.Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. 1317ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_sant_joan_43_1317ke.htm

0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân :
(43) Efengyl Sant Joan
(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible:
(43) Saint John’s Gospel  (in Welsh and English)

 


(delw 7310)

 



 

 1316k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig

····· 

PENNOD 1
1:1
1:1Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
1:1 In the beginning was the Word, and the Word was with God, and the Word was God.

1:2
Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.
1:2 The same was in the beginning with God.

1:3
Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd.
1:3 All things were made by him; and without him was not any thing made that was made.

1:4
Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion.
1:4 In him was life; and the life was the light of men.

1:5
A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
1:5 And the light shineth in darkness; and the darkness comprehended it not.

1:6
Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan.
1:6 There was a man sent from God, whose name was John.

1:7
Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.
1:7 The same came for a witness, to bear witness of the Light, that all men through him might believe.

1:8
Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.
1:8 He was not that Light, but was sent to bear witness of that Light.

1:9
Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.
1:9 That was the true Light, which lighteth every man that cometh into the world.

1:10
Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef.
1:10 He was in the world, and the world was made by him, and the world knew him not.

1:11
At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.
1:11 He came unto his own, and his own received him not.

1:12
Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef.
1:12 But as many as received him, to them gave he power to become the sons of God, even to them that believe on his name:

1:13
Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.
1:13 Which were born, not of blood, nor of the will of the flesh, nor of the will of man, but of God.

1:14
A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a driogodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
1:14 And the Word was made flesh, and dwelt among us, (and we beheld his glory, the glory as of the only begotten of the Father,) full of grace and truth.

1:15
Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod at fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i.
1:15 John bare witness of him, and cried, saying, This was he of whom I spake, He that cometh after me is preferred before me: for he was before me.

1:16
Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.
1:16 And of his fulness have all we received, and grace for grace.

1:17
Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
1:17 For the law was given by Moses, but grace and truth came by Jesus Christ.

1:18
Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
1:18 No man hath seen God at any time; the only begotten Son, which is in the bosom of the Father, he hath declared him.

1:19
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerusalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
1:19 And this is the record of John, when the Jews sent priests and Levites from Jerusalem to ask him, Who art thou?

1:20
Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw’r Crist.
1:20 And he confessed, and denied not; but confessed, I am not the Christ.

1:21
A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai’r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.
1:21 And they asked him, What then? Art thou Elias? And he saith, I am not. Art thou that prophet? And he answered, No.

1:22
Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?
1:22 Then said they unto him, Who art thou? that we may give an answer to them that sent us. What sayest thou of thyself?

1:23
Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd.
1:23 He said, I am the voice of one crying in the wilderness, Make straight the way of the Lord, as said the prophet Esaias.

1:24
A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid.
1:24 And they which were sent were of the Pharisees.

1:25
A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist, nac Eleias, na’r proffwyd? 
1:25 And they asked him, and said unto him, Why baptizest thou then, if thou be not that Christ, nor Elias, neither that prophet? John

 

1:26 Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi:

1:26 John answered them, saying, I baptize with water: but there standeth one among you, whom ye know not;

1:27
Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.
1:27 He it is, who coming after me is preferred before me, whose shoe’s latchet I am not worthy to unloose.

1:28
Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
1:28 These things were done in Bethabara beyond Jordan, where John was baptizing.

1:29
Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.
1:29 The next day John seeth Jesus coming unto him, and saith, Behold the Lamb of God, which taketh away the sin of the world.

1:30
Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i.
1:30 This is he of whom I said, After me cometh a man which is preferred before me: for he was before me.

1:31
Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr.
1:31 And I knew him not: but that he should be made manifest to Israel, therefore am I come baptizing with water.

1:32
Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef.
1:32 And John bare record, saying, I saw the Spirit descending from heaven like a dove, and it abode upon him.

1:33
A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.
1:33 And I knew him not: but he that sent me to baptize with water, the same said unto me, Upon whom thou shalt see the Spirit descending, and remaining on him, the same is he which baptizeth with the Holy Ghost.

1:34
A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.
1:34 And I saw, and bare record that this is the Son of God.

1:35
Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion:
1:35 Again the next day after John stood, and two of his disciples;

1:36
A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw.
1:36 And looking upon Jesus as he walked, he saith, Behold the Lamb of God!

1:37
A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.
1:37 And the two disciples heard him speak, and they followed Jesus.

1:38
Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasat wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo?
1:38 Then Jesus turned, and saw them following, and saith unto them, What seek ye? They said unto him, Rabbi, (which is to say, being interpreted, Master,) where dwellest thou?

1:39
Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.
1:39 He saith unto them, Come and see. They came and saw where he dwelt, and abode with him that day: for it was about the tenth hour.

1:40
Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a’i dilynasent ef.
1:40 One of the two which heard John speak, and followed him, was Andrew, Simon Peter’s brother.

1:41
Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o’i ddeongl yw, Y Crist.
1:41 He first findeth his own brother Simon, and saith unto him, We have found the Messias, which is, being interpreted, the Christ. John

 

1:42 Ac efe a’i dug ef at yr Iesu. A’r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.

1:42 And he brought him to Jesus. And when Jesus beheld him, he said, Thou art Simon the son of Jona: thou shalt be called Cephas, which is by interpretation, A stone.

1:43
Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
1:43 The day following Jesus would go forth into Galilee, and findeth Philip, and saith unto him, Follow me.

1:44
A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr.
1:44 Now Philip was of Bethsaida, the city of Andrew and Peter.

1:45
Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a’r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.
1:45 Philip findeth Nathanael, and saith unto him, We have found him, of whom Moses in the law, and the prophets, did write, Jesus of Nazareth, the son of Joseph.

1:46
A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl.
1:46 And Nathanael said unto him, Can there any good thing come out of Nazareth? Philip saith unto him, Come and see.

1:47
Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll.
1:47 Jesus saw Nathanael coming to him, and saith of him, Behold an Israelite indeed, in whom is no guile!

1:48
Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di.
1:48 Nathanael saith unto him, Whence knowest thou me? Jesus answered and said unto him, Before that Philip called thee, when thou wast under the fig tree, I saw thee.

1:49
Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel.
1:49 Nathanael answered and saith unto him, Rabbi, thou art the Son of God; thou art the King of Israel.

1:50
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn.
1:50 Jesus answered and said unto him, Because I said unto thee, I saw thee under the fig tree, believest thou? thou shalt see greater things than these.

1:51
Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.
1:51 And he saith unto him, Verily, verily, I say unto you, Hereafter ye shall see heaven open, and the angels of God ascending and descending upon the Son of man.


PENNOD 2
2:1
A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno.
2:1 And the third day there was a marriage in Cana of Galilee; and the mother of Jesus was there:

2:2
A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas.
2:2 And both Jesus was called, and his disciples, to the marriage.

2:3
A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin.
2:3 And when they wanted wine, the mother of Jesus saith unto him, They have no wine.

2:4
Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto.
2:4 Jesus saith unto her, Woman, what have I to do with thee? mine hour is not yet come.

2:5
Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
2:5 His mother saith unto the servants, Whatsoever he saith unto you, do it.

2:6
Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri.
2:6 And there were set there six waterpots of stone, after the manner of the purifying of the Jews, containing two or three firkins apiece.

2:7
Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl.
2:7 Jesus saith unto them, Fill the waterpots with water. And they filled them up to the brim.

2:8
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
2:8 And he saith unto them, Draw out now, and bear unto the governor of the feast. And they bare it.

2:9
A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab,
2:9 When the ruler of the feast had tasted the water that was made wine, and knew not whence it was: (but the servants which drew the water knew;) the governor of the feast called the bridegroom,

2:10
Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
2:10 And saith unto him, Every man at the beginning doth set forth good wine; and when men have well drunk, then that which is worse: but thou hast kept the good wine until now.

2:11
Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.
2:11 This beginning of miracles did Jesus in Cana of Galilee, and manifested forth his glory; and his disciples believed on him.

2:12
Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
2:12 After this he went down to Capernaum, he, and his mother, and his brethren, and his disciples: and they continued there not many days.

2:13
A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;
2:13 And the Jews’ passover was at hand, and Jesus went up to Jerusalem,

2:14
Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd.
2:14 And found in the temple those that sold oxen and sheep and doves, and the changers of money sitting:

2:15
Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau:
2:15 And when he had made a scourge of small cords, he drove them all out of the temple, and the sheep, and the oxen; and poured out the changers’ money, and overthrew the tables;

2:16
Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.
2:16 And said unto them that sold doves, Take these things hence; make not my Father’s house an house of merchandise.

2:17
A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.
2:17 And his disciples remembered that it was written, The zeal of thine house hath eaten me up.

2:18
Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?
2:18 Then answered the Jews and said unto him, What sign showest thou unto us, seeing that thou doest these things?

2:19
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac rnewn tridiau y cyfodaf hi.
2:19 Jesus answered and said unto them, Destroy this temple, and in three days I will raise it up.

2:20
Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?
2:20 Then said the Jews, Forty and six years was this temple in building, and wilt thou rear it up in three days?

2:21
Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff.
2:21 But he spake of the temple of his body.

2:22
Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
2:22 When therefore he was risen from the dead, his disciples remembered that he had said this unto them; and they believed the scripture, and the word which Jesus had said.

2:23
Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.
2:23 Now when he was in Jerusalem at the passover, in the feast day, many believed in his name, when they saw the miracles which he did.

2:24
Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll;
2:24 But Jesus did not commit himself unto them, because he knew all men,

2:25
Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.
2:25 And needed not that any should testify of man: for he knew what was in man.


PENNOD 3
3:1
Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon:
3:1 There was a man of the Pharisees, named Nicodemus, a ruler of the Jews:

3:2
Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef.
3:2 The same came to Jesus by night, and said unto him, Rabbi, we know that thou art a teacher come from God: for no man can do these miracles that thou doest, except God be with him.

3:3
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
3:3 Jesus answered and said unto him, Verily, verily, I say unto thee, Except a man be born again, he cannot see the kingdom of God.

3:4
Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni?
3:4 Nicodemus saith unto him, How can a man be born when he is old? can he enter the second time into his mother’s womb, and be born?

3:5
Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwrfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.
3:5 Jesus answered, Verily, verily, I say unto thee, Except a man be born of water and of the Spirit, he cannot enter into the kingdom of God.

3:6
Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd, a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd.
3:6 That which is born of the flesh is flesh; and that which is born of the Spirit is spirit.

3:7
Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn.
3:7 Marvel not that I said unto thee, Ye must be born again.

3:8
Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.
3:8 The wind bloweth where it listeth, and thou hearest the sound thereof, but canst not tell whence it cometh, and whither it goeth: so is every one that is born of the Spirit.

3:9
Nicodemus a atebodd ac a ddywedod wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?
3:9 Nicodemus answered and said unto him, How can these things be?

3:10
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?
3:10 Jesus answered and said unto him, Art thou a master of Israel, and knowest not these things?

3:11
Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
3:11 Verily, verily, I say unto thee, We speak that we do know, and testify that we have seen; and ye receive not our witness.

3:12
Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?
3:12 If I have told you earthly things, and ye believe not, how shall ye believe, if I tell you of heavenly things?

3:13
Ac nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.
3:13 And no man hath ascended up to heaven, but he that came down from heaven, even the Son of man which is in heaven.

3:14
Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn;
3:14 And as Moses lifted up the serpent in the wilderness, even so must the Son of man be lifted up:

3:15
Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
3:15 That whosoever believeth in him should not perish, but have eternal life.

3:16
Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
3:16 For God so loved the world, that he gave his only begotten Son, that whosoever believeth in him should not perish, but have everlasting life.

3:17
Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
3:17 For God sent not his Son into the world to condemn the world; but that the world through him might be saved.

3:18
Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw.
3:18 He that believeth on him is not condemned: but he that believeth not is condemned already, because he hath not believed in the name of the only begotten Son of God.

3:19
A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.
3:19 And this is the condemnation, that light is come into the world, and men loved darkness rather than light, because their deeds were evil.

3:20
Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casglu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.
3:20 For every one that doeth evil hateth the light, neither cometh to the light, lest his deeds should be reproved.

3:21
Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
3:21 But he that doeth truth cometh to the light, that his deeds may be made manifest, that they are wrought in God.

3:22
Wedi’r pethau hyn, daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.
3:22 After these things came Jesus and his disciples into the land of Judaea; and there he tarried with them, and baptized.

3:23
Ac yr oedd Ioan hefyd, yn bedyddio yn Ainon, yn agos, i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a’u bedyddiwyd:
3:23 And John also was baptizing in Aenon near to Salim, because there was much water there: and they came, and were baptized.

3:24
Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar.
3:24 For John was not yet cast into prison.

3:25
Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon, ynghylch puredigaeth.
3:25 Then there arose a question between some of John’s disciples and the Jews about purifying.

3:26
A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.
3:26 And they came unto John, and said unto him, Rabbi, he that was with thee beyond Jordan, to whom thou barest witness, behold, the same baptizeth, and all men come to him.

3:27
Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef.
3:27 John answered and said, A man can receive nothing, except it be given him from heaven.

3:28
Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw’r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef.
3:28 Ye yourselves bear me witness, that I said, I am not the Christ, but that I am sent before him.

3:29
Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw’r priodfab, ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd.
3:29 He that hath the bride is the bridegroom: but the friend of the bridegroom, which standeth and heareth him, rejoiceth greatly because of the bridegroom’s voice: this my joy therefore is fulfilled.

3:30
Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau.
3:30 He must increase, but I must decrease.

3:31
Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb.
3:31 He that cometh from above is above all: he that is of the earth is earthly, and speaketh of the earth: he that cometh from heaven is above all.

3:32
A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.
3:32 And what he hath seen and heard, that he testifieth; and no man receiveth his testimony.

3:33
Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw DUW.
3:33 He that hath received his testimony hath set to his seal that God is true.

3:34
Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.
3:34 For he whom God hath sent speaketh the words of God: for God giveth not the Spirit by measure unto him.

3:35
Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef.
3:35 The Father loveth the Son, and hath given all things into his hand.

3:36
Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
3:36 He that believeth on the Son hath everlasting life: and he that believeth not the Son shall not see life; but the wrath of God abideth on him.


PENNOD 4
4:1
Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan,
4:1 When therefore the Lord knew how the Pharisees had heard that Jesus made and baptized more disciples than John,

4:2
(Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, either ei ddisgyblion ef,)
4:2 (Though Jesus himself baptized not, but his disciples,)

4:3
Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea.
4:3 He left Judaea, and departed again into Galilee.

4:4
Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.
4:4 And he must needs go through Samaria.

4:5
Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff:
4:5 Then cometh he to a city of Samaria, which is called Sychar, near to the parcel of ground that Jacob gave to his son Joseph.

4:6
Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.
 4:6 Now Jacob’s well was there. Jesus therefore, being wearied with his journey, sat thus on the well: and it was about the sixth hour.

4:7
Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.
4:7 There cometh a woman of Samaria to draw water: Jesus saith unto her, Give me to drink.

4:8
(Canys ei ddisgyblion ef a aethant i’r ddinas i brynu bwyd.),
4:8 (For his disciples were gone away unto the city to buy meat.)

4:9
Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid.
4:9 Then saith the woman of Samaria unto him, How is it that thou, being a Jew, askest drink of me, which am a woman of Samaria? for the Jews have no dealings with the Samaritans.

4:10
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.
4:10 Jesus answered and said unto her, If thou knewest the gift of God, and who it is that saith to thee, Give me to drink; thou wouldest have asked of him, and he would have given thee living water.

4:11
Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?
4:11 The woman saith unto him, Sir, thou hast nothing to draw with, and the well is deep: from whence then hast thou that living water?

4:12
Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid?
4:12 Art thou greater than our father Jacob, which gave us the well, and drank thereof himself, and his children, and his cattle?

4:13
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:
4:13 Jesus answered and said unto her, Whosoever drinketh of this water shall thirst again:

4:14
Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.
4:14 But whosoever drinketh of the water that I shall give him shall never thirst; but the water that I shall give him shall be in him a well of water springing up into everlasting life.

4:15
Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.
4:15 The woman saith unto him, Sir, give me this water, that I thirst not, neither come hither to draw.

4:16
Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.
4:16 Jesus saith unto her, Go, call thy husband, and come hither.

4:17
Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr:
4:17 The woman answered and said, I have no husband. Jesus said unto her, Thou hast well said, I have no husband:

4:18
Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.
4:18 For thou hast had five husbands; and he whom thou now hast is not thy husband: in that saidst thou truly.

4:19
Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti.
4:19 The woman saith unto him, Sir, I perceive that thou art a prophet.

4:20
Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli.
4:20 Our fathers worshipped in this mountain; and ye say, that in Jerusalem is the place where men ought to worship.

4:21
Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerusalem.
4:21 Jesus saith unto her, Woman, believe me, the hour cometh, when ye shall neither in this mountain, nor yet at Jerusalem, worship the Father.

4:22
Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon.
4:22 Ye worship ye know not what: we know what we worship: for salvation is of the Jews.

4:23
Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef.
4:23 But the hour cometh, and now is, when the true worshippers shall worship the Father in spirit and in truth: for the Father seeketh such to worship him.

4:24
Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.
4:24 God is a Spirit: and they that worship him must worship him in spirit and in truth.

4:25
Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
4:25 The woman saith unto him, I know that Messias cometh, which is called Christ: when he is come, he will tell us all things.

4:26
Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
4:26 Jesus saith unto her, I that speak unto thee am he.

4:27
Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
4:27 And upon this came his disciples, and marvelled that he talked with the woman: yet no man said, What seekest thou? or, Why talkest thou with her?

4:28
Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,
4:28 The woman then left her waterpot, and went her way into the city, and saith to the men,

4:29
Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum, onid hwn yw’r Crist?
4:29 Come, see a man, which told me all things that ever I did: is not this the Christ?

4:30
Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef.
4:30 Then they went out of the city, and came unto him.

4:31
Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
4:31 In the mean while his disciples prayed him, saying, Master, eat.

4:32
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.
4:32 But he said unto them, I have meat to eat that ye know not of.

4:33
Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta?
4:33 Therefore said the disciples one to another, Hath any man brought him ought to eat?

4:34
Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef.
4:34 Jesus saith unto them, My meat is to do the will of him that sent me, and to finish his work.

4:35
Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf.
4:35 Say not ye, There are yet four months, and then cometh harvest? behold, I say unto you, Lift up your eyes, and look on the fields; for they are white already to harvest.

4:36
A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi lawenychu ynghyd.
4:36 And he that reapeth receiveth wages, and gathereth fruit unto life eternal: that both he that soweth and he that reapeth may rejoice together.

4:37
Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.
4:37 And herein is that saying true, One soweth, and another reapeth.

4:38
Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a llafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.
4:38 I sent you to reap that whereon ye bestowed no labour: other men laboured, and ye are entered into their labours.

4:39
A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.
4:39 And many of the Samaritans of that city believed on him for the saying of the woman, which testified, He told me all that ever I did.

4:40
Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.
4:40 So when the Samaritans were come unto him, they besought him that he would tarry with them: and he abode there two days.

4:41
A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun.
4:41 And many more believed because of his own word;

4:42
A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.
4:42 And said unto the woman, Now we believe, not because of thy saying: for we have heard him ourselves, and know that this is indeed the Christ, the Saviour of the world.

4:43
Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea.
4:43 Now after two days he departed thence, and went into Galilee.

4:44
Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun.
4:44 For Jesus himself testified, that a prophet hath no honour in his own country.

4:45
Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a’i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i’r ŵyl.
4:45 Then when he was come into Galilee, the Galilaeans received him, having seen all the things that he did at Jerusalem at the feast: for they also went unto the feast.

4:46
Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum
4:46 So Jesus came again into Cana of Galilee, where he made the water wine. And there was a certain nobleman, whose son was sick at Capernaum.

4:47
Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.
4:47 When he heard that Jesus was come out of Judaea into Galilee, he went unto him, and besought him that he would come down, and heal his son: for he was at the point of death.

4:48
Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
4:48 Then said Jesus unto him, Except ye see signs and wonders, ye will not believe.

4:49
Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen.
4:49 The nobleman saith unto him, Sir, come down ere my child die.

4:50
Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.
4:50 Jesus saith unto him, Go thy way; thy son liveth. And the man believed the word that Jesus had spoken unto him, and he went his way.

4:51
Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.
4:51 And as he was now going down, his servants met him, and told him, saying, Thy son liveth.

4:52
Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
4:52 Then inquired he of them the hour when he began to amend. And they said unto him, Yesterday at the seventh hour the fever left him.

4:53
Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ.
4:53 So the father knew that it was at the same hour, in the which Jesus said unto him, Thy son liveth: and himself believed, and his whole house.

4:54
Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.
4:54 This is again the second miracle that Jesus did, when he was come out of Judaea into Galilee.


PENNOD 5

5:1 Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon; a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem.
5:1 After this there was a feast of the Jews; and Jesus went up to Jerusalem.

5:2
Ac y mae yn Jerwsalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth;
5:2 Now there is at Jerusalem by the sheep market a pool, which is called in the Hebrew tongue Bethesda, having five porches.

5:3
Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr.
5:3 In these lay a great multitude of impotent folk, of blind, halt, withered, waiting for the moving of the water.

5:4
Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu’r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.
5:4 For an angel went down at a certain season into the pool, and troubled the water: whosoever then first after the troubling of the water stepped in was made whole of whatsoever disease he had.

5:5
Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.
5:5 And a certain man was there, which had an infirmity thirty and eight years.

5:6
Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?
5:6 When Jesus saw him lie, and knew that he had been now a long time in that case, he saith unto him, Wilt thou be made whole?

5:7
Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i.
5:7 The impotent man answered him, Sir, I have no man, when the water is troubled, to put me into the pool: but while I am coming, another steppeth down before me.

5:8
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia.
5:8 Jesus saith unto him, Rise, take up thy bed, and walk.

5:9
Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A’r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.
5:9 And immediately the man was made whole, and took up his bed, and walked: and on the same day was the sabbath.

5:10
Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.
5:10 The Jews therefore said unto him that was cured, It is the sabbath day: it is not lawful for thee to carry thy bed.

5:11
Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.
5:11 He answered them, He that made me whole, the same said unto me, Take up thy bed, and walk.

5:12
Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?
5:12 Then asked they him, What man is that which said unto thee, Take up thy bed, and walk?

5:13
A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o’r dyrfa oedd yn y fan honno.
5:13 And he that was healed wist not who it was: for Jesus had conveyed himself away, a multitude being in that place.

5:14
Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.
5:14 Afterward Jesus findeth him in the temple, and said unto him, Behold, thou art made whole: sin no more, lest a worse thing come unto thee.

5:15
Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i’r Iddewon, mai’r Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach.
5:15 The man departed, and told the Jews that it was Jesus, which had made him whole.

5:16
c am hynny yr Iddewon a erlidiasant Yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.
5:16 And therefore did the Jews persecute Jesus, and sought to slay him, because he had done these things on the sabbath day.

5:17
Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.
5:17 But Jesus answered them, My Father worketh hitherto, and I work.

5:18
Am hyn gan hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri’r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.
5:18 Therefore the Jews sought the more to kill him, because he not only had broken the sabbath, but said also that God was his Father, making himself equal with God.

5:19
Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.
5:19 Then answered Jesus and said unto them, Verily, verily, I say unto you, The Son can do nothing of himself, but what he seeth the Father do: for what things soever he doeth, these also doeth the Son likewise.

5:20
Canys y Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
5:20 For the Father loveth the Son, and showeth him all things that himself doeth: and he will show him greater works than these, that ye may marvel.

5:21
Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno.
5:21 For as the Father raiseth up the dead, and quickeneth them; even so the Son quickeneth whom he will.

5:22
Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab:
5:22 For the Father judgeth no man, but hath committed all judgment unto the Son:

5:23
Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef.
5:23 That all men should honour the Son, even as they honour the Father. He that honoureth not the Son honoureth not the Father which hath sent him.

5:24
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
5:24 Verily, verily, I say unto you, He that heareth my word, and believeth on him that sent me, hath everlasting life, and shall not come into condemnation; but is passed from death unto life.

5:25
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw.
5:25 Verily, verily, I say unto you, The hour is coming, and now is, when the dead shall hear the voice of the Son of God: and they that hear shall live.

5:26
Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;
5:26 For as the Father hath life in himself; so hath he given to the Son to have life in himself;

5:27
Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.
5:27 And hath given him authority to execute judgment also, because he is the Son of man.

5:28
Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef.
5:28 Marvel not at this: for the hour is coming, in the which all that are in the graves shall hear his voice,

5:29
A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.
5:29 And shall come forth; they that have done good, unto the resurrection of life; and they that have done evil, unto the resurrection of damnation.

5:30
Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu; a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
5:30 I can of mine own self do nothing: as I hear, I judge: and my judgment is just; because I seek not mine own will, but the will of the Father which hath sent me.

5:31
Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.
5:31 If I bear witness of myself, my witness is not true.

5:32
Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi.
5:32 There is another that beareth witness of me; and I know that the witness which he witnesseth of me is true.

5:33
Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd.
5:33 Ye sent unto John, and he bare witness unto the truth.

5:34
Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.
5:34 But I receive not testimony from man: but these things I say, that ye might be saved.

5:35
Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
5:35 He was a burning and a shining light: and ye were willing for a season to rejoice in his light.

5:36
Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i.
5:36 But I have greater witness than that of John: for the works which the Father hath given me to finish, the same works that I do, bear witness of me, that the Father hath sent me.

5:37
A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef.
5:37 And the Father himself, which hath sent me, hath borne witness of me. Ye have neither heard his voice at any time, nor seen his shape.

5:38
Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
5:38 And ye have not his word abiding in you: for whom he hath sent, him ye believe not.

5:39
Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol, a hwynt-hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi.
5:39 Search the scriptures; for in them ye think ye have eternal life: and they are they which testify of me.

5:40
Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
5:40 And ye will not come to me, that ye might have life.

5:41
Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant sydd oddi wrth ddynion.
5:41 I receive not honour from men.

5:42
Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
5:42 But I know you, that ye have not the love of God in you.

5:43
Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
5:43 I am come in my Father’s name, and ye receive me not: if another shall come in his own name, him ye will receive.

5:44
Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
5:44 How can ye believe, which receive honour one of another, and seek not the honour that cometh from God only?

5:45
Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
5:45 Do not think that I will accuse you to the Father: there is one that accuseth you, even Moses, in whom ye trust.

5:46
Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe.
5:46 For had ye believed Moses, ye would have believed me: for he wrote of me.

5:47
Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?
5:47 But if ye believe not his writings, how shall ye believe my words?


PENNOD 6
6:1
Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias.
6:1 After these things Jesus went over the sea of Galilee, which is the sea of Tiberias.

6:2
A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.
6:2 And a great multitude followed him, because they saw his miracles which he did on them that were diseased.

6:3
A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion.
6:3 And Jesus went up into a mountain, and there he sat with his disciples.

6:4
A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn agos.
6:4 And the passover, a feast of the Jews, was nigh.

6:5
Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth, Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?
6:5 When Jesus then lifted up his eyes, and saw a great company come unto him, he saith unto Philip, Whence shall we buy bread, that these may eat?

6:6
(A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef. canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)
6:6 And this he said to prove him: for he himself knew what he would do.

6:7
Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig.
6:7 Philip answered him, Two hundred pennyworth of bread is not sufficient for them, that every one of them may take a little.

6:8
Un o’i ddisgyblion a. ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr,
6:8 One of his disciples, Andrew, Simon Peter’s brother, saith unto him,

6:9
Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth, yw hynny rhwng cynifer?
6:9 There is a lad here, which hath five barley loaves, and two small fishes: but what are they among so many?

6:10
A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mill o nifer.
6:10 And Jesus said, Make the men sit down. Now there was much grass in the place. So the men sat down, in number about five thousand.

6:11
A’r Iesu a gymerth y torthau,.ac wedi iddo ddiolch, efe a’u disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant.
6:11 And Jesus took the loaves; and when he had given thanks, he distributed to the disciples, and the disciples to them that were set down; and likewise of the fishes as much as they would.

6:12
Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim.
6:12 When they were filled, he said unto his disciples, Gather up the fragments that remain, that nothing be lost.

6:13
Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent.
6:13 Therefore they gathered them together, and filled twelve baskets with the fragments of the five barley loaves, which remained over and above unto them that had eaten.

6:14
Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd.
6:14 Then those men, when they had seen the miracle that Jesus did, said, This is of a truth that prophet that should come into the world.

6:15
Yr Iesu gan hynny, pan wybu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynyddd, ei hunan yn unig.
6:15 When Jesus therefore perceived that they would come and take him by force, to make him a king, he departed again into a mountain himself alone.

6:16
A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr.
6:16 And when even was now come, his disciples went down unto the sea,

6:17
Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dres y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r.Iesu ni ddaethai atynt hwy.
6:17 And entered into a ship, and went over the sea toward Capernaum. And it was now dark, and Jesus was not come to them.

6:18
A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.
6:18 And the sea arose by reason of a great wind that blew.

6:19
Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant.
6:19 So when they had rowed about five and twenty or thirty furlongs, they see Jesus walking on the sea, and drawing nigh unto the ship: and they were afraid.

6:20
Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch.
6:20 But he saith unto them, It is I; be not afraid.

6:21
Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.
6:21 Then they willingly received him into the ship: and immediately the ship was at the land whither they went.

6:22
Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain;
6:22 The day following, when the people which stood on the other side of the sea saw that there was none other boat there, save that one whereinto his disciples were entered, and that Jesus went not with his disciples into the boat, but that his disciples were gone away alone;

6:23
(Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:)
6:23 (Howbeit there came other boats from Tiberias nigh unto the place where they did eat bread, after that the Lord had given thanks:)

6:24
Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.
6:24 When the people therefore saw that Jesus was not there, neither his disciples, they also took shipping, and came to Capernaum, seeking for Jesus.

6:25
Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?
6:25 And when they had found him on the other side of the sea, they said unto him, Rabbi, when camest thou hither?

6:26
Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni.
6:26 Jesus answered them and said, Verily, verily, I say unto you, Ye seek me, not because ye saw the miracles, but because ye did eat of the loaves, and were filled.

6:27
Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.
6:27 Labour not for the meat which perisheth, but for that meat which endureth unto everlasting life, which the Son of man shall give unto you: for him hath God the Father sealed.

6:28
Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a I wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?
6:28 Then said they unto him, What shall we do, that we might work the works of God?

6:29
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe.
6:29 Jesus answered and said unto them, This is the work of God, that ye believe on him whom he hath sent.

6:30
Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?
6:30 They said therefore unto him, What sign showest thou then, that we may see, and believe thee? what dost thou work?

6:31
Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta.
6:31 Our fathers did eat manna in the desert; as it is written, He gave them bread from heaven to eat.

6:32
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef.
 6:32 Then Jesus said unto them, Verily, verily, I say unto you, Moses gave you not that bread from heaven; but my Father giveth you the true bread from heaven.

6:33
Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.
6:33 For the bread of God is he which cometh down from heaven, and giveth life unto the world.

6:34
Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol.
6:34 Then said they unto him, Lord, evermore give us this bread.

6:35
Ar Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
6:35 And Jesus said unto them, I am the bread of life: he that cometh to me shall never hunger; and he that believeth on me shall never thirst.

6:36
Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.
6:36 But I said unto you, That ye also have seen me, and believe not.

6:37
Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddal ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.
6:37 All that the Father giveth me shall come to me; and him that cometh to me I will in no wise cast out.

6:38
Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys hwn a’m hanfonodd.
6:38 For I came down from heaven, not to do mine own will, but the will of him that sent me.

6:39
A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf.
6:39 And this is the Father’s will which hath sent me, that of all which he hath given me I should lose nothing, but should raise it up again at the last day.

6:40
A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
6:40 And this is the will of him that sent me, that every one which seeth the Son, and believeth on him, may have everlasting life: and I will raise him up at the last day.

6:41
Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef.
6:41 The Jews then murmured at him, because he said, I am the bread which came down from heaven.

6:42
A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais?
6:42 And they said, Is not this Jesus, the son of Joseph, whose father and mother we know? how is it then that he saith, I came down from heaven?

6:43
Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd.
6:43 Jesus therefore answered and said unto them, Murmur not among yourselves.

6:44
Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
6:44 No man can come to me, except the Father which hath sent me draw him: and I will raise him up at the last day.

6:45
Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.
6:45 It is written in the prophets, And they shall be all taught of God. Every man therefore that hath heard, and hath learned of the Father, cometh unto me.

6:46
Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad.
6:46 Not that any man hath seen the Father, save he which is of God, he hath seen the Father.

6:47
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.
6:47 Verily, verily, I say unto you, He that believeth on me hath everlasting life.

6:48
Myfi yw bara’r bywyd.
6:48 I am that bread of life.

6:49
Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw.
6:49 Your fathers did eat manna in the wilderness, and are dead.

6:50
Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw.
6:50 This is the bread which cometh down from heaven, that a man may eat thereof, and not die.

6:51
Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.
6:51 I am the living bread which came down from heaven: if any man eat of this bread, he shall live for ever: and the bread that I will give is my flesh, which I will give for the life of the world.

6:52
Yna yr Iddewon a ymrysonasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta?
6:52 The Jews therefore strove among themselves, saying, How can this man give us his flesh to eat?

6:53
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.
6:53 Then Jesus said unto them, Verily, verily, I say unto you, Except ye eat the flesh of the Son of man, and drink his blood, ye have no life in you.

6:54
Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
6:54 Whoso eateth my flesh, and drinketh my blood, hath eternal life; and I will raise him up at the last day.

6:55
Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir.
6:55 For my flesh is meat indeed, and my blood is drink indeed.

6:56
Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau.
6:56 He that eateth my flesh, and drinketh my blood, dwelleth in me, and I in him.

6:57
Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi.
6:57 As the living Father hath sent me, and I live by the Father: so he that eateth me, even he shall live by me.

6:58
Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.
6:58 This is that bread which came down from heaven: not as your fathers did eat manna, and are dead: he that eateth of this bread shall live for ever.

6:59
Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapermaum.
6:59 These things said he in the synagogue, as he taught in Capernaum.

6:60
Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno?
6:60 Many therefore of his disciples, when they had heard this, said, This is an hard saying; who can hear it?

6:61
Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?
6:61 When Jesus knew in himself that his disciples murmured at it, he said unto them, Doth this offend you?

6:62
Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen?
6:62 What and if ye shall see the Son of man ascend up where he was before?

6:63
Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt.
6:63 It is the spirit that quickeneth; the flesh profiteth nothing: the words that I speak unto you, they are spirit, and they are life.

6:64
Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef.
6:64 But there are some of you that believe not. For Jesus knew from the beginning who they were that believed not, and who should betray him.

6:65
Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.
6:65 And he said, Therefore said I unto you, that no man can come unto me, except it were given unto him of my Father.

6:66
O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef.
6:66 From that time many of his disciples went back, and walked no more with him.

6:67
Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd, fynd ymaith?
6:67 Then said Jesus unto the twelve, Will ye also go away?

6:68
Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.
6:68 Then Simon Peter answered him, Lord, to whom shall we go? thou hast the words of eternal life.

6:69
Ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod mai tydi yw’r’Crist, Mab y Duw byw.
6:69 And we believe and are sure that thou art that Christ, the Son of the living God.

6:70
Iesu a’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol?
6:70 Jesus answered them, Have not I chosen you twelve, and one of you is a devil?

6:71
Eithr efe. a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.
6:71 He spake of Judas Iscariot the son of Simon: for he it was that should betray him, being one of the twelve.


PENNOD 7
7:1
A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.
7:1 After these things Jesus walked in Galilee: for he would not walk in Jewry, because the Jews sought to kill him.

7:2
A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos.
7:2 Now the Jews’ feast of tabernacles was at hand.

7:3
Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.
7:3 His brethren therefore said unto him, Depart hence, and go into Judaea, that thy disciples also may see the works that thou doest.

7:4
Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd.
7:4 For there is no man that doeth any thing in secret, and he himself seeketh to be known openly. If thou do these things, show thyself to the world.

7:5
Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo.
7:5 For neither did his brethren believe in him.

7:6
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.
7:6 Then Jesus said unto them, My time is not yet come: but your time is alway ready.

7:7
Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.
7:7 The world cannot hate you; but me it hateth, because I testify of it, that the works thereof are evil.

7:8
Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni: chyflawnwyd fy amser i eto.
7:8 Go ye up unto this feast: I go not up yet unto this feast: for my time is not yet full come.

7:9
Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea
7:9 When he had said these words unto them, he abode still in Galilee.

7:10
Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd, a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.
7:10 But when his brethren were gone up, then went he also up unto the feast, not openly, but as it were in secret.

7:11
Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?
7:11 Then the Jews sought him at the feast, and said, Where is he?

7:12
A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae.
7:12 And there was much murmuring among the people concerning him: for some said, He is a good man: others said, Nay; but he deceiveth the people.

7:13
Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.
7:13 Howbeit no man spake openly of him for fear of the Jews.

7:14
Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd.
7:14 Now about the midst of the feast Jesus went up into the temple, and taught.

7:15
A’r Iddewon a ryfeddasant,. gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu?
7:15 And the Jews marvelled, saying, How knoweth this man letters, having never learned?

7:16
Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i.
7:16 Jesus answered them, and said, My doctrine is not mine, but his that sent me.

7:17
Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru.
7:17 If any man will do his will, he shall know of the doctrine, whether it be of God, or whether I speak of myself.

7:18
Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
7:18 He that speaketh of himself seeketh his own glory: but he that seeketh his glory that sent him, the same is true, and no unrighteousness is in him.

7:19
Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?
7:19 Did not Moses give you the law, and yet none of you keepeth the law? Why go ye about to kill me?

7:20
Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?
7:20 The people answered and said, Thou hast a devil: who goeth about to kill thee?

7:21
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.
7:21 Jesus answered and said unto them, I have done one work, and ye all marvel.

7:22
Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth.
7:22 Moses therefore gave unto you circumcision; (not because it is of Moses, but of the fathers;) and ye on the sabbath day circumcise a man.

7:23
Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth?
7:23 If a man on the sabbath day receive circumcision, that the law of Moses should not be broken; are ye angry at me, because I have made a man every whit whole on the sabbath day?

7:24
Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.
7:24 Judge not according to the appearance, but judge righteous judgment.

7:25
Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd?
7:25 Then said some of them of Jerusalem, Is not this he, whom they seek to kill?

7:26
Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir?
7:26 But, lo, he speaketh boldly, and they say nothing unto him. Do the rulers know indeed that this is the very Christ?

7:27
Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae.
7:27 Howbeit we know this man whence he is: but when Christ cometh, no man knoweth whence he is.

7:28
Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.
7:28 Then cried Jesus in the temple as he taught, saying, Ye both know me, and ye know whence I am: and I am not come of myself, but he that sent me is true, whom ye know not.

7:29
Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i .
7:29 But I know him: for I am from him, and he hath sent me.

7:30
Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto.
7:30 Then they sought to take him: but no man laid hands on him, because his hour was not yet come.

7:31
A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn?
7:31 And many of the people believed on him, and said, When Christ cometh, will he do more miracles than these which this man hath done?

7:32
Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef.
7:32 The Pharisees heard that the people murmured such things concerning him; and the Pharisees and the chief priests sent officers to take him.

7:33
Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd.
7:33 Then said Jesus unto them, Yet a little while am I with you, and then I go unto him that sent me.

7:34
Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.
7:34 Ye shall seek me, and shall not find me: and where I am, thither ye cannot come.

7:35
Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid?
7:35 Then said the Jews among themselves, Whither will he go, that we shall not find him? will he go unto the dispersed among the Gentiles, and teach the Gentiles?

7:36
Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?
7:36 What manner of saying is this that he said, Ye shall seek me, and shall not find me: and where I am, thither ye cannot come? John 7:37

7:37
Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed.
7:37 In the last day, that great day of the feast, Jesus stood and cried, saying, If any man thirst, let him come unto me, and drink.

7:38
Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef.
7:38 He that believeth on me, as the scripture hath said, out of his belly shall flow rivers of living water.

7:39
(A hyn a dywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)
7:39 (But this spake he of the Spirit, which they that believe on him should receive: for the Holy Ghost was not yet given; because that Jesus was not yet glorified.)

7:40
Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd.
7:40 Many of the people therefore, when they heard this saying, said, Of a truth this is the Prophet.

7:41
Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist?
7:41 Others said, This is the Christ. But some said, Shall Christ come out of Galilee?

7:42
Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod?
7:42 Hath not the scripture said, That Christ cometh of the seed of David, and out of the town of Bethlehem, where David was?

7:43
Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef.
7:43 So there was a division among the people because of him.

7:44
A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.
7:44 And some of them would have taken him; but no man laid hands on him.

7:45
Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddysgasoch chwi ef?
7:45 Then came the officers to the chief priests and Pharisees; and they said unto them, Why have ye not brought him?

7:46
A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn.
7:46 The officers answered, Never man spake like this man.

7:47
Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?
7:47 Then answered them the Pharisees, Are ye also deceived?

7:48
A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid?
7:48 Have any of the rulers or of the Pharisees believed on him?

7:49
Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt.
7:49 But this people who knoweth not the law are cursed.

7:50
Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt,
7:50 Nicodemus saith unto them, (he that came to Jesus by night, being one of them,)

7:51
A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth ef?
7:51 Doth our law judge any man, before it hear him, and know what he doeth?

7:52
Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.
7:52 They answered and said unto him, Art thou also of Galilee? Search, and look: for out of Galilee ariseth no prophet.

7:53
A phob un a aeth i’w dŷ ei hun;
7:53 And every man went unto his own house.


PENNOD 8
8:1
A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd:
8:1 Jesus went unto the mount of Olives.

8:2
Ac a ddaeth drachefn y y bore i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt.
8:2 And early in the morning he came again into the temple, and all the people came unto him; and he sat down, and taught them.

8:3
A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol.
8:3 And the scribes and Pharisees brought unto him a woman taken in adultery; and when they had set her in the midst,

8:4
Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.
8:4 They say unto him, Master, this woman was taken in adultery, in the very act.

8:5
A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
8:5 Now Moses in the law commanded us, that such should be stoned: but what sayest thou?

8:6
A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed.
8:6 This they said, tempting him, that they might have to accuse him. But Jesus stooped down, and with his finger wrote on the ground, as though he heard them not.

8:7
Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi.
8:7 So when they continued asking him, he lifted up himself, and said unto them, He that is without sin among you, let him first cast a stone at her.

8:8
Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear.
8:8 And again he stooped down, and wrote on the ground.

8:9
Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd en hargyhoeddi gan en cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol.
8:9 And they which heard it, being convicted by their own conscience, went out one by one, beginning at the eldest, even unto the last: and Jesus was left alone, and the woman standing in the midst.

8:10
A’r Iesu wedi ymunioni, ac he weled neb ond y wraig, a ddywedod wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di?
8:10 When Jesus had lifted up himself, and saw none but the woman, he said unto her, Woman, where are those thine accusers? hath no man condemned thee?

8:11
Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.
8:11 She said, No man, Lord. And Jesus said unto her, Neither do I condemn thee: go, and sin no more.

8:12
Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd.
 8:12 Then spake Jesus again unto them, saying, I am the light of the world: he that followeth me shall not walk in darkness, but shall have the light of life.

8:13
Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dysystiolaeth di wir.
8:13 The Pharisees therefore said unto him, Thou bearest record of thyself; thy record is not true.

8:14
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: Oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned.
8:14 Jesus answered and said unto them, Though I bear record of myself, yet my record is true: for I know whence I came, and whither I go; but ye cannot tell whence I come, and whither I go.

8:15
Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb.
8:15 Ye judge after the flesh; I judge no man.

8:16
Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
8:16 And yet if I judge, my judgment is true: for I am not alone, but I and the Father that sent me.

8:17
Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn.
8:17 It is also written in your law, that the testimony of two men is true.

8:18
Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi.
8:18 I am one that bear witness of myself, and the Father that sent me beareth witness of me.

8:19
Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.
8:19 Then said they unto him, Where is thy Father? Jesus answered, Ye neither know me, nor my Father: if ye had known me, ye should have known my Father also.

8:20
Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.
8:20 These words spake Jesus in the treasury, as he taught in the temple: and no man laid hands on him; for his hour was not yet come.

8:21
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
8:21 Then said Jesus again unto them, I go my way, and ye shall seek me, and shall die in your sins: whither I go, ye cannot come.

8:22
Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
8:22 Then said the Jews, Will he kill himself? because he saith, Whither I go, ye cannot come.

8:23
Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn.
8:23 And he said unto them, Ye are from beneath; I am from above: ye are of this world; I am not of this world.

8:24
Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.
8:24 I said therefore unto you, that ye shall die in your sins: for if ye believe not that I am he, ye shall die in your sins.

8:25
Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad.
8:25 Then said they unto him, Who art thou? And Jesus saith unto them, Even the same that I said unto you from the beginning.

8:26
Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd.
8:26 I have many things to say and to judge of you: but he that sent me is true; and I speak to the world those things which I have heard of him.

8:27
Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.
8:27 They understood not that he spake to them of the Father.

8:28
Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd, fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.
8:28 Then said Jesus unto them, When ye have lifted up the Son of man, then shall ye know that I am he, and that I do nothing of myself; but as my Father hath taught me, I speak these things.

8:29
A’r hwn i’m hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef.
8:29 And he that sent me is with me: the Father hath not left me alone; for I do always those things that please him.

8:30
Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.
8:30 As he spake these words, many believed on him.

8:31
Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn.fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir;
8:31 Then said Jesus to those Jews which believed on him, If ye continue in my word, then are ye my disciples indeed;

8:32
A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.
8:32 And ye shall know the truth, and the truth shall make you free.

8:33
Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?
8:33 They answered him, We be Abraham’s seed, and were never in bondage to any man: how sayest thou, Ye shall be made free?

8:34
Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.
8:34 Jesus answered them, Verily, verily, I say unto you, Whosoever committeth sin is the servant of sin.

8:35
Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth.
8:35 And the servant abideth not in the house for ever: but the Son abideth ever.

8:36
Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.
8:36 If the Son therefore shall make you free, ye shall be free indeed.

8:37
Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.
8:37 I know that ye are Abraham’s seed; but ye seek to kill me, because my word hath no place in you.

8:38
Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau.
8:38 I speak that which I have seen with my Father: and ye do that which ye have seen with your father.

8:39
Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech.
8:39 They answered and said unto him, Abraham is our father. Jesus saith unto them, If ye were Abraham’s children, ye would do the works of Abraham.

8:40
Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn, a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.
8:40 But now ye seek to kill me, a man that hath told you the truth, which I have heard of God: this did not Abraham.

8:41
Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw.
8:41 Ye do the deeds of your father. Then said they to him, We be not born of fornication; we have one Father, even God.

8:42
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i.
8:42 Jesus said unto them, If God were your Father, ye would love me: for I proceeded forth and came from God; neither came I of myself, but he sent me.

8:43
Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i.
8:43 Why do ye not understand my speech? even because ye cannot hear my word.

8:44
O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
8:44 Ye are of your father the devil, and the lusts of your father ye will do. He was a murderer from the beginning, and abode not in the truth, because there is no truth in him. When he speaketh a lie, he speaketh of his own: for he is a liar, and the father of it.

8:45
Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.
8:45 And because I tell you the truth, ye believe me not.

8:46
Pwy ohonoch am hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi?
8:46 Which of you convinceth me of sin? And if I say the truth, why do ye not believe me?

8:47
Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.
8:47 He that is of God heareth God’s words: ye therefore hear them not, because ye are not of God.

8:48
Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul?
8:48 Then answered the Jews, and said unto him, Say we not well that thou art a Samaritan, and hast a devil?

8:49
Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau.
8:49 Jesus answered, I have not a devil; but I honour my Father, and ye do dishonour me.

8:50
Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn.
8:50 And I seek not mine own glory: there is one that seeketh and judgeth.

8:51
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd.
8:51 Verily, verily, I say unto you, If a man keep my saying, he shall never see death.

8:52
Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.
8:52 Then said the Jews unto him, Now we know that thou hast a devil. Abraham is dead, and the prophets; and thou sayest, If a man keep my saying, he shall never taste of death.

8:53
Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?
8:53 Art thou greater than our father Abraham, which is dead? and the prophets are dead: whom makest thou thyself?

8:54
Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw.
8:54 Jesus answered, If I honour myself, my honour is nothing: it is my Father that honoureth me; of whom ye say, that he is your God:

8:55
Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef.
8:55 Yet ye have not known him; but I know him: and if I should say, I know him not, I shall be a liar like unto you: but I know him, and keep his saying.

8:56
Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd.
8:56 Your father Abraham rejoiced to see my day: and he saw it, and was glad.

8:57
Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham?
8:57 Then said the Jews unto him, Thou art not yet fifty years old, and hast thou seen Abraham?

8:58
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi.
8:58 Jesus said unto them, Verily, verily, I say unto you, Before Abraham was, I am.

8:59
Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.
8:59 Then took they up stones to cast at him: but Jesus hid himself, and went out of the temple, going through the midst of them, and so passed by.


PENNOD 9
9:1
Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth.
9:1 And as Jesus passed by, he saw a man which was blind from his birth.

9:2
A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?
9:2 And his disciples asked him, saying, Master, who did sin, this man, or his parents, that he was born blind?

9:3
Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoed Duw ynddo ef.
9:3 Jesus answered, Neither hath this man sinned, nor his parents: but that the works of God should be made manifest in him.

9:4
Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.
9:4 I must work the works of him that sent me, while it is day: the night cometh, when no man can work.

9:5
Tra ydwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf.
9:5 As long as I am in the world, I am the light of the world.

9:6
Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall;
9:6 When he had thus spoken, he spat on the ground, and made clay of the spittle, and he anointed the eyes of the blind man with the clay,

9:7
Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
9:7 And said unto him, Go, wash in the pool of Siloam, (which is by interpretation, Sent.) He went his way therefore, and washed, and came seeing.

9:8
Y cymdogion gan hynny, ar rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota?
9:8 The neighbours therefore, and they which before had seen him that he was blind, said, Is not this he that sat and begged?

9:9
Rhai, a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe.
9:9 Some said, This is he: others said, He is like him: but he said, I am he.

9:10
Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?
9:10 Therefore said they unto him, How were thine eyes opened?

9:11
Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.
9:11 He answered and said, A man that is called Jesus made clay, and anointed mine eyes, and said unto me, Go to the pool of Siloam, and wash: and I went and washed, and I received sight.

9:12
Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.
9:12 Then said they unto him, Where is he? He said, I know not.

9:13
Hwythau a’i dygasant ef, at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall.
9:13 They brought to the Pharisees him that aforetime was blind.

9:14
A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef.
9:14 And it was the sabbath day when Jesus made the clay, and opened his eyes.

9:15
Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.
9:15 Then again the Pharisees also asked him how he had received his sight. He said unto them, He put clay upon mine eyes, and I washed, and do see.

9:16
Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.
9:16 Therefore said some of the Pharisees, This man is not of God, because he keepeth not the sabbath day. Others said, How can a man that is a sinner do such miracles? And there was a division among them.

9:17
Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe.
9:17 They say unto the blind man again, What sayest thou of him, that he hath opened thine eyes? He said, He is a prophet.

9:18
Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai. dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg.
9:18 But the Jews did not believe concerning him, that he had been blind, and received his sight, until they called the parents of him that had received his sight.

9:19
A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?
9:19 And they asked them, saying, Is this your son, who ye say was born blind? how then doth he now see?


9:20
Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasmt, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef:
9:20 His parents answered them and said, We know that this is our son, and that he was born blind:


9:21
Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun.
9:21 But by what means he now seeth, we know not; or who hath opened his eyes, we know not: he is of age; ask him: he shall speak for himself.

9:22
Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog.
9:22 These words spake his parents, because they feared the Jews: for the Jews had agreed already, that if any man did confess that he was Christ, he should be put out of the synagogue.

9:23
Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef.
9:23 Therefore said his parents, He is of age; ask him.

9:24
Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn
9:24 Then again called they the man that was blind, and said unto him, Give God the praise: we know that this man is a sinner.

9:25
Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd. Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yt wyf fi yn awr yn gweled.
9:25 He answered and said, Whether he be a sinner or no, I know not: one thing I know, that, whereas I was blind, now I see.

9:26
Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?
9:26 Then said they to him again, What did he to thee? how opened he thine eyes?

9:27
Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch: paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef?
9:27 He answered them, I have told you already, and ye did not hear: wherefore would ye hear it again? will ye also be his disciples?

9:28
Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni.
9:28 Then they reviled him, and said, Thou art his disciple; but we are Moses’ disciples.

9:29
Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe.
9:29 We know that God spake unto Moses: as for this fellow, we know not from whence he is.

9:30
Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.
9:30 The man answered and said unto them, Why herein is a marvellous thing, that ye know not from whence he is, and yet he hath opened mine eyes.

9:31
Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.
9:31 Now we know that God heareth not sinners: but if any man be a worshipper of God, and doeth his will, him he heareth.

9:32
Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.
9:32 Since the world began was it not heard that any man opened the eyes of one that was born blind.

9:33
Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim.
9:33 If this man were not of God, he could do nothing.

9:34
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i bwriasant ef allan.
9:34 They answered and said unto him, Thou wast altogether born in sins, and dost thou teach us? And they cast him out.

9:35
Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?
9:35 Jesus heard that they had cast him out; and when he had found him, he said unto him, Dost thou believe on the Son of God?

9:36
Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo?
9:36 He answered and said, Who is he, Lord, that I might believe on him?

9:37
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe.
9:37 And Jesus said unto him, Thou hast both seen him, and it is he that talketh with thee.

9:38
Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.
9:38 And he said, Lord, I believe. And he worshipped him.


9:39
A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn, fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion.
9:39 And Jesus said, For judgment I am come into this world, that they which see not might see; and that they which see might be made blind.

9:40
A rhai o’r Pharaseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion?
9:40 And some of the Pharisees which were with him heard these words, and said unto him, Are we blind also?

9:41
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.
9:41 Jesus said unto them, If ye were blind, ye should have no sin: but now ye say, We see; therefore your sin remaineth.


PENNOD 10
10:1
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidwr ac ysbeiliwr yw.
10:1 Verily, verily, I say unto you, He that entereth not by the door into the sheepfold, but climbeth up some other way, the same is a thief and a robber.

10:2
Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw.
10:2 But he that entereth in by the door is the shepherd of the sheep.

10:3
I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid. yn gwrando ar ei llais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain. hwy allan.
10:3 To him the porter openeth; and the sheep hear his voice: and he calleth his own sheep by name, and leadeth them out.

10:4
Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.
10:4 And when he putteth forth his own sheep, he goeth before them, and the sheep follow him: for they know his voice.

10:5
Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
10:5 And a stranger will they not follow, but will flee from him: for they know not the voice of strangers.

10:6
Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
10:6 This parable spake Jesus unto them: but they understood not what things they were which he spake unto them.

10:7
Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
 10:7 Then said Jesus unto them again, Verily, verily, I say unto you, I am the door of the sheep.

10:8
Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
10:8 All that ever came before me are thieves and robbers: but the sheep did not hear them.

10:9
Myfi yw’r drwsi: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
10:9 I am the door: by me if any man enter in, he shall be saved, and shall go in and out, and find pasture.

10:10
Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
10:10 The thief cometh not, but for to steal, and to kill, and to destroy: I am come that they might have life, and that they might have it more abundantly.

10:11
Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
10:11 I am the good shepherd: the good shepherd giveth his life for the sheep.

10:12
Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid.
10:12 But he that is an hireling, and not the shepherd, whose own the sheep are not, seeth the wolf coming, and leaveth the sheep, and fleeth: and the wolf catcheth them, and scattereth the sheep.

10:13
Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid. mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.
10:13 The hireling fleeth, because he is an hireling, and careth not for the sheep.

10:14
Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi.
10:14 I am the good shepherd, and know my sheep, and am known of mine.

10:15
Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
10:15 As the Father knoweth me, even so know I the Father: and I lay down my life for the sheep.

10:16
A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
10:16 And other sheep I have, which are not of this fold: them also I must bring, and they shall hear my voice; and there shall be one fold, and one shepherd.

10:17
Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.
10:17 Therefore doth my Father love me, because I lay down my life, that I might take it again.

10:18
Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
10:18 No man taketh it from me, but I lay it down of myself. I have power to lay it down, and I have power to take it again. This commandment have I received of my Father.

10:19
Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
10:19 There was a division therefore again among the Jews for these sayings.

10:20
A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?
10:20 And many of them said, He hath a devil, and is mad; why hear ye him?

10:21
Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
10:21 Others said, These are not the words of him that hath a devil. Can a devil open the eyes of the blind?

10:22
Ac yr oedd y gysegr-ŵyl yn Jerwsalem, a’r gaeaf oedd hi.
10:22 And it was at Jerusalem the feast of the dedication, and it was winter.

10:23
Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.
10:23 And Jesus walked in the temple in Solomon’s porch.

10:24
Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw’r Crist, dywed i ni yn eglur.
10:24 Then came the Jews round about him, and said unto him, How long dost thou make us to doubt? If thou be the Christ, tell us plainly.

10:25
Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
10:25 Jesus answered them, I told you, and ye believed not: the works that I do in my Father’s name, they bear witness of me.

10:26
Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.
10:26 But ye believe not, because ye are not of my sheep, as I said unto you.

10:27
Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i:
10:27 My sheep hear my voice, and I know them, and they follow me:

10:28
A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.
10:28 And I give unto them eternal life; and they shall never perish, neither shall any man pluck them out of my hand.

10:29
Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
10:29 My Father, which gave them me, is greater than all; and no man is able to pluck them out of my Father’s hand.

10:30
Myfi a’r Tad un ydym.
10:30 I and my Father are one.

10:31
Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef.
10:31 Then the Jews took up stones again to stone him.

10:32
Yr Iesu a atebodd iddynt, llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
10:32 Jesus answered them, Many good works have I showed you from my Father; for which of those works do ye stone me?

10:33
Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
10:33 The Jews answered him, saying, For a good work we stone thee not; but for blasphemy; and because that thou, being a man, makest thyself God.

10:34
Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
10:34 Jesus answered them, Is it not written in your law, I said, Ye are gods?

10:35
Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
10:35 If he called them gods, unto whom the word of God came, and the scripture cannot be broken;

10:36
A ddywedwch chwi am yr hwn a saacteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?
10:36 Say ye of him, whom the Father hath sanctified, and sent into the world, Thou blasphemest; because I said, I am the Son of God?

10:37
Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi:
10:37 If I do not the works of my Father, believe me not.

10:38
Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.
10:38 But if I do, though ye believe not me, believe the works: that ye may know, and believe, that the Father is in me, and I in him.

10:39
Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt.
10:39 Therefore they sought again to take him: but he escaped out of their hand,

10:40
Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
10:40 And went away again beyond Jordan into the place where John at first baptized; and there he abode.

10:41
A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr hofl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
10:41 And many resorted unto him, and said, John did no miracle: but all things that John spake of this man were true.

10:42
A llawer yno a gredasant ynddo.
10:42 And many believed on him there.


PENNOD 11
11:1
Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha.
11:1 Now a certain man was sick, named Lazarus, of Bethany, the town of Mary and her sister Martha.

11:2
(A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.)
11:2 (It was that Mary which anointed the Lord with ointment, and wiped his feet with her hair, whose brother Lazarus was sick.)

11:3
Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.
11:3 Therefore his sisters sent unto him, saying, Lord, behold, he whom thou lovest is sick.

11:4
A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.
11:4 When Jesus heard that, he said, This sickness is not unto death, but for the glory of God, that the Son of God might be glorified thereby.

11:5
A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus.
11:5 Now Jesus loved Martha, and her sister, and Lazarus.

11:6
Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
11:6 When he had heard therefore that he was sick, he abode two days still in the same place where he was.

11:7
Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.
11:7 Then after that saith he to his disciples, Let us go into Judaea again.

11:8
Y disgyblion a ddywedant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
11:8 His disciples say unto him, Master, the Jews of late sought to stone thee; and goest thou thither again?

11:9
Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn:
11:9 Jesus answered, Are there not twelve hours in the day? If any man walk in the day, he stumbleth not, because he seeth the light of this world.

11:10
Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.
11:10 But if a man walk in the night, he stumbleth, because there is no light in him.

11:11
Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny, efe a ddywedodd wrthynt, y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef.
11:11 These things said he: and after that he saith unto them, Our friend Lazarus sleepeth; but I go, that I may awake him out of sleep.

11:12
Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.
11:12 Then said his disciples, Lord, if he sleep, he shall do well.

11:13
Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.
11:13 Howbeit Jesus spake of his death: but they thought that he had spoken of taking of rest in sleep.

11:14
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus.
11:14 Then said Jesus unto them plainly, Lazarus is dead.

11:15
Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef.
11:15 And I am glad for your sakes that I was not there, to the intent ye may believe; nevertheless let us go unto him.

11:16
Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.
11:16 Then said Thomas, which is called Didymus, unto his fellowdisciples, Let us also go, that we may die with him.

11:17
Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
11:17 Then when Jesus came, he found that he had lain in the grave four days already.

11:18
A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:
11:18 Now Bethany was nigh unto Jerusalem, about fifteen furlongs off:

11:19
A llawer o’r Iddewon a ddaethent at Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd.
11:19 And many of the Jews came to Martha and Mary, to comfort them concerning their brother.

11:20
Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.
11:20 Then Martha, as soon as she heard that Jesus was coming, went and met him: but Mary sat still in the house. John

 

11:21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwyd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.

11:21 Then said Martha unto Jesus, Lord, if thou hadst been here, my brother had not died.

11:22
Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.
11:22 But I know, that even now, whatsoever thou wilt ask of God, God will give it thee.

11:23
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn.
11:23 Jesus saith unto her, Thy brother shall rise again.

11:24
Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf.
11:24 Martha saith unto him, I know that he shall rise again in the resurrection at the last day.

11:25
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:
11:25 Jesus said unto her, I am the resurrection, and the life: he that believeth in me, though he were dead, yet shall he live:

11:26
A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn?
11:26 And whosoever liveth and believeth in me shall never die. Believest thou this?

11:27
Dywedodd hithau wrtho, ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd.
11:27 She saith unto him, Yea, Lord: I believe that thou art the Christ, the Son of God, which should come into the world.

11:28
Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.
11:28 And when she had so said, she went her way, and called Mary her sister secretly, saying, The Master is come, and calleth for thee.

11:29
Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.
11:29 As soon as she heard that, she arose quickly, and came unto him.

11:30
(A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man efe y cyfarfuasai Martha ag ef.)
11:30 Now Jesus was not yet come into the town, but was in that place where Martha met him.

11:31
Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno.
11:31 The Jews then which were with her in the house, and comforted her, when they saw Mary, that she rose up hastily and went out, followed her, saying, She goeth unto the grave to weep there.

11:32
Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.
11:32 Then when Mary was come where Jesus was, and saw him, she fell down at his feet, saying unto him, Lord, if thou hadst been here, my brother had not died.

11:33
Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd;
11:33 When Jesus therefore saw her weeping, and the Jews also weeping which came with her, he groaned in the spirit, and was troubled,

11:34
Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.
11:34 And said, Where have ye laid him? They said unto him, Lord, come and see.

11:35
Yr Iesu a wylodd.
11:35 Jesus wept.

11:36
Am hynny dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.
11:36 Then said the Jews, Behold how he loved him!

11:37
Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?
11:37 And some of them said, Could not this man, which opened the eyes of the blind, have caused that even this man should not have died?

11:38
Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.
11:38 Jesus therefore again groaning in himself cometh to the grave. It was a cave, and a stone lay upon it.

11:39
Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.
11:39 Jesus said, Take ye away the stone. Martha, the sister of him that was dead, saith unto him, Lord, by this time he stinketh: for he hath been dead four days.

11:40
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?
11:40 Jesus saith unto her, Said I not unto thee, that, if thou wouldest believe, thou shouldest see the glory of God?

11:41
Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.
11:41 Then they took away the stone from the place where the dead was laid. And Jesus lifted up his eyes, and said, Father, I thank thee that thou hast heard me.

11:42
Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i.
11:42 And I knew that thou hearest me always: but because of the people which stand by I said it, that they may believe that thou hast sent me.

11:43
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan.
11:43 And when he thus had spoken, he cried with a loud voice, Lazarus, come forth.

11:44
A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
11:44 And he that was dead came forth, bound hand and foot with graveclothes: and his face was bound about with a napkin. Jesus saith unto them, Loose him, and let him go.

11:45
Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.
11:45 Then many of the Jews which came to Mary, and had seen the things which Jesus did, believed on him.

11:46
Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
11:46 But some of them went their ways to the Pharisees, and told them what things Jesus had done.

11:47
Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
11:47 Then gathered the chief priests and the Pharisees a council, and said, What do we? for this man doeth many miracles.

11:48
Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd.
11:48 If we let him thus alone, all men will believe on him: and the Romans shall come and take away both our place and nation.

11:49
A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd offeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll,
11:49 And one of them, named Caiaphas, being the high priest that same year, said unto them, Ye know nothing at all,

11:50
Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl;
11:50 Nor consider that it is expedient for us, that one man should die for the people, and that the whole nation perish not.

11:51
Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl;
11:51 And this spake he not of himself: but being high priest that year, he prophesied that Jesus should die for that nation;

11:52
Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.
11:52 And not for that nation only, but that also he should gather together in one the children of God that were scattered abroad.

11:53
Yna o’r dydd hwnnw allan, y cydymgyngorasant fel y lladdent ef.
11:53 Then from that day forth they took counsel together for to put him to death.

11:54
Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion.
11:54 Jesus therefore walked no more openly among the Jews; but went thence unto a country near to the wilderness, into a city called Ephraim, and there continued with his disciples.

11:55
A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawwer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain.
11:55 And the Jews’ passover was nigh at hand: and many went out of the country up to Jerusalem before the passover, to purify themselves.

11:56
Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl?
11:56 Then sought they for Jesus, and spake among themselves, as they stood in the temple, What think ye, that he will not come to the feast?

11:57
A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.
11:57 Now both the chief priests and the Pharisees had given a commandment, that, if any man knew where he were, he should show it, that they might take him.


PENNOD 12
12:1
Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o farw.
12:1 Then Jesus six days before the passover came to Bethany, where Lazarus was which had been dead, whom he raised from the dead.

12:2
Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef.
12:2 There they made him a supper; and Martha served: but Lazarus was one of them that sat at the table with him.

12:3
Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
12:3 Then took Mary a pound of ointment of spikenard, very costly, and anointed the feet of Jesus, and wiped his feet with her hair: and the house was filled with the odour of the ointment.

12:4
Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef,
12:4 Then saith one of his disciples, Judas Iscariot, Simon’s son, which should betray him,

12:5
Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion?
12:5 Why was not this ointment sold for three hundred pence, and given to the poor?

12:6
Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.
12:6 This he said, not that he cared for the poor; but because he was a thief, and had the bag, and bare what was put therein.

12:7
A’r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.
12:7 Then said Jesus, Let her alone: against the day of my burying hath she kept this.

12:8
Canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser.
12:8 For the poor always ye have with you; but me ye have not always.

12:9
Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.
12:9 Much people of the Jews therefore knew that he was there: and they came not for Jesus’ sake only, but that they might see Lazarus also, whom he had raised from the dead.

12:10
Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd:
12:10 But the chief priests consulted that they might put Lazarus also to death;

12:11
Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.
12:11 Because that by reason of him many of the Jews went away, and believed on Jesus.

12:12
Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem,
12:12 On the next day much people that were come to the feast, when they heard that Jesus was coming to Jerusalem, John

 

12:13 A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

12:13 Took branches of palm trees, and went forth to meet him, and cried, Hosanna: Blessed is the King of Israel that cometh in the name of the Lord.

12:14
A’r Iesu wedi cael asyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig,
12:14 And Jesus, when he had found a young ass, sat thereon; as it is written,

12:15
Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd er ebol asyn.
12:15 Fear not, daughter of Sion: behold, thy King cometh, sitting on an ass’s colt.

12:16
Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
12:16 These things understood not his disciples at the first: but when Jesus was glorified, then remembered they that these things were written of him, and that they had done these things unto him.

12:17
Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw.
12:17 The people therefore that was with him when he called Lazarus out of his grave, and raised him from the dead, bare record.

12:18
Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.
12:18 For this cause the people also met him, for that they heard that he had done this miracle.

12:19
Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
12:19 The Pharisees therefore said among themselves, Perceive ye how ye prevail nothing? behold, the world is gone after him.

12:20
Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:
12:20 And there were certain Greeks among them that came up to worship at the feast:

12:21
Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, tan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
12:21 The same came therefore to Philip, which was of Bethsaida of Galilee, and desired him, saying, Sir, we would see Jesus.

12:22
Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.
12:22 Philip cometh and telleth Andrew: and again Andrew and Philip tell Jesus.

12:23
A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.
12:23 And Jesus answered them, saying, The hour is come, that the Son of man should be glorified.

12:24
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr us bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
12:24 Verily, verily, I say unto you, Except a corn of wheat fall into the ground and die, it abideth alone: but if it die, it bringeth forth much fruit.

12:25
Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casa’u ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol.
12:25 He that loveth his life shall lose it; and he that hateth his life in this world shall keep it unto life eternal.

12:26
Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi y Tad a’i hanrhydedda ef.
12:26 If any man serve me, let him follow me; and where I am, there shall also my servant be: if any man serve me, him will my Father honour.

12:27
Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon.
12:27 Now is my soul troubled; and what shall I say? Father, save me from this hour: but for this cause came I unto this hour.

12:28
O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn.
12:28 Father, glorify thy name. Then came there a voice from heaven, saying, I have both glorified it, and will glorify it again.

12:29
Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.
12:29 The people therefore, that stood by, and heard it, said that it thundered: others said, An angel spake to him.

12:30
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi.
12:30 Jesus answered and said, This voice came not because of me, but for your sakes.

12:31
Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.
12:31 Now is the judgment of this world: now shall the prince of this world be cast out.

12:32
A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.
12:32 And I, if I be lifted up from the earth, will draw all men unto me.

12:33
(A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.)
12:33 This he said, signifying what death he should die.

12:34
Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn?
12:34 The people answered him, We have heard out of the law that Christ abideth for ever: and how sayest thou, The Son of man must be lifted up? who is this Son of man?

12:35
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned.
12:35 Then Jesus said unto them, Yet a little while is the light with you. Walk while ye have the light, lest darkness come upon you: for he that walketh in darkness knoweth not whither he goeth.

12:36
Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
12:36 While ye have light, believe in the light, that ye may be the children of light. These things spake Jesus, and departed, and did hide himself from them.

12:37
Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn en gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo:
12:37 But though he had done so many miracles before them, yet they believed not on him:

12:38
Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?
12:38 That the saying of Esaias the prophet might be fulfilled, which he spake, Lord, who hath believed our report? and to whom hath the arm of the Lord been revealed?

12:39
Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn,
12:39 Therefore they could not believe, because that Esaias said again,

12:40
Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.
12:40 He hath blinded their eyes, and hardened their heart; that they should not see with their eyes, nor understand with their heart, and be converted, and I should heal them.

12:41
Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
12:41 These things said Esaias, when he saw his glory, and spake of him.

12:42
Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog:
12:42 Nevertheless among the chief rulers also many believed on him; but because of the Pharisees they did not confess him, lest they should be put out of the synagogue:

12:43
Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
12:43 For they loved the praise of men more than the praise of God.

12:44
A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn, yr hwn a’m hanfonodd i.
12:44 Jesus cried and said, He that believeth on me, believeth not on me, but on him that sent me.

12:45
A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i.
12:45 And he that seeth me seeth him that sent me.

12:46
Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.
12:46 I am come a light into the world, that whosoever believeth on me should not abide in darkness.

12:47
Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd.
12:47 And if any man hear my words, and believe not, I judge him not: for I came not to judge the world, but to save the world.

12:48
Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf.
12:48 He that rejecteth me, and receiveth not my words, hath one that judgeth him: the word that I have spoken, the same shall judge him in the last day.

12:49
Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.
12:49 For I have not spoken of myself; but the Father which sent me, he gave me a commandment, what I should say, and what I should speak.

12:50
Ac mi a wn fod ei orchmynyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
12:50 And I know that his commandment is life everlasting: whatsoever I speak therefore, even as the Father said unto me, so I speak.


PENNOD 13
13:1
A chyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd.
 13:1 Now before the feast of the passover, when Jesus knew that his hour was come that he should depart out of this world unto the Father, having loved his own which were in the world, he loved them unto the end.

13:2
Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef;
13:2 And supper being ended, the devil having now put into the heart of Judas Iscariot, Simon’s son, to betray him;

13:3
Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw;
13:3 Jesus knowing that the Father had given all things into his hands, and that he was come from God, and went to God;

13:4
Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roos heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd.
13:4 He riseth from supper, and laid aside his garments; and took a towel, and girded himself.

13:5
Wedi hynny efe a ddywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi el wregysu.
13:5 After that he poureth water into a basin, and began to wash the disciples’ feet, and to wipe them with the towel wherewith he was girded.

13:6
Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti’n golchi fy nhraed i?
13:6 Then cometh he to Simon Peter: and Peter saith unto him, Lord, dost thou wash my feet?

13:7
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ô1 hyn.
13:7 Jesus answered and said unto him, What I do thou knowest not now; but thou shalt know hereafter.

13:8
Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi.
13:8 Peter saith unto him, Thou shalt never wash my feet. Jesus answered him, If I wash thee not, thou hast no part with me.

13:9
Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd.
13:9 Simon Peter saith unto him, Lord, not my feet only, but also my hands and my head.

13:10
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.
13:10 Jesus saith to him, He that is washed needeth not save to wash his feet, but is clean every whit: and ye are clean, but not all.

13:11
Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.
13:11 For he knew who should betray him; therefore said he, Ye are not all clean.

13:12
Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi?
13:12 So after he had washed their feet, and had taken his garments, and was set down again, he said unto them, Know ye what I have done to you?

13:13
Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf.
13:13 Ye call me Master and Lord: and ye say well; for so I am.

13:14
Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd;
13:14 If I then, your Lord and Master, have washed your feet; ye also ought to wash one another’s feet.

13:15
Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi.
13:15 For I have given you an example, that ye should do as I have done to you.

13:16
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd.
13:16 Verily, verily, I say unto you, The servant is not greater than his lord; neither he that is sent greater than he that sent him.

13:17
Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
13:17 If ye know these things, happy are ye if ye do them.

13:18
Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn.
13:18 I speak not of you all: I know whom I have chosen: but that the scripture may be fulfilled, He that eateth bread with me hath lifted up his heel against me.

13:19
Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe.
13:19 Now I tell you before it come, that, when it is come to pass, ye may believe that I am he.

13:20
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.
13:20 Verily, verily, I say unto you, He that receiveth whomsoever I send receiveth me; and he that receiveth me receiveth him that sent me.

13:21
Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi.
13:21 When Jesus had thus said, he was troubled in spirit, and testified, and said, Verily, verily, I say unto you, that one of you shall betray me.

13:22
Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd.
13:22 Then the disciples looked one on another, doubting of whom he spake.

13:23
Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.
13:23 Now there was leaning on Jesus’ bosom one of his disciples, whom Jesus loved.

13:24
Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd.
13:24 Simon Peter therefore beckoned to him, that he should ask who it should be of whom he spake.

13:25
Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
13:25 He then lying on Jesus’ breast saith unto him, Lord, who is it?

13:26
Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon.
13:26 Jesus answered, He it is, to whom I shall give a sop, when I have dipped it. And when he had dipped the sop, he gave it to Judas Iscariot, the son of Simon.

13:27
Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.
13:27 And after the sop Satan entered into him. Then said Jesus unto him, That thou doest, do quickly.

13:28
Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho.
13:28 Now no man at the table knew for what intent he spake this unto him.

13:29
Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryna y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion.
13:29 For some of them thought, because Judas had the bag, that Jesus had said unto him, Buy those things that we have need of against the feast; or, that he should give something to the poor.

13:30
Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.
13:30 He then having received the sop went immediately out: and it was night.

13:31
Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.
13:31 Therefore, when he was gone out, Jesus said, Now is the Son of man glorified, and God is glorified in him.

13:32
Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd. a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd.
13:32 If God be glorified in him, God shall also glorify him in himself, and shall straightway glorify him.

13:33
O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni eflwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.
13:33 Little children, yet a little while I am with you. Ye shall seek me: and as I said unto the Jews, Whither I go, ye cannot come; so now I say to you.

13:34
Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd.
13:34 A new commandment I give unto you, That ye love one another; as I have loved you, that ye also love one another.

13:35
Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.
13:35 By this shall all men know that ye are my disciples, if ye have love one to another.

13:36
A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy. nghanlyn: eithr ar ôl hyn y’m canlyni.
13:36 Simon Peter said unto him, Lord, whither goest thou? Jesus answered him, Whither I go, thou canst not follow me now; but thou shalt follow me afterwards.

13:37
Pedr, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot.
13:37 Peter said unto him, Lord, why cannot I follow thee now? I will lay down my life for thy sake.

13:38
Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
13:38 Jesus answered him, Wilt thou lay down thy life for my sake? Verily, verily, I say unto thee, The cock shall not crow, till thou hast denied me thrice.


PENNOD 14
14:1
Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof innau hefyd.
14:1 Let not your heart be troubled: ye believe in God, believe also in me.

14:2
Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi.
14:2 In my Father’s house are many mansions: if it were not so, I would have told you. I go to prepare a place for you.

14:3
Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.
14:3 And if I go and prepare a place for you, I will come again, and receive you unto myself; that where I am, there ye may be also.

14:4
Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch.
14:4 And whither I go ye know, and the way ye know.

14:5
Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y. ffordd?
14:5 Thomas saith unto him, Lord, we know not whither thou goest; and how can we know the way?

14:6
Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd , a’r bywyd: nid yw neb yn.dyfod at y Tad, ond trwof fi.
 14:6 Jesus saith unto him, I am the way, the truth, and the life: no man cometh unto the Father, but by me.

14:7
Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef.
14:7 If ye had known me, ye should have known my Father also: and from henceforth ye know him, and have seen him.

14:8
Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.
14:8 Philip saith unto him, Lord, show us the Father, and it sufficeth us.

14:9
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?
14:9 Jesus saith unto him, Have I been so long time with you, and yet hast thou not known me, Philip? he that hath seen me hath seen the Father; and how sayest thou then, Show us the Father?

14:10
Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
14:10 Believest thou not that I am in the Father, and the Father in me? the words that I speak unto you I speak not of myself: but the Father that dwelleth in me, he doeth the works.

14:11
Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.
14:11 Believe me that I am in the Father, and the Father in me: or else believe me for the very works’ sake.

14:12
Yn wir, yn wir, meddaf i. chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.
14:12 Verily, verily, I say unto you, He that believeth on me, the works that I do shall he do also; and greater works than these shall he do; because I go unto my Father.

14:13
A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.
14:13 And whatsoever ye shall ask in my name, that will I do, that the Father may be glorified in the Son.

14:14
Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.
14:14 If ye shall ask any thing in my name, I will do it.

14:15
O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion.
14:15 If ye love me, keep my commandments.

14:16
A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol;
14:16 And I will pray the Father, and he shall give you another Comforter, that he may abide with you for ever;

14:17
Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y bydd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.
14:17 Even the Spirit of truth; whom the world cannot receive, because it seeth him not, neither knoweth him: but ye know him; for he dwelleth with you, and shall be in you.

14:18
Ni’ch gadawaf chwi yn amnddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi.
14:18 I will not leave you comfortless: I will come to you.

14:19
Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.
14:19 Yet a little while, and the world seeth me no more; but ye see me: because I live, ye shall live also.

14:20
Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.
14:20 At that day ye shall know that I am in my Father, and ye in me, and I in you.

14:21
Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo.
14:21 He that hath my commandments, and keepeth them, he it is that loveth me: and he that loveth me shall be loved of my Father, and I will love him, and will manifest myself to him.

14:22
Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd?
14:22 Judas saith unto him, not Iscariot, Lord, how is it that thou wilt manifest thyself unto us, and not unto the world?

14:23
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad, a’i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef.
14:23 Jesus answered and said unto him, If a man love me, he will keep my words: and my Father will love him, and we will come unto him, and make our abode with him.

14:24
Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i.
14:24 He that loveth me not keepeth not my sayings: and the word which ye hear is not mine, but the Father’s which sent me.

14:25
Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi.
14:25 These things have I spoken unto you, being yet present with you.

14:26
Eithr y Diddanyadd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi.
14:26 But the Comforter, which is the Holy Ghost, whom the Father will send in my name, he shall teach you all things, and bring all things to your remembrance, whatsoever I have said unto you.

14:27
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.
14:27 Peace I leave with you, my peace I give unto you: not as the world giveth, give I unto you. Let not your heart be troubled, neither let it be afraid.

14:28
Clywsoch fel y dywedais wrthych, yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.
14:28 Ye have heard how I said unto you, I go away, and come again unto you. If ye loved me, ye would rejoice, because I said, I go unto the Father: for my Father is greater than I.

14:29
Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch.
14:29 And now I have told you before it come to pass, that, when it is come to pass, ye might believe.

14:30
Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi.
14:30 Hereafter I will not talk much with you: for the prince of this world cometh, and hath nothing in me.

14:31
Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.
14:31 But that the world may know that I love the Father; and as the Father gave me commandment, even so I do. Arise, let us go hence.


PENNOD 15
15:1
Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r llafurwr.
15:1 John 15:1 I am the true vine, and my Father is the husbandman.

15:2
Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith, a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth.
15:2 Every branch in me that beareth not fruit he taketh away: and every branch that beareth fruit, he purgeth it, that it may bring forth more fruit.

15:3
Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych
15:3 Now ye are clean through the word which I have spoken unto you.

15:4
Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi.
15:4 Abide in me, and I in you. As the branch cannot bear fruit of itself, except it abide in the vine; no more can ye, except ye abide in me.

15:5
Myfi yw’r winwydden, chwithau yw’r canghennau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.
15:5 I am the vine, ye are the branches: He that abideth in me, and I in him, the same bringeth forth much fruit: for without me ye can do nothing.

15:6
Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.
15:6 If a man abide not in me, he is cast forth as a branch, and is withered; and men gather them, and cast them into the fire, and they are burned.

15:7
Os arhoswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi.
15:7 If ye abide in me, and my words abide in you, ye shall ask what ye will, and it shall be done unto you.

15:8
Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi.
15:8 Herein is my Father glorified, that ye bear much fruit; so shall ye be my disciples.

15:9
Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.
15:9 As the Father hath loved me, so have I loved you: continue ye in my love.

15:10
Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
15:10 If ye keep my commandments, ye shall abide in my love; even as I have kept my Father’s commandments, and abide in his love.

15:11
Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.
15:11 These things have I spoken unto you, that my joy might remain in you, and that your joy might be full.

15:12
Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.
15:12 This is my commandment, That ye love one another, as I have loved you.

15:13
Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.
15:13 Greater love hath no man than this, that a man lay down his life for his friends.

15:14
Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.
15:14 Ye are my friends, if ye do whatsoever I command you.

15:15
Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.
15:15 Henceforth I call you not servants; for the servant knoweth not what his lord doeth: but I have called you friends; for all things that I have heard of my Father I have made known unto you.

15:16
Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
15:16 Ye have not chosen me, but I have chosen you, and ordained you, that ye should go and bring forth fruit, and that your fruit should remain: that whatsoever ye shall ask of the Father in my name, he may give it you.

15:17
Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd.
15:17 These things I command you, that ye love one another.

15:18
Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi.
15:18 If the world hate you, ye know that it hated me before it hated you.

15:19
Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi.
15:19 If ye were of the world, the world would love his own: but because ye are not of the world, but I have chosen you out of the world, therefore the world hateth you.

15:20
Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.
15:20 Remember the word that I said unto you, The servant is not greater than his lord. If they have persecuted me, they will also persecute you; if they have kept my saying, they will keep yours also.

15:21
Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i.
15:21 But all these things will they do unto you for my name’s sake, because they know not him that sent me.

15:22
Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.
15:22 If I had not come and spoken unto them, they had not had sin: but now they have no cloak for their sin.

15:23
Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.
15:23 He that hateth me hateth my Father also.

15:24
Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac am casasant i a’m Tad hefyd.
15:24 If I had not done among them the works which none other man did, they had not had sin: but now have they both seen and hated both me and my Father.

15:25
Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos.
15:25 But this cometh to pass, that the word might be fulfilled that is written in their law, They hated me without a cause.

15:26
Eithr pan ddel y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn, sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.
15:26 But when the Comforter is come, whom I will send unto you from the Father, even the Spirit of truth, which proceedeth from the Father, he shall testify of me:

15:27
A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.
15:27 And ye also shall bear witness, because ye have been with me from the beginning.


PENNOD 16

16:1
Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi.
16:1 These things have I spoken unto you, that ye should not be offended.

16:2
Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.
16:2 They shall put you out of the synagogues: yea, the time cometh, that whosoever killeth you will think that he doeth God service.

16:3
A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi.
16:3 And these things will they do unto you, because they have not known the Father, nor me.

16:4
Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi.
16:4 But these things have I told you, that when the time shall come, ye may remember that I told you of them. And these things I said not unto you at the beginning, because I was with you.

16:5
Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned?
16:5 But now I go my way to him that sent me; and none of you asketh me, Whither goest thou?

16:6
Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.
16:6 But because I have said these things unto you, sorrow hath filled your heart.

16:7
Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch.
16:7 Nevertheless I tell you the truth; It is expedient for you that I go away: for if I go not away, the Comforter will not come unto you; but if I depart, I will send him unto you.

16:8
A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:
16:8 And when he is come, he will reprove the world of sin, and of righteousness, and of judgment:

16:9
O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:
16:9 Of sin, because they believe not on me;

16:10
0 gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach;
16:10 Of righteousness, because I go to my Father, and ye see me no more;

16:11
O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.
16:11 Of judgment, because the prince of this world is judged.

16:12
Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.
16:12 I have yet many things to say unto you, but ye cannot bear them now.

16:13
Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.
16:13 Howbeit when he, the Spirit of truth, is come, he will guide you into all truth: for he shall not speak of himself; but whatsoever he shall hear, that shall he speak: and he will show you things to come.

16:14
Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.
16:14 He shall glorify me: for he shall receive of mine, and shall show it unto you.

16:15
Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
16:15 All things that the Father hath are mine: therefore said I, that he shall take of mine, and shall show it unto you.

16:16
Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad.
16:16 A little while, and ye shall not see me: and again, a little while, and ye shall see me, because I go to the Father.

16:17
Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?
16:17 Then said some of his disciples among themselves, What is this that he saith unto us, A little while, and ye shall not see me: and again, a little while, and ye shall see me: and, Because I go to the Father?

16:18
Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.
16:18 They said therefore, What is this that he saith, A little while? we cannot tell what he saith.

16:19
Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch?
16:19 Now Jesus knew that they were desirous to ask him, and said unto them, Do ye inquire among yourselves of that I said, A little while, and ye shall not see me: and again, a little while, and ye shall see me?

16:20
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
16:20 Verily, verily, I say unto you, That ye shall weep and lament, but the world shall rejoice: and ye shall be sorrowful, but your sorrow shall be turned into joy.

16:21
Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd.
16:21 A woman when she is in travail hath sorrow, because her hour is come: but as soon as she is delivered of the child, she remembereth no more the anguish, for joy that a man is born into the world.

16:22
A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
16:22 And ye now therefore have sorrow: but I will see you again, and your heart shall rejoice, and your joy no man taketh from you.

16:23
A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi.
16:23 And in that day ye shall ask me nothing. Verily, verily, I say unto you, Whatsoever ye shall ask the Father in my name, he will give it you.

16:24
Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
16:24 Hitherto have ye asked nothing in my name: ask, and ye shall receive, that your joy may be full.

16:25
Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynega i chwi yn eglur am y Tad.
16:25 These things have I spoken unto you in proverbs: but the time cometh, when I shall no more speak unto you in proverbs, but I shall show you plainly of the Father.

16:26
Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch:
16:26 At that day ye shall ask in my name: and I say not unto you, that I will pray the Father for you:

16:27
Canys y Tad eu hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.
16:27 For the Father himself loveth you, because ye have loved me, and have believed that I came out from God.

16:28
Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad.
16:28 I came forth from the Father, and am come into the world: again, I leave the world, and go to the Father.

16:29
Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg.
16:29 His disciples said unto him, Lo, now speakest thou plainly, and speakest no proverb.

16:30
Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw.
16:30 Now are we sure that thou knowest all things, and needest not that any man should ask thee: by this we believe that thou camest forth from God.

16:31
Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?
16:31 Jesus answered them, Do ye now believe?

16:32
Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi.
16:32 Behold, the hour cometh, yea, is now come, that ye shall be scattered, every man to his own, and shall leave me alone: and yet I am not alone, because the Father is with me.

16:33
Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
16:33 These things I have spoken unto you, that in me ye might have peace. In the world ye shall have tribulation: but be of good cheer; I have overcome the world.


PENNOD 17
17:1
Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau:
 17:1 These words spake Jesus, and lifted up his eyes to heaven, and said, Father, the hour is come; glorify thy Son, that thy Son also may glorify thee:

17:2
Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol.
17:2 As thou hast given him power over all flesh, that he should give eternal life to as many as thou hast given him.

17:3
A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
17:3 And this is life eternal, that they might know thee the only true God, and Jesus Christ, whom thou hast sent.

17:4
Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur.
17:4 I have glorified thee on the earth: I have finished the work which thou gavest me to do.

17:5
Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.
17:5 And now, O Father, glorify thou me with thine own self with the glory which I had with thee before the world was.

17:6
Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di.
17:6 I have manifested thy name unto the men which thou gavest me out of the world: thine they were, and thou gavest them me; and they have kept thy word.

17:7
Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi:
17:7 Now they have known that all things whatsoever thou hast given me are of thee.

17:8
Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i.
17:8 For I have given unto them the words which thou gavest me; and they have received them, and have known surely that I came out from thee, and they have believed that thou didst send me.

17:9
Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.
17:9 I pray for them: I pray not for the world, but for them which thou hast given me; for they are thine.

17:10
A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.
17:10 And all mine are thine, and thine are mine; and I am glorified in them.

17:11
Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis minnau.
17:11 And now I am no more in the world, but these are in the world, and I come to thee. Holy Father, keep through thine own name those whom thou hast given me, that they may be one, as we are.

17:12
Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.
17:12 While I was with them in the world, I kept them in thy name: those that thou gavest me I have kept, and none of them is lost, but the son of perdition; that the scripture might be fulfilled.

17:13
Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
17:13 And now come I to thee; and these things I speak in the world, that they might have my joy fulfilled in themselves.

17:14
Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd.
17:14 I have given them thy word; and the world hath hated them, because they are not of the world, even as I am not of the world.

17:15
Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti, eu cadw hwynt rhag y drwg.
17:15 I pray not that thou shouldest take them out of the world, but that thou shouldest keep them from the evil.

17:16
O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd.
17:16 They are not of the world, even as I am not of the world.

17:17
Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.
17:17 Sanctify them through thy truth: thy word is truth.

17:18
Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd.
17:18 As thou hast sent me into the world, even so have I also sent them into the world.

17:19
Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi , eu sancteiddio yn y gwirionedd.
17:19 And for their sakes I sanctify myself, that they also might be sanctified through the truth.

17:20
Ac nid wyf.yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd.
17:20 Neither pray I for these alone, but for them also which shall believe on me through their word;

17:21
Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i.
17:21 That they all may be one; as thou, Father, art in me, and I in thee, that they also may be one in us: that the world may believe that thou hast sent me.

17:22
A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un:
17:22 And the glory which thou gavest me I have given them; that they may be one, even as we are one:

17:23
Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi.
17:23 I in them, and thou in me, that they may be made perfect in one; and that the world may know that thou hast sent me, and hast loved them, as thou hast loved me.

17:24
Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd.
17:24 Father, I will that they also, whom thou hast given me, be with me where I am; that they may behold my glory, which thou hast given me: for thou lovedst me before the foundation of the world.

17:25
Y Tad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi: eithr mi a’th adnabûm, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i.
17:25 O righteous Father, the world hath not known thee: but I have known thee, and these have known that thou hast sent me.

17:26
Ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a’i hysbysais: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi,a minnau ynddynt hwy.
17:26 And I have declared unto them thy name, and will declare it: that the love wherewith thou hast loved me may be in them, and I in them. John 18:1


PENNOD 18
18:1
Wedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion.
18:1 When Jesus had spoken these words, he went forth with his disciples over the brook Cedron, where was a garden, into the which he entered, and his disciples.

18:2
A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno.
18:2 And Judas also, which betrayed him, knew the place: for Jesus ofttimes resorted thither with his disciples.

18:3
Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.
18:3 Judas then, having received a band of men and officers from the chief priests and Pharisees, cometh thither with lanterns and torches and weapons.

18:4
Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?
18:4 Jesus therefore, knowing all things that should come upon him, went forth, and said unto them, Whom seek ye?

18:5
Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt.
18:5 They answered him, Jesus of Nazareth. Jesus saith unto them, I am he. And Judas also, which betrayed him, stood with them.

18:6
Cyn gynted gan hynny. ag y dywedodd efe wrthynt, myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.
 18:6 As soon then as he had said unto them, I am he, they went backward, and fell to the ground.

18:7
Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth.
18:7 Then asked he them again, Whom seek ye? And they said, Jesus of Nazareth.

18:8
Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith:
18:8 Jesus answered, I have told you that I am he: if therefore ye seek me, let these go their way:

18:9
Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un.
18:9 That the saying might be fulfilled, which he spake, Of them which thou gavest me have I lost none.

18:10
Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, ei tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw’r gwas oedd Malchus.
18:10 Then Simon Peter having a sword drew it, and smote the high priest’s servant, and cut off his right ear. The servant’s name was Malchus.

18:11
Am hynny yr Iesu, a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?
18:11 Then said Jesus unto Peter, Put up thy sword into the sheath: the cup which my Father hath given me, shall I not drink it?

18:12
Yna’r fyddin, a’r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef,
18:12 Then the band and the captain and officers of the Jews took Jesus, and bound him,

18:13
Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe.
18:13 And led him away to Annas first; for he was father in law to Caiaphas, which was the high priest that same year.

18:14
A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
18:14 Now Caiaphas was he, which gave counsel to the Jews, that it was expedient that one man should die for the people.

18:15
Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad.
18:15 And Simon Peter followed Jesus, and so did another disciple: that disciple was known unto the high priest, and went in with Jesus into the palace of the high priest.

18:16
A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.
18:16 But Peter stood at the door without. Then went out that other disciple, which was known unto the high priest, and spake unto her that kept the door, and brought in Peter.

18:17
Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf.
18:17 Then saith the damsel that kept the door unto Peter, Art not thou also one of this man’s disciples? He saith, I am not.

18:18
A’r gweision a’r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi’n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.
18:18 And the servants and officers stood there, who had made a fire of coals; for it was cold: and they warmed themselves: and Peter stood with them, and warmed himself.

18:19
A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth.
18:19 The high priest then asked Jesus of his disciples, and of his doctrine.

18:20
Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi ‘a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.
18:20 Jesus answered him, I spake openly to the world; I ever taught in the synagogue, and in the temple, whither the Jews always resort; and in secret have I said nothing.

18:21
Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wtthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i.
18:21 Why askest thou me? ask them which heard me, what I have said unto them: behold, they know what I said.

18:22
Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad?
18:22 And when he had thus spoken, one of the officers which stood by struck Jesus with the palm of his hand, saying, Answerest thou the high priest so?

18:23
Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i?
18:23 Jesus answered him, If I have spoken evil, bear witness of the evil: but if well, why smitest thou me?

18:24
Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad.
18:24 Now Annas had sent him bound unto Caiaphas the high priest.

18:25
A Simon Pedr oedd yn sefyll ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf.
18:25 And Simon Peter stood and warmed himself. They said therefore unto him, Art not thou also one of his disciples? He denied it, and said, I am not.

18:26
Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd?
18:26 One of the servants of the high priest, being his kinsman whose ear Peter cut off, saith, Did not I see thee in the garden with him?

18:27
Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
18:27 Peter then denied again: and immediately the cock crew.

18:28
Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi, ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg.
18:28 Then led they Jesus from Caiaphas unto the hall of judgment: and it was early; and they themselves went not into the judgment hall, lest they should be defiled; but that they might eat the passover.

18:29
Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?
18:29 Pilate then went out unto them, and said, What accusation bring ye against this man?

18:30
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ef.atat.
18:30 They answered and said unto him, If he were not a malefactor, we would not have delivered him up unto thee.

18:31
Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb:
18:31 Then said Pilate unto them, Take ye him, and judge him according to your law. The Jews therefore said unto him, It is not lawful for us to put any man to death:

18:32
Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw.
18:32 That the saying of Jesus might be fulfilled, which he spake, signifying what death he should die.

18:33
Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon?
18:33 Then Pilate entered into the judgment hall again, and called Jesus, and said unto him, Art thou the King of the Jews?

18:34
Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi?
18:34 Jesus answered him, Sayest thou this thing of thyself, or did others tell it thee of me?

18:35
Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti?
18:35 Pilate answered, Am I a Jew? Thine own nation and the chief priests have delivered thee unto me: what hast thou done?

18:36
Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.
18:36 Jesus answered, My kingdom is not of this world: if my kingdom were of this world, then would my servants fight, that I should not be delivered to the Jews: but now is my kingdom not from hence.

18:37
Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin. wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er rnwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i.
18:37 Pilate therefore said unto him, Art thou a king then? Jesus answered, Thou sayest that I am a king. To this end was I born, and for this cause came I into the world, that I should bear witness unto the truth. Every one that is of the truth heareth my voice.

18:38
Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef.
18:38 Pilate saith unto him, What is truth? And when he had said this, he went out again unto the Jews, and saith unto them, I find in him no fault at all.

18:39
Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
18:39 But ye have a custom, that I should release unto you one at the passover: will ye therefore that I release unto you the King of the Jews?

18:40
Yna y lefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A’r Barabbas hwnnw oedd leidr.
18:40 Then cried they all again, saying, Not this man, but Barabbas. Now Barabbas was a robber


PENNOD 19
19:1
Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef.
19:1 ::Then Pilate therefore took Jesus, and scourged him.

19:2
A’r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano;
19:2 And the soldiers platted a crown of thorns, and put it on his head, and they put on him a purple robe,

19:3
Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau.
19:3 And said, Hail, King of the Jews! and they smote him with their hands.

19:4
Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.
19:4 Pilate therefore went forth again, and saith unto them, Behold, I bring him forth to you, that ye may know that I find no fault in him.

19:5
Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn.
19:5 Then came Jesus forth, wearing the crown of thorns, and the purple robe. And Pilate saith unto them, Behold the man!

19:6
Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.
19:6 When the chief priests therefore and officers saw him, they cried out, saying, Crucify him, crucify him. Pilate saith unto them, Take ye him, and crucify him: for I find no fault in him.

19:7
Yr Iddewon a atebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.
19:7 The Jews answered him, We have a law, and by our law he ought to die, because he made himself the Son of God.

