1439k Gwefan
Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_obadeia_01_1439k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Cywaith Siôn Prys |
(delw 6540) |
1440ke
This page
with an English translation - Haggai
(1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
PENNOD 1
1:1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed
yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi with yr ARGLWYDD, a chennad a
hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i yfela yn ei herbyn hi.
1:2 Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn
wyt.
1:3 Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn
holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn
i’r llawr?
1:4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhiith y
sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.
1:5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd
ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni
weddillasent rawn?
1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef!
1:7 Yr holl w^yr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant
hyd y terfyn; y gwy^r yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th
orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.
1:8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan
o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau?
1:9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o
fynydd Esau trwy laddfa.
1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd;
ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn
dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:
1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a
ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.
1:20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y
Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a
feddiannant ddinasoedd y deau.
__________________________________________________________________
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf - 02
02 2003
Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website
Weərr àm ai? Yùù ààrr vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait