1763k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân
(1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
.............................................................y tudalen hwn
..
Gwefan Cymru-Catalonia La Web de Catalunya i
Gal·les
The Wales-Catalonia Website
Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg) El projecte Siôn Prys
(Col·lecció de textos en gal·lès)
Y Beibl Cysegr-lân : (8) Ruth
(delw 6540)
Diweddariad
diwethaf 2005-11-10
2315ke This page with an English
translation - Ruth 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version
·····
PENNOD 1
1:1 A bydd, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn
y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab,
efe a’i wraig, a’i ddau fab.
1:2 Ac enw y gŵr oedd
Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion,
Effreteaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab,
ac a fuant yno.
1:3Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a
adawyd.
1:4 A hwy a gymerasant iddynt
wragedd o’r Moabesau;; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A
thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.
1:5. A Mahlon a Chilion a
fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i
gŵr.
1:6 A hi a gyfododd, a’i
merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab:
canys hi a glywsai yng ngwlad Moab
ddarfod i’r ARGLWYDD ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara.
1:7 A hi a aeth o’r lle yr
oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyd hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i
wlad Jwda.
1:8 A
Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam:
gwneled yr ARGLWYDD drugaredd à chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac a minnau.
1:9 Yr ARGLWYDD a ganiatao i chwi gael
gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a
ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
1:10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y
dychwelwn ni gyda thi at dŷ bobl di.
1:11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy
merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth,
i fod yn wŷr i chwi? .
1:12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr
ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod
heno gyda gwr, ac ymddŵyn meibion hefyd;
1:13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni
chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched:
canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr ARGLWYDD fyned i’m
herbyn.
1:14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant
eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.
1:15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer
yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl
dy chwaer yng nghyfraith.
1:16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf
fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa Ie bynnag yr elych di, yr af
finnau; ac ym mha Ie bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy
mhobl i, a’th DDUW di fy Nuw innau:
1:17 Lle y byddych di marw, y byddaf
finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn
y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.
1:18 Pan welodd hi ei bod hi wedi
ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi.
1:19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes
iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan
ddaethant i Bethlehem, yr holl
ddinas agyffrôdd o’u herwydd hwynt; a
dywedasant, Ai hon yw Naomi?
1:20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na
elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: cany;. yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â
mi.
1:21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r
ARGLWYDD a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r
ARGLWYDD fy narostwng, ac i’r Hollalluog fy nrygu?
1:22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes
ei gwaudd gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab:
a hwy a ddaethant i Bethlehem yn
nechrau cynhaeaf yr heiddiau.
PENNOD 2
2:1 Ac i ŵr Naomi yr ydoedd càr, o
ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’enw Boas.
2:2 A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth
Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa
tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi,
Dos, fy merch.
2:3 A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a
loffodd
yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r
maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.
2:4 Ac wele. Boas a ddaeth o Bethlehem,
ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a
ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio.
2:5 Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr
hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon?
2:6 A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth
y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab
ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab:
2:7 A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf
gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a
arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.
2:8 Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni
chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma,
eithr aros yma gyda’m llancesau i.
2:9 Bydded dy lygaid ar y maes y
byddont hwy yn ei fedi, a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na
chyffyrddent a thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a
ollyngodd y llanciau.
2:10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac
a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg
di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a rninnau yn alltudes?
2:11 A Boas a atebodd, aca ddywedodd
wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl
marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy
enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.
2:12 Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded
dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio
dan ei adenydd.
2:13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf
ffafryn dy olwg di, fy arglwydd; gan i
ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad
ydwyf fel un o’th lawforynion di.
2:14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser
bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a
eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a
fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
2:15 A hi a gyfododd i loffa: a
gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac
na feiwch arni:
2:16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi
beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.
2:17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr
hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.
2:18 A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r
ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac
a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.
2:19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi. Pa
Ie y lloffaist heddiw, a pha Ie y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn
fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a
ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.
2:20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd,
Bendigedig fyddo efe gan yr ARGLWYDD, yr hwn ni pheidiodd a’i garedigrwydd
tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y
gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe.
2:21 A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a
ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda’m llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy
holl gynhaeaf i.
2:22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei
gwaudd. Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’therbyn mewn maes arall.
2:23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas
i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd
gyda’i chwegr.
PENNOD 3
3:1 Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd
wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti?
3:2 Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr
hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.
3:3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat,
a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod
iddo fwyta ac yfed.
3:4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo
efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr
hyn a wnelych.
3:5A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
3:6A hi a aeth i waered i’r llawr
dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yrhyn oll a
orchmynasai ei chwegr iddi.
3:7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i
gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed,
ac a orweddodd.
3:8Ac
yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrodd: ac wele wraig yn gorwedd
wrth ei draed ef.
3:9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy
lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr
i ydwyt ti.
3:10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig
fyddych, fy merch, gan yrARGLWYDD;
dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad, aethost
ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.
3:11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr
hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai
gwraig rinweddol ydwyt ti.
3:12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn
gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.
3:13 Aros heno; a’r bore, os efe a wna
ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran i cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran
cyfathrachwr â thi, yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr
ARGLWYDD: cwsg hyd y bore.
3:14A hi a orweddodd wrth
ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a
ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu.
3:15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell
sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe
mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas.
3:16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a
ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y
gŵr iddi hi.
3:17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o
haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr.
3:18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy
merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr,
nes gorffen y peth hyn heddiw.
PENNOD
4
4:1 Yna Boas a aeth i fyny i’r porth,
ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y
dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd
yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
4:2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas,
ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.
4:3 Ac efe a ddywedodd wrth y
cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth
Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.
4:4 A dywedais y mynegwn i ti, gan
ddywedyd, Pryn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os
rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes
ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i
rhyddhaf.
4:5 Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y
prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y
marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
4:6A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy
etifeddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei
ryddhau.
4:7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel,
am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid,
ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.
4:8 Am hynny y dywedodd y
cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.
4:9A
dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi
heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo
Chilion a Mahlon, o law Naomi.
4:10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mahlon,
a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na
thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre:
tystion ydych chwi heddiw.
4:11 A’r holl bobl y rhai oedd yn y
porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y
wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill
dwy dy Israel;
a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:
4:12 Bydded hefyd dy dŷ di fel
tŷ Phares, yr hwn a ymddug Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr
ARGLWYDD i ti o’r llances hon.
4:13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a
fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r ARGLWYDD a roddodd iddi hi
feichiogi, a hi a ymddug fab.
4:14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth
Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr
heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
4:15 Ac efe fydd i ti yn adferwr
einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a
blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.
4:16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i
gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.
4:17 A’i chymdogesau a roddasant iddo
enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd
dad Jesse, tad Dafydd.
4:18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a
genhedlodd Hesron,
4:l9 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd
Aminadab,
4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson
aNahson a genhedlodd Salmon,
4:21 A Salmon a genhedlodd Boas, aBoas a genhedlodd Obed,
4:22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse
a genhedlodd Dafydd.
_________________________
DIWEDD / END
Sumbolau arbennig: ŷŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya) Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website