19:8
A phan glybu Peilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy;
19:8 When Pilate therefore heard that saying, he was the more afraid;

19:9
Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu ateb iddo.
19:9 And went again into the judgment hall, and saith unto Jesus, Whence art thou? But Jesus gave him no answer.

19:10
Yna Peilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groeshoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd?
19:10 Then saith Pilate unto him, Speakest thou not unto me? knowest thou not that I have power to crucify thee, and have power to release thee?

19:11
Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.
19:11 Jesus answered, Thou couldest have no power at all against me, except it were given thee from above: therefore he that delivered me unto thee hath the greater sin.

19:12
O hynny allan y ceisiodd Peilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a’i gwnelo ei hun y frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cesar.
19:12 And from thenceforth Pilate sought to release him: but the Jews cried out, saying, If thou let this man go, thou art not Caesar’s friend: whosoever maketh himself a king speaketh against Caesar.

19:13
Yna Peilat, pan glybu’r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.
19:13 When Pilate therefore heard that saying, he brought Jesus forth, and sat down in the judgment seat in a place that is called the Pavement, but in the Hebrew, Gabbatha.

19:14
A darpar-ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin.
19:14 And it was the preparation of the passover, and about the sixth hour: and he saith unto the Jews, Behold your King!

19:15
Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar.
19:15 But they cried out, Away with him, away with him, crucify him. Pilate saith unto them, Shall I crucify your King? The chief priests answered, We have no king but Caesar.

19:16
Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith.
19:16 Then delivered he him therefore unto them to be crucified. And they took Jesus, and led him away.

19:17
Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:
19:17 And he bearing his cross went forth into a place called the place of a skull, which is called in the Hebrew Golgotha:

19:18
Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.
 19:18 Where they crucified him, and two others with him, on either side one, and Jesus in the midst.

19:19
A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
19:19 And Pilate wrote a title, and put it on the cross. And the writing was, JESUS OF NAZARETH THE KING OF THE JEWS.

19:20
Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iddewon; oblegid agos i’r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin.
19:20 This title then read many of the Jews: for the place where Jesus was crucified was nigh to the city: and it was written in Hebrew, and Greek, and Latin.

19:21
Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.
19:21 Then said the chief priests of the Jews to Pilate, Write not, The King of the Jews; but that he said, I am King of the Jews.

19:22
Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.
19:22 Pilate answered, What I have written I have written.

19:23
Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio’r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.
19:23 Then the soldiers, when they had crucified Jesus, took his garments, and made four parts, to every soldier a part; and also his coat: now the coat was without seam, woven from the top throughout.

19:24
Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn.
19:24 They said therefore among themselves, Let us not rend it, but cast lots for it, whose it shall be: that the scripture might be fulfilled, which saith, They parted my raiment among them, and for my vesture they did cast lots. These things therefore the soldiers did.

19:25
Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen.
19:25 Now there stood by the cross of Jesus his mother, and his mother’s sister, Mary the wife of Cleophas, and Mary Magdalene.

19:26
Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.
19:26 When Jesus therefore saw his mother, and the disciple standing by, whom he loved, he saith unto his mother, Woman, behold thy son!

19:27
Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.
19:27 Then saith he to the disciple, Behold thy mother! And from that hour that disciple took her unto his own home.

19:28
Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.
19:28 After this, Jesus knowing that all things were now accomplished, that the scripture might be fulfilled, saith, I thirst.

19:29
Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef.
19:29 Now there was set a vessel full of vinegar: and they filled a sponge with vinegar, and put it upon hyssop, and put it to his mouth.

19:30
Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.
19:30 When Jesus therefore had received the vinegar, he said, It is finished: and he bowed his head, and gave up the ghost.

19:31
Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar-ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.
19:31 The Jews therefore, because it was the preparation, that the bodies should not remain upon the cross on the sabbath day, (for that sabbath day was an high day,) besought Pilate that their legs might be broken, and that they might be taken away.

19:32
Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef.
19:32 Then came the soldiers, and brake the legs of the first, and of the other which was crucified with him.

19:33
Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef.
19:33 But when they came to Jesus, and saw that he was dead already, they brake not his legs:

19:34
Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.
19:34 But one of the soldiers with a spear pierced his side, and forthwith came there out blood and water.

19:35
A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth; ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi.
19:35 And he that saw it bare record, and his record is true: and he knoweth that he saith true, that ye might believe.

19:36
Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono.
19:36 For these things were done, that the scripture should be fulfilled, A bone of him shall not be broken.

19:37
A thrachefn, ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.
19:37 And again another scripture saith, They shall look on him whom they pierced.

19:38
Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu.
19:38 And after this Joseph of Arimathaea, being a disciple of Jesus, but secretly for fear of the Jews, besought Pilate that he might take away the body of Jesus: and Pilate gave him leave. He came therefore, and took the body of Jesus.

19:39
A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys.
19:39 And there came also Nicodemus, which at the first came to Jesus by night, and brought a mixture of myrrh and aloes, about an hundred pound weight.

19:40
Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.
19:40 Then took they the body of Jesus, and wound it in linen clothes with the spices, as the manner of the Jews is to bury.

19:41
Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.
19:41 Now in the place where he was crucified there was a garden; and in the garden a new sepulchre, wherein was never man yet laid.

19:42
Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
19:42 There laid they Jesus therefore because of the Jews’ preparation day; for the sepulchre was nigh at hand.


PENNOD 20
20:1
Y dydd cyntaf o’r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd.
 20:1 The first day of the week cometh Mary Magdalene early, when it was yet dark, unto the sepulchre, and seeth the stone taken away from the sepulchre.

20:2
Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.
20:2 Then she runneth, and cometh to Simon Peter, and to the other disciple, whom Jesus loved, and saith unto them, They have taken away the Lord out of the sepulchre, and we know not where they have laid him.

20:3
Yna Pedr a aeth allan, a’r disgybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd;
20:3 Peter therefore went forth, and that other disciple, and came to the sepulchre.

20:4
Ac a redasant ill dau ynghyd: a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt na Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.
20:4 So they ran both together: and the other disciple did outrun Peter, and came first to the sepulchre.

20:5
Ac wedi iddo grymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn.
20:5 And he stooping down, and looking in, saw the linen clothes lying; yet went he not in.

20:6
Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i’r bedd, ac a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod;
20:6 Then cometh Simon Peter following him, and went into the sepulchre, and seeth the linen clothes lie,

20:7
A’r napgyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod nid gyda’r llieiniau, ond o’r neilltu wedi ei blygu mewn lle arall.
20:7 And the napkin, that was about his head, not lying with the linen clothes, but wrapped together in a place by itself.

20:8
Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd.
20:8 Then went in also that other disciple, which came first to the sepulchre, and he saw, and believed.


20:9
Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw.
20:9 For as yet they knew not the scripture, that he must rise again from the dead.

20:10
Yna y disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt,
20:10 Then the disciples went away again unto their own home.

20:11
Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i’r bedd;
20:11 But Mary stood without at the sepulchre weeping: and as she wept, she stooped down, and looked into the sepulchre,

20:12
Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd. gwynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu.
20:12 And seeth two angels in white sitting, the one at the head, and the other at the feet, where the body of Jesus had lain.

20:13
A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, Paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef.
20:13 And they say unto her, Woman, why weepest thou? She saith unto them, Because they have taken away my Lord, and I know not where they have laid him.

20:14
Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drachefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe.
20:14 And when she had thus said, she turned herself back, and saw Jesus standing, and knew not that it was Jesus.

20:15
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai’r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a’i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a’i cymeraf ef ymaith.
20:15 Jesus saith unto her, Woman, why weepest thou? whom seekest thou? She, supposing him to be the gardener, saith unto him, Sir, if thou have borne him hence, tell me where thou hast laid him, and I will take him away.

20:16
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athro.
20:16 Jesus saith unto her, Mary. She turned herself, and saith unto him, Rabboni; which is to say, Master.

20:17
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, a’m Duw a’ch Duw chwithau.
20:17 Jesus saith unto her, Touch me not; for I am not yet ascended to my Father: but go to my brethren, and say unto them, I ascend unto my Father, and your Father; and to my God, and your God.

20:18
Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.
20:18 Mary Magdalene came and told the disciples that she had seen the Lord, and that he had spoken these things unto her.

20:19
Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
20:19 Then the same day at evening, being the first day of the week, when the doors were shut where the disciples were assembled for fear of the Jews, came Jesus and stood in the midst, and saith unto them, Peace be unto you.

20:20
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.
20:20 And when he had so said, he showed unto them his hands and his side. Then were the disciples glad, when they saw the Lord.

20:21
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi.
20:21 Then said Jesus to them again, Peace be unto you: as my Father hath sent me, even so send I you.

20:22
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân.
20:22 And when he had said this, he breathed on them, and saith unto them, Receive ye the Holy Ghost:

20:23
Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.
20:23 Whose soever sins ye remit, they are remitted unto them; and whose soever sins ye retain, they are retained.

20:24
Eithr Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu.
20:24 But Thomas, one of the twelve, called Didymus, was not with them when Jesus came.

20:25
Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
20:25 The other disciples therefore said unto him, We have seen the Lord. But he said unto them, Except I shall see in his hands the print of the nails, and put my finger into the print of the nails, and thrust my hand into his side, I will not believe.

20:26
Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangefedd i chwi.
20:26 And after eight days again his disciples were within, and Thomas with them: then came Jesus, the doors being shut, and stood in the midst, and said, Peace be unto you.

20:27
Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwwlo; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun.
20:27 Then saith he to Thomas, Reach hither thy finger, and behold my hands; and reach hither thy hand, and thrust it into my side: and be not faithless, but believing.

20:28
A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw.
20:28 And Thomas answered and said unto him, My Lord and my God.

20:29
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
20:29 Jesus saith unto him, Thomas, because thou hast seen me, thou hast believed: blessed are they that have not seen, and yet have believed.

20:30
A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
20:30 And many other signs truly did Jesus in the presence of his disciples, which are not written in this book:

20:31
Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.
20:31 But these are written, that ye might believe that Jesus is the Christ, the Son of God; and that believing ye might have life through his name.


PENNOD 21
21:1
Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd.
 21:1 After these things Jesus showed himself again to the disciples at the sea of Tiberias; and on this wise showed he himself.

21:2
Yr oedd ynghyd Simon Pedr, Thomas yr hwn a elwir Didymus, Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef.
21:2 There were together Simon Peter, and Thomas called Didymus, and Nathanael of Cana in Galilee, and the sons of Zebedee, and two other of his disciples.

21:3
Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim.
21:3 Simon Peter saith unto them, I go a fishing. They say unto him, We also go with thee. They went forth, and entered into a ship immediately; and that night they caught nothing.

21:4
A phan ddaeth y bore weithian, sefodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai Yr Iesu ydoedd.
21:4 But when the morning was now come, Jesus stood on the shore: but the disciples knew not that it was Jesus.

21:5
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes.
21:5 Then Jesus saith unto them, Children, have ye any meat? They answered him, No.

21:6
Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod.
21:6 And he said unto them, Cast the net on the right side of the ship, and ye shall find. They cast therefore, and now they were not able to draw it for the multitude of fishes.

21:7
Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr.
21:7 Therefore that disciple whom Jesus loved saith unto Peter, It is the Lord. Now when Simon Peter heard that it was the Lord, he girt his fisher’s coat unto him, (for he was naked,) and did cast himself into the sea.

21:8
Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau I can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod.
21:8 And the other disciples came in a little ship; (for they were not far from land, but as it were two hundred cubits,) dragging the net with fishes.

21:9
A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara.
21:9 As soon then as they were come to land, they saw a fire of coals there, and fish laid thereon, and bread.

21:10
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron.
21:10 Jesus saith unto them, Bring of the fish which ye have now caught.

21:11
Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd.
21:11 Simon Peter went up, and drew the net to land full of great fishes, an hundred and fifty and three: and for all there were so many, yet was not the net broken.

21:12
Yr Iesu a ddywedodd wthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd.
21:12 Jesus saith unto them, Come and dine. And none of the disciples durst ask him, Who art thou? knowing that it was the Lord.

21:13
Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd.
21:13 Jesus then cometh, and taketh bread, and giveth them, and fish likewise.

21:14
Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
21:14 This is now the third time that Jesus showed himself to his disciples, after that he was risen from the dead.

21:15
Yna gwedi iddynt giniawa yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn.
21:15 So when they had dined, Jesus saith to Simon Peter, Simon, son of Jonas, lovest thou me more than these? He saith unto him, Yea, Lord; thou knowest that I love thee. He saith unto him, Feed my lambs.

21:16
Efe a ddywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid.
21:16 He saith to him again the second time, Simon, son of Jonas, lovest thou me? He saith unto him, Yea, Lord; thou knowest that I love thee. He saith unto him, Feed my sheep.

21:17
Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.
21:17 He saith unto him the third time, Simon, son of Jonas, lovest thou me? Peter was grieved because he said unto him the third time, Lovest thou me? And he said unto him, Lord, thou knowest all things; thou knowest that I love thee. Jesus saith unto him, Feed my sheep.

21:18
Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit.
21:18 Verily, verily, I say unto thee, When thou wast young, thou girdedst thyself, and walkedst whither thou wouldest: but when thou shalt be old, thou shalt stretch forth thy hands, and another shall gird thee, and carry thee whither thou wouldest not.

21:19
A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
21:19 This spake he, signifying by what death he should glorify God. And when he had spoken this, he saith unto him, Follow me.


21: 20 A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?)
21:20 Then Peter, turning about, seeth the disciple whom Jesus loved following; which also leaned on his breast at supper, and said, Lord, which is he that betrayeth thee?

21:21
Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?
21:21 Peter seeing him saith to Jesus, Lord, and what shall this man do?

21:22
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi.
21:22 Jesus saith unto him, If I will that he tarry till I come, what is that to thee? follow thou me.

21:23
Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni delwyf, beth yw hynny i ti?
21:23 Then went this saying abroad among the brethren, that that disciple should not die: yet Jesus said not unto him, He shall not die; but, If I will that he tarry till I come, what is that to thee?

21:24
Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir.
21:24 This is the disciple which testifieth of these things, and wrote these things: and we know that his testimony is true.

21:25
Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.
21:25 And there are also many other things which Jesus did, the which, if they should be written every one, I suppose that even the world itself could not contain the books that should be written. Amen.
 

__________________________________________________________________________

 

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.  20 04 2002

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats