1764ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.
Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.


http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_ruth_08_2315ke.htm

0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân :
(8) Ruth (yn Gymraeg ac yn Saesneg)

The Holy Bible:
(8) Ruth (in Welsh and English)


 

(delw 6540)

Adolygiad diweddaraf / Latest update:
2005-11-10

 

 

 2314k Y dudalen hon yn Gymraeg yn unig

PENNOD 1
1:1 A bydd, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab.
1:1 Now it came to pass in the days when the judges ruled, that there was a famine in the land. And a certain man of Bethlehem Judah went to sojourn in the country of Moab, he, and his wife, and his two sons.

1:2 Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effreteaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno.
1:2 And the name of the man was Elimelech, and the name of his wife Naomi, and the name of his two sons Mahlon and Chilion, Ephrathites of Bethlehem Judah. And they came into the country of Moab, and continued there.

1:3  Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd.
1:3 And Elimelech Naomi’s husband died; and she was left, and her two sons.

1:4 A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau;; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.
1:4 And they took them wives of the women of Moab; the name of the one was Orpah, and the name of the other Ruth: and they dwelled there about ten years.

1:5. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr.
1:5 And Mahlon and Chilion died also both of them; and the woman was left of her two sons and her husband.

1:6 A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r ARGLWYDD ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara.
1:6 Then she arose with her daughters in law, that she might return from the country of Moab: for she had heard in the country of Moab how that the Lord had visited his people in giving them bread.

1:7 A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyd hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda.
1:7 Wherefore she went forth out of the place where she was, and her two daughters in law with her; and they went on the way to return unto the land of Judah.

1:8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr ARGLWYDD drugaredd à chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac a minnau.
1:8 And Naomi said unto her two daughters in law, Go, return each to her mother’s house: the LORD deal kindly with you, as ye have dealt with the dead, and with me.

1:9 Yr ARGLWYDD a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
1:9 The LORD grant you that ye may find rest, each of you in the house of her husband. Then she kissed them; and they lifted up their voice, and wept.

1:10 A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dŷ bobl di.
1:10 And they said unto her, Surely we will return with thee unto thy people.

1:11 A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? .
1:11 And Naomi said, Turn again, my daughters: why will ye go with me? are there yet any more sons in my womb, that they may be your husbands?

1:12 Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gwr, ac ymddŵyn meibion hefyd;
1:12 Turn again, my daughters, go your way; for I am too old to have an husband. If I should say, I have hope, if I should have an husband also to night, and should also bear sons;

1:13 A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr ARGLWYDD fyned i’m herbyn.
1:13 Would ye tarry for them till they were grown? would ye stay for them from having husbands? nay, my daughters; for it grieveth me much for your sakes that the hand of the LORD is gone out against me.

1:14 A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.
1:14 And they lifted up their voice, and wept again: and Orpah kissed her mother in law; but Ruth clave unto her.

1:15 A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith.
1:15 And she said, Behold, thy sister in law is gone back unto her people, and unto her gods: return thou after thy sister in law.

1:16 A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa Ie bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha Ie bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th DDUW di fy Nuw innau:
1:16 And Ruth said, Entreat me not to leave thee, or to return from following after thee: for whither thou goest, I will go; and where thou lodgest, I will lodge: thy people shall be my people, and thy God my God:

1:17 Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.
1:17 Where thou diest, will I die, and there will I be buried: the LORD do so to me, and more also, if ought but death part thee and me.

1:18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi.
1:18 When she saw that she was stedfastly minded to go with her, then she left speaking unto her.

1:19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a  gyffrôdd o’u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi?
1:19 So they two went until they came to Bethlehem. And it came to pass, when they were come to Bethlehem, that all the city was moved about them, and they said, Is this Naomi?

1:20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: cany;. yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi.
1:20 And she said unto them, Call me not Naomi, call me Mara: for the Almighty hath dealt very bitterly with me.

1:21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r ARGLWYDD a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r ARGLWYDD fy narostwng, ac i’r Hollallu­og fy nrygu?
1:21 I went out full, and the LORD hath brought me home again empty: why then call ye me Naomi, seeing the LORD hath testified against me, and the Almighty hath afflicted me?

