1440ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

 

http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_003_beibl_obadeia_01_1440ke.htm


0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page

 

baneri
.. 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Y Beibl Cysegr-lân :
(31) Obadeia (yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible:
(31)
Obadiah (in Welsh and English)

 

 
 

(delw 7324)

Adolygiad diweddaraf – latest update 08 02 2003

  
  1530k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig

 

·····

PENNOD 1


1:1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi with yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i yfela yn ei herbyn hi.

1:1 The vision of Obadiah. Thus saith the Lord GOD concerning Edom; We have heard a rumour from the LORD, and an ambassador is sent among the heathen, Arise ye, and let us rise up against her in battle.


1:2 Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.

1:2 Behold, I have made thee small among the heathen: thou art greatly despised.


1:3 Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr?

1:3 The pride of thine heart hath deceived thee, thou that dwellest in the clefts of the rock, whose habitation is high; that saith in his heart, Who shall bring me down to the ground?


1:4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhiith y sêr, mi a'th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.

1:4 Though thou exalt thyself as the eagle, and though thou set thy nest among the stars, thence will I bring thee down, saith the LORD.


1:5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y'th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn?

1:5 If thieves came to thee, if robbers by night, (how art thou cut off!) would they not have stolen till they had enough? if the grapegatherers came to thee, would they not leave some grapes?


1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef!

1:6 How are the things of Esau searched out! how are his hidden things sought up!


1:7 Yr holl w^yr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a'th yrasant hyd y terfyn; y gwy^r yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a'th dwyllasant, ac a'th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.

1:7 All the men of thy confederacy have brought thee even to the border: the men that were at peace with thee have deceived thee, and prevailed against thee; they that eat thy bread have laid a wound under thee: there is none understanding in him.


1:8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau?

1:8 Shall I not in that day, saith the LORD, even destroy the wise men out of Edom, and understanding out of the mount of Esau?


1:9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.

1:9 And thy mighty men, O Teman, shall be dismayed, to the end that every one of the mount of Esau may be cut off by slaughter.


1:10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a'th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth.

1:10 For thy violence against thy brother Jacob shame shall cover thee, and thou shalt be cut off for ever.


1:11 Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i'w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.

1:11 In the day that thou stoodest on the other side, in the day that the strangers carried away captive his forces, and foreigners entered into his gates, and cast lots upon Jerusalem, even thou wast as one of them.


1:12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.

1:12 But thou shouldest not have looked on the day of thy brother in the day that he became a stranger; neither shouldest thou have rejoiced over the children of Judah in the day of their destruction; neither shouldest thou have spoken proudly in the day of distress.


1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:

1:13 Thou shouldest not have entered into the gate of my people in the day of their calamity; yea, thou shouldest not have looked on their affliction in the day of their calamity, nor have laid hands on their substance in the day of their calamity;


1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.

1:14 Neither shouldest thou have stood in the crossway, to cut off those of his that did escape; neither shouldest thou have delivered up those of his that did remain in the day of distress.


1:15 Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.

1:15 For the day of the LORD is near upon all the heathen: as thou hast done, it shall be done unto thee: thy reward shall return upon thine own head.


1:16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, al lyncant, a byddant fel pe na buasent.

1:16 For as ye have drunk upon my holy mountain, so shall all the heathen drink continually, yea, they shall drink, and they shall swallow down, and they shall be as though they had not been.


1:17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thy^ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt.

1:17 But upon mount Zion shall be deliverance, and there shall be holiness; and the house of Jacob shall possess their possessions.


1:18 Yna y bydd ty^ Jacob yn dân, a thy^ Joseff yn fflam, a thy^ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difant hwynt; ac ni bydd un gweddill o dy^ Esau: canys yr ARGLWYDD a'i dywedodd.

1:18 And the house of Jacob shall be a fire, and the house of Joseph a flame, and the house of Esau for stubble, and they shall kindle in them, and devour them; and there shall not be any remaining of the house of Esau; for the LORD hath spoken it.


1:19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;

1:19 And they of the south shall possess the mount of Esau; and they of the plain the Philistines: and they shall possess the fields of Ephraim, and the fields of Samaria: and Benjamin shall possess Gilead.


1:20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.

1:20 And the captivity of this host of the children of Israel shall possess that of the Canaanites, even unto Zarephath; and the captivity of Jerusalem, which is in Sepharad, shall possess the cities of the south.


1:21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a'r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD.

1:21 And saviours shall come up on mount Zion to judge the mount of Esau; and the kingdom shall be the LORD'S.


__________________________________________________________________
DIWEDD – END

Adolygiadau diweddaraf - latest updates – 02 02 2003

Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weərr àm ai? Yùù ààrr vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

 

Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats