1546k Gwefan
Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_philipiaid_50_1546k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Cywaith Siôn Prys |
(delw 7375) |
1547ke
This page
with an English equivalent - Philippians (1620 Welsh Bible / 1611 English
Authorized Version)
PENNOD 1
1:1
Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y
rhai sydd yn Philipi, gyda'r esgobion a'r diaconiaid:
1:2
Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3
I'm Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch,
1:4
Bob amser ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy
neisyfiad gyda llawenydd,
1:5
Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon;
1:6
Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei
orffen hyd ddydd Iesu Grist:
1:7
Megis y mae'n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy
nghalon, yn gymaint â'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy
amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras.
1:8
Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu
Grist.
1:9
A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o'ch cariad chwi eto fwyfwy mewn
gwybodaeth a phob synnwyr;
1:10
Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a
didramgwydd hyd ddydd Crist;
1:11
Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er
gogoniant a moliant i Dduw.
1:12
Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod
ohonynt yn hytrach er llwyddiant i'r efengyl,
1:13
Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob
lle arall;
1:14
Ac i lawer o'r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod
yn hyach o lawer i draethu'r gair yn ddi-ofn.
1:15
Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o
ewyllys da.
1:16
Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o
flinder i'm rhwymau i:
1:17
A'r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y'm gosodwyd.
1:18
Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn
gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a
llawen fyddaf.
1:19
Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a
chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist,
1:20
Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob
hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa
un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
1:21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd
elw.
1:22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw
ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn.
1:23 Canys y mae'n gyfyng arnaf o'r
ddeutu, gan fod gennyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ, canys llawer
iawn gwell ydyw.
1:24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy
angenrheidiol o'ch plegid chwi.
1:25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn
gwybod yr arhosaf ac y cyd-drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd
y ffydd;
1:26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn
helaethach yng Nghrist Iesu o'm plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch.
1:27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl
Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn
absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd,
ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl;
1:28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim gan
eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth,
ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw.
1:29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi
er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef;
1:30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a
welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.
PENNOD 2
2:1 Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur
cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a
thosturiaethau,
2:2 Cyflawnwch fy llawenydd; fel y
byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad gennych, yn gytun, yn synied yr un
peth.
2:3 Na wneler dim trwy gynnen neu wag
ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi
eich hunain.
2:4 Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch
eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd.
2:5 Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr
hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu:
2:6 Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni
thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw;
2:7 Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan
gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion:
2:8 A'i gael mewn dull fel dyn, efe a'i
darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau'r groes.
2:9 Oherwydd paham, Duw a'i
tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw;
2:10 Fel yn enw Iesu y plygai pob glin
o'r nefolion, a'r daearolion, a thanddaearolion bethau;
2:11 Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu
Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.
2:14 Gwnewch bob dim heb rwgnach ac
ymddadlau;
2:15 Fel y byddoch ddiargyhoedd a
diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a
throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;
2:16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd
i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.
PENNOD 3
3:1% Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr
un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel.
3:2 Gochelwch gŵn, gochelwch
ddrwgweithwyr, gochelwch y cyd-doriad.
3:3 Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai
ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid
yn ymddiried yn y cnawd:
3:4 Ac er bod gennyf achos i ymddiried,
ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn
fwy:
3:5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o
genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrewr o'r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn
Pharisead;
3:6 Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl
y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd.
3:7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai
hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist.
3:8 Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn
cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy
Arglwydd: er mwyn yr hwn y'm colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn
dom, fel yr enillwyf Grist,
3:9 Ac y'm ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder
fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y
cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd:
3:10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei
atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio
â’i farwolaeth ef;
3:11 Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd
atgyfodiad y meirw:
3:12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd
eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf
ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.
3:13 Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod
i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio'r pethau sydd o'r tu cefn, ac
ymestyn at y pethau o'r tu blaen,
3:14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp
uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.
3:15 Cynifer gan hynny ag ydym berffaith,
syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i
chwi.
3:16 Er hynny, y peth y daethom ato,
cerddwn with yr un rheol, syniwn yr un peth.
3:17 Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac
edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampi i chwi.
3:18 (Canys y mae llawer yn rhodio, am y
rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn
dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt;
3:19 Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai
yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.)
3:20 Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y
nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:
3:21 Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael
ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorff gogoneddus ei, yn ôl y nerthol
weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.
PENNOD 4
4:1 Am hynny, fy
mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd,
anwylyd.
4:2
Yr ydwyf yn atolwg i Euodias, ac yn atolwg i Syntyche, synied yr un peth yn yr
Arglwydd.
4:3
Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y
rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant à mi, ynghyd â Chlement hefyd, a'm
cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.
4:4
Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, Llawenhewch.
4:5
Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos.
4:6 Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn
gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys
gerbron Duw.
4:7 A
thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a'ch
meddyliau yng Nghrist Iesu.
4:8
Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest,
pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd
hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim
clod, meddyliwch am y pethau hyn.
4:9 Y
rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y
pethau hyn gwnewch: a Duw'r heddwch a fydd gyda chwi.
4:10
Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi amdanaf
fi yr awr hon o'r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau
amser cyfaddas oedd arnoch.
4:11
Nid am fy mod yn dywedyd oherwydd eisiau: canys myfi a ddysgais yn mha gyflwr
bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.
4:12
Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth
y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac
i fod mewn prinder.
4:13
Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.
4:14
Er hynny, da y gwnaethoch gydgyfrannu â'm gorthrymder i.
4:15
A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i
ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond
chwychwi yn unig.
4:16
Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy
anghenraid.
4:17
Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn
amlhau erbyn eich cyfrif chwi.
4:18
Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi
i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogi
peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.
4:19
A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yng
Nghrist Iesu.
4:20
Ond i Dduw a'n Tad ni y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
4:21
Anerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Y mae'r brodyr sydd gyda mi yn eich
annerch.
4:22
Y mae'r saint oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cesar.
4:23
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. At y Philipiaid yr
ysgrifennwyd o Rufain gydag Epaffroditus.
DIWEDD
______________
Adolygiad diweddaraf: 2004-02-10, 2005-10-15
Sumbolau arbennig: ŷŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website