banner dydd, gerbron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oedd yn medru
deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.
8:4
Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i’r peth
hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a
Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a
Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef.
8:5
Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi
ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant.
8:6
Ac Esra a fendithiodd yr ARGLWYDD, y DUW mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen,
Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr ARGLWYDD
a’u hwynebau tua’r ddaear.
8:7
Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia,
Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia,, a’r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith
i’r bobl, a’r bobl yn sefyll yn eu lle.
8:8
A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith DDUW; gan osod allan
y synnwyr, fel y deallent wnli ddarllen.
8:9
A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r
Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae
heddiw yn sanctaidd i’r ARGLWYDD eich DUW; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr
holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith.
8:10
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac
anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn
sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw
eich nerth chwi.
8:11
A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, Tewch: canys y dydd heddiw
sydd sanctaidd, ac na thristewch.
8:12 A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i
yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt
ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt.
8:13 A’r ail ddydd, tadau pennaf yr holl
bobl, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i’w
dysgu yng ngeiriau y gyfraith.
8:14 A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y
gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses, y dylai meibion
Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis;
8:15 Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair
trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i’r mynydd, a
dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y
palmwydd, a changhennau o’r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn
ysgrifenedig.
8:16 Felly y bobl a aethant allan, ac a’u
dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd,
ac yng nghynteddoedd tŷ DDUW, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth
Effraim.
8:17 A holl gynulleidfa y rhai a
ddychwelasent o’r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod:
canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel
felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn.
8:18 Ac
Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith DDUW beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd
diwethaf. A hwy a gynallasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd
y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.
PENNOD 9
9:1 Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r
mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachlliain, a
phridd arnaddynt.
9:2 A had Israel a ymneilltuasant oddi
wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac
anwireddau eu tadau.
9:3 A chodasant i fyny yn eu lle, ac a
ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a
phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i’r ARGLWYDD eu DUW.
9:4 Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid,
Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a
gwaeddasant â llef uchel ar yr ARGLWYDD eu DUW:
9:5 A’r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani,
Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch,
bendithiwch yr ARGLWYDD eich DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a
bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.
9:6 Ti yn unig wyt ARGLWYDD: ti a
wnaethost y nefoedd, nefoedd y neffoedd, a’u holl luoedd hwynt, y ddaear a’r
hyn oll sydd arni, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal
hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.
9:7 Ti yw yr ARGLWYDD DDUW, yr hwn a
ddetholaist Abram, ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo
enw Abraham:
9:8 A chefaist ei galon ef yn ffyddlon
ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad
y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Anioriaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, a’r
Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt.
9:9 Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn
yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch:
9:10 A thi a wnaethost arwyddion a
rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys
gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y
gwelir y dydd hwn.
9:11 Y môr hefyd a holltaist o’u blaen
hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a’u herlidwyr a
fwriaist i’r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion:
9:12 Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd
mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr
oeddynt yn myned ar hyd-ddi.
9:13 Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai
ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau
uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus:
9:14 A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist
iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt,
trwy law Moses dy was:
9:15 Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist
iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a
ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.
9:16 Ond hwynt-hwy a’n tadau ni a
falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di;
9:17 Ac a wrthodasant wrando, ac ni
chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu
gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd:
eto ti ydwyt DDUW parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter,
ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.
9:18 Hefyd, pan wnaethent iddynt lo
toddedig, a dywedyd, Dyma dy dduw di yr hwn a’th ddug di i fyny o’r Aifft, a
chablasent yn ddirfawr;
9:19 Er hynny, yn dy aml dosturiaethau,
ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt
trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i
oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.
9:20 Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist
i’w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau, dwfr hefyd a roddaist
iddynt yn eu syched.
9:21 Felly deugain mlynedd y porthaist
hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant,
a’u traed ni chwyddasant.
9:22 A thi a roddaist iddynt
freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a
feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan.
9:23 Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt
fel sêr y nefoedd, ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y
deuent iddi i’w meddiannu.
9:24 Felly y meibion a aethant i mewn, ac
a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid,
o’u blaen hwynt, ac a’u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a
phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys.
9:25 A hwy a enillasant ddinasoedd
cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau
cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy
a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr
ddaioni di.
9:26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a
wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn,
a’th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd am
ac a gablasant yn ddirfawr.
9:27 Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn
llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan
waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml
dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu
gwrthwynebwyr.
9:28 Ond pan lonyddodd arnynt,
dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist
hwynny yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan
ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u
gwaredaist hwynt yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.
9:29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn
hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant,
ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau,
(y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio,
ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.
9:30 Er hynny ti a’u hoedaist hwynt lynyddoedd
lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni
wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd.
9:31
Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist
hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt.
9:32
Ac yn awr, O ein DUW ni, y DUW mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw
cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a
ddigwyddodd i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, ac i’n
proffwydi, ac i’n tadau, ac i’th holl bobi, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y
dydd hwn.
9:33
Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a
wnaethost ti, a ninnau a wnaethom yn annuwiol.
9:34 Ein
brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a’n tadau, ni chadwasant dy
gyfraith, ac ni wrandawasant ar dy orchmynion, na’th dystiolaethau, y rhai a
dystiolaethaist wrthynt.
9:35 A
hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist
iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt; ac ni
ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.
9:36
Wele ni heddiw yn weision; ac am am y wlad a roddaist i’n tadau ni, i fwyta ei
ffrwyth a’i daioni, wele ni yn weision ynddi.
9:37 A
mawr yw ei thoreth hi i’r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau: ac
arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff, ac ar ein hanifeiliaid, yn ôl eu hewyllys;
ac yr ydym mewn cyfyngder mawr.
9:38 Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur
cyfamod sicr, ac yn ei ysgrifennu; ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a’n
hoffeiriaid, yn ei selio.
PENNOD 10
10:1 A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y
Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,
10:2 Seraia, Asareia, Jeremeia,
10:3 Pasur, Amareia, Malcheia,
10:4 Hattus, Sebaneia, Maluch,
10:5 Harim, Meremoth, Obadeia,
10:6 Daniel, Ginnethon, Baruch,
10:7 Mesulam, Abeia, Miamin,
10:8 Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr
offeiriaid,
10:9 A’r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui
o feibion Henadad, Cadmiel,
10:10 A’u brodyr hwynt, Sebaneia, Hodeia,
Celita, Pelaia, Hanan,
10:11 Micha, Rehob, Hasabeia,
10:12 Saccur, Serebeia, Sebaneia,
10:13 Hodeia, Bani, Beninu.
10:14 Penaethiaid y bobl; Paros,
Pahath-Moab, Elam, Sattu, Bani,
10:15 Bunni, Asgad, Bebai,
10:16 Adoneia, Bigfai, Adin,
10:17 Ater, Hisceia, Assur,
10:18 Hodeia, Hasum, Besai,
10:19 Hariff, Anathoth, Nebai,
10:20 Magpias, Mesulam, Hesir,
10:21 Mesesabeel, Sadoc, Jadua,
10:22 Pelatia, Hanan, Anaia,
10:23 Hosea, Hananeia, Hasub,
10:24 Halohes, Pileha, Sobec,
10:25 Rehum, Hasabna, Maaseia,
10:26 Ac Ahïa, Hanan, Anan,
10:27 Maluch, Harim, Baana.
10:28 A’r rhan arall o’r bobl, yr offeiriaid,
y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a
ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith DDUW, eu gwragedd hwynt,
eu meibion, a’u merched, pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo,
10:29 Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu
penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith DDUW, yr
hon a roddasid trwy law Moses gwas DUW: ac ar gadw ac ar wneuthur holl
orchmynion yr ARGLWYDD ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau:
10:30 Ac ar na roddem ein merched i bobl y
wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni:
10:31 Ac o byddai pobl y tir yn dwyn
marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim
ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed
flwyddyn, a chodi pob dyled.
10:32 A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i
ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein DUW ni,
10:33 A thuag at y bara gosod, a’r
bwyd-offrwm gwastadol, a thuag at y poeth-offrwm gwastadol, y Sabothau, y
newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at
y pechebyrth, i wneuthur cymod dros Israel, a thuag at holl waith tŷ ein
DUW.