1:22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau.
1:22 So Naomi returned, and Ruth the Moabitess, her daughter in law, with her, which returned out of the country of Moab: and they came to Bethlehem in the beginning of barley harvest.


PENNOD 2
2:1 Ac i ŵr Naomi yr ydoedd càr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’enw Boas.

2:1
And Naomi had a kinsman of her husband’s, a mighty man of wealth, of the family of Elimelech; and his name was Boaz.

2:2 A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch.
2:2 And Ruth the Moabitess said unto Naomi, Let me now go to the field, and glean ears of corn after him in whose sight I shall find grace. And she said unto her, Go, my daughter.

2:3 A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd
yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.
2:3 And she went, and came, and gleaned in the field after the reapers: and her hap was to light on a part of the field belonging unto Boaz, who was of the kindred of Elimelech.

2:4 Ac wele. Boas a ddaeth o Bethle­hem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr ARGLWYDD a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr ARGLWYDD a’th fendithio.
2:4 And, behold, Boaz came from Bethlehem, and said unto the reapers, The LORD be with you. And they answered him, The LORD bless thee.

2:5 Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medel­wyr, Pwy biau y llances hon?
2:5 Then said Boaz unto his servant that was set over the reapers, Whose damsel is this?

2:6 A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab:
2:6 And the servant that was set over the reapers answered and said, It is the Moabitish damsel that came back with Naomi out of the country of Moab:

2:7 A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.
2:7 And she said, I pray you, let me glean and gather after the reapers among the sheaves: so she came, and hath continued even from the morning until now, that she tarried a little in the house.

2:8 Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma, eithr aros yma gyda’m llancesau i.
2:8 Then said Boaz unto Ruth, Hearest thou not, my daughter? Go not to glean in another field, neither go from hence, but abide here fast by my maidens:

2:9 Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi, a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent a thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau.
2:9  Let thine eyes be on the field that they do reap, and go thou after them: have I not charged the young men that they shall not touch thee? and when thou art athirst, go unto the vessels, and drink of that which the young men have drawn.

2:10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a rninnau yn alltudes?
2:10 Then she fell on her face, and bowed herself to the ground, and said unto him, Why have I found grace in thine eyes, that thou shouldest take knowledge of me, seeing I am a stranger?

2:11 A Boas a atebodd, aca ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.
2:11 And Boaz answered and said unto her, It hath fully been showed me, all that thou hast done unto thy mother in law since the death of thine husband: and how thou hast left thy father and thy mother, and the land of thy nativity, and art come unto a people which thou knewest not heretofore.

2:12 Yr ARGLWYDD a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.
2:12 The LORD recompense thy work, and a full reward be given thee of the LORD God of Israel, under whose wings thou art come to trust.

2:13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr  yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di.
2:13 Then she said, Let me find favour in thy sight, my lord; for that thou hast comforted me, and for that thou hast spoken friendly unto thine handmaid, though I be not like unto one of thine handmaidens.

2:14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
2:14 And Boaz said unto her, At mealtime come thou hither, and eat of the bread, and dip thy morsel in the vinegar. And she sat beside the reapers: and he reached her parched corn, and she did eat, and was sufficed, and left.

2:15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni:
2:15 And when she was risen up to glean, Boaz commanded his young men, saying, Let her glean even among the sheaves, and reproach her not:

2:16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.
2:16 And let fall also some of the handfuls of purpose for her, and leave them, that she may glean them, and rebuke her not.

2:17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.
2:17 So she gleaned in the field until even, and beat out that she had gleaned: and it was about an ephah of barley.

2:18 A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.
2:18 And she took it up, and went into the city: and her mother in law saw what she had gleaned: and she brought forth, and gave to her that she had reserved after she was sufficed.

2:19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi. Pa Ie y lloffaist heddiw, a pha Ie y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.
2:19 And her mother in law said unto her, Where hast thou gleaned to day? and where wroughtest thou? blessed be he that did take knowledge of thee. And she showed her mother in law with whom she had wrought, and said, The man’s name with whom I wrought to day is Boaz.

2:20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr ARGLWYDD, yr hwn ni pheidiodd a’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe.
2:20 And Naomi said unto her daughter in law, Blessed be he of the LORD, who hath not left off his kindness to the living and to the dead. And Naomi said unto her, The man is near of kin unto us, one of our next kinsmen.

2:21 A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda’m llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i. 
2:21 And Ruth the Moabitess said, He said unto me also, Thou shalt keep fast by my young men, until they have ended all my harvest.

2:22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd. Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th  erbyn mewn maes arall.
2:22 And Naomi said unto Ruth her daughter in law, It is good, my daughter, that thou go out with his maidens, that they meet thee not in any other field.

2:23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.
2:23 So she kept fast by the maidens of Boaz to glean unto the end of barley harvest and of wheat harvest; and dwelt with her mother in law.

PENNOD 3
3:1 Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti?
3:1 Then Naomi her mother in law said unto her, My daughter, shall I not seek rest for thee, that it may be well with thee?

3:2 Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda’i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.
3:2 And now is not Boaz of our kindred, with whose maidens thou wast? Behold, he winnoweth barley to night in the threshingfloor.

3:3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed.
3:3 Wash thy self therefore, and anoint thee, and put thy raiment upon thee, and get thee down to the floor: but make not thyself known unto the man, until he shall have done eating and drinking.

3:4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.
3:4 And it shall be, when he lieth down, that thou shalt mark the place where he shall lie, and thou shalt go in, and uncover his feet, and lay thee down; and he will tell thee what thou shalt do.

3:5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi. 
3:5 And she said unto her, All that thou sayest unto me I will do.

3:6  A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr  hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.
3:6 And she went down unto the floor, and did according to all that her mother in law bade her.

3:7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.
3:7 And when Boaz had eaten and drunk, and his heart was merry, he went to lie down at the end of the heap of corn: and she came softly, and uncovered his feet, and laid her down.

3:8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrodd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.
3:8 And it came to pass at midnight, that the man was afraid, and turned himself: and, behold, a woman lay at his feet.

3:9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.
3:9 And he said, Who art thou? And she answered, I am Ruth thine handmaid: spread therefore thy skirt over thine handmaid; for thou art a near kinsman.

3:10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr  ARGLWYDD; dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad, aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.
3:10 And he said, Blessed be thou of the LORD, my daughter: for thou hast showed more kindness in the latter end than at the beginning, inasmuch as thou followedst not young men, whether poor or rich.

3:11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti. 
3:11 And now, my daughter, fear not; I will do to thee all that thou requirest: for all the city of my people doth know that thou art a virtuous woman.

3:12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.
3:12 And now it is true that I am thy near kinsman: howbeit there is a kinsman nearer than I.

3:13 Aros heno; a’r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran i cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi, yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr ARGLWYDD: cwsg hyd y bore.
3:13 Tarry this night, and it shall be in the morning, that if he will perform unto thee the part of a kinsman, well; let him do the kinsman’s part: but if he will not do the part of a kinsman to thee, then will I do the part of a kinsman to thee, as the LORD liveth: lie down until the morning.

3:14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu.
3:14 And she lay at his feet until the morning: and she rose up before one could know another. And he said, Let it not be known that a woman came into the floor.

3:15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas.
3:15 Also he said, Bring the veil that thou hast upon thee, and hold it. And when she held it, he measured six measures of barley, and laid it on her: and she went into the city.

3:16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi.
3:16 And when she came to her mother in law, she said, Who art thou, my daughter? And she told her all that the man had done to her.

3:17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr.
3:17 And she said, These six measures of barley gave he me; for he said to me, Go not empty unto thy mother in law.

3:18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.
3:18 Then said she, Sit still, my daughter, until thou know how the matter will fall: for the man will not be in rest, until he have finished the thing this day.

PENNOD 4
4:1 Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyf­athrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
4:1 Then went Boaz up to the gate, and sat him down there: and, behold, the kinsman of whom Boaz spake came by; unto whom he said, Ho, such a one! turn aside, sit down here. And he turned aside, and sat down.

4:2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.
4:2 And he took ten men of the elders of the city, and said, Sit ye down here. And they sat down.

4:3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.
4:3 And he said unto the kinsman, Naomi, that is come again out of the country of Moab, selleth a parcel of land, which was our brother Elimelech’s:

4:4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Pryn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf.
4:4 And I thought to advertise thee, saying, Buy it before the inhabitants, and before the elders of my people. If thou wilt redeem it, redeem it: but if thou wilt not redeem it, then tell me, that I may know: for there is none to redeem it beside thee; and I am after thee. And he said, I will redeem it.

4:5 Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
4:5 Then said Boaz, What day thou buyest the field of the hand of Naomi, thou must buy it also of Ruth the Moabitess, the wife of the dead, to raise up the name of the dead upon his inheritance.

4:6  A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy eti­feddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.
4:6 And the kinsman said, I cannot redeem it for myself, lest I mar mine own inheritance: redeem thou my right to thyself; for I cannot redeem it.

4:7 A hyn oedd ddefod gynt yn Israel, am ryddhad, ac am gyfnewid, i sicrhau pob peth: Gŵr a ddiosgai ei esgid, ac a’i rhoddai i’w gymydog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.
4:7 Now this was the manner in former time in Israel concerning redeeming and concerning changing, for to confirm all things; a man plucked off his shoe, and gave it to his neighbour: and this was a testimony in Israel.

4:8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.
4:8 Therefore the kinsman said unto Boaz, Buy it for thee. So he drew off his shoe.

4:9 A dywedodd Boas wrth yr henur­iaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.
4:9 And Boaz said unto the elders, and unto all the people, Ye are witnesses this day, that I have bought all that was Elimelech’s, and all that was Chilion’s and Mahlon’s, of the hand of Naomi.

4:10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mah­lon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.
4:10 Moreover Ruth the Moabitess, the wife of Mahlon, have I purchased to be my wife, to raise up the name of the dead upon his inheritance, that the name of the dead be not cut off from among his brethren, and from the gate of his place: ye are witnesses this day.

4:11 A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dy Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:
4:11 And all the people that were in the gate, and the elders, said, We are witnesses. The LORD make the woman that is come into thine house like Rachel and like Leah, which two did build the house of Israel: and do thou worthily in Ephratah, and be famous in Bethlehem:

4:12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddug Tamar i Jwda, o’r had yr hwn a ddyry yr ARGLWYDD i ti o’r llances hon.
4:12 And let thy house be like the house of Pharez, whom Tamar bare unto Judah, of the seed which the LORD shall give thee of this young woman.

4:13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a’r ARGLWYDD a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.
4:13 So Boaz took Ruth, and she was his wife: and when he went in unto her, the LORD gave her conception, and she bare a son.

4:14 A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn ni’th adawodd di heb gyfath­rachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
4:14 And the women said unto Naomi, Blessed be the LORD, which hath not left thee this day without a kinsman, that his name may be famous in Israel.

4:15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i’th benwynni: canys dy waudd, yr hon a’th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.
4:15 And he shall be unto thee a restorer of thy life, and a nourisher of thine old age: for thy daughter in law, which loveth thee, which is better to thee than seven sons, hath borne him.

4:16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.
4:16 And Naomi took the child, and laid it in her bosom, and became nurse unto it.

4:17 A’i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
4:17 And the women her neighbours gave it a name, saying, There is a son born to Naomi; and they called his name Obed: he is the father of Jesse, the father of David.

4:18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,
4:18 Now these are the generations of Pharez: Pharez begat Hezron,

4:l9 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,
4:19 And Hezron begat Ram, and Ram begat Amminadab,

4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson a  Nahson a genhedlodd Salmon,
4:20 And Amminadab begat Nahshon, and Nahshon begat Salmon,

4:21 A Salmon a genhedlodd Boas, a  Boas a genhedlodd Obed,
4:21 And Salmon begat Boaz, and Boaz begat Obed,

4:22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.
4:22 And Obed begat Jesse, and Jesse begat David.



 

 

______________________

DIWEDD / END

 Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy ystadegau / View My Stats