10:34 A ni a fwriasom goelbrennau yr
offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i
dŷ ein DUW ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i
flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn
y gyfraith:
10:35 Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a
blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr
ARGLWYDD :
10:36 A’r rhai cyntaf-anedig o’n meibion,
ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a
chyntaf-anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein DUW, at yr
offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein DUW ni.
10:37 A blaenion ein toes, a’n hoffrymau,
a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ
ein DUW, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy
holl ddinasoedd ein llafur ni.
10:38 A bydd yr offeiriad, mab Aaron,
gyda’r Lefiaid, pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed
ran y degwm i dŷ ein DUW ni, i’r celloedd yn y trysordy.
10:39 Canys meibion Israel a meibion Lefi
a ddygant offrwrn yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae
llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion;
ac nac ymwrthodwn â thŷ ein DUW.
PENNOD 11
11:1 A thywysogion y bobl a drigasant yn
Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i
drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.
11:2 A’r bobl a fendithiasant yr holl
wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.
11:3 A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai
a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant
o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a
meibion gweision Solomon.
11:4 A rhai o feibion Jwda ac o feibion
Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab
Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres;
11:5 Maaseia hefyd mab Baruch, fab
Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Seehareia, fab Siloni.
11:6 Holl feibion Peres y rhai oedd yn
trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth, a thrigain o wŷr grymus.
11:7 A dyma feibion Benjamin; Salu mab,
Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia.
11:8 Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant
ac wyth ar hugain.
11:9 A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt
hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas.
11:10 O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib,
Jachin.
11:11 Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab
Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ DDUW.
11:12 A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio
gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab
Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,
11:13 A’i frodyr, pennau-cenedl, dau cant
a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,
11:14 A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth,
oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt.
11:15 Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub fab
Asricam, fab Hasabeia fab Bunni.
11:16 Sabbethai hefyd, a Josabad, o
benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ DDUW.
11:17 Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi,
fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail
o’i frodyr, ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.
11:18 Yr holl Lefiaid yn y ddinas
sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain.
11:19 A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u
brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.
11:20 A’r rhan arall o Israel, o’r
offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei
etifeddiaeth.
11:21 Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn
y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.
11:22 A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem,
oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y
cantorion oedd ar waith tŷ DDUW.
11:23 Canys gorchymyn y brenin amdanynt
hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.
11:24 A Phethaheia mab Mesesabeel, o
feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r
bobl.
11:25 Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o
feibion Jwda a drigasant yng Nghaer-Arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i
phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi,
11:26 Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn
Beth-phelet,
11:27 Ac yn Hasar-sual, ac yn Beerseba a’i
phentrefi,
11:28 Ac yn Siclag, ac ym Mechona, ac yn
ei phentrefi,
11:29 Ac yn En-rimmon, ac yn Sarea, ac yn
Jarmuth,
11:30 Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i
meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn
Hinnom.
11:31 A meibion Benjamin o Geba a
drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi,
11:32 Yn Anathoth, Nob, Ananeia,
11:33 Hasor, Rama, Gittaim,
11:34 Hadid, Seboim, Nebalat,
11:35 Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr.
11:36 Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn
Jwda, ac yn Benjamin.
PENNOD 12
12:1 Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid,
y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia,
Jeremeia, Esra,
12:2 Amareia, Maluch, Hattus,
12:3 Sechaneia, Rehum, Meremoth,
12:4 Ido, Ginnetho, Abeia,
12:5 Miamin, Maadia, Bilga,
12:6 Semaia, a Joiarib, Jedaia,
12:7 Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma
benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua.
12:8 A’r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel,
Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a’i frodyr.
12:9 Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyy
hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.
12:10 A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim
a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada,
12:11 A Joiada a genhedlodd Jonathan, a
Jonathan a genhedlodd Jadua.
12:12 Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid
hyn oedd bennau-cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
12:13 O Esra, Mesulam; o Amareia
Jehohanan;
12:14 O Melichu, Jonathan; o Sebaneia,
Joseff;
12:15 O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;
12:16 O Ido, Sechareia; o Ginnethon,
Mesulam;
12:17 O Abeia, Sichri; o Miniamin, o
Moadeia, Piltai;
12:18 O Bilga, Sammua; o Semaia,
Jehonathan;
12:19 Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia,
Ussi;
12:20 O Salai, Calai; o Amoc, Eber;
12:21 O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia,
Nethaneel.
12:22 Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib,
Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau-cenedl: a’r
offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.
12:23 Meibion Lefi, y pennau-cenedl, wedi
eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.
12:24 A phenaethiaid y Lefiaid, oedd
Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a’u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac
i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr DUW, gwyliadwriaeth ar gyfer
gwyliadwriaeth.
12:25 Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia,
Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau
y pyrth.
12:26 Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim
mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad
a’r ysgrifennydd.
12:27 Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y
ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y
cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â
thelynau.
12:28 A meibion y cantorion a
ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,
12:29 Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd
Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch
Jerwsalem.
12:30 Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a
ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur.
12:31 A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo
ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill
oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:
12:32 Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a
hanner tywysogion Jwda,
12:33 Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,
12:34 Jwda, a Benjamin, a Semaia, a
Jeremeia,
12:35 Ac o feibion yr offeiriaid ag
utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab
Saccur, fab Asaff;
12:36 A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael,
Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd
gŵr DUW, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt.
12:37 Ac wrth borth y ffynnon, yr hoa oedd
ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi
ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain.
12:38 A’r ail fintai o’r rhai oedd yn
moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt; a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl
oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan;
12:39 Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar
yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea,
hyd borth y defaid, a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.
12:40 Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn
moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:
12:41 Yr offeiriaid hefyd; Eliacim,
Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:
12:42 Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar,
ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion
a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.
12:43
A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW
a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a
orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.
12:44
A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau,
ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y
rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr
offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.
12:45
Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu DUW, a
gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.
12:46 Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac
Asaff, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i DDUW.
12:47 Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn
nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r
porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r
Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.
PENNOD 13
13:1 Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a
chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i
gynulleidfa DUW yn dragywydd;
13:2 Am na chyfarfuasent â meibion Israel
â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt:
eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.
13:3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a
neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.
13:4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad,
yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein DUW ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:
13:5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell
fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd-offrymau, y thus, a’r
llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r
Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.
13:6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn
Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin
Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y
brenin;
13:7 Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a
ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell
yng nghynteddoedd tŷ DDUW.
13:8 A bu ddrwg iawn gennyf, am hynny mi a
fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell.
13:9 Erchais hefyd iddynt lanhau yr
ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ DDUW, yr offrwm a’r
thus.
13:10 Gwybum hefyd fod rhannau y Lefiaid
heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion, y rhai oedd yn
gwneuthur y gwaith, bob un i’w faes.
13:11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y
dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ DDUW? A mi a’u
cesglais hwynt ynghyd, ac a’u gosodais yn eu lle.
13:12
Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a’r gwin, a’r olew, i’r trysordai.
13:13
A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr
ysgrifennydd, a Phedaia, o’r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab
Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd
rhannu i’w brodyr.
13:14
Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i
dŷ fy Nuw, ac i’w wyliadwriaethau ef.
13:15
Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn
dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a
ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a
dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.
13:16
Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy,
y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn
Jerwsalem.
13:17
Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw
hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth?
13:18
Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein DUW ni yr holl ddrwg
hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar
Israel, trwy halogi’r Saboth.
13:19
A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a
orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision
wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.
13:20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob
peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.
13:21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn
hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur?
os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni
ddaethant ar y Saboth mwyach.
13:22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am
iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn
hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.
13:23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais
Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:
13:24 A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill banner o'r Asdodeg, ac heb
fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.
13:25 Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y
melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt; a
mi a’u tyngais hwynt trwy DDUW, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i’w
meibion hwynt, ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion, nac i chwi eich
hunain.
13:26 Onid o achos y rhai hyn y pechodd
Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd
lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl
Israel, eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
13:27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i
wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein DUW, trwy briodi
gwragedd dieithr?
13:28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib
yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi
wrthyf.
13:29 O fy NUW, cofia hwynt, am iddynt
halogi’r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid.
13:30 Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob
estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un yn
ei waith;
13:31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau
nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy NUW, er daioni.
_______________________________________________________________
DIWEDD
Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weər àm ai? Yùu àar vